GENUKI Home page
Caernarfonshire Caernarfonshire     Contents Contents

 

 

  Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 yolumes (published 1871+)
From the CD published by Archiye CD Books

Caernarfonshire section (yol 3)

Pages  279 - 292

See main project page

Proof read by Yvonne John (May 2008)

Chapels below;

 


Pages  279 - 292

279

(Continued) BANGOR

(Not extracted fully)

283 / 281

  

BETHLEHEM

(Llanllechid parish)

Mae cryn lawer o dywyllwch yn nglyn a hanes dechreuad yr holl eglwysi yn amgylchoedd dinas Bangor, a hyny yn un peth am eu bod wedi bod yn ymgynnull mewn cyrdfer o leoedd, ac yn cael eu symud o fan i fan. Nid oes genym sicrwydd am un lle yn yr holl gylchoedd a drwyddedwyd at addoli, ond lle a elwir yn nghofrestr Llys Esgobol Bangor, yn Turnpike Aber, a gofrestrwyd gan Mr. W. Hughes, Hydref 13eg, 1795.

Mae traddodiad fod garddwr perthynol i Gastell Penrhyn, er's cant a haner o flynyddau yn ol, wedi croesawi ddau wr ieuangc o Rhydychain, a bod y ddau wedi pregethu un noson mown tyddyn bychan gerllaw o'r

282

enw Tyddyn Iolyn, a bod y ddau mewn canlyniad wedi dianc boreu dranoeth.*

Nid ydym wedi llwyddo i gael enwau y naill na'r llall; nac ychwaith enw y garddwr, ond mae digon o sicrwydd y byddis arferol ar ol hyny o gyfarfod 'nawr ac eilwaith yn Tyddyn Iolyn a'r tyddynod oddiamgylch. Dywedir fod pregeth ar brydnawn Sabboth tua chan' mlynedd yn ol, naill ai yn Tanycoed neu y Wern - dau dyddyn nid yn nepell o'r gymydogaeth, a bod rhyw un yn cyhoeddi pregeth yno i fod ryw adeg arall, a bod hen glochydd Llanllechid wedi dal ar y cyfleu i hysbysu ei oedfa yntau, a dyna gynwys hono, "Bydd dyrnu yr Iâr yn nhy Mary Owen yr Achubuchaf, am ddau o'r gloch y Sabboth nesaf." Yr oedd un o'r enw Ellin Williams yn byw yn Cochwillan Ffarm, genedigol o rywle yn Mon, yr oedd yn berthynas i'r hen William Prichard, Clwch y Dernog, ac yr oedd un arall o'r enw Elizabeth Ellis yn byw yn Tyddyn Isaf - dau dyddyn gerllaw. Byddai y ddwy yma yn arfer myned i Rhosymeirch a Phwllheli, i gymundeb. Unwaith yr oedd rhyw bregethwr i'w ddisgwyl i'r gymydogaeth, ac nis gallodd gadw ei gyhoeddiad, naill ai gan ofn neu ryw amgylchiad arall. Yr oedd amryw wedi casglu at eu gilydd, naill ai i wrando neu i derfysgu, a dywedir fod y ddwy chwaer uchod wedi ymostwng., ar eu gliniau yn nghanol y gelynion a gweddio yn gyhoeddus fel y bu effeithian anghyffredin mewn canlyniad. Tybir fod Mr. R. Harris, Pwllheli, wedi bod yn pregethu yn y Felin Isaf, lle agos i Bethlehem, amryw droion. Mae bod yr Ellin Williams a nodwyd, trwy y gydnabyddiaeth a'r berthynas oedd rhyngddi â W. Prichard, yn rheswm lled gryf dros gydymdeimlad Pwllheli a Rhosymeirch a'r ardal. Clywsom ar ol merch Ellin Williams, yr hon a fu farw yn ddiweddar yn ardal Llanllechid, mewn oedran teg, ei bod hi a'i main wedi bod yn gwrando ar Mr J. Griffith, Caernarfon, yn pregethu yn y Felin Isaf, pan oedd yn Llanfyllin, cyn iddo ddyfod i Gaernarfon, yn y flwyddyn 1781, ac mai ei destyn oedd, "Y rhai hyn a ryfelant a'r Oen," Dat. xvii. 14. A'i fod bum' mis cyn hyny yn Bangor mewn hen loft, ac mai ei destyn y pryd hwnw ydoedd "Y rhai sydd yn aflonyddu byd," Act. xvii. 6.

Caegwigyn yw y lle cyntaf y mae genym sicrwydd am dano y cafodd yr achos yma drigfa arosol. Tueddir ni yn gryf i feddwl fod eglwys wedi ei sefydlu yma yn flaenorol i ddyfodiad Dr. Lewis i bregethu i Dre'rgarth, a'i bod yn gyfamserol os nad wedi ei ffurfio cyn dechreuad yr achos yn Mangor. Pan roddwyd galwad i Mr. William Hughes i weinidogaethu yn Mangor a'r amgylchoedd, yn Nghaegwigyn yn cynhaliwyd cyfarfod ei urddiad yn niwedd y flwyddyn 1789. Gweinyddwyd ar Yr achlysur gan Meistri B. Jones, Pwllheli, D. Lloyd, Dinbych, A. Tibbot, a G. Lewis, Caernarfon. Daeth Mrs. Edwards, Nanhoron, i'r cyfarfod yn ei cherbyd, gyda gweision mewn arwydd wisgoedd, ac yr oedd gweled boneddiges yn cyrchu at Ymneilldnwyr tlodion yn llenwi yr ardal â syndod, a dywedir i hyny fod yn foddion i ladd rhagfarn llawer o bobl eu herbyn. Yr oedd Mr. Hughes wedi bod yn llafurio yma er y flwyddyn flaenorol. Capel bychan wedi ei wneuthur o ddarn o'r tý oedd Caegwigyn, a chynwysai le i bedwar ugain neu gant o wrandawyr. Bu y lle mewn cysylltiad â Bangor, ac o dan yr un weinidogaeth hyd nes y rhoddodd Mr Roberts ofal Bangor i fynu; ac wedi ei symudiad ef i Ddinbych cymerodd

* Ysgrif Mr. E. Stephen, Tanymarian, yr hon a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Chwarterol Ebenezer, Mai 2ail, 1864.

283

Mr. Llewelyn Samuel ofal y lle mewn cysylltiad â Bethesda. Yn 1825, y flwyddyn gyntaf wedi sefydliad Mr. Samuel yn y lle, codwyd capel newydd o fewn canllath i Caegwigyn, a galwyd ef Bethlehem. Symudodd Mr. Samuel yn mhen blynyddoedd i fyw i Danymarian, a chafodd yr Eglwys yma fantais fawr trwy ei gael yn bresenol yn ei holl gyfarfodydd.

Dywedir y byddai gwr a gwraig o blwyf Dwygyfylchi, sef yr hen Evan Thomas a Sarah Morris, Tyddyndû, yn arfer dyfod i Gaegwigyn bob mis i gymundeb, agos i ddeng milldir o ffordd. Y fath bris fyddai seintiau gynt yn ei roddi ar foddion grâs. Yr oedd hen gymeriad hynod o grefyddol, a hynod o selog yn perthyn i'r eglwys yn Caegwigyn o'r enw Pierce Humphrey. Dywedir iddo un tro, yn ei awydd am i'r Sechinah symud gyda yr arch o'r hen Gaegwigyn i'r adeilad newydd, fyned ar ben y muriau, cyn rhoddi tô arnynt, a gweddio gyda phryder a thaerineb am i'r gogoniant lenwi yr ail deml pan y byddai hi yn barod, a chyn y Sabboth canlynol yr oedd yr hen Gristion twym galon wedi cyfarfod â damwain farwol, trwy i'r waggon fyned drosto yn agos i Gonwy.

Nid ydym yn gwybod traul yr adeiladu, ond faint bynag, yr oedd y cwbl wedi ei dalu oddieithr 30p. cyn marw Mr. Samuel. Mae y capel wedi ei adeiladu ar lease, am gant ag un o flynyddoedd, a 10s. o ground rent. Nid oes ond pedair blynedd ar ddeg o'r lease wedi myned heibio, trwy fod amser ei dechreuad wedi ei estyn. Dyddiad ei chychwyniad yn awr yw y 24ain o Hydref, 1850, yn lle y 12fed o Fai, 1825. Wrth y capel y mae lle bychan i gladdu, ac amryw o gyrph y saint yn huno ynddo. Yr un a gladdwyd gyntaf yno oedd mab y diweddar Dr. A. Jones, Bangor, ac yno wedi hyny y claddwyd y Doctor ei hun.

Yn y flwyddyn 1856, cymerodd Mr. E. Stephen, Dwygyfylchi, ofal yr Eglwys, mewn cysylltiad â Carmel; ac y mae yn parhau etto i lafurio yma. Rhif yr Eglwys ar ei sefydliad oedd triugain, ond y mae erbyn hyn uwchlaw cant mewn cymundeb, ac nid yw cylch y gymydogaeth yn eang. Yr oedd ychydig ddyled ar y capel ar ddyfodiad Mr. Stephen, ac wedi talu hwnw, codwyd capel newydd harddach a helaethach. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1860. Costiodd dros 526p., ond y mae y ddyled yn toddi yn gyflym, a bydd yn fuan i'w chyfrif yn mysg pethau a fu. Mae yma Eglwys fechan weithgar, heddychol, a haelionus. Cesglir yma ar gyfartaledd bob blwyddyn, tua phunt ar gyfer pob aelod.

Codwyd yma un pregethwr, sef Mr. Richard Roberts, yr hwn a addysgwyd yn Athrofa y Bala, ac sydd yn awr yn weinidog yn Gartside Street, Manchester.

  

BETHESDA

(Llanllechid parish)

Ymddengys mai yn nghymydogaeth Tregarth y pregethwyd yr efengyl gyntaf yn y cyffiniau yma; a hyny gan y Dr. George Lewis, o Gaernarfon, yn y flwyddyn 1788. Nid oedd un drws wedi agor i bregethu mewn unrhyw dy, y pryd hwn, yn y gymydogaeth; ac oherwydd hyny fe bregethodd y Dr. Lewis, ei bregeth gyntaf yno, oddiar ben un o'r ceryg mawrion oedd yn dygwydd bod mewn lle cyfleus yn nghanol yr ardal. Ac y mae rhai o'r hen bobl sydd yn y gymydogaeth yn dyweyd fod darnau o'r hen gareg yno etto; ac y mae ambell un ohonynt yn edrych yn barchus iawn ar ddarnau o'r hen faen cysegredig hwnw. Goddefodd Dr. Lewis gryn lawer oddiwrth anwybodaeth ac ysbryd erlidgar y trigolion yn ei

284

ymdrech sefydlu achos yn yr ardal. Teflid tyweirch a cheryg ato, ac nid oedd un dirmyg yn ormod i'w daflu arno. Dywedir i un gwr o'r enw John Rowland, o'r Parc, ddyfod unwaith i'r oedfa ai logellau yn llawnion o geryg, gyda bwriad i'w taflu at y pregethwr; ond oedodd am ychydig i wrando cyn cyflawni ei fwriad. Lliniarodd hyny ei ysbryd, gollyngodd y ceryg i'r llawr, gwrandawodd yn astud, ac ar ol hyn dilynai bob moddion, a chyn hir ymunodd â'r frawdoliaeth yn y lle, a bu yn grefyddwr selog a thanllyd hyd ei fedd.

Yn fuan wedi dechreu pregethu yn yr ardal, tueddodd yr Arglwydd galon rhyw wraig weddw, o'r enw Elenor, i agor drws ei thy, i dderbyn y Dr. Lewis iddo i bregethu; a mawr oedd ei lawenydd pan glywodd fod drws wedi ei agor iddo yn Nhregarth. Wedi pregethu am ysbaid o amser yn nhy y wraig winweddol hon, fe amlhaodd y gwrandawyr mor fawr fel yr aeth y ty yn rhy fychan i'w cynwys. Ond pan oedd un babell yn myned yn rhy gyfyng, fe ofalodd rhagluniaeth y Nef am iddynt gael lle helaethach; ac felly hwy a symudasant i dy gwr o'r enw John Edwards, yn yr un gymydogaeth. Wedi bod yn y lle hwn yn llafurio am beth amser, o dan arwyddion amlwg o fendith Duw - fe ffurfiwyd eglwys yno. Enwau yr ychydig saint a ymffurfiammt yn eglwys yno yw y rhai canlynol: - Robert Williams, y Braich; Elias Jones, a Jane ei wraig, etto; Thomas Knowles, ac Eleanor ei wraig; Jane ac Eleanor Williams. Cochwillan; Thomas Williams, Wern; Judith Thomas, o'r un lle; William Griffith, a Chatherine ei wraig, o Trosyffordd; a William John Dafydd, o'r Hafotty; yr hwn oedd y cyntaf i dderbyn egwyddorion ymneillduaeth yn yr ardal, a'r Annibynwr preffesedig cyntaf a fu farw yn y gymydogaeth. Yn fuan wedi cychwyniad yr achos anfonodd Dr. Lewis un William Williams i'r ardal i bregethu ac i gadw ysgol ddyddiol, gan nad oedd un i'w chael yn y gymydogaeth. Bu gradd o lwyddiant ar ei lafur gyda'r pregethu, ond oherwydd difaterwch gollyngwyd yr ysgol i lawr, ac ymadawodd yntau â'r ardal. Ar ol i'r eglwys fechan weled gradd o lwyddiant ar ei dechreuad, fe daenodd cymylau aflwyddiant trosti yn fuan drachefn ; a goddefodd gryn lawer o anfanteision, oblegid gorfod symud ei phabell yn fynych.

Daeth Mr. W. Hughes i lafurio i Fangor a'r amgylchoedd, a bu yn dra ffyddlon gyda yr ychydig frodyr a chwiorydd, a chafwyd ail arwydd o fendith Duw ar eu hymdrechion. Ond yn lled fuan ar ol i Mr. Hughes ddechreu llafurio yn eu mysg fe orfu iddynt symud drachefn o dy John Edwards, Braich Talog; ac i'r lle yr aethant ond i dy William John Dafydd, Hafotty, yr ymneillduwr cyntaf yn yr ardal, sef, yr hwn y crybwyllasom am dano o'r blaen. A mawr fu yr achles a gafodd yr eglwys fechan o dan gronglwyd y gwr duwiol hwnw; yr hwn ydoedd fel ysgub blaenffrwyth Annibyniaeth yn y broydd hyn.

Trwy garedigrwydd a chydymgynghoriad rhai o'r enw Rebecca, Dorothy, a Griffith, o Bryncyl; yn nghyd ag un o'r enw Griffith Jones, o Gaerorion, fe lwyddwyd i gael benthyg hen ysgubor yn Nghaerorion iddynt gydymgyfarfod. Fe adgyweiriwyd yr ysgubor, ac fe'i gwnaed yn lle cyfleus iawn i bregethu ac i gadw cyfarfodydd crefyddol, a byddant yn y sgubor yr haf ac yn y ty y gauaf. Parhawyd i addoli yn yr ysgubor hon dan lawer o arwyddion o foddlonrwydd y Nef, hyd nes daeth Mr. Arthur Jones i Fangor. Rhoddodd Griffith Jones, Caerorion, er nad oedd yn aelod, ganiatad i adeiladu capel ar ei dir. Yr oedd ganddo lês ar y lle,

285

ond nid oedd ond ber. Amlygai teulu y Penrhyn, y rhai oeddynt berchenogion y lle, wrthwynebiad mawr i godi capel, a bygythient dori y lês os gwneid. Ymgynghorwyd â chyfreithiwr, a chafwyd boddlonrwydd y gallesid codi yno ysgoldy, a chadw pob gwasanaeth ynddo, ond nad oedd i gael ei alw yn gapel. Dangosodd yr ardalwyr bob ffyddlondeb ar ei adeiladiad, fel nad oedd y draul arianol ond 35p. Agorwyd y capel Melefin 7fed, 1813, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Evans, Amlwch; D. Davies, Caernarfon; W. Jones, Salem; ac L. Powell, Llanrwst. *   Bu yr achos yma am dymor yn llewyrchus iawn. Dywedai y diweddar Mr. Griffith, Bethel, ei fod yn cofio adeg pan y gallai gael lle i'w anifail mewn mwy na dwsin o ffermydd yn yr ardal; ac yr oedd eu preswylwyr oll yn dal cysylltiad â'r gynnulleidfa yn Nghaerorion. Cyfodwyd cryn derfysg gan rai o'r aelodau yn erbyn Mr. Arthur Jones yn herwydd yr athrawiaeth a bregethai; ac aeth un o'r aelodau, John Jones, Llystyn, yr holl ffordd i Wrexham at Dr. Lewis i geisio ganddo heddychu y pleidiau. Cyn hir aeth Mr. Jones i Lundain, ac aeth amryw o'r aelodau at y Methodistiaid Calfinaidd; a bu hyny yn wanychiad mawr i'r achos.

Yn fuan wedi dechreu pregethu yn ysgubor Caerorion, dechreuwyd pregethu yn ardal Bethesda, er na elwid y lle y pryd hyny ar yr enw hwnw. Y lle cyntaf y pregethwyd ynddo yn yr ardal hon, oedd y Wern Afr; lle yr oedd Henry Dafydd ac Elizabeth Roberts yn byw. Ond yn fuan wedi i Mr. Hughes ddechreu pregethu yn y Wern Afr cyfododd erledigaeth drom arno ef a'r ychydig ddysgyblion oedd yno gyd ag ef; a gorfu arnynt symud i le o'r enw Pongc y Ty. Wedi bod am dalm o amser yn Mhongc y Ty, hwy a symudasant drachefn i le o'r enw Tros y Ffordd, ty William Griffith. Arferid pregethu ar ganol dydd unwaith bob pythefnos yn nhy William Griffith, Tros y Ffordd, am adeg fêr, am ei fod yn gyfleus i'r gloddfa; a bu llawer o weinidogion o'r De a'r Gog- ledd yn pregethu yno. Dywedir mai testyn cyntaf Mr. W. Hughes yn Tros y Ffordd oedd Esaiah lxii. 1, " Er mwyn Sion ni thawaf, ac er mwyn Jerusalem ni ostegaf." Yr oedd yma lawer o erlid cyn hyny, ond yr oedd y fath lewyrch gyda'r bregeth hono fel na bu yma erlid mwy. Aeth yr achos rhagddo dan weinidogaeth gweinidogion Bangor yn olynol --Meistri W. Hughes, D. Evans, A. Jones, a D. Roberts; ond nid oedd eto un eglwys wedi ei ffurfio yn y lleoedd hyn, oblegid yr oedd yr holl grefyddwyr yn myned i Gaerorion yn fisol i gymuno.

Fel yr oedd yr achos yn cryfhau ac yn sirioli yn Tros y Ffordd, penderfynwyd ffurfio eglwys yno; ac yn rhywle tua y flwyddyn 1813, mor agos ag y gallwn gael allan, y cymerodd hyny le. Wele yma restr o'r aelodau cyntaf a ymffurfiasant yn eglwys yn Tros y Ffordd; yr hon ydoedd gwreiddyn eglwys Bethesda - Morris Prichard, Ty Gwyrdd; William Roberts, Coed y Park; John William, y Weirglodd; William William, Wern Afr; John William, y Gors; John Moses, y Twr; John. Jones, Llystyn; Ellis William, Coed y Park; Robert Robert, Coed y Park; William Prichard, y Wern; Robert Thomas, Tai y Mynydd ; Richard Morris, Brynllwyd ; John Prichard Morris, Brynllwyd; Harry William, Ty Mwn; Hugh Jones, y Wern, Yr oedd Ysgol Sabbothol lewyrchus yn Nhros y Ffordd, a Griffith Williams (Gutyn Peris) a weithredai fel ysgrifenydd iddi.

* Evangelical Magazine, 1813. Tudal, 353.

286

Yn mhen rhai blynyddoedd teimlwyd fod angen capel yma, ac adeiladwyd yma addoldy bychan syml yn y flwyddyn 1820, yn benaf trwy lafur Mr. D. Roberts. Nid oedd yma ar y pryd yr un pentref i alw y lle ar ei enw, ac oblegid hyny galwyd ef BETHESDA, ac y mae y capel wedi rhoddi enw i'r lle sydd erbyn hyn wedi dyfod yn dref boblog. Costiodd y capel cyntaf 318p. 1s. 4c., a thuag at y swm yna casglwyd 142p. 15s. 1½c. y tu allan i'r gymydogaeth, trwy lafur Mr. Roberts a Mr. Samuel. Nid oedd nifer yr aelodau yn symud o Dros y Ffordd i Bethesda ond pymtheg ar hugain, a nos Wener, Hydref 6ed, 1820, y cadwyd y gyfeillach grefyddol gyntaf ynddo. Adeiladwyd tai o'i gylch yn fuan, a daeth yn amlwg y deuai yn lle pwysig. Yn y flwyddyn 1822, gan ei fod wedi symud i Tynewydd, Pentir, i fyw, a chan fod maes ei lafur yn eangu, rhoddodd Mr. Roberts i fyny ofal yr eglwys yn Mangor, a chyfyngodd ei lafur i Bethesda, Caegwigin, a Chaerorion; ond byr wedi hyny fu ei arosiad, oblegid y flwyddyn ganlynol derbyniodd alwad o Ddinbych, a symudodd yno. Cyn diwedd y flwyddyn 1823 rhoddwyd galwad i Mr. Llewelyn Samuel, myfyriwr o Athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Ionawr laf, 1824. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Thomas, Penrhiwgaled. Holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Jones, Moelfra. Dyrchafwyd yr urdd weddi gan Mr. W. Hughes, Saron. Pregethwyd ar Ddyledswydd y gweinidog, gan Mr. D. Davies, Aberteifi; ac ar Ddyledswydd yr EgIwys gan Mr. D. Roberts, Dinbych. *   Bu Mr. Samuel am yspaid o amser wedi ei urddiad heb weled llwyddiant, ond cyn pen pedair blynedd cafwyd y fath ychwanegiad, fel y bu raid helaethu y capel. Yr oedd nifer yr aelodau erbyn Tachwedd, 1829, wedi cynyddu i 152. Costiodd yr ail gapel, yr hwn a agorwyd yn 1830, 400p., heb gyfrif defnyddiau yr hen gapel. Aeth yr achos rhagddo a'r ol hyn gyda chyflymder mawr; ac yr oedd yr Eglwys yn nodedig am ei llafur, a'i gweithgarwch. Bu y blynyddoedd 1838 a 1839, yn flynyddoedd tra llewyrchus. Derbyniwyd mwy na dau cant o aelodau newyddion, yn ystod y ddwy flynedd. Yr oedd lês Caerorion, er's llawer o flynyddoedd cyn hyn, yn wir cyn ymadawiad Mr. D. Roberts, wedi rhedeg allan, a gwrthodwyd ar unrhyw delerau i adnewyddu y lês, a pharhau yr addoliad ynddo. Trowyd ef yn anedd-dy, ac felly y mae yn parhau hyd y dydd hwn. Wedi colli y capel parheid i gynal moddion crefyddol yn Moelyci, Perthi, Cerygllwydion, a lleoedd eraill, ond cyrchent i Bethesda yn rheolaidd i gymundeb, ac yn amlach na hyny. Y diaconiad cyntaf y mae genym sicrywydd am danynt fu i'r eglwys hon oedd Morris Pritchard a William Roberts, Coedyparc; a chafodd y ddau fyw i ddilyn yr achos o'i febyd nes dyfod i'w fawn gryfder.

Wedi yr ychwnnegiad mawr yn y flwyddyn 1839, penderfynwyd ad-helaethu y capel, a'i wneyd yn un o'r rhai eangaf yn Nghymru. Gan y gwelid y byddai y draul yn  fawr,  ac er mwyn sicrhau cydweithrediad cyffredinol, tynodd Mr. Samuel allan ymrwymiad, i'w arwyddo gan yr holl ddynion perthynol i'r eglwys, eu bod yn sefyll eu rhan o'r cyfrifoldeb cysylltiedig a'r anturiaeth. Mae y papyr hwnw yn awr ger ein bron. Rhoddodd Mr. Samuel ei enw yn gyntaf, ac y mae rhester faith yn ei ddilyn. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1840, ac aeth y draul yn 2,200p. 3s. 8c., ac yn yr amser hwnw ystyrid dwy fir o bunau yn draul aruthol; ond yn ystod y chwe' blynedd dilynol tynwyd y ddyled i lawer

* Dysgedydd, 1824. Tudal, 50.  

287

i'r haner. Yn flaenorol i adeiladiad Bethesda y drydedd waith, yr oedd Carmel wedi ei godi, a nifer o'r aelodau wedi eu ffurfio yn Eglwys yno; ac yn mhen rhai blynyddoedd wedi hyny adeiladwyd Amana, ac aeth 45 o aelodau Bethesda yno. Llafuriodd Mr. Samuel gyda diwydrwydd a gofal mawr, a chyda llwyddiant anarferol. Daliwyd ef yn annisgwyliadwy gan angau Ebrill 2lain, 1855, wedi llafurio yma am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain.

Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, B.A., myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, an urddwyd ef Mehefin 15fed, 1856. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. J. D. Williams, Caerdydd. Holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Jones, Soar, Maesteg. Dyrchafwyd yr urdd weddi gan Mr. D. Griffith, Bethel. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, Athraw Clarsurol, Aberhonddu, ac i'r Eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog, a phregethodd Mr. R. Thomas, Bangor, i'r gynnulleidfa. Llafuriodd Mr. Jones yma yn egniol hyd ganol haf 1858, pryd y symudodd i Gaerdydd. Ar ol ymadawiad Mr Jones, bu yr eglwys am rai blynyddoedd heb weinidog, ond yn yr yspaid hwnw ni bu yn segur. Codwyd capel bychan yn Tynymaes, yr hwn a alwad yn Saron, yn 1860. Yn y flwyddyn 1862, rhoddodd alwad i Mr. Rowland Williams (Hwfa Mon), Brymbo; a dechreuodd yntau ei weinidogaeth yma cyn diwedd y flwyddyn hono. Bu yma yn dra llwyddianus dros amryw flynyddoedd. Yn nhymor ei weinidogaeth ef, y codwyd capel Treflys. Derbyniodd alwad o Fetter Lane, Llundain, a symudodd yno yn y flwyddyn 1867. Ar ol hyny bu yr eglwys hon am yn agos i bum inlynedd heb weinidog, ond yn y blynyddoedd hyny, ni laciodd yn ei gweithgarwch. Adeiladodd gapel newydd hardd, yn Carneddi Road, yr hwn a alwad Salem, a gollyngodd fwy na phedwar ugain o aelodau yno i ddechreu yr achos. Yn gynar yn y flwyddyn 1872, rhoddwyd galwad i Mr. Richard S. Williams, o'r Plough, Aherhonddu, i ddyfod yma yn weinidog, a chydsyniodd yntau a'r gwahoddiad, ac y mae yma yn llafurio gyda chymeradwyaeth mawr. Mae yr Eglwys yn awr ar ganol ad-drefnu ei haddoldy, trwy draul o 1,700p., a bydd ar ol hyny yn un o'r capeli harddaf a helaethaf yn Nghymru.

Mae yr Eglwys yma wedi bod yn garedig iawn i'r canghenau a ymadawsant a hi, trwy eu cynorthwyo i dalu eu dyledion; ac yn aml i gymeryd cyfran helaeth o ddyled y capeli, wrth eu gollwng allan. Mwynhaodd yr Eglwys ar adegau adfywiadau crefyddol grymus, ac y mae ychwanegiad graddol wedi bod at ei nifer trwy y blynyddoedd. Pan gofiom rifedi yr Eglwys, a bod yr elfen werinol mor gref ynddi, y mae ar y cyfan wedi bod yn, lled heddychol; er i awelon cryfion guru arni ar brydiau, ond daliwyd hi yn gyfau trwy y cwbl. Talwyd yma sylw mawr i gerddoliaeth, a dichon ar un adeg, fod yma ganu cynulleidfaol na cheid yn un man yn y Dywysagaeth ei gyffelyb. Bu yma lawer o bobl dda o bryd i bryd, y rhai y teindid eu bod yn golofnau yr achos yn y lle, a'r rhai y mae eu henwau yn berarogl yn yr ardal hyd y dydd hwn. William Williams Caerorion, a William Williams, Penygroes, oedd y diaconiaid cyntaf, hyd y gallwn gael allan; yn Nghaerorion, William Roberts, Coedyparc, a Morris Pritchard, oedd y diaconiaid cyntaf yn yr eglwys yma. Hen frawd cynes, hwyliog, oedd Morris Pritchard, ond yr oedd bob amser yn ofnus rhag myned o dan unrhyw gyfrifoldeb arianol, yn nglyn a'r achos. Yr oedd William Roberts yn wrol a hyderus, ac

288

nid oedd byth yn petruso i gymeryd ei ran o'r baich, ac yn wastad i fyned o dan y pen trymaf. Ychwanegwyd at y diaconiaid John Pritchard Morris, John Parry, a John Pritchard, yr hwn sydd yn aros etto. Collwyd John Parry yn nghanol ei ddyddiau, a cholled fawr ydoedd. Yr oedd yn ddyn deallgar, pwllog, a gofalus am yr achos yn ei holl ranau, ac yr oedd yn eangach ei syniadau na'r rhan fwyaf o'i gydoeswyr. Gweithredodd fel ysgrifenydd i'r eglwys am flynyddoedd lawer, ac y mae y llyfrau cyfrifon a gadwodd yn profi ei fod yn gywir a threfnus yn y cwb1; a thalodd lawer o'i logell i bregethwyr, pan y teimlai nad oedd y swm a ganiatai yr Eglwys yn ddigon. Efe oedd ysgrifenydd yr eglwys pan adeiladwyd y capel yn 1840. Bu eraill yn ddiaconiaid ffyddlawn yn yr eglwys ar ol hyny, nas gallwn grybwyll eu henwau yma, a llawer yn ddefnyddiol a dylanwadol, er na ddyrchafwyd hwy i swydd yn yr eglwys. Y diaconlaid presenol ydyw John Pritchard, Griffith Rowland, David Griffith, William Roberts, Robert Williams, a William John Parry.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon er ei chychwyniad :  -

289

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL (Not extracted fully)

LLEWELYN SAMUEL. " Mewn tyddyn bychan, o'r enw Cefncribwr, yn mhlwyf Llandudoch, Sir Benfro, y trigai Thomas Samuel ac Elizabeth ei wraig. Yr oedd iddynt wyth o blant, saith o feibion, ac un ferch. Ganwyd eu mab Llewelyn yn y flwyddyn 1789. ..........................................

290 / 291 / 292

 

  CONTINUED

 


Return to top

[Last updated: 31 May 2008  -  Gareth Hicks]

Valid HTML 4.01 Transitional  

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI