| Caernarfonshire | Contents |
Proof read by Gwyn Hughes (May 2008)
Chapels below;
|
167
i garu crefydd a duwioldeb. O hyny allan bu yn aelod defnyddiol yn yr eglwys." Yr oedd Mr. Phillips yn cael ei gyfrif yn bregethwr efengylaidd, galluog, ac enwog iawn. Yr oedd yn ddyn gwrol a hollol ddiofn, ac yn un o'r rhai mwyaf rhagorol yn ei oes am ei weithgarwch.*
JOHN THOMAS. Yr oedd ef yn enedigol o'r Deheudir, ond nis gwyddom o ba le yno, na pha flwyddyn y ganwyd ef. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Caerfyrddin, a dechreuodd ei efrydiaeth yno tua yr amser y dechreuodd Mr. Thomas Perrot ei waith fel athraw y sefydliad. Urddwyd ef, fel y nodwyd yn barod, yn Mhwllheli, Mehefin 21ain, 1723. Yn fuan wedi ei urddiad, priododd weddw ei ragflaenydd. Mr. Phillips, ac aeth i fyw i'r Gwynfryn, ac yno y bu hyd ei farwolaeth yn y flwyddyn 1748, neu yn fuan ar ol hyny. Dywed awdwr Drych yr Amseroedd fel y canlyn am dano: - " Bu yn weinidog ffyddlon i'r eglwys tra parhaodd ei oes. Nid oedd ei ddoniau yn helaeth; am ei dduwioldeh a thynerwch ei gydwybod, nid yn hawdd y ceid ei gyffelyb. Prin y medrai ofyn am ei eiddo, yr hyn a dalai, gan dynerwch ei gydwybod. Un tro rhoddes ryw ddau ddiffaethwr ar waith i wneuthur rhyw adeilad iddo; hwythau o dra dirmyg ar grefydd, a wnaethant y gwaith mor dwyllodrus, fel y syrthiodd i lawr yn ebrwydd ar ol ei orphen; yna daethant at y gwr duwiol yn ddigywilydd i ofyn eu cyflog. ' Pa fodd y talaf i chwi,' ebe yntau, gan fod y gwaith wedi syrthio?' Yna y ddau ddihiryn ystrywgar a gymerasant arnynt ymwylltio a rhegi y naill a'r llall a thaeru yn haerllug a'u gilydd, 'Arnat ti y fulain yr oedd y bai,' ebe un, Celwydd genaw,' medd y llall, arnat ti yr oedd y bai.' Tewch druain,' meddai y gwr duwiol a diniwed wrthynt, `peidiwch a thyngu, a mi a dalaf i chwi y cyfan,' ac felly y bu. Hwythau a aethant ymaith dan chwerthin yn eu dyrnau, heb feddwl dim ar y cyfrif yn y farn fawr am weithred mor ysgeler. Deuai i lawr weithiau o'i lyfrgell, pan y byddid yn twymno y ffwrn, fel y gallai yr olwg ar y fflamau dychrynllyd adgofio iddo erchyll boenau y damnedigion." Felly mae yn ymddangos mai dyn diniwed a llwfr ydoedd, ac er ei fod yn ddyn pur ei gymeriad a chrefyddol ei ysbryd, nid oedd yn feddianol ar y bywiogrwydd a'r gweithgarwch a nodweddai ei ragflaenydd, Mr. Phillips. Colli yn hytrach nag ennill tir a wnaeth yr achos yn ei dymor ef, nes i Mr. Lewis Rees, a diwygwyr eraill, ddechreu talu ymweliadau a'r lle.
RICHARD THOMAS. Un genedigol o'r Deheudir oedd yntau, ond nid ydym wedi gallu cael allan o ba ardal, na pha flwyddyn y ganwyd ef. Yn Nghaerfyrddin yr addysgwyd ef ar draul y Bwrdd Cynnulleidfaol. Derbyniwyd ef i'r athrofa Ebrill 7fed, 1748, a chan iddo ymsefydlu yn Mhwllheli yn Awst 1751, ni bu ond tair blynedd, ac ychydig fisoedd yn yr athrofa. Yn lled fuan ar ol ei urddiad, priododd un o ferched Mr. Daniel Phillips, yr hen weinidog, ac aeth i fyw i'r Gwynfryn, lle y bu ei ddau ragflaenydd o'i flaen. Yr oedd ef yn bregethwr galluog, yn tra rhagori ar ei ragflaenydd, Mr. John Thomas, mewn talent a dawn, ond dywedir nad oedd yn gyffelyb i'r. gwr da hwnw yn nghrefyddoldeb ei ysbryd. Dywedir hefyd nad oedd tôn ei weinidogaeth mor efengylaidd a'i ragflaenwyr. Yr oedd yn ymwneyd cryn lawer a masnach, a beuir ef am hyny. Nis gwyddom pa un ai o ddewisiad neu o angenrheidrwydd er cael moddion i'w gynal yr oedd yn masnachu. Byddai yn myned i Gaerodor yn achlysurol ar negeseuon
* Dr. John Evans, Walter Wilson, and Josiah Thompson's MSS., and the Records of the Presbyterian Board.
168
masnachol, ac wrth fyned yno, mewn llong yn y fiwyddyn 1761, boddodd ar gyffiniau tir yr Iwerddon.* Nid ydym ni yn alluog i roddi ychwaneg o hanes am dano.
REES HARRIES. Ganwyd ef yn Rhydfro, yn mhlwyf Llanguwg, sir Forganwg, yn y flwyddyn 1738. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn Gellionen, ac yn bobl nodedig o grefyddol; ond bu farw ei dad pan nad oedd ef ond deuddeg oed, ac effeithiodd yr amgylchiad yn ddwys iawn ar ei feddwl, ac yn enwedig ei eiriau diweddaf wrth y teulu cyn marw. Dilewyd yr amgylchiadau hyny yn fuan oddiar feddwl Rees Harries trwy ymgymysgu o hono ag arferion drwg ei gyfoedion, ond cyn ei fod yn ddeunaw mlwydd oed, ymwelodd yr Arglwydd ag ef yn ffordd ei ras, a derbyniwyd ef yn aelod eglwyisg yn Gellionen dan ofal Mr. Joseph Simmons. Yr oedd yr eglwys yn Gellionen y pryd hwnw heb ddirywio yn ei golygiadau duwinyddol, er fod y lefain mor foreu a hyny yn dechreu gweithio. Dechreuodd Rees Harries bregethu yn fuan wedi ei dderbyn yn aelod, a chyn hir anogwyd ef i fyned i athrofa Abergavenny, lle y treuliodd rai blynyddoedd dan addysg Mr. D. Jardine. Tua therfyniad ei amser yn yr athrofa, anfonodd rhai o aelodau yr eglwys yn Mhwllheli at ei athraw i ofyn iddo gymeradwyo un o'r myfyrwyr dan ei ofal i fod yn weinidog iddynt. Cymhellodd yntau Mr. Harries i fyned hyd atynt. Yr oedd ar y cyntaf yn dra annhueddol i fyned mor bell o'i wlad, fel y tybiai, ond ar gais ei athraw cydsyniodd i fyned, ac yn ystod ei arosiad yn Mhwllheli, hoffwyd ef yn fawr gan yr eglwys, a hoffodd yntau y lle, a gwnaeth ei feddwl i fyny mai dyma y cwr o'r maes y mynai "Arglwydd y cynhauaf " iddo lafurio arno. Urddwyd ef yno yn y flwyddyn 1764. Wedi ei sefydliad, ymroddodd yn egniol i gyflawni ei weinidogaeth, a phregethodd lawer mewn manau y tu allan i Bwllheli, yn enwedig yn Nghaernarfon, a Bangor, a'r amgylchoedd. Y flwyddyn ganlynol i'w urddiad, priododd ag un o ferched Mr. D. Williams, gweinidog Dinbych, yr hon, gyda'i chwaer, oedd wedi colli eu rhieni, a dychwelodd at ei theulu i'r Gwynfryn. Ystyrid Mr. Harries yn wr parchus a chyfrifol yn mysg ei frodyr. Yr oedd ei ymddygiad yn hardd a boneddigaidd, fel y tueddid y werin i edrych i fyny ato. Unwaith wrth fyned trwy ddinas Bangor, gyda nifer o weinidogion ac eraill, dywedai rhyw un am dano, "Dyma eu hesgob hwy." Perchid ef yn fawr gan lawer o foneddigion ei wlad; yr unig beth y cwynent o'i herwydd oedd, fod resyn fod dyn o'i fath ef yn Ymneillduwr. Yr oedd yn syml a dirodres fel cristion, ac yn nodedig am ei dynerwch a'i addfwynder yn ei deulu ac yn yr eglwys. Pregethai gyda dwysder anarferol, ac fel Paul rhybuddiai ei wrandawyr " a llawer o ddagrau." Yr oedd yn hollol efengylaidd yn ei ysbryd a'i athrawiaeth; ac yn y pulpnd ni chymerai arno ei fod yn gwybod dim ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio," Teithiodd lawer i gyfarfodydd a chymanfaoedd y dyddiau hyny, ac fel holl weinidogion y cyfnod hwnw, ac am gyfnodau ar ol hyny, bob amser ar ei draul ei hun. Yr oedd nifer gweinidogion yn Ngogledd Cymru mor fychan, fel y teimlid prinder os buasai un yn absenol, ac yr oedd poblogrwydd Mr. Harries fel pregethwr yn gwneyd fod y cymhelliadau yn daerion arno. Mwynhaodd iechyd da trwy ei oes, ond yn ddisymwyth tarawyd ef gan glefyd trwm ar un dydd Mawrth, yr hwn oedd yn ddydd ffair Pwllheli. Bwriadai gychwyn y dydd Gwener canlynol i gyfarfod i Lanbrynmair i
*Thompson's MSS.
169.
wahodd y gweinidogion i'w gyfarfod ei hun, yr hwn oedd i fod yn mhen, pythefnos, ond ataliwyd ef gan ei afiechyd. Aeth i'r capel y Sabboth canlynol, ond nid oedd yn alluog i bregethu. Wedi dychwelyd i'w dy, dywedodd wrth ei forwyn, "Wel, wel, yr wyf yn y wlad yma er's pum' mlynedd-ar-hugain, ac ni fethais a phregethu ar un Sabboth ond hwn." Yr oedd wedi credu ar ddechreu ei afiechyd fod y clefyd oedd arno i farwolaeth. Ni bu fyw ond pythefnos ar ol ei gymeryd yn glaf. Yr oedd cyfarfodydd pregethu yn cael eu cynal yn Mhwllheli a'r Capel-newydd pan oedd ef yn tynu ei draed i'r gwely i farw. Hunodd yn yr Iesu Mai 26ain, 1788, yn 50 oed. Claddwyd ef yn mynwent capel Penlan, Pwllheli, ac arhosodd y gweinidogion dyeithr dros yr angladd, a phregethodd Mr. Stephen Lloyd, Brynberian, oddiar y geiriau, " A bu farw Samuel, a holl Israel a ymgynnullasant ac a alarasant am dano ef, ac a'i claddasant ef yn ei dy yn Ramah." Gadawodd ar ei ol weddw a chwech o blant amddifaid, ac y mae ei ol-afiaid hyd y burned a'r chweched genhedlaeth etto yn aros yn lluosog, a llawer o honynt yn glynu wrth yr Arglwydd ei Dduw.
BENJAMIN JONES. Ganwyd ef yn Nhrecyrnfawr, yn mhlwyf Llanwinio, sir Gaerfyrddin, Medi 29ain, 1756. Yr oedd ei rieni yn bobl barchus a chyfrifol, a bwriadent ei ddwyn ef i fyny yn yr Eglwys Sefydledig, o'r hon yr oeddynt hwy yn aelodau selog. Treuliodd flynyddoedd ei ieuengctyd mewn ysgol yn Llanddewifelfre, sir Benfro, dan ofal yr offeiriad yno, a chan ei fod o ddeall cryf a chof bywiog, gwnaeth gynydd cyflym mewn dysgeidiaeth. Arweiniwyd ef yn rhagluniaethol i wrando Meistri R. Morgan, Henllan, a J. Griffiths, Glandwr, ac o dan eu gweinidogaeth hwy daeth i adnabod ei gyflwr fel pechadur colledig, a chafodd olwg ar drefn rasol Duw yn Nghrist i gadw. Penderfynodd yn y fan mai dyma y bobl a ddilynai, ac felly dyryswyd yn hollol fwriadau ei rieni i'w ddwyn i fyny i'r offeiriadaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Pan welodd ei rieni pa fodd yr oedd yn gogwyddo, ni ddangosasant unrhyw wrthwynebiad iddo, ond cynhaliasant ef yn yr ysgol fel o'r blaen i ddilyn ei efrydiau. Nid ydym yn gwybod a unodd ei rieni ef, cyn eu marw, a'r Ymneillduwyr ai peidio, ond yr ydym yn sicr i rai o'r teulu, mewn amseroedd diweddarach, wneyd hyny, fel nad oedd ef and blaenffrwyth y teulu i Ymneillduaeth. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Henllan, ac wedi prawf boddhaol ar ei ddoniau a'i gymhwysderau, anogwyd ef i ddechreu pregethu. Bu am ychydig yn derbyn addysg dan ofal Mr. Griffiths, Glandwr. Derbyniwyd ef i athrofa Abergavenny, Ionawr2i1, 1775. Gwnaeth yno gynydd mawr mewn dysgeidiaeth. Rhagorai ar y rhan fwyaf o'i gydefrydwyr. Yr oedd y manteision boreuol rhagorol a gafodd yn cyfrif mewn rhan am hyny, heblaw fod ynddo gymhwysder anghyffredin at ddysgeidiaeth o radd uchel. Cadwodd i fyny trwy ei oes ei efrydiau mewn Lladin, a Groeg, a Hebraeg, a byddai ei Destament Groeg gydag ef i ba le bynag yr elai ar hyd ei oes. Wedi gorphen ei dymor yn yr athrofa, derbyniodd alwad o Pencader, sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef yno Mai 25ain, 1779. Ceir hanes ei urddiad pan ddeuwn at hanes Pencader. Cyfrifid yr eglwys yno y pryd hwnw yn enwog yn ei gwybodaeth, ac oblegid hyny, yr oedd cymhwysder nodedig yn Mr. Jones ar gyfer y lle, a dechreuodd ei weinidogaeth yno dan amgylchiadau tra gobeithiol, ac yn ystod y fIwyddyn gyntaf yno bu yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn. Y flwyddyn ar ol ei sefydliad yn Mhencader priododd a Miss Mary Evans, Cwrt, Llangeler, a chyn hir ar ol hyny ymadawodd a Pencader. Yn y
170
flwyddyn 1784, dechreuodd ei weinidogaeth yn Rhosymeirch, Mon, lle y llafuriodd gyda chymeradwyaeth a llwyddiant mawr am bum' mlynedd.* Teimlai trwy ei oes ymlyniad mawr wrth y lle, a byddai yn aml amheuaeth yn ei feddwl a wnaeth yn ddoeth i symud oddiyno. Yn y flwyddyn 1789, symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Mhwllheli a'r canghenau, ac yno y llafuriodd hyd derfyn ei oes.
Yr oedd Mr. Jones yn ddyn pell uwchlaw y cyffredinolrwydd o ddynion, mewn mwy nag un ystyr. Yr oedd o wneuthuriad cadarn, ac er nad oedd yn dâl, yr oedd yn dew a chorphol. Darllenid craffder a llymder yn ei lygaid, ac yr oedd ei holl wyneb yn fynegiant o wroldeb a phenderfyniad: Yr oedd er hyny o dymer serchog a charuaidd, ac yn noddwr caredig i bregethwyr ieuaingc. Nid oedd yn nodedig am ei ddoniau fel pregethwr, ond rhagorai yn benaf fel athrawiaethwr, ac athrawiaethol oedd nodwedd gyffredinol ei bregethau. Yr oedd yn esboniwr rhagorol ar y rhanau hyny o'r Bibl sydd yn dywyll i ddarllenwyr cyffredin; a byddai yr ysgrythyrau wedi eu cydweu yn ei weddiau a'i bregethau, a hyny yn y modd mwyaf priodol. Nid oedd dim a'i hanfoddlonai yn fwy na chlywed geiriau y Bibl yn cael eu dirdynu o'u hystyr, a chrogi meddyliau arnynt oeddynt yn hollol wahanol i'r hyn a amcanai yr ysgrifenwyr sanctaidd ei ddysgu. Yr oedd wedi darllen llawer ar awduron hen a diweddar, ac yr oedd y wybodaeth a gasglodd wrth eu darllen yn gronfa yn ei feddwl, fel y gallai eu dwyn allan pa bryd bynag y byddai galwad am danynt. Gosodid arno yn aml i bregethu yn nghymanfaoedd y De a'r Gogledd ar rai o byngciau mawrion duwinyddiaeth, ac yn hyny yr oedd yn un o feistri y gynnulleidfa.
Cyhoeddodd ddau draethawd, y naill ar Athrawiaeth y Drindod, a'r llall a elwir Ffynhonau Iachawdwriaeth, lle yr eglurir ac yr amddiffynir gras penarglwyddiaethol Duw yn iachawdwriaeth pechaduriaid. Mae y cwbl a ysgrifenodd yn dangos yn eglur ei fod, nid yn unig yn meddu gwybodaeth eang a meddwl grymus, ond ei fod hefyd yn meddu ar fedrusrwydd neillduol i ddatod cylymau dyrus duwinyddiaeth, ac i osod ei olygiadau allan mewn dull clir a dealladwy. Byddai weithiau, er nad oedd yn hyawdl, yn cynhesu wrth bregethu gwirioneddau mawrion yr efengyl, nes peri i'w eiriau ffrydio dros ei wefusau, ac i'r dagrau lifo dros ei ruddiau, ac enynid teimladau cyffelyb yn ei wrandawyr.
* Gwelir nad yw yr hyn a ddywedir uchod am yr ysbaid y bu Mr. Jones yn llafurio yn Rhosymeirch yn gyson a'r hyn a ddywedir yn hanes yr eglwys hono. Cyf. II. Tudal. 455; ond yr ydym yn teimlo yn lled sicr mai yr adroddiad uchod sydd yn gywir. Yn 1789, ac nid 1791 y symudodd Mr. Jones i Bwllheli. Nis gallwn sicrhau nad allasai ei fod yn myned yn fisol i Rosymeirch am ddwy flynedd wedi iddo symud i Bwllheli, ac felly na thorodd yn llwyr ei gysylltiad a'r eglwys hono cyn 1791. Ond yr oedd yn Mhwllheli yn mhell cyn hyny. Dyma un prawf. Yr oedd awydd mawr ar Mr. John Elias, pan yn llangc, am glywed Mr. Daniel Rowlands, Llangeitho, yn pregethu; ac yr. oedd yn llawn fwriadu myned hyd Langeitho er mwyn hyny. Ar un Sabboth aeth i Bwllheli i wrando rhyw wr dyeithr a ddisgwylid, a chan ei fod yno yn rhy fuan i'r oedfa, aeth i gapel Penlan i wrando Mr. Benjamin Jones. Darllenodd yn destyn "Oni wyddoch chwi i dywysog, ac i wr mawr, syrthio heddyw yn Israel ?" Ar ol darllen .y testyn, dywedodd mai y rheswm iddo gymeryd y testyn hwnw oedd, ei fod newydd glywed y newydd galarus fod y tywysog a'r gwr mawr, Daniel Rowlands, o Langeitho, wedi marw! Torodd y bachgen John Elias i wylo, pan glywodd fod y pregethwr yr oedd arno y fath awydd am ei glywed, wedi diangc am byth o'i gyrhaedd. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1790 oblegid Hydref 16eg, y flwyddyn hono, y bu farw Daniel Rowlands Mae yn lled sicr i Mr. B. Jones symud o Rosymeirch i Bwllheli cyn diwedd y flwyddyn 1789.
171
Cafodd gryn lawer o drallodion teuluaidd cyn diwedd ei oes trwy ei gysylltiad masnachol a'i fab-yn-nghyfraith, yr hwn a drodd allan yn esgeulus ac afradlon; ond galluogwyd ef i ymgynal o dan y cwbl, a theimlai pawb nad oedd ei gymeriad ef mewn un modd wedi ei lychwino. Dichon y dylasai yn ystod ei oes fod wedi gwneyd ychwaneg o ymdrech i sefydlu achosion newyddion yn Lleyn ac Eifionydd; ond yr oedd i fesur wedi cyfranogi o'r un ysbryd a'i ragflaenoriaid, o wneyd Pwllheli yn Jerusalem, ac i'r bobl o bob man ddyfod yno i addoli. Cafodd Annibynwyr Pwllheli yr holl wlad iddynt eu hunain am dymor hir, ond gan nad oedd ysbryd ynddynt i fyned a'i meddianu, daeth eraill yn mlaen ac a'i pherchenogasant hi, ac nid oes le gan neb i'w beuio am hyny, ac nid oedd eglwys Pwllheli yn hyn yn eithriad i hen eglwysi y cyfnod hwnw. Daliodd Mr. Jones i bregethu hyd y diwedd. Ni bu ond dau Sabboth yn glaf, a bu farw mewn ymddiried diysgog yn yr Arglwydd Chwefror 17eg, 1823, yn 66 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Pwllheli, lle y gorphwys ei gnawd mewn gobaith hyd ddydd prynedigaeth.
REES P. GRIFFITHS. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanedi, yn sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1804. Yr oedd ei rieni a'i hynafiaid yn aelodau o'r eglwys Annibynol yno, a derbyniwyd yntau yn aelod ac efe etto yn ienangc. Anogwyd ef gan yr eglwys a'i gweinidog, Mr. Samuel Price, cyn hir i ddechreu pregethu, ac wedi pregethu am dymor yn Llanedi, a'r eglwysi cylchynol, aeth i athrofa Neuaddlwyd, lle yr arosodd am rai blynyddoedd dan addysg Dr. Phillips. Gwnaeth gynydd amlwg mewn dysgeidiaeth, a rhoddai ei athraw air uchel iddo ar gyfrif ei allu i ddysgu a'i ymroddiad i ddysgu. Yr oedd yn efrydydd diflino, a pha beth bynag yr ymaflai ynddo gwnai ef yn drefnus a chryno. Nid oedd mor boblogaidd fel pregethwr a rhai o'i gydefrydwyr pan yn yr ysgol; ond mewn purdeb cymeriad, ac ymroad i ddysgu, ac awydd am wybodaeth, nid oedd yn ol i'r un o honynt. Yn y flwyddyn 1832, anfonodd Mr. Roberts, Dinbych, at Dr. Phillips, Neuaddlwyd, i ofyn iddo a oedd ganddo ryw un yn yr athrofa dan ei ofal y gallasai ei gymeradwyo i ddyfod yn weinidog i Rhiw a Llansanan, ac i fod o ychydig gymorth iddo yntau yn Ninbych. Cymeradwyodd Dr. Phillips i'w sylw Mr. R. P. Griffiths fel y cymhwysaf y gallasai feddwl am dano, ac ar yr un pryd anogodd Mr. Griffiths i fyned i ymweled a'r lle. Treuliodd rai misoedd yn y maes hwnw yn llafurio yn ddiwyd, ond wedi deall nad oedd unrhyw gysylltiad i fod rhwng y lleoedd hyny a'r eglwys yn Ninbych, ni thueddwyd ef i aros yno. Symudodd i Lanberis, lle yr oedd capel newydd wedi ei agor, a dechreuodd gadw ysgol ddyddiol a phregethu, a derbyniodd alwad gan yr eglwys fechan yno, ac urddwyd ef Mai 15fed, 1834. Bu yma yn dderbyniol a defnyddiol iawn. Cynyddodd yr achos yn gyflym dan ei ofal, ac ymgododd yntau i gryn gyhoeddusrwydd fel pregethwr. Ar doriad y diwygiad dirwestol allan yn Nghymru tua'r flwyddyn 1836, yr oedd ef yn un o'r rhai cyntaf i gofleidio yr egwyddor, a daeth yn ddadleuwr selog o'i phlaid, a rhoddodd hyny help i'w boblogrwydd fel areithiwr a phregethwr. Penodwyd ef a Mr. Owen Thomas, Bangor, (Liverpool, yn awr,) un o bregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd, gan Gymanfa Ddirwestol Gwynedd, a gynhaliwyd yn Nghaernarfon yn Awst, 1837, i fyned ar daith trwy drefydd a phrif bentrefydd y De i egluro ac amddiffyn egwyddorion y gymdeithas ddirwestol. Rhoddodd hyny gyfle ychwanegol iddo i ddyfod i adnabyddiaeth a chyhoeddusrwydd, ac yr oedd yn yr adeg hono yn dra phoblogaidd. Yn Awst, 1838, derbyniodd alwad
172
o Bwllheli a symudodd yno yn fuan, a bu yn barchus a defnyddiol yn y lle am bedair-blynedd-ar-ddeg. Yn ystod y blynyddau hyny daeth unwaith i wrthdarawiad anhapus a rhai o'i frodyr yn y sir. Yr oedd elfenau gwrthwynebus yn ymweithio yn sir Gaernarfon yn yr adeg hono, ac er nad ydym am fyned i mewn i'r amgylchiadau yma, etto mae yn anmhosibl rhoddi dim byd yn debyg i hanes teg a chywir o Annibyniaeth yn sir Gaernarfon heb gyfeirio atynt. Barnai Mr. Griffiths, a rhai eraill yn y sir, fod yno nifer o weinidogion trwy eu gwaith yn ymyraeth ag achosion gweinidogion ac eglwysi mewn cyfarfodydd chwarterol, yn sathru ar annibyniaeth yr eglwysi, tra y barnai y gweinidogion hyny ei fod yntau a rhai eraill yn cefnogi anrhefn ac afreolaeth wrth bleidio y rhai a ystyrient hwy yn derfysgwyr yn yr eglwysi. Mae yn ddigon posibl fod pob ochr yn cario eu golygiadau i eithafion, ac yn gwneyd a gweinidogion ac eglwysi eraill, yr hyn na buasent hwy yn ewyllysio i neb wneyd a hwy ac a'u heglwysi. Yn y flwyddyn 1852, derbyniodd alwad gan yr eglwys yn Joppa, Caernarfon, a symudodd yno yn y flwyddyn hono, a llafuriodd iddi nes iddo gael ei daro gan ergyd o'r parlys, yr hyn a'i cwbl analluogodd am y pedair-blynedd-ar-ddeg olaf o'i oes i wneyd dim gyda'r weinidogaeth. Mae pawb oedd yn adnabod Mr. Griffiths yn barod iawn i gydnabod ei fod yn ddyn rhagorel - o gymeriad pur a diargyhoedd, o ddeall cryf a gwybodaeth helaeth, yn gadarn yn yr ysgrythyrau, ac yn sylweddol ac adeiladol bob amser fel pregethwr.
Cafodd garedigrwydd mawr gan bawb yn ystod ei hir waeledd, a da fyddai ganddo bob amser weled ei frodyr yn talu ymweliad ag ef, ac yr oedd ei gyfeillach yn wastad yn felus ac adeiladol. Mwynhaodd yn helaeth o ddyddanwch yr efengyl, a phan ddeallodd fod awr ei ymddatodiad wedi dyfod, yr oedd yn barod i gyfarfod yr amgylchiad gyda'r hunanfeddiant oedd mor amlwg yn ei nodweddu trwy ei oes. Bu farw Ebrill 22ain, 1872, yn 68 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanbeblig.
(Llangian parish)
Dyma y capel cyntaf a godwyd yn Lleyn y tuallan i Bwllheli. Dechreuwyd pregethu yma tua'r flwyddyn 1740 gan Mr. John Thomas, gweinidog Pwllheli, a phregethwyd yma yn lled gyson ganddo ef a'i olynwyr mewn lle a elwir Londywyll. Crybwyllir enwau Griffith Prys a William Jones fel y rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos. Daeth John Williams a'i wraig i fyw i Saethon, a chan eu bod mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn bobl grefyddol o'u hieuengctyd, buont o help mawr i'r achos. Etifedd Bryntirion, a lleoedd eraill yn Tydweiliog, oedd John Williams, ac Anne, ei wraig, oedd etifeddes Lonfudr. Yr oedd y ddau cyn priodi yn aelodau yn Mhwllheli, ac ymddengys iddynt ddyfod i fyw i Saethon rywbryd tua'r flwyddyn 1750. Daeth boneddiges arall i fod yn noddwraig i'r achos yma, sef Mrs. Edwards, Nanhoron. Nid ydym wedi cael gwybodaeth i sicrwydd pa fodd y daeth y foneddiges hon i gysylltiad a'r Annibynwyr. Dywedir fod ei gwr yn swyddog uchel yn y fyddin, a'i fod unwaith gyda'i ddyledswyddauyn Portsmouth, a hithau yno gydag ef, ac iddo gael ei gymeryd yn glaf iawn. Digwyddodd fod gweinidog Annibynol yn byw yn yr un heol, yr hwn pan glywodd fod yno foneddwr dyeithr wedi ei gymeryd yn glaf, a aeth yn ddioed i ymweled ag ef, ac i ddarllen a gweddio gydag ef. Bu y boneddwr, Mr. Edwards, farw, a chladdwyd. ef yno, a'r gweinidog
173
oedd unig gysurwr y foneddiges weddw yn ei thrallod. Wrth ymddiddan yn ddifrifol a hi, daeth i weled ei chyflwr euog, a'i hangen am Waredwr, a derbyniwyd hi yn aelod yn Portsmouth cyn dychwelyd. Daeth adref i Nanhoron, ac o hyny allan elai yn rheolaidd i Bwllheli, lle, y pryd hwnw, yr oedd Mr. Harries yn weinidog, a phryd nad allai fyned i Bwllheli, cydaddolai gyda'r ychydig bobl oedd yn cyfarfod a'u gilydd yn y gymydogaeth lle mae y Capel-newydd. Gwnaeth ei theulu a'i pherthynasau bob ymdrech i'w hatal i fyned at yr Ymneillduwyr, ond y cwb1 yn ofer. Cyrchai i gyfarfodydd pregethu yma a thraw ar hyd y wlad. Yr oedd yn bresenol yn Caegwigin, ger Bangor, yn nghyfarfod urddiad Mr. William Hughes, ac yr oedd gweled gwraig fonheddig yn ei cherbyd, gyda'i gweision yn eu lifrai, yn myned at ychydig o Ymneillduwyr dirmygedig i addoli, yn dylanwadu yn fawr i ladd rhagfarn y werin anwybodus yn eu herbyn. Yr ydym eisioes wedi crybwyll yn hanes Llanerchymedd, Cyf II, tu dal. 477, yr ymddiddan a fu rhyngddi a John James, yr eurych,* pan y goddiweddodd ef yn myned i gyfarfod Caernarfon. Bu cael personau o'r fath ddylanwad yn help mawr i'r achos yn y Capel-newydd ar ei gychwyniad. Cafwyd darn o dir ar ystad Nanhoron i adeiladu y capel arno, a chodwyd ef ryw bryd o'r flwyddyn 1770 i 1772. Mr. John Williams, Saethon; Mr. Lewis Williams, Gway; Mrs. Edwards, Nanhoron, a Mr. Harries, Pwllheli, oedd y rhai mwyaf blaenllaw yn y gorchwyl. Mae yr hen gapel yn sefyll etto, yn hollol fel yr oedd pan y codwyd ef o ran ei ffurf, ond fod tipyn o gyfnewidiadau wedi eu gwneyd ynddo yn fewnol. Capel hir-gul ydyw, a'i nenfwd yn agored, ac eisteddleoedd mawrion, dyfnion, ysgwar, ynddo. Capel-newydd y gelwir ef, er mai efe yw y capel hynaf yn y sir. Bu y lle o ddechreuad yr achos yma dan ofal gweinidogion Pwllheli hyd ddyfodiad Mr. R. P. Griffiths yno. Teimlai ef fod myned o Bwllheli i Capel-newydd, saith milldir o ffordd, ac yn ol i'r dref erbyn dau o'r gloch, yn ormod iddo allu ei wneyd, ac felly rhoddodd i fyny yn hollol fyned yno, a chymerodd Mr. Joseph Morris ofal y lle, mewn cysylltiad a Bwlchtocyn ac Abersoch. Bu ef yma yn ffyddlon hyd y flwyddyn 1848. Yn y flwyddyn 1851, cymerodd Mr. David Jones ofal y lle hwn mewn cysylltiad a Bwlchtocyn ac Abersoch, a bu yma yn ddiwyd hyd y flwyddyn 1864. Cymerodd Mr. H. T. Parry ei gofal, yn y flwyddyn ganlynol yn nglyn a'r ddau gapel yn Llanengan, hyd nes y gorfodwyd ef gan wendid ei iechyd i roddi y lle i fyny yn y flwyddyn 1871. Yn mis Rhagfyr 1871, urddwyd Mr. E. Jones yn Llanbedrog, i fod yn weinidog yno, ac yn Capel-newydd a Mynytho, ac efe yw y gweinidog yma yn bresenol. Nid yw yr achos yn gryf yma yn awr, oblegid y mae capeli wedi eu codi yn mhob man o'i gylch, ac nid yw y boblogaeth yn y fan lle y saif ond teneu iawn. Mae y tai oedd yma wedi eu chwalu gan Mr. Lloyd Edwards, Nanhoron, a'r tir oll agos wedi ei dynu ganddo at ei fferm ei hun. Ond fe fu yr achos yma yn gryf a dylanwadol ar un adeg. Cyrchai dynion yma o bob cwr o Leyn. Coffeir yma hyd y dydd hwn am ffyddlondeb yr hen Griffith Griffiths, o'r Blowty, yn dyfod yma yn gyson am flynyddoedd o Aberdaron. Wedi marwolaeth Mr. John Williams, Saethon, daeth ei fab, Mr. David Williams, i gymeryd ei le, a bu yma yn gweinyddu fel diacon hyd nes y symudodd o'r ardal. John Evans, Llanengan, a fu yn ffyddlon i gyrchu yma am dymor hir; ac wedi hyny, mewn amseroedd diweddarach, bu Evan Jones,
* Gwnaethom garagymeriad wrth ddyweyd am John James mai tincer ydeodd. Eurych oedd ef, hyny yw, un yn tori ar anifeiliaid.
174
Felinisaf, yn ffyddlon tuag at Dduw a'i dy. Adeiladodd Mr. D. Williams, Saethon, gapel bychan ar ei dir, yn gwbl ar ei draul ei hun, gyda bwriad iddo fod yn ysgoldy ac yn lle i bregethu yn achlysurol, ond prin yr atebodd y dyben oedd mewn golwg wrth ei godi, gan ei fod yn rhy agos i'r Capelnewydd. Mae un amgylchiad yn hanes eglwys Capel-newydd sydd yn werth ei gofnodi, nid yn unig am y dengys fod yr eglwys ar y pryd mewn amgylchiadau bydol cysurus, ond am y dengys hefyd ei bod yn llawn o ryddfrydigrwydd Cristionogol. Ceir y ffaith wedi ei chofnodi yn Methodistiaeth, Cymru, Cyf II, tu dal. 174. Yr oedd achos gan y Methodistiaid yn y Saethon-bach, ond isel a dilewyrch fu am lawer o flynyddoedd. Yn y flwyddyn 1780, torodd diwygiad grymus iawn allan yno, ac adfywiodd yr achos gwywedig yn fawr - ychwanegodd y gwrandawyr a lluosogodd y dysgyblion, fel yr aeth y lle yn Saethon-bach yn rhy gyfyng, a theimlent angen am gapel, ond y pwngc oedd, pa fodd i'w gael gan nad oeddynt oll ond pobl dlodion. Cydymdeimlai pobl Capel-newydd yn fawr a'u sefyllfa, er mai i enwad arall y perthynent. Mewn cyfarfod eglwysig un noson, dywedodd John Williams, Saethon, na wyddai efe ddim yn iawn pa beth i'w wneyd i'r ddeadell fechan yn Saethon-bach, fod yn amlwg fod yr Arglwydd yn eu plith, ac yn eu llwyddo yn barhaus, ond fod eu lle yn rhy gyfyng, a hwythau yn rhy dlodion i godi capel. Ar hyn cyffrodd calon rhyw un yno, a dywedodd, "Mi 'rof fi bum' punt tuag at iddynt godi capel." Un arall o Lanengan a ddywedodd, " Mi 'rof finau bum' punt." John Williams, Saethon, hefyd a ddywedodd, "Mi 'rof finau bum' punt;" ac addawasant gyda'u gilydd yn y fan o 40p. i 50p. Aeth dau wr yn y fan a'r newydd i'r cyfeillion yn Saethon-bach, y rhai oeddynt yn cynal eu cyfeillach yr un noson. Llonwyd eu calon gan y newydd da, ac addawasant hwythau bob un yn ol ei allu, a'r canlyniad fu, codi y capel a elwir. Capel-y-nant. Dyna engraifft o ysbryd diragfarn na cheir ond ychydig o'i chyffelyb yn hanes eglwysi Cymru.
(Llangian parish)
Mynydd isel yw Mynytho, o fawn llai na dwy filldir i'r Capel-newydd, heb fod yn mhell o'r ffordd sydd yn myned oddiyno i Bwllheli. Mae nifer luosog o dai wedi eu codi ar lechwedd y mynydd, ac oddiyma yr oedd y nifer fwyaf yn myned i'r Capel-newydd trwy y blynyddau. Yn y flwyddyn 1821, codwyd ysgoldy ar ochr y mynydd, a elwid ysgoldy Mynytho, .er mwyn cynal ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol. Mr. T. Lewis, Pwllheli, a Mr. Evan Jones, Greigwen, (Felinisaf, wedi hyny,) oedd yn blaenori yn ei adeiladiad. O ddiffyg pregethu ynddo yn rheolaidd, nid atebodd ond ychydig wasanaeth trwy yr holl flynyddoedd, ac ar rai adegau bu ar fin cael ei gau. Ond wedi sefydliad Mr. E. Jones yn weinidog cydrhwng y lle hwn a Llanbedrog a Chapel-newydd, a chael pregeth ar nos Sabboth yn Mynytho, cynyddodd y gynnulleidfa i'r fath raddau fel y barnwyd fod yn rhaid cael yma gapel newydd, a chafwyd pob cefnogaeth gan y cyfarfod chwarterol tuag at ei adeiladu. Bu gwasanaeth Mr. R. Roberts, Criciaeth, o help mawr i'w gael i ben. Adeiladwyd yma gapel cyfleus yn haf y flwyddyn 1872, gwerth 250p., a ffurfiwyd eglwys ynddo yn nechreu Rhagfyr yr un flwyddyn, ac ar yr 11eg o'r un mis, cynaliwyd cyfarfod ei agoriad. Mae golwg obeithiol arno, a disgwylir yn fuan y bydd yma eglwys a chynnulleidfa gref.
175
Translation on http://www.genuki.org.uk/big/wal/CAE/Llanbedrog/Hanes.html
Dechreuwyd pregethu yn achlysurol yma gan Mr. R. P. Griffiths, Pwllheli, tua'r flwyddyn 1841, ond yn 1845, prynwyd yma gapel bychan, yr hwn oedd eiddo y Wesleyaid Cymanfaol, a chasglwyd yma gynnulleidfa fechan, a ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Bu y lle o'r dechreuad dan ofal gweinidogion Pwllheli hyd y flwyddyn 1871, pryd y ffurfiwyd Capel-newydd, Mynytho, a Llanbedrog yn un weinidogaeth, a rhoddwyd galwad i Mr. E. Jones, Bodedeyrn. Urddwyd ef Rhagfyr 10fed, 1871, ac yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion y cyfundeb yn bresenol ar yr achlysur. Nid yw yr achos yma ond bychan, ond y mae golwg siriol arno, a theimlir yn hyderus fod dyddiau gwell yn ei aros.
Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y plwyf hwn tua dechreu y ganrif bresenol gan Mr. John Jones, Nebo, am yr hwn y bydd genym ragor i'w ddyweyd ar ol hyn. Yn Rhosgoch y pregethodd gyntaf, a daeth cynnulleidfa luosog i'w wrando. Daeth wedi hyny i le a elwir y Penrhyn i bregethu, a bu dros ysbaid yn pregethu bob yn ail yn y ddau le uchod. Cymerodd Mr. J. Jones ar ol hyn dy, o'r enw Ty'n'rallt, oedd yn wag, dan ardreth, a bu yn pregethu yn y ty hwnw yn rheolaidd dros rai blynyddau, nes y cafwyd rhybudd i ymadael gan Mr. D. Williams, offeiriad Llanbedrog, yr hwn oedd perchenog y lle. Mewn canlyniad i hyny, penderfynodd Mr. J. Jones adeiladu capel yn yr ardal, a chafwyd tir i'w adeiladu arno gan Mr. D. Williams, Saethon. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1807, a galwyd ef Rehoboth. Ystyrid y lle fel cangen o'r Capel-newydd, ond Mr. J. Jones oedd yn gofalu am dano agos yn gwbl. Nid oedd yma ond pedwar aelod yn perthyn i'r lle, sef dau frawd a dwy chwaer, ac un o'r brodyr oedd William Jones, Brynygwynt, yr hwn a fu yn aelod selog o'r eglwys hon am driugain mlynedd. Bu yr achos yma am y deu-ddeng mlynedd cyntaf wedi ei sefydliad fel " llin yn mygu," ac etto daliodd yr "ychydig enwau " oedd yma yn ddiymollwng nes y gwelsant amser gwell. Wedi sefydliad Mr. Robert Owen yn Llanengan, cymerodd ef ofal yr eglwys yma, gan fod Nebo, ac Aberdaron, a'r cylchoedd yn galw am holl amser a llafur Mr. J. Jones. Bu ef yma dros rai blynyddau, a dilynwyd ei weinidogaeth a mesur o lwyddiant; ond rhoddodd y lle i fyny er mwyn gallu ymgymeryd a chodi achos yn Abersoch. Yn y flwyddyn 1828, daeth Mr. Owen Owens, myfyriwr o athrofa y Neuaddlwyd, yma i bregethu a chadw ysgol, ac wedi treulio ryw haner blwyddyn yn y lle, derbyniodd alwad i fod yn weinidog, ond cyn cydsynio a hi, aeth ar ymweliad i'r Deheudir. Cafodd alwad o Bwlchnewydd, gerllaw Caerfyrddin, ac urddwyd ef yno, lle y llafuriodd hyd ei farwolaeth. Daeth un Mr. Jonathan Jones yma am dymor, a chyn hir ymfudodd. i America. Yr oedd yr achos trwy y mynych gyfnewidiadau hyn yn dal ei dir, ac yn y flwyddyn 1835, bu raid ailadeiladu y capel. Yn y flwyddyn 1838, urddwyd Mr. Samuel Edwards, ysgol Llanboidy, yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwysi yn Ceidio a Tydweiliog. Llai na dwy flynedd yr arhosodd yma, oblegid derbyniodd alwad o'r Graig, Machynlleth, a symudodd yno cyn diwedd y
176
flwyddyn 1839. Wedi bod am ychydig gyda blwyddyn heb weinidog, rhoddodd y tair eglwys alwad i Mr. John Davies, myfyriwr o athrofa y Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Mawrth 11eg, 1841. Ni bu yma yn hir, canys symudodd i Rydymain a Llanfachreth, sir Feirionydd, ac wedi bod yno ychydig, ymunodd a'r Methodistiaid, ac yn mhen rhai blynyddoedd ymfudodd i America, lle y bu farw. Aelod o'r Drewen ydoedd. Yr oedd yn ddyn o fywyd diargyhoedd, ond heb dalent neillduol at bregethu a gweinidogaethu. Wedi bod am dymor heb weinidog, rhoddwyd galwad gan y tair eglwys drachefn i Mr. Robert Roberts o Lanerchymedd. Ychydig gyda dwy flynedd y parhaodd ei gysylltiad a'r eglwys ond parhaodd yn weinidog i'r eglwysi eraill hyd y flwyddyn 1854, pryd y symudodd i Rhiw a Nantglyn. Yn 1855, rhoddodd y tair eglwys alwad i Mr. Richard Rowlands, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Mehefin, 1855. Cymerwyd rhan yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri W. Ambrose, Porthmadog; D. Roberts, Caernarfon; Hugh Hughes, Abererch; M. D. Jones, Bala; D. Jones, Abersoch, a W. Williams, Nefyn. Llafuriodd Mr. Rowlands yma gyda derbyniad a pharch am bedair-blynedd-ar-ddeg. Nid oedd nifer yr aelodau ar ei sefydliad ond 27, ond yr oeddynt cyn ei ymadawiad wedi cyrhaedd 72. Yn y flwyddyn 1869, adeiladwyd yma gapel newydd, yr hwn sydd un o'r rhai harddaf yn yr holl wlad. Cafodd Mr. Rowlands alwad o Nebo a Llanon, sir Aberteifi, a symudodd yno yn niwedd y flwyddyn 1869. Ni bu yr eglwysi yn hir yn amddifaid, oblegid yn nechreu y flwyddyn 1870, unodd y tair eglwys i roddi galwad i Mr. John H. Williams, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mai 24ain, 1870. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. James, Llanaelhaiarn; holwyd y gofyniadau gan Mr. H. T. Parry, Abersoch; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Jones, Capel-helyg; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. T. Johns, Llanelli. Mae Mr. Williams yn parhau i lafurio yma, a'r achos mewn agwedd galonog.
Cyfodwyd yma ddau i bregethu :-
Symudiad Mr. David Williams, Saethon, i fyw i Bronheulog, yn y plwyf hwn, a fu yr achlysur i ddechreu pregethu yma. Neillduodd dy yn ymyl Bronheulog, a chofrestrodd ef at bregethu, a phregethwyd y bregeth gyntaf ynddo gan Mr. D. Morgan. y pryd hwnw o Fachynlleth. Yn lled fuan daeth y ty lle y pregethid ynddo, i feddiant Mr. T. Roberts, offeiriad Llangybi, a'r peth cyntaf a wnaeth oedd cau drws y ty yn erbyn pregethiad yr efengyl. Cafwyd ty arall yn yr un plwyf, yr hwn a gofrestrwyd
177
i bregethu; ond bn raid i berchenog y ty hwnw, o dan ddylanwad yr un offeiriad, gau ei ddrws yn erbyn pregethu. Offeiriaid y grefydd sefydledig sydd wedi bod y gelynion creulonaf i Ymneillduaeth yn ein gwlad am y dau-cant-a-haner o flynyddau diweddaf. Ond agorodd rhagluniaeth ddrws o ymwared. Bu farw perchenog y ty diweddaf a gauwyd, a daeth i feddiant Mr. William Jones, Ceidio, yr hwn oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr. Rhoddodd le i adeiladu capel ar y tir hwnw. Codwyd ef yn y flwyddyn 1823, a galwyd ef Peniel. Agorwyd ef Tachwedd 4ydd a'r 5ed y flwyddyn hono, ac ar yr un adeg urddwyd Mr. William Davies, o Lanwrtyd, i fod yn weinidog yn y lle. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Llanfaircaereinion; E. Rowlands, Capel-helyg; D. Griffiths, Talysarn; E. Davies, Penstryd; J. Jones, Main; J. Jones, Nebo; J. Lewis, Pwllheli, ac R. Owens, Llanengan. Nid oedd yma ond deg o aelodau pan ddechreuodd Mr. Davies ei weinidogaeth. Bu William Jones, Ceidio, yn noddwr caredig i'r achos, a'i dy yn gartref croesawgar i'r holl bregethwyr a ddeuai heibio. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Davies yma, cychwynwyd yr achos yn Tydweiliog, ac wedi hyny yn Nefyn, ac effeithiodd dechreuad yr achos yn Nefyn gryn lawer ar yr achos yma. Rhoddid yr oedfa i fyny bob nos Sabboth er mantais i bawb i fyned i Nefyn. Rhoddodd Mr. Davies i fyny ofal Ceidio a Thydweiliog, gan gyfyngu ei lafur i Nefyn. Yn 1838, rhoddodd y tair eglwys - Llaniestyn, Ceidio, a Thydweiliog, alwad i Mr. Samuel Edwards, ac y mae y tri lle er hyny hyd yn awr o dan yr un weinidogaeth, oddigerth ychydig flynyddoedd yn nhymor gweinidogaeth Mr. R. Roberts y bu Llaniestyn heb fod.
Codwyd yma un pregethwr, sef Ebenezer Morris, mab Mr. Joseph Morris, Llanengan gynt. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i New College, Llundain.
SAMUEL. EDWARDS. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1814, mewn lle a elwir Cnwcyrhedyn, heb fod yn mhell o Glandwr, sir Benfro. Yr oedd yn un o un-ar-ddeg o blant, ond bendithiwyd hwy a rhieni crefyddol, y rhai a'u dysgasant o'u mebyd i ofni yr Arglwydd. Ymroddodd tri o'r meibion i bregethu, sef Mr. Jonah Edwards, Cwmbach, yr hwn a fu yn weinidog parchus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd am flynyddau lawer, a Mr. Warriot Edwards, yr hwn a dreuliodd ei oes yn bregethwr cynorthwyol parchus, ac am yr hwn y crybwyllasom eisioes yn nglyn a'r pregethwyr a godwyd yn Nglandwr, a Mr. Samuel Edwards, gwrthrych y byr gofnodion yma. Cafodd ei dderbyn yn aelod yn Glandwr pan nad oedd ond ieuangc, ond nid ydym yn cael ei enw yn mysg y rhestr o bregethwyr a godwyd yn yr eglwys hono; ac oddiwrth gofiant y diweddar Mr. Morgan Jones, Trelech, yr ydym yn cael mai yn un o'r eglwysi dan ei ofal ef y dechreuodd bregethu. Nid ydym etto wedi dyfod i wybod yn mha un o honynt. Wedi dechreu pregethu, bu am ysbaid yn yr ysgol yn Llanboidy, dan ofal Mr. Davies, Rhydyceisiaid; ac yn y flwyddyn 1838, aeth ar daith i'r Gogledd, pryd y derbyniodd alwad gan yr eglwysi yn Ceidio, Llaniestyn, a Thydweiliog. Urddwyd ef yno Hydref 12fed, 1838, a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri W. Williams, Caernarfon: J. Jones, Capel-helyg; R. Ellis, Rhoslan; J. Morris, Llanengan, a W. Ambrose, Porthmadog. Cyn pen
178
blwyddyn wedi ei urddiad derbyniodd alwad gan yr eglwys yn nghapel y Graig, Machynlleth, a'r canghenau, a symudodd yno. O gylch yr un amser priododd a Miss Jane Jones, merch Mr. W. Jones, fferm Ceidio. Yn 1853, ar uniad y ddwy eglwys yn Machynlleth a'u gilydd, darfu cysylltiad gweinidogaethol Mr. Edwards a'r Graig, a chyfyngodd ei lafur i'r canghenau yn Soar, Glasbwll, a'r Dderwenlas, a bu yn barchus a defnyddiol yn eu plith hyd derfyn ei oes. Gweithiodd yn galed, a theithiodd lawer yn maes ei weinidogaeth ar hyd ffyrdd uchel a geirwon, a hyny ar bob tywydd, yr hyn a effeithiodd yn fawr ar ei iechyd, fel yr oedd ei gorph yn ysigedig iawn am y blynyddoedd olaf o'i oes. Dyoddefai gymaint oddiwrth ddiffyg anadl ar amserau, fel yr ofnai ei gyfeillion nas gallai fyw, ac ofnai ei hunan nas gallai gyflawni ei weinidogaeth, ond ymadnewyddai drachefn. Ar un adeg o waeledd mawr gwnaeth apeliad at Drysorfa yr hen Weinidogion, a derbyniwyd ef arni, ond wrth weled ei iechyd yn adnewyddu, rhoddodd hi i fyny drachefn, gan gymaint ei awydd am lynu wrth y weinidogaeth, a chan faint oedd ymlyniad pobl ei ofal wrtho yntau. Yn nechreu y flwyddyn 1872, yr oedd ei iechyd yn gwaelu yn fawr, ac fel yr oedd misoedd yr haf yn nesu, meddyliai y buasai newid awyr yn adnewyddiad iddo; ac er mwyn hyny, aeth ar ymweliad a Ceidio, cartref ei wraig, a maes cyntaf ei lafur gweinidogaethol yntau, ond ni chafodd ddychwelyd mwy yn fyw i'w dy. Bu farw yno Mehefin 13eg, 1872, yn 57 oed. Dygwyd ef i Fachynlleth i'w gladdu yn y gladdfa Ymneillduol yno, tuag at gael yr hon y gwnaeth ef a'i gyfeillion eu rhan. Yr oedd yno dorf luosog wedi dyfod yn nghyd, yn cynwys llawer o'i frodyr yn y weinidogaeth, i'w ddilyn i dy ei hir gartref.
Yr oedd Mr. Edwards yn ei ddyddiau goreu yn ddyn cryf a hardd, o gyfarchiad boneddigaidd, ac yn hyny yr oedd yn dwyn llawer o debygolrwydd i'r hen weinidogion Ymneillduol yn ein gwlad. Yr oedd o ddeall craff, a medr nodedig ganddo i osod ei feddyliau allan mewn gwedd newydd a tharawiadol. Araf a hwyrdrwm braidd oedd ei draddodiad fel pregethwr, ond yr oedd ei bregethau oll yn bur a sylweddol, a rhyw wedd o dlysni a phrydferthwch mewn llawer o'i frawddegau, ac fel y gwresogai wrth bregethu, byddai yn ystwytho ac yn bywiogi, ac yn aml iawn byddai yn cael oedfaon anarferol o effeithiol. Cyhoeddodd ddwy gyfrol fechan o'i bregethau, y rhai a ddarllenwyd ac a ddarllenir gan lawer gyda blas, ac ni chollant yn eu parch cyhyd ag y pery yn ein gwlad archwaeth at wirioneddau sylweddol ac efengylaidd. Mae ysbryd crefyddol yr awdwr yn rhedeg trwyddynt oll, a gwyr pawb oedd yn ei adnabod ei fod yn nodedig yn ei dduwiolfrydedd. Nid llawer a deithiodd trwy ei oes, ac oblegid hyny ni chyrhaeddodd gyhoeddusrwydd llawer o'i frodyr; ond yn mysg ei gydnabyddion nid oedd neb yn fwy parchus, a pha oreu yr adnabyddid ef, uchaf oll fyddai y syniad am dano. *
Mae yn ymddangos fod pregethu achlysurol wedi bod yn y plwyf hwn yn amser Mr. John Thomas, Pwllheli, ac fel y gwelsom; yr oedd rhai
* Gan ein bod eisoes yn y gyfrol gyntaf wedi myned trwy hanes yr eglwysi yn mysg y rhai y terfynodd Mr. Edwards ei weinidogaeth; rhoddasom ein cofnodiad o hono yma, yn nglyn a'r eglwys lle yr urddwyd ef, ac i ymy1 yr hon y daeth i farw.
179
personau oddiyma, er yn foreu, yn cyrchu i Benlan, ac yn ddiweddarach i'r Capel-newydd, a byddai gweinidogion Pwllheli yn dyfod i bregethu yma weithiau er mwyn cyfleusdra y rhai hyny. Ond ni wnaed cynyg ar sefydlu yma foddion rheolaidd cyn 1824. Yr achlysur o gychwyniad yr achos yma oedd i John Jones, yr hwn oedd yn byw yn Tyddyndifyr, Tydweiliog, ymuno a'r Annibynwyr. Yr oedd wedi bod am dymor yn Lloegr, ac yno wedi dyfod i gydnabyddiaeth a'r Annibynwyr, ond wedi priodi daeth i fyw i Tyddyndifyr. Yr oedd yn wr o ddeall rhagorach na'i gymydogion, wedi gweled mwy o'r byd, yn uwch yn ei sefyllfa, ac wedi darllen cryn lawer ar weithiau yr hen dduwinyddion. Gwelir ei enw yn lled fynych ar ddalenau y Dysgedydd yn ei flynyddoedd cyntaf, a chymerai ryw ran yn y dadleuon duwinyddol oedd yn cynhyrfu y wlad yn y dyddiau hyny. Calfiniad lled uchel ydoedd yn ei farn, ac yr oedd John Brown o Haddington yn awdurdod bwysig yn ei olwg ar byngciau duwinyddol. Gyda'r Methodistiaid y cychwynodd, ond oherwydd rhyw anghydwelediad, ymadawodd a hwy, a gwahoddodd Mr. William Davies, Ceidio, i ddyfod i'r lle i bregethu, ac i gychwyn achos. Cododd John Jones gapel yma, a thy anedd wrtho, agos yn hollol ar ei draul ei hun, a throsglwyddodd y cwbl i fod yn feddiant i'r enwad ar ol ei ddydd ef a'i wraig. Agorwyd y capel Hydref 27ain, 1825, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Owens, Llanengan; D. Griffiths, Talysarn; D. Griffith, Bethel; T. Lewis, Pwllheli; LI. Samuel, Bethesda; J. Davies, Llanaelhaiarn, ac A. Jones, Bangor. Enwodd yr olaf y capel yn Beersheba. Mae y lle wedi bod o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Ceidio, ac felly y mae yn parhau yn awr. Nid rhyw lewyrch mawr fu ar yr eglwys yma erioed, ac er fod John Jones, Tyddyndifyr, yn gefn mawr i'r achos gwan, etto nid llawer o ddawn oedd gan yr hen frawd hwnw i dynu eraill ato. Bu y capel yn nghau am rai blynyddoedd cyn sefydliad Mr. Rowlands Ceidio yn ac yn yr adeg hono syrthiodd y lle i well ymgeledd. Adnewyddwyd y capel, ac ymegniai Mr. Rowlands i bregethu i'r ychydig a ddeuai yn nghyd, ac y mae yr achos erbyn hyn wedi sirioli tipyn, fel y mae cystal, os nad gwell, golwg arno yn awr na dim a welwyd o'i gychwyniad.
Bu pregethu yma yn achlysurol er yn foreu iawn mewn lle a elwir Wern-beudy-glas, ond ni wnaed un cynyg ar, gychwyn achos yn y dref hyd ar ol sefydliad Mr. William Davies yn Ceidio. Yr oedd yma un hen wr da y pryd hwnw o'r enw Griffith Williams, yr hwn a fu yn llawer o gymorth i'r achos gwan yma ar ei ddechreuad. Symudodd i Amlwch, lle y mae etto rai o'i ddisgynyddion yn ffyddlawn gyda'r achos. Llwyddodd Mr. Davies, Ceidio, i gael tir at adeiladu capel yn nghwr y dref. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1827, ond nid agorwyd ef cyn Medi 20fed a'r 21ain 1829. Llafuriodd Mr. Davies yma yn ddiwyd am bedair-blynedd-ar-ddeg, hyd nes yn y flwyddyn 1838, y derbyniodd alwad o Bryngwran, Mon, a symudodd yno. Yr oedd yr achos yn yr adeg yma wedi disgyn yn isel. Gwnaed cais am gael Mr: Thomas Edwards, Ebenezer, yma yn weinidog, a bu rhyw feddwl ganddo am gydsynio, ond yn yr adeg yr oedd yn petruso torodd diwygiad grymus allan yn Ebenezer, yr hyn a'i dygodd i benderfyniad i aros yno. Yn y flwyddyn 1839, rhoddodd yr eglwys yma alwad
180
i Mr. John Morgan, Abererch; ac ar gymhelliad taer gweinidogion y sir mewn cyfarfod yn Rhoslan, gydag addewid am eu cynorthwy, cydsyniodd Mr. Morgan a'r alwad. Adfywiodd yr achos yn rhyfeddol ar ol ei sefydiliad yma. Cynhaliwyd cyfarfod pregethu yn y lle yn Hydref, 1839, yr hwn a barhaodd am dri diwrnod, a chyfarfod i'w gofio ydoedd. Yr oedd arddeliad neillduol ar y weinidogaeth. Teimlai pawb yn galed ar y dechreu, ond torodd y wawr pan oedd Mr. W. Thomas, Dwygyfylchi, wedi hyny o Beaumaris, yn pregethu, a pharhaodd yn llewyrchus hyd y diwedd. Cyn diwedd y cyfarfodydd yr oedd deuddeg-a-deugain wedi aros yn y gyfeillach, ac nid anghofir byth gan y rhai oedd yno y teimladau hyfryd a fwynhawyd. Llafuriodd Mr. Morgan yma am saith mlynedd, ac yn yr ysbaid hwnw cynyddodd yr eglwys nes bod yn ugain a chant, ac yr oedd yma ar un adeg gynnulleidfa luosog. Wedi i gysylltiad Mr. Morgan a'r eglwys yma ddarfod, rhoddwyd cyn hir alwad i Mr. John Owen, Hebron, yr hwn a ymsefydlodd yma yn y flwyddyn 1846, ac a fu yma am dair blynedd, nes y symudodd i Lanegryn, yn sir Feirionydd. Yn y flwyddyn 1850, rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yma Rhagfyr 20fed, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri M. Jones, Bala; S. Roberts, Llanbrynmair; W. Ambrose, Porthmadog; D. Roberts, Caernarfon, a T. Griffiths, Capel-helyg. Llai na b1wyddyn y bu Mr. Jones yma ar ol ei urddo, oblegid yn Medi, 1851, symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Llanengan. Wedi ymadawiad Mr. Jones, cymerwyd gofal yr eglwys gan Mr. Joseph Morris, yr hwn a fu yn gweinidogaethu yma am dair blynedd, yna rhoddodd yr eglwys i fyny, a chymerodd ofal yr eglwysi yn Hebron, Nebo, ac Aberdaron. Yn ystod y blynyddau hyn yr oedd yr achos yn mhell o fod gysurus a thangnefeddus, yr hyn mewn rhan a barai y mynych symudiadau ar y gweinidogion, er nad ydym yn sicrhau eu bod hwythau oll bob amser wedi ymddwyn yn y modd doethaf. Yn nechreu y flwyddyn 1855, yr oedd yr eglwys wedi disgyn mor isel a deuddeg-ar-hugain mewn nifer, ac nid oedd y gwrandawyr ond ychydig. Rhoddwyd galwad i Mr. William Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Ebrill 6ed, 1855. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Griffith, Ieu., Bethel; holwyd y gofyniadau gan Mr. Joseph Morris, Hebron; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Griffith, hynaf, Bethel; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. T. Edwards, Ebenezer, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Williams yma adgyweiriwyd y capel, ac er fod ychydig o hen ddyled yn aros, etto penderfynwyd myned i ddyled newydd, ond ni buwyd yn hir cyn fod y cwbl wedi ei dalu, a chynaliwyd yma jubili taliad y ddyled cyn diwedd y flwyddyn 1857. Cynyddodd yr eglwys a'r gwrandawyr, ac yn y diwygiad yn 1860, profwyd yma adfywiad grymus. Yr oedd yr aelodau yn rhifo tua chant ac ugain. Cyn hir ar ol hyn, penderfynwyd adeiladu capel ar y Morfa, ac wedi ei gael yn barod, aeth rhan o'r eglwys yno. Bu Mr. Williams yn gofalu am y ddwy eglwys hyd Chwefror 12fed, 1866, pryd y rhoddodd eu gofal i fyny, ac er hyny nid oes gofal eglwysig arno, er ei fod yn pregethu yn gyson.
Bu yr eglwys ar ol hyn am yn agos i bedair blynedd heb weinidog hyd nes yn niwedd y flwyddyn 1869, y rhoddwyd galwad i Mr. Richard M. Roberts, o Lanfaelog Mon, ac urddwyd ef Ionawr 21ain 1870. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Griffith, Portdinorwic;
[Last updated: 29 May 2008 - Gareth Hicks]
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark. |