GENUKI Home page
Anglesey Anglesey     Contents Contents

 

  Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Anglesey section (Vol 2)

Pages 478 - 491

See main project page

Proof read by Yvonne John (May 2008)

Chapels below;

 


Pages 478 - 491

478

(Continued) LLANERCHYMEDD

ddim ond 25, ond cynyddodd yr achos yn raddol, fel y bu raid cael oriel ar un ochr i'r capel. Tua thair blynedd yr arhosodd Mr. Beynon yma, canys symudodd i Landdeusant, ac ar ol hyny bu yr eglwys yma am ysbaid heb neb neillduol yn cymeryd ei gofal. Yn y flwyddyn 1823, daeth Mr. Owen Jones, Llanaelhaiarn yma, a thynodd ei ddoniau hyawdl sylw mawr, a phe buasai ei fuchedd yn cyfateb i'w ddoniau, ni safasai dim o'i flaen. Ni bu tymor ei arosiad yma ond byr.

Cyn diwedd y flwyddyn 1828, rhoddwyd galwad i Mr. William Williams (Gwilym Caledfryn), o Ddinbych, ond a fuasai am ychydig yn athrofa Rotherham. Urddwyd ef Mehefin 2i1, 1829. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. A. Jones, Bangor ; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Griffith, Caergybi ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Beaumaris ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. Roberts, Salem, ac i'r eglwys gan Mr. W. Jones, Amlwch.* Bu Mr. Williams yn ymdrechgar a llafurus yn nhymor byr ei weinidogaeth yma, a gwnaeth lawer tuag at goethi a dyrchafu chwaeth ieuengctyd yr eglwys, ond ychydig gyda dwy flynedd yr arhosodd yma. Symudodd i Bendref, Caernarfon. Wedi hyny rhoddwyd galwad i Mr. Evan Davies (Eta Delta), Llanrwst, a bu ef yma am naw mlynedd. Yn ei dymor ef cafwyd tir at adeiladu capel yn nhreflan Llanerchymedd, a galwyd y capel yn ol enw y gweinidog yn Capel Evan. Adeiladwyd ef yn 1838, ac aeth y draul yn 400p. Yr oedd Mr. Davies yn gymeriad nodedig, ac yn dra adnabyddus fel y dadleuydd cyhoeddus cyntaf yn Nghymru dros lwyrymataliaeth; a phan yr amlygodd rhai awydd i roddi iddo ryw arwydd o barch am hyny, dymunodd ef i hyny gael ei roddi at y capel newydd a godasid ar ei enw. Bu yn ymdrechgar a llwyddianus i gasglu ato, a thalwyd y rhan fwyaf o'r ddyled. Symudodd Mr. Davies cyn diwedd 1842 i New Market, ac yno y treuliodd weddill ei oes, lle y daw ei hanes etto dan ein sylw. Wedi bod am fwy na blwyddyn heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. John Roberts, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr Abermaw, ac urddwyd ef Mai 22ain, 1844. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Parry, Conwy; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Jones, Amlwch ; gweddiodd Mr. W. Griffith, Caergybi ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Evans, Abermaw, ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, Caernarfon. + Llafuriodd Mr. Roberts yma yn egniol am bum'-mlynedd-ar-hugain, nes y symudodd i Brymbo, sir Ddinbych. Talwyd y gweddill ddyled oedd yn aros, yn benaf trwy ymdrechion yr Ysgol Sabbothol. Adgyweiriwyd Peniel, lle y mae gwasanaeth yn cael ei gynal yn achlysurol, ac ail adeiladwyd capel Llanerchymedd trwy draul o fwy na 500p., fel y mae yn gapel hardd a chyfleus. Cynyddodd yr eglwys, y gynnulleidfa, a'r Ysgol Sabbothol. Wedi bod am dymor heb weinidog, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Evan Cynffig Davies, yr hwn ddwy flynedd cyn hyny a urddasid yn gydweinidog a Mr. W. Griffith, yn Nghaergybi, ac y mae Mr. Davies yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad a pharch.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon: -

* Dysgedydd, 1829.      Tu dal. 308.     +  Dysgedydd, 1844. Tu dal 217

479

Nid ydym yn gwybod am neb arall a gyfodwyd ; ac y mae yn sicr fod llawer o ffyddloniaid wedi bod gyda'r achos yma o bryd i bryd, er nad anfonwyd eu henwau i ni, ond y mae eu llafurus gariad mewn coffadwriaeth ger bron Duw.

 

  MYNAEDDFWYN

Translation available on /big/wal/AGY/LlanfihangelTrerBeirdd/Hanes.html

"Mae yr eglwys yma mewn cysylltiad a Llanerchymedd, ac wedi bod dechreuad dan yr un weinidogaeth. Dechreuwyd pregethu yma yn y flwyddyn 1827, mewn ty anedd a gymerwyd gan Meistri E. Jones, Clorachfawr ; D. Owen, Trewyne, ac O. Jones, Parc-yr-ynys. Ni buwyd yn hir cyn cael capel, yr hwn a agorwyd Tachwedd 23ain a'r 24ain, 1829, a galwyd ef Hebron, ac yr oedd y tri wyr a enwyd uchod yn rhai mwyaf blaenllaw yn ei adeiladiad, ac yn ymddiriedolwyr iddo. Buont o gynorthwy mawr i'r achos, ac y mae eu hiliogaeth ar eu hol yn ffyddlon gydag arch Duw. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf mewn nifer, ac y mae wedi dyoddef llawer gan symudiadau a marwolaethau, ond y mae yma er hyny nifer o ffyddloniaid yn glynu wrth yr Arglwydd. Nid oes achos i ni grybwyll am y gweinidogion a fu yma, gan ein bod eisioes wedi cyfeirio atynt yn nglyn a Llanerchymedd."

LLANDDEUSANT

Yn y flwyddyn 1749, symudodd Mr. William Pritchard o Fodlewfawr, i Glwchdernog, ac yn mhen rhyw ysbaid wedi hyny, neillduwyd ty bychan a elwid y Clwch-hir, ar dir Clwchdernog, yn lle i addoli. Nid yw yn debyg i eglwys gael ei ffurfio yma, ond pregethid ynddo gan weinidogion pob enwad a ddeuai heibio, oblegid er fod William Pritchard yn Annibynwr cydwybodol, etto yr oedd yn hollol ddiragfarn at bawb o bob enwad efengylaidd. Bu pregethu yn y Clwch-hir hyd ddiwedd oes W. Pritchard, ac nid oes genym son mwyach am bregethu yn y lle. Nid oes ond ychydig gydag ugain mlynedd er y tynwyd hen d Clwch-hir i lawr, fel y mae yn yr ardal luaws mawr sydd yn ei gofio yn dda. Aeth ysbaid heibio ar ol marwolaeth W, Pritchard cyn fod genym son am bregethu yn yr ardal drachefn, er nad ydym ychwaith yn tybied iddi gael ei llwyr adael. Sonir y byddai Annibynwyr yn pregethu yn y pentref, yn y fan lle y saif y Siopnewydd yn awr. O gylch y flwyddyn 1793, daeth Mr. Zacheus Davies yma i bregethu a chadw ysgol. Un o ryw le yn y Deheudir ydoedd. Nid ydym wedi cael allan ei fod wedi ei urddo cyn dod yma, ac nid oes genym un prawf ei fod wedi ei urddo yma. Dywedir ei fod yn bregethwr tanllyd iawn. Efe fu y prif offeryn i adeiladu y capel cyntaf yma yn y flwyddyn 1795, a galwyd ef Bethania. Cynorthwyid ef yn benaf yn y gorchwyl gan William Pritchard o'r Hen-siop, yr hwn yn nghyd a'i wraig fu o help mawr i'r achos yma. Yr oedd Owen Thomas, Carrog wedi hyny, wedi dyfod i fyw i Fodwyn y flwyddyn flaenorol, a bu ef o lawer o help yn

480

nghychwyniad yr achos ac yn nghodiad y capel, er mai aelod yn Rhosymeirch ydoedd. Nid oedd y capel ond ty bychan llwyd, t gwellt, ond yr oedd traul ei godi yn ormod i'r ychydig oedd yn y lle i'w dwyn, ac oblegid hyny aeth Mr. Z. Davies i'r Deheudir a chasglodd ddigon i dalu yr holl ddyled. Ond mynai rhywrai ei fod wedi casglu mwy na digon, a lluniwyd chwedl i'w ddrygu. Cyrchai llawer i'w wrando tra y bu yma, ond disgynodd yr achos yn isel wedi ei ymadawiad. Hugh Jones a Sian Francis o'r Fferam; a Hugh Rowlands ac Ann Williams o Gae'rgoll, Llanrhuddlad, ac Edward Prisiart Abram, yw yr unig rai y coffeir eu henwau yn nglyn a'r lle. Cynhaliai y brodyr hyn gyfarfodydd gweddio, ac yn achlysurol deuai Abraham Tibbott, John Jones, Ceirchiog; ac wedi hyny Robert Roberts, ac Owen Thomas, Carrog, ibregethu iddynt. Y ddau a enwyd olaf a fu o fwyaf o gynorthwy i'r achos am lawer o flynyddau, a bu y gofal yn llwyr wedi hyny ar Owen Thomas. Wedi urddo Mr. D. Beynon yn Llanerchymedd, bu gofal yr eglwys yma arno ef, ac yn y flwyddyn 1816, darfu ei gysylltiad a Llanerchymedd, a daeth i lettya i Meiriogan, a chadwai ysgol ddyddiol yn Bethania. Bu Mr. Beynon yn boblogaidd yma dros dymor, a chyrchai llawer i'w wrando, ond ymddrysodd mewn rhyw amgylchiadau, ac ymadawodd i'r Deheudir, a pharodd ei ymadawiad chwalfa fawr ar yr achos. Daeth Mr. Owen Jones yma ar ol hyny, mewn cysylltiad a Llanerchymedd, ond byr fu ei arosiad, ac er ei holl ddoniau nid oedd yr achos ond dilewyrch. Bu un James Williams yma yn cadw ysgol, a mynai gael ei urddo yn weinidog, ac oblegid na chafodd hyny, enciliodd at y Bedyddwyr. Rhoddodd hyny ergyd ychwanegol i'r achos oedd eisioes yn wan.

Yn yr amgylchiad yma cymerwyd gofal yr eglwys gan Mr. Owen Thomas, ac arno ef y bu y gofal hyd ei farwolaeth, a chynorthwyid ef gan ei fab, Mr. Thomas Owen, yn nghylch ei weinidogaeth. Tua'r flwyddyn 1822, y cymerodd Mr. O. Thomas y gofal, a'r flwyddyn ganlynol yr adgyweiriwyd ac yr helaethwyd y capel. Nid oedd yr achos yma ond isel yr holl flynyddoedd hyn, a phan fu farw Owen Thomas, yn y flwyddyn 1833, dywedir nad oedd ond un dyn yn aelod yn Bethania i ddechreu a diweddu yr Ysgol Sabbothol, sef Evan Hughes, ond a adnabyddid yn well fel Evan y Rholiwr. Dichon fod yma rai dynion eraill yn aelodau, ond efe yn unig oedd yn dyfod i'r ysgol, ac yn ymgymeryd a rhanau cyhoeddus y gwaith. Wedi marwolaeth Mr. Owen Thomas, datododd y cysylltiad rhwng Llanddeusant a Llanfechell, ac unodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Bodedeyrn i roddi galwad i Mr. David Davies, myfyriwr o athrofa y Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yn Bodedeyrn, Gorphenaf 27ain, 1836. Bu Mr. Davies yma yn ymdrechgar am flynyddau. Torodd diwygiad grymus allan yn y flwyddyn 1839, a chafodd yr eglwys yma brofi ei effeithiau grymus. Wedi bod yma tua saith mlynedd, symudodd Mr. Davies i Berea, Pentreberw, ac wedi hyny i Langefni, ac y mae yn awr yn Cerrig-cadarn, sir Frycheiniog.

Cyn diwedd y flwyddyn 1842, rhoddwyd galwad i Mr. William Roberts, pregethwr cynorthwyol oedd yn byw ar y pryd yn Rhosymedre, gerllaw Ruabon. Urddwyd ef yma Mawrth 21ain, 1843. Yr oedd gan William Roberts ddoniau melus a gwlithog, ond yr oedd yn flaenorol wedi dilyn arferion a lygrasant ei holl natur, a throdd yn ol drachefn i'w hen lwybrau. Symudodd oddiyma yn y flwyddyn 1846, i Tabor, sir Fynwy, a bu yno nes y bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef, ac y mae bellach er's blynydd-

481

oedd yn ei fedd ! Yn ei dymor - sef yn y flwyddyn 1844 - y codwyd y capel presenol, ni wnaeth ond ei godi, oblegid yn nhymor ei olynydd y talwyd am dano. Yn nechreu y flwyddyn 1848, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Edward Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Gorphenaf 18fed, 1848. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Griffith,  Caergybi ; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Thomas, Beaumaris ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. James, Rhosymeirch ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Jones, Amlwch, ac i'r eglwys gan Mr. D. Roberts, Cemaes. Ymaflodd Mr. Williams yn ei waith o ddifrif, a theimlai mai y peth cyntaf i'w wneyd oedd talu dyled y capel. Yr oedd wedi costio 200p., ond yr oedd 131p. yn aros yn 1848, ond llwyddwyd cyn pen ychydig flynyddoedd i'w llwyr ddileu. Gweithiodd yr Ysgol Sabbothol yn rhagorol. Bu Mr. Williams yma yn llwyddianus am yn agos i ddeuddeng mlynedd, nes y symudodd i Ruthin yn 1859. Cyn hir ar ol hyny rhoddwyd galwad i Mr. Thomas T. Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Ebrill 25ain, 1861. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. E. Williams, Ruthin; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Griffith, Amana ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. P. Howell, Pwllheli ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. D. Jones, Bala, ac i'r eglwys gan Mr. W. Griffith, Caergybi. Ychydig gyda dwy flynedd y bu Mr.Williams byw ar ol ei urddo, ond yn ei dymor byr gweithiodd a'i holl egni. Gwnaed rhyw adgyweiriadau mewnol yn y capel yn ei amser ef, a rhoddodd bywiogrwydd ei weinidogaeth, a'i ysbryd diwygiadol fywyd newydd yn yr eglwys. Bu farw Mehefin 10fed, 1863. Claddwyd ef yn barchus yn mynwent Bethania, a chymerodd yr eglwys a'r gynnulleidfa holl draul y claddedigaeth, ac erbyn hyn y mae maen hardd wedi osod ar ei fedd, a barau heiyrn yn ei gylchynu. Mae yr eglwys yn deilwng o ganmoliaeth am y cydymdeimlad mawr a ddangosasant ag ef yn ei gystudd, a'r parch a ddangosasant i'w weddillion marwol. Ar ol bod flwyddyn yn amddifad, rhoddwyd galwad i Mr. David John, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, i fod yn weinidog yma ac yn Llanfechell, ac urddwyd ef yno Medi 28ain, 1864. Bu Mr John yma yn llafurus am bedair blynedd, nes y symudodd i Booth-street, Manchester, yn 1868, ac yno y mae etto. Cyn pen blwyddyn wedi ymadawiad Mr. John, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mai 11eg, 1869. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Lloyd, Caergybi ; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Owen, Llansantffraid ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Williams, Caecoch ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. T. Davies, Abergele, ac i'r eglwys gan Mr. R. E. Williams, Beaumarris. Mae Mr. Roberts yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth mawr. Mae yr eglwys hon wedi bod bob amser yn nodedig o heddychol, ac y mae wedi bod yn haelionus, nid yn unig i ddwyn ei threuliau ei hun, ond hefyd at achosion cyhoeddus crefydd. Aed i 100p. o draul yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf mewn paentio y capel, a gosod railings o'i gylch, ac ail wneyd y ty perthynol iddo, a thalwyd yr holl ddyled heb oedi dim.  Yn mysg prif gefnogwyr yr achos yma er dyddiau  Pritchard, dylid cofnodi enwau Owen Jones a William Jones, Clwchdernog ; William Pritchard a John Pritchard, Hensiop; David Roberts, Meiriogan; Thomas Jones, Melinllynon ; William Jones, Glanalaw ; David Williams, y Siop; Thomas Williams, Glanalaw ; Robert Roberts, Mynyddadda, a bydd gofal a

482

ffyddlondeb Robert Jones, Tanylan, gynt, Gronant, yn awr, a'i briod, yn cael ei goffau tra yr erys y genhedlaeth bresenol yn y wlad. Teimlir chwithdod gan lawer i weled William Jones - neu 'newyrth Wil, fel y gelwid ef fynychaf - yn eisiau. Bu yn arweinydd y gn yma am flynyddau, ac nid yn fuan yr anghofir ei weddiau hwyliog, a'i amen cynes yn y cyfarfodydd mawrion. Mae yma un hen chwaer Elizabeth Hughes, wedi bod yn aelod 56 mlynedd. Derbyniwyd hi cyn dyfodiad Mr. D. Beynon i'r lle.

Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef John Jones, Marton, am yr hwn y crybwyllasom eisioes, Cyf. I., tu dal. 395.

COFNODION  BYWGRAPHYDDOL

DAVID BEYNON. Ganwyd ef yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1792. Symudodd yn ieuangc i Ferthyr Trydfil, ac yno pan yn aelod yn Bethesda y dechreuodd bregethu. Yr oedd ef a Dr. Jenkyn yn dechreu yr un pryd, a chyd-deithiodd y ddau lawer gyda'u gilydd pan yn ieuangc. Aeth Mr. Beynon i sir Fon, ac urddwyd ef yn Peniel, Llanerchymedd, Mehefin 2i1, 1814. Bu yno yn dderbyniol dros rai blynyddoedd. Rhoddodd yr eglwys yno i fynu a chyfyngodd ei lafur i eglwys Llanddeusant, yr hon oedd cyn hyny dan ei ofal. Priododd yno, ond ni bu y briodas mewn un modd yn un hapus. Ar wahan a'u gilydd y bu ef a'i wraig byw trwy eu hoes. Nid yw yn perthyn i ni ymholi i'r amgylchiadau, ond yn unig crybwyll y ffaith. Dychwelodd ef i'r Deheudir, a bu am dymor heb gysylltiad rhyngddo ag unrhyw eglwys. Aeth i Rwssia, lle y treuliodd lawer o flynyddau, ond yn mlynyddoedd olaf ei oes yr oedd yn byw yn Nantgarw, ac yn aelod yn y Groeswen, a phregethai pan fyddai galwad am ei wasanaeth. Yr oedd yn bregethwr cynes a bywiog, a phe buasai ei gerddediad wedi bod yn uniawn bob amser gallasai fod yn weinidog defnyddiol. Yn mlynyddoedd diweddaf ei oes yr oedd o ran ei gymeriad yn gwbl ddiargyhoedd, ond yr oedd olion y crwydriadau gynt yn amlwg wedi pylu ei feddwl. Yr oedd in dda ganddo gofio y dyddiau gynt, a'r ysbryd a fwynhaodd yn nghychwyniad ei yrfa grefyddol. Bu farw yn mis Mehefin, 1872, yn 80 oed.

THOMAS T. WILLIAMS. Ganwyd ef yn Nhanyffordd, yn mhlwyf Llanllechid, yn sir Gaernarfon. Cafodd fanteision crefyddol o'i febyd, a derbyniwyd ef pan yn ieuangc yn aelod yn Amana. Yr oedd ei dad yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys, a chododd dau frawd iddo i'r weinidogaeth. Bu am dymor yn athrofa y Bala, ond daliwyd ef gan waeledd, fel y lluddiwyd ef i ddilyn ei efrydiau yn gyflawn. Urddwyd ef yn Llanddeusant, Ebrill 25ain, 1861, ac yr oedd yn nodedig o barchus a chymeradwy gan yr eglwys a'r wlad oll. Pregethai yn rymus a dylanwadol, ac yn enwedig fel gweddiwr yr oedd ei ddoniau yn anarferol. Er nad oedd ond bychan o gorpholaeth yr oedd ei lais yn gryf a threiddiol, a chariai ddylanwad grymus ar ei wrandawyr. Coffeir hyd y dydd hwn am ei weddi effeithiol ar faes y gymanfa yn Mon unwaith. Cafodd effaith ddyfnach ar lawer na dim a fu yn y gymanfa. Gweithiodd ei ddiwrnod a'i holl egni. "Canwyll yn llosgi ac yn goleuo " ydoedd, ac yr oedd llawer "yn ewyllysgar dros amser yn gorfoleddu yn ei oleuni ef." Bu farw Mehefin 10fed, 1863, yn 28 oed, a chladdwyd ef yn Bethania, Llanddeusant, ac y mae maen prydferth arno, yr hwn a roddwyd gan yr eglwys er coffadwriaeth am dano ef.

483

LLANFECHELL

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal yma trwy offerynoliaeth un Richard Jones, yr hwn a ddaethai i fyw i'r Maesmawr. Yr oedd Richard Jones yn fab i John Owen, Caeaumon, a'i wraig yn ferch i William Thomas, Meillionen, ac arferai fyned i'r Capel mawr - lle yr oedd yn aelod - ar y Sabbothau, ac i'r cyfeillachau crefyddol, er fod ganddo ddeuddeng milldir o ffordd. Dywedir mai Mr. Rees Harris, Pwllheli, oedd y cyntaf a bregethodd yma, ond dilynwyd ef yn fuan gan eraill. Ymwelai Mr. Benjamin Jones yn fynych a'r ardal, ac wedi sefydliad Mr. Evan Jones yn Amlwch, deuai efe yma yn aml; ond nid oedd etto neb trwy yr holl ardal yn proffesu crefydd ond Richard Jones, Maesmawr, a'i wraig, ac er dirfawr golled i'r ardal bu Richard Jones farw, yn ddyn cymharol ieuangc, yn y flwyddyn 1787, a chladdwyd ef yn mynwent Rhosymeirch. Bu yma foddion crefyddol yn cael eu cynal wedi hyny gyda mesur o gysondeb, ac wedi i Mr. Owen Thomas symud i fyw i Carrog, cafodd yr achos yma adgyfnerthiad neillduol. Dechreuasant mewn ty a elwir Broc'nol, ac ar y dechreu nid oedd yno neb oedd yn proffesu crefydd ond Owen Thomas a gweddw Richard Jones, Maesmawr, Yn yr adeg yma daeth hen chwaer grefyddol o Amlwch atynt, o'r enw Jane Owen, ond a adnabyddid yn well fel Sian Owen Edward, a llawer cyfarfod gweddi fu heb neb ond Owen Thomas a Sian Owen Edward i gymeryd rhan ynddo. Darllenai Mr. O. Thomas ranau o'r ysgrythyr, ac yna dywedai yn ei ddull syml, " Dos dipyn i weddi Sian," - ac wedi i Sian weddio, yna gweddiai yntau, a dyna fyddai yr holl gyfarfod. Un o'r rhai cyntaf a ymunodd a hwy oedd Lewis Jones, Broc'nol, gwr y ty lle y cynhelid y cyfarfodydd, ac ni bu Thomas Williams, Tyddyndu, a Richard Jones, mab Richard Jones, Maesmawr, yn hir cyn ymwasgu a'r dysgyblion. Yn y flwyddyn 1805, cafwyd darn o dir Maesmawr at godi capel arno, ac adeiladwyd ef y flwyddyn hono, a galwyd ef Ebenezer. Dywedir y byddai Richard Jones, Maesmawr, yn wastad ar yr addoliad teuluaidd yn gweddio ar ragddor y drws, at un dymuniad ganddo dros ei blant bob amser fyddai am iddynt gael lle cyfleus i addoli. Bu ef farw cyn gweled ei blant wedi tyfu i fyny, a chyn gweled capel wedi ei godi ; ond codwyd capel ar ei dir, a bu ei blant oll yn aelodau yn y capel hwnw. Costiodd y capel 150p., ond casglwyd y cwbl yn fuan trwy flyddlondeb a diwydrwydd Mr. Owen Thomas. Nid oedd Mr. O. Thomas hyd yn hyn wedi dechreu pregethu ; ond un nos Sabbath, yn y flwyddyn 1807, digwyddodd fod cyhoeddiad gwr dyeithr yn Penrhyn, Cemaes, ond siomwyd hwy o hono. Rhag i'r gynnulleidfa ymadael yn siomedig, anogwyd Mr. O. Thomas i ddyweyd gair wrthynt. Cydsyniodd a'r cais, a phregethodd oddiar y geiriau-- Gwresogodd fy nghalon o'm mewn, tra yr oeddwn yn myfyrio enynodd tn, a mi a leferais a'm tafod." Ac o hyny allan pregethai yn fynych yn Llanfechell a'r Penrhyn, ac yn mhob man lle y meddyliai fod bwlch ac eisiau ei gau. Gweinidogion Rhosymeirch ac Amlwch a ofalent yn benaf am yr achos yn Llanfechell, hyd nes y rhoddasant alwad i Mr. Owen Thomas, ac urddwyd ef yma Ebrill  12fed, 1814. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Griffith, Caernarfon ; derbyniwyd cyffes ffydd y gweinidog gan Mr. R. Roberts, Ceirchiog; gweddiodd Mr. J. Powell, Rhosymeirch ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Evans, Amlwch, ac

484  

i'r eglwys gan Mr. J. Powell.* Bu Mr. Thomas yma yn llafurus hyd ddiwedd ei oes, ond oblegid fod llesgedd henaint wedi ei ddal, a'i olwg yn pallu, rhoddwyd galwad i'w fab, Mr. Thomas Owen, i fod yn gydweinidog ag ef. Urddwyd ef Mehefin 10fed, 1828. Bu Mr. T. Owen yn gofalu am y lle hyd y flwyddyn 1848, pryd y rhoddodd ei gofal i fyny. Ar ol bod am rai blynyddau heb weinidog, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. John Jones, Seion, sir Flint, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn 1853, a bu yma yn dderbyniol hyd nes y symudodd i Maentwrog yn Hydref, 1857. Yn 1862, adeiladwyd yma gapel hardd, gwerth o leiaf 700p., yr hwn a roddwyd yn anrheg i'r eglwys a'r gynnulleidfa yn y lle gan Meistri Lewis o Liverpool. Maent yn enedigol o Cemaes, a'u rhieni a'u brawd hynaf yn gorwedd yn mynwent capel Ebenezer, ac yr oeddynt am wneyd cofadail i'w hanwyliaid sydd yn gorwedd yn y lle, yn gystal a chodi capel hardd er gwasanaeth y gynnulleidfa. Ar achlysur agoriad y capel newydd yn Hydref, 1862, sefydlwyd Mr. T. T. Williams, Llanddeusant, i fod yn weinidog, a bu yma yn llwyddianus hyd ddydd ei farwolaeth.

Ar ol hyny, rhoddwyd galwad gan yr eglwys hon, mewn cysylltiad a'r eglwys yn Llanddeusant, i Mr. David John, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Medi 28ain, 1864. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri F. Samuel, Abertawy; J. Peter, Bala; D. Williams, Bangor; T. Rees, D.D., Abertawy; W. Jones, Amlwch; W. Griffith, Caergybi; J. Roberts, Llanerchymedd ; D. Roberts, Caernarfon ; J. Stephens, Siloh, a J. Jones, Jerusalem. Bu Mr. John yma hyd y flwyddyn 1868, pryd y symudodd i Booth-street, Manchester. Cyn hir wedi ymadawiad Mr. John, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Hugh Jones, Cemaes, ac y mae y tri lle, Llanfechell, Cemaes, a Seion, o dan yr un weinidogaeth.

Yma y codwyd Owen Thomas a'i fab, Thomas Owen, i bregethu, am y rhai y cawn achlysur etto i ysgrifenu.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

OWEN THOMAS.  Ganwyd ef yn mhlwyf Hen-eglwys, Mon, Medi 24ain, 1764. Yr oedd ei dad yn amaethwr cyfrifol mewn lle a elwir Llan, Heneglwys, ond yr oedd yn dra amddifad o ogwyddiadau crefyddol, a chafodd ei fab lawer o wrthwynebiadau oddiwrtho ar gychwyniad ei yrfa grefyddol. Yr oedd ei fam yn proffesu crefydd ac yn aelod yn Rhosymeirch, a derbyniwyd Owen Thomas yn aelod yno pan yn 17 oed, gan Mr. Benjamin Jones. Dangosodd yn ddioed ei fod am ymafael o ddifrif yn holl waith crefydd, ac ni lesgawyd ef mewn un modd gan yr anhawsderan a'i cyfarfu. Yn y flwyddyn 1789, priododd ag Elizabeth, merch Morris Williams, Ty'nymynydd, Tregeuan, ac aeth i fyw i Gemaesycoed, yn mhlwyf Gwalchmai. Teimlai yn fawr tra yno o herwydd yr anfantais a ddyoddefai oblegid amddifadrwydd o foddion gras, etto cyrchai i Rosymeirch er y pellder i gyd gyda chysondeb, a thra yn oedd efe yn byw yma y cychwynwyd yr achos yn Ceirchiog, a rhoddodd Owen Thomas bob help yn ei allu i hyny. Symudodd yn y flwyddyn 1794, i Fodwyn; ac yr oedd yr achos yn Llanddeusant wedi ei gychwyn y flwyddyn cyn hyny, ond bu ei ddyfodiad ef i'r

*Allan o gofnodion Mr. Jonathan Powell.

485

ardal yn swcwr mawr i'r achos gwan yn ei gychwyniad. Chwe' blynedd yr arhosodd yn Bodwyn, oblegid symudodd yn y flwyddyn 1800 i Carrog, lle y treuliodd weddill ei oes, a daeth y lle yn adnabyddus trwyddo ef. Meddyliodd yn ddioed am gychwyn addoliad crefyddol yn Llanfechell, a chyn pen tair blynedd wedi ei ddyfodiad i'r lle, yr oedd yma achos wedi ei gychwyn. Nid oedd hyd yma wedi dechreu pregethu, ac ni ddechreuodd hyd y flwyddyn 1807, a'r pryd hwnw yn hollol ddifwriad y bu, megis y crybwyllasom eisioes, ond wedi iddo ddechreu pregethu yr oedd yn wastad mewn gwaith, a pha fwyaf yn arferai ag ef, cryfaf oll oedd ei ysbryd ynddo. Rhoddwyd galwad iddo i fod yn weinidog gan yr eglwys a gasglasid yn benaf trwy ei lafur ef, ac urddwyd ef Ebrill 12fed, 1814, ac ar ol hyny ymroddodd yn fwy cyflawn i'w waith, er na dderbyniai unrhyw gydnabyddiaeth er ei gynaliaeth am hyny. Cymerodd ran flaenllaw gyda chodi capel yn Bodffordd, gerllaw ei le genedigol, a bu yn eglwys yno dan ei ofal am rai blynyddoedd. Efe a fu y prif offeryn i ddechreu yn achos yn Nghemaes, ac yr oedd y lle dan ei ofal hyd ddiwedd ei oes. Teimlai fod maes ei lafur yn eang, oblegid yn oedd yn cynwys Llanfechell, Llanddeusant, a Chemaes, heblaw y byddai yn ymweled yn fynych a lleoedd eraill, a chan ei fod yn heneiddio a'i nerth yn pallu, urddwyd ei fab Thomas Owen i fod yn gynorthwywr iddo rai blynyddau cyn ei farwolaeth. Yr oedd Owen Thomas yn un o'r dynion cymhwysaf i wneyd y gwaith oedd rhagluniaeth wedi ei fwriadu iddo, ac y mae Annibyniaeth yn Mon yn ddyledus iddo ef, ac ychydig eraill o'i gydlafurwyr, am yr afael sydd ganddi yn y wlad. Er nad oedd Owen Thomas wedi cael manteisien addysg yn helaeth, etto yn oedd yn deall trefn iachawdwriaeth yn dda, yn llawn o ysbryd ei phregethu, ac yn meddu dawn gwresog a difrifol wrth draddodi. Am grefydd y byddai ei ymddiddan yn wastad, ac nid elai i unrhyw ardal, nac i un teulu heb ymofyn a oedd rhywbeth a allai wneyd yno dros ei Arglwydd. Yr oedd ganddo ddawn nodedig mewn gweddi, a theimlai pawb wrth ei wrando fod ynddo hyder mawr ger bron Duw, ac yr oedd rhywbeth yn serchiadol yn ei holl gyflawniadau, yr hyn a'i gwnai yn anwyl gan bawb. Dangosai bob amser ofal mawr am grefydd yn ei deulu, ac ni chai dim ei atal yn nghyflawniad y ddyledswydd deuluaidd. Mynai hamdden i fendigo ei d yn adeg brysuraf y cynhauaf. Yr oedd dyn digrefydd wedi dyfod ato i weithio ar un cynhauaf unwaith, yn hwn a ymhyfrydai mewn gwawdio ac ailadrodd gweddiau Owen Thomas a William Jones, un o'i gydweithwyr, y rhai a gadwent y ddyledswydd bob yn ail. Achwynai William Jones wrth Owen Thomas ar ei gydweithiwr, ac ychwanegai nas gallai weithio gydag ef yn hwy. Wedi holi am ei ymddygiad, dywedodd O. Thomas wrth W. Jones, "Wel aros di i ni gael gwel'd beth allwn ni 'neyd o hono." Boreu dranoeth wedi darllen pennod ei hun, a gwneyd ychydig sylwadau arni, galwodd Owen Thomas ar y gweithiwr fyddai yn arfer gwawdio, i roddi penill allan i'w ganu, oblegid arferent ganu bob amser ar y ddyledswydd deuluaidd. Ysgydwai y dyn ei ben, a gwrthodai wneyd, ond ni fynai Owen Thomas ei omedd, a bu raid i'r dyn roddi penill allan ; ac aeth ryw un arall i weddi. Ar ol hyn yr oedd y gwawdiwr yn hollol ddistaw, a bygythiai ei gydweithwyr ef y byddai raid iddo weddio boreu dranoeth. Cafodd yn amgylchiad y fath effaith ar feddwl y dyn fel y difrifolodd ef yn y fan, ac nid yn unig rhoddodd i fyny wawdio ond dechreuodd weddio ei hun, a bu yn grefyddwr gloyw hyd ei fedd, a dymunodd gael ei gladdu mor agos ag y gellid at Owen Thomas.

486

Pregethodd Owen Thomas lawer, nid yn unig yn sir Fon, ond trwy holl siroedd Cymru, yn y Gogledd a'r De. Byddai yn aml yn myned ar daith am fis neu ychwaneg gan bregethu ddwy waith neu dair bob dydd, yn ol fel y byddai yn gyfleus, an yr oedd bob amser yn dderbyniol yn mha le bynag yr elai. Marchogai yn wastad ar anifail da, a gofalai yn gyffredin am fyned a digon o arian gydag ef i glirio y daith, hyd yn nod pe na chawsai ddim ; ac unwaith darfyddodd ei arian mor llwyr fel mai gan gyfeillion Bethel, sir Caernarfon, y cafodd help i gyrhaedd hyd adref. Bu yn marchogaeth yr un anifail am ugain mlynedd, a da oedd erbyn diwedd ei oes, pan wedi colli ei olwg, fod cyd-ddealldwriaeth mor hapus rhwng yr hen gaseg ag yntau. Ond cafodd brofedigaeth oddiwrthi unwaith flynyddoedd cyn hyny. Mae yn debyg ei fod wedi ei phrynu gan y chwareuwyr a grwydrent y wlad, a bod y gaseg wedi bod yn dilyn bywyd felly gynt, ond ar ol dyfod i feddiant pregethwr, yr oeddid yn disgwyl iddi adael ei hen ffyrdd. Ond ryw dro pan oedd Owen Thomas yn myned gyda Jonathan Powell. Rhosymeirch, i gymanfa Rhiadrwy, wrth fyned trwy Caernarfon, deallodd yr hen gaseg wrth swn yr udgyrn a'r tabyrddau fod y campwyr yn dwyn yn mlaen eu chwareuon, ac nid oedd atal arni i droi yn ol i'w hen lwybrau a myned i'w plith, ac yn eu canol ar ei chefn y cafodd Owen Thomas ei hunan. Cafodd ryw gyfaill caredig i'w harwain oddiyno, ond yr oedd y chwedl wedi cyrhaedd o'u blaen i Rhiadrwy, a mawr y difyrwch gafwyd i'w boeni am y peth. Yr oedd efe a William Hughes, Dinasmawddwy, yn mysg yr ychydig weinidogion a deithient y wlad yn lled reolaidd, ac yr oedd yn wastad ddisgwyliad am eu dyfodiad. Er fod Owen Thomas o gorph cryf, an uwchlaw dwy lath o daldra, ond ei fod yn crymu ychydig yn ei war, etto teimlodd yn gynar, mewn cydmariaeth i'r hyn a allesid ddisgwyl, ddadfeiliad yn ei gyfansoddiad. Bu yn dihoeni am fwy na blwyddyn, fel na allai fyned yn mhell oddicartref, ond daliodd i fyned i ymweled a'r eglwysi dan ei ofal, a phregethodd tra y gallodd. Y gwasanaeth cyhoeddus diweddaf a gyflawnodd oedd gweinyddu yr ordinad o swper yr Arglwydd yn Llanfechell, ond nis gallodd orphen gan wendid. Ni bu byw ond ychydig fisoedd ar ol hyn. Ymwelodd Mr. Griffith, Caergybi, ag ef ychydig cyn ei farw, an mewn llythyr a ysgrifenodd at Mr. John Jones, Marton, dywedai Mr. Griffith, " Amlygodd ei gyflawn orphwysiad ar y Crist ag oedd ef wedi bregethu mor ffyddlon i eraill. Rhyfedd drefn, ebe efe, 'i gyd o ras' Pan yn son am werthfawrogrwydd crefydd dywedodd, Y mae hi yn talu ei ffordd yn hynod.' Gyda golwg ar ragorol werth yr ysgrythyrau, sylwodd Fod llawer hymn yn gordial melus i'r enaid, ond mai yr addewidion oedd ei fywyd.'  Cofiaf yn hir y pwys difrifol gyda pha un y'm cynghorodd i wneyd fy ngoreu i berswadio dynion i ymofyn am grefydd i fyw. Yr oedd yn brofiadol os ceid hi i fyw, y ceid hi farw, ac yn ymwybodol mai byw crefyddol yw y dedwyddaf yn annibynol ar farw, a'i dragywyddol ganlyniadau."*

Yn ei ddyddiau olaf yr oedd rhywbeth neillduol wedi ei feddianu gyda golwg ar y lle i'w gladdu. Dyna oedd ei ymddiddan a'i feibion, ac a phawb a ddenai i ymweled ag ef. Ond un boreu dywedodd wrth ei fab hynaf. "Yr wyf wedi meddwl yn mha le y cleddwch fi - cleddwch fi wrth Ebenezer." Dywedai ei fab nad oedd yno ddim lle, oblegid mai ar lease yr oedd y capel. " Do's at Richard Lewis, Gwenithfryn," ebe yntau, " a gofyn

* Dysgedydd, 1837. Tu dal. 357.    "Bywgraphiad y Parch. O. Thomas."

487

iddo, a wnaiff o werthu darn o'r llain sydd yn ymyl gardd ty y capel." Aeth y mab ar ei air, a gwnaeth fel y gorchymynodd, ac wedi myned eilwaith prynodd ef, ac wedi dychwelyd dywedodd, "Wel, nhad, mi prynais o." " R'oist ti ernes arno," gofynai yntau. " Do, nhad," oedd yr ateb. " Wel," ebe yntau, "nid oes gen i ddim ond ffarwelio a chwi 'rwan;" ac wedi cau ei lygaid bu farw yn mhen ychydig funydau, Ebrill 15fed, 1833, yn 69 oed. Claddwyd ef yn y llain newydd-bwrcasedig, ac efe oedd y cyntaf a roddwyd i orwedd yno, a hyny cyn fod y lle wedi ei amgau, ond y mae yno dorf fawr yn gorwedd erbyn hyn, ac y mae y fynwent yn un o'r rhai prydferthaf yn yr ynys. Gweinyddwyd yn ngwasanaeth y claddedigaeth gan Meistri W. Griffith, Caergybi; W. Jones, Amlwch, a D. James, Rhosymeirch, ac yr oedd y dorf fawr o alarwyr oedd yn y lle yn un o'r rhai lluosocaf a welwyd mewn claddedigaeth erioed yn y wlad. Yr oedd yn barchus gan bawb yn ei fywyd, a chafwyd prawf eglur o hyny yn ei farwolaeth.

THOMAS OWEN. Yr oedd yn fab i'r hybarch Owen Thomas, Carrog. Dechreuodd bregethu yn Llanfechell, ac wedi bod yn pregethu dros rai blynyddau, urddwyd ef i fod yn gydweinidog a'i dad yn Llanfechell a Chemaes, Mehefin 10fed, 1828. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Jones, Amlwch; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. James, Rhosymeirch; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. O. Thomas, Carrog, (tad yr urddedig) ; pregethodd Mr. R. Roberts, Salem, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr. W. Roberts, Groeslon, ar ddyledswydd yr eglwysi. Yn mhen rhai blynyddau wedi marw ei dad, rhoddodd Mr. T. Owen i fyny ofal yr eglwys yn Cemaes, gan gyfyngu ei lafur i Lanfechell ; ond yr oedd ei gysylltiad gweinidogaethol a Llanfechell wedi darfod rai blynyddau cyn ei farwolaeth. Nid oedd Mr. T. Owen heb ei golliadau, a rhai a barant iddo ofid mawr, ond cydnabyddid ef gan y rhai a'i hadwaenent oreu, yn ddyn tyner, caredig, parod i bob cymwynas, ond ei fod yn llac a meddal, a thrwy hyny yn hawdd ei arwain; ond yr oedd yn dra ffyddlon a chywir i'w egwyddorion fel Ymneillduwr ac Annibynwr, ac ni fynai ei arwain gan neb yn hyny. Dangosodd weithgarwch mawr gyda'r ysgol Sabbothol, ac yr oedd yn barod a'i law i gyfranu at bob achos da a rhinweddol. Yr oedd yn dirion yn mysg ei bobl ei hun, ac yn dra gostyngedig yn mysg ei frodyr. Bu yn nychu yn hir, a dyoddefodd boenau corphorol mawr yn niwedd ei oes. Bu farw Medi 18fed, 1859, yn 69 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanfechell.

  

CEMAES

(Llanbadrig parish)

Yn y flwyddyn 1806, dechreuwyd pregethu yn achlysurol yma, mewn lle a elwir y Penrhyn. Mr. Owen Thomas, Carrog, a fu y prif offeryn i ddechreu yr aches, a chymerodd d anedd i'r perwyl. Cynorthwyid gan gyfeillion Llanfechell, y rhai a ddeuent yma weithiau i gynal cyfarfodydd gweddio. Clywodd Mr. Owen Thomas fod dyn o'r enw William Jones, yr hwn oedd yn aelod defnyddiol yn Rhosymeirch yn edrych allan am le i fyw, ac heb golli dim amser aeth i chwilio am dano, a chytunodd ag ef i fyw ar dir Carrog, a bu hwnw o hyny allan yn help mawr i'r cyfarfodydd a gynhelid yn y Penrhyn. Dyoddefent brinder mawr o eisiau pregethwr, ac yma y ddechreuodd Mr. Owen Thomas bregethu yn y flwyddyn 1807,

488

er mai aelod yn Llanfechell ydoedd ar y pryd. Trwyddedwyd Tygwyn, Penrhyn, yn lle at bregethu gan Owen Thomas yn Llys Esgobol Bangor, Tachwedd 14eg, 1811. Wedi pregethu a chynal moddion yn achlysurol yn y Penrhyn dros rai blynyddoedd, daeth capel y Methodistiaid yn Cemaes yn wag, a symudodd y gynnulleidfa fechan yno yn 1818. Hen ystordy ydoedd wedi ei gyfaddasu yn lle i bregethu, ond yr oedd yn dda ei gael y pryd hwnw. Derbyniwyd Owen Thomas, mab Mr. Owen Thomas, Carrog, yn aelod, a bu ef o help mawr i'r achos yma. Yn 1827, adeiladwyd yma gapel newydd, yr hwn a alwyd Bethel, yr hwn a gostiodd 220p., a'r flwyddyn ganlynol, Mehefin 10fed, 1828, urddwyd Mr. Thomas Owen yma yn gydweinidog a'i dad. Bu gofal yr eglwys ar Mr. T. Owen hyd y flwyddyn 1844, ac wedi iddo ymadael, rhoddwyd galwad i Mr. D. Roberts, o Fanchester, i fod yn weinidog yma ac yn Seion. Dechreuodd Mr. Roberts ei weinidogaeth yma yn gynar yn y flwyddyn 1845, a llafuriodd yma am chwe' blynedd agos, nes y symudodd i Bendref, Caernarfon. Yn nechreu 1853, dechreuodd Mr. John Jones, Seion, sir Flint, ei weinidogaeth yma mewn cysylltiad a Llanfechell a Seion, a bu yma hyd nes y symudodd i Faentwrog, yn 1857. Wedi bod am yn agos i chwe' blynedd heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. Hugh Jones, pregethwr ieuangc yn Brynsiencyn, ac urddwyd ef yn weinidog yma ac yn Seion, Medi 29ain, 1864. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Dr. Rees, Abertawy ; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Roberts, Llanerchymedd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Jones, Amlwch ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Peter, Bala, ac i'r eglwysi gan Mr. D. Roberts, Caernarfon. Mae yr achos wedi cynyddu yn fawr er sefydliad Mr. Jones yma, a'r capel wedi ei helaethu fel y mae yn awr yn un o'r addoldai mwyaf cyfleus i bregethu a gwrando ynddo.

Yn mysg lluaws o ffyddloniaid yr eglwys hon, fel hyn yr ysgrifenir atom gyda golwg ar y personau canlynol:*-

" Lewis Jones. Bu am lawer y flynyddau yn arweinydd y canu, ac am fwy na hyny yn ddiacon. Nodweddid ef yn mhob cylch crefyddol gan ffyddlondeb difwlch. Ystyrid ef yn ddyn call iawn, meddai ar allu cryf i adwaen cymeriadau ac i'w trin gyda deheurwydd mawr. Gallai weinyddu ceryddon llymion i gymeriadau amheus yn yr eglwys mewn modd tra anuniongyrchol. Os drwg-dybid aelod o fod yn gogwyddo at rhyw bechod neillduol, yn lle ymosod yn uniongyrchol ar y troseddwr tybiedig, yn y cyfarfod neillduol gafaelai yr hen Lewis Jones, wrth ymddiddan a'r plant, yn y pechod hwnw ac ymdrinai ag ef yn y modd plaenaf a halltaf gan ddangos ei ddrwg a rhybuddio y ' plant bach, anwyl,' fel y galwai hwy, ochel a'u holl egni. Llawer gwaith y gwelwyd ceryddon anuniongyrchol felly oddiwrtho yn gwneuthur lles mawr, pan y buasai goruchwyliaeth fwy uniongyrchol yn anamserol, ac o herwydd hyny yn niweidiol. John Lewis a'i briod, rhieni y brodyr sydd yn ffurfio firm y Lewis Brothers, Liverpool, oeddynt hwy. Buont hwy a'u plant yn llawer iawn o gymorth i'r achos pan yr oedd yn dda iawn wrtho. Byth ni welid yr un o'r deg plentyn yn gadael i'r un casgliad cyhoeddus fyned heibio heb roddi eu cyfran i mewn. Bu John Lewis yn nodedig am ei ffyddlondeb gyda holl waith crefydd. John Morris, Penrhyn, a Morris Owen, Ty'nllan, hefyd a fuont yn dra ffyddlon gyda'r achos am flynyddau lawer. Y mae priod yr olaf yn aros hyd heddyw fel dolen gydiol yn uno dwy oes.

*Llythyr Mr. H Jones.

489

"Y mae yr achos crefyddol yma yn dra dyledus i dair chwaer, Elizabeth, Mary, ac Ann Jones, Cemaes. Eu ty hwy sydd wedi bod yn Bethania yr achos am feithion flynyddau, ac erioed ni bu lletty mwy cysurus, fel y gall ugeiniau o bregethwyr dystio. Y mae un o'r tair chwaer, Miss Ann Jones, yn aros, ac yn cadw cymeriad y ty a'r teulu i fyny yn anrhydeddus. Bu Elizabeth Jones yn aros am dymor yn Gwaredog, Amlwch, pryd yr arferai fyned i Seion i addoli, a bu yn llawer iawn o gymorth i'r cyfeillion yno am flynyddau lawer ar gychwyniad yr achos. Yr oedd Mary Jones yn nodedig am barodrwydd ei dawn, duwiolfrydedd ei meddwl, ac angerddoldeb ei theimlad. Llawer gwaith ar adegau oerion a marwaidd y rhoddodd hi y cyfarfod ar dn dim ond adnod felus neu ddarn o benill nefolaidd. John Noall, Glanrhyd. Yr oedd efe yn enedigol o ddeheu-orllewin Lloegr. Dysgodd Gymraeg yn lled dda. Dewiswyd ef yn ddiacon yn Bethel a llanwodd y swydd hono a'r swydd o arweinydd canu gyda manylwch a ffyddlondeb mawr am lawer o flynyddau. Adwaenid ef fel dyn craff, manwl, cywir, a didderbynwyneb, gyda gwythien gref o dynerwch a charedigrwydd yn gorwedd o dan y cwbl. Yr oedd yn nodedig fel cerddor.  Dyrchafwyd y canu o dan ei arweiniad ef i safle amlwg yn y lle. Bu ef a'i deulu o wasanaeth mawr i'r achos yma."

William Jones, Penybryn. Yr oedd yn fab i Richard Jones, am yr hwn y crybwyllasom yn nglyn ag Ebenezer, ac yn wyr i Richard Jones, Maesmawr, ac yn orwyr i John Owen, Caeaumon. Aeth ef a'i frawd, Richard Jones, i Liverpool, a derbyniwyd hwy yn aelodau yn y Tabernacl, a dewiswyd hwy yn ddiaconiaid yr un pryd. Dychwelodd William Jones i Gymru, oblegid sefyllfa ei iechyd, a dewiswyd ef yn ddiacon yn yr eglwys yma, ac ennillodd iddo ei hun radd dda yn y cyflawniad o honi. Yr oedd yn ddyn blaenllaw gyda'r achos yn ei holl ranau, ac yn barod i bob gweithred dda. Mae yma lawer o ffyddloniaid etto yn aros, a chrefydd yn parhau yn yr hen deuluoedd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :-

"Hynodid Richard pan yn ieuangc gan fywiogrwydd, craffder, cof, penderfyniad, a dyfalbarhad. Mwynhaodd fanteision addysg da, a gwnaeth ddefnydd priodol o honynt. Yn 1858, derbyniwyd ef i gymundeb yn Bethel. Bu yn aros am beth amser ar ol hyny mewn swyddfa barchus yn Liverpool. Daeth adref a'i iechyd wedi ei anmharu i raddau. Ymadfywiodd yn fuan, ac ymroddodd i weithio yn ngwinllan ei Arglwydd. Tynodd ei dalent, ei sel, a'i dduwioldeb sylw yr eglwys arno. Penderfynodd pawb mai pregethwr oedd Richard i fod. Amlygwyd y penderfyniad iddo, ac wedi peth petrusdod ac oediad, ymostyngodd i farn yr eglwys, gan ymgyflwyno gorph ac enaid i'r gwaith. Pregethodd am y waith gyntaf yn y gyfeillach yn Bethel ar y 13eg o Fai, 1862. Ei destyn ydoedd, ' Pa lesd

490

i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid  hun ? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid ?' Ar y 15fed o'r un mis y bu farw ei dad. Rhaid fod marwolaeth ei dad wedi bod yn ergyd drom iddo ar adeg pan yr oedd ei deimladau yn rhwym o fod yn dra thyner a chynhyrfus. Ond er gwaethaf pob peth, ni wangalonodd ; eithr efe a ymwrolodd yn lew. Ar nos Sabboth, yn lled fuan wedi marwolaeth ei dad, pregethodd oddiar yr un testyn ag y pregethasai arno yn y gyfeillach cyn hyny. Yn ystod y pum' mis dilynol pregethodd amryw weithiau. Yn nechreu Tachwedd, yr un flwyddyn, pregethodd ar nos Sabboth yn Bethania, Llanddeusant. Dyna y tro olaf y cafodd y fraint o agor ei enau yn gyhoeddus dros y Gwaredwr a garai mor fawr. Nid ydoedd yn gryf iawn pan yr ymaflodd yn y gwaith i ddechreu ; ac wedi ymaflyd ynddo, pryderodd a llafuriodd ormod gydag ef i gyfateb i'w nerth. Cafodd anwyd trwm with ddychwelyd o Landdeusant pan y bu yn pregethu yno ; a rhwng y cwbl, llesgaodd ei nerth, ac ymaflodd peswch ynddo a lynodd wrtho hyd angau. Ymladdodd yn egniol am fisoedd lawer yn erbyn ei afiechyd. Pregethu oedd ei hoff bwngc drwy y cwbl. Cyfansoddodd luaws o bregethau yn ei gystudd, gyda'r bwriad o'u traddodi pan yr adferid ef. Trwy ymdrech, llwyddodd i ddilyn yr addoliad cyhoeddus yn fled gyson yn ystod yr haf diweddaf. O hyny allan caethiwyd ef bron yn hollol i'r ty; ond codai, a deuai i lawr bob dydd. Yr oedd ei awydd a'i obaith am wella yn lled gryf bron hyd y diwedd. Ond fel yr oedd awr ei ymddatodiad yn nesau, diflanodd ei obaith, ac yn raddol, gwanhaodd ei awydd, a dysgodd ddywedyd, 'Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg.  Bu farw Chwefror 4ydd, 1866, yn 24 oed.

"Credwn fod yn Richard Jones elfenau pregethwr defnyddiol a phoblogaidd iawn. Yr oedd yn feddianol ar synwyr cyffredin cryf, a thalentau rhagorol - dychymyg bywiog, deall treiddgar, cof eang,  llais peraidd, a thraddodiad llithrig a dylanwadol. Derbyniodd yn helaeth o'r gonestrwydd a'r ffyddlondeb, o'r sel a'r brwdfrydedd, o'r gostyngeiddrwydd a'r brawdgarwch a wnai ei dad yn ddyn mor anwyl a gwerthfawr. Yr ydoedd ddarllenwr mawr, yn fyfyriwr mawr, yn weddiwr mawr, ac yn weithiwr mawr."

  

SILOH

(Llanrhwydrys parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanrhwydrys, ond nid yw yn mhell iawn o Lanrhyddlad, lle flynyddoedd lawer yn ol y bu capel cydrhwng yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Methodistiaid. Yn y flwyddyn 1772, rhoddodd William Pritchard, Clwchdernog, lain o dir i adeiladu capel at wasanaeth y tri enwad a nodwyd. Cynrychiolid y tri enwad gan William Pritchard, dros yr Annibynwyr, William Roberts, Bodhedd, dros y Bedyddwyr, a Morris Edward, dros y Methodistiaid, ac yr oedd enwau y tri ar drawst yr hen gapel. Ond yn rhyw fodd aeth y capel yn llwyr i feddiant y Methodistiaid. Bu William Pritchard farw yn fuan ar ol hyny, ac ni adawodd ar ei ol neb o gyffelyb feddwl i ofalu am hawliau yr enwadau eraill yn y lle. Sefydlwyd yr achos a chodwyd capel Siloh trwy offerynoliaeth y diweddar Mr. John Roberts (Edeyrn Mon). Arferai ef a'i deulu cyn hyn fyned i Ebenezer, Llanfechell, ac yr oedd Mr. Roberts yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys yno. Adeiladwyd Siloh yn y flwyddyn 1838, ac agorwyd ef Tachwedd 14eg, y flwyddyn hono.

491

Nid oedd nifer yr aelodau ond ychydig ar gorpholiad yr eglwys, ac nis gallesid disgwyl cynnulleidfa luosog yma gan nad yw y wlad ond teneu ei phoblogaeth. Yn fuan wedi agor y capel, rhoddwyd galwad i Mr. David Roberts, gwr ieuangc o Fangor, i fod yn weinidog yma ac yn Seion, ac urddwyd ef Mai 7fed, 1839. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Griffith, Caergybi; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Davies, Salem ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. I. Jones, Groeslon ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Evans, Beaumaris, ac i'r eglwys gan Mr. W. Jones, Amlwch.* Wedi llafurio yma yn ddiwyd am dair blynedd, symudodd Mr. Roberts i Fanchester. Bu Mr. Mathew Lewis yma ar un adeg yn cadw ysgol ac yn pregethu yn achlysurol. Ar sefydliad Mr. William Roberts, yn Llanddeusant, unodd yr eglwys hon mewn cysylltiad gweinidogaethol a Llanddeusant, ac felly y  wedi parhau hyd yma, ac ond edrych pwy fu y gweinidogion yno, gwelir pwy fu y gweinidogion yma. Cafodd yr achos bychan yma golled ddirfawr yn marwolaeth ei gychwynwr a'i noddwr caredig, Mr. John Roberts, yn Hydref, 1855, a Mrs. Roberts yn mhen pedwar diwrnod ar ei ol. Yr oeddynt hwy yn gwir ofalu am arch Duw, ac er i'r plant gael calon i gadw y ty yn agored fel cynt, ac i Samuel Roberts gael ei ddewis gan yr eglwys yn ddiacon yn lle ei dad, a'i fod yn cyflawni ei swydd yn ffyddlon, etto teimlir hyd y dydd hwn fod lle Edeyrn yn wag. Efe ydoedd mab hynaf yr hybarch Robert Roberts, o Salem, Bryngwran. Yr oedd o ddeall cryf, ac o dymer hynaws a phwyllog, ac etto yn hollol benderfynol. Ysgrifenodd lawer i'r Dysgedydd ac i'r Seren Gomer dan yr enw Edeyrn, a chymerodd ran amlwg yn y dadleuon duwinyddol ac eglwysig oedd yn cynhyrfu yn ei oes. Yr oedd yn ddyn o gymeriad gloyw, ac yn bleidiwr gwresog i bob achos da. Bu farw o glefy poenus wedi pythefnos o gystudd caled, Hydref laf, 1855, yn 55 oed. Ceir cofiant helaeth iddo yn y Dysgedydd am Hydref a Tachwedd, 1860, wedi ei ysgrifenu gan Mr. Edward Morris, un a fu yn hir yn ei wasanaeth.

Yn y flwyddyn 1862, ar agoriad capel newydd yn Ebenezer, Llanfechell, meddyliwyd am roddi yr achos yma i fyny gan nad oedd ond bychan, ac nad oedd y pellder yn fawr i Ebenezer, a rhoddodd yr eglwys yn Ebenezer alwad i Mr. T. T. Williams, y gweinidog oedd yma ac yn Llanddeusant ar y pryd. Teimlai amryw ar y pryd yn wrthwynebol i roddi yr achos i fyny, ond yr oedd y mwyafrif dros wneyd, ac ymunasant gan mwyaf a'r eglwys yn Llanfechell. Deallwyd yn fuan mai camgymeriad oedd hyny. Er nad oedd y pellder yn fawr, etto yr oedd yn ormod gan lawer ei deithio, a theimlai y rhai ffyddlonaf anfantais i ddilyn pob moddion. Cynhelid ysgol Sabbothol a gwasanaeth achlysurol yn Siloh yr holl amser yma, ac yn y flwyddyn 1859, penderfynodd y cyfeillion adgorpholi eu hunain yn eglwys yn Siloh, ac y mae yr achos er hyny yn myned yn mlaen yn siriol mewn cysylltiad gweinidogaethol a Llanddeusant a Llanfachreth. Collwyd amryw aelodau a gwrandawyr trwy y cam hwnw a gymerwyd, ac erbyn dychwelyd yn ol i Siloh, yr oeddynt wedi gwneyd eu cartref mewn lleoedd eraill.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :-

*Dysgedydd, 1839. Tu dal. 221

 

CONTINUED


Return to top

[Last updated: 16 May 2008  -  Gareth Hicks]

Valid HTML 4.01 Transitional  

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI


Hosted by Mythic Beasts Ltd.