GENUKI Home page
Caernarfonshire Caernarfonshire     Contents Contents

 

 

  Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Caernarfonshire section (Vol 3)

Pages  237 - 250

See main project page

Proof read by Yvonne John (June 2008)

Chapels below;

 


Pages  237 - 250

237

(Continued) Caernarfon

goddiweddyd y terfysgwr; oni buasai hyn nid oes neb a wyr pa mor hyf a haerllug y buasai yr erlidwyr yn myned.

Nid ydym yn meddu ar ddefnyddiau i roddi darluniad manwl o sefyllfa yr achos yma ar ei ddechreuad, na rhestr gyflawn o'r holl aelodau. Crybwyllir enwau John Morris, y Siop, fel yr adnabyddid ef, yr hwn oedd yn byw yn ymyl y Perth Mawr, tu fewn i'r muriau, ar y llaw dde; Owen Roberts, y Cwndid (conduit), a Nancy, ei wraig; Dafydd Dafis, y joiner, Pendist, ac Elizabeth, ei wraig; John Roberts, y melinydd, Pen'rallt; Thomas Harris, Glanymor, a Jenny ei wraig; Ellen Thomas, Pen'rallt; Ellen Williams, Y Fro; gwraig Morris Griffith, y crydd; a gwraig gyntaf Hugh Hughes, y Watchmaker; os nad oeddynt oll yn y fintai gyntaf, yr oeddynt yn bur agos ati; dichon fod rhai o honynt gyda'r achos yn y cyfnod cyntaf. Mae o'n blaen yn awr y llythyr gwreiddiol a anfonodd yr eglwys at Reolwyr y Trysorfwrdd Cynnulleidfaol, a dichon ei fod yn cynwys cymaint o wybodaeth am sefyllfa yr achos yma ar y pryd a dim a ellir gael. Ysgrifenwyd ef yn y flwyddyn 1783, yn fuan wedi i Mr. John Griffith, Llanfyllin, sefydlu yn y lle. Mae y llythyr wedi ei arwyddo gan John Prichard, Owen Owens, diacon, Owen Maurice, a John Roberts; ac y mae enwau y Meistri John Griffith, Glandwr; Daniel Lloyd, Dinbych; Benjamin Jones, Mon; A. Tibbot, Llanuwchllyn, ac R. Harries, Pwllheli, yn cymeradwyo eu cais. Tueddir ni i feddwl oddiwrth y llawysgrif, mai Mr. Benjamin Jones a ysgrifenodd yr apeliad. Yn eu cais y maent yn cydnabod fod cywilydd wyneb yn perthyn iddynt, oherwydd iddynt barhau cyhyd i wrthod breintiau yr efengyl, y rhai a fynych gynygid iddynt. Ond ar ol gwrando yr efengyl am yspaid blwyddyn, i eglwys gael ei ffurfio yn y lle, a'r ordinhad o Swper yr Arglwydd gael ei gweinyddu. Buont drachefn am dymor yn dibynu ar gynorthwy achlysurol gweinidogion Pwllheli, Dinbych, Rhosymeirch, a Llanuwchllyn, nes rhoddi galwad i Mr. J. Griffith, Llanfyllin. Nid oedd nifer yr aelodau pan sefydlodd Mr. Griffith, ond pymtheg; ond cynyddasant yn fuan i un-ar-ddeg-a-deugain; ac yr oedd y gwrandawyr yn ganoedd, a rhagfarn y dref yn gwanhau yn raddol yn erbyn yr efengyl. Yr oedd yr eglwys cyn symudiad Mr. Griffith yma, wedi cymeryd goruwchystafell mewn cwr o'r dref, a elwir Treffynon, ar y ffordd i Lanberis. Llafuriodd Mr. Griffith yma yn ddiwyd a llwyddianus am yspaid dwy flynedd, gan wasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd a llawer o ddagrau. Yn 1784, symudodd i Abergavenny. Yn y flwyddyn ganlynol daeth Mr. George Lewis (Dr. Lewis wedi hyny), ar ymweliad a Chaernarfon, a derbyniodd alwad yma, ac urddwyd ef rywbryd yn y flwyddyn 1785. Yn yr oruwchystafell hono yr urddwyd ef. Saif ei hen bulpud yno hyd y dydd hwn; a pharheir etto i gynal gwasanaeth crefyddol yn yr hen ystafell gan y blaid o drochwyr a elwir yn Sandemaniaid. Tro rhagluniaethol hollol oedd i Dr. Lewis aros yn Nghaernarfon. Ar ei daith yr oedd ar y pryl drwy y Gogledd, yn llangc ieuangc tua 22 oed, newydd adael athrofa Caerfyrddin. Ymddengys fod eglwys Pencader, sir Gaerfyrddin, wedi amlygu dymuniad am iddo fyned i gymeryd eu gofal, ond heb roddi galwad reolaidd iddo. Tra yn Nghaernarfon ar y daith hono, hoffodd yr eglwys ei bregethu yn fawr, a dymunasant arno aros gyda hwy; ond yr oedd efe yn disgwyl yn awyddus am yr alwad o Bencader, a chan na ddaeth erbyn yr amser a addewid, rhoes Mr. Lewis attebiad cadarnhaol i'r alwad oedd bellach wedi rhoddi iddo gan eglwys Caernarfon, a mawr oedd eu llawenydd yn derbyn ei

238

gydsyniad a'u cais, yr hyn hefyd yn ol pob arwyddion oedd yn unol ag ewyllys y Nefoedd. Ond dylid crybwyll yma nad unrhyw oerfelgarwch nac esgeulusdra ar ran eglwys Pencader fu yr achos o'r oediad hwn, canys ar ol i Mr. Lewis roddi atebiad cadarnhaol i gyfeillion Caernarfon, daeth galwad Pencader i'w law, yr hon oedd wedi bod yn teithio ar ddisperod o amgylch ogylch yr Iwerddon am tua haner blwyddyn! A dyma yr amryfusedd a roddodd i'r Gogledd y gwr mawr hwnw. Bu Mr. Lewis yn hynod ymdrechgar tra yr arosodd yn Nghaernarfon; yr oedd nid yn unig yn cadw ysgol ddyddiol, fel y gwnai bron yr oll o'r hen weinidogion, a hyny yn ddiau yn gymaint o angenrheidrwydd ac o ddewisiad, ond elai o amgylch i bregethu i bob man y caffai dderbyniad; a bu llaw ganddo yn nghychwyniad amryw o'r achosion yn Arfon fel y cawn achlysur i sylwi etto. Mae yn werth i ni ei goffau, mai yn ystod arosiad Mr. Lewis yn Nghaernarfon y daeth y Methodistiaid Calfinaidd i ddechreu achos crefyddol yn y dref. Yr oedd ganddynt eglwysi wedi eu sefydlu yn y wlad, ond hyd yma nid oedd yr un yn y dref. Yr oedd y teimladau goreu yn bodoli rhwng y Methodistiaid a'r Annibynwyr y pryd hwnw, fel yn bresenol. O flaen yr ystafell, yr hon oedd pabell cyfarfod Mr. Lewis a'r eglwys dan ei ofal, y cadwyd yr oedfa gyntaf, pryd y pregethodd Mr. Robert Roberts, Llanllyfni (Clynog), a Mr. Evan Richardson, Brynengan (Caernarfon wedi hyny), a dechreuodd Mr. Lewis yr oedfa iddynt.

Yn amser gweinidogaeth Mr. Lewis, a thrwy ei ymdrech ef yr adeiladwyd yr addoldy cyntaf gan yr Annibynwyr, yn Mhendref, yn y flwyddyn 1791. Er fod grym yr erledigaeth oddiwrth y werin wedi ei dori, etto, yr oedd y rhagfarn yn erbyn Ymneillduaeth yn gryf iawn, fel mai mewn amseroedd blinion yr adeiladwyd y capel. Yn wir yr oedd yn anhawdd cael lle i adeiladu addoldy Ymneillduol yn y dref o gwbl, am fod y tiroedd yn meddiant gwrthwynebwyr Ymneillduaeth. Ond ni chaiff achos yr Arglwydd sefyll o eisiau offerynau. Yr oedd gan yr Hwn a gyfododd Esther erbyn y fath amser yn llys Persia, ac a ofalodd am wr cymhwya i fyned i ymddiddan a Pilat yn nghylch corph yr Arglwydd Iesu; yr oedd ganddo ef offeryn cymhwys yn barod erbyn y fath amser ar yr achos crefyddol yn Nghaernarfon. Yr oedd boneddiges grefyddol a haelionus yn byw yn y Cefnmein, yn Lleyn, o'r enw Mrs. Edwards, nain i'r presenol R. Lloyd Edwards, Ysw., Nanhoron, yr hon a arferai ymweled a Chaernarfon, yn gystal ag a manau eraill ar adegau eu cyfarfodydd pregethu. Y foneddiges hon a gafodd le i adeiladu capel yn Nghaernarfon. Oberwydd fod y tir, fel y crybwyllwyd, yn meddiant rhai na feddent un cydymdeimlad a'r Ymneillduwyr, bu yn rhaid arfer ychydig gyfrwysdra er ei gael. Prynodd Mrs. Edwards ef fel lle i adeiladu ty neu ddau, a thybiai y gwerthwr mai am adeiladu ty iddi ei hun a thy i'r gwas yr ydoedd arno. Ond pan ddeallodd mai i godi capel arno yr oedd y tir wedi ei werthu, efe a ffromodd yn aruthr. Dywedir iddo fyned at Mrs. Edwards i ddyweyd ei fod ef yn meddwl mai eisiau lle i adeiladu ty a thy i'r gwas oedd arni yn Stryt Fangor. Uniawn y barnasoch, oedd ei hateb hithau, lle i adeiladu Ty i'r Arglwydd a thy i'w was, ydyw i fod.

Pan ddechreuwyd adeiladu yr addoldy yn Nghaernarfon, mawr oedd bygythion y gelynion i'w chwalu. Cymaint oedd yr elyniaeth yn erbyn Ymneillduwyr, fel yr oedd plant y gwrthwynebwyr yn cario yr erledigaeth at blant y capelwyr; ni oddefid iddynt gael cydchwareu a hwynt, ond ymgadwent rhagddynt fel rhai dan y gwahanglwyf. Mynych y

239

bygythiai y plant y byddai capel Pendref yn cael ei chwalu yr "wythnos nesaf." Yr oedd y gelynion o'r un yspryd a Sanbalat yn gwawdio yr Iuddewon yn eu hanturiaeth i adgyweirio muriau Jerusalem. "Pa beth y mae y crefyddwyr gweiniad hyn yn ei wneuthur ? A adewir iddynt hwy ? A orphenant mewn diwrnod? A godant hwy y cerig o'r tyrau llwch wedi eu llosgi ?" A chan fod pob ymdrech o eiddo y gwrthwynebwyr er eu hatal i godi yr addoldy wedi troi yn fethiant, nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd ond troi i wawdio. Yr oedd yma blaid tebyg i Tobiah y gwas, yn uchel yn eu bloeddiadau " Er eu bod hwy yn adeiladu, eto ped elai lwynog i fyny efe a fwriai i lawr eu mur cerig hwynt." Nid oedd prinder am lwynogod, ond methasant a chwalu y mur, hwynthwy a'u holl gadnawiaid. Mynych y trodd plant y crefyddwyr adref yn llawn gofid i adrodd bygythion y gelynion i'w rhieni. Codent yn foreu, rai o honynt, yn eu hofnau, a chyn profi tamaid o fwyd, rhedent i olwg y capel, gan ddisgwyl gweled cerig y capel yn mhen pob heol; a mawr eu llawenydd wrth fyned yn ol gyda'r newydd i'w rhieni nad oedd y capel ddim wedi ei chwalu etto! Llawer gwaith y cyfeiriai yr hen bererin Dafydd Harris (yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1863, yn 85 mlwydd oed) at y cyfnod hwnw. Yr oedd efe yn cofio adeg ac amgylchiadau codi y capel. Bu yn fynych yn adrodd pennodau o'r Bibl i Dr. Lewis pan yn fachgenyn. Byddai yn hoff o son am y cyfnod hwnw, gan adrodd y pryder a deimlai rhag i'r capel gael ei chwalu: a braidd bob anisor wrth ddiweddu yr hanes dywedai gyda gwen siriol, "Y mae yr wythnos nesaf hono heb ddyfod etto.". Yr oedd y cae yr hwn oedd tu cefn i'r capel yn meddiant gelyn calon i Ymneillduaeth ac Ymneillduwyr; ac o ddial arnynt cododd y das wair ar bared cefn y capel, er mwyn tywyllu y ffenestri, ond trwy fod bargodion tô y capel yn gollwng y gwlaw ar y gwair niweidiwyd ef gymaint fel na chwanegwyd yr ystryw hono. Gwelai ei fod yn colledu ei hun, a hyny heb ateb un pwrpas, gan nad oedd yn gallu eu hatal rhag myned yn mlaen a'r addoliad.

Yn y flwyddyn 1794, ymadawodd Mr. Lewis i gymeryd gofal yr eglwys yn Llanuwchllyn, a bu yr eglwys yma yn amddifad o weinidog hyd ddechreu y flwyddyn 1796, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. J. Griffith, Abergavenny, eu cyn weinidog, a'r hwn a sefydlodd yn eu plith yn Chwefror y flwyddyn hono. Mae ger ein bron ddau llythyr a anfonwyd gan yr eglwys at Reolwyr y Bwrdd Cynnulleidfaol yn yr adeg yr oeddynt heb weinidog, wedi eu harwyddo gan Owen Owens a David Davies, Diaconiaid. Mae y cyntaf wedi ei ddyddio Ionawr 22ain, 1795, a'r ail wedi ei ddyddio Ionawr 2lain, 1796. Mewn llythyr a anfonwyd gan Mr. Griffith at y Bwrdd yr, nechreu y flwyddyn 1797, dywed fod y gwrandawyr yn, lluosog, a'r aelodau yn rhifo o ddeg-a-thriugain i bedwar-ugain. Yr oedd Mr. Griffith yn un a berchid yn fawr gan bob dosbarth. Yr oedd ei ysbryd crefyddol, a'i ymdrechion diflino, yn gystal a'i bregethau melus ac adeiladol yn ei wneyd yn anwyl gan y crefyddwyr, ac yr oedd ei ymddygiad boneddigaidd yn sicrhau iddo barch y rhai oddiallan. Llafuriai lawer er helaethu terfynau yr achos i Roslan, Llanaelhaiarn, Saron, a Bethel. Gan nad oedd iechyd Mr. Griffith yn gryf, a maes ei lafur yn eang, rhoddwyd galwad i Mr. David Davies, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, i fod yn gynorthwywr iddo, ac urddwyd ef Medi 28ain, 1813. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; holwyd gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. B. Jones, Pwllheli; a

240

phregethwyd i'r gweinidog a'r eglwys gan Mr. T. Phillips, Neuaddlwyd.* Yr oedd tuag ugain o weinidogion eraill yn bresenol. Ni bu arosiad Mr. Davies yma ond dros ychydig, ond y mae ei goffadwriaeth yn barclus gan yr ychydig sydd yn fyw o'r hen ysgolheigion, ond nid ydynt weithian ond fel " lloffion grawnwin y cynhauaf gwin." Symudodd i Pantteg, gerllaw Caerfyrddin, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu y gofal yma o hyny allan yn gwbl ar Mr. Griffith, hyd nes y rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd defnyddiol Chwefror 13eg, 1818, yn 65 oed. Y Sabboth cyntaf ar ol ei gladdu pregethwyd yn Mhendref i gynnulleidfaoedd lluosog a galarus gan ei ddau fab, y Meistri J. Griffith, Buckley, a W. Griffith, Caergybi, y rhai oeddynt y pryd hyny yn fyfyrwyr yn athrofa Neuaddlwyd.

Y flwyddyn ganlynol i farwolaeth Mr. Griffith rhoddwyd galwad i Mr. William Jones, myfyriwr yn yr athrofa yn Llanfyllin, ac urddwyd ef Medi 15fed, 1819. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Everett, Dinbych; holwyd y golyniadau gan Mr. J. Powell, Rhosymeirch; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. O. Thomas, Llanfechell; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair; ac i'r eglwys gan Mr. B. Jones, Pwllheli. Bu Mr. Jones yn dra llwyddianus yma. Aeth y capel yn rhy fychan, fel y bu yn angenrheidiol rhoddi oriel y ddwy ochr, at yr un oedd eisioes ar y talcen. Efe a fu yn offeryn i ddechreu yr achos ac i godi y capel cyntaf yn y Bentnewydd. Y mae rhai o'r aelodau a dderbyniodd Mr. Jones yn aros hyd y dydd hwn, ond y rhan fwyaf a hunasant. Symudodd i Amlwch yn 1826. Wedi bod am yn agos i ddwy flynedd heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. Josiah Thomas Jones, myfyriwr o Athrofa Newport Pagnel, ac urddwyd ef Awst 6ed, 1828. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. James, Rhosymeirch; W. Griffith, Caergybi; W. Williams, Wern; D. Griffith, T. Jones, Moelfra; A. Jones, Bangor, ac ereill. Ni bu ei gysylltiad ef â'r weinidogaeth yma yn hir. Rhoddodd i fynu yn y flwyddyn 1831, er iddo fod yn byw yn y dref rai bynyddoedd ar ol hyny. Symudodd i'r Deheudir, lle y bu mewn gwahanol fanau, ac yn ddiweddaf yn Aberdâr, lle y bu farw yn niwedd y flwyddyn 1872.

Yn y flwyddyn 1832, rhoddwyd galwad i Mr. William Williams, (Caledfryn,) Llanerchymedd, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn ddioed. Yr oedd Mr. Williams, yn ddyn o ddoniau hyawdl, ac o ysbryd annibynol, a rhoddai ei gyhoeddusrwydd fel bardd a llenor, a'i berthynas a'r Eisteddfodau, iddo boblogrwydd yn ngolwg llawer; er fod y pethau hyny hwyrach, yn peri i ryw rai y pryd hwnw deimlo yn rhagfarnllyd ato. Yn fuan wedi ei sefydliad yma, llanwyd y capel o wrandwyr, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Adeiladwyd yma gapel newydd hardd yn y flwyddyn 1839, a dywedid ar y pryd y cynwysai fil o wrandawyr; ond rhaid fod y bobl y pryd hwnw yn cymeryd llawer llai o le na'r bobl yn awr, onide nis gallasai mil o honynt eistedd yno; a gwyr pawb sydd yn cofio y bobl oedd yma y dyddiau hyny, fod yn rhaid iddynt wrth gryn lawer o le. Yr oedd elfenau anghydnaws yn yr eglwys yn yr adeg yma, a rhoddodd y cwestiwn anhapus o ddewis diaconiaid gyfle iddynt i ddyfod i wrthdarawiad. Dewisiwyd hwy trwy bleidlais ddirgelaidd, ond ymddengys nad oedd y pereonau a ddewiswyd, o leiaf rai o honynt wrth fodd y gweinidog, ac oedodd am dymor wneyd yr enwau yn hypys, ac aeth oddi cartref cyn gwneyd hyny. Parodd hyny anesmwythdra, a mynodd rhyw rai alw

*Evangelical Magazine, 1814. Tudal, 32.

241

cyfarfod brodyr er ymgynghori pa bath i wneyd. Galwyd hwy i gyfrif wedi ei ddychweliad am derfysgu yr eglwys trwy alw cyfarfod o'r fath yn absenoldeb y gweinidog. Diarddelwyd rhyw nifer. Enynodd hyny gydymdeimlad eraill â hwy. Ystyriai y gweinidog hwy yn derfusgwyr, ac mai y rheol ddwyfol ydyw "tori ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch; " ac ystyrient hwythau ei fod yntau yn sarhaus a gormesol, ac yn cario llywodraeth yr eglwys yn unbenol. Y diwedd fu i'r rhai a fwriwyd allan ddechreu achos eu hunain. Yr oedd yn eu plith ddau bregethwr, a chefnogwyd hwy gan rai o weinidogion y sir. Daeth Dr. Arthur Jones, Bangor, Mr. Griffith, Pwllheli, J. Williams, Caecoch, ac eraill i bregethu iddynt. Parodd hyn flinder mawr yn y Sir, a rhanwyd gweinidogion ac eglwysi. Wedi pregethu mewn gwahanol fanau am dymor, adeiladodd y blaid a aeth allan gapel iddynt eu hunain, yr hwn a alwyd Joppa. Bu amryw bregethwyr yn gweinyddu iddynt am dymor, a bu Mr. William Davies, Bryngwran. a Mr. R. P. Griffith, Pwllheli yn gweinidogaethu yn olynol yno. Ychydig o lewyrch a fu ar yr achos o gwbl. Yr oedd yr amgylchiadau dan ba rai y cychwynwyd ef yn anffafriol iddo, ac nid oedd y cwr o'r dref lle y safai mewn un modd yn fanteisiol i'w lwyddiant. Pan y codwyd Salem, yn 1862, penderfynwyd rhoddi yr achos i fynu a gwerthu y capel, ac unodd y rhan fwyaf o'r aelodau a'r eglwys yno ar ei ffurfiad, a dychwelodd eraill at y fam eglwys i Benydre'. Daeth Mr. Williams a'r cyfeillion yn Joppa i gyd ddealldwriaeth ar ol yr ymraniad, a bu yn pregethu yn eu capel cyn ei ymadawiad o Gaernarfon i Lundain yn y flwyddyn 1848. Yr oedd Mr. Williams yn dra phoblogaidd fel pregethwr dros holl dymor ei arosiad yma, ac ymgynnullai tyrfaoedd lluosog i wrando arno; ond yr oedd baich trwm o ddyled yn aros ar y capel, ac ni wnaed ond ychydig o ymdrech i'w symud ymaith. Cyn diwedd y flwyddyn 1849, rhoddwyd galwad i Mr. David Roberts, Cemaes, Môn, Dechreuodd ei weinidogaeth yrna yn Ionawr, 1860, a llafuriodd yma hyd ddechreu haf 1871, pryd y symudodd i Wrexham. Bu tymor gweinidogaeth Mr. Roberts, ar y cyfan, yn dymor dedwydd a heddychol yn hanes yr eglwys; ac ni bu ychwaith yn segur a diffrwyth. Yn y flwyddyn 1862, adeiladwyd capel Salem, ac aeth rhan o'r eglwys yno, ac yn eu plith rai o'r aelodau goreu yn y lle. Yn y flwyddyn 1858 dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol mewn cwr o'r dref oedd wedi ei gwbl esgeulus. Bwriedid hi yn benaf ar gyfer plant tlodion. Y prif offeryn yn nghychwyniad yr Ysgol Sabbothol hono oedd y chwaer grefyddol Mrs. Williams, Stationer, yr hon a dderbyniai nifer o blant tlodion i'w thý i'w dysgu; ond aethant mor lluosog yn fuan fel y gwelwyd yn angenrheidiol chwilio am ystafell arall iddynt. Y mae seiliau cedyrn i gredu fod llawer "dryll a gollasid" wedi ei gael yn ngoleu y ganwyll hono.

Bu yma lawer o bersonau diwyd a gweithgar ynglyn a'r achos yma, ond nid ydym yn cael fod yma neb gymaint uwchlaw pawb arall fel ag i alw arnom i gofnodi eu henwau yma. Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon. Nid ydyni yn sicr fod y rhestr yn gyflawn, ond y mae y gyflawnaf a allasom gael.

242

243

COFNODION BYWGRAPHYDDOL (Not fully extracted)

JOHN GRIFFITH. Ganwyd ef yn agos i Bencadair, Sir Gaerfyrddin, Mai 10ed, 1732. .........................................

244

WILLIAM JONES. Er mai yn Amlwch y terfynodd Mr. Jones ei weinidogaeth, eto gan ein bod wedi cyhoeddi hanes yr eglwys yno, rhoddwn ein byr grybwylliad am dano yma yn nglyn a'r eglwys lle y dechreuodd weinidogaeth. Ganwyd ef yn Ninbych, Medi 15ed, 1790.............................................

245  

  

SALEM, CAERNARFON

Wedi yr ychwanegiad a fu at yr eglwys yn Mhendref, yn y flwyddyn 1860, barnwyd yn angenrheidiol er eangiad yr achos i adeiladu capel mewn rhan arall o'r dref. Yr oedd yr holl eglwys yn unfrydol yn hyny, ond Mr. John Hughes, Watchmaker, diacon ffyddlon yn Mhendref, oedd a'r llaw flaenaf yn y gorchwyl. Sicrhawyd darn o dir mewn man cyfleus yn Pool Lane; ac er iddo gostio swm mawr o arian, etto yr oedd ei sefyllfan yn werth yr arian. Costiodd y tir a'r capel uwchlaw tair mil o bunau; ac o'r swm hwnw talwyd yn agos i fil o bunau yn yr ymdrech gyntaf a wnaed. Agorwyd y capel yn y flwyddyn 1862, ac edrychid arno fel un o'r capeli coffadwriaethol am droad y ddwyfil gweinidogion allan o'r Eglwys Sefydledig. Galwyd ef Salem. Corpholwyd Eglwys ynddo yn ddioed wedi ei agoriad gan Mr. Roberts, Pendref, a bu ef a'r gweinidogion dyeithr a ddeuai i'r dref yn llenwi y pulpud dros dymor. Yn y flwyddyn 1865, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Evans, Treforris. Yr oedd Mr. Evans wedi ei urddo yn Nhreforris yr un flwyddyn ag yr agorwyd y capel yma; a chan nad oedd manylion hanes ei urddiad genym pan ysgrifenu hanes eglwys Treforris, ac i ni ei gael wedi hyny, rhoddwn yr yn hanes i mewn yma. Urddwyd ef Mehefin 26ain, 1862. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys, gan Proff. Roberts, Aberhonddu. Holwyd y gofyniadau gan Dr. Rees, Abertawy. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. J. Thomas, Liverpool. Pregethwyd i'r gweinidog gan Proff. Morris, Aberhonddu, ac i'r Eglwys gan Mr. T. Jones, Bedford Chapel, Llundain. +  Llafuriodd Mr. Evans yno am fwy na thair blynedd hyd nes y symudodd yma yn niwedd haf 1865. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Tachwedd 13eg, y flwyddyn hono. Traddodwyd annerchiad ar Natur Eglwys, gan Mr. R. Thomas, Bangor. Gofynwyd am arwydd cyhoeddus o'r undeb, a gweddiwyd am fendith arno gan Mr. D. Roberts, Caernarfon. Pregethwyd ar y Weinidogaeth gan Mr. J. Thomas, Liverpool, ac ar Ddyledswydd yr Eglwys, gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog. Mae Mr. Evans, yu llafurio yma er hyny gyda derbyniad a chymeradwy-

*Yr ydym yn dra dyledus i Mr. Roberts, Wrexham (Caernarfon gynt), am ranau helaeth o hanes yr achos yn Mhendref .

+ Daily Leader, Mehefin  27ain, 1863

246

aeth, ar achos wedi myned rhagddo yn llwyddianus. Derbyniwyd er dechreuad ei weinidogaeth yma yn niwedd 1865, hyd ddiwedd 1872, 242 o aelodau; ac yn yr un yspaid casglwyd dros 3,546p. Mae y ddyled wedi ei thynu i lawr mor isel fel na theimlir hi mwy yn faich trwm gan neb.

Mae amryw bersonau ffyddlawn a gweithgar wedi bod gyda'r achos yma o'i gychwynaid, ac y mae amryw o'r ffyddloniaid wedi gorphwys oddiwrth eu llafur. Bu Meistri John Evans, a John Hughes, yn hynod o egniol gyda'r achos. Mae cofiadwriaeth yr olaf yn arbenig yn barchus gan lawer y tuallan i Caernarfon. Yr oedd yr achos yn agos at ei galon, ac edrychai ar Salem fel ei blentyn, a theimlai serch cryf ato. Bu yn gysegredig i grefydd o'i ieuencgtyd, ac nid oedd ei ddyrchafiad yn y byd mewn un modd yn peri iddo golli ei symlrwydd crefyddol. Yr oedd yn aelod heddychol a thangnefeddus, ac fel diacon yr oedd yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd. Gwelodd aml a blin gystuddiau, a bu yn ymladd yn galed ag angau am lawer o flynyddau, ond yr hen elyn a orchfygodd. Bu farw Chwefror 6ed, 1863, yn Heyeres yn neheubarth Ffrainc, lle yr oedd wedi myned gyda'i unig ferch (Mrs Evans, Salem, Caernarfon, yn awr) er mwyn ei iechyd. Dygwyd ei gorff yr holl ffordd i fynwent Llanbeblig i'w gladdu, ac yr teimlad a ddangoswyd gan drigolion y dref ar wlad ar ddydd ei angladd, yn profi nad dyn cyffredin a roddid yn y bedd i orwedd.

  

SARON

(Llanwnda parish)

Saif y capel hwn yn mhlwyf Llanwnda, o fewn tua thair milldir i dref Caernarfon, ar y de-orllewin. Dechreuwyd pregethu yn y gymydogaeth gan Mr. William Hughes, Brynbeddau, amaethwr parchus yn y plwyf, ac aelod a phregethwr cynorthwyol perthynol i eglwys Caernarfon. Cynhyrfodd oi ysbryd ynddo oblegid anwybodaeth ac anfoesoldeb y wlad, a dechreuodd bregethu mewn lle a elwir y Graigwyllt, yn mhlwyf Llanfagdalen; ac er mai ychydig o galondid a gafodd oddiwrth ei wrandawyr, etto parhaodd i bregethu yno dros amryw Sabbothau yn olynol, nes cael arwyddion fod ei weinidogaeth yn cael ffafr yn ngolwg y rhai a ddeuent yn nghyd. O herwydd gwrthwynebiad amaethwyr y gymydogaeth iddo gynal cyfarfodydd yno, dan yr esgus fod y bobl yn tori y gwrychoedd, eiliodd i dir cyffredin ar rôs Llanfagdalen, a bu yn pregethu yno yn achlysurol am yspaid pum' mlynedd cyn cael drws agored. Bu farw hen wraig weddw oedd yn byw ar dir Pengwern, a gwahoddwyd yntau i gynal wylnos yn ei thy, ac o hyny allan ni fu raid iddo bregethu yn yr awyr agored. Cymerodd Mr. Hughes hen dy gwag o'r enw Trosylon, ar dir Bontfaen, a dechreuodd gadw yno ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddio a phregethu, a chafwyd y fath lwyddiant fel y barnwyd cyn hir, yn angenrheidiol adeiladu capel yn yr ardal. Cafwyd lês ar gongl tir cyffredin a elwid Rhosysgawen, a chododd Mr. Hughes gapel, yr hwn a alwyd Saron, a chododd hefyd dy iddo ei hun gerllaw iddo, a rhoddodd i fyny amaethu, a symudodd yno i fyw, gan ymgysegru yn gwbl i'r weinidogaeth. Agorwyd y capel yn y flwyddyn 1812, a ffurfiwyd eglwys yn y lle, oblegid hyd yn hyn cyrchai yr holl aelodau i Bendref, Caernarfon, i gymuno; ac yn mhen rhai blynyddoedd wedi agor y capel - nis gallasom gael allan y dyddiad - urddwyd Mr. William Hughes, yn ei hen ddyddiau, yn weinidog yn y lle. Yn mysg y rhai a fuont o fwyaf o gynorthwy i Mr. Hughes

247

gyda chodi y capel, coffeir enwau Richard Rogers, Maeshelen; Humphrey Williams, Tyuchaf; William Roberts, Tyeiddew; John Pritchard, Pengwern; Griffith Jones, Caemoel; Robert Jones, Tycerig; John Hughes, Cae-eithin. a Morgan Jones, Trosyterfyn, y rhai hefyd gyda'u gwragedd, a ymunasant a'r achos yma or gorpholiad eglwys yn y lle. Coffeir hefyd am garedigrwydd teuluoedd Plas Llanwnda, Tyddynbychan, Caeglas, Tymawr, Ty'nrhos, Tyddynseipar, Penycae, Foryd, a'r Bontfaen. Cymeriad nodedig yn y gynnulleidfa oedd John Roberts, Dilledydd, yr oedd yn wrandawr cyson, ac yn gerddor rhaghorol, a mynych y clywid ef yn nyfnder y nos, wrth ddychwelyd o'i waith, yn canu hen benillion gorfoleddus nes y byddai ei deimladau ef ei hun, a theimladau eraill yn ymddryllio ond bu fyw a marw heb roddi ufudd-dod cyhoeddus i'r efengyl. Cafodd yr achos yma adgyfnerthiad mawr yn ei fabandod, drwy symudiad Mr. D. Williams, Saethon, i fyw i'r ardal, ac yr oedd Griffith Jones a William Roberts, a nodwyd uchod, yn wyr rhagorol yn mysg y brodyr.

Rhoddodd Mr. Hughes i fyny ofal yr eglwys rai blynyddoedd cyn ei farw, ac ymunodd a'r eglwys yn Bontnewydd. Bu yr eglwys yma yn hir ar ol hyny heb weinidog sefydlog, ond ar un tymor deuai Mr. Jonathan Davies yma yn lled reolaidd, er na symudodd yma i gymeryd gofal yr eglwys yn ffurfiol. Yn y flwyddyn 1839, rhoddwyd galwad i Mr. Griffith Thomas, o Rhydlydan, ac urddwyd ef yma Mehefin 23ain, 1840. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Griffith, Bethel; W. Williams, Caernarfon; T. Edwards, Ebenezer; J. Jones, Capel Helyg; R. P. Griffith, Pwllheli; O. Thomas, Talysarn; J. Morgan, Nefyn; W. Ambrose, Porthmadog; a W. Jones, Dolyddelen. Llafuriodd Mr. Thomas yma yn ddiwyd gyda derbyniad a chymeradwyaeth dros amryw flynyddoedd, hyd nes y symudodd i Benisayrwaun, ac y cymerodd ofal Bryngwyn, Llanrug, yn y flwyddyn 1852. Ar ol bod yn amddiffad o weinidog am rai blynyddoedd, unodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Bontnewydd, i roddi galwad i Mr. Robert Hughes, o Rosymeirch, Mon, ac wedi llafurio yma dros ychydig dychwelodd i Fon, lle y mae etto yn barchus a defnyddiol. Yn y flwyddyn 1862, adeiladwyd yma gapel newydd hardd a chyfleus, a dangosodd yr eglwys a'r ardal ffyddlondeb mawr wrth ei godi. Yn y flwyddyn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Williams, Llanarmon, i fod yn weinidog yma ac yn y Bontnewydd, ac y mae yn parhau i lafurio yma, ac y mae golwg siriol ar yr achos, ond nis gellir disgwyl yma gynnulleidfa gref gan nad yw poblogaeth yr ardal yn lluosog.*

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL   (Not fully extracted)

WILLIAM HUGHES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1767, yn mhlwyf Llanwnda, gerllaw Caernarfon...........................

* Derbyniasom hanes cychwyniad yr achos yn Saron oddiwrth Owen Jones, Galltyfoel, ger llaw Ebenezer, yr hwn oedd yn yr ardal ar y pryd, ac yn perthyn i'r Ysgol Sabbothol pan y symudodd o Trosylon i'r capel newydd. Nis gallasom gyhoeddi ond talfyriad o'r hanes manwl a dyddorol a anfonodd i ni.

  

248

Gresyn na buasai rhyw un ddeng mlynedd ar hugain yn ol wedi ysgrifenu o'i enau yr hanesion a adroddai am ddechreuad yr achos mewn llawer o fanau yn y sir; oblegid buasai y fath gofnodiad yn gaffaeliad anmhrisiadwy. Mae yn ymddangos ddarfod iddo ef ei hun ysgrifenu yn helaeth flynyddoedd lawer cyn ei fawr, ac i'r cwbl gael eu hanfon i'r diweddar Mr. Jones, Treffynon; ond cyfarfu y gwr da hwnw a'i angau o'i flaen ef, ac ni chlywyd gain byth am yr ysgrifau.*

  

BONTNEWYDD

(Llanwnda parish)

Dechreuwyd pregethu yn y lle hwn oddeutu y flwyddyn 1820, gan y diweddar Mr. W. Jones, Amlwch (Caernarfon y pryd hwnw). Man y cyfarfod ydoedd y Tyuchaf, yr hwn a breswylid gan William Roberts, crydd. Nis gwyddom pa hyd y buwyd yno, ond cyn hir fe ardrethwyd

* Ysgrif Mr. Owen Jones, Galltyfoel.

249

ty anedd mewn cwr arall o'r pentref, ac yno dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol, a phregethu mor aml ac y gellid gan Mr. Jones, yr hwn a gynorthwyid yn achlysurol gan Meistri W. Roberts, Groeslon; W. Hughes, Saron; D. Griffith, Talysarn; Ellis Thomas, Pisgah, ac eraill. Yn flwyddyn 1825, cafwyd tir i adeiladu capel arno, gan H. Evans, Ysw., Henblas, Mon. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr yn mis Awst, y flwyddyn hono. Gweddiwyd gan Mr. W. Jones, a phregethwyd ar y sylfaen gan Mr. Arthur Jones, Bangor, oddiar Nehemiah ii. 20. Agorwyd y capel newydd y gwanwyn canlynol. Pregethwyd ynddo gyntaf gan Mr. Jones, oddiar Ex. xx. 24, a chadwyd cyfarfod ei agoriad Mawrth 27ain a'r 28ain, 1826. Ond er cael capel newydd nid oedd yma gymaint ag un aelod proffesedig, er fod yma lawer yn cymeryd dyddordeb neillduol yn yr achos, sef William Roberts, Morris Williams, a Thomas Jones, Factory, a'u gwragedd; a chyn hir ymunodd Thomas Jones, efe oedd ysgub y blaenffrwyth. Nid oedd ond dyn cyffredin o ran ei dalentau na'i ddawn, ond yr oedd yn hynod yn ei sel dros yr achos. Ar ei ol ef ymunodd un William Owen, Bont, a symudodd un Catrin Prichard o Benlan, Pwllheli, yma i fyw, yr hon oedd yn aelod. Y nesaf a ymunodd oedd merch ieuangc, o'r enw Elizabeth Hughes, yr hon sydd etto yn fyw, ac yn aelod ffyddlawn yn Saron. Dyma y rhai cyntaf a dderbyniwyd yn aelodau yn y lle. Ni chorpholwyd yma eglwys am flynyddoedd ar ol adeiladu y capel; ond wedi sefydliad Mr. Williams yn Nghaernarfon, ffurfiodd ef yr aelodau yma yn eglwys yn y lle, a bu ei gofal arno hyd ei ymadawiad a Chaernarfon; ac felly hefyd am fwy na deng mlynedd wedi sefydliad Mr. Roberts yn Mhendref. Teimlid fod yr achos dan anfantais oblegid na cheid ond oedfa ddau o'r gloch y Sabboth; ac wedi yr ychwanegiad a fu at yr eglwys yn y flwyddyn 1860, barnasant yn ddoeth i ddatod eu cysylltiad a Chaernarfon, ac ymuno yn weinidogaeth yn nglyn a Saron, ac y mae y ddau le er hyny wedi bod o dan yr un weinidogaeth.

Yr oedd yr hen gapel wedi myned yn lled wael, ac nid oedd ei safle mewn un modd yn ffafriol, ac oblegid hyny penderfynwyd cael capel newydd. Cafwyd darn o dir mewn man cyfleus, ac adeiladwyd capel hardd arno, yr hwn yn nghyd a'r tir a gostiodd 1100p Agorwyd ef Mawrth 17eg a'r 18fed, 1868. Mae yr eglwys yn parhau i weithio,a baich y ddyled yn ysgafnhau yn raddol. Y mae yma amryw ffyddloniaid wedi bod gyda'r achos yma o'i ddechreuad, ac y mae rhai felly yma yn awr, ac y mae gwaith eu ffydd a llafur eu cariad mewn coffadwriaeth ger bron Duw.

  

BETHEL

(Llanddeiniolen parish)

Saif yr addoldy hwn yn nghwr isaf plwyf Llanddeiniolen, oddeutu tair milldir o Gaernarfon, ac yn ymyl y ffordd a arweinia o'r dref hono tua Phentir a Bethesda. Adeiladwyd ef y tro cyntaf yn y flwyddyn 1810, ac yn benaf drwy lafur Mr. J. Griffith, Caernarfon. Arferai y diweddar Dr. Lewis, pan ydoedd yn Nghaernarfon, bregethu ar amserau mewn gwahanol fanau yn y plwyf hwn. Dangosodd yr Arglwydd ei allu gyda'i weinidogion, fel yr ennillwyd rhai o'r gymydogaeth hon i blygu i alwadau yr efengyl, a derbyniwyd hwy yn aelodau eglwysig yn Mhendref, Caernarfon. Yr oedd y fath ddudew dywyllwch, pa fodd bynag, yn gordoi y fro y pryd  

250

hwnw, a'r bobl mor ymroddedig i bob arferion drwg a llygredig, fel y dangosent eithaf diystyrwch a dirmyg at bob moddion diwygiad, yn nghyd a chasineb at bawb a chwenychent eu diwygio. Buwyd yn rhy ddigalon o achos hyn i geisio sefydlu cymdeithas grefyddol yn yr ardal am flynyddau. Gwraig weddw dlawd yn byw mewn lle o'r enw Coedbolynbach, a agorodd ddrws ei thy gyntaf i bregethu yr efengyl yn y gymydogaeth hon. Ar ol iddi farw, symudwyd i Ddolddeuto, - ty heb fod yn mhell o'r fan y saif yr addoldy arno.

Nis gallwn wneyd yn well na rhoddi y difyniad helaeth a ganlyn allan o bapur a ddarllenwyd gan y diweddar hybarch D. Griffith, yn un o gyfarfodydd Chwarterol Cyfundeb Gogleddol Sir Gaernarfon, yn 1863.

" Erbyn hyn dechreuai y gwrandawyr amlhau yn gyflym, a chan y gwelid fod argraffiadau dwysion ar feddylian amryw o honynt, calonogwyd y Parchn. J. Griffith, Caernarfon, a W. Hughes, Saron, i ffurfio cymdeithas grefyddol yn y ty hwnw. Yn y cyfnod hwn ar yr achos, hwy oedd yr unig ddau a arferent bregethu yno, a thrwy fod yr Arglwydd yn parhau i wenu ar eu hymdrechion, penderfynodd Mr. Griffith brynu darn o dir er adeiladu capel arno, yr hyn a wnaed yn y flwyddyn a nodwyd uchod. Yr unig ddiffyg yn nglyn a'r anturiaeth oedd diffyg ffydd; oblegid yn mhen tair blynedd aeth yn rhy fychan i'r gwrandawyr, fel y bu raid ei ail adeiladu drachefn. Yn fuan ar ol hyn, cawn fod yr eglwys oedd yn y lle, dan ofal y Parchn. J. Griffith a D. Davies, y rhai oeddynt gydweinidogion yn Nghaernarfon, ac yr oedd bendith amlwg yn cydfyned a'u llafur yno ac mewn lleoedd eraill yn yr amgylchoedd.

" Yn nechreu y flwyddyn 1814, aeth y Parch. D. Davies, allan i gasglu at gapel Bethel; a phan ar ei daith, cafodd alwad unfrydol gan eglwysi Pantteg a Peniel, gerllaw Caerfyrddin, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Derbyniodd yntau yr alwad, symudodd yno i fyw, parhaodd yn ffyddlon, a chafodd achos i lawenhau, am fod yr Arglwydd yn bendithio ei lafur. Wedi i Mr. Davies ymadael, gan fod y Parch. J. Griffith mewn angen am un i'w gynorthwyo, efe a anfonodd at y Parch. D. Peters, athraw Coleg Caerfyrddin, i ofyn a oedd gydag ef ryw wr ieuangc yno a ddeuai allan yn gynorthwywr iddo ef. Anfonodd Mr. Peters yn ol i ddyweyd, fod ganddo un a allai gymeradwyo, a da os cai ef ar ei feddwl ddyfod. Efe ydoedd ddarllenydd y papur hwn, sef David Griffith, mab i David a Mary Griffith, Tanlan, Llanegwad, ger Caerfyrddin, aelodau o eglwys y Panteg. Felly, anogodd Mr. Peters fi i ddyfod, ac ar ddymuniad y ddau weinidog enwog hyn y daethum i Gaernarfon. Pregethais yno ac yn Bethel, y Sabboth cyntaf yn Hydref, 1814. Dymunai Mr. Griffith a'r bobl i mi aros am ysbaid o amser i lafurio yn y cylch, fel y delem yn fwy cydnabyddus a'n gilydd. Cyn i amser y prawf ddyfod i fyny, daeth y bobl i'm hoffi i, a minau y bobl i'r fath raddau, fel mai anhawdd oedd meddwl am ymwahanu. Derbyniais alwad unfrydol a chalonog o Bethel; ond oherwydd yr olwg wael oedd ar yr achos, gwrthodais gymeryd fy urddo, nes cael gweled pa un a ddaliai y gwrandawiad a'i peidio. Tua phen blwyddyn, gan fod y gwrandawyr yn parhau i gynyddu, boddlonais gymeryd fy urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Cymerai hyny le, Hydref 6ed, 1815. Gweinyddid ar yr achlysur gan y Parchn. J. Griffith, Caernarfon; B. Jones, Pwllheli; D. Morgan, Machynlleth; J. Powell, Rhosymeirch; W. Hughes, Dines; R. Roberts, Ceirchiog; D. Davies, Panteg; A. Shadrach, Talybont; D. Roberts, Bangor, ac O. Thomas, Llanfechell.  

 

 

CONTINUED


Return to top

[Last updated: 2 June 2008  -  Gareth Hicks]

Valid HTML 4.01 Transitional  

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pagos within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark.