| Caernarfonshire | Contents |
Proof read by Yvonne John (May 2008)
Chapels below;
293
(Llanllechid parish)
Mae y capel yma yn mhlwyf Llanllechid. Arferid pregethu mewn tai a chynal cyfarfodydd gweddio yn achlysurol, ac ysgol Sabbothol yn rheolaidd yma cyn codi capel. Yn y flwyddyn 1839, prynodd Mr. Samuel a William Roberts, Coedyparc, ddarn o dir mewn lle hynod gyfleus, a chodwyd capel arno, a thy da yn nglyn ag ef. Costiodd y cwb1 340p. Aeth pymtheng mlynedd heibio heb dalu dim o'r hawl. Yr oedd y lle mewn cysylltiad a Bethesda hyd derfyn gweinidogaeth Mr. Samuel, ond yn 1856 unodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Bethlehem i roddi galwad i Mr. Edward Stephen, Dwygyfylchi, ac y mae y lle yn parhau o dan ei ofal. Rhifedi yr eglwys pan sefydlodd Mr. Stephen yma oedd 83, ond y mae erbyn hyn yn mhell uwchlaw 200. Yr oedd ychydig o egni wedi ei wneyd i dalu y ddyled ddwy flynedd cyn dyfodiad Mr. Stephen yma; ond wedi ei ddyfodiad ymroddwyd o ddifrif i'w dileu, ac yn mhen pedair blynedd yr oedd 200p. wedi ei dynu ymaith. Yn y flwyddyn 1860, ail adeiladwyd a helaethwyd y capel, a gwnaed ef yn dý eang a hardd. Aeth y draul yn 841p. 10s., ac yr oedd gweddill dyled yr hen gapel yn gwneyd y swm yn 977p. Rhoddwyd swm mawr o'r ddyled mewn clwb i'w dalu yn ol trwy gyfranau blynyddol, a thrwy y ffordd esmwyth yma y mae y ddyled yn toddi yn gyflym.
Mae yma eglwys unol a heddychol, a pharod i bob gweithred dda; ac y mae yma rai oedd gyda'r achos ar ei gychwyniad, wedi cael help gan Dduw, yn aros hyd y dydd hwn. Mantais fawr i'r eglwys hon fu datod ei chysylltiad a Bethesda, a'i thaflu ar ei hadnoddau ei hun, canys ar ol hyny y mae ei llwyddiant mwyaf wedi bod.
Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon William H. Jones, yr hwn sydd yn awr yn fifyriwr yn athrofa y Bala.
(Llandegai parish ?)
Y mae y capel hwn yn sefyll ar fynydel Llandegai, tua milldir a Bethesda. Yn y flwyddyn 1844, caniataodd Arglwydd Penrhyn roddi les ar ddarn o'r mynydd i'w weithwyr i adeiladu tai arno, ac yn fuan yr oedd ugeiniau o dai wedi cael eu hadeiladu yma. Nid oedd y mynydd ar y pryd ond lle gwyllt a diffrwyth, yn llawn o byllau a mawnogydd mawrion, heb ffordd i fyned iddo nac o hono. Yr oedd hyn yn ei gwneyd yn anghyfleus iawn, yn enwedig i wragedd a phlant fyned i Bethesda i addoli. Yn haf 1845, penderfynodd yr ychydig aelodau eglwysig oedd yn byw yn ............................
*Yr ydym yn ddyledus am ddefnyddiau eglwys Bethesda, a'r canghenau a dorodd allan ohoni, i bapyr a ddarllenwyd gan Mr. R. Williams (Hwfa Mon) yn un o gyfarfodydd Chwarterol yr Undeb; ac i ysgrif helaeth a anfonwyd i ni gan Mr. R. S. Williams, Bethesda; ac i goflyfrau y diweddar Mr. John Parry, y rhai yn garedig a fenthycwyd i ni gan ei fab Mr. W. J. Parry, Bethesda.
294
........... y lle, y rhai oedd wedi dyfod yma o Bethesda a manau eraill, adeiladu capel bychan, a gorphenwyd ef yn mis Rhagfyr. Aeth y draul i'w adeiladu yn 196p. 10s. 6c. Y personau fu fwyaf blaenllaw gyda'r gwaith oedd, John Williams, Wairglodd; Thomas Williams, Llwybrmain; Thomas Williams. Taiduon; Richard Jones, Morris Williams, Henry Roberts, a John Thomas, y Gefnan. Y mae llawer o honynt erbyn hyn wedi cael eu symud oddiwrth en gwaith at eu gwobr. Buont am ychydig o amser ar y cyntaf yn myned i Bethesda ar Sabbothau y cymundeb, ond nid hir y buont cyn cael eu sefydlu yn eglwys ar ei phen ei hun. Bu Mr. Samuel yn dyfod yma yn fisol am rai blynyddoedd i dori bara iddynt, a hyny yn rhad, i'r dyben iddynt allu yn well gael pregethwyr ar y Sabbothau eraill. Er mai ychydig oedd yr eglwys hon ar y cyntaf mewn rhif, y mae yn amlwg ei bod wedi bod yn ddiwyd gyda'r gwaith o gasglu, oblegid yr ydym yn gweled eu bod wedi llwyr ddileu y ddyled yn y flwyddyn 1848, a gwnaethant hyny heb gael dim cynorthwy o un lle arall.
Yn y flwyddyn 1851 rhoddasant alwad, mewn cysylltiad a Bethmaaca, i Mr. P. Howells, o athrofa y Bala. Cynaliwyd cyfarfod ei urddiad ar y 18fed a'r 19eg o Hydref. Pregethwyd dydd Sadwrn yn Amana, gan Mr. M. Jones, Bala, a boreu Sabboth yn Bethesda, o ran cyfleusdra y lle, gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog, ar Natur Eglwys. Gofynwyd y gofyniadau gan Mr. T. Edwards, Ebenezer, yr hwn hefyd a weddiodd am fendith y nefoedd ar yr undeb. Pregethwyd ar Ddyledswydd yr Eglwysi gan Mr. Ll. Samuel, ac i'r gweinidog gan Mr. M. Jones, Bala. Yn y prydnawn a'r hwyr, pregethwyd yn Bethesda ac Amana, a'r dydd Llun canlynol yn Bethmaaca, pan y pregethwyd gan yr un personau, yn nghyd a Mr. E. Stephen, Dwygyfylchi, a Mr. M. Lewis, Treffynon. Yn y flwyddyn 1853 yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan, gosodwyd darn wrtho a gwnaed ef gymaint arall ag yr oedd ar y cyntaf. Yr oedd y draul yn 214p. 9s. 4c. Yn y flwyddyn 1853 ymadawodd Mr. Howells oddiyma i Llanfyllin. Yn y flwyddyn 1856 rhoddwyd galwad i Mr. W. Griffiths, o athrofa Aberhonddu. Cynaliwyd cyfarfod yr urddiad Rhagfyr 20fed a'r 21ain, yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn 1863 talwyd yr holl ddyled, ac yn y flwyddyn 1868 ailadeiladwyd y capel, yr hwn a gostiodd 600p. Y mae yn awr yn gapel hardd a chyfleus, a'r ddyled yn dyfod i lawr yn gyflym, fel nad oes yn aros arno yn awr ond tua 300p.
Codwyd yma bedwar o bregethwyr.
* Llythyr Mr. W. Griffiths, Amana.
295
(? parish)
Mae pregethu wedi bod yn yr ardal yma er's llawer o flynyddau mewn gwahanol dai yn y gymydogaeth, Nid yw y boblogaeth yn lluosog, ond teimlid fod myned i lawr i Bethesda yn ormod o lafur. John Jones, Maescaradog, ac Ellis Jones, Pentre, fu a'r llaw blaenaf gyda chychwyn yr achos yma, a thrwy eu hymdrech hwy y llwyddwyd i gael tir at adeiladu capel gan Arglwydd Penrhyn. Yr enw a roddid ar Ellis Jones pan welid ef yn dyfod i'r swyddfa oedd, " dyn y capel," gan faint ei daerni am le i godi capel. Cafwyd tir o'r diwedd. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1860. Galwyd ef Saron. Costiodd 450p. Cymerodd eglwys Bethesda 400p. o'r ddyled, a gollyngodd bump a deugain o aelodau allan i ffurfio eglwys ynddo. Bu y lle hwn mewn cysylltiad ag eglwys Bethesda hyd Ebrill, 1869, pryd y cymerodd Mr. W. Nicholson ei gofal mewn cysylltiad a Threflys, ond wedi ei ymadawiad dychwelodd yr eglwys i gysylltiad a Bethesda, ac felly y mae yn parhau. Nid oes yma ond achos bychan, ac yn sefyllfa bresenol y boblogaeth nis gellir disgwyl yma eglwys a chynnulleidfa luosog.
Gyda chynydd y boblogaeth ar ochr y Gerlan a Threflys, barnai eglwys Bethesda y dylesid adeiladu yma gapel. Rhoddwyd darn o dir mewn lle cyfleus, yn rhad, gan Mr. David Roberts (Alawydd), ac adeiladwyd arno gapel gwerth 932p. 15s., ac agorwyd ef Chwefror 18fed, 1866. Aeth dau a deugain o aelodau o Bethesda yno i ffurfio eglwys; ac er mwyn eu rhyddhau yn hollol oddiwrth y baich, cymerodd eglwys Bethesda y ddyled arni ei hun. Bu yr eglwys mewn cysylltiad gweinidogaethol a Bethesda hyd Ebrill, 1869, pryd y rhoddodd, mewn cysylltiad a'r eglwys yn Saron, Ty'nymaes, alwad i Mr. William Nicholson, Rhoslan, i fod yn weinidog. Bu Mr. Nicholson yma yn llwyddianus iawn hyd y flwyddyn 1872, pryd y derbyniodd alwad o'r Groeslon, sir Forganwg, ac y symudodd yno.
Ail adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1871, ac agorwyd ef yn nglyn a chymanfa y Pasg, 1872. Rhoddodd Arglwydd Penrhyn ddarn o dir ar les yn front y capel er mwyn cael gwell mynedfa ato; a rhoddodd 35p. er cau oddiamgylch iddo. Mae yn gapel prydferth a chyfleus. Costiodd 1100p., o'r hyn y mae 700p. yn aros, ond y mae yma eglwys egniol a gweithgar, fel na bydd y baich yn hir heb ei symud; ac y mae yma olwg addawol am achos cryf a blagurog.
(Llanllechid parish ?)
Adeiladwyd y capel hwn gan eglwys Bethesda, yn y flwyddyn 1870. Saif mewn lle a elwir Carneddi Road, o fewn ryw chwarter milldir i Bethesda. Mae yn gapel eang, yn cynwys lle i 650 i eistedd. Costiodd 1657p. Agorwyd ef yn nglyn a chyfarfod chwarterol yr undeb y Sabboth a'r Llun cyntaf o'r flwyddyn 1871. Aeth pedwar-a-phedwar-ugain allan o Bethesda yma i ymffurfio yn eglwys, a chymerodd y fam eglwys 1033p. o'r ddyled. Mae y lle o'r dechreuad mewn cysylltiad a Bethesda, ac felly y mae yn parhau dan weinidogaeth Mr. Williams.
296
(? parish)
Mae y lle hwn ar y ffordd o Bethesda i Gapel Curig. Nid oes yma ond ychydig amaethdai gwasgaredig. Arferid pregethu mewn gwahanol leoedd yn y Nantuchaf, er's haner cant neu driugain mlynedd yn ol, gan Meistri A. Jones a D. Roberts, Bangor; J. Roberts, Capel Garmon, ac eraill. Tybir mai Richard Jones, Bodesi, oedd yr Annibynwr cyntaf yn y Nant. Yr oedd ef yn aelod yn Bethesda. O gylch y flwyddyn 1827, daeth Mr. Robert Morris, o Fangor, i bregethu i'r Helyg, hen dý ar fin y ffordd, a galwodd gyfeillach ar ol, ac arosodd dau ynddi, a derbyniwyd hwy yn Bethesda. Cynhelid y moddion yn Bodesi - ysgol Sabbothol a chyfarfod gweddi, a deuai brodyr o Bethesda i fyny i'w cynorthwyo. John Pritchard, Tyhen, oedd un o'r rhai ffyddlonaf i ddyfod yma. Anfynych y deuai neb i bregethu. Byddent yn myned yn fisol i Bethesda i gymundeb er pellder a gerwinder y ffordd. Yr oedd Mr. Owen Jones, Talywaun, a'i briod, yn arfer myned yn rheolaidd bob mis i Bethesda, pellder o naw milldir; ac oblegid yr anhawsder i gael pregethwr, anogwyd Mr. Owen Jones gan y cyfeillion i bregethu iddynt, a dechreuodd ar y gorchwyl gyda chaniatad eglwys Bethesda, tua'r flwyddyn 1848, ac y mae wedi parhau o wasanaeth mawr i'r achos. Er mwyn cyfleustra yr ardal, symudwyd y moddion o Bodesi i Bryn Ogwen, a chymerasant ystafell dan ardreth o bunt y flwyddyn. Teimlid fod angen gwell lle, a chynygiwyd cael capel bychan cydrhwng y Methodistiaid a'r Annibynwyr, ond ni ddaeth hyny oddiamgylch. Yn y flwyddyn 1853, codwyd capel bychan a thy yn nglyn ag ef, ar y brif-ffordd rhwng Llyn Ogwen a Chapel Curig, ac agorwyd ef Hydref 8fed a'r 9fed, yn y flwyddyn hono. Yn niwedd y flwyddyn hono cafwyd y cymundeb cyntaf yn y lle, a ffurfiwyd yr ychydig aelodau yma yn eglwys, ond ystyrient eu hunain fel cangen o Bethesda. O herwydd yr anhawsder i gael gweinidogion i ddyfod yma, a bod yr eglwys fechan oblegid hyny weithiau yn hir heb gymundeb, penderfynwyd ganddi i roddi galwad i Mr. Owen Jones, Tanywaun, i fod yn weinidog, ac urddwyd ef yma yn y flwyddyn 1864. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Williams, Bethesda; W. Griffith, Amana; E. Stephen, Tanymarian, ac R. Thomas, Bangor. Mae Mr. Jones yn parhau i ofalu am yr achos, er nad yw y gydnabyddiaeth arianol a dderbynia am ei lafur prin yn werth ei grybwyll; ond y mae yn cael yr hyfrydwch o deimlo ei fod yn cael gwasanaethu achos yr Arglwydd mewn ardal anghysbell y buasai yn anhawdd iddynt trwy un ffordd arall fwynhau gweinidogaeth yr efengyl.
Yn mysg ffyddloniaid yr achos yma a'i gychwynwyr dylid crybwyll enwau Richard Jones, Bodesi, John Thomas, Glanllugwy, a William Roberts, Tal-llyn, Ogwen. Nid yn aml y byddai yr un o'r tri yn eisiau mewn cyfarfod gweddi, nac yn yr ysgol. Un o honynt hwy o'i logell ei hun a fyddai yn rhoddi chwech neu swllt yn llaw y rhai a ddeuai yma i bregethu, ac yn Bodesi, am dymor hir, yr oedd lletty i'r pregethwyr. Cafodd Richard Jones fyw i oedran teg, a siriolwyd ef yn ei hen ddyddiau wrth weled achos yr Arglwydd yn myned rhagddo.*
* Llythyr Mr. O. Jones, Talywaun.
297
(Bangor parish)
Y mae y capel hwn yn sefyll yn ymyl y ffordd sydd yn arwain o Fangor i Dre'rgarth, mewn pentref bychan a elwir Glasinfryn, tua dwy filldir oddiwrth y cyntaf. Yn y flwyddyn 1836 cymerodd Dr. A. Jones lease ar ddarn o dir, gan Rowland Parry, Melin, Glasinfryn, am bedair ar bymtheg a phedwar ugain o flynyddoedd, â hawl i'w hadnewyddu am bedair ar bymtheg a phedwar ugain o flynyddoedd yn mhellach, ar yr amod i'r Eglwys dalu 5p., neu lai, i'r person fyddo yn berchenog arno ar y pryd. Arglwydd Penrhyn ydyw ei berchenog yn bresenol. Yn mis Awst, yn yr un flwyddyn, gosodwyd i lawr y gareg sylfaen, a phregethodd Dr. Jones arni a galwodd ei enw yn Bethmaaca. Gorphenwyd ei adeiladu tua diwedd y flwyddyn hono, mor bell a gosod tô, drysau, a ffenestri arno. Ni osodwyd oddi fewn iddo ond pulpud yn unig. Yr oedd llawr y capel yn llawn tomenydd o bridd, a cheryg mawrion, y rhai a wasanaethent yn lle eisteddleoedd, i'r rhai oedd yn dyfod iddo i wrando, ac felly y bu am oddeutu dwy flynedd. Ond y peth oedd yn hynodi y capel hwn yn fwy na dim arall oedd, fod Dr. Jones wedi gosod delw fawr ar ei ben, ar lun dyn, â llyfr yn ei law; ac yr oedd hwnw wedi ei wneyd o alcam, neu ddefnydd cyffelyb, ac ar wynt cryf, byddai yn troi oddi amgylch, ac yn gwneyd y fath dwrw, nes aflonyddu y pregethwr a'r gynnulleidfa. Dywedir mai tynu sylw yr ardalwyr at y capel oedd amcan Dr. Jones pan yn gosod y fath ddelw ar ei ben. Dywedai wrth un, pan yn ymddyddan ac ef am y peth, "Pobl rhyfedd sydd yn yr ardal acw' pan welant hwn ar ben y capel, ânt iddo yn lluoedd i wrando." Ond camsyniodd yn fawr gyda golwg ar hyny, oblegid ychydig iawn fu yn myned iddo, am lawer o flynyddoedd, i wrando. Byddai Dr. Jones ei hun yn dyfod yma weithiau i bregethu, a phryd arall byddai yn anfon rhai o'r pregethwyr cynorthwyol oedd ganddo yn Mangor; ond gorfu iddynt hwy ddychwelyd adref lawer nos Sul heb gael cymaint ag un i'w gwrando. Tebyg mai yr achos o'u difaterwch i ddyfod i wrando yr Efengyl oedd hyn, nid oedd y pentref ond newydd gael ei adeiladu, a'i breswylwyr wedi dyfod yno i fyw o wahanol ardaloedd, ac nid oedd dim llai na phump o dafarnau ynddo ar y pryd. Yr oedd dynion yn dyfod yma o Fangor a Bethesda ar y Suliau i yfed diodydd meddwol. Ychydig o duedd sydd mewn dynion sydd yn byw mewn lleoedd o'r fath i wrando yr Efengyl.
Yr oedd yr Annibynwyr wedi bod yn cynal moddion crefyddol yn yr ardal hon uginiau o flynyddoedd cyn adeiladu y capel hwn. Y mae genym hanes fod Meistri W. Hughes, D. Evans, Bangor, A. Jones, D.D., a D. Roberts, yn arfer pregethu mewn gwanhanol dai yn y gymydogaeth, megys Brynhowar, ac yn nhai William Roberts a Thomas Williams, Waenwen. Bu hefyd rai o Caerorion, ac eraill o Fangor, yn cyfarfod a'u gilydd yn y lle i gynal Ysgol Sul. Yr oedd gan lawer yn y gymydogaeth hon y pryd hwnw barch mawr i grefydd ac i weision Crist. Dywedir am Edward Williams, Brynhowar, pan glywodd y newydd fod Mr. W. Hughes wedi cael a'i ddal a'i ddirwyo yn Llanrwst am bregethu yr Efengy1, a'i fod wedi dychwelyd adref, iddo fyned i Fangor cyn dydd, a galwai wrth ffenestr Mr. Hughes, a gofynai, " A gawsoch eich dirwyo, Mr. Hughes?" "Do." "A ddarfu i chwi dalu.?" Talodd un arall
298
yn fy lle i aros i mi gael amser." " A fynwch chwi fenthyg arian genyf fi?" "Diolch yn fawr i chwi am eich cynyg." " Dyna ddigon, âf yn union i'w hymofyn;" felly, efe a aeth ac a ddygodd yr arian yn ei law ei hun i Mr. Hughes heb eisieu na phapyr na meichiau.
Ond rhyw fodd neu gilydd collodd yr Annibynwyr eu gafael ar yr ardal, ac aeth i afael y Methodistiaid Calfinaidd, a phan godwyd capel Caerhun darfu am yr achos Annibynol yn y lle. Pan adeiladwyd y capel hwn nid oedd cymaint ac un aelod yn perthyn iddo. Yr oedd rhai yn y pentref yn awyddus am gael Ysgol Sabbothol, er nad oeddynt yn aelodau crefyddol, a chodasant un. Cynalient hi o dý i dý, ni fynent fyned a hi ar y cyntaf i'r capel. Byddent yn dechreu yr Ysgol trwy ganu a darllen penod, ond gan fod eu tai yn anghyfleus i'w chynal aeth Robert Jones a Hugh Griffith i Fangor, at Dr. Jones, i geisio benthyg capel. Cawsant ef gyda phob parodrwydd, a rhoddodd hefyd iddynt Destamentau a llyfrau eraill at wasanaeth yr Ysgol yn rhad ac am ddim. Wedi dechreu cynal yr Ysgol yn y capel, yr oedd dyn ieuangc, hynod o grefyddol, yn arfer d'od atynt bob Sabboth o Fangor o'r enw Ebenezer Griffiths, i'w cynorthwyo; yr hwn a fu o fendith fawr i'r Ysgol yn ei chychwyniad. Tua diwedd y flwyddyn 1837 daeth Mr. George Rhydero yma. Bu yn cadw ysgol ddyddiol yn y capel ac yn pregethu ynddo ar y Sabboth. Gwnaeth lawer o les er sefydlu yr achos yma, er nad oedd cysylltiad gweinidogaethol rhyngddo a'r lle. Ni bu yma ond tua blwyddyn. Tua'r flwyddyn 1838 daeth Mr. William Jones, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn Bethesda, a chymerodd y capel dan ardreth gan Dr. A. Jones am 5p. yn y flwyddyn, a chododd 30p. i osod eisteddleoedd ynddo. Bu Mr. W. Jones yn dra llwyddianus yma, casglodd gynulleidfa dda, a derbyniwyd amryw yn aelodau eglwysig. Yn y flwyddyn 1839 yr ydym yn cael yr enwau canlynol ar lyfr yr eglwys, Griffith Williams, William Roberts, Owen Roberts, Thomas Williams, Robert Jones, a John Jones. Ymadawodd oddi yma i Dolyddelen, pryd y cymerwyd ei gofal gan Mr. Jonathan Davies, Llanaelhaiarn; ond ni bu yma ond tua blwyddyn. Yn y cyfnod hwn methodd yr Eglwys a thalu y rhent i Dr. Jones, ac y mae yn debyg fod hyny wedi cymeryd lle yn fwy oddiar ddiffyg ymdrech nac o ddiffyg gallu, a'r canlyniad fu i Dr. Jones roddi Robert Roberts, Bryngwernedog, yr hwn oedd wedi bod yn talu ddiweddaf iddo am y capel, yn llaw y gyfraith wladol, a gorfodwyd ef i'w thalu. Gan nad oedd Robert Roberts ond gweithiwr wrth ei ddiwrnod gwaith, a chanddo deulu lluosog i ofalu am dano, cydymdeimlwyd ag ef, a chasglodd yr arian yn fuan yn y gymydogaeth. Tynodd hyn gwmwl nid bychan ar yr achos yn y lle. Yn y flwyddyn 1842 gwerthodd Dr. Jones y capel, a phrynwyd ef gan Mr. Samuel, Bethesda, am 100p., yr oedd hefyd y 30p. oedd Mr. W. Jones wedi ei godi at osod eisteddleoedd ynddo yn aros heb eu talu. Cyflwynodd Mr. Samuel y capel i'r Eglwys, ac yr oedd eu dyled yn 130p. Yn yr adeg yma darfu i Mr. Samuel anog y rhai oedd yn addoli yn Llainautalgai a Moelyci, ac yn myned i Bethesda yn fisol, i ymuno â'r eglwys yn Bethmaaca, a darfu i amryw gydsynio, sef John Parry, Thomas Hughes, Ellis Williams, Hugh Jones, Thomas Thomas, John Williams, ac eraill. Bu Mr. Samuel yn dyfod yma yn fisol am ychydig o amser, ac fe fu hyn yn adgyfnerthiad mawr i'r achos yn y lle. Yn y flwyddyn 1845 rhoddodd yr Eglwys hon, mewn cysylltiad â Bethel, Bangor, alwad i Mr. Mathew Lewis.
299
Bu Mr. Lewis yma hyd y flwyddyn 1850, pryd y symudodd i Dreffynon. Yn y flwyddyn 1851 rhoddasant alwad i Mr. P. Howells, o Athrofa y Bala. Urddwyd ef Hydref 18fed a'r 19eg. Bu Mr. Howells yma yn llafurio mewn ffyddlondeb a llwyddiant hyd tua'r flwyddyn 1855, pryd y symudiald i Lanfyllin. Yn 1856 rhoddasant alwad i Mr. William Griffith, o Athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef Rhagfyr 2lain y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur eglwys gan Mr. R. Thomas, Bangor, holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Jones, B.A., Bethesda, dyrchafwyd yr urdd weddi gan Mr. T. Elwards Ebenezer, pregethwyd ar Ddyledswydd y Gweinidog gan Mr. D. Griffiths, Bethel, ac i'r Eglwysi gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog.
Yn y flwyddyn 1865 ail-adeiladwyd y capel, ac yr oedd y draul yn 350p. Er nad ydyw yr Eglwys hon ond ychydig mewn nifer, y mae ganddynt galon i weithio, nid oes yn aros o'r ddyled ond 35p.
Codwyd y personau canlynol yma i bregethu :-
(Bangor parish?)
Mae y capel hwn o fewn llai na dwy filldir i Fangor, ar ochr yr hen ffordd i Gaernarfon. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal gan Dr. A. Jones a'r pregethwyr a'i cynorthwyai, mewn ty bychan a elwir yr Henglawdd, heb fod yn mhell o ben pont Menai. Lle bychan digon dined yw Hen-glawdd, a llawer a ddirmygwyd arno, ond yr oedd llawer o bobl dda yn cyfarfod yma i addoli, a chafwyd yno gyfarfedydd a hir gofir. Mae yr ysgrifenydd yn teimlo yn gynes iawn at y lle, oblegid mai yno y gwnaeth y cynyg cyntaf erioed ar bregethu yn gyhoeddus; ac y mae ganddo barch dwfn i'r ychydig ffyddloniaid oedd yno ar y pryd yn dal ei freichiau. Aelodau yn Mangor oeddynt agos oll, oddigerth dau neu dri o aelodau Siloh a ddeuai yno atynt. Y prif offeryn i gael capel yn yr ardal oedd Miss Jane Williams, merch yr Antelope; merch ieuange dra chrefyddol oedd, ac yn aelod yn Mangor, ond a fu farw cyn hir wedi codi y capel. Casglodd lawer er talu dyled y capel. Cafodd help Mr. A. Timmins, a rhoddodd Mr. Griffith, Bethel, a Dr. Jones, Bangor, iddynt bob cefnogaeth. Sicrhawyd darn o dir, ac adeiladwyd capel arno yn y flwyddyn 1842, yr
*Llythyr Mr. W. Griffith, Amana.
300
hwn a alwyd Beulah. Egwan fu yr achos yma am lawer o flynyddoedd, ac nid oedd neb neillduol i fwrw golwg drosto. Rhoddwyd galwad i Mr. Phillip G. Thomas i fod yn weinidog, yma, ac yn Llanfairyborth; ac urddwyd ef Ebrill 22ain, 1851. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. R. P. Griffith, Pwllheli; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Thomas, Beaumaris; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. A. Timmins, aelod a phregethwr cynorthwyol yn yr eglwys; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. T. Edwards, Ebenezer, ac i'r eglwys gan Mr. D. James, Rhosymeirch. Yr oedd Mr. Thomas wedi llafurio yma er's blwvddyn yn flaenorol, a bu yma hyd y flwyddyn 1857, pryd y symudodd i Pennorth, gerllaw Aberhonddu. Ni bu yma neb ar ol hyny yn gofalu yn uniongyrchol am y lle hyd y flwyddyn 1864, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. David Williams, Pentraeth, ac y mae yn parhau i fwrw golwg drostynt. Mae yr achos er hyny wedi llwyddo yn fawr. Ail adeiladwyd a helaethwyd y capel, a gwnaed ef yn dy tra chyfleus; ac agorwyd ef Sul a Llun y Pasg, 1872, ac y mae ynddo gynnulleidfa dda, a'r achos yn ei holl ranau yn myned rhagddo yn llwyddianus.
Codwyd yma un pregethwr, sef Richard Jones, yr hwn sydd wedi symud oddiyma yn ddiweddar i Siloh, Aberpwll.
Arferai Dr. Arthur Jones bregethu Seisnig am un-ar-ddeg bob boreu Sabboth trwy y blynyddau, ac yr oedd ychydig niter o Saeson yn aelodau yn y lle, i'r rhai y gweinyddai y cymundeb bob mis. Fel yr oedd y ddinas yn cynyddu, a'r dyfodiaid o Loegr yn lluosogi, teimlid nad oedd hyny o wasanaeth Seisnig oedd yn Ebenezer yn cyfateb i'w hangen. Dechreuwyd addoli yn y Rechabite Hall yn y flwyddyn 1846. Y prif offeryn i hyny oedd Mr. Daniel Williams, Garth, yr hwn a ddaethai yma o Lundain. Er mai Cymro o sir Aberteifi ydoedd, etto, gyda'r Saeson yr oedd wedi arfer addoli y rhan fwyaf o'i oes. Yr oedd yn wr haelionus iawn, a thrwy ei ymdrech ef yn benaf y codwyd capel Seisnig yn Upper Bangor. Mae yma gynnulleidfa lled dda, yn enwedig yn y tymor haf, ac y mae amryw o bersonau cyfrifol yn y byd yn perthyn iddi.Bu yma un Mr. William Creed yn weinidog am rai blynyddoedd. Daeth Mr. John Lewis, o Galway, yma wedi hyny, ond byr fu ei arosiad; symudodd i Tenby, lle y mae etto. Y gweinidog presenol ydyw Mr. J. C. Bedolfe. Colled fawr i gynhaliaeth yr achos a gafwyd yn marwolaeth Mr. Daniel Williams; ond y mae ty helaeth a roddwyd ganddo i'r gweinidog i fyw yn feddiant i'r eglwys yn y lle, ac felly yn help parhaol i'r achos.
(Llanddeiniolen parish)
Mae y lle hwn yn nghwr uchaf plwyf Llanddeiniolen, ac o fewn saith milldir i Gaernarfon. Mae yn y rhan hono o'r plwyf a elwir Gwaengynfi. Yr Annibynwr cyntaf a bregethodd yr efengyl yn y rhanbarth yrna o'r wlad oedd yr efengylwr llafurus William Hughes, Brynbeddau. Daeth y gwr da hwnw i bregethu i'r gymydogaeth hon trwy ffordd lled hynod. Darfu i un John Jones, Tanybefan, (tafarn Ab Ifan medd rhai) anafu ei droed yn chwarel Dinorwig, a thrwy nad oedd meddyg y perthyn i'r
301
chwarel y pryd hyny, bu raid i Mr. Jones fyned at feddyg i dref Caernarfon. Syrthiodd ei goelbren i lettya yno gyda merch ynghyfraith i'r hybarch Mr. Hughes. Byddai yr hen wr yn galw yn aml yn y ty, ac yn darllen penod ac yn myned i weddi gyda'r claf. Wedi i Mr. Jones wella a dychwelyd gartref i Tanybefan, aeth Mr. Hughes yno i ymweled a'r teulu a phregethu. Felly, gwelir mai yr hyn a eilw dynion yn ddamwain fu yn foddion i arwain yr efengylwr o'r Brynbeddau i gyhoeddi "y newyddion da o lawenydd mawr" i drigolion cwr uchaf plwyf Llanddeiniolen. Mor rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd! " Ei ffordd Ef sydd yn y mor !" Oherwydd oedran a phellder ffordd dymunodd Mr. W. Hughes ar Mr. D. Griffith, Bethel, i ymgymeryd a'r gorchwyl o sefydlu achos yn y lle, yr hyn a wnaeth yn ewyllysgar. Yr oedd Mr. Griffith y pryd hwnw yn wr ieuangc, llawn yni a bywiogrwydd crefyddol, a'i ddawn yn swynol dros ben. Llwyddodd i gael lle i bregethu yn nhy Sian Edwards, yn Glanrhyd, ac enillodd yn fuan sylw a pharch y trigolion. Ar ddiwedd cyfarfod lled wlithog, penderfynodd alw " seiat' ar ol, yr hyn oedd mor ddyeithr yn y wlad fel na wyddai llawer beth yn y byd ydoedd. I'r dosbarth hwnw y perthynai Sian Edwards, gwraig y ty. Teimlai yn anfoddlon i fyned allan o'i thy, ac yr oedd yn ofni y " seiat." Yn y benbleth bu mor ffodus a chofio am y simdde fawr, a neidiodd i ben y pentan i ymguddio yn nghysgod y fantell. Teimlai yr hen wreigen syml yn falch ei bod yn y ty, yn ddigon agos i glywed a gweled pob peth, ac etto allan o'r seiat. Parai ymddygiad Sian Edward ddifyrwch mawr i'r pregethwr bob tro, ond yr oedd ei ddifyrwch yn llawer mwy un noson pan neidiodd Sian Yn ei chlocsiau i lawr oddiar ben y pentan i ymuno a'r eglwys, gan ddywedyd wrth ddisgyn, " Os peth fel hyn yw seiat, mi ddo' ina' iddi hi-- dyma'r lle brafia welis i 'rio'd." Ar ol cychwyn drwy bregethu, cynai cyfeillachau ac ysgol Sabbothol yn Glanrhyd, llwyddodd Mr. Griffith i gael lle i adeiladu capel a thir claddu gan Mr. William Griffith, Caeau-uchaf, ar les, ac wedi hyny prynwyd y tir i fod yn feddiant i'r eglwys. Adeiladwyd capel bychan yn mesur 30 troedfedd wrth 27 troedfedd, a galwyd ei enw yn Ebenezer. Agorwyd y capel Mehefin laf, 1823. Pregethwyd y boreu am ddeg, gan Meistri W. Hughes, Saron, a D. Roberts, Bangor. Am ddau, pregethodd Meistri J. Evans, Amlwch, a J. Ridge, Penygroes. Rhagfyr 21ain, yr un flwyddyn, y cadwyd yma y cymundeb cyntaf. Yn raddol lluosogodd yr aneddau yn ei ymyl yn bentref, yr hwn a alwyd ar enw y capel, yn Ebenezer, yr un modd a Bethel a Bethesda. Bu, ac y mae etto, ymdrech i newid yr enwau Hebraeg. Myn yr Eglwyswyr alw Bethesda yn Glanogwen, ac Ebenezer yn Llandinorwig. Nid ydym erioed wedi syrthio mewn cariad a'r drefn o alw addoldai ac ardaloedd yn Nghymru wrth enwau Ysgrythyrol; etto nid ydym yn gweled yr enillir dim wrth fyned i'r drafferth o newid yr enwau sydd eisioes ar dai addoliad; a lle mae ardaloedd wedi eu galw ar eu hol, ystyriwn y dylai Ymneillduwyr lynu er gwell ac er gwaeth wrth yr enwan Hebraeg. Mae enw pentref poblogaidd Ebenezer yn dangos fod capel yr Annibynwyr wedi ei adeiladu yno pan oedd ef etto and yn ei fabandod. Ac y mae yr efengyl a gyhoeddir ynddo o Sabboth i Sabboth wedi rhoddi delw annileadwy ar feddyliau a chymeriadau y trigolion. Yn ol tystiolaeth Mr. Griffith, Bethel, defnyddiau lled gyffredin a gafodd i ddechreu yr achos, yr oedd amryw o honynt wedi eu bwrw allan o'r seiat gan y Methodistiaid. Yn ystod tua deng mlynedd ei weinidogaeth yn y lle, byddai y
302
nifer luosocaf o honynt allan yn amlach o lawer nag i mewn, a buont allan oll gyda'n gilydd dair gwaith. Nid ydym yn synu cymaint at hyny wrth gymeryd i ystyriaeth eu harferion boreuol, eu hanwybodaeth yn mhethau crefydd, a'u hefergoeledd. Y rheol yr amser hwnw oedd, treulio dydd yr Arglwydd i orphwyso neu chwareu. Tair camp fawr y gymydogaeth oedd cocyn saethu, curo bandi, a choetio. Nid oeddynt yn meddwl am ddysgu darllen ac ysgrifenu. Yr oedd y cyffredin yn foddlon ar fod yr offeiriad yn gallu gwneuthur hyny drostynt. Yr oedd gan wrachod a dynion hysbys ddylanwad mawr arnynt, ac yr oedd eu coel yn gryf mewn ofergoeledd a swyngyfaredd. *
Llafuriodd Mr. Griffith yma am ddeng mlynedd yn ngwyneb llawer o ddigalondid, ac heb weled ond ychydig lwyddiant; ac oblegid fod maes ei lafur yn rhy eang rhoddodd yr eglwys yma i fyny, gan ddymino arnynt edrych allan am weinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i Mr. Thomas Edwards, myfyriwr o athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yma Gorphenaf 2i1, 1832. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Jones, Waunfawr; Ll. Samuel, Bethesda; D. James, Rhosymeirch; D Griffith, Bethel; I. Jones, Groeslon; H. Rees, Pentraeth, a J. Breese, Liverpool. Nid oedd nifer yr aelodau pan sefydlodd Mr. Edwards yma ond pedwar-ar-hugain, a'r rhai hyny oll yn dlodion, a phum' swllt y mis oedd y cwbl a allasent addaw at ei gynhaliaeth. Cafodd gryn drafferthon yn nechreuad ei weinidogaeth oddiwrth y bobl afreolaidd a roddedd boen i'w ragflaenydd, ond nid ymollyngodd yn ei ysbryd, ond ymaflodd yn ei waith fel dyn o ddifrif. Agorodd ysgol ddyddiol, a bu hyny o ychydig help iddo at ei gynhaliaeth, heblaw rhoddi iddo afael gref ar serchiadau y to ieuangc yn yr ardal. Dygai rhai o'r gynnulleidfa iddo ymborth i'w letty er gwneyd i fyny am fychander yr arian a delid iddo; ac arferai y diacon roddi pric yn mharddu y simdde er gwneyd croes ddu ar gyfer enwau y cyfranwyr. "Mae peth fel hyn yn swnio yn ddigrif yn Ebenezer yn 1872, onid yw ? Ar ddechreu gweinidogaeth Mr. Edwards, ystyrid hi yn wastraff i ddefnyddio canwyllau cyffredin yn y cyfarfodydd wythnosol yn Ebenezer. Y canwyllau brwyn yn unig oedd mewn bri, a mawr yr helbul fyddai i gadw tan yn mhen y frwynen tra parhai cyfarfod. Peth cyffredin fyddai i was y ganwyll ei hanghofio yn swn gweddi afaelgar a thoddedig, ac iddi fyned yn dywyllwch haner nos ar ganol yr addoliad, a rhaid oedd................................
*Er prawf o ofergoeledd yr ardal cymerer yr engraifft a ganlyn, allan o draethawd a elwir "Golygfa o ben y Wyddfa," wedi ei ysgrifenu gan Mr. T. Johns, Llanelli, ac a ymddangosodd yn y "Beirniad," am Gorphenaf, 1868.
"Yn y cae gerllaw capel Ebenezer, yr oedd ffynon a elwid 'Ffynon Chwerthin.' yn yr hon y gwelid llawer o gyrc a phinau. Dyna offerynau tair gwrach y gymydogaeth i gosbi troseddwyr, a thynu eiddo oddiar eu cymydogion ofergoelus. Rhoddai rhieni y gorchymynion caethaf i'r plant i gadw yn mhell oddiwrth Ffynon Chwerthin. Cymerid y fath ofal i argraffu ofn y gwrachod ar eu meddyliau, fel na cheid digon o feiddgarwch yn y glaslanc mwyaf direidus i osod bys yn y pwll gwaharddedig. Dywedir i aml un dewr ddynesu at y ffynon gyda'r bwriad i anfarwoli ei hun drwy gymeryd allan o honi gelfi dewiniaeth. Drwy fod y ffynon yn nghanol siglen, yr oedd yn anmhosibl myned ati heb gynyrchu dwfrgylch ar ei gwyneb, neu beri iddi chwerthin, yn ol chwedl
yr ardalwyr, yr hyn beth a briodolid heb radd o amheuaeth, i'r gwrachod a'r 'hen fechgyn duon' oedd yn rawym iddynt. Mor fuan ag y gwelid y diwr yn bublio, gwelwai y wyneb a churai y gliniau yn nghyd o dan ddylanwad ofn; ac O! mor falch a diolchgar y byddai y pechaduriaid hyn i gael eu hunain yn mhell oddiwrthi drachefn, a deall hyd sicrwydd fod pob aelod yn ei le, y 'synwyran heb eu dyrysu, 'a'u traed yn hytrach na'u penau ar terra firma. Fel y gellid disgwyl, bu farw ofergoeledd pan bregethwyd yr efengyl gyda chysondeb yn y gymydogaeth, a chofleidiodd dwy o'r swynesau grefydd rai blynyddau cyn eu marw, a buont ddefnyddiol gyda'r achos."
303
........................aros am oleuni i ddyfod oddiallan, canys nid oedd goruchwyliaeth y matches wedi dechreu y pryd hwnw. Ar ol i'r ddamwain olaf o'r natur hono ddygwydd, aeth un brawd selog dros ogoniant yr achos y dydd Sadwrn canlynol i'r siop i dref Caernarfon - pellder o saith milldir, yn unswydd i brynu clymaid o ganwyllau gwer, yr hyn fu yn ddechreu cyfnod newydd ar oleuo addoldy Esgob Ebenezer. Clywsom ddywedyd lawer gwaith mai cyfnod profedigaethus dros ben ar yr 'Hen Weinidog,' oedd yr un y dygwyd yr offeryn cerdd cyntaf i'r capel, am fod llawer o'r bobl oreu yn barnu ei fod yn bechod mawr. Modd bynag, mynai y cantorion gael bass viol i'w cynorthwyo. Tra y chwareuid y bass viol, rhedai rhai hen bererinion y tu allan i'r drws, a dychwelent i'w lleoedd erbyn y weddi a'r bregeth. Clywsom adrodd un o deulu y set fawr yn dechreu penill o dan y pwlpud, ac erbyn ei orphen, yr oedd wedi cyrhaedd y lobby. Gyrai ei ben gyda chil y drws i fewn i ail roddi y ddwy linell olaf allan, ond gyda ei fod yn gorphen, tynai ef yn ol yn chwimwth, i gael diangc o olwg, os nid o swn yr offeryn. Ar ddiwedd y mawl, troai pob un ei wyneb tua y drws i edrych am y gweddiwr, yr hwn a ddeuai yn mlaen yn hamddenol, ac anerchai orsedd gras mor ddifrifol a phe na buasai dim allan o le, oddigerth i'r bass viol ruthro i'w feddwl, yr hyn a gynhyrfai ryw nwyd santaidd ynddo, a throai i achwyn arno yn dost wrth ei Dad nefol." Aeth rhai blynyddoedd heibio heb i Mr. Edwards weled ryw lwyddiant mawr ar ei weinidogaeth; ond yn y flwyddyn 1837, torodd diwygiad grymus allan, pryd yr ychwanegwyd llawer o bobl i'r Arglwydd. Rhoddwyd gwedd newydd hollol ar yr achos yn y cyfnod hwnw; aeth yr hen gapel yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa, ac yn y flwyddyn 1843, helaethwyd y capel, a rhoddwyd oriel o'i amgylch. Parhaodd yr achos i fyned rhagddo ar ol hyn, er iddo weled gwahanol dymhorau, ac i rai ystormydd lled gryfion guro arno, etto daliodd ei dir. Talwyd y ddyled yn raddol, fel erbyn 1856, yr oedd yr oll wedi ei dileu. Penderfynwyd cael capel newydd. Cynlluniwyd ef gan Mr. Thomas, Glandwr, a chodwyd capel eang gweith 800p , ac agorwvd ef Mai 22ain, 1859. Ofnai Mr. Edwards y byddai y capel newydd yn rhy fawr, ac na cheid cynnulleidfa i'w lenwi; ond pan ydoedd yn y pryder yna, ar noson cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf yn Maepelah, hen gapel y Methodistiaid, lle yr oeddynt yn addoli tra yr oedd eu capel ar lawr, torodd diwygiad grymus allan. Daeth tri o'r cymeriadau caletaf i'r gyfeillach, a chanlynodd tyrfa fawr ar eu hol, fel na bu mwy bryder yn meddwl Mr. Edwards na lenwid y capel newydd." Parhaodd yr achos i fyned rhagddo mewn llwyddiant. Gwaelodd iechyd Mr. Edwards, a bu farw Gorphenaf 25ain, 1863, yn 62 oed.
Llai na blwyddyn y bu yr eglwys heb weinidog, canys rhoisant alwad i Mr. Thomas Johns, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Hydref 6ed, 1864. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. R. Thomas, Bangor. Holwyd y gofyniadau gan Mr. R. Williams, Bethesda. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Griffith, Bethel. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J.Griffith Llanymddyfri ac i'r eglwys gan Mr. E. Jones, Llangadog. Yr oedd Mr. Johns yn llawer mwy gwrol a diofn na'i ragflaenydd, ac oblegid hyny ni phetrusai draethu ei farn ar bob mater gwladol ac eglwysig, a pharodd ei ysbryd penderfynol i rai oedd wedi cael cryn lawer o'u ffordd cyn hyny dynu eu traed atynt. Bu llwyddiant lled gyson ar ei lafur yma, er na chafwyd yn y tymor hwnw ddiwygiad grymus. Derbyniodd ugeiniau o aelodau newyddion, bedydd-
304
iodd ganoedd o blant, a gwelodd gladdu rhai o ragorolion y ddaear. Derbyniodd alwad o Capel Als, Llanelli, a symudodd yno, lle y mae etto. Traddododd ei bregeth ymadawol yn Ebenezer, Medi 26ain, 1869. Cynhaliwyd yma gyfarfod ymadawol y nos Lun canlynol, pryd y cyflwynwyd set o lestri tê arian i Mrs. Johns. Y flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i Mr. Owen Jones, Ystalfera, sir Forganwg, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Hydref, 1870, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad a chymeradwyaeth mawr.
Er nad yw yr eglwys hon yn hen, etto y mae llawer o wahanol amgylchiadau wedi ei chyfarfod, a rhai cymeriadau nodedig wedi bod ynddi. Nis gallwn yma ond prin grybwyll enwau ychydig o honynt. Heblaw Sian Edward, yr hon a agorodd ei thy i dderbyn yr efengyl, a William Griffith, Caeau-uchaf, yr hwn a roddodd dir i adeiladu capel arno, enwir David Jones, Bwlchuchaf, fel un o'r rhai ffyddlonaf gyda'r achos yn ei gychwyniad. John Owen, Glanyrafon, oedd un o'r rhai yr oedd yr achos yn gorphwys yn ddwfn ar ei feddwl. Robert Jones, Bronygadair, oedd ddyn o deimladau cryfion, er yn hollol anllythrenog. Evan Williams, Ty'r Capal, a fu o lawer o ymgeledd i'r achos yn ei wendid. William Jones, yr hwn a adnabyddid fel " yr hen Gristion," oedd yn uchel ei barch gan bawb, ac yr oedd ei ddywediadau yn y cyfeillachau bob amser i'r pwynt. Hugh Williams, Bryndu, oedd ddyn o athrylith uwchlaw y cyffredin, a hir gofir ei weddiau a'i areithiau. David Jones, yr hwn a ddaeth yma o Leyn, a fu o lawer o wasanaeth yma gyda'r canu, hyd nes yr ymfadodd i America. Griffith Parry Owen oedd yn Annibynwr trwyadl. David Davies, athraw ysgol Frytanaidd Deiniolen, a fu o help mawr i'r achos dros yspaid ei dymor byr; cafodd Mr. Edwards ynddo un o'r cefnogwyr ffyddlonaf, a gwnaeth lawer iawn er diwygio trefniadau casglyddol yr eglwys. Talodd ei gyfeillion eu teyrnged o barch iddo trwy osod colofn hardd ar ei fedd. John Williams, Ty'nyclwt, a fu yn ddiacon yma am 32 o flynyddoedd. Bu yn gyfnerthiad mawr i'r achos yn mhob ystyr. Gwr cadarn ydoedd mewn athrawiaeth, a manwl mewn dysgyblaeth. Diamheu fod yma lawer eraill wedi bod yn ffyddlon i achos yr Arglwydd er na chyrhaeddodd eu henwau hyd atom ni, ond y maent wedi myned i dderbyn eu gwobr. Diaconiaid presenol yr eglwys ydynt Griffith Williams, Cringae; Rowland Hughes, Ebenezer; William Roberts, Llwyncogan; Morris Jones, Post Office; Richard Evans, Penygolwg; Hugh Jones a John Evans Ebenezer; Pierce Roberts, Tanybraich, ac Evan Jones, Ebenezer.
Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.
305
THOMAS EDWARDS. Ganwyd ef yn Tanyparc, Crwys, gerllaw Abertawy, yn y flwyddyn 1801.................................................
*Yr ydym yn ddyledus am ddefnyddiau hanes Ebeneser yn benaf i Mr. Johns, Llanelli, yr hwn, gydag ysgrifenu llawer ei hun, yn garedig a anfonodd i ni lythyr a dderbyniodd oddiwrth Mr. R. Hughes, Ebenezer, gyda rhai cofnodion allan o "Hanes Gwaengyfni," gan D. M. Jones, Clwtybont. Anfonwyd i ni hefyd gan Mr. G. Jones, Ebenezer, ysgrif o eiddo Mr. O. Jones, Galltyfoel, o'r hon y cawsom rai crybwyllion.
306
(Llanddeiniolen parish)
Saif yr addoldy hwn oddeutu milldir a haner islaw i Ebenezer, ar y ffordd i Gaernarfon, mewn pentref bychan gwledig o'r enw Penisarwaun. Yn y flywddyn 1811 yr adeiladwyd y capel ac y sefydlwyd yr eglwys Annibynol yma. Cynhelid gwasanaeth crefyddol beth amser cyn hyny mewn ty anedd yn y lle. Daeth yr ysgol Sabbothol yn flodeuog, ac ar-
[Last updated: 31 May 2008 - Gareth Hicks]
Find help, report problems, and contribute information.
Copyright © GENUKI and Contributors 1996
to date |