| Caernarfonshire | Contents |
Proof read by Gareth Morgan (May 2008)
Chapels below;
|
|
195
ysgrifenu. Wrth ystyried gwendid ei gorph, ymddengys y peth nesaf i wyrth ei fod wedi ysgrifenu a darllen cymaint.
" Ond er ei holl ragoriaethau fel bardd, hanesydd, ac athronydd, gellir dyweyd heb betrusder fod ei ragoroldeb fel cristion yn llawn cymaint. Y mae ei hanes crefyddol yn ein harwain at ddechreuad yr achos yn Chwilog. Pan oedd tuag ugain oed, teimlai awydd am gael pregethu yn y ty. Bu rhai o'r brodyr Wesleyaidd yno o bryd i bryd, ond y Parch. Benjamin Jones, Pwllheli, a fu yn fwyaf bendithiol iddo. O dan ddylanwad pregethau ac ymddiddanion Mr. Jones, newidiodd ei syniadau am drefn gras, ac ymunodd âr blaid Gynnulleidfaol fel aelod o'r eglwys yn Nghapel-helyg. Yr oedd efe a'i berthynasau mews cryn bryder pan ymunodd â chrefydd, oherwydd ei fod er's wyth mlynedd bellach heb brofi bara, ac ofnent na fedrai ymuno yn weithredol yn y cymundeb; ond pan ddaeth yr adeg, cymerodd o'r bara, bwytaodd ef, ac er syndod i bawb, ni effeithiodd arno fel yr ofnid; ac o'r dydd hwnw allan, gallodd ddefnyddio bara at ei gynaliaeth. Buasai yn dda genym ymdroi uwchben cymeriad John Thomas fel crefyddwr, ond gan mai yr achos yn Chwilog yw testyn ein hysgrif, y cwbl a ddywedwn yw, ei fod yn ymddangos i'r rhai a'i hadwaenent oreu, fel un o'r cymeriadau perffeithiaf a ddaeth o fewn cylch eu sylw. Dysgleiriai y grasusau Cristionogol yn amlwg yn eu holl amrywiaeth yn ei nodweddiad. Bu pregethu rheolaidd yn y ty am ugain mlynedd. Arferai brodyr o Gapel-helyg ddyfod yno yn fynych i gadw cyfarfodydd i gydweddio, a chynal cyfeillachau crefyddol; a pharhaodd yr hybarch B. Jones i ddyfod yno yn fisol i dori bara tra bu byw. Bu y Parch. James Williams, diweddar o Ty'nycoed, brawd y patriarch o Droedrhiwdalar, yn aros am dymor yn Rhoslan, ond ni ordeiniwyd ef yno. Arweinir ni i gyfeirio ato yn fanylach pan ddelo hanes yr eglwys hono dan sylw. Byddai yn talu ymweliadau mynych a'r Tynewydd, ac yr oedd cyfeillgarwch mawr wedi ei ffurfio rhyngddo a J. Thomas. Gwelsom lygaid yr hen fardd yn llenwi o ddagrau llawer tro wrth son am dano, ac wrth adrodd rhai o'i ymadroddion, a bu symudiad y dyn da hwnw yn ofid maith iddo."*21*
Bu yr eglwys yma mewn undeb a Chapel-helyg, a than yr un weinidogaeth, hyd y flwyddyn 1857, pan y rhoddodd Mr. H. Hughes (Tegai) i fyny ofal yr eglwys yn Nghapel-helyg, ac y cyfyngodd ei lafur i'r eglwys hon ac Abererch, ac y mae y ddwy eglwys yma wedi bod mewn cysylltiad gweinidogaethol er hyny hyd yn awr. Yn y flwyddyn 1861, rhoddwyd galwad i Mr. Edward Morris, Rhosfawr, Mon, a bu yma nes y symudodd i Benrhyndeudraeth yn 1865. Yn mhen dwy flynedd rhoddwyd galwad i Mr. 'William J. Richards, o athrofa y Bala, ac urddwyd ef yma Awst l6eg, 1867. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog; holwyd y gweinidog gan Mr. E. Morris, Penrhyn; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. D. Roberts, Caernarfon; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Peter, Bala, ac i'r eglwysi gan Mr. T. Jones, Tabor. Bu Mr. Richards yma hyd y flwyddyn 1870, pryd y symudodd i Penywern, Dowlais, ac y mae y ddwy eglwys hyd yn hyn heb weinidog.
Am y pum'-mlynedd-ar-hugain cyntaf o'i hanes, cyfarfyddai yr eglwys fechan yn y Tynewydd, preswylfa John Thomas, ond yn fuan wedi sefydhad
*21* Cymerwyd y difyniad helaeth uchod allan o'r Dysgedydd am 1868, tu dal. 125, allan o'r ysgrif ar Chwilog - un o gyfres o ysgrifau a ymddangosodd ar Eglwysi Cymreig Llyn ac Eifionydd, y rhai a barotowyd i'r wasg yn benaf, fel y deallwn, gan Mr. Ambrose, Porthmadog.
196
Mr. James Jones yn y wlad, gwelwyd yr angenrheidrwydd am le mwy cyfleus, ac yr oedd John Thomas erbyn hyn yn abl i fyned allan ychydig. Cafwyd tir gan Syr Love Parry-Jones, A.S., o Fadryn, tad yr aelod anrhydeddus presenol dros y sir, a chymerodd Mr. Jones, y gweinidog, y pen trymaf o'r gwaith gyda chodi y capel, ac agorwyd ef Tachwedd 4ydd a'r 5ed, 1835. Buwyd yn addoli yn y capel hwnw am yn agos i bymtheng. mlynedd-ar-hugain, ond wrth weled y lle yn cynyddu ar ol agoriad y rheilffordd, a'r gynnulleidfa yn lluosogi, penderfynwyd cael capel eangach- Rhoddwyd safle gyfleus i'w godi gan Mr. Jones-Parry, A.S., Madryn, a chodwyd capel hardd a lled helaeth, a thy yn perthyn iddo, a chostiodd yr oll fwy na 700p., ond y mae mwy na haner y ddyled eisioes wedi ei thalu. Agorwyd y capel Gorphenaf 21ain a'r 22ain, 1870, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri T. Rees, D.D., Abertawy; W. Ambrose, Porthmadog; N. Stephens, Liverpool, a T. Davies, Llandilo. Y mae yma amryw o bobl o gryn hynodrwydd wedi bod o bryd i bryd, ac y mae y dylanwad a adawodd John Thomas ar yr ardal wedi gwneyd y bobl yn gyffredinol yn ymchwilgar am wybodaeth. Mae Robert Jones, Chwilog; Dafydd Jones, o'r Garnedd; Cadben Watkin Williams, Tyddynmawr, a Cornelius Jones yn haeddu coffâd fel gwyr rhagorol yn mysg y brodyr.
Ni chyfodwyd yma ond un pregethwr, sef Robert Jones, Tynewydd, ac y mae yntau er's blynyddoedd wedi myned at y Bedyddwyr. Diaconiaid presenol yr eglwys ydynt Richard Owen, Frondeg; Robert Williams, Tyddynmawr, ac Evan Jones, Plas.
Pentref bychan yw hwn, dwy filldir o Bwllheli, ar ffordd Porthmadog. Cafodd y lle ei freintio a moddion crefyddol yn foreu, o herwydd ei safle, rhwng Pwllheli a'r Capel-helyg. Yr oedd amryw o aelodau a gwrandawyr Penlan, Pwllheli, yn byw yn yr ardal, a Mr. Benjamin Jones yn pregethu iddynt yn achlysurol; ac yn amser Mr. T. Lewis, Pwllheli, penderfynwyd cael pregethu rheolaidd yma. Cyhoeddwyd Meistri T. Lewis, ac E. Davies, Rhoslan, i bregethu mewn ty a elwid y Gegin. Daeth tyrfa fawr yn nghyd, ac wrth ddeall fod y ty yn rhy fychan, gwahoddwyd hwy i gapel y Methodistiaid Calfinaidd. Cawsant oedfa neillduol, ac arwyddion amlwg fod Duw gyda hwy. Pregethwyd yn rheolaidd yn y Gegin ar ol hyny, a phenderfynwyd cael capel newydd, a llwyddwyd i'w gael yn benaf trwy ffyddlondeb a medrusrwydd Meistri Robert Jones, Tyddynmeilir, a Nicholas, Tanyrallt. Agorwyd y capel Medi 16eg a'r 17eg, 1822, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Jones, Nebo; W. Jones, Caernarfon; J. Williams, Ffestiniog; D. Griffiths, Talysarn; J. Griffith, Beaumaris; D. Roberts, Pentir; R. Owen, Llanengan, ac O. Jones, Llanaelhaiarn. Galwyd ef Ebenezer, ac o ddydd ei agoriad cadwyd moddion crefyddol ynddo yn rheolaidd. Bu yr achos am dymor o dan ofal gweinidog Pwllheli, a phan gododd anghydfod rhwng Mr. Lewis a'r eglwys yn Penlan, ymlynodd pobl Abererch wrtho. Pan symudodd Mr. Lewis i Llanfairmuallt, cymerwyd gofal yr eglwys hon, mewn cysylltiad a Llanaelhaiarn, gan Mr. J. Griffiths,yr hwn oedd wedi symud o Fanchester i fferm yn agos i Lanor,
197
ond symudodd yn fuan i Rhiadrwy. Bu yr eglwys am dymor heb ofal gweinidog, ond yr oedd Mr. Edward Williams, Pwllheli, yn pregethu yma yn aml, a Mr. R. Ellis, Rhoslan, yn dyfod yma yn fisol. Yn y flwyddyn 1836, sefydlodd Mr. John Morgan yma, ar ol ei ymadawiad o Hebron, Lleyn. Agorodd ysgol ddyddiol yn y capel. Yr oedd yr achos yn wan iawn ar y pryd, ond llwyddodd Mr. Morgan i gasglu cynnulleidfa a chynyddu yr eglwys, ac yn ei amser ef rhoddwyd oriel yn y capel. Symudodd oddiyma i Nefyn yn 1839. Yn fuan ar ol ei ymadawiad, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. W. Evans, o Dolyddelen, ond oedd ar y pryd yn yr ysgol gyda Mr. Griffiths, yn Mhwllheli. Efe oedd y gweinidog cyntaf a urddwyd yn y lle. Cynaliwyd y cyfarfod Mai 25ain, 1841. Traddodwyd araeth. ar natur eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog; holwyd y gweinidog gan Mr. J. Morgan, Nefyn; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Morris, Llanengan; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. R. P. Griffiths, Pwllheli, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. J. Morgan, Nefyn. Llafuriodd Mr. Evans yma am bedair blynedd yn ffyddlon iawn, nes y symudodd i Bodedeyrn, Mon. Wedi ymadawiad Mr. Evans, ymunodd yr eglwys hon ag eglwysi Chwilog a'r Capel-helyg, a rhoddasant alwad i Mr. T. Griffith, Nantglyn, yn y flwyddyn 1848, a bu yma yn llwyddianus iawn am dair blynedd. Yn mis Gorphenaf, 1853, daeth Mr. Hugh Hughes (Tegai) yn weinidog i'r eglwysi unedig. Torodd ei gysylltiad a'r Capel-helyg yn 1857, ond parhaodd i wasanaethu Abererch a Chwilog hyd y flwyddyn 1860, pryd y symudodd i Aberdar. Yn y flwyddyn 1861, rhoddodd eglwysi Abererch a Chwilog alwad i Mr. Edward Morris, Rhosfawr, Mon, ac urddwyd ef Gorphenaf 30ain, y flwyddyn hono. Cymerwyd rhan yn y cyfarfodydd gan Meistri W. Griffith, Caergybi; D. Roberts, Caernarfon; E. J. Evans, Penygroes; E. W. Jones, Talysarn; S. Jones, Penmorfa; D. Jones, Capel-helyg; P. Howells, Pwllheli; J. Jones, Maentwrog, a D. Jones, Abersoch.*22* Llafuriodd Mr. Morris yma yn ddedwydd a llwyddianus am bedair blynedd, nes y symudodd i Penrhyndeudraeth. Wedi ymadawiad Mr. Morris bu yr eglwysi heb weinidog am ddwy flynedd, yna rhoddasant alwad i Mr. W. J. Richards, o athrofa y Bala. Urddwyd ef yn Chwilog Awst 16eg, 1867. Yr oedd capel newydd yn cael ei ail-adeiladu yma pan sefydlwyd Mr. Richards yn y lle. Y mae yn adeilad prydferth. Costiodd dros 400p. Agorwyd ef Mehefin 17eg a'r 18fed, 1868. Bu Mr. Richards yma hyd y flwyddyn 1870, pryd y symudodd i Penywern, Dowlais, ac er hyny y mae yr eglwys heb weinidog.
Cyfrifir Abererch bob amser yn lle hawdd i bregethu, a rhyw "eneiniad oddiwrth y santaidd hwnw" gyda y weinidogaeth, ac arwyddion amlwg fod yma rai mewn cymundeb agos â Duw. Un o'r cyfryw oedd Griffith Japheth, yr hwn a fawr berchid ar gyfrif ei grefyddolder. Bu farw Tachwedd 18fed, 1857, yn 65 oed. Y mae Robert Williams yma yn ddiacon er's 39 mlynedd, a Lowry Williams, ei wraig, ydyw yr aelod hynaf yma yn awr. Yr oedd Mrs. Williams, Gwagynoe, a Mrs. Williams, gwraig Ellis Williams, un o'r diaconiaid yma, yn ffyddlawn yn cynal breichiau y weinidogaeth. Gallesid enwi llawer yn rhagor a fuont yn ffyddlon i gynal yr achos yn y lle, megis teuluoedd Tyddynmeilir, Eisteddfa, Tanyrallt, a'r Gwindy, ac eraill, ond y mae eu llafarus gariad oll mewn coffadwriaeth ger bron Duw.
*22* Dysgedydd,1861. Tu dal 358.
198
(Abererch parish)
Pentref bychan yw hwn yn nghwr uchaf plwyf Abererch. Saif yn y fan y mae y ddwy brif-ffordd - un o Bwllheli i Gaernarfon, a'r llall o Borthmadog i Borth-yn-lleyn - yn croesi eu gilydd; ac oddiwrth hyn y derbyniodd ei enw. Meddyliwyd lawer gwaith, er cyn diwedd y ganrif o'r blaen, am gychwyn achos Annibynol yn y gymydogaeth hon, oblegid fod yr ardal, i raddau yn boblog, ac aelodau perthynol i'r Annibynwyr yn byw yma, a chanddynt gryn bellder i fyned i'r capel Annibynol agosaf. Bu pregethu yn achlysurol yn y gymydogaeth lawer gwaith, ond nid yn rheolaidd nes yr adeiladwyd y capel. Gan fod mwy nag arferol o aelodau perthynol i'r Annibynwyr yn byw yn y gymydogaeth ar ol y diwygiad yn 1859 ac 1860, penderfynodd y tair eglwys agosaf, sef Capel-helyg, Chwilog, ac Abererch, gymeryd y peth at eu hystyriaeth ddifrifolaf. Ymgyfarfu nifer o frodyr o'r tair eglwys a enwyd, a'u gweinidogion, yn nghyda Mr. Ambrose, Porthmadog, yn Chwilog yn Hydref, 1861, i ymgynghori ar y mater, ac ar ol llawer o ymddiddan, holi, ac ymresymu, penderfynwyd yn unfrydol yn wyneb y cymelliadau cryfion a'r anogaethau taer a roddwyd o flaen y cyfarfod i symud yn mlaen. Dewiswyd pwyllgor yn cynwys gweinidogion y tair eglwys, a thri brawd o bob un o honynt, a Mr. Ambrose, Porthmadog. Ceisiwyd prynu hen gapel y Trefnyddion Calfinaidd, oblegid eu bod hwy wedi adeiladu capel newydd ychydig cyn hyny, ond aeth pob ymgais yn ofer. Gwnaed llawer cais am dir i adeiladu capel newydd arno, ond trodd y cyfan yn fethiant nes myned at Mr. Picton-Jones, goruchwyliwr Arglwydd Newborough. Cafwyd lês ganddo ef gyda'r parodrwydd mwyaf, ar ddarn o dir i adeiladu capel a thy yn mhentref Fourcrosses. Gorphenwyd y capel erbyn Hydref, 1864, a chynaliwyd cyfarfod ei agoriad y 26ain a'r 27ain, o'r un mis. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Rowlands, Ceidio; H. E. Thomas, Birkenhead; J. Roberts, Llanerchymedd; E. Stephen, Tanymarian, a D. Roberts, Caernarfon. Galwyd ef Salem. Yr oedd holl draul ei adeiladiad yn 287p. 3s. 31/2c. Talwyd y ddimai olaf o'r ddyled Mehefin 30ain, 1866, yn mhen blwyddyn a saith mis ar ol agoriad yr addoldy. Bu amryw o weinidogion y sir yn ffyddlon yn casglu ato, ac y mae flyddlondeb Mr. Jones, Capel-helyg, a Mr. John Morgan yn haeddu ei goffâu yn arbenig. Ffurfiwyd yr eglwys yn amser agoriad y capel, y rhai oeddynt yn naw o nifer, sef Cornelius Jones, Ffriddlwyd; William Hughes, Penygamfa, a Martha Hughes ei wraig; William Hughes, Fourcrosses; Thomas Evans, Brynygwdyn; Jane Richard, a Sarah Jones, Fourcrosses; Cathrine Thomas, Rhosfawr, a Mary Thomas, Drefain, o'r rhai " y mae rhai yn aros hyd yr awr hon" yn ffyddlon ac ymdrechgar gyda'r achos; " eithr rhai a hunasant," tra y mae eraill wedi symud i eglwysi eraill. Ymunodd rhai o'r newydd a'r eglwys yn fuan ar ol ei sefydliad, a daeth rhai o eglwysi eraill, ond darfu i amgylchiadau eu symud ymaith drachefn. Trwy symudiadau diweddar, cafodd yr eglwys ieuangc hon ei breintio a rhai aelodau gwir ddefnyddiol.
Cynorthwywyd y weinidogaeth yn y lle ar y dechreu gan yr eglwysi cymydogol a enwyd eisioes; ond yn Chwefror, 1868, cymerodd Mr. Jones, Capel-helyg, ofal yr eglwys yn gyflawn, ac y mae yn parhau i weithio yn ddyfal drosti. Yn 1869, adeiladwyd ty bychan destlus mewn cysylltiad a'r capel, ac ailbaentiwyd y capel hefyd, a chwblhawyd y muriau a'r
199
railings o'i amgylch, trwy yr hwn yr aeth yr eglwys i draul ychwanegol o fwy na 129p. Talwyd eisioes o'r swm yna 49p., yn gadael dyled bresenol o 80p. Dymuna yr eglwys a'i gweinidog gael y fraint o gyflwyno eu diolchgarwch diffuant trwy y cyfrwng hwn, am y credant y bydd yn hwy ei barhad nag odid gyfrwng arall ellid gael, i'r holl eglwysi trwy ogledd a deau Cymru, Liverpool, a manau eraill, y rhai a'u cynorthwyasant i symud y baich dyled ymaith. Oni bai yr haelioni mawr a ddangoswyd er symud y ddyled, mae lle i ofni mai wedi llethu yr achos ieuangc hwn buasai yn ei gychwyniad, megis y llethwyd llawer o'i flaen.*23*
Mae gair o grybwylliad yn deilwng i goffadwriaeth Cornelius Jones, yr hwn a gymerodd ddyddordeb mawr yn sefydliad yr achos yma, ac a fu yn anarferol o ffyddlon gydag ef. Yr oedd efe yn wr da, wedi casglu llawer o wybodaeth, ac yn fedrus fel ysgrifenydd. Gwelid ei enw yn aml ar ddalenau y Dysgedydd flynyddau yn ol, a pha beth bynag a all fod ein barn am gywirdeb ei olygiadau ar rai pyngeiau, y mae crefyddolder ei ysbryd yn amlwg i bawb. Bu yn nodedig o weithgar gyda holl ranau yr achos, ac yn enwedig felly gyda'r ysgol Sabbothol; a chofir yn hir ei lafur fel ysgrifenydd cyfarfod chwarterol Lleyn ac Eifionydd. Bu farw yn nechreu y flwyddyn 1872.
Codwyd un brawd ieuangc yn yr eglwys hon i bregethu, sef William Hughes, yr hwn sydd yn parhau i bregethu yn achlysurol.
Dechreuwyd pregethu yma yn gynar yn y ganrif bresenol mewn amaethdy bychan o'r enw Maesyneuadd. Ymddengys i ferch Maesyneuadd fyned i ysgol i Gaernarfon, ac iddi tra yno gael ei hennill at grefydd, a'i derbyn yn aelod. Wedi dychwelyd adref, cymhellodd Mr. J. Griffiths, Caernarfon, i ddyfod yno i bregethu, ac felly fu, a dyna ddechreuad yr achos Annibynol yn y lle. Priododd Sydney, merch Maesyneuadd, ag un Owen Jones, a derbyniwyd yntau hefyd yn aelod yn Nghaernarfon, a mynych y cyrchent yno. Cafwyd moddion yn fwy rheolaidd yn Maesyneuadd, a chynorthwyid Mr. Griffiths, Caernarfon, gan Mr. W. Hughes, Brynbeddau. Nid oedd Owen Jones, Maesyneuadd, ond dyn anllythyrenog, heb feddu ond ychydig wybodaeth, ond yr oedd ganddo ddawn gweddi nodedig. Yr oedd Sydney Jones, o'r ochr arall, yn wraig wybodus, yn mhell felly uwchlaw y cyffredin yn ei hoes, a byddai yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddi a'r cyfeillachau. Daliodd y ddau yn ffyddlon hyd y diwedd. Yn y flwyddyn 1812, cafwyd prydles ar ddarn o dir Maesyneuadd gan Mrs. Edwards, Nanhoron, ac adeiladwyd capel arno, yr hwn a alwyd yn Bethehem. Wedi bod am rai blynyddau yn dibynu ar gynorthwy gweinidogion a phregethwyr y sir, rhoddwyd galwad i Mr. Owen Jones, o Golwyn, ond a fuasai am dymor yn Ffestiniog yn pregethu ac yn cadw ysgol. Daeth yma tua'r fiwyddyn 1819, ac urddwyd ef i'r weinidogaeth. Yr oedd yr eglwys fechan wedi casglu deg punt at ei gyflog y flwyddyn gyntaf cyn iddo ddyfod yma. Bu yma gryn ychwanegiad ar ei ddyfodiad. Yr oedd yn bregethwr doniol iawn. Yr ydym wedi cyfarfod a'i enw amryw weithiau o'r blaen mewn gwahanol fanau. Bu yma hyd y fiwyddyn 1823,
*23* Llythyr Mr. D. Jones, Capel-helyg.
200
pryd y symudodd i Lanerchymedd. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. Jonathan Davies, aelod o Lanybri, sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef Ionawr 15fed, 1824. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Jones, Caernarfon; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Hughes, Saron; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Griffith, Talysarn; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. A. Jones, Bangor, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Griffith, Bethel.*24* Dechreuodd Mr. Davies ei weinidogaeth yn llewyrchus. Casglodd 100p. er talu y ddyled oedd ar y capel, ond yn fuan daeth cwmwl drosto, a darfu ei gysylltiad gweinidogaethol a'r eglwys. Wedi hyny bu yr eglwys yma yn hir heb weinidogaeth sefydlog. Bu y gofal ar Mr. D. Price am y tymor byr y bu yn Capel-helyg, ac wedi hyny ar Mr. J. Griffith, mewn cysylltiad ag Abererch, dros yr ysbaid y bu yn y wlad yma, wedi ei ymadawiad â Manchester, hyd ei sefydliad yn Rhiadrwy.
Yn y flwyddyn 1860, rhoddwyd galwad i Mr. Edward James, Caergybi, ond a fuasai am flwyddyn cyn hyny mewn lle a elwir Gorseddau, heb fod yn mhell o Benmorfa. Agorwyd gwaith llechi yn yr ardal, a bu y lle unwaith yn debyg o fod yn boblog iawn. Yr oedd gan Mr. James eglwys dan ei ofal yno yn rhifo haner cant o aelodau; ond dyrysodd y gwaith, a gwasgarwyd yr holl bobl. Llafuriodd Mr. James yma am flwyddyn cyn ei urddo, ac urddwyd ef Awst 1af, 1861. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. P. Howell, Pwllheli; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Edwards, Ebenezer; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Jones, Maentwrog; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Griffith, Caergybi, ac i'r eglwys gan Mr. D. Roberts, Caernarfon.#3# Bu Mr. James yma yn ddefnyddiol a pharchus am ddeuddeng mlynedd, hyd nes y symudodd yn Awst, 1872, i Nefyn a'r Morfa. Mae poblogaeth y lle yma yn cynyddu yn fawr, fel y mae rhagolygon addawus o flaen yr achos.
JOHNATHAN DAVIES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1793, yn Llanybri, yn sir Gaerfyrddin. Derbyniwyd ef at grefydd pan yn ieuangc, ac wedi pregethu rhai blynyddoedd, daeth i sir Gaernarfon, a derbyniodd alwad gan yr eglwys. fechan yn Llanaelhaiarn, ac urddwyd ef yno yn Ionawr, 1824. Yr oedd ei olwg yn sicr o dynu sylw, oblegid yr oedd un llygad iddo yn llai o lawer na'r llall. Meddai ar ddawn rhwydd i bregethu, ac adroddai hanesion y Bibl gyda llawer o ddyddordeb i wrandawyr cyffredin. Cychwynodd yn addawus iawn, ond gwyrodd oddiar ei lwybr, yr hyn a'i hataliodd yn y weinidogaeth. Adferwyd ef i'w le, ac i'r pulpud, ac er nad adferwyd y cysylltiad gweinidogaethol rhyngddo a'r eglwys yn Llanaelhaiarn, etto yr oedd yn barchus yn eu golwg, a glynodd yn ei gymeriad hyd ddiwedd ei oes. Teithiodd lawer trwy dde a gogledd i gasglu at gapeli dyledog, ac ar rai adegau yn ei oes bu yn cyrchu yn fynych i Saron a Nazareth, os.na bu eu gofal arno. Ni chafodd lawer o dda y byd hwn, etto bu eisiau arno, ac yr oedd ganddo dipyn yn ngweddill i'w weddw oedranus. Bu farw Ionawr 31ain, 1870, yn 77 oed, a chafodd gladdedigaeth barchus.
*24* .Dyagedydd, 1824. Ta dal. 82. #3# .Dyagedydd, 1861. Tn dal. 358.
201
(Llangybi parish ?)
Cangen o Gapel-helyg yw yr eglwys fechan yma. Dechreuwyd pregethu gyda gradd o gysondeb yn y gymydogaeth gan Mr. Edward Davies pan oedd yn weinidog yn Nghapel-helyg. Pregethid mewn melin yn yr ardal, ac mewn amryw dai anedd. Wedi yr adfywiad a gafwyd yn y flwyddyn 1821, meddyliwyd am gael capel yn yr ardal, ond trwy drafferth fawr y cafwyd tir i'w adeiladu arno. Ond llwyddodd Mr. Davies i'w gael, ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1822 - y flwyddyn yr ymadawodd Mr. Davies i Drawsfynydd. Costiodd 120p. Bu y lle mewn cysylltiad a Capel-helyg hyd derfyn gweinidogaeth Mr. James Jones yno, ac am ychydig ar ol hyny. Am y tymor byr y bu Mr. R. W. Roberts yn weinidog yn Nazareth a'r Pantglas, yr oedd yr eglwys hon hefyd dan ei ofal. Ar sefydliad Mr. Edward James yn Llanaelhaiarn, cymerodd hefyd ofal yr eglwys yma, a llafuriodd yn ddiwyd ynddi. Yr oedd 60p. o ddyled yn aros ar y capel pan y sefydlodd yn y lle, ond talwyd y cwbl, ac y mae yma gapel newydd hardd wedi ei adeiladu, gwerth 300p., ac agorwyd. ef Mai 27ain a'r 28ain, 1872. Mae yr achos yma wedi cryfhau yn blynyddau diweddaf yn fawr mewn cydmariaeth i'r peth ydoedd unwaith. Nid oes ond ychydig dros 100p. yn aros o ddyled ar y capel. Cyfeirir yn barchus yn y gymydogaeth am enwau John Thomas, Cefnbron; Evan Jones, y teiliwr; Elias Pritchard a'i wraig; Margaret Thomas, Cae'rferch; Margaret Owen, Ynysgoch; Lowry Jones, Tynewydd, ac eraill, a fuont yma yn ffyddlon gyda'r achos; ac mewn blynyddoedd diweddarach, coffeir am garedigrwydd teuluoedd y Cefn, a Corsygeilian, y rhai sydd wedi bod o gymorth mawr i'r achos.*25* Y diaconiaid presenol ydyw John Jones, Corsygeilian, a. Robert Jones, yr Efail. Mae yr eglwys ar hyn o bryd yn amddifad o weinidog.
(Llanarmon parish)
Dechreuwyd yr achos yn y lle hwn tua dechreu y ganrif bresenol, trwy. lafur Mr. J. Griffith, Caernarfon, yn benaf. Yr oedd yma yn flaenorol rai Annibynwyr yn yr ardal, y rhai a gyrchent i Bwllheli neu Gapel-helyg yn ol fel y byddai yn gyfleus, ond ni wnaed un cynyg at sefydlu achos yma. Er mai i gylch gweinidogaeth Pwllheli y perthynai y lle yma yn briodol, etto ni chaed ond ychydig gefnogaeth oddiyno i ddechreu yr achos, ac amlygodd Mr. B. Jones wrthwynebiad mawr i Mr. Griffith am ymwthio i'w derfynau ef. Ond barnai Mr. Griffith fod pellder digonol rhwng Rhoslan ag unrhyw gapel i'w gyflawnhau yn ei ymdrech i sefydlu achos yn y lle. Dechreuwyd pregethu mewn hen feudy cul, isel, a thywyll, rhy sal i rwymo lloi ynddo, o'r enw Banadlog. Bu Mr. John Jones, Brynllefrith, yn cadw ysgol am dymor, ac yn pregethu yn achlysurol. Wedi ei ymadawiad ef, daeth Mr. David Griffith, Blowty, Lleyn, yma i gadw ysgol, ac yn ei amser ef symudwyd yr ysgol a'r gwasanaeth crefyddol i ysgubor Brynbeddau, ond cyfododd y tirfeddianydd wrthwynebiad i ysgol gan yr Ym-
*25* Llythyr Mr. E. James, Nefyn.
202
neillduwyr, yr hyn a barodd i Mr. D. Griffith ymadael, ac yn mhen amser ar ol hyny aeth yn weinidog i Dalysarn. Adeiladwyd capel Rhoslan yn y flwyddyn 1808. Y prif offeryn gydag adeiladiad y capel oedd Rowland Hughes, Rhoscyllbach, ond cafodd lawer o help gan ei gymydogion. Wedi cael y capel yn barod, ffurfiwyd yma eglwys o saith o bersonau. Wele eu henwau : - Rowland Hughes, Rhoscyllbach; William a Martha Griffith, Tyddyncrythor; Catherine Williams, Rhwngyddwyryd; John Owen, Braichysaint; Evan Ellis, a Margaret Fychan, Pentrefelin. Yn fuan ar ol hyn bu Mr. James Williams, myfyriwr o athrofa Gwrecsam, yma am ychydig, a llwyddodd i gasglu cynnulleidfa luosog, ond derbyniodd cyn hir alwad o Ty'nycoed, sir Frycheiniog, ac urddwyd ef yno, lle y treuliodd ei oes. Pan roddodd Mr. B. Jones ofal Capel-helyg i fyny yn 1815, rhoddodd yr eglwys hon, yn nglyn a'r eglwys yno, alwad i Mr. Edward Davies o Lanrhiadr, ac urddwyd ef Medi 26ain, 1816. Yr oedd achosion bychain erbyn hyn hefyd wedi eu sefydlu. yn Chwilog a Phentrefelin, a bu y maes eang yn un weinidogaeth hyd y flwyddyn 1829, pryd yr ymadawodd Mr. Rowlands i Bontypool. Y flwyddyn ganlynol i ymadawiad Mr. Rowlands, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Ellis, mab yr hybarch Thomas Ellis, Llangwm, ac urddwyd ef yma Mai 27ain, 1830. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. H. Pugh, Llandrillo; gofynwyd yr holiadau arferol gan Mr. W. Davies, Nefyn; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Hughes, Saron; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog, gan ei dad Mr. T. Ellis, Llangwm, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. E. Daveis, Penstryd.*26* Bu Mr. Ellis yma yn ddefnyddiol a pharchus am un-mlynedd-ar-bymtheg. Bu yma adfywiad grymus ar yr achos yn niwedd y flwyddyn 1839. Ymadawodd Mr. Ellis i'r Brithdir, lle y mae etto. Wedi ei ymadawiad ef, rhoddodd yr eglwysi yn Rhoslan, Tabor, a Llanystumdwy, alwad i Mr. Hugh Hughes (Tegai), ac urddwyd ef Hydref 19eg, 1847. Ar yr achlysur traddodwyd y gynaraeth gan Mr. R. Parry, Conwy; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog, yr hwn hefyd a ddyrchafodd yr urdd-weddi; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Williams, Caernarfon, ac i'r eglwysi gan Mr. D. Griffith, Bethel.#4# Byr fu arosiad Mr. Hughes yma, oblegid symudodd i Manchester yn y flwyddyn 1849, a chyn diwedd y flwyddyn hono daeth Mr. John Parry, Machynlleth, yma i gymeryd gofal yr eglwysi, ond yn 1850, ymfudodd yntau i America. Yn y flwyddyn 1851, rhoddodd yr eglwysi hyn alwad i Mr. Thomas Griffiths, Capel-helyg, a bu yma hyd y flwyddyn 1855, pryd y darfu ei gysylltiad a'r eglwysi. Yn fuan ar ol hyny, rhoddodd y tair eglwys alwad unfrydol i Mr. Thomas Jones, Cefnmeusydd, ac urddwyd ef yn Tabor, ei fam-eglwys, Ionawr 16eg, 1856. Bu Mr. Jones yma yn ddefnyddiol iawn am flynyddau, ac adfywiodd yr achos yn fawr dan ei ofal. Helaethwyd y capel y flwyddyn gyntaf ar ol ei sefydliad yma. Rhoddodd yr eglwys hon a Llanystumdwy i fyny yn y flwyddyn 1866, gan gymeryd at Benmorfa yn, nglyn a Tabor. Yn fuan ar ol hyny rhoddwyd galwad i Mr. William Nicholson, gan eglwysi Rhoslan a Llanystumdwy, ac urddwyd ef yma Awst 20fed, 1867. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. T. Jones, Tabor; holwyd yr urddedig gan ei hen weinidog, Mr. W. Griffith, Caergybi; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Rowlands, Ceidio; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog, ac i'r eglwysi gan Mr. E. J. Evans,
*26* Dysgedydd, 1830. Tu dal. 248. #4#Dysgedydd, 1847. Tu dal. 347.
203
Pisgah.*27* Bu Mr. Nicholson yma yn boblogaidd hyd Awst, 1870, pryd y symudodd i Treflys, Bethesda, Arfon, ac er hyny mae yr eglwysi hyn heb weinidog.
Mae yn sicr genym i lawer o ffyddloniaid fod yn nglyn a'r achos hwn yn ystod y triugain mlynedd diweddaf, ond gan nad anfonwyd eu henwau i ni, nis gallwn gyfeirio atynt. Codwyd yma ddau bregethwr : -
William Williams, Cricieth. Bu yn dra ffyddlon yn ei dymor byr. Gwnaeth ymdrech i sefydlu achos yn Cricieth, a llwyddodd i gasglu cynnulleidfa yno. Bu yn byw am ychydig wrth gapel Sardis, ond "machludodd ei haul a hi yn ddydd." Claddwyd ef oddifewn i gapel Rhoslan.
Rowland Hughes. Mab Rhoscyllfach. Dechreuodd bregethu er's 38 mlynedd yn ol, ac y mae etto yn parhau yn bregethwr cynorthwyol parchus, ac yn gwasanaethu fel diacon yn yr eglwys.
(Ynyscynhaiarn parish)
Mae y lle hwn gerllaw Pentrefelin, o fewn ychydig gyda dwy filldir o Borthmadog, ar y dde wrth fyned i Bwllheli. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal yn gynar yn y ganrif bresenol gan un Nicholas Lewis, saer llongau, a ddaethai o ryw le yn y Deheudir i'r gymydogaeth i weithio. Yr oedd y gwr hwnw wedi bod yn pregethu gyda'r Bedyddwyr, ond wedi eu gadael cyn dyfod i'r ardal yma. Pregethid yn nhy un Evan Ellis a Margaret Fychan. Daeth Meistri B. Jones, Pwllheli; J. Griffith, Caernarfon, a W. Hughes, Brynbeddau, yma yn fuan ar ol hyny. Nid oedd un cyfleusdra y pryd hwnw i gyhoeddi, ond pan geid fod gwr dyeithr yn dyfod, anfonid gair o dy i dy. Ar un noswaith pan oedd cyhoeddiad ryw bregethwr i fod yn nhy Margaret Fychan, aeth un chwaer o'r enw Ellen Griffith i gapel perthynol i'r Methodistiaid i geisio ganddynt gyhoeddi yr oedfa, ond pan welodd eu bod yn ymadael heb wneyd, cododd a chyhoeddodd ei hunan. Cynhyrfodd ysbryd erledigaethus offeiriad Cricieth, a gwnaeth bob ymdrech i atal y pregethu yn y Tynewydd. Ceisiodd gan Humphrey Jones, Ysw., cyfreithiwr cyfrifol o Fachynlleth, i feddiant yr hwn y daeth etifeddiaeth Stumllyn, i atal y pregethu yn y Tynewydd. Dywedodd y cyfreithiwr wrth yr offeiriad fod y ty wedi ei gofrestru yn gyfreithiol, ac oblegid hyny nad allasai neb atal y pregethu ynddo; ond er mwyn boddio yr offeiriad, addawodd ddwrdio teulu. Anfonodd at Evan Ellis ei fod yn dyfod yno dranoeth i'w ddwrdio, am agor ei dy i bregethu ynddo. Ond deallodd Evan Ellis nad oedd un niwed yn ei ddwrdio. Adroddid fod Mr. Azariah Shadrach yn pregethu yma un noson, ac fel yr arferai bob amser, dyrchafai ei lais yn uchel. Digwyddodd fod morwyn yr offeiriad allan ar y bryn, ddwy filldir agos o'r Tynewydd, a chlywodd lais Mr. Shadrach, a deallodd ranau o'i bregeth yn eglur. Pan aeth adref, dywedodd "O meistres, yr oedd rhyw bregethwr rhyfedd yn Tynewydd heno, gwaeddai mor uchel fel yr oeddwn yn ei glywed o ochr mynydd Ednyfed," ac yna adroddai rai o'r pethau a glywsai. Mae yn ymddangos fod gogwydd y forwyn at fyned i wrando i'r Tynewydd, ond fod ei meistr a'i meistres yn ei gwahardd, ond at o1 y noswaith hono rhoddodd ei meistres ryddid iddi fyned, ond iddi ofalu rhag i'w meistr glywed. Yr oedd Evan Ellis a Margaret Fychan yn
*27* Dysgedydd, 1867. Tud dal, 397.
204
mysg yr ychydig a ymffurfiasant yn eglwys yn Rhoslan. Mynych y cyrchai Mr. W. Hughes, Brynbeddau, at yr ychydig ffyddloniaid oedd yma, ac am ei fod yn bregethwr melus, ac yn ganwr peraidd, hoffid ei weinidogaeth a'i gymdeithas. Yr oedd Ellen Griffith a Margaret Fychan yn gantoresau nodedig, ac oblegid hyny mwynhaent hwy hyfrydwch neillduol yn ei gyfeillach. Un o honynt hwy a fyddai bob amser yn dechreu canu. Ar ol yr oedfa, wedi aros yn hir i ganu, cychwynodd Ellen Griffith i fyned tuag adref i'r Eisteddfa, ond trwy fod y noswaith yn dywyll a'i llwybr yn anghysbell, bu yn crwydro am gryn amser. O'r diwedd daeth at hen ddraenen, i gysgod yr hon yr arferai ddyfod i weddio dros ei gwr, yr hwn oedd etto yn ddigrefydd, a phan ddaeth yno, adnabu y fan, a chyfeiriodd ei chamrau yn union tua'r ty. Nid aeth ei gweddiau dros ei phriod yn ofer, oblegid cafodd cyn hir yr hyfrydwch o i weled yn dyfod i geisio yr Arglwydd. Yr oedd y lle yma o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Rhoslan. Pan oedd Mr. Edward Davies yma symudwyd y pregethu o'r Tynewydd i'r Eisteddfa, a phan y symudodd Ellen Griffith o'r Eisteddfa i Garegyfelin, symudwyd yr arch yno hefyd. Yr oedd teimlad cryf am gael capel yma, ac ar yr unfed-ar-hugain o Ragfyr, 1825, yr aeth John Owen, Braichysaint, a Mr. Lewis, Pwllheli, at Mr. Owen Williams, Tyddynysguboriau, i ymofyn am le i adeiladu capel. Yr oedd Owen Williams yn frawd-yn-nghyfraith i John Owen. Cafwyd addewid am dir ar les o fil ond un o flynyddoedd. Dechreuwyd adeiladu y capel y flwyddyn ganlynol, ac agorwyd ef Ionawr 10fed a'r 11eg, 1827. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri W. Davies, Nefyn; T. Lewis, Pwllheli; R. Owen, Llanengan; D. Griffith, Talysarn, ac eraill. Dywedir yn hanes yr agoriad yn y Dysgedydd, 1827, tu dal. 87, fod pregethu wedi bod yn yr ardal er's dros ugain mlynedd cyn hyny, yr hyn a ddengys mai yn moreu y ganrif hon y dechreuwyd yr achos yma. Er fod yma gymundeb achlysurol yn cael ei gynal yn flaenorol, etto ar ol agor y capel y ffurfiwyd yma eglwys. Naw oedd nifer yr aelodau pan y corpholwyd yr eglwys, sef John Owen, Braichysaint; Hugh Evans, Caegwenllian; Robert Jones ac Ellen Griffith, Caregyfelin; Griffith Parry, Llwynymafon, (mudan oedd ef ); Ann Williams, Cwryclwt; Margaret Fychan, Lowry Davies, Efailbach, ac Elizabeth Roberts, Tabor.*28* Gan fod y lle hwn o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1866, wedi bod dan yr un gofal gweinidogaethol a Rhoslan, a chan ein bod eisioes wedi crybwyll yno am y gweinidogion fu yn llafurio yma, ac amser eu sefydliad ac ysbaid eu harosiad, nid rhaid i ni eu hailgrybwyll yma. Y gweinidog presenol ydyw yr unig un o honynt a urddwyd yma. Derbyniwyd ef yn aelod yma Ionawr 12fed, 1848, yn nhymor gweinidogaeth Mr. Hughes. Daeth ef a'i gyfaill John Jones, Braichysaint, i'r gyfeillach yr un noswaith, ac y mae y ddau wedi cael yr hyfrydwch o gydlafurio gydag anwyldeb hyd y dydd hwn. Mae Mr. J. Jones yn ddiacon defnyddiol yn yr eglwys, ac yn wasanaethgar iawn gydag achosion cyhoeddus fel trysorydd y cyfarfod chwarterol a'r Gymdeithas Genhadol. Dechreuodd Mr. Thomas Jones bregethu Mai 25ain, 1853, ac urddwyd ef Ionawr 16eg, 1856. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Ellis, Brithdir; D. Roberts, Caernarfon; D. Griffith, Bethel; W. Ambrose, Porthmadog; O. Evans, Maentwrog, ac eraill. Mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad a llwyddiant. Bu yr achos yma am flynyddau lawer yn lled
*28* Mae yr olaf a enwyd yn aros etto yn ffyddlon gyda'r achos, ac iddi hi yn benaf yr ydym yn ddyledus am gofnodiad mor gyflawn o hanes yr achos yn y lle.
205
isel, er fod yma rai ffyddloniaid yn eu plith nas gallesid cael eu rhagorach. John Owen, Braichysaint, oedd ddyn nodedig o grefyddol. Yr oedd ef, fel y gwelsom, yn un o'r aelodau cyntaf yn Rhoslan, a chyda'r achos yma bu yn ffyddlon o'r dechreuad. Dyn pwyllog, addfwyn, caredig, ac yn ddiarebol yn yr ardal am ei fywyd sanctaidd. Achos yr Arglwydd oedd y peth agosaf at ei feddwl. Symudodd yn niwedd ei oes i Tyddynysguboriau gerllaw y capel. Bu farw Ionawr 22ain, 1841, yn 77 oed. John Pierce a fu yn aelod diwyd a ffyddlon, ac o wasanaeth mawr i'r achos yn ei holl ranau, ac yn enwedig felly gyda'r canu. Griffith Roberts, Ynysddu, a dderbyniwyd yn aelod yma yn nechreuad gweinidogaeth Mr. Ellis, ac a barhaodd hyd y diwedd. Nid oedd pellder ei ffordd mewn un modd yn atalfa iddo ddyfod i foddion gras. Ennillodd yr achos yma lawer trwy symudiad Mr. Robert Jones a'i deulu i Bronygadair. Heblaw fod ei amgylchiadau bydol cysurus yn ei alluogi i fod o help mawr i'r achos, yr oedd ei fywyd duwiol a'i ysbryd hynaws ac efengylaidd yn ennui]. iddo barch gan bawb a'i hadwaenai. Mab iddo ef oedd yr hynaws Mr. John Jones, Bank, Pwllheli, yr hwn a fu yn aelod defnyddiol o'r eglwys yno, a'r hwn y gofidiai pawb oblegid i'r fath flodeuyn prydferth wywo i'r bedd cyn haner ei ddyddiau; a merch iddo ef ydyw Mrs. Jones, gwraig Mr. Jones, Tabor. Profodd yr eglwys hon yn helaeth iawn o'r dylanwad grymus a ddisgynodd ar eglwysi y wlad yma yn niwedd 1839 a dechreu 1840. Cawsom yr hyfrydwch o fod yn y lle ar y pryd, ac yn llygad-dyst o'r gweithredoedd nerthol. Yn y diwygiad yma y daeth Mr. Owen Jones, Braichysaint, at grefydd, yr hwn sydd wedi bod am flynyddau lawer yn ddiacon gofalus yn Tabor; ac efe oedd y blaenffrwyth i'r Arglwydd o deulu Braichysaint, ond ni bu ei fam, a'i dad, a'r gweddill o'r teulu, yn hir cyn ei ddilyn. Rhoddodd y diwygiad hwnw symbyliad i'r achos yma, ac y mae ei effeithiau yn parhau. Yn y flwyddyn 1859, penderfynwyd adeiladu yma gapel newydd. Cafwyd darn o dir ychwanegol, a chodwyd yma adeilad hardd a chyfleus, gwerth 400p., heb gyfrif y cludiad, yr hyn a gafwyd yn rhad gan yr ardalwyr. Barn pawb a'i gwelodd ydyw ei fod yn rhad iawn am yr arian. Nid oes yn aros o'r ddyled arno ond 70p. Mae mynwent fechan yn nglyn a'r capel. Gwnaed cais wrth ailadeiladu y capel am dir i'w helaethu, ond yn aflwyddianus. Er lleied ydyw y mae yn Ilanerch gysegredig gan lawer o deuluoedd yn y gymydogaeth. Bu yma lawer o bregethwyr o bryd i bryd yn cadw ysgol, heblaw y rhai y crybwyllwyd eu henwau eisioes, ond yr oeddynt oll wedi dechreu pregethu cyn dyfod yma.
Sail y lle hwn ar haner y ffordd agos rhwng Pwllheli a Phorthmadog. Bu pregethu achlysurol yma gan Mr. E. Davies pan yn weinidog yn Capel-helyg, a chan eraill efallai cyn hyny, mewn lle a elwir Penybont, ac wedi hyny mewn ty newydd yn y pentref, ar gyfer y fan y saif y capel yn awr, ac wedi hyny yn yr Henfelin, cartref Evan Ellis a Gwen Jones, fel y gelwid ef a'i wraig. Adeiladwyd yma gapel bychan yn y flwyddyn 1831, ac agorwyd ef Awst 10fed a'r 11eg, y flwyddyn hono. Yr oedd nifer fawr o weinidogion a phregethwyr yn yr agoriad. Galwyd ef y Tabernacl. Aeth y drawl yn 140p. Tynwyd ychydig o'r ddyled ymaith ar y pryd, a thrwy ddyfalbarhau llwyr ddilewyd y ddyled. Nid oedd nifer yr aelodau yma ond
206
ychydig pan agorwyd y capel, ac nid oedd yma ond 12 cyn'y diwygiad yn 1839, ond ar ol hyny cynyddasant yn fawr. Derbyniwyd 34 o newydd yr adeg hono, ond gwelodd yr achos er hyny lawer adeg dywyll. Mae y lle o'r dechreuad wedi bod yn nglyn a Rhoslan, a than ofal yr un gweinidogion; ac y mae y ddwy eglwys ar hyn o bryd heb fugail i fwrw golwg drostynt.
Codwyd yma un pregethwr, sef William Roberts, yr hwn sydd yn awr yn Nghricieth.
Translation on http://www.genuki.org.uk/big/wal/CAE/Criccieth/Hanes.html
Nid yw yr achos yma ond diweddar iawn. Bu pregethu gan yr Annibynwyr yma yn moreu y ganrif hon. Yr oedd yma frawd teilwng yn byw o'r enw William Williams, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol perthynol i Rhoslan. Casglodd yn nghyd gynnulleidfa mewn ty anedd yma, a chynhelid gwasanaeth yma yn rheolaidd. Wedi marwolaeth W. Williams, chwalodd y gynnulleidfa oblegid prinder pregethwyr yn y wlad i ddal y gwasanaeth i fyny. Ymunodd y rhan fwyaf o'r aelodau a r Methodistiaid Calfinaidd, y rhai oeddynt wan iawn yma cyn hyny. Yr oedd yma ychydig Annibynwyr trwy y blynyddoedd, y rhai a gyrchent i Roslan neu Llanystumdwy. Gydag agoriad rheilffordd glanau Cymru, gwelwyd fod y lle henafol hwn yn dadebru, a meddyliodd y gweinidogion cylchynol, a'r dynion mwyaf llygadgraff yn yr eglwysi, fod yr adeg wedi dyfod i gychwyn achos yn y lle. Mr. Ambrose, Porthmadog, a Mr. Jones, Tabor, oedd y rhai mwyaf blaenllaw yn hyny. Yr oedd yma ar y pryd boblogaeth o 800, ond cafwyd fod yma nifer fawr o bobl mewn oed a phlant nad oeddynt ar ddydd yr Arglwydd yn myned i un lle o addoliad. Yn y flwyddyn 1864, cymerwyd ystafell yn y Tymawr a dechreuwyd pregethu a chynal ysgol Sabbothol, ac wedi gweled fod hyny yn cael ffafr yn ngolwg y trigolion, ffurfiwyd yma eglwys. Er mantais i'r dyeithriaid oedd yma gyda'r rheilffordd pregethid yn Saesnaeg ar y dechreu, ond wedi eu hymadawiad hwy, cyfyngwyd y gwasanaeth yn gwbl i'r iaith Gymraeg. Buwyd am dair blynedd yn edrych allan am dir cymhwys i adeiladu capel arno. Yr oedd gelyniaeth at Yrnneillduaeth yn peri i rai wrthod, a gelyniaeth at Annibyniaeth yn peri i rai Ymneillduwyr i daflu pob rhwystr f r ffordd. Ond cafwyd o'r diwedd ddarn o dir mewn lle manteisiol. Adeiladwyd capel bychan cyfleus, gwerth 420p. Traddodwyd y bregeth gyntaf ynddo Awst 14eg, 1868, a chynhaliwyd cyfarfod ei agoriad Awst 29ain, 30ain, a'r 31ain. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Thomas, Liverpool; D. Roberts, Caernarfon; D. Price, America; E. Morris, Penrhyn, ac E. Evans, Caernarfon. Rhwng casgliadau y cyfarfod, ar hyn a wnaed yn flaenorol, ni adawyd ond 200p. o ddyled ar y capel newydd prydferth. Gwnaeth Mr. Ambrose ei ran yn egniol mewn cyfranu a chasglu at y capel, a chafodd gan ei gyfeillion wneyd yn haelionus. Mae y lle mewn rhan dan ofal Mr. Jones, Tabor, ond y mae cyfeillion gweithgar y lle yn gwneyd eu rhan yn ganmoladwy.
(Ynyscynhaiarn parish)
Gan fod hones cyflawn a helaeth o'r achos yma o'i ddechreuad hyd yn awr wedi ei gyhoeddi mewn amryw rifynau o'r Dysgedydd am y flwyddyn
207
1870, nis gallwn wneyd dim yn well nag ailgyhoeddi yr hanes. Gadawn allan rai pethau ydynt ond o ddyddordeb lleol,ac ni chaniata ein terfynau, er y buasai yn dda genym gyhoeddi y sylwadau athronyddol a welir yma a thraw yn gynmhlethedig a'r hanes, lle y gwelir ol sylwadaeth graff a barn addfed. Gwyddom y bydd yn dda gan ein darllenwyr ei gael yn arddull yr ysgrifenydd, ac ychwanega yr amrywiaeth at ddyddordeb y gwaith.
" Yr ydym yn awr yn cyfeirio at hanes dechreuad a chynydd achos yr Annibynwyr yn y Port. Nid oeddynt fel enwad yn adnabyddus yn y cymydogaethau. Nid oedd ganddynt gynnulleidfa yn nes na Maentwrog ar un llaw, a Rhoslan ar y llaw arall. Yn y flwyddyn 1821, priododd Mr. John Williams, Ynystowyn, goruchwyliwr ystad Mr. Maddocks, ag Ann, merch henaf David Williams, Ysw., Saethon, yn Lleyn, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Mhwllheli. Pan oedd y wraig ieuangc yn symud o'r naill gymydogaeth i'r llall, nid oedd yn bwriadu sefydlu achos i'r Annibynwyr yn y lle. Ei chynllun oedd, myned i Bwllheli bob mis i gymuno, a chymeryd hyny o efengyl a fedrai gael yn ei hymy1, - hen system a welodd hi mewn bri yn Lleyn, ond a dorodd rym Annibyniaeth yn y parth hwnw o'r sir; a phe buasai Mrs. Williams wedi cyndyn-lynu wrth y cynllun hwnw, ni fuasai achos gan yr enwad mor fuan yn y Porth.
" Yr oedd y Parch. Benjamin Jones, gweinidog galluog yr Annibynwyr yn Penlan, Pwllheli - tad Mrs. Williams yn yr efengyl - yn dyfod i ymweled a'r teulu ieuangc, ac addawodd bregethu yn nghapel y Trefnyddion yn Nhremadog. Nid oedd neb yn dychmygu na chawsai yr hen Galfiniad iach groesaw er mwyn y goruchwyliwr a'i briod, os nad er ei fwyn ei hun; ond gwrthodwyd y cais, a bu raid i'r hybarch efengylydd bregethu mewn lle arall! Clywsom lawer o feio ar flaenoriaid y Methodistiaid oherwydd y tro. Y mae yn wir fod ymddygiad o'r fath yn ymddangos yn ddyeithr yn ngoleuni y dyddiau hyn. Yr ydym yn sicr fod hen bobl dda yr oes hono yn gweled llawer mwy o ryfeddod yn ymddygiad un blaid yn gofyn, nac yn ymddygiad y blaid arall yn gwrthod. Y mae yr oes yn fwy cyfrifol am y weithred hono na'r personau. Yn wir, yr oedd rhywbeth i'w edmygu yn yr hen bobl dda a wrthodasant roddi gwasanaeth capel Tremadog i Benjamin Jones, Pwllheli. Dyna engraifft o wroldeb. Yr oedd y gweinidog a'r blaenoriaid yn ddeiliaid ar ystad Maddocks. Yr oedd gwraig ieuangc yr agent, drwy ei gwr, wedi gwneyd y cais. Yr oedd gan y goruchwyliwr hwnw fwy o awdurdod na'r hyn sydd yn meddiant y gwyr sydd yn sidellu pleidleisiau yn y dyddiau hyn; a mwy na'r cwbl, yr oedd y boneddwr a'r blaenoriaid yn gyfeillion cynes i'w gilydd. Ond, ni wyrent drwch blewyn o'u ffordd! Safasant o blaid y ffydd fel dynion. Ac os deuai Annibyniaeth, neu rhyw aeth arall, yn agos i'r lle, gofalent na ddeuai drwy eu hareithfa hwy. Adwaenem y dynion hyny yn dda. O! na chaem fwy o rai cyffelyb iddynt. Buont lawer gwaith ar ol hyny yn agor eu pulpud yn llawen i bregethwyr o enwadau eraill. Yr oeddynt yn medru symud gyda'r oes. Heddwch i lwch John Jones, Tremadog; William Williams, Llanerch, a William Roberts, Farm-yard.
"Y mae y darllenydd yn barod i gredu fod ymddygiad o'r fath yn effeithio yn drwm ar yr agent a'i briod. Wrth weled adeiladau yn cyfodi yn y Port, a milldir o ffordd i'r dref, agorodd ysgol Sabbothol mewn ystafell gysylltiedig a'r ty, a gwelodd, er mawr foddhad i'w meddwl, ei gwaith yn cael ei anrhydeddu ag ar wyddion llwyddiant. Wedi hyny, dechreu-
208
wyd son am bregethu, a chafwyd rhan o'r Tregunter Arms at wasanaeth y gynnulleidfa ar y Sabboth, ac yn achlysurol ar nosweithiau yr wythnos. Yr ydym yn credu mai y Parch. J. Williams o Ffestiniog, wedi hyny o Lansilin, yn awr yn yr Amerig, a bregethodd gyntaf yno. Bu amryw o weinidogion Arfon a Meirion yn ffyddlawn dros ben i ddwyn yr achos yn mlaen yn ei fabandod. Y mae enwau Lewis, Pwllheli; Davies, Trawsfynydd; Griffith, Bethel; Rowlands, Rhoslan, a Davies, Ffestiniog, yn anwyl etto gan yr hen bobl sydd erbyn heddyw fel lloffion grawn yn yr ardal. Gallwn fod yn sicr na chafodd nemawr un o'r rhai a fuont yno yn supplio gyrhaedd adref yn ddigolled.
"Mae genym y gorchwyl yn y lle hwn o gydnabod llafur yr hybarch John Evans,*29* yr hwn a ledodd ei babell yn y gymydogaeth, ac a fu o wasanaeth mawr i'r achos ieuangc yn y Port. Gan nad oes gair o hanes y gwr hwn wedi ei gyhoeddi, goddefer i ni roddi ychydig nodiadau yn y lle hwn, i'w wneyd yn fwy adnabyddus i'r darllenydd. Ganwyd Mr. Evans yn agos i Penrhiwgaled, yn sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1752. Yr oedd wedi bod yn gydefrydydd a'r Parch. D. Peter, Caerfyrddin, ac yr oeddynt yn gyfeillion personol drwy weddill eu hoes. Treuliodd Mr. Evans lawer o amser yn ysgol Mr. Davies, Llwynrhydowen, a chyfrifid ef yn well ysgolhaig na'r cyffredin o'i frodyr. Yr oedd yn ddyn hardd, syth, uwchlaw chwe' troedfedd o daldra, Dechreuodd bregethu pan yn bump-ar-hugain oed, a threuliodd ddeg-a-thriugain o flynyddau yn y cymeriad o bregethwr. Yr ydym yn meddwl mai yn Machynlleth yr ordeiniwyd ef, ond nis gallwn ddyweyd yn sicr pa bryd y daeth yno, ond gwyddom iddo ymadael yn y flwyddyn 1794. Bu yn pregethu llawer yn nghyffiniau y dref hono - yn Towyn, Pennal, Aberhosan, Dinas, &c., a dyoddefodd lawer o erledigaeth. Bu agos iddo golli ei fywyd mewn Gwylmabsant yn Pennal. Yr oedd yn dyfod i'r lle i bregethu. Dangoswyd iddo ddyn a chyllell yn ei law, yr hwn oedd wedi tyngedu ei hun i'w rhoddi yn nghnawd y pregethwr. Cerddodd Mr. Evans i dy cyfaill. Yr oedd yr erlidiwr yn ei ddilyn. Taflodd y pregethwr y drws ar ei ol gyda'r fath nerth, nes y tarawodd y gyllell drwy law gauedig y dyn, gan ei anafu yn dost. Yr oedd unwaith yn pregethu yn y Towyn, lle yr oedd llawer o weision a gweithwyr Ynysmaengwyn yn disgwyl am dano i'w anmharchu. Derbyniodd ergyd ar ei arlais, yr hon a barodd i'r gwaed ffrydio dros ei wyneb a'i wisg. Gwelsom y graith. Dilynodd hono ef i'w arch. Parodd yr ymosodiad hwnw arno, i deimlad y dorf droi o'i blaid; ac wedi iddo gael ychydig o ymgeledd, aeth eilwaith allan, a chafodd oedfa ragorol, yr hon a wnaeth argraff ddwfn ar rai o'r bobl a ddaethant yno i'w erlid. Buom yn ceisio gan Mr. Evans ysgrifenu yr holl ddigwyddiadau a adroddodd i ni lawer gwaith. Yr oedd yn barod i addaw, ond yn ddiog i gyflawni. Y rheswm a roddai oedd, na fedrai gan gryndod ei law ysgrifenu.
"Yn y flwyddyn 1794, derbyniodd alwad o Carmel, Amlwch. Bu yno yn llafurio yn Ilwyddianus am un-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddau. Yr oedd ar hyd y tymor maith hwnw yn cadw ysgol flodeuog, yr hon a fu yn atteg bwysig i'w gynaliaeth mewn pethau daearol. Un mab a fu ganddo, yr hwn oedd yn bregethwr rhagorol, ond a symudwyd gan angau pan yn ieuangc. Y mae ei fedd yn mynwent Rhosymeirch. Yr oedd Mr. Evans wedi cael ergyd o'r parlys, yr hyn a'i gwnaeth yn analluog i ddilyn yr
*29* Ysgrifenasom ein cofnodion am yr hynafgwr hwn yn nglyn ag Amlwch, ond ychwanegwn y cofnodion hyn am dano gan un a'i hadwaenai ya dda.
[Last updated: 29 May 2008 - Gareth Hicks]
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark. |