| Caernarfonshire | Contents |
Proof read by Yvonne John (May 2008)
Chapels below;
265
Pritchard i fyned yno i fyw, ac i ofalu am damaid o fwyd i'r pregethwyr a ddeuant yno i bregethu. Cynhelid yno gyfeillach grefyddol hefyd, ac yno y buont yn cyfarfod i addoli am un flwyddyn, a hwy oeddynt yn talu yr ardreth. Ond gan fod yr hen bobl oeddynt yn byw yn y Tai isaf mor fethedig, yn neillduol yr hen wraig, yr hon oedd yn analluog i fyned o'r tý yno y cyfarfuant i addoli drachefn hyd y flwyldyn 1826.
Yn yr amser yma daeth gwr o'r enw Samuel Jones, a'i wraig, i fyw i'r ardal, y rhai oeddynt aelodau gyda'r Annibynwyr yn Lleyn; ac yn fuan daeth un arall o'r enw Jane Evans yno, ac yn yr un flwyddyn ymunodd Mr. A. Timmins â'r ychydig gyfeillion oedd yno. Yr oedd hyn yn lloni meddwl yr hen frawd Owen Pritchard yn fawr. Ond pan ddaeth Hugh Jones, John Hughes, Trefor Williams, a'i wraig Jane, yn nghyda Griffith ac Eleanor Morris, atynt, penderfynodd Owen Pritchard ymadael a'i hen gyfeillion yn Bethel, a daeth Mr. Griffith yno i sefydlu eglwys yn y flwyddyn 1826. Deuai Mr. Griffith, Bethel, yma yn fisol, a Mr. Jones, Bangor; Robert Morris a Thomas Williams, Bangor, hefyd yn achlysurol. Bu Mr. Price, yn awr o'r America, a Mr. Edward Parry, o Gaernarfon, yn ffyddlon iawn yn gwasanaethu yr achos yn yr yspaid hwn.
Yn y flwyddyn 1829, y symudodd yr ychydig ddysgyblion i Moriah, a pharhaodd yr un pregethwyr i'w gwasanaethu hyd ddiwedd y flwyddyn hono, pryd y daeth Mr. Daniel Jones, o'r Neuaddlwyd, i sefydlu yn eu plith, ac urddwyd ef Ebrill 29ain, 1830. Ond ymddengys nad rhyw lawer o lewyrch a fu ar yr achos, ac ni bu ei arosiad yma ond dros yspaid chwe' mlynedd. Ymadawodd yn y flwyddyn 1835. Bu Mr. T. Edwards yma am ryw ychydig yn pregethu ac yn cadw ysgol, nes y symudodd i Ebenezer.
Taflwyd y cyfeillion i gryn brofedigaeth, trwy i'r gwr oedd wedi rhoddi benthyg yr arian, 160p , i adeiladu y capel, alw am danynt. Yr oedd wedi tywyllu arnynt o bob man, nes i ymwared godi iddynt oddiwrth eu hen gyfaill yn mhob cyfyngder, Mr. Griffith, Bethel. Aeth ef a gweithredoedd tir oedd ganddo i'w gwystlo yn y Bank am y swm oedd yn angenrheidiol i dalu i'r echwynwr. Fel hyn y bu yn cynorthwyo llawer eglwys weddw dlawd, pan fygythid gwerthu eu meibion gan yr echwynwyr. Tua'r amser yma yr oedd yr ymdrech cyffredinol er talu dyledion addoldai yr Annibynwyr yn Nghymru, pryd y gweithiodd ein tadau, y rhai ydynt bellach, y rhan fwyaf o honynt, wedi myned i orphwys oddiwrth eu llafur, gydag egni canmoladwy. Ac wrth "ranu yr yspail," daeth 76p. i Moriah fechan yn ei gwendid.
Yn y flwyddyn 1839, ymsefydlodd y diweddar Mr. Thomas Davies, o Bodffordd, yma, a bu cryn lwyddiant ar ei weinidogaeth; ymunodd llawer o ddynion da a llafurus â'r eglwys yn ystod ei arosiad yn eu plith; ond ymadawodd Mr. Davies yn y flwyddyn 1843. Daeth Mr. W. Caledfryn Williams yma yn fisol, nes yr ymadawodd a Chaernarfon, a chynyddodd y gwrandawyr yn ddirfawr yn yr yspaid hwnw. Ar ol ymadawiad Mr. Williams o Gaernarfon, nid oedd ddim i'w wneyd ond troi at yr hen gyfaill profedig Mr. Griffith, Bethel, yr hwn a barhaodd i ddyfod yma yn fisol, nes i'r eglwysi dan ei ofal fyned yn rhy luosog iddo allu myned yn rheolaidd i'r Waenfawr.
Cafodd yr eglwys yn y Waenfawr ran helaeth o'r adfywiad crefyddol, â'r hwn yr ymwelodd Ysbryd yr Arglwydd a phob cynnulleidfa yn y wlad
266
hon yn gystal a gwledydd eraill yn y flwyddyn 1859. Os nad ydym yn camsyniad, yr eglwys hon a fwynhaodd y blaenffrwyth o'r cynhauaf mawr a fedwyd yn y flwyddyn hono. Yma y disgynodd y gawod gyntaf, yr hon a ymledodd dros yr holl wlad. Rhoddodd yr ymweliad grasol hwn ysbryd newydd i'r hen grefyddwyr. Crewyd yma lawer o'r newydd yn Nghrist Iesu, ac yn gystal a " chreu calonau glan" yn yr ardal, " adnewyddwyd yspryd uniawn o fewn" yr hen aelodau. Cymerwyd gofal yr eglwys yn yr adeg yma gan Mr. Roberts, Caernarfon, a deuai yma mor aml ag y gallai. Yr oedd gan y bobl galon i weithio, ymroddwyd at adgyweirio a phrydferthu yr hen addoldy, yr hwn oedd wedi myned i gyflwr tra adfeiliedig, yn gymaint felly fel y syrthiodd wyneb un eisteddle yn rhydd ar lawr ar foreu Sabboth. Rhoddwyd tua 60p. o gost ar yr hen gapel, yr hyn a'i gwnaeth yn addoldy trefnus, cysurus, a glanwaith. Ond canfuwyd yn fuan ei fod yn rhy fychan i'r gynnulleidfa a gyrchai iddo. Teimlid fod y draul yma wedi myned i raddau yn ofer, ac mai gwell fuasai iddynt fod wedi ail adeiladu y capel yn helaethach. Ymroddwyd ati yn egniol i dalu y 80p. gweddill o'r ddyled oedd yn aros ar yr hen addoldy, ac yna i adeiladu teml newydd. Yn mis Gorphenaf, 1863, chwalwyd yr hen Moriah, a dechreuwyd adeiladu ail deml llawer mwy ei gogoniant na'r gyntaf ar yr un llecyn. Tynwyd y cynllun gan Mr. T. Thomas, Glandwr, a chymerwyd y gwaith, yr hwn a gariwyd allan i foddlonrwydd cyffredinol gan Meistri W. Rogers a'i Gyf., Waenfawr. Bwriedid. i'r addoldy newydd gostio o 600p. i 700p., ond pan orphenwyd ei furiau, canfu y cynllunydd na fuasai yn adeilad mor gysurus heb roddi orielau ynddo. Ychwanegodd hyn y draul i 900p., ond gwelir heddyw mai fel hyn yr oedd oreu; yr oedd y derhyniadau am yr eisteddleoedd yn yr oriel y chwarter diweddaf yn fwy nac am yr eisteddleoedd ar y llawr. Pregethwyd y bregeth gyntaf yn y capel newydd Rhagfyr 11eg, 1864, gan Mr. Roberts, Caernarfon, oddiar Haggai ii. 7-9, a chynhaliwyd cyfarfod ei agoriad Ionawr 17eg a'r 18fed, 1865. Y mae yn un o'r addoldai mwyaf prydferth a chyfleus yn y Dywysogaeth. Eistedda ynddo tua 500, ac y mae claddfa yn ei ymyl, wedi ei dechreu, fel y crybwyllwyd oherwydd graddau o erledigaeth. Rhoddodd Mr. Roberts i fyny ddyfod yma yn y flwyddyn 1868. Rhoddwyd galwad i Mr. David R. Davies, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef ddydd Llun y Pasg, 1869. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd y dydd gan Meistri W. Morgan, Caerfyrddin; D. Roberts, Caernarfon; T. Johns, Ebenezer; D. Oliver, Llanberis; J. Thomas, Liverpool, ac eraill. Bu Mr. Davies yma am fwy na dwy flynedd pryd y symudodd i Abercwmboy, Morganwg. Mae yr eglwys ar hyn o bryd heb weinidog, ond y mae yr achos yn myned rhagddo yn llwyddianus. Bu yma lawer o ffyddloniaid o bryd i bryd, ond cydnebydd pawb fod yr hen frawd Owen Pritchard wedi rhagori arnynt oll, a bydd ei enw yn berarogl yn yr ardal wedi treigliad llawer o genedlaethau.
Dechreuwyd yr achos yma gan Mr. Daniel Jones, pan yr oedd yn weinidog yn y Waenfawr. Wedi pregethu am o gylch dwy flynedd mewn ty bychan, adeiladwyd yma gapel yn y flwyddyn 1833. Galwyd ef Dura, ond Bryngwyn y gelwir y gymydogaeth. Yn mysg cynorthwywyr Mr.
267
D. Jones i ddechreu yr achos yma, yr ydym yn cael enwau William Foulkes, Foulk Roberts, Owen Jones, Owen Owens, a John Pritchard. Dwy flynedd y bu Mr. Jones yma wedi codi y capel, oblegid symudodd i sir Aberteifi, gan adael y lle dan faich trwm o ddyled. Rhoddid gair da yn yr ardal i Mr. Jones, ond yr oedd yn hen pan urddwyd ef, ac heb lawer o fedr at y weinidogaeth, a bu yn dra anffodus yn ei briodas a merch ieuangc wyllt o'r brifddinas, yr hyn gwnaeth yn hollol ddiddefnydd yn yr ardal. Bu gofal yr achos ar Mr. Thomas Davies yn nglyn a'r Waenfawr, a bu Mr. Williams, Caernarfon, yn cyrchu yma yn fisol ar un adeg; ond yr oedd baich y ddyled yn llethu yr achos ac yn peri i'r ardalwyr gadw draw o'r lle. Byddai dyled Llanrug yn destun siarad yn Nghynadledd agos pob Cymanfa a Chyfarfod Chwarterol yn y sir. Yn y flwyddyn 1852, cymerodd Mr. Griffith Thomas ofal y lle, a dechreuodd yr achos sirioli yn fawr. Gwnaed ymdrech i dalu y ddyled, a thrwy ymroad diflino Mr. Thomas a'r cyfeillion gartref, a'r help a gafwyd o leoedd eraill, llwyddwyd yn mhen amser i lwyr ddileu y ddyled oedd wedi bod yn faich trwm cyhyd. Bu Mr. O. Thomas, Brynmair, brawd Mr. Thomas, y gweinidog, drwy sir Aberteifi yn casglu, a bu yn llwyddianus iawn. Adfywiodd yr archos yn fawr, fel yn gystal a thalu y ddyled, ychwanegwyd llawer at rhoddi yr aelodau. Yn y flwyddyn 1870, adeiladwyd yma gapel newydd hardd, mewn llanerch mwy dymunol, ac nid yw ei ddyled yn debyg o sefyll yn hir o flaen egni ac ymroddiad y cyfeillion ffyddlon yn y lle. Mae Mr. Thomas wedi gwasanaethu yr achos yma yn ffyddlon, heb ddisgwyl am nemawr gydnabyddiaeth ond sydd yn dyfod gyda'r ymwybyddiaeth fod un yn gwasanaethu achos yr Arglwydd. Mae wedi gwylio drosto, fel mam yn gofali am blentyn egwan, ac y mae wedi cael yr hyfrydwch o weled ffrwyth i'w lafur. Mae golwg lewyrchus iawn ar yr achos yn bresenol.
Codwyd yma ddau bregethwr.
Darllenwyd papyr yn un o gyfarfodydd Chwarterol Sir Gaernarfon, gan Mr. R. Thomas, ar hanes yr achos Annibynol yn Mangor, a chan ei fod wedi ei ysgrifenu mor helaeth, yr ydym yn ei roddi i mewn agos yn llawn hyd y cyrhaedda, gan ychwanegu rhai dyddiadau y daethom o hyd iddynt. Gwel y darllenydd craff wahaniaeth arddull yn y rhanau a ychwanegwn.
"Dywedir fod cynygion wedi eu gwneuthur i bregethu yr Effengyl yn Mangor, gan amrai o weinidogion yr Annibynwyr, cyn dyfodiad Dr. Lewis i breswylio i Ogledd Cymru. Bu Meistri R. Harris, Pwllheli, a J. Griffiths, Caernarfon, pan oedd yn weinidog y tro cyntaf yn y dref hono, yn cynyg cyhoeddi y newyddion da i'r Bangoriaid; ond nid ymddengys fod nemawr o lwyddiant ar eu hymdrechion. Coffheir ddarfod i ddyn
268
erlidgar daro Mr. Griffiths yn ei ben a chareg wedi ei hamwisgo ag eira, pan oedd unwaith yn cynyg pregethu yn Mangor, ac iddo glwyfo y pregethwr mor dost, fel y teimlodd oddiwrth yr ergyd hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd 'cynnulleidfa yr offeiriaid,' a dallbleidwyr yr Eglwys Gadeiriol, yn penderfynu na phregethent hwy yr Efengyl i'r Dinasyddion, ac na chai neb arall ei phregethu ychwaith. Pan ddaeth Dr. Lewis i weinidogaethu i Gaernarfon, a thra yr arosodd yno, ymddengys ei fod yn llawn o ysbryd cenhadol, ac yn ymegnio i ledaenu achos crefydd drwy yr holl ardaloedd cyfagos. Yn mhlith lleoedd eraill, ymdrechodd yn galed i sefydlu achos i'r Gwaredwr yn Mangor; ac ni bu ei ymdrechion yn ofer. Wrth ganfod arwyddion o foddlonrwydd yr Arglwydd ar ei waith yn y Ddinas, ac yn Nghaegwigin a Chaerorion, lleoedd oeddynt gerllaw iddi; a bod yn anmhosibl iddo ef ei hun ofalu am y lleoedd hyn a Chaerynarfon hefyd, rhoddodd Dr. Lewis wahoddiad i wr ieuangc o Eifionydd, o'r enw William Hughes, yr hwn oedd yn bregethwr cynnorthwyol yn eglwys Mr. R. Harris, Pwllheli, i ddyfod i Fangor, a'r ardaloedd cylchynol, i lafurio yn ngwaith y weinidogaeth. Cafodd y gwr ieuangc dderbyniad croesawus gan yr ychydig oedd o gyfeillion y Gwaredwr yn maes newydd ei lafur. Daeth i Fangor oddeutu y flwyddyn 1788, a neillduwyd ef i'r weinidogaeth, yn Nghaegwigin, yn niwedd y flwyddyn 1789. Cymerodd Mr. William Hughes ystafell yn Mangor i bregethu ynddi; ond trowyd ef o honi yn fuan trwy ddichellion a chenfigen yr offeiriaid. Cymerodd un arall drachefn; ond gyrwyd ef o hono hefyd, trwy ystryw yr un blaid erlidgar. Erbyn hyn, nid oedd fawr o obaith y caffai le i bregethu yn y ddinas, ac yr oedd golygfa ddigalon o'i flaen; ond fe gafodd le i adeiladu capel bychan, oddeutu milltir o'r dref, mewn lle a elwid Tyddyn-yr-ordor. Dechreuwyd a gorphenwyd yr adeilad, a chasglodd Mr. Hughes yr arian angenrheidiol i dalu y draul. Dywedir fod trigolion eglwysyddol Bangor, yn arfer cilio i'r ochr arall i'r heol with gyfarfod Mr. Hughes, fel pe buasai y gwahanglwyf arno, gan mor isel oedd eu golygiadau am dano, fel gweinidog Ymneillduol; ond er hyny llwyddo yr oedd yn ei swydd bwrsig fel gweinidog yr Efengyl, a bu o fawr fendith i lawer."
Mae yn awr ger ein bron bedwar o lythyrau a anfonodd Mr. W. Hughes at reolwyr y Bwrdd Cynnulleidfaol, o'r flwyddyn 1792 hyd 1797, i ofyn eu cynorthwy tuag at ei gynhaliaeth. Llai na deugain oedd rhifedi yr aelodau, ac nid oeddynt ond gweithwyr cyffredin, ond dywed fod y gwrandawiad yn lled luosog, ac awydd yn cael ei ddangos gan lawer am glywed yr Efengyl.
"Llafuriodd Mr. Hughes yn ddiwyd a llwyddianus yn Mangor, a'r ardaloedd cylchynol, o'r flwyddyn 1788, hyd y flwyddyn 1797, pryd y symudodd i Ddinas Mawddwy, lle y bu yn gweinidogaethu dros weddill ei oes."
"Wedi ymadawiad Mr. Hughes, daeth Mr. Daniel Evans, gwr ieuangc o swydd Benfro, ar ei daith drwy y wlad; ac yn mysg lleoedd eraill, ymwelodd â Bangor a'i cymydogaeth. Hoffwyd ef yn fawr gan yr ychydig o grefyddwyr oedd yma y pryd hwnw. Rhoddasant alwad iddo i ddyfod i'w plith i gymeryd eu gofal yn yr Arglwydd. Cydsyniodd yntau â'r alwad, a sefydlodd yma yn nechreu y flwyddyn 1800. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn cryf a galluog o gorff a meddwl. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, a llwyr ymroddai i waith y weinidogaeth. Cafodd le i adeiladu addoldy yn nghanol y ddinas; dechreuwyd a gorphenwyd yr adeilad; a
269
bu Mr. Evans yn llafurio ynddo am ychydig, amser, a bu yn ddefnyddiol iawn yn Mangor a'i chyffiniau tra yr arosodd yn y wlad hon." *
"Mae gweithred y capel newydd yn y ddinas wedi ei dyddio yn y flwyddyn 1805. Mae yn cynwys erthyclau y ffydd yn fanwl iawn. Daniel Evans, y gweinidog, Dr. Lewis, B. Jones, Pwllheli, A. Tibbot, Llanerchymedd, J. Powell, Rhosymeireh, William Hughes, Dinasmawddwy, a Thomas Jones, Beaumaris, ydynt yr ymddiriedolwyr yn y weithred hon; ond nid oes yr un o honynt wedi rhoddi eu henwau wrthi, ond Mr. Daniel Evans fel prynydd y tir, a Richard Jones fel gwerthydd o hono. Ni chofrestrwyd y weithred hon ychwaith yn y Canghell-lys, ac felly nid oedd o nernawr werth; a bu raid i Dr. Jones gael gweithred newydd i sicrhau meddiant yn y lle, ac mewn trefn i gael hono gorfu iddo ail brynu y cyfan gan etifedd cyfreithiol gwerthydd cyntaf y tir; ond ni chostiodd y cwbl ond pum-swllt yn yr ail bryniad, tra yr oedd y tir yn unig yn costio 70p. y pryniad cyntaf.
"Mae yr ail weithred wedi ei harwyddo gan yr ymddiriedolwyr, a'i chofrestru yn rheolaidd yn y Canghell-lys, ac yn cynwys banau y ffydd, fel y gyntaf, ac yn profi yn eglur pa mor gelwyddog oedd yr honiadau maleisus a wneid ar hyd y wlad flynyddoedd yn ol, sef, fod y Dr. Jones wedi sicrhau y capel, a'r tai perthynol iddo, yn feddiant personol iddo ef a'i deulu. Yr oedd y tir a brynodd Mr. D. Evans, i adeiladu y capel newydd arno, mewn parth digon cyfleus o'r ddinas; ond er hyny, yr oedd y fynedfa ato yn gul, a'r lle ei hunan yn greiglyd, fel yr aeth y gost wrth adeiladu yn llawer mwy nag y tybid ar y dechreu; fel, er gwerthu capel Tyddyn yr ordor, a rhoddi yr arian at y capel newydd, yr oedd cryn swm o ddyled yn aros arno, ac ychydig o allu arianol oedd yn mysg aelodau yr eglwys fechan oedd ynddo, mae yn debygol. Ond, gwaeth na hyny, aeth yr aelodau i ymrafaelio a'u gilydd. Ceisiodd Mr. Evans heddychu y pleidiau; ond methodd, a thramgwyddodd y ddwy blaid wrtho ef, fel yr un oedd yn ceisio cyfryngu rhyngddynt. Barnodd Mr. Evans nas gallai, wedi colli hyder pob plaid, fod yn ddefnyddiol mwyach yn eu plith, ac ymadawodd i'r Mynydd bach, Morganwg; felly collodd Gogledd Cymru, oblegid ymrafaelion eglwysig, un o'r gweinidogion goreu a fu erioed yn y wlad hon."
"Aeth yr achos yn isel drwy y pethau hyn. Yr oedd y capel heb ei lwyr orphen, a dyled arno heb neb i'w thalu. Ciliodd y bobl ymaith o hono. Cymerodd cyfreithiwr feddiant o'r gweithredoedd, ac yr oedd yn barod i werthu y lle i'r neb a gynygiai fwyaf am dano. Dyna oedd sefyllfa pethau pan ddaeth Mr. Arthur Jones i bregethu yma, yn y flwyddyn 1809. Wedi iddo fod am dymhor gyda'r ychydig ffyddloniaid oeddynt drwy pob tywydd yn glynu wrth yr Arglwydd, ac wrth eu
*Mae traddodiad yn Mangor am yr amgylchiad rhagluniaethol a arweiniodd i gael lle i adeiladu capel yn y ddinas sydd yn werth ei gofnodi yma, am y credwn ei fod yn droddodiad a gwinionedd yn sail iddo. Yr oeddym wedi ei lwyr anghofio hyd nes yr adgofiwyd ni chenog n ein cyfaill Mr. D. Roberts, yn awr o Wrexham. Yr oedd gwr yn byw yn nghanol y ddinas yn meddu darn o dir yn Lon Pobty, yr hwn a roddodd le i'r Methodistiaid Calfinaidd i adeiladu capel arno - y capel cyntaf yn y ddinas. Yn Lon Pobty yr oedd gwr cyfoethog yn byw, yr hwn a deimlai yn chwerw fod capel i'r pengryniaid wedi ei ddwyn mor agos ato, ac yr oedd yn dra lledog wrth ei gyddetinasydd am ganiatau y tir iddynt. Yr oedd ganddo yntau ddarn o dir yn nghanol y ddinas gerllaw y man lle y trigai y gwr arall, ac o ddial arno am osod y tir i'r Methosdistiaid yn Lon Pobty, rhoddodd yntau dir i Annibynwyr Tyddyn-yr-ordor yn ymyl ei dý yntau yn nghanol y ddinas, ac felly wrth ddial ar eu gilydd yr oedd y ddau yn gwasanaethu crefydd. " Gwregysaist ti er na'm hadwaenit."
270
gilydd, yn Ebenezer (fel y gelwid yr addoldy), deisyfasant arno ymsefydlu yn eu plith, fel gweinidog iddynt. Cymerodd yntau y mater i ystyriaeth, ac ymgynghorodd â brodyr a chyfeillion achos y Gwaredwr, yn ei gylch, a'r llwybr tebycaf i allu talu y ddyled oedd yn aros ar y capel, fel gellid ei gael yn rhydd o ddwylaw y cyfreithiwr. Am y cyntaf, cynghorid ef i ddyfod i Fangor i lafurio. Am yr ail, dywedid mai yr unig ffordd i dalu y ddyled oedd, iddo ef fyned or daith drwy eglwysi y Deheubarth, a chasglu yr arian; swm oedd oddeutu pedwar ugain punt. Cydsyniodd yntau a'u cynghor yn y ddau beth. Daeth i Fangor i weinidogaethu, ac aeth ar daith drwy y Deheudir i gasglu yr arian. Casglodd y cyfan, talodd y ddyled, a chafodd ef a'i bobl feddiant o'r addoldy."
Wedi dychwelyd o'r daith gasglyddol urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, Ionawr 3ydd, 1810, a chymerwyd rhan yn yr urddiad gan Meistri J. Roberts, Llanbrynmair, B. Jones, Pwllheli, J. Lewis, Bala, J. Griffiths, Caernarfon, J. Powell, Rhosymeirch, J. Evans, Amlwch, D. Davies, Rhesycae, W. Williams, Wern, J. Griffiths, Machynlleth, J. Powell, Dinbych, T. Jones, Moelfro, a R. Roberts, Ceirchiog. Anfynych y gwelwyd cynifer o enwogion wedi cyd-gyfarfod mewn unrhyw urddiad ag ydoedd yn y cyfarfod yn Ebenezer, yn Mangor. Nid oes un o honynt yn awr yn fyw. Llafuriodd Mr. Jones yma yn ddiwyd, ac yr oedd yr achos yn myned rhagddo; ond yr oedd y golygiadau eang a bregethai ar drefn yr Efengyl yn dramgwydd i rai o'i aelodau, ac edrychid arno gan y rhan fwyaf o'i frodyr fel un yn "dwyn rhyw bethau dyeithr i'w clustiau."
Yn y flwyddyn 1815, symudodd Mr. Jones i Lundain, i wasanaethu i'r Cymry yn Deptford a Woolwich. Yn ddioed wedi ei symudiad rhoddwyd galwad i Mr. David Roberts, o Lanfyllin. Bu Mr. Roberts yn dra llafurus yn y ddinas a'i chyffiniau, ac oblegid fod maes ei lafur wedi eangu yn fawr, a rhagolygon addawol yn amgylchoedd y Chwarelau, rhoddodd yr eglwys yn Mangor i fynu yn y flwyddyn 1822, a chyfyngodd ei lafur eglwysi oedd dan ei ofal y tuallan i'r ddinas, ac iddynt hwy y llafuriodd hyd ganol y flwyddyn ganlynol, pryd y symudodd i Ddinbych. Wedi ymadawiad Mr. Roberts, bu Mr. Caleb Morris am ychydig Sabbothau yma, a theimlai amryw awydd am ei gael yn weinidog; ond wedi deall fod Mr. A. Jones yn gogwyddo i ddychwelyel o Lundain, rhoddwyd galwad iddo ef; ac ail ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn y flwyddyn 1823.
" Yn fuan wedi ei ddychweliad o'r brif ddinas i Fangor, penderfynodd Mr. Jones a'r gynulleidfa ail adeiladu a helaethu eu haddoldy. Bu yr anturiaeth hono yn un gostfawr iddynt. Safai y capel yn ymyl craig, ac yr oedd yn angenrheidiol symud rhan fawr o hono o'r ffordd er cael lle i adeiladu; ac yr oedd llawer o anfanteision i gludo defnyddiau at y gwaith. Nid oedd y gynulleidla ychwaith, ni feddyliem, yn rhyw gefnog iawn mewn gallu arianol. Adeiladwyd hefyd ysgoldy yn uwch i fyny ar y graig, wrth dalcen yr addoldy. Oddeutu 350 a eisteddent yn y capel newydd. Agorwyd ef yn 1826, a bu Mr. Jones a phobl ei ofal yn ddiwyd a ffyddlawn i dalu y draul. Gallwn feddwl yn naturiol nad oedd y Doctor yn arfer dywedyd nemawr wrth neb yn nghylch sefyllfa y ddyled, a'r derbyniadau tuag at ei ddileu, oddieithr wrth rai o'i brif gyfeillion yn y gynulleidfa; a thybiai amrai y rhaid fod cryn faich ar y lle tua diwedd ei weinidogaeth ef. Dywed yr hybarch D. Morgan, yn 'Hanes Ymneillduaeth yn Arfon,' mewn sylw ar gapel Bangor, fel y canlyn :- 'Er ymdrechion yr eglwys i symud ymaith y ddyled, y mae yn
271
ofnus fod cryn lawer yn aros hyd yma, er ei fod wedi ei adeiladu er 1826.' Yr oedd ysgrifenydd y sylw uchod yn 'ofni lle nad oedd ofn; ' ni bu erioed ofn a llai o sylfaen iddo; chwedlau gwrachaidd mae yn ddiau oeddynt ei unig ategion. Yn fuan wedi i Mr. Morgan draethu ei ofn ef ac eraill am y ddyled ar addoldy Bangor, ymadawodd y gweinidog â'r dref, a chafwyd allan nad oedd yr un ffyrling ar y capel, na'r ysgoldy, na'r tai a berthynent i'r lle. Yr oedd y cyfan yn hollol rydd oddiwrth ddyled; talesid hi oll yn ddystaw a didwrf, trwy ddiwydrwydd diflino Mr. Jones a'r gynulleidfa a wrandawent arno. Pe buasai ysgrifenydd galluog 'Hanes Ymneillduaeth' yn fwy cydnabyddus ag arferion y Doctor a'r eglwys y gweinyddai iddi, ni fuasai byth yn rhoddi pin ar bapyr i wneuthur y fath gofnodiad disail."
Daeth y gynnulleidfa ar ol adeiladu y capel newydd yn gryf a dylanwadol, ac er nad oedd yr eglwys yn lluosog ei haelodau, etto yr oedd amryw o bobl barchusaf y dref yn mysg y gwrandawyr rheolaidd yn y lle. Nid llawer o ysbryd cyhoeddus oedd yn yr eglwys, ac ychydig o ymdrech a wnaed i eangu terfynau yr achos; a dichon nad oedd yr aelodau yn cael llais digonol yn rheoliad amgylchiadau yr eglwys, i beri iddynt deimlo zel a brwdfrydedd, ond yr oeddynt yn bobl barchus a chyfrifol, a'r gweinidog wedi gosod ei ddelw feddylgar a chraff yn ddwfn arnynt. Oherwydd rhyw amgylchiadau digwyddodd anghydwelediad rhyngddo a dau neu dri o bersonau lled ddylanwadol yn yr eglwys, y rhai a ymneillduasant i eglwys gymydogaethol; ac oblegid nad oedd rhai gweinidogion yn y sir ac yntau yn gallu cyd-dynu yn dda yn flaenorol oblegid rhyw bethau, dangoswyd cydymdeimlad â'r personau a ymneillduasant oddiwrtho ef a'i gynnulleidfa, a'r diwedd fu cychwyn achos arall yn y dref dan nawdd rhai o weinidogion y sir, a hyny heb ymgynghori ag ef, nac a phobl ei ofal. Cymerwyd hen gapel a elwid Bethel, yr hwn a adeilasid gan gangen a dorasai oddiwrth y Wesleyaid, a dechreuwyd pregethu ynddo yn y flwyddyn 1843. Daeth Mr. Mathew Lewis, o Machynlleth, yno yn weinidog yn y flwyddyn 1845, a bu yno hyd y flwyddyn 1850. Wedi hyny bu Mr. David Williams yn weinidog yn y lle dros amryw flynyddoedd, a'i weinidogaeth yn dra derbyniol. Ar ol rhoddi yr eglwys i fynu cymerodd ofal eglwysi Pentraeth a Talwrn, ac y mae yn awr yn weinidog llwyddianus yn Beulah gerllaw Bangor.
Yr oedd dechreuad achos newydd yn Mangor, a dyfodiad gweinidogion y sir i'w bleidio, yn friw dwfn i feddwl Mr. Jones, a'r eglwys dan ei ofal, ac yn lle bod yn nerth, yn wanychdod mawr i Annibyniaeth yn y lle. Nid ydym Yn amheu nad oedd yn Mangor ddigon o boblogaeth i gael dau achos Annibynol, ond iddynt gael eu cychwyn oddiar ddybenion pur, a'u dwyn yn mlaen mewn cariad a chydweithrediad, ond gwyr pawb cydnabyddus a'r amgylchiadau pe buasai y cyfryw deimladau yn llywodraethu y pleidiau o bob tu na feddyliasid am gychwyn achros newydd ar y pryd. Yn niwedd y flwyddyn 1854 penderfynodd Dr. Jones roddi ofal eglwysig yn Mangor i fynu, wedi llafurio yma am ddwy flynedd ar bymtheg ar hugain, rhwng y ddau dro. Gwnaeth ei gyfeillion dysteb iddo fel arwydd o'i parch a'u hanwyldeb cryf ato. Symudodd i Gaerlleon i fyw, lle y treuliodd weddill ei oes. Ymunodd yr Eglwys yn Bethel a'r Egiwys yn Ebenezer a'u gilydd yn un gynnulleidfa yn y flwyddyn 1855, a rhoddasant alwad i Mr. Robert Thomas, Rhosllanerchrugog, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn mis Tachwedd y flwyddyn
272
hono. Wedi uniad y ddau achos, a dyfodiad Mr. Thomas i'r lle, adfywiodd yr achos yn fawr. Lluosogodd yr eglwys a'r gynnulleidfa, fel y barnwyd yn angenrheidiol i gael capel newydd. Adeiladwyd ef ar le newydd heb fod yn nepell oddiwrth yr hen gapel, ac mewn man tra cyfleus. Costiodd dros 2.000p. Agorwyd ef yn mis Hydref, 1859, ac yn mysg eraill pregethodd Dr. Arthur Jones yn ei agoriad, a hono oedd ei bregeth olaf yn Mangor. Mae y ddyled yn cael ei thalu yn raddol a rheolaidd gan y gynnulleidfa, yr hon sydd yn lluosog, ac yn galonog i ddwyn ei goruchwylion yn mlaen. Mae Mr. Thomas wedi ei ddewis yn Ddarlithydd Duwinyddol i Athrofa y Bala, ac y mae yn debyg o symud i'r Bala, fel y byddo yn gyfleus i gyflawni ei ddyledswyddau, ac i gymeryd gofal yr eglwys Annibynol yn y lle, ac felly y mae yr eglwys yma ar gael ei hamddifadu o'i weinidogaeth, ar ol deunaw mlynedd agos o wasanaeth gwerthfawr.
Cyfodwyd yma lawer o bregethwyr o bryd i bryd, ond gan na phregethodd rhai o honynt ond am dymor byr, ofnwn nas gallwn roddi rhestr gyflawn o honynt.
273
ARTHUR JONES. Ganwyd ef yn Llanrwst, sir Ddinbych, Chwefror 12fed, 1776. ...............................
274 / 275 / 276 / 277 / 278
[Last updated: 31 May 2008 - Gareth Hicks]
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark. |