GENUKI Home page
Anglesey Anglesey     Contents Contents

 

  Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Anglesey section (Vol 2)

Pages 464 - 477

See main project page

Proof read by Yvonne John (May 2008)

Chapels below;

 


Pages 464 - 477

464

(Continued) BEAUMARIS

Bangor ; Abraham Tibbott, a Jonathan Powell. Yn y flwyddyn 1809, rhoddwyd galwad i Mr. John Evans, ac urddwyd ef cyn diwedd y flwyddyn hono, canys yr ydym yn cael y bedydd cyntaf yn cael ei weinyddu ganddo Ionawr 21ain, 1810. *  Bu Mr. Evans yma yn barchus a chyfrifol am ddeu-ddeng-mlynedd-ar-hugain, ac yn ei amser ef y codwyd y capel presenol, yr hwn a gostiodd 450p. O herwydd fod maes llafur Mr. Evans yn eang, ac yn cynwys Pentraeth a Phenmynydd, mewn cysylltiad a Beaumaris, yn y flwyddyn 1822, rhoddwyd galwad i Mr. John Griffith, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, i fod yn gydweinidog ag ef, ac urddwyd ef Medi 24ain, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Breese, Liverpool ; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Evans, Amlwch ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Beaumaris; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Morgan, Machynlleth, ac i'r eglwys gan Mr. D. Jones, Treffynon.+   Ni bu arosiad Mr. Griffith yma yn hir, oblegid symudodd i Manchester, ac ar ei ymadawiad ef torwyd y cysylltiad rhwng y dref a'r eglwysi yn y wlad, a disgynodd y gofal yma yn gwbl ar Mr. Evans, fel o'r blaen. Yn y flwyddyn 1842, trwy gysylltiadau priodasol, symudodd Mr. Evans i Gorwen ; ac oblegid fod Mr. William Thomas, Dwygyfylchi, wedi priodi merch Mr. Evans, ac wedi symud i'r dref ati i fyw, rhoddodd yr eglwys yma alwad iddo i fod yn olynydd i'w dad-ynnghyfraith ; a dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Awst, 1844, a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yr 16eg o'r Medi canlynol. Dyma fel y dywed awdwr Hanes Eglwysi Mon am dano, " Cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fuan o dan ei weinidogaeth, a chyfranwyd bywyd adnewyddol i'r achos yn ei holl ranau. Profwyd rhai tymorau ireiddiol ac adfywiol yn yr eglwys." Derbyniwyd nifer luosog i'r eglwys yn ysbaid y blynyddoedd y bu yma yn llafurio, a mwynhaodd yr eglwys heddwch a chysur mawr. Ond gwaelodd iechyd Mr. Thomas yn fawr, a bu am fisoedd yn dihoeni, ac ar y 15fed o Ebrill, 1866, gorphenodd ei yrfa, yn 55 oed, ac wedi llafurio yma yn y weinidogaeth am 22 mlynedd.

Wedi ei farwolaeth ef bu yr eglwys am flynyddau heb weinidog sefydlog, ond yn nechreu y flwyddyn hon (1872) rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Joseph Rowlands, Rhosllanerchrugog, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yma yr ail Sabboth yn Ebrill, ac y mae pob peth yn myned yn mlaen yn gysurus, ac argoelion ffafriol am y dyfodol.

Coffeir am enwau llawer o ffyddloniaid a fu yn yr eglwys hon, heblaw y rhai y crybwyllwyd eu henwau eisioes yn nglyn a chychwyniad yr achos yma. Hugh George, yr hwn a wasanaethodd swydd diacon yn dda am lawer o flynyddoedd. Bu ef a'i wraig yn aelodau ffyddlon. John George a Richard Evans a'u gwragedd, a fuont ffyddlon i'r achos. Margaret Parry, yr hon am flynyddau a fu yn llettya pregethwyr. Mary Pritchard, Llandegfan, a fu yn proffesu crefydd am 60 mlynedd, ac a fu farw yn 104 oed.

* Mae yma anghysondeb nas gallwn ei gysoni. Mewn llythyr sydd yn awr o'n blaen, yr hwn a ysgrifenwyd gan Mr. Evans ei hun, at Mr. Morgan, Llanfyllin, dywed mai Mehefin 11eg, 1811, yr urddwyd ef, a bod Meistri B. Jones, Pwllheli ; J. Griffith, Caernarfon ; J. Powell, Rhosymeirch ; J. Lewis, Bala ; W. Jones, Salem ; A. Jones, Bangor, a D. Roberts. Llanfyllin, yn bresenol. Ond y mae cofrestr y bedyddiadau dangos iddo weinyddu y bedydd cyntaf yma Ionawr 21ain, 1810, ac felly bu yn agos i ddwy flynedd yma cyn cael ei urddo. Tueddir ni yn awr i feddwl mai J. Evans, Amlwch, a weinyddodd y bedydd a gofnodir Ionawr 21ain, 1810. Os cawn eglurhad ychwanegol ar hyn, rhoddwn ef yn yr Attodiad.

+ Dysgedydd, 1823. Tu dal. 87.

465

Pregethodd Mr. Thomas ar achlysur ei marwolaeth ar y geiriau priodol- " Hen ddysgybl." William Jones a John Lewis a fuont yn ddiaconiaid ffyddlon; a chyfrifid Mary Williams, Rhosisaf; Catherine Tyrer, Catherine Williams, Wrexham-street; Elizabeth Jones, Pendre; Mary Jones, ac Ann Edwards, Brynteg, yn rhagorol yn mysg gwragedd yr eglwys. Mrs. Evans, gwraig Mr. Evans, y gweinidog, a'i mam, a fu yn nodded mawr i'r achos am dymor hir; ac nid oes achos crybwyll wrth y genhedlaeth bresenol am garedigrwydd ei merch, Mrs. Thomas. Richard Williams a John Tyrer oeddynt yn nodedig am eu ffyddlondeb fel diaconiaid, a chafodd yr eglwys golled fawr yn eu marwolaeth. Diameu genym fod llawer eraill wedi bod yn llawn mor ffyddlon, ond gan na chawsom eu henwau, nis gallwn eu crybwyll ; ac y mae yn dda genym ddeall fod yma lawer o ffyddloniaid yn aros.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :-

Mae Mr. W. Williams (Cromwel,) yn aelod o'r eglwys hon yn wreiddiol, ac wedi dychwelyd yma er's blynyddau i drigianu ; ac er nad oes gofal eglwysig arno yn awr, y mae yn pregethu yn gyson bob Sabboth yn rhywle, a bu ei wasanaeth o help mawr i'r eglwys hon yn enwedig yn yr adeg y bu yn amddifad o weinidog.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

JOHN EVANS. Ganwyd ef yn Nghapelgarmon, yn sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1779. Teimlodd argraffiadau crefyddol dwys ar ei feddwl pan oedd o gylch ugain oed, ac yn mhen amser ymunodd a'r eglwys fechan a gyfarfyddai mewn ysgubor yn ei ardal enedigol dan ofal Dr. Lewis, a Mr. Azariah Shadrach, a chyn hir efe a ddechreuodd bregethu, ac aeth i ardal Dwygyfylchi i gadw ysgol ac i bregethu yn achlysurol. Cafodd dipyn o wrthwynebiad oddiwrth ei deulu ei hun pan ddechreuodd grefydda, ond ni thyciodd hyny mewn un modd i beri iddo lesgau. Derbyniodd alwad o Beaumaris, yn 1809, a llafuriodd yno gyda chymeradwyaeth mawr hyd y flwyddyn 1842, pryd y symudodd i Gorwen. Arosodd yno o gylch saith mlynedd, ac yna dychwelodd i Beaumaris, lle y treuliodd weddill ei oes. Am y deuddeng mlynedd olaf o'i oes dyoddefodd lawer gan ddiffyg anadl, yr hyn a'i hanalluogodd i bregethu, ond yn achlysurol pan fyddai ei iechyd yn caniatau. Bu farw Gorphenaf 28ain, 1862, yn 82 oed, ac wedi bod yn pregethu am y tymor maith o 60 mlynedd. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn da, a'i gymeriad cyhoeddus yn hollol ddifwlch. Dyn tal, cryf, hardd, yr olwg arno ydoedd pan yn anterth ei ddydd. Nid oedd dim yn swynol na pheroriaethus yn ei lais, ond yr oedd ei bregethau oll yn bur a sylweddol. Yr oedd yn hollol yn ol delw y tô o weinidogion oedd yn Nghymru yn ei ddyddiau ef. Yr oedd yn un o gychwynwyr cyntaf y Dysgedydd, ac er nad arferai ysgrifenu llawer iddo, yr oedd yn selog drosto. Bu mewn masnach y rhan fwyaf o'i dymor yn Beaumaris, ac yr oedd mewn

466

amgylchiadau bydol gwell na'r rhan fwyaf o weinidogion ei oes, yr hyn roddai ddylanwad iddo yn mysg ei gyd-drefwyr. Yr oedd o ran ei olygiadau duwinyddol yn ddysgybl i Dr. Williams ac Andrew Fuller, ond yr oedd yn wastad yn dra chymedrol yn y cwbl a draethai. Cymerodd ran amlwg gydag achosion yr enwad yn sir Fon am dymor hir, ac yn mhob egni a wneid gyda phethau cyhoeddus, yr oedd bob amser yn barod ac ewyllysgar. Cafodd fyw i oedran teg, a phan y dirwynodd ei einioes i ben rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn mynwent Eglwys Fair, Beaumaris.

WILLIAM THOMAS. Ganwyd ef yn y Bala, Hydref 25ain, 1811. Derbyniodd ychydig o addysg ddyddiol, y fath ag a roddid yn gyffredin i blant gweithwyr yn y dyddiau hyny. Cyrchai er yn ieuangc i gapel yr Annibynwyr yn y Bala, a hoffodd y lle i wneyd ei gartref ynddo ; a byddai gyda'r Ysgol Sabbothol yn dysgu ac yn adrodd pyngciau, yn yr hyn y cefnogid ef yn wresog gan y gweinidog, Mr. J. Ridge. Dygwyd ef i fyny yn nghelfyddyd ei dad, sef crydd ; ac wedi tyfu i fyny yn llangc trodd allan i'r byd. Aeth cyn belled a Phentrefoelas, a deallodd fod yno un o'r enw Owen Williams, o'r un alwedigaeth ag ef yn byw yn y pentref, a gobeithiai y cai waith yno. Aeth i'r ty yn wylaidd, a gofynai am waith, ond nid oedd dim arwydd fod gwaith i'w gael yno, ond cynygiwyd bwyd iddo i'w alluogi i fyned rhagddo ar ei daith. Ar y pryd yr oedd Mr. John Roberts, Capelgarmon, yn eistedd yn nhy Owen Williams, wrth y tân, a chyn hir anturiodd ofyn, "Pa bryd y dowch chi i'r Bala etto i bregethu, Mr. Roberts?" "Ni wn i ddim yn siwr," meddai Mr. Roberts. " Ai un o'r Bala wyt ti?" "Ie syr." Yna dechreuodd Owen Williams ofyn iddo, " A glywaist ti Mr. Roberts yn y Bala ryw dro ?" " Do." " I gapel yr Annibynwyr y byddi di yn myn'd ?" " Ie." " Wyt ti yn aelod yno ?" "Ddim yn gyflawn, ond byddaf yn aros yn y seiat nos Sabboth." Twymodd calon Owen Williams erbyn hyny, a dywedodd, " Wel y mae yn rhaid i mi ffeindio rywbeth i ti i'w wneyd, gan dy fod yn Annibynwr." Bu yno ddwy flynedd, a thra yno y derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn Bethel, Pentrefoelas. Dychwelodd i'r Bala, ac yn mhen amser aeth i Harwood, (Brymbo yn awr), a thra yn aros yno y dechreuodd bregethu, a phregethodd lawer trwy yr holl wlad oddiamgylch, ac yr oedd yn dra derbyniol fel pregethwr yn mhob man lle yr elai. Trwy annogaeth a chynorthwy Mr. Williams o'r Wern, a gweinidogion eraill, aeth i'r ysgol i Marton dan ofal Mr. John Jones, lle yr arhosodd ddwy flynedd, a gwnaeth gymaint o gynydd mewn dysgeidiaeth ag a allesid ddisgwyl i un o'i oed a'i fanteision blaenorol, yn ysbaid hyny o amser. Daeth i gyhoeddusrwydd a phoblogrwydd fel pregethwr ac areithiwr ar ddirwest, ac yr oedd galwadau mynych arno i weinyddu mewn cyfarfodydd ac uchelwyliau. Yn nechreu y flwyddyn 1839, derbyniodd alwad o Horeb, Dwygyfylchi, ac urddwyd ef yno Awst 6ed, 1839. Yr oedd yr adeg hono yn llawn sel ac angerddoldeb, ac yr oedd effeithiau grymus yn dilyn ei bregethau i ba le bynag yr elai. Gan fod y tymor hwnw yn dymor o ddiwygiad grymus, ac yntau o dueddfryd naturiol wresog, rhoddodd y diwygiad hwnw gyfleusdra nodedig i ddadblygiad ei ddoniau. Ni bu gweinidog ieuangc erioed yn llawnach o ysbryd ei waith nag yr oedd ef yn nghychwyniad ei weinidogaeth, a gwerthiai yn llawer iawn caletach nag y goddefai y corph gwan oedd ganddo. Yr oedd y pryd hwnw yn deneu a gwywedig yr olwg arno, a phregethai gyda'r fath ymroddiad nes y byddai ei natur yn ymollwng dan bwys ei lafur, ond yr oedd mor lawn o ysbryd y gwaith fel na allai ymatal. Cyn

467

diwedd y flwyddyn 1842, priododd a Miss Ann Evans, merch Mr. Evans, gweinidog yr Annibynwyr yn Beaumaris, a symudodd yno ati i fyw yn nechreu y flwyddyn ganlynol, and parhaodd am flwyddyn a haner i deithio ar bob tywydd i Dwygyfylchi at bobl ei ofal, y rhai a gerid ganddo fel ei enaid ei hun, ac yr oedd yntau yn anwyl gan yr holl eglwys. Yn Awst, 1844, cymerodd ofal yr eglwys yn Beaumaris, ac yno llafuriodd gyda chymeradwyaeth mawr dros weddill ei oes. Yr oedd wedi tewhau yn ddirfawr yn y deunaw mlynedd olaf o'i fywyd, ond er hyny nid oedd mewn un modd wedi cryfhau, ac yr oedd yn agored i grygu yn fuan, yr hyn a'i digalonai yn fawr. Treuliodd dymor hapus yn Beaumaris yn ei berthynas a'r eglwys, ac yn ei berthynas a'i deulu a'i amgylchiadau, ond am y pedair blynedd olaf o'i oes, cafodd lawer o ystormydd oddiwrth gystuddiau ac angau. Bu farw ei dad a'i fam, a'i dad-yn-nghyfraith, gwaelodd ei iechyd ei hun ac iechyd ei wraig, a bu hi farw Ebrill 23ain, 1865, ac ni bu y byd yr un peth iddo yntau byth wedi hyny. Ni bu fyw flwyddyn gyfan ar ei hol. Gwaelodd yn raddol, a bu farw mewn tawelwch a thangnefedd Ebrill 15fed, 1866, yn 55 oed, a chyd-dystia pawb a'i hadwaenai na roddwyd cywirach dyn erioed i orwedd yn naear Mon. Heddwch i'w lwch.

Ysgrifenodd  ei frawd, Mr. H. E. Thomas, gynt o Birkenhead, yn awr o Pittsburgh, America, gofiant cyflawn iddo, gyda nifer o'i bregethau, a therfynwn ein cofnodiad am Mr. Thomas gyda'r difyniadau canlynol o'r cofiant hwnw, gan eu bod yn ddarluniad cywir o'i nodwedd.

"Yr oedd yn ddyn o deimlad dwfn, dwys, a thyner iawn. Ni fynai, ac nis gallai guddio ei deimlad. Gellid gweled gwir agwedd ei galon yn ei wyneb. Y man ambell i un a fedr guddio ei deimlad. Edrychwch ar ei wyneb ffordd y mynoch, nis gellwch wybod pa un ai dig ai boddus ydyw. O'm rhan i, nid wyf yn meddwl y gall dyn felly feddu iechyd ysbryd, ac ni fedrwn byth wneyd cyfaill o hono. Nid un felly oedd William. Dyma ddywed Mr. Pugh, Mostyn, am dano :- 'Tymer siriol, teimlad caredig, a gonestrwydd anhyblyg, a berthynai iddo. Nid oedd "dichell yn ei ysbryd," ac ni arferai eiriau mwynaidd pan y gelwid am rai geirwon.'

" Ei brif nodwedd fel pregethwr oedd symlder, difrifoldeb, a thuedd ymarferol. Yr oedd bob amser,' meddai Dr. W. Rees, noson ei gladdedigaeth, yn amcanu at y gydwybod, ac yr oedd yn bur siwr o'i nod. Nid yn aml y clywais neb mwy miniog ei weinidogaeth.'  Pregethai bob amser a'i holl egni, a chwysai nes yr ymddangosai fel pe y tywalltesid dwfr ar ei ben. Buasai yn well o lawer pe y gallasai arbed mwy arno ei hun. Ond yr oedd wedi dechreu ei weinidogaeth ar dymor cynes iawn ar grefydd, ac ni chollodd ef byth mor gwres ysbryd a feddai y pryd hyny, er fod y cynnelleidfaoedd wedi oeri llawer. Yr oedd ei fod mor nervous yn ei yru yn ei flaen yn fwy cyflym a chynhyrfus nag a fuasai yn hoffi lawer pryd. Llafuriai yn galed iawn i wneyd pregethau. Nid peth bach oedd gwneyd dwy bregeth yr wythnos, tra yr oedd ganddo ofalon eraill. Cwynai yn fynych mai anhawdd iawn oedd gwneyd pregethau a thrin y byd. Yr oedd rhyw rai yn galw beunydd ac yn lladratta ei amser. Ni waeth dwyn llyfrau, neu ddwyn arian gweinidog sefydlog, na dwyn ei amser. Rhaid oedd iddo agos bob wythnos gymeryd oddiar oriau cwsg, yr oriau a gollodd yn y dydd. Cafodd rai degau o oedfaon bendigedig gartref ac oddicartref. Bu yn offeryn yn llaw Duw i argyhoeddi ugeiniau lawer o bechaduriaid.  Pan yr oedd ei lais yn dda, yr oedd ganddo floedd hynod

468

o dreiddiol, tebyg iawn i un y Parch. John Elias. Ond digalonodd yn fawr pan y gafaelodd y bronchitis yn ei wddf. Yr oedd gwynt y dwyrain, yr hwn oedd yn taro yn gryf iawn ar Beaumaris, yn ei lethu yn hollol."

Buasai yn hawdd i ni ychwanegu, ac i'r neb a ewyllysio wybod rhagor am dano, nid oes genym ond eu cyfeirio at y cofiant, lle y gwelir y dyn yn gyflawn.

 

PENTRAETH

Nid oes genym sicrwydd am ddyddiad dechreuad yr achos yma. Dywedir fod y lle wedi bod dan ofal Mr. William Jones pan ydoedd yn Beaumaris, os felly, rhaid ei fod wedi ei gychwyn rywbryd cyn y flwyddyn 1792, canys dyna y flwyddyn y symudodd Mr. William Jones i Benystryd. Gweinidogion Bangor a Beaumaris a olygent yn benaf dros yr achos yma yn ei flynyddoedd cyntaf. Dechreuwyd pregethu mewn ty anedd o'r enw Ty'nylon, lle y preswyliai un John Roberts, a dygai y gwr hwn holl draul yr achos ar ei gychwyniad, ac er nad oedd hyny yn fawr, etto yr oedd yn llawer iddo ef. Pregethid yn achlysurol ar ol hyn yn Penylon a Thycroes, a daeth William Rowlands, Bodwgan ; James Pritchard, Tycroes ; Robert Jones, Melin, Pentraeth, a Thomas Hughes, Penylon, i gynorthwyo John Roberts yn nghynaliad yr achos. Yr oedd Thomas Hughes, Penylon, yn arddwr yn ngwasanaeth boneddwr yn yr ardal, yr hwn ar un dydd Sadwrn a ddaeth ato i geisio ganddo fyned i neges drosto dranoeth, pryd yr atebwyd of yn benderfynol gan Thomas, "Yr ydwyf yn ewyllysgar, syr, i wneyd pob peth a allaf i'ch boddloni, ond nis meiddiaf dori y Sabboth." Daeth y garddwr i fwy o barch nag erioed ar gyfrif ei onestrwydd a'i gywirdeb, ac ni feiddiodd neb geisio ganddo mwyach i negeseua ar y Sabboth. Crybwyllir hefyd am enwau Catherine Parry, Clai ; Ellen Jones, Tanygraig; Ellen Jones, Lonlwyd, ac Ellen Jones, Ty'nyllan, fel gwragedd rhagorol oedd yma ar gychwyniad yr achos. Yn mhen amser symudwyd o Ty'nylon i dư gwag yn mhentref Pentraeth. Ty bychan, a thô gwellt, a llawr o bridd iddo ydoedd, a disgynai y gwlaw trwy y tô ar ben yr addolwyr, ond cafwyd yn y ty bychan, tlodaidd hwnw, oedfaon i'w cofio, a lluosogodd y gynnulleidfa, fel y daeth angen lle helaethach. Prynwyd darn o dir gan Mr. Owen Jones, Hensiop, am 40p., ac yn y flwyddyn 1803, adeiladwyd capel arno. Nid oedd ond ty cyffredin, heb ynddo ond pulpud ac ychydig feingciau. Pan ddaeth Mr. J. Evans i Beaumaris, yn 1809, cymerodd ef ofal yr achos yma, a rhoddwyd oriel an eisteddleoedd yn y capel, ac yn 1822, urddwyd Mr. Griffith yn gydweinidog ag ef, a bu y lle mewn cysylltiad a Beaumaris hyd y flwyddyn 1825, pryd yr ymadawodd Mr. Griffith i Manchester. Yn ystod y flwyddyn hono, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Davies, a ddaethai yma o Gwmwysg, Brycheiniog, ac urddwyd ef yma yn 1825.

Bu Mr. Davies yn dra derbyniol a defnyddiol yma am ysbaid chwe' blynedd, nes y symudodd i Bethania, Ffestiniog. Cyn diwedd y flwyddyn 1832, rhoddwyd alwad i Mr. Henry Rees, yr hwn er's llai na dwy flynedd cyn hyny a urddesid yn Mhorthmadog, a bu Mr. Rees yma yn llafurio yn ddiwyd dros lawer o flynyddoedd. O gylch y flwyddyn 1851, ymadawodd oddiyma, a bu yr eglwys dros rai blynyddau ar ol hyny heb weinidog sefydlog, hyd y flwyddyn 1855, pryd y rhoddasant alwad i Mr. David

469

Williams, Bangor. Bu Mr. Williams yn gofalu am y lle am yn agos i naw mlynedd, ac nid oedd pellder ffordd na gerwinder hin yn ddigon i'w atal i gyrchu yma yn rheolaidd. Yn nhymor ei weinidogaeth ef yr ailadeiladwyd y capel, yr hwn a gostiodd 300p., a llwyddwyd trwy gydweithrediad y gynnulleidfa i dalu yr holl ddyled yn mhen y tair blynedd. Ond teimlodd Mr. Williams, o'r diwedd, fod y daith yn rhy bell, a'r llafur yn rhy galed iddo, a rhoddodd y gofal yma i fyny, gan gymeryd at fugeiliaeth yr eglwys yn Beulah, gerllaw Bangor, lle y llafuria etto gyda derbyniad mawr. Yn y flwyddyn 1866, rhoddwyd galwad i Mr. David M. Lewis, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Hydref 17eg, 1866. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Williams, Beaumaris; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. E. Williams, Beaumaris; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. M. D. Jones, Bala, yr hwn hefyd a bregethodd ar ddyledswydd y gweinidog, a phregethodd Mr. D. Williams, Beulah, y cyn-weinidog, ar ddyledswydd yr eglwys. Rhyw bedair blynedd y bu Mr. Lewis yma, yna ymadawodd. Yn mhen dwy flynedd, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Benjamin M. Hughes, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mai 21ain, 1872. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. D. Jones, Bala; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Parry, Colwyn; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Griffith, Caergybi ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Evans, Dowlais, ac i'r eglwys gan Mr. D. C. Rees, Capel mawr.

Mae yma un pregethwr cynorthwyol yn perthyn i'r eglwys, sef Owen Jones, Traethcoch, ac nid ydym yn cael i neb arall ddechreu pregethu yn yr eglwys hon.

 

TALWRN

Translation available on http://www.genuki.org.uk/big/wal/AGY/Llanddyfnan/Hanes.html

"Mae y lle yma wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad a Phentraeth, ac o dan yr un weinidogaeth. Nid yw yn nepell oddiwrth y lle y pregethwyd y bregeth gyntaf gan yr Ymneillduwyr yn y wlad hon, ac yr oedd dau neu dri o'r ardal hon yn aelodau yn Rhosymeirch, mor foreu, beth bynag, a dyddiau gweinidogaeth Mr. Benjamin Jones, ac arferai ef ddyfod yma yn achlysurol i bregethu iddynt, ond ni wnaed un cynyg ar sefydlu achos yma hyd y flwyddyn 1840. Adeiladwyd yma gapel y flwyddyn ganlynol. Nid yw ond bychan iawn, 90p. oedd holl draul ei adeiladiad, ond bu ei ddyled yn faich trwm yn hir yn llethu ar ysgwyddau gweiniaid. Mr. H. Rees oedd y gweinidog yma pan y codwyd y capel, ond yn mhen blynyddau wedi ei ymadawiad ef y talwyd y ddyled. Nid yw yr achos yma ond bychan, ac nid oes dim neillduol perthynol iddo i'w gofnodi.

Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Richard W. Roberts, sydd yn awr yn weinidog yn Ystradgynlais."

 

 PENMYNYDD

Dyma y plwyf yn yr hwn y pregethodd Mr. Lewis Rees ei bregeth gyntaf yn Mon, ac yn y plwyf hwn y mae y ty cyntaf yn y sir a drwyddedwyd at bregethu, ond er hyny, aeth mwy na thri-ugain-mlynedd heibio ar ol hyny cyn i un cynyg gael ei wneyd i sefydlu achos Ymneillduol yn y plwyf. Cafodd yr ardal golled fawr yn ymadawiad William Pritchard a'r wlad, oblegid ni adawodd neb o gyffelyb feddwl ar ei ol, a dichon fod

470

yn ysbryd erledigaethus a ddangoswyd yn y lle, wedi digaloni y rhai a ewyllysient wneyd daioni, fel nad oedd ysbryd ynddynt i gynyg. Ond nid ymddengys er hyny i'r ardal gael ei gadael nad oedd rhyw rai ynddi yn glynu with yn Arglwydd. Arferai rhai fyned oddiyma yn rheolaidd i Rosymeirch, ac wedi hyny i Bentraeth, ar ol cychwyniad yn achos yno. Ern o'r rhai ffyddlonaf oedd Mary Francis, Tynewydd, a phan y methodd hi gan oedran a llesgedd, a theithio i Rosymeirch, deuai y cyfeillion crefyddol i ymweled a hi, a chynalient gyfarfodydd gweddi yn ei thy, a hyny fu yn ddechreuad yn achos yma. Ymofynwyd am le i bregethu yma, ac agorodd William Jones, Ty'nycae, ei dư, ac ar brydiau gwahoddid y pregethwyr i'r Tymawr. Yn mysg y pregethwyr a ddeuant yma yr oedd Meistri Owen Thomas, Carrog ; Jonathan Powell, Rhosymeirch ; John Evans, Beaumaris ; Hugh Lloyd, Groeslon, a Hugh Hughes, Dulas. Yr oedd hyn cyn y flwyddyn 1813, oblegid yn y flwyddyn hono ar y 13eg o Gorphenaf, yr ydym yn cael yn Llys Bangor, fod Mr. Jonathan Powell wedi trwyddedu Ty'nycae, yn mhlwyf Penmynydd, yn lle i bregethu. Wedi bod yn addoli am dymor yn Ty'nycae, symudwyd i dư gwag a elwid y Dragonbach. Nis gallwn gael allan i sicrwydd pa bryd y symudodd yr achos i'r Dragon, ond ymddengys mai yno y corpholwyd yn eglwys, ac yno yr oeddynt yn addoli pan ddaeth Mr. J. Griffiths i weinidogaethu i Bentraeth a Phenmynydd, mewn cysylltiad a Beaumaris. Cymerodd Mr. Thomas Davies ofal y lle mewn cysylltiad a Phentraeth, ac yn 1827, adeiladwyd y capel. Yr oedd rhifedi yn eglwys ar ei mynediad i'r capel newydd yn bump-ar-hugain, yn mhlith y rhai yn oedd y personau canlynol :- Hugh Roberts, Rhydyrarian; Michael Thomas, Gylched; John Jones, Glanyllyn ; Owen Evans, Graigfach ; Margaret Lewis, Tymawr ; Mary Francis, Tynewydd ; Mary Parry, Caehelyg, ac Ann Griffith, 'Ralltgeint. Bu y lle mewn cysylltiad gweinidogaethol a Phentraeth o ddechreuad yr achos, hyd ganol tymor gweinidogaeth Mr. Rees, yn Mhentraeth, ac er hyny hyd yn awr y mae y lle wedi bod fynychaf mewn cysylltiad a Berea, a than ofal yn un gweinidogion. Ni bu yr achos yma yn lluosog mewn unrhyw adeg, ac nis gellesid disgwyl iddo fod, oblegid nid yw y plwyf yn un poblog, ac y mae yn aneddau yn hynod o wasgarog.

Nid ydym yn cael i un pregethwr godi yn yr eglwys hon, ond bu yn hen bregethwr Thomas Jones yn byw yma am lawer o flynyddoedd, ac yn cadw ysgol yn y capel. Un o'r Deheudir ydoedd, ond treuliodd dymor hir yn y Gogledd. Bu yn cadw ysgol yn Salem, Llanbedr, ac yn Henryd, a phregethodd lawer yn y ddau le, o gylch yr adeg y cychwynwyd yn achosion. Symudodd i Benmynydd, lle y treuliodd weddill ei oes, a chafodd fyw i oedran teg. Yr oedd yn ddyn bychan, byr, crwn, heinif, pan wedi gadael ei bedwar ugain oed, a phregethai yn egniol, ond fod ei lais yn gryglyd.

 

RHOSFAWR

(Pentraeth parish)

Dechreuwyd pregethu gan yn Annibynwyr yn yr ardal yma y flwyddyn gyntaf o'r ganrif hon, os nad yn niwedd y ganrif ddiweddaf. Yr oedd gwraig grefyddol o'r enw Ann Pritchard yn byw mewn ty bychan a elwid Tafarnywrach, yn hon oedd yn aelod yn Rhosymeirch, a thrwyddi hi deuai cyfeillion Rhosymeirch i'w thy i gynal cyfarfodydd gweddi, ac yn achlys-

471

urol deuant a phregethwr gyda hwy. Yr oedd John Bulk, at yr hwn yn ydym wedi cael achlysur i gyfeirio fwy nag unwaith, yn tramwy y wlad gan bregethu teyrnas Dduw, ac yn oedd ei bregethau cyffrous a tharanllyd yn tynu sylw y ffordd y cerddai. Gan fod y gymydogaeth hon ar y pryd yn hynod o lygredig ac ofergoelus, yr oedd pregethau John Bulk yn cario effeithiau grymus. Cyn hir dechreuwyd pregethu yn achlysurol mewn lleoedd eraill yn y gymydogaeth, ond gan yn aflonyddid arnynt gan derfysgwyr, trwyddedwyd Tanyrallt, yn mhlwyf Llanfair yn Maethafarneithaf, yn "Llys Bangor, Ebrill 30ain, 1811, gan Robert Roberts, gweinidog." Mae yn sicr genym mai Mr. Roberts, Ceirchiog, oedd hwn, oblegid cawn ei fod ef a Mr. Arthur Jones, Bangor, yn pregethu yma ar achlysur agoriad y lle. Aelodau yn Mhentraeth a Rhosymeirch oedd yn ychydig Annibynwyr oedd yn y lle, ac ymddengys i eglwys gael ei ffurfio yn Nhanyrallt cyn i'r capel gael ei godi. Dan ofal Mr. Evans, Beaumaris, yn nglyn a Phentraeth, yr oedd y lle yn benaf, ond cyrchai Mr. D. Beynon, hefyd yma yn fynych, ar ol ei sefydliad yn Llanerchymedd. Yn y flwyddyn 1816, yr adeiladwyd y capel, ac mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Llanerchymedd, Ionawr 27ain a'r 28ain, 1817, rhoddwyd o Drysorfa y Sir 7p. 6s. i dalu am weithredoedd capel Rhosfawr.* Yr oedd Trysorfa wedi ei chychwyn " i gynorthwyo achosion amgylchiadol y sir," ac yr oedd Mr. Robert Roberts, Ceirchiog, yn drysorydd, a William Pierce i'w gynorthwyo; ond cwynai Mr. J. Powell mai ychydig a ddaeth i law. Nid oedd nifer yr aelodau pan yr aed i'r capel ond 14. Wedi i Mr. John Griffith gael ei urddo yn gydweinidog a Mr. J. Evans, bu y lle yn benaf dan ei ofal ef, ac wedi hyny yn olynol dan ofal Mr. Thomas Davies, a Mr. Henry Rees, mewn cysylltiad a Phentraeth, a bu Mr. Thomas Davies ar ol hyny yn gofalu am y lle mewn cysylltiad a Moelfro. Bu Mr. Edward Morris, yn awr o Penrhyndeudraeth, yn byw yma dros rai blynyddoedd, ac yn gofalu am yn eglwys, er nad urddwyd ef yma. Ar ol hyny bu yn eglwys yma am flynyddoedd lawer yn dibynu ar weinidogaeth achlysurol, hyd y flwyddyn 1869, pryd yn unasant a'r eglwys yn Moelfro i roddi galwad i Mr. William V. Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac y mae yn parhau i ofalu am y lle, a'r achos yn myned rhagddo yn llewyrchus ag ystyried sefyllfa a phoblogaeth yn ardal. Coffeir gyda hiraeth am enwau llawer o ffyddloniaid a fu yn yn eglwys hon, ac y mae yn weddus yn arbenig i ni grybwyll am y didwyll a'r caredig Thomas Hughes, yn hwn a anrhegodd yn eglwys a thir claddfa berthynol i'r capel, a rhoddwyd ei gorph yntau i orwedd ynddi Rhagfyr 5ed, 1869.

Codwyd yma un pregethwr, sef William Jones, yn hwn a fu am flynyddoedd yn aelod a phregethwr defnyddiol a llafurus gartref ac oddicartref, ac nid yn fuan yr anghofir ei gynghorion doeth a difrifol. Hunodd yn yr Iesu yn y flwyddyn 1868.

Bu Hugh Hughes, Dulas, yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy yn Mon am flynyddau lawer, ac yr ydym yn cael iddo fod o help mawr yn nghychwyniad llawer o'r achosion sydd yn awr yn flodeuog. Nid ydym yn gwybod yn mha le y dechreuodd bregethu, nag â pha eglwys yn neillduol yr oedd yn dal cysylltiad. Yr oedd Rhosfawr yn llawn mor gyfleus iddo ag un man, hyd nes y sefydlwyd achos yn Moelfro.

* O gofnodion Mr. Jonathan Powell, Rhosymeirch.

472

MOELFRO

(Llanallgo parish)

Nis gallwn gael allan i sicrwydd pa bryd y dechreuwyd pregethu, ond yr ydym yn sicr mai yn nhymor gweinidogaeth Mr. Thomas Davies yn Mhentraeth, y bu hyny, ac yn lled fuan fel y gallwn gasglu ar ol ei sefydliad yno. Yr oedd Elizabeth Owen, gwraig Thomas Owen, yn aelod yn Rhosfawr, ond oblegid pellder y ffordd yno, llwyddodd i gael gan nifer o ferched ddyfod yn nghyd i gynal Ysgol Sabbothol yn Moelfro, ac with weled hono yn llwyddo, gwahoddwyd Mr. Thomas Davies, Pentraeth, i ddyfod i'r lle i bregethu. Bu cryn lwyddiant ar y gwaith, fel y penderfynwyd cael capel. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1827. Costiodd y capel a'r ty cysylltiedig ag ef 150p,, ac yr oedd yr eglwys yn 25 o nifer pan aed i'r capel. O gylch yn adeg yma y daeth Mr. Evan Williams, myfyriwr o athrofa Neuaddlwyd, i'r ardal, ac urddwyd ef yn weinidog yma Llun y Sulgwyn, 1829. Ar yn achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Griffith, Caergybi ; holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yn urdd-weddi gan Mr. O. Thomas, Carrog ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Jones, Amlwch, ac i'r eglwys gan Mr. J. Evans, Beaumaris. Llwyddodd trwy ei ysbryd cyfeillgar a'i ddawn ennillgar i sicrhau ei hun yn serch y gymydogaeth, a chadwai ysgol ddyddiol, ac yn oedd yn dra derbyniol gan y plant a'u rhieni. Priododd cyn hir ac aeth i fasnach, ond claddodd ei wraig cyn hir, ac yn mhen amser ailbriododd, a symudodd o'r lle i Benygroes, sir Gaernarfon, ac wedi hyny i America, wedi treulio ryw chwe' blynedd yn yr ardal yma. Dychwelodd o America, a bu yn weinidog am ychydig yn Ebenezer, Cefn-coed-cymer, ac wedi hyny yn Penycae, sir Aberteifi, lle y daw ei hanes etto dan ein sylw. Bu yn eglwys ar ol hyny rai blynyddoedd heb weinidog sefydlog, ond yn y flwyddyn 1837, rhoddwyd galwad i Mr. Henry Edwards, gwr ieuangc o'r Crwys, sir Forganwg, ac urddwyd ef Tachwedd 7fed, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yn achlysur gan Meistri I. Jones, Groeslon; J. Evans, Beaumaris; E. Davies, Llanerchymedd; W. Jones, Amlwch; D. James, Rhosymeirch; W. Griffith, Caergybi ; T. Owen, Llanfechell, ac H. Rees, Pentraeth. Ni bu tymor ei arosiad yma ond byr. Gwaelodd ei iechyd, a dychwelodd i'w fro enedigol, lle y bu fares yn fuan.

Yn y flwyddyn 1839, daeth Mr. Evan Thomas, o ysgol Marton yma, a bu yn y lle dros dymor yn pregethu yn gyson, ond ni urddwyd ef. Yr ydym eisioes wedi rhoddi ei hanes ef yn nglyn a Machynlleth, lle yr ydoedd pan y terfynodd ei yrfa. Daeth Mr. Thomas Davies yma ar ol hyny, yr hwn oedd ar llaw benaf yn nghychwyniad yn achos pan oedd yn weinidog yn Mhentraeth. Bu dros rai blynyddau yn weinidog yma, ac yn Rhosfawr, hyd nes y symudodd i Glanyrafon, a bu yn eglwys yma ar ol hyny am fwy nag ugain mlynedd heb weinidog. Yn niwedd y flwyddyn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. William V. Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Chwefror 22ain a'r 23ain, 1870. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. C. Rees, Capel mawr; J. Evans, Cana; J. Owens, Llangefni ; W. M. Davies, Blaenycoed ; J. R. Davies, Rhosymeirch; W. Lloyd, ac E. C. Davies, Caergybi. Mae Mr. Davies yn ymroddi i lafurio yma. Mae y capel yn cael ei ail adeiladu, a bydd yn barod i'w agor cyn diwedd y flwyddyn hon (1872). Bu llawer o siarad am ailadeiladu y capel,

* Llythyr Mr. W. V. Davies.

473

ond gohirid gwneyd hyny am nad oedd prydles gan yn eglwys ar y tir lle y safai, ond yn mis Medi, 1871, cafwyd tir yn rhad gan H. R. Hughes, Ysw., Kimmel.* Bu yma lawer o ffyddloniaid o bryd i bryd, ac y mae yma rai o gyffelyb ysbryd yn aros.

Codwyd yma un pregethwr, sef Richard Owen. Symudodd o'r ardal yma i Niwbwrch, ac y mae yn bregethwr cynorthwyol yno.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

HENRY EDWARDS. Gelwid ef weithiau Henry Thomas. Yr oedd yn frawd i Mr. Thomas Edwards, Ebenezer, sir Gaernarfon. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Crwys, ac yno y dechreuodd bregethu. Aeth i'r Gogledd at ei frawd, a chyn hir derbyniodd alwad o Moelfro, Mon, ac urddwyd ef  Tachwedd 7fed, 1837. Yr oedd yn ddyn ieuangc crefyddol a chymeradwy iawn, ac yn dra derbyniol fel pregethwr, er nad oedd o alluoedd cryfion na doniau helaeth. Gwanaidd oedd ei iechyd, a phrofodd awyr ynys Mon yn rhy gryf iddo. Ni bu yma ond prin ddwy flynedd o gwbl. Aeth i'w ardal enedigol, er mwyn adferiad i'w iechyd, a chyda bwriad i ddychwelyd, ond yr oedd y darfodedigaeth wedi ymaflyd ynddo, a bu farw yn fuan, ac ni chafodd pobl ei ofal, y rhai a'i hanwylent ef yn fawr, weled ei wyneb ef mwy.

THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn Llangeler, yn sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1792, a derbyniwyd ef yn ieuangc yn aelod o'r eglwys yn Saron. Gan fod ganddo ddawn gweddi nodedig, a'i ysbryd yn llawn gwres, anogwyd ef i ddechreu pregethu, ac yn oedd yn dra derbyniol gan yr eglwysi lle yr ymwelai a hwy. Symudodd i Gwmwysg, sir Frycheiniog, lle y bu am ysbaid yn pregethu, a disgwyliai yn urddasid ef yno, ond trwy ryw amgylchiadau, ond nid dim anheilwng o'i du ef, ni ddaeth hyny oddiamgylch. Aeth ar daith trwy y Gogledd, a derbyniodd alwad o Bentraeth a Phenmynydd, lle yn urddwyd ef yn y flwyddyn 1825. Llafuriodd yno gyda diwydrwydd a llwyddiant am chwe' blynedd, nes y symudodd i Bethania, Ffestiniog. Yr oedd yn bregethwr grymus a difrifol, ond gan nad oedd wedi cael manteision addysg teimlodd ei hun nad oedd yn gymhwys i le cynyddol, yn nghanol pobl ymchwilgar y fath ag oedd yn Ffestiniog, ond bu yno yn dra derbyniol am wyth mlynedd, ac y mae ol ei lafur yn y lle i'w ganfod hyd y dydd hwn. Bu am ychydig yn Hebron, a Nebo, ac Aberdaron, yn Lleyn, ac oddiyno symudodd i Moelfro a Rhosfawr, ac ar ol hyny bu yn byw yn Glanyrafon, ac yn gofalu am yr achos bychan yno, ond yn ei flynyddoedd olaf, yr oedd yn byw yn Bodffordd, heb ofal eglwysig arno, ond pregethai yn mha le bynag y byddai galwad am dano. Yr oedd Thomas Davies yn ddyn cywir a didwyll, ac yn llawn iawn o ysbryd ei waith, ond yn ei flynyddau diweddaf yr oedd ei lais wedi tori, a'i glyw wedi trymhau, ond yr oedd yn amlwg arno ei fod yn addfedu i wlad well. Bu farw Ebrill 26ain, 1865, yn 73 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Rhosymeirch.

 

AMLWCH

Mae yn eglur yn arferai Mr. Jenkyn Morgan bregethu yma yn achlysurol os nad yn gyson, er nas gallasom gael allan i sicrwydd yn mha le.

474

Yr oedd yn derbyn cynorthwy o'r Trysorfwrdd Presbyteraidd fel gweinidog Amlwch yn gystal ag fel gweinidog Rhosymeirch. Nis gallwn olrhain yr achos presenol mewn dilyniad difwlch hyd ei ddyddiau ef; ond y mae genym sicrwydd fod rhai o aelodau Rhosymeirch yn byw yma o gylch y flwyddyn 1785, a bod Mr. Benjamin Jones, eu gweinidog, yn dyfod yma i bregethu. Pregethid mewn ty anedd yr ochr arall i'r man lle y saif capel y Methodistiaid Calfinaidd, ond nis gallasom gael allan pa bryd y corpholwyd yn eglwys, na phwy oeddynt yn aelodau cyntaf, ond y mae agos yn sicr mai Mr. B. Jones a ffurfiodd yn eglwys yma, a bu Mr. William Jones, yn hwn a aeth oddiyma i Fachynlleth, dros ysbaid dwy flynedd yn cynorthwyo Mr. B. Jones yn Rhosymeirch, a'r eglwysi newydd a blanwyd ganddo. Gan mai un o Gwernogle oedd Mr. W. Jones, y mae yn dra thebyg ei fod yn gydnabyddus a Mr. B. Jones pan oedd yn Mhencader, ac mai trwy ei gydnabyddiaeth ag ef y daeth i Fon ar ei ol. Tua'r flwyddyn 1789, daeth Mr. Evan Jones, myfyriwr o'r athrofa yn Nghroesoswallt yma, a bu yma hyd y flwyddyn 1793, oblegid yn ydym yn cael cofrestr o fedyddiadau a weinyddwyd ganddo, Awst 18fed, 1793. Ymfudodd i'r America, lle y treuliodd weddill ei oes. Yn ysbaid byr gweinidogaeth Mr. Jones yma, prynwyd prydles ar dư annedd yn y Borth, Amlwch, a chyfaddaswyd y lle at addoli, ond cynyddodd y gynnulleidfa yma fel y bu raid helaethu y lle yn fuan. Yn niwedd y flwyddyn 1794, daeth Mr. John Evans yma o Fachynlleth. Llai na phedwar ugain oedd rhifedi yn aelodau ar sefydliad Mr. Evans yn y lle, ond tynodd ei weinidogaeth sylw buan. Cynnullai y fath luaws i'w wrando, fel y gorfodid ef am flynyddau i fyned i'r pulpud trwy ffenestr o'r to cefn, a pharhaodd felly nes yn helaethwyd y capel. Llafuriodd Mr. Evans yma am 31 mlynedd, ond yn y flwyddyn 1825, rhoddodd ofal yn eglwys i fyny, a symudodd i fyw at ei ferch i Dremadog, ac yno terfynodd ei yrfa mewn oedran teg, ac yn gyflawn o ddyddiau.

Yn Gorphenaf, 1826, dechreuodd Mr. William Jones, Caernarfon, ei weinidogaeth yma, ac yn Awst, yr un flwyddyn, gosodwyd i lawr sylfaen capel newydd, ar dir a gafwyd ar brydles o 99 o flynyddau. Aeth y gynnulleidfa i'r capel newydd y Sabboth cyn y Sulgwyn 1827, pryd y pregethodd Mr. Jones oddiar 2 Cron. vi. 41, 42. " Ac yn awr cyfod, O Arglwydd Dduw i'th orphwysfa, ti ac arch dy gadernid; dillader dy offeiriaid, O Arglwydd Dduw, â iachawdwriaeth, a llawenyched dy saint mewn daioni. O Arglwydd Dduw, na thro ymaith wyneb dy eneiniog ; cofia drugareddau Dafydd dy was." Yr oedd yn dư eang a chyfleus, gwerth 800p., a chyfrif ty y gweinidog sydd yn nglyn ag ef. Casglwyd cynnulleidfa luosog iddo, a bu cynydd graddol yn rhifedi yr eglwys. Yn y blynyddau 1839 ac 1840, cafwyd ymweliadau grymus oddiwrth yr Arglwydd, pryd yn ychwanegwyd nifer fawr at rifedi yr aelodau ; a thrachefn yn y blynyddau 1859 ac 1860, ymwelodd Duw a'i bobl mewn llwyddiant mawr. Aeth y capel yn rhy gyfyng, ac yn y flwyddyn 1861, helaethwyd ef yn fawr trwy draul o fil o bunau. Mesura 54 troedfedd wrth 42 troedfedd, gydag oriel helaeth o'i amgylch. Effeithiodd arafwch y gweithfeydd copr yn y lle i raddau ar y gynnulleidfa a'r eglwys yn y deng mlynedd diweddaf, a gorfodwyd llawer i symud i leoedd eraill. Yn mis Gorphenaf, 1868, rhoddodd Mr. Jones ei weinidogaeth yma i fyny, ar ol llafurio yn ddiwyd yn y lle am 42 mlynedd. Yr oedd yn flaenorol wedi ei dderbyn ar Drysorfa yr hen Weinidogion, ac y mae etto yn parhau i bregethu yn achlysurol, a hyny gyda derbyniad mawr. Derbyniodd Mr. Jones tua chwe' chant o aelodau

475

yma yn nhymor ei weinidogaeth. Yn y flwyddyn 1870, prynwyd hawl y tir, ar yr hwn y saif y capel, am 120p., a bellach y mae y tir a'r capel yn rhydd-feddiant i'r eglwys. Yn nechreu y flwyddyn 1870, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. George Williams, Trewyddel, sir Benfro, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn fuan, a bu cryn dipyn o lwyddiant ar ei ddyfodiad, ond llai na dwy flynedd yr arhosodd yma, canys derbyniodd alwad o Abercanaid, gerllaw Merthyr Tydfil, a symudodd yno. Bu yma lawer o " rai rhagorol y ddaear " o bryd i bryd mewn cysylltiad a'r eglwys hon, y rhai y mae eu henwau yn perarogli hyd y dydd hwn, megis W. Parry, J. Owen, J. Pritchard, O. Jones, T. Pritchard, R. Owen, E. Jones, G. Williams, R. Owen, ac eraill. Mae eu llafurus gariad mewn coffa ger bron Duw, ac nid yw eu henwau wedi eu hanghofio ar y ddaear.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :-

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

EVAN JONES. Yr oedd yn enedigol o gymydogaeth Glandwr, sir Benfro, ac yn yr eglwys hono y derbyniwyd ef yn aelod, ac y dechreuodd bregethu. Yn y flwyddyn 1782, gwnaed cais gan eglwys Glandwr, at reolwyr y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, am iddo gael ei dderbyn i'r athrofa yn Nghroesoswallt. Mae y cais hwnw yn awr ger ein bron, wedi ei arwyddo gan John Griffith, gweinidog; Rees Thomas, John David, Thomas Griffith, Evan John, henuriaid ; Mark Evans, John Evans, John James, a John David, diaconiaid. Cymeradwyent ef fel gwr ieuangc o alluoedd addawol, ac o olygiadau iachus. Ac y mae ef ei hun wedi rhoddi crynodeb o'i olygiadau,

* Wedi ysgrifenu yr uchod hysbyswyd ni mai yn y Tabernacl, Liverpool, y dechreuodd Richard Owen bregethu.

476

a'i gymhelliadau at waith y weinidogaeth. Gallwn gasglu oddiwrth ei lawysgrif nad oedd wedi cael ond ychydig o fanteision addysg yn flaenorol. Cafodd dderbyniad i'r athrofa, ac wedi treulio ei amser yno, bu am ryw ysbaid yn Beaumaris, a bwriadai sefydlu yno. Daeth dros y mor o ryw borthladd yn sir Benfro neu sir Aberteifi, ac yn Amlwch y tiriodd, a thueddwyd ef, o herwydd rhyw resymau, i aros yno yn hytrach na myned i Beaumaris. Sefydlodd yno yn mis Mawrth, 1789, a bu yno hyd yn agos ddiwedd y flwyddyn 1793, pryd yr ymfudodd i'r America, ac yno y bu dros y gweddill o'i oes, ac nid oes genym ychwaneg o'i hanes. Dywed Mr. Jones, Amlwch, "gellir barnu am dano oddiwrth y gofrestr fanwl a rheolaidd o fedyddiadau a adawodd ar ol, ei fod yn ofalus yn ei swydd fel gwas i Iesu Grist yn ei eglwys."

JOHN EVANS. Ganwyd ef yn mhlwyf Llangranog, yn sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1753. Yn nyddiau ei ieuengctyd rhodiodd yn ol helynt y byd hwn, fel y lluaws o'i gyfoedion, ac yr oedd yn llawn deng-mlwydd-ar-hugain oed cyn iddo ddyfod yn ddifrifol i ystyried ei ffyrdd. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenrhiwgaled, gan Mr. Benjamin Evans, Drewen, ac yno hefyd y dechreuodd bregethu. Wedi pregethu dros rai blynyddoedd yn ei wlad enedigol, daeth i Fachynlleth, lle yr oedd cynnulleidfa fechan wedi ei chasglu er's ychydig flynyddau, ac urddwyd ef yno tua'r flwyddyn 1791. Llafuriodd yno gydag ymroddiad mawr, a thrwy ei ymdrechion ef y cychwynwyd yn achosion yn Aberhosan a Phennal. Tua phedair blynedd yr arhosodd yn Machynlleth, oblegid yn ydym yn ei gael yn dechreu ei weinidogaeth yn Amlwch yn gynar yn y flwyddyn 1795. Yr oedd yn dra phoblogaidd yn Amlwch y blynyddoedd cyntaf wedi ei sefydliad yno, a pharhaodd felly, fel pregethwr, yn ystod ei arhosiad yn y lle. Pregethodd lawer y tuallan i Amlwch, ac i ba le bynag yr elai deuai cynnulleidfaoedd lluosog i wrandaw arno. Yr oedd yn gadarn yn athrawiaeth iachus, ac yn eiddigus dros roddi y clod i ras Penarglwyddiaethol yn iach- awdwriaeth pechadur. Pe buasai mor eiddigus dros fywyd sanctaidd ag ydoedd dros athrawiaeth bur, buasai yn un o'r gweinidogion mwyaf llwyddiannus yn ei oes. Yr oedd natur wedi ei ffafrio a chorph tal, llathraidd, tywysogaidd, yn llawn dwy lath a dwy fodfedd, a llais clir, cryf, a soniarus, a'i dymer lon, gymdeithasgar, yr hon a'i gwnai yn gydymaith dyddan i ba le bynag yr elai ; ond yr oedd yfed yn brofedigaeth iddo, a gwanychodd hyny am dymor maith nerth ei weinidogaeth. Ychwanegodd y swydd o ysgolfeistr at y weinidogaeth, yr hyn a fu nid yn unig yn help i gynhaliaeth ei deulu, ond dygodd ef i gysylltiad a llawer o deuluoedd yn y wlad, ac yn oedd yn barchus ganddynt on. Yr oedd dyweyd pethau cyffredin, bras, ac weithiau isel, yn brofedigaeth iddo ef, fel i lawer yn ei oes. Pregethai unwaith mewn cymanfa yn Nhalybont, sir Aberteifi, os cywir yr hysbyswyd ni, yn olaf yn yn oedfa ddau o'r gloch. Ei destyn ydoedd, "Canys nid ydym ni heb wybod ei ddichellion ef." Cyn darllen ei destyn dywedodd, "Mae fy mrodyr yma wedi bod yn pregethu Crist i chwi drwy y gymanfa. Yr ydw' inau ar y diwedd am dynu crib drwy ben y diawl." A chribo y diafol yn drwsgl y bu hefyd. Cyn diwedd y bregeth yn oedd wedi gwresogi, a chan estyn ei fraich hir allan, ac edrych yn gynhyrfus, gwaeddai yn groch, "Y diawl a'ch collo, bobl !" Dychrynai llawer wrth glywed y fath iaith fras, oblegid y swniai mor debyg i iaith dyn yn rhegi. Ond edrychai yn ngwyneb y gynnulleidfa yn ddiofn, ac ychwanegai " O ddifri 'rwy'n dyweyd, a Duw a'ch caffo." Yr ydym yn crybwyll yr

477

engraifft yna fel dangoseg o nodwedd ei bregethau, ac yr oedd mewn amryw eraill, yn y cyfnod hwnw, lawer o bethau cyffelyb. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn Amlwch yn y flwyddyn 1825, a symudodd i fyw i Dremadog at ferch iddo, ac yno y bu hyd derfyn ei oes. Bu o lawer o help yn nghychwyniad yn achos yn Mhorthmadog ac yn Mhenmorfa, a phregethodd lawer yn yr holl leoedd o gylch yno pan fyddai galwad am dano. Am y deuddeng mlynedd olaf o'i oes yr oedd yn ddirwestwr trwyadl, a mynych y dywedai, pe buasai felly trwy ei oes y gwnaethai lawer mwy o ddaioni, heblaw y buasai yn llawer mwy hapus i'w brofiad ei hun. Bu farw Rhagfyr 7fed, 1849, yn 95 oed, wedi bod yn y weinidogaeth am yn agos i driugain mlynedd.

 

Translation by Eleri Rowlands (Sept 2013)

It is clear that Mr. Jenkyn Morgan preached here occasionally if not regularly, even though we are unable to be sure where it was.

474

He received support from the Presbyterian Financial Board as the minister of Amlwch as well as the minister of Rhosymeirch. We are unable to trace the present cause in an unbroken line back to his days; but we are certain that some of the members of Rhosymeirch lived here around 1785, and that Mr. Benjamin Jones, their minister, came here to preach. Preaching took place in a dwelling house opposite the place where the Calvinist Methodist chapel stood, but we cannot find out when the church was embodied, nor who the first members were, but it is almost certain that Mr. B. Jones formed the church here, and that Mr. William Jones, who went from here to Machynlleth ssffhgx, for just two years supported Mr. B. Jones in Rhosymeirch, and the new churches that he established. Since Mr. W. Jones was from Gwernogle, it is very likely that he was known to Mr. B. Jones when he was in Pencader, and that it was through his relationship with him that he followed him to Anglesey. Around 1789, Mr. Evan Jones, a student from Oswestry college, came here, and stayed here until 1793. We know as we have a register of the christenings he officiated at, on August 18th, 1793. He emigrated to America, where he spent the rest of his life. During the short ministry of Mr. Jones here, the lease on a dwelling house, in Borth, Amlwch, was bought, and the place was modified for worship, but the congregation increased so much that they soon had to extend the place. At the end of 1794, Mr. John Evans came here from Machynlleth. On Mr Evans' installation the members numbered eighty, but his ministry soon attracted attention. Such a multitude gathered to listen to him, that he was forced to go through a window from the back roof to get to the pulpit, and this state of affairs continued until the chapel was extended. Mr. Evans laboured here for 31 years, but in 1825, he gave up the church, and moved to live with his daughter in Tremadog, and that is where his career ended at a good age, and in the fullness of his days.

In July, 1826, Mr. William Jones, Caernarfon, started his ministry here, and in August, of the same year, the foundation of a new chapel was built, on land that was leased for 99 years. The congregation went to the new chapel on the Sunday before the Whitsun of 1827, when Mr. Jones preached from 2 Cron. vi. 41, 42. " Now therefore arise, O Lord God, into thy resting place, thou, and the ark of thy strength; let thy priests, O Lord God, be clothed with salvation, and let thy saints rejoice in goodness. O Lord God, turn not away the face of thine anointed; remember the mercies of David thy servant." It was an extensive, convenient building, worth £800, along with the attached minister's house. A large congregation came to it, and the number gradually increased. During the years 1839 and 1840, the Lord visited powerfully, when the membership grew greatly; and again in 1859 and 1860, God visited his people with great success. The chapel became too small, and in 1861, it was significantly extended at a cost of a thousand pounds. It measured 54 feet by 42 feet, with an extensive around it. The lack of work in the local copper works affected the congregation and the church in the last ten years, and many were forced to move to other places. In July, 1868, Mr. Jones gave up his ministry here, after labouring diligently for 42 years. He had previously been accepted to the Treasury of Old Ministers, and he still continues to preach occasionally, with great acceptance. Mr. Jones accepted about six hundred members

475

Here during his time as minister. In 1870, the lease of some land was purchased for £120, on which the chapel stood. and now the land and the chapel are free-hold. At the beginning of 1870, the church sent a call to Mr. George Williams, Trewyddel, Pembrokeshire, and he soon started his ministry here, and there was a great deal of success there when he arrived, but he stayed here less than two years, because he accepted a call from Abercanaid, near Merthyr Tydfil, and he moved there. There were many of the " earth's excellent people" from time to time connected with this church, those people whose names perfume till this day, such as W. Parry, J. Owen, J. Pritchard, O. Jones, T. Pritchard, R. Owen, E. Jones, G. Williams, R. Owen, and others. Their labour of love is remembered before God, and their names have not been forgotten on earth.

The following persons were raised to preach in this church :-

BIOGRAPHICAL NOTES

EVAN JONES. He was born in the community of Glandwr, Pembrokeshire, and it was in that church he was accepted as a member, and started preaching. In 1782, Glandwr church appealed to the managers of the Congregational Treasury, to be accepted to Oswestry college. We have that appeal in front of us, signed by John Griffith, minister; Rees Thomas, John David, Thomas Griffith, Evan John, elders ; Mark Evans, John Evans, John James, and John David, deacons. They approved of him as a promisingly gifted young man, who had healthy views. And he himself has given a summary of his views,

* having written the above we have been informed that Richard Owen started his preaching in Tabernacle, Liverpool.

476

and his motivation towards him ministry work. We can guess from his handwriting that he had received only minimal education before this. He was accepted by the college, and having spent some time there, he went for a short while to Beaumaris, and he had intended settling there. He came by sea from some harbour in Pembrokeshire or Cardiganshire, and he landed in Amlwch, and he decided to stay there instead of going to Beaumaris. He settled there in March, 1789, and he stayed there until close to the end of 1793, when he emigrated to America, and that's where he stayed for the rest of his life.

JOHN EVANS. He was born in the parish of Llangranog, in Cardiganshire, in 1753. In his youth he walked in the ways of this world, just like a multitude of his contemporaries, and he was a full thirty years old before he seriously considered his ways. He was accepted as a member in Penrhiwgaled, by Mr. Benjamin Evans, Drewen, and it was there he started preaching. Having preached for some years in his home country, he went to Machynlleth, where there was a small congregation who had worshipped there for a few years, and he was ordained there around 1791. He laboured there with great dedication, and through his efforts the causes in Aberhosan and Pennal were started. He stayed in Machynlleth about four years, we know because we find him starting his ministry in Amlwch early in 1795. He was very popular in Amlwch in the first years after he settled there, and he continued so, as a preacher, during his stay in the place. He preached a lot outside Amlwch, and wherever he went a large congregation came to listen to him. He was steadfast in healthy doctrine, and jealous for giving the credit to Sovereign grace in the salvation of a sinner. Had he been as jealous for a holy life as he was for a pure doctrine, he would have been one of the most successful ministers of his age. Nature had favoured him with a tall, princely, glossy body, which was fully six foot two inches, with a clear, strong, sonorous voice, and a jolly, sociable temper, which amused his companions wherever he went; but drinking was his trial, and the strength of his ministry was debilitated by it for a long time. He added the post of schoolteacher to his ministry, which was not only a help to support his family, but it brought him into contact with many families in the country, and he was respected by them.

477

He gave up his ministry in Amlwch in 1825, and he moved to Tremadog to his daughter, and he stayed there till the end of his life. He was a great deal of help to the people started the cause in Porthmadog and in Penmorfa, and he preached a lot in all the areas around him when he had a call. For the last twelve years of his life he was a thorough tea-totaller, and he often said that had he been so all his life it would have done him a lot of good. He died on December 7th, 1849, at the age of 95, having been in monistry for close to sixty years.

 

LLANERCHYMEDD

Mae yn anhawdd gwybod i sicrwydd pa bryd y dechreuwyd pregethu yma. Rhywbryd yn gynar yn yn ugain mlynedd olaf o'r ganrif ddiweddaf symudodd John James yma o Bwllheli, yr hwn oedd yn ddyn crefyddol. Tincer oedd John James wrth ei gelfyddyd, ac yr oedd gweled un o'i alwedigaeth ef yn glynu wrth yr Arglwydd yn beth anarferol. Dywedir fod y foneddiges grefyddol, Mrs. Edwards, Nanhoron, yn dyweyd unwaith wrtho, " Wel John James, nid oes ond ychydig o bobl o'ch galwedigaeth chwi yn grefyddol." " Nac oes, m'am," atebai John .James, "ac nid oes ond ychydig chwaith o'ch dosbarth chwithau."Mor dda yw gair yn ei amser. Yr oedd John James yn ddyn o ddeall cryf, ac o ddawn rhwydd, ac yr oedd ei gysylltiad ef a'r achos gwan yma yn help mawr iddo yn ei gychwyniad, yn enwedig yn nglyn a dygiad yn mlaen ranau ysbrydol y gwaith. Nis gallwn gael allan a oedd yr achos wedi ei gychwyn cyn symudiad John James yma ai nid oedd. Yn nghofnodion Mr. Jonathan Powell, y rhai sydd yn awr ger ein bron, dywedir mai yn 1794 y dechreuwyd yn achos yma. Dywedir mai mewn ty anedd, yn hwn oedd yn wag ar y pryd, mewn lle a elwir yn awr y Walk, y dechreuwyd pregethu. Wedi hyny cymerwyd lle arall, heb fod yn mhell o'r un fan, a elwid y Whitehorse, oblegid iddo fod unwaith yn dafarndy, a chyfaddaswyd y lle at addoli. Crybwyllir am un Richard Price, yr hwn yn nghyd a'i wraig a fuont yn gefn mawr i'r achos, ac am flynyddau lawer rhoddasant ymborth a lletty yn rhad i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Cadwent westy yn y lle a adnabyddid fel y Liver. Bu Edward Roberts yn aelod diargyhoedd am 60 mlynedd. Ymwasgodd Mr. Hughes, Tymawr, yn foreu a'r achos, a bu iddo yn noddwr caredig. Pregethid yn y lle gan weinidogion y sir, er nad ydym yn gwybod i'r eglwys fod dan ofal uniongyrchol yr un o honynt. Daeth Mr. Abraham Tibbott yma, a bu am dymor yn cadw ysgol yn y Whitehorse, lle y pregethid, ac yr oedd yn pregethu i'r gynnulleidfa, os nad oedd gofal yn eglwys arno. Yr oedd hyn wedi i'w gysylltiad ag eglwys Rhosymeirch ddarfod. Gan nad oedd yn bosibl cael tir yn y Llan i adeiladu capel, cafwyd tir ychydig y tu allan ar y ffordd i Langefni, gan Mr. Hughes, Tymawr, ar brydles o 99 mlynedd, am bum' swllt y flwyddyn o ardreth. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1811, a galwyd ef Peniel. Yn y flwyddyn 1813, rhoddwyd galwad i Mr. David Beynon, gwr ieuangc o Ferthyr Tydfil, ac urddwyd ef yn fuan wedi y Sulgwyn y flwyddyn ganlynol. Nid oedd nifer yn aelodau pan sefydlodd Mr. Beynon yma yn

 

CONTINUED


Return to top

[Last updated: 28 Sept 2013 -  Gareth Hicks]

Valid HTML 4.01 Transitional  

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI