| Caernarfonshire | Contents |
Proof read by Yvonne John (May 2008)
Chapels below;
|
321
Urddwyd ef i'r weinidogaeth yn y flwyddyn 1858. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri W. Roberts, Athraw Clasurol Athrofa Aberhonddu ; C. Guion, Aberhonddu; R. Parry, Llandudno ; E. Stephen, Tanymarian ; N. Stephens, Sirhowy; a W. Jenkins, Brynmawr. Profwyd yma ddiwygiad grymus yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jenkins, ac ychwanegwyd yma lawer at yr eglwys. Yr oedd yn mryd yr eglwys yn yr adeg yma adeiladu capel yn y pen gorllewinol i'r plwyf, and cymerodd ychydig bersonau y peth i'w dwylaw fel na wnaed ef yn y modd mwyaf rheolaidd, a chodwyd capel o fewn milldir i bentref Llanfair. Bu Mr. Jenkins yma hyd ddiwedd y flwyddyn 1860, pryd y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Nhreffynon."
Yn mhen llai na blwyddyn a haner wedi ymadawiad Mr. Jenkins, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Edmunds, efrydydd o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef y Llun olaf yn Mehefin, 1862. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri E. Stephen, Tanymarian; W. Thomas, Beaumaris; J. Jenkins, Treffynon ; C. Jones, Dolgellau; W. Roberts, Athraw Clasurol Athrofa Aberhonddu ; H. Oliver, B.A., Pontypridd ; W. Ambrose, Porthmadog ; N. Stephens, Liverpool; R. Thomas, Bangor ; a J. Rowlands, Henryd. Y flwyddyn yr urddwyd Mr. Edmunds, cododd yr eglwys yma gapel yn Penmaenmawr, a galwyd ef Salem. Agorwyd ef yn 1863, ac aeth nifer o aelodau Horeb yno yn heddychol i ddechreu yr achos, a bu y ddau le am rai blynyddoedd dan ofal Mr. Edmunds. Llafuriodd Mr. Edmunds yma yn ddiwyd, a chyda chymeradwyaeth mawr, a daliodd yr achos ei dir trwy holl flynyddoedd ei weinidogaeth. Gwaelodd ei iechyd yn raddol a bu farw Tachwedd 18fed, 1872, yn 39 oed. Mae yr eglwys yn awr wedi rhoddi galwad i Mr. Caleb Williams, myfyriwr o Athrofa Nottingham, ac y mae yn bwriadu ymsefydlu yma.
Mae yma lawer o ffyddloniaid wedi bod yn nglyn a'r achos o bryd i bryd. Crybwyllasom eisioes am Evan Thomas a Sarah Morris, Tyddyndu, y rhai oeddynt flaenffrwyth crefydd yn yr ardal. Richard Jones, Tymawr, oedd wr tawel a chymeradwy yn ei ddydd. William Jones, Greiglwyd, a fu yn ddiwyd a ffyddlon am dymor hir. Dyoddefodd bwys y dydd a'r gwres. Bu ar y blaen fel diacon, ac yr oedd yn fedrus mewn achosion dyrus o ddysgyblaeth. Margaret Roberts, Caecudd, oedd un o'r aelodau cyntaf yma, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.
WILLIAM JONES. Ganwyd ef yn Birmingham, yn y flwyddyn 1769. Cymro oedd ei dad, ond Saesnes oedd ei fam. Treuliodd ei ddyddiau
322
boreuol yn ardal Pennal, gerllaw Machynlleth, a bu yn gwasanaethu gyda Mr. a Mrs. Pugh, Llugwy, ac yno yr aeth i'r gyfeillach grefyddol, ond yn Machynlleth y derbyniwyd ef yn aelod, lle y derbynid holl aelodau Pennal yn y dyddiau hyny. Mae yn debyg mai yn Machynlleth y dechreuodd bregethu, er na chawsom ei enw yn mysg y pregethwyr a godwyd yn yr eglwys hono. Bu am yspaid yn Wrecsam yn yr athrofa, ond yr oedd mewn cryn oed pan yr aeth yno. Daeth ar gymhelliad Mr. Jones o Gaerlleon, i lafurio i'r maes eang o Lanfairfechan hyd Llanbedr, yr hwn oedd wedi ei adael heb neb i lafurio arno, er ymadawiad Mr. Daniel Evans o Fangor. Urddwyd ef yn Salem yn y flwyddyn 1809 pan oedd yn 40 oed. Yn ei dymor ef, a thrwy ei lafur ef yr adeiladwyd Horeb, Dwygyfylchi, at efe oedd yn benaf yn llafurio gyda chodi Henryd. Yn y flwyddyn 1824 cyfyngodd ei lafur i Dwygyfylchi, a daliodd ei gysylltiad a'r eglwys hyd y flwyddyn 1838, pryd y gorfodwyd ef gan lesgedd i roddi i fyny. Bu fyw am fwy na deng mlynedd ar ol hyny ; a bu farw Mai 13eg, 1849, yn 80 oed. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn craff a synwyrol, yn ofalus fel gweinidog, ac yn nodedig ar gyfrif ei dduwioldeb. Nid oedd yn hyawdl fel pregethwr, ond oedd yn wastad yn syml ac efengylaidd; ac anhawdd oedd cael ei gyffelyb i ymdrin a phrofiadau y saint. Mae ei enw yn aros yn berarogl yn y wlad, a'i goffadwriaeth yn fendigedig.
GEORGE PEART. Ganwyd ef yn Llansanan, sir Ddinbych. Nis gallasom ddyfod o hyd i ddyddiad ei enedigaeth; ac yr ydym yn gwbl anhysbys o'i ddyddiau boreuol. Derbyniwyd ef yn aelod Llansanan, ac yno y dechreuodd bregethu, ac aeth oddiyno i Athrofa y Bala lle yr arhosodd rai blynyddau. Cafodd alwad o Horeb, Dwygyfylchi, ac urddwyd ef yno yn mis Awst, 1845. Gwr ieuangc tal, teneu ydoedd, a rhyw ddyeithrwch yn ei olwg oedd yn sicr o dynu sylw. Canmolid ef yn fawr ar gyfrif ei grefyddolder, a safai yn uchel yn ngolwg yr eglwys yn Horeb. Pregethai yn ddifrifol, yn faith, ac yn llafurus, yr hyn oedd yn ormod i'w natur wan ei ddal. Gwaelodd yn raddol, ac aeth i Lanrwst, ond wedi hir nychu bu farw Mai 4ydd, 1846, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys Llansanan.
EVAN EDMUNDS. Ganwyd ef yn Maesclawddffridd, yn mhlwyf Trawsfynydd, sir Feirionydd, Chwefror 2i1, 1833. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Nolgellau pan oedd yn 15 oed, ac yno y dechreuodd bregethu. Wedi derbyn addysg ragbarotoawl derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu, yn haf 1858. Treuliodd yno bedair blynedd, at enillodd barch ac ymddiried ei athrawon a'i gydfyfyrwyr. Yr oedd yn gywir a manwl yn mhob peth, ac yn nodedig yn ei ofal am y pethau lleiaf. Derbyniodd alwad gan eglwys Horeb, Dwygyfylchi, ac urddwyd ef yno yn Mehefin, 1862. Y flwyddyn hono yr oedd eglwys Horeb yn adeiladu Salem, ac wedi ffurfio eglwys yno bu y ddau le dan ei ofal hyd flwyddyn 1869, pryd y rhoddodd Salem i fyny; ond daliodd ei gysylltiad a Horeb hyd y diwedd.
Yr oedd Mr. Edmunds yn ddyn synwyrol a deallgar, wedi darllen llawer, ac yn meddu dirnadaeth glir, a barn uniawn i ffurfio ei olygiadau drosto ei hun ar bob peth a ddarllenai. Hynodid ef bob amser gan bwyll ac arafwch, a mynai chwilio pob peth cyn ei dderbyn, ac nid oedd fel yr ehud yr hwn a goelia bob gair. Bu yn ffyddlon a gofalus fel bugail, a rhodiodd yn ddiargyhoedd a didramgwydd yn mysg pobl ei ofal. Ni roddodd loes iddynt erioed na thrwy ymddygiad anweddus, na thrwy air
323
anheilwng. Yr oedd yn ddihafal am ei ochelgarwch. Yr oedd yn un o deimladau dwfn a dwys, fel yr oedd pob peth yn ymylu ar angharedigrwydd yn myned yn agos iawn at ei galon ; ac nid hawdd oedd ganddo fyned heibio iddo. Nid oedd yn meddu ar elfenau pregethwr poblogaidd, ond yr oedd yn dderbyniol iawn gan wrandawyr deallgar, y rhai y gallesid eu boddhau a gwirioneddau syml ac efengylaidd, er heb eu gwisgo gyda godidawgrwydd ymadrodd, na'u traddodi gyda nerth a hyawdledd; er mae yn ddiamheu genym y buasai yn fwy boddhaol i bob dosbarth o wrandawyr pe buasai mwy o yni yn ei weinidogaeth.
Ni bu erioed yn gryf o gorph, ond gwaelodd yn fawr yn ei flynyddoedd olaf ; ac am fisoedd diweddaf ei oes bu yn dihoeni o'r darfodedigaeth nychlyd. Cafodd dynerwch neillduol gan bobl ei ofal yn Horeb, a theimlai tuag atynt hyd ei ddiwedd ymlyniad cryf. Bu farw Tachwedd 18 fed, 1872, yn 39 oed. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol yn mynwent blwyfol Dwygyfylchi, ac yr oedd yno dorf fawr o alarwyr wedi dyfod yn nghyd; ac yr oedd agos holl weinidogion Cyfundeb Gogleddol sir Gaernarfon yn gystal a rhai eraill wedi dyfod yno i ddangos eu parch i'w goffadwriaeth.
(Llanfair Fechan parish)
Teimlid er's blynyddoedd fod angen am gapel yn y pen gorllewinol i'r plwyf. Yr oedd Horeb yn anghyfleus i luaws o'r boblogaeth, ac yr oedd pentref Penmaenmawr yn cynyddu yn gyflym. Cafwyd tir at godi capel mewn man cyfleus. Dechreuwyd adeiladu y capel yn Tachwedd 1862, ac yr oedd wedi ei orphen erbyn Awst, 1863. Ar yr ail Sabboth yn Awst aeth rhan o eglwys Horeb allan yn heddychol i ffurfio eglwys yn y capel newydd. Cynhaliwyd cyfarfodydd yr agoriad y 24ain a'r 25ain o'r un mis. Galwyd y capel yn Salem. Mae yn dy hardd a cyfleus, gwerth mwy na mil o bunnau. Bu yr eglwys mewn cysylltiad a Horeb hyd y flwyddyn 1869, pryd y rhoddodd Mr Edmunds i fyny ei gofal. Wedi bod am ychydig heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr D. M. Jenkins, Drenewydd. Dechreuodd ef ei weinidogaeth yma yn y flwyddyn 1870, ac y mae yn parhau i lafurio yma a'i weinidogaeth yn dra derbyniol. Mae yr ardal yma yn gyrchfan lluaws mawr o ddyeithriaid dros fisoedd yr haf; ac y mae yma wasanaeth Seisnig yn cael ei ddwyn yn mlaen yn rheolaidd am y tymor hwnw. Mae yma eglwys weithgar, a dyled y capel yn cael ei dalu yn gyflym.
Codwyd yma un pregethwr, sef David Jones, yr hwn sydd etto yn aros yn y lle.
(Llanfair Fechan parish ?)
Mae y lle hwn o fewn milldir i Lanfairfechan. Dechreuwyd yr achos yma gan Mr. Mark Roberts, ac ychydig gyfeillion gydag ef, y rhai a ymneillduasant o Horeb, Dwygyfylchi, yn y flwyddyn 1858, Buont yn ymgynnull i addoli am yspaid yn Mhenmaenmawr, ond yn y flwyddyn 1862 adeiladasant gapel yn nghanol nifer o dai oedd wedi eu codi o gylch haner y ffordd rhwng Penmaenmawr a Llanfair. Mae yn gapel prydferth, ac wedi ei drefnu yn rhagorol. Costiodd 400p. Agorwyd ef Gwener y Groglith, 1863. Ni bu yma yr un gweinidog hyd y flwyddyn 1871, pryd
324
y rhoddwyd galwad i Mr. Ephraim Thomas, Rhosycae, ac y mae yn parhau i lafurio yma.
Bu yma addoldy Annibynol ychydig uwchlaw y pentref. Mae yr hen dý i'w weled etto. Adeiladwyd ef tua dechreu y ganrif bresenol, yn benaf trwy lafur Mr. D. Evans, Bangor. Bu golwg lewyrchus ar yr achos, ond trwy ryw ddiofalwch gadawyd iddo fyned i lawr, a chauwyd y capel. Digwyddodd hyny yn nhymor gweinidogaeth Mr. W. Jones yn Dwygyfylchi. Wedi sefydliad Mr. W. Thomas yn Dwygyfylchi, meddyliwyd am ail gychwyn yr achos yn Llanfair. All agorwyd y capel yn y flwyddyn 1840, ac yr oedd yno gyfarfod llewyrchus ar y pryd. Yr ydym yn cofio ein bod yn bresenol ar yr achlysur. Ond ychydig o lwyddiant oedd ar y gwaith. Yr oedd y capel yn mhell o'r naill du, ac nid ymddangosai yr ardal yn gafael ynddo. Rhoddwyd ef i fyny drachefn, a throwyd ef yn dý anedd.
Yn ystod y deng mlynedd diweddaf y mae Llanfair wedi cynyddu yn ddirfawr, ac y mae y lle wedi dyfod yn gyrchfa canoedd o ddyeithriaid yn yr haf. Meddyliwyd fod yr adeg wedi dyfod i wneyd cynyg drachefn ar godi achos yma. Buwyd yn addoli am dymor mewn tý anedd; ond o'r diwedd sicrhawyd darn o dir mewn man cyfleus at adeiladu capel. Rhoddodd S. Morley, Ysw., A.S., 100p. at y draul. Codwyd y capel yn y flwyddyn 1867. Gweinidogion y sir a gymerodd y llafur a'r cyfrifoldeb gyda chodi y capel. Gweithredai Mr. Thomas, Bangor, fel Trysorydd. Nid yw yr achos etto ond egwan ac y mae baich y ddyled yn gorphwys yn drwm arno. Mae yn un o lawer o'r engreifftiau sydd genym o'r anhawsder sydd i godi achos mewn man heb fod y bobl fyddo yn gysylltiedig ag ef yn ymgymeryd yn gwbl a'r cyfrifoldeb. Cynhelir yma wasanaeth Seisnig bob Sabboth yn yr haf, a cheir yma fynychaf gynnulleidfa dda.
(Llangelynin parish)
Mae y lle hwn o fewn dwy filldir a haner i Gonwy. Dechreuwyd pregethu yn lled reolaidd yma tua'r flwyddyn 1806. Ymddengys fod pregethu wedi bod yma yn achlysurol cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, oblegid crybwyllir am Mr. W. Hughes yn dyfod yma cyn ei symudiad o Fangor i Ddinasmawddwy. Mr. William Hughes, Brynbeddau, a ddechreuodd bregethu yma yn fwyaf cyson yn ei ymweliad fel efengylwr teithiol a'r rhan hon o'r wlad. Dywedir ddarfod i glerigwr o Gonwy gydio yn Mr. W. Hughes gan geisio ei dynu i lawr oddiar gareg farch, lle y safai i bregethu. Ffurfiwyd eglwys yma yn y flwyddyn 1810, fel y tybir gan Mr. W. Jones, Dwygyfylchi, yr hwn oedd erbyn hyn wedi sefydlu yn y wlad yma. Nid oedd nifer yr aelodau ond pedwar, sef Robert Thomas, William Pritchard, David Davies, Ddol, ac Ann Rodric. Cyfarfyddent mewn tý bychan sydd yn aros etto. Daeth Thomas Jones i fyw i'r gymydogaeth, yr hwn wedi hyny a symudodd i Benmynydd yn Mon. Cadwai ysgol, a rhwymai lyfrau at ei gynhaliaeth, a phregethai yn yr hen dý. Buwyd yn addoli yma am tua deuddeng mlynedd. Cafwyd tir i adeiladu capel gan un Edward Parry, Llanerchyfuwch am y
325
swm o 20p. Codwyd y capel yn y flwyddyn 1822. Mesurai ddeg llath o hyd wrth naw o led oddi fewn. Agorwyd ef Hydref 8fed a'r 9fed, y flwyddyn hono. Pregethodd Meistri J. Roberts, Capelgarmon, J. Williams, Ffestiniog, W. Jones, Caernarfon, D. Griffith, Bethel, D. Roberts, Pentir, ac R. Morris, Bangor.* Yn mhen dwy flynedd wedi codi y capel rhoddodd Mr. Jones, Dwygyfylchi, i fynu ofal yr eglwys hon a'r eglwys yn Salem; ac unodd y ddwy i roddi galwad i Mr. Lewis Lewis, ac urddwyd ef yma Medi 14eg, 1826. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Roberts, Dinbych; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Jones, Dwygyfylchi, yr hwn hefyd a weddiodd; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. T. Lewis, Pwllheli; ac i'r eglwysi gan Mr. D. Griffith, Bethel. Bu Mr. Lewis yma am tua phedair blynedd, ac yna symudodd i Merthyr Cynog, Sir Frycheiniog. Wedi bod yno dros rai blynyddoedd ymadawodd ac aeth at y Bedyddwyr. Bu yn gweinidogaethu am dymor yn Dinas, gerllaw Trefdraeth, Sir Benfro, a chyn pen rhai blynyddoedd bu farw. Yr oedd yn ddyn o gorff cryf, ac yn meddu llawer o ddawn pregethu, a gallasai o ran cymwysderau naturiol fod yn weinidog parchus a defnyddiol. Yn y flwyddyn 1830 rhoddodd yr eglwys hon alwad i Mr. Richard Rowlands, yr hwn a fuasai am dymor yn Athrofa Drefnewydd, ac urddwyd ef i waith y weinidogaeth Hydref 7fed, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. A. Jones, Bangor. Holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Llanrwst. Dyrchafwyd yr urdd weddi gan Mr. D. Morgan, Machynlleth, yr hwn hefyd a bregethodd ar ddyledswydd yr eglwys; a phregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Jones, Dwygyfylchi. Llafuriodd Mr. Rowlands yma gyda derbyniad a llwyddiant hyd orpheniad ei yrfa Rhagfyr 10fed, 1836. Yn y flwyddyn 1838 rhoddodd yr eglwys yma a'r eglwys yn Nghonwy alwad i Mr. Richard Parry, Salem, Bryngwran, Mon, a bu yma yn ddefnyddiol hyd y flwyddyn 1848, pryd y derbyniodd alwad o Llanymddyfri, ac y symudodd yno. Y flwyddyn wedi ymadawiad Mr. Parry rhoddodd y ddwy eglwys alwad i Mr. John Davies, Myfyriwr o Athrofa y Bala; ac urddwyd ef yn Nghonwy, Rhagfyr 19eg, 1849; ac er na pharhaodd ei gysylltiad a'r eglwys yn Nghonwy yn hir, bu yn weinidog yma hyd y flwyddyn 1859, pryd y symudodd i'r Amwythig. Daeth yma un Robert Jones, o Chwilog, ac urddwyd ef yma, ond ni bu ei arosiad ond byr iawn. Aeth pethau yn anghysurus rhyngddo a'r eglwys, ac ymadawodd at y Bedyddwyr, lle y mae etto. Cyn diwedd y flwyddyn 1861 rhoddwyd galwad i Mr. Joseph Rowlands, mab Mr. R. Rowlands, a fu yn weinidog yma, ac urddwyd ef Ionawr 15fed, 1862. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. W. Rees, Liverpool. Holwyd y gweinidog gan Mr. R. Thomas, Bangor. Dyrchafwyd yr urdd weddi gan Mr. E. Owen, Llansantffraid. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Roberts, Conwy, ac i'r eglwys gan Mr. R. Parry, Llandudno. Bu gweinidogaeth Mr. Rowlands yma yn dra llwyddianus. Yn y flwyddyn 1866 ymgymerwyd ag ailadeiladu y capel. Costiodd 300p. heb gyfrif cludo defnyddiau, yr hyn a wnaed yn rhad gan amaethwyr yr ardal. Dangoswyd haelioni mawr i dalu am dano. Nid oedd ond 100p. o ddyled yn aros ddydd ei agoriad. Bu Mr.Rowlands yma hyd ddechreu y flwyddyn 1868, pryd y symudodd. i Rhosllanerchrugog. Wedi bod am dymor heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. Robert Roberts, pregethwr cynorthwyol yn Llanberis, ac urddwyd
*Dysgedydd, 1823. Tudal. 214.
326
ef Mehefin 29ain, 1871. Ar yr achlysur pregethwyd er Natur Eglwys pan Mr. D. Oliver, Llanberis; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Griffith, Trefriw; dyrchafwyd yr urdd weddi gan Mr. J. Rowlands, Rhos; pregethwyd i'r gwewinidog gan Mr. R. Perry, Llandudno, ac i'r eglwys gan Mr. D. Griffith, Portdinorwic. Mae Mr. Roberts yn parhau i lafurio yma a'r achos mewn gwedd siriol.
Mae yma rai cymeriadau nodedig wedi bod yn nglyn a'r eglwys hon, am y rhai y gallesid ysgrifenu llawer megis Dafydd Jones, Robert Hughes, William Pritchard, O. Owens, Tyddyncynal, ai was Hugh Hughes; ac y mae yma lawer o deuluodd sydd wedi bod ac yn bod yn swcwr mawr i'r achos yn y lle.
Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon : -
RICHARD ROWLANDS. Ganwyd ef yn Mrongamlan, yn mhlwyf Mallwyd, yn Sir Feirionydd, Mehefin 2i1, 1803. .................................
327
(Caerhun parish )
Dechreuwyd pregethu yma yn yr Ysgoldy Brytanaidd, yn y flwyddyn 1856, gan Mr. J. Davies, Henryd. Telid 4p. y flwyddyn o ardreth am yr ysgoldy. Cafwyd tipyn o wrthwynebiad i gychwyn, ond ni ddigalonodd y cyfeillion. Buwyd yn yr ysgoldy yn addoli am un mlynedd ar ddeg. Ymgymerodd Mr. J. Rowlands, gweinidog Henryd ar y pryd, gyda chynorthwy Meistri J. Roberts, Conwy, R. Parry, Llandudno, ac E. Edmunds, Dwygyfylchi, a'r llafur o adeiladu capel yma. Cafwyd tir i'w adeiladu gan Mr. J. Williams, Tydu, Llanbedr, am 14p. Cynlluniwyd ef yn rhad gan Mr. H. Owens, Henryd. Costiodd yn agos i 200p. Bu Meistri J. Rowlands, J. Roberts, ac E. Edmunds yn ymdrechgar iawn i gasglu ato; a rhyngddynt hwy a'r cyfeillion yn y lle talwyd 120p. o'r ddyled. Agorwyd y capel Mai 2i1 a'r 3ydd, 1868. Mae y lle o'r dechreuad mewn cysylltiad â Henryd.
Nid yw yr achos Annibynol yn y dref hon ond diweddar mewn cymhariaeth. Arferid pregethu yn achlysurol mewn ystafell perthynol King's Read; ond yn y flwyddyn 1831, wedi sefydliad Mr. Rowlands yn Henryd,
328
y dechreuwyd cynal gwasanaeth yn rheolaidd. Oherwydd fod yr ystafell yn dra anghyfleus ymgymerodd Mr. Rowlands, gyda chynorthwy rhai cyfeillion, ag adeiladu capel. Costiodd 500p., yr hyn oedd yn faich trwm ar ysgwyddau gweiniaid. Agorwyd ef dydd Iau Dyrchafael, 1835. Parodd dyled y capel bryder mawr i Mr. Rowlands, yn enwedig gan i'w iechyd waelu yn ddioed wedi ei adeiladu. Daeth Mr. R. Parry yma ac i'r Henryd i weinidogaethu yn y flwyddyn 1838, a siriolodd yr achos i raddau; ac erbyn y flwyddyn 1842 yr oedd y ddyled wedi ei thynu lawr i 200p. Rhoddodd Mr. Parry wedi hyny yr elw a ddeilliodd oddi wrth werthiant pregeth a gyhoeddodd ar Ddychweliad Saul o Tarsus i'r un perwyl. Yn y flwyddyn 1848 ymadawodd Mr. Parry i fyned i Lanymddyfri. Yn y flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, Myfyriwr o Athrofa y Bala, ac urddwyd ef yma Rhagfyr 19eg, 1849. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri W. Ambrose, Porthmadog, T. Edwards, Ebenezer, J. Williams, Salem, W. Roberts, Penybontfawr, a Ll. Samuel, Bethesda. Ni pharhaodd cysylltiad Mr. Davies a'r eglwys yn hir, ac am flynyddau wedi hyny bu yr eglwys heb neb yn neillduol i fwrw golwg drosti. Dychwelodd Mr. Parry yma, ond ni chymerodd y gofal ond yn rhanol, oblegid yr oedd wedi rhoddi ei fryd ar gychwyn achos a chodi capel yn Llandudno. Yn y flwyddyn 1859 adgyweiriwyd ac adrefnwyd y capel, oblegid yr oedd wedi myned yn lled adfaeliedig. Aeth y draul tua 40p., ond talwyd y cwbl trwy gydymdrech y cyfeillion yn y lle. Cynhaliwyd cyfarfod i'w ail agor y Sabboth cyntaf yn Mawrth. Y flwyddyn ganlynol cymerodd Mr. John Roberts (J. R.), Llundain, ofal yr eglwys, ac y mae yn parhau yma etto.
Nid ydym yn gwybod fod neb wedi dechreu pregethu yma, ond Mr. Robert Thomas, Bangor, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn agos i derfyn gweinidogaeth Mr. Rowlands. Bu yma hen bregethwr o'r enw Robert Thomas yn byw am dymor, ond yr oedd ef yn pregethu cyn dyfod yma. Yr oedd yn hen wr diniwed a chrefyddol. Daeth yma o Fanchester. Yr oedd Mrs. Thomas, ei wraig, yn gymeriad gwreiddiol hollol, ac y mae llawer o'i ffraeth ddywediadau ar gof a chadw. Mae yr hybarch Samuel Roberts (S. R.) yn aros yma er y dychwelodd o America y tro diweddaf; a mwynhaoedd yr eglwys yma lawer o'i wasanaeth cyhyd ag y gallodd fyned oddi amgylch, ond y mae yn awr wedi ei ddal gan waeledd nes ei analluogi i bregethu. Mae ei frawd hefyd Mr. Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart) mewn cysylltiad a'r eglwys hon, er pan y dychwelodd o Tennessee; ac y mae yn fynych yn gwasanaethu eglwysi y wlad ar y Sabbothau.
" Pan y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y lle hwn, nid oedd ond pentref cyffredin mewn cysylltiad a'r gwaith efydd, ac ychydig bysgota. Yr oedd yma addoldai gan y Methodistiaid, y Bedyddwyr, a'r Wesleyaid; a'r Eglwys Wladol ar ben Mynydd y Gogarth. . Ni wyddai y cyhoedd yma nemawr am yr enwad, ond mewn hanes yn unig. Y mae yn debygol mae yr aelod cyntaf perthynol i'r Annibynwyr a ddaeth yma i gyfaneddu ydoedd, Mr. Thomas Jones, Frondeg. Daeth yma fel goruch-wyliwr "Gwaith Newydd," y mwn efydd. Pregethwyd yma gan Meistri Pierce, Liverpool, a Williams, o'r Wern, ar noson waith, tua deugain mlynedd yn ol, pan yr oeddynt yma ar ymweliad, fel yn ddamweiniol.
329
Bu Mr. Rowlands, Henryd, hefyd yn pregethu yn achlysurol yma. Dechreuwyd pregethu yma yn fwy sefydlog tua'r flwyddyn 1835, a hyny mewn tai anedd, weithiau yn y Frondeg, bryd arall yn nhy Mr. Reuben Jones, ond yn fwyaf cyffredin yn nhy Mrs. Rowlands. Byddid yn cael cyhoeddi oedfaon weithiau hefyd yn nghapeli y Methodistiaid a'r Bedyddwyr. Dechreuwyd ymgynnull yn fuan, mewn cyfeillachau crefyddol, yn wythnosol, yn nhy Mrs. Rowlands, a chynhelid cyfarfodydd cyhoeddus am rai blynyddoedd yn achlysurol yn y capeli, y rhai a ganiateid at y gwaith gyda phob parodrwydd meddwl. Yn mis Awst, 1843, ffnrfiwyd eglwys Annibynol yn y tý olaf crybwylledig, o ychydig nifer, lle yr ymgynnullid yn rheolaidd, dan gynydd graddol, nes teimlo angen am addoldy i ymgyfarfod ynddo. Tynwyd allan gynlluniau i'r perwyl, a gwnaed cais at oruchwylwyr Lady Champneys am dir i adeiladu, lle yr oedd hen odyn galch ar y pryd, yn agos i'r lle y sail anedd-dy y Graig yn awr; ond ni lwyddwyd yn y cais. Gwnaed erfyniad drachefn at oruchwylwyr Arglwydd Mostyn, am y lle a feddienir yn awr, a chafwyd ei Arglwyddiaeth yn ffafriol fawn. Yn Hydref 1855, daeth John Crossley, Ysw., o Halifax, fel ymwelydd i'r dref, a gwnaeth ymofyniad am yr holl amgylchiadau, a gofynodd i'r brodyr, a roddent hwy eu cynlluniau gostyngedig i fyny, os addewid cynorthwy iddynt gael adeilad gwell; ac felly fu. Cafwyd y cynlluniau o law yr arch-adeiladydd, Joseph James, Ysw., o Lundain. O'r diwedd cafwyd gweithred barotoawl am y tir, a gosodwyd y gwaith i adeiladydd cymeradwy. Efallai y dylid mynegi yma, y methwyd a chael neb a unai a'r gweinidog i arwyddo yr amod yn ngosodiad y gwaith, ond Mr. Jones, Frondeg, yn unig; ond bu C. R. Hall, Ysw., o Liverpool, yn gefnogydd da i'r anturiaeth.
"Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar osodiad y Gareg Sylfaen i lawr, ar y 14eg o Awst, 1857; pan y gweinyddai Mr. Crossley yn y gorchwyl. Daeth tyrfa luosog yn nghyd, yr hon a anerchid gan nifer o weinidogion ac eraill yn Gymraeg a Saesonaeg. Am dri o'r gloch y prydnawn, traddodwyd Darlith ar Annibyniaeth, yn nghapel y Bedyddwyr, gan Mr. John Kelly, o Liverpool. Erbyn hyn yr oedd y gwaith yn myned rhagddo, fel y cafwyd yr adeilad dan dô cyn trymder y gauaf. Bu cryn drallod ar y rhai rhwymedig i gyfarfod gofynion yr adeiladydd, ond rhywfodd llwyddwyd, fel na chafodd siomedigaeth nac oediad am y taliadau gymaint ag unwaith o gwbl oll. Bu yr amheuaeth mai rhyfyg oedd yr anturiaeth yn beth rhwystr i lwyddiant yr achos, a hyny yn cael ei ategu gan ychydig o ragfarn ond odid. Nid yw o un dyben daionus wneyd ychwaneg na'r cyfeiriad hwn at yr amgylchiadau, oblegid cododd yr achos i dir diogelwch yn fuan, fel yr oedd yr holl rwystrau yn diflanu ymaith, a chwblhawyd yr holl ymrwymiadau. Agorwyd yr addoldy, yr hwn a elwir " Yr Eglwys Gynnulleidfaol," ar y 7fed o Orphenaf, 1858, gan y Dr. Raffles, o Liverpool.
"Nid oedd pregethu yn Saesonaeg yma ar y cyntaf, ond yn yr haf yn unig. Galwyd am un bregeth Saesonaeg drwy y gauaf yn fuan; ac ni buwyd yn hir heb sefydlu dwy bregeth yn Gymraeg yn rheolaidd yn y ddarlithfa, a dwy yn Saesonaeg yn y capel, drwy y flwyddyn. Un eglwys sydd yma rhwng y ddwy ran, sef y Gymraeg a'r Saesonig, ac un cymundeb a gynhelir, lle yr unir gyda'r ddwy iaith. Ni allwyd cyfyngu yr eisteddleoedd i ddeiliaid neillduol o gwbl oll, ond ymddiriedir cynhal-
330
iaeth yr achos i'r casgliadau Sabbothol, gyda'r eithriad o gyfraniadau wythnosol y rhan Gymreig o'r eglwys.
" Yn 1863, helaethwyd yr adeilad i'w faintioli presenol, sef 93 troedfedd o hyd, a 66 o led, yn yr adenydd, o fewn y muriau. Yn 1867, teimlwyd angenrheidrwydd am helaethiad drachefn; ac ar y 5ed o Hydref, gosodwyd careg sylfaen y twr, yr hwn yw y grisiau i'r oriel, a chwblhawyd y gwaith yn raddol gyda grisiau llydain yn y wyneb allanol, a mur a railing o ddiogelwch, a phyrth priodol, i'r terfynau o amgylch. Y mae sefyllfa yr adeilad yn y lle mwyaf manteisiol yn y dref, fel y mae yn sefyll yn nghyfarfyddiad saith o'r prif heolydd. Pregethwyd gan y gweinidog, ar y Sabboth wedi yr agoriad cyhoeddus, oddiwrth 2 Cor. x. 13, 14, a 15; ac wedi i'r eglwys ymgynnull ar ol yr oedfa, cafwyd pob peth yn anogaethol iawn. Sylfaenwyd y twr gan E. Baines, Ysw., A.S. o Leeds, ac areithiodd Mr. Newman Hall, o Lundain, ac eraill, ar yr achlysur. Y mae y ddarlithfa yn ymranu drwy derfyn coed, yr hwn a agorir pan y byddo galwad am y lle yn ei faintioli eithaf; ac y mae yn dra chyfleus at gyfarfodydd cyhoeddus.
" Y mae ychydig etto o waith yn aros hyd yn hyn, heb ei gwblhau. Pan y byddo y cynlluniau oll wedi eu gweithio allan, bydd yr adeilad wedi costio pum' mil o bunnau. Y mae pob gobaith, ar hyn o bryd, y bydd y lle yn ddiddyled ar fyrder; ac y mae arwyddion hefyd y ceir y meddianau rhydd-ddeiliadaeth; pan y disgwyliwn gael dywedyd, 'Nid oes yma onid tý i Dduw.' Y mae lluaws o enwau caredigion yr achos, a ddangosasant garedigrwydd a haelioni mawr at yr achos yma, ond ni chaniata ein gofod fanylu ar yr holl amgylchiadau. Da genym fynegu, wrth derfynu, fod holl amgylchiadau yr achos yn edrych i fyny, dan fendith y nef! Gellid ychwanegu yr un nodiad am yr ysgol Sabbothol, yr hon sydd yn llafurus a chynhyddol, yn y rhan Seisonig yn gystal a'r Gymreig."
Yr ydym wedi cyhoeddi yr uchod air yn ngair fel y derbyniasom ef oddiwrth Mr. R. Parry, ond y mae ef ei hun yn ymguddio o'r golwg agos yn hollol yn yr hanes, er mai efe fu a'r llaw benaf i ddwyn yr achos i'w wedd bresenol, ac i gael y capel gorwych sydd yma yn ymyl bod yn rhydd o ddyled.
Codwyd yma ddau bregethwr.
(DEN)
Dechreuodd yr Annibynwyr bregethu yn yr ardal hon yn y flwyddyn 1804. Digwyddodd fod merch ieuangc o'r enw Benedicta Thomas, ond a elwid gan yr ardalwyr Beni Wyne, yn gwasanaethu gyda Mr. Robert Edwards, Croesyneirias. Yr oedd yn enedigol o Lanrwst, ac yn aelod o'r Eglwys Gynnulleidfaol yno. Yr oedd Mr. A. Shadrach yn treuli Sabboth, Mai 27ain, 1804, yn Tynycoed, Llaneilian, i bregethu i'r Methodistiaid Calfinaidd, a'r nos Lun ganlynol, ar gais yr eneth ieuangc Beni Wyne, addawodd Mr. Shadrach bregethu yn Ngholwyn.
331
Pregethai mewn lle a elwir Brynygwynt, lle yr oedd un Elin Roberts, un o sir Fon, yn byw. Safai y pregethwr ar hen gwch oedd gerllaw yno dan gysgod pren, a thalodd swllt i Elin Roberts am gael lle i bregethu. Ni bu yr oedfa hono heb ei ffrwyth. Daeth tair yn mlaen i ddangos eu bod o du yr Arglwydd. Elin Roberts, Bryngwynt; Grace Evans, Pengeulan a Margaret Jones, Penybont, sef mam Owen Jones a fu wedi hyny yn weinidog yn Llanaelhaiarn. Ar ddymuniad Mr. Shadrach daeth Mr. Thomas Jones, Moelfra, i Bryngwynt i bregethu. Trwyddedwyd y tý, a ffurfiwyd yno eglwys, lle y buwyd yn ymgynnull am un-flynedd-ar-ddeg. Aeth y lle yn rhy gyfyng, a meddyliwyd am gael capel, ond yr anhawsder oedd cael tir; ond llwyddodd Mr. Jones gydag un Mr. Griffith, cyfreithiwr yn Llanrwst, i gael darn o dir perthynol i Colwyn Farm, yn mesur ugain llath ysgwar, a thalwyd can' gini am dano. Adeiladwyd capel gwerth 400p. a chyfrif y tir, a galwad ef Ebenezer, ac agorwyd ef Iau Dyrchafael, Mai 4ydd, 1815. Trwy ymdrech Mr. Jones llwyddwyd i dalu y ddyled ymaith yn llwyr. Deuai yma yn rheolaidd bob Sabboth am flynyddau o Ddinbych, pellder o ugain millidir agos, a dychwelai yn brydlawn erbyn yr ysgol boreu Llun. Rhoddodd Mr. Jones y gofal i fyny yn y flwyddyn 1825; a daeth Mr. David Davies, o Athrofa Caerfyrddin, yma. Bu am yspaid yn cadw ysgol yn y lle; ac urddwyd ef Mehefin 10fed, 1828, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Price, Ruthin; T. Ellis, Llangwm; E. Davies, Llanrwst; J. Roberts, Capel Garmon; D. Roberts, Dinbych; W. Williams, Wern; a J. Lloyd, Llanelwy. Bu Mr. Davies yma hyd y flwyddyn 1843. Nid oedd yma ond un capel arall yn y lle, ac ar un adeg cafodd yr Annibynwyr yr holl ardal iddynt eu hunain. Buwyd yn pregethu mewn tai anedd yn amgylchoedd Colwyn, yn Llysfaen, Tanyllwyfan, Tanyffordd, ac yr oedd ar un adeg ysgol Sabbothol flodeuog yn y lle olaf a enwyd. Derbyniwyd yma unwaith ddeuddeg o aelodau ar yr un adeg, ac yr oedd tri o honynt yn hen iawn. David Jones, Lletty'rdryw, yn 90 oed, William Edwards, Penybryn, yn 70 oed, a David Evans, yn 70 oed. Crybwyllir am dair chwaer nodedig fu yn nglyn a'r achos yma, sef Sian Cole, yr hon oedd yn nodedig am ei gwres crefyddol; mynych y torai allan mown gorfoledd; Mari Roberts, neu Malan Such fel ei gelwid yn gyffredin, yr hon a fu yn ddiarhebol o ffyddlon, er na chyfrifid hi o synwyrau cryfion; ac Elizabeth Jones, y Graig, yr hon sydd etto yn fyw, a hi yw yr aelod hynaf yn y lle. Mae gyda chrefydd er's 55 o flynyddoedd. Wedi i Mr. Davies roddi gofal yr eglwys i fyny rhoddwyd galwad i Mr. William Williams, o Lanrwst; ac urddwyd ef yma Tachwedd 23ain, 1843. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. R; Parry, Conwy. Holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Griffith, Rhydlydan. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Jones, Penmorfa. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. L. Everett, Llanrwst, ac i'r eglwys gan Mr. W. C. Williams, Caernarfon. Bu Mr. Williams yn gofalu am yr eglwys hyd y flwyddyn 1856, ac yn yr yspaid hwnw gwnaed amryw gyfnewidiadau yn y capel, adeiladwyd dau dy mewn cysylltiad ag ef, a gwisgai yr achos ar y cyfan wedd obeithiol. Cadwai ysgol yr holl amser, ac enillodd iddo ei hun enw da fel ysgolfeistr. Mae yn aros etto yn yr ardal, ac yn pregethu bob Sabboth er heb ofal eglwysig. Yn Awst, 1859, dechreuodd Mr. William Parry, Llanarmon, ei weinidogaeth yma, ac y mae wedi bod yma o hyny hyd yn awr, a mesur o lwyddiant wedi bod ar ei weinidogaeth. Yn y flwyddyn 1860, ailadeiladwyd y capel, ac aeth y draul, a chyfrif y
332
ddyled oedd yn aros, yn 450p., ond y mae yn gapel eang a chyfleus, a chynnulleidfa luosog ynddo, ac nid oes ond 100p. o ddyled yn aros.* Mae yma lawer iawn o ddyeithriaid yn ymweled a'r lle yr haf, a dylai fod rhyw ddarpariaeth yma am foddion gras iddynt yn yr iaith Seisnig. Ni chodwyd yma hyd y gwyddom ond un pregethwr, sef Owen Jones, am yr hwn yr ydym wedi cael achlysur i grybwyll fwy nag unwaith.
(DEN)
Bu Mr. Azariah Shadrach yn pregethn yma ar gais Mr. Jones, Moelfra. Methasant a chael un ty i bregethu ynddo, ac am hyny safai Mr. Shadrach ar lan yr afon lle y mae y bont yn bresenol. Cyrhaeddodd bloedd y pregethwr i glustiau y Vicar, a daeth yno i geisio ei atal, a bygwth eu cospi, nes i'r pregethwyr ddangos eu trwyddedau, ac yna aeth ymaith. Rhoddwyd i fyny bregethu yma am dymor hir ar ol hyn. Dechreuwyd pregethu yma yn rheolaidd mewn ty a elwir Ty'nyfelin, yn Medi 1838. Ffurfiwyd yno eglwys ar y Sabbath cyntaf o Ionawr 1839. Bu y ty hwn yn gartref i'r achos hyd fis Mawrth, 1858. Cafodd John Williams rybudd i ymadael o'i dy; ond agorodd William Williams, gof, ei dy i'r praidd bychain oedd ar y pryd yn ddigartref. Yr oedd gelyniaeth y tir-feddranwyr at ymneillduaeth y fath, fel nad oedd yn bosibl trwy yr holl flynyddoedd i gael tir at godi capel; ond trwy garedigrwydd Mr. D. Davies, Catherine Street, Liverpool, llwyddwyd i gael tir mewn man cyfleus. Codwyd capel gwerth 400p., ac agorwyd ef Tachwedd 11eg a'r 12fed, 1858. Nid oedd nifer yr aelodau ond 15 pan godwyd y capel, ond y maent yn awr yn 30, a'r ddyled wedi ei thynu yn mhell islaw haner y draul wreiddiol. Mae yma eglwys fechan weithgar, ac y mae o'r dechreuad mewn undeb gweinidogaethol a Cholwyn.
[Last updated: 1 June 2008 - Gareth Hicks]
Find help, report problems, and contribute information.
Copyright © GENUKI and Contributors 1996
to date |