| Caernarfonshire | Contents |
The umbrella project for
WALES is detailed on this Genuki page where there is a contents listing for each county/section and data on what has been extracted/translated already.
This is the complete Caernarfonshire section of Volume 3, in Welsh - any existing translations will be itemised on the above page.
This extraction is as it is in the book, chapel names and page numbers act as separators.
Footnotes remain at the bottom of pages
Extraction by Gareth Morgan (April/May 2008)
Chapels below;
Proof read by Eleri Rowlands (May 2008)
154
(Denio parish)
Mae yn sicr fod Ymneillduaeth wedi cyfodi yn foreu iawn yn y sir hon, ac mai yn Mhwllheli a'r gymydogaeth y cychwynodd, ond nid oes un cofnodiad manwl mewn na llawysgrifen nac argraff o hanes ei ddechreuad. Yr oedd traddodiad yn ardal Pwllheli tua chan' mlynedd yn ol, yn ol tystiolaeth awdwr Drych yr Amseroedd, i dri dyn ieuangc, genedigol o'r sir hon, ddychwelyd o Rydychain tua y flwyddyn 1646, neu yn fuan ar ol hyny, i bregethu fel Ymneillduwyr yma. Tebygol mai at John Williams, Ellis Rowlands, a Henry Maurice y cyfeirid. Mae yn lled sicr i'r ddau flaenaf fod yn pregethu yma fel Ymneillduwyr cyn 1662, ond yn 1666 yr ymneillduodd y diweddaf o'r Eglwys Sefydledig. Wedi hyny ni bu neb yn fwy llafurus nag ef i gyfodi achos ymneillduaeth yn ei sir enedigol, yn gystal ag mewn siroedd eraill. Mae Mr. Morgan, yn Hanes Ymneillduaeth, yn dyweyd, ar awdurdod y diweddar Mr. D: Williams, o Saethon, fod addoldy wedi cael ei adeiladu gan yr Ymneillduwyr yn mhlwyf Pwllheli yn amser Oliver Cromwell; ond nis gallwn yn unwedd credu hyny. Gan fod yr eglwysi plwyfol yn agored i'r Ymneillduwyr i addoli ynddynt trwy holl dymor llywodraeth Cromwell, nid oedd galwad am iddynt adeiladu capeli, ac yr ydym yn sicr na chafodd un capel ei adeiladu mewn un parth o'r Dywysogaeth hyd yn mhell ar ol amser Cromwell. Mae yn ddiameu fod cynnulliadau bychain o Ymneillduwyr yn addoli mewn anedd-dai mewn ardaloedd pellenig oddiwrth yr eglwysi plwyfol yn amser y Werinlywodraeth, ond mae yn amlwg na ddarfu iddynt adeiladu un capel mewn unrhyw barth o'r wlad y pryd hwnw. Dywedir fod rhyw nifer o Ymneillduwyr wedi cael eu corpholi yn eglwys yn Mhwllheli cyn adferiad Siarl II., ac y mae hyny yn eithaf tebygol. Mewn llythyr dyddiedig Ebrill 28ain, 1657, oddiwrth y Cadfridog John Jones, un o brif swyddogion Cromwell, at Cadben Wray, ceidwad Castell Beaumaris, cawn yr ymadrodd canlynol : - " Yr wyf hefyd yn dymuno arnoch dalu pum' punt i law y Coronet Jeffrey Parry, yr hwn sydd yn byw yn agos i Bwllheli, sir Gaernarfon, y rhai sydd i gael eu rhanu ganddo ef, a'r rhai sydd yn rhodio yn nghymdeithas yr efengyl yn y sir hono, yn y fath fodd ag a fyddo yn fwyaf cefnogol i'r cyfryw i fyned a gwaith yr efengyl yn mlaen yno, naill ai er cynorthwyo y tlodion yn eu mysg, neu mewn unrhyw fodd arall."* Profa hyn ar unwaith fod pobl yn y parth hwn y pryd hwnw " yn rhodio yn nghymdeithas yr efengyl," neu wedi ymgorpholi yn eglwys. Un o gyndadau Mr. Jones-Parry, yr aelod seneddol dros sir Gaernarfon, oedd Jeffrey Parry. Dywedir ei fod yn bregethwr yn gystal ag yn swyddog milwrol. Cawn wneyd sylw pellach gyda golwg arno ef pan ddelom at hanes Capel-helyg. Yr oedd Mr. Richard Edwards, Nanhoron, fel y cawn weled yn nes yn mlaen, yn perthyn i'r Ymneillduwyr yn y parth hwn, ac ymddengys fod amryw deuluoedd dylanwadol eraill. Mae yn dra sicr fod Walter Cradoc, Vavasor Powell, ac eraill o brif ddiwygwyr Cymru, wedi bod yn talu ymweliadau achlysurol a'r ardal hon. Dywedir y byddai Morgan Llwyd yn dyfod yma, ac yn cerdded trwy ystrydoedd Pwllheli a'i ddwylaw ar ei gefn, a Bibl yn ei law, ar ddydd marchnad, ac y byddai y bobl yn troi o'r neilldu i roddi ffordd iddo, fel pe buasai cerbyd a meirch
* Parry's Royal Visits, and .Progresses to Wales. Page 400.
155
yn myned heibio. Mae yn ddiau i ymweliadau achlysurol y gwyr da hyn effeithio llawer o ddaioni yma, ond trwy lafur Mr. John Williams y casglwyd ac y ffurfiwyd yma eglwys. Pan adferwyd erledigaeth gydag adferiad Siarl II., cafodd y gymdeithas grefyddol yn y dref ei gwasgaru am dymor, ond nid ei diddymu. Ar gychwyniad yr erledigaeth aeth Mr. Williams, y gweinidog, i ffwrdd i Loegr, a bu am dymor yn gaplan i deulu boneddwr yn Kent. Yr oedd yno yn Rhagfyr, 1663. Mae yn debygol iddo yn mhen ychydig wedi hyny ddychwelyd adref, ond nid ymddengys iddo bregethu nemawr, os dim, cyn y flwyddyn 1672, pryd y rhoddwyd ychydig o ryddid i'r Ymneillduwyr. Er ei fod yn ddyn duwiol iawn, ac yn bregethwr galluog, mae yn ymddangos mai dyn llwfr ac ofnus iawn ydoedd. Wedi cael ychydig ryddid yn 1672, yr ydym yn cael y cofnodion canlynol o drwyddedau a gyfodwyd gan bregethwyr, ac eraill, ar anedd-dai at bregethu ynddynt yn yr ardaloedd hyn : - "Medi 5ed, 1672, trwydded i John Williams, o Ty'nycoed, (neu Tanycoed), sir Gaernarfon, i fod yn bregethwr Annibynol. Ty y dywededig J. Williams hefyd a drwyddedwyd yr un dydd at bregethu ynddo gan yr Annibynwyr."* Yr un dydd hefyd trwyddedwyd ty a elwid Bodwel at bregethu ynddo; ty William Rowlands, yn nhref Pwllheli, a thy John Rowlands, a elwid Ty'nycaerau. Hefyd cymerodd William a John Rowlands drwyddedau i fod yn bregethwyr Annibynol. Ni pharhaodd y rhyddid hwn ond ychydig gyda blwyddyn, ond gwnaeth cyfeillion crefydd eu goreu o hono cyhyd ag y parhaodd. Yr ydym yn barnu mai Mr. Henry Maurice ddarfu gymhell a chefnogi Mr. John Williams, a'r cyfeillion rhag-grybwylledig, i gymeryd y trwyddedau hyn. Daeth ef ar ymweliad i Bwllheli, Medi 3ydd, 1672, ac yn mhen dau ddiwrnod ar ol hyny, fel y gwelwn, y cyfodwyd y trwyddedau. Dengys y difyniadau canlynol, a gopiwyd genym o lawysgrifen Mr. Maurice ei hun, y fath ddyn selog ac ymroddgar i waith yr Arglwydd ydoedd: - "Medi 3ydd, 1672. Yn fy ngweddi foreuol heddyw bum yn wresog yn fy ysbryd, a chefais lawer o fwynhad. Gadawsom Benmorfa a chawsom daith gysurus i Bwllheli heddyw. Wedi cyrhaedd yno, ymneillduais i le dirgel yn nhy W. Griffith i weddio. Pregethais yno yn yr hwyr oddiwrth Dat. iii. 20, a chefais lawer o flas wrth weddio a phregethu. Cefais sail i gredu wrth weddio fod y bobl yn derbyn lleshad. Yn fy ngweddi ddirgel yn yr hwyr, cefais lawer o rwyddineb ysbryd i weddio dros y bobl a fuont yn fy ngwrandaw yn pregethu. Medi 4ydd. Gweddiais gyda fy ngwraig y boreu heddyw gyda llawer o fwynhad. Wedi hyny bum yn gweddio wrthyf fy hun. Y mae genyf lawer o obaith y bydd Duw yn rasol wrth bobl Pwllheli, gan fy mod yn profi y fath dynerwch calon wrth weddio drostynt. Gweddiais drachefn yn y nos yn y Gwynfryn gyda fy ngwraig. Medi 5ed. Bu y wraig a minau yn cydweddio y boreu hwn gyda llawer o dynerwch ysbryd a mwynhad. Gweddiais drachefn yn y dirgel yn nhy W. Griffith. Cyrhaeddasom yn ddiogel i Nanhoron yr hwyr hwn, a buom ein dau yn cydweddio gyda mwynhad mawr." Medi 6ed. Aeth ef a'i wraig i Fethlan i ymweled a'i rieni, ac amlyga ofid mawr yn ei gofnodiad y dydd hwn o herwydd anghrefyddoldeb ei berthynasau, a thrigolion y gymydogaeth yn gyffredin. " Medi 7fed. Heddyw aethum i weled fy nghefnder, John Williams, a bum yn ymddiddan yn ddifrifol ag ef gyda golwg ar ei ddistawrwydd, a'i waith yn aros cyhyd yn llonydd heb gyflawni
* State papers for 1672.
156
ei weinidogaeth. Ni chefais nemawr o foddlonrwydd yn ei atebion i mi. Cefais arwyddion o ras Duw ynddo; ond y mae yn amlwg ei fod dan brofedigaeth wrth esgeuluso pregethu yr holl amser hyn." Y Sabboth, Medi 8fed, bu yn Mhwllheli. Gan i Mr. Richard Owen, y person, wrthod iddo gael myned i'r eglwys, bu raid iddo bregethu y boreu a'r hwyr yn nhy William Griffith. Ei destyn oedd Jer. xxx. 21, 22. Medi 14eg, aeth i ymweled drachefn a'i gefnder, John Williams, a bu yn ymddiddan mor ddifrifol ag ef am ei waith yn peidio pregethu yr holl amser hyn fel y wylasant ill dau. Medi 15fed. Pregethodd yn y boreu yn nhy gweddw Morris Jones, (ni ddywedir yn mha le yr oedd hi yn byw), oddiwrth 1 Petr iv. 18; yn y prydnawn ar fynwent Llanarmon, oddiar yr un testyn; (yr oedd y person wedi gomedd iddo gael myned i'r llan); ac yn yr hwyr yn Mhwllheli, oddiwrth Rhuf. v. 8. Mae yn ddiameu iddo ymweled a'r parthau hyn bob blwyddyn, neu fynychach, ar ol hyn tra bu fyw, er ei fod yn cyfaneddu yn sir Frycheiniog. O berthynas i ddechreuad yr achos Ymneillduol yn sir Gaernarfon, cawn yr hanes canlynol mewn llythyr a ysgrifenodd Mr. Maurice at Mr. Edward Ferril, o Gaerodor, yn y flwyddyn 1675: - "Yr eglwys gyntaf, a'r unig eglwys ffurfiedig yn y sir hon, yw yr un sydd yn cyfarfod yn gyffredin yn Llanarmon a Llangybi. Cafodd ei galw trwy weinidogaeth Mr. John Williams, yr hwn a fu farw yn ddiweddar, ac efe a ffurfiodd y dychweledigion yn eglwys. .Annibynwyr o farn ydynt oll oddieithr un aelod, yr hwn sydd yn Fedyddiwr, ond y mae efe yn mhell o fod y mwyaf dinod yn eu mysg am sel a duwioldeb. Ei enw yw Thomas Williams. Bu yn byw rai blynyddau yn Llundain yn ddiweddar. Mae yr eglwys hon yn bresenol yn amddifad o weinidog; ond y mae William Rowlands yn henuriad athrawiaethol yn eu mysg, a Thomas Williams, a rhai eraill o'r brodyr, yn pregethu iddynt. "Felly gwelwn mai un eglwys oedd holl Ymneillduwyr y sir hon yn 1675, ac felly y bu am lawer o flynyddau ar ol hyny. Nis gallasai y praidd erlidiedig gyfarfod i addoli yn ddiberygl yn Mhwllheli yn amser yr erledigaeth. Dichon iddynt pan y cawsant ychydig ryddid yn 1672, gynyg adeiladu capel yn y dref, ac mai hwnw a dynwyd i lawr gan yr erlidwyr, fel y sonia Mr. Morgan yn Hanes Ymneillduaeth. Wedi i'r brenhin ganiatau rhyddid yn 1672, cyn diwedd 1673, galwodd ei ganiatad yn ol, ac ail gyneuodd tân erledigaeth mor ffyrnig ag erioed.
Yn y flwyddyn 1676, daeth Mr. James Owen, wedi hyny o Groesoswallt a'r Amwythig, yma ar gais Mr. Henry Maurice, a bu yma am yn agos i flwyddyn. Yn Bodwel yr oedd yn aros. Ond y fath oedd cynddaredd yr erlidwyr fel na feiddiodd ymddangos yn gyhoeddus trwy yr amser y bu yma, ac wrth ymadael bu raid iddo gael ei arwain allan o'r ardal gan ei gyfeillion yn nyfnder y nos, rhag i'r erlidwyr gymeryd ei fywyd. Nid ydym yn gwybod pa helynt fu ar y praidd gorthrymedig o 1677 hyd 1684. Dichon fod Meistri Ellis Rowlands, Henry Maurice, a Hugh Owen o Fronycludwr, yn ymweled a hwy mewn modd dirgel yn achlysurol i'w porthi a bara y bywyd, ac i'w calonogi yn eu trallod. Yn y flwyddyn 1684, ymsefydlodd Mr. Daniel Phillips, (nid William Phillips fel y camddywedir yn Nrych yr Amseroedd a Hanes Ymneillduaeth gan Morgan,) yma, ac er bod mewn enbydrwydd mawr am y pedair blynedd cyntaf o'i dymor, cafodd ei fywyd ei ddiogelu, a llwyddodd ei lafur yn fawr hyd derfyn ei oes yn 1722. Bu Mr. Phillips yn llafurus iawn yn ei oes. Cyn gynted ag y cafodd nodded Deddf y Goddefiad, cofrestrodd dy yn nhref Caernarfon at
157
bregethu, a pharhaodd i fyned yno yn rheolaidd hyd derfyn ei oes. Dichon na fu un parth o Gymru mor gynddeiriog yn erbyn Ymneillduaeth ar ei chychwyniad, ac yn hir wedi hyny, a sir Gaernarfon. Yn rhyw fodd yr oedd gan y personiaid yma fwy o ddylanwad dros y werin anwybodus nag mewn nemawr o fan. Dywedir fod un gwr mawr, ac ynad heddwch, yn ardal Pwllheli wedi tyngu diofryd y mynai ddyfetha neu yru pob Ymneillduwr o'r wlad mewn ychydig amser; ond cyn iddo allu cyrhaedd ei amcan aeth yn glaf, a bu raid iddo fyned i'r Amwythig i ymgynghori a meddyg, ac yno bu farw mewn modd truenus. Nid ydym yn gwybod pa un ai cyn neu yn amser Mr. Phillips y cymerodd hyn le. Wedi marwolaeth Mr. Phillips, rhoddwyd galwad i Mr. John Thomas. Urddwyd ef yma Mehefin 21ain, 1723, ac yma, y bu hyd ei farwolaeth yn 1748. Yr oedd Mr. Thomas yn cael ei gyfrif yn ddyn da a duwiol iawn, ond yr oedd yn mhell o ddyfod i fyny a'i ragflaenydd, Mr. Phillips, mewn doniau, gwroldeb, a gweithgarwch. Ar farwolaeth Mr. Phillips, rhoddwyd i fyny y gwasanaeth yn nhref Caernarfon, ac ni chafodd ei ailgychwyn drachefn cyn amser Mr. Rees Harries. Mae yn ymddangos hefyd i'r achos yn Mhwllheli a'r canghenau yn yr ardaloedd cylchynol, wanychu yn fawr yn amser Mr. Thomas. Ond yr oedd yma rai personau gweithgar a gwresog yn ymdrechu ac yn hiraethu am ddiwygiad crefyddol. Pan glywsant am lafur, llwyddiant, ac enwogrwydd Mr. Lewis Rees yn Llanbrynmair, aeth un o honynt yr holl ffordd yno i ofyn iddo ddyfod i Bwllheli i bregethu, a llwyddodd i gael ganddo ddyfod. Dichon mai Francis Evans oedd y gwr hwnw. Yr oedd ef yn ddyn nodedig o dduwiol a llafurus gyda'r achos. Wrth ei wrandaw ef yn gweddio yn ei deulu yr argyhoeddwyd y nodedig a'r duwiol William Pritchard o Lasfrynfawr, ac efe a aeth i'r Bala i ymofyn Jenkin Morgan i Arfon. Bu dyfodiad Mr. Lewis Rees i Bwllheli yn fywyd o feirw i'r achos. Casglodd torfeydd dirfawr i'w wrandaw, ond bu hyny yn foddion i ailenyn yr hen ysbryd erlidigaethus yn yr offeiriaid a'r werin oedd dan eu dylanwad. Y waith gyntaf y bu yma, cafodd ei wysio ger bron y Cynghellydd Owen, person Llanor. Darfu i'r adyn erlidgar hwnw gymeryd cleddyf a darnio ei hugan uchaf am dano. Gan nad oedd ganddo un gyfraith i gosbi Ymneillduwr oedd a thrwydded ganddo i bregethu, bu raid iddo ei ollwng heb wneyd dim yn ychwaneg iddo na darnio ei hugan a'r cleddyf. Dro arall pan yr oedd Mr. Rees yn pregethu mewn rhyw ardal yn agos i Bwllheli, anfonwyd un Henry Roberts, yr hwn a adwaenid yn gyffredin wrth yr enw "Harri Deneu," a gwarant i'w wysio ger bron Mr. Owens, person Llaniestyn. Ymddygodd y gwr hwnw yn hynaws a boneddigaidd tuag ato, ac wedi gofyn ychydig o ofyniadau iddo, gollyngodd ef i fyned i'w ffordd. Nid oedd hyny yn foddhaol i'r erlidwyr, am hyny, mynasant warant oddiwrth ryw ynad arall, ac anfonwyd Harri Deneu drachefn i Gwynfryn, lle yr oedd Mr. Rees yn llettya. Pan oedd y teulu ar eu boreufwyd, clywsant guro wrth y drws, ac aeth Miss Phillips, merch Mr. Daniel Phillips, yr hen weinidog, ac wedi hyny gwraig Mr. Richard Thomas, i agoryd y drws, pan ddeallodd mai Harri Deneu oedd yno a gwarant i ddal Mr. Rees, ymaflodd ynddo gan roddi gwasgiad a gwthiad iddo nes iddo syrthio i'r llawr, yna cauodd y drws, a chyn gynted ag y gallodd Harri gyfodi, aeth i ffordd, ac ni chlywyd dim mwyach am dano ef na'i warant. Mr. Rees ddarfu arloesi y ffordd i Meistri Howell Harries, y diwygiwr Methodistaidd ; Jenkin Morgan, Evan Williams, Cwmllynfell, a phregethwyr tanllyd eraill, i ymweled a Phwllheli a'r
158
gymydogaeth. Y canlyniad o ymweliadau y dynion bywiog hyn a'r ardal fu i lawer iawn gael eu hychwanegu at yr eglwys yn Mhwllheli. Ond bu y diwygiad yn achlysur i gyffroi cynddaredd yr erlidwyr i'r fath raddau, fel yr amgylchent y capel ar amser y gwasanaeth, ac y lluchient geryg i mewn trwy y ffenestri gyda'r fath nerth fel yr elai y ceryg a daflent i mewn trwy un ffenestr ac allan trwy y ffenestr yr ochr arall i'r capel. Erbyn y byddai y gynnulleidfa yn dyfod allan byddai torf o erlidwyr yn en disgwyl yn mhen y dref, ac anmharchent hwynt mor ddidrugaredd fel y byddai llawer o honynt yn myned i'w cartrefleoedd a'u gwaed yn llifo o'u harchollion. Parhaodd pethau yn yr agwedd dost yma am ysbaid o amser.
Wedi marwolaeth Mr. John Thomas, rhoddwyd galwad i Mr. Richard Thomas, myfyriwr o'r athrofa yn Abergavenny. Urddwyd ef yma yn Awst 1751, nid yn 1743, fel y cam-ddywed Mr. Morgan yn Hanes Ymneillduaeth. Mae awdwr Drych yr Amseroedd hefyd yn camsynied pan ddywed i Mr. David Williams ddyfod yma ar farwolaeth Mr. John Thomas. Mae yn bosibl i Mr. David Williams, o Ddinbych, yr hwn a briododd un o ferched Mr. Daniel Phillips, fod yn cynorthwyo yma am dymor yn amser Mr. John Thomas, ond nid wedi ei farwolaeth, canys yr oedd Mr. Williams wedi marw bum' mlynedd o flaen Mr. Thomas. Yr oedd Mr. Richard Thomas lawer yn alluocach pregethwr na'i ragflaenydd Mr. John Thomas, ond ni chyfrifid ef yn ddyn mor ddifrifol a duwiol ag ef. Yr oeddid hefyd yn ameu iachusrwydd ei athrawiaeth, a chyhuddid ef o esgeuluso gwaith y weinidogaeth wrth ymdrafod gormod a negeseuon y bywyd hwn. Boddodd ar gyffiniau yr Iwerddon yn 1761, pan ar ei fordaith o Bwllheli i Gaerodor ar neges fasnachol.
Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. Rees Harries, o athrofa Abergavenny. Urddwyd ef yma Mai 22ain, 1765. Yr oedd Meistri D. Jardine, Abergavenny; D. Williams, Caerdydd; John Griffiths, Glandwr; Daniel Gronow, ac eraill, yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad.* Yr oedd ef wedi bod yma am fwy na blwyddyn cyn ei urddiad ar brawf. Trodd allan yn weinidog gwerthfawr iawn, a bu o wasanaeth dirfawr i sir Gaernarfon a gogledd Cymru yn gyffredinol. Gan ei fod yn bregethwr rhagorol iawn, yn ddyn nodedig o dduwiol, yn foneddigaidd ryfeddol yn ei ymddygiad a'i ymddangosiad, ac yn weithiwr difefl, bu yn llwyddianus ac yn barchus iawn yma hyd derfyn ei oes yn 1788. Yn fuan wedi iddo ef ymsefydlu yn Mhwllheli, ailgychwynodd yr achos yn Nghaernarfon: Pan yr aeth i'r brawdlys tri misol yn Nghaernarfon i ofyn trwydded ar dy i bregethu ynddo yno, gofynodd un o'r ynadon iddo, pa angen oedd arno ef i gael ty yno gan fod ganddo gapel yn Mhwllheli. "Paham foneddigion," ebe yntau "nas gallaf fi gadw curad fel y gwna llawer o'r personiaid." Ar hyny distawsant, a rhoddwyd y drwydded iddo. Llafuriodd Mr. Harries yma gyda derbyniad a llwyddiant mawr, am bum'-mlynedd-ar-hugain. Yn ychwanegol at y weinidogaeth cadwai ysgol ddyddiol trwy ei oes, a bu llawer o wyr ieuaingc dan ei ofal yn parotoi at y weinidogaeth. Ni chafodd ond byr gystudd, a bu farw yn mis Mai, 1788, yn 50 oed.
Llai na blwyddyn y bu yr eglwys yma heb weinidog wedi marwolaeth Mr. Harries, oblegid cyn diwedd y flwyddyn 1789, rhoddasant alwad i Mr. Benjamin Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Rhosymeirch, Mon. Bu Jones yma yn barchus a chymeradwy am dymor hir, ac yr oedd dan ei ofal
* Records of the Congregational Fund Board.
159
yn Mhwllheli eglwys gref a dylanwadol, ac yr oedd maes ei weinidogaeth yn cyrhaedd o'r Capel-newydd hyd Capel-helyg. .Deuai rhai personau o bob cwr o Leyn i Bwllheli bob Sabboth cymundeb, ac ar amserau eraill yn achlysurol; ond collwyd y maes eang hwnw i raddau i Annibyniaeth oblegid na wnaed ymgais mewn pryd i sefydlu achosion mewn manau y tuallan i Bwllheli. Er fod Mr. Jones yn ddyn deallgar, ac yn athrawiaethwr grymus, etto yr oedd yn ddiffygiol yn yr ysbryd cenhadol oedd yn angenrheidiol i gymeryd meddiant o'r wlad i grefydd. Bod llonai yn unig ar bregethu yn y Capel-newydd yn y boreu, ac yn Mhwllheli am dri yn y prydnawn, ac weithiau elai i Gapel-helyg yr hwyr; ond nid oedd capel Pwllheli yn cael ei agor ar y Sabboth ond yn unig i'r oedfa brydnawnol. Rhoddodd hyny fantais i'r Methodistiaid Calfinaidd i ennill y bobl atynt, oblegid agorent hwy eu capelau ar hwyr y Sabbothau, ac yr oedd nodwedd gyffrous eu gweinidogaeth yn gyfaddas hollol i agwedd y wlad yn yr adeg hono. Ond cyfrifid eglwys Pwllheli er hyny yn barchus a dylanwadol, ac yn enwedig am ei heddwch a'i chydweithrediad, ac yr oedd rhai o'r bobl fwyaf cyfrifol trwy yr holl wlad oddiamgylch yn perthyn iddi. Gan fod maes ei lafur yn rhy helaeth, rhoddodd Mr. Jones i fyny yr eglwys yn Capel-helyg yn y flwyddyn 1816, a chyn pen tair blynedd ar ol hyny teimlodd fod llesgedd a henaint wedi ei ddal, fel yr oedd angen cynorthwywr arno yn ei gylch eang. Anfonodd ef a'r eglwys at Dr. Phillips, Neuaddlwyd, i ddymuno arno anfon atynt ryw wr ieuangc a dybiai ef yn gymhwys i fod yn weinidog iddynt mewn cysylltiad a Mr. Jones. Cymeradwyodd yntau Mr. Thomas Lewis, aelod o'r Neuaddlwyd, a myfyriwr o'r athrofa dan ei ofal, iddynt fel un tebygol o ateb y lle. Hoffwyd Mr. Lewis yn fawr gan yr hen weinidog a'r eglwys, a rhoddwyd galwad iddo yn ddioed. Urddwyd ef yn mis Hydref, 1819. Yr oedd Mr. Lewis yn ddyn o weithgarwch diflino, ac yn llawn awydd am eangu terfynau yr achos. Cydlafuriodd a'r hybarch weinidog, yn y teimladau goreu, am fwy na thair-blynedd-a-haner, hyd nes y rhoddedd angau derfyn ar fywyd gweinidogaethol Mr. Jones, Chwefror 16eg, 1823, yn 66 oed. Disgynodd y gofal ar ol hyn yn gwbl ar Mr. Lewis, a pharhaodd i fyned rhagddo yn llwyddianus dros amryw flynyddoedd, ond cyn hir daeth "y gelyn i mewn fel afon," a thorwyd ar gysur a llwyddiant yr eglwys. Yr oedd Mr. Lewis wedi bod yn casglu at ddyled y capel, ac aeth trwy galedi mawr wrth deithio trwy wahanol ranau o Gymru, a Lloegr, a'r Iwerddon i hyny; ond cododd rhyw rai y cri ei fod am feddianu y capel, nes peri dychryn i ddynion gweiniaid a difarn. Dynion digrefydd oedd y rhai a flaenorent yn y cweryl, ond fod eu henafiaid wedi bod yn noddwyr caredig i'r achos, a dichon fod Mr. Lewis yn fwy anhyblyg nag y buasai dda iddo fod yn y fath amgylchiadau ar yr achos. Ond bu yr ymrafael yn ysigdod mawr i'r achos. Aeth rhai at enwadau eraill ar ol i Mr. Lewis gael ei gau allan o'r capel, ac ni ddychwelasant mwyach at yr Annibynwyr, ac aeth eraill gyda Mr. Lewis i Abererch, a pharhasant i gerdded yno bob Sabboth hyd ymadawiad Mr. Lewis i Llanfairmuallt, yn 1830, ac am dymor ar ol hyny. Bu Mr. Owen Jones yn gweinyddu yn Mhwllheli am ysbaid blwyddyn neu ychwaneg ar ol ymadawiad Mr. Lewis. Yr oedd y gwr hwn, Owen Jones, yn ddoniol a phoblogaidd iawn fel pregethwr, ond fod ei fywyd yn anwastad, a da fyddai ganddo gael lloches yn rhywle pan wedi ei droi allan i'r gwlaw. Bu ar ol hyn am flynyddoedd yn Llanuwchllyn, ac wedi i'r pleidiau hyny heddychu, aeth at y Bedyddwyr, a bu yn weinidog gyda hwy mewn gwahanol fanau,
160
ac yr oedd yn fyw hyd yn ddiweddar, os nad ydyw etto. Yn nechreu y flwyddyn 1832, rhoddwyd galwad i Mr. William Jones, aelod o Landrillo, yn sir Feirionydd, a nai fab brawd i Dr. Arthur Jones, Bangor. Urddwyd ef Ebrill 26ain, 1832. Llafuriodd Mr. Jones yma am chwe' blynedd, ond ni bu ei weinidogaeth yn llwyddianus iawn, Yr oedd yr eglwys etto heb ymuniawni ar ol yr amgylchiadau blinion yr aeth drwyddynt, ac yr oedd y gwreiddyn chwerwedd yn aros. Yn nechreu y flwyddyn 1838, derbyniodd Mr. Jones alwad oddiwrth yr eglwysi yn Glynarthen a Hawen, a symudodd yno yn fuan, a bu yno yn ddefnyddiol a chymeradwy hyd derfyn ei oes. Daw ei hanes ef dan sylw yn nglyn a Glynarthen.
Yn mis Awst, 1838, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. Rees P. Griffiths, yr hwn a fuasai am rai blynyddoedd yn weinidog yn Llanberis, yn yr un sir, a dechreuodd Mr. Griffiths ei weinidogaeth yma yn ddioed. Nid oedd yma ond llai na 50 o aelodau pan yr ymsefydlodd yn y lle, ond cyn diwedd y flwyddyn bendithiwyd yr eglwys a diwygiad grymus iawn, grymusach na dim a fu yn flaenorol yn ei hanes, a pharhaodd yr achos i fyned rhagddo, fel yr oedd rhif yr eglwys erbyn dechreu y flwyddyn 1840 uwchlaw 150. Bu Mr. Griffiths yma yn barchus hyd y flwyddyn 1852, pryd y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Joppa, Caernarfon. Dros rai blynyddoedd wedi ymadawiad Mr. Griffiths ni bu yma yr un gweinidog sefydlog, hyd ddiwedd y flwyddyn 1857, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Price Howells, Llanfyllin. Bu Mr. Howells yma yn barchus a defnyddiol hyd y flwyddyn 1862, pryd y symudodd i Ynysgau, Merthyr Tydfil. Bu yr eglwys yma o hyny hyd y flwyddyn 1865 yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, ond yn nechreu y flwyddyn hono, rhoddasant alwad i Mr. John Henry Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Ebrill 20fed, yn yr un flwyddyn. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. H. Oliver, B.A., Pontypridd; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Griffiths, Amana; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Williams, Castellnewydd; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Roberts, Caernarfon, ac i'r eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog. Bu Mr. Jones yma yn barchus a defnyddiol am yn agos i bum' mlynedd, hyd nes y derbyniodd alwad o Brynseion, Dowlais, a symudodd yno yn Chwefror, 1870. Mae yr eglwys er hyny heb weinidog sefydlog, ond y mae yr achos mewn gwedd obeithiol a chalonog.
Yr ydym wedi rhedeg yn frysiog dros brif ddigwyddiadau yr eglwys yma o'r dechreuad hyd yr awr hon, ond y mae yn sicr genym fod llawer o bethau yn ei hanes wedi myned ar ddifancoll, y rhai pe buasent ar gof a chadw y buasai yn ddyddorol eu cofnodi. Nid oes genym sicrwydd. pa bryd y codwyd y capel cyntaf yma, ond y mae yn amlwg na wnaed hyny cyn y flwyddyn 1689, pryd y cafwyd cysgod o dan Ddeddf Goddefiad. Yr oedd y gynnulleidfa yma, fel y gwelsom, ychydig cyn hyny yn addoli mewn tai trwyddedig. Mae traddodiad yn y dref, a'r wlad oddiamgylch, fod y capel cyntaf wedi ei dynu i lawr gan yr erlidwyr, ac wedi ei ailadeiladu ar draul y llywodraeth. Y mae hyny yn ddigon posibl, er nad oes dim, hyd y gwyddom, mewn argraff na llawysgrif yn cadarnhau hyny. Tynodd y werin afreolus gapel Llanfyllin i lawr yn 1712, ac yn 1717, ailadeiladwyd ef ar draul y llywodraeth, wedi dyrchafiad y Whigiaid i awdurdod yn y wladwriaeth; a gallasai capel Pwllheli fod wedi ei dynu i lawr a'i ailadeiladu dan gyffelyb amgylchiadau. Yn y flwyddyn 1786, rhoddwyd ychydig o dir gan Mrs. Edwards, Nanhoron, i fod yn feddiant i'r
161
eglwys, a'u hardreth i fod at gynaliaeth y weinidogaeth; a gwnaed gweithred y pryd hwnw yn cyflwyno yr holl eiddo i ymddiriedolwyr. Dywedir fod gweithred arall wedi ei gwneyd er's yn agos i gan' mlynedd cyn hyny, yr hyn sydd yn dwyn adeiladaeth y capel cyntaf yn agos i'r amser a nodir genym. Mae y weithred gyntaf ar goll. Yn y flwyddyn 1821, gwnaed ymddiriedolwyr newyddion, a chan fod enwau y rhai hyny genym, rhoddwn hwy ar lawr yma: - Benjamin Jones, Caeaugwynion, a Thomas Lewis, y ddau weinidog; Thomas Harris, Gwynfryn; Griffith Griffiths, Blowty; David Williams, Saethon; Humphrey Griffiths, Ironmonger; William Francis, a John Francis, Rhydhir; Evan Parry, a Griffith Griffiths. Ailadeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1814, a gwnaed ef yn dY helaeth a hardd yn ol y syniad yn y dyddiau hyny. Costiodd swm mawr, a thuag at dalu ei ddyled y bu Mr. Lewis oddicartref yn casglu. Gwnaed cyfnewidiadau mewnol yn y capel, ac adgyweiriwyd ef, yn y flwyddyn 1841, ac yn y flwyddyn 1864, tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd y capel helaeth a chyfleus sydd yma yn awr. Costiodd 1250p.
Mae yma lawer o bersonau a theuluoedd o hynodrwydd wedi bod yn nglyn a'r achos yma o oes i oes. Teulu y Gwynfryn oedd yn mysg ei noddwyr mwyaf caredig am dymor hir, a chodwyd o hono lawer o rai yn gwir ofalu am yr achos. Walter Williams, hen daid Mrs. Ambrose, Porthmadog, oedd un o ffyddloniaid yr achos yma mewn cyfnod helbulus. Preswyliai yn Ty Llewelyn, Penrhos. Bu yn hir yn chwilio y wlad am Fibl. Cafodd un German Text o'r diwedd. (Bibl Dr. Morgan, mae yn debyg). Efe oedd y cyntaf yn sir Gaernarfon a gladdwyd mewn tir a gyfrifid yn annghysegredig, ac y mae ei fedd yn weladwy hyd y dydd hwn. Mab iddo ef oedd Owen Walter, yr hwn a fu yn ddiacon ffyddlon am flynyddau yn Penlan. Bu Mrs. Edwards, Nanhoron, yn famaeth dyner i'r achos yma am flynyddau, ac yr oedd cysylltiad boneddiges fel hi a'r lle yn peri i lawer o'r werin anwybodus i'w barchu gyda llawer o urddas. Yr oedd David Williams, Saethon, yn wr deallgar a dylanwadol, ac yn cael ei gyfrif yn oracl yn y wlad. Dygodd deulu lluosog o blant i fyny, a rhoddodd iddynt addysg o radd uwch nag a roddid i odid neb o blant y wlad yn y dyddiau hyny. Merch iddo ef ydyw Mrs. Breese, gweddw y diweddar Mr. John Breese, o Gaerfyrddin; a mab iddo ef oedd y diweddar David Williams, Ysw., o Gastelldeudraeth, yr aelod seneddol dros sir Feirionydd. Bu William a John Francis, Rhydhir, a'u chwiorydd, yn ffyddlon i'r achos yn ei brofedigaethau. Gyda hwy y llettyai Mr. Lewis dros ysbaid ei arosiad yn y lle. Coffeir mewn amseroedd diweddarach am enwau llawer o ffyddloniaid, ond gan nad oes genym restr gyflawn o honynt, ymataliwn rhag crybwyll yr ychydig enwau a wyddom.
Buasai yn dda genym allu rhoddi enwau yr holl rai a godwyd i bregethu yma o'r dechreuad, ond nis gallwn. Y rhai canlynol yw yr unig rai y mae genym sicrwydd am danynt :-
*History of Nonconformity in Cheshire. Page 452. Horne's Introduction. Vol. II. Page 326.
162
Bu yma amryw bregethwyr eraill yn aros yma am dymor, ond dyna yr oll y gallasom gael allan ddarfod iddynt ddechreu pregethu yma.
JOHN WILLIAMS. Y mae amser a lle ei enedigaeth ef yn anhysbys, ond mae yn amlwg iddo gael ei eni yn rhywle yn Lleyn neu Eifionydd, ac heb fod yn mhell o Bwllheli. Mae yn debyg hefyd mai yn mhrif athrofa Rhydychain y gorphenodd ei addysg. Yr oedd yn pregethu rai blynyddau cyn adferiad Siarl II. Yn amser Cromwell yr oedd at ei ryddid i bregethu mewn unrhyw Eglwys blwyfol. Nid yw yn sicr yn mha eglwys yr oedd yn pregethu yn fwyaf cyson yn amser adferiad y brenhin, ond yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, ni ddarfu iddo bregethu mewn unrhyw le yn Nghymru rhwng haf y flwyddyn 1660 a Rhagfyr 1663. Mae yn ymddangos fod y blaid esgobol yn dra dylanwadol yn sir Gaernarfon, ac mor ffyrnig o elynol
* Monthly Magazine, for July, 1800. + Dysgedydd, 1833. Tu dal. 357.
163
i'r Ymneillduwyr, fel y bu raid i Mr. Williams, yr hwn, fel yr ymddengys, oedd yr unig weinidog Ymneillduol yn y sir, ffoi am ei einioes cyn gynted ag y daeth yr esgobion i awdurdod. Wedi ei ymadawiad o Gymru, ymsefydlodd yn nhy boneddwr o'r enw Mr. Hart yn Nghent, a bu am ysbaid o amser yn gweinyddu fel caplan teuluaidd yn nheulu y boneddwr hwnw.
Yn mysg amrywiol fesurau melldigedig eraill a fabwysiadwyd i boeni yr Ymneillduwyr, yn mlynyddoedd cyntaf teyrnasiad Siarl II., gosodwyd ysbiwyr yn mhob llythyrdy i agor pob llythyr fuasai wedi cael ei gyfeirio at unrhyw berson a ddrwg-dybid o fod yn ffafriol i Ymneillduaeth, mewn trefn i gael rhyw esgus dros ddal yr ysgrifenwyr a'r rhai yr ysgrifenid atynt. Ac i ychwanegu at y creulondeb, os na fuasai dim yn y llythyrau i ddwyn yr ysgrifenwyr a'u cyfeillion i afael y gyfraith, buasid yn fynych yn efelychu y copi gwreiddiol, gan ychwanegu ychydig o frawddegau dirmygus yn erbyn y brenin, y llywodraeth, a'r eglwys. Yna dinystrid y gwreiddiol, a thyngid mai yr efelychiad ydoedd, er mwyn dwyn yr hwn a gyhuddid o'i ysgrifenu, a'r hwn y cyfeirid ef ato, i afael cosb fel troseddwyr yn y wladwriaeth. Cafodd llawer o ddynion diniwed eu carcharu a'u cosbi yn ddidrugaredd trwy ddichellion iselwael o'r fath hyn. Yn mysg eraill, bu Mr. Williams, a'i gyfaill, Mr. Richard Edwards, Nanhoron, yn ddyoddefwyr trwy y fath ddyfais felldigedig. Pan yr oedd Mr. Williams yn byw gyda Mr. Hart yn Nghent, ysgrifenodd at Mr. Richard Edwards i ofyn am dyddyn i'w fam, yr hon oedd yn wraig weddw. Pan ddaeth y llythyr i lythyrdy Caernarfon, agorwyd ef gan ysbiwr y llywodraeth. Er nad oedd yn y gwir lythyr ddim anghyfreithlon, etto y fath oedd syched y gwaedgwn am waed, fel y gwnaed llythyr o ddarnau o lythyr Mr. Williams, gydag ychwanegiadau, er cael esgus i ddal Mr. Edwards a Mr. Williams. Anfonodd Israglawon sir Gaernarfon gopi, o'r hyn a alwent y llythyr a ysgrifenasai Mr. Williams at Mr. Edwards, i Lundain i Arglwydd Arlington, a rhoddodd ei arglwyddiaeth ddwy warant allan i ddal y ddau. Nid ydym yn gwybod pa fodd yr ymdarawodd Mr. Edwards, ond am Mr. Williams, cafodd ef ei roddi yn ngharchar am ddeng wythnos cyn cael ei alw i sefyll ei brawf. Yn Ionawr, 1664, bu ar ei brawf. Gwadai yn bendant nad efe a ysgrifenodd y llythyr a ddangosid yn y llys; ond iddo ysgrifenu llythyr at .Mr. Edwards yn nghylch tyddyn i'w fam yr haf blaenorol. Wedi methu profi dim yn ei erbyn, gollyngwyd ef yn rhydd, ond costiodd y carchariad a'r prawf iddo tuag un-bunt-ar-bymtheg-ar-hugain. A. ganlyn sydd gyfieithiad o'r llythyr y cyhuddid ef o'i ysgrifenu. Mae yn dra sicr mai ychwanegiadau y copiwyr yn Nghaernarfon yw y llinellau a osodasom mewn llythyrenau italaidd, ac i'r hyn a ddywedid am y tyddyn, yn y llythyr gwreiddiol, gael ei adael allan :-
" Anwyl Gyfaill,"Y mae llawer o'ch cyfeillion chwi, a'ch cyd-ddyoddefwyr gwerthfawr yn meddwl yn fynych am eich caethiwed, ac yn gweddio beunydd ar yr Arglwydd am eich gollyngdod o ddwylaw gelynion creulon, 'canys aml ddrygau a gaiff y cyflawn, ond yr Arglwydd a'i gwared ef oddiwrthynt oll, canys felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o'ch blaen chwi;' felly, amynedd yw y rhinwedd fwyaf angenrheidiol yn awr. Yr wyf fi yn bresenol allan o Lundain, ond yn cael cyfleusdra i anfon y llythyr hwn, i'w bostio yn Nghaerlleon, yn llaw y cyfaill a ddygodd i mi hanes eich dyoddefiadau chwi a'r cyfeillion eraill. Cyfeiriais y llythyr i'w anfon o Gaerlleon i ofal ein hanwyl gyfaill, Thomas Lawrence. Buom yn coleddu gobeithion melus trwy drugaredd Duw, y cawsai y cleddyf unwaith drachefn ei osod yn nwylaw y rhai sydd yn ofni ei enw ef; ond ni welodd yr Arglwydd yn dda farnu hyny yn briodol
164
i ni etto. Yr oeddym ni ychydig yn rhy frysiog. Nis gall oediad yr Arglwydd lai na mwyhau eu pechodau hwy, fel y byddo i'n cleddyfau ni dori yn llymach, ac fel y syrthio deg o flaen un, a deng mil o flaen deg, ac na byddont mwyach i'w gweled ond fel ûs o flaen y gwynt, ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid. O gyfaill anwyl, diddenwch y brodyr gweiniaid, fel y byddo iddynt sefyll yn ddiysgog ac yn gadarn yn y ffydd. Bydded eich cynlluniadau yn yr Arglwydd yn aml, ac nac ofnwch y rhai a allent ladd y corph, eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a all fwrw corph ac enaid i uffern. Yr Arglwydd daionus a'i fawr drugaredd a'ch cadwo oll er mawl i'w ogoniant ef. Yr wyf yn dymnno arnoch gyflwyno fy serch anwylaf i Mr. Jeffrey Parry, Mr. Morris Griffith, Mr. Mark Lloyd, a'i wraig ragorol, ac at y lleill oll o'm hanwyl gyfeillion yn yr Arglwydd. Yr Arglwydd a'ch cynalio ac a'ch cadwo oll. Amen. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.'
" Eich cyfaill cywir, a'ch cydweithiwr yn yr Arglwydd,
"J. W.
" O'm cartref ansefydlog, Hydref 20fed, 1663.
" I'm hanwyl gyfaill Mr. Richard Edwards, Nanhoron, i'w adael yn nhy Mr. Thomas Lawrance yn Nghaernarfon."
Ar gefn y llythyr y mae y geiriau, " Copi cywir. Tystion, Thos. Bulkley, John Owen, Thos. Vaughan, Will.Griffith, Lleyn, Israglawiaid sir Gaernarfon."*
Gan mai yn Llundain yr oedd yr achos yn cael ei brofi, mae y gofyniad yn ymgodi yn naturiol, Paham mai copi a anfonwyd yno yn lle y llythyr gwreiddiol? a phaham hefyd y rhyddhawyd y cyhuddedig gan y llys? Mae yn amlwg mai dyfais faleisus i aflonyddu dynion da oedd y cwbl. Dyna nodwedd eglwyswyr sir Gaernarfon yn 1663.
Yn mhen ychydig amser wedi yr helynt hyn, dychwelodd Mr. Williams i sir Gaernarfon, ac yno y bu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ryw amser yn ystod y flwyddyn 1674.
Yr oedd John Williams yn ddyn dysgedig a duwiol iawn, ond i raddau yn amddifad o'r gwroldeb a'r penderfyniad gofynol mewn oes o fath ei oes ef. Beuid ef, fel y gwelsom, gan ei gefnder Mr. Henry Maurice, am esgeuluso pregethu am gymaint o amser, a chyfaddefai yntau ei fai. Mae yn rhaid i ddyn wrth ras merthyr i wneyd gwaith, a myned trwy ddyoddefiadau merthyr. Nid ydym yn gwybod yn mha le y claddwyd ef.
O.Y. - Ar ol ysgrifenu yr uchod, buom yn y Record Office yn Llundain yn chwilio yn mhellach i'r amgylchiad, a daethom o hyd i'r ffeithiau canlynol: - Anfonwyd copi o'r llythyr yr haerid i Mr. Williams ei ysgrifenu at Mr. Edwards, gan Israglawiaid (Deputy Lieutenants) sir Gaernarfon, i Syr Henry Bennett, ysgrifenydd y llywodraeth, yr hwn ar ei dderbyniad a anfonodd allan warant i ddal Mr. Williams a Mr. Edwards. Yr oedd Mr. Edwards ar y pryd yn Llundain, yn dwyn yn mlaen gynghaws cyfreithiol yn nghylch tir â rhyw wr mawr o sir Gaernarfon; a Mr. Williams yn Nghent, heb fod yn mhell o Lundain. Daliwyd y ddau, a gwadai Mr. Williams yn bendant mai nid efe a ysgrifenasai y llythyr y cyhuddesid ef o ysgrifenu. Mewn trefn i gymharu ei lawysgrifen a'r llythyr gwreiddiol, yr hwn oedd etto yn meddiant Israglawiaid sir Gaernarfon, gwnaeth Syr Henry Bennett iddo ysgrifenu papyr yn y llys, yr hwn a anfonwyd ganddo i Gaernarfon i'w gymharu a'r hyn yr haerid mai y llythyr gwreiddiol ydoedd. Pan yn methu cael y ddwy lawysgrifen i ateb i'w gilydd, haerai
* State papers Charles II.'s reign. Vol. LXXXV. Page 18.
165
yr Israglawiaid mai dyeithrio ei law a wnaeth wrth ysgrifenu at Mr. Edwards, ac anfonasant lythyr maith at Syr Henry Bennett yn taeru mai nid llunio llythyr a cheisio efelychu llaw Mr. Williams a wnaethant hwy oddiar falais tuag ato ef a Mr. Edwards. Mae yn eithaf amlwg mai felly y bu, oblegid cafodd y ddau, ar ol chwilio yr achos i'w waelod, eu gollwng yn rhydd, ond buont yn garcharorion am tua deng wythnos, tra buwyd yn ysgrifenu yn ol ac yn mlaen o Lundain i Gaernarfon ar yr achos, a chostiodd y prawf dros ddeg-punt-ar-hugain yr un iddynt. Mae yn ymddangos fod Syr Henry Bennett, tra yn awyddus am gosbi pob Annghydffurfiwr y gallesid profi ei fod yn droseddwr o'r gyfraith, yn ddigon o foneddwr i beidio cosbi neb nas gallesid profi ei euogrwydd yn eglur. Gan hyny, gorfodwyd Israglawiaid sir Gaernarfon i ddangos y llythyr y cyhuddent Mr. Williams o'i ysgrifenu i ddynion adnabyddus o'i lawysgrifen, ac anfon tystiolaeth y cyfryw iddo ef. Felly bu raid iddynt, yn ddiau yn groes i'w hewyllys, alw y boneddigion canlynol, y rhai a arferent ohebu a Mr. Williams, i gymharu ei law ysgrifen wreiddiol ef a'r llythyr y mynid ei gosbi o'i herwydd, a chymerasant eu llw nad oeddynt yn credu mai efe a'i hysgrifenodd. A ganlyn yw eu tystiolaeth : - " Yr wyf fi, Maurice Griffith, boneddwr, wedi cael fy holi ar fy llw gan yr Israglawiaid yn Nghaernarfon, Rhagfyr 29ain, 1663, yn tystio nad wyf fi yn adnabod y llawysgrifen hon, ac nad wyf yn credu mai llawysgrifen Mr. John Williams, Ty'nycoed, ydyw. Llawysgrifen arferedig pa un sydd yn adnabyddus i mi. - Maurice Griffith."
" Yr wyf fi, Jeffrey Parry, wedi cael fy holi ar fy llw o berthynas i'r llawysgrifen hon, yn tystio nad wyf fi yn ei hadnabod, ac nad wyf yn credu mai llawysgrifen Mr. John Williams ydyw. - Jeffrey Parry."
"Yr wyf fi, Mark Lloyd, boneddwr, wedi cael fy holi ar fy llw gan Israglawiaid y sir hon, yn tystio nad wyf yn credu mai llawysgrifen Mr. John Williams yw y llawysgrifen hon, gan nad oes ynddi nemawr o debygolrwydd i'w lawysgrifen arferol ef, a'r hon yr wyf yn gyfarwydd. - Mark Lloyd."*
Yn wyneb y tystiolaethau hyn, nid oedd gan Syr Henry Bennett ddim i'w wneyd ond gollwng ei garcharorion yn rhyddion, a gadael Israglawiaid sir Gaernarfon dan y gwarth o lunio llythyr maleisus er ceisio dwyn dau Ymneillduwr diddrwg i ofid. Yr Israglawiaid gwaradwyddus hyn oeddynt Syr Thomas Bulkley, John Owen, a William Griffith, o Leyn.
Yr oedd Meistri Maurice Griffith, Jeffrey Parry, Mark Lloyd, a Richard Edwards yn Annghydffurfwyr yn yr oes erlidgar hono, ac yn foneddigion o ran eu hamgylchiadau bydol yn gystal ag o ran cymeriadau. Mae yn flin genym nad ydym yn alluog i roddi hanes eu bywydau ger bron ein darllenwyr.
DANIEL PHILLIPS. Yr oedd ef yn disgyn o un o ganghenau ieuengaf teulu pendefigaidd Picton Castle, sir Benfro. Nid ydym yn gwybod yn mha le yr oedd ei rieni yn byw, na pha bryd y ganwyd ef. Mae yn lled debyg mai rhyw fan yn y cwr isaf o sir Gaerfyrddin, neu y rhan uchaf o sir Benfro oedd lle ei enedigaeth. Rhoddir yr hanes canlynol am ei droedigaeth yn Nrych yr Amseroedd: - " Cafodd ddysgeidiaeth dda, ond troes allan yn ei ieuengctyd yn ddyn gwag ac anystyriol. Yr oedd ganddo un cyfaill mwy neillduol nag eraill oedd yn cydredeg gydag ef i bob gwagedd. Ar ryw Sabboth gofynodd un i'r llall,
* State papers, Charles II, Vol. LXXXV. Page 121-2. Vol. LXXXVI. Page 83.
166
I ba le y cawn fyned heddyw? A gawn ni fyned i wrandaw ar y gwr a'r gwr yn pregethu ? ac felly y bu. Wedi dyfod allan, dywedodd ei gyfaill wrtho, Wel, bellach ni a awn i'r lle a'r lle, i'n gwneyd ein hunain yn llawen gyda rhyw ddigrifwch. Dywedodd Mr. Phillips wrtho, Fy nghyfaill, y mae yn rhyfedd genyf eich clywed. Oni chlywsoch chwi fel yr oedd y pregethwr yn dywedyd am bechod, a'r gosb ddychrynllyd ddyledus o'i herwydd ? gan hyny, pa fodd y gallwn wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw ? O hyny allan gadawodd ei hen gyfeillion ofer, a'i ffyrdd pechadurus, ac ymroddodd i geisio yr Arglwydd a'i holl galon. Daeth yn mlaen ar gynydd mewn gras a gwybodaeth iachusol a doniau helaeth." Yn fuan wedi iddo wneyd proffes gyhoeddus o grefydd, aeth i athrofa Mr. Samuel Jones, Brynllwarch, i dderbyn addysg ar gyfer y weinidogaeth. Wedi gorphen ei amser yno, aeth, ar gais cyfeillion yr achos, i Bwllheli yn y flwyddyn 1684. Ond o herwydd angerdd yr erledigaeth, ni chafodd ei urddo cyn 1688. Dywedir i ryw erlidiwr saethu ato unwaith, pryd yr oedd yn y pulpud yn pregethu, ond trefnodd Rhagluniaeth i'r belen fyned heibio iddo i'r pared. Wrth ganfod ei waredigaeth ragluniaethol, dywedodd, "Yn nghysgod dy law y'm cuddiaist," ac aeth rhagddo yn ei bregeth yn ddifraw.
Yn fuan wedi iddo fyned i Bwllheli, priododd weddw yr enwog Henry Maurice, yr hon oedd berchenog y Gwynfryn, ac aeth yno i fyw. Yn y lle hwnw y bu gweinidogion Pwllheli yn byw yn olynol am fwy na chant-a-deg-ar-hugain o flynyddau. Yr oedd Mrs. Maurice, fel yr ymddengys, amryw flynyddau yn hyn na Mr. Phillips. Priododd ef wedi iddo ei chladdu hi, ac ymddengys mai ei ail wraig oedd mam ei blant. Cafodd chwech o blant - dau fab a phedair merch. Bu ei ddau fab, fel y nodasom, yn weinidogion enwog yn eu dydd, a bu tair o'i ferched yn wragedd gweinidogion, sef Mr. David Williams, Dinbych; Richard Thomas, Pwllheli, a Thomas Morgan, Henllan. Bu amryw o'i wyrion a'i orwyrion, a phlant y rhai hyny, yn weinidogion ac yn wragedd gweinidogion. Wyres iddo oedd gwraig Mr. Rees Harries, Pwllheli, a merch iddi hithau oedd gwraig Mr. E. Davies, Hanover, Mynwy. Y mae lluaws o ddisgynyddion Mr. Phillips, yn awr yn y seithfed a'r wythfed genhedlaeth, yn wasgaredig ar hyd Cymru a Lloegr, a'r rhan fwyaf o honynt a adwaenom ni yn bobl foneddigaidd a chrefyddol.
Wedi llafurio yn Mhwllheli, Caernarfon, a'r cylchoedd, gyda diwydrwydd a llwyddiant mawr yn wyneb llawer o wrthwynebiadau a pheryglon am ddeunaw-mlynedd-ar-hugain, bu farw y gweinidog enwog hwn yn y flwyddyn 1722. Gan na ddarfu i neb o'i gydoeswyr adael nemawr o ddim o'i hanes mewn na llawysgrif nac argraff, yr ydym yn analluog i roddi nemawr o fanylion o'i hanes. Fel engraifft o ddylanwad ei gymeriad ar y rhai oedd a mwyaf o gyfleusdra i'w adnabod, cymerwn y ffaith ganlynol o Ddrych yr Amseroedd:-" O herwydd gelyniaeth cyffredinolrwydd y trigolion at Ymneillduaeth, ni chai na gwas na morwyn, ond rhyw rai na chymerai neb arall mo honynt. Cafodd o'r diwedd ryw greadur annosbarthus ac ymladdgar yn forwyn, a byddai hono yn rhegi ac yn melldithio fel pe buasai o ddyben yn ei boeni. Sylwai hon y byddai ei meistr yn cilio i'r parlwr yn fynych wrtho ei hun. Un tro dywedodd hithau wrthi ei hun, 'Beth y mae yr hen gythraul yn ei wneyd acw ?' Edrychodd trwy dwll y clo, a chanfu y gwr duwiol ar ei luniau, a'r dagrau yn llifo ar hyd ei ruddiau; a thrwy hyny, fel moddion dechreuol, ennillwyd y creadur ysgeler
[Last updated: 3 June 2008 - Gareth Hicks]
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark. |