GENUKI Home page
Anglesey Anglesey     Contents Contents

 

  Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Anglesey section (Vol 2)

Pages 506 - 523

See main project page

Proof read by Yvonne John (May 2008)

Chapels below;

 


Pages 506 - 523

506

 (Continued) BRYNGWRAN

deb i'w air, a'i barodrwydd i wneyd a allai o ddaioni yn mhob cylch. Er nad oedd gweddw ac amddifaid i alaru ar ei ol, etto yr oedd ganddo lu mawr o gyfeillion a pherthynasau, y rhai a deimlant yn hir chwithdod mawr wrth weled ei le yn wag.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

ROBERT ROBERTS, Gan nad oes neb yn fyw oedd yn adnabod Mr. Roberts yn well, nac yn alluocach i dynu darlun o hono, na Mr. R. Parry, Llandudno, ceisiasom ganddo ef ysgrifenu cofnodiad bywgraphyddol o hono. Bu Mr. Parry yn cydlafurio ag ef am flynyddau, a chafodd gyfle i'w weled yn ei deulu ac yn mysg pobl ei ofal. Rhoddwn ysgrif  Mr. Parry yn gyflawn fel y cawsom hi.

" Yr oedd Mr. Roberts yn un o gedyrn Mon ddeugain mlynedd yn ol. Edrychid ato gan y cyhoedd fel amaethwr boneddigaidd, yn gystal a gweinidog defnyddiol. Yr oedd ei sefyllfa yn y byd, ei hawddgarwch personol, a'i ymddygiad dillyn, wedi ennill iddo radd dda yn ngolwg pob dosbarth drwy yr ynys. Yr oeddid yn edrych arno fel noddydd i enwad yr Annibynwyr, i raddau mawr, pan yr oedd yr achos ar ei godiad i sylw y cyhoedd. Yr oedd o ran ei berson o'r taldra canolig, yn hytrach yn fwy corphorol na'r cyffredin, a golwg gwrol iawn arno. Ymwisgai yn null yr amaethwr rhydd-ddeiliadol Cymreig; ct o frethyn cartref, gwasgod ddwbl, a llodrau a botynau pen glin, gyda ffunen sidan India goch-dywell. Yr oedd ganddo wedd hawddgar a gwn serchus, hollol naturiolg; wallt teneu, lled oleu, a llygaid yn llawn bywiogrwydd. Marchogai yn gyffredin i'w deithiau Sabbothol, a dangosai yn ei lywodraeth ar ei farch ieuangc, cnodiog, rhawn-llaes, bywiog, ei fod yn gynefin a'r cyfrwy. Y mae cymaint a hyn o ddarluniad o hono yn ddigon er dangos y modd y tynai yr olwg arno sylw y wlad yn mhob man.

"Yr oedd Mr. Roberts o feddwl cryf, ac o duedd ddarllengar ac ymofyngar, perffaith rydd oddiwrth gulni, eiddigedd, neu ragfarn plaid. Yr oedd ei ddelw yn cael ei hargraffu yn naturiol ar ei holl d. Yr oedd yn ateb yn gyflawn i'r darluniad o 'ymgeledd gymwys iddo,' ac yn fath yn ateb i'w holl olygiadau a'i deimladau yn mhob modd. Yr oedd o feddwl eangach a chryfach na'r cyffredin o'r gwragedd, er nad oedd felly o ran ymddangosiad corphorol. Darllenai lawer, a chyda chof cryf, adroddai lawer o'r hyn a ddenai ei sylw fwyaf ; defnyddiodd holl nodiadau Dr. Adam Clark, yn y gyfrol gyntaf o'i esboniad ar y Testament Newydd, bob gair mewn ychydig o ddyddiau; a rhoddodd ei sylwadau ar ei holl hynod- rwydd, mewn cyfeillach i rai o'i chydnabyddiaeth yn dra medrus. Wedi dywedyd cymaint a hyn am y ddau, nid yw yn anhawdd bellach ddychymygu beth oedd yn gwneyd ymweliad a'u ty mor ddymunol gan bawb fu yn llettya yno. Yr oedd y plant, y rhai oeddynt yn lluosog, o'r un elfenau naturiol a ran meddwl a theimlad a'u rhieni, ac yn gwisgo eu cymeriad. Yr oeddynt oll, yn feibion a merched, yn llenorion, ac yn grefyddol, fel yr oedd eu hanedd ar unwaith yn eglwys, yn ysgol, ac yn nodded.

"Am ddechreuad bywyd crefyddol Mr. Roberts, ni all fod dim cywirach na'r hanes a rydd ei fab Robert i ni, yr hwn a geir mewn talfyriad yn y llinellau canlynol: - 'Mab ydoedd i William a Mary Roberts. Ganwyd

507

ef mewn lle o'r enw Pandy, Carna, yn mhlwyf Llanfairneubwll, Mon, yn y flwyddyn 1772. Symudodd ei rieni oddiyno i Bandy, Treban, yn 1776, lle y gorphenasant eu tymor, ac yntau hefyd ar eu hol. Yr oedd o ran ei berson yn ddyn hardd, yn meddu ar ysbryd hynaws, meddwl cryf, gwybodaeth eang, ac yn ysgolhaig gwych ; ond ymddengys ei fod, pan yn ddyn ieuangc, yn lled ddigrefydd, fel ag yr oedd llawer o'i gyfoedion y pryd hwnw, pan yr ymgynnullent at eu gilydd, hyd yn nod ar ddydd yr Arglwydd, i ryw fath o chwareuon ofer. Dychwelwyd ef at grefydd yn y modd canlynol : - Yr oedd ef, a'i frawd William, yn gyfeillion mawr i'r diweddar Mr. R. Lloyd, Beaumaris, yr hwn oedd yn byw yn yr un gymydogaeth a hwy. Ar ryw brydnawn Sabboth, cyfarfyddodd y tri a'u gilydd wrth ryw graig fawr, ar dir Mr. John Williams, Treban, i'r dyben a nodwyd, sef rhyw fath o wag ddifyrwch; ond trodd y tywydd yn hynod o wlawog y prydnawn hwnw, fel y methasant a myned yn mlaen a'u hamcan, a gorfu arnynt fyned i gysgod y graig i ochel y gwlaw, a rhywfodd, megis yn ddamweiniol, aethant i ymddiddan yn nghylch crefydd, a dwyshaodd yr ymddiddan yn fawr iawn gan adgofio ambell i air a wrandawsent mewn pregethau. Wrth gydymddiddan, soniwyd am ddau wr ieuangc oedd yn proffesu crefydd yn yr ardal, a gofynent pa un a'i ffolach ai doethach oedd y bechgyn hyny na hwy,  - fod y rhai hyny yn dilyn yr hen bobl, ac yn gweddio, a hwythau yn dilyn oferedd a gwag-ddifyrwch. Penderfynent yn y fan, mai y rhai hyny oedd yn eu lle, a hwythau o'u lle. " Yna," meddent wrth eu gilydd, "gwell fyddai i ninau fyned i wrando pregethau, a pheidio dilyn oferedd mwy," ac felly fu. Cawsant allan fod pregeth i fod mewn ty a elwid Cemaesbach yn yr hwyr, lle cyfagos i Gwalchmai. Aethant yno, a safasant yn nghanol yr ychydig oedd yn bresenol. William Evans, o'r Aberffraw, oedd y prif lefarwr, a Richard Owen, Glantraeth, yn dywedyd ychydig o'i flaen. Clywsant yno hefyd gyhoeddi un R. Jones, Pencaerau, i fod y Sabboth canlynol yn pregethu yn Llangristiolus, Aberffraw, a'r Cemaesbach, ac aethant i wrando arno i bob un o'r tri lle, a buont heb damaid o luniaeth o chwech o'r gloch y boreu hyd ddeg o'r gloch y nos. Yna dechreuodd yr holl gymydogaeth ddal sylw arnynt. Ond nid oedd sylw neb yn eu hatal i lynu gyda chrefydd, yr hyn a wnaethant byth mwy. Bu ef a'i frawd yn nechreu eu gyrfa grefyddol yn ymdrechgar iawn i sefydlu ysgol Sabbothol yn y gymydogaeth, yr hyn oedd yn lled ddyeithr yn Mon y pryd hwnw. Bu ei frawd farw yn sydyn yn Amlwch, Mai 16eg, 1805.

" 'Neillduwyd Mr. Roberts yn weinidog yn Salem a Bodedeyrn, Mehefin 29ain, 1810. Gweinyddai Meistri George Lewis, Llanuwchllyn;  J. Griffith, Caernarfon ; Jonathan Powell, Rhosymeirch ; John Evans, Amlwch ; A. Jones, Bangor ; W. Williams, Wern, a J. Evans, Bala, ar y pryd. Bu yn y weinidogaeth am wyth-mlynedd-ar-hugain, ac wedi dechreu pregethu naw mlynedd cyn hyny. Bu yn cyfaneddu y saith mlynedd cyntaf ar ol priodi yn Neuadd, Llanfaelog. Llafuriodd y pedair-blynedd-ar-ddeg cyntaf o'i weinidogaeth yn hen gapel Ceirchiog. Yn 1824, symudwyd yr achos i Salem Bryngwran, yr hwn a adeiladwyd trwy ei lafur ef. Dechreuodd afiechyd pwysig Mr. Roberts trwy darawiad o'r parlys. Bu farw Ebrill 12fed, 1838, yn 66 mlwydd oed. Bu Mrs. Roberts farw yn mhen un-mis-ar-bymtheg ar ol ei phriod.' Ychwanega Mr. Robert Roberts fel y canlyn :  -  Dywed Mr. R. Parry, Llandudno, am dano, mewn llythyr at fy mrawd hynaf, Edeyrn Mon, ar yr achlysur o'i farwolaeth: - " Y dysgybl yr oedd

508

yr Iesu yn ei garu," ydoedd yr ymadrodd a darawai fy meddwl yn rymus pan y clywais am symudiad eich anwyl dad o fyd y profedigaethau i'r wlad sydd a'i phleser i barhau; ac nid wyf yn ofni cael fy ngwrthbrofi am y priodoldeb o gymhwyso yr ymadrodd ato, pan yr ystyriwyf yr amrywiol ragoriaethau yn y rhai yr ymdebygolai i'r dysgybl anwyl. Wrth grybwyll hyn, nid wyf yn meddwl cyflwyno dim newydd i chwi ar yr hwn y mae duwiolfrydedd ei gymeriad wedi gwneyd y fath argraffiadau, etto hyderaf na bydd yn anerbyniol genych i mi gymeryd fy rhyddid i dywallt y teimladau a orlanwant fy meddwl, mewn cofion am deilyngdod yr ymadawedig, y rhai nas gall llymder colyn angau eu dihanfodi, nac oerder y bedd eu bwrw ymaith i anghof. Y mae y gyfeillach a fu rhyngom lawer gwaith yn syniadau byw ar fy meddwl ; ac y mae ei nodiadau synwyrlawn yn aros fel darluniadau trydanol o'm blaen, fel "y mae efe, wedi marw, yn llefaru etto." Ond am yr holl adeiladaeth a ddisgwyliem oddiwrtho ef yr ydym wedi eu cael, ac yn iach mwy am ddyfyniadau o Goodwin, a Charnock, ac Owen, y tri chedyrn Protestanaidd, fel yr arferai ef eu galw. Ffarwel mwy am ambell hanesyn am daith " Bechgyn y ffuneni cochion," fel y dywedai rhywun am dano ef ac Owen Thomas, Carrog, " yn y rhai nad oes unrhyw berygl i wrandawyr gael eu siomi am y gwirionedd, megis y mae yn yr Iesu." Er na chyrhaeddodd efe mo binacl uwchaf poblogrwydd areithyddol, etto gwrandewid ef bob amser gyda symledd neillduol. Byddai pwysfawredd ei destyn y fath, a'i ddifrifoldeb a'i ddeheurwydd yn ei drafod yn gyfryw, fel yr ennillai astudrwydd gwrandawiad pob cynnulleidfa, ac yn enwedig y rhai mwyaf goleuedig. Yr oedd ei weinidogaeth yn llawn o hyfforddiad bob amser, ac yn fynych yn cael eu dilyn gan yr eneiniad hwnw sydd yn rhagori ar bob arabedd dynol. Os oedd yn rhagori mewn rhyw gangen neillduol o'r athrawiaeth, tebygwyf mai llwybr cyfiawnhad pechadur ger bron Duw ydoedd hono. Addawodd bregethu ar y pwngc hwnw mewn cyfarfod penodol, ond y mae yr addewid hono heb ei chyflawni etto, ac y mae hi erbyn hyn wedi myned yn rhy ddiweddar i ddisgwyl am y cwblhad. Yr oedd rhywbeth yn ei ddull, hyd yn nod yn darllen ei destyn, yn ddigon i argyhoeddi meddwl pob gwrandawr o'i ddifrifoldeb diffuant. Dangosai feddwl uwchlaw ymgeisydd am hunanglod, a phob ymadrodd a ddyferai o'i enau, a ddeuai er eglurhad, argyhoeddiad neu adeiladaeth. Cof yw genyf glywed y diweddar Mr. R. Lloyd, Beaumaris, yn dyweyd mai efe ydoedd yr ysgrythyrwr goreu a welodd erioed; ac yn wir, cefais inau brawf o hyny lawer gwaith ; pan nad allwn ganfod adnod drwy gymorth y Mynegair, byddwn yn sicr o gael y cyfeiriad priodol ganddo ef. Rhaid ei fod felly wedi darllen y Bibl yn fanwl iawn. Yr oedd yn neillduol o ddifyrus yn ei gyfeillach, ni byddai prinder defnyddiau cyfeillach lle y byddai efe, nall ai mewn hanesyddiaeth, athrawiaeth, profiad, neu ynteu rhywbeth a dueddai er adeiladaeth fuddiol, fel y parai ras i'r gwrandawyr. Ond yn ystod ei waeledd diweddar, yr oedd ei dymherau wedi gwanhau llawer, fel nad allai ddal i ymddiddan nemawr am bethau mwyaf pwysig crefydd heb dori i wylo. Rywbyrd yn y gauaf diweddaf, pan oedd mewn hamdden neillduol o fanteisiol i gymdeithasu, tynais ymddiddan ag ef mewn ffordd o dybiaeth o'r hyn a allai fod yn ffurfio dedwyddwch y duwiol mewn gogoniant, tra yn adgoffa taith yr anialwch yn y byd hwn; er ei fod yn llawn awydd i ymddiddan, etto ni allai siarad tri gair ar y pryd heb wylo, yr oedd hyn yn dangos fod ei ysbryd yn ymaeddfedu ar gyfer y datodiad.

509

"Yr oedd ei ddull rheolaidd o fyw yn deilwng iawn o efelychiad. Codai yn foreu, a darllenai lawer. Cof genyf am y tro cyntaf i mi fod yn y Treban, ar nos Sadwrn ; penderfynais godi yn foreu ar y Sabboth, fel y byddwn i lawr o'i flaen. Codais cyn chwech o'r gloch, foreu hyfryd yn yr haf, ond y cyntaf a welwn oedd efe yn llewis ei grys yn darllen Esboniad Fawcett. Yr oedd ei olygiadau ar yr athrawiaeth yn ysgrythyrol, yn iachus, ac heb lynu nemawr wrth unrhyw drefniant dynol. Am ei gariad at yr achos crefyddol, yr oedd iddo air da gan y rhai oedd oddi allan, a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd yn hynod o haelfrydig at eraill, Eglwyswyr a phob dosbarth o Ymneillduwyr yr un modd.' Y mae Mr. Robert Roberts yn terfynu ei nodiadau gydag ychydig o ddyfyniadau o sylwadau tarawiadol ac effeithiol gan gymydog a chydlafurwr ei dad, sef Mr. W. Griffith, Caergybi : - " Tystia nad oedd chwe'-mlynedd-ar-hugain o'i golli wedi dileu ei hiraeth am dano, yn enwedig wrth ymweled a'r Treban, canys yno bob troy canfyddai bortread byw o hono. Yn ei fab hynaf, sef Mr. William Roberts, bellach, y gwelai olynydd teilwng iddo fel penteulu, a llawer o'i ddullwedd corphorol, yn gystal a'i ddelw foesol, a'i weithredoedd yn gyffredinol." Dywed wrth derfynu, " mai taith i Dreban fyddai yr atodiad goreu i'w fywgraphiad gan ei anwyl fab a'i gyfenwydd."

"Yr oedd gofal mawr ar feddwl Mr. Roberts am lwyddiant yr achos yn Salem wedi ei ymadawiad. Pan yr oedd yn uwchder ei barch a'i ddefnyddoldeb, teimlai weithiau raddau o lesgedd yn dyfod dros ei natur, a gofynai am gymorth un oedd heb fod yn nepell ar y Sabbothau. Ar un Sabboth neillduol gwrandawai ef y boreu yn Salem, aeth gydag ef at ddau o'r gloch i Faelog, a gwrandawai ef yr hwyr drachefn yn Salem. Ni phregethodd ei hun y Sabboth hwnw. Yn fuan wedi hyn, dywedodd wrth rai o'r cyfeillion yno, y buasai yn dda ganddo iddynt ofyn ei gydweithrediad yn fynychach, ac yr ewyllysiai o'i ran ei hun, os byddent hwy yn gweled hyny yn briodol, i'w alw i gydlafurio ag ef. Cymerwyd yr amnaid gan yr holl eglwys, a chafodd ei foddhau yn fawr yn hyny. Dywedodd ei fod yn teimlo yn ddedwydd iawn yn wyneb yr hyn a wnaed. Gwanhaodd ei iechyd yn fuan, ac ni phregethodd ond ychydig mwy. Awgrymwyd mewn gair yn barod fod Mr. Roberts mewn sefyllfa gysurus yn y byd. Dyma engraifft o'i deimlad crefyddol. Mewn cyfarfod gweinidogion, gofynid ei help tuag at godi capel mewn lle penodol ; dywedodd yntau ei fod yn meddwl y gallai wneyd yr hyn a ofynent, ac ychwanegai:- Yr wyf yn meddwl i mi gael cerydd rhagluniaethol ar amgylchiad tebyg i hwn unwaith. Yr oedd capel yn y fan ar fan yn cael ei godi, ac yr oedd ar y cyfeillion eisiau cymhorth arianol yno. 'Yr oedd cyfeillion i mi,' meddai, 'ar yr un pryd, yn adeiladu llong newydd, ac yn arfer taerineb mawr arnaf am fenthyg, a hwy rywfodd a lwyddasant, ac ni allwn estyn cynorthwy i'r ddau achos. Pa fodd bynag, codwyd y capel, heb un diolch i mi, ac aeth y llong yn ddrylliau ar y fordaith gyntaf.' Ni fynegodd pa un a gafodd golled ai peidio yn achos y llong, etto dyna oedd y casgliad. Yr oedd ganddo ddylanwad mawr gydaboneddion a thirfeddianwyr y wlad, a bu hyny yn gryn wasanaeth tuag at gael tir i adeiladu capeli mewn llawer man yn Mon. Trwyddo ef y cafwyd y tir lle y saif capeli Amlwch, Bodedeyrn, Bryngwran, a lleoedd eraill, ac y mae yn debygol fod Caergybi yn y rhestr.

"Y mae y teulu erbyn hyn wedi myned ar wasgar, a rhai wedi huno yn yr Iesu, a gorphwys yn y bedd. Y mae yn anhawdd iawn myned heibio

510

drwy y llwybr hwn heb gyfeirio gair yn mhellach at y llenor gwych, y meddyliwr trwyadl, a'r cristion prydferth, Edeyrn Mon, ac y mae yn anhawdd atal deigr wrth edrych ar golli y craff, y tawel, a'r llafurus, Robert, ei frawd, a chanfod yn y ddamwain annisgwyliadwy a'i symudodd ymaith, yr olwg arno yn cael ei gipio gan angylion y nef, o ganol y perygl, i'r cerbyd awyrol, a'i gyflymu gan y meirch tanllyd, heb i'w carnau wreichioni mellt na'u gweryriad greu taranau, ar hyd y brif-ffordd i d Tad yr Iesu, a'r etifeddiaeth a baratowyd i'r ffyddloniaid er cyn seiliad y byd!  Y mae coffadwriaeth y tad a'r meibion fel perarogl drwy yr holl wlad hyd y dydd hwn !"

WILLIAM MORRIS. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Castell-carreg-cenen, yn mhlwyf Llandeilo, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1796. Yn mhen ychydig wythnosau wedi ei enedigaeth symudodd ei rieni i Dreforis, Morganwg, lle y buont am rai blynyddau. Oddiyno symudasant i Lanelli, sir Gaerfyrddin. William oedd yr hynaf o deulu lluosog o blant. Gf oedd ei dad, a chafodd yntau a'i bedwar brawed, Joseph, Thomas, John, a David, eu dwyn i fyny yn y gelfyddyd hono. Pan yn llangc ieuangc derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Nghapel Als, gan Mr. Howell Williams, a chyn ei fod yn ugain mlwydd oed cafodd ei anog gan ei weinidog a'r eglwys i arfer ei ddawn fel pregethwr. Daeth ar unwaith yn nodedig o boblogaidd. Yn fuan ar ol iddo ddechreu pregethu derbyniwyd ef i athrofa Llanfyllin. Ar orpheniad ei amser yno, cafodd alwad gan yr eglwys yn Llanfyllin i fod yn ganlyniedydd i'w athraw, Dr. G. Lewis, yr hwn yn niwedd y flwyddyn 1821, a symudasai gyda'r athrofa o Llanfyllin i Drefnewydd. Urddwyd Mr. Morris, Ionawr 2i1, 1822. Bu yn llafurio yn y cylch hwn gyda chymeradwyaeth mawr am ddwy-flynedd-ar-bymtheg. Yn 1839, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nglandwr, ger Abertawy, a symudodd yno. Yn mhen ychydig amser wedi iddo ymsefydlu yn Nglandwr, cymerodd ofal yr eglwys yn Bethel, Llansamlet, mewn cysylltiad a Glandwr. Gan fod Bethel yn lled bell oddiwrth ei annedd, a bod yr eglwys yn Libanus, Treforis, yn fwy cyfleus iddo, ac yn dymuno cael ei wasanaeth, rhoddodd ofal Bethel i fyny ac ymgymerodd a gofal Libanus, etto mown cysylltiad a Glandwr. Yn y flwyddyn 1848, cafodd ar ei feddwl i roddi gofal ei eglwysi lluosog yn Nglandwr a Threforis i fyny a symud i Birkenhead, i gymeryd gofal yr eglwys Gymreig oedd newydd gael ei ffurfio yno. Tro anffodus iawn i'w deimladau a'i amgylchiadau oedd y symudiad hwn. Gyda ei fod yn dechreu ei waith yno, safodd amryw o'r gweithiau yn Birkenhead, a gwasgarwyd y Cymry o'r lle, nes i'r gynnulleidfa fyned yn agos i'r dim. Wedi bod yno mewn digalondid mawr am ychydig gyda dwy flynedd, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Mryngwran, ac yno y treuliodd y pedair-blynedd-ar-ddeg olaf o'i fywyd gweinidogaethol. Yr oedd Mr. Morris wedi mwynhau iechyd lled dda ar hyd ei oes, er cymaint a deithiodd ac a bregethodd, ond yn y flwyddyn 1858, cafodd wely llaith, yr hyn a anafodd ei iechyd, ac yn y diwedd a fu yn angau iddo. Gwanychodd yn raddol nes iddo yn y flwyddyn 1864, orfod rhoddi y weinidogaeth i fyny. Wedi rhoddi ei ofal gweinidogaethol i fyny, penderfynodd symud i Lanfyllin, maes cyntaf ei lafur, a lle genedigaeth Mrs. Morris, i dreulio gweddill ei oes. Ond amser byr a gafodd yno. Ni bu nemawr o'i d a'i wely o'r pryd yr aeth yno nes ei symud i, wlad well. Cyfnewidiodd er gwaeth ar y Sabboth, Hydref 29ain, 1865, a phrydnawn dranoeth, anadlodd ei anadl olaf.  Ei eiriau

511

diweddaf oeddynt, "Ffarwel, ffarwel." Claddwyd ef yn mynwent capel Annibynol Llanfyllin, lle y gorwedda gweddillion marwol amryw weinidogion enwog, a lluaws o grefyddwyr teilwng.

Cafodd Mr. a Mrs. Morris deulu lluosog. Y mae dau o'u meibion yn y weinidogaeth, sef Mr. Joseph Morris, gweinidog yr eglwys yn Brunswick Chapel, Caerodor, a Mr. W. E. Morris, yr hwn sydd yn genhadwr llwyddianus yn Salem, India. Yr oedd eu mab Griffith hefyd wedi dechreu pregethu, ac yn argoeli dyfod yn ddyn defnyddiol iawn, ond gwelodd yr Arglwydd yn dda ei alw ato ei hun ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus.

Yr oedd William Morris o ran corph tua phum' troedfedd a naw modfedd o daldra, yn felyn ei wallt, ac yn nodedig o luniaidd a hardd ei ymddangosiad. Yr oedd ei lais yn rhyfeddol o dreiddiol a pherseiniol. Nid oedd nemawr gwell ac effeithiolach canwr nag ef yn Nghymru. Fel dyn yr oedd yn nodedig am ei sirioldeb a'i gyfeillgarwch. Buasai yn anhawdd i neb dreulio awr yn ei gyfeillach heb ei anwylo. Yr oedd hynawsedd a charedigrwydd yn nodwedd amlwg ynddo ef, a phob un o'i frodyr. Yr oedd yn ddyn hynod am dynerwch ei deimladau. Gwelsom ef lawer gwaith wrth weddio a phregethu yn tori allan i wylo nes methu myned yn mlaen. Yr oedd yn nodedig o doddedig ac effeithiol fel gweddiwr cyhoeddus, ac yn neillduol felly yn mlynyddau olaf ei fywyd. Fel pregethwr yr oedd yn tra rhagori ar y rhan fwyaf o'i gydoeswyr. Yn nhymor ei weinidogaeth yn Llanfyllin, nid oedd un gweinidog Annibynol yn y Gogledd mor boblogaidd ag ef oddieithr Williams o'r Wern, a buasai ei gyhoeddiad ef agos yn mhob lle yn sicrhau torf mor luosog o wrandawyr ag a dynesid yn ngbyd i wrandaw y pregethwr tywysogaidd o'r Wern. Yr oedd ei bregethau yn wastad wedi eu myfyrio yn dda, ac yn cael eu traethu ganddo mewn iaith syml, ddirodres, ac eglur. Yr oedd ei barabliad yn glir a pherseiniol, a'i frawddegau yn ddestlus. Lled araf y siaradai am yr haner awr cyntaf o'i bregeth, yna dyrchafai ei lais fel udgorn, a phan y buasai yn ei lawn hwyl yr oedd ei floeddiadau perseiniol mor effeithiol fel nas gallasai y gwrandawr caletaf a mwyaf disylw lai na theimlo. Yr oedd ei ddoniau wedi marweiddio i raddau mawr yn yr ugain mlynedd olaf o'i fywyd mewn cyferbyniad i'r hyn oeddynt yn moreu ei oes, and parhaodd cyhyd ag y gallodd ddringo i'r pulpud i fod yn bregethwr gwir ddefnyddiol a derbyniol.

Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, a phregethai yn yr iaith Saesonig gyda chywirdeb a rhwyddineb. Ni ddigwyddodd i ni erioed daro wrth un rhagorach nag ef fel ysgrifenydd llythyrau. Yr oedd ei lawysgrifen a'i gyfansoddiad yn bob peth ag y gallesid ddymuno iddynt fod. Dyn cryno a thlws ydoedd yn ei gorph, ei wisgiad, ei gyfansoddiadau, lawysgrifen, ei draddodiad, a phob peth arall. Bydded heddwch i'w lwch a bendith Duw eu tad ar ei blant, ei wyrion, a'i hiliogaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

  

MAELOG

(Llanfaelog parish)

Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanfaelog. Dechreuwyd pregethu yn mhentref Rhosyneigyr, gan Mr. George Rhydero, yr hwn oedd yn y lle ar y pryd yn cadw ysgol. Tyrai lluaws mawr i wrando yn Rhosyneigyr, a bernir mai yno y dylesid codi y capel, am ei fod yn fwy cyfleus na'r lle y mae i gorph y boblogaeth. Adeiladwyd y capel yn 1837, a galwyd ef Rehoboth. Costiodd y capel a'r ty perthynol iddo 140p., a bu Mr. G.

512  

Rhydero yn dra ymdrechgar i gasglu ato. Nid oedd ond naw o aelodau yn y lle pan aed i'r capel. Wedi ymadawiad Mr. Rhydero o'r ardal bu y lle hwn mewn cysylltiad a Bryngwran hyd y flwyddyn 1856, pryd y rhoddwyd galwyd i Mr. Richard William Roberts, gwr ieuangc o'r gymydogaeth, ond a fuasai am dymor yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn mis Tachwedd, y flwyddyn hono. Bu yma yn ddiwyd am bedair blynedd hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd defnyddiol. Bu y lle yma mewn cysylltiad gweinidogaethol a Llanfairneubwll dros dymor, ond yn ddiweddar y mae wedi ail uno a'r eglwys yn Bryngwran, fel yr arferai fod gynt. Ni bu yr eglwys yma erioed yn lluosog, ac nis gellir disgwyl iddi fod gan nad yw poblogaeth yr ardal ond teneu.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

RICHARD WILLIAM ROBERTS. Ganwyd ef mewn fferm a elwir Cerrigengan, yn sir Fon, yn y flwyddyn 1829. Magwyd ef mewn teulu crefyddol, a phan yn ieuangc derbyniwyd ef yn aelod yn Capel mawr, lle yr oedd rieni yn aelodau. Ymunodd ar ol hyn a'r eglwys yn Gwalchmai, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu am ysbaid yn athrofa y Bala, ac wedi dychwelyd adref, derbyniodd alwad gan yr eglwys fechan yn Maelog, ac urddwyd ef yno yn mis Tachwedd, 1856. Ymroddodd yn ffyddlawn i gyflawni ei weinidogaeth. Cymerodd ofal yr eglwys fechan yn Siloam, Llanfairneubwll, mewn cysylltiad a Maelog, a byddai yn myned yn fisol i weinyddu yr ordinhadau yn Brynsiencyn, ac ymwelai yn aml ag eglwysi eraill y sir, ac yr oedd yn dra derbyniol yn mhob man. Yn mis Tachwedd, 1860, aeth ar daith trwy ran o sir Gaernarfon, a chafodd anwyd, yr hyn a drodd yn glefyd, a thrwy anhawsder mawr y cyrhaeddodd d ei fam, a gwaethygodd hyd ddydd ei farwolaeth, Sabboth, Rhagfyr 2i1, 1860, pryd y bu farw yn 32 oed. Claddwyd ef yn mynwent Capel mawr, a daeth tort luosog i'w hebrwng i d ei hir gartref, a chyflawnwyd y gwasanaeth angladdol gan Meistri J. Roberts, Llanerchymedd; W. Griffith, Caergybi, a D. James, Capel mawr.

  

GWALCHMAI

(Trewalchmai parish)

Yr oedd yma bedwar o frodyr, a thair o chwiorydd crefyddol yn aelodau yn Salem, Bryngwran, a daeth i'w bryd i gychwyn achos yn y lle. Arferent fyned fynychaf ddwywaith bob Sabboth i Fryngwran, fel yr oedd ganddynt o leiaf ddeng milldir i gerdded bob Sabboth. Dyma eu henwau, Evan Griffith, Siop; Edward Williams, Hugh Thomas, Robert Owen, Elizabeth Owen, Mary Lewis, ac Eleanor Williams. Yn y flwyddyn 1844, cymerodd Mr. Evan Griffith d anedd i gynal moddion crefyddol yno, a buwyd yn addoli yno am ysbaid dwy flynedd. Corpholwyd yma eglwys yn cynwys y personau a enwyd, gydag eraill a ymunodd a hwy. Pregethid iddynt gan weinidogion a phregethwyr y sir, ac yr oedd Mr. Thomas Davies, yr hwn oedd ar y pryd yn Glanyrafon, yn pregethu yn amlach yma na neb arall. Prynwyd darn o dir at adeiladu gan un Hugh Jones, a thalwyd am dano gan Mr. Evan Griffith, ond cafwyd ar ol hyny drafferth fawr i'w sicrhau gan mai ar y tir cyffredin yr ydoedd, ac am yr amheuid hawl gyfreithiol H. Jones arno, bu raid talu arian mawr drachefn er ei sicrhau. Cy-

513

merodd Mr. E. Griffith holl ofal yr adeiladu mewn arolygu a thalu am bob peth fel y byddai galwad, and ad-dalodd yr eglwys iddo y cwbl. Costiodd y capel 120p. Agorwyd ef Sul a Llun y Pasg 1846. Galwyd ef Moriah. Yn y flwyddyn 1848, rhoddwyd galwad i Mr. Richard Hughes, aelod o'r eglwys, ac urddwyd ef yn weinidog yma, ac y mae yn parhau i lafurio yma hyd yr awr hon.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma: -

  

GLANYRAFON

(Llangoed parish)

Dechreuwyd yr achos yma tua'r flwyddyn 1840, trwy ymdrech un o'r enw Michael Thomas, a ddaeth i'r ardal, a chodwyd y capel yn fuan ar ol hyny. Costiodd 70p., a galwyd ef Nazareth. Gwan iawn yw yr achos yma o'r dechreuad. Bu Mr. Thomas Davies yn byw yma am dymor, a bu yn dra ymdrechgar gyda'r achos. Coffeir yn barchus am garedigrwydd Mr. Griffith, offeiriad y plwyf, tra yr ydoedd yn yr ardal. Yr oedd ei d yn agored i lettya y pregethwyr a ddeuai heibio, a byddai ef ei hun yn aml yn gwrando yn y lle. Bu yn gwasanaethu plwyfau Llandrygarn a Bodwrog am 35 mlynedd, a pherchid ef gan bawb fel boneddwr hynaws a christion efengylaidd. Bu fwy nag unwaith dan gerydd oddiwrth awdurdodau ei Eglwys oblegid ei fod yn rhy ryddfrydig a chymdeithasgar a'r Ymneillduwyr. Mae achos bychan Glanyrafon, mewn cysylitiad a'r achos yn Ngwalchmai, dan ofal Mr. R. Hughes.

  

GROESLON

(Pentraeth parish)

Dechreuwyd pregethu yma yn nhymor gweinidogaeth Mr. B. Jones, yn Rhosymeirch, a bu yr achos yma yn dra blodeuog am flynyddau. Bu Mr. Hugh Lloyd, wedi hyny o Towyn, yma yn cadw ysgol, ac yr oedd efe yma pan godwyd y capel yn y flwyddyn 1815. Nis gwyddom pa fodd y buwyd cyhyd ar ol dechreu yr achos yma cyn adeiladu capel. Hydref 15fed, 1815, y cofrestrwyd y capel at addoli a hyny gan Mr. Jonathan Powell. Agorwyd y capel Tachwedd 8fed a'r 9fed, a galwyd ef Teman. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri W. Hughes, Brynbeddau; D. Griffith, Bethel ; D. Roberts, Bangor; J. Jones, Talgarth ; J. Evans, Beaumaris, a J. Griffith, Caernarfon. Yn y flwyddyn 1818, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Roberts, myfyriwr o athrofa LIanfyllin, ac urddwyd ef Medi 23ain, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethodd Mr. D. Roberts, Pentir, ar natur eglwys ; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Lewis, Bala; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. Arthur Jones ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Evans, Beaumaris, ac i'r eglwys gan Mr. J. Powell, Rhosymeirch.* Llai

* Cofnodion Mr. Jonathan Powell.  

514  

na dwy flynedd yr arhosodd Mr. E. Roberts yma, canys ymfudodd i'r America. Daeth Mr. Titus Jones yma o athrofa Neuaddlwyd, a bu dros rai blynyddau yn pregethu ac yn cadw ysgol yn y wlad yma, ond nid oedd yr eglwysi yn addfed i'w urddo, ac oblegid hyny efe a ymadawodd at y Methodistiaid, ac a ddychwelodd i'r De, lle y treuliodd weddill ei oes. Yn y flwyddyn 1825, rhoddwyd galwad i Mr. William Roberts, myfyriwr o athrofa Neuaddlwyd, i fod yn weinidog yma, ac yn Hermon, a Cana, ac urddwyd ef yn Hermon, Hydref 12fed, y flwyddyn hono. Bu yma am bum' mlynedd, nes y rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd Mai 29ain, 1830. Yn mhen dwy flynedd wedi hyny, rhoddwyd galwad i Mr. Ishmael Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Llansanan, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yma yn y flwyddyn 1832. Bu Mr. Jones yma am ddeng mlynedd; ac am flynyddoedd ar ol ei ymadawiad bu yr eglwys heb weinidog, ac yn y cyfamser dirywiodd yr achos yn fawr. Nid oedd yma ond ychydig aelodau, ac yr oedd can' punt o ddyled ar y capel, yr hyn a deimlid yn faith trwm. Ymgymerodd Mr. Hugh Roberts a thalu y ddyled, a thrwy ei ddiwydrwydd yn casglu yn mhob man y cai ddrws agored, llwyddodd i'w dileu. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Hugh Roberts i fod yn weinidog iddi, ac urddwyd ef Ionawr 15fed, 1861, ac y mae yn parhau i lafurio yma, er nad yw yr achos ond egwan. Bu Hugh Williams a Jane Williams yn noddwyr caredig i'r achos, a chyrchai J. Davies, meddyg, Niwbwrch, yma yn ffyddlon am flynyddau er pelled ei ffordd.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

EVAN ROBERTS. Mab ydoedd i Hugh Roberts, Llwyniolyn, plwyf Llanfawr, gerllaw y Bala. Derbyniwyd ef yn aelod yn Rhydywernen, ac yno y dechreuodd bregethu. Aeth i'r athrofa yn Wrecsam, ac yr oedd yn fyfyriwr ynddi pan y symudodd i Lanfyllin. Urddwyd ef yn y Groeslon, Mon, yn mis Medi, 1818, a chyn diwedd y flwyddyn ganlynol ymfudodd i America. Bu am yn agos i flwyddyn yn gwasanaethu yr eglwys Gymreig yn New York, a chyn diwedd y flwyddyn 1820, ymsefydlodd yn weinidog yn Stuben. Llafuriai haner ei amser yn Stuben, a'r haner arall gyda'r Saeson yn y Turnpike. Yn y flwyddyn 1833, aeth i Paddy's Run, Ohio, ac wedi bod yno flwyddyn, dychwelodd i Stuben, lle y llafuriodd weddill ei oes. Bu farw Medi 10fed, 1836, yn 46 mlwydd oed. Dyna y cwbl a wyddom o'i hanes, ac yr ydym yn ddyledus am yr ychydig gofnodion uchod i " Hanes eglwys Gynnulleidfaol Stuben," a gyhoeddwyd yn y Cenhadwr Americanaidd, am Gorphenaf, 1871, wedi ei gasglu gan Mr. Sem Phillips, gynt o Langynidr.

WILLIAM ROBERTS. Un o gymydogaeth Llanrwst ydoedd. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nhrefriw, ac yno y dechreuodd bregethu. Wedi bod am ysbaid yn athrofa Neuaddlwyd, derbyniodd alwad o'r Groeslon, a Hermon, a Llanddaniel, ac agorwyd capel Cana dranoeth wedi ei urddiad, a bu yn gweinidogaethu yn y tri lle hyd ei farwolaeth. Dyn byr, cryf o gorpholaeth ydoedd, a gweithiodd yn galed yn nyddiau ei ieuengctyd. Yr oedd o ddeall cryf, ac yn nodedig am gywirdeb ei egwyddor, a gwastadrwydd diargyhoedd ei holl fywyd. Yr oedd ganddo ddawn pregethu a'i gwnelai yn dra derbyniol gan gynnulleidfaoedd, ac er nad oedd llawer o addurn arno, teimlid wrth ei wrando ei fod wedi derbyn ysbryd y weinidogaeth.

515

Priododd wraig weddw mewn fferm, yr hon oedd gryn lawer yn hn nag ef, yr hyn a barodd i ddynion prysur ac ymyrgar ei feio yn drwm, a chymerodd yntau hyny yn lled ddwys at ei feddwl. Bu yn dyoddef yn hir oddiwrth y clefyd melyn, and ymddangosai ar brydiau yn gwella, a phan y gwelai arwyddion o hyny, llonai ei galon yn fawr, a phregethai a'i holl egni. Ond ei afiechyd a orchfygodd, a bu farw Mai 29ain, 1830, a chladdwyd ef yn mynwent Rhosymeirch.

Translation by Eleri Rowlands (July 2013)

Preaching started here during the ministry of Mr. B. Jones, in Rhosymeirch, and the cause flourished here for years. Mr. Hugh Lloyd, who went to Towyn later, came here to run a school, and he was here when the chapel was built in 1815. We do not know why they took so long to build the chapel after starting the cause. The chapel was registered for preaching on October 15th, 1815, by Mr. Jonathan Powell. It was opened on November 8th and 9fth, and called Teman. On the occasion Messrs W. Hughes, Brynbeddau; D. Griffith, Bethel ; D. Roberts, Bangor; J. Jones, Talgarth ; J. Evans, Beaumaris, and J. Griffith, Caernarfon preached. In 1818, a call was sent to Mr. Evan Roberts, a student from LIanfyllin college, and he was ordained on September 23rd, that year. On the occasion Mr. D. Roberts, Pentir, preached on the nature of the church; the questions were asked by Mr. J. Lewis, Bala; the ordination prayer was given by Mr. Arthur Jones; Mr. J. Evans Beaumaris preached to the minister, and Mr. J. Powell, Rhosymeirch to the church.*Mr

* Mr. Jonathan Powell's records.

514

Roberts stayed here less than two years, as he emigrated to America. Mr. Titus Jones came here from Neuaddlwyd college, and he stayed some years preaching and keeping a school in this area, but the church wasn't mature enough to ordain him, and because of this he left to go to the Methodists, and he returned to the south, where he spent the rest of his life. In 1825, a call was sent to Mr. William Roberts, a student from Neuaddlwyd college, to be a minister here, and in Hermon, and Cana, and he was ordained in Hermon, on October 12th, that year. He was here for five years, until death put an end to his life on May 29th, 1830. Within two years, a call as sent to Mr. Ishmael Jones, who was a minister in Llansanan, and he started his ministry here in 1832. Mr. Jones stayed here for ten years; and the church was without a minister for years after he left, and the cause declined greatly. They were very few members, and a hundred pound of debt still remained on the chapel, which was a heavy burden. Mr. Hugh Roberts undertook to pay the debt, and through his diligence in collecting everywhere he found an open door, he succeeded in deleting it. The church sent a call to Mr. Hugh Roberts to be their minister, and he was ordained on January 15th, 1861, and he continues to labour here, even though it is a weak cause. Hugh Williams and Jane Williams were kind donors to the cause, and J. Davies, a doctor, from Newborough, came here faithfully for years despite the distance.

BIOGRAPHICAL NOTES

EVAN ROBERTS. He was the son of Hugh Roberts, Llwyniolyn, Llanfawr parish, near Bala. He was accepted as a member in Rhydywernen, and it was there he started preaching. He went to Wrexham college, and was a student there when he moved to Llanfyllin. He was ordained Groeslon, Anglesey, in September, 1818, and before the end of the next year he emigrated to America. He ministered to the Welsh church in New York for nearly a year, and before the end of 1820, he settled as a minister in Stuben. He laboured half his time in Stuben, and the other half with the English in Turnpike. In 1833, he went to Paddy's Run, Ohio, and after a year, he returned to Stuben, where he laboured for the rest of his life. He died on September 10th, 1836, at the age of 46 years. That is all we know of his history, and we are indebted for the few notes above to " Hanes eglwys Gynnulleidfaol Stuben," which was published by the American Missionary, for July, 1871, collected by Mr. Sem Phillips, formerly of Llangynidr.

WILLIAM ROBERTS. He was from Llanrwst. He was accepted as a member in Trefriw, where he started preaching. After being in Neuaddlwyd college for a while, he accepted a call from Groeslon, and Hermon, and Llanddaniel, and Cana chapel was opened the day after his ordination, and he ministered in the three places until his death. He was a short, physically strong man, and he worked hard during his youth. He was intelligent and notable for his strong principles, and the steady conviction of his whole life. He had a gift for preaching that made him very pleasing to congregations, and although he wasn't flamboyant, listening to him made one feel that he had been blessed with the spirit of ministry.

515

He married a widow in a farm, who was quite a lot older than him, which made busy, interfering men to judge him greatly, and he took it to heart quite deeply. He had suffered from jaundice for quite some time, and seemed to be getting better at times, and when he saw those signs of improvement, he was heartened, and he preached with all his energy. But his ailment overcame him, and he died on May 29th, 1830, and he was buried in Rhosymeirch cemetery.

 

HERMON

(Llangadwaladr parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llangadwaladr. Dechreuwyd pregethu yma tuar flwyddyn yn 1813. Adeiladwyd  y capel yn 1814. Rhoddwyd tir i adeiladu arno gan William W. Pierce, Tyddynenwe, a bu ef a Rowland Jones, Felin, Bodorgan, a Rowland Roderic, Fachell, yn cymeryd gofal yr adeiladaeth. Yr oedd y gwyr hyn yn aelodau yn y Capel mawr, ac yr oeddynt hwy a'u gweinidog, Mr. J. Powell, yn cyduno i gychwyn yr achos. Deg oedd nifer yr aelodau pan gorpholwyd yr eglwys. Agorwyd y capel Mehefin 12fed a'r 13eg, 1815. Pregethodd Meistri H. Hughes, Dulas ; W. Hughes, Brynbeddau ; D. Beynon, Llanerchymedd ; J. Evans, Beaumaris ; R. Roberts, Ceirchiog; Thomas Davies a William Jones, Dinbych, (T. Davies, Abertawy, a W. Jones, Amlwch, wedi hyny). Enwyd y capel yn Hermon gan Mr. J. Powell.* Cynyddodd yr achos i raddau dymunol, a rhoddwyd galwad i Mr. Evan Roberts i fod yn weinidog yma ac yn y Groeslon. Ychydig gyda blwyddyn yr arosodd yma, canys ymfudodd i America yn y flwyddyn 1819. Buwyd bum' mlynedd ar ol hyny heb weinidog, hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr. William Roberts, yr hwn a urddwyd yma Hydref 12fed, 1825. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Jones, Caernarfon ; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. Roberts, Salem ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. O. Thomas, Carrog ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. P. Griffiths, Llanrwst, ac i'r eglwys gan Mr. A. Jones, Bangor. Llafuriodd Mr. Roberts yma hyd ei farwolaeth yn Mai, 1830. Dilynwyd ef gan Mr. Ishmael Jones, yr hwn a lafuriodd yma am bedair-blynedd-ar-ddeg. Ailadeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1843, trwy draul o 140p. Ymadawodd Mr. Jones oddiyma i Lanrwst, ac ar ol hyny bu yr eglwys dros rai blynyddau heb weinidog. Bu Mr. P. G. Thomas yma yn pregethu ac yn cadw ysgol dros dymor. Ond yn 1853, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Ridge, Llangwyfan, a bu yma dair-blynedd-ar-ddeg, hyd nes y gwaelodd ei iechyd, fel y bu raid iddo roddi y weinidogaeth i fyny. Yn y flwyddyn 1869, ymunodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Capel mawr i roddi galwad i Mr. David C. Rees, Talybont, a dechreuodd ei weinidogaeth yma ar y 15fed o Awst, y flwyddyn hono. Gan fod yr hen gapel wedi myned yn gyfyng ac adfeiliedig, penderfynwyd yn unfrydol cyn diwedd y flwyddyn hono i gael capel newydd, ac wedi myned trwy yr ardal cafwyd addewidion haelionus am gynorthwy. Tynwyd y cynllun gan Mr. R. G. Thomas, Menai Bridge, a rhoddwyd y gwaith allan i Mr. R. Roberts, Caernarfon. Pregethwyd gyntaf yn y capel newydd gan Mr. D. C. Rees, y gweinidog, Ionawr 29ain, 1871, a chynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad ar yr 21 ain a'r 22ain o'r Mawrth canlynol. Mae yn

* Cofnodion Mr. J. Powell.

516  

gapel prydferth, ac yn werth, a chyfrif y cludiad, 800p., ond nid oes yn aros o ddyled arno ond 386p., ac y mae yr eglwys a'r gynnulleidfa yn penderfynu gwneyd ymdrech cyn diwedd y flwyddyn i gael rhan dda o'r swm hwnw ymaith.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

THOMAS RIDGE. Ganwyd ef yn Brynrhyd yn agos i Lanfaircaereinion, yn sir Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1801. Daeth yn ddeiliad argraffiadau crefyddol dwys pan yn ieuangc, a derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenarth, gan Mr. James Davies, Llanfaircaereinion. Wrth weled ei gynydd mewn gwybodaeth, a'i ddoniau nodedig mewn gweddi, cymhellwyd ef gan y gweinidog a'r eglwys i ddechreu pregethu. Wedi pregethu am dymor o gylch ei gartref, aeth at Mr. W. Davies, brawd Mr. J. Davies, Llanfair, i Nefyn, a bu yn pregethu ac yn cadw ysgol yno am ychydig. Dechreuodd ei weinidogaeth yn y flwyddyn 1835, yn mysg yr eglwysi bychain yn Rhiw a Llansanan, ac wedi llafurio yno dros rai blynyddoedd, symudodd i Langwyfan. Tra yn aros yno, teithiai yn rheolaidd dros y mynydd i sir Flint, a bu ef y prif offeryn i sefydlu yr achos yn Jerusalem, gerllaw y Wyddgrug, a symudodd yno i fyw. Yn y flwyddyn 1853, symudodd i Hermon, Llangadwaladr, Mon, lle y treuliodd weddill ei oes. Gorfodwyd ef gan waeledd ei iechyd i roddi y weinidogaeth i fyny yn y flwyddyn 1865, ond yr oedd yn flaenorol wedi ei dderbyn ar Drysorfa yr hen weinidogion. Bu yn ddiwyd iawn tra y daliodd ei nerth a'i iechyd. Teithiodd lawer, ac yn wastad ar ei draed, a phregethai mewn amser ac allan o amser. Yr oedd yn ddyn siriol a bywiog, a llawer iawn o ddifyrwch yn ei natur. Pregethai yn dda, ond mewn gweddi yr oedd yn rhagori. Nid yn aml y clywid neb mwy dylanwadol nag ef wrth ddechreu yr oedfa ar faes y gymanfa. Yr oedd ganddo ryw O ! fawr, uchel, gylchiog, gwmpasog, oedd yn hollol briodol iddo ei hun, a phan y ceid hono ganddo ar ei weddi, neu ar ei bregeth, gellid bod yn sicr fod yr ergyd wedi myned allan. Bu fyw bywyd diargyhoedd, a phan y daeth y diwedd yr oedd yn barod iddo. Bu farw Ebrill 13eg, 1867, yn 66 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llangadwaladr, yn mhresenoldeb lluaws mawr o alarwyr.

Translation by Eleri Rowlands (July 2013)

This chapel is in the parish of Llangadwaladr. Preaching started here around 1813. The chapel was built in 1814. Land was donated by William W. Pierce, Tyddynenwe, and he and Rowland Jones, Felin, Bodorgan, and Rowland Roderic, Fachell, oversaw the building work. These men were members in Capel Mawr, and they and their minister, Mr. J. Powell, agreed to start the cause. There were ten members when the church was embodied. The church was opened on June 12th and 13th, 1815. Messrs H. Hughes, Dulas ; W. Hughes, Brynbeddau ; D. Beynon, Llanerchymedd ; J. Evans, Beaumaris ; R. Roberts, Ceirchiog; Thomas Davies and William Jones, Dinbych, (T. Davies, Swansea, and W. Jones, Amlwch, later) preached. Mr. J. Powell.* named the chapel Hermon. The cause increased to an acceptable degree, and Mr. Evan Roberts was given a call to be the minister here and in Groeslon. He stayed here just short of a year, as he emigrated to America in 1819. They were without a minister for five years after that, until they gave a call to Mr. William Roberts, who was ordained here on October 12th, 1825. On the occasion Mr. W. Jones, Caernarfon, preached on the nature of the church; the questions were asked by Mr. R. Roberts, Salem; the ordination prayer was given by Mr. O. Thomas, Carrog; Mr. P. Griffiths, Llanrwst, preached to the minister and Mr. A. Jones, Bangor preached to the church. Mr. Roberts laboured here till his death in May, 1830. He was followed by Mr. Ishmael Jones, who laboured here for fourteen years. The chapel was built in 1843, at an expense of 140. Mr. Jones left here for Llanrwst, and after that the church was without a minister for some years. Mr. P. G. Thomas preached here and kept a school for a while. But in 1853, a call was sent to Mr. Thomas Ridge, Llangwyfan, and he was here for thirteen years, until his health deteriorated, and he had to give up the ministry. In 1869, this church joined the church in Capel Mawr to call Mr. David C. Rees, Talybont, and he started his ministry here on 15th August, that year. Since the old chapel had become too small and the building was deteriorating, it was decided unanimously before the end of the next year that they should have a new chapel, and having gone through the area they received generous promises of support. The plans were drawn up by Mr. R. G. Thomas, Menai Bridge, and the work was undertaken by Mr. R. Roberts, Caernarfon. Mr. D. C. Rees, the minister was the first to preach, on January 29th, 1871, and the opening meetings were held on the 21st and 22nd of the following March. It is

* Mr. J. Powell's records.

516

a beautiful chapel, and worth, including transporting, 800, but there is no more than 386 outstanding on the debt, and the church and the congregation have made a decision to make an effort by the end of the year to delete a great deal of the debt.

BIOGRAPHICAL NOTES

THOMAS RIDGE. He was born in Brynrhyd near Llanfaircaereinion, in Montgomeryshire, in 1801. He became the possessor of deeply religious convictions when he was young, and he was accepted as a member in Penarth, by Mr. James Davies, Llanfaircaereinion. While observing his growth in knowledge, and his notable talent in prayer, he was encouraged by the minister and the church to start preaching. Having preached for a while around his home, he went to see Mr. W. Davies, the brother of Mr. J. Davies, Llanfair, in Nefyn, and he preached and kept a school there for a short while. His ministry started in 1835, amongst the small churches in Rhiw and Llansanan, and having laboured there for some years, he moved to Llangwyfan. While staying there, he travelled regularly over the mountain to Flintshire and he was the main instrument in establishing the cause in Jerusalem, near Mold, and he moved to live there. In 1853, he moved to Hermon, Llangadwaladr, Anglesey, where he spent the rest of his life. He was forced through ill health to give up the ministry in 1865, but he had previously been accepted in the Treasury of old ministers. He was very diligent while his health and energy held out. He travelled a lot, and was always on his feet, and he preached in time and out of  time (?). He was a pleasant and lively man, and there was a lot of humour in his nature. He preached well, but in prayer he excelled. It is not often that a more influential person than he is heard as he started a service in the field of the assembly. He possessed a great, rounded, circuitous, 'O!', that was entirely appropriate to himself, and when that came during his prayer, or in a sermon, one could be certain that the blow had been struck and received by the congregation. He lived a blameless life, and when the end came he was ready. He died on April 13th, 1867, at the age of 66, and he was buried in Llangadwaladr cemetery, in the presence of a multitude of mourners.

 

CANA, LLANDDANIEL

Cychwynodd yr achos Annibynol yn yr ardal hon o dan amgylchiadau neillduol. Rhyw ddiwrnod yn y flwyddyn 1822, yr oedd un o'r enw Evan Parry, dilledydd, wrth ei alwedigaeth, yn gweithio yn Careg-y-ddyfnallt. Aeth Ellen Hughes, gwraig y ty, ac yntau i siarad am grefydd. Nid oedd un o'r ddau ar y pryd yn grefyddol, ond wedi eu dwyn i fyny mewn teuluoedd crefyddol. Pan yr oeddynt yn ymddiddan, daeth Michael Hughes, gwr y ty i fewn, a phan ddeallodd beth oedd ganddynt mewn llaw, ymunodd hwy yn yr ymddiddan. Cauwyd drws yr ystafell lle y gweithiai Evan Parry ynddi, a threuliodd y tri o gylch awr o amser mewn cyfrinach grefyddol. Wrth ymadael a'u gilydd y noson hono, gwnaed penderfyniad i gyfarfod a'u gilydd yn yr un lle yn mhen yr wythnos. Pen yr wythnos a ddaeth, ac erbyn hyny yr oedd saith o bersonau yn y cynnulliad hwnw. Michael ac Ellen Hughes, gwr a gwraig y ty; Evan Parry, Tanyfynwent,

517

ac Ann Parry ei wraig ; Ann Roberts, Ty'nylon, (chwaer gwraig y ty); Jane Hughes, Hensiop, a William Williams, Llaindrogan. O hyny allan cytunasant i gyfarfod yn wythnosol. Yn fuan wedi i gyfarfod wythnosol gael ei sefydlu ganddynt, daeth un Owen Evans, o'r Graigbach, Pentreberw, ac un Owen Jones, o Brynsiencyn, i'w cynorthwyo. Buwyd yn pregethu ac yn cadw ysgol Sabbothol yn Nghareg-y-ddyfnallt am rai blynyddau cyn codi capel yma. Yr oedd yma eglwys wedi ei ffurfio ar y pryd yn cynwys chwech o aelodau. Y personau a ofalent am yr achos yma yn benaf yn ei gychwyniad oeddynt Meistri J. Evans, Beaumaris; R. Thomas, Cerigllwydion, Llandegai, ac S. Edwards, Tre'rdryw. Yn y flwyddyn 1825, adeiladwyd yma gapel. Costiodd yr adeilad o gylch 140p. Agorwyd ef Hydref 13eg, 1825, dranoeth i urddiad Mr. W. Roberts, yn Hermon. Yn mysg eraill pregethodd Mr. A. Jones, Bangor, yn yr agoriad oddiar Ioan ii. 1-11, a dywedodd mai Cana y gelwid y capel. Llafuriodd Mr. Roberts yma yn ddiwyd a ffyddlon hyd ddydd ei farwolaeth, ac ni bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Dilynwyd ef yma gan Mr. Ishmael Jones, yr hwn a fu yma am tuag wyth mlynedd. Wedi ymadawiad Mr. Jones bu yn eglwys heb yr un gweinidog sefydlog am flynyddau, hyd nes yn urddwyd Mr. William G. Thomas yma, ac ni bu ei arosiad ef ond byr yn y lle. Rhoddwyd galwad i Mr. William Evans, mewn cysylltiad a'r Dwyran, yn y flwyddyn 1853. Yr oedd Mr. Evans yn y Dwyran cyn hyn. Yr oedd yr eglwys y pryd hwnw yn rhifo 50 o aelodau. Yn amser Mr. Evans, sef yn y flwyddyn. 1855, helaethwyd y capel. Dilewyd y ddyled oedd yn aros arno trwy ymdrechiadau cartrefol, a chynaliwyd cyfarfod jubili Mehefin 24ain, 1861. Wedi ymadawiad Mr. Evans yn y flwyddyn 1857, bu yr eglwys am hir amser heb yr un gweinidog sefydlog, ond byddai Mr. R. Hughes, Gwalchmai, yn dyfod yma yn fisol i bregethu a gweinyddu yn ordinhadau. Trwy yr adfywiad a fu yn niwedd y flwyddyn 1859 a dechreu 1860, lluosogodd yr eglwys i fwy na chymaint arall ag oedd o'r blaen, ao y mae yn dal o gylch yr un nifer o hyny hyd yn awr. Ni phrofodd yr un lle yn yr ynys ddylanwad yn adfywiad hwnw yn fwy nerthol na'r lle hwn. Am amser maith byddai rhyw nifer bob Sabboth, o'r bron, yn aros o'r newydd yn y gyfeillach grefyddol. Yn y flwyddyn 1862, helaethwyd y capel drachefn. Yr oedd traul yr adeiladaeth o gylch 600p. Y mae yn adeilad hardd a chyfleus, a 400p. o'r ddyled wedi ei thalu. Y ddau dro y buwyd yn helaethu y capel, ymgyfarfyddai y gynnuileidfa i addoli yn ysgubor yr Hensiop, a llawer cyfarfod melus a gafwyd yno. Ar ol bod am flynyddoedd, fel y nodwyd o'r blaen, heb weinidog sefydlog, yn y flwyddyn 1870, rhoddodd yn eglwys yma, mewn cysylltiad a Llanfairyborth, alwad unfrydol i Mr. J. C. Evans, o Birmingham, ar y pryd, a myfyriwr cyn hyny o athrofa Aberhonddu, i fod yn weinidog arnynt. Efe yw eu gweinidog presenol, ac y mae golwg lewyrchus ar yn achos.

Codwyd yma un pregethwr, sef Mr. Thomas Martin, yr hwn sydd yn parhau yn bregethwr cynorthwyol yn yn eglwys.

Translation by Eleri Rowlands (Aug 2013)

The Independent cause started in this area under particular circumstances. One day in 1822, there was a man by the name of Evan Parry,a draper, by trade, working in Careg-y-ddyfnallt. Ellen Hughes, the woman of the house, and he started speaking about religion. Neither of them was religious at the time, but had been brought up in religious families. While they were discussing, Michael Hughes, the husband, came in, and when he realised what they were doing, he joined them in their discussion. The door to the room where Evan Parry was working was closed and the three spent around an hour in secret worship. As they said goodbye to each other that evening, they made a decision to meet in the same place in a week. When the week was up, there were seven people in that meeting. Michael and Ellen Hughes, the man of the house and his wife; Evan Parry, Tanyfynwent,

517

and Ann Parry his wife; Ann Roberts, Ty'nylon, (the sister of the lady of the house); Jane Hughes, Hensiop, and William Williams, Llaindrogan. From then on they agreed to meet weekly. Soon after a weekly meeting had been established, one Owen Jones, from Brynsiencyn, came to help them. He preached and kept a Sunday school in Careg-y-ddyfnallt for some years before a chapel was built here. A church had been formed at the time consisting of six members. The people who mainly cared for the cause here at the beginning were Messrs J. Evans, Beaumaris; R. Thomas, Cerigllwydion, Llandegai, and S. Edwards, Tre'rdryw. In 1825, a chapel was built. The building cost around 140. It opened on October 13th, 1825, the day after the ordination of Mr. W. Roberts, in Hermon. Amongst others Mr. A. Jones, Bangor preached, at the opening from John ii. 1-11, and announced that the chapel would be called Cana. Mr. Roberts laboured here diligently and faithfully until the day of his death, and his labour was not in vain in the Lord's eyes. He was followed by Mr. Ishmael Jones, who stayed here for around eight years. After Mr. Jones left, the church stayed without a settled minister for years, until Mr. William G. Thomas was ordained here, and his stay was very short. A call was sent to Mr. William Evans, along with Dwyran, in 1853. Mr. Evans had been in Dwyran before. The church at that time had about 50 members. In the time of Mr. Evans, in 1855, the chapel was extended. The debt on it was cleared through the efforts of its people, and a jubilee meeting was held on June 24, 1861. After Mr. Evans left in 1857, the church was without a settled minister for a long time, but Mr. R. Hughes, Gwalchmai, came here monthly to preach and to administer the ordinances. Because of the revival that took place at the end of 1859 and the beginning of 1860, the church multiplied to more than it had ever been before, and it still has around the same number now. No place on the island experienced that revival more powerfully than this place. For a long time, each Sunday a number of people would stay for the first time for the religious fellowship. In 1862, the chapel was extended again. The rebuilding cost about 600. It is a fine and convenient building, and 400 of the debt has been paid. During the twice that the chapel was extended, the congregation met to worship in the barn at Hensiop, and there were many sweet meetings held there. After years, as has been mentioned before, without a settled minister, in 1870, this church, along with Llanfairyborth, gave a unanimous call to Mr. J. C. Evans, from Birmingham, and a student before that from Brecon college, to be a minister to them. He is their present minister, and the cause has a prosperous appearance.

One preacher was raised here. He is Mr. Thomas Martin, who is still a lay preacher in the church.

  

NIWBWRCH

(Newborough St Peter parish)

Cychwynwyd yn achos yma yn y flwyddyn 1860, yn benaf trwy lafur Mr. Hugh Roberts, Groeslon. Nid yw y capel ond bychan, ond trwy ymdrech y cyfeillion yn y lle, a chynorthwy yn y sir, y mae yn rhydd o ddyled,

518

ac er nad yw ond "dydd y pethau bychain" ar yr achos, etto y mae yn myned rhagddo, a theimla y cyfeillion yn dra hyderus fod dyddiau gwell i dd'od. Mae Mr. Eskew Davies wedi bod o help mawr i'r achos yma, ac o gylch dwy flynedd yn ol daeth Mr. Richard Owen, pregethwr cynorthwyol o Moelfro i'r lle, ac yn oedd ei ddyfodiad yma yn sirioldeb mawr i'r achos bychan ar ei gychwyniad.

  

DWYRAN

(Llangeinwen parish)

Dechreuwyd pregethu yma Awst 21ain, 1848, mewn ty a gymerwyd i'r perwyl gan Mr. Robert Parry, yn hwn wedi hyny a urddwyd yn Mhenmorfa. Yr oedd Mrs. Griffith, Maenhir, a'i theulu, y rhai a symudasant yma o Gaernarfon, yn help mawr i'r achos ar ei gychwyniad, a buont felly hyd nes yn ymadawsant a'r ardal. Ffurfiwyd yma eglwys, er nad oedd ond pump yn y cymundeb cyntaf. Cafwyd tir at adeiladu capel ar brydles o 99 mlynedd, gan Mr. John Owen, Tafarntywysog, Llangeinwen, am yr ardreth o bunt yn y flwyddyn. Costiodd y capel 180p. Agorwyd ef Tachwedd 26ain, 1849. Cyn diwedd y flwyddyn ganlynol ymsefydlodd Mr. W. Evans, Bodedeyrn, yma yn weinidog, a bu yma hyd y flwyddyn 1857, pryd y symudodd i Bagillt. Urddwyd Mr. Richard Williams yn weinidog yma, ond ni bu ei arosiad ond byr yn y lle. Bu Mr. William Hughes yn ffyddlon i'r achos gwan yma am dymor hir. Lled isel yw yr achos yma, ond er ei fod fel " llin yn mygu," y mae rhyw amddiffyn neillduol yn parhau drosto.

Codwyd yma un pregethwr o'r enw Richard Owen. Daeth oddiwrth y Methodistiaid, ac ni bu yn hir cyn dychwelyd atynt.

  

BRYNSIENCYN

(Llanidan parish)

Dechreuwyd pregethu yma yn niwedd y flwyddyn 1842. Daeth Mr. Evan Thomas yma i fyw, am yr hwn y crybwyllasom yn nglyn a hanes Machynlleth, a bu o help mawr yn nghychwyniad yr achos. Corpholwyd yma eglwys, yr hon nad oedd ond wyth mewn nifer ; ac yn nechreu y flwyddyn 1843, cymerwyd yma d ar ardreth gan Mr. R. Parry, Carn, a gwnaed ef mor gyfleus ag y gellid tuag at gynal gwasanaeth crefyddol. Bu y llwyddiant tu hwnt i ddisgwyliadau neb, a gwelid angenrheidrwydd am gael capel yn y lle, ond yr anhawsder oedd cael tir mewn man cyfleus. Yn niwedd y flwyddyn 1843, prynodd Mr. Parry d a gardd oedd ar werth, ac yn y flwyddyn ganlynol, adeiladwyd capel cyfleus arno, yn hwn a gostiodd 105p., ac yr oedd yr eglwys erbyn hyn wedi cynyddu i chwech-ar-hugain. Galwyd y capel yn Libanus. Talwyd yr holl draul yn fuan, ac yn y flwyddyn 1850, bu raid gwneyd eisteddleoedd ychwanegol ynddo, ac erbyn y flwyddyn 1859, yr oedd y lle wedi myned yn rhy gyfyng fel y bu raid ailadeiladu a helaethu y capel, a gwnaed ef yn d cyfleus. Mesura 41 troedfedd wrth 28 troedfedd. Costiodd yr helaethiad 150p., ond trwy gydymdrech yn ysgol Sabbothol, yn benaf, talwyd yn holl ddyled. Mae yn achos yma wedi dyfod rhagddo yn fwy cyflym nag odid un yn y wlad, ac y mae yn awr mewn gwedd flodeuog; ac y mae fod yma nifer o bersonau wedi bod yn sefydlog yn y lle er dechreuad yr achos, ac mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn gwir ofalu am dano, wedi bod yn help i'w

519

lwyddiant. Yn eu plith y mae coffd parchus yn deilwng i enwau Meistri R. Parry, Carn; J. Edmunds, Porthamel, ac O. Jones, Bryn. Ni bu yma yr un gweinidog sefydlog er cychwyniad yr achos, ond bu y diweddar Mr. R. W. Roberts, Maelog, yn dyfod yma yn rheolaidd bob mis hyd ei farwolaeth i weini y cymundeb.

Codwyd yma un pregethwr, sef Hugh Jones, yn awr o Cemaes.

  

LLANGEFNI

Nid yw yr achos yma ond diweddar mewn cydmariaeth, ac yr oedd y tir i fesur mawr wedi ei feddianu gan enwadau eraill pan y cychwynwyd ef. Nid oedd y pellder yn fawr oddiyma i Rosymeirch, etto ychydig oedd nifer y rhai a gyrchent oddiyma yno. Gwnaed yma gynyg flynyddoedd lawer yn ol i gychwyn achos, a buwyd yn pregethu mewn ty anedd, ond darfyddodd cyn hir o eisiau gofal priodol. Yr oedd Mr. Christmas Evans wedi byw y rhan fwyaf o'i oes wrth Gapel Cildwrn yn ymyl yma, yr hyn a roddodd i'r Bedyddwyr afael gryf ar y wlad ; a threuliodd Mr. John Elias y rhan olaf o'i oes yn y Fron, gerllaw Llangefni, yr hyn a ychwanegodd yn fawr at y dylanwad oedd eisioes gan y Methodistiaid am y lle, ac anturiaeth fawr oedd cychwyn achos Annibynol yma dan y fath amgylchiadau. Ond ymgymerwyd a'r gorchwyl yn galonog, ac nid ofer fu y llafur. Yr oedd Mr. David Davies, yn hwn a symudasai o Landdeusant i Berea, wedi sefydlu ei lygaid ar y lle, ac efe a fu y prif offeryn i gychwyn yr achos. Adeiladwyd yma gapel yn y flwyddyn 1843, ac agorwyd ef Hydref 3lain, yr un flwyddyn, a galwyd ef Smyrna. Costiodd y capel 250p., ac aeth Meistri J. Roberts (Edeyrn), Cefncoch ; Robert Jones, Tanylan; Robert Lewis, Plasmynydd, a Thomas Williams, Glanalaw, yn gyfrifol gyda Mr. Davies am yn arian i'w adeiladu, ond ni bu Mr. Davies yn hir cyn casglu digon i dalu yn holl ddyled, ac felly eu rhyddhau hwy oddiwrth eu cyfrifoldeb. Mae yn amhosibl llefaru yn rhy gryf am ffyddlondeb Mr. Davies gyda chodi y capel a thalu am dano. Nid arhosodd yma yn hir wedi hyny, canys symudodd i Rhiadrwy, ac y mae yn awr yn Cerygcadarn. Wedi ymadawiad Mr. Davies yn 1847, bu yr eglwys heb weinidog hyd Ionawr, 1864, pryd yr ymsefydlodd Mr. John Owen, Llanegryn gynt, yn weinidog yma, ac y mae yn parhau i lafurio yn y lle, a'r achos mewn gwedd siriol a chalonog. Cyfarfu yr achos yma a llawer o gyfnewidiadau o'i gychwyniad hyd yn awr, a chafodd golledion trymion trwy symudiadau a marwolaethau, ond y mae wedi ennill tir a myned rhagddo i raddau dymunol. Mae amryw o gymanfaoedd yr enwad yn y sir wedi eu cynal yma, ac oblegid fod y lle yn agos i  ganolbarth yr ynys y mae y cynnulliadau hyny yma yn lluosog a phoblogaidd. Canmolir yr eglwys yma yn fawr ar gyfrif ei haelioni, ac oni buasai ei bod felly nis gallasai gadw y drws yn agored, a chynal gweinidogaeth yn gyson yn y lle. Er fod y capel yma wedi ei godi er's cynifer o flynyddoedd, etto eleni, (1872) y cafwyd prydles arno, ac y mae yr eglwys yn bwriadu yn ddioed i wneyd adgyweiriadau helaeth arno oddimewn ac oddiallan.

Yma y dechreuodd Rowland Williams (Hwfa Mon), Llundain, bregethu, ac nid oes achos dyweyd i neb o'n darllenwyr pwy yw efe ; ac y mae Hugh Thomas yma yn awr yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy yn yn eglwys.

520

BEREA

(Llanidan parish)

Pentreberw y gelwir y lle yma yn gyffredin, ac y mae yn mhlwyf Llanidan, o fawn dwy filldir i Langefni. Pregethwyd yma gyntaf yn y flwyddyn 1839, yn nhy Roger Rowlands, gan Meistri D. Roberts, Siloh, a D. Davies, Llanddeusant, heb feddwl mwy ar y pryd na rhoddi oedfa yn y lle wrth fyned heibio, ond gwelwyd fod y lle yn gynyddol, a barnwyd y buasai yn fuddiol gwneyd cynyg ar sefydlu achos yma. Arferai yr ychydig aelodau oedd yn yr ardal yma fyned i Cana cyn cychwyn yr achos yn y lle, ac nid oeddynt ond un-ar-ddeg yn y cymundeb cyntaf a gafwyd yma. Buwyd yn ymgynnull am ychydig mewn ty anedd, ond cyn diwedd y flwyddyn, dechreuwyd adeiladu y capel, ac yr oedd yn barod i'w agor Mehefin 3ydd, 1840. Pregethwyd ar yn achlysur gan Meistri E. Davies, Llanerchymedd; D. James, Rhosymeirch ; T. Owen, Llanfechell ; W. Davies, Salem; I. Jones, Hermon; D. Davies, Llanddeusant, a Ll. Samuel, Bethesda. Cynyddodd yr eglwys yn gyflym, a rhoddwyd galwad i Mr. D. Davies, Llanddeusant, yr hwn a sefydlodd yma. Nid oedd un achos yn y wlad yn fwy gobeithiol achos hwn ar ei gychwyniad. Derbyniwyd cynifer a thri-ar-ddeg i gymundeb yr un Sabboth, ac yr oedd hyny yn nifer mawr mewn lle bychan gydag achos newydd. Rhoddodd Mr. Davies ofal y lle i fyny wedi bod yma tua thair blynedd, gan gyfyngu ei holl lafur i Langefni. Bu sefyllfa yn achos yn ddyryslyd lawn yn yr adeg oblegid ryw amgylchiadau, ond dygwyd pethau i drefn cyn hir, ond nid cyn ysigo yn achos i raddau mawr. Cyn diwedd y flwyddyn 1846, rhoddwyd galwad i Mr. Cadwaladr Jones, Ffestiniog, i fod yn weinidog i'r eglwys hon mewn cysylltiad a Llanfairyborth, a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad Tachwedd 9fed a'r 10fed. Adfywiodd yn achos yn fawr wedi dyfodiad Mr. Jones yma, a lluosogodd yr eglwys, ond ni bu ei arosiad yma yn hir, canys yn y flwyddyn 1849, symudodd i Langollen. Yn y flwyddyn 1851, rhoddwyd galwad i Mr. Owen Evans, gwr ieuangc o Lanfyllin, ac urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys yma a'r eglwys yn Mhenmynydd, Mehefin 8fed a'r 9fed, 1851. Ar yn achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Morris, Bryngwran ; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. E. Williams, Llanddeusant; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. H. Rees, Pentraeth; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. R. Ellis, Brithdir, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Jones, Amlwch. Bu Mr. Evans yma yn dra chymeradwy a phoblogaidd hyd nes y symudodd i Faentwrog, yn 1854, ac am dymor maith ar ol hyny bu yr eglwys yma heb weinidog sefydlog. Profodd yn helaeth o'r diwygiad grymus a fu yn y wlad yn y blynyddoedd 1859 ac 1860, ac yn niwedd yn haf 1860 helaethwyd yn addoldy trwy draul o fwy na 100p. Yn nechreu y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Owen, o Gaergybi, ac urddwyd ef y dydd cyntaf o Ebrill ar ol hyny. Llafuriodd yma gyda derbyniad am bedair blynedd, pryd y rhoddwyd terfyn gan angau ar ei fywyd defnyddiol Ebrill 24ain, 1871. Wedi bod am ychydig amser heb weinidog, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Evan J. Evans, yr hwn am flynyddau lawer a fuasai yn weinidog derbyniol yn Pisgah a Penygroes, sir Gaernarfon, ac y mae argoelion gobeithiol am lwyddiant ar ei lafur yma.

521

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

ROBERT OWEN. Ganwyd ef yn Nghaergybi, Tachwedd. 7fed, 1838. Magwyd ef i fyny yn yr eglwys, ac yr oedd er yn fachgen yn gwybod yr ysgrythyr ln.  Dangosodd ogwyddiadau crefyddol yn foreu, a derbyniwyd ef pan yn ieuangc yn aelod o'r eglwys yn y Tabernacl gan Mr. Griffith. Anogwyd ef cyn hir i ddechreu pregethu, ac yr oedd yn dra derbyniol i ba le bynag yr elai. Ennillai ei ddull syml a gwylaidd iddo barch pawb a'i hadwaenai. Derbyniodd alwad gan eglwysi Berea a Phenmynydd, yn ei wlad ei hun, ac urddwyd ef yno ddechreu Ebrill, 1867. Llafuriodd yma gyda derbyniad a chymeradwyaeth, ond gwanychodd ei iechyd, a chan ddisgwyl adferiad dan ymgeledd ei fam, dychwelodd i Gaergybi, ond bu farw Ebrill 24ain, 1871, yn 33 oed. Claddwyd ef yn mhen pedwar diwrnod yn nghladdfa gyhoeddus y dref, ac yn oedd agos holl weinidogion yr enwad yn y sir yno i ddangos parch i'w goffadwriaeth ar ddydd ei arwyl.

  

LLANFAIRYBORTH

(? parish)

Yn y fiwyddyn 1839, torodd nifer o aelodau allan o eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y lle hwn o herwydd ryw amgylchiad. Yn eu plith yr oedd Richard Edwards, un a fuasai am flynyddoedd yn flaenor gyda'r Methodistiaid, ac un Owen Owens, dyn blaenllaw gyda'r achos, ac yn meddu llawer o wybodaeth. Corpholwyd hwy gydag ychydig eraill yn eglwys Annibynol, a chyn diwedd y flwyddyn hono daeth hen gapel i'r Wesleyaid yn wag, yr hwn a brynwyd am 90p., ac aeth rhyw 30p. yn ychwanegol tuag at ei adgyweirio. Yr oedd nifer yr eglwys yn 14 yn y cymundeb cyntaf, ac ymddangosai yr arwyddion am lwyddiant ar y dechreu yn dra ffafriol. Dechreuodd Owen Owens, y crybwyllwyd am dano, bregethu yn fuan, ac yn mhen rhyw dair blynedd, urddwyd ef yn weinidog ar yr eglwys. Ni bu yma yn hir canys ymfudodd i America, lle y bu farw yn fuan. Bu Mr. Cadwaladr Jones yn gofalu am y lle mewn cysylltiad a Berea hyd ei ymadawiad i Langollen. Ar ol hyny rhoddwyd galwad i Mr. Phillip G. Thomas i weinidogaethu yma mewn cysylltiad a Beulah, Bangor, ac urddwyd ef yno Ebrill 21ain, 1851. Llafuriodd Mr. Thomas yma yn ddiwyd am chwe' blynedd, hyd nes y symudodd i Pennorth, Brycheiniog, lle y mae etto. Bu yr achos yma yn isel iawn am dymor ar ol hyny, ond ymwelodd Duw a'r "ychydig bobl druain dlodion" oedd yma yn gobeithio yn ei enw ef, ac yn y diwygiad grymus yn 1860, llonwyd colon y saint yma yn ychwanegiad degau atynt. Mae yn achos yn awr dan ofal Mr. J. C. Evans mewn cysylltiad a Cana. Coffeir yn barchus am lafur yn hen frawd Richard Edwards, yr hwn a fu yn " ffyddlon hyd angau " gyda'r achos y bu llaw ganddo yn ei gychwyniad.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma :-

522

  

MENAI BRIDGE

(Llanfair Pwllgwyngyll parish ?)

Saif y lle prydferth hwn ar lan yn afon Menai, yn nghymydogaeth y pontydd mawreddog sydd yn croesi yr afon, a gelwir y dref yn bresenol ar enw un o honynt. Yn lled ddiweddar y dechreuwyd yn achos Annibynol yn y lle hwn. O herwydd fod poblogaeth y dref yn cynyddu yn gyflym, meddyliwyd gan garedigion yn achos crefyddol yn y sir am godi capel Annibynol yma. Yr oedd yma ychydig Annibynwyr yn trigo yn barod, ond gan nad oedd moddion crefyddol yn cael eu cynal gan yn Annibynwyr yn y lle, yr oeddynt dan yr angenrheidrwydd i fyned at enwadau eraill i addoli, neu gerdded yn mhell at eu pobl eu hunain. Buwyd yn son llawer o bryd i bryd am ddechreu achos yn y lle cynyddol hwn. Dygwyd y mater o'r diwedd ger bron cyfarfod ehwarterol y sir, a rhoddwyd pob cefnogaeth i'r anturiaeth. Bu Mr. Griffith, Caergybi, a'r diweddar Mr. Thomas, Beaumaris, yn nghyd ag ychydig eraill, ar ol llawer o drafferth, yn llwyddianus i sicrhau darn o dir i adeiladu capel arno yn y man mwyaf manteisiol yn y lle. Buwyd ychydig yn hwy nag y meddylid yn dwyn yr i adeilad ben, ond penderfynwyd, er nad oedd y capel wedi ei gwbl orphen, i neillduo Ebrill 18fed, 19eg a'r 21ain, 1867, i'w agor. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Evans, Caernarfon ; R. Thomas, Bangor ; T. Thomas, Glandwr ; J. Thomas, Liverpool ; R. Williams (Hwfa Mon), ac H. E. . Thomas, yn awr o Pittsburg, America. Boreu Sabboth yr 21ain, wedi i'r Meistri H. E. Thomas bregethu ar "Ganlyn Crist," ac R. E. Williams, yn awr o Croesoswallt, draddodi anerchiad ar "Natur Eglwys," galwyd ar y cyfeillion hyny oeddynt yn dewis ymuno a'u gilydd i gario achos y Gwaredwr yn mlaen yn y lle, i gyfodi ar eu traed, a gwnaeth y personau canlynol hyny : - R. Thomas, T. Owen, M. Jones, J. Owen, O. Owen, C. Thomas, E. Davies, M. Pritchard, M. Roberts, A. Roberts, M. Roberts, S. Williams, E. Williams, S. Williams, M. Evans, M. Williams, ac A. Williams, a chorpholwyd hwy yn eglwys gan Dr.W. Rees, Liverpool, ac ymunodd amryw aelodau o fanau eraill gyda hwy i gydgofio am angau Crist. Rhoddodd Mr. W. Thomas, (mab Mr. R. Thomas, London-house), bachgen pum' mlwydd oed, lestri cymundeb yn anrheg i'r eglwys, gwerth 5p. 10s., a rhoddwyd Bibl hardd hefyd ar y pulpud yn anrheg gan Mr. H. Roberts. Maintioli y capel ydyw 16 llath wrth 14, ac y mae wedi ei wneyd i 350 eistedd ynddo. Costiodd rhwng 800p. a 900p. Rhoddodd y boneddwr haelfrydig Mr. Morley, o Lundain, y swm anrhydeddus o 100p. ato. Mae y chwaer ieuengaf hon i eglwysi Annibynol Mon, dan rwymau i fod yn ddiolchgar am y gefnogaeth arianol a gafodd oddiwrth eglwysi y sir, ac hefyd am y cymhorth haelionus a estynwyd iddi gan amryw bersonau unigol, i'r dyben o symud ymaith y ddyled oedd yn aros ar yr addoldy. Trwy ymdrech ddiflino gartref, a chynorthwy eglwysi y sir, yn nghyda chyfran a dderbyniwyd o rodd Mr. Morley tuag at ddiddyledu y capeli gweiniaid yn Mon, y

523

mae yn addoldy hwn yn awr yn ddiddyled ! Y mae golwg obeithiol am achos llewyrchus yn y lle cynyddol hwn, gyda bendith y nefoedd arno. Bu dyfodiad Mr. Thomas, London-house, a'i deulu, o Beaumaris, i'r lle hwn i gartrefu o les i'r enwad Annibynol. Cyfiawnder ydyw datgan mai efe fu y prif offeryn i gael capel Annibynol yn y lle, gwnaeth lawer aberth er mwyn ei gael, ac y mae efe a'i briod yn parhau yn ddiflino i wasanaethu yn achos. Bydd coffadwriaeth melus ac anwyl, tra y bydd byw y rhai oedd dan bwys y baich wrth gychwyn yr achos, am sirioldeb a haelioni y weddw, Mrs. Margaret Roberts, Cadnant, gyda'r hon y llettya y gweinidogion yn bresenol.

Codwyd yma un pregethwr, sef John Owen, yn hwn sydd yn ffyddlon ac yn gymeradwy. Yma hefyd y mae y brawd Thomas Owen, yn hwn a godwyd i bregethu yn Llanfair, ond a symudodd i'r lle hwn ar ddechreuad yn achos.

 

End of Anglesey


Return to top

[Last updated: 5 Aug 2013  -  Gareth Hicks]

Valid HTML 4.01 Transitional  

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI