Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Caernarfonshire section (Vol 3) - Pages  209 - 222

See main project page

Proof read by Gareth Morgan (June 2008)

Chapels below;

  •  (Continued) Porthmadog

Pages 209 - 222

209

(Continued) Porthmadog

ysgol, a theimlodd duedd i roddi i fyny ofalon y weinidogaeth sefydlog yn y flwyddyn 1825. Symudodd i fyw at ei unig ferch, yr hon oedd yn briod a Mr. J. C. Paynter, Officer of Customs. Yr oedd y teulu yn byw yn Glandon, Minffordd, yn Meirionydd, gyferbyn a Phorthmadog. Bu farw  Rhagfyr 7fed, 1847, yn 95 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Salem. Yr oedd Mr. Evans yn uchel-Galfin o ran ei syniadau duwinyddol; ond yr oedd at ddiwedd ei oes yn gogwyddo at egwyddorion mwy rhydd. Pan oedd o fewn ychydig ddyddiau i ben ei yrfa, dywedai wrthym, - Pe  cawn i ail ddechreu pregethu etto, mi bregethwn yn llawer gwell, o leiaf, mi bregethwn yn wahanol i'r hyn a wnaethum. Pan ddechreuais i bregethu, yr oeddwn i a'm cyfoedion yn cadw yn rhy bell i'r ochr uchel-Galfinaidd yn ein gweinidogaeth, a'r Arminiaid yn dal yn ormod ar yr ochr arall i'r ffordd. Buasai yn well pe cadwasai pob un o honom yn nes i ganol y ffordd. Yn wir, yr wyf yn ofni fod llawer o honom yn darllen y Bibl fel rhai yn chwilio am ddwfr i droi ein melinau ein hunain, yn lle chwilio am y gwirionedd.'

" Yr oedd dull Mr. Evans o bregethu yn hynod. Yr oedd ynddo gymaint o hunan-feddiant a neb a welais erioed. Byddai yn mhob pregeth yn arfer cryn lawer o'r cylchymddyddanol, megis, Wel, Paul bach, be' sy' gen't ti 'weyd ar y mater? "A hyny nid o honoch eich hunain, rhodd Duw ydyw. "Diolch yn fawr i ti, Mr. Paul; ond y mae teulu Jacobus Arminius yn gweyd yn wahanol. A wyt ti yn siwr o dy bwngc, Paul? "Trwy ras yr ydych yn gadwedig. "Dyna hi. Simon Pedr, be' sy' gen't ti i' weyd? "Etholedigion yn ol rhagwybodaeth Duw Dad." Da 'machgen i; un go dda wyt ti, er fod y Pabyddion yn gwneyd gormod o honot ti.' Byddai ganddo ddull hynod o roddi bloedd. Gafaelai bob amser yn ngodre ei glust, a bloeddiai nes gwefreiddio y gynnulleidfa.

"Yr oedd gan Mr. Evans dalent neillduol i holi plant. Yr oedd yn addysgwr greddfol. Yr oedd hefyd yn ddarllenwr mawr hyd ddiwedd ei oes. Gweithiau yr hen Buritaniaid oedd ei brif fwyd. Ni flinai byth ar eu darllen. Gall y darllenydd bellach gredu yn hawdd fod dyfodiad hen wr galluog fel Mr. Evans yn dipyn o adgyfnerthiad i'r achos ieuangc yn y Port. Yr oedd ei nerth corphorol a'i synwyrau yn glynu wrtho o ftwyddyn i flwyddyn, ac anaml y byddai yn absenol o'r moddion, er fod ei ffordd yn bell i fyned iddynt. Ymunodd a dirwest; do, ddarllenydd, fe ymrestrodd yr hen Evans, Amlwch, yn myddin llwyrymwrthodiad yn y flwyddyn. 1837, a pharhaodd yn ffyddlawn hyd angau i'w ymrwymiad. Cymerodd yr ardystiad pan yn 85 mlwydd oed, a pharhaodd yn ddigwymp hyd nes cyrhaedd 95 oed.

"Ymroddodd Mrs. Williams a'i holl egni gyda'r ysgol Sabbothol, a chafodd gydweithrediad rhai o'i chymydogion yn y gwaith da. Yr oedd gauddi ddosbarth o enethod dan ei gofal ei hun. Y mae amryw o aelodau. y dosbarth hwnw erbyn heddyw yn y bedd, ac eraill yn famau ac yn neiniau dan goron penwyni. Y mae yn hoff ganddynt fyned dros olygfaon 'dydd y pethau bychain;' ac y mae y rhanau o air Duw a ddysgasant yn eu hysgol gyntaf, wedi cynal ysbryd rhai o honynt i fyny wrth fyned trwy orthrymderau y fuchedd hon.

"Pan fyddo achos crefyddol yn llwyddo mewn ardal, a ddarfu i'r darllenydd erioed sylwi mor awyddus yw pawb i arddel eu cysylltiad ag ef Pan oedd yn dechreu? Y mae hyn i'w weled yn amlwg yn yr ychydig

210

nifer sydd heddyw yn fyw o'r rhai y bu ganddynt rywbeth i'w wnaed a'r achos yn y Towyn, pan nad oedd Porthmadog i'w chael yn un man ond yn yr arfaeth. Y mae plant y bobl hyny yn ymloni wrth adrodd yr hyn a wnaed gan eu rhieni yn nechreuad yr achos yn y lle. Y mae gan bob enwad yn Nghymru achosion gwan ac ieuangc. Y mae aelodau diymdrech mewn manau o'r fath yn rhoddi prawf o'r anffyddlondeb mwyaf annoddefadwy. Os daw yr eglwysi hyny i nerth a dylanwad, y fath deimlad poenus fydd, neu a ddylai fod, yn mynwesau yr anffyddloniaid, gan yr argyhoeddiad nad oedd dim diolch iddynt hwy! Ond o'r tu arall, y mae aelodau i'w cael mewn lleoedd gweiniaid, yn amlygu eiddigedd sydd yn gymeradwy gerbron Duw a dynion. Bydd y rhai hyny yn cael boddhad anmhrisiadwy yn y dyfodol, a rhoddant ddefnydd cysur i'w plant ar eu hol. Mewn eglwysi bychain y mae gwir gymeriad dyn yn cael ei ddadblygu.

" Wrth weled y lle yn myned rhagddo, ac yn dwyn argoelion dyfodol llwyddianus, yn nghydag arwyddion llwyddiant ar y gwaith crefyddol, addfedwyd meddyliau y rhai oedd yn pleidio yr achos i groesawu y meddylddrych am addoldy. Yr oedd Mr. Williams, Ynystywyn, (yr hwn a nodir o hyn allan fel Mr. Williams, Tu-hwnt-i'r-bwlch,) yn Eglwyswr mewn proffes, ond yn ddyn hollol Rhyddfrydol. Ni phetrusodd funyd i daflu ei holl ddylanwad o blaid y mudiad am gapel. Gan fod yr ardal heb ysgoldy, tybiodd y gallasai yr un adeilad ateb amcan deublyg, sef lle i addoli, ac i gadw ysgol ddyddiol. Cafwyd lês am 99 ml. ar ddarn eang a chyfleus o dir ar ammodau esmwyth. Yr oedd profiad eang Mr. Williams mewn adeiladaeth yn werthfawr tuag at gael y gwaith i ben yn y dull goreu. Costiodd y capel, a'r ty annedd gerllaw iddo, tua 300p. Gan nad oedd nifer y rhai a anturiasant ar y gorchwyl ond bychan, gosodwyd hwy dan orfodaeth i geisio help o bob man lle yr oedd sail i obeithio am gymhorth. Y mae rhestr o gyfranwyr sydd yn awr ger ein bron, yn profi fod yr Arglwydd wedi gosod ffafr ar yr achos, yn nghyfrif y cymydogion. Casglwyd yn yr ardal 67p. 3s. 11c.

"O herwydd cysylltiad Mr. Williams âr ystad, gelwid ef yn fynych i Lundain. Byddai ar ei ymweliadau â'r brifddinas yn aberthu llawer o'i amser i alw heibio hen gyfranwyr y dyddiau hyny. Cafodd yn y Parch. John Clayton, o'r Poultry, gyfaill gwerthfawr. Nid oedd un Anghydffurfiwr yn yr oes hono mor barchus a Mr. Clayton yn nghyfrif Eglwyswyr.; a chan fod Mr. Williams ei hun yn Eglwyswr, cafodd fantais i dori i dir na feiddiai teulu cyffredin y chapel cases sangu arno. Gwnaeth gweinidog caredig y Poultry ei oreu o blaid y boneddwr hunanymwadol. A gwr pawb o'r hen gasglwyr sydd heb eu priddo pa faint oedd gwerth 'goreu' Mr. J. Clayton. Drwy ymdrechion diorphwys gartref ac oddicartref, cafwyd y swm anrhydeddus o 200p. erbyn gorpheniad y capel, yr hyn a gyfrifid yn waith mawr yn yr oes hono.

"Enwyd y capel newydd yn SALEM, ac agorwyd ef Mehefin 20fed a'r 21ain, yn y flwyddyn 1827. Y mae adgofion am gyfarfod yr agoriad yn glynu yn meddyliau yr hen bobl hyd heddyw. Yr oedd yno lawer yn bresenol o rai na wrandawsant bregeth erioed o enau Annibynwyr. Y pregethwyr oeddynt Williams o'r Wern; Breese o Liverpool; Ridge o'r Bala; a Lewis, Pwllheli. Dechreuwyd yr oedfaon gan J. Ridge; J. Williams, Ffestiniog; D. Griffith, Talysarn; ac E. Rowlands, Rhoslan.

" Pan agorwyd y capel, yr oedd pob eisteddle wedi ei chymeryd; ac y mae y cyfrifon ger ein bron yn dangos fod pob cymerwr yn ofalus am dalu.

211

Mr. Williams oedd yn edrych ar ol y cwbl hyd ddiwedd y flwyddyn. 1832, ac y mae yn sicr fod ei ofal a'i ddylanwad ef yn bwysig yn hyn o orchwyl. Ar ol agor y capel y ffurfiwyd yr eglwys Annibynol gyntaf yn y le. Mr. Griffiths o Bethel yn gweinyddu. Nifer y dysgyblion oedd saith. Wele eu henwau : - y Parch. John Evans, Humphrey Jones, Ann Williams, Tu-hwnt-i'r-bwlch; Mary Morris, Ship; Margaret Paul, Jane Jones, a Laura Roberts. Os credwn, a phaham na chredwn, dystiolaeth y saith hyn, ni fu y fath gyfeillachau erioed a'r rhai a fwynhawyd ganddynt hwy. Clywsom yr hybarch Mr. Evans, wrth areithio yn y cyfarfod tê cyntaf a gadwyd yn Mhorthmadog, yn dyweyd, ' Yr oedd yr hen chwaer Margaret Paul yn dweyd wrtha i pwy ddydd yma, nad ydyw pethau yn awr fawr debyg i'r hen amser, - nad oedd y pryd hwnw ddim son am ffraeo na dysgyblu, ond fod pob cyfarfod yn nefoedd fechan.' Wel, ni roddwn le i ammheuaeth. Yr oedd yn eithaf naturiol iddynt hwy deimlo felly, ac yn ddigon teg iddynt gael dyweyd hyny ar ol teimlo.

"Yn y cyfnod sydd yn awr dan ein sylw, yr oedd ysgol flodeuog yn cael ei chadw yn y Town-hall, Tremadog. Yr oedd meibion amaethwyr a masnachwyr y wlad yn dylifo iddi o bob cwr. Yr oedd amryw o ysgolfeistri o enwogrwydd, megis J. Parry, wedi hyny o Dreborth, a John Wynn, Caernarfon, wedi bod ynddi yn cyfranu addysg. Yr athraw yn y cyfnod hwn oedd Mr. D. M. Williams, yr hwn a ddaeth i enwogrwydd, fel gweinidog yn mysg y Bedyddwyr, ac yn olynydd i Robert Hall yn Leicester. Daeth Mr. Richard Jones o Dolyddelen, (yn awr o Lanidloes,) i fwynhau manteision yr ysgol, yn gystal a bod yn gynnorthwy yn ngweinidogaeth y gair. Yr oedd Mr. Jones yn boblogaidd iawn fel pregethwr, a bu ei ddyfodiad i'r lle yn adgyfnerthiad mawr i'r achos newydd. Yn ystod ei arosiad yma y codwyd capel Siloam, am., am yr hwn y bydd genym ychwaneg i'w ddyweyd pan ddelom heibio hanes yr achos yn y Morfa Bychan. Ond gallwn ddywedyd yn awr fod Mr. Jones wedi llafurio yn galed, ac wedi cerdded milldiroedd i gael arian i dalu am dano, ac ni orphwysodd nes ei gael yn gwbl rydd o'r ddyled. Yn yr amser hwnw, nid oedd pregethu yn Salem ar nos Sabboth, am y cyfrifid ef yn rhy agos i Dremadog. Y nos yn unig oedd adeg y bregeth gan y Trefnyddion yn y dref, a'r boreu yn unig yn y Port. Cedwid yr oedfa hwyrol gan yr Annibynwyr yn Siloam. Felly yr oedd y pellder parchus o ddwy filldir a chwarter rhwng y ddau wasanaeth. Y mae llawer o son yn mysg yr hen bobl am yr oedfaon hwylus a gafwyd yn Siloam, ac y mae llu o hiliogaeth y rhai a ddaethant i'r gyfeillach grefyddol gyntaf yn y lle hwnw, yn aelodau defnyddiol yn Salem, a manau eraill. Ymddangosai llaw Rhagluniaeth yn amlwg iawn yn anfoniad Mr. Richard Jones i'r lle. Agorwyd drws iddo i fyned i'r athrofa yn y Drefnewydd, ac o herwydd hyny, bu raid iddo dori y cysylltiad tyner oedd rhyngddo a'r achos yn Mhorthmadog. Ar ol ymadawiad Mr. Jones, ceisiwyd gan y Parch. D. Peter, Caerfyrddin, anfon gwr ieuangc a gyfrifai yn gymhwys i gadw ysgol, a llenwi yr areithfa yn Salem. Anfonodd Mr. Peter un o efrydwyr yr ysgol Ramadegol, sef Mr. Henry Rees, o sir Gaerfyrddin, yma, yr hwn a dderbyniwyd yn groesawus.

"Yr oedd Mr. Rees yn cymeryd yn dda fel pregethwr. Yr oedd yn llawn o fywiogrwydd a nerth. Chwanegwyd nifer mawr o aelodau. at yr eglwys yn ystod ei arosiad. Neillduwyd ef i waith cyflawn weinidogaeth Mehefin 2i1, 1831. Dechreuwyd gwasanaeth gan y Parch. R. Ellis, Rhoslan, (yn awr o'r Brithdir); traddododd y Parch. E. Davies, Trawsfyn-

212

ydd, ddarlith ar natur eglwys Crist; holwyd. y brawd ieuangc gan yr hybarch John Evans; gweddiodd y Parch. David James Rhosymeirch, am fendith ar yr undeb a wnaed rhwng yr eglwys a Mr. Rees; rhoddwyd y cynghor i'r gweinidog gan y Parch. C. Jones, Dolgellau; a phregethwyd ar ddyledswydd yr eglwys gan y Parch. A. Jones, Bangor. Pregethwyd yn y rhanau eraill o'r cyfarfod gan y Parchn. R. Ellis, A. Jones, Isaac Harries, Talysarn; W. Davies, Nefyn; E. Evans, Abermaw, a J. Williams, Ffestiniog.

"Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Rees y symudwyd yr oedfa nos Sabboth o Siloam i Salem. Yr oedd Porthmadog erbyn hyny yn chwyddo i gryn faint, a theimlai y cyfeillion bron yn ddieithriad fod yr amser wedi dyfod i roddi heibio yr hen drefn, i gyfarfod anghenion neillduol a grewyd gan amgylchiadau newyddion. Gwelwyd yn fuan fod y symudiad hwnw yn yr iawn gyfeiriad. Yr oedd y capel yn yr oedfaon hwyrol yn cael ei gwbl lenwi. Chwanegwyd at rifedi yr eglwys nifer o aelodau a barhasant yn ffyddlon hyd angau. Ni fu gweinidog erioed yn ddyfnach yn serch ei eglwys nag oedd Mr. Rees. Ond ni fu ei arosiad yn hir yn Mhorthmadog. Derbyniodd alwad gan yr eglwysi yn Pentraeth a Phenmynydd, Mon, lle bu yn llafurio yn ffyddlon a llwyddianus am lawer o flynyddau.

" Bu yr eglwys yn Salem am dymor heb weinidog, ac efallai heb duedd gref i geisio un. Yn y flwyddyn 1834, cyfeiriwyd eu sylw at Mr. Joseph Morris, yr hwn oedd yn bregethwr cymeradwy iawn yn Liverpool. Yr oedd mor uchel yn marn y cyfeillion yno, fel y bu llawer yn eglwys Greenlond-street yn teimlo tuedd i'w alw yn weinidog iddynt, cyn sefydliad Mr. Pierce yno. Wedi i Mr. Morris dreulio ychydig amser yn Salem, rhoddwyd iddo alwad unfrydol i gymeryd y weinidogaeth, a neillduwyd ef i'r swydd ar y 15fed o Hydref, yn y flwyddyn uchod, pryd y gweinyddodd y Parchn. T. Davies, Ffestiniog; E. Davies, Trawsfynydd; E. Evans, Abermaw; C. Jones, Dolgellau, ac eraill.

" Er fod Mr. Morris yn mwynhau ymddiriedaeth yr eglwys fel gwr Duw, yn ymroddi i gyflawni ei weinidogaeth, ac i ganmol ei hun wrth bob cydwybod dynion yn ngolwg Duw;' etto, cyfarfu a llawer o bethau i'w ddigaloni. Yr oedd ynddo awydd angerddol am eglwys bur, ac ni allai oddef anwastadrwydd yn muchedd y rhai a broffesent ffyddlondeb i Grist. Teimlodd ei hunan dan angenrheidrwydd i wneyd yr hyn a gyfrifai efe yn rhwymedigaeth arno, gan adael y canlyniadau yn llaw yr Arglwydd. Yr oedd lleihad yr eglwys mewn nifer yn cario dylanwad ar ei adnoddau bydol pan oedd ei deulu yn cynyddu, a phenderfynodd i newid maes ei lafur, os agorai rhagluniaeth rhyw le o'i flaen. Cafodd alwad gan eglwysi Bwlchtocyn ac Abersoch, a chymerodd eu gofal yn Hydref, 1836. Gadawodd Borthmadog heb un brycheuyn ar ei gymeriad.

"Yn amser gweinidogaeth Mr. Morris y newidiwyd y cynllun i gasglu arian y weinidogaeth o'r misol i'r wythnosol. Yr oedd hyny yn agosâd at drefn y Testament Newydd. Yr ydym wedi sylwi fod pob diwygiad yn codi prophwydi. Buasai pob achos crefyddol byw, drwy y byd, wedi marw cyn hyn pe buasai prophwydo ei farwolaeth yn ddigon i'w ladd. Nid y rhai sydd yn gwir deimlo dros yr achos yw y rhai sydd yn dyweyd bob lleuad, 'Chwi a ddyfethwch yr achos,' os gwnewch fel hyn neu fel arall. Y peth mawr i bob eglwys, fel i bob dyn yn bersonol, yw gwneyd yr hyn sydd yn iawn, a gadael y canlyniadau yn llaw Duw. Mae gormod o ofn digio, ac awydd boddio y byd, wedi cael llywodraethu yn rhy hir

213

yn yr eglwysi. Yr ydym yn methu gweled paham nad all cymdeithas grefyddol argraffu ei hadroddiadau bob blwyddyn fel cymdeithasau eraill. 'Plant y goleuni' y gelwir crefyddwyr, ac ni ddylent drin pethau y bywyd hwn yn fwy annhrefnus nag eraill. Cafwyd allan yn Salem, yn gystal ag yn mhob man arall lle y gwnaed y casgliad bob dydd cyntaf o'r wythnos, fod mwy o arian yn dyfod i law, a hyny yn esmwythach i'r cyfranwyr. Y mae aelodau ein heglwysi yn syrthio i mewn i'r drefn ysgrythyrol, heb wybod fod un amheuaeth i fod ar y pwngc. Y mae yr hen syniadau a fu yn dylanwadu fel diffoddydd ar weithgarwch yr eglwysi, yn cilio ymaith yn gyflym, ac ni cheir neb mor ddibarch i farn eraill am dano ag a fentro awgrymu fod neb yn hiraethu ar eu hol. Y mae eglwysi yn cael eu gwasgu weithiau gan amgylchiadau y bydd raid iddynt luosogi eu casgliadau, neu fyned yn fethdalwyr.

"Y mae un enw na ddylem ei anghofio mewn cysylltiad a'r achos yn Salem, sef Mr. Robert Roberts (Robin Meirion), Trawsfynydd. Bu y gwr ieuangc seraphaidd hwn yn dra ffyddlon i'r praidd bychan' yn y lle. Yr oedd yn ymwelydd croesawedig yn nheulu Mr. Williams, ac efe a adawodd argraff annileadwy ar feddyliau pob aelod o'r teulu. Ie, mor barchedig oedd yn nghyfrif y boneddwr enwedig, fel na allai son am dano heb dywallt deigryn yn mhen blynyddau ar ol ei gladdu. Bu ei gydnabyddiaeth a'r teulu yn foddion i'w ddwyn i sylw Miss Aldersey, yr hon a fu yn brif offeryn i'w gael i athrofa Cheshunt. Bob troy deuai i'w hen wlad yn nhymor ei efrydiaeth, arferai dreulio cryn lawer o'i amser yn Nhu-hwnt-i'r-bwleh; a phan y dychwelodd adref, yn ngafaelion marwol y darfodedigaeth, profodd garedigrwydd ac ymgeledd y cyfeillion yn Mhorthmadog. Mor uchel oedd ei safle yn marn yr eglwys yn Salem, fel yr oedd yno amryw o'r aelodau yn awyddus i roddi galwad iddo yn weinidog cyn ei fynediad i'r athrofa. Bu farw y brawd ieuangc gobeithiol Robin Meirion, Gorphenaf 18fed, 1832, yn 25 mlwydd oed. Y mae ei ysgrifau a welir yn britho dalenau y Dysgedydd am 1830-1, yn amlygu gallu a dynodd gryn lawer o sylw.

"Yn niwedd mis Awst, 1836, yr oedd gwr ieuangc yn dychwelyd i Gymru o Lundain, lle y bu yn aros am yn agos i ddwy flynedd.* Yr oedd wedi cael ei ddwyn i fyny mewn masnach, ac wedi treulio wyth mlynedd o'i amser yn Lloegr. Argyhoeddwyd ef ei bod yn llawn bryd iddo wneuthur rhywbeth yn fwy uniongyrchol drosto ei hun, yn hytrach na pharhau yn hwy i roddi ei wasanaeth i ereill. Arfaerhai ymsefydlu yn Le'rpwl, lle yr oedd ganddo gylch eang o gyfeillion. Yr oedd wedi arfer pregethu yn achlysurol er's cryn amser, ac yn ystod ei arosiad ynybrifddinas, gwahoddid ef yn fynych i wasanaethu yn mhulpudau y gwahanol enwadau. 'Nid eiddo gwr ei ffordd.' Yr oedd y dyn ieuangc y cyfeiriwyd ato, yn aros dros dro yn ei hen gartref, cyn troi allan dan bwys a chyfrifoldeb y byd. Yn ystod yr amser hwnw daeth i gydnabyddiaeth â gweinidogion y sir. Bu rhai o honynt mor garedig a'i wahodd i gymeryd rhan mewn cyfarfodydd pregethu, lle y cafodd lawer o hyfrydwch wrth wrondo ar, a chymdeithasu â gweision yr Arglwydd.

"Yn mis Hydref, 1836, penodwyd y Parch. W. Williams (Caledfryn), Caernarfon, i fyned trwy Leyn ac Eifionydd i geisio cefnogaeth yr eglwysi i

*Y gwr ieuangc hwn oedd Mr. William Ambrose, yr hwn sydd bellach wedi llafurio yma am 37 mlynedd agos; a'i lwyddiant wedi profi mai rhodd yr Arglwydd i'r wlad yma ydoedd.

214

gymdeithas oedd wedi ei ffurfio yn y sir i dalu dyledion yr addoldai. Ceisiodd gan y gwr ieuangc y cyfeiriwyd ato eisioes i fyned gydag ef, a gwasanaethu fel 'cyfaill' iddo ar y daith. Derbyniwyd y gwahoddiad, a dechreuwyd y daith yn nghyfarfod urddiad y Parch. O. Thomas yn Nhalysarn. Daliodd Caledfryn groesholiadau rhai o ddiaconiaid Lleyn yn lled dda, ar y cyfan. Bu mewn ymdrech yn Peniel, a theimlodd y drain yn anialwch Beerseba. Ond yr oedd yn nghanol ei nerth fel pregethwr, ac yn cael oedfaon llwyddianus. Yr oedd y golofn yn arwain heibio i Borthmadog. Cafwyd yno gynnulleidfa fawr, a hwyl ryfeddol. Gan fod yr eglwys yno heb weinidog, gwahoddwyd y cyfaill i roddi cyhoeddiad Sabbath. Rhoes addewid am Sul yn fuan ar ol hyny.

"Deallodd Caledfryn fod ei gyd-deithydd ieuangc wedi tynu tipyn o sylw y cyfeillion yn y Port. Cyfrifid ef gan Mrs. Williams, Tu-hwnt-ir-bwlch, yn un tebyg o wneyd gweinidog cymhwys iddynt. O'r pryd hwnw hyd ddiwedd y daith, ni pheidiodd Caledfryn ag annog ei gydymaith i roddi i fyny bob meddwl am fasnach fydol, ac ymgysegru yn gwbl i'r weinidogaeth. Yr ydym yn barnu na adawodd un rheswm a feddai heb ei ddefnyddio i ogwyddo tueddiad ei gyfaill. Yr oedd ymrwymiadau y daith ddyddorol a chysurus hono yn diweddu yn nghapel y Bedyddwyr yn Pontycim. Yr oedd cyfarfod blynyddol y Fibl Gymdeithas yn cael ei gynal yno. D. Pugh, Ysw., Cochybig yn y gadair. Christmas Evans, Caledfryn, a W. Roberts, Clynnog, yn siaradwyr. Gofynwyd hefyd i'r brawd ieuangc oedd yno yn ddamweiniol i ddyweyd ychydig. Bu yr hen wron Christmas mor hynaws a dyweyd gair annogaethol i'w gefnogi. Wedi dychwelyd o'r cyfarfod, mynegai Caledfryn iddo sylwedd yr ymddyddan a fuasai rhyngddo â'i gyfaill ieuangc ar y ffordd. Taniai llygad yr hen wr, a dywedodd ychydig eiriau gydag awdurdod oracl. Yr Arglwydd yn unig a edwyn ganlyniadau yr ychydig eiriau hyny. Buont yn foddion i roddi cyfeiriad newydd i oes na fu o hyny allan yn gwbl annefnyddiol.

" Yn ol y cyhoeddiad, daeth y brawd ieuangc o Fangor i Borthmadog i dreulio Sabbath. Cerddodd bob troedfedd o'r daith, ac fel yr oedd yn nesau, yn flin a'i draed yn ddolurus, yn nawn y Sadwrn, i ganol dyeithriaid dywedai rhywbeth o'i fewn, Cymered eraill y weinidogaeth, masnach i mi.' Aeth y Sabbath heibio mor hyfryd ag y gallesid dymuno. Ymddangosai y bobl fel rhai yn cael boddhad, ac yr oeddynt yn barod i ruthro i'w wneuthur' yn fugail arnynt. Ond nid oedd y pregethwr yn teimlo ei feddwl yn addfed i gydymffurfio âu cynlluniau; ond addawodd aros gyda hwynt, os mynnent, am flwyddyn o brawf, rhag i'r naill ochr na'r llall wneyd dim yn fyrbwyll, a thaflu eu gilydd i brofedigaeth.

"Y mae y drychfeddwl am wr ieuangc yn treulio blwyddyn mewn eglwys ar fath o brawf (probation), yn ymddangos i frodyr ieuangc yr oes hon, yn rhywbeth uwchlaw naturioldeb. Ac efallai na chyfrifid rhan o wyneb-ddalen yn cael ei gamddefnyddio, i draethu y rhesymau a ogwyddent ysgogiadau yr un a gyfrifid bellaeh fel gweinidog dyfodol Porthmadog, am aros mor hir heb ei neillduo i'r swydd. Yr oedd yn teimlo fod llafur gweinidogaethol yn beth dyeithr iddo, a bod y swydd yn rhy bwysig i'w chymeryd, heb feddiant o bob rhagddarpariaeth angenrheidiol. Yr oedd hefyd wedi treulio ei oes mewn sefyllfa nad oedd yn bosibl iddo ynddi gael cynnefino a symudiadau mewnol yr achos. Ychydig o gyfeillachau eglwysig a fwynhaodd rhwng 14 a 24 oed. Yr oedd yr eglwys ac yntau yn hollol ddyeithir i'w gilydd. Nid oedd y capel ychwaith wedi ei drosglwyddo

215

yn rheolaidd yn feddiant i'r gynnulleidfa, ac yr oedd y gweinidogion a fuont yno wedi methu cael pethau yn ol eu dymuniad. Nid yw blynyddau o sylw ar symudiadau byd ac eglwys, wedi newid y syniadau a ffurfiwyd yn 1836, am yr angenrheidrwydd am bwyll yn etholedigaeth dyn i'r swydd bwysicaf yn ein byd, sef swydd y weinidogaeth. A ydyw deuddeng mis o brawf yn ormod ar ddyn ieuangc, yn enwedig os na fydd wedi myned drwy barotoad athrofaol? A lle bo'r dyn ieuangc wedi cael manteision goreu athrofa, ni ddylid 'cymeryd yn ganiataol' fod ynddo bob cymhwysder i'r swydd santaidd. Pa beth yw dau neu dri o Sabbathau i brofi dyn? Y. mae diffyg pwyll wedi arwain llawer cwpl ieuangc at eu gilydd mewn priodas i dreulio bywyd truenus. Felly hefyd y mae diffyg ystyriaeth ac amynedd wedi arwain llawer eglwys a gweinidog i anghysur, nes peri iddynt ddiolch am wasanaeth y llys ysgar.

" Nid yw tair-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddau yn ddigon i ddilëu o'r dychymyg yr olygfa a ymagorai gerbron y pregethwr newydd, ar foreu y Sul cyntaf o'i ymddangosiad yn ei gymeriad newydd yn areithfa Salem. Yno yr oedd y rhai sydd heddyw yn benau teuluoedd, yn blant bychain, - drwg a gwaeth, da a gwell, - fel y rhelyw o blant dynion. Y mae y testyn, y penillion (o lyfr D. Jones, Treffynon), arweinydd y gân y tônau, a r holl wasanaeth, gerbron y meddwl. Pa le mae corph y gynnulleidfa? Y maent wedi myned! Mae yr adsain yn holi pa le y maent,' ac y mae y galon yn rhy wan i ofyn am atebiad.

"Nid oedd agwedd pethau yn eglwys Salem ar y pryd hwnw, yn ymddangos ynddeniadol i ddyn ieuangc wedi treulio ei oes yn nghanol llawnder, heb deimlo ias o bryder erioed yn nghylch y bars beunyddiol. Yr oedd gwyntyll dysgyblaeth, dirywiad, ac eneiliad proffeswyr, wedi darostwng nifer yr eglwys, hyd nes gadael nifer y cymunwyr yn bedwar-ar-bymtheg. Yr oedd dwy chwaer ar wely marwolaeth, wedi bod yn nhy yr Arglwydd am y tro diweddaf, sef Ellen Williams, Morfa, a Martha Jones; felly nid oedd ond pedwar-ar-bymtheg o gymunwyr wedi eu gadael. Yr oedd yn yr eglwys ar y pryd hwnw amryw o ddyeithriaid a dyfodiaid yn aelodau o eglwysi eraill, sef crefftwyr yn dwyn cysylltiad â'r adeiladau cynnyddol Yn lle. Yn mysg y rhai hyn yr oedd Henry Jones, un o ddiaconiaid Penlan, Pwllheli, yr hwn oedd yn wr medrus a doniol.

"Yn fuan ar ol sefydliad y gweinidog newydd, agorwyd drws iddo yn nheulu boneddwr yn yr ardal, i fod yn addysgydd i'w unig fab. Rhoes hyn iddo amryw fanteision, heblaw gradd o sicrwydd am y bwyd darfodedig, pan yr oedd yr eglwys yn llawer rhy wan i roddi cynnaliaeth iddo. Nid oedd modd peidio gweled llaw rhagluniaeth fawr yn amlwg yn hyn oll. Daeth y cyfleusdra yn yr adeg yr oedd yn amserol, ac ni symudwyd yr atteg ymaith nes yr oedd yn ddichonadwy i wneyd hebddo. Dyna y bennod gyntaf yn llyfr rhagluniaeth wedi cael ei darllen, ac yn gadael effeithiau da ar feddwl un oedd bellach i fod yn ddysgawdwr i eraill. Yn nghorph y flwyddyn gyntaf o lafur y gweinidog presenol, sef y flwyddyn 1837, chwanegwyd deunaw at rifedi yr eglwys.

"Yn niwedd y flwyddyn 1837, cydsyniodd y gweinidog presenol i dderbyn galwad yr eglwys i gymeryd arno waith cyflawn y weinidogaeth yn Salem, a threfnwyd i'r cyfarfod gael ei gynal ddydd Iau, Rhagfyr 7fed. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. Joseph Morris. Pregethwyd. ar natur eglwys gan y Parch. E. Davies, Trawsfynydd. Holwyd y gweinidog gan y Parch. D. Griffith, Bethel. Gweddiodd y Parch. T. Pierce, Liverpool.

216

Rhoddwyd y cynghor i'r gweinidog gan yr hybarch W. Hughes, Saron. Pregethwyd ar ddyledswydd yr eglwys gan y Parch. W. Williams, Caernarfon. Pregethwyd yn oedfaon eraill y cyfarfod gan y Parchn. T. Edwards, Ebenezer; W. Morris, Nebo; L. Everett, Llanrwst; T. Pierce, Liverpool; W. Jones, Pwllheli, a T. Davies, Ffestiniog. Yr oedd hefyd yn bresenol, Parchn. O. Thomas, Talysarn; E. Griffith, Llanegryn; E. Evans, Abermaw; R. Ellis, Rhoslan; Jones, Capel Helyg; a J. Evans, Tremadog. Y mae mwy na harmer y brodyr hyn erbyn heddyw wedi myned at eu gwobr, ac y mae y gweddill yn tynu yn gyflym ar eu hol. Yn y flwyddyn 1838, chwanegwyd amryw o aelodau newyddion at yr eglwys; ond yr oedd y golled a deimlwyd drwy symudiadau, marwolaethau, a gwrthgiliadau, yn gwrthbwyso y cynnydd, a'r canlyniad oedd, fod rhestr yr aelodau ar ddiwedd y flwyddyn yn cynnwys yr un rhif ag oedd ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol, sef 37. Yr oedd y gynnulleidfa yn cynyddu i'r fath raddau, fel y bu raid ychwanegu oriel at yr addoldy i gyfarfod yr angen am eisteddleoedd.

" Yn y flwyddyn 1839, bu yr Arglwydd yn dda wrth ei achos yn Salem, a theimlwyd yno ysbryd newydd wrth weled yr awdurdod a'r dylanwad a ddilynai y moddion crefyddol yno. Yr oedd rhif yr aelodau wedi cyrhaedd 76, sef mwy na chymaint arall a'r flwyddyn o'r blaen. Yn y flwyddyn 1839, daeth awel o adfywiad dros eglwysi yr Annibynwyr yn Nghymru. Bu ymweliad y Parch. B. W. Chidlaw, A.M., o'r America, â'r wlad hon, yn foddion i gyffroi y gweinidogion a'r eglwysi i fwy o  egni a difrifoldeb. Y mae yn hyfryd gan lawer hyd y dydd hwn adgofio ei anerchiadau dylanwadol. Ni fendithiwyd Lleyn ac Eifionydd â'i ymweliad; ond yr oedd adsain ei weinidogaeth gynhyrfiol yn dylanwadu ar yr eglwysi yn y parthau hyn o'r wlad, ac yn creu awydd cynnyddol am fwy o fywyd yn y gwaith. Gwelwyd arwyddion yn Mhorthmadog, fel yr oedd y flwyddyn yn nesâu at ei therfyn, fod yr Arglwydd ar gyfodi a thrugarhau wrth ei bobl yno. Tybiai y gweinidog ei fod yn canfod mwy o bryder yn mysg y gwrandawyr, a mwy o deimlad yn yr eglwys.

"Yr oedd y dydd cyntaf o Ionawr, 1840, wedi ei neillduo gan eglwysi Annibynol y sir i gydweddio am ymweliad adfywiadol. Bendithiwyd cyfarfodydd blynyddol Caernarfon, Bontnewydd, Amlwch, &c., ar y Nadolig blaenorol, âg arwyddion boddhaol o bresenoldeb yr Arglwydd. Cerddai adsain hyfryd hyd holl amgylchoedd y bryn, a darparwyd meddyliau y cynnulleidfaoedd ar gyfer yr wyl weddi. Yr oedd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn Salem wedi neillduo yr holl ddiwrnod i gysegr yr Arglwydd, a dangosai y tyrfaoedd cynnulledig eu bod yn teimlo eu bod wyneb yn wyneb â sylweddoldeb. Yn oedfa hwyrol y dydd, yr oedd yr ordinhad o Swpper yr Arglwydd yn cael ei gweinyddu, a gwahoddwyd aelodau o bob enwad i ddyfod yn mlaen i gydeistedd a chydwledda. Yr oedd rhyw nawseiddiad mor ddymunol yn ymdaenu dros y cyfarfod, nes peri i bawb o ganlynwyr y Gwaredwr ymwasgu yn mlaen i gymeryd eu heisteddle wrth y bwrdd. Cyn terfyniad y gwasanaeth, daeth rhywbeth dros y lle a barai i lawer, os nad pawb, i feddwl am y Pentecost. Yr oedd tuhwnt i bob darluniad. Ni allai y bobl ymattal rhag amlygu eu teimladau, a llanwyd y lle â sain cân a moliant. Dyma y tro cyntaf i'r gweinidog ddyfod wyneb yn wyneb âg ADFYWIAD. Yr oedd  wedi clywed y son am dano o bell, ond nid oedd y son hwnw wedi meithrin syniadau uchel yn ei feddwl am yr hyn a elwid yn ddiwygiadau. Cyfrifai

217

efe y cyffroadau hyn yn tarddu oddiar wendid synwyr, yn hytrach nag o gryfder crefydd. Darfu i'r un cyfarfod, sydd yn awr dan sylw y darllenydd, fwrw ei holl ragfarnau i lawr yn llwyr. Y mae yn fwy na thebyg na welodd ar o1 hyny, ac na wel byth mwy, arwyddion mor amlwg o law yr Arglwydd ag a welodd ar ddydd Calan, 1840. Nos a gofir byth oedd y noson gyntaf yn 1840. Daeth lluaws yn mlaen yn ymgeiswyr am eu lle yn yr eglwys. Parhaodd y llanw i godi yn uwch uwch dros ddyddiau lawer. Yn fuan ar ol hyny, cynnaliwyd cyfarfodydd pregethu yn Salem, Tabor, a Phenmorfa, (agoriad y capel newydd). Tymmor yr 'argyhoeddiadau mawr' oedd yr adeg hono. Deuai y bobl i mewn ' fel cwmwl, ac fel colomenod i'w ffenestri.' Y mae yn wir fod llawer o honynt wedi cael eu curo gan y cyffroad fel pluen ar wyneb y llifeiriant, a chroesasant drothwy yr eglwys i fyned yn ol i'r wlad lle yr oedd eu calon, ond y mae llawer o honynt yn Nghrist ar y ddaear, a llawer gyda Christ yn y nefoedd.

" Yn ystod y flwyddyn 1840. gwelwyd arwyddion fod angen am eangu y capel. Efallai nad oedd pawb yn cydweled ar y pwnc. Tybiai rhai y buasai yn well talu y ddyled o 150p. oedd yn aros ar yr hen gapel. Dadleuai ereill fod dyled newydd yn ychwanegol at yr hen beth yn haws ei ddyoddef, na rhoddi anfantais i'r achos nas gallai ymadnewyddu o'i effeithiau byth. Yr oedd y gweinidog yn credu fod rhywbeth gwaeth na dyled, - nad oedd hwnw ond peth y gellid ei symud ymaith rhywbryd; a dadleuai y gellid, drwy golli y gynnulleidfa o ddiffyg lle i ymeangu, golli yr hyn nad ellid ei adennill. Pan yr oedd y gweinidog mewn pryder mawr uwchben y gofyniad, pa beth oedd ei ddyledswydd, derbyniodd alwad oddiwrth eglwysi Talybont a Salem, yn sir Aberteifi; a dangosodd dueddiad at fyned yno, ac mai un o'i resymau dros hyny oedd, fod yno le i weithio, yr hyn nad oedd efe yn gael yn Mhorthmadog. Yn nechreu y flwyddyn 1841, aeth y gweinidog ymaith ar neges i'r Deheudir, lle yr arosodd dros dri Sabbath - dau yn Llanelli, ac un yn Nhalybont. Tra. yr oedd efe ymaith, pasiodd y bill gydag unfrydedd yn y senedd eglwysig 1 gael. capel newydd; a'r peth cyntaf a welodd y gweinidog ar ddychweliad, oedd yr hen gapel yn cael ei chwalu, a'r gynnulleidfa yn cydgyfarfod a'r Wesleyaid yn eu haddoldy hwy, yr hwn oedd y pryd hyny yn nghylchdaith Pwllheli. Haner blwyddyn y bu y ddwy gynnulleidfa yn cyd-drigo yn yr un babell, ac ni a obeithiwn yn cydaddoli. Ni ychwanegwyd ond ychydig at nifer yr eglwys yn yr amser hwnw. Yn wir, yr oedd llanw y diwygiad yn encilio yn ol yn rhy gryf hyawdledd dwy sect ei attal.

"Cynaliwyd cyfarfod agoriad y capel newydd Medi 8fed a'r 9fed, 1841. Yr oedd y Parchn. Dr. Vaughan, a J. Blackburn, o Lundain, yn bresenol; a phregethodd y ddau. Y pregethwyr eraill oeddynt y Parchn. Joseph Morris, Llanengan; E. Evans, Abermaw; S. Roberts, Llanbrynmair; T. Pierce, Le'rpwl; O. Thomas, Talysarn; W. Jones, Dolyddelen; James Evans, Trefgarn; J. Morgan, Nefyn; T. Edwards, Ebenezer, a W.Williams, Caernarfon. Dechreuwyd yr oedfaon gan y Parchn. W. Evans, Abererch; S. .Jones, Maentwrog; George Ruthero, Drws-y-coed, a James Jones, Capel Helyg.

"Aeth y draul o adeiladu y capel i derfynau 600p., yr hyn, yal ychwanegol at 150p. oedd o ddyled yn aros arno, a gyfrifid yn faich trwm yn y dyddiau hyny. Talwyd erbyn haf 1842 tua 200p. Yr oedd yr

218

addoldy yn cael ei gyfrif yn llawer mwy nag angenrheidiau yr ardal y pryd hwnw; ond drwy fod nifer y trigolion yn cynyddu, ni fu yn hir cyn i'r holl eisteddfau gael eu cymeryd, a galwad am ychwaneg. Yn y flwyddyn 1856, chwanegwyd at faint y capel drwy gymeryd y vestibule i mewn. Ennillwyd drwy hyny bedwar o gorau ychwanegol. Yn y flwyddyn 1858, ar ol talu dyled yr addoldy, daeth y pwnc o gael capel newydd dan sylw. Yr oedd amryw farnau yn nghylch y modd i fyned yn mlaen. Tybiai rhai y buasai yn well cael addoldy mewn rhyw gwr arall o'r ardal, na chwalu adeilad oedd mor newydd. Ar ol cryn lawer o drafodaeth, gwahoddwyd Mr. Thomas, Glandwr. Derbyniwyd ei gynghor, a chymeradwywyd ei gynlluniau. Gosodwyd y gwaith drwy denders, a rhoddwyd ef i'r cynnygydd isaf. Buwyd yn hir yn naddu ac yn parotoi y meini mynor a gludwyd o Fon, cyn cyffwrdd a muriau yr hen gapel, yr hwn a safodd i wasanaethu yr achos o Fedi, 1841, hyd Gorphenaf, 1859 - deunaw mlynedd. Bu pregethu Saesonaeg rheolaidd am ddwy flynedd o'r tymmor hwn, sef o Medi 5ed, 1852, hyd Hydref, 1854. Yr oedd y gwasanaeth yn dechreu tua chwarter i ddeuddeg, ac yn terfynu tuag un. Yr oedd cynnulleidfa dda yn dyfod yn nghyd. Yr achos uniongyrchol o roddiad heibio y gwasanaeth oedd, symudiad amryw o'r teuluoedd a fuont yn foddion i'w osod i fyny. Heblaw hyny, yr oedd yn gosod y pregethwr dan angenrheidrwydd i gynnal pedwar gwasanaeth bob Sabbath. Ond pe teflid y pwnc gerbron ymchwiliad teg a manwl, efallai mai y ddedfryd fyddai, y dylesid cadw y gwasanaeth hwnw yn mlaen er pob anghyfleusdra. Wrth edrych ar y peth o safle 1870, mae'n ddiau yr ymddengys yn wahanol i'r hyn a ymddangosai yn 1854. Os na ellir beio llawer ar waith y gweinidog yn rhoddi yr oedfa Seisnig i fyny pan y gwnaeth, gellir, efallai, yn awr deimlo mai camgymeriad oedd. Yn ystod deunaw mlynedd a dreuliwyd yn y capel oedd bellach ar gael ei dynu i lawr, gwelwyd amryw dymorau; ond ennillodd yr achos lawer o dir newydd, ac yr oedd nifer yr aelodau yn llawer mwy yn niwedd nag oedd yn nechreu y cyfnod hwnw.

"Ar foreu Sabbath, Gorphenaf 3ydd, 1859, cafodd y gynnulleidfa ei hun yn addoli yn y Town-hall, lle y bu yn cyfarfod hyd y Sabbath diweddaf yn Medi, 1860 - blwyddyn a thri mis. Y mae tymor arosiad yr arch yn yr ystafell hono yn un a hir gofir. Ymwelodd yr Arglwydd a'i bobl mewn modd anghyffredin. Yr oedd holl eglwysi y wlad, o bob enwad, yn cael cyfran o'r gawod wlith, ac ni adawyd cynnulleidfa yr Annibynwyr yn Mhorthmadog fel cnu gwlan Gideon, yn sych yn nghanol y gwlybaniaeth. Er fod yr ystafell yn fechan ac anghyfleus, y mae coffadwriaeth rhai o'r oedfaon a fwynhawyd yno fendigedig. Chwanegwyd ugeiniau o aelodau at nifer yr eglwys, ac adnewyddwyd llawer ar ysbryd yr hen aelodau. Y mae lluaws o ddychweledigion y cyfnod hwnw yn y nefoedd, ac eraill o honynt, wedi cael help gan Dduw, yn aros hyd y dydd hwn yn addurn i grefydd, ac yn ogoniant i Dduw. Y mae yn wir nad oedd y diwygiad hwnw, mwy nag adfywiadau eraill, heb enghreifftiau o siomedigaeth. Trodd llawer yn ol i'w hen lwybrau ar ol i'r teimladau leddfu; ond o'r rhai a dderbyniwyd yn aelodau cyflawn, ni chollwyd ond ychydig mewn cyfartaledd i'r rhai a gadwasant eu tir. Parhaodd gwresogrwydd 'amseroedd yr adfywiad ' am oddeutu chwe' mis.

Yr oedd myn'd yn mhob peth yn y misoedd hyny, ac yr oedd llawer o'r

219

bobl ieuangc yn meddwl fod Satan ar fin colli ei holl ddeiliaid. Nid oedd un cyfarfod, nac un pregethwr, yn anmhoblogaidd yn y dyddiau hyny.

"Ni chollodd yr eglwys ysbryd gweithio yn nghanol bedyddiadau yr Ysbryd. Ymunodd yr holl aelodau i ymdrechu at ddwyn traul yr adeilad newydd. Casglwyd canoedd o bunnau ar ddechreu yr ymdrech. Yn ychwanegol at hyny, ymrwymodd y gweinidog i gasglu 100p. os gwnai yr eglwys roddi neu gasglu 400p. yn ychwanegol ar ddydd yr agoriad. Ni siomwyd y dysgwyliadau. Yr oedd 410p. o arain ar y plates erbyn diwedd dydd y cyfarfod. Yr oedd y gost o adeiladu, erbyn casglu y cwb1 yn nghyd, yn 2,000p. Y mae pob ceiniog o honynt wedi eu talu. Prynwyd ty gerllaw y capel am 450p., a rhoddwyd 300p. at gapel y Borth, a hyderir na bydd y ddyled ychwanegol hon yn hir heb ei chwbl ddileu. Ar y Sabbath diweddaf yn Medi, 1860, traddodwyd y bregeth gyntaf yn yr addoldy newydd, gan y gweinidog. Y Llun a'r Mawrth canlynol, sef Hydref 1af a'r 2i1, cynnaliwyd yr hyn a gyfrifid yn gyfarfod yr agoriad. Y pregethwyr oeddynt D. James, Capel Mawr; D. Roberts, Caernarfon; J. Roberts, Conwy; W. Rees, Liverpool; E. Stephen, Tanymarian, ac R. Thomas, Bangor. Yr oedd yr eglwys a'r gynnulleidfa erbyn hyn yn dechreu cyfnod newydd yn hanes yr achos, o'r hwn y mae deng mlynedd erbyn hyn wedi llithro ymaith.* Y mae yr eglwys yn ystod y tymor hwn wedi myned drwy lawer o drawsffurfiadau, drwy ddyfodiad rhai, a mynediad eraill; ond, ar y cyfan, y mae wedi mwynhau tangnefedd mewnol, ac wedi cael ei bendithio â chynydd. Dengys hanes yr achos yn y Borth fod yr exodus hwnw wedi tolli yn lled drwm ar rif ac adnoddau yr eglwys a'r gynnulleidfa; ond drwy ddaioni yr hwn sydd yn rhoddi y cynydd, ni chaniatawyd i Salem fod 'heb neb yn ei cheisio.' Wedi gosod hanes yr achos yn Mhorthmadog hyd yr adeg bresenol, rhaid gadael y dyfodol i ofal rhyw hanesydd arall. Ond pwy bynag a fydd hwnw, nis gall yr achos hwnw fod yn nes at ei galon nag ydyw i'r hwn sydd wedi croniclo ei hanes hyd yma. Os bydd y dyfodol yn cyfateb i ddymuniadau cynhes yr ysgrifenydd hwn, y mae gogoneddus bethau yn aros yr achos etto.

"Dysgwylia y darllenydd, efallai' am gofnodiadau hanesol am rai o'r personau mwyaf hynod a adawsant eu henwau ar hanes yr achos yn Mhorthmadog. Y mae amryw bersonau wedi bod yn hynod yn mysg y dysgyblion yno, ac yr oedd rhai o'r cymeriadau mor hynod, fel y buasent yn cymeryd llawer o dudalenau i wneyd cyflawnder â hwy. Ond y mae yn anmhosibl rhoddi rhai i mewn heb adael eraill allan. O herwydd hyny, ni chynygir myned yn mhellach na chylch y swyddogion. Un pregethwr a godwyd yn eglwys Porthmadog o gwbl, o leiaf, un yn unig a fagwyd ganddi i ymroddi i'r gwaith, a chymeryd arno y weinidogaeth, sef Mr. David Lloyd, mab Mr. W. Lloyd, Draper. Tueddwyd y brawd hwnw pan yn ieuangc at y weinidogaeth santaidd. Aeth yn y flwyddyn1851 i Bontypridd, sir Forganwg, i dderbyn gan Mr. Oliver addysg ragbarotoawl ar gyfer mynediad i athrofa. Derbyniwyd ef i mewn i Cheshunt, lle y treuliodd y tymor arferol er boddlonrwydd mawr i'r athrawon, ac er anrhydedd iddo ei hun. Yn y flwyddyn 1866, derbyniodd wahoddiad o amryw eglwysi, a dewisodd Zion Chapel, Margate, Kent. Neillduwyd ef i waith y weinidogaeth Mehefin 12fed, 1867.

" Y mae y brodyr a wasanaethasant yr eglwys fel diaconiaid yn teilyngu lle yn yr adgofion hyn. Y diacon cyntaf a fu yn gwasanaethu y byrddau

* Ysgrifenwyd yr hanes uchod yn 1870.

220

yn Salem oedd Humphrey Jones, brodor o Dremadog. Efe oedd y dyn cyntaf a ymunodd âr eglwys yn nydd y pethau bychain, ac o herwydd hyny llithrodd yn naturiol i'r swydd. Pe buasai yr eglwys y pryd hwnw mor luosog ag yw yn awr, credir y buasai yn ddigon doeth i'w ethol ef i'r swydd, er nad oedd ond gweithiwr cyffredin. Ni fu dyn erioed a'i galon yn fwy rhwymedig wrth yr achos. Yr oedd ynddo lawer o foneddigeiddrwydd naturiol, yr hwn a santeiddiwyd gan Dduw ar ol ei ddychweliad i'r ffydd. Yr oedd cyn ei droedigaeth yn rhy dueddol i ddilyn arferiad yr oes, drwy ymweliadau rhy fynych i'r tafarnau; ond ni chyfrifld ef yn ddyn meddw. Nid oedd son am ddirwest yn y dyddiau hyny. Mewn tafarn, pan oedd y gwydryn cwrw yn ei law, y daeth ei gyflwr fel pechadur gerbron ei feddwl. Saethodd argyhoeddiad dwfn i'w enaid. Gollyngodd y gwydryn o'i law. Aeth ymaith a'r saeth yn glynu yn ei galon, ac ni chafodd orphwysdra ddydd na nos, nes cael yr unig feddyginiaeth sydd yn cyfarfod anghenion yr ysbryd cystuddiedig. Parhaodd yn ffyddlawn hyd angeu. Nid oedd perygl iddo ef gymeryd tramgwydd, gan fod arch Duw mor agos at ei galon. Un o feibion tangnefedd oedd Humphrey Jones. Dyoddefodd gryn lawer yn mlynyddau diweddaf ei oes oddiwrth yr asthma, yr hwn a'i hyspeiliodd o gryn lawer o'i fywiogrwydd a'i lafur crefyddol. Bu farw Mehefin 29ain, 1849, yn 56 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Salem. Dywedodd y gweinidog ar lan ei fedd, eu bod yn claddu brawd na chostiodd un deigryn i'w weinidog cyn ei farwolaeth. Fel yr oedd nifer yr eglwys yn cynyddu, dewiswyd William Timothy, Saer llongau, yn gyd-ddiacon âg Humphrey Jones. Yr oedd y brawd hwn yn ddyn boneddigaidd, ac yn meddu gradd helaeth o fedruarwydd i lefaru yn gyhoeddus. Yr oedd yn ddyn da, ond yn wahanol i'w gydswyddog. Yr oedd mwy o angerddoldeb yn ei ysbryd, ac o herwydd hyny yn fwy parod i dderbyn argraffiadau disymwth dros neu yn erbyn rhyw bethau a phersonau. A welodd y darllenydd geffyl ienangc cryf, bywiog, yn cael ei gydieuo âg un llonydd, pwyllog, a gwastad? Ni raid esbonio y gwahaniaeth rhwng y ddau. Yr oedd y gwahaniaeth hwnw rhwng y ddau ddiacon cyntaf yn Salem. Efallai fod hyny cystal, os nad yn well, na phe buasai y ddau o'r un tymherau. Nid yw gras yn symud ymaith neillduolion natur, mwy nag yr oedd ysbrydoliaeth Duw yn tynu ymaith neillduolrwydd doniau y dynion santaidd â lefarasant yn enw yr Arglwydd. Bu y brawd W. Timothy farw Ionawr 5ed, 1849, yn 45 mlwydd oed, a chladdwyd yntau yn mynwent Salem. Gadawodd weddw a saith o blant ar ei ol. Ond bu Tad yr amddifaid yn ofalus iawn am y teulu. Y mae y plant erbyn hyn mewn safleoedd parchus, a'r nifer mwyaf o honynt yn ddefnyddiol gyda chrefydd.

"Ar ol y diwygiad yn 1840, pan oedd nifer y dysgyblion yn amlhau, teimlodd yr eglwys fod yr amser wedi dyfod i ddewis dau frawd yn ychwanegol at nifer y diaconiaid. Yr oedd yr etholiad ar drefn y tugel. Syrthiodd y coelbren ar William Pierce, Shipper, a Hugh Ellis, y Llety. Bu blaenaf yn llenwi ei swydd yn Salem hyd y flwyddyn 1859, pan y symudodd i Ffestiniog, ac y gwasanaethodd yr eglwys yn Rhiwbryfdir fel diacon hyd nes y symudodd i Dalysarn. Y mae yn awr yn Machynlleth, mewn undeb âr eglwys yn nghapel y Graig. Ennillodd y brawd Hugh Ellis radd dda iddo ei hun fel Cristion tawel hyd ddydd ei farwolaeth, Gorphenaf 16eg, 1868, yn 56 mlwydd oed. Yr oedd wedi gwasanaethu y gynnulleidfa fel dechreuwr canu am lawer blwyddyn. Pan gododd

221

eraill mwy galluog nag ef, gollyngodd y swydd yn esmwyth o hono ei hun i ofal y rhai hyny. Yr oedd cymaint o barch iddo, fel na fuasai neb yn ddigon dibarch i'w deimladau i'w ddiswyddo. Pa faint bynag o glod a haeddai fel arweinydd y moliant, ennillodd edmygedd ei frodyr drwy ystwytho fel Cristion i awgrymiad amgylchiadau, ac nid oedd neb yn llawenhau mwy nag ef yn adfywiad y canu cynnulleidfaol. Y mae un amgylchiad neillduol yn hanes y brawd anwyl Hugh Ellis fel aelod eglwysig. Efe oedd yr unig un a wrthododd roddi ei enw wrth alwad y gweinidog presenol. Ni ofynodd y gweinidog iddo erioed am ei reswm dros hyny, ac er ei fod wedi cael mwy o ymddyddan personol âg ef nag a gafodd gydag un aelod arall yn yr eglwys, o herwydd ei fod yn ei ddilyn bob prydnawn Sabbath i'r Morfa Bychan, ac yn ol, ni fu gair o gyfeiriad at yr amgylchiad a nodwyd. Ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth, gwelwyd nad oedd efe wedi anghofio y tro. Nid oedd yn foddlawn i adael y byd heb gyfeirio ato. Traethodd y gofid a gostiodd iddo ef o bryd i bryd am flynyddau, a'i fod wedi meddwl lawer gwaith am fwrw y baich oddiar ei feddwl, ond ei fod yn methu casglu digon o wroldeb. Buasai trosglwyddo yr hyn a ddywedodd i'r wasg, yn ymddangos yn agored i'r cyhuddiad o hunan-foliant; ond digon yw mynegu fod ei eiriau yn anrhydedd i'r gweinidog ac iddo ei hun. Efallai na chyfrifir gair o gasgliad oddiwrth hyn yn anamserol. Mor hawdd a fuasai i'r gweinidog edrych yn wgus ar y brawd, a'i gyfrif fel gelyn dros weddill ei oes. Ond drwy ymddygiad cyferbyniol i hyny, ennillwyd hyder y naill blaid yn y  llall. Y mae yn fantais anrhaethol i weinidog, ac yn wir, i bawb a ewvllysio fyw mewn heddwch a defnyddioldeb, i beidio gweled pethau bychain. Y mae methu myned heibio i bethau bychain, a'r awydd i'w gwyntyllu drachefn a thrachefn, wedi yspeilio gweinidog o gyfeillion cywir. Yn medd anghof y mae tramgwyddiadau bychain yn fwyaf diogel. Y mae amser yn hir yn esbonio pethau, ond fe esbonia yn gywir yn y  diwedd.

"Yn y flwyddyn 1852, daeth galwad am ychwanegu nifer y diaconiaid, gan nad oedd bellach ond dau yn y swydd. Etholwyd pump, sef Robert Griffith, Contractor; Hugh Davies, Tailor & Draper; William Evans, Tinman; Thomas Owen, Carpenter, a Capt. D. Richards. Y mae y rhai hyn oll yn aros hyd y dydd hwn, er fod y cyntaf a enwyd wedi cael ei gaethiwo gan lesgedd er's cryn amser, ac yn analluog i lenwi gwasanaeth y swydd. Yn nechreu y flwyddyn 1866, gwelwyd angenrheidrwydd am ychwanegu at rif y diaconiaid. Barnwyd y dylid cael wyth at y rhai oeddynt eisioes yn y swydd. Dewiswyd cynllun y tugel gymeryd pleidlais yr holl eglwys. Y rhai a ddewiswyd oeddynt O. Morris, O. Hughes W. W. Lloyd, W. Timothy, Ben. Roose, John Williams, Richard Williams, a J. P. Jones. Y mae chwech o'r rhai hyn yn aros yn ffyddlon yn y swydd, un wedi gadael yr achos, a'r llall, sef W. W. Lloyd, wedi marw. Yr oedd y brawd anwyl hwn yn fab hynaf i Mr. W. Lloyd, Draper, Porthmadog. Yr oedd yn frawd i'r Parch D. Lloyd, Margate. Ganwyd ef Tachwedd 14eg, 1834, a bedyddiwyd ef Rhagfyr 2i1, gan y Parch. Joseph Morris. Ymunodd â'r eglwys yn Salem pan yn 19 oed,.yn fuan ar ol ei frawd David. Yr oedd hynawsedd ei dymher, a sirioldeb ei wynebprydd, yn ei wneyd yn gymeradwy gan bawb a'i hadwaenent. Nid oedd tuedd ynddo at un math o gyhoeddusrwydd. Ni chlywid ei lais yn y cyfeillachau eglwysig, er ei fod yno yn ddigoll. Ond yr oedd hoffi gwaith. Y cylch a ennillodd fwyaf o'i ymroddiad oedd yn yr Ysgol

222

Sabbathol. Bu yn arolygwr am flynyddau, a chyflawnodd y swydd gyda llawer o fedrusrwydd. Priododd Mehefin 21ain, 1865, â Mary, unig blentyn gadawedig y diweddar Gad. J. Jones, "W. Alexander," yr hon oedd yn ferch ieuangc yn meddu llawer o ragoriaethau. Anaml y bu priodas yn ymddangos yn fwy addawol o gysur. Yr oedd yr aelwyd deuluol yn ddrych o hapusrwydd. Ond mor siomedig yw y byd yn ei fan goreu! Ar Chwefror 24ain, 1866, yn mhen wyth mis ar ol y briodas, yr oedd ein hanwyl frawd wedi ei adael yn unig. Cymerwyd 'dymuniad ei lygad' oddiarno â dyrnod ddisymwth. Effeithiodd yr amgylchiad yn drwm ar ei iechyd. Collodd ei sirioldeb. Teimlai ei hun mewn unigedd yn nghanol y lluaws. Yr oedd arwyddion dadfeiliad i'w gweled arno yn amlwg yn nechreu y flwyddyn ddiweddaf o'i oes. Wedi iddo gael ei gyfyngu yn ei ystafell, nid oedd neb ond ei berthynasau agosaf, ac un neu ddau o'i brif gyfeillion, yn cael dyfod i'w bresenoldeb. Derbyniodd ergyd drom iawn yn marwolaeth disymwth ei anwyl fam, yr hon a ymollyngodd dan bwys ei llafur a'i phryder, ac a fu farw mor sydyn, nes peri cyffro drwy y dref. Y mae yn anhawdd amgyffred, ac yn anmhosibl traethu, yr effaith a gafodd symudiad y fam ar ei mab cystuddiedig. O hyn allan, ymddangosai fel un yn ymddattod yn gyflym oddiwrth y byd. Daeth ei frawd o Margate i ymweled âg ef, ac ar y ffordd yn ngorsaf Pensarn, yr oedd y newydd yn ei gyfarfod am farwolaeth ei fam! Er na roddwyd i'n cyfaill o Margate yr hyfrydwch prudd o gael cymdeithas â'i fam cyn ei hymddattodiad, cafodd dreulio wythnosau yn nghwmni ei frawd pan oedd yn rhodio tua'r glyn. Yn gwybod am ei wyleidd-dra, a'i annhuedd i siarad yn gyhoeddus, dymunai, ie, gweddiai ei frawd yn daer am iddo gael hamdden i draethu ei brofiad crefyddol cyn ei ymadawiad, oedd bellach yn ymddangos yn agos. Tuag un o'r gloch y bore, Mai 9ed, gwysiwyd ef i wydd y dyoddefydd. Yr oedd arwyddion ymdrechfa galed ar ei wynebpryd, wedi ceisio help ei frawd i sychu ei ddagrau. Wedi casglu holl weddillion ei nerth, dywedai, 'Peidiwch a chyffroi, 'does dim rhyfedd yn myned i ddygwydd. Byddwch dawel. Yr wyf fi yn reit hapus, ac y mae pob peth yn all right rhyngof fi a'r dyfodol. Ond y mae arnaf eisieu settlo yr ychydig bethau sydd genyf yn y byd yma. Gwell gosod petha'r byd yma mewn trefn. Os âf i ffwrdd heb wneyd hyn, bydd heb ei wneyd byth. Y mae arnaf eisieu pob peth fel hyn oddiar fy meddwl.' Yna, gyda'r tawelwch a'r hunanfeddiant mwyaf, dywedodd pa le yr oedd pob peth i'w gael, a pha beth i wneyd a hwy. Rhoes gyfarwyddiadau manwl yn nghylch ei eiddo. Rhoddodd 50p. yn anrheg at ddyled y capel. Teimlai fel un wedi darfod â'r cwbl tu yma i'r glyn, a bu farw yn dawel Mai 9ed, 1870.

"Y mae amryw bersonau o werth a hynodrwydd wedi bod yn dal perthynas â'r achos yn Salem o'i ddechreuad; ond byddai enwi rhai o honynt yn gadael eraill allan yn briodol. Y mae yn sicr fod cyfnewidiadau. yn aros eglwys Salem yn y dyfodol. Y mae ei gweinidog presenol wedi mwynhau iechyd da dros dymor maith ei weinidogaeth; ond teimla nad yw yr amser yn bell pan y gelwir ar yr eglwys i ddewis olynydd iddo. Rhodded yr Arglwydd ysbryd 'nerth, a chariad, a phwyll,' i gyfarfod yr amgylchiad. Y mae rhai o'r hen aelodau yn tynu yn mlaen at ben eu gyrfa. Cyfoded y meibion yn lle eu tadau, a'r marched yn lle y mamau. Y mae yno waith mawr wedi cael ei wneyd yn y lle. Nac ymadawed y gogoniant oddiyno. Cadwer ei heddwch fel yr afon, a'i chyfiawnder fel tonau y mor."

 

CONTINUED