| Caernarfonshire | Contents |
Proof read by Yvonne John (May 2008)
Chapels below;
307
wyddion fod y gynnulleidfa yn cynyddu. Er mai lle bychan sydd yma, ac ardal deneu ei phoblogaeth, y mae yn Bozrah bob amser eglwys fechan weithgar, unol, a selog dros ben. Costiodd y capel cyntaf oddeutu 200p. Yn fuan wedi ei agor gostyngwyd y cyflogau yn y chwarel, ac ymadawodd rhai gweithwyr o'r ardal nes y teimlodd y gweddill fod y ddyled yn pwyso yn drwm arnynt. Gwasgodd hyn Mr. Edwards i droi ei wyneb oddicartref i geisio cymorth. Y mae ei lyfr casglu ger ein bron, lle gwelwn iddo ymweled a llawer o eglwysi y De ar ran capel Bozrah, a dychwelyd gyda moddion i ddileu cyfran helaeth o'r ddyled. Bu Mr. Edwards bob amser yn dra gofalus ac ymdrechgar i sicrhau llwyddiant Bozrah, yn yr hyn befyd y bu yn llwyddianus i raddau helaeth, oldegid yn y flwyddyn 1860, cawn fod y capel yn cael ei adgyweirio. Chwanegwyd pedair neu bump llath at ei hyd, ac adnewyddwyd yr oll oddifewn. Costiodd hyn yn agos i 200p., ond erbyn hyn nid oes yn llawn 20p. o honynt yn aros heb eu talu. Bu yma rai brodyr teilwng o gofio am danynt. Un felly oedd Richard Evans, Waunrythallt, a'i deulu. Efe oedd un o ddiaconiaid cyntaf Bozrah. Ni welwyd neb mwy ffyddlon a selog. Yn ei dy ac yn mhob man arall byddai wrth ei fodd yn cael gwneyd rhwybeth gyda 'r achos. Cafodd lluaws o weinidogion Iesu lawer o garedigrwydd pur a dibrin ar ei aelwyd. Cyfranai yn hael at grefydd, ac y mae perarogl hyfryd ei fuchedd yn aros etto. Griffith Jones, Groeslon, hefyd, oedd ddiacon yma o gymeriad pur, ac o fywyd tra bu gyda chrefydd, wedi ei roddi yn llwyr i'w gwasanaethu.*
Mae y lle yma o'r dechreuad mewn cysylltiad ag Ebenezer, ac felly y mae yn parhau.
(Bangor parish)
Arferid pregethn yma er cyn diwedd y ganrif ddiweddaf. Clywsom yr hybarch Mr. Williams, Troedrhiwdalar yn dyweyd iddo ef fod yn pregethu yma y flwyddyn gyntaf o'r ganrif bresenol. Byddai Mr. D. Roberts, pan yn byw yn Tynewydd, Pentir, yn pregethu yma yn aml, er nas gwyddom yn sicr yn mha le. Yn y flwyddyn 1831 adeiladwyd yma gapel, yn y rhan o'r ardal a elwir Rhiwlas, yn mhlwyf Llanddeiniolen. Galwyd ef yn Peniel. Mr. Griffith, Bethel, a ofalai yn benaf am y lle trwy y blynyddau, ond cynorthwyid ef gan bregethwyr o Fangor a Bethesda a lleoedd eraill. Costiodd y capel 160p., a bu ei ddyled yn faich arno yn hir. Lled isel fu yr achos yma am dymor maith; ond siriolodd yn fawr yn adeg y diwygiad yn 1860. Adeiladwyd yma gapel newydd yn y flwyddyn 1863, ac y mae ynddo gynnulleidfa fechan weithgar. Rhoddwyd galwad i Mr. Griffith Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yma Medi 18fed, 1870. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Griffith, Portdinorwig; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. W. Griffith, Bethel; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Griffith, Bethel; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Griffith, Amana; ac i'r eglwys gan Mr. D. Williams Beulah. Mae Mr. Roberts yn parhau i lafurio yma. Cyfodwyd yma ddau bregethwr.
* Llyrhyr Mr. O. Jones, Ebenezer.
308
(Llanrug parish)
Y prif offeryn i gychwyn yr achos yma oedd David Jones, Alltgoch, yr hwn a symudasai yma o ardal Ebenezer. Nid oedd yn aelod eglwysig, ond yr oedd yn Annibynwr selog. Dechreuwyd trwy gadw ysgol o dy i dy, yn Rhagfyr, 1852; a chan nad oedd yr un crefyddwr yn perthyn iddi nid oedd neb i ddechreu a diweddu trwy weddi. O gylch yr amser hwnw daeth Mr. Hugh Hughes (Tegai) i fyw i Pantifan, a deuai yn achlysurol i bregethu yma; a deuai Mr. Roberts, Caernarfon, hefyd yma weithiau. Cafwyd gwasanaeth ystafell perthynol i Glanydon Arms, a symudwyd yr ysgol a'r pregethu yno. Ffurfiwyd yma eglwys, ac unodd David Jones a'i deulu a hi ar ei chorpholiad, a pharhaodd yn weithgar tra y bu byw. Penderfynwyd cael capel yn y lle. David Jones a John Owen, Llwyncoed, oedd y prif offerynau i hyny. Yr oedd Gwen Owen, Llwyncoed, yn un o hen aelodau Llanrug, a chan eu bod yn deulu cyfrifol buont o gefn mawr i'r achos. Agorwyd y capel Tachwedd 18fed a'r 19eg, 1854. Aeth y draul yn 144p., a chasglwyd 30p. cyn yr agoriad. Bu yma un John Williams yn pregethu ac yn cadw ysgol dros dymor. Cafwyd yma yn adeg y diwygiad ychwanegiad mawr at yr eglwys, a llwyr ddilewyd dyled yr hen gapel. Ar sefydliad Mr. D. Oliver yn Llanberis, cymerodd ef ofal yr eglwys, ac efe oedd y gweinidog cyntaf a fu yma. Gan fod yr hen gapel yn agenu oblegid fod y ddaear dano yn ymollwng, penderfynwyd cael capel newydd mewn man mwy cyfleus. Cafwyd tir yn nghanol y pentref. Adeiladwyd y capel newydd yn y flwyddyn 1865. Costiodd 900p. Bu ei godiad yn achos o lawer o bryder, a thrwy y naill beth a'r llall bu yn hir heb ei gwblhau. Gorfu ar Mr. Oliver roddi yr eglwys i fyny oblegid fod y ddau gapel yn Llanberis yn gofyn ei holl lafur, ac y mae yr eglwys yn awr heb weinidog. Aeth yr achos gynt trwy lawer o helbulon, a byddai mân ymrysonau yn aml yn tori ar gysur yr eglwys; ond y mae pethau er's blynyddoedd wedi gwella yn fawr; a gellir disgwyl y bydd yma achos blodeuog.
Bu yma un Robert Jones yn pregethu am dymor, ond ychydig a bregethodd y tu allan i'r eglwys hon. Symudodd i Bentir, lle y bu farw y flwyddyn ddiweddaf.
Dechreuwyd pregethu yma yn nhy un Thomas Closs, gan Dr. A. Jones, Bangor, a Mr. D. Griffith, Bethel. Derbyniwyd dau neu dri o'r ardal yn aelodau yn y Waunfawr; ac erbyn y flwyddyn 1829, yr oeddynt wedi cynyddu i naw o nifer, a ffurfiwyd hwy yn eglwys gan Mr. Griffith; Bethel. Aeth Meistri Griffith, Bethel, a Griffith, Caergybi, at T.A. Smith, Ysw., i ofyn am le i adeiladu capel yn rhywle tua chanol yr ardal. Derbyniodd y boneddwr hwy yn siriol, ac addawodd roddi lle yn agos i Gastell Padarn, ar les o 99 mlynedd, am swllt y flwyddyn o ardreth . Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr yn y flwyddyn 1831, a phregethwyd ar yr achlysur gan Mr. Caledfryn Williams. Agorwyd y capel Hydref 10fed a'r 11eg, 1832. Costiodd y capel a'r tai perthynol iddo 600p, a chyfrifid ef y pryd hwnw yr addoldy harddaf yn y wlad. Galwyd ef Jerusalem. Bu Mr. Edward Rees, wedi hyny o Bryn Seion, yma dros ychydig. Y
309
flwyddyn ar ol agor y capel daeth Mr. Rees Philpot Griffith, myfyriwr o'r Neuaddlwyd, yma i gadw ysgol, ac urddwyd ef i fod yn weinidog Mai 15fed, 1834. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. E. Davies, Llanrwst. Holwyd y gweinidog gan Mr. W. Jones, Amlwch. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Griffith, Bethel. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Jones, Amlwch, ac i'r eglwys gan Mr. Ll. Samuel, Bethesda. Bu Mr. Griffith yma yn dra defnyddiol a llwyddianus am fwy na phedair blynedd, a gadawodd yr eglwys yn 1838, i fyned i Bwllheli mewn gwedd addawol iawn. Yn y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr. John Williams, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yma; ond ni bu ei arosiad yma and byr, ac yr oedd yr achos yn mhell o fod yn gysurus yn y tymor hwnw. Symudodd i Lanelli, sir Frycheiniog. Bu yr eglwys ar ol hyny am fwy nag ugain mlynedd heb weinidog sefydlog, a thrwy gydgyfarfyddiad gwahanol amgylchiadau disgynodd yr achos yn isel iawn. Aeth nifer fawr o'r aelodau ar un adeg gyda'u gilydd i America. Bu Meistri D. Hughes, B A., (Tredegar wedi hyny,) pan yn cadw ysgol yn Mangor, a D. Williams, Garth, Bangor, yn dyfod yma yn fisol ar wahanol adegau, ac yr oedd eu gweinidogaeth yn dra derbyniol.
Teimlid fod cynydd y boblogaeth, a'r angen am wasanaeth Saesonig yn yr haf, yn galw am gael gweinidog sefydlog; a rhoddwyd galwad i Mr. David Oliver, myfyriwr o athrofa Spring Hill, Birmingham, ac urddwyd ef Chwefor 17eg, 1864. Ar yr achlysur pregethwyd ar nutur eglwys gan Mr. D. Griffith, Portdinorwig; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Griffith, Amana; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Roberts. Caernarfon; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan ei frawd. Mr. H. Oliver, B.A Pontypridd, ac i'r eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog. Mae Mr. Oliver wedi llafurio yma hyd yn awr gyda mesur helaeth o lwyddiant. Adeiladwyd capel newydd hardd mewn cwr arall o'r ardal, ac aeth mwy na phedwar ugain o Jerusalem yno. Talwyd dyled y capel oedd wedi bod yn hongian yn faich trwm arno am ddeugain mlynedd; a chafwyd cyfarfod Jubili i lawenhau fod y ddyled wedi ei thalu Chwefror 15fed, 16eg, a'r 17eg, 1873.
Codwyd y personau canlynol i bregethn yn yr eglwys hon.
Mae yr hen frawd John Pritchard yma yn hen bregethwr yn nglyn a'r eglwys, ac o fewn ychydig flwyddi i gant oed.
310
(? parish)
Wrth weled cynydd mawr mewn adeiladu, a'r tebygolrwydd mai yma y byddai canolbath y boblogaeth, penderfynodd Mr. Oliver a'r eglwys yn Jerusalem i adeiladu yma gapel newydd. Codwyd ef yn y flwyddyn 1868, ac aeth yr holl draul yn 1827p. Mae yn gapel helaeth a chyfleus, yn cael ei lenwi yn dda, ac eglwys unol a gweithgar ynddo. Baich y ddyled sydd yn gwasgu yn drwm ond gwneir ymdrech yn awr i symud ymaith ran fawr o honi. Cynhelir yma wasanaeth Saesonig bob haf er cyfleustra i'r lluaws dyeithriaid o bob cwr sydd yn tynu yma i fwynhau y golygfeydd rhamantus o gylch, ac i yfed awelon adfywiol y mynyddoedd. Gan nad yw yr achos ond ieuangc, nid oes unrhyw ddigwyddiad neillduol yn nglyn ag ef i'w gofnodi. Cynhaliwyd Cymanfa sir Gaernarfon am y flwyddyn 1871 yma, ac yr oedd y cynnulliadau oll dan arwyddion o wenau y Nefoedd.
(Dolwyddelan parish)
Mae Dolyddelen yn un o'r llanerchau mwyaf swynol yn y wlad. Mae ar ochr ddeheuol Arfon, ac yn terfynu ar siroedd Meirionydd a Dinbych, ac y mae y mynyddoedd uchel yn sefyll o'i amgylch i'w gysgodi. Er mai ardal fechan, fynyddig, neillduedig ydyw, etto y mae enwogrwydd wedi ei osod ar y fro oblegid mai yma y ganwyd ac y magwyd rhai o dywysogion y pulpud Cymreig. Y Methodistiaid Calfinaidd a gafodd yr afael cyntaf ar yr ardal, ond y mae yr Annibynwyr yn pregethu yma yn achlysurol er dechreu y ganrif bresenol. Arferai Mr. Azariah Shadrach gyrchu yma yn yr adeg yr arosai yn Llanrwst, a thalai swllt i hen wraig yn y pentref bob tro y deuai yma am gael pregethu wrth ddrws ei thý. Morris Jones, Chwarel, oedd un o'r rhai cyntaf i bregethu yma gydag un math o gysondeb. Pregethai mewn lle a elwir Mynhadog. Bu pregethu hefyd yn Brynmoel, Fron, a'r Ffridd. Meistri D. Robert, Bangor; D. Griffith. Bethel; E. Davies, Trawsfynydd; J. Roberts, Capel Garmon; W. Williams, Wern; Robert Daniel, ac eraill yma. Ffurfiwyd yr eglwys yma yn y Ffridd gan Mr. Roberts, Bangor, yr hwn hefyd a weinyddodd ar y cymundeb cyntaf. Nis gallasom gael allan i sicrwydd pa bryd y bu hyn ond yr oedd ryw bryd cyn y flwyddyn 1817, canys yr oedd yn flaenorol i'r diwygiad mawr, fel ei gelwid, ac yn y flwyddyn hono y torodd y diwygiad hwnw allan.* Profodd y gynnulleidfa fechan yma oddiwrth
* Cymerir yr hanes a ganlyn allan o bregeth ar "Ddiwygiad Crefyddol" gan Mr. Thomas, Liverpool a gyhoeddwyd yn 1859, ac awdurdod yr awdwr dros ei chywindeb ydyw Mr John Williams, Caecoch, yr hwn a anwyd ac a fagwyd yn y Fron, Dolyddelen.
"Rhyw ychydig gyda deugain mlynedd yn ol yr oedd yr achos Annibynol yn cychwyn yno mewn tý bychan, a elwid y Fron. Ymwelid a'r lle yn achlysurol gan bregethwyr enwog y dyddiau hyny, ac yn mhlith eraill daeth Mr Williams, o'r Wern, heibio. Am ei fod yn wr enwog a'i fam yn Fethodist, ac yn gyfeillgar a John Williams, hen flaener, a hen bregethwr parchus wedi hyny gyda'r Methodistiaid, gwthoddwyd ef i gapel y Methodistiaid i bregethu. Yr oedd hyny yn beth pur hynod y pryd hwnw, pan nad oedd y teimlad brawdol sydd yn bresenol rhwng y ddau enwad pwysig yma. Pregethai Mr. Williams oddiar y geiriau hyny, 'Os chwychwi gan hyny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant chwi, pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr Ysbryd Glân i'r rhai a ofynant ganddo.' A'r mater y pregethai arno oedd gwaith yr Ysbryd Glân. Ymdriniau a natur ei waith - yr angenrheidrwydd am dano
311
effeithiau y diwygiad grymus hwnw. Teimlent ar ol hyn fod eisiau lle i adeiladu capel atnynt, ond buont hyd y flwyddyn 1826 heb ei gael. Mr. John Roberts, Capel Garmon, a ofalai yn benaf am danynt yn yr adeg yma. Cafwyd tir ar les o gant ond un o flynyddoedd, a chostiodd yr adeilad o gylch 150p. Agorwyd ef Tachwedd 2i1, 1826. Yn mhen blynyddoedd rhoddodd Mr. Roberts ei weinidogaeth i fyny, ac ymddibynai yr eglwys ar gynorthwy y gweinidogion cylchynol. Rhoddwyd galwad i Mr. William Jones, Llystyn, pregethwr cynorthwyol perthynol i Bethesda; ac urddwyd ef yma yn y flwyddyn 1839. Nid arosodd yma yn hir. Symudodd i Benmorfa, ac wedi hyny ymfudodd i America. Ar ol bod am rai blynyddau heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. Evan Lewis, o Lanwrthwl, ac urddwyd ef yma Awst 30ain, 1849. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog; holwyd y gweinidog gan Mr. P. Griffith, Llanrwst; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Edwards, Ebenezer; pregethwyd i'r aweinidog gan Mr. T. Evans, Llanwrthwl, ac i'r eglwys gan Mr. D. Griffith, Bethel. Llafuriodd Mr. Lewis yma am bum' mlynedd nes y symudodd i Carmel, Languwg, sir Forganwg, ac wedi hyny ymfudodd i Awstralia. Yr oedd dyled yn aros ar y capel er yr adeiladwyd ef, ond yn y flwyddyn 1851 penderfynwyd llwyr ddileu y ddyled. Yr oedd yr achos erbyn hyn wedi cryfhau yn fawr, a phendeifynwyd cael capel newydd. Agorwyd ef yn mis Medi, 1860. Aeth y draul yn 400p., ond erbyn Mawrth, 1870, yr oedd y ddyled.............
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
-y sicrwydd y ceir ef. &c., ac wedi ymdrin a'r mater yn athrawiaethol, tröai yn ei ddull syml at y bobl, a dywedai, 'Wel, beth fyddai i chwi gytuno i'w gael o. Dydach chwi ddim ond rhyw ddau enwad bach yma, beth feddyliech chwi am ei gael o i achub y plwy yma o'i gwr. Ië, ond sut y cawn ni o? Wel unwch a'ch gilydd i gynal cyfarfod gweddi yma. Dechreuwch yn un pen i'r plwy, ewch o dý i dý, ac i bob tý lle y cewch chwi ddrws agored, ac mi wn nad oes yma yr un tý nad agora ei ddrws i gyfarfod gweddi. Gwnewch hyny yn neges i bob gweddi am i Dduw ddod yma i achub. Os na bydd o wedi dod erbyn i chwi fynd trwy y plwy unwaith, ewch rownd wedi hyny; ond os byddwch chwi o ddifri yn ei chylch hi chwech chwi ddim mynd i haner y plwy unwaith na bydd Duw wedi dwad atoch.' Yr oedd yno hen ferch ddigrefydd yn gwrando, ac yn meddwl y gwnai y crefyddwr bob peth a ddywedai y pregethwyr; aeth i siop John Williams, prynodd ddwy ganwyll, gwell na'r canwyllau brwyn fyddai hi yn arfer losgi, fel y byddent yn barod erbyn i'r cyfarfod gweddi ddyfod i'w thý. Wythnos ar ol wythnos yn myned heibio - dim son am dano ; mis ar ol mis yn pasio - dim byd yn debyg iddo. Yn mhen rhyw flwyddyn galwodd yr hen ferch yn siop John Williams a gofynai, 'Pryd yr ydach chi yn myned i gael y cwarfod gweddi hwnw?' ' Pwy gwarfod gweddi, dwad?' 'Ond y cwarfod gweddi hwnw ddeudodd Mr. Williams, o'r Wern, oedd i fod o dý i dý yma.' 'Pwy dydyn nhw yn malio dim mwy beth ddeudith Williams, Wern, wel di, na peth ddeudai ina.' 'Wel wir, rydw i wedi prynu dwy ganwyll yn ych siop rwan ers blwyddyn, gan ddysgwyl i chi ddwad, ac wedi myned i'r gwely lawer noson yn y twllwch heb i cynu nhw, rhag ofn i chi ddod, a finau heb yr un ganwyll.' 'Yr wyt ti' 'Ydw wir.' 'Wel wir y mae bai mawr arnom ni.' Y noson hono aeth John Williams i'r society, crybwyllodd y peth wrth y cyfeillion, a phenderfynwyd siarad a'r ychydig oedd yn y Fron yn addoli. Erbyn iddynt ddyfod at eu gilydd, gwelwyd fod yno ddigon i gynal dau gyfarfod gweddi; a phenderfynwyd i un fintai ddechreu yn un pen i'r plwyf, a'r llall yn y pen arall i'r plwyf, gan obeithio cyn y buasent wedi cyfarfod, y buasai Duw wedi dyfod atynt. Ar y pryd yr oedd diwygiad nerthol wedi tori allan yn Beddgelert, cymydogaeth gyfagos; aeth dau o fechgyn gwyllt Dolyddelen tuag yno gyda amcan i gael sport wrth weled y bobl yn neidio; ond fe dorwyd ar eu sport, ymaflodd Ysbryd Duw yn eu calonau, a dychwelasant dan neidio a moli Duw eu hunain. Daeth un o'r ddau ar ol hyn yn 'weinidog cymhwys y Testament Newydd' Goddeithiodd y fflam yn mlaen i Dolyddelen - dadseiniai y bryniau cylchynol gan sain gweddi a mawl- death crefydd yn destyn siarad cyffredinol, ac ychwanegwyd ugeiniau o bobl i'r Arglwydd. Ac yn y diwygiad hwnw y death 'y tywysog a'r gwr mawr hwnw yn ' Jones, Llanllyfni, at grefydd; ac un o'r geiriau a ddywedai John Jones pan yn myned i lawr i ddyfnder yr afon oedd, 'Mae yr hen gyfamod wnes I a Duw rhwng creigiau Dolyddelen er's deugain mlynedd yn ol yn dal yn saff heddyw.' "
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
312
........wedi ei llwyr ddileu. * Rhoddwyd galwad.i Mr. Richard Mawddwy Jones, Bagillt, a dechreuodd ei weinidogaeth yma cyn diwedd y flwyddyn 1870. Mae yma achos blodeuog, a'i afael yn myned gryfach gryfach yn yr ardal o flwyddyn i flwyddyn.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.
Yr ydym wedi crybwyll am eraill a fagwyd yma yn nglyn a'r eglwysi lle y dechreuasant bregethu.
Ymddengys mai Mr. A. Shadrach oedd y cyntaf o'r Annibynwyr i bregethu yn yr ardal hon. Pregethwyd llawer yn Glynlledoer, Pantyrhyddod, Tynewydd, Pentre du, ac Ysgubor y Pyllau. Coflëir gan rai sydd etto yn fyw am Meistri Williams, o'r Wern, a Davies, Trawsfynydd, yn pregethu ar un prydnawn Sabboth yn Ysgubor y Pyllau. Bu pregethu lled gyson yn y Pentre du am flynyddoedd, ac y mae rhai sydd yn fyw yn cofio yn dda y drafferth a gafwyd i gasglu digon o arian i dalu am helaethu ffenestri tý Hugh Roberts, er gwneyd y lle yn fwy cyfleus at addoli. Adeiladwyd y capel cyntaf yma trwy lafur William Hughes, Gartherydd, Daeth ef oddiwrth y Methodistiaid Calfinaidd trwy briodi un o aelodau yr eglwys Annibynol yn Maentwrog; ond dychwelodd eilwaith at ei hen frodyr. Agorwyd y capel yn y flwyddyn 1842. Bu yr achos fel llin yn mygu am amser maith, a'i ddyled yn pwyso yn drwm arno; ac o dan y baich y buwyd hyd y flwyddyn 1868. Bu y lle mewn cysylltiad a Dolyddelen, dan weinidogaeth Meistri W. Jones ac E. Lewis, ac wedi hyny mewn cysylltiad a Threfriw dros dymor gweinidogaeth Mr. J. R. Williams. Yn y flwyddyn 1868, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Evans, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwys yn Siloam, Capel Garmon, Medi 29ain a'r 30ain, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn y ddau le gan Meistri R. Thomas, Bangor; R. W. Roberts, Pentrefoelas; J. Williams, Caecoch; M. D. Jones, Bala; D. Price, America; O. Evans, Llanbrynmair, a D. Evans, Rhosymedre (brodyr yr urddedig); W. Roberts, Liverpool; a J. Peter, Bala. Mae Mr. Evans yn parhau i lafurio yma gyda graddau dymunol o lwyddiant. Teimlodd y cyfeillion fod yr hen gapel yn rhy fychan, ac yn hollol anheilwng o'r llanerch brydferth y safai ynddo a'r adeiladau hardd o'i gylch Adeiladwyd yma gapel newydd gwych dros ben, gydag ysgoldy eang odditano, a thý helaeth yn nglyn ag ef. Costiodd y cwbl 1200p., ac y mae 520p. o'r ddyled wedi ei thalu, ac y mae ysbryd penderfynol yn yr eglwys i lwyr ddileu y gweddill. Rhoddodd y boneddwyr haelionus Samuel Morley,
* Llythyr Mr. Thomas Williams, Fron
313
Ysw., A.S., a Syr Titus Salt, 100p. bob un ato. Mae yr eglwys yn rhifo yn awr 90 o aelodau.* Yn mysg amryw sydd wedi bod yn ffyddlon i'r achos yma dylid crybwyll yn arbenig am Robert Roberts, Pool Mine, aelod gwreiddiol o un o eglwysi Mr. Williams, o'r Wern. Daeth yma yn oruwchwyliwr ar wraith mwn. Efe fu y prif offeryn i gadw y drws yn agored yma am flynyddoedd; ac o'i ddyfodiad yma hyd ei farwolaeth nid oedd neb a deimlai yn fwy dros yr achos yn ei holl ranau. Bu farw yn fuan wedi codi y capel presenol, ond y mae ei goffadwriaeth yn perarogli yn yr ardal hyd y dydd hwn.
Dechreuwyd pregethu yma cyn diwedd y ganrif ddiweddaf mewn lle a elwir Cwmanog, o fewn haner milldir i'r prentref. Meistri W. Hughes, Bangor; B. Jones, Pwllheli ; J. Powell, Rhosymeirch; J. Griffith, Caernarfon ; a W. Hughes Brynbeddau, oeddynt yr Annibynwyr cyntaf a bregethodd yn y broydd hyny. Wedi dyfodiad Mr. Daniel Evans i Fangor, cyrchai yntau yn fynych i'r ardal, a thrwy ei gymhelliad ef y death Mr. Azariah Shadrach i lafurio yn y wlad yma, ac urddwyd ef yn Llanrwst yn y flwyddyn 1802. Daeth Mr. Shadrach i fyw i Drefriw, a chymerodd hen weithdy yn y pentref gan un o'r enw David Owen, dan ardreth o ddau gini yn y flwyddyn, er mwyn pregethu a chadw ysgol ynddo. Dyma yr addoldy cyntaf yn y lle. Mesurai bymtheg troedfedd wrth ddeg troedfedd, ac nid oedd ond tua saith troedfedd o uchder. Nid oedd ond Mr. Shadrach ei hun a thair chwaer yn proffesu crefydd yn y lle. Jane Thomas, Cwmanog; Mary Groom, ac un arall nad yw ei henw genym. Teimlai Mr. Shadrach awydd mawr am gael un dyn atynt, a mawr oedd ei lawenydd pan ddaeth Rowland Hughes, Tynycoed, i mewn atynt. Nid oedd y lle y pregethid ynddo ond gwael iawn, ac aeth yn fuan yn rhy gyfyng, oblegid yr oedd doniau poblogaidd Mr Shadrach yn tynu sylw mawr. Helaethwyd pum' troedfedd yn ei led trwy dyna i lawr y palis coed oedd rhyngddo a'r fynedfa wrth ei ochr, ac ychwanegu hono ato. Darlunir y capel fel hyn gan un a fu ynddo lawer gwaith, - "Gallasai dyn byr gyrhaedd ei fargod y tu allan. Un ffenestr oedd iddo, ac nid oedd hono yn dair troedfedd bob ffordd na phosibilrwydd i'w hagor i ollwng ychydig o awyr i mewn. Yr oedd tair rhan o bedair o'r llawr yn bridd ac yn bantiau a brynian mawrion. Byddai y bobl fyrion yn ymdrechu eu goreu i sefyll ar y bryniau, a'r rhai tal yn tosturio wrthynt fynychaf trwy sefyll yn y pantiau. Palmant oedd y rhan arall o'r llawr, sef llawr yr entry, ac felly y cafodd fod ar hyd y blynyddoedd am ei fod yn rhagori ar y rhan. arall, ac yn dal wrth ei ysgubo heb fyned yn dyllog." + Gorfodwyd y gynnulleidfa i aros yma am ddeuddeng-mlyneddl-ar- hugain oblegid nas gallesid cael tir i adeiladu ei well. Llufuriodd Mr. Shadrach yma a thrwy yr holl wlad yn ddyfal, fel y cawn achlysur i sylwi pan ddeuwn at hanes Llanrwst, hyd y flwyddyn 1806, pryd y symudodd i Dalybont, sir Aberteifi.
Bu yr eglwys yma ar ol hyny yn dibynu ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr y sir ac eraill hyd y flwyddyn 18l0, pryd yr urddwyd Mr. Lewis Powell, myfyriwr o athrofa Gwrecsam, yn Llanrwst, Medi 21ain, y flwyddyn hono. Bu Mr. Powell yma yspaid tair blynedd yn lled lwydd-
*Llythyr Mr. T. Evans, Bettwsycoed. + Mr. Henry Jones, Tanycelyn.
314
ianus, ac yna symudodd i'r Crwys, gerllaw Abertawy. Y flwyddyn ganlynol daeth Mr. Peter Griffith, myfyriwr o athrofa Gwrecsam yma, ac urddwyd ef yn Llanrwst. Nid oedd nifer yr aelodau yma ar ei ddyfodiad ond tua dwsin, ond yn y flwyddyn 1820 cafwyd yma ddiwygiad grymus, pryd yr ychwanegwyd amryw at yr eglwys. Ymadawodd yn y flwyddyn 1824 i Penyclawdd, gerllaw Abertawy. Yn y flwyddyn 1826, daeth Mr. Evan Davies (Eta Delta), myfyriwr o'r Drefnewydd, i gymeryd gofal yr achos yn Llanrwst, Trefriw, a Nantyrhiw. Urddwyd ef Chwefror 8fed, 1827. Gwnaed llawer cynyg o bryd i bryd i gael tir i adeiladu y capel, ond yn aflwyddianus hollol hyd y flwyddyn 1832. Dichon nad annyddorol fyddai talfyriad o hanes yr amgylchiadau o dan ba rai y llwyddwyd. Yr oedd y tir yn eiddo Arglwydd Willoughby De Eresby, ac yr oedd pob cais wedi ei wneyd trwy ei oruchwylwyr. Un diwrnod daeth ei Arglwyddiaeth i Drefriw i weled rhai o'i denantiaid, a chyfarfyddodd. Mr. Hugh Hughes, Tynewydd, ag ef yn ymyl yr hen gapel. Er nad oedd Mr. Hughes yn aelod yr oedd yn selog dros yr achos, a meddyliodd mai dyma yr adeg i gael sylw y boneddwr at y capel. Ceisiodd ganddo droi i mewn i'w weled, ac wedi myned i mewn ceisiodd ganddo fyned i'r pulpud; ac wedi ei gael yno gofynodd " Pa fodd yr hoffai efe bregethu i lond y capel o'r fath le,?" Atebodd ei Arglwyddiaeth, "nad oedd yn gyfaddas mewn un modd, a bod yn rhaid iddynt gael ei estyn cyhyd arall." Diolchodd Mr. Hughes yn fawr iddo, a phenderfynwyd yn ddioed i chwalu yr hen gapel, ac adeiladu un newydd. Aed at ei oruchwyliwr i ofyn caniatad i'w godi yn uwch, ond gwrthodwyd hyny; ni cheid ei godi na'i ledu, ond yn unig estyn ei hyd. Yr unig beth gan hyny oedd i'w wneyd oedd ei suddo i lawr ryw lathen i'r ddaear, a rhoddi llawr coed arno, a gris i fyned i lawr o'r dews iddo, yr hyn a barodd i lawer un dyeithr gael cam gwag. Gwnaed ef yn ddeuddeg llath wrth chwech oddifewn, ac eisteddleoedd drwyddo, ac er ei fod yn tra, rhagori ar yr hen dý etto yr oedd yn mhell o fod yn un cysurus i bregethu a gwrando ynddo. Wedi cael capel newydd penderfynwyd cael cymundeb yn rheolaidd yn y lle, oblegid hyd yn hyn yr oedd pawb yn myned i Lanrwst i gymundeb. Yn y flwyddyn 1834, ymadawodd Mr. Davies i Lanerchymedd. Wedi hyny yn 1836, daeth Mr. Lewis Everett, Llangwyfan, yn weinidog i'r tair eglwys, a bu yma hyd y flwyddyn 1844, pryd y dychwelodd yn ol i Langwyfan. Bu ei weinidogaeth ef yma ar un adeg yn dra llwyddianus. Wedi ymadawiad Mr. Everett bu yr eglwys am yn agos i chwe' blynedd heb weinidog, hyd y flwyddyn 1850, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. W. Caledfryn Williams i ddyfod yma o Aldersgate Street, Llundain. Yn mhen blwyddyn wedi ei ddyfodiad torwyd y cysylltiad rhwng yr eglwys hon a Llanrwst, yr hwn oedd wedi parhau er cychwyniad yr achos. Ar ol bod flynyddoedd yn amddifad o weinidog rhoddwyd galwad i Mr. John E. Williams, gwr ieuangc o Lanegryn, ac urddwyd ef yma Chwefror lleg, 1857. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog. Holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Roberts, Pentrefoelas. Dyrchalwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Davies, Henryd. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Owen, Llanegryn, ac i'r eglwys gan Mr. R. Thomas, Bangor. Byr fu tymor ei weinidogaeth ef yma. Yn 1859, rhoddodd yr eglwys i fyny ac aeth i Lanrwst i fyw, lle y terfynodd ei yrfa yn y flwyddyn 1865.
Yn y flwyddyn 1860, llwyddwyd trwy gynorthwy Lewis Pugh, Ysw., Dolgellau, i gael ychydig o dir er adeiladu capel newydd. Dechreuwyd
315
addoli ynddo Mawrth 31ain, 1861. Mae yn dý cryf a hardd, yn mesur 42 troedfedd wrth 30 troedfedd. Costiodd 560p., ond y mae ei ddyled oll wedi ei thalu. Yn Rhagfyr 1864, rhoddwyd galwad i Mr. William Griffith, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Ebrill 19e, 1865. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. H. Ellis, Corwen. Holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Oliver, B.A., Pontypridd. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Griffith, Llanharan (tad yr urddedig). Pregethwy i'r gweinidog gan Mr. H. Oliver, B.A., ac i'r eglwys gan Mr. J. Roberts, Conwy. Mae Mr. Griffith wedi llafurio yma hyd yn awr, ac y mae golwg lwyddianus ar yr achos.
Codwyd yma ddau bregethwr.
(Llanbedr-y-cennin parish)
Mae y capel yma yn ardal Llechweddisaf, yn mhlwyf Llanbedr-y-cenin. Dyma yr addoldy Ymneillduol cyntaf a godwyd yn y parth yma o'r wlad. Bu rhai o'r Methodistiaid Calfinaidd yn cyd-addoli a'r Annibynwyr cyn iddynt godi capel iddynt eu hunain. Dechreuwyd yr achos yn Mhorthllwyd, tua rnilldir a haner yn nes i Drefriw. Mae yr hen dý, i'w weled etto, ond ei fod mewn adfeilion. Nid oedd ond tý bychan tô gwellt, yr agosaf at Gonwy i bont Porthllwyd. John a Grace Jones oedd enwau yr hen bobl oedd yn byw yma y pryd hwnw. Yr oedd Mr. A. Shadrach. Mr. T. Evans, Bangor, Mr. W. Hughes, Brynbeddau, a Mr. J. Griffith, Caernarfon, yn mysg y rhai a bregethent yma y pryd hwnw, ac nid oes sicrwydd pa un a'i Mr Shadrach a'i Mr. Griffith a ffurfiodd yr eglwys yma, ond beinir i hyny gymeryd lle yn fuan ar ol y flwyddyn 1803. Adeiladwyd capel yma yn y flwyddyn 1808. Galwyd ef Salem. Prynwyd y tir am 20p. gan Owen Williams, Bronygadair, a dyddiad y weithred ydyw Awst 20fed, 1808. Mesurai wyth llath wrth ddeuddeg, ac yr oedd y drws yn ei dalcen, a'r pulpud yn ei ochr. Y prif ofteryn i godi y capel oedd Mr. William Jones, myfyriwr o Athrofa Gwrecsam, yr hwn a ddaethai i'r ardal i lafurio ar gais Mr. Jones o Gaer, a'r hwn yn benaf oedd yn ei gynal. Agorwyd y capel yn rhydd o ddyled, ond cafwyd yr holl help i hyny trwy lafur Mr. Jones gan gyfeillion oddi allan. Dywed Elizabeth Roberts, Tynycae, yr aelod hynaf yn yr eglwys, i Mr. Jones gael 60p. gan ryw foneddiges at y capel, ond nid yw yn gwybod ei henw, na pha le yr oedd yn byw. Urddwyd Mr. W. Jones yma yn y flwyddyd 1809, a thueddir ni i feddwl mai ar yr un adeg yr agorwyd y capel. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Lewis, Wrecsam; G. Lewis, Llanuwchllyn; T. Jones, Dinbych; W. Williams, Wern; J. Roberts, Llanbrynmair; a J. Lewis, Bala. Bu yr achos yn hir fel llin yn mygu yn nghanol tywyllwch y wlad. Yn y flwyddyn 1819 nid oedd nifer yr aelodau ond deunaw, a menywod oeddynt gan mwyaf. Am dymor bu Mr. Thomas Jones, wedi hyny o Benmynydd, Mon, yma yn cadw ysgol, ac yn pregethu yn gynorthwyol i Mr. W. Jones, gan fod maes ei lafur yn cyrhaedd oddiyma hyd Lanfairfechan. Bu Mr. Jones yn byw yn yr ardal
*Cymerwyd y rhan fwyaf o'r hanes uchod allan o bapur o eiddo Mr Griffith, Tref-rhiw, a ddarllenwyd ganddo yn nghyfarfod Chwarterol Bontnewydd, Medi 23ain, 1866.
316
yma hyd y flwyddyn. 1816, pryd y symudodd i Dwygyfylchi i fyw, ond parhai i ofalu am yr eglwys yma fel o'r blaen hyd nes y cymerodd Mr. Lewis Lewis ofal yr eglwys hon mewn cysylltiad a'r Henryd. Urddwyd ef yn Henryd, Medi 14eg, 1825. Darfu ei gysylltiad a'r eglwys hon rai blynyddau cyn iddo ymadael a Henryd. Rhoddwyd galwad i Mr. David Price, o Lanwrtyd, ac urddwyd ef yma Hydref 28ain, 1830. Gweinyddodd Meistri E. Davies, Llanrwst; J. Roberts, Capel Garmon; ac A. Shadrach ar yr achlysur. Ni bu yma yn hir; symudodd i Dalybont, Sir Frycheiniog; ond cyn hir gwaelodd ei iechyd, a bu farw. Bu yr eglwys ar ol hyn am flynyddoedd heb neb i'w bugeilio, hyd nes y llwyddasant i gael gan Mr. John Williams, Caecoch, i gymeryd eu gofal. Urddwyd ef yma Gorphenaf, 1840. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Roberts, Capel Garmon; W. Jones, Dolyddelen; L. Everett, Llanrwst; a W. Thomas, Dwygyfylchi. Bu dyfodiad Mr. Williams yma yn adfywiad mawr i'r achos. Lluosogodd y gynnulleidfa, a derbyniwyd amryw o'r newydd. Ad-drefnwyd y capel, yr hwn oedd wedi myned yn adfeiliedig. Tua'r flwyddyn 1850 helaethwyd ef drwy estyn pedair llath at ei hyd. Cafwyd mynwent hefyd, a thalwyd 20p. ithalwyd 20p. i William Williams, Tydu, am y tir. Aeth yn rhy gyfyng drachefn, fel y bu raid estyn pedair llath arall ato tua'r flwyddyn 1861, a gwnaed eisteddleoedd ar godiad o'r tu ol i'r pulpud. Cyn pen deng mlynedd drachefn penderfynwyd cael capel newydd mewn man mwy cyfleus yn yr ardal. Rhoddwyd y tir yn rhad gan deulu Tydu. Mae yn gapel hardd a chryf, gwerth 800p , ac eistedda 400 o bersonau ynddo. Agorwyd ef Mai 28ain a'r 29ain, 1872. Mae Mr Williams yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad mawr, ac y mae yr achos mewn cystal gwedd ag y gwelwyd ef ar un adeg yn ei hanes.
Bu yma lawer o ffyddloniaid yn nglyn a'r achos o'r dechreuad. Coffheir yn barchus am Ann Rodric, yr hon oedd yn nodedig am ei duwioldeb; a llawer gwaith y rhoddodd fywyd o orfoledd yn y cyfeillachau crefyddol gan mor angerddol oedd ei theimlad. Robert Roberts, Caetail, oedd Gristion nodedig. Yr oedd yn gadarn yn yr ysgryrhyrau, a bu o wasanaeth mawr fel cerddor. John Williams, Felin; Richard Thomas, y Gell; a William Dafydd, Bwlchycae, oeddynt yn golofnau yr achos yn mysg y to cyntaf. Dafydd Jones, Ty Capel, oedd gymeriad hollol wreiddiol, ac y mae adgofion difyrus am ei atebion ai ddywediadau ffraethbert ar gof llawer o bregethwyr a ymwelent â'r lle yn ei dymor. Yr oedd ganddo ofal mawr am yr achos. Bu farw yn mis Ionawr, 1860, yn 73 oed.*
Codwyd yma ddau bregethwr.
(? parish)
Cangen yw Soar o Salem. Sai ar fynydd uwchlaw Salem, yn nghyfeiriad Capel Curig. Adeiladwyd y capel cyntaf yn y flwyddyn 1828. Mesurai chwech llath ysgwar. Costiodd 80p. John Jones, Fachell, oedd y prif offeryn i'w godi. Yn 1867 codwyd yma gapel newydd mewn man
*Ysgrif Mr. T. Roberts, Llanddeusant.
317
mwy cyfleus a sychach na'r hen Soar. Mae yn wyth llath ysgwar. Costiodd 160p. Gweithiodd yr ardal yn dda gyda chodiad y capel newydd. Mae yma achos llewyrchus o'i faint, ac Ysgol Sabbothol weithgar. Mae y lle o'r dechreuad mewn cysylltiad a Salem, ac felly y mae yn parhau. Crybwyllir enwau Dafydd Owen, Caregyffordd; Rowland Jones, yr Hafod; a J. Roberts, Pyllduhen, fel y rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos. Codwyd yma ddau bregethwr.
(? parish)
Mewn amaethdai y cyfarfyddir yma i addoli er dechreuad yr achos. Mae mewn llanerch uchel, ryw dair milldir o Drefriw, heb fod yn mhell o lyn Cowlyd. Dechreuwyd cynal moddion crefyddol yma mor foreu a'r flwyddyn 1814, trwy offerynoliaeth Elin Jones, merch Cwmanog, yr hon a briododd â John Roberts, Brwynog Uchaf. Deuai aelodau Trefriw yma i gynal cyfarfodydd gweddio, ac yn achlysurol deuai rhai o bregethwyr cynorthwyol Bethesda yma i bregethu. Pan y byddai y tywydd yn rhy ystormus i gael pregethwr, nac i neb o Trefriw allu dyfod i fynu i gadw cyfarfod gweddi, cynhalient ysgol ddwywaith y Sabbath, oblegid nad oedd yma etto aelodau crefyddol i gynal y moddion. Yn y flwyddyn 1828 cafwyd yma ddiwvgiad grymus, ac yr oedd Robert Roberts, mab Brwynog Uchaf, a William Griffith, mab y Pant, yn mysg y dychweledigion cyntaf. Mae y blaenaf yn awr yn ddiacon yn Nhrefriw, ac heb golli gwres ei gariad cyntaf. Ffurfiwyd yma eglwys o ugain neu bump ar hugain o aelodau, ac y mae yr achos yn parhau yma hyd yn awr. Symudwyd y moddion o'r Brwynog Uchaf, i'w gynal yn olynol yn y Brwynog Isaf, y Garegwen, a'r Pant; ond yn awr Brwynog Isaf yw cartref mwyaf cyffredin yr arch. Bu y lle yn hir dan ofal Mr. J. Williams, Caecoch; ond wedi iddo ef fethu cyrchu yma, Mr. Griffith, Trefriw, sydd yn gofalu yn benaf am y lle. Bu llawer o siarad am gael capel bychan i'r ardal, a hyderir y llwyddir i'w gael. Mae yma achos bychan siriol iawn; a'r gwanwyn diweddaf cafwyd yr hyfrydwch o dderbyn pedwar o ddynion ieuaingc yn gyflawn aelodau. +
Ysgrifenwyd hanes yr achos yma gan y diweddar Mr. E. Edmunds, i'w ddarllen yn un o Gyfarfodydd Chwarterol y sir; a rhoddwn y rhan gyntaf ohono yma fel yr ysgrifenwyd ef ganddo. Mae wedi ei ysgrifenu yn goeth a gofalus, a bydd yn dda gan lawer ei ddarllen yn ei briod-ddull ef.
" Y mae yn ymddangos nad oedd pregethu rheolaidd gan yr Ymneillduwyr yn yr ardal uchod yn flaenorol i'r flwyddyn 1794. Ac fel y gallesid disgwyl yr oedd sefyllfa foesol a chrefyddol y trigolion oherwydd hyny yn dra isel, fel ag yr ydoedd yn y rhan fwyaf o ardaloedd y pryd
*Llythyr Mr. W. Griffith, Trefriw. + Ysgrif Mr. T. Roberts, Llanddeusant.
318
hwnw. Nid oedd gan y bigolion nn fantais i ymwneyd a phethau crefydd nac i glywed yr efengyl, ond y cyfryw a geid yn eglwys y plwyf, ac oherwydd hyny yr oedd y bobl yn dra anwybodus a choelgrefyddol. Byddent ar ol dyfod allan o'r gwasanaeth eglwysig ar y Sabbothau yn ymroddi i chwareu pêl ar dalcen yr hen eglwys, ac i yfed a chyflawni gwahanol weithredoedd annuwiol eraill i ddiweddu y Sabboth. Cof genyf i un hen frawd ddywedyd wrthyf unwaith, fod nifer o bobl ieuaingc yn chwareu pêl ar dalcen yr eglwys un Sabboth wedi iddynt ddyfod allan o'r gwasanaeth boreuol, a phan yr oeddynt yn nghanol eu digrifwch ymddanghosodd yr hen frawd crefyddol Evan Thomas, Tyddyndu, iddynt, a gwaeddodd allan, ' Pa hyd ynfydion y cerwch ynfydrwydd?' a chafodd ei eiriau y fath ddylanwad arnynt hyd nes y dychrynasant ac y ffuisant ymaith, ac o hyny allan anfynych iawn y clywid eu swn yn chwareu yn y lle hwnw, a darfyddodd yr arferiad annuwiol yn llwyr yn dra buan. Yr aelodau cyntaf yn y lle uchod oeddynt Evan Thomas, Tyddyndu, a'i wraig Sarah Morris, ynghyd a Jane Thomas, chwaer i'r dywededig Evan Thomas. Ymddengys mai aelod yn eglwys Annibynol Beaumaris ydoedd Sarah Mortis cyn iddi ymbriodi ag Evan Thomas. Yr oeddynt yn arfer myned i Caegwigin bob mis i gvmundeb o dan weinidogaeth Mr. William Hughes. Y mae yn debyg mai mewn amaethdy o'r enw Trwynyrwylfa y bu pregethu cyntaf gan Ymneillduwyr yn y plwyf. Pan y deuai pregethwr o unrhyw enwad byddai yn cael rhoddi pregeth yn Trwynyrwylfa, ac yn cael llety iddo ei hun ai anifail yno. Eaw y tenant ydoedd William Jones, taid i Mr. William Jones, presenol o'r Brynmor, a Mrs. Hughes, Trwynyrwylfa. Ond pan dynwyd Trwynyrwylfa i lawr i'w ail-adeiladu yr oedd wedi tywyllu ar yr ychydig flyddloniaid am le i bregethu; ond yn y cyfwng fe ddaeth Evan Thomas yn mlaen ac addawodd ei dý sef Tyddyndu, at eu gwasanaeth, a chafodd ei recordio i'r pwrpas hwnw; ac yno y buwyd yn dwyn y gwaith yn mlaen hyd nos yr adeiladwyd yr hen gapel Annibynol cyntaf, yr hwn a alwyd yn Horeb. Ymddengys fod Horeb wedi ei adeiladu oddeutu y flwyddyn 1813. Sefydlwyd yr eglwys a ymgyferfydd yn Horeb yn yr amaethdy uchod, sef Tyddyndu, gan Mr. Daniel Evans, pan yn gweinidogaethu yn Mangor, a bu Mr. Evans yn gofalu yn flyddlawn am yr eglwys fechan hon, oblegid deuai yno yn fisol tra y bu yn aros yn Mangor. Byddai Mr. Evans yn arfer dyfod i weinyddu yr ordinhad o swpper yr Arglwydd yn fisol i Lanfairfechan, Henryd, a Dwygyfylchi, a phregethai yn y tri lle y Sabboth hwnw, ond ymgyfarfyddent oll yn un o'r lleoedd hyn i gymuno bob mis,a hyny ar gylch. Bu yr achos am rai blynyddoedd yn y lleoedd hyn, ar ol i Mr. Evans ymadael o Fangor, heb neb neillduol yn golalu am dano. Rhyw un a ddeuai ar dro a fyddai yn gweinyddu yr ordinhadau. Yn mhen amser ar ol ymadawiad Mr. Evans ymunodd eglwys Dwygyfylchi â'r ychydig gyfeillion oedd yn Salem, Llanebedr; Henryd, a Llanfairfechan i roddi galwad i Mr. William Jones, yr hwn ydoedd y pryd hwnw yn efrydydd yn Athrofa Wrexham. Ac ar anogaeth Mr Jones o Gaer, a'i addewid i wneyd rhywbeth at ei gynal yn y lleoedd hyn, cydsyniodd a'u cais. Urddwyd ef i'r weinidogaeth yn Salem, Llanbedr, yn y flwyddyn 1809. Yr oedd i ofalu am y pedair eglwys uchod ar y cyntaf, a bu am flynyddoedd yn gwasanaethu iddynt ar ychydig iawn o gyflog, oherwydd fod yr eglwysi o dan ei ofal yn dra gweiniaid. Yr oedd yn byw yn ystod yr amser hwnw yn Salem, Llanbedr, ond symudodd o Salem i fyw i Dwy-
319
gyfylchi oddeutu y flwyddyn 1816, a pharhaodd yr eglwysi o dan ei ofal fel o'r blaen hyd nes y daeth eraill i gymeryd gofal Salem a Henryd, ag y darfyddodd yr achos yn Llanfair. Erbyn hyn nid oedd ganddo ond Dwygyfylchi yn unig o dan ei ofal. Llafuriodd yn ddiwyd lawn yn yr ardaloedd hyn hyd y flwyddyn 1838, pryd yr analluogwyd ef i gyflawni ei swydd gan henaint a methiant, ac wedi rhoddi i fynu ei ofal eglwysig yn hollol treuliodd weddil1 ei oes yn yr ardal hon. Bu farw mewn tangnefedd ar y 13eg o Fai, 1849, yn 49 mlwydd oed.
" Ymddengys fod diwygiad wedi tori allan yn ystod gweinidogaeth Mr. Jones, oddeutu y flwyddyn 1834. Yr oedd cyfarfod blynyddol yn cael ei gynal y flwyddyn hono ar yr adeg arferol, ac ar ddiwedd y cyfarfod galwyd cyfeillach yn ol; Nid ymddanghosai fod neb wedi aros ar ol ar y cyntaf, ond tra yr oedd rhai o'r brodyr yn rhoddi gair o gynghor i'r eglwys, dyma ddrws yr addoldy yn cael ei agor, a dau o'r newydd yn dyfod i fewn o dan deimlad dwys oherwydd eu pechodau, ac yn dymuno cael aros yn y tý, a chael eu hymgeleddu gan Sion. Yr oeddynt wedi meddwl myned adref heb aros yn y gyfeillach y noswaith hono, ond aeth mor galed arnynt wedi iddynt fyned allan, fel y bu yn rhaid iddynt droi yn ol ac anturio i fewn, er yn ofnus a chrynedig. A gallwn fod yn sicr mai da iawn gan Sion eu gweled. Bu dyfodiad y rhai hyn, a dylanwad y cyfarfod hwnw, ynghyd â dylanwad y weinidogaeth feunyddiol, yn effeithiol i dueddu llawer eraill i droi eu hwynebau at yr Arglwydd, ac i ymofyn am le yn ei dý, ac enw yn mlith ei bobl. Nid oedd yr achos ond gwan mewn cydmariaeth yn flaenorol i'r amser hwn, ac nid oedd ond un dyn ieuangc yn perthyn i'r eglwys, ond chwanegwyd ar yr adeg hon lawer o ieuengctyd ac eraill at yr eglwys, a bu yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes crefydd yn y plwyf. Y mae amryw o'r rhai a ymunodd y pryd hwnw yn aros etto gyda chrefydd, rhai wedi meirw, ac eraill wedi troi i'r byd ac wedi gadael yr achos goreu.
Wedi i Mr. Jones roddi ei ofal gweinidogaethol i fynu, rhoddodd eglwys. Horeb alwad yn y flwyddyn 1839 i Mr William Thomas, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn Marton. "Cydsyniodd a'r alwad, a neillduwyd ef i'r weinidogaeth yn Horeb ar y 6ed o Awst, 1839, a gweinyddodd Meistri T. Griffith, Rhydlydan; H. Pugh, Mostyn; Ll. Samuel, Bethesda; Dr. Jones, Bangor; D. Price, Penbontfawr; W. Rees, Dinbych; ac amryw eraill. Bu Mr. Thomas yn aros yn Dwygyfylchi am rai misoedd cyn ei ordeinio, ac yn ystod y misoedd hyny torodd diwygiad nerthol allan a dychwelodd llawer iawn at yr Arglwydd. Ymddengys mai rhywbryd yn nechreu y flwyddyn 1839 y torodd diwygiad allan. Yr oedd Mr. Thomas yn pregethu un nos Sabboth gyda'i egni a'i ddifrifoldeb arferol, ac yr oedd yn eglur iawn fod dylanwad neillduol yn cydfyned a'r weinidogaeth, oblegid yr oedd yr effeithiau yn ddwys ac yn ddwfn lawn; ac ar y diwedd pan alwyd gyfeillach yn ol, yr oedd o ugain i ddeg-ar-hugain wedi aros ar ol. A'r noswaith hono, yn nghanol y llawenydd a'r gorfoledd mawr, yr atebodd Mr. Thomas yr alwad. Darfu i'r arwydd rhyfedd hwn fod llaw yr Arglwydd gydag ef ei gynorthwyo i ddyfod i benderfyniad i aros yn eu mysg, er mawr lawenydd i'r eglwys. Parhaodd y diwygiad. am rai misoedd yn dra nerthol, a chwanegwyd yr amser hwnw rai ugeiniau at grefydd yn y lle, ac y mae y rhan fwyaf o honynt yn aros hyd heddyw ac ar y blaen gyda'r achos goreu. Yr oedd yr achos yn dra gwan mewn cydmariaeth hyd yn bresenol, ond trwy y diwygiad hwn cafodd crefydd afael
320
dra thyn ar yr ardalwyr, ac yn neillduol Annibyniaeth, ac y mae wedi cadw ar y blaen ar bob enwad arall yn y plwyf o hyny hyd yn bresenol. Yn amser Mr. Thomas yr ail adeiladwyd Horeb, sef yn y flwyddyn 1840. Yr oedd in werth oddeutu 300p; ond yn anffodus, yn fuan wedi iddo gael ei adeiladu digwyddodd fyned yn amser gwan iawn ar y gweithiau, ac oherwydd hyny gorfu ar lawer ymadael o'r ardal, yr hyn a barodd i'r cyfeillion fyned yn dra digalon, am fod dyled drom yn aros ar yr addoldy. Ond aeth Mr. Thomas i Lundain a manau eraill i gasglu ato, a bu yn dra llwyddianus, ac felly galluogwyd i fyned yn mlaen yn ddibrofedigaeth. Llafuriodd Mr. Thomas yn ddiwyd, ymdrechgar, a llwyddianus iawn yn y lle, ac yr oedd yn gryn brofedigiaeth ran yr eglwys ei golli pan yr ymadawodd i gymeryd gofal yr eglwys Annibynol yn Beaumaris yn y flwyddyn 1844.
Wedi ymadawiad Mr. Thomas, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. George Peurt, efrydydd yn Athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd i'r weinidogaeth yno yn Awst, 1845. Yn mhen ychydig fisoedd ymaflodd yn ei gyfansoddiad, fel y y symudwyd ef cyn pen blwyddyn gan Arglwydd y cynhauaf oddiwrth ei waith at ei wobr. Cafodd yr eglwys golled neillduol yn marwolaeth Mr. Peurt, a hefyd yn fuan ar ol hyny yn symudiad yr hen frawd duwiolfrydig, ffyddlon, a selog, John Roberts, Cigydd, Nantyglyn, o'r wlad hon i America. Yr oedd yr hen frawd hwn yn enwog mewn duwioldeb, a thrwy hyny yr oedd ei ddylanwad yn fawr iawn mewn ystyr grefyddol ar drigolion y plwyf. Yr oedd wedi dechreu pregethu cyn iddo ymadael, ac ymwelodd a llawer o'r eglwysi cylchynol ychydig cyn ei ymadawiad, gan gynghori a phregethu; ac y mae adgofion melus o'r ymweliadau hyn yn aros yn fyw yn meddyliau llawer hyd y dydd hwn.Yr ydym yn deall hefyd na ddarfu croesi Môr y Werydd ddiffodd ei sel nac oeri ei cariad, ond gweithiodd yn America yr un mor ffyddlon a selog gydag achos ei Dduw ag yr yddoedd wedi gwneuthur yma, ac yn y diwedd machludodd haul ei fywyd yn ddisglaer i gyfodi mewn gwlad na fachluda yn dragywydd. Wedi marwolaeth Mr Peurt, rhoddodd eglwys Horeb alwad i Mr. Edward Stephen, efrydydd yn Athrofa v Bala, a neillduwyd ef i'r weinidogaeth yn haf y flwyddyn 1847. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri I. Jones,Llanrwst; M. Lewis, Bangor; W. Jones (yr hen weinidog); D. Griffith, Bethel; R Parry, Conwy; Ll.Samuel, Bethesda; a W. C. Williams, Caernarfon. Cyhoeddwyd y cyngor a rhoddwyd i'r gweinidog gan Mr. Parry, Conwy, yn y Dysgedydd am Medi, 1847. Llafurodd Mr. Stephen yn ddiwyd iawn gyda'r canu yn yr ardal, ac yn ei amser a thrwy ei ymdrechiadau ef codwyd y canu i sylw neillduol yn y lle. Bu hefyd yn ymdrechgar iawn gyda'r ysgol Sabbothol, yr hon a ddygwyd i agwedd a chyflwr tra effeithiol yn ei amser, fel ag yr oedd yn ysgol Sabbothol luosog ac ymdrechgar. Yr oedd cyn ddyled yn aros ar Horeb pan y cymerodd Mr. Stephen ofal yr eglwys, ond trwy ei ymdrechion ef a'r eglwys, yr oedd wedi ei llwyr dalu cyn pen dwy flynewdd, oblegid yr ydym yn cael ei bod wedi ei symud ymaith yn llwyr tua dechreu y flwyddyn 1850. Ymddengys fod nifer yr aelodau yr amser yr ymgymerodd Mr. Stephen a'r weinidogaeth oddeutu 150, a bu cynydd graddol ar yr eglwys yn ei amser ef. Bu yn llafurus yn eu plith am oddeutu naw mlynedd, a symudodd yn y flwyddyn 1856 i gymeryd gofal yr eglwysi yn Carmel a Bethlehem. Wedi ymadawiad Mr. Stephen, rhoddodd eglwys Horeb alwad i Mr. John Jenkins, efrydydd yn Athrofa Aberhonddu.
[Last updated: 1 June 2008 - Gareth Hicks]
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark. |