Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

Extracted  by Gareth Hicks from the CD published by Archive CD Books (Jan 2008) - with translation


Morfa (Tabernacl)

(Vol 3, p181/2)

"Adeiladwyd y capel yma yn y flwyddyn 1862. Cafwyd tir gan T. D. Jones-Parry, Ysw., Madryn, yr aelod seneddol dros sir Gaernarfon, ar brydles o fil ond un o flynyddoedd. Costiodd 400p. Traddodwyd y bregeth gyntaf ynddo Tachwedd 12fed, 1862, gan Mr. Williams, Nefyn, a'r wythnos ganlynol ffurfiwyd eglwys yma o ddeugain o aelodau, gan mwyaf oll o Nefyn, a rhai o Ceidio. Galwyd y capel y Tabernacl. Gwnaed cryn ymdrech i dalu y ddyled pan codwyd ef, ac wedi hyny, ond y mae etto fwy na 200p. o ddyled yn aros, ond gwneir ymdrech i dalu 50p. ymaith eleni. Mae y lle yma o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Nefyn, ac felly y mae yn awr dan ofal Mr. James, ac y mae golwg siriol a gobeithiol ar yr eglwys a'r gynnulleidfa."

Translation by Maureen Saycell

 "This chapel was built in 1862. Land was given by T. D. Jones-Parry, esq., Madryn, the Member of Parliament for Caernarfonshire, on a lease of nine hundred and ninety nine years. It cost £400. The first sermon was given on November 12th, 1862, by Mr Williams, Nefyn, and the following week a church was formed here with 40 members, mostly from Nefyn with a few from Ceidio. The chapel was named Tabernacl. A considerable effort was made to pay off the debt when it was built, and since then, but more than £200 remains, but an effort is being made to pay £50 this year. Since the beginning this place has been associated with the ministry in Nefyn, and therefore is now in the care of Mr James, there is a cheerful and hopeful feeling within the church and the congregation."