GENUKI Home page
Caernarfonshire Caernarfonshire     Contents Contents

 

 

  Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

Caernarfonshire section (Vol 3)

Pages  251 - 264

See main project page

Proof read by Yvonne John (May 2008)

Chapels below;

  • (Continued) BETHEL
  • SILOH

 


Pages  251 - 264

251

 (Continued) BETHEL

"Nid oedd ond golwg led dywyll o'm blaen yn nechreuad fy ngweinidogaeth. Er fod y gwrandawyr yn lled luosog, nid oedd yn Bethel ond tri-ar-ddeg o aelodau eglwysig i roddi galwad i mi. Nid hyny yn unig, ond yr oedd y capel yn sefyll ar rôs lom, heb glawdd, na dim tebyg i hyny o'i ddeutu, a'r ddyled yn 260p. Heblaw a nodwyd yr oedd aelodau yr eglwys gan mwyaf yn dlodion, a'r ardalwyr erioed heb arfer rhoddi dim at achosion crefyddol. Yn ngwyneb iselder fy meddwl ar y pryd, dywedodd y Parch. J. Griffith, Caernarfon, air wrthyf a fu o les i mi, sef, os gofalwn i am achos Duw, y gofalai Duw am fy achos inau. Felly mi a ymwrolais. Yn nechreu haf y flwyddyn 1816, cafwyd gan y gwrandawyr i gymeryd yr eisteddleoedd, a thalu am danynt. Aethum inau drwodd i'r Deheudir, i siroedd Caerfyrddin a Phenfro, gan deimlo, mae'n wir, fel un fuasai wedi priodi gwraig a hono yn llawn o ddyled. Dywedais fy nghwyn wrth yr eglwysi a'r gweinidogion yn mhob lle y daethum iddo. Tosturiodd pawb wrthyf, a chesglais mewn dau fis 160p. Daethum adref dan ganu. Talwyd yr arian, cododd y bobl at eu gwaith, a chwanegwyd at rifedi yr eglwys amryw o bobl dda. Yn ebrwydd wedi hyn, aed i baentio y capel, a dygwyd y treuliau yn ewyllysgar gan y cyfeillion. Trwy ymdrech caled, llwyddwyd yn y man i gael digon o arian i dalu yr holl ddyled. Rywbryd yn y flwyddyn 1828, meddyliwyd am adgyweirio y capel, a gosod ynddo ragor o eisteddleoedd. Aeth y draul yn 25p. 11s. 3c. Talwyd y cyfan ar fyrder, lluosogodd yr eglwys, a pharhaodd y gwrandawyr i amlhau; ac heblaw bod yn flodeuog gartref, fe fu eglwys Bethel, yn y cyfnod hwn o'i hanes, yn alluog i fwrw allan rai canghenau cryfion o eglwysi yn y cymydogaethau o amgylch.

" Yn y flwyddyn 1839, aeth y capel yn rhy fychan eilwaith, a'r penderfyniad yn awr oedd ei wneyd agos gymaint arall o faintioli, a chael y cwbl oddifewn iddo yn newydd. Yr oedd genym bellach addoldy eang a chyfleus, gyda thir i gladdu y meirw, yn ei ymyl, lle yn barod y gorwedda llawer o gyrph y saint hyd foreu yr adgyfodiad. Aeth y draul y waith yma yn 180p.; ond drwy fod yn ddiwyd, talwyd ymaith yr holl ddyled yma yn mhen ychydig flynyddoedd.

"Derbyniasom yn Bethel ymweliadau hyfryd iawn oddiwrth yr Arglwydd rai gweithiau, yn ystod tymor fy ngweinidogaeth, pryd yr oedd yn eglur fod ei law yn gwneyd grymusder yn ein plith. Yr oedd felly ,yn enwedig yn y flwyddyn 1840, pan y derbyniais gynifer a phymtheg-ar-hugain yn aelodau eglwysig, ac yn eu plith fy mab David Griffith, yr un Sabboth cymundeb. Wedi hyn yn y flwyddyn 1841, y Sabboth cyntaf yn Ionawr, derbyniwyd pump, a'r Sabboth cyntaf yn Chwefror, pedwar-ar- ddeg.  Yn mhlith y rhai a chwanegwyd y pryd hwn, yr oedd nifer o ddynion ieuaingc tra gobeithiol, ac yn eu plith Mr. Richard Owen, yr hwn oedd yn meddu ar gryn lawer o wybodaeth a medrusrwydd gyda chanu mawl. Trwy ymroddi i addysgu ei gyfeillion ieuaingc, dygodd y canu i sylw, a chymeradwyaeth uchel ar unwaith, a'r fath oedd ei ddoethineb a'i dynerwch, fel na phoenid ni byth gan ymrysonau yn mysg y cantorion. Daeth ef ar ol hyn i fod yn ddiacon cyfrifol yn yr eglwys, a da genyf allu ychwanegu, ei fod yn parhau yn ffyddlawn gyda gwaith yr Arglwydd yn ei holl ranau hyd yr awr hon.

"Er i angau, yn ystod y pymtheg mlynedd a ddilynai yr adfywiad a nodwyd, gludo llawer o brif golofnau yr achos ymaith, etto, daliwyd yn ddiwyd gyda phob moddion o ras, a than fendith yr Arglwydd, rhagddo

252

yr elai y gwaith da, fel yr aeth y capel unwaith yn rhagor yn rhy fechan i'r gwrandawiad. Felly yn y flwyddyn 1856, chwalwyd yr hen gapel i'w sylfeini, a chodwyd un arall, llawer mwy eang a phrydferth yn ei le. Aeth y draul y tro yma dros 500p. Cludid yr holl ddefnyddiau yn rhad gan amaethwyr y gymydogaeth. Gan fod eisiau tir at yr helaethiad hwn, a chenyf finau ychydig yn gyfleus wrth ochr yr addoldy, cyflwynais ddarn o hono, gwerth rhyw 15p., yn rhodd i'r eglwys am byth, casglodd y gynnulleidfa hefyd, yn ystod y flwyddyn hono y swm o 133p., a chafwyd cymhorth parod hefyd, gan gyfeillion o'r tu allan iddi, at yr un amcan. Wedi hyn, tua diwedd y flwyddyn 1859, torodd adfywiad grymus arall yn ein plith, ac yr oedd hwn etto yn ymweliad bendithfawr iawn. Derbyniwyd i gymundeb yr eglwys yn ystod y flwyddyn ddilynol, o gwbl, un-ar-ddeg-a-phedwar-ugain o aelodau newyddion.

" Yn y blynyddoedd diweddaf, breintiwyd ein cynnulleidfa yn Bethel, a niter o gerddorion ieuaingc tra gobeithiol, y rhai ydynt wedi bod yn hynod lafurus i ddysgu darnau godidog o weithiau prif gyfansoddwyr y byd. Y mae diwydrwydd côr Bethel wedi bod yn destyn syndod i mi lawer tro. Mwynheais hefyd yr hyn nad oeddwn yn ei ddisgwyl, sef gweled fy ail fab, Robert W. Griffith, yn arweinydd i'r cor; a chyda'u gilydd, hwy fuont offerynol nid yn unig i synu torfeydd mawrion mewn eisteddfodau, ond hefyd i gynorthwyo er talu ymaith rai canoedd o ddyledion addoldai yn yr amgylchoedd hyn. O'r flwyddyn 1839 hyd yn bresenol, y mae gwasanaeth cantorion medrus a hunanymwadol, wedi bod o help mawr er dwyn yr achos i sylw, ac i gadw serchiadau y bobl ieuaingc yn dyn wrtho, yn yr ardal yr wyf yn son am dani.

" Os caniata fy Meistr mawr i mi arbediad hyd y Sabboth cyntaf o Hydref yn y flwyddyn nesaf (1864), bydd tymor fy ngweinidogaeth yn Bethel wedi parhau am haner cant o flynyddoedd. Mae yr Arglwydd wedi bod yn dirion wrthyf, a dangoswyd i mi hefyd garedigrwydd nid bychan, gan lu mawr o gyfeillion yma a thraw. Yr ydych chwithau wedi arfer bod yn dirion wrthyf, ac er fy mod yn awr yn hynafgwr, y mae yn dda genyf ddeall, nad wyf etto yn wrthodedig yn eich mysg. Yr Arglwydd fyddo gyda chwi oll."

Cafodd Mr. Griffith y fraint o fyw i weled angenrheidrwydd am helaethu capel Bethel unwaith yn rhagor. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1866. Pan ad-agorwyd ef y waith hon, yr oedd y ddyled yn 700p., and erbyn hyn nid ydyw ond ychydig dros 400p., a pharhau i doddi ymaith yn gyflym a wna o hyd. Mesura y capel presenol oddeutu 60 o droedfeddi o hyd, wrth 54 o led, a chynwysa eisteddleoedd i oddeutu 500 o bobl. Ceir yma drwy y blynyddoedd gynnulleidfa hynod o luosog, a hono yn un o'r rhai mwyaf sefydlog a gweithgar yn yr holl wlad. Y mae yn perthyn iddi ddynion a fynant fod ar y blaen gydag addysg y genedl ieuangc, yn nghyda phob symudiad da y gellid meddwl am dano. Hir y parhao y cyfryw ysbryd cyhoeddus i fod yn addurn i bobl y lle pwysig a dyddorol hwn.

Yn y flwyddyn 1849, rhoddwyd galwad i Mr. David Griffith i gydweinidogaethu a'i dad, ac urddwyd ef Medi 27ain, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog; holwyd y gweinidog gan Mr. T. Edwards, Ebenezer; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Rees, Liverpool; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Griffith, Caergybi, ac i'r eglwysi gan Mr. Ll. Samuel, Bethesda.

253

Mae Mr. Griffith yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth a pharch mawr. Gan fod nerth ac oedran Mr. Griffith (hynaf) yn ei orfodi i roddi i fyny ei ofal gweinidogaethol, rhoddwyd galwad i Mr. Robert W. Griffith, ei ail fab, i fod yn gydweinidog a'i frawd, ac urddwyd ef Mai 17eg, 1866. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. R. Parry, Llandudno; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Roberts, Caernarfon; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Jones, Amlwch; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Stephen, Tanymarian, ac i'r eglwysi gan Mr. W. Ambrose, Porthmadog. Mae y ddau frawd yn parhau i gydlafurio yma, a'r achos mewn gwedd lewyrchus; a golygfa ddymunol ydyw gweled dau frawd yn cydweinidogaethu yn yr un eglwys fel olynwyr eu hybarch dad.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys.

254

COFNODION BYWGRAPHYDDOL (Not fully extracted)

DAVID GRIFFITH. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanegwad, yn sir Gaerfyrddin. Nid ydym yn sicr o'r dyddiad, ond yr oedd rywbryd o gylch y flwyddyn 1792. ..................................

255 / 256 / 257 /

258  

SILOH

(Llanddeioniolen parish ?)

Sefydlwyd yr achos Annibynol yn y lle hwn, drwy offerynoliaeth Mr. D. Griffith, Bethel. Nid yw y pellder rhwng y ddau le ond ychydig dros ddwy filldir. Saif capel yn y cwr hwnw o gymydogaeth y Felinheli, neu Borth Dinorwig, a adwaenid gynt wrth yr enw Aberpwll. Nid oes ar y ddaear lanerch brydferthach na'r un y saif y capel hwn arno. Pan ei  hadeiladwyd gyntaf, ymddangosai yn y lle mwyaf cyfleus ar gyfer yr holl fro, ond erbyn yn awr, oherwydd cyfnewidiadau yr ugain mlynedd diweddaf, y mae yn digwydd yn dra gwahanol.

Dechreuwyd adeiladu Siloh yn y flwyddyn 1833, a chorpholwyd yno eglwys gan Mr. Griffith, ar yr 16eg o Fawrth, 1834. Nifer yr aelodau ar y pryd ydoedd pump. Dylid deall hefyd fod rhywbeth wedi cael ei wneyd tuag at gychwyn achos Annibynol yn y lle, lawer o amser cyn hyn. Pregethid yn rheolaidd i ddechreu, cyn ymsefydlu yn Siloh, yn y Cae Glas; ond bu pregethu achlysurol am gryn lawer o amser cyn hyny. "Clywais fy rhieni yn d'weyd," ebe Mr. M. Roberts, Ty Mawr, (y diacon hynaf yn awr yn Siloh) "fod y diweddar Mr. W. Hughes, Saron, wedi bod yn pregethu o dan goeden dderwen wrth y ffordd bost yn ymyl yr Aber,(hen gartref Mr. R.) ugain mlynedd neu well cyn i'r achos ddechreu yn y Cae Glas; ac y mae hen sir yn dyweyd fod pregethu wedi bod yn yr Hen Felin gerllaw yno, gan rai a ddeuent o Fangor. Un o'r enw Robert Morris, fyddai yn pregethu y rhan fynychaf. Yr hanes cyntaf sydd genym wedi hyn ydyw i Mr. Griffith, Bethel, ddyfod i'r Aber, Aberpwll, ar yr achlysur o fedyddio plentyn i Mr. Robert Morris, yr hwn a ddaethai yno i fyw o ardal Bethel, yn y flwyddyn 1818. Byth wedi hyn byddai Mr. Griffith yn dyfod yn awr ac eilwaith i lawr i fedyddio plant. Ni chafodd Annibyniaeth le ac enw yn yr ardal pa fodd bynag, am tua phedair-ar-ddeg

259

o flynyddoedd wedi hyn, sef yn y flwyddyn 1832, pryd y daeth aelod o eglwys Bethel, o'r enw Thomas Jones, yn arddwr i'r Faenol, a chafodd dy i breswylio yn y Cae Was. Yn mhen rhyw ysbaid daeth i'w feddwl byddai yn well iddo gael Mr. Griffith yno i roddi pregeth fel math o gysegriad i'r tý, (a gresyn na fyddai yr arferiad yn fwy cyffredinol, yn lle gloddesta fel y gwneir yn aml y dyddiau hyn.) Dyna fel y bu pa fodd bynag yn yr amgylchiad hwn, - daeth Mr. Griffith i waered ac ychydig gyfeillion gydag ef, yn mhlith y rhai yr oedd Mr. William Evans, Tyddyn Mawr, ac Owen Jones, yr Efail, fel ei gelwid - dau hen Gristion gloyw iawn.

" Cafodd y bregeth y fath effaith ar y gymydogaeth, fel na chafodd Mr. Griffith nemawr o heddwch nes dyfod yno yr ail waith; ac felly aed yn mlaen o oedfa i oedfa, fel y meddianwyd teimlad ychydig gyfeillion yn y lle, nes o'r diwedd y pendyrfynasant gadw ysgol Sabbothol yno, ac ambell i gyfarfod gweddio hefyd, er fod y gweddiwyr etto yn anaml. Cof gan yr ysgrifenydd i un gweddiwr yn y lle, ddechreu drwy ddarllen a gweddio; a chan na ddaeth neb arall i'w gynorthwyo, aeth at orsedd gras eilwaith, gwenodd y nefoedd arno, a chafwyd bendithion fyrdd i lawr. Y mae yn yr ardal yn awr rai canoedd o weddiwyr gyda'r Annibynwyr, canys felly y gwelodd yr Arglwydd yn dda wenu ar ymdrechion ei blant yn y dyddiau a fu.

" Yn mhen ychydig, sefydlwyd pregethu bob Sabboth yn y Cae Glas. Un bregeth yn unig a geid, yna ysgol a chyfarfod gweddio. Y rhai fyddent yn cynorthwyo Mr. Griffith fynychaf oeddynt Meistri W. Williams (Caledfryn), Caernarfon; T. Edwards, Ebenezer; Ll. Samuel, Bethesda; Arthur Jones, Bangor, yn nghyd a'r ddau frawd, Griffith a David Hughes, o'r Cefn Uchaf, ger Bethel. Prudd yw gofyn am y Cenhadon hyn, Pe le y maent ? Nid oes yr un o honynt ar gael heddyw.

" Yn y flwyddyn 1833, meddyliwyd am gael tir i adeiladu capel, a chafwyd tir gan y diweddar T. A. Smith, Ysw., pa un oedd yn naliad Mr. Robert Morris, yr Aber. Rhyfedd fel y mae Rhagluniaeth yn gweithio, - dyna Mr. Griffith yn dyfod i lawr i'w dý i fedyddio, y capel yn cael ei adeiladu a'r ei dir, a mwy na hyny, efe oedd yr aelod cyntaf a dderbyniwyd i gymundeb yn y capel, ac y mae amrai o'i blant a'i wyrion yn aelodau yma heddyw."

Diwrnod pur hynod yn nghymydogaeth " Aberpwll," oedd diwrnod sylfaeniad capel Siloh. Y pregethwr ar yr achlysur oedd Mr. Arthur Jones, Bangor. Safai ar y gareg sylfaen, a phregethai yn ddifyr odiaeth, fel y clywsom lawer gwaith. Gadawodd rhanau o'r bregeth argraff annileadwy ar feddyliau llaweroedd. Agorwyd y capel Mawrth 10fed a'r 11eg, 1834. Costiodd y capel a'r ty, a'r gwaith o'i ddeutu, 240p. Dangosasid caredigrwydd mawr gan yr ardalwyr, fel yr elai y gwaith yn mlaen. Swm y casgliad ddydd yr agoriad ydoedd 1p. 15s. 3c. Efengyl rad a hoffid gan yr hen bobl. Oddiwrth hen ysgrif sydd yn awr ger ein bron, gwelwn na thelid i fwy na deg o weinidogion a phregethwyr oedd yn bresenol ar yr achlysur, ddim dros bymtheg swllt o gwbl. Ni dderbyniai y rhai pellaf ddim dros haner coron, pryd yr oedd yn rhaid i Mr. Samuel, Bethesda, ac eraill nad oeddynt o bell iawn, ymfoddloni ar swllt yn unig. Yn mhlith y taliadau yn nglyn a'r cyfarfod, gwelwn ar lawr swllt am "ddiod," ond ni fynegir pa ryw ddiod. Tebygol mai un "gref" ydoedd, yn gymaint ag nad oes le i feddwl fod dirwest etto wedi dadblygu ei baner yn y fro.

260

Ar gychwyniad yr achos yn Siloh, yr oedd wynebau nifer mawr o deuluoedd parchusaf yr ardal tuag ato. Yn mhlith eraill a'i cefnogent yn wresog, gellir enwi Mrs. Catherine Roberts, amaethdy y Faenol. Ei gwr, Mr. Edward Roberts, ydoedd aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, fel yr oedd eu ty yn agored i dderbyn gweision Crist o'r ddau enwad. Gallesid disgwyl llawer oddiwrth un yn ei sefyllfa hi pe cawsai fyw; eithr torwyd hi ymaith yn nghanol ei holl hawddgarwch, gyda fod y capel newydd wedi ei orphen. Cafodd fyned yno i ddewis ei heisteddle, a dyna y cwbl. Bu farw Ebrill 28ain, 1834, yn chwe' mlwydd a'r hugain a haner oed. Y swyddogion cyntaf a neillduwyd yn Siloh oeddynt Abraham Timmins, Faenol; Lewis Williams, Penrallt, a Hugh Mathew, yr hwn hefyd oedd bregethwr cynorthwyol tra adnabyddus, er nad mor beraidd i wrando arno a llawer. Yr ydym yn cofio yn dda, yn ei amser ef, os cyhoeddid oedfa heb enwi y llefarwr, fel y byddai y bobl yn credu ac yn dyweyd, mai Hugh Mathew oedd i sefyll yn yr adwy. Buasai yn fwy cymeradwy, ni a gredwn, pe talasai fwy o sylw i ymddangosiad y dyn oddiallan. Gwelsom ef yn esgyn yr areithfa rai troion gyda'i wyneb bron yn bygddu. Credwn y cawsai hyd yn nod Whitfield ei hun gryn waith i'w argyhoeddi ef fod glanweithdra yn sefyll yn nesaf at dduwioldeb. Er hyny, yr oedd ef yn hen wr da iawn, parod i wneyd yr hyn a allai o ddaioni bob amser, ac y mae ei goffadwriaeth yn yr amgylchoedd yn beraidd hyd heddyw. Lewis Williams ydoedd ddyn serchog, pwyllus, a thoddedig lawn ei ysbryd, ac ni bu ar y ddaear odid Gristion purach nag efe. Am Mr. Timmins wed'yn, tra yn meddu dealltwriaeth cryf, ac ysbryd rhagorol, yr oedd ei sefyllfa fel pengarddwr, ac is-oruchwyliwr oddeutu y Faenol, yn rhoddi iddo fanteision nodedig i wasanaethu yr achos yn Siloh, yr hyn hefyd a wnaeth yn ddeheuig am lawer blwyddyn, sef hyd pan symudwyd ef i drigianu i gymydogaeth Beulah. Sais oedd Mr. Timmins yn enedigol, ond drwy ei hir arosiad yn Nghymru, yr oedd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfedd. Byddai yn pregethu ychydig yn achlysurol yn ei ddyddiau goreu, ond gan yr arferai barablu ambell air yn lled chwithig, nid ydoedd mor adeiladol yn y ffordd hono ag y buasai yn ddymunol, yn enwedig i bobl ieuaingc. Yr oedd o ymddangosiad yn gystal ag o ysbryd boneddigaidd, ac am hyny perchid ef gan bawb. Yr oedd yn edmygydd ac yn gyfaill mawr i Mr. Williams o'r Wern; a bu Mr. Williams yn ystod ei gystudd diweddaf ar ymweliad ag ef yn y Faenol, at yr hyn y gwneir cyfeiriad prydferth yn nghofiant y dyn seraphaidd hwnw. Wedi colli y diaconiaid cyntaf, neillduwyd i ddechreu un Henry Elias i'r swydd, gyda Morris Roberts, yr Aber, yn ysgrifenydd. Yn mhen llai na dwy flynedd symudodd H. Elias i America, ac yna neillduwyd y brodyr Morris Roberts, Hugh Owens, Rice Jones, a Thomas Jones, yn ddiaconiaid. Parhai Mr. Griffith yn weinidog i'r gynnulleidfa o hyd, a byddai adlewyrchiadau hyfryd yn dilyn yr achos yn fynych. Yn y flwyddyn 1849, daeth ei fab hynaf i fod yn gynorthwywr i Mr. Griffith yn y weinidogaeth, er mawr foddhad i laweroedd. Yr oedd golwg hynodd lewyrchus ar y lle oddeutu y pryd yma, yn gymaint felly, fel y penderfynwyd helaethu y capel, a'i wneyd agos gymaint arall o faintioli. O hyny allan ystyrid ei fod yn un o'r capeli mwyaf cyfleus a phrydferth a ellid weled mewn gwlad, ac yr ydoedd bob amser yn orlawn o wrandawyr.

Bendithiwyd y gynnulleidfa yn Siloh, a rhai ymweliadau hyfryd oddiwrth Ysbryd yr Arglwydd. Yn mhlith eraill, yr oedd yr adfywiad yn y

261

blynyddoedd 1869-60, yn dra bendithfawr yn ei ganlyniadau. Ychwanegwyd at rif yr aelodau yn Siloh, oddeutu triugain mewn ychydig fisoedd. Tua yr adeg yma y meddyliwyd am sefydlu Ysgol Sabbothol yn y cwr deheuol i'r ardal, sef yn agos i'r hen Durnpike. Rhifai yr ysgolheigion yno oddeutu 90 am gryn amser. Cam pwysig tuag at sefydlu ail achos Annibynol yn yr ardal oedd hwn. Dangosid gweithgarwch yn nghyd ag haelioni nodedig gan yr eglwys yn Siloh yn awr, yr oedd ysbryd gras a gweddiau wedi ei dywallt yn helaeth ar y bobl yn gyffredinol. Tua y pryd hwn, daeth i feddwl rhai o'r eglwys, y buasai yn ddymunol codi Tysteb fechan i Mr. Griffith, hynaf, fel arwydd o barch cyhoeddus iddo ar gyfrif ei lafur egniol yn y parthau hyn am yn agos i haner cant o flynyddoedd. Codwyd y dysteb yn rhwydd, a chyflwynwyd hi iddo yn Siloh, Tachwedd 18fed, 1861. Cynwysai y pwrs y noson hono oddeutu 60p., a chyfranwyd gryn symiau yn ychwanegol at yr un amcan yn ystod yr wythnosau dilynol. Y prif ysgogydd yn y gwaith canmoladwy hw ydoedd Mr. Morris Roberts, enw yr hwn a grybwyllwyd genym gynifer weithiau yn barod.

Yn y flwyddyn 1862, ymneillduodd cyfran helaeth o'r gynnulleidfa i fyned i'r capel newydd (Moriah), yn cynwys nifer mawr o aelodau gwir ffyddlawn, ac yn eu plith ddau o'r diaconiaid, sef y Meistri Hugh Owens a Rice Jones. Yn mhen amser wedi hyn, neillduwyd y brawd Rowland Griffith i fod yn ddiacon yn Siloh, gyda'r rhai a adewsid ar ol. Rhoddodd gweinidogion Bethel ofal yr eglwys i fyny am dymor yn yr adeg y codwyd Moriah; ac yn y cyfamser rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. John Stephens, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Sulgwyn, 1864. Bu Mr. Stephens yn llafurio yn y lle gyda gradd helaeth o gymeradwyaeth dros amryw flynyddoedd, nes y symudodd i'r Taibach, sir Forganwg. Ar ol hyny, disgynodd i ran Meistri D. Griffith ac R. W. Griffith, Bethel, i ofalu yn benaf am y lle. Y diaconiaid presenol ydynt, Morris Roberts, Rowland Griffith, a Samuel Roberts - mab i Mr. Morris Roberts, ac felly yn wyr i'r hen frawd carusidd a ffraethbert Robert Morris, am yr hwn y crybwyllwyd yn nechreu yr hanes hwn. Hyfryd genym ychwanegu nad oes ar y capel hwn ddim dyled er cyn codi Moriah, a bod gwedd hynod lewyrchus ar yr achos etto ag ystyried fod gan yr enwad ddau gapel yn yr ardal.

  

MORIAH, PORTDINORWIG

(Llanfair-is-gaer parish)

Oddiwrth y cyfeiriadau a wnaed eisioes at gychwyniad yr achos yn y lle hwn, fe welir ei fod yn ddyledus am ei hanfodiad i sêl a gweithgarwch y frawdoliaeth unedig gynt yn Siloh. Nid peth dymunol i deimlad neb oedd meddwl am ranu y fath gynnulleidfa brydferth ag a welid yn ymdyru yno; etto, bernid yn gyffredinol, fod sefyllfa pethau yn Mhorth Dinorwig yn gofyn ymdrech penderfynol er cael ail gapel yn perthyn i'r enwad, mewn cwr arall mwy cyfleus o'r ardal. Nid oedd y boblogaeth yn cynyddu dim oddeutu Siloh, tra y cynyddai yn gyflym iawn yr ochr arall i'r porthladd yn nghyfeiriad Caernarfon. O'r diwedd, penderfynwyd gwneyd apeliad at Arglwydd Boston, am dir i adeiladu capel arno yn rhywle ar fin y ffordd fawr tua chanolbwynt y boblogaeth, a bu ei arglwyddiaeth mor dirion a rhoddi i'r cais atebiad cadarnhaol heb oedi dim. Yr oedd y dernyn tir a gyflwynid ganddo at wasanaeth yr enwad Anni-

262

bynol, yn bob peth a allesid ddymuno o ran cyfleusdra yn mron, ond fod y telerau dipyn yn gelyd, sef triugain mlynedd o brydles, gyda 2p. 10s. o ground rent yn flynyddol. Ond gan na allesid cael dim oedd well er treio, nid oedd dim i'w wneyd ond boddloni iddynt.

Yr oedd y capel newydd i fod yn un tra eang ac addurniadol. Meddylid iddo gynwys eisteddleoedd i oddeutu 500 o bobl. Y cymerwyr oeddynt y Meistri Williams, o Fangor, a swm y contract am wneyd y capel yn unig, 965p. Torwyd y dywarchen gyntaf, Mai 4ydd, 1861. Yn mhen ychydig wythnosau wed'yn, traddodwyd pregeth hyawdl i gynnulleidfa luosog, oddiar y gareg sylfaen. gan Mr. R. Thomas, Bangor. Gan fod trafferthion yr anturiaeth newydd hon yn gorphwys yn benaf ar ysgwyddau Mr. D. Griffith, ieu , ystyrid mai gweddus oedd iddo ef draddodi y bregeth gyntaf yn mhulpud y capel newydd, yr hyn hefyd a wnaeth nos Sul, Ebrill  6ed, 1862, i gynnulleidfa orlawn. Y testyn ydoedd Salm lxxxiv. 11, " Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw," &c. Yn ychwanegol at y swm a enwyd uchod, aeth cryn 100p. o draul yn mhellach gyda y mynedfeydd i'r capel, yr ystafelloedd odditano, &c. Ond yr oedd gan bobl Moriah galon i weithio. Llwyddent yn rhyfedd i gael arian at y gwaith o bob cyfeiriad. Ond er pob ymdrech, yr oedd y ddyled arosol yn cael ei deimlo yn faith trwm iawn - rhy drwm yn wir i'r gynnulleidfa allu ymunioni dano. Am hyny, yn y flwyddyn 1864, penderfynodd y gweinidog a'r bobl wneyd un egni mawr etto, er dwyn y ddyled i lawer os gellid hyd haner y gost wreiddiol. Cafwyd cynorthwy oddiwith foneddigion haelionus yn Lloegr, ac aeth y gweinidog drwodd i'r Deheudir am ychydig amser yn Mehefin, 1864, lle y dangoswyd iddo garedigrwydd anghyffredin. Yr oedd Mr. R. T. Williams, yr hwn oedd bregethwr cynorthwyol, ac a fu wedi hyny yn weinidog yn Nwyran, Mom ac a orphenodd ei yrfa yn ddiweddar yn Llanllyfni, yn aelod o eglwys Moriah y pryd hwnw; a bu yntau ddiwyd i ymweled a chynnulleidfaoedd yma,a thraw, er cael casgliadau at yr amcan dan sylw. Erbyn cael yr oll o'r rhoddion a'r casgliadau at eu gilydd, gwelid eu bod yn cyrhaedd y swm hardd o 254p. 16s. 3c. O'r pryd hwnw allan, ni ba raid i bobl Moriah bryderu dim yn nghylch y ddyled, er fod cryn swm o logau etto i'w talu bob blwyddyn  Ond telir hwynt yn ddidrafferth, ac y mae y ddyled ei hun hefyd yn toddi ymaith yn gyflym iawn. Yn nechreu y flwyddyn 1868, adeiladwyd ty newydd ar ddarn o'r tir perthynol i'r capel, costiodd uwchlaw 100p. O'r blaen defnyddid yr ystafell o dan y capel fel lle preswylfod; ond gan yr ystyrid nad ydoedd yn gymhwys iawn i fod felly, penderfynwyd troi yr ystafell hon yn ysgoldy at wasanaeth plant y gynnulleidfa ac eraill a ddewisont gyfranogi o'i mhanteision. Dygir yr ysgol yn mlaen yn ol y cynllun Brytanaidd, ac o adeg ei sefydliad hyd yn bresenol, y mae wedi bod yn llwyddianus tu hwnt i bob disgwyliad. Teimla pob plaid yn wir, ddyddordeb mawr yn llwyddiant a pharhad y sefydliad. Oni bae hon, ni fuasai gan yr Ymneillduwyr ysgol o'r fath a garant yn yr holl fro. Y mae dylanwad eglwysyddol wedi bod ar eu ffordd drwy y blynyddoedd i gael tir mewn man cyfleus at godi ysgoldy addas i ofyinon y gymydogaeth. Ond y mae dyddiau gwell i wawrio ar achos addysg anenwadol yn y man. Pe gwybuasid ar y cychwyn y daethai pethau i'r cyfeiriad a nodwyd, mae yn debyg y buasid yn gofalu am gael gwell lle at ysgol ddyddiol yn nglyn a chapel Moriah.

Breintiwyd yr eglwys yn Moriah a gwasanaeth amryw ddiaconiaid

263

ffyddlawn, a gwir ymroddedig i'r gwasanaeth y galwesid hwynt iddo. Saif eu henwau fel y canlyn, Hugh Owen, Rice Jones, John Ellis, David Griffith, Robert Jones, a John Davies. Bu y tri chyntaf o wasanaeth dirfawr ar gychwyniad yr achos yn y lle. Yr oedd y tri yn ymddiriedolwyr i'r capel, ac yn rhwymedig hefyd gyda'u gilydd, os da yr ydym yn cofio, am yr oll o'r ddyled. Cawsant fyw i weled yr achos allan o bob perygd, ac yn ymledu hefyd yn ddirfawr; ond yn fuan iawn wed'yn dechreuodd angau eu marcio a'u tori i lawr y naill ar ol y llall, gyda chyflymdra rhyfedd, gan adael y cyfrifoldeb am yr oll o'r ddyled i orphwys ar ysgwyddau y gweinidog yn unig. Ond ni theimlodd ef unrhyw anghyfleusdra oblegid hyny, na dim pryder chwaith, oblegid gwyddai fod digon etto wedi eu gadael ar ol, o rai fuasent yn myned gydag ef i garchar ac i angau, pe buasai raid, er gwaredu yr achos rhag dinystr. David Griffith hefyd, yr hwn a drigai yn nhy y capel, ydoedd ddyn hardd ei foes, a phenderfynol ei ysbryd yn ngwaith yr Arglwydd, ac yr oedd gyda hyny yn weddiwr gafaelgar nodedig. Ni chafodd yntau fyw ond ychydig flynyddoedd ar ol y brodyr anwyl eraill a enwyd; er y disgwyliasid iddo ef fel hwythau, gael aros i wasanaethu yr achos am hir dymor yn ychwanegol. Nid oes bellach yn aros o'r nifer diaconiaid y cofnodwyd eu henwau, ond dau yn unig, sef y brodyr Robert Jones a John Davies.

Ni chyfodwyd yn y lle hwn ond un pregethwr hyd yma, sef William Roberts, teithydd masnachol, yr hwn sydd yn parhau yma, yn bregethwr cynorthwyol parchus.

Yn mhlith y bobl dda a ddaethant i fyw yma o leoedd eraill, ac a fuont o wasanaeth mawr i'r achos. gellir enwi yn neillduol Mrs. Roberts, gynt o Ala Las, Caernarfon, ac hefyd ei chwiorydd, y ddwy Miss Thomas, y rhai a ddaethant i aros i'r lle oddeutu yr un amser. Teimlir chwithdod wrth feddwl, fod y tair erbyn hyn, yn mro dystawrwydd. Yr oedd Mrs. Roberts yn fenyw o synwyr cryf iawn, ac yr oedd llwyddiant yr achos yn Moriah mor agos at ei chalon fel y trefnodd yn ei hewyllys olaf fod i'r swm o 100p. gael eu talu gan ei gweinyddwyr tuag at ddiddyledu y capel, mewn amser priodol, wedi ei hymadawiad a'r fuchedd hon. Oherwydd y weithred haelionus yma, diau y bydd enw Mrs. Roberts yn berarogl i'r eglwys yn Moriah yn hir wedi yr elo y genhedlaeth hon heibio. Nid heb deimlad o fraw yn gystal ag o hiraeth dwfn, yr ydys fel hyn yn troi ein sylw yn ol i adolygu cyfnewidiadau yr un-mlynedd-ar-ddeg a aethant heibio, er pan ymsefydlodd y gynnulleidfa yn nghapel Moriah i ddechreu. Teinalwn ambell foment yn mron fel pe byddai cenhedlaeth gyfan o bobl wedi diangc oddiwrthym. Yn mhlith cefnogwyr mwyaf aiddgar yr achos ar ei gychwyniad, dylem yn ddiau enwi Mr. D. Griffith, hynaf; ac o'r diwedd wele yntau wedi myned, ond y mae yr achos yma etto yn fyw, ac yn myned rhagddo hefyd er gwaethaf y cyfnewidiadau oll. Ni bu y gynnulleidfa ar unrhyw adeg yn well na pharotach i waith nag yn bresenol. Ryw dair blynedd yn ol, aed i gryn draul i effeithio cyfnewidiad o fewn capel, drwy yr hyn y chwanegwyd gryn ddeg neu ddeuddeg at rif yr eisteddleoedd, ac er hyny, anhawdd etto cael eisteddle heb fod rhywun yn ei hawlio, megis y digwyddai ynddo o'r blaen. Y mae amryw o deuluoedd parchusaf y fro yn dal cysylltiad a'r gynnulleidfa, ac yn eu plith amryw o feistriaid llongau hefyd, yr hyn sy fantais ac anfantais yn ogystal,  - mantais, am fod morwyr fel rheol yn bobl haelionus at bob gwaith da, ac anfantais, o herwydd eu bod eu hunain oddicartref bron o hyd. Wedi

264

cymeryd pob peth i ystyriaeth, teimlir fod gan y bobl yn Moriah achos i fendithio Duw a chymeryd cysur. Ar y cyntaf, wedi i gyffro mawr yr adeiladu fyned drosodd, ac i ninau eistedd i lawr i ystyried ansefydlogrwydd y boblogaeth, amlder rhif yr addoldai o'u deutu, teneuder cymharol ein cynnulleidfa ein hunain, trymder aruthrol y baich, yn nghydag agosrwydd yr hen gapel, a hwnw heb ddyled arno, ofnem ambell foment fod amryfusedd rhyfygus wedi cael ei gyflawni genym, ond erbyn yn awr teimlwn mai priodol yw i ni ddiolch a dywedyd, megis y wraig hono o Sunem gynt, "POB PETH YN DDA." *

  

WAENFAWR

(Llanbeblig parish)

Ymddengys fod yr Annibynwyr wedi dechreu pregethu yn yr ardal hon yn y flwyddyn 1813. Y pregethwr cyntaf a fu yma yn pregethu oedd Mr. D. Davies, yr hwn oedd ar y pryd yn cyd-weinidogaethu â Mr. J. Griffith, yn Nghaernarfon, ac yn cadw ysgol yn y dref hono. Arferai Mr. Davies fyned yn rheolaidd i'r Waenfawr tra yr arosodd yn Nghaernarfon, a theimlid yn ddwys pan ymadawodd i fyned i Pantteg, Caerfyrddin. Yn nhý Owen Pritchard, Bryneithin, y cedwid y cyfarfodydd yn yr amser hwnw. Llawer a bregethodd yr hen dadau ydynt bellach oll yn gorphwys oddiwrth eu llafur, Meistri J. Griffith, Caernarfon, D. Griffith, Talysarn, ac A. Jones, Bangor, yn yr hen annedd hono, a melus ydyw yr adgofion am lawer pregeth a draddodwyd yno. Yn y flwyddyn. 1814, daeth Mr. D. Griffith i Bethel, ac efe a fyddai yn dyfod fynychaf i bregethu i Bryneithin ar ol hyny. Cafwyd addewid am yr ysgol râd symudol (ysg., Dr. Dan. Williams), yr hon a gedwid ar y pryd yn Bethel, gan Ellis Thomas, i ddyfod i'r gymydogaeth hon yn y flwyddyn 1816, a  dysgwylid y buasai y Methodistiaid Calfinaidd yn rhoddi benthyg eu capel i gadw yr ysgol. Ond nid oedd y cyfeillion hyny yn gweled eu llwybr yn rhydd i ganiatau hyny; a bu yn rhaid ardrethu tý gwag yn Bryneithin i'r dyben hwnw yr hwn yn fuan iawn a aeth yn rhy fychan ysgolheigion.Gan fod cymaint o angen am ysgol yn yr ardal, bu i ymddygiad y cyfeillion yn gomedd y capel, dramgwyddo llawer o'r ardalwyr, ac annogwyd yr Annibynwyr i adeiladu capel eu hunain, gydag addewid y cawsent bob cynnorthwy tuag at hyny gan yr ardalwyr. Cynygiodd J. Evans, Ysw., Cyfreithiwr, Caernarfon, dir yn rhad iddynt pe buasent yn dewis gwneyd addoldy yr amser hono; a diau y gallasid adeiladu capel am lai na haner yr hyn a gostiodd iddynt pe buasent wedi gwrando ar lais yr ardal y pryd hwnw. Ond ystyriai Mr. Griffith, Caernarfon, nad oedd hyn yn codi oddiar yspryd iawn, ac felly ni roddodd anogaeth iddynt fyned yn mlaen. Wedi i'r Methodistiaid Calfinaidd ddeall fod yr ardal mor dramgwyddus, agorasant y capel i dderbyn yr ysgol, a rhoddwyd y tý yn yr hwn y cedwid hi gynt i fyny. Yr oedd yr Annibynwyr etto heb le i bregethu. Mewn canlyniad i hyn ymgyfarfyddent am ryw yspaid i le o'r enw Cae ysgubor i addoli, a deuai Mr. Griffith, Bethel, atynt i bregethu yn achlysurol.

Ar ol dyfodiad Mr. W. Jones i Gaernarfon, symudwyd i le a elwid Tai isaf, deuai ef yno bob yn ail a Mr. Griffith, Bethel, i bregethu. Yn fuan cydunodd y ddau weinidog uchod i gymeryd tý gwag, yr hwn a elwid y Tý newydd, Treflan, a llwyddwyd i gael gan yr hen frawd Owen

*Ysgrif Mr. D. Griffith, Portdinorwig.

 

CONTINUED


Return to top

[Last updated: 31 May 2008  -  Gareth Hicks]

Valid HTML 4.01 Transitional  

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI