For further details of this project see Cardiganshire Chapels Database
Compiled by Gareth Hicks (Feb 2007)
NB. Not all available data was necessarily used from sources - and sources 1 & 4 have been combined as similar
|
Bethlehem Welsh Independent chapel, Dihewyd
|
|
Troedyrhiw Welsh Independent chapel
|
Here is the extract from - Rees, Thomas & John Thomas. Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru (History of the Welsh Independent Churches), 4 volumes (published 1871+).
(Vol 4, p 114)
"Cangen arall o'r Neuaddlwyd ydyw yr eglwys hon. Enw y plwyf yw Dyhewyd, neu Tyhewyd, ac enw y capel Annibynol yw Bethlehem. Bu Dr. Phillips a'i ysgolheígion yn pregethu yn fynych yn y Tycoch a Phant-yr-hewl-fawr, yn y plwyf hwn, am lawer o flynyddau. Yn y flwyddyn 1845, adeiladwyd yma ysgoldy at gadw ysgolion dyddiol a Sabbothol, cyfarfodwydd gweddio a phregethu. Gan fod y ffordd oddiyma i'r Neuaddlwyd yn lled bell, penderfynwyd cadw cymundeb yma bob tri mis er mwyn yr hen bobl a'r gwragedd oedd a phlant bychain ganddynt, fel nas gallasent fyned yn fisol i'r Neuaddlwyd.
Parhaodd pethau fel hyn am ychydig amser, ond yn raddol amlygodd y cyfeillion awydd am gael eu corpholi yn eglwys Annibynol, a'r hyn y cydsyniodd Mr. Evans a'r fam eglwys yn y Neuaddlwyd. Cymerodd hyn le yn 1852. Mr. Evans fu yn gweinidogaethu yma nes i'r eglwys fechan gael ei hanog i uno a Mydroilyn a Throedyrhiw i roddi galwad i Mr. Evan Harries yn 1854. Wedi ymadawiad Mr. Harries yn 1856, ni bu yma yr un gweinidog sefydlog hyd y flwyddyn 1863, pryd y cymerodd Mr. T. Jones, Cilcenin, ofal y lle, ac efe yw y gweinidog yma hyd yn bresenol. Yn 1867, adeiladwyd yma gapel hardd a chyfleus, yr hwn a gostiodd 300p. Pregethwyd yn nghyfarfod yr agoriad gan Meistri Jones, Drewen; Rowlands, Llanon; Phillips, Horeb; Williams, Rhydybont; Williams,Hawen; Morgans, Penlan; Jones, Gwernllwyn ; Thomas, Llanfair, a Davies, Llanbedr.
Cyfodwyd yma i bregethu Henry Davies, gweinidog presenol yr eglwys yn Llanelli, Brycheiniog, a David Davies, mab Samuel Davies, Banc. Yr oedd y gwr ieuangc hwn wedi dechreu ei efrydiaeth yn athrofa Caerfyrddin, ond yn fuan cymerwyd ef yn glaf, a bu farw yn 1864, er mawr siomedigaeth i'w berthynasau a'i gydnabod, y rhai a ddisgwyliant y buasai yn dyfod yn ddyn enwog a defnyddiol."
"This church is another offshoot of Neuaddlwyd. The parish name is Dyhewyd, or Tyhewyd, and the name of the Independent chapel is Bethlehem. Dr Phillips and his scholars preached frequently at Tycoch and Pant-yr-hewl-fawr, in this parish, for many years. In the year 1845 was built here a schoolhouse for day and Sunday schools, prayer meetings and preaching. As the distance from here to Neuaddlwyd was quite far, it was decided to hold communion here every 3 months for (the convenience of) the older people and the women with young children who could not travel monthly to Neuaddlwyd.
Things went on like this for some time, but gradually the friends became desired to be embodied as an independent church, and to this Mr Evans and the mother church of Neuaddlwyd consented. This took place in 1852, Mr Evans ministered here until the small church was persuaded to unite with Mydroilyn and Troedyrhiw to give a call to Mr Evan Harries in 1854. After Mr Harries departed in 1856, they didn't have here the same settled minister until the year 1863, when Mr T Jones, Cilcenin, accepted the care of the place, and he is the minister here at the present time. In 1867, they built here a beautiful and convenient chapel, which cost £300. The preachers at the inaugral meeting were Messrs Jones, Drewen; Rowlands, Llanon; Phillips, Horeb; Williams, Rhydybont; Williams,Hawen; Morgans, Penlan; Jones, Gwernllwyn ; Thomas, Llanfair, and Davies, Llanbedr.
A person who rose here to preach was Henry Davies, the present minister of the church at Llanelli, Breconshire, and David Davies, the son of Samuel Davies, Banc. This young man had started his studies at Carmarthen Academy, but rapidly became ill, and died in 1864, a great disappointment for his relatives and acquaintances, who had expected him to become a distinguished and useful man."
[Gareth Hicks: 5 Oct 2008]
Find help, report problems, and contribute information.
Copyright © GENUKI and Contributors 1996
to date |