GENUKI Home page
Caernarfonshire Caernarfonshire     Contents Contents

 

 

  Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Caernarfonshire section (Vol 3)

Pages  223 - 236

See main project page

Proof read by Eleri Rowlands (May 2008)

Chapels below;

 


Pages  223 - 236

223

MORFA BYCHAN

(Ynys Cynhaiarn parish)

Dechreuwyd pregethu yn y gymydogaeth hon gan Mr. Richard Jones, yn awr o Lanidloes, yn y flwyddyn 1828, pan y bu am dymor yn aros yn Mhorthmadog. Cafwyd hen felin eithin ar ystad Madog, ac adgyweiriwyd hi yn lle cyfleus i bregethu. Costiodd tua 40p., a theithiodd Mr. Jones trwy Eifionydd a Lleyn i gasglu, a thalwyd yr holl ddyled. Yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd cyn hyny yn arfer cynal ysgol Sabbothol mewn amaethdy a elwid y Garegwen, ond wedi agor y capel symudwyd yr ysgol iddo, a chytunai y ddau enwad i'w chynal. Cynhelid yr ysgol y boreu, a phregethid yn y prydnhawn a'r hwyr gan yr Annibynwyr. Nid oedd un enw ar y capel pan agorwyd ef, ond ar ryw ganol dydd gwaith daeth Mr. Azariah Shadrach heibio i bregethu, ac yr oedd yn gwerthu llyfr newydd o'i eiddo, sef Dyfroedd Siloam. Gan fod y capel gerllaw Llyn y Garegwen, enwodd y pregethwr y capel, heb ymgynghori a neb, yn Siloam, ac o hyny allan daeth y llyn yn adnabyddus fel Llyn Siloam.

Yn mhen amser symudwyd yr oedfa hwyrol o Siloam i Borthmadog, ac ni byddai yma ar ol hyny ond ysgol y boreu ac oedfa y prydnhawn, ond yn achlysurol pregethid yn yr hwyr mewn tai anedd ar y Morfa. Adeiladodd y Methodistiaid gapel iddynt eu hunain yn nes i ganolbwynt y boblogaeth, a gadawsant yr ysgol a'r holl foddion yn Siloam yn gwbl i'r Annibynwyr. Yn y flwyddyn 1856, gan fod yr hen Siloam wedi myned yn adfeiliedig, barnwyd mai gwell oedd codi capel newydd ar y Morfa. Costiodd y Siloam newydd 300p. Agorwyd ef yn Hydref y flwyddyn hono. Hyd hyny nid oedd eglwys wedi ei chorphori yn y lle, ond deuai yr aelodau i gymundeb i Borthmadog, ond yn fuan wedi adeiladu y capel newydd, unodd dau-ar-hugain o aelodau mewn cyfamod i fod yn eglwys yn y lle. Bu y lle mewn cysylltiad gweinidogaethol a Phorthmadog o'r dechreuad hyd nes y codwyd capel yn y Borth, yna ymunodd y ddau le a'u gilydd yn un weinidogaeth; ond buont dan arolygiaeth Mr. Ambrose hyd wanwyn y flwyddyn 1871, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Lloyd B. Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mai 12fed, y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau i weinidogaethu yma. Coffeir am amryw frodyr ffyddlon a fu gyda'r achos yn y lle, a gwasanaethodd Robert Williams, Shop, swydd diacon yn dda dros ei dymor byr, Bu farw Mawrth 26ain, 1862, yn 33 oed. Nis gellir disgwyl yma gynnulleidfa fawr gan nad yw y boblogaeth yn lluosog; ond y mae yma eglwys fechan heddychol a thangnefeddus.

  

BORTH

(Ynys Cynhaiarn parish)

Pentref newydd ydyw hwn wedi ei godi ar dyddyn o'r enw, yn perthyn i ystad Clenanau. Yn y tai a godwyd gyntaf yn y lle hwn yr oedd amryw o aelodau yr eglwys yn Mhorthmadog yn byw. Yr oedd bwriad i godi capel yma flynyddau lawer cyn gwneyd hyny; ond oblegid dau anhawsder oedwyd y gwaith. Yr oedd yr eglwys yn Salem wedi myned i draul fawr i adeiladu capel newydd fel na theimlai yn ddigon calonog ar y pryd i ymgymeryd hefyd a chodi capel newydd yn y Borth. Ac heblaw hyny, nid oedd modd cael tir i adeiladu arno oblegid rhagfarn teulu ucheleglwysig Porkington, perchenogion ystad Clenanau; ond wedi gweled awydd pobl am adeiladu tai yma gwelwyd hefyd fod yn rhaid caniatau lle iddynt

224

i dderbyn addysg grefyddol. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1867, ac agorwyd ef Tachwedd 5ed, y flwyddyn hono. Costiodd tua 550p., a chyfrif pob peth y tuallan iddo; ond yr oedd 500p. wedi eu casglu cyn diwedd dydd yr agoriad. Rhoddodd eglwys Porthmadog 300p. Casglodd Mr. Ambrose 100p., a chasglodd y cyfeillion yn y Borth 100p. Ymadawodd nifer o gyfeillion ffyddlon yn y modd mwyaf heddychol o'r fam eglwys i ymffurfio yn eglwys yma, a theimlid chwithdod mawr ar eu hol. Rhoddwyd galwad i Mr. Lloyd B. Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala, i fod yn weinidog i'r Borth a'r Morfa Bychan, ac urddwyd ef Mai 12fed, 1871. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. T. Davies, Abergele; gofynwyd yr holiadau arferol i'r gweinidog gan Mr. W. Ambrose; gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. E. Morris, Penrhyn; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Peter, Bala; ac i'r eglwysi gan Mr. T. Jones, Tabor. Mae Mr. Roberts yn parhau i lafurio yn y lle gyda derbyniad a pharch.

  

PENMORFA

Mae y pentref hwn o fewn dwy filldir i Borthmadog. Bu y Wesleyaid yn pregethu yma am dymor dan nawdd teulu o'r enw Lloyd, a drigai yn y Wern. Wedi ymadawiad y teulu hwnw ni pharhaodd y Wesleyaid yn hir i ymweled a'r lle. Yr oedd yr hybarch John Evans, Amlwch (gynt), yn meddu craffder neillduol i weled lle manteisiol i gychwyn achos newydd, a sefydlodd ei lygaid ar Benmorfa. Cymerwyd ystafell eang yn y Tymawr o dan ardreth. Defnyddid yr ystafell drwy yr wythnos i wneyd dodrefn, ac yr oedd golwg ryfedd ar y parwydydd ar y Sabboth yn llawn arfau. Cynhelid yma ysgol Sabbothol yn y boreu, a phregethid yn y prydnhawn, ac weithiau yn yr hwyr. Wedi sefydliad Mr. Ambrose yn Mhorthmadog cymerodd ef ddyddordeb mawr yn yr achos hwn, ac yn mhen amser llwyddodd i gael tir gan Syr Joseph Huddart, o'r Brynkir, i godi capel arno, am goron y flwyddyn, ar les o bedwar-ugain mlynedd. Agorwyd y capel yn ngwanwyn y flwyddyn 1840. Galwyd ef Mynydd Seion. Yr oedd diwygiad grymus yn yr holl wlad o gylch yma yn adeg ei agoriad, ac yr oedd y dylanwadau mawrion yn cael eu teimlo trwy yr holl gyfarfod. Ffurfiwyd yma eglwys yn ddioed wedi agor y capel, ao ychwanegwyd amryw at eu rhifedi. Bu ei gofal ar Mr. Ambrose am rai blynyddoedd hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr. William Jones, Dolyddelen, gan yr eglwys hon, a'r eglwysi yn Nazareth, Pantglas, a'r Penrhyn. Yr. oedd Mr. W. Jones o ddoniau poblogaidd, ond yr oedd pellder yr eglwysi oddiwrth eu gilydd yn gosod anfantais dirfawr ar ffordd y gweinidog; ond daliodd yr achos yma ei dir heb un arwydd gwanychiad. Wedi bod yma am yspaid blwyddyn, ymfudodd i America, lle yr ymlygrodd yn ei arferion, ac y daeth i ddiwedd truenus. Ni bu yma neb yn sefydlog ar ol hyn hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr. Robert Parry, ac urddwyd ef Mai 8fed, 1850. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Lewis, Bangor; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Edwards, Ebenezer; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. Ambrose; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Griffith, Caergybi, ac eglwys gan Mr. D. Griffith, Bethel. Bu Mr. Parry yma am yn agos i bum' mlynedd, hyd nes y symudodd i Abercarne, sir Fynwy. Yn fun ar ol ymadawiad Mr. Parry rhoddwyd galwad i Mr. Samuel Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Penygroes a Pisgah. Yn ystod ei weinidogaeth ef helaethwyd y capel a lleihawyd cryn lawer ar y ddyled. Bu achos

225

ei.ymadawiad yn brofedigaeth fawr i'r eglwys ffyddlon yn y Ile, ond trwy y cyfan parhaodd yr Arglwydd i wenu mewn modd neillduol ar yr achos. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1865, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John D. Jones (Deiniol Wyn), gwr ieuangc o athrylith uwchlaw y cyffredin. Cyfrifid y dewisiad yn un hapus iawn; ond yr oedd siomedigaeth yn llechu o dan yr holl ddisgwyliadau. Yr oedd y darfodedigaeth wedi gosod ei nod arno, a bu farw Mai 19eg, 1865. Y flwyddyn ganlynol, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Jones, Tabor, a chymerodd yntau ei gofal; ac efe yw y gweinidog yma etto, ac y mae wedi bod o ddefnydd mawr yn y lle. Yn y flwyddyn 1868, penderfynwyd adeiladu yma gapel newydd hardd. Nid oedd dyled yr hen gapel wedi ei llwyr dalu, ond erbyn codi y newydd yr oedd 800p. o ddyled yn aros, ond y mae erbyn hyn wedi ei thynu i lawr i lai na haner hyny. Agorwyd y capel Mawrth 21ain, 22ain, a'r 23ain, 1869. Yn ystod yr adeg y bu y capel ar lawr, yr oedd rhan o'r gynnulleidfa yn addoli yn y Town-hall, Tremadog. Cedwid ysgol bob boreu Sabboth, a phregethu y prydnhawn a'r hwyr, a chafwyd y fath flas ar y moddion fel y mae yr ysgol y boreu a'r oedfa y prydnhawn yn cael eu parhau; ac yn yr hwyr y mae pawb yn myned i'w fan. Codwyd ysgoldy Brytanaidd perthynol i Benrnorfa, heb fod yn mhell o Dremadog, ac yno y pregethir ac y cynhelir yr ysgol Sabbothol yn awr; ac y mae yno dros bedwar ugain o plant yn cael eu haddysgu. Mae awydd mawr yma am gapel, er nad oes dim etto wedi ei benderfynu. Cafwyd yma ymweliad grymus oddiwrth yr Arglwydd yn niwedd y flwyddyn ddiweddaf, pryd yr ychwanegwyd llawer at rifedi yr eglwys. Codwyd yma un pregethwr, sef John Lloyd, yr hwn a symudodd i Fangor, a chyn hir ymfudodd i America, lle y mae yn weinidog.

  

PENRHYNDEUDRAETH

(Llandecwyn parish, MER)

Mae y lle hwn yn ddaearyddol yn sir Feirionydd, ond y mae ei gysylltiad o'r dechreuad a Phorthmadog, a'i barhad yn nghyfundeb gorllewinol sir Gaernarfon yn ddigon o esgusawd dros ei osod i mewn yma. Yn y flwyddyn 1840, cymerodd Mr. Ambrose ystafell i addoli yma yn y Bont. Lle digon anghyfleus ydoedd, ond yr oedd y lle goreu a allesid gael ar y pryd. Cafwyd cynorthwy effeithiol gan Mr. Samuel Jones, Maentwrog, yn nghychwyniad yr achos yma, ond gostyngwyd ei nerth ef ar y ffordd, a chymerwyd ef ymaith yn nghanol ei obeithion a'i ddisgwyliadau. Adeiladwyd yma gapel yn y flwyddyn 1844. Nid oedd ond un bychan a diaddurn; ond yr oedd agos a bod yn ddiddyled pan agorwyd ef. Bu gwedd addawol iawn ar yr achos unwaith, ond trwy symudiadau mynych ysigwyd yr achos yn fawr. Cafwyd yma adfywiad grymus iawn ar yr achos yn 1859 a'r flwyddyn ganlynol, fel y barnwyd yn angenrheidiol cael capel newydd, ac agorwyd ef Hydref 22ain a'r 23ain, 1860. Yr oedd y lle o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Phenmorfa, ac felly parhaodd hyd derfyn gweinidogaeth Mr. Samuel Jones yn y ddau le yn 1861. Yn 1863, rhoddwyd galwad i Mr. John T. Lewis, o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Hydref 8fed, y flwyddyn hono. Nid arhosodd yma yn hir, symudodd i Rhesycae, ac oddiyno i America. Bu Mr. David Thomas, Beddgelert, yma dros vchydig, ond symudodd i Walkern, yn swydd Henffordd. Yn mis Tachwedd, 1865, rhoddwyd galwad i Mr. Edward Morris,

226

Abererch, ac y mae blynyddoedd wedi profi fod y dewisiad yn un doeth. Mae Mr. Morris yn parhau yma yn ddefnyddiol. Cyfodwyd yma ddau bregethwr-

  

BEDDGELERT

Bu pregethu yn achlysurol yn y pentref hwn yn gynar yn y ganrif bresenol, gan Meistri J. Griffith, Caernarfon; W. Hughes, Saron; D. Griffith, Bethel, ac eraill, ond nid aethant cyn belled yn mlaen a ffurfio eglwys. Wedi hyny, tua'r flwyddyn 1838, byddai Meistri O. Thomas, Talysarn, a W. Ambrose, Porthmadog, yn pregethu yn aml yma. Aethant hwy mor bell ag ardrethu ty yn y lle, a chynaliwyd pregethu rheolaidd yma am dymor, ond ni welsant hwythau eu ffordd yn glir ar y pryd i ffurfio eglwys. Yr oedd fod y lle gymaint o'r neilldu yn gwneyd yn anmhosibl ei gysylltu ag unrhyw eglwys arall, ac y mae yr anfantais hwnw yn parhau. Yr oedd yma amryw Annibynwyr yn y gymydogaeth, ond o ddiffyg moddion crefyddol wedi ymuno a'r Methodistiaid Calfinaidd, ond nid oedd pawb o honynt yn gallu gwneyd eu cartref yn dda iawn gyda hwy. Yn y flwyddyn 1850, gwnaed cynyg drachefn, a sicrhawyd darn o dir yn nghanol y pentref i godi capel arno. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr Gorphenaf 27ain, 1852, ac agorwyd y capel Ebrill 27ain a'r 28ain, 1853. Bu Mr. Ambrose a'r eglwys yn Mhorthmadog yn gefn mawr i'r achos yma. Casglwyd yn dda gan y gymydogaeth a'r wlad oddiamgylch at dalu y ddyled; ac aeth Mr. Ambrose am ychydig ddyddiau trwy sir Aberteifi, a chasglodd y 40p. oedd yn ngweddill fel y cafwyd y capel yn fuan yn rhydd o ddyled. Rhoddwyd galwad i Mr. Thomas L. Jones, o athrofa y Bala, i fod yn weinidog, ac urddwyd ef Mai 22ain, 1856. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Roberts, Caernarfon; holwyd y gofyniadau gan Mr. M. D. Jones, Bala; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. D. Griffith, Bethel; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Ambrose, ac i'r eglwys gan Mr. W. Rees, Liverpool. Ni bu tymor gweinidogaeth Mr. Jones yma yn hir. Symudodd i Machen, sir Fynwy, lle y mae yn aros mewn cymeradwyaeth a llwyddiant. Yn fuan wedi ei ymadawiad rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Henry Lewis, Cwmbach, Aberdar. Byr fu ei arosiad yntau, symudodd i Blaenycoed, sir Gaerfyrddin. Ar ol bod am dymor yn amddifad, rhoddwyd galwad i Mr. David Thomas, o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Ionawr 18fed, 1863. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Griffith, Portdinorwig; holwyd y gweinidog a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Ambrose; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Peter, Bala, ac i'r eglwys gan Mr. D. Roberts, Caernarfon. Ni bu Mr. Thomas yma yn hir. Symudodd i'r Penrhyn, ac oddiyno i Walkern, ac y mae yn awr yn America. Nid oes yma ond eglwys a chynnulleidfa fechan, ond y mae yn nodedig o haelionus. Mae llawer o ddyeithriaid yn dyfod yma bob haf, yr hyn sydd yn gwneyd

227

yn angenrheidiol fod yma bregethu yn Saesonaeg bob Sabboth dros y tymor hwnw; er mai nid bob amser y gellir cael hyny. Cyfodwyd yma un pregethwr, sef Edward Hughes, yr hwn sydd yn aros etto yn y lle.

Wrth adael Porthmadog a'r eglwysi a hanodd yn uniongyrchol o honi, nis gallwn lai na chyfeirio at y ffaith sydd mor eglur, fod Mr. Ambrose wedi gweithio yn egniol i eangu terfynau yr achos er y sefydlodd yn y lle; ac y mae wedi bod yn nodedig o lwyddianus i gael pobl ei ofal i gydweithio ag ef yn hyny. Pan yn 1847 y penodwyd ef yn un o'r Special Ministers for North Wales, yn ol ewyllys Dr. Daniel Williams, yn lle cadw yr arian iddo ei hun, y mae wedi eu rhoddi oll i gynorthwyo y weinidogaeth mewn lleoedd gweiniaid oddiamgylch, heblaw y symiau y mae yr eglwys dan ei ofal yn eu cyfranu yn flynyddol i'r un perwyl. Er nad yw ei iechyd a'i nerth y peth y bu unwaith, etto yr ydym yn gobeithio fod blynyddoedd lawer o ddefnyddioldeb yn ol iddo; a bod yr adeg yn mhell pan y gelwir ar neb i ysgrifenu ei fywgraphiad; ond pa bryd bynag y daw, hyny nis gellir ei ysgrifenu yn gyflawn heb iddo gynwys engreifftiau o'i " ofal dros yr holl eglwysi" yn y rhanbarth o'r wlad lle y trefnodd rhagluniaeth " derfynau ei breswylfod," dros gynifer o flynyddoedd.

  

TALYSARN

(Llanllyfni parish)

Ymddengys mai un Michael Owens, aelod o eglwys Penlan, Pwllheli, oedd y cyntaf i broffesu egwyddorion Annibyniaeth yn y gymydogaeth hon. Arferai ddyfod yma i weithio ar hyd yr wythnos a myned adref dros y Sabboth. Bernir fod hyn mor foreu a'r flwyddyn 1790. Yr oedd trigolion yr ardal yma y pryd hwnw, fel y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru, yn isel mewn gwybodaeth ac yn llygredig eu moesau, a theimlai Michael Owens yn ddwfn dros eu sefyllfa resynol. Arferai bob canol dydd fyned gyda'i gydweithwyr i Hen Chwimsi perthynol i Gloddfa'r Coed, lle y gweithiai, i giniaw; ac ar ol bwyta ei damaid cymerai ei Feibl a darllenai bennod o hono, ac yna plygai ar ei liniau i weddio. Dirmygid a gwawdid ef gan y rhan fwyaf o'r gweithwyr ar y dechreu; ond o'r diwedd cafodd hyny o wasanaeth, a'i grefyddolder yntau, y fath ddylanwad ar ei gydweithwyr fel na fynent fyned at eu gwaith ar ol ciniaw heb yr addoliad crefyddol. Ymgasglai eraill heblaw y gweithwyr yno ar yr awr fel. y daeth yn gynnulleidfa llawer o bobl i glywed yr hen Ddisenters, fel ei gelwid, yn gweddio. Ni bu y cynnulliadau hyn heb eu heffeithiau daionus ac nid y lleiaf o honynt oedd ddarfod iddynt fod yn arweiniad i mewn i wasanaeth mwy sefydlog a chyhoeddus. Gwahoddwyd Meistri George Lewis, Caernarfon, a B. Jones, Pwllheli, yma i bregethu, y rhai a ymwelasant a'r lle amryw weithiau. Ar ol dyfodiad Mr. J. Griffith i Caernarfon cafwyd yma bregethu yn fwy rheolaidd, a chynorthwyid Mr. Griffith gan Mr. W. Hughes, Brynbeddau, yr hwn a fu yn efengylwr teithiol yn y sir am flynyddoedd lawer. Pregethodd y ddau lawer yma, fynychaf yn yr awyr agored. Yn yr Evangelical Magazine am 1815, tudalen 78, ceir y crybwylliad a ganlyn: -  "Wrth weled y bobl yn gyffredinol yn anghrefyddol, ac yn amddifad o foddion gras, tueddid Mr. Griffith i bregethu iddynt yn yr awyr agored, hyd nes o'r diwedd y trefnodd Rhagluniaeth iddynt le o addoliad. Yr oedd gweithfa wlan (woollen factory) wedi ei hadeiladu yn y gymydogaeth, ond oherwydd rhyw resymau gwelodd y cwmni yn briodol i symud, a thueddodd yr Arglwydd eu calonau i roddi

228

yr adeilad i fyny at bregethu ynddi, a hyny ar les hir, ac ar delerau rhesymol. Llafuriodd Mr. Griffith a'i gynorthwywyr yma ar ol hyn am ddeng mlynedd mor aml ag y caniatai amgylchiadau, hyd nes o'r diwedd y gwelodd Mr. Griffith yn angenrheidiol i gael gweinidog sefydlog yn y lle i gadw ysgol ac i bregethu yn rheolaidd bob Sabboth."

Gallem feddwl mai yn y flwyddyn 1802 y dechreuwyd addoli yn yr hen factory; oblegid bu Mr. Griffith, Caernarfon, a'i gynorthwywyr yn cyrchu yma am ddeng mlynedd; ac yn nechreu y flwyddyn 1812, gwahoddwyd Mr. David Griffiths, mab y Blowty, yn Lleyn, ac aelod yn y Capelnewydd, i ddyfod yma i bregethu a chadw ysgol. Llafuriodd yn ddiwyd am yn agos i dair blynedd, ac yna rhoddwyd galwad iddo gan yr ychydig aelodau yn y lle. Nid oeddynt ond deuddeg mewn nifer, chwech o ddynion a chwech o fenywod, a'r rhan fwyaf o'r rhai hyny wedi eu dychwelyd at grefydd yn ystod y tair blynedd y bu yn llafurio yn y lle. Urddwyd Mr. Griffiths Hydref 14eg, 1814, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri B. Jones, Pwllheli; J. Griffith, Caernarfon; 0. Thomas, Carog, a W. Jones, Salem. * Daliodd Mr. Griffiths i lafurio yma yn ddyfal, ac er fod ei gyflog yn fechan a'i deulu yn lluosog, er hyny nid ymollyngodd. Rhoddodd yr ysgol ddyddiol i fyny er ymroddi yn llwyrach i bregethu, ond profodd hyny yn brofedigaeth iddo yn ei amgylchiadau. Pregethai yn Glynymeibion, ar ochr mynydd y Cilgwyn, ac yn Llwynbedw, ar ochr mynydd Llanllyfni; a phregethodd lawer mewn gwahanol dai yn nghymdogaeth Drwsycoed. Yn y flwyddyn 1822, penderfynwyd helaethu yr hen gapel, a'i wneyd yn llawer mwy cyfleus. Agorwyd ef Hydref 16eg a'r 17eg, y flwyddyn hono. +  Yr oedd Pisgah wedi ei adeiladu y flwyddyn cyn hyny, a chodwyd Nazareth y flwyddyn ar ol hyny, yr hyn a ddengys nad oedd Mr. Griffiths na segur na diffrwyth yn ei weinidogaeth. Bu yma hyd y flwyddyn 1830, pryd y symudodd i Bethesda, ac yr ymgymerodd a siop fechan; ond pregethai bob Sabboth er nad oedd gofal eglwysig arno yn y tymor hwnw. Cyn hir wedi ymadawiad Mr. Griffiths, daeth Mr. Isaac Harries yma o athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yn weinidog yn Talysarn a Pisgah. Yr oedd Isaac Harries yn ddyn ffraeth a doniol, ac yn llawn o ryw fath o weithgarwch. Yn ei dymor ef y codwyd capeli yn Drwsycoed a Phenygroes, ac yr oedd ei hylithrwydd fel traddodwr yn tynu cynnulleidfaoedd lluosog i'w wrando. Pe buasai ei fuchedd yn cyfateb i'w dalentau gallasai fod yn ddyn defnyddiol iawn; ond yr oedd yn gymeriad llygredig ac annuwiol. Ymgymerai ag anturiaethau masnachol, a llwyddai trwy ei gyfrwystra i fyned dros ben pobl ddiniwed am eu harian, ac nid oedd ynddo onestrwydd a geirwiredd i gwblhau ei ymrwymiadau. Yr oedd yn un o'r cymeriadau gwaethaf yn mhob ystyr a fu erioed yn ymlusgo wrth y weinidogaeth. Bu yma o gylch pedair blynedd, ond symudodd yn nechreu y flwyddyn 1836 i'r Mynyddbach, gerllaw Abertawy; lle fel y gwelsom y gwnaeth hafog ar un o'r hen eglwysi parchusaf a fedd ein henwad. Treuliodd yr ugain mlynedd olaf o'i oes gyda gwehilion cymdeithas yn y brifddinas, ac y mae ei ddiwedd yn engraifft alarus o ddiwedd truenus pregethwr annuwiol! Wedi ymadawiad Mr. Isaac Harries rhoddwyd galwad i Mr. Owen Thomas, o Rydlydan, sir Ddinbych, ac. urddwyd ef Rhagfyr 7fed, 1836. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Jones, Pwllheli. Holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Davies, Nefyn; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr.

* Evengelical Magazine, 1815, Tudal, 78.  + Dysgedydd, 1823, Tudal. 25.

229

W. Hughes, Saron; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. W. Williams, Caernarfon.* Llafuriodd Mr. Thomas yn ddiwyd yn Talysarn, Pisgah, a Phenygroes, a bu am yspaid yn myned yn fisol i Drwsycoed, hyd nes yr urddwyd Mr. George, Rhydero, yno. Yn ei amser ef hefyd y codwyd capel y Foel. Cafwyd yma ddiwygiad grymus yn niwedd y flwyddyn 1839 a'r flwyddyn ganlynol. Symudodd Mr. Thomas oddiyma i Dalybont, sir Aberteifi, yn Mawrth 1846. Aeth pedair blynedd ar ol hyny heibio heb i'r eglwysi unedig yma sefydlu ar weinidog, er iddynt yn y cyfamser siarad am lawer; a theimlodd yr achos yn fawr oddiwrth yr amddifadrwydd. Rhoddodd Talysarn a Drwsycoed alwyd i Mr. David Jones, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 25ain, 1850. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri D. Griffith, Bethel; D. Roberts, Caernarfon; E. Stephen, Dwygyfylchi; W. Ambrose, Porthmadog; D. Davies, Pantteg, ac eraill. Nid oedd nifer yr aelodau yma ar sefydliad Mr. Jones ond deg-ar-hugain, ond cynyddasant i driugain cyn ei ymadawiad. Derbyniodd alwad o'r Drewen, sir Aberteifi, a symudodd yno yn niwedd Ebrill, 1853, ac y mae er's blynyddau bellach wedi ymfudo i America.  Wedi bod dair blynedd drachefn heb weinidog rhoddodd y ddwy eglwys alwad i Mr. Edward W. Jones, o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mai 21ain, 1856.  Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Griffith (ieu.), Bethel. Holwyd y gofyniadau gan  Mr. E. Stephen, Dwygyfylchi. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. D. Griffith, (hynaf,) Bethel.  Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. D. Roberts, Caernarfon. Bu Mr. Jones yma yn ddefnyddiol am bymtheng mlynedd. Nid oedd rhif yr aelodau uwchlaw deg-ar-hugain ar ei sefydliad, ond yr oeddynt yn gant-a-deg-ar-hugain ar ei ymadawiad. Bu llawer o son am gael capel newydd, oblegid fod yr hen yn adfeiliedig iawn, heblaw fod mewn lle hollol anghyfleus, ond cyfodai rhyw rwystrau beunydd. Ond yn y flwyddyn 1861, cafwyd addewid am le cyfleus yn Llechillyfnion, ar ystad Coed Madog, a chodwyd capel hardd gwerth 750p. Agorwyd ef Awst 20fed,.1862, a thrwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad yr ysgol Sabbothol yn benaf y mae y ddyled yn toddi yn gyflym. Ymfudodd Mr. Jones i America, yn haf 1871. Cyn diwedd y flwyddyn 1872, rhoddwyd galwad Mr. Evan G. Jones, yr hwn a fu yn weinidog yn Treorci, sir Forganwg, ac efe yw y gweinidog presenol.

Codwyd yma un pregethwr, sef Caleb Williams, brodor o Lanengan, Lleyn, ac y mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Nottingham. +

  

PISGAH

(Llandwrog parish )

Dechreuwyd yr achos yma gan Mr. D. Griffiths, Talysarn, o gylch y flwyddyn 1820. Deuai Mr. Griffith, Bethel, hefyd yma yn aml. Pregethid mewn amaethdy o'r enw Glynymeibion, ac hefyd yn Penbrynhafoty, ac weithiau yn yr awyr agored. Ar un prydnhawn Sabboth ar ddiwrnod poeth, pregethai Mr. Griffith, Bethel, yn yr awyr agored, ac ar ddiwedd yr oedfa ymddangosai, er cryfed ydoedd, fel wedi diffygio, a dywedodd John Rowlands, Penbrynhafoty, un o'r gwrandawyr wrtho, na chai ladd

*Dysgedydd 1837. Tudal 65.        + Ysgrif Mr. E. W. Jones, Dysgedydd, 1871. Tudal. 48.

230

ei hun felly trwy orfod pregethu allan, y mynai ef adeiladu capel iddynt; a rhoddodd iddynt dir i'r perwyl yn rhad. Adeiladwyd y capel y flwyddyn ganlynol, ac agorwyd ef Hydref 22ain, 1821. Yr oedd William Hughes, Buarth, a John Jones, Bwlchyllyn, yn aelodau yn Nhalysarn, ond ymunasant a'r achos yma ar ei gychwyniad a buont yn ffyddlawn iddo. Bu y lle mewn cysylltiad a Thalysarn hyd derfyn tymor gweinidogaeth Mr. O. Thomas yn 1846. Am bedair blynedd ar ol hyny bu yn dibynu ar weinidogion eglwysi eraill, a phregethwyr cynorthwyol. Rhoddwyd galwad gan yr eglwys hon a'r eglwysi yn Mhenygroes a'r Foel i Mr. Samuel Jones, ac urddwyd ef Medi 10fed, 1850. Bu graddau o lwyddiant ar ei lafur, lluosogodd yr eglwys a'r gynnulleidfa; ac ailadeiladwyd y capel yn dy harddach a helaethach. Ymadawodd oddiyma i Benmorfa yn y flwyddyn 1854. Yn mhen dwy flynedd rhoddwyd galwad gan Pisgah a Phenygroes i Mr. Evan J. Evans, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mai 12fed, (Sulgwyn,) 1856. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Roberts, Caernarfon. Holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Roberts, Llanerchymedd. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. W. Jones, Amlwch, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. W. Ambrose. Llafuriodd Mr. Evans yma yn ddiwyd am un-mlynedd-ar-bymtheg, hyd nes y derbyniodd alwad o Berea a Phenmynydd, Mon, ac y symudodd yno yn Mawrth, 1872. Adeiladwyd y capel drachefn yn y flwyddyn 1861 trwy draul o 400p. Mae yr achos yma ar y cyfan wedi bod yn siriol bob amser, a'r eglwys yn unol a heddychol, a llawer o gynesrwydd teimlad o'i mewn. Cafwyd yma adfywiadau grymus yn nhymor gweinidogaeth Mr. Thomas, yn y blynyddoedd 1839-40, ac yn mhen ugain mlynedd wedi hyny yn adeg gweinidogaeth Mr. Evans. Coffeir am gyfarfodydd gweddi nodedig a geid yma yn nechreuad yr achos, ac wedi hyny yn y ddau dymor o ddiwygiad a gafwyd. Yn nechreuad yr achos nid oedd yma ddim ond tri i gael i weddio, dau frawd ac un chwaer. Byddai William Hughes yn dechreu, a dilynid ef gan Beti Pritchard, Plas Trallwm, a dybenid gan John Jones; ac y mae yr argraff a gafodd gweddiau Beti Pritchard yn aros ar rai yn yr ardal hyd y dydd hwn.* Yn y diwygiad yn ngauaf 1839, byddai cyfarfod gweddi yn cael ei gynal yn y capel yn y boreu cyn myned i'r gloddfa, ac nid anghofir y teimladau a fwynheid ynddynt.

Codwyd yma i bregethu-

Bu Ellis Thomas, Pisgah, yn bregethwr cynorthwyol am lawer o flynyddoedd, ond nid ydym wedi cael gwybodaeth pa le y dechreuodd bregethu, nac unrhyw fanylion am hanes ei fywyd.

  

NAZARETH

(Llanllyfni parish)

Mae y lle hwn ar ochr mynydd Llanllyfni. Dechreuwyd pregethu yma mewn lle o'r enw Llwynbedw, gan Mr. D. Griffiths, Talysarn. Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn y flwyddyn 1823, ac agorwyd ef Gorphenaf 4ydd, y flwyddyn hono. Yr oedd baich o ddyled arno pan agorwyd ef, a pharhaodd yn faich mor drwm nes y bu yn mron a llethu yr achos.

* Llythyr Mr. W. W. Jones.

231

Wedi ymadawiad Mr. Griffiths darfu y cysylltiad rhwng y lle a Thalysarn, ac ni bu yma yr un gweinidog sefydlog am dymor hir, er i lawer fod yma yn aros dros ychydig. Yr oedd rhyw elfenau yn y lle oedd yn milwrio yn fawr yn erbyn llwyddiant yr achos. Yn y flwyddyn 1844, unodd yr eglwys hon a'r eglwysi yn Pantglas a Sardis i roddi galwad i Mr. Richard W. Roberts, ac urddwyd ef yma, ond ni bu ei arosiad ond byr. Derbyniodd alwad o Clarach a Salem, sir Aberteifi, a symudodd yno. Yn y fiwyddyn 1857, daeth Mr. John Morgan yma i gadw ysgol ac i ofalu am yr achos oedd wedi myned erbyn hyn yn isel iawn. Nid oedd ond tri dyn yn y lle. Yr oedd y capel yn adfaeliedig, a dyled drom arno, a'r llôg yn rhedeg heb ei dalu. Ymaflodd Mr. Morgan yn y gwaith o ddifrif - adgyweiriwyd y capel, mynwyd gweithred ac ymddiriedolwyr newyddion, talwyd y llôgau oedd wedi rhedeg, a thalwyd l00p. o'r ddyled, am y rhai yr oedd Mr. Griffith, Bethel, yn gyfrifol. Cafwyd adfywiad grymus pan yr ychwanegwyd rhai ugeiniau at yr eglwys. Ymadawodd Mr. Morgan oddiyma i sir Aberteifi, yn 1866. Wedi dyfod yn rhydd o ddyled adeiladwyd yma gapel newydd yr hwn a gostiodd fwy na 700p. Yr oedd yn rhy gostfawr i amgylchiadau yr eglwys a'r gynnulleidfa; ond y mae cydymdrech yn cael ei wneyd yn awr i ysgafnhau y baich. Agorwyd y capel Gorphenaf 2i1 a'r 3ydd, 1867. Mae yma boblogaeth fawr, ac y mae yr hyn a wnaed mewn rhai adegau yma yn profi y gellid cael yma achos da, ond cael gweinidog cymwys i'r lle. Yn niwedd y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, aelod o Coedpoeth, gerllaw Wrexham, ac urddwyd ef Ionawr 10fed, 1868. Nid arosodd yma ond ychydig, gwaelodd ei iechyd, ac y mae yn awr yn byw yn Nhrefriw, ac yn pregethu lle y gelwir am ei wasanaeth. Codwyd yma un pregethwr, sef Daniel Roberts, yr hwn sydd yn awr yn Llanberis.

  

PANTGLAS

Translation on http://www.genuki.org.uk/big/wal/CAE/ClynnogVawr/Hanes.html

Mae y lle hwn yn mhlwyf Clynogfawr, ar ochr y ffordd o Gaernarfon i Borthmadog. Agorwyd yma gapel bychan y Mawrth a'r Mercher cyntaf yn 1837. Nid yw ond achos bychan, fel llin yn mygu o'r dechreuad, ac y mae wedi cael colledion mawrion trwy fynych symudiadau. Mae y lle wedi bod bob amser mewn cysylltiad a Nazareth, ac yn mwynhau yr un weinidogaeth. Bu ei ddyled yn faich trwm am dymor hir, ac ymdrech fawr a fu raid wneyd i ddyfod yn rhydd o honi. Yr oedd Mr. Jones, Abermaw, a Mr. Ellis, Brithdir, yn gyfrifol am y ddyled, a bu raid iddynt fyned oddiamgylch i gasglu i'w thalu; a bu Mr. John Morgan yn yr adeg y bu yma, yn llawer o help tuag at hyny. Yn ei amser ef hefyd yr adgyweiriwyd pen y capel, a thrwy ffyddlondeb y chwarelwyr yn gweithio yn rhad ar hyd y nos y gwnaed llawr newydd iddo. Yma y dechreuodd Thoma Jones bregethu, yr hwn er's blynyddau bellach sydd wedi ymfudo i America.

  

DRWSYCOED

(Llanllyfni parish)

Er fod pregethu yn achlysurol yn y gymydogaeth yma er dyddiau gweinidogaeth Mr. D. Griffiths, etto yn y flwyddyn 1836, pan oedd Mr. Isaac Harries yn weinidog yn Nhalysarn, yr adeiladwyd yma gapel. Yr oedd gweithiau mwn yn cael eu hagor yma y pryd hwnw, a bernid y deuai yma boblogaeth fawr. Agorwyd y cape]. Awst 30ain a'r 31am, 1836.

232

Nid oedd yr achos yma ond gwan y pryd hwnw, ac felly y parhaodd yn hir. Siomwyd disgwyliadau llawer gyda golwg ar weithiau mwn yr ardal, er iddynt droi yn fwy llwyddianus ar ol hyny. Yr oedd Mr. O. Thomas, Talysarn, yn dyfod yma yn fisol, ond yr oedd amledd yr eglwysi dan ei ofal yn ei atal i roddi mwy o'i lafur i'r achos bychan hwn. Bu yma un o'r enw David Davies a ddaethai i'r lle o sir Ddinbych, ac yr oedd yn bregethwr cynorthwyol, yn ffyddlon yn ol ei amgylchiadau. Yn y flwyddyn 1839, rhoddwyd galwad i Mr. George, Rhydero, ac urddwyd ef Rhagfyr l9eg, y flwyddyn hono. Bu ef yma yn gwneyd ei oreu hyd nes yr ymgymerodd yn 1845 a chario yr achos yn mlaen yn Rhosnenan. Er y flwyddyn 1850, a sefydliad Mr. D. Jones yn Talysarn, y mae y ddwy eglwys wedi bod mewn cysylltiad a'u gilydd, a than yr un weinidogaeth. Yn 1856 codwyd yma gapel newydd, ac y mae yma gynnulleidfa gref ac eglwys heddychol a gweithgar. Buasai yn dda genym roddi hanes manylach, ond gan nad anfonwyd i ni ddefnyddiau nid oes genym ond dyweyd yr hyn a wyddom oddiar ein hadnabyddiaeth bersonol o'r ardal. Nid ydym yn gwybod am ond un pregethwr a godwyd yma, sef Howell R. Jones, yr hwn a urddwyd yn Hebron, Lleyn, ac sydd yn awr wedi ymfudo i America.

  

PENYGROES

(Llanllyfni parish)

Adeiladwyd yma gapel yn y flwyddyn 1834, gan Mr. Isaac Harries, yr hwn a alwyd yn SOAR. Cododd Isaac Harries y capel yn ei enw ei hun a'i feddiant ef ydoedd, a thrwy drafferth fawr y llwyddwyd i'w gyflwyno i ymddiriedolwyr i fod yn feddiant i'r eglwys. Gwerthwyd ef yn gyntaf i Mr. William Williams, Mount Pleasant. Yn yr ail werthiant arno daeth i feddiant Mr. J. J. Davies, meddyg, Penygroes; a throsglwyddwyd ef ganddo i'r eglwys am 140p. Bu raid i'r gynnulleidfa dalu 15p. o ardreth am dano ar ol y gwerthiant cyntaf fu arno. Yn nechreu 1839 y daeth yn feddiant i'r eglwys. * Gwan a fu yr achos yma am dymor lled hir, ac nid oedd poblogaeth y lle ond ychydig mewn cydmariaeth i'r hyn ydyw yn awr. Mae yr achos yma wedi cynyddu yn fawr yn nghorff y blynyddoedd diweddaf. Yn 1860, adeiladwyd yma gapel newydd eang a hardd, mewn man cyfleus, yr ochr arall i'r heol i'r hen gapel. Costiodd 550p. Yn 1872, rhoddwyd oriel yn y capel yr hyn sydd wedi ei harddu yn fawr, ac wedi ei wneyd yn llawer mwy cysurus i lefaru a gwrando. Bu y lle hwn mewn cysylltiad a Thalysarn hyd derfyn gweinidogaeth Mr. O. Thomas; ond er dyfodiad Mr. Samuel Jones yma yn 1850, y mae yr eglwys hon wedi bod yn nglyn a Pisgah hyd ymadawiad Mr. Evans yn nechreu 1872. Nis gwyddom ddim am amgylchiadau yr achos yma yn awr gan na anfonwyd hanes i ni gan neb sydd mewn cysylltiad ag ef. Codwyd i bregethu yma-

  

LLANLLYFNI

Nid yw hwn ond achos ieuangc wedi ei gychwyn yn y flwyddyn 1870. Cafwyd benthyg capel i'r Sande-maniad yr hwn oedd wedi myned yn ddi-

*Dysgedydd, 1839. Tudal. 125.

233

wasanaeth, ac yno y dechreuwyd. Ychydig o aelodau Penygroes a ddechreuasant yma, ac y mae y lle o'i gychwyniad wedi bod mewn cysylltiad a'r eglwys yno, ac felly y mae yn parhau. Yn y flwyddyn 1871, adeiladwyd yma gapel newydd mewn lle cyfleus, ac er hyny y mae yr achos wedi myned rhagddo yn gysurus. Gyda gofal a diwydrwydd, a gweinidogaeth gyson gellir gwneyd cynydd graddol, er nas gellir disgwyl yma gynnulleidfa gref yn fuan gan fod enwadau eraill wedi hir wreiddio yn yr ardal.

  

MOEL TRYFAN

(Llandwrog parish)

Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn y flwyddyn 1840; a chan nad oedd wedi ei drosglwyddo yn gyfreithiol i ymddiriedolwyr, daeth trwy ryw amgylchiadau yn feddiant i Mr. David Griffith, yr hwn sydd hyd heddyw yn bregethwr cynorthwyol yn y lle. Bu y lle dan ardreth gan yr eglwys am un-mlynedd-ar-hugain. Crybwyllir enwau William Jones, y Pantia; John Williams, Foel, a Robert Jones, Hafodyrhos, fel y tri chyntaf a gynlluniodd am godi capel yma. Ymfudodd y ddau flaenaf i America, and y mae yr olaf yn aelod etto yn Pisgah. Daeth David Griffith yn fuan i gymeryd rhan yn y gwaith, ac ar ei ysgwyddau ef am flynyddau y gorphwysai pen trymaf y baich. Deuai Mr. Owen Thomas, Talysarn, yma yn fisol i weinyddu y cymundeb hyd ei ymadawiad i Dalybont; ac ar Sabbothau eraill pregethid gan David Griffith a Richard Jones, Drwsycoed. Denai rhai o aelodau Talysarn a Phenygroes yma yn achlysurol i roddi help mewn cyfarfodydd gweddio; ac yn mysg y ffyddloniaid hyny coffeir enwau David Williams, John Williams, a William Jones, Penmynwenttwrog. Bu John Rhydero, mab Mr. George Rhydero, yn ffyddlawn ar un adeg i ddyfod yma i gynorthwyo gyda'r ysgol Sabbothol. Wedi sefydliad Mr. Samuel Jones yn Pisgah, cymerodd ef ofal yr eglwys yma. Ar ol yr adfywiad grymus a gafwyd yn y flwyddyn 1860, meddyliwyd am gael capel newydd; a chafwyd darn o dir yn rhad i'w adeiladu arno gan Mr. Hugh Williams, Bryncoch. Codwyd y capel yn 1861. Daeth yr achos rhagddo yn llwyddianus, fel cyn pen deng mlynedd y gwelwyd fod angen capel llawer helaethach, yr hwn a agorwyd Sulgwyn 1872. Cafwyd y flwyddyn yma dri chwarter erw o dir yn nglyn a'r capel at wneyd mynwent. Bu y gweinidogion cymydogaethol, yn enwedig y Meistri D. Roberts, Caernarfon (Wrexham yn awr), a T. Jones, Tabor, yn llawer o gefn i'r achos yma; a chymerodd y diweddar Mr. John Hughes, Watchmaker, Caernarfon, a Mr. Hugh Hughes, Coedybrain, ran o'r baich yn llawen trwy fyned yn feichnion am ddyled y capel; ac yn mysg aelodau yr eglwys hon yn nesaf at David Griffith, ni chostiodd yr achos fwy o lafur a phryder i neb nag i Hugh Griffith, Tanyfoel; John Williams, Nantbach; William Lloyd, a William Thomas, Gors.*   Mae yma gynnulleidfa gref, ac eglwys yn rhifo tua chant ac ugain o aelodau, heblaw rhyw bump-ar-hugain eraill sydd yma yn ymgeisio am aelodaeth.

  

RHOSNENAN

(? parish)

Dechreuwyd yr achos yma yn y flwyddyn 1843, gan Mr. David Griffith,

*Llythyr Mr. Owen Hughes, Moeltryfan.  

234

Foel. Ardrethodd dy anedd yma a thalodd am dano hyd ei fynediad i America yn y flwyddyn 1845. Cymerodd Mr. George Rhydero at y lle, a phenderfynwyd cael capel yma. Rhoddodd Catherine Hughes dir, a chodwyd y capel yn 1849. Galwyd ef Gosen. Yr oedd yr adeiladwyr yn gweithio arno, a Mr. Rhydero yn teithio i gasglu ato; a thrwy ddiwydrwydd llwyddodd i gasglu digon i dalu am yr adeilad, ond nid oedd wedi ei drefnu oddifewn. Rhoddwyd eisteddleoedd ynddo drachefn, a chasglodd ran fawr o draul y rhai hyny. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, a dyoddefodd lawer o golledion trwy symudiadau a marwolaethau. Goddefodd lawer o anfantais o ddiffyg gweinidogaeth reolaidd, ond y mae yn awr mewn cysylltiad a Phisgah fel y ceir yma rhagllaw bregethu yn gyson.

  

RHOSTRYFAN

(Llanwnda parish)

Mae yn ymddangos mai Mr. Roberts, Caernarfon, oedd y cyntaf o'r Annibynwyr a bregethodd yn yr ardal yma gyda'r bwriad o gychwyn achos yn y lle. Bu yn pregethu yn Bryn Horeb, ac yn Nghoedybrain. Yn y flwyddyn 1864, dechreuwyd pregethu yn rheolaidd, a chynal ysgol Sabbothol yn nhy Humphrey Jones; ac ar yr 21ain o Ragfyr, y flwyddyn hono, daeth Mr. Roberts yma i ffurfio eglwys ac i weinyddu cymundeb. Pedwar-ar-ddeg oedd rhif yr eglwys ar ei ffurfiad, naw o frodyr a phump o chwiorydd; ac aelodau gan mwyaf o'r Foel a rhai o'r Bontnewydd a Gosen. Prynwyd tir at adeiladu capel, a chostiodd y tir a'r capel dros 276p. Agorwyd ef yn y flwyddyn 1862, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Roberts ac E. Evans, Caernarfon; W. Ambrose, Porthmadog, ac R. Thomas, Bangor. Mae yma yn awr o gylch deugain o aelodau, ac y mae y lle mewn cysylltiad a'r Foel.

  

CAERNARFON

Mae yn ymddangos i Mr. Daniel Phillips, Pwllheli, yn fuan ar ol pasio Deddf Goddefiad, gofrestru ty yma i bregethu. Nid oes genym sicrwydd pa le yr oedd y ty, na phwy oedd y personau cyntaf a ymunodd a'r achos yn y lle. Bu Mr. Phillips yma yn pregethu mor gyson ag y gallai hyd derfyn ei oes yn 1722. Ychydig o wybodaeth sydd genym am helynt yr achos yma ar ol hyny, er fod yn debyg iddo gael ei barhau yn mlaen dros yspaid, ond fel llin yn mygu. Nid oedd Mr. John Thomas, olynydd Mr. Phillips yn Mhwllheli, er ei fod yn wr da, yn meddu ar ei wroldeb a'i benderfyniad ef, ac oblegid hyny gadawodd yr achos yma yn ddiymgeledd.  Bu yma un William Edwards yn cadw ysgol Dr. Daniel Williams, ac o bosibl hefyd yn pregethu yn y lle. Nid ydym yn gwybod pa bryd y daeth yma, ac nid oes genym sicrwydd a'i yma y bu farw, er fod hyny yn debygol. Dyoddefodd erledigaethau mawrion oddiwrth Mr. William  Williams, Vicar Llanbeblig ar y pryd, ac oddiwrth y werin afreolus o dan ei ddylanwad. Ysgrifenodd lythyr at Ysgrifenydd Ymddiriedolwyr ysgol Dr. Daniel Williams, ac y mae y llythyr gwreiddiol ar gael yn awr yn llyfrgell Dr. Williams, yn Redcross Street, Llundain; a chan fod yn ddangosiad mor nodedig o nodwedd yr amseroedd hyny, rhoddwn ef yma yn llawn.

235

(Not extracted)

236

(Not extracted)

Dengys y llythyr uchod yr ysbryd dialgar oedd yn ngweinidogion cyflogedig y llywodraeth yn y dyddiau hyny, yn gystal ar erledigaethau a ddyoddefodd llawer o bobl druain dlodion yn mysg ein cenedl er mwyn enw yr Arglwydd Iesu. Nis gwyddom pa cyhyd y parhawyd i bregethu yr efengyl yma yn y cyfnod hwnw; ond y mae yn sicr ei fod wedi ei roddi i fyny yn hollol yn mhell cyn sefydliad Mr. Rees Harries yn Mhwllheli; ac mai yn mhen rhai blynyddoedd wedi hyny yr ail gychwynwyd ef. Yn y cyfwng wedi rhoddi yr achos i fyny, a chyn ei ail gychwyn cafodd yr ysbryd erledigaethus gyfleustra i enynu allan lawer tro yn erbyn y saint yn y dref; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn nid arbedent ddyeithriaid a elent heibio. Y mae dyddordeb ychwanegol wedi ei osod ar yr hen Gastell enwog, o leiaf i Ymneillduwyr, ddarfod iddo fod am noswaith yn lletty i Mr. Richard Tibbot a'i geffyl pan yn myned i Fon i efengylu. Buasai yn dda gan yr erlidwyr ymddwyn tuag ato ef fel yr ymddygwyd tuag at Paul yn Jerusalem; " wedi ei ddwyn ef i'r Castell, a'i holi ef trwy fflangellau;" ond ni bu yno rwymau na fflangellau na charchar, ond dros noswaith. Ceisiodd rhai ddyweyd mai ei roddi yn y castell i'w ddiogelu rhag yr erlidwyr a wnaed, ond nid yw hyny yn ymddangos yn debyg, canys nid pobl am amddiffyn Ymneillduwyr oeddynt y pryd hwnw yn meddu awdurdod ar y castell.

Nid ydym yn gwybod pa dy a drwyddedwyd gan Mr. R. Harries i bregethu ynddo; na pha bryd y gwnaed hyny. Y ty cyntaf y mae genym sicrwydd am dano, oedd yn Mhen'rallt, yr hwn a drwyddedwyd gan Mr. Abraham Tibbot, Chwefror 28ain, 1780. Bernir mai ty yn ngwaelod Pen'rallt ydoedd, gyferbyn a'r gwesty " Sign y Delyn." Dywedir fod Mr. A. Tibbot yn pregethu ar risiau ty yn ngodreu Pen'rallt, neu yn ol fel y dywed rhai, ar ben y gareg farch berthynol i'r gwesty uchod, a thra yr oedd yn pregethu fod un o'r erlidwyr yn myned drwy y  dorf yn wawdus gyda thrensiwr yn ei law, gan gymeryd arno gasglu arian i'r pregethwr; a phan welodd nad oedd neb yn rhoddi dim iddo, cynhyrfwyd ef i'r fath raddau fel y taflodd y trensiwr at ben y pregethwr; ond aeth heibio i'w ben ef a tharawodd y mur gyda'r fath nerth fel y dychwelodd ac y syrthiodd ar wyneb un o'r gwrandawyr, gan ei archolli nes yr oedd ei waed yn ffrydio. A phan ddeallodd y terfysgwr fod Mr. Tibbot am godi gwarant arno, ffodd, ac aeth i ymguddio, fel Jonah, i ystlysau llong oedd yn hwylio allan o'r porthladd am yr Iwerddon. Drylliwyd y llong y noson hono ar y Bar, a bu yntau foddi. Ni bu yr erlid byth mor boeth yn Nghaernarfon ar ol hyny - canys edrychid ar hyn fel barn wedi

 

CONTINUED


Return to top

[Last updated: 30 May 2008  -  Gareth Hicks]

Valid HTML 4.01 Transitional  

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark.