| Caernarfonshire | Contents |
Proof read by Eleri Rowlands (May 2008)
Chapels below;
|
|
181
holwyd y gofyniadau gan Mr. H. T. Parry, Abersoch; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. W. Jones, Talysarn; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Lloyd, Caergybi, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog. Ni chafodd Mr. Roberts ond tymor byr i lafurio yma, ond bu yn nodedig o barchus yn yr ysbaid hwnw. Bu farw Ebrill 14eg, 1872. Ni bu yr eglwys ond ychydig amser ar ol ei farwolaeth cyn rhoddi galwad i Mr. Edward James, Llanaelhaiarn, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn Awst, 1872, ac y mae ei weinidogaeth hyd yma wedi bod yn dra chymeradwy, a hyderwn fod oes hir o ddefnyddioldeb mawr o'i flaen.
Bu yma amryw o bersonau defnyddiol yn nglyn a'r achos o bryd i bryd, ond gan nad oes genym ond gwybodaeth anmherffaith am danynt, gwell i ni yma heb grybwyll enwau neb, rhag i ni adael ar ol rai llawn mor deilwng. Bu Mr. Thomas Ridge yma yn cadw ysgol yn nhymor gweinidogaeth Mr. Davies, a dywedir gan rai mai yma y dechreuodd bregethu; ond yn ol yr hysbysiaeth a dderbyniasom o Penarth, dywedir ei fod wedi pregethu ryw gymaint yno cyn gadael cartref, ond y mae yn sicr nad oedd wedi dyfod i fawr o gyhoeddusrwydd fel pregethwr pan y daeth i Nefyn.
RICHARD M. ROBERTS. Ganwyd ef yn Llanfaelog, Mon, yn y flwyddyn 1848. Derbyniwyd ef yn aelod yn Maelog, lle hefyd y dechreuodd bregethu. Cafodd alwad o Nefyn a'r Morfa, ac urddwyd ef yno Ionawr 21ain, 1870. Awst 12fed, yr un flwyddyn, priododd a Miss Ellen Hughes, Glantraeth, Llanynghenedl, Mon. Dechreuodd ei weinidogaeth a'i fywyd cyhoeddus yn obeithiol, a chyfrifid ef gan bawb yn wr ieuangc crefyddol, ac yn bregethwr derbyniol a chymeradwy. Goddiweddwyd ef gan glefyd trwm, y Typhoid Fever, ac wedi cystudd byr, ond blin, yn yr hwn y collodd bob ymwybodaeth o hono ei hun, bu farw Ebrill 14eg, 1872. Yn ystod ei glefyd trwm ni ddiferodd gair anheilwng oddiwrtho, ac er holl ddyryswch ei feddwl, gyda phethau y weinidogaeth yr oedd yn barhaus. Cymerwyd ei gorph i'w wlad enedigol i'w gladdu, a rhoddwyd ef i orwedd yn mynwent y teulu yn Aberffraw. Dangosodd pobl Nefyn a'r Morfa eu parch iddo wrth gychwyn y corph oddiyno, a daeth lluaws o'i gydnabod yn Mon i gyfarfod ei angladd, ac i gael yr olwg ddiweddaf ar ei weddillion marwol yn disgyn i'r bedd. Yr oedd iddo barch mawr gan ei holl gydnabod, a theimlid hiraeth ar ei ol yn mysg ei frodyr yn nghyfundeb Lleyn ac Eifionydd, yn gystal ag yn yr eglwysi lle y llafuriodd.
Translation on http://www.genuki.org.uk/big/wal/CAE/Nefyn/Hanes.html
Adeiladwyd y capel yma yn y flwyddyn 1862. Cafwyd tir gan T. D. Jones-Parry, Ysw., Madryn, yr aelod seneddol dros sir Gaernarfon, ar brydles o fil ond un o flynyddoedd. Costiodd 400p. Traddodwyd y bregeth gyntaf ynddo Tachwedd 12fed, 1862, gan Mr. Williams, Nefyn, a'r wythnos ganlynol ffurfiwyd eglwys yma o ddeugain o aelodau, gan mwyaf oll o Nefyn, a rhai o Ceidio. Galwyd y capel y Tabernacl. Gwnaed cryn ymdrech i dalu y ddyled pan codwyd ef, ac wedi hyny, ond y mae etto fwy
182
na 200p. o ddyled yn aros, ond gwneir ymdrech i dalu 50p. ymaith eleni. Mae y lle yma o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Nefyn, ac felly y mae yn awr dan ofal Mr. James, ac y mae golwg siriol a gobeithiol ar yr eglwys a'r gynnulleidfa.
(Llanengan parish)
Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanengan, o fewn rhyw wyth milldir i Bwllheli. Yr oedd yma un gwr yn y plwyf o'r enw John Evans, o'r Cilan, yr hwn oedd yn aelod yn y Capel-newydd, ac yn yr adeg hono efe oedd yr unig Annibynwr yn y plwyf. Yn Gorphenaf, 1790,* daeth Mr. John Roberts, Llanbrynmair, y pryd hwnw yn wr ieuangc, at Mr. Benjamin Jones i Bwllheli, i'r ysgol, a bu yno hyd y Nadolig canlynol. Yn yr ysbaid hwnw bu ef ac un Owen Morris yn pregethu llawer yn Llanengan, ac yn yr adeg hono y penderfynwyd dechreu achos yma. Yn y flwyddyn 1796, adeiladwyd capel Bwlchtocyn, a bu y lle am dymor maith dan ofal Mr. B. Jones, Pwllheli, yr hwn a ddeuai yma yn rheolaidd i weini yr ordinhadau, ond yr oedd yma bregethwyr eraill yn ei gynorthwyo. Un o'r rhai ffyddlonaf o honynt oedd Mr. John Jones, Brynllefrith, am yr hwn y bydd genym ychwaneg i'w ddyweyd yn nglyn a Nebo. Bu ef yma yn cadw ysgol am dymor. Yn y flwyddyn 1820, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Owen, gwr ieuangc o ardal Llanfyllin, ac urddwyd ef yma Medi 12fed, 1820, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri W. Jones, Caernarfon; C. Jones, Dolgellau; D. Roberts, Bangor; W. Williams, Wern; J. Roberts, Llanbrynmair, a D. Morgan, Machynlleth. Bu Mr. Owen yma am bymtheng mlynedd, a bu mesur o lwyddiant ar ei weinidogaeth. Yn ei dymor ef yr ailadeiladwyd y capel. Symudodd oddiyma yn 1835 i Cwmafan, Morganwg, lle yr ydym eisioes wedi crybwyll am dano. Wedi bod am ychydig heb weinidog, rhoddodd yr eglwys yma a'r eglwys yn Abersoch alwad i Mr. Joseph Morris, yr hwn oedd yn weinidog yn Mhorthmadog, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Hydref, 1836. Llafuriodd Mr. Morris yma gyda diwydrwydd a ffyddlondeb mawr am lawer o flynyddoedd, ond ni chafodd yr hyfrydwch o weled llawer o lwyddiant ond ychydig yn adeg y diwygiad yn 1839, a'r flwyddyn ganlynol. Gan fod yr eglwysi yn weiniaid, a'i deulu yntau yn fawr, rhoddodd eu gofal i fyny yn y flwyddyn 1848, a chyn hir wedi hyny cymerodd ofal yr eglwys yn Nefyn. Yn y flwyddyn 1851, rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, yr hwn y flwyddyn cyn hyny a urddasid yn Nefyn, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Medi, y flwyddyn hono. Bu Mr. Jones yma yn dderbyniol a pharchus hyd fis Ebrill, 1864, pryd y darfu ei gysylltiad gweinidogaethol a'r lle. Wedi bod am flwyddyn neu ychwaneg yn dibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. Hugh Thomas Parry, Cerygengan, Llangristiolus, Mon, ond a fuasai am dymor yn fyfyriwr yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef Hydref 5ed, 1865. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Thomas, Bangor; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. Hughes, Gwalchmai; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Jones, Tabor;
* Yn Hanes Ymneillduaeth dywedir mai yn 1780 y bu hyn, ond nis gall hyny fod. Nid oedd Mr. John Roberts ond tair-ar-ddeg oed yn 1780, ac yn Hydref 1786, y derbyniwyd ef yn aelod, ac ni ddechreuodd bregethu hyd Ionawr 21ain, 1790.
183
pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Griffith, Caergybi, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog. Mae Mr. Parry yn parhau mewn cysylltiad a'r eglwysi yn Bwlchtocyn ac Abersoch, ond fod ei hir waeledd a'i wendid wedi ei gadw oddiwrthynt. Mae ardal Bwlchtocyn yn gynyddol, a llawer o ddyeithriaid yn cyrchu yma i'r gweithfeydd plwm sydd wedi eu hagor, ond Saeson ydynt gan mwyaf, ac nid yw eu dyfodiad yn un help i foesoldeb y lle. Mae yma gapel newydd hardd yn barod i'w agor, yn mesur 45 troedfedd wrth 30 troedfedd. Costia 600p., ond y mae "gan y bobl galon i weithio" er talu am dano. Mae yma achos cryf a llewyrchus, a llawer o bobl nodedig o garedig a chrefyddol. Bu H. Roberts, Marchros, a Robert Pritchard, Cim, yn arbenig yn golofnau yn yr eglwys hon, ac y mae eu hen gyfaill a'u cydlafurwr Evan Jones etto yn aros, a llawer o rai ieuengach a mawr ofal calon ganddynt am achos yr Arglwydd.
Translation on http://www.genuki.org.uk/big/wal/CAE/Llanengan/Hanes.html
Pentref porthladdol ydyw Abersoch, chwe' milldir i'r De o Bwllheli, yn ymyl St. Tudwell's Road, a chyfrifir ef yn un o'r lleoedd goreu i angori ar lanau Cymru. Mae yn mhlwyf Llanengan. Dechreuwyd pregethu yma mewn hen lofft, uwchben ystordy glo, tua'r flwyddyn 1810. Un o'r rhai cyntaf a fu yn pregethu yma oedd Mr. J. Jones, Brynllefrith, yr hwn yn wir a wnaeth fwy na neb arall yn sefydliad y rhan fwyaf o'r eglwysi yn y parth yma o'r wlad. Wedi sefydliad Mr. R. Owen yn Bwlchtocyn, cafwyd yma foddion yn fwy rheolaidd, ac ysgol agos bob Sabboth. Yn y flwyddyn 1831, adeiladwyd yma gapel, yn benaf trwy ymdrech Mr. Owen, a bu y lle dan ei ofal hyd nes yr ymadawodd a'r wlad. Mae yr eglwys yma wedi bod o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Bwlchtocyn, ac felly y mae yn parhau, fel nad oes achos ail grybwyll eu henwau yma. Cafwyd yma adfywiadau lled rymus yn 1839, yn nhymor gweinidogaeth Mr. J. Morris, ac wedi hyny drachefn yn 1860, yn amser gweinidogaeth Mr. D. Jones. Mae yma awydd cryf yn awr yn yr eglwys a'r ardal am gael capel newydd, ac y mae tua 200p. eisioes wedi eu haddaw i'r perwyl. Mae enwau yr hen ddiaconiaid Richard Williams, o'r Fach, a Hugh Roberts, Talybont, yn deilwng o gael eu coffâu, y rhai a fuont ffyddlawn i achos yr Arglwydd yn y lle, a theimlir hiraeth ar eu hol.
Magwyd yma ddau bregethwr, a'r ddau hyny yn ddau frawd, sef John C. Williams yr hwn sydd yn awr yn weinidog yn Corris; a Caleb Williams, yr hwn sydd yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Nottingham. Mae Mr. David Jones, yr hwn a fu yn weinidog yma, yn bregethwr parchus gan yr eglwys, ac yn pregethu agos bob Sabboth yn rhai o eglwysi y wlad.
(Rhiw parish)
Mae y lle hwn ar fynydd y Rhiw, heb fod yn mhell o Aberdaron. Dechreuwyd pregethu yma gan Mr. John Jones, ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1813. Nid oedd ond capel bychan, a'r achos ynddo yn wan. Urddwyd Mr. J. Jones i gyflawn waith y weinidogaeth yma Medi 2i1, 1820, ar ol bod yn pregethu am bum'-mlynedd-ar-hugain. Gweinyddwyd
184
ar yr achlysur gan Meistri C. Jones, Dolgellau; D. Morgan, Machynlleth; W. Williams, Wern; D. Roberts, Pentir, ac eraill. Yr oedd John Jones wedi llafurio yn ddiwyd yma cyn hyny, a pharhaodd i lafurio ar ol hyny am saith mlynedd, nes y daliwyd ef gan glefyd trwm, ac ar ol pythefnos o gystudd, bu farw Medi 3ydd, 1827, yn 53 oed. Wedi bod am ychydig heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. William Morris, gwr ieuangc o Gydweli, sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef yma Mawrth 20fed, 1828. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Rowlands, Rhoslan; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. Owen, Llanengan; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. W. Davies, Nefyn; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. T. Lewis, Pwllheli, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. J. Williams, Ffestiniog. Yr oedd Mr. Morris yn ddyn cryf o gorph, ac o ysbryd cynhyrfus, yr hyn a'i harweiniodd i ddiwedd poenus. Wedi llafurio yma am ddwy flynedd, goddiweddwyd ef gan anhwylder meddyliol, yr hwn a'i hanalluogodd i gyflawni ei weinidogaeth. Ymadawodd a'r wlad, a bu am dymor yn Ffraingc. Wedi ei ymadawiad, rhoddwyd galwad i Mr. John Morgan, o Dowlais. Daeth yma yn Hydref, 1832, a bu yma am bedair blynedd. Yr oedd ymddiriedolwyr y capel oll ond un, sef John Jones, Nanhoron, wedi marw, a chafwyd tipyn o drafferth i gael y ty a'r ardd oedd yn eiddo i'r eglwys o'i afael, ond llwyddodd Mr. J. Morgan, gyda help Mr. D. Williams, cyfreithiwr, Pwllheli, i'w cael. Ymadawodd Mr. Morgan oddiyma yn 1836, ac aeth i Abererch. O gylch yr adeg yma daeth Mr. Morris yn ei ol, a bu yma hyd y flwyddyn 1838, pryd y symudodd i Abergwyli. Yr oedd Mr. Morris yn ddyn da a gweithgar, ac yn gyfaddas iawn i'r wlad hon, ond yn unig fod ei nervous system mor wan fel yr oedd unrhyw groes neu flinder yn ei yru yn mron yn wallgof. Bu Mr. Thomas Davies, Ffestiniog, yma am ychydig ar ol ymadawiad Mr. Morris, ond byr fu ei arosiad. Bu yma eraill yn aros dros ychydig, ond ni bu yma yr un gweinidog sefydlog hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr. John Owens, myfyriwr o athrofa y Bala. Urddwyd ef Mawrth 5ed a'r 6ed, 1845. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Jones, Capel-helyg; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. P. Griffiths, Pwllheli; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. John Morgan, Nefyn; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. M. Jones, Bala, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog.* Llafuriodd Mr. Owens yma am ddwy flynedd, ac yna symudodd i Nefyn. Wedi bod am ychydig amser heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Thomas, o athrofa Ffrwdyfal, ac urddwyd ef Mai 23ain, 1849. Pregethwyd at natur eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog; holwyd y gweinidog gan Mr. J. Owens, Nefyn; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Griffith, Capel-helyg; pregethodd Mr. D. Griffith, Bethel, i'r gweinidog, a Mr. T. Edwards, Ebenezer, i'r eglwysi.+ Bu Mr. Thomas yma yn llafurus a llwyddianus yn y weinidogaeth, trwy yr holl gylch eang, am bum' mlynedd, hyd nes y symudodd i Lanfair, gerllaw Llanbedr, sir Aberteifi, lle y mae etto. Wedi ei ymadawiad, rhoddwyd galwad i Mr. Henry Rees, Pentraeth, ond ni bu yma yn hir. Ar ol hyny cymerodd Mr. Joseph Morris ofal yr eglwysi hyn, a pharhaodd i gyrchu yma am rai blynyddoedd. Ymgymerodd Mr. Morris a bod yn arolygydd yr adeiladau ar ystad Madryn, eiddo Mr. Jones-Parry, yr aelod seneddol dros sir Gaernarfon, ac oblegid hyny bu raid iddo roddi i fyny ei ofal dros
* Dysgedydd, 1845. Tu dal. 122. + Diwygiwr, 1849. Tu dal. 218.
185
yr eglwysi hyn, ac ni bu arno ofal eglwysig er hyny, er ei fod yn pregethu bob Sabboth yn y lleoedd y byddo bwlch i'w gau, a hyny gyda derbyniad mawr. Yn 1859, daeth Mr. William Powell, genedigol o Llanelli, Brycheiniog, yma, a bu yn pregethu i'r eglwysi hyn am dymor, ond ni urddwyd ef yma; aeth i Nantglyn yn niwedd 1861, ac urddwyd ef yno y flwyddyn ganlynol, ac y mae yn awr yn Hubbard, Ohio, America. Yn nechreu y flwyddyn 1863, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Lloyd, o Bentre-llyn-cymer, ac urddwyd ef Awst 12fed, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Jones, Capel-helyg; holwyd y gweinidog gan Mr. D. Jones, Abersoch; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Griffith, Bethel; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. H. Ellis, Corwen, ac. ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. Joseph Morris, Madryn Lodge.* Ni bu Mr. Lloyd byw ond tri-mis-ar-ddeg wedi ei urddo. Bu farw yn ddisymwth ar y ffordd, wrth ddychwelyd o'r capel, Medi 23ain, 1864. Yn fuan wedi marwolaeth Mr. Lloyd, rhoddwyd galwad i Mr. Howell R. Jones, aelod o Ddrwsycoed, ac urddwyd ef Mawrth 21ain, 1865. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Jones, Capel-helyg; T. Jones, Tabor; R. Rowlands, Ceidio; E. W. Jones, Talysarn, a W. Ambrose, Porthmadog. Bu ef yma hyd wanwyn y flwyddyn 1870, pryd y symudodd i Bodedeyrn, Mon. Yn gynar yn y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd galwad i Mr. David Davies, o Dy'nygwndwn, sir Aberteifi, ac urddwyd ef Mehefin 13eg, 1871. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri W. Ambrose, Porthmadog; E. Jones, Llwyncelyn, ac eraill.
Yr ydym wedi cysylltu urddiadau yr holl weinidogion a fu yn yr eglwysi yma a Nebo, am mai dyma yr eglwys hynaf yn y weinidogaeth hon, er fod Hebron ac Aberdaron yn yr un cylch, ac i rai o gyfarfodydd yr urddiadau gael eu cynal yn Hebron. Gwelir fod y gweinidogion yma wedi bod yn nodedig o symudol; a dichon nad oes un eglwys yn Nghymru a chynifer o weinidogion a phregethwyr wedi bod yn llafurio ynddi yn yr un ysbaid o amser ag sydd wedi bod yn yr eglwysi yn nghylch y weinidogaeth hon. Mae yn nghwr eithaf y wlad, fel mai nid hawdd ydyw cael neb a all ymgymodi a lle mor ddiarffordd; heblaw nad yw yn nodedig am ei helaethrwydd o gysuron bywyd. Nid yw cynnulleidfa Nebo ond bechan, ond y mae yma gapel cyfleus, yr hwn a ailadeiladwyd yn y flwyddyn 1857, ac y mae mynwent fechan yn nglyn ag ef.
JOHN JONES.Ganwyd ef yn Brynllefrith, yn mhlwyf Llanarmon, yn mis Tachwedd, 1773. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac yn aelodau yn Nghapel-helyg, lle hefyd y derbyniwyd yntau yn aelod pan oedd yn ugain oed. Dygwyd ef i fyny yn wehydd, a bu yn dilyn ei alwedigaeth yn Mangor, ac Amlwch, a manau eraill am ysbaid chwe' blynedd. Ond wedi ei dderbyn yn aelod aeth i'r ysgol dan ofal ei weinidog, Mr. B. Jones, Pwllheli, yr hwn cyn hir a'i hanogodd i ddechreu pregethu, ond yr oedd ei wyleidd-dra y fath fel yr ofnai anturio at y gorchwyl. O gylch yr amser hwnw daeth Mr. Azariah Shadrach trwy y wlad, ac aeth John Jones i'w hebrwng o Bwllheli i Bwlchtocyn, ac wedi deall pa fodd yr oedd pethau
* Dysgedydd, 1863. Tu dal. 397.
186
yn bod, dywedodd Mr. Shadrach, y byddai raid iddo bregethu o'i flaen ef yn Bwlchtocyn y noson hono. Nid oedd wiw ymesgusodi - pregethu fu raid iddo, ac ni roddodd i fyny o hyny allan tra fu byw. Bu mewn lluaws mawr o fanau yn cadw ysgol, ac yn pregethu yn gynorthwyol, fel y byddai angen, am bum -mlynedd-ar-hugain. Rhoddwyd ysgol symudol Mr. Jones, o Gaerlleon, dan ei ofal, trwy garedigrwydd Dr. Lewis, Llanuwchllyn, a bu yn ei chadw yn Rhoslan, Capel-newydd, Bwlchtocyn, Llaniestyn, Nebo, a Hebron, a dichon mewn rhai manau eraill. Lleyn fu prif faes ei lafur, ac yr oedd ganddo, fel y gwelsom, y llaw flaenaf yn sefydliad amryw o'r achosion yno. Urddwyd ef yn Nebo, Medi 12fed, 1820.* Rhoddodd i fyny yr ysgol wedi ei urddiad, ac ymroddodd yn hollol i bregethu. Cymerodd dy yn mhentref Aberdaron, a phreswyliai yn un rhan o hono, a phregethai yn y rhan arall. Teithiodd gryn lawer trwy Dde a Gogledd, yn benaf i gasglu at y capeli a godwyd trwy ei lafur. Nid oedd yn ddoniol a phoblogaidd fel pregethwr, ond yr oedd mwyneidd-dra ei ysbryd, ei symledd dirodres, a'i fywyd diargyhoedd yn ei wneyd yn barchus gan bawb. Daliwyd ef gan glefyd trwm, ac wedi ychydig gystudd blin a chwerw, bu farw Medi 3ydd, 1827, yn 53 oed. Claddwyd ef yn mynwent capel Nebo, ac yn ngwasanaeth y claddedigaeth gweinyddwyd gan Meistri T. Lewis, Pwllheli; W. Davies, Nefyn, ac R. Owen, Llanengan. Ni bu erioed yn briod, fel nad oedd na gwraig na phlant i alaru ar ei ol; ond mae ei goffadwriaeth yn barchus gan lawer yn y wlad hyd y dydd hwn.
EVAN LLOYD. Ganwyd ef yn Mhentre-llyn-cymer, yn sir Ddinbych, Yn y flwyddyn 1823. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn y Pentre pan oedd yn ieuangc, ac anogwyd ef cyn hir i ddechreu pregethu, a phan oedd tua thair-ar-hugain oed derbyniwyd ef i athrofa y Bala. Ni bu yno yn hir, oblegid dychwelodd adref. Yn mhen amser ailymaflodd yn ei waith, a bu mewn amryw fanau yn cadw ysgol. Bu yn Llanbrynmair, ac yn y Main, sir Drefaldwyn, yn cadw ysgol, a phregethai yn rhywle bob Sabboth. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1863, derbyniodd alwad gan yr eglwsi yn Nebo, Hebron, ac Aberdaron, ac urddwyd ef yno, a dechreuodd ymroddi o ddifrif i gyflawni y weinidogaeth. Ymddangosai ar lawer ystyr yn un cymwys i'r maes eang y llafuriai arno; ond byr iawn fu ei ddydd gwaith. Yr oedd yn dychwelyd adref o'r gyfeillach grefyddol yn Aberdaron nos y 23ain o Fedi, 1864, ac ar ei ffordd, galwodd gyda chyfaill, yr hwn a aeth i'w hebrwng ran o'r ffordd; ond cafwyd ef yn farw wedi myned yn mlaen tua dau can' llath yn mhellach na'r fan yr aeth ei gyfaill i'w hebrwng. Bu farw, fel y barnwyd ar y trengholiad, mewn eiliad, heb un ymdrech, o glefyd y galon, yn 42 oed. Claddwyd ef yn mynwent Hebron, yn ngwydd tyrfa luosog, ac amryw weinidogion o wahanol enwadau. Yr oedd Mr. Lloyd yn wr cryf o gorph, uwchlaw y cyffredin o daldra, ac yn ddyn synwyrol a deallgar, er nad oedd yn hyawdl fel pregethwr. Cyfrifid ef yn wr da a chrefyddol gan y rhai a'i hadwaenai oreu, ac am dymor byr ei weinidogaeth yr oedd yn barchus a chymeradwy gan bobl ei ofal.
(Bryncroes parish)
Byddai Mr. John Jones, Nebo, yn pregethu yn lled gyson mewn ty anedd yn mhlwyf Llangwnadl, yr hwn a gofrestrwyd ganddo i'r perwyl.
* Gwneir camgymeriad yn y dyddiad yn hanes yr eglwys.
187
Yn y flwyddyn 1822, adeiladodd gapel ar Roshirwaun, yn mhlwyf Bryncroes, yr hwn a alwyd Hebron. Mae y lle yma o'r dechreuad wedi bod dan yr un weinidogaeth a Nebo, ac ond edrych pwy fu yn llafurio yno gwelir hefyd pwy fu yn llafurio yma. Mae yma wlad boblogaidd o wlad amaethyddol, a gwrandawiad lluosog. Nis gall unrhyw ddyeithr-ddyn lai na chael ei daro a syndod i weled cynnulleidfa mor fawr mewn gwlad mor foel, ond nid yw nifer yr eglwys mewn un modd yn cyfateb i luosogrwydd y gynnulleidfa. Yn nechreu y flwyddyn 1833, yn nhymor gweinidogaeth Mr. John Morgan, rhoddwyd darn at y capel, yr hyn a roddodd le i bedair-ar-hugain o eisteddleoedd yn ychwaneg, a thalwyd yr holl draul.
Yn y flwyddyn 1867, adeiladwyd yma gapel newydd, gwerth 350p., ac y mae mwy na haner ei ddyled eisioes wedi ei thalu. Mae yr achos yma yn awr mewn agwedd obeithiol, a gweinidogaeth Mr. Davies yn dra derbyniol.
Translation on http://www.genuki.org.uk/big/wal/CAE/Aberdaron/Hanes.html
Mae y lle hwn ar derfyn eithaf sir Gaernarfon, ac ar lawer cyfrif y mae yn lle dyddorol iawn. Byddai Mr. Edmund Jones, Pontypool, yn dyfod yma bob tro y deuai i sir Gaernarfon, ac elai drosodd i Ynys Enlli. Adroddir am ymweliad Mr. R. Tibbot, Llanbrynmair, â'r lle, a'r anmharch a ddyoddefodd oblegid cynyg pregethu i'r trigolion. Ond ni wnaed un cynyg i gychwyn achos rheolaidd yma hyd nes yr urddwyd Mr. J. Jones yn Nebo, ac y cymerodd ef dy yma i fyw mewn un rhan o hono, a phregetha yn y rhan arall. Yn y flwyddyn 1829, ar ol sefydliad Mr. W. Morris yma, y cyfodwyd capel yn y lle, yr hwn a alwyd Cephas. Yr oedd yn gapel bychan tlws pan adeiladwyd ef, gwerth 160p., ond bu ei ddyled yn faich trwm yn hir. Gwan iawn yw yr achos wedi bod yma o'r dechreuad, ond y mae yma rai ffyddloniaid wedi bod yn "sefyll yn nhy yr Arglwydd y nos." Mae y lle o'r dechreuad o dan yr un weinidogaeth a Nebo a Hebron, ac felly y mae yn parhau.*
(Llangybi parish)
Mae hanes yr eglwys hon am fwy na chant a haner o flynyddau agos yr un a hanes Pwllheli, fel nad rhaid i ni yma ail adrodd yr hyn a ddywedasom yno. Un eglwys ydoedd, mewn gwirionedd, yn addoli mewn dau le, a phan erlidid hi yn y naill, ffoai i'r llall. Yn ol llythyr Mr. Henry Maurice at Mr. Edward Terril, (nid Ferril, fel y camargraffwyd yn hanes Pwllheli), un eglwys ydoedd yn 1675, a dyma yr unig eglwys Ymneillduol oedd yn y sir, ac yr oedd yn cyfarfod yn gyffredin yn Llanarmon a Llangybi. Dywedir y byddai yr ychydig ffyddloniaid oedd yn glynu wrth yr
* Yr ydym yn ddyledus am lawer o ddefnyddiau hanes eglwysi Lleyn i Meistri J. Morgan, Penlan, sir Aberteifi; H. T. Parry, a D. Jones, Abersoch; R. Rowlands, Llanon, (Ceidio, gynt); W. Williams,Nefyn; J. H. Williams, Llaniestyn, ac eraill; ond gwel ein brodyr, ein bod, drwy ymchwiliad i hen gofnodion, wedi dyfod o hyd i lawer o.ddyddiadau nad anfonasant i ni, ac wedi cywiro rhai dyddiadau a anfonwyd i ni. Buasai yn dda genym, er hyny, fod ein dyddiadau i bob peth yn llawer cyflawnach. Mae gwerth hanes yn dibynu i fesur mawr ar ei fod yn.gywir a chyflawn yn ei ddyddiadau.
188
Arglwydd yn cyfarfod a'u gilydd yn nghysgod craig mewn coedwig heb fod yn mhell o Gapel-helyg, pan na feiddient, gan ysbryd erledigaethus y dyddiau hyny, gyfarfod yn amlwg. Crybwyllasom yn hanes Pwllheli, fod Mr. Jeffrey Parry yn swyddog yn myddin Cromwell, ac yn bregethwr Ymneillduol, a sefydlodd trwy briodas, fel yr ymddengys, yn y wlad hon. Yr ydym eisioes wedi gweled ei enw fel un o'r tystion o ddieuogrwydd Mr. John Williams yn ngwyneb y cyhuddiadau maleisus a ddygid i'w erbyn. Ymddengys mai un o feibion ieuengaf Mr. Parry, o Posten, sir Henffordd, ydoedd. Yr oedd yn filwriad ar gatrawd o feirch-filwyr yn myddin Cromwell. Daeth i sir Gaernarfon a phriododd ferch ac etifeddes Hugh Hughes, o Gefnllanfair; a thrwy y briodas daeth i berchenogaeth Rhydolion, Wernfawr, a Chefnllanfair. Bu iddo fab, yr hwn a alwyd yn Love Parry, ac y mae yr enw hwnw wedi treiglo i lawr i'w ddisgynyddion, ac yn cael ei gadw gan Mr. Jones-Parry, marchog presenol sir Gaernarfon, yn y chweched genhedlaeth. Yn Rhydolion y bu Jeffrey Parry yn byw, a dywedir fod ei hen bulpud yno i'w weled yn amser Ieuan Lleyn; ac oddiwrth lythyr y Cadfridog John Jones at geidwad Castell Beaumaris, o'r hwn yr ydym eisioes wedi difynu, y mae yn hawdd gweled fod Jeffrey Parry yn wr crefyddol. Yr oedd y Cadfridog Jones yn enedigol o Faesygarnedd, yn sir Feirionydd, a chyfododd o sefyllfa isel i enwogrwydd mawr. Yr oedd yn Annibynwr o'r fath fanylaf, ac y mae yn rhaid fod ganddo ymddiried mawr yn Jeffrey Parry, fel gwr crefyddol, cyn y buasai yn gadael iddo i ranu yr arian a anfonai rhwng y rhai oedd "yn rhodio yn nghymdeithas yr efengyl" yn y sir, fel y barnai oreu. Mae yn debyg ei fod ef yn un o brif gynorthwywyr yr eglwys yn sir Gaernarfon yn yr adeg erledigaethus arni. Nid oes genym wybodaeth pa bryd y cyfaddaswyd ystafell wrth Ty-helyg at addoli, yr hwn ar ol hyny a alwyd y Capel-helyg. Nid yw yr enw i'w gael yn mysg y lleoedd a gofrestrwyd yn 1672, pan y caniataodd y brenin radd o ryddid. Gallwn gasglu yn lled sicr nad oedd yr ystafell wedi ei neillduo yn 1675, pan ysgrifenodd Mr. Henry Maurice at Mr. Terril, oblegid pe buasai gan y gynnulleidfa le sefydlog i gyfarfod, ni buasai angen dyweyd ei bod "yn cyfarfod yn gyffredin yn Llanarmon a Llangybi." Y casgliad naturiol ydyw ei bod y pryd hwnw heb babell sefydlog i wneyd ei chartref, ac mai wedi cael cysgod Deddf Goddefiad yr adeiladwyd yr ystafell wrth amaethdy Ty-helyg, fel yr adnabyddid ef yn nghofrestr y plwyf hyd y flwyddyn 1732, ac ni cheir yr enw Capel-helyg arno cyn y flwyddyn 1745.* Nid oedd y capel cyntaf ond ystafell fechan with gefn y ty, yn mesur tua phum' llath a haner wrth bedair llath, ond yr oedd cael y lle fel yr ydoedd yn gaffaeliad gwerthfawr yn y dyddiau hyny, a buwyd yn addoli yma am dymor maith. Gellir meddwl i'r ystafell hon gael ei rhoddi am byth at wasanaeth yr achos yn y lle gan ryw gymwynaswr caredig nad yw ei enw wedi treiglo hyd atom ni, a dywedir fod yn perthyn iddi gwpan a dysgl arian wedi eu rhoddi at wasanaeth y cymundeb, a bod yma "ystafell y prophwyd" wedi ei threfnu gyda gwely, a bwrdd, ac ystol, er cyfleusdra y pregethwyr a ddeuai heibio, ond y mae y cwbl wedi myned ar goll er's llawer o amser. Tynwyd y mur ceryg oedd rhwng yr ystafell a'r ty i lawr mewn adeg ddiweddarach, fel y gellid gwneyd defnydd o'r ty hefyd at wasanaeth crefyddol, pan fyddai hyny yn angenrheidiol.
* Dysgedydd, 1862. Tu dal. 190. " Hanes eglwys Capel-helyg."
189
Mewn "amseroedd blinion yr adeiladwyd y mur" yma, a thrwy "ymdrech mawr o helbulon" y gweithiodd yr "ychydig enwau" oedd yn y lle eu ffordd yn mlaen, nes y cafwyd ychydig seibiant dan aden Deddf Goddefiad. Dywed Robert Jones, awdwr Drych yr Amseroedd, am yr erlidiau creulawn a ddyoddefasant: - "Byddai gorfod arnynt yn fynych gadw eu cyfarfodydd yn y nos rhag cael eu haflonyddu gan yr erlidwyr. Anmherchid eu cyrph yn greulon, a llunid aneirif gelwyddau am danynt. Taflwyd rhyw nifer o honynt i garchar, yn nghyd a chymeryd eu meddianau. Ffiniwyd y Capel-helyg, yn mhlwyf Llangybi, ddwywaith i haner can' punt bob tro, a thalwyd y cyfan gan ychydig o bersonau ag oeddynt yn caru achos eu Harglwydd. Yr oedd yn yr amseroedd hyny wr tra chreulon yn byw yn y Plasnewydd, gerllaw Llandwrog, a elwid Hwlcyn Llwyd, ac o ran ei swydd yn ustus heddwch,* Anfonodd i ran o'r wlad a elwir Eifionydd, (ddeg neu bymtheng milldir o ffordd), i ruthro ar y trueiniaid gwirion heb un achos, ond eu bod yn addoli Duw, gan eu harwain, fel defaid i'r lladdfa, at balas yr ustus creulon, a'u dodi mewn dalfa o'r boreu hyd brydnawn. Digwyddodd i un o weision yr ustus ddyfod i'w gweled; atolygasant ar hwnw i fod mor garedig a myned drostynt at ei feistr, a dangos iddo nad oeddynt hwy yn gwrthod myned i garchar os oedd y gyfraith yn gofyn hyny, ond nad oedd un gyfraith i'w cadw yno i lewygu o newyn. Bu y gwas mor dirion a gwneyd eu harchiad; ond yn y fan, tra yr oedd y dyn yn dyweyd drostynt, ffromodd yr hen lew creulon yn erchyll, a dechreuodd ymwylltio, anmhwyllo, ac ymgynddeiriogi, nes y trengodd yn ddisymwyth yn farw yn y fan, a chafodd y praidd diniwed fyned yn rhydd o'r gwarchau, a dychwelyd yn siriol at eu teuluoedd mewn diolchgarwch." +
Llawer dyfais a wnaed gan y ffyddloniaid hyn i gyfarfod a'u gilydd er gwaethaf cynddaredd yr erledigaeth. Dyma un cynllun y cyfeiria awdwr y traethawd yn y Dysgedydd ato: - " Er mwyn gochel grym y gyfraith orthrymus hon, gwnaed dirgelfa yn Nghae'rtyddyn i'r eglwys ymgynnull iddi. Ty tô gwellt, a'r bargod yn ei gefn yn un a'r ddaear, oedd hen dy Cae'rtyddyn. Gwnaed rhyw fath o daflod uwchben y siamber ar ran o'r
* Mae gan y diweddar Eben Fardd sylw mewn beirniadaeth o'i eiddo ar draethawd ar "Hanes eglwys Capel-helyg," sydd yn werth ei osod ar gof a chadw. Cyhoeddwyd y traethawd hwnw mewn amryw rifynau o'r Dysgedydd am 1862. Dengys y traethawd of llafur dirfawr, ac y mae ynddo lawer o bethau o werth hanesyddol na buont yn gyhoeddedig o'r blaen; ac y mae ynddo rai camgymeriadau pwysig, y rhai a wneir gan yr awdwr wrth ddilyn eraill. Ceir yn nglyn ag ef ddau ddifyniad o feirniadaeth Eben Fardd, y rhai a ddengys fod Eben yn hynafiaethydd craff ac ymchwilgar yn gystal ag yn fardd. Dyma un o honynt yn nglyn a'r crybwylliad am yr ynad o'r Plasnewydd: - "Efallai y caniateir i mi sylwi fy mod yn methu a chael boddlonrwydd am enw yr ustus a ddywedir oedd yn byw yn Plasnewydd, Llandwrog, pan ffiniwyd y Capel-helyg, ac y dygwyd rhai o'r aelodau o'i flaen i'w cosbi am eu crefydd; gelwir ef Hwlcyn Llwyd; nis gellais i weled dim un o'r enw yn mysg achau Glynllifon a'u canghenau teuluaidd, ond yr Hwlcyn Llwyd oedd yn cadw Castell Caernarfon yn amser Owain Glyndwr, tua'r flwyddyn 1400, uwchlaw dau-cant-a-haner o flynyddoedd cyn yr amser y ffiniwyd Capel-helyg. Mae yn wir mai o'r Hwlcyn hwn yr oedd cangen y Plasnewydd yn deillio, ond Thomas Glynne oedd y penteulu yno tua'r amser y cyfeirir ato. Yr oedd yn sirydd Caernarfon y n 1627, a bu farw yn 1659. Enw ei fab oedd Griffith Glynne, a darfu y teulu o gylch yr amser yma trwy i'r etifeddiaeth "fyned ar y cogail," fel y byddai yr hen Gymry yn arfer dyweyd, hyny yw, disgyn i etifeddesau. Nid wyf yn amheu gwirionedd yr hanes am ffinio y Capel-helyg a dal aelodau yr eglwys a'u dwyn gerbron ryw ynad, fel y nodir, ond am gywirdeb enw yr ynad, yr wyf yn petruso ." - Dysgedydd, 1862. Tu dal. 270.
+Drych yr Amseroedd Tu dal. 11 a 12.
190
ty, a thorwyd twll yn y tô yn nghefn y ty i fyned i'r ardd, trwy yr hwn y gallasai yr addolwyr ymwthio allan pe buasai i'r erlidwyr ddyfod i'r ty. Yr oedd y twll wedi ei gau gyda swp o wellt yn y fath fodd fel na wyddai neb oddiallan fod yno un. Elid i fyny iddi gydag ysgol, yr hon a dynid i fyny wedi i'r cyfeillion ymgynnull yn nghyd."
Ond daliodd yr eglwys yma ei thir er yr holl ystormydd, ac er nad oedd nifer yr aelodau ond ychydig, etto ni ddiffoddodd lamp Duw yn y lle. Bu yma rai personau o gryn enwogrwydd yn perthyn iddi yn ngwahanol gyfnodau ei hanes. Ryw bryd yn nhymor gweinidogaeth Mr. Daniel Phillips y daeth Francis Evans at grefydd, yr hwn a fu yn gristion gloyw, ac yn addurn i'w broffes. Ei weled ef yn darllen ac yn gweddio gyda'i deulu, a ddihunodd gydwybod William Pritchard, Glasfrynfawr, yr hwn a fu yn grefyddwr disglaer trwy ei oes. Ymddengys y byddai y tri brawd y cyfeiriasom atynt yn hanes Rhosymeirch, Howell, Harri, a Thomas, meibion Thomas Pritchard, Tygwyn, gerllaw Llangefni, yn arfer cyrchu yma mor foreu a'r flwyddyn 1730, os nad cyn hyny; a thrwyddynt hwy yr arweiniwyd William Pritchard i fyw i Blas Penmynydd, Mon. Mewn adeg ddiweddarach arferai dau ni dri ddyfod yma o Lanberis i gymundeb agos bob mis. Dywedai Dorothy Jones, Brynglas, Llanberis, wrth Mr. R. P. Griffiths, ddeugain mlynedd yn ol, yr arferai hi pan yn ieuangc ddyfod yr holl ffordd oddiyno yma i gymundeb, ac yr oedd hi ddeugain mlynedd yn ol yn bedwar-ugain-a-phedair-ar-ddeg, fel y gall fod mwy na chan' mlynedd er yr arferai hi gyrchu yma. Ni byddai gweinidog Pwllheli yn dyfod yma ond unwaith yn y mis i bregethu, ac i Bwllheli y disgwylid i bawb ddyfod i gael eu derbyn yn aelodau. Nid oedd nifer yr aelodau yma ond ychydig wedi cyfnod hir, ond yr oedd y maes yn cael ei esgeuluso oblegid y disgwylid i bawb fyned i Bwllheli, ond y boreu Sabboth y ceid pregeth yma. Dywedir nad oedd rhifedi yr aelodau yn 1789, pan sefydlodd Mr. B. Jones yma, ond tri-ar-ddeg, ac ychwanegir, nad oes sicrwydd am fwy na thri-ar-ddeg a ymunodd a'r eglwys yn ystod y saith-mlynedd-ar-hugain y bu cysylltiad rhyngddo a'r lle. Nid oedd etto yr un capel newydd wedi ei godi yma, ond parheid i addoli yn yr hen ystafell lle yr oeddynt wedi bod cyhyd, a'r hon bellach a adnabyddid trwy y wlad fel Capel-helyg. Ond teimlid anfantais o eisiau lle mwy cyfleus i addoli, ac aeth dau gyfaill selog at oruchwyliwr Syr Thomas Mostyn i ofyn am dir i adeiladu capel, yr hyn a ganiatawyd iddynt yn rhwydd, a rhoddodd iddynt gerig at ei godi, ac yn ychwanegol at hyny, rhoddodd bulpud a meingciau hen gapel eglwysig oedd ar yr ystad, o'r enw Capel-gallt-coed. Bu yr ardalwyr yn garedig mewn cludo defnyddiau, a chyfranu ychydig arian. Adeiladwyd ef yn 1814, pryd y symudwyd o'r hen ystafell iddo.
Y flwyddyn ganlynol rhoddodd Mr. Jones, Pwllheli, ofal y lle i fyny, ac felly datodwyd yr hen gysylltiad oedd wedi parhau er dechreuad yr achos. Yr oedd achos erbyn hyn wedi ei sefydlu yn Rhoslan, ac anogid y ddau le i uno a'u gilydd yn un weinidogaeth. Rhoddwyd galwad i Mr. Edward Davies, o Lanrhiadr-yn-mochnant, ac urddwyd ef i'r weinidogaeth yn Rhoslan, Medi 26ain, 1816. Nid oedd yma ond pedwar-ar-ddeg o aelodau pan sefydlodd Mr. Davies yn weinidog, a phedwar o'r rhai hyny uwchlaw pedwar ugain oed, ac un o honynt yn ddall, ac nid oedd ond dau o honynt a weddiai yn gyhoeddus mewn cynnulleidfa, sef David Jones, Brynllefrith, ac Owen Morris, Sarnycorddi; ond llafuriodd Mr. Davies yma yn ddiwyd heb ddigaloni er mor isel yr ymddangosai pethau. Yn y
191
flwyddyn 1821, pan oedd Mr. Davies oddicartref, bu farw O. Morris, a chladdwyd ef yn mynwent Pwllheli. Teimlodd Mr. Davies yn fawr pan glywodd, a'r peth cyntaf a ofynodd oedd, "Pwy a weddia trosof bellach?" Yr oedd yr hen bregethwr cynes John Thomas, Glynarthen, yn pregethu yma y noson hono, a chyn diwedd yr oedfa, torodd diwygiad nerthol allan, fel y dwysbigwyd llawer yn eu calonau. Ychwanegwyd deg-ar-hugain at yr eglwys fechan, a chafodd Mr. Davies lawer i weddio drosto yn lle yr un a gollodd. Yn fuan ar ol y diwygiad derbyniodd Mr. Davies alwad o Maentwrog a Thrawsfynydd, a symudodd yno yn Ebrill, 1822. Cyn pen dwy flynedd rhoddwyd galwad i Mr. Evan Rowlands, myfyriwr o athrofa Neuaddlwyd, i fod yn weinidog i'r ddwy eglwys, ac urddwyd ef yma Ebrill 8fed, 1824. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Griffiths, Talysarn; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Lewis, Pwllheli; offrymwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. T. Phillips, Neuaddlwyd, ac i'r eglwysi gan Mr. E. Davies, Penstryd. Bu Mr. Rowlands yma yn llafurio yn ddiwyd am bum' mlynedd, ond heb lwyddiant nodedig ar ei weinidogaeth. Yr oedd yn drai ar ol llanw y diwygiad. Symudodd i Ebenezer, Pontypool, lle y treuliodd weddill ei oes. Wedi ei ymadawiad torwyd y cysylltiad rhwng Capel-helyg a Rhoslan, ac unodd yr eglwys hon a'r eglwysi yn Llanaelhaiarn, Sardis, a Chwilog i roddi galwad i Mr. David Price, gwr ieuangc o Ebenezer, Llanddeiniolen. Urddwyd ef yma Hydref 30ain, 1829. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Griffiths, Talysarn; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Davies, Nefyn; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Hughes, Saron; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Griffith, Bethel, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. R. Owen, Llanengan. Yr oedd Mr. Price o ddawn poblogaidd, ac o dymer ennillgar, a daeth y gwrandawiad yn lluosocach yma nac yn unrhyw adeg flaenorol, ond digynydd hollol fu yr eglwys. Dywedir na dderbyniwyd yma ond dau am yr un-mlynedd-ar-ddeg cyntaf ar ol y diwygiad a fu yma yn y flwyddyn 1821, ac i'r ddau hyny wrthgilio! Blwyddyn a haner y bu Mr. Price yma. Symudodd i Ben-y-bont-fawr yn niwedd y flwyddyn 1830, lle cyrhaeddodd boblogrwydd nodedig fel pregethwr. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn wedi ymadawiad Mr. Price, rhoddodd yr eglwys yma, a Sardis, a Chwilog alwad i Mr. James Jones, myfyriwr o athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yma Hydref 4ydd, 1832. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Griffith, Abererch; holwyd y gweinidog gan Mr. R. Owen, Llanengan; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Davies, Ffestiniog; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Davies, Nefyn, ac i'r eglwys gan Mr. D. Griffith, Bethel. Yr oedd yr achos wedi disgyn yn bur isel pan ddechreuodd Mr. Jones ei weinidogaeth yma. Nid oedd yma ond tri-ar-hugain o aelodau, ond siriolodd yr achos yn fuan. Cyn pen chwe' mis yr oedd nifer yr aelodau wedi dyblu, a bu gweinidogaeth Mr. Jones yn fwy llwyddianus i luosogi yr eglwys na neb o'i ragflaenoriaid. Yr oedd yma ddyled ar y capel pan y sefydlodd yn y lle, ond llwyddwyd trwy gydymdrech i ddileu hono, ac yn y flwyddyn 1834, adeiladwyd yma gapel newydd hardd a chyfleus, yr hwn a gostiodd fwy na 180p., a gwnaed cryn ymdrech ar y pryd i gasglu gan yr eglwys a'r gynnulleidfa. Cafwyd yma adfywiad grymus yn y flwyddyn 1839, a'r flwyddyn ganlynol, ac yn ystod dwy flynedd derbyniwyd uwchlaw haner cant o aelodau newyddion. Yn mhen amser ar ol hyn, daeth rhyw annghydwelediad i mewn i fysg rhai o
192
weinidogion y sir, ac yn anffodus aeth rhai yn yr eglwys hon i ymyraeth a'r cweryl, rhai i gymeryd ochr y naill, ac eraill i gymeryd ochr y lleill, a'r canlyniad fu i'r eglwys ymranu, ac i nifer o'r aelodau fyned allan, a buont am dymor yn cynal moddion ar wahan, a Mr. R. P. Griffiths, a rhai eraill o weinidogion a phregethwyr y sir, yn pregethu iddynt. Parodd yr amgylchiad yma lawer o flinder, a diau y gallesid ei ysgoi pe gwrandewsid ar gyngor y gwr doeth, i beidio "ymyraeth a chynen wrth fyned heibio." Ond daeth y pleidiau cyn hir at eu gilydd, a chyfanwyd y rhwyg, ond nid heb i'r achos ddyoddef i fesur ar y pryd, ond y mae teimladau erbyn hyn wedi eu llwyr iachau. Cyn diwedd y flwyddyn 1844, derbyniodd Mr. Jones alwad o Abermaw, a symudodd yno. Bu yr eglwys ar ol hyny ysbaid tair blynedd heb weinidog, ond yr adeg hono ni bu yn segur a ddiffrwyth. Prynwyd y tir o dan y capel i fod yn rhydd-feddiant i'r eglwys, a thalwyd am dano. Yn nechreu Mai, 1848, cymerodd Mr. Thomas Griffiths, yr hwn a fuasai unwaith yn weinidog yn Rhydlydan, sir Ddinbych, ofal yr eglwys, a bu yma yn dderbyniol a llwyddianus am ddwy flynedd, ac yna symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Rhoslan, Tabor, a Llanystumdwy. Wedi bod ddwy flynedd heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. Hugh Hughes (Tegai), a bu ef yma o fis Mawrth, 1853, hyd fis Mai, 1857. Er na bu llwyddiant mawr ar ei weinidogaeth, etto parhaodd yr eglwys mewn ysbryd gweithio. Adgyweiriwyd y capel, a phrynodd dri-chwarter erw o dir at fynwent. Yn Mehefin, 1859, rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, Brynllefrith, aelod o'r eglwys, a mab i un o'r hen ddiaconiaid, i fod yn weinidog. Urddwyd ef y dydd cyntaf o fis Gorphenaf ar ol hyny, ac y mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth a pharch. Edrychodd yr eglwys iddi ei hun am un i'w bugeilio, fel y mae ganddi "arweinydd o'r meibion a fagodd;" ac ynddi hi y cyflawnir yr addewid, "A'u pendefigion fydd o honynt eu hun, a'u llywiawdwyr a ddaw allan o'u mysg eu hunain." Talwyd holl ddyled y capel yn y flwyddyn 1868, ond teimlir fod angen am gapel newydd yma. Mae yr achos yn dal ei dir, ac yn ychwanegu cryfder yn raddol, ond y mae cynifer o ganghenau wedi myned allan oddiyma, ac nid yw poblogaeth yr ardal yn lluosog, fel nas gellir disgwyl yma gynnulleidfa luosog.
Heblaw y rhai y crybwyllasom eu henwau eisioes yn hanes yr eglwys, pan oedd mewn cysylltiad a Phwllheli, codwyd yma ddau bregethwr, sef Robert Jones, Cae'rmab, yr hwn sydd yn parhau yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys, a David Jones, y gweinidog presenol; ac y mae yn dda genym ddeall fod yr achos yma, ar ol treigliad mwy na dau can' mlynedd arno, yn dwyn arwyddion amlwg fod yr "amddiffyn ar yr holl ogoniant."
(Llanarmon parish)
Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanarmon, o fewn dwy filldir i Gapel-helyg. Bu pregethu achlysurol dros amryw flynyddoedd mewn ty yr ochr arall i bentref Chwilog, a elwid Adwy-y-gwter, gerllaw Afonwen. Enw y preswylydd oedd Gabriel Roberts, ond adwaenid ei wraig fel Catrin Jones. Yr oedd hi yn aelod yn Nghapel-helyg. Y Methodistiaid Calfinaidd oedd y rhai a bregethasant gyntaf yno, ond symudasant hwy i gyfeiriad Llanystumdwy, a chychwynasant achos yn y Bontfechan. Gwahoddwyd Mr. B. Jones, Pwllheli, i ddyfod i roddi ambell bregeth yn achlysurol yn nhy
193
Gabriel Roberts, ond yr oedd mor gaeth i'w gylch cartrefol fel mai anfynych y gallai fyned yno.
"Y mae yr adroddiad am ddechreuad yr achos Annibynol yn Chwilog yn ein dwyn i gysylltiad ag enw un o ddynion hynotaf ei oes, sef John Thomas, Chwilog, neu Sion Wyn o Eifion. Gwelir yr enw yn britho dalenau y cyfrolau cyntaf o'r Seren Gomer a'r Dysgedydd. Y mae nai yr hen fardd - y Parch. W. Jones, Porthmadog - wedi cyhoeddi cyfrol ddestlus, yn cynwys bywgraphiad o hono, a chasgliad o'i gyfansoddiadau, &c. Yr ydym yn teimlo nas gellir ysgrifenu hanes yr achos crefyddol yn Chwilog, heb ddwyn i mewn hanes un a roes enw i'r lle, ac a fu yn foddion i agor drws i'r arch Gynnulleidfaol.
Hir y cofir patriarch Chwilog,
Un o wir anwyliaid nef;
Collwyd oracl y gymydogaeth
Yn y dydd y collwyd ef:
Wedi claddu cenedlaethau,
Son am dano fydd drwy'r tir,
Ar dafodau traddodiadau
Bydd ei hanes yn byw'n hir.
"Ganwyd John Thomas yn y flwyddyn 1786, yn y ty lle y treuliodd ac y diweddodd ei oes, sef Tynewydd, Chwilog. Clywsom hen bobl, a'i hadwaenent ef o'i febyd, yn dyweyd fod rhyw brydferthwch a hawddgarwch yn mhell tuhwnt i'r cyffredin yn addurno ei wynebpryd. Ond wedi cael un-mlynedd-ar-bymtheg o iechyd a hoewder, daeth cyfnewidiad rhyfedd drosto, yr hyn a barodd iddo dreulio oes faith rhwng erchwynion ei wely. Ar ddiwrnod oer yn niwedd y flwyddyn 1800, aeth i roddi tro i lan y mor yn nghwmni un o'i gyfoedion. Ymdrodd yn rhy hir ar y traeth, ymaflodd awel oer y ddechreunos yn ei gyfansoddiad gyda'r fath lymder, fel y bu raid i'w gyfaill ei gario adref. Yn agos i'r man lle y saif station yr Afonwen yr oedd yn ymddifyru pan y troes y fantol ar ei gyfansoddiad, ac y trawrffurfiwyd y llangc cadarn yn eiddilyn efrydd dros weddill ei oes. Wedi ei ddwyn adref o lan y mor, ymaflodd llycheden angerddol ynddo; ac er na bu y clefyd hwnw i farwolaeth, gadawodd y llangc, druan, yn dra dinerth. Yn ystod yr wyth mlynedd dilynol, ni fwytaodd damaid o fara na chig--ar bosel yn unig y dibynai am gynaliaeth! Yn y flwyddyn 1810, cymerwyd ef drachefn gan glefyd poeth. Ychydig iawn oedd gobaith ei gyfeillion na'r meddygon am ei adferiad y tro hwnw; ond yr oedd gan Ragluniaeth ei bwriadau mewn perthynas i John Thomas. Nid oedd yr un clefyd a allasai ddryllio y 'llestr etholedig ' nes iddo orphen ei wasanaeth. Adferwyd ef, ac yr oedd ar ol yr ail wellâd hwnw yn gryfach nag o'r blaen; a daeth yn alluog i gymeryd ychydig o fara, a rhyw bethau eraill, nad oedd yn alluog i'w defnyddio yn ymborth cyn hyny. Bu marwolaeth ei rieni yn ergyd drom iddo. Yr oedd ei serch at ei fam bron yn ddiarebol. Nid oedd ganddo ef, druan, allu i fyned o amgylch i ysgwyd ymaith y gofid, drwy ymgymysgu â'r byd. Yno, mewn unigedd, y gorweddai, a 'gruddfanai megis colomen' am yr hon a fu yn gweini mor dyner iddo. Wedi iddo dreulio dwy-flynedd-ar-hugain ar ei wely, daeth yn alluog i godi a myned ychydig o amgylch. Galwyd sylw y cyhoedd ato drwy ymdrechiadau y gwr anrhydeddus sydd yn awr yn aelod dros sir Feirionydd yn y Senedd.* Pwrcaswyd cerbyd bychan, prydferth, a chyf-
* D. Williams, Ysw., Castelldeudraeth.
194
leus iddo; a daeth yn alluog i gymeryd teithiau byrion i weled ei gyfeillion a'u preswylfodau. Bu yn Nhremadog, Porthmadog, Pwllheli, Clynnog, Gaerwen, Bettwsfawr, &c. Cyfansoddodd Gywydd diolch i'w gymwynaswyr lluosog, am eu cydymdeimlad a'u cymhorth, yn yr hwn y mae yn darlunio ei deimladau yn effeithiol wrth gael golwg newydd ar natur. Gwelwyd ef mewn llawer o gyfarfodydd crefyddol cyhoeddus, a byddai yn alluog i gadw ei gydgynnulliad bron yn ddieithriad. Bu farw Gorphenaf 8fed, 1859, a chladdwyd ef y Mercher canlynol yn mynwent Penlan, Pwllheli.
" Wedi rhoddi brasddarluniad o amgylchiadau bywyd y brawd anwyl John Thomas, rhaid i ni gael goddefiad i ychwanegu am neillduolion eraill drwy ba rai y daeth i sylw y byd. Nid bod yn orweiddiog heb fwyta bara a'i gwnaeth yn Sion Wyn o Eifion, ond neillduolion llawer uwch. Dywed ei fywgraphydd,"Ceir hanes am lawer yn ymdrechwyr glew am ddysgeidiaeth, yn wyneb anhawsderau a thlodi; ond anaml y bu neb dan gymaint o anfanteision a'r athrylithgar John Thomas.' Y peth cyntaf a hudodd ei fryd oedd rheolau barddoniaeth, neu yn hytrach, deddfau cynghanedd D. ab Edmwnd. Cyfansoddodd ddarnau cywir cyn bod yn ddwy-ar-bymtheg oed. Dechreuodd efrydu yr iaith Seisnig tua'r flwyddyn 1805, heb gymorth athraw na neb i'w gyfarwyddo. Hen forwr yn dygwydd dyfod heibio ar dro oedd y cyntaf a roes gyfleusdra iddo siarad yr iaith! Gollynged y darllenydd ei ddychymyg - portreaded iddo ei hun fachgen ieuangc cystuddiedig, heb allu symud o'i orweddle, heb glywed un iaith ond iaith ei fam, yn dechreu astudio estroniaith ddyrus heb gymhorth dysgedydd. Ond llwyddo a wnaeth mor bell a dyfod i ddeall yr iaith. Rhoes y wybodaeth hono yr allwedd yn ei law i fyned i mewn i drysorau y newyddiaduron, y misolion, &c., y rhai erbyn hyny a anfonwyd iddo o'r palasau cymydogol, ac a ddarllenwyd ganddo gydag awydd angerddol. Y mae ei lythyrau a'i ddarnau barddonol yn dangos ei fod wedi gorchfygu y rhwystrau.
"Ond nid ymfoddlonodd ar fod yn deall Cymraeg a Saesonaeg yn unig, mynodd hefyd ddysgu y Lladinaeg, y Groeg, a'r Ffrangcaeg yn weddol. Efrydodd rifyddiaeth yn ei holl ganghenau; ond Algebra a roddodd fwyaf o hyfrydwch iddo. Astudiodd forwriaeth, daearyddiaeth, seryddiaeth, &a., yn fanwl. Yr oedd yn deall rheolau cerddorddiaeth yn dda; yr oedd hefyd yn ganiedydd per. Yr oedd yn hanesydd rhagorol. Darllenodd holl ddadleuon y Senedd, ac yr oedd dynion cyhoeddus Ewrop mor adnabyddus iddo a'i gymydogion. Adroddai hanes y brwydrau mawrion a gwaedlyd a ymladdwyd yn ei ddydd, yn nghyda'r nifer a laddwyd ar bob tu. Yr oedd pob hysbysiadau o'r fath ar flaenau ei fysedd, fel y dywedir. Nid oedd raid iddo droi dalenau un llyfyr i ateb unrhyw ofyniad. Math o Wyddonadur mewn cnawd oedd John Thomas. Byddwn yn meddwl am dano pan yn troi dalenau yr Enquire within upon every thing.
"Yr oedd y gwely ar yr hwn y gorweddai Sion Wyn am gynifer o flynyddau, yn wrthddrych o ddyddordeb mawr yn y cymydogaethau, ac ni chyfrifid neb wedi ei berffeithio mewn darfreiniad os byddai heb weled y bardd a'i wely. Deuai hefyd lawer o ddyeithriaid i dalu ymweliad iddo. Yr oedd y ddau dalcen, ac un ochr, wedi eu llenwi â llyfrau; ac wrth ei ochr gorweddai offeryn, o'i gynlluniad ef ei hun, gyda'r hwn y gallai estyn unrhyw gyfrol a ewyllysiai ei defnyddio. Yr oedd ganddo astell (desk) fechan yn gorwedd o flaen ei wyneb, yr hon a ddefnyddiai i ddarllen ac
[Last updated: 29 May 2008 - Gareth Hicks]
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark. |