GENUKI Home page
Anglesey Anglesey     Contents Contents

 

  Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Anglesey section (Vol 2)

Pages 492 - 505

See main project page

Proof read by Yvonne John (May 2008)

Chapels below;

  • (Continued) SILOH
  • SEION (with translation)
  • SARON (with translation)

 


Pages 492 - 505

492

(Continued) SILOH

William Williams. Yr hwn sydd yn bregethwr cynorthwyol parchus, ond fod ei iechyd wedi ei anmharu.

 

SEION

(Llanbadrig parish)

Dechreuwyd pregethu yn y gymydogaeth hon tua'r flwyddyn 1835. Pan symudodd Owen Thomas, mab Mr. O. Thomas, Carrog, i Clegyrog, yn niwedd y flwyddyn 1834, bu am tua blwyddyn yn cerdded i Ebenezer, Llanfechell, i'r cyfarfodydd bob Sabboth, ond yn 1835, meddyliodd am gael pregethu yn y gymydogaeth hon, a bu ef a Richard Roberts, Glangors, ac eraill, am agos i dair blynedd yn ymgynnull i wrando pregethau yn Clegyrog a Rhosgoch. Nid ydym yn sicr pwy a bregethodd gyntaf yn y lleoedd hyn, mae yn debyg mai Mr. Thomas Owen, Llanfechell, a mynych y pregethai Mr. W. Jones, Amlwch, a Mr. E. Davies, Llanerchymedd, yma. Byddai O. Thomas ac R. Roberts, a'u teuluoedd, ac eraill o'r ardal, yn arfer myned i'r cyfeillachau ac i gymuno i Llanfechell, a mawr ganmolir yr hen gyfarfodydd a gafwyd yno, yn nghyda melusder y gyfeillach ar y ffordd, wrth fyned a dyfod. Ond gan fod cynydd yn y gynnulleidfa, ac angen am gapel yn y gymydogaeth, penderfynwyd chwilio am le at adeiladu, ac yn y flwyddyn 1838, cafodd O. Thomas, R. Roberts, ac eraill, brydles gan W. B. Hughes, Ysw., Plascoch, ar ddarn o dir - craig yn hytrach- perthynol i amaethdy bychan o'r enw Pantygist, am ddeg swllt y flwyddyn o ardreth am 99 o flynyddoedd. Dechreuwyd adeiladu yn ddioed. Mesurai y capel 24 troedfedd wrth 27 troedfedd o fewn y muriau. Traul yr adeilad, heb gynwys y cludiad oedd 140p., ond casglwyd tuag un ran o dair o honynt cyn agor y capel. Cynaliwyd cyfarfod agoriadol yma Tachwedd 14eg a'r 15fed, 1838, pryd y pregethodd Meistri W. Davies, Salem ; J. Evans, Beaumaris ; R. Parry, Conway ; W. Rees, Dinbych ; A. Jones. Bangor ; W. Griffith, Caergybi ; D. James, Capel mawr, ac E. Davies, Llanerchymedd, ac enwodd Mr. Arthur Jones, Bangor, ef yn Seion, sef Brynsych, meddai ef yn ei ddull tra hynod ei hun, ac y mae yn sefyll ar gopa craig digon sech, ond er hyny cafwyd ar y mynydd Seion hwn lawer o wlith a chawodydd hyfryd i gynyddu a ffrwythloni y rhai a blanwyd yma gan y gwinllanydd nefol, ac sydd heddyw yn y baradwys fry, lle ni " wywa byth eu blodau braf." Ni ffurfiwyd yma eglwys nes y cafwyd y capel, ac ymunodd y rhai canlynol yma y tro cyntaf :- O. Thomas a'i wraig ; R. Roberts a wraig ; W. Pritchard, y crydd ; Elizabeth Evans, Gareglefn ; R. Jones, Pantygist, a Fanny Parry, Maesmawr. Gweinyddwyd gan Mr. Thomas Owen, Llanfechell. Cynyddodd yr achos yn lled fuan, a rhoddasant alwad i Mr. David Roberts, Bangor, ac urddwyd ef yn Shiloh, Mai 6ed a'r 7fed, 1839. Yn mhen ychydig flynyddau symudodd Mr. Roberts i Manchester, a bu yno am dipyn o amser, ond yn y flwyddyn 1845, daeth yma yn ol, a bu yma, mewn cysylltiad a Chemaes, yn ffyddlawn a llwyddianus am dros chwe' blynedd. Derbyniodd alwad o Pendref, Caernarfon, a symudodd yno, ond parh y serch a'r anwyldeb heb wanhau hyd heddyw. Yn y flwyddyn 1853, rhoddwyd galwad i Mr. John Jones, Seion, sir Flint, i weinidogaethu yma mewn cysylltiad a Cemaes a Llanfechell, a bu yma am bedair blynedd, hyd nes y symudodd i Maentwrog. Ar ol hyny bu yr eglwys hon heb weinidog am ysbaid chwe' blynedd, ac yn yr adeg hono fe wywodd yr achos i raddau mawr. Penderfynwyd cael gweinidog, a rhoddwyd galwad i Mr. Hugh Jones, pregethwr ieuangc yn yr eglwys yn Bryn-

493

siencyn, i fod yn weinidog yma ac yn Cemaes, ac urddwyd ef Medi 29ain, 1864, ac y mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth a mesur helaeth o lwyddiant.

Cafodd yr eglwys ieuangc yma golled ddirfawr yn marwolaeth Mr. Owen Thomas, Clegyrog, y prif offeryn i gychwyn yr achos yma. Yr oedd yn fab i'r hybarch Owen Thomas, o Garrog, ac anogwyd yntau lawer gwaith i ddechreu pregethu. Daeth i Glegyrog yn fuan wedi iddo briodi, a bu ef a'i wraig, yr hon sydd etto yn aros, o help mawr i'r achos yma, ac y mae eu plant wedi cyfodi i wasanaethu Duw eu rhieni. Mae eu mab, Owen Thomas, Clegyrog, yn ddiacon defnyddiol yn yr eglwys. Yr oedd Owen Thomas yn ddyn pwyllog a deallgar, gwastad a didramgwydd yn ei holl ymarweddiad. Bu farw yn dra disymwyth un noswaith ar ol dod adref o'r gyfeillach, lle yr oedd wedi cael gwledd nad anghofir gan y rhai oeddynt yn bresenol. Richard Roberts, Glanygors, hefyd oedd yn un o'r rhai mwyaf cywir a ffyddlon, a bu o gynorthwy mawr i'r achos ar ei gychwyniad. Nid caredigrwydd teulu Clegyrog, a theuluoedd y Fodolisaf, a'r Fodoluchaf, a'r theulu Glanygors, yn anghof yn fuan yn y wlad.

Codwyd yma un pregethwr, sef Robert Williams, yr hwn sydd yn awr yn fyfyriwr yn athrofa y Bala.

Translation by Eleri Rowlands (Nov 2013)

Preaching started in this community around 1835. When Owen Thomas, the son of Mr. O. Thomas, Carrog, moved to Clegyrog, at the end of 1834, he walked to Ebenezer, Llanfechell for about a year, to attend the services every Sunday, but in 1835, he thought about having preaching in this community, and he and Richard Roberts, Glangors, and others, gathered, for almost three years, to listen to the sermons in Clegyrog and Rhosgoch. We are not sure who preached first in these places, apparently Mr. Thomas Owen, Llanfechell, and often Mr. W. Jones, Amlwch preached here, and Mr. E. Davies, Llanerchymedd. Mr. O. Thomas and R. Roberts, and their families, and others from the area, used to go to fellowship and to meetings in Llanfechell, and there was great praise for the old meetings that were held there, along with the sweetness of the companionship on the way there, while coming and going. But since there was an increase in the congregation, and a need for a chapel in the community, it was decided that they search for land on which to build, and in 1838, O. Thomas, R. Roberts, and others, were granted a lease by W. B. Hughes, Esq., Plascoch, on a piece of land - rock in fact - attached to a small farmhouse by the name of Pantygist, at a rate of ten shillings a year for 99 years. Building started immediately. The chapel measured 24 feet by 27 feet inside the walls. The cost, without counting the haulage was 140p, but about a third was collected before the chapel opened. An opening meeting was held here on November 14th and 15fth, 1838, when Messrs W. Davies, Salem ; J. Evans, Beaumaris ; R. Parry, Conway ; W. Rees, Dinbych ; A. Jones. Bangor ; W. Griffith, Caergybi ; D. James, Capel mawr, and E. Davies, Llanerchymedd preached, and Mr. Arthur Jones, Bangor, called it Seion, namely Brynsych (Dryhill), he said in his own eccentric way, and it stands on the top of a rock which is dry enough, but despite this a lot of dew and beautiful showers have fallen on this Mount Zion to increase and fertilise the ones who were planted here  by the heavenly vineyard, and who are today up there in paradise, where " her beautiful flowers will never wither." A church wasn't formed until the chapel was built, and these people joined the first time:- O. Thomas and his wife ; R. Roberts and his wife; W. Pritchard, the cobbler ; Elizabeth Evans, Gareglefn ; R. Jones, Pantygist, and Fanny Parry, Maesmawr. Mr. Thomas Owen, Llanfechell officiated. The cause increased quite soon, and they gave a call to Mr. David Roberts, Bangor, and he was ordained in Shiloh, on May 6th and 7th, 1839. Within a few years Mr. Roberts moved to Manchester, and he stayed there for quite a while, but in 1845, he came back, and stayed here, along with Cemaes, faithfully and successfully for over six years. He accepted a call from Pendref, Caernarfon, and moved there, but the love and care for him continues till today. In 1853, a call was sent to Mr. John Jones, Seion, Flintshire, to minister to them along with Cemaes and Llanfechell, and he stayed here for four years, until he moved to Maentwrog. After that this church had no minister for six years, and during that time the cause withered greatly. It was decided that a minister was needed and a call was given to Mr. Hugh Jones, a young preacher in the church in Bryn- siencyn,

493

to be a minister here and in Cemaes, and he was ordained on September 29th, 1864, and Mr. Jones continues to labour here with commendation and a measure of success.

This young church experienced a great loss in the death of  Mr. Owen Thomas, Clegyrog, the main instrument in starting this cause. He was the son of the venerable Owen Thomas, of Carrog, and he was encouraged many times to start preaching. He came to  Clegyrog soon after he married, and he and his wife, who still lives here, were of great help to this cause, and their children have been raised to serve the God of their parents. Their son, Owen Thomas, Clegyrog, was a useful deacon in the church. Owen Thomas was measured, intelligent, level and unoffending in his demeanour. He died quite suddenly one evening after coming home from the fellowship, where he had had an experience that was not to be forgotten by those who were present. Richard Roberts, Glanygors, also was one of the most correct and faithful, and was a great support to the cause when it started. The kindness of the Clegyrog family, and the families of Fodolisaf, and Fodoluchaf, and the Glanygors family, will not soon be forgotten in the country.

One preacher was raised here. This was Robert Williams, who is now a student in Bala college.

[NB - the chapel is sited near Carreglefn at OS grid reference SH39368949 in the Clegyrog part of Llanbadrig parish]

 

SARON

(Bodedern parish)

Mewn canlyniad i'r adfywiad grymus a gymerodd le yn y blynyddoedd 1839 ac 1840, ychwanegwyd llawer at yr eglwys yn Amlwch, ac yn eu plith amryw o gymydogaeth Bodgadfa. Yn eu mysg yr oedd Hugh Owen, Asgellog; Hugh Thomas, saer; John Michael, a'u gwragedd, a William a Catherine Parry, y Rhwngc. Bu y rhai hyn yn cerdded i Amlwch yn gyson am rai blynyddoedd ar y Sabboth ac i'r moddion wythnosol. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal ar nosweithiau o'r wythnos gan Meistri T. Owen, Llanfechell, a W. Jones, Amlwch. Cyrchai amryw o gyfeillion Amlwch yma gyda Mr. Jones, yn enwedig yr hen frawd ffyddlon Owen Thomas, y smelter. Daeth ty anedd yn Modgadfa yn wag, a chymerwyd ef ar ardreth, ac ar y Sabboth, Mehefin 8fed, 1842, corpholwyd ynddo eglwys cynwysedig o saith o aelodau Amlwch oedd yn byw yn y gymydogaeth, a phump a dderbyniwyd o newydd i gymundeb ar y pryd. Bu cynydd graddol nes y daeth yr eglwys yn 30 mewn nifer. Derbyniwyd Henry Edwards a'i wraig yn aelodau, y rhai gyda theulu yr Asgellog, a fuont o help mawr i'r achos yn ei gychwyniad. Ymfudodd John Michael a'i deulu i America, ac yn ei ymadawiad collodd yr eglwys ddiacon ffyddlon, ond bu yn cyflawni yr un swydd yn America hyd nes y rhedodd yrfa i'r terfyn. Cafwyd tir i adeiladu y capel mewn man cyfleus, ac am bris rhesymol gan R. Hughes, Ysw., Plasbach, Llangeinwen, ac adeiladwyd y capel yn haf 1844. Cymerwyd arolygiaeth yr adeiladaeth gan Hugh Parry, Rhwngc, a rhoddodd chwech o bersonau fenthyg yr arian yn ddilog, fel na buwyd yn hir yn talu yr holl ddyled. Pregethwyd y bregeth gyntaf yn Saron, gun y gweinidog, Mr. Jones, Amlwch, Medi 8fed, 1844. Rhoddodd Mr. Jones ofal yr eglwys i fyny o herwydd ei lesgedd a'i henaint, ac yn y flwyddyn 1862, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Robert Hughes, Bontnewydd, i fod yn weinidog, a bu yma yn ddiwyd a defnyddiol dros rai blynyddoedd, nes y symudodd i Rhosymeirch, ei ardal enedigol. Ar sefydliad Mr. George Williams yn Amlwch, cymerodd hefyd

494

ofal yr eglwys hon, a siriolodd yr achos yn fawr yn ystod tymor ei weinidogaeth ef. Pan yr ymadawodd Mr. Williams yr oedd yn ymadael o fynwes yr eglwys gyda'r dymuniadau goreu am ei lwyddiant. Mae yr eglwys wedi prynu y tir o dan y capel, fel y mae bellach yn rhyddfeddiant iddi, ac wedi codi ty cyfleus yn nglyn ag ef, ac y maent yn bwriadu helaethu lle eu pabell.

Translation by Eleri Rowlands (Nov 2013)

As a result of the powerful revival that took place in 1839 and 1840, many joined the church in Amlwch, and among them several from the Bodgadfa community. In their midst there was Hugh Owen, Asgellog; Hugh Thomas, carpenter; John Michael, and their wives, and William and Catherine Parry, y Rhwngc. These people used to walk to Amlwch regularly for some years on the  Sabbath and to the weekly meetings. Preaching started in the area on week nights by Messrs T. Owen, Llanfechell, and W. Jones, Amlwch. Several friends travelled from Amlwch here with Mr. Jones, especially the faithful old brother Owen Thomas, the smelter. A dwelling house in Modgadfa became empty, and it was leased, and on the Sabbath, June 8th, 1842, a church was embodied here with seven members  from Amlwch who lived in the community, and five who were newly accepted. There was a gradual increase until the church numbered 30. Henry Edwards and his wife were accepted as members, along with the Asgellog family, that had been such a support for the cause from the start. John Michael and his family emigrated to America, and his leaving meant the church lost a faithful deacon, but he achieved the same status in America until the end of his life. Land was secured on which to build a chapel in a convenient spot, and for a reasonable price from R. Hughes, Esq., Plasbach, Llangeinwen, and the chapel was built in the summer of 1844. The consultant for the building work was Hugh Parry, Rhwngc, and six people lent money without interest, so that it didn't take long to pay off the whole debt. The first sermon was preached in Saron, by the minister, Mr. Jones, Amlwch, on September 8th, 1844. Mr. Jones gave up the care of the church as a result of his feebleness and his advanced age, and in 1862, the church gave a call to Mr. Robert Hughes, Bontnewydd, to be their minister, and he stayed here diligently and usefully for some years, until he moved to Rhosymeirch, the area of his birth. When  Mr. George Williams settled in Amlwch, he also took over

494

the care of this church, and the cause enlivened greatly during the time of his ministry. When Mr. Williams left the bosom of the church he did so with the best wishes for his success. The church has bought the land under the chapel, so that they now have the freehold, and have built a house alongside, and they mean to extend their tabernacle.

 

LLANFACHRETH

Translation available on http://www.genuki.org.uk/big/wal/AGY/Llanfachreth/Hanes.html

"Codwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1834, yn benaf trwy ymdrech Mr. Thomas Owen, Llanfechell. Costiodd ryw gymaint dros 200p., a bu Mr. T. Owen yn llafurus i gasglu ato, ond yr oedd dyled o 160p. yn aros, yr hyn a fu yn hir yn faich trwm ar y lle. Nid oedd yma ond dau aelod pan godwyd y capel, sef Owen Williams, Penygraig, a'i wraig, ac y mae y ddau "wedi cael help gan Dduw," yn parhau yn ffyddlon. Bu yr achos yma yn hir fel llin yn mygu, ond etto heb ddiffodd, a gwelodd rai adegau lled flodeuog. Ar sefydliad Mr. David Davies yn Llanddeusant a Bodedeyrn, cymerodd hefyd ofal y lle hwn, a bu yn gwylio drosto hyd nes y symudodd o'r ardal. Bu y lle wedi hyny mewn cysylltiad a Llanddeusant dros dymor gweinidogaeth Mr. W. Roberts yno, ac am rai blynyddau yn nechreuad gweinidogaeth Mr. R. E. Williams. Unodd yr eglwys yma yn nechreu 1854 a'r eglwys yn Bodedeyrn i roddi galwad i Mr. John Hughes i fod yn weinidog, a bu y lle o dan ei ofal ef hyd ei farwolaeth, Tachwedd 28ain, 1868. Bu Mr. John Hughes yn dra ymdrechgar oddicartref yn casglu at dalu dyled y capel, a gweithiodd yr ysgol Sabbothol gartref yn egniol, fel y symudwyd trwy gydymdrech y baich fu yn hir yn gwasgu ar ysgwyddau gweiniaid. Mae y lle yn awr dan ofal Mr. T. Roberts, mewn cysylltiad a Llanddeusant. Cafodd yr eglwys yma golled fawr flynyddau yn ol yn marwolaeth Thomas Humphreys- dyn byw iog a gweithgar ag oedd a'i holl galon yn y gwaith ; ac yn ddiweddar cafwyd colled fawr yn ymadawiad y chwaer ffyddlon Mary Jones. Gwyr y rhan fwyaf o'r pregethwyr a ymwelasant a'r lle y deuddeng mlynedd diweddaf am ei "llafurus gariad " hi. Mae golwg siriol ar yr achos, er nad ydyw yn gryf a lluosog mewn nifer."

 

CAERGYBI

(Holyhead parish)

Nid yw yr achos Annibynol yn y lle hwn ond diweddar mewn cydmariaeth. Aeth yn agos i ugain mlynedd o'r ganrif bresenol heibio cyn gwneyd un cynyg i'w sefydlu, ac yr oedd yr enwadau eraill wedi cael blynyddoedd o'i flaen i sefydlu eu hachosion. Gan fod John Davies, un o aelodau cyntaf yr eglwys, wedi ysgrifenu hanes yr achos o'i ddechreuad hyd ddyfodiad. Mr. Griffith yma yn mis Gorphenaf, 1822, caiff ef lefaru yn ei eiriau a'i ddullwedd ei hun. Daeth John Davies yma i fyw Mawrth 21ain, 1817, ac yr oedd cyn hyny yn aelod yn yr eglwys yn Mhwllheli, dan ofal Mr. Benjamin Jones. Fel hyn yr ysgrifena:-

" Yn nechreu Mehefin, 1817, daeth y Parch. Owen Thomas, Carrog, a'r Parch. David Beynon, dau o weinidogion y sir, ar ymweliad a Chaergybi ar neges bersonol. Canfyddais hwy yn myned ar hyd yr heol, ac aethum atynt, a gwahoddais hwy i fy nhy. Yn y man cymhellais hwy i bregethu i'r bobl cyn ymadael o'r dref. Addawsant wneyd, a chafwyd benthyg addoldy y Bedyddwyr i'r perwyl. Taenwyd y gair drwy y dref, fod dau o weinidogion yr Annibynwyr i bregethu yno nos dranoeth, a chafwyd

495

cynnulleidfa luosog i wrandaw. Y dydd canlynol, cyn ymadael, gwnaethom gynygiad i geisio ffurfio achos yn y dref. Anogwyd fi gan y brodyr i ymofyn am le cyfleus i bregethu ynddo. Cyn hir, cefais hanes lle felly ; ystafell ydoedd yn mesur 29 o droedfeddi wrth 20, yr hon a fuasai yn chwareudy, ac yn ysgoldy, ond yn awr yn bobty. Gelwid hi 'y parlyrau,' am mai dau barlwr wedi eu gwneyd yn un ydoedd. Anfonais lythyr at y Parch. Owen Thomas, i'w hysbysu o'r peth. Yn y cyfamser cynelid cyfarfod misol yn yr ynys, ac aeth Mr. Thomas i'r cyfarfod a'r llythyr gydag ef. Gwnaeth ei gynwysiad yn hysbys i'r brodyr oeddynt yn bresenol, ac wedi ystyried yr achos, penderfynwyd ar fod y Parch. D. Beynon i ddyfod i edrych y lle. Gwelodd Mr. Beynon fod yr adeilad yn hynod o ddadfeilledig. 'Yr oedd darnau o waelod y drws,' meddai, 'wedi syrthio yn bydredig ymaith, yr holl ffenestri yn ddrylliedig, a'r t mor dyllog fel na buasai yn bosibl aros yn yr adeilad ar gawod o wlaw. Er y cyfan, wrth weled y fath shell gref, ac eang, meddyliais y gallesid ei wneyd yn lle cyfleus am dymor o leiaf. Aethum at y foneddiges a'i perchenogai, ac wedi hir siarad, cydsyniodd am cais, a gorchymynodd y forwyn i estyn agoriad y theatre i mi. Taflodd ef ar y bwrdd, a theflais inau fy swllt yn ernes iddi, a'm calon yn bur lawen am i'r Arglwydd ei thueddu i roddi i ni ein dymuniad. Trefn y cymeriad oedd, fod i ni fyned i'r draul o adgyweirio yr adeilad, a thalu 5p. o ardreth blynyddol am dani. Aethum a hysbysrwydd o hyn i'r cyfarfod misol cyntaf ar ol gwneyd y cyfundeb, ac amlygodd pawb eu cymeradwyaeth o'r hyn a wnaed.'

" Yn fuan ar ol hyny, daeth y Parch. Robert Roberts, Treban, i'r dref, a rhoddodd seiri coed a cheryg ar waith i adgyweirio y lle, yr hyn a gostiodd 8p. Bu y Parch. D. Roberts, Bangor, (wedi hyny o Ddinbych), mor garedig a dyfod yma, a chasglodd yr arian a enwyd yn y gymydogaeth mewn ychydig amser. Erbyn hyn, cafwyd cymdeithas amryw gyfeillion oeddynt wedi bod gyda'r achos mewn lleoedd eraill. Mr. Owen Lewis, o eglwys Beaumaris, yr hwn wedi hyny a adeiladodd ein Tabernacl. Gwelwyd llawer o'i ffyddlondeb ef tuag at yr achos gwan. Un arall o'r enw Thomas Williams, yr hwn oedd wedi bod yn aelod yn Bodedeyrn yn amser y Parch. John Jones, Ceirchiog, oddeutu 19 o flynyddau cyn. hyn, ac ailymunodd a ni, a bu yn aelod ffyddlon a diacon gofalus hyd ei ddiwedd, a gellir argraffu ar gareg ei fedd, 'yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth.' Gorphenodd ei yrfa Awst 8fed, 1830. Yr oedd un arall o'r enw Robert Hughes, o eglwys y Parch. Jonathan Powell wedi dyfod yma ddwy flynedd cyn hyn, ymunodd yntau a'r achos, a bu am ysbaid yn gymorth mawr gyda'r canu, &c. Hefyd, yr oedd hen aelod arall o eglwys y Parch. J. Griffith, Caernarfon, wedi symud yma er's tua phum' mlynedd gyda ei phriod, Mr. David Roberts, barcer, yr oedd hwn yn wr didwyll yn ei alwedigaeth, fel yr hen frawd ffyddlon a chywir William Griffith, ei olynydd. Y rhagddywededig Mr. Roberts, oedd y cyntaf a dderbyniwyd yn 'y parlyrau,' ac erys byth yn ysgub y blaenffrwyth o eglwys yr Annibynwyr yn Nghaergybi.

"Yn niwedd y flwyddyn 1817, cawsom gyfarfod pregethu, pryd yr ymwelwyd ni gan amryw o weinidogion yr ynys.* Cawsom lawer o

  

* Dyma drefn y cyfarfod a gynhaliwyd Tachwedd 4ydd a'r 5ed, 1817, fel y ceir yn nghofnodion Mr. Jonathan Powell. " Nos o'r blaen pregethedd J. Evans, Beaumaris, a J. Powell ; dranoeth am 10, D. Griffith, Talsarn ac E. Davies, Rhoslan ; am 2, R. Roberts, a J. Evans, Amlwch ; am 6, D. Beynon, a J. Powell."

496

anogaethau ganddynt i fyned yn mlaen, ac addewid y byddai iddynt hwythau wneyd a allent i'n cynorthwyo. Bu y cyfarfod hwn yn foddion i dynu sylw llaweroedd o'r newydd at yr achos, a'u hennill i wrandaw. Er mor wael oeddym, dangoswyd caredigrwydd mawr ar y pryd i'r cenhadau, yn enwedig gan Mr. John Ellis, swyddog perthynol i'r Dollfa, yr hwn a fu yn gyfaill calon, a chyn ei ddiwedd yn aelod ffyddlon gyda'r achos, fel y mae ei blant, a'i wyrion etto ar ei ol. Ar ei fwrdd ef y ciniawodd yr holl bregethwyr ar ddiwrnod y cyfarfod cyntaf hwnw. Buom yn lled anniben yn cael cyfleusdra i weinyddu yr ordinhadau. Ond cawsom hyny hefyd mewn amser. Y Parch. Owen Thomas, Carrog, oedd y cyntaf a weinyddodd swper yr Arglwydd yn ein plith. Wedi hyny cafwyd y fraint lion yn lled gyson, a derbyniwyd ambell un i gymundeb, ond yn lled anaml. Yn y flwyddyn 1819, daeth William Parry, a Margaret ei wraig, yma i fyw, y rhai oeddynt yn aelodau yn Llanerchymedd, a buont yn ffyddlon iawn fel y mae eu hiliogaeth hyd heddyw. Erbyn hyn, yr oeddym yn alluog i gynal cyfarfodydd gweddi pan ein siomid am bregethwr, ac ar amserau eraill. Yn y flwyddyn 1821, daeth Rowland Jones, a Margaret ei wraig, yma i fyw. Yr oeddynt yn aelodau o'r blaen yn Llangadwaladr, a bu eu dyfodiad yn llawer o gysur a chalondid i ni. Fel hyn, rhwng dyeithriaid a rhai wedi eu derbyn yn y lle, yr oeddym yn rhifo tua 12 o aelodau.

" O herwydd fod prinder llefarwyr yn y wlad, byddem weithiau heb neb i lenwi y Sabbothau. Parai hyny lawer o ddigalondid i ni, ac anturiasom feddwl am gael bugail i ofalu am danom. Buom yn ymddiddan a dau frawd ieuangc, un o athrofa Llanfyllin, a'r llall o athrofa Caerfyrddin. Cawsom addewid gan y ddau y deuent yma, ond fe'n siomwyd gan y naill a  llall o honynt. Pan mewn iselder meddwl o'r herwydd, cawsom newydd da rhagorol gan y Parch. R. Roberts, Treban, sef fod Mr. William Griffith, Caernarfon, a'i frawd, yn athrofa Caerfyrddin., ac os gallem gael ganddo addaw dyfod atom, y byddai yn debyg o fod yn fendith i'r achos a'r gymydogaeth. Addawodd wneyd a allai tuag at hyny, ac felly y gwnaeth. Yn nechreu Awst, 1821, daeth cyhoeddiad John a William Griffith i fod yn pregethu yn Nghaergybi un o'r Sabbothau canlynol. Wedi i ni gael y cyhoeddiad, penderfynasom ofyn benthyg capel ein brodyr y Bedyddwyr, a chaniatawyd ef yn rhwydd iawn. Wedi i Mr. W. Griffith ddyfod, darfu i rai o honom ddefnyddio y cyfleusdra i ymddiddan ag ef ar y mater, ond roddodd un addewid, ac ni ddangosodd unrhyw wrthwynebiad ychwaith ; addawodd ymweled a ni drachefn cyn dychwelyd i'r athrofa, ac ar ei ddyfodiad y tro hwnw, cawsom fwy o hamdden i ymddiddan, a chawsom beth cysur ganddo cyn ymadael. Pan ddaeth Mr. Roberts, Treban, i'r dref, tywalltasom ein calonau iddo ar yr achos, a deallasom ei fod yntau, ac eraill, yn cydweithredu o'n plaid ; er ein bod yn cael ein diystyru gan rai, fel ychydig o bobl dlodion, dim ond 13 o aelodau, heb na chapel na chynnulleidfa, ond un fechan iawn, etto, yn meddwl cael dyn ieuangc dysgedig a pharchus i ddyfod i'n plith. Yr oeddym wedi meddwl am wneyd cais at eglwysi y sir i'n cynorthwyo i gael gweinidog am flwyddyn neu ddwy, a chrybwyllwyd hyny hefyd gan rai o'r gweinidogion mewn cyfarfod misol ; ond dywedodd Mr. Griffith os byddai i Dduw dueddu ei feddwl i ddyfod i Gaergybi, yr ymddiriedai ef yn y Duw hwnw am gynaliaeth heb gymorth neb o'r eglwysi eraill. Felly y bu, ac y mae eglwys yn Tabernacl yn ddigon parod i uno yn nghyd i alw cyfarfod o ddiolchgarwch i Dduw o herwydd ei ddyfodiad i'w plith. Cyn diwedd y flwyddyn 1821, cytunasom

497

a'n gilydd i roddi galwad i Mr. Griffith i fod yn weinidog arnom, ac amlygasom ein penderfyniad i'n pleidiwr serchog, Mr. Roberts, Treban. Gyda'r parodrwydd mwyaf, cefnogodd yntau ein bwriad, ac addawodd ysgrifenu yr alwad, ac y caem ninau y tro nesaf y deuai i'r dref, gyfleusdra i'w llawnodi. Yn mhen tua mis ar ol hyn, daeth Mr. Roberts yma i bregethu, ac ar ddiwedd yr oedfa, boreu Sabboth, galwodd y cyfeillion yn nghyd, yna amlygodd y dyben, sef i lawnodi galwad i Mr. W. Griffith, Caernarfon, yr hwn oedd ar y pryd yn Nghaerfyrddin, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Wedi deall hyn, yr oedd pawb am y cyntaf i ddyfod yn mlaen. Disgwyliasom yn bryderus am atebiad, ac ni a'i cawsom er ein llawenydd; dywedai Mr. Griffith y byddai yn debyg o fod gyda ni y mis Gorphenaf canlynol, ac ar y 16eg o'r mis hwnw, yn y flwyddyn 1822, cyfarfuasom mewn llawenydd mawr dros ben. Y Sabboth canlynol, sef yr 21ain, pregethodd Mr. Griffith oddiar Actau xviii, 9, 10. - 'A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nos, Nac ofna; eithr llefara, ac na thaw. Canys yr wyf fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti ; o herwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon.' "

Mae parhad hanes yr achos o hyny hyd yn awr wedi ei ysgrifenu gan Mr. Griffith ei hun, ac nis gallwn wneyd dim yn well na'i gyhoeddi yn gyflawn.

"Y mae dilyniad yr hanes uchod wedi ei adael i mi o 1822 hyd 1872, haner can' mlynedd o daith yr anialwch ; ond er fod yr amser yn faith, bydd yr adroddiad yn fyr. Daeth yr alwad y cyfeirir ati yn y llinellau blaenorol i'm llaw Chwefror 16eg, 1822, ac ar ol ystyriaeth ddwys, a gweddi daer, tueddwyd fi i gydsynio a hi. Barnai fy athraw, y Parch. D. Peter, nad oeddwn yn gwneyd yn iawn, gan y gallaswn yn hawdd gael maes mwy manteisiol i lafurio. Dau beth a barodd i mi benderfynu. Un peth oedd bywyd yr achos yn Nghaergybi. Sicrhai gweinidogion yr ynys y byddai yn rhaid iddynt ei roddi i fyny, os nad awn yno; nis gallwn oddef y meddwl o fod ei waed ar fy nwylaw. Peth arall oedd gradd o hyder yn addewid fy Nuw, na byddai arnaf eisiau dim daioni. Meddyliais pe buasai Syr John Thomas Stanley, oedd yn bywiog yn y gymydogaeth, yn addaw felly, y buaswn yn galonog, a theimlais mai gormod o sarhad fuasai amheu y Digelwyddog ! Er hyny yr oedd fy ffydd yn egwan. Gyda bod y llythyr, yr hwn oedd yn cynwys atebiad cadarnhaol i'r alwad, wedi ei ollwng i'r llythyrgell, dywedais wrth fy nghydfyfyriwr hoff, y Parch. Caleb Morris, yr hwn oedd gyda mi ar y pryd, y buasai yn dda genyf ei gael yn ol, ond yr oedd hyny yn anmhosibl, 'yr hyn a ysgrifenwyd a ysgrifenwyd.' Pan ddaethum yma, 6 o frodyr, a 7 o chwiorydd oedd yn gwneyd i fyny yr holl eglwys, y gwrandawyr yn nghylch 40. Enwau yr aelodau ydoedd, Robert Jones, Thomas Williams, William Parry, Rowland Jones, William Williams, John Davies, Margaret Jones, Catherine Jones, Jane Evans, Margaret Parry, Elizabeth Roberts, Mary Lloyd, a Margaret Griffith. Rhyfyg a fuasai iddynt addaw fy nghynal, ac o herwydd hyny agorais ysgol. Cefais nawdd y gymydogaeth a'r wlad, ac yn fuan ysgrifenodd Dr. Abraham Rees, o Lundain, ataf, i'm hysbysu fod ysgol Dr. Daniel Williams i gael ei symud o'r man lle yr oedd. Gan fy mod o goleg Caerfyrddin, a'r Dr. yn hen gyfaill i fy nhad, dywedai y carai fy nghefnogi trwy osod yr ysgol o dan fy ngofal. Bu hyny yn gryn fantais i'r achos gwan, ac i minau. Pe gallaswn fyw heb yr ysgol, credwyf mai gwell ar y pryd oedd i mi ei

498   

chadw ; yr oedd yn fy nwyn i gydnabyddiaeth, ac yn rhoddi i mi beth dylanwad or daioni ar y plant a'u rhieni.  Urddwyd fi i gyflawn waith y weinidogaeth Medi 25ain a'r 26ain, yn y flwyddyn 1822. Gan nad oedd genym gapel etto o'r eiddom ein hunain, cynaliwyd y cyfarfod yn addoldy y Bedyddwyr. Nos Fercher, dechreuodd y Parch. J. Evans, Amlwch, a phregethodd y Parch. W. Cooper, Dublin, oddiar Ioan i. 29; a'r Parch. D. Jones, Treffynon, yn Gymraeg, oddiar 1 Tim. i. 15. Boreu dydd Iau, am haner awr wedi 6, dechreuodd y Parch. D. Morgan, Machynlleth, a phregethodd y Parch. T. Lewis, Pwllheli, oddiar loan v. 25. Am 9, dechreuodd y Parch. J. Rees, Manchester, a thraddodwyd y gynaraeth gan y Parch. W. Jones, Caernarfon, oddiar 1 Cor. i. 2 ; gofynwyd yr holiadau gan y Parch. R. Roberts, Treban ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan y Parch. D. Jones, Treffynon, gydag arddodiad dwylaw ; a phregethodd y Parch. W. Cooper, ar ddyledswydd y gweinidog, oddiar 1. Tim. iv. 12-16; a'r Parch. D. Roberts, Bangor, ar ddyledswydd yr eglwys, oddiar 1 Thes. ii. 20. Am 2, dechreuodd y Parch. Owen Thomas, Llanfechell, a phregethodd y Parch. D. Morgan, Machynlleth, oddiar Heb. xii. 4; a'r Parch. J. Breese, Llynlleifiad, oddiar Can. vi. 9. Am 6, dechreuodd y Parch. J. Evans, Beaumaris, a phregethodd y Parch. W. Cooper, oddiar Salm lxxxix. 15 ; a'r Parch. Daniel Griffith, (wedi hyny o Gastellnedd), oddiar Ezee. xxxvii. 9. Y nos ganlynol, pregethodd y Parch. J. Rees, Manchester, a'r Parch. J. Griffith, Beaumaris, yn awr o Buckley, oddiar Dat. xiv. 10, 11; a lago i. 5. Pregethais inau y Sabbath canlynol oddiar Eph. iii. 8.

" Yr oedd yn beth anfantais y blynyddau cyntaf, fy mod y gweinidog Ymneillduol sefydlog cyntaf erioed yn y dref. Er fod yr enwadau craill wedi hir ymsefydlu yma, byddent yn cael eu gwasanaethu gan amrywiaeth doniau o'r wlad bob Sabboth. Felly hefyd y gwasanaethid cynnulleidfa 'y parlyrau ' am y pum' mlynedd cyntaf, a llettyai y brodyr yn fynych yn Crecristfawr gyda Mr. Griffith Roberts, cwyllysiwr da i'r achos y pryd hyny, ac aelod diwyd wedi hyny hyd derfyn ei oes, er fod ganddo dair milldir o ffordd i ddyfod atom. Da genym gael cyfleusdra i groniclo ei  enw teilwng ; y mae rhai o'i hiliogaeth yn dilyn ei esiampl yn Llynlleifiad, a Bryngwran, Mon. Trefn y gwasanaeth Sabbothol o 1822 hyd 1831, ydoedd cyfarfod gweddi am 7, oedfa Gymraeg am 10, ysgol am 2, ac oedfa Saesonaeg am 6. Gan fod y Llan y pryd hyny yn gauad y nos, byddai y Saeson elai yno y prydnawn, bron i gyd yn dyfod atom ninau yn yr hwyr. Gwelwyd fod hyn yn niweidio yr achos Cymraeg, ac o herwydd hyny peidiwyd a'r Saesonaeg ; profodd y canlyniadau yn fuan mai iawn y gwnaethom. Ein gorchwyl mawr nesaf oedd adeiladu ; cafwyd y safle mwyaf dewisol. Maintioli y capel oedd 45 o droedfeddi wrth 39, ac oriel o'i amgylch ; yr oedd traul yr adeiladaeth yn 800p. Yr adeiladydd oedd y rhagddywededig Mr. Owen Lewis, yn awr o Langefni. Yr oedd yr anturiaeth yn fawr, ond safodd y cyfeillion, Mr. Roberts, Treban ; Mr. Ellis, Marchog ; a Mr. Roberts, Ty'nygroes, o dan bwys y ddyled gyda mi. Y mae parch yn ddyledus i'w henwau teilwng oddiwrth aelodau y Tabernacl o oes i oes. Pregethwyd ynddo gyntaf ar foreu Sabboth, Chwefror 22ain, 1824, y testyn y boreu hwnw oedd Neh. x. 39. Yn y flwyddyn 1845, helaethwyd y capel trwy ychwanegu vestry helaeth ato, ac ail-drefnu y llawn. Helaethwyd ef drachefn yn y flwyddyn 1856, trwy estyn saith lath at ei hyd, fel y cynwysai rhwng dan a thri chant yn fwy nag o'r blaen; costiodd yr helaethiad hwn 650p., heblaw 100p. am y tir oedd o'r blaen yn edringol, ond yn awr

499

sydd yn feddiant tragywyddol. Y mae yr ysgol Sabbothol wedi gweithio yn orchestol i ddileu y ddyled, ac wedi gorphen y gwaith. Y mae yma ysgoldy a dau d anedd mewn cysylltiad a'r capel.* Cynydd graddol a pharhaus sydd wedi bod ar yr achos yma. Cafwyd ychwanegiadau anghyffredin at yr eglwys, y fath ag a elwir yn 'ddiwygiadau.' Cymerodd y blaenaf le yn yr haner blwyddyn gyntaf o fy ngweinidogaeth. Ymwelodd yr Arglwydd yn rasol iawn a ni y pryd hwnw. Derbyniwyd lluaws o aelodau, ac yn eu plith o benau teuluoedd, yn wyr a gwragedd gyda'u gilydd, y rhai fuont yn dra defnyddiol. Bu hyn yn foddion i'n calonogi yn fawr, fel arwydd er daioni. Cafwyd ymweliadau cyffelyb yn 1832 ac 1840. Hefyd, un arall grymus iawn yn 1848. Ond y mwyaf effeithiol o'r cyfan oedd, yr adfywiad nerthol yn 1859 ac 1869. Breintiwyd ni a thangnefedd heddychol o'r dechreu hyd yn bresenol. Unwaith y bygythiwyd yr eglwys ag ymraniad, pan yn ei phlentynrwydd dechreuol. Pwngc y ddadl oedd, pa un ai canwyllau dip, ynte canwyllau mold, a ddylesid ddefnyddio yn 'y parlyrau.' Yr oedd y naill blaid am ddangos yr achos allan yn anrhydeddus, a'r blaid arall am 'ddarparu pethau onest yn ngolwg pob dyn,' ac yn ofni y buasai y fold uwchlaw eu gallu hwy. Ond yr ydym ni eu holynwyr wedi myned uwchlaw y fold a'r dip, yn gymaint a bod y nwy (gas) ysblenydd wedi eu hymlid hwynt oil ymaith.

"Mae y gynnulleidfa gyda y blaenaf mewn ffyddlondeb yn ei chyfraniadau at yr achos, yn gartrefol ac yn gyffredinol. Breintiwyd ni hefyd a diaconiaid ffyddlon. Y mae y chwech a fu yn gwasanaethu y swydd wedi myned i orphwys oddiwrth eu llafur, ar ol ennill iddynt eu hunain 'radd dda,' sef Thomas Williams, David Hughes, Rowland Jones, Hugh Rowlands, Robert Roberts, gynt o'r Bank, ac E. Griffith, Anglesey-house. Mae yr wyth sydd yn aros o gyffelyb feddwl, ac yn gwir ofalu. Nifer yr aelodau eglwysig ydyw 420 ; yr ysgol Sabbothol 350 ; y gynnulleidfa 750. Nid oes yn aros yn yr eglwys yn bresenol gymaint ag un o'r 13 oedd gyda mi

* " Trwy ymdrech diflino ;y gynnulleidfa gartref, a'r gweinidog oddicartref, talwyd rhan o'r ddyled oedd y pryd hyny yn drom iawn ar ysgwyddau gweiniaid. Ond yn y flwyddyn 1853, pan brynwyd y tir, dywedodd ein gweinidog y talai ef y 100p. am dano, ar yr amod i'r eglwys dalu y ddyled o 300p. oedd yn aros ar y capel. Rhoes yr her i'r ysgol Sabbothol, a derbyniodd hithau y challenge yn siriol ac unfrydol.

" Gorphenodd ef ei waith yn ehrwydd, a daliodd hithau ati yn ffyddlon iawn, nes gorphen ei rhan hithau, ac nid yr hen ddyled yn unig, and ymgymerodd hefyd yn galonog a'r ddyled newydd. Y mae ei hesiampl yn hyn wedi bod o fendith i'r wlad, fel nad oes nemawr ysgol yn yr ynys nad yw yn casglu at ddyled ein capeli. A disgwyliwn y bydd yn fuan yn jubili trwy holl ynys Mon, megis y mae yma gyda ni heddyw.

" Mae y treuliadau a'r taliadau mewn cysylltiad a'r adeiladaeth, o'r dechreu, fel y canlyn

(Table  from  + Jubili Tabernacl, Caergybi. Annibynwr, 1864. Tu dal. 47.  not extracted)

500  

ar y cyntaf. Ymadawodd y ddiweddaf yn 1871, sef ein hanwyl chwaer Catherine Jones, yn 92 mlwydd oed. Trwy diriondeb trugaredd ein Duw, gallaf ddyweyd bellach, 'Yn nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo,' ac yn eu canol yr ydwyf yn debyg o noswylio. Cefais gymhelliadau i'w gadael am Dreffynon, Caerfyrddin., Llynlleifiad, Caernarfon, a Llundain ; ond methais a gweled fy ngalwad oddi yma mor amlwg o Dduw, ag yr ymddangosai fy nyfodiad yma."

Mae Mr. Griffith wedi crynhoi llafur haner can' mlynedd o weinidogaeth lwyddianus yn mysg yr un bobl i gylch bychan, ond ni fynegwyd yr haner sydd i'w fynegu am ei lafur a'i lwyddiant. Aeth dwy gangen o'r eglwys allan yn heddychol i gychwyn achosion mewn lleoedd eraill, y rhai a ddaw dan ein sylw etto. Tabor ar fynydd Twr, a ddechreuodd yn y flwyddyn 1847, a'r Tabernacl Newydd, yn y dref, a adeiladwyd yn y flwyddyn 1866. Ar yr 22ain o Fehefin, y flwyddyn hono, pan yn pregethu yn nghymanfa Pwllheli, tarawyd Mr. Griffith gan ergyd oddiwrth yr haul (sun-stroke), yr hyn a'i hanalluogai am tua phedair blynedd i gyflawni ei weinidogaeth. Wrth weled amser ei fethiant yn myned yn hir, cynygiodd fwy nag unwaith i roddi ei swydd i fyny, ond ni fynai yr eglwys wrando ar hyny. Rhoddwyd galwad i Mr. Evan C. Davies, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, i fod yn gydweinidog a Mr. Griffith, ac urddwyd ef Gorphenaf 25ain, 1869. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Lloyd, Caergybi ; holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Griffith ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. B. Jones, B.A., Penybont-ar-ogwy, ac i'r eglwys gan Mr. D. Griffith, Portdinorwic. Wedi cydlafurio yn hapus am ddwy flynedd, derbyniodd Mr. Davies alwad o Lanerchymedd, a symudodd yno, ac y mae gofal yr eglwys yma, fel cynt, yn gwbl ar Mr. Griffith, a chan fod ei iechyd i raddau mawr wedi ei adferu, y mae yn gallu cyflawni y weinidogaeth gyda chynorthwy ei frodyr yn lled ddifwlch, ond ei fod yn gorfod ymgadw o gyfarfoddydd cyhoeddus. Ar derfyn ei haner canfed flwyddyn yn y weinidogaeth, y mae ei gyfeillion yn gwneyd Tysteb iddo yn arwydd o'u parch dwfn iddo a'u gwerthfawrogiad o'i lafur a'i gymeriad.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:-

  

TABOR

(Holyhead parish)

Mae y capel yma ar ochr mynydd Twr, o fewn llai na dwy filldir i Gaergybi. Dechreuwyd yr achos yn y gymydogaeth hon mewn ty o eiddo y diweddar frawd Owen Hughes, yn y flwyddyn 1847. Adeiladwyd y

501

capel yn y flwyddyn 1848. Nid oedd eu nifer ar y dechreu ond saith, sef pump o feibion a dwy o ferched, ond deuai cyfeillion o'r dref yma i'w cynorthwyo am beth amser. Cynyddodd yr eglwys a'r gwrandawyr, fel y gwelwyd cyn hir olwg siriol ar yr achos, ond trwy y mynych symudiadau a gymerodd le, y mae yr achos wedi lleihau y blynyddoedd diweddaf. Mae y lle yn parhau dan ofal Mr. Griffith mewn cysylltiad a'r Tabernacl, Caergybi.

Translation by Eleri Rowlands (Nov 2013)

This chapel is on the side of Mynydd Twr, within less than two miles of Holyhead. The cause started in this community in a house owned by the late brother Owen Hughes, in 1847. The chapel was

501

built in 1848. There were only seven members at the beginning of the cause. These were five men and two women, but for some time friends would come from this town to support them. The church and the listeners increased, and soon the cause flourished, but as a result of the many movements of ministers that took place, the cause has suffered during the last few years. The place continues under the care of Mr. Griffith along with Tabernacl, Holyhead.

 

 TABERNACL NEWYDD, CAERGYBI

Translation available on http://www.genuki.org.uk/big/wal/AGY/Holyhead/Hanes.html

"Yn y flwyddyn 1866, o herwydd fod y gynnulleidfa wedi lluosogi, penderfynwyd adeiladu capel arall yn mharth gogleddol y dref. Costiodd uwchlaw 1100p. Galwyd ef y Tabernacl Newydd. Talwyd haner y ddyled pan agorwyd ef, a than fod y ddau Dabernacl wedi rhanu gweddill y ddyled rhyngddynt, disgwylir na bydd yr holl ddyled yn hir heb gael ei thalu. Arwyddwyd dymuniad ar fod o leiaf gant o aelodau y fam-eglwys yn ymgymeryd a'r achos newydd. Oddeutu pedwar ugain a symudodd, a'r rhai hyny yn mhob ystyr yn gyfeillion galluog i gadw ty. Yn y flwyddyn 1868, derbyniodd Mr. William Lloyd, Llundain, (Were, cyn hyny), alwad oddiwrth yr eglwys yma i weinidogaethu iddi, ac y mae yn parhau i lafurio yn y lle. Gan mai achos newydd ydyw, nid oes llawer o ffeithiau yn nglyn ag ef i'w cofnodi, ond y mae pob peth yn myned yn mlaen yn dra chysurus."

 BODEDEYRN

Nid oes genym hanes cywir pa bryd y dechreuwyd pregethu yn y lle hwn, ond y mae yn sicr fod pregethu yma yn nechreu y ganrif hon, canys yr ydym yn cael yn nghofnodion Llys Esgobol Bangor, i Robert Roberts drwyddedu Plasmain, Bodedeyrn, Awst 11eg, 1801. Bu pregethu am ysbaid yn Plasmain, ac wedi hyny symudwyd i d arall a elwid Llawr-y-llan, a chyfaddaswyd y lle hwnw at gynal addoliad. Bu yma un David Griffith yn pregethu ac yn cadw ysgol, ond nid ydym yn cael ei fod yn weinidog yma. Yr oedd yma yn flaenorol i urddiad Mr. R. Roberts yn y lle, ac arhosodd yma wedi ei sefydliad, oblegid yr ydym yn cael enw D. Griffith, Bodedeyrn, yn aml yn nghofnodion Mr. Jonathan Powell yn yr adeg hono. Bu Mr. Robert Roberts yn dyfod yma yn hir i bregethu, ac ar y 29ain o Mehefin, 1810, urddwyd ef i fod yn weinidog yma ac yn Ceirchiog. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri A. Jones, Bangor ; J. Powell, Rhosymeirch ; J. Evans, Amlwch ; J. Griffith, Caernarfon, a Dr. G. Lewis, Llanuwchllyn.* Llafuriodd Mr. Roberts yma yn ddiwyd a ffyddlon am bedair-blynedd-ar-hugain, hyd nes y gorfodwyd ef yn 1834, i roddi yr eglwys i fyny, oblegid sefyllfa ei iechyd. Codwyd yma gapel newydd yn y flwyddyn 1829, yr hwn a enwyd yn Saron, ac agorwyd ef Tachwedd 4ydd, y flwyddyn hono. Derbyniwyd y swm o 30p. o Gleifiogisaf at ddileu dyled y capel, a chyfranodd Mr. Roberts, y gweinidog, 10p. i'r un dyben, a gwnaed y gweddill i fyny gan yr eglwys a'r ardal. Costiodd tua 100p., a thalwyd y cyfan. Ni dderbyniodd Mr. Roberts ddim am ei lafur gweinidogaethol yr holl flynyddoedd y bu yma, ac er fod hyny

*O gofnodion Mr. Jonathan Powell, Rhosymeirch.

502  

o'i du ef yn dangos hunanymwadiad mawr, etto yr oedd yr eglwys trwy hyny yn cael ei chamfagu. Wedi bod dros ychydig heb weinidog wedi i Mr. Roberts roddi y gofal i fyny, yn nechreu y flwyddyn 1836, rhoddwyd galwad i Mr. David Davies, i fod yn weinidog i'r eglwys hon, ac i'r eglwysi yn Llanddeusant a Llanfachreth. Urddwyd ef yma Gorphenaf 27ain, 1836. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Williams, Caernarfon; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Evans, Beaumaris ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. James, Rhosymeirch ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Griffith, Caergybi, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Jones, Amlwch.* Bu Mr. Davies yma yn ddiwyd am yn agos i chwe' blynedd, hyd nes y symudodd i Berea, ac oddiyno i Langefni. Wedi ei ymadawiad ef, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. William Evans, yr hwn oedd yn weinidog yn Abererch, gerllaw Pwllheli. Bu yma rai blynyddoedd, nes y symudodd i'r Dwyran, ac oddiyno i Fagillt, lle y gorphenodd ei yrfa. Bu yr eglwys am rai blynyddoedd ar ol hyn heb weinidog, hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr. John Hughes, pregethwr cynorthwyol yn yr eglwys, ac urddwyd ef Mawrth 21ain, 1854, i fod yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwysi yn Llanfachreth a Llanfairneubwll. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Roberts, Llanerchymedd; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Ridge, Hermon; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. James, Rhosymeirch, ac i'r eglwys gan Mr. W. Morris, Bryngwran. + Cynyddodd yr achos yn fawr yn nhymor gweinidogaeth Mr. John Hughes, a thynai ei ddoniau iraidd a melus lawer i wrando arno. Llafuriodd yma am bedair-blynedd-ar-ddeg, a gorphenodd ei yrfa Tachwedd 28ain, 1868. Bu yr eglwys heb weinidog hyd Ebrill, 1870, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Howell R. Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Hebron, Lleyn. Llai na blwyddyn yr arhosodd yma, canys symudodd yn Mawrth, 1871, i Bryngwran. Wedi bod ychydig gyda blwyddyn heb weinidog, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. William Solomon Roberts, yr hwn oedd yn weinidog yn Flint, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Mai 12fed, y flwyddyn hon, (1872).Yn y flwyddyn 1868, adnewyddwyd a phrydferthwyd yr addoldy yn fawr, a bu yr holl ardalwyr yn garedig a haelionus ar yr achlysur, ac yn enwedig, cafwyd cefnogaeth a chymorth mawr gan Mr. Hugh Lewis, Liverpool. Ailagorwyd y capel Rhagfyr 7fed a'r 8fed, 1868. Coffeir yn barchus am enwau rhai ffyddloniaid a fu gyda'r achos yma, ac y mae hiliogaeth rhai o honynt yn dilyn llwybrau ffydd eu hynafiaid.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:-

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOHN HUGHES. Ganwyd ef yn Llanynghenedl yn Mon, yn mis Mehefin, 1816. Arferai er yn blentyn wrando yr efengyl, ac yr oedd ganddo gof nodedig i ddal ar yr hyn a glywai, a dawn rhyfeddol i adrodd hyny i eraill.

*Dysgedydd,1836, Tu dal. 289.    + Dysgedydd,1854. Tu dal. 237.

503

Dygwyd ef i fyny yn y gelfyddyd o f, a bu yn gweithio wrth yr einion dros ei holl ddyddiau, oddigerth ychydig o flynyddoedd yn niwedd ei oes. Dyn bychan, byr, crwn, cydnerth ydoedd, ac yr oedd yn hawdd deall pa alwedigaeth a ddilynai pa le bynag y gwelid ef. Bu am lawer o flynyddoedd yn gwrando yr efengyl cyn rhoddi ufudd-dod iddi. Dilynai bob pregethwr a ddeuai i'r wlad i ba enwad bynag y perthynai, fel yr oedd yn dra chyfarwydd a doniau penaf pob plaid grefyddol. O'r diwedd, rhoddodd ei hun i fyny i'r Arglwydd ac i'w bobl, ac ar ol iddo ymuno a'r eglwys dadblygwyd ei ddoniau gyda'r fath gyflymder fel yr anogwyd ef yn fuan i ddechreu pregethu, a chyn hir iawn rhoddodd yr eglwys a'i derbyniodd yn aelod, a'r eglwysi mwyaf adnabyddus o hono, alwad iddo i fod yn weinidog, ac urddwyd ef, fel y crybwyllasom, yn mis Mawrth, 1854. Cynyddodd y son am dano yn gyflym, fel y daeth yn boblogaidd iawn trwy yr holl wlad. Yr oedd rhwyddineb ei draddodiad - tynerwch ei deimladau - a'r swyn oedd yn ei lais yn peri ei fod yn gorchfygu cynnulleidfaoedd cryfion. Dyoddefodd ddirmyg oddiwrth rai personau coegion oblegid mai dyn anllythyrenog ydoedd, ond yr oedd ef yn " ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas Dduw," ac y mae meddu ar y cyfryw ddawn, gan bwy bynag y byddo, yn sicr o daro y galon. Achwynid arno gan rai ei fod yn " arbed mwy nag a weddai," ac y dylasai ei wisg a'i ymddangosiad fod yn fwy cydweddol ag urddas yr efengyl, ond fel yr ydoedd yr oedd  ddylanwad yn cael ei deimlo i ba gynnulleidfa bynag yr elai. Gallesid disgwyl iddo fyw lawer o flynyddau, ond gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, a daliwyd ef gan angau Tachwedd 28ain, 1868, yn 52 oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys Llanddeusant.

  

LLANFAIRNEUBWLL

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal yma tua'r flwyddyn 1840, gan Mri. W. Griffith, Caergybi, a D. Davies, Llanddeusant, ac eraill. Yr oedd yma ychydig bersonau yn aelodau yn Bodedeyrn, a'r rhai hyny a flaenorent gyda chychwyniad yr achos. Yn y flwyddyn 1843, adeiladwyd yma gapel bychan, yr hwn a gostiodd 50p. mewn arian, heblaw cludiad y defnyddiau yr hyn a wnaed gan yr ardalwyr yn rhad. Coffeir yn barchus am ffyddlondeb Mr. R. Williams, Carna, a Mr. O. W. Williams, Coedelen, yn arolygiad adeiladaeth y capel. Agorwyd ef Tachwedd 28ain,. 1843, pryd y gweinyddodd Meistri W. Griffith, Caergybi ; D. James, Rhosymeirch ; W. Jones, Amlwch ; I. Jones, Hermon ; T. Davies, Moelfro ; D. Davies, Llangefni; W. Roberts, Llanddeusant, ac R. Roberts, Treban. Bu golwg pur lewyrchus ar yr achos ar ei gychwyniad, ond gwywodd yn fawr yn y blynyddoedd o 1855 hyd 1859. Crybwyllir gyda serch am ffyddlondeb John Owen, Crossing, yn yr adeg hono, ac am garedigrwydd teuluoedd Canna a Threflysg. Adnewyddodd yr achos yn fawr yn yr adfywiad grymus a gafwyd yn 1859 ac 1860, ac y mae ffrwyth y diwygiad hwnw i'w weled hyd y dydd hwn. Mae yr eglwys yma o'r dechreuad wedi bod mewn cysylltiad gweinidogaethol a Bodedeyrn, oddieithr am dymor byr yn ystod gweinidogaeth Mr. John Hughes, unodd a'r eglwys yn Maelog, dan ofal Mr. R. Roberts, ond wedi marwolaeth Mr. Roberts cymerodd Mr. J. Hughes ei gofal drachefn ; ac y mae yn awr dan ofal Mr. W. S. Roberts. Mae yma olwg siriol a chalonog, a phe byddai yn weddus enwi personau byw gallem enwi amryw sydd wedi dangos mawr ofal calon am yr achos yn y lle.

Translation by Eleri Rowlands (Nov 2013)

Preaching started in this area around 1840, by Messrs W. Griffith,Holyhead, and D. Davies, Llanddeusant, and others. There were a few people here who were members in Bodedeyrn, and those were mainly instrumental  in starting the cause. In 1843, a small church was built here, which cost 50, without the cost of haulage of the materials for building, which was done by the people of the area at a low cost.  We respectfully remember the faithfulness of Mr. R. Williams, Carna, and Mr. O. W. Williams, Coedelen, in the inspection of the building work of the chapel. It was opened on November 28th,. 1843, when Messrs W. Griffith, Holyhead; D. James, Rhosymeirch ; W. Jones, Amlwch ; I. Jones, Hermon ; T. Davies, Moelfro ; D. Davies, Llangefni; W. Roberts, Llanddeusant, and R. Roberts, Treban officiated. At the beginning the cause has a successful appearance, but it withered greatly between 1855 and 1859. We mention with fondness the faithfulness of John Owen, Crossing, at this time, and the kindness of the families of Canna and  Threflysg. The cause regained strength during the powerful revival in 1859 and 1860, and the fruit of that revival is to be seen to this day. This church has, from the start, been in ministerial contact with  Bodedeyrn, apart from a short time during the ministry of Mr. John Hughes, when it joined the church in Maelog, under the care of Mr. R. Roberts, but after Mr. Roberts died Mr. J. Hughes took over the care again; and it is now under the care of Mr. W. S. Roberts. There is now a light hearted and hearty appearance to the cause, and if it was suitable to name persons who are alive we could name several who have shown great care for the cause in this place.

504  

BRYNGWRAN

(Ceirchiog parish)

Dechreuwyd yr achos hwn yn mhlwyf Ceirchiog, trwy offerynoliaeth yr efengylwr teithiol John Bulk. Nis gallwn gael o hyd i'r dyddiad, ond ymddengys ei fod yn fuan wedi y flwyddyn 1790. Daeth John Bulk i'r ardal pan oedd un Edward Williams yn adeiladu ty, ac mewn ymddiddan dywedodd wrtho, " Dyma le cyfleus iawn i bregethu, a wnewch chwi ei osod ar ardreth i mi i hyny ?" Boddlonodd Edward Williams i wneyd os cai ganiatad ei feistr tir, yr hyn a ganiatawyd. Ardrethwyd ef am dair blynedd, a buwyd dros yr ysbaid hwnw yn pregethu ynddo. Dywedir mewn llythyr, sydd yn awr ger ein bron, yr hwn a ysgrifenwyd gan Mr. R. Roberts, Treban, Gorphenaf 18fed, 1849, mai Mr. Abraham Tibbott a ffurfiodd yr eglwys. Os felly, y tebygolrwydd ydyw i hyny gymeryd lle tua'r flwyddyn 1794. Ar derfyn tair blynedd y cyfundeb ag Edward Williams, adeiladwyd yma gapel bychan a th gwellt iddo trwy offerynoliaeth un Thomas Rowlands, Treban. Yn nghofnodion Llys Esgobol Bangor, cawn i Bethesda yn mhlwyf Ceirchiog, Mon, gael ei drwyddedu fel capel Annibynol i bregethu ynddo, Hydref 17eg, 1793, gan un William Owen. Nid ydym yn gwybod pa un ai y ty anedd a godwyd gan Edward Williams, ai y capel a'r t gwellt a adeiladwyd trwy offerynoliaeth Thomas Rowlands, oedd y Bethesda. Yn y flwyddyn 1796, daeth Mr. John Jones i'r wlad, ac urddwyd ef yn weinidog yn Ceirchiog, a bu yma hyd nes y symudodd i Liverpool tua'r flwyddyn 1803, at yr achos Cymreig oedd wedi ei gychwyn yno. Mae yn amlwg i'r eglwys yma fod heb weinidog sefydlog am rai blynyddau wedi ymadawiad Mr. Jones ; ond yr oedd Mr. Robert Roberts, Treban, erbyn hyn wedi ymuno a'r achos ac wedi dechreu pregethu. Urddwyd ef yn Bodedeyrn, Mehefin 29ain, 1810, a bu yn gweinidogaethu yn y ddau le tra y daliodd ei nerth. Yn y flwyddyn 1824, symudwyd yr achos o Ceirchiog, ac adeiladwyd capel yn mhentref Bryngwran, yn mhlwyf Llechylched, a galwyd ef Salem. Traul yr adeiladaeth oedd 150p. a thalwyd y cwbl cyn pen deng mlynedd, heb fyned allan o'r gymydogaeth. Deg-a-deugain oedd rhifedi yr aelodau ar eu symudiad o Geirchiog i Bryngwran. Yr oedd gofal penaf adeiladu y capel ar Mr. Roberts, y gweinidog, ond cynorthwyid ef yn ffyddlon gan ei gyfaill, Mr. Evan Griffith, tad Meistri J. Evans, Gorslwyd, ac E. Griffith, Gwalchmai. Bu farw Mr. Evan Griffith yn fuan wedi agor y capel, a chafodd yr eglwys golled fawr yn ei ymadawiad. Cyflawnodd Mr.Roberts ei weinidogaeth gyda ffyddlondeb mawr, ond byrhawyd ei ddefnyddioldeb trwy ergyd o'r parlys mud (apoplexy) a gafodd bedair blynedd cyn ei farwolaeth. Dan yr amgylchiadau hyn, anogodd yr eglwys i roddi galwad i Mr. Richard Parry, Llanerchymedd, yr hwn oedd wedi arfer pregethu llawer iddynt yn flaenorol, i gydweinidogaethu ag ef. Cydsyniodd Mr. Parry a'u cais, ac urddwyd ef Gorphenaf 26ain, 1836. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Davies, Llanerchymedd; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Griffith, Caergybi; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. W. Jones, Amlwch ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Evans, Beaumaris, ac i'r eglwys gan Mr. W. Williams, Caernarfon.* Llafuriodd Mr. Parry yma am fwy na thair blynedd, fel plentyn gyda thad, hyd farwolaeth Mr. Roberts yn Ebrill, 1838, yna derbyniodd alwad o

* Dysgedydd, 1836. Tu dal. 289.

505

Gonwy a Henryd, a symudodd yno. Rhoddodd yr eglwys yma ar ol hyn alwad i Mr. William Davies, Nefyn, yr hwn a lafuriodd yma yn egniol dros rai blynyddoedd. Yn y flwyddyn 1839, helaethwyd y capel yma trwy draul o 180p., ond symudwyd yr holl ddyled cyn hir trwy ymdrechion cartrefol. Daeth Mr. John Morris, a fuasai yn weinidog yn Bwlchyffridd, yma ar un adeg tua'r flwyddyn 1848, yr hwn a arweiniodd yr eglwys i gryn brofedigaeth, ond ymadawodd heb wneyd niwed mawr i'r achos. n nechreu y flwyddyn 1850, rhoddwyd galwad i Mr. William Morris i ddyfod yma o Birkenhead, ond a adnabyddid yn well fel Mr. Morris, Llanfyllin. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yr ail Sabboth yn Mai, 1850, a llafuriodd yma yn ddiwyd am bedair-blynedd-ar-ddeg, hyd nes y gorfodwyd ef yn 1864, gan sefyllfa ei iechyd, i roddi y weinidogaeth i fyny, a symudodd i Lanfyllin i dreulio gweddill ei oes. Tynodd doniau poblogaidd Mr. Morris sylw mawr yn ddioed wedi ei sefydliad yma, ac adfywiodd yr achos yn fawr. Cyfranogodd yr eglwys hon yn helaeth o'r diwygiad grymus yn 1839 ac 1840, ac wedi hyny o'r ymweliad grasol yn 1859 ac 1860, ac y mae effeithiau yr ymweliadau yn aros etto. Bu yr eglwys heb weinidog o ymadawiad Mr. Morris hyd ddechreu y flwyddyn 1871, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Howell R. Jones, Bodedeyrn, ond llai na blwyddyn y bu yma cyn rhoddi ei weinidogaeth i fyny. Mae yma lawer o ffyddloniaid wedi bod o bryd i bryd, ac yn enwedig y mae teulu y Pandy, Treban, yn haeddu coffd parchus yn nglyn a'r achos yma, oblegid hwynt hwy ar bob adeg sydd wedi bod yn brif golofn yr achos, a da genym ddeall fod crefydd yn aros yn eu hachau.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon : -

 

CONTINUED


Return to top

[Last updated: 19 Nov 2013 -  Gareth Hicks]

Valid HTML 4.01 Transitional  

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI