Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

Extracted  by Gareth Hicks from the CD published by Archive CD Books (Jan 2008) - with translation


Abersoch

(Vol 3, p 183)

"Pentref porthladdol ydyw Abersoch, chwe' milldir i'r De o Bwllheli, yn Ymyl St. Tudwell's Road, a chyfrifir ef yn un o'r lleoedd goreu i angori ar lanau Cymru. Mae yn mhlwyf Llanengan. Dechreuwyd pregethu yma mewn hen lofft, uwchben ystordy glo, tua'r flwyddyn 1810. Un o'r rhai cyntaf a fu yn pregethu yma oedd Mr. J. Jones, Brynllefrith, yr hwn yn wir a wnaeth fwy na neb arall yn sefydliad y rhan fwyaf o'r eglwysi yn y parth yma o'r wlad. Wedi sefydliad Mr. R. Owen yn Bwlchtocyn, cafwyd yma foddion yn fwy rheolaidd, ac ysgol agos bob Sabboth. Yn y flwyddyn 1831, adeiladwyd yma gapel, yn benaf trwy ymdrech Mr. Owen, a bu y lle dan ei ofal hyd nes yr ymadawodd a'r wlad. Mae yr eglwys yma wedi bod o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Bwlchtocyn, ac felly y mae yn parhau, fel  nad oes achos ail grybwyll eu henwau yma. Cafwyd yma adfywiadau lled rymus yn 1839, yn nhymor gweinidogaeth Mr. J. Morris, ac wedi hyny drachefn yn 1860, yn amser gweinidogaeth Mr. D. Jones. Mae yma awydd cryf yn awr yn yr eglwys a'r ardal am gael capel newydd, ac y mae tua 200p. eisioes wedi eu haddaw i'r perwyl. Mae enwau yr hen ddiaconiaid Richard Williams, o'r Fach, a Hugh Roberts, Talybont, yn deilwng o gael eu coffau, y rhai a fuont ffyddlawn i achos yr Arglwydd yn y lle, a theimlir hiraeth ar eu hol.

Magwyd yma ddau bregethwr, a'r ddau hyny yn ddau frawd, sef John C. Williams, yr hwn sydd yn awr yn weinidog yn Corris; a Caleb Williams, yr hwn sydd yn fyfyriwr yn yr athrofa yn Nottingham. Mae Mr. David Jones, yr hwn a fu yn weinidog yma, yn bregethwr parchus gan yr eglwys, ac yn pregethu agos bob Sabboth yn rhai o eglwysi y wlad."

Translation by Maureen Saycell (Jan 2008)

 "Abersoch is a port village, six miles to the south of Pwllheli, near saint Tudwell's road, it is counted as one of the best places to anchor on the shores of Wales. It in the parish of Llanengan. Preaching began here upstairs, above a coal store, around 1810. One of the first to give a sermon here was Mr J. Jones, Brynllefrith, he in truth did more to establish most of the churches in this part of the country. After the induction of Mr R. Owen in Bwlchtocyn, services were held more regularly, and a school nearly every Sunday. In 1831, a chapel was built here, mostly due to the efforts of Mr Owen and the place remained under his care until he left the country. From the start the church here has been under the same ministry as Bwlchtocyn, and it continues to be, so there is no need to repeat their names here. There was a considerable regeneration here in 1839 during the ministry of Mr J, Morris and again in 1860 in the time of the ministry of Mr D. Jones. There is now a strong urge within the church and the neighbourhood to have a new chapel. Around £200 has already been pledged to the cause. The names of the old deacons should be noted; Richard Williams, of Fach, a Hugh Roberts, Talybont, deserve to be noted who were faithful to the Lord's cause here and their loss is keenly felt.

Two were raised to be ministers here:-

  • John C. Williams, who is now the minister in Corris.
  • Caleb Williams, who is a student at  Nottingham College

Mr David Jones that was the minister here is a well respected preacher by the church, and preaches most Sundays in some of the country's churches."