Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru. (History of the Welsh Independent Churches)

hide
Hide

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+) From the CD published by Archive CD Books

CARDIGANSHIRE section (Vol 4, pages 82 - 209)

The umbrella project for WALES is detailed  on this Genuki page where there is a contents listing for each county/section and data on what has been extracted/translated already.
This is the complete Cardiganshire section of Volume 4, in Welsh -  any existing translations will be itemised on the above page.
This extraction is as it is in the book, chapel names and page numbers act as separators.
Pages are in groups of 14, each group will be on a separate page of Genuki.
Footnotes remain at the bottom of pages
Extraction by Gareth Hicks & Gareth Morgan (March / April 2008)

Chapels below (82-95) - proof read by Yvonne John (April 2008); translated by Maureen Saycell (Sept 2008)


82 - 95

82

EBENEZER, LLANGYBI

Cyn y gallwn yn drefnus roddi hanes yr eglwys hon, mae yn ofynol i ni fyned dros hanes yr hen eglwysi o ba rai y tarddodd, y rhai sydd er's oesau bellach wedi myned drosodd at enwadau eraill. Un eglwys yr ystyrid holl Ymneillduwyr y sir hon yn amser y Werin-lywodraeth, a Mr. Rees Powell o Lanbedr, a ystyrid fel eu prif weinidog. Ond ar ddyfodiad Deddf Unffurfiaeth i rym yn 1662, methodd Mr. Powell a dangos digon o nerth egwyddor i sefyll yn y tywydd garw oedd o flaen yr Anghydffurfwyr, ac felly yn mhen ychydig wedi cael ei droi allan o'i fywioliaeth eglwysig yn Llanbedr, cefnodd ar Anghydffurfiaeth, ac ymunodd a'r Eglwys Sefydledig. Mewn canlyniad i hyny, bu raid i Annibynwyr y sir edrych allan am un arall, mwy egwyddorol na Mr. Powell, i fod yn fugail arnynt. Disgynodd eu dewisiad ar Mr. David Jones, yr hwn a drowyd allan gan Ddeddf Unffurfiaeth, naill ai o Lanbadarnfawr neu o Lanbadarnodwyn. Nid ydym yn sicr o ba un o'r ddau le y trowyd ef allan. Parhaodd Mr. Jones i fod yn weinidog i'r eglwys eang a gwasgaredig hon hyd 1694, ac o bossibl, rai blynyddau ar ol hyny. Yn mhen uchaf y sir, trwy y gwahanol ardaloedd o Lanbedr i Lanbadarnfawr, y preswyliai yr aelodau yn benaf. Yr oedd Mr. Jones yn cael ei gynorthwyo yn y weinidogaeth gan amryw frodyr gweithgar a theilwng: - megis Morgan Howell, John Hanmer, Evan Hughes, ac eraill. Yn y flwyddyn 1672, pan roddwyd ychydig ryddid i'r Anghydffurfwyr, cymerodd y pregethwyr hyn drwyddedau i bregethu, a thrwyddedwyd amryw anedddai i fod yn lleoedd at addoli ynddynt. Cafodd Morgan Howell drwydded i bregethu yn nhý John Jones, Llwynrhys, yn mhlwyf Llanbadarnodwyn, Hydref 28ain, 1672. Hefyd yr un dydd, trwyddedwyd tai Dafydd Rees, Llanfihangel; Phillip Dafydd, o ryw le nas medrwn ddarllen yr enw yn yr hen lawysgrif; Dafydd Jones o Landdewibrefi; Dafydd Hughes, Cellan, ac Evan Dafydd, Llanbadarn, a chymerodd Dafydd Jones ac Evan Hughes drwyddedau i bregethu yn y lleoedd hyn fel gweinidogion Annibynol.* Wedi cael nawdd Deddf Goddefiad, casglwyd cynnulleidfaoedd rheolaidd yn Cellan, Cilgwyn, Llwynypiod, Abermeurig, Blaenpenal, Ciliau Aeron, Crugymaen, ac amryw fanau eraill. Wedi marwolaeth yr hen weinidogion a grybwyllwyd uchod, bu yr eglwysi hyn am oddeutu haner can' mlynedd dan ofal yr enwog a'r llafurus Philip Pugh, a'i gynorthwywyr a'i ragflaenoriaid, Jenkin Jones, Evan Davies, Timothy Davies, David Edwards, David Jenkins, James Davies, ac eraill. Yn y flwyddyn 1715, yr oedd y cylch gweinidogaethol hwn yn cynwys o saith i wyth o gynnulleidfaoedd, a thua mil o gymunwyr ynddynt. Felly nid rhyw nychdod o beth oedd Ymneillduaeth efengylaidd yn y parth hwn o Gymru yn y cyfnod bore hwnw. Cyfodwyd yn y cynnulleidfaoedd hyn o bryd i bryd luaws o bregethwyr enwog, yn mysg y rhai y gellir nodi Thomas Walters, Rhaiadrgwy ; Evan Davies, gynt athraw yr athrofa yn Nghaerfyrddin; Solomon Harries, Abertawy; Evan Davies, Llanedi, ac amryw eraill. Yn nghanol yr ardal hon, yr hon oedd am bedwar-ugain-a-deg o flynyddau wedi bod yn cael ei gwrteithio a'i dyfrhau gan weinidogaeth efengylaidd a grymus, y cyfododd Rowlands, Llangeitho, yn 1735, fel un o brif

* State Papers for the year 1672.

83

sylfaenwyr Methodistiaeth Gymreig. Fel yr ydym wedi sylwi amryw weithiau eisioes, ac y cawn achlysur i sylwi etto, nid yn yr ardaloedd mwyaf paganaidd o Gymru, ond yn yr ardaloedd mwyaf crefyddol ac Ymneillduol yn ddieithriaid y cychwynodd Methodistiaeth, ac felly y mae yn llawn cymaint o gangen o'r hen enwadau Ymneillduol ag ydyw o'r Eglwys Wladol, os nad yn wir, mewn rhyw ystyr, yn fwy felly.

Yn y flwyddyn 1760, bu farw Mr. Phillip Pugh, ac erbyn yr amser hwnw, yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion ieuaingc a dysgedicaf siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin yn gogwyddo at Belagiaeth neu Ariaeth. Yr oedd yr egwyddorion hyn wedi cael eu pregethu a'u credu gan rai yn y Ciliau, y Cilgwyn, a Chae'ronen, neu Gellan, cyn marwolaeth Mr. Pugh, a pharai hyny ofid nid bychan iddo yn ei henaint. Wedi ei farwolaeth, aeth y tair cynnulleidfa rag-grybwylledig yn Belagiaid, ac yn raddol yn Ariaid ac Undodiaid, ac felly y maent hyd y dydd hwn, oddieithr y Cilgwyn, Arminiaid y proffesant hwy eu hunain. Y nifer yn yr eglwysi hyn a lynent wrth olygiadau y tadau, a sylfaenasant yr achosion, ac a ymneillduasant o'r cynnulleidfaoedd oherwydd nas gallent archwaethu y weinidogaeth, a gychwynodd yr achosion sydd yn bresenol yn Ebenezer, Ty'nygwndwn, a'r Neuaddlwyd. Tra yr aeth tair o gynnulleidfaoedd Mr. Pugh yn Ariaid ac Undodiaid, aeth tair eraill o honynt o radd i radd yn Fethodistiaid, sef Llwynypiod, Blaenpennal, ac Abermeurig. Yn fuan wedi marwolaeth Mr. Pugh, rhoddodd y cynnulleidfaoedd hyn alwad i Mr. Thomas Gray, myfyriwr yn yr athrofa Annibynol yn Abergavenny. Aeth Mr. Gray yn dra buan wedi iddo ymsefydlu yma i ymgyfeillachu a Mr. Rowlands, Llangeitho, a'r Methodistiaid. Gwahoddid ef yn fynych i bregethu yn addoldai y Methodistiaid, a gwahoddai yntau eu pregethwyr hwy i'w gapeli yntau. Yn raddol nesaodd yn nes-nes at y Methodistiaid, ac ymddieithrodd oddiwrth ei enwad ei hun, fel yr ystyrid ef cyn diwedd ei oes yn Fethodist, er mai gweinidog Annibynol ydoedd hyd ei ddiwedd. Pan y bu farw yn 1810, ar ol bod yma yn weinidog am haner can' mlynedd, yr oedd y rhan fwyaf o'r hen Annibynwyr wedi meirw, a'r genhedlaeth a dderbyniasid i'r eglwysi yn nhymor ei weinidogaeth ef wedi eu dwyn i fyny mewn egwyddorion Methodistaidd, ac yn gymharol ddyeithr i Annibyniaeth a'r Annibynwyr. Bu Mr. Gray yn foddion i gau allan Annibyniaeth o'r parthau hyn am byth, oddieithr i ryw Fethodist ddyfod yma ac ymddwyn at y Methodistiaid fel yr ymddygodd Mr. Gray at yr Annibynwyr.

Darfu i'r eglwys yn y Cilgwyn barhau mewn cysylltiad a'r enwad Annibynol, neu y Presbyteriaid, fel y gelwid hwy yn fynych yn y dyddiau hyny, am rai blynyddau ar ol marwolaeth Mr. Pugh, er nad oedd cydolygiad yn mysg yr aelodau ar rai o brif athrawiaethau crefydd. Ond yn y flwyddyn 1770, neu 1771, daeth Mr. David Lloyd, Llwynrhydowen, yr hwn oedd Ariad proffesedig, yno yn lled fynych fel cynorthwywr i'r gweinidog, Mr. Timothy Davies. Achlysurodd hyn gryn aflonyddwch yn yr eglwys, ac er rhagflaenu rhwygiad, addawodd Mr. Davies na chawsai Mr. Lloyd ddyfod yno mwyach, etto, trwy ddylanwad un o'r aelodau cyfoethocaf, yr hwn oedd yn berthynas agos i Mr. Lloyd, mynwyd ef yno yn fuan drachefn i bregethu ar y Sabboth cymundeb. Yr oedd Mr. Davies, fel y tybiwn, wedi marw erbyn hyn. Gwnaeth hyny y rhwyg yn anocheladwy. Ymadawodd deg-a-deugain o'r aelodau, ac ar ol bod am ychydig amser yn addoli mewn tai anedd yn y gymydogaeth, adeilad-

84  

asant gapel bychan, yr hwn a enwasant yn Ebenezer, ac agorwyd ef tua diwedd y flwyddyn 1772. Yn fuan wedi hyny, rhoddasant alwad i Mr. Phillip Maurice, myfyriwr yn yr athrofa yn Abergavenny. Wedi gorphen ei amser yno, daeth atynt, ac urddwyd ef yma yn y flwyddyn 1775, ac yma y bu yn barchus a chymharol lwyddianus hyd derfyn ei oes yn y flwyddyn 1820. Yr oedd Ty,nygwndwn, mewn cysylltiad ag Ebenezer, dan ofal Mr. Maurice trwy holl dymor ei weinidogaeth. Yn Hydref, 1810, urddwyd Mr. John Maurice yn gynorthwywr i'w dad yn holl gylch ei weinidogaeth, ond cyn pen blwyddyn symudwyd y gwr ieuangc gobeithiol hwn trwy farwolaeth. Yn mhen ychydig wedi marwolaeth Mr. John Maurice, rhoddwyd galwad i Mr. James Phillips, o athrofa y Neuaddlwyd, i fod yn gynorthwywr i Mr. P. Maurice, ond ni bu ei arosiad ef yma ond ychydig. Derbyniodd alwad o Bethlehem, St. Clears, a symudodd yno yn 1814. Ni bu yma mwyach yr un cynorthwywr sefydlog i'r hen weinidog tra y bu ef byw. Yn nechreu y flwyddyn 1821, rhoddwyd galwad i Mr. Griffith Griffiths, o athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yma Ebrill 5ed, yn y flwyddyn hono. Bu Mr. Griffiths yma yn llafurus a pharchus iawn hyd y flwyddyn 1837, pryd y symudodd i Casnewydd, Mynwy. Dilynwyd Mr. Griffiths yma am ychydig amser gan un Mr. Richard Owen, genedigol o sir Fon, ac urddwyd ef yma Awst laf, 1837. Bu yma hyd ddiwedd 1841, pryd y barnodd fod ysgafnach gwaith a brasach porfa yn yr Eglwys Wladol nag yn mysg yr Ymneillduwyr, ac felly aeth i'r eglwys hono, lle y bu hyd ei farwolaeth. Yn niwedd y flwyddyn 1843, rhoddwyd galwad i Mr. David Stephens, aelod o eglwys Capel Isaac, ac urddwyd ef i fod yn weinidog yma, ac yn Llanfaircludogau. Cymerodd ei urddiad le Chwefror 21ain a'r 22ain, 1844, pryd y pregethwyd gan Meistri Griffiths, Horeb ; Saunders, Aberystwyth ; Thomas, Bwlchnewydd ; Jones, Rhydybont ; Williams, Llandeilo; Williams, Llangadog; Davies, Aberteifi, ac eraill, yn Ebenezer a Llanfair. Bu Mr. Stephens yma yn llwyddianus pharchus gan fyd ac eglwys hyd 1852, pryd y symudodd i Glantaf, Morganwg, lle y bu farw. Dilynwyd Mr. Stephens yma ac yn Llanfair gan Mr. Thomas Thomas, y gweinidog presenol, yr hwn a ymsefydlodd yma yn fuan ar ol ymadawiad Mr. Stephens, ac y mae wedi llenwi ei le fel gweinidog defnyddiol a gwladwr parchus. Yr oedd Mr. Thomas wedi bod yn weinidog defnyddiol am tua phum' mlynedd yn Nebo a Hebron, sir Gaernarfon, cyn dyfod yma.

Ailadeiladwyd y capel yma yn nhymor gweinidogaeth Mr. R. Owen, ac yn mhen rhai blynyddoedd wedi sefydliad Mr. Thomas yma, rhoddwyd oriel ynddo, fel y mae yn awr yn gapel helaeth a chyfleus, ac yn cael ei lenwi a chynnulleidfa fywiog. Mae yma fynwent yn nglyn a'r capel, yn yr hon y gorwedda cyrph Meistri P. a J. Maurice. Yr oedd yr eglwys yma yn un o'r rhai cyntaf a fendithiwyd a'r diwygiad nerthol yn 1858, ac mae yr Arglwydd yma yn ychwanegu beunydd at yr eglwys.

Nid ydym yn cael i neb godi i bregethu yma ond John Maurice, mab yr hen weinidog.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

Gan mai Ebenezer, Ty'nygwndwn, a'r Neuaddlwyd, sydd yn bresenol yn cynrychioli golygiadau duwinyddol ac eglwysig gweinidogion cyntaf y Cilgwyn, Cae'ronen, a Chiliau Aeron, yma y rhoddwn eu bywgraphiadau.

85

REES POWELL. Efe, fel yr ymddengys, oedd gweinidog cyntaf yr eglwys, neu yr eglwysi Ymneillduol yn y sir hon, ond fel y nodasom eisoes, methodd deimlo yn ddigon gwrol i wynebu yr erlidiau yr oedd yr Ymneillduwyr yn agored iddynt, ac felly yn fuan wedi cael ei droi allan gan Ddeddf Unffurfiaeth o Eglwys Blwyfol Llanbedr, efe a ddychwelodd i'r Eglwys Sefydledig. Nis gwyddom pa bryd na pha le y bu farw.

JOHN EVANS. Ganwyd ef yn rhywle yn y sir hon. Yr oedd yn pregethu yn Eglwys Blwyfol Bangor, rhwng Castellnewydd-Emlyn a Llandysil, pan ddaeth Deddf Unffurfiaeth i rym, a throwyd ef allan oddiyno gan y ddeddf hono. Yr oedd ef wedi bod yn ddyn ieuangc gwyllt iawn, ond cafodd ei ddychwelyd yn effeithiol at yr Arglwydd un prydnawn Sabboth wrth wrandaw pregeth, ar ol iddo fod trwy y boreu hwnw yn halogi dydd yr Arglwydd. Yn fuan ar ol ei droedigaeth ymgyflwynodd i waith weinidogaeth. Bu am rai blynyddau cyn 1662 yn wasanaethgar iawn i'r gynnulleidfa Ymneillduol yn Nghellan, ac i gynnulleidfaoedd eraill, ond bu farw yn mhen ychydig amser ar ol cael ei droi allan o Bangor, yn Awst, 1662. Nis gwyddom yn mha le y claddwyd ef.

JOHN HANMER. Un genedigol o sir Faesyfed oedd ef. Bu yn amser y Werin-lywodraeth yn pregethu yn deithiol yn siroedd Maesyfed, Brycheiniog, ac Aberteifi. Ar ol y flwyddyn 1662, bu am rai blynyddau yn gwasanaethu yr eglwysi Ymneillduol yn Nghellan, Cilgwyn, a lleoedd eraill, ond pan boethodd yr erledigaeth, symudodd i'w sir enedigol, lle y terfynodd ei oes mewn henaint teg. Parhaodd i bregethu cyhyd ag y bu byw, cyn belled ag y goddefai amgylchiadau iddo wneyd. Nis gwyddom pa bryd y bu farw. Yr oedd yn fyw yn 1672, a bu am ychydig ddyddiau yn y flwyddyn hono yn cyd-deithio a Mr. Henry Maurice. *

DAVID JONES. Yr ydym yn barnu ei fod ef yn frawd i Mr. John Jones, Llwynrhys, yn mhlwyf Llanbadarnodwyn. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Christ Church, Rhydychain, Tachwedd 10fed, 1654. Dywedir ei fod yn ddyn dysgedig, ac yn bregethwr eglur a llwyddianus. Dywed Dr. Calomy, mai o Lanbadarnfawr y trowyd ef allan gan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662, ond yr ydym ni yn barnu mai Llanbadarnodwyn ydoedd, ac mai hwnw oedd ei blwyf genedigol. Yn Llwynrhys, yn y plwyf hwnw, yn benaf, y cyfarfyddai yr eglwys Ymneillduol yn amser yr erledigaeth, yr hon ar ol cael nawdd Deddf Goddefiad, a ymranodd i wahanol gynnulleidfaoedd, ac a adeiladodd addoldai yn Nghellan, y Cilgwyn, Llwynpiod, Crugymaen, Ciliau Aeron, Abermeurig, a Blaenpennal. David Jones oedd prif weinidog yr eglwys hon mor ddiweddar a'r flwyddyn 1694. Nis gwyddom pa cyhyd y bu byw ar ol hyny. O'r darfodedigaeth y bu farw.

EVAN HUGHES. Un genedigol o'r sir hon ydoedd. Trowyd ef allan o Landyfriog gan Ddeddf Unffurfiaeth. Yr oedd yn bregethwr eglur a dengar iawn, a bu ei weinidogaeth yn fendithiol i lawer. Cyfarfyddodd a llawer o dywydd garw, ac yr oedd yn dra isel yn ei amgylchiadau bydol, ond yr oedd yn foddlongar iawn, ac yn barchus o fewn boll gylch ei gydnabyddiaeth. Nis gwyddom pa bryd y bu farw. Yr oedd yn fyw ac yn henaduriad athrawiaethol yn yr eglwys Ymneillduol yn y sir hon yn 1694.

MORGAN  HOWELL. Yn mhlwyf y Bettwsbledrws, gerllaw Llanbedr, y ganwyd ac y treuliodd ef ei oes. Mae yn ymddangos ei fod uwchlaw y

* Rees's History of Nonconformity in Wales. Page 240.

86

cyffredin yn ei amgylchiadau bydol, ac ystyrid ef yn dipyn o fardd gan ei oes. Cymerodd ei droedigaeth le dan yr amgylchiadau rhyfedd a ganlyn: -  Yn y flwyddyn 1654, yr oedd Walter Cradock wedi cael ei gyhoeddi i bregethu mewn rhyw fan, naill ai yn y Bettws neu Langybi, a chan y disgwylid mwy o dorf i'w wrandaw nag a gynwysai yr un Eglwys Blwyfol nac anedd-dy yn yr ardal, penderfynwyd iddo bregethu ar esgynlawr yn yr awyr agored. Gan na feiddid erlid yr un pregethwr trwy gyfraith y pryd hwnw, gwnelai gelynion crefydd bob peth a fedrent i aflonyddu yr addoliadau crefyddol. Y tro hwn, casglodd Morgan Howell haid o langciau annuwiol i fyned gydag ef i'r cae lle yr oedd Mr. Cradock i bregethu, i chwareu pel droed ar amser y gwasanaeth. Dechreuodd y pregethwr ar ei waith, a dechreuodd Morgan Howell a'i blaid ar eu gwaith hwythau. Wrth fyned a'r chwareu yn y blaen amcanodd un o'r chwareuwyr roddi troediad i'r bel i wyneb y pregethwr, ond yn lle taro y bed, tarawodd grymog ei gyfaill, Morgan Howell, nes tori un o esgyrn ei goes, yr hyn a'i hanalluogodd i wneyd dim yn ychwaneg gyda'r chwareu. Tra yn gorwedd ar y llawr, cyrhaeddodd llais a geiriau y pregethwr ei glust a'i galon, a thorwyd peth oedd galetach nag asgwrn ei goes, sef ei galon galed. O'r dydd hwnw allan bu yn ddyn crefyddol iawn, ac am lawer o flynyddoedd yn bregethwr defnyddiol. Ymunodd a'r eglwys Ymneildduol yn ardal Cilgwyn yn Chwefror, 1655. Yr oedd yn fyw ac yn henaduriad athrawiaethol yn yr eglwys hono yn 1694. Mae yn debyg iddo farw yn lled fuan ar ol hyny.

DAVID EDWARDS. Y cwbl a wyddom am dano ef ydyw, iddo gael ei urddo yn 1688, yn weinidog cynorthwyol yn Nghae'ronen, Cellan, a'r eglwysi eraill yn y cylch gweinidogaethol hwn, a'i fod yn y sefyllfa hono yn 1715. Darlunir ef fel ysgolhaig rhagorol a phregethwr da. Mae amser ei farwolaeth yn anhysbys i ni. Bu ei weddw, Jane Bowen o Hwlffordd, fyw lawer o flynyddau ar ei ol ef. Yn Nghaerfyrddin y bu hi farw.

JENKIN JONES.  oedd ef yn fab i John Jones, Llwynrhys, ac yn nai i David Jones, am yr hwn y crybwyllwyd eisioes. Yr oedd brawd iddo yn swyddog lled uchel yn y fyddin yn amser Gwilym III. Cyhoeddodd gyfrol yn yr iaith Saesonig o hanes bywyd y brenhin Gwilym yn 1702, a chyfieithiad o'r Frangaeg o waith Perzron ar hynafiaethau gwahanol genhedloedd. Derbyniwyd Jenkin Jones yn aelod eglwysig Ionawr 12fed, 1695, a bu farw yn 1725. Yn y rhan o'r gynnulleidfa a gyfarfyddai yu Nghrugymaen yr oedd ef yn gweinidogaethu yn benaf. Mae rhai wedi dyweyd mai yr un yw y Jenkin Jones hwn a Jenkin Jones, Llwyn-rhyd-owen, ond camgymeriad yw hyny.

DAVID JENKINS. Urddwyd ef yn Mehefin, 1708, i fod yn weinidog benaf yn Crugymaen, ond i gymeryd ei ran yn holl gylch y weinidogaeth yn y Cilgwyn, Abermeurig, Ciliau Aeron, a lleoedd eraill. Mae yr achos Annibynol yn Crugymaen wedi darfod er's oesau, a'r Bedyddwyr wedi bod ar eu hol yno. Bu Mr. Jenkins yn myned yn fisol, neu fynychach, i Drelech am lawer o flynyddau, a bu am ryw ysbaid yn myned yn fisol i Gefnarthen. Bu fyw i henaint teg. Rhoddodd ei ddylanwad o du yr eglwysi Calfinaidd a ffurfiwyd yn Ebenezer, Ty'nygwndwn, a'r Neuaddlwyd pan dorasant eu cysylltiad a'r Cilgwyn a Chiliau Aeron. Yr oedd yn fyw yn 1775, ac yn flwyddyn hono darlunir ef fel yn dal cysylltiad a'r Neuaddlwyd ac Ebenezer. Nis gwyddom pa cyhyd y bu fyw ar ol y flwyddyn hono.

87

PHILLIP PUGH. Yr oedd y gweinidog rhagorol hwn yn enedigol o gymydogaeth Llangybi, neu Landdewibrefi. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1679. Mae yn ymddangos fod ei rieni yn feddianol ar gryn lawer o gyfoeth. Derbyniodd ef ran o'i addysg yn athrofa enwog Mr. Samuel Jones, Brynllywarch. Urddwyd ef yn mis Hydref, 1709, i fod yn gyd- weinidog a'r Meistri David Edwards, Jenkin Jones, a David Jenkins, yn y Cilgwyn, Blaenpennal, Crugymaen, y Ciliau, a manau eraill, ac yn y cylch eang hwn y bu yn llafurio gyda pharch a llwyddiant mawr hyd derfyn ei oes. Er nad oedd ef ond un o bedwar o weinidogion yn y cylch gweinidogaethol hwn, darfu iddo, fel y dengys ei gofnodion yn llyfr eglwys y Cilgwyn, fedyddio o fabanod o Rhagfyr, 1709, hyd Mawrth 20fed, 1760, chwe'.chant-a-phedwarugain, yr hyn a ddengys fod Ymneillduaeth yn rhyfeddol o gryf yn y parthau hyn o Gymru y pryd hwnw, yn enwedig pan y cymerir i ystyriaeth fod rhagfarn dirfawr yn erbyn bedyddio plant gan weinidogion Ymneillduol yn meddyliau y werin yn yr oes hono. Bu farw Gorphenaf 12fed, 1760, ac ar y 15fed o'r un mis, claddwyd ef yn mynwent Llanddewibrefi.

Mae yn ymddangos i Mr. Pugh fwy nag un-flynedd-ar-bymtheg cyn ei farwolaeth ei hun gael ei amddifadu o'i wraig a'i blant oll, canys yr ydym yn cael y sylwadau duwiol a ganlyn yn ei ddydd-lyfr, gyferbyn a Gorphenaf 13eg, 1744 :- " Yr ydwyf heddyw yn edrych arnaf fy hun fel dyn unig, wedi cael fy ngadael yn yr anialwch wrthyf fy hunan. Mae fy nghyfeillion a'm perthynasau anwyl yn ol y cnawd wedi fy ngadael, a myned i ffordd yr holl ddaear o'm blaen. Yr ydym yn pechu bendithion penaf y byd hwn o'n meddiant yn fynych, ac yn eu gwneyd yn achos gofid trwy eu camddefnyddio. Pechais ymaith fy holl berthynasau anwyl a mwyaf hoffus genyf ar y ddaear. Nid oes genyf yn bresenol na thad na mam, na phriod nac un plentyn yn y byd hwn i lawenhau ynddynt, i obeithio am un cysur oddiwrthynt, nac i ofidio yn eu cylch. Y mae arnaf ofn, tra yr oeddwn yn meddu y rhai hyn oll, fy mod rywfodd wedi camymddwyn tuag atynt, trwy osod fy meddwl yn ormod arnynt, neu dreulio gormod o'm hamser i ofalu am danynt hwy a'u hachosion, neu fod yn fwy pryderus yn eu cylch hwy nag am adnabod cariad fy Nuw yn Nghrist, ac am lwyddiant ei achos yn y byd. Ond er fod y diferion o gysuron oll wedi  sychu i fyny, etto y mae ffynon fy nghysuron heb sychu i fyny na lleihau. Mae fy ngweddi atat ti, O Arglwydd, am i ti o'th drugaredd, trwy lesu Grist, faddeu fy aml gamweddau a wnaethum o, a thuag at, fy mherthynasau ymadawedig ; a'th fod, fy Nuw, yn fy ngwneyd yn fwy ffyddlawn mewn gwneyd a dyweyd drosot yn y byd, heb geisio rhyngu bodd dynion, nac ofni eu hanfoddlonrwydd ychwaith. Fy nymuniad a'm gweddi ydyw, na bydd genyf wrthrych ar y ddaear mwyach i osod fy meddwl arno ond fy Nuw, a'm Crist a'i bethau tragywyddol. Efe fyddo pob peth, yn mhob peth, ac yn lle pob peth er fy nedwyddwch a'm cysur; oblegid y mae efe ei hun yn holl-ddigonol i lenwi lle pob perthynas. Am hyny, bydded fy nghwbl o hono, a'm cwbl arno, a'm cwbl iddo, tra byddwyf byw yn y byd, ac yn dragywydd."

Yr oedd Mr. Pugh yn sefyll yn uchel yn ngolwg y wlad oherwydd ei fod yn berchenog amryw diroedd, ond ei dduwioldeb, a'i ddysg, a'i lafur dibaid a llwyddianus yn y weinidogaeth, oedd prif elfenau ei enwogrwydd. Yr oedd yn ddyn o ysbryd cyhoeddus iawn. Teithiai i bob parth o Gymru i gyfarfodydd gweinidogion, urddiadau, ac agoriad capeli, ac edrychid i

88

fyny ato yn mhob man fel un o ragorolion o ddaear. Rai blynyddau cyn ei farwolaeth ef yr oedd udgorn y weinidogaeth Ymneillduol yn llawer o bulpudau Cymru wedi myned i roddi sain anhynod, a'r athrawiaethau yr ymddibynai yr hen dadau Ymneillduol arnynt am eu bywyd, wedi myned i gael eu hameu,  gwrthwynebu, a'u gwawdio gan lawer o bregethwyr ieuaingc, a ystyrient eu hunain yn philosophyddion llawer doethach na'u hynafiaid. Parai y gwyrad hwn oddiwrth yr hyn a ystyriai yn wirionedd hanfodol yr efengyl ofid calon i Mr. Pugh, fel y dengys y sylwadau canlynol a ysgrifenwyd ganddo yn ei ddydd-lyfr; -" 1744. Yr wyf yn edrych arnaf fy hun yn y dyddiau hyn fel wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun ; canys y mae llawer o'm cyfeillion, y rhai yr hoffaswn eu cymdeithas yn fawr, wedi myned yn mhell i ochr y ddyfais newydd mewn crefydd, fel y gelwir hi, yr hon, yr wyf yn dra sicr yn fy meddwl, nad ydyw yn drefu Duw ; oblegid y mae yn eglur i mi ei bod yn ddyfais sydd yn codi ac yn gosod dyn i fyny yn achubiaeth pechadur, yn lle golud gras fy Nuw. Ac nid wyf yn gweled fod neb o'i phleidwyr yn dangos y mesur lleiaf o nefolrwydd meddwl, a'r sobrwydd, y difrifoldeb, a'r symledd duwiol sydd yn gweddu i efengyl Crist, ond ymsuddant i ysbryd y byd hwn, ac i ysgafnder a dideimladrwydd calon tuag at ymarferiadau pwysicaf crefydd. Ie, y maent yn amcanu dymchwelyd ffydd yr efengyl trwy eu chwedlau cyfrwysgall."

Ar amser arall ysgrifena : - " Mae fy meddwl yn dra thrallodus a therfysglyd yn y dyddiau hyn, wrth glywed a deall am gyflym rediad Arminiaeth ac Ariaeth yn yr eglwysi, a'r cefnogrwydd y mae yr egwyddorion hyn yn gael oddiwrth y weinidogaeth yn mysg pobl fy ngof I. Y maent yn ymollwng dan ddylanwad y cyfryw egwyddorion i ysbryd deddfoldeb, a difaterwch o bethau pwysicaf crefydd, nes y maent yn colli pob teimlad dyladwy i'r efengyl, a phob tuedd at ymdrech i fywyd duwiol a defnyddiol. Yn yr amgylchiad gofidus, nis gwn pa bath a wnaf, na pha fodd y mae i mi ymddwyn. A pha beth fydd diwedd y pethau hyn ? O Arglwydd, atat ti y mae fy ngolwg, ac ynot ti yr ymddiriedaf; na'm gwaradwydder mewn dim. Cyfarwydda di fy ngherddediad, a threfna fy holl ffyrdd, a gwneler pob peth yn y fath fodd ag a fyddo fwyaf er dy ogoniant dy hun, a deued yr hyn a ddel o honof fi. Na âd i mi wyro o'th ffyrdd di mewn byrbwylldra, anwybodaeth, ac annoethineb, na llwfrhau mewn digalondid."

Y canlyniad o'r cymysgedd hwn mewn golygiadau, y teimlai yr hybarch weinidog gymaint o'i herwydd, fu i dair o'i gynnulleidfaoedd, yn fuan wedi ei farwolaeth, fyned yn Ariaid, sef Cae'ronen, y Cilgwyn, a Chiliau Aeron, ond y mae Ebenezer, Ty'nygwndwn, a'r Neuaddlwyd, a'u cangenau, yn yr ardaloedd hyny, etto yn dal at olygiadau efengylaidd Mr. Pugh a'i ragflaenoriaid yn y weinidogaeth. Yn Mlaengwern, yn mhlwyf Llanfaircludogau, y treuliodd Mr. Pugh weddill ei oes, os nad yno y bu trwy ei oes. Nid oedd un gweinidog yn Nghymru yn ei oes ef yn fwy ei ddylanwad a'i ddefnyddioldeb na'r gwr rhagorol hwn. Bu yr offeiriad ieuangc, Daniel Rowlands, Llangeitho, dan lawer o rwymedigaeth iddo am ei gynghorion a'i gyfarwyddiadau iddo ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus, ac yr oedd Mr. Rowlands yn cydnabod hyny trwy ei oes.

EVAN DAVIES. Urddwyd ef yn gynorthwywr i Mr. Phillip Pugh i weinidogaethu yn y Cilgwyn a'r lleoedd eraill. Ebrill 13eg, 1726, yr urddwyd ef, ac yr oedd y pryd hwnw yn haner cant oed. Mae yn

89

debygol ei fod yn bregethwr cynorthwyol flynyddau lawer cyn hyny. Bu farw Rhagfyr 10fed, 1747, yn 71 oed.

TIMOTHY DAVIES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1709. Nid ydym yn gwybod pa un a gafodd addysg athrofaol ai naddo. Brawd iddo ef oedd Mr. Evan Davies, gynt athraw yr athrofa yn Nghaerfyrddin, ond yr oedd bymtheg o flwyddi yn hýn nag ef. Dechreuodd bregethu yn 1733, ac urddwyd ef yn gynorthwywr i Mr. Phillip Pugh, Mai 26ain, 1737. Priodwyd ef yn Eglwys Blwyfol Llangeitho gan Mr. John Rowlands, person y plwyf, Mehefin 19eg, 1740. Merch Blaenau, Cellan, oedd ei wraig. Bu iddynt deulu lluosog. Yr oedd y diweddar Dr. Evan Davies, Abertawy, yn un o'i hiliogaeth. Bu farw Mai 29ain 1771, yn driugain-a-dwy flwydd oed. Tuag amser ei farwolaeth ef y cymerodd yr ymraniad le yn y Cilgwyn, ac y dechreuwyd yr achos yn Ebenezer. Mae dydd-lyfr Mr. Davies, yn ei lawysgrifen ef ei hun, yn ein meddiant, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am amryw ddyddiadau a ffeithiau pwysig.

JAMES DAVIES. Efe oedd tad Meistri Evan Davies, Llanedi, a Daniel Davies, gynt o'r Ynysgau, Merthyr Tydfil. Urddwyd ef yn Crofft-y-cyff, a ac Owen Davies, wedi hyn o Drelech, yr un diwrnod, Hydref 7fed, 1743, i  fod yn gynorthwywr i Mr. Pugh, a'i gydweinidogion, yn Abermeurig, a manau eraill, a bu hefyd am ryw ysbaid yn weinidog cynorthwyol yn Mhencadair. Yn Mhlas Cilcenin y treuliodd weddill ei oes, ac yno y bu farw, ond nis gwyddom pa flwyddyn. Claddwyd ef yn mynwent Cilcenin.

PHILLIP MAURICE. Un genedigol o ardal Glandwr, sir Benfro, oedd ef. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1739. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Glandwr, ac wedi iddo fod yn bregethwr cynorthwyol yno am rai blynyddau, yn niwedd y flwyddyn 1770, cymeradwywyd ef fel myfyriwr i athrofa Abergavenny. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Ionawr, 1771. Ar derfyniad ei amser yno, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Ebenezer a Thy'nygwndwn, ac urddwyd ef yn weinidog iddynt yn 1775, ac yno y bu yn barchus a defnyddiol hyd derfyn ei oes. Bu farw Tachwedd 30ain, 1820, yn 81 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Ebenezer, lle yr oedd ei wraig wedi cael ei chladdu ddwy flynedd cyn hyny. Pregethodd Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yn ei angladd oddiar Actau viii. 2. Y testyn olaf y pregethodd Mr. Maurice arno ydoedd Psalm xxxvii. 25.

Nid oedd Mr. Phillip Maurice yn bregethwr mawr a phoblogaidd, ond yr oedd yn esboniwr rhagorol, a'r rhai a arferent ei wrandaw yn ei werthfawrogi yn fawr, oblegid y buasai yn anhawdd ei wrandaw un amser heb gael goleuni ar ryw ran o'r ysgrythyr ganddo. Cyfrifid ef gan bawb o'i gydnabod yn ddyn da a duwiol iawn.

JOHN MAURICE. Mab Phillip Maurice. Ganwyd ef Ebrill 24ain, 1787. Pan yn bymtheng mlwydd oed, derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Ebenezer, ac yn fuan wedi hyny dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin, lle yr amlygodd alluoedd meddyliol nodedig, ac yr enwogodd ei hun fel myfyriwr diwyd. Cyn gorphen ei amser yno, dewiswyd ef gan ei athraw, Mr. Peter, i fod yn is-athraw yn yr ysgol ramadegol a gedwid ganddo ef yn gysylltiedig a'r athrofa. Ar derfyniad tymor ei efrydiaeth yn yr athrofa, aeth i'r Sarnau a Domgay, yn sir Drefaldwyn, lle y bu yn pregethu ar brawf am rai misoedd. Cafodd

90

alwad unfrydol oddiwrth yr eglwysi hyny i sefydlu yn eu plith, ond gwrthododd gydsynio. Dewisodd yn hytrach dderbyn galwad i fod yn gynorthwywr i'w dad, ac i fod yn un o'r athrawon yn yr athrofa oedd ar gael ei sefydlu yn y Neuaddlwyd. Urddwyd ef Hydref 3ydd, 1810, ac agorwyd yr athrofa yn y Neuaddlwyd y dydd canlynol. Ond byr iawn fu ei dymor ef fel gweinidog ac athraw. Ebrill 17eg, 1811, aeth adref o'r athrofa yn glaf, ac ar y 24ain o'r un mis bu farw. Y darfodedigaeth oedd ei glefyd.

Yr oedd John Maurice yn ddyn ieuangc addawus iawn. Rhagorai fel ysgolhaig, ac yr oedd ei wylder a'i fwyneidd-dra yn ei wneyd yn anwyl gan bawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn bregethwr adeiladol iawn, ond lled anystwyth ei draddodiad. Mae yn ymddang os pe cawsai fyw y buasai yn troi allan yn un o'r athrawon effeithiolaf yn y Dywysogaeth, ond ewyllys yr Arglwydd oedd i'r blodeuyn wywo gyda bod ei flagur yn dechreu ymddangos.

Yr ydym yn y cofnodion uchod wedi rhoddi cymaint o hanes a allasom gasglu am bob gweinidog fu yn llafurio yn y cylch hwn, oddiar ffurfiad yr eglwys Ymneillduol gyntaf yma hyd yn bresenol, oddieithr Meistri G. Griffiths a D. Stephens. Y mae cofnodion am danynt hwy i'w cael yn nglyn a Mynyddsïon, Casnewydd, ac Ebenezer, Glantaf ; ac nid yw yn perthyn i ni, yn hanes eglwysi Annibynol, roddi hanes gweinidogion Ariaidd ac Undodaidd fuont yn Cae'ronen, y Cilgwyn, a'r Ciliau, wedi i'r Annibynwyr ymneillduo o'r lleoedd hyny.

Translation by Maureen Saycell (Sept 2008)

Before we can give an orderly history of this church, we need to tell the story of the older churches from which it emerged and have long since gone over to other denominations.In the time of the Commonwealth all the nonconformists in the county were considered to be one church with Mr Rees Powell of Lampeter as the leading minister. When the Act of Uniformity became law in 1662 Mr Powell did not have the strength of character to withstand the storm ahead for the nonconformists, within a short time he was removed from his living in Lampeter. He turned his back on nonconformity and joined the Established Church, as a result of this the Independents of the county had to look for someone with stronger principles than Mr Powell to be their minister. They chose Mr David Jones, who had been removed from either Llanbadarn Fawr or Llanbadarn Odwyn, by the Act of Uniformity.We are uncertain as to which parish he was removed from. Mr Jones continued minister to this large and scattered church until 1694, possibly longer. The majority of the members lived in the north of the county from Lampeter to Llanbadarn Fawr. Mr Jones was supported in his labours by many worthy and industrious brothers - such as Morgan Howell, John Hanmer, Evan Hughes, and others. In 1672 when nonconformists were given some freedom, these preachers became licensed to preach and many houses were licensed as places of worship. Morgan Howell was licensed to preach in the home of John Jones, Llwynrhys in Llanbadarn Odwyn parish on October 28th, 1672. On the same day the houses of Dafydd Rees, Llanfihangel, Phillip Dafydd, the placename was unreadable in the manuscripts, Dafydd Jones of Llanddewibrefi, Dafydd Hughes, Cellan and Evan Dafydd, Llanbadarn, Dafydd Jones and Evan Hughes were also licensed to preach in these places as Independent Ministers.*Following the Act of Toleration regular congregations were formed in  Cellan, Cilgwyn, Llwynypiod, Abermeurig, Blaenpenal, Ciliau Aeron, Crugymaen, and many other places. After the deaths of the old ministers mentioned above this church was under the able and industrious care of Phillip Pugh with the support of  Jenkin Jones, Evan Davies, Timothy Davies, David Edwards, David Jenkins, James Davies, and others. In 1715 this ministerial circuit contained some seven or eight congregations with about three thousand communicants. This proves that nonconformity was significant in this part of Wales in the early days. These congregations gave rise to many famous preachers such as Thomas Walters, Rhayader ; Evan Davies, previous teacher at Carmarthen College; Solomon Harries, Swansea; Evan Davies, Llanedi,  and others. In the centre of this area, which had been fertile ground for ninety years, with a strong evangelical ministry there rose one Rowlands, Llangeitho, in 1735 as one of the founders of Methodism in Wales.

* State Papers for the year 1672.

83

As we have mentioned before, and  no doubt will again, it was not in the pagan areas of Wales but in the most religious and nonconformist areas that gave rise to Methodism, so that it is as much a branch of the nonconformist denominations as of the Established Church, in some ways more so.Mr Phillip Pugh died in 1760, by which time most of the younger, better educated ministers in Cardiganshire and Carmarthenshire were inclined toward Pelagianism or Arianism.  These principles have been preached and beleived in by some from Ciliau, Cilgwyn, Caeronnen or Cellan, before Mr Pugh's death, and this had caused him considerable worry in his old age.After his death the three afore mentioned congregations became Pelagian, and gradually Arian and eventually Unitarian, and so continue today, except for Cilgwyn who profess themselves Arminian. Many in these churches clung to the views of their fathers and left the congregations because they did not relish the ministry, and started the causes found today in Ebenezer, Ty'ngwndwn and Neuaddlwyd. Whilst three of Mr Pugh's congregations became Arian and Unitarian, three others gradually became Methodists, namely Llwynypiod, Blaenpennal ag Abermeurig. Following Mr Pugh's death they called Mr Thomas Gray, a student at Abergavenny Independent College. Soon after his inauguration he became friendly with Mr Rowlands, Llangeitho and the Methodists. He gradually became closer to the Methodists, and further from his own denomination, so much so that he was ultimately regarded as a Methodist, although he remained an Independent Minister to the end.When he died in 1810, after being minister here for fifty years, most of the older Independents had died and those confirmed during his ministry were raised with Methodist principles and comparatively strangers to Independence and the Independents. Mr Gray was the means of shutting the Independents out of this area forever, unless some Methodist comes here and behaves as Mr Gray did to the Independents.

The church in Cilgwyn continued in associationwith the Independents, or Presbyterians, as they were frequently called in those days, for some years after the death of Mr Pugh, although there was not total agreement among the members on the main religious teachings. In 1770 or 1771, Mr David Lloyd, Llwynrhydowen arrived, who was a proffesed Arian, to help the minister, Mr Timothy Davies, frequently. This caused considerable unease in the church, although this caused a rift, Mr Davies promised that he should not come to the church again, but due to the influence of one of the richer member, who was a close relation to Mr Lloyd, he was brought there again to preach on a Communion Sunday. We beleive that Mr Davies had died by then. This made the rift complete. Fifty members left, and after  some time worshiping in houses in the area they built

84

a small chapel, which they named Ebenezer, which was opened toward the end of 1772. Soon they sent a call to Mr Philip Maurice, a student at Abergavenny College. He came to them after he had completed his time there, he was ordained here in 1775, he remained here well respected and with comparative success to the end of his life in 1820. Ty'ngwndwn, in association with Ebenezer, was under the ministry of Mr Maurice for the full period of his ministry. In October 1810, Mr John Maurice was ordained to support his father in all is ministry, but within a year this promising young man was taken by death. Soon after the death of Mr John Maurice, a call was sent to Mr James Phillips, from Neuaddlwyd College, to be a support to Mr P. Maurice, his stay here was only short. He accepted a call from Bethlehem, St. Clears, and moved there in 1814. There was no regular support for the old minister for the rest of his life. At the beginningof 1821, a call was sent to Mr Griffith Griffiths, from Neuaddlwyd College, and he was ordained here on April 5th, of that year. Mr Griffiths was here well respected and industriously until 1837, when he moved to Newport, Monmouth. Mr Griffiths was followed for a short time by Mr Richard Owen, originally from Anglesey, who was ordained here on August 1st, 1837. He was here until 1841 when he decided the work was less and the grass greener in the Established Church than with the Independents, and so he moved to that church and remained ther until his death.At the end of 1843 a call was sent to Mr David Stephens, a member of Capel Isaac church, he was ordained to be minister here and Llanfairclydogau. The ordination took place on February 21st  and 22nd, 1844 when sermons were give by Messrs.Griffiths, Horeb; Saunders, Aberystwyth ; Thomas, Bwlchnewydd ; Jones, Rhydybont ; Williams, Llandeilo; Williams, Llangadog; Davies, Cardigan, and others, in Ebenezer and Llanfair.Mr Stephens remained here succesfully and well respected by Church and Community until 1852, when he moved to Glantaf, Glamorgan, where he died. He was followed here and in Llanfair by Mr Thomas Thomas, the current minister, who settled here soon after Mr Stephens departure, and he has ministered well and been respected in the community. He had been a minister for five years in Nebo and Hebron, Carnarvonshire, before coming here.

The Chapel was rebuilt during the ministry of Mr R. Owen, a gallery was added after Mr Thoomas settled here,so that now it is a large and comfortable Chapel filled with a lively congregation. There is a cemetery attached to the chapel, the remains of Messrs P. and J. Maurice lie. This church was one of the first to be blessed bya strong revival in 1858. The lord continues to add to the church daily.

We do not know of anyone raised to preach here other than Mr J. Maurice, son of the old minister.

BIOGRAPHICAL NOTES*

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

As Ebenezer, Ty'ngwndwn and Neuaddlwyd currently represent the religious philosophy of the early ministers at Cilgwyn, Cae'ronnen and Ciliau Aeron, their biography is given here.

85

REES POWELL. He appears to have been the first ministerh - removed by the Act of Uniformity - went to the Established church

JOHN EVANS Born somewhere in this County - preacher at Bangor, between Newcastle Emlyn and Llandyssul - removed by the Act of Uniformity -before 1662 was useful to the Independent congregation in Cellan and others - Died soon after 1662.

JOHN HANMER. Born in Radnorshire - during the Commonwealth was a trevelling preacher in Radnor, Brecon and Cardiganshire - after 1662 served Cellan, Cilgwyn and others, then returned to Radnorshire - Lived to a ripe old age there - was travelling with Mr H Maurice in 1672*.

DAVID JONES. Thought a brother to Mr John Jones, Llwynrhys, Llanbadarnodwyn Parish -accepted Oxford November 10th, 1654 - was still a minister in 1694 - Died of Tuberculosis.

EVAN HUGHES. Born in this county - date of death not known - alive in 1694.

MORGAN  HOWELL. Born in Bettwsbledrws, near Lampeter - spent all his life here - poet date of death not known - alive in 1694.

* Rees's History of Nonconformity in Wales. Page 240.

86

DAVID EDWARDS. Ordained 1688, as supporting minister in Cae'ronen, Cellan, and others - still in post in 1715 - dateof death not known - his widow Jane Bowen of Haverfordwest died after him, in Carmarthen.

JENKIN JONES.  Son of John Jones, Llwynrhys, neephew of David Jones - brother held high office in William III's army - confirmed on January 12th,1695 - died 1725 - mainly minister in Grugymaen.

DAVID JENKINS. Ordained 1708, mainly for Crugymaen, but circulating through Cilgwyn, Abermeurig, Ciliau Aeron, etc. - date of death not known - alive in 1775.

87

PHILLIP PUGH. Born eitherLlangybi or Llanddewibrefi 1679.  -parents well off - educated at Mr. Samuel Jones, Brynllywarch School - ordained October 1709 joint ministry with David Edwards, Jenkin Jones, and David Jenkins, in Cilgwyn, Blaenpennal, Crugymaen, Ciliau,and others - recorded christening at Cilgwyn from December 1709 to March 20th1760 - Died July 12th, 1760 - buried on 15th in Llanddewibrefi.- appear to have been widowed 16 years prior to his death, and lost all his children.

88

EVAN DAVIES.Ordained to support Mr. Phillip Pugh, Cilgwyn April 13th 1726,  at 50 years old - Died December 10th, 1747 at 71years of age.  

89

TIMOTHY DAVIES. Born 1709. - began to preach 1733, ordained May 26th,1737 -married by Mr. John Rowlands, June19th,1740, wife was daughter of Blaenau, Cellan, - the late Dr. Evan Davies, Swansea was one of his many children - Died May 29th 1771, at 60 years old.  

JAMES DAVIES. Father of Evan Davies, Llanedi, a Daniel Davies, Ynysgau, Merthyr Tydfil. - ordained in Crofft-y-cyff, same day as Owen Davies, Trelech, on October 7th, 1743 - Lived most of his life in Plas Cilcenin  - died and buried in Cilcennin.

PHILLIP MAURICE. Born Glandwr,Pembrokeshire 1739 - Abergavenny College 1771 - ordained Ebenezer a Thy'nygwndwn 1775 - Died November 30th, 1820, at 81 years old  - Buried Ebenezer, with his wife

JOHN MAURICE. Son of Phillip Maurice - Born April 24th,1787 - Carmarthen College - went to  Sarnau a Domgay, Montgomeryshire, on trial - did not accept call

90

 - ordained October 3rd, 1810,  - Neuaddlwyd College opned following day  - Died April 24th,1811 of Tuberculosis o'r un mis bu farw. Y darfodedigaeth oedd ei glefyd.

Messrs G. Griffiths and D. Stephens - biographies with Mynyddsïon, Casnewydd, and Ebenezer, Glantaf

CAPEL MAIR, LLANFAIRCLUDOGAU

Nid peth diweddar yw Ymneillduaeth yn y plwyf hwn. Yr oedd cynnulleidfaoedd lluosog yn Cae'ronen, ar y naill derfyn i'r plwyf, ac yn y Cilgwyn, ar y terfyn arall, dan ofal Mr. Phillip Pugh, a'i ragflaenafiaid, er amser Siarl II., a chyn hyny, ac yr oedd trigolion plwyf Llanfair, o angenrheidrwydd, yn gwneyd i fyny ran helaeth o'r cynnulleidfaoedd hyny. Yn Mlaenywern, yn y plwyf hwn, y treuliodd Mr. Phillip Pugh y rhan fwyaf o'i oes, ac nis gallasai gwr o'i dduwioldeb a'i ddylanwad ef, lai na dylanwadu yn ffafriol ar lawer o'i gymydogion. Wedi marwolaeth Mr. Pugh, ac ymdaeniad Ariaeth yn Nghae'ronen a'r Cilgwyn, nid ymddengys fod ond nifer fechan o Ymneillduwyr o syniadau efengylaidd i'w cael yma, ond yr oedd yma rai, a bu llaw ganddynt yn ffurfiad yr eglwys yn Ebenezer yn 1772. Yr hanes cyntaf sydd genym am adfywiad Ymneillduaeth efengylaidd yma, yw agoriad yr amaethdy a elwir Pentre', Llanfair, i bregethu yn achlysurol ynddo, tua'r flwyddyn 1790. David. John Morgan oedd yn cyfaneddu yno y pryd hwnw, ac yr oedd Sarah ei wraig yn un o aelodau ffyddlonaf Ebenezer. Y gweinidogion a'r pregethwyr a ddeuent fynychaf yr amser hwnw i bregethu yma, oeddynt David Morgan, Esgairdawe ; Phillip Maurice, Ebenezer; John Mathew Rhydderch, tad y diweddar Mr. Daniel Jones, Aber, Brycheiniog, a Thomas Griffiths, Ty'nycoed, Cellan. Yr oedd y ddau olaf yn aelodau ac yn bregethwyr cynorthwyol parchus yn Ffaldybrenin. Yn y flwyddyn 1799, bu farw Sarah Morgan o'r Pentre', a'r pryd hwnw rhoddwyd i fyny bregethu yno hyd y flwyddyn 1806, pryd y daeth ei mab, John David Morgan, a Rachel

91

ei wraig, i fyw yno. Yr oeddynt hwy ill dau yn aelodau selog a ffyddlon yn Ebenezer. Trwy eu hymdrech hwy rhentiwyd hen fragdy yn y gymydogaeth, a chyfaddaswyd ef yn y modd goreu y medrwyd i fod yn lle addoliad. Buwyd yma yn addoli hyd y flwyddyn 1825. Y rhai a bregethent fynychaf yma yn y blynyddau hyn oeddynt Meistri P. Maurice, Ebenezer; D. Jones, Crugybar; D. Phillips, Scythlyn, brawd Dr. Phillips, Neuaddlwyd, a Thomas Griffiths, Ty'nycoed. Cyn gosod i fyny bregethu cyson yn yr hen fragdy, yr oedd annuwioldeb yn ffynadwy iawn yn y gymydogaeth, ond trwy y pregethu mynych yma, y cyfarfodydd gweddio, a gynelid yn yr ardal gan aelodau o Ebenezer, Ffaldybrenin, a Rhydybont, a'r ysgol Sabbothol, a osodwyd i fyny yma gan yr hen bererin galluog a llafurus, Thomas, o Goedeidig, hen daid Mr. Davies, Siloa, Llanelli, moesolwyd a chrefyddolwyd llawer ar y lle. Tua y flwyddyn 1824, aeth yr hen fragdy yn rhy fychan ac anghyfleus, oherwydd fod gwaith mwn plwm wedi ei agor yn ei ymyl. Felly bu raid edrych allan am le cyfleus i adeiladu capel. Cafwyd tir ar etifeddiaeth Arglwydd Carrington, ac adeiladwyd arno addoldy bychan, ond lled gyfleus. Agorwyd ef Gorphenaf 13eg, 1825. Yn fuan wedi hyny corpholwyd yma eglwys. Cyn hyny byddai y rhai a ddeuent i'r cyfeillachau yn y bragdy yn myned i Ebenezer i gael eu derbyn yn aelodau. Yn y flwyddyn 1824, ymunodd Mr. Thomas Griffiths, Pentre', a'r achos, a throdd allan i fod yn un o'r crefyddwyr mwyaf selog a defnyddiol yn y wlad hon. Efe fu a'r llaw flaenaf yn adeiladu y capel cyntaf, yn gystal a'r ail. Yr oedd ef yn fab i Thomas Griffiths, Ty'nycoed, a grybwyllwyd yn barod, ac yn wyr i Sarah Morgan, yr hon a fu yn brif offeryn i ddechreu yr achos yn y lle. Mae y gwr da hwn wedi cael ei gasglu at ei dadau er Mehefin 24ain, 1861, pryd yr oedd yn 73 oed, ond y mae ei blant yn llenwi ei le yn yr eglwys, ac yr ydym yn hyderu y parhâ ei hiliogaeth o oes i oes i lynu wrth Dduw eu tadau. Y gweinidog yma o ffurfiad yr eglwys hyd 1837, oedd Mr. G. Griffiths, gweinidog Ebenezer ; bu ei ganlyniedydd, Mr. R. Owen, yma ac yn Ebenezer am ychydig amser. Fel y nodwyd yn hanes Ebenezer, urddwyd Mr. David Stephens yn weinidog i'r ddwy eglwys yn Chwefror, 1844, a bu yn llafurio yn y cylch hwn yn barchus a llwyddianus hyd ddiwedd y flwyddyn 1852, pryd y symudodd i Glantaf, Morganwg Ar ddechreuad gweinidogaeth Mr. Stephens cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa i'r fath raddau, fel y bu raid tynu yr hen addoldy i lawr ac adeiladu un newydd yn fwy na chymaint arall na'r hen un. Gwnaed hyn yn y flwyddyn 1845. Mr. Stephens, y gweinidog ; Mr. T. Griffiths, Pentre', a Mr. Thomas Richards, Pentre'rllan, fu a'r llaw flaenaf gyda'r adeiladaeth, ond cydweithredodd yr holl eglwys a'r ardalwyr yn egniol gyda hwynt. Ar ol ymadawiad Mr. Stephens, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Thomas, y gweinidog presenol, ac y mae efe yn llenwi ei le yn dda yma yn mhob ystyr. Mae yr achos yn y lle hwn yn awr yn gryf ac yn nodedig o lewyrchus, a'i ddylanwad dros yr ardal yn fawr a helaeth. Tua phedair-blynedd-ar-ddeg yn ol, gosodwyd oriel yn y capel, yr hyn a'i helaethodd yn fawr. Yn y flwyddyn 1859, ychwanegwyd dros gant o aelodau at yr eglwys, 58 o ba rai a dderbyniwyd yr un Sabboth. Ychwanegwyd yma 60 yn y flwyddyn ddiweddaf, (1873), ac y mae pob argoelion yn awr y parhâ pethau i fyned rhagddynt yn llwyddianus. Yn 1862, adeiladwyd ysgoldy a elwir y Maesglas, yn nghwr uchaf y plwyf, lle y cynhelir cyfarfodydd gweddio, pregethu un Sabboth yn y mis, ac ysgol Sabbothol flodeuog.

92

Nis gwyddom fod neb wedi cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon, ond David Worthington, yr hwn sydd wedi gorphen ei amser yn athrofa Caerfyrddin, ond heb ymsefydlu fel gweinidog hyd yn bresenol.

Translation by Maureen Saycell (Sept 2008)

Independence is nothing new in this parish. There were large congregations in Cae'ronnen, at one end of the parish as well as in Cilgwyn, at the other under the care of Mr Phillip Pugh and his predecessors, since the time of Charles II and earlier, and of neccessity the inhabitants of Llanfair made up a large proportion of those congregations. Mr Phillip Pugh spent most of his life in Blaenywern, a man of his influence and godliness must have had a desirable effect upon his neighbours. After his death Arianism spread in Cae'ronnen and Cilgwyn and there did not appear to be many who beleived in the Independent philosophy, but there remained a few, and they had a hand in establishing Ebenezer in 1772. The earliest history of an Independent Revival here was the opening of Pentre Farmhouse, Llanfair,  around 1790 for occasional preaching. David John Morgan lived there at that time, and his wife Sarah was one of the most faithful members of Ebenezer. The most regular preachers were David Morgan, Esgairdawe ; Phillip Maurice, Ebenezer; John Mathew Rhydderch, father of the late Mr. Daniel Jones, Aber, Breconshire, and Thomas Griffiths, Ty'nycoed, Cellan The last two were members and supporting preachers at Ffaldybrenin. Sarah Morgan, Pentre Farm, died in 1799 and preaching stopped until 1806 when their son John David Morgan and Rachel his wife, moved in.

91

They were both faithful and constant members of Ebenezer. An old brewery was rented through their efforts and converted to be a place of worship, as best they could. They continued to worship there until1825. The following were the most frequent preachers:- Messrs P. Maurice, Ebenezer; D. Jones, Crugybar; D. Phillips, Scythlyn, brother of Dr. Phillips, Neuaddlwyd, and Thomas Griffiths, Ty'nycoed.Before preaching started here the area was very ungodly in behaviour, but with frequent preaching, and prayer meetings held by members of Ebenezer, Ffaldybrenin and Rhydybont, also Sunday schools set up by the industrious old pilgrim, Thomas of Goededig, great grandfather of Mr Davies, Siloa, Llanelli, there was a great moral and religious improvement here. Around 1824 the old brewery became too small and inconvenient, because a small lead mine had opened close by. A place had to be found to build a chapel. Land was acquired from Lord Carrington, and a small but convenient Chapel was built. It was opened on July 13th, 1825. A church was established here soon afterwards. Before this those that became associated through the the old brewery went to Ebenezer to be confirmed. In 1824 Mr Thomas Griffiths, Pentre, joined the cause and became one of the most useful and faithful beleivers in this country. he was the leader in the building of the first and second chapel. He was the son of Thomas Griffiths, Ty'nycoed, previously mentioned, and grandson of Sarah Morgan, who was instrumental in beginning the cause here. This good man died on June 24th, 1861, aged 73, but his children are taking his place in the chapel, and we hope his descendants continue to beleive in the God of their Fathers. From the beginning in 1837, the minister here was Mr G. Griffiths, Ebenezer, his successor was Mr R. Owen, was here and at Ebenezer for a short time. Mr David Stephens was ordained minister for both churches in February, 1844, and remained here successfully and well respected until the end of 1852, when he moved toGlantaf, Glamorgan. At the start of Mr Stephens ministry the congregation grew so much that the old chapel had to be demolished and a new one twice the size built.

This was done in 1845, Mr Stephens, minister, Mr T. Griffiths, Pentre and Mr Thomas Richards, Pentre'rllan were the leaders but the church as a whole helped. After Mr Stephens left, Mr Thomas Thomas, the current minister was called, and he fills his place well in every sense.This cause is now strong and prosperous, with influence over a large area.About fourteen years ago a gallery was added which enlarged it considerably. In 1859 over a hundred became members, 58 on the same Sunday. In 1873, 60 more were added, and the future looks promising. In 1862 a schoolroom named Maesglas was built in the upper part of the parish where prayer meetings, preaching one Sunday a monthand a flourishing Sunday School.

92

We do not know of anyone raised to preach here, other than David Worthington. who has completed his time at Carmarthen College, but has not settled anywhere.

CAPEL-YR-ERW, CELLAN

Dechreuwyd yr achos yn y lle hwn dan yr amgylchiadau canlynol : -  Yr oedd yma hen achos Ymneillduol er amser y Werin-lywodraeth, ac wedi cael nawdd Deddf y Goddetiad, adeiladwyd addoldy Cae'ronen, a bu yno achos llewyrchus iawn am ugeiniau o flynyddau. Tua therfyu oes Mr. Phillip Pugh, ac yn fwy o lawer ar ol ei farwolaeth, ymdaenodd syniadau Ariaidd yn y gynnulleidfa, ond yr oedd yma lairif o hyd yn parhau i ddal syniadau efengylaidd y tadau. Wedi i Mr. Thomas Jones ymsefydlu fel gweinidog yn Ffaldybrenin, gwahoddwyd ef i bregethu yn fisol yn Nghae'ronen, ac ar ol iddo fod yno rai gweithiau, dechreuwyd cwyno gan yr Ariaid ei fod yn pregethu yn rhy Galfinaidd, ac felly, penderfynasant gau y capel yn ei erbyn. Gwnaed hyny tua'r flwyddyn 1811. Y canlyniad fu i'r lleiafrif yn y gynnulleidfa, a hoffent athrawiaeth Mr. Jones, fyned allan ac ymffurfio yn eglwys Annibynol. Tua yr amser hwn daeth Mr. Jenkin Davies, aelod o Ebenezer, i fyw i Glanyffrwd, ac ymunodd ef a'i wraig, a'r deuddeg a ymneillduasent o Gae'ronen, a bu o gymorth nodedig iddynt, gan ei fod yn ddyn da ac yn alluocach na'r cyffredin. Cafwyd tir i adeiladu capel arno gan Mr. Thomas Lloyd, ar dyddyn a elwir yr Erw. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1811. Bu Mr. Thomas Jones yn gweinidogaethu yma am ychydig amser ar ol agoriad y capel. Ar ei ymadawiad ef bu y ddeadell fechan hon dan ofal gweinidogion Ebenezer am dymor byr. Ar symudiad Mr. James Phillips, cynorthwywr Mr. P. Maurice, i St. Clears, yn 1814, rhoddodd yr eglwys yn Nghellan alwad i Mr. James Sylfanus, o athrofa y Neuaddlwyd. Bu ef yma hyd y flwyddyn 1818, pryd y symudodd i Benygraig, gerllaw Caerfyrddin. Bu yn ymdrechgar iawn tra y bu yn y lle i gasglu yn agos a phell at ddileu dyled y capel, ac yr ydym yn tybied iddo ei lwyr ddileu cyn ei ymadawiad. Wedi hyny rhoddodd y gynnulleidfa hon ei hun dan ofal Mr. Rees Jones, Ffaldybrenin, a than ei ofal ef yn benaf y bu hyd nes iddo, oherwydd henaint, orfod rhoddi i fyny y weinidogaeth. Yn ei flynyddau diweddaf cynorthwyid ef gan Mr. Stephens, tra y bu yn Llanfair, ac wedi hyny gan Mr. Thomas, yr hwn er's blynyddau bellach yw yr unig weinidog yma. Ychwanegwyd at yr eglwys dros haner cant o aelodau yn amser yr adfywiad yn 1859. Yn y flwyddyn 1863, tynwyd yr hen gaped i lawr ac adeiladwyd yr un presonol, yr hwn sydd lawer yn helaethach na'r hen dý. Mae yr achos yma yn gwisgo agwedd siriol. Mae yr ysgol Sabbothol yn dra llewyrchus, a chystal canu yma ag sydd mewn unrhyw gynnulleidfa yn yr holl gylchoedd.

Codwyd yma i bregethu y personau canlynol :-

  • John Lloyd Jones, yr hwn a addysgwyd yn Aberhonddu, a urddwyd yn Nhyddewi, ac sydd er's blynyddau bellach yn weinidog yr eglwysi yn y Crwys a Phenyclawdd, Morganwg.
  • John D. Jones, Addysgwyd yntau yn Aberhonddu, a bu am ychydig amser yn weinidog yn Solfach. Mae er's blynyddau bellach yn offeiriad yr yr Eglwys Wladol.

93

  • Mathew Williams. Bu am ychydig fisoedd yn athrofa Caerfyrddin, ond cymerwyd ef yn glaf o'r brain fever, a bu farw ar ol ychydig ddyddiau o gystudd trwm, yn 23 oed. Yr oedd yn wr ieuangc gobeithiol iawn.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JAMES SYLFANUS. Mab i amaethwr bychan o blwyf Cynwyl, sir Gaerfyrddin, oedd ef. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Saron, Llangeler, pan yn dra ieuangc. Yn mhen amser anogwyd ef i ddechreu pregethu. Wedi hyny aeth i athrofa y Neuaddlwyd, ac yr oedd ef yn un o'r myfyrwyr cyntaf yn y sefydliad hwnw. Tua y fiwyddyn 1814, urddwyd ef yn Nghapel-yr-erw, Cellan, lle y bu byd ei symudiad i Benygraig yn 1818. Ni bu yn hir cyn i ryw anghydfod beri iddo ymadael o Benygraig, ond bu yn weinidog yn Philadelphia, cangen o Benygraig, hyd y flwyddyn 1831. O hyny allan ni bu ganddo un eglwys dan ei ofal, ond parhaodd i bregethu lle byddai galwad am ei wasanaeth, hyd derfyn ei oes. Ymaelododd yn Penuel, dan ofal Mr. Davies, Pantteg, pan yr ymadawodd o Philadelphia, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Gorphenodd ei yrfa Chwefror 22ain, 1863, yn 78 oed. Er nad oedd James Sylfanus yn ysgolhaig ac yn feddyliwr galluog, etto yr oedd yn meddu gallu i bregethu yn dra effeithiol ar rai adegau. Clywsom ef rai gweithiau tua deugain mlynedd yn ol yn pregethu yn rymus iawn. Yr oedd ganddo gryn ddawn at holi ysgolion yn ol yr hen ddull. Nid oedd heb ei ddiffygion a'i wendidau, ond yr ydym yn credu ei fod yn ddyn oedd yn ofni yr Arglwydd.

Translation by Maureen Saycell (Sept 2008)

This cause started as follows:-There was an old Independent cause here during the Commonwealth, and with the Act of Tolerance a place of worship was built in Cae'ronnen, which flourished there for many years. Towards the end of Mr Phillip Pugh's life the congregation adopted the Arian doctrine, but a minority maintained the beliefs of their fathers. After Mr Thomas Jones had been inducted at Ffaldybrenin, he was invited to preach monthly at Cae'ronnen, soon the Arians complained that his preaching was too Calvinistic and they decided to close the chapel to him.This was done around 1811, the result was that the minority who liked Mr Jones' preaching left and formed an Independent Church.Around this time Mr Jenkin Davies came to live in Glanyffrwd, he was a member of Ebenezer Chapel, both he and his wife joined with the twelve who had withdrawn from Cae'ronnen, and proved to be very useful to them as he was a good man and more able than usual. Land to build a chapel was acquired from Mr Thomas Lloyd on a small holding called Yr Erw ( the Acre). The chapel was built in 1811. Mr Thomas Jones ministered to them for a short time.After he left this small chapel was ministered to by Ebenezer for a short time.When Mr James Phillips, the supporting minister to Mr P. Maurice, moved to St Clears in 1814, the church in Cellan sent a call to Mr James Sylfanus, from Neuaddlwyd College. He was here until 1818 when he moved to Penygraig, near Carmarthen. He was very successful collecting near and far to clear the debt of the chapel, and we beleive that he cleared it all before he left. After that the congregation put itself in the care of Mr Rees Jones, Ffaldybrenin, and remained so until he was forced to give up his ministry because of old age.During his latter years he was supported by Mr Stephens, while he was in Llanfair, and following that by Mr Thomas, who has been the only minister here for some years.The congregation increased by fifty during the revival of 1859. In 1863 the old chapel was demolished and the present, much larger, one built. The cause here has a very promising look. The Sunday School is flourishing and the singing here is equal to any congregation in the area.

The following were raised here to preach:-

  • JOHN LLOYD JONES - Educated in Brecon, ordained in St. David's and for many years minister at Crwys and Penygraig, Glamorgan.
  • JOHN D. JONES - Educated in Brecon, minister at Solva for a short time. He has been with the Established Church for many years.

93

  • MATHEW WILLIAMS - He was at Carmarthen College for a short time, but was taken ill by the brain fever and died after a few days of severe suffering, aged 23. He was a very promising young man

BIOGRAPHICAL NOTES *

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

JAMES SYLFANUS - Son of a farmer in Cynwyl, Carmarthen - confirmed Saron, Llangeler - Neuaddlwyd College - 1814 ordained, Capel yr Erw, Cellan - moved to Penygraig 1818 - Philadelphia chapel until 1831 - Died February 22nd, 1863. Age 78.

LLANBEDR-PONT-STEPHAN

(Lampeter parish)

Yr oedd rhai aelodau o eglwysi Annibynol yn preswylio yn, ac yn agos i'r dref hon er's oesau, ond ni wnaed un cynyg at ffurfio yma eglwys Annibynol cyn y flwyddyn 1831. Yr amser hwnw yr oedd Mr. G. Griffiths, gweinidog Ebenezer y pryd hwnw, yn byw yn y dref, a rhai o aelodau ei eglwys hefyd, ac amryw o honynt yn preswylio yn ymyl y dref. Yn y flwyddyn rag-grybwylledig, edrychasant allan am le i gynal gwasanaeth crefyddol. Cymerasant hen fragdy ar rent, yr hwn a gyfaddaswyd ganddynt i fod yn addoldy. Yn fuan wedi hyny ffurfiwyd yma eglwys, yn benaf o aelodau Ebenezer, a bu dan ofal Mr. Griffiths hyd nes y symudodd i'r Casnewydd yn y flwyddyn 1837. Dilynwyd Mr. Griffiths yma ac yn Ebenezer, am ychydig amser gan Mr. Richard Owen, yr hwd tra y bu yma a fu yn fwy o nychdod nag o gymorth i'r achos gwan. Wedi iddo ef roddi gofal y  lle i fyny, gadawyd yr achos mewn agwedd isel iawn. Byddai gweinidogion Ffaldybrenin a Rhydybont yn dyfod yma weithiau, ond gan nad oedd yma bregethu cyson, lleihaodd y gynnulleidfa, ac yr oedd yr ychydig aelodau wedi myned yn ddigalon iawn, ac yn bwriadu cau y lle i fyny. Yn yr adeg bruddaidd hono, daeth cyhoeddiad Meistri Davies, Aberteifi, a Griffiths, Horeb, i'r lle, ac wedi gwrandaw adroddiadau digalon y cyfeillion, dywedasant mai gresyn oedd claddu unrhyw beth yn fyw - nad oedd yr achos wedi hollol farw, ac dylesid meddwl am foddion i'w gryfhau yn hytrach na'i gladdu. Darfu i'w hymweliad a'u cynghorion hwy loni cryn lawer ar feddyliau y cyfeillion, a phenderfynasant geisio

94

cario pethau yn mlaen, ac ymwroli. Yn fuan wedi hyn daeth Mr. David Davies i'r ardal i gadw ysgol, a chan ei fod yn bregethwr o ddoniau melus, daeth llawer i'w wrandaw, a siriolodd agwedd pethau yn fawr iawn yma mewn ychydig amser. Rhoddwyd galwad iddo ef i fod yn weinidog yn y lle, ac urddwyd ef Mai 19eg, 1841. Gan nad oedd yr hen fragdy yn y dref, lle y cynhelid y gwasanaeth Sabbothol, yn gyfaddas at gynal cyfarfodydd yr urddiad, cynhaliwyd hwy yn Nghapel-yr-erw, Cellan. Yr oedd trefn yr urddiad fel y canlyn :-Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. W. Jones, Glynarthen ; pregethodd Mr. Thomas, Penrhiwgaled, ar natur eglwys; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. R. Jones, Ffaldybrenin ; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Jones, Saron; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. S. Griffiths, Horeb, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Davies, Aberteifi. Gan fod yr hen fragdy yn lle gwael ac anghyflus, yr oedd yn anmhosibl casglu cynnulleidfa iddo, ac felly edrychwyd allan am dir i adeiladu capel. Adeiladwyd capel cymharol helaeth a thlws yn y flwyddyn 1842. Yr oedd nifer yr aelodau pan aed i'r capel newydd yn 45, ac erbyn marwolaeth Mr. Davies yn 1871, yr oeddynt wedi cynyddu i 150.

Yn Mai, 1872, rhoddwyd galwad i Mr. John Thomas, myfyriwr o athrofa y Bala, ac wyr i'r enwog Dr. Phillips, Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Awst 1af, yn yr un flwyddyn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Rowlands, Llanon ; R. P. Jones, Pencadair; W. Evans, Aberaeron; R. Thomas, Penrhiwgaled; T. Rees, Maenygroes; J. Davies, Glyn; T. Phillips, Horeb; O. Thomas, Brynmair ; W. B. Marks, Salem ; E. A. Jones, Castellnewydd; T. Jones, Parcyrhos, a T. Thomas, Llanfair. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Thomas yma gwelwyd fod y capel yn rhy fychan ac rhy wael fel adeiladaeth i ateb i archwaeth yr oes, ac felly penderfynwyd adeiladu un mwy a phrydferthach. Tynwyd yr hen addoldy i lawr yn Awst, 1873, a bwriedir agor yr un newydd yn Mehefin, 1874. Costia o chwech i saith gant o bunau.

Bu yma amryw frodyr a chwiorydd selog a ffyddlon iawn gyda'r achos o'i gychwyniad cyntaf. Yn mysg y rhai fu yn fwyaf ymdrechgar gydag adeiladu y capel cyntaf, gellid enwi Thomas Davies, Pantmawr ; Samuel Evans, Coedeiddig ; George Leigh, Blaenplwy, a David Davies, yr hwn oedd yn byw yn y dref. Mae yma etto yn aros rai o'r hen chwiorydd ffyddlon fuont yn cychwyn yr achos yn y lle. Yr ydym yn hyderu y bydd gweinidogaeth Mr. Thomas yn llwyddianus iawn. Nid gwaith hawdd ydyw cadw achos Ymneillduol yn fyw mewn tref fechan fel Llanbedr, lle y mae dylanwad yr Eglwys Wladol mor fawr, trwy mai yma y mae yr athrofa lle yr addysgir ugeiniau o bersoniaid. Mae yr athrawon a'r myfyrwyr yn gwario rhai canoedd, os nad miloedd, o bunau yn y flwyddyn yma, ac nis gall hyny, pe na byddai dim arall, lai na dylanwadu yn ffafr yr Eglwys Wladol ar feddyliau y masnachwyr ac eraill. Ond er pob anfantais, y mae yr achos wedi cyfodi yma, ac yn well yr olwg arno yn awr nag ar un adeg o'i hanes. Nid ydym yn gwybod fod yma neb wedi cyfodi i bregethu o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

DAVID DAVIES. Ganwyd ef mewn lle a elwir Blaenpantyfi, yn mhlwyf  Troed-yr-aur, yn y flwyddyn 1806. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig

95

yn y Neuaddlwyd gan Dr. Phillips, pan yr oedd yno yn yr ysgol yn 1822. Bu wedi hyny yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau, a phan yr oedd yn ysgolfeistr yn y Groeslon, yn sir Fon, y dechreuodd bregethu yn 1828. Urddwyd ef, fel y nodasom, yn Llanbedr yn 1841, ac yno y bu yn llafurus a defnyddiol hyd ei farwolaeth ddisymwyth Rhagfyr 17eg, 1871. Bu farw mewn llewyg yn hollol annisgwyliadwy, a chladdwyd ef yn yr addoldy y bu yn gweinidogaethu ynddo am ddeng-mlynedd-ar-hugain. Yn mhen rhai blynyddau wedi ei urddiad ymunodd mewn priodas a Mrs. Margaret Lloyd, yr hon fu yn ymgeledd gymhwys iawn iddo hyd derfyn ei oes. Bu hithau farw Mai 20fed, 1873, a chladdwyd hi yn medd ei phriod. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn da a nodedig o ddiniwed. Cerid ef gan bawb o'i gydnabod. Er nad oedd yn ddyn galluog o feddwl nac yn bregethwr mawr, yr oedd yn dra derbyniol ar gyfrif ei sirioldeb, ei ddiniweithwydd, ei dduwioldeb, rhwyddineb ei ymadrodd, a phereidd-dra ei lais. Gwnaeth fwy o ddaioni yn ei ddydd na chanoedd yr edrycha byd arnynt fel dynion mawr.

Translation by Maureen Saycell (Sept 2008)

There were members of Independent Churches living in and around this town for generations, but no effort had been made to form a church within the town until 1831.At that time Mr G. Griffiths, minister of Ebenezer, lived in the town as did many of his flock. In that year they looked for a place to hold religious services. They rented an old brewery which they adapted to worship in.Soon a church was formed, mainly with members from Ebenezer, and it was under thew care of Mr Griffiths until he moved to Newport in 1837. Mr Griffiths was followed, both here and at Ebenezer, for a short time by Mr Richard Owen, who was more of a nuisance than help to this weak cause.After he gave up his ministry, the cause was left in a weakened state. The ministers from Ffaldybrenin and Rhydybont came occasionally, but the congregation lessened as there was no regular preaching, and the few remaining members considered closing down. Around this sad time the news came to Messrs Davies, Cardigan and Griffiths Horeb, and after listening to the sad tale they thought it was tragic to bury something that still had life in it - and as there was still some life there they should help it to improve. Their visit and advice gave the members heart and they decided

94

to carry on. Soon Mr David Davies came to open a School in the area, he was also a renowned preacher, many came to listen to him and the whole cause began to hope.  A call was sent for him to become their minster, he was ordained on May, 19th, 1841. because the old brewery was not suitable for the induction services. they were hed at Capel yr Erw.The order of service was as follows -A prayer by Mr W. Jones, Glynarthen, a sermon on the nature of a church by Mr Thomas, Penrhiwgaledprofession of faith was acceptedby Mr R. Jones Ffaldybrenin.The ordination prayer given by Mr T. Jones, Saron, a sermon on the duty of a minister by Mr S. Griffiths, Horeb and on the duties of a church by Mr Davies, Cardigan. Because the old brewery was no longer suitable to worship in, ground was found to build a chapel, which was completed in 1842. The number of members moving to the new chapel was 45, and when Mr Davies died in 1871 there were150.In May 1872 a call was sent to Mr John Thomas, student in Bala and nephew of the well known Dr  Phillips, Neuaddlwyd. He was ordained on August 1st of the same year. The following officiated Messrs R. Rowlands, Llanon ; R. P. Jones, Pencadair; W. Evans, Aberaeron; R. Thomas, Penrhiwgaled; T. Rees, Maenygroes; J. Davies, Glyn; T. Phillips, Horeb; O. Thomas, Brynmair ; W. B. Marks, Salem ; E. A. Jones, Castellnewydd; T. Jones, Parcyrhos, a T. Thomas, Llanfair. Soon after Mr Thomas came here it was the chapel was too small and not up to the current standards. The old chapel was demolished in August1873, and it is intended to open the new one in June 1874. It cost between six and seven hundred pounds.There have been many constant and faithful brothers and sisters with this cause from the start. Among those that were involved with the building of the first chapel are:- Thomas Davies, Pantmawr ; Samuel Evans, Coedeiddig ; George Leigh, Blaenplwy, and David Davies, who lived in the town. There still remain some of the sisters who were founders of the cause. We hope that Mr Thomas' ministry will be very successful. It is not an easy task to keep an Independent cause going, in a place like Lampeter, where the influence of  the Established Church is so strong due to the College training so many  people. The teachers and the students spend hundreds if not thousands of pounds per year, and that  must influence, more than anything else, in favour of the Established Church in the minds of local businessmen and others. We do not know of anyone who was raised to preach here.

BIOGRAPHICAL NOTES*

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

DAVID DAVIES - born Blaenplwyf, Troedyraur in 1806 -

95

Confirmed Neuaddlwyd 1822 - Started preaching Groeslon, Anglesey, 1828 - Ordained Lampeter 1841 - Died 1871 - Married Mrs Margaret Lloyd - She died May 20th, 1873.

PARC Y RHOS

(Pencarreg, CMN parish)

Mae y lle hwn yn mhlwyf Pencareg, o fewn ychydig gyda milldir i Lanbedr, ond yn sir Gaerfyrddin. Mae y lle o'r dechreuad yn nghyfundeb sir Aberteifi. Pregethwyd llawer yn yr ardal yn Gelliddewi, Coedeiddig, a Thawelan gan weinidogion Rhydybont a Ffaldybrenin ; ac yr oedd amryw o aelodau yr eglwysi hyny yn byw yn yr ardal, y rhai y mae eu coffadwriaeth yn berarogl hyd y dydd hwn. Nis gallwn eu crybwyll yma, ond yr oedd Thomas Davies, Coedeiddig, yn uwch o'i ysgwyddau na hwynt oll, ac mewn gwybodaeth, a dawn, ac ysbryd gweithio, anhawdd fuasai cael neb yn rhagori arno. Cychwynodd gyfarfod gweddi misol yn ei dý ei hun, ac un wythnosol o dý i dý yn y gymydogaeth, a dechreuodd ysgol Sabbothol yn Parcyrhos. Corpholwyd yma eglwys yn 1840, gan Mr. J. Lewis, Rhydybont, mewn tý a roddwyd gan Mr. W. Williams, Parcyrhos, ac a gyfaddaswyd i fod yn lle at addoli. Yn 1841, cymerodd Dr. Davies, Ffrwdyfal, ofal y lle, a bu yn dyfod yma yn gyson hyd 1855, pryd y dewiswyd ef i fod yn athraw yr athrofa yn Nghaerfyrddin. Yr un flwyddyn cymerodd Mr. Thomas Jones, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Nhy'nygwndwn, ofal yr eglwys, ac y mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad mawr. Gan fod yr hen dý, yn anghyfleus, meddyliwyd am adeiladu capel, ac yn 1859, cafwyd lês o 99 mlynedd gan y Milwriad Wood ar chwarter erw o dir, am swllt y flwyddyn o ardreth, ar ochr y ffordd o Lanbedr i Lanymddyfri. Nid yw yn gapel mawr, ond y mae yn un prydferth, ac yn ddigon eang i angen yr ardal. Agorwyd ef yn nechreu Awst, 1860, a thalwyd am dano ar unwaith. Bethel yw enw y capel, ond wrth yr enw Parcyrhos yr adwaenir ef fynychaf. Mae golwg siriol ar yr achos yma yn ei holl ranau.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM DAVIES, PH.D. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1804, mewn lle a elwir Crofftycyff, yn mhlwyf Llanycrwys, yn sir Gaerfyrddin. Ymunodd a eglwys yn Ffaldybrenin yn lled ieuangc, lle hefyd, yn mhen ychydig, *

*Continued on next page

Translation by Maureen Saycell (Sept 2008)

This place is in Pencarreg Parish, about a mile from Lampeter but in Carmarthenshire. The church has always beenin the Cardiganshire union.Much preaching took place within the area at Gelliddewi, Coedeiddig and Ffaldybrenin by ministers from Rhydybont and Ffaldybrenin, many members of those churches lived in this area, their memory is sweet to this day. We cannot mention them here but Thomas Davies, Coedeiddig was head and shoulders above them in knowledge, talent,and industry, and it would be hard to beat him.He initiated Prayer Meetings monthly in his own house, and wekly in various houses in the area as well as a Sunday School in Parc y Rhos. A church was established here in 1840 by Mr J Lewis, Rhydybont in a house donated by Mr W Williams, Parcyrhos, which was adapted for worship. In 1841 Dr. Davies, Ffrwdyfal, took on it's care, and attended regurlarly until1855, when he was chosen to teach in Carmarthen College. In the same year Mr Thomas Jones, who used to be minister in Ty'ngwndwn, took on the care of the church, and continues to minister here. The old house was not ideal and the idea of building a chapel began, and in 1859 a lease for 99 years was taken for a quarter of an acre, at a price of one shilling, from Milwriad (?Marshall) Wood, situated on the road from Lampeter to Llandovery. It is not a large Chapel, but handsome and large enough for the demand of the area. It was opened at the beginning of August, 1860, and it was paid for immediately. The chapel was named Bethel, but usually known as Parc y Rhos. There is a hopeful aspect to the whole cause.

BIOGRAPHICAL NOTES*

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated

WILLIAM DAVIES, PH.D. - Born 1804, Crofftycyff, Llwyncrwys, Carmarthen - After Carmarthen College recaeived a call to Somerset - returned 1835 and opened a School in Ffrwdyfal - opened another School at Troedrhiw Alltwallis for short period - to teach at Carmarthen College - never married - Died December,10th, 1859 aged 55 - buried Elim, Ffynnondrain, Carmarthen.

 

  CONTINUED


Return to top

[Gareth Hicks: 1 Oct 2008]