GENUKI Home page up Cardiganshire Contents Contents

 

 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

CARDIGANSHIRE section (Vol 4, pages 82 - 209)

The umbrella project for WALES is detailed  on this Genuki page where there is a contents listing for each county/section and data on what has been extracted/translated already.
This is the complete Cardiganshire section of Volume 4, in Welsh -  any existing translations will be itemised on the above page.
This extraction is as it is in the book, chapel names and page numbers act as separators.
Pages are in groups of 14, each group will be on a separate page of Genuki.
Footnotes remain at the bottom of pages
Extraction by Gareth Hicks & Gareth Morgan (March / April 2008)

Chapels below (82-95) - proof read by Yvonne John (April 2008);


82 - 95

82

EBENEZER, LLANGYBI

Cyn y gallwn yn drefnus roddi hanes yr eglwys hon, mae yn ofynol i ni fyned dros hanes yr hen eglwysi o ba rai y tarddodd, y rhai sydd er's oesau bellach wedi myned drosodd at enwadau eraill. Un eglwys yr ystyrid holl Ymneillduwyr y sir hon yn amser y Werin-lywodraeth, a Mr. Rees Powell o Lanbedr, a ystyrid fel eu prif weinidog. Ond ar ddyfodiad Deddf Unffurfiaeth i rym yn 1662, methodd Mr. Powell a dangos digon o nerth egwyddor i sefyll yn y tywydd garw oedd o flaen yr Anghydffurfwyr, ac felly yn mhen ychydig wedi cael ei droi allan o'i fywioliaeth eglwysig yn Llanbedr, cefnodd ar Anghydffurfiaeth, ac ymunodd a'r Eglwys Sefydledig. Mewn canlyniad i hyny, bu raid i Annibynwyr y sir edrych allan am un arall, mwy egwyddorol na Mr. Powell, i fod yn fugail arnynt. Disgynodd eu dewisiad ar Mr. David Jones, yr hwn a drowyd allan gan Ddeddf Unffurfiaeth, naill ai o Lanbadarnfawr neu o Lanbadarnodwyn. Nid ydym yn sicr o ba un o'r ddau le y trowyd ef allan. Parhaodd Mr. Jones i fod yn weinidog i'r eglwys eang a gwasgaredig hon hyd 1694, ac o bossibl, rai blynyddau ar ol hyny. Yn mhen uchaf y sir, trwy y gwahanol ardaloedd o Lanbedr i Lanbadarnfawr, y preswyliai yr aelodau yn benaf. Yr oedd Mr. Jones yn cael ei gynorthwyo yn y weinidogaeth gan amryw frodyr gweithgar a theilwng: - megis Morgan Howell, John Hanmer, Evan Hughes, ac eraill. Yn y flwyddyn 1672, pan roddwyd ychydig ryddid i'r Anghydffurfwyr, cymerodd y pregethwyr hyn drwyddedau i bregethu, a thrwyddedwyd amryw anedddai i fod yn lleoedd at addoli ynddynt. Cafodd Morgan Howell drwydded i bregethu yn nhı John Jones, Llwynrhys, yn mhlwyf Llanbadarnodwyn, Hydref 28ain, 1672. Hefyd yr un dydd, trwyddedwyd tai Dafydd Rees, Llanfihangel; Phillip Dafydd, o ryw le nas medrwn ddarllen yr enw yn yr hen lawysgrif; Dafydd Jones o Landdewibrefi; Dafydd Hughes, Cellan, ac Evan Dafydd, Llanbadarn, a chymerodd Dafydd Jones ac Evan Hughes drwyddedau i bregethu yn y lleoedd hyn fel gweinidogion Annibynol.* Wedi cael nawdd Deddf Goddefiad, casglwyd cynnulleidfaoedd rheolaidd yn Cellan, Cilgwyn, Llwynypiod, Abermeurig, Blaenpenal, Ciliau Aeron, Crugymaen, ac amryw fanau eraill. Wedi marwolaeth yr hen weinidogion a grybwyllwyd uchod, bu yr eglwysi hyn am oddeutu haner can' mlynedd dan ofal yr enwog a'r llafurus Philip Pugh, a'i gynorthwywyr a'i ragflaenoriaid, Jenkin Jones, Evan Davies, Timothy Davies, David Edwards, David Jenkins, James Davies, ac eraill. Yn y flwyddyn 1715, yr oedd y cylch gweinidogaethol hwn yn cynwys o saith i wyth o gynnulleidfaoedd, a thua mil o gymunwyr ynddynt. Felly nid rhyw nychdod o beth oedd Ymneillduaeth efengylaidd yn y parth hwn o Gymru yn y cyfnod bore hwnw. Cyfodwyd yn y cynnulleidfaoedd hyn o bryd i bryd luaws o bregethwyr enwog, yn mysg y rhai y gellir nodi Thomas Walters, Rhaiadrgwy ; Evan Davies, gynt athraw yr athrofa yn Nghaerfyrddin; Solomon Harries, Abertawy; Evan Davies, Llanedi, ac amryw eraill. Yn nghanol yr ardal hon, yr hon oedd am bedwar-ugain-a-deg o flynyddau wedi bod yn cael ei gwrteithio a'i dyfrhau gan weinidogaeth efengylaidd a grymus, y cyfododd Rowlands, Llangeitho, yn 1735, fel un o brif

* State Papers for the year 1672.

83

sylfaenwyr Methodistiaeth Gymreig. Fel yr ydym wedi sylwi amryw weithiau eisioes, ac y cawn achlysur i sylwi etto, nid yn yr ardaloedd mwyaf paganaidd o Gymru, ond yn yr ardaloedd mwyaf crefyddol ac Ymneillduol yn ddieithriaid y cychwynodd Methodistiaeth, ac felly y mae yn llawn cymaint o gangen o'r hen enwadau Ymneillduol ag ydyw o'r Eglwys Wladol, os nad yn wir, mewn rhyw ystyr, yn fwy felly.

Yn y flwyddyn 1760, bu farw Mr. Phillip Pugh, ac erbyn yr amser hwnw, yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion ieuaingc a dysgedicaf siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin yn gogwyddo at Belagiaeth neu Ariaeth. Yr oedd yr egwyddorion hyn wedi cael eu pregethu a'u credu gan rai yn y Ciliau, y Cilgwyn, a Chae'ronen, neu Gellan, cyn marwolaeth Mr. Pugh, a pharai hyny ofid nid bychan iddo yn ei henaint. Wedi ei farwolaeth, aeth y tair cynnulleidfa rag-grybwylledig yn Belagiaid, ac yn raddol yn Ariaid ac Undodiaid, ac felly y maent hyd y dydd hwn, oddieithr y Cilgwyn, Arminiaid y proffesant hwy eu hunain. Y nifer yn yr eglwysi hyn a lynent wrth olygiadau y tadau, a sylfaenasant yr achosion, ac a ymneillduasant o'r cynnulleidfaoedd oherwydd nas gallent archwaethu y weinidogaeth, a gychwynodd yr achosion sydd yn bresenol yn Ebenezer, Ty'nygwndwn, a'r Neuaddlwyd. Tra yr aeth tair o gynnulleidfaoedd Mr. Pugh yn Ariaid ac Undodiaid, aeth tair eraill o honynt o radd i radd yn Fethodistiaid, sef Llwynypiod, Blaenpennal, ac Abermeurig. Yn fuan wedi marwolaeth Mr. Pugh, rhoddodd y cynnulleidfaoedd hyn alwad i Mr. Thomas Gray, myfyriwr yn yr athrofa Annibynol yn Abergavenny. Aeth Mr. Gray yn dra buan wedi iddo ymsefydlu yma i ymgyfeillachu a Mr. Rowlands, Llangeitho, a'r Methodistiaid. Gwahoddid ef yn fynych i bregethu yn addoldai y Methodistiaid, a gwahoddai yntau eu pregethwyr hwy i'w gapeli yntau. Yn raddol nesaodd yn nes-nes at y Methodistiaid, ac ymddieithrodd oddiwrth ei enwad ei hun, fel yr ystyrid ef cyn diwedd ei oes yn Fethodist, er mai gweinidog Annibynol ydoedd hyd ei ddiwedd. Pan y bu farw yn 1810, ar ol bod yma yn weinidog am haner can' mlynedd, yr oedd y rhan fwyaf o'r hen Annibynwyr wedi meirw, a'r genhedlaeth a dderbyniasid i'r eglwysi yn nhymor ei weinidogaeth ef wedi eu dwyn i fyny mewn egwyddorion Methodistaidd, ac yn gymharol ddyeithr i Annibyniaeth a'r Annibynwyr. Bu Mr. Gray yn foddion i gau allan Annibyniaeth o'r parthau hyn am byth, oddieithr i ryw Fethodist ddyfod yma ac ymddwyn at y Methodistiaid fel yr ymddygodd Mr. Gray at yr Annibynwyr.

Darfu i'r eglwys yn y Cilgwyn barhau mewn cysylltiad a'r enwad Annibynol, neu y Presbyteriaid, fel y gelwid hwy yn fynych yn y dyddiau hyny, am rai blynyddau ar ol marwolaeth Mr. Pugh, er nad oedd cydolygiad yn mysg yr aelodau ar rai o brif athrawiaethau crefydd. Ond yn y flwyddyn 1770, neu 1771, daeth Mr. David Lloyd, Llwynrhydowen, yr hwn oedd Ariad proffesedig, yno yn lled fynych fel cynorthwywr i'r gweinidog, Mr. Timothy Davies. Achlysurodd hyn gryn aflonyddwch yn yr eglwys, ac er rhagflaenu rhwygiad, addawodd Mr. Davies na chawsai Mr. Lloyd ddyfod yno mwyach, etto, trwy ddylanwad un o'r aelodau cyfoethocaf, yr hwn oedd yn berthynas agos i Mr. Lloyd, mynwyd ef yno yn fuan drachefn i bregethu ar y Sabboth cymundeb. Yr oedd Mr. Davies, fel y tybiwn, wedi marw erbyn hyn. Gwnaeth hyny y rhwyg yn anocheladwy. Ymadawodd deg-a-deugain o'r aelodau, ac ar ol bod am ychydig amser yn addoli mewn tai anedd yn y gymydogaeth, adeilad-

84  

asant gapel bychan, yr hwn a enwasant yn Ebenezer, ac agorwyd ef tua diwedd y flwyddyn 1772. Yn fuan wedi hyny, rhoddasant alwad i Mr. Phillip Maurice, myfyriwr yn yr athrofa yn Abergavenny. Wedi gorphen ei amser yno, daeth atynt, ac urddwyd ef yma yn y flwyddyn 1775, ac yma y bu yn barchus a chymharol lwyddianus hyd derfyn ei oes yn y flwyddyn 1820. Yr oedd Ty,nygwndwn, mewn cysylltiad ag Ebenezer, dan ofal Mr. Maurice trwy holl dymor ei weinidogaeth. Yn Hydref, 1810, urddwyd Mr. John Maurice yn gynorthwywr i'w dad yn holl gylch ei weinidogaeth, ond cyn pen blwyddyn symudwyd y gwr ieuangc gobeithiol hwn trwy farwolaeth. Yn mhen ychydig wedi marwolaeth Mr. John Maurice, rhoddwyd galwad i Mr. James Phillips, o athrofa y Neuaddlwyd, i fod yn gynorthwywr i Mr. P. Maurice, ond ni bu ei arosiad ef yma ond ychydig. Derbyniodd alwad o Bethlehem, St. Clears, a symudodd yno yn 1814. Ni bu yma mwyach yr un cynorthwywr sefydlog i'r hen weinidog tra y bu ef byw. Yn nechreu y flwyddyn 1821, rhoddwyd galwad i Mr. Griffith Griffiths, o athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yma Ebrill 5ed, yn y flwyddyn hono. Bu Mr. Griffiths yma yn llafurus a pharchus iawn hyd y flwyddyn 1837, pryd y symudodd i Casnewydd, Mynwy. Dilynwyd Mr. Griffiths yma am ychydig amser gan un Mr. Richard Owen, genedigol o sir Fon, ac urddwyd ef yma Awst laf, 1837. Bu yma hyd ddiwedd 1841, pryd y barnodd fod ysgafnach gwaith a brasach porfa yn yr Eglwys Wladol nag yn mysg yr Ymneillduwyr, ac felly aeth i'r eglwys hono, lle y bu hyd ei farwolaeth. Yn niwedd y flwyddyn 1843, rhoddwyd galwad i Mr. David Stephens, aelod o eglwys Capel Isaac, ac urddwyd ef i fod yn weinidog yma, ac yn Llanfaircludogau. Cymerodd ei urddiad le Chwefror 21ain a'r 22ain, 1844, pryd y pregethwyd gan Meistri Griffiths, Horeb ; Saunders, Aberystwyth ; Thomas, Bwlchnewydd ; Jones, Rhydybont ; Williams, Llandeilo; Williams, Llangadog; Davies, Aberteifi, ac eraill, yn Ebenezer a Llanfair. Bu Mr. Stephens yma yn llwyddianus pharchus gan fyd ac eglwys hyd 1852, pryd y symudodd i Glantaf, Morganwg, lle y bu farw. Dilynwyd Mr. Stephens yma ac yn Llanfair gan Mr. Thomas Thomas, y gweinidog presenol, yr hwn a ymsefydlodd yma yn fuan ar ol ymadawiad Mr. Stephens, ac y mae wedi llenwi ei le fel gweinidog defnyddiol a gwladwr parchus. Yr oedd Mr. Thomas wedi bod yn weinidog defnyddiol am tua phum' mlynedd yn Nebo a Hebron, sir Gaernarfon, cyn dyfod yma.

Ailadeiladwyd y capel yma yn nhymor gweinidogaeth Mr. R. Owen, ac yn mhen rhai blynyddoedd wedi sefydliad Mr. Thomas yma, rhoddwyd oriel ynddo, fel y mae yn awr yn gapel helaeth a chyfleus, ac yn cael ei lenwi a chynnulleidfa fywiog. Mae yma fynwent yn nglyn a'r capel, yn yr hon y gorwedda cyrph Meistri P. a J. Maurice. Yr oedd yr eglwys yma yn un o'r rhai cyntaf a fendithiwyd a'r diwygiad nerthol yn 1858, ac mae yr Arglwydd yma yn ychwanegu beunydd at yr eglwys.

Nid ydym yn cael i neb godi i bregethu yma ond John Maurice, mab yr hen weinidog.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

Gan mai Ebenezer, Ty'nygwndwn, a'r Neuaddlwyd, sydd yn bresenol yn cynrychioli golygiadau duwinyddol ac eglwysig gweinidogion cyntaf y Cilgwyn, Cae'ronen, a Chiliau Aeron, yma y rhoddwn eu bywgraphiadau.

85

REES POWELL. Efe, fel yr ymddengys, oedd gweinidog cyntaf yr eglwys, neu yr eglwysi Ymneillduol yn y sir hon, ond fel y nodasom eisoes, methodd deimlo yn ddigon gwrol i wynebu yr erlidiau yr oedd yr Ymneillduwyr yn agored iddynt, ac felly yn fuan wedi cael ei droi allan gan Ddeddf Unffurfiaeth o Eglwys Blwyfol Llanbedr, efe a ddychwelodd i'r Eglwys Sefydledig. Nis gwyddom pa bryd na pha le y bu farw.

JOHN EVANS. Ganwyd ef yn rhywle yn y sir hon. Yr oedd yn pregethu yn Eglwys Blwyfol Bangor, rhwng Castellnewydd-Emlyn a Llandysil, pan ddaeth Deddf Unffurfiaeth i rym, a throwyd ef allan oddiyno gan y ddeddf hono. Yr oedd ef wedi bod yn ddyn ieuangc gwyllt iawn, ond cafodd ei ddychwelyd yn effeithiol at yr Arglwydd un prydnawn Sabboth wrth wrandaw pregeth, ar ol iddo fod trwy y boreu hwnw yn halogi dydd yr Arglwydd. Yn fuan ar ol ei droedigaeth ymgyflwynodd i waith weinidogaeth. Bu am rai blynyddau cyn 1662 yn wasanaethgar iawn i'r gynnulleidfa Ymneillduol yn Nghellan, ac i gynnulleidfaoedd eraill, ond bu farw yn mhen ychydig amser ar ol cael ei droi allan o Bangor, yn Awst, 1662. Nis gwyddom yn mha le y claddwyd ef.

JOHN HANMER. Un genedigol o sir Faesyfed oedd ef. Bu yn amser y Werin-lywodraeth yn pregethu yn deithiol yn siroedd Maesyfed, Brycheiniog, ac Aberteifi. Ar ol y flwyddyn 1662, bu am rai blynyddau yn gwasanaethu yr eglwysi Ymneillduol yn Nghellan, Cilgwyn, a lleoedd eraill, ond pan boethodd yr erledigaeth, symudodd i'w sir enedigol, lle y terfynodd ei oes mewn henaint teg. Parhaodd i bregethu cyhyd ag y bu byw, cyn belled ag y goddefai amgylchiadau iddo wneyd. Nis gwyddom pa bryd y bu farw. Yr oedd yn fyw yn 1672, a bu am ychydig ddyddiau yn y flwyddyn hono yn cyd-deithio a Mr. Henry Maurice. *

DAVID JONES. Yr ydym yn barnu ei fod ef yn frawd i Mr. John Jones, Llwynrhys, yn mhlwyf Llanbadarnodwyn. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Christ Church, Rhydychain, Tachwedd 10fed, 1654. Dywedir ei fod yn ddyn dysgedig, ac yn bregethwr eglur a llwyddianus. Dywed Dr. Calomy, mai o Lanbadarnfawr y trowyd ef allan gan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662, ond yr ydym ni yn barnu mai Llanbadarnodwyn ydoedd, ac mai hwnw oedd ei blwyf genedigol. Yn Llwynrhys, yn y plwyf hwnw, yn benaf, y cyfarfyddai yr eglwys Ymneillduol yn amser yr erledigaeth, yr hon ar ol cael nawdd Deddf Goddefiad, a ymranodd i wahanol gynnulleidfaoedd, ac a adeiladodd addoldai yn Nghellan, y Cilgwyn, Llwynpiod, Crugymaen, Ciliau Aeron, Abermeurig, a Blaenpennal. David Jones oedd prif weinidog yr eglwys hon mor ddiweddar a'r flwyddyn 1694. Nis gwyddom pa cyhyd y bu byw ar ol hyny. O'r darfodedigaeth y bu farw.

EVAN HUGHES. Un genedigol o'r sir hon ydoedd. Trowyd ef allan o Landyfriog gan Ddeddf Unffurfiaeth. Yr oedd yn bregethwr eglur a dengar iawn, a bu ei weinidogaeth yn fendithiol i lawer. Cyfarfyddodd a llawer o dywydd garw, ac yr oedd yn dra isel yn ei amgylchiadau bydol, ond yr oedd yn foddlongar iawn, ac yn barchus o fewn boll gylch ei gydnabyddiaeth. Nis gwyddom pa bryd y bu farw. Yr oedd yn fyw ac yn henaduriad athrawiaethol yn yr eglwys Ymneillduol yn y sir hon yn 1694.

MORGAN  HOWELL. Yn mhlwyf y Bettwsbledrws, gerllaw Llanbedr, y ganwyd ac y treuliodd ef ei oes. Mae yn ymddangos ei fod uwchlaw y

* Rees's History of Nonconformity in Wales. Page 240.

86

cyffredin yn ei amgylchiadau bydol, ac ystyrid ef yn dipyn o fardd gan ei oes. Cymerodd ei droedigaeth le dan yr amgylchiadau rhyfedd a ganlyn: -  Yn y flwyddyn 1654, yr oedd Walter Cradock wedi cael ei gyhoeddi i bregethu mewn rhyw fan, naill ai yn y Bettws neu Langybi, a chan y disgwylid mwy o dorf i'w wrandaw nag a gynwysai yr un Eglwys Blwyfol nac anedd-dy yn yr ardal, penderfynwyd iddo bregethu ar esgynlawr yn yr awyr agored. Gan na feiddid erlid yr un pregethwr trwy gyfraith y pryd hwnw, gwnelai gelynion crefydd bob peth a fedrent i aflonyddu yr addoliadau crefyddol. Y tro hwn, casglodd Morgan Howell haid o langciau annuwiol i fyned gydag ef i'r cae lle yr oedd Mr. Cradock i bregethu, i chwareu pel droed ar amser y gwasanaeth. Dechreuodd y pregethwr ar ei waith, a dechreuodd Morgan Howell a'i blaid ar eu gwaith hwythau. Wrth fyned a'r chwareu yn y blaen amcanodd un o'r chwareuwyr roddi troediad i'r bel i wyneb y pregethwr, ond yn lle taro y bed, tarawodd grymog ei gyfaill, Morgan Howell, nes tori un o esgyrn ei goes, yr hyn a'i hanalluogodd i wneyd dim yn ychwaneg gyda'r chwareu. Tra yn gorwedd ar y llawr, cyrhaeddodd llais a geiriau y pregethwr ei glust a'i galon, a thorwyd peth oedd galetach nag asgwrn ei goes, sef ei galon galed. O'r dydd hwnw allan bu yn ddyn crefyddol iawn, ac am lawer o flynyddoedd yn bregethwr defnyddiol. Ymunodd a'r eglwys Ymneildduol yn ardal Cilgwyn yn Chwefror, 1655. Yr oedd yn fyw ac yn henaduriad athrawiaethol yn yr eglwys hono yn 1694. Mae yn debyg iddo farw yn lled fuan ar ol hyny.

DAVID EDWARDS. Y cwbl a wyddom am dano ef ydyw, iddo gael ei urddo yn 1688, yn weinidog cynorthwyol yn Nghae'ronen, Cellan, a'r eglwysi eraill yn y cylch gweinidogaethol hwn, a'i fod yn y sefyllfa hono yn 1715. Darlunir ef fel ysgolhaig rhagorol a phregethwr da. Mae amser ei farwolaeth yn anhysbys i ni. Bu ei weddw, Jane Bowen o Hwlffordd, fyw lawer o flynyddau ar ei ol ef. Yn Nghaerfyrddin y bu hi farw.

JENKIN JONES.  oedd ef yn fab i John Jones, Llwynrhys, ac yn nai i David Jones, am yr hwn y crybwyllwyd eisioes. Yr oedd brawd iddo yn swyddog lled uchel yn y fyddin yn amser Gwilym III. Cyhoeddodd gyfrol yn yr iaith Saesonig o hanes bywyd y brenhin Gwilym yn 1702, a chyfieithiad o'r Frangaeg o waith Perzron ar hynafiaethau gwahanol genhedloedd. Derbyniwyd Jenkin Jones yn aelod eglwysig Ionawr 12fed, 1695, a bu farw yn 1725. Yn y rhan o'r gynnulleidfa a gyfarfyddai yu Nghrugymaen yr oedd ef yn gweinidogaethu yn benaf. Mae rhai wedi dyweyd mai yr un yw y Jenkin Jones hwn a Jenkin Jones, Llwyn-rhyd-owen, ond camgymeriad yw hyny.

DAVID JENKINS. Urddwyd ef yn Mehefin, 1708, i fod yn weinidog benaf yn Crugymaen, ond i gymeryd ei ran yn holl gylch y weinidogaeth yn y Cilgwyn, Abermeurig, Ciliau Aeron, a lleoedd eraill. Mae yr achos Annibynol yn Crugymaen wedi darfod er's oesau, a'r Bedyddwyr wedi bod ar eu hol yno. Bu Mr. Jenkins yn myned yn fisol, neu fynychach, i Drelech am lawer o flynyddau, a bu am ryw ysbaid yn myned yn fisol i Gefnarthen. Bu fyw i henaint teg. Rhoddodd ei ddylanwad o du yr eglwysi Calfinaidd a ffurfiwyd yn Ebenezer, Ty'nygwndwn, a'r Neuaddlwyd pan dorasant eu cysylltiad a'r Cilgwyn a Chiliau Aeron. Yr oedd yn fyw yn 1775, ac yn flwyddyn hono darlunir ef fel yn dal cysylltiad a'r Neuaddlwyd ac Ebenezer. Nis gwyddom pa cyhyd y bu fyw ar ol y flwyddyn hono.

87

PHILLIP PUGH. Yr oedd y gweinidog rhagorol hwn yn enedigol o gymydogaeth Llangybi, neu Landdewibrefi. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1679. Mae yn ymddangos fod ei rieni yn feddianol ar gryn lawer o gyfoeth. Derbyniodd ef ran o'i addysg yn athrofa enwog Mr. Samuel Jones, Brynllywarch. Urddwyd ef yn mis Hydref, 1709, i fod yn gyd- weinidog a'r Meistri David Edwards, Jenkin Jones, a David Jenkins, yn y Cilgwyn, Blaenpennal, Crugymaen, y Ciliau, a manau eraill, ac yn y cylch eang hwn y bu yn llafurio gyda pharch a llwyddiant mawr hyd derfyn ei oes. Er nad oedd ef ond un o bedwar o weinidogion yn y cylch gweinidogaethol hwn, darfu iddo, fel y dengys ei gofnodion yn llyfr eglwys y Cilgwyn, fedyddio o fabanod o Rhagfyr, 1709, hyd Mawrth 20fed, 1760, chwe'.chant-a-phedwarugain, yr hyn a ddengys fod Ymneillduaeth yn rhyfeddol o gryf yn y parthau hyn o Gymru y pryd hwnw, yn enwedig pan y cymerir i ystyriaeth fod rhagfarn dirfawr yn erbyn bedyddio plant gan weinidogion Ymneillduol yn meddyliau y werin yn yr oes hono. Bu farw Gorphenaf 12fed, 1760, ac ar y 15fed o'r un mis, claddwyd ef yn mynwent Llanddewibrefi.

Mae yn ymddangos i Mr. Pugh fwy nag un-flynedd-ar-bymtheg cyn ei farwolaeth ei hun gael ei amddifadu o'i wraig a'i blant oll, canys yr ydym yn cael y sylwadau duwiol a ganlyn yn ei ddydd-lyfr, gyferbyn a Gorphenaf 13eg, 1744 :- " Yr ydwyf heddyw yn edrych arnaf fy hun fel dyn unig, wedi cael fy ngadael yn yr anialwch wrthyf fy hunan. Mae fy nghyfeillion a'm perthynasau anwyl yn ol y cnawd wedi fy ngadael, a myned i ffordd yr holl ddaear o'm blaen. Yr ydym yn pechu bendithion penaf y byd hwn o'n meddiant yn fynych, ac yn eu gwneyd yn achos gofid trwy eu camddefnyddio. Pechais ymaith fy holl berthynasau anwyl a mwyaf hoffus genyf ar y ddaear. Nid oes genyf yn bresenol na thad na mam, na phriod nac un plentyn yn y byd hwn i lawenhau ynddynt, i obeithio am un cysur oddiwrthynt, nac i ofidio yn eu cylch. Y mae arnaf ofn, tra yr oeddwn yn meddu y rhai hyn oll, fy mod rywfodd wedi camymddwyn tuag atynt, trwy osod fy meddwl yn ormod arnynt, neu dreulio gormod o'm hamser i ofalu am danynt hwy a'u hachosion, neu fod yn fwy pryderus yn eu cylch hwy nag am adnabod cariad fy Nuw yn Nghrist, ac am lwyddiant ei achos yn y byd. Ond er fod y diferion o gysuron oll wedi  sychu i fyny, etto y mae ffynon fy nghysuron heb sychu i fyny na lleihau. Mae fy ngweddi atat ti, O Arglwydd, am i ti o'th drugaredd, trwy lesu Grist, faddeu fy aml gamweddau a wnaethum o, a thuag at, fy mherthynasau ymadawedig ; a'th fod, fy Nuw, yn fy ngwneyd yn fwy ffyddlawn mewn gwneyd a dyweyd drosot yn y byd, heb geisio rhyngu bodd dynion, nac ofni eu hanfoddlonrwydd ychwaith. Fy nymuniad a'm gweddi ydyw, na bydd genyf wrthrych ar y ddaear mwyach i osod fy meddwl arno ond fy Nuw, a'm Crist a'i bethau tragywyddol. Efe fyddo pob peth, yn mhob peth, ac yn lle pob peth er fy nedwyddwch a'm cysur; oblegid y mae efe ei hun yn holl-ddigonol i lenwi lle pob perthynas. Am hyny, bydded fy nghwbl o hono, a'm cwbl arno, a'm cwbl iddo, tra byddwyf byw yn y byd, ac yn dragywydd."

Yr oedd Mr. Pugh yn sefyll yn uchel yn ngolwg y wlad oherwydd ei fod yn berchenog amryw diroedd, ond ei dduwioldeb, a'i ddysg, a'i lafur dibaid a llwyddianus yn y weinidogaeth, oedd prif elfenau ei enwogrwydd. Yr oedd yn ddyn o ysbryd cyhoeddus iawn. Teithiai i bob parth o Gymru i gyfarfodydd gweinidogion, urddiadau, ac agoriad capeli, ac edrychid i

88

fyny ato yn mhob man fel un o ragorolion o ddaear. Rai blynyddau cyn ei farwolaeth ef yr oedd udgorn y weinidogaeth Ymneillduol yn llawer o bulpudau Cymru wedi myned i roddi sain anhynod, a'r athrawiaethau yr ymddibynai yr hen dadau Ymneillduol arnynt am eu bywyd, wedi myned i gael eu hameu,  gwrthwynebu, a'u gwawdio gan lawer o bregethwyr ieuaingc, a ystyrient eu hunain yn philosophyddion llawer doethach na'u hynafiaid. Parai y gwyrad hwn oddiwrth yr hyn a ystyriai yn wirionedd hanfodol yr efengyl ofid calon i Mr. Pugh, fel y dengys y sylwadau canlynol a ysgrifenwyd ganddo yn ei ddydd-lyfr; -" 1744. Yr wyf yn edrych arnaf fy hun yn y dyddiau hyn fel wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun ; canys y mae llawer o'm cyfeillion, y rhai yr hoffaswn eu cymdeithas yn fawr, wedi myned yn mhell i ochr y ddyfais newydd mewn crefydd, fel y gelwir hi, yr hon, yr wyf yn dra sicr yn fy meddwl, nad ydyw yn drefu Duw ; oblegid y mae yn eglur i mi ei bod yn ddyfais sydd yn codi ac yn gosod dyn i fyny yn achubiaeth pechadur, yn lle golud gras fy Nuw. Ac nid wyf yn gweled fod neb o'i phleidwyr yn dangos y mesur lleiaf o nefolrwydd meddwl, a'r sobrwydd, y difrifoldeb, a'r symledd duwiol sydd yn gweddu i efengyl Crist, ond ymsuddant i ysbryd y byd hwn, ac i ysgafnder a dideimladrwydd calon tuag at ymarferiadau pwysicaf crefydd. Ie, y maent yn amcanu dymchwelyd ffydd yr efengyl trwy eu chwedlau cyfrwysgall."

Ar amser arall ysgrifena : - " Mae fy meddwl yn dra thrallodus a therfysglyd yn y dyddiau hyn, wrth glywed a deall am gyflym rediad Arminiaeth ac Ariaeth yn yr eglwysi, a'r cefnogrwydd y mae yr egwyddorion hyn yn gael oddiwrth y weinidogaeth yn mysg pobl fy ngof I. Y maent yn ymollwng dan ddylanwad y cyfryw egwyddorion i ysbryd deddfoldeb, a difaterwch o bethau pwysicaf crefydd, nes y maent yn colli pob teimlad dyladwy i'r efengyl, a phob tuedd at ymdrech i fywyd duwiol a defnyddiol. Yn yr amgylchiad gofidus, nis gwn pa bath a wnaf, na pha fodd y mae i mi ymddwyn. A pha beth fydd diwedd y pethau hyn ? O Arglwydd, atat ti y mae fy ngolwg, ac ynot ti yr ymddiriedaf; na'm gwaradwydder mewn dim. Cyfarwydda di fy ngherddediad, a threfna fy holl ffyrdd, a gwneler pob peth yn y fath fodd ag a fyddo fwyaf er dy ogoniant dy hun, a deued yr hyn a ddel o honof fi. Na âd i mi wyro o'th ffyrdd di mewn byrbwylldra, anwybodaeth, ac annoethineb, na llwfrhau mewn digalondid."

Y canlyniad o'r cymysgedd hwn mewn golygiadau, y teimlai yr hybarch weinidog gymaint o'i herwydd, fu i dair o'i gynnulleidfaoedd, yn fuan wedi ei farwolaeth, fyned yn Ariaid, sef Cae'ronen, y Cilgwyn, a Chiliau Aeron, ond y mae Ebenezer, Ty'nygwndwn, a'r Neuaddlwyd, a'u cangenau, yn yr ardaloedd hyny, etto yn dal at olygiadau efengylaidd Mr. Pugh a'i ragflaenoriaid yn y weinidogaeth. Yn Mlaengwern, yn mhlwyf Llanfaircludogau, y treuliodd Mr. Pugh weddill ei oes, os nad yno y bu trwy ei oes. Nid oedd un gweinidog yn Nghymru yn ei oes ef yn fwy ei ddylanwad a'i ddefnyddioldeb na'r gwr rhagorol hwn. Bu yr offeiriad ieuangc, Daniel Rowlands, Llangeitho, dan lawer o rwymedigaeth iddo am ei gynghorion a'i gyfarwyddiadau iddo ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus, ac yr oedd Mr. Rowlands yn cydnabod hyny trwy ei oes.

EVAN DAVIES. Urddwyd ef yn gynorthwywr i Mr. Phillip Pugh i weinidogaethu yn y Cilgwyn a'r lleoedd eraill. Ebrill 13eg, 1726, yr urddwyd ef, ac yr oedd y pryd hwnw yn haner cant oed. Mae yn

89

debygol ei fod yn bregethwr cynorthwyol flynyddau lawer cyn hyny. Bu farw Rhagfyr 10fed, 1747, yn 71 oed.

TIMOTHY DAVIES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1709. Nid ydym yn gwybod pa un a gafodd addysg athrofaol ai naddo. Brawd iddo ef oedd Mr. Evan Davies, gynt athraw yr athrofa yn Nghaerfyrddin, ond yr oedd bymtheg o flwyddi yn hın nag ef. Dechreuodd bregethu yn 1733, ac urddwyd ef yn gynorthwywr i Mr. Phillip Pugh, Mai 26ain, 1737. Priodwyd ef yn Eglwys Blwyfol Llangeitho gan Mr. John Rowlands, person y plwyf, Mehefin 19eg, 1740. Merch Blaenau, Cellan, oedd ei wraig. Bu iddynt deulu lluosog. Yr oedd y diweddar Dr. Evan Davies, Abertawy, yn un o'i hiliogaeth. Bu farw Mai 29ain 1771, yn driugain-a-dwy flwydd oed. Tuag amser ei farwolaeth ef y cymerodd yr ymraniad le yn y Cilgwyn, ac y dechreuwyd yr achos yn Ebenezer. Mae dydd-lyfr Mr. Davies, yn ei lawysgrifen ef ei hun, yn ein meddiant, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am amryw ddyddiadau a ffeithiau pwysig.

JAMES DAVIES. Efe oedd tad Meistri Evan Davies, Llanedi, a Daniel Davies, gynt o'r Ynysgau, Merthyr Tydfil. Urddwyd ef yn Crofft-y-cyff, a ac Owen Davies, wedi hyn o Drelech, yr un diwrnod, Hydref 7fed, 1743, i  fod yn gynorthwywr i Mr. Pugh, a'i gydweinidogion, yn Abermeurig, a manau eraill, a bu hefyd am ryw ysbaid yn weinidog cynorthwyol yn Mhencadair. Yn Mhlas Cilcenin y treuliodd weddill ei oes, ac yno y bu farw, ond nis gwyddom pa flwyddyn. Claddwyd ef yn mynwent Cilcenin.

PHILLIP MAURICE. Un genedigol o ardal Glandwr, sir Benfro, oedd ef. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1739. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Glandwr, ac wedi iddo fod yn bregethwr cynorthwyol yno am rai blynyddau, yn niwedd y flwyddyn 1770, cymeradwywyd ef fel myfyriwr i athrofa Abergavenny. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Ionawr, 1771. Ar derfyniad ei amser yno, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Ebenezer a Thy'nygwndwn, ac urddwyd ef yn weinidog iddynt yn 1775, ac yno y bu yn barchus a defnyddiol hyd derfyn ei oes. Bu farw Tachwedd 30ain, 1820, yn 81 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Ebenezer, lle yr oedd ei wraig wedi cael ei chladdu ddwy flynedd cyn hyny. Pregethodd Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yn ei angladd oddiar Actau viii. 2. Y testyn olaf y pregethodd Mr. Maurice arno ydoedd Psalm xxxvii. 25.

Nid oedd Mr. Phillip Maurice yn bregethwr mawr a phoblogaidd, ond yr oedd yn esboniwr rhagorol, a'r rhai a arferent ei wrandaw yn ei werthfawrogi yn fawr, oblegid y buasai yn anhawdd ei wrandaw un amser heb gael goleuni ar ryw ran o'r ysgrythyr ganddo. Cyfrifid ef gan bawb o'i gydnabod yn ddyn da a duwiol iawn.

JOHN MAURICE. Mab Phillip Maurice. Ganwyd ef Ebrill 24ain, 1787. Pan yn bymtheng mlwydd oed, derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Ebenezer, ac yn fuan wedi hyny dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin, lle yr amlygodd alluoedd meddyliol nodedig, ac yr enwogodd ei hun fel myfyriwr diwyd. Cyn gorphen ei amser yno, dewiswyd ef gan ei athraw, Mr. Peter, i fod yn is-athraw yn yr ysgol ramadegol a gedwid ganddo ef yn gysylltiedig a'r athrofa. Ar derfyniad tymor ei efrydiaeth yn yr athrofa, aeth i'r Sarnau a Domgay, yn sir Drefaldwyn, lle y bu yn pregethu ar brawf am rai misoedd. Cafodd

90

alwad unfrydol oddiwrth yr eglwysi hyny i sefydlu yn eu plith, ond gwrthododd gydsynio. Dewisodd yn hytrach dderbyn galwad i fod yn gynorthwywr i'w dad, ac i fod yn un o'r athrawon yn yr athrofa oedd ar gael ei sefydlu yn y Neuaddlwyd. Urddwyd ef Hydref 3ydd, 1810, ac agorwyd yr athrofa yn y Neuaddlwyd y dydd canlynol. Ond byr iawn fu ei dymor ef fel gweinidog ac athraw. Ebrill 17eg, 1811, aeth adref o'r athrofa yn glaf, ac ar y 24ain o'r un mis bu farw. Y darfodedigaeth oedd ei glefyd.

Yr oedd John Maurice yn ddyn ieuangc addawus iawn. Rhagorai fel ysgolhaig, ac yr oedd ei wylder a'i fwyneidd-dra yn ei wneyd yn anwyl gan bawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn bregethwr adeiladol iawn, ond lled anystwyth ei draddodiad. Mae yn ymddang os pe cawsai fyw y buasai yn troi allan yn un o'r athrawon effeithiolaf yn y Dywysogaeth, ond ewyllys yr Arglwydd oedd i'r blodeuyn wywo gyda bod ei flagur yn dechreu ymddangos.

Yr ydym yn y cofnodion uchod wedi rhoddi cymaint o hanes a allasom gasglu am bob gweinidog fu yn llafurio yn y cylch hwn, oddiar ffurfiad yr eglwys Ymneillduol gyntaf yma hyd yn bresenol, oddieithr Meistri G. Griffiths a D. Stephens. Y mae cofnodion am danynt hwy i'w cael yn nglyn a Mynyddsïon, Casnewydd, ac Ebenezer, Glantaf ; ac nid yw yn perthyn i ni, yn hanes eglwysi Annibynol, roddi hanes gweinidogion Ariaidd ac Undodaidd fuont yn Cae'ronen, y Cilgwyn, a'r Ciliau, wedi i'r Annibynwyr ymneillduo o'r lleoedd hyny.

  

CAPEL MAIR, LLANFAIRCLUDOGAU

Nid peth diweddar yw Ymneillduaeth yn y plwyf hwn. Yr oedd cynnulleidfaoedd lluosog yn Cae'ronen, ar y naill derfyn i'r plwyf, ac yn y Cilgwyn, ar y terfyn arall, dan ofal Mr. Phillip Pugh, a'i ragflaenafiaid, er amser Siarl II., a chyn hyny, ac yr oedd trigolion plwyf Llanfair, o angenrheidrwydd, yn gwneyd i fyny ran helaeth o'r cynnulleidfaoedd hyny. Yn Mlaenywern, yn y plwyf hwn, y treuliodd Mr. Phillip Pugh y rhan fwyaf o'i oes, ac nis gallasai gwr o'i dduwioldeb a'i ddylanwad ef, lai na dylanwadu yn ffafriol ar lawer o'i gymydogion. Wedi marwolaeth Mr. Pugh, ac ymdaeniad Ariaeth yn Nghae'ronen a'r Cilgwyn, nid ymddengys fod ond nifer fechan o Ymneillduwyr o syniadau efengylaidd i'w cael yma, ond yr oedd yma rai, a bu llaw ganddynt yn ffurfiad yr eglwys yn Ebenezer yn 1772. Yr hanes cyntaf sydd genym am adfywiad Ymneillduaeth efengylaidd yma, yw agoriad yr amaethdy a elwir Pentre', Llanfair, i bregethu yn achlysurol ynddo, tua'r flwyddyn 1790. David. John Morgan oedd yn cyfaneddu yno y pryd hwnw, ac yr oedd Sarah ei wraig yn un o aelodau ffyddlonaf Ebenezer. Y gweinidogion a'r pregethwyr a ddeuent fynychaf yr amser hwnw i bregethu yma, oeddynt David Morgan, Esgairdawe ; Phillip Maurice, Ebenezer; John Mathew Rhydderch, tad y diweddar Mr. Daniel Jones, Aber, Brycheiniog, a Thomas Griffiths, Ty'nycoed, Cellan. Yr oedd y ddau olaf yn aelodau ac yn bregethwyr cynorthwyol parchus yn Ffaldybrenin. Yn y flwyddyn 1799, bu farw Sarah Morgan o'r Pentre', a'r pryd hwnw rhoddwyd i fyny bregethu yno hyd y flwyddyn 1806, pryd y daeth ei mab, John David Morgan, a Rachel

91

ei wraig, i fyw yno. Yr oeddynt hwy ill dau yn aelodau selog a ffyddlon yn Ebenezer. Trwy eu hymdrech hwy rhentiwyd hen fragdy yn y gymydogaeth, a chyfaddaswyd ef yn y modd goreu y medrwyd i fod yn lle addoliad. Buwyd yma yn addoli hyd y flwyddyn 1825. Y rhai a bregethent fynychaf yma yn y blynyddau hyn oeddynt Meistri P. Maurice, Ebenezer; D. Jones, Crugybar; D. Phillips, Scythlyn, brawd Dr. Phillips, Neuaddlwyd, a Thomas Griffiths, Ty'nycoed. Cyn gosod i fyny bregethu cyson yn yr hen fragdy, yr oedd annuwioldeb yn ffynadwy iawn yn y gymydogaeth, ond trwy y pregethu mynych yma, y cyfarfodydd gweddio, a gynelid yn yr ardal gan aelodau o Ebenezer, Ffaldybrenin, a Rhydybont, a'r ysgol Sabbothol, a osodwyd i fyny yma gan yr hen bererin galluog a llafurus, Thomas, o Goedeidig, hen daid Mr. Davies, Siloa, Llanelli, moesolwyd a chrefyddolwyd llawer ar y lle. Tua y flwyddyn 1824, aeth yr hen fragdy yn rhy fychan ac anghyfleus, oherwydd fod gwaith mwn plwm wedi ei agor yn ei ymyl. Felly bu raid edrych allan am le cyfleus i adeiladu capel. Cafwyd tir ar etifeddiaeth Arglwydd Carrington, ac adeiladwyd arno addoldy bychan, ond lled gyfleus. Agorwyd ef Gorphenaf 13eg, 1825. Yn fuan wedi hyny corpholwyd yma eglwys. Cyn hyny byddai y rhai a ddeuent i'r cyfeillachau yn y bragdy yn myned i Ebenezer i gael eu derbyn yn aelodau. Yn y flwyddyn 1824, ymunodd Mr. Thomas Griffiths, Pentre', a'r achos, a throdd allan i fod yn un o'r crefyddwyr mwyaf selog a defnyddiol yn y wlad hon. Efe fu a'r llaw flaenaf yn adeiladu y capel cyntaf, yn gystal a'r ail. Yr oedd ef yn fab i Thomas Griffiths, Ty'nycoed, a grybwyllwyd yn barod, ac yn wyr i Sarah Morgan, yr hon a fu yn brif offeryn i ddechreu yr achos yn y lle. Mae y gwr da hwn wedi cael ei gasglu at ei dadau er Mehefin 24ain, 1861, pryd yr oedd yn 73 oed, ond y mae ei blant yn llenwi ei le yn yr eglwys, ac yr ydym yn hyderu y parhâ ei hiliogaeth o oes i oes i lynu wrth Dduw eu tadau. Y gweinidog yma o ffurfiad yr eglwys hyd 1837, oedd Mr. G. Griffiths, gweinidog Ebenezer ; bu ei ganlyniedydd, Mr. R. Owen, yma ac yn Ebenezer am ychydig amser. Fel y nodwyd yn hanes Ebenezer, urddwyd Mr. David Stephens yn weinidog i'r ddwy eglwys yn Chwefror, 1844, a bu yn llafurio yn y cylch hwn yn barchus a llwyddianus hyd ddiwedd y flwyddyn 1852, pryd y symudodd i Glantaf, Morganwg Ar ddechreuad gweinidogaeth Mr. Stephens cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa i'r fath raddau, fel y bu raid tynu yr hen addoldy i lawr ac adeiladu un newydd yn fwy na chymaint arall na'r hen un. Gwnaed hyn yn y flwyddyn 1845. Mr. Stephens, y gweinidog ; Mr. T. Griffiths, Pentre', a Mr. Thomas Richards, Pentre'rllan, fu a'r llaw flaenaf gyda'r adeiladaeth, ond cydweithredodd yr holl eglwys a'r ardalwyr yn egniol gyda hwynt. Ar ol ymadawiad Mr. Stephens, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Thomas, y gweinidog presenol, ac y mae efe yn llenwi ei le yn dda yma yn mhob ystyr. Mae yr achos yn y lle hwn yn awr yn gryf ac yn nodedig o lewyrchus, a'i ddylanwad dros yr ardal yn fawr a helaeth. Tua phedair-blynedd-ar-ddeg yn ol, gosodwyd oriel yn y capel, yr hyn a'i helaethodd yn fawr. Yn y flwyddyn 1859, ychwanegwyd dros gant o aelodau at yr eglwys, 58 o ba rai a dderbyniwyd yr un Sabboth. Ychwanegwyd yma 60 yn y flwyddyn ddiweddaf, (1873), ac y mae pob argoelion yn awr y parhâ pethau i fyned rhagddynt yn llwyddianus. Yn 1862, adeiladwyd ysgoldy a elwir y Maesglas, yn nghwr uchaf y plwyf, lle y cynhelir cyfarfodydd gweddio, pregethu un Sabboth yn y mis, ac ysgol Sabbothol flodeuog.

92

Nis gwyddom fod neb wedi cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon, ond David Worthington, yr hwn sydd wedi gorphen ei amser yn athrofa Caerfyrddin, ond heb ymsefydlu fel gweinidog hyd yn bresenol.

  

CAPEL-YR-ERW, CELLAN

Dechreuwyd yr achos yn y lle hwn dan yr amgylchiadau canlynol : -  Yr oedd yma hen achos Ymneillduol er amser y Werin-lywodraeth, ac wedi cael nawdd Deddf y Goddetiad, adeiladwyd addoldy Cae'ronen, a bu yno achos llewyrchus iawn am ugeiniau o flynyddau. Tua therfyu oes Mr. Phillip Pugh, ac yn fwy o lawer ar ol ei farwolaeth, ymdaenodd syniadau Ariaidd yn y gynnulleidfa, ond yr oedd yma lairif o hyd yn parhau i ddal syniadau efengylaidd y tadau. Wedi i Mr. Thomas Jones ymsefydlu fel gweinidog yn Ffaldybrenin, gwahoddwyd ef i bregethu yn fisol yn Nghae'ronen, ac ar ol iddo fod yno rai gweithiau, dechreuwyd cwyno gan yr Ariaid ei fod yn pregethu yn rhy Galfinaidd, ac felly, penderfynasant gau y capel yn ei erbyn. Gwnaed hyny tua'r flwyddyn 1811. Y canlyniad fu i'r lleiafrif yn y gynnulleidfa, a hoffent athrawiaeth Mr. Jones, fyned allan ac ymffurfio yn eglwys Annibynol. Tua yr amser hwn daeth Mr. Jenkin Davies, aelod o Ebenezer, i fyw i Glanyffrwd, ac ymunodd ef a'i wraig, a'r deuddeg a ymneillduasent o Gae'ronen, a bu o gymorth nodedig iddynt, gan ei fod yn ddyn da ac yn alluocach na'r cyffredin. Cafwyd tir i adeiladu capel arno gan Mr. Thomas Lloyd, ar dyddyn a elwir yr Erw. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1811. Bu Mr. Thomas Jones yn gweinidogaethu yma am ychydig amser ar ol agoriad y capel. Ar ei ymadawiad ef bu y ddeadell fechan hon dan ofal gweinidogion Ebenezer am dymor byr. Ar symudiad Mr. James Phillips, cynorthwywr Mr. P. Maurice, i St. Clears, yn 1814, rhoddodd yr eglwys yn Nghellan alwad i Mr. James Sylfanus, o athrofa y Neuaddlwyd. Bu ef yma hyd y flwyddyn 1818, pryd y symudodd i Benygraig, gerllaw Caerfyrddin. Bu yn ymdrechgar iawn tra y bu yn y lle i gasglu yn agos a phell at ddileu dyled y capel, ac yr ydym yn tybied iddo ei lwyr ddileu cyn ei ymadawiad. Wedi hyny rhoddodd y gynnulleidfa hon ei hun dan ofal Mr. Rees Jones, Ffaldybrenin, a than ei ofal ef yn benaf y bu hyd nes iddo, oherwydd henaint, orfod rhoddi i fyny y weinidogaeth. Yn ei flynyddau diweddaf cynorthwyid ef gan Mr. Stephens, tra y bu yn Llanfair, ac wedi hyny gan Mr. Thomas, yr hwn er's blynyddau bellach yw yr unig weinidog yma. Ychwanegwyd at yr eglwys dros haner cant o aelodau yn amser yr adfywiad yn 1859. Yn y flwyddyn 1863, tynwyd yr hen gaped i lawr ac adeiladwyd yr un presonol, yr hwn sydd lawer yn helaethach na'r hen dı. Mae yr achos yma yn gwisgo agwedd siriol. Mae yr ysgol Sabbothol yn dra llewyrchus, a chystal canu yma ag sydd mewn unrhyw gynnulleidfa yn yr holl gylchoedd.

Codwyd yma i bregethu y personau canlynol :-

93

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JAMES SYLFANUS. Mab i amaethwr bychan o blwyf Cynwyl, sir Gaerfyrddin, oedd ef. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Saron, Llangeler, pan yn dra ieuangc. Yn mhen amser anogwyd ef i ddechreu pregethu. Wedi hyny aeth i athrofa y Neuaddlwyd, ac yr oedd ef yn un o'r myfyrwyr cyntaf yn y sefydliad hwnw. Tua y fiwyddyn 1814, urddwyd ef yn Nghapel-yr-erw, Cellan, lle y bu byd ei symudiad i Benygraig yn 1818. Ni bu yn hir cyn i ryw anghydfod beri iddo ymadael o Benygraig, ond bu yn weinidog yn Philadelphia, cangen o Benygraig, hyd y flwyddyn 1831. O hyny allan ni bu ganddo un eglwys dan ei ofal, ond parhaodd i bregethu lle byddai galwad am ei wasanaeth, hyd derfyn ei oes. Ymaelododd yn Penuel, dan ofal Mr. Davies, Pantteg, pan yr ymadawodd o Philadelphia, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Gorphenodd ei yrfa Chwefror 22ain, 1863, yn 78 oed. Er nad oedd James Sylfanus yn ysgolhaig ac yn feddyliwr galluog, etto yr oedd yn meddu gallu i bregethu yn dra effeithiol ar rai adegau. Clywsom ef rai gweithiau tua deugain mlynedd yn ol yn pregethu yn rymus iawn. Yr oedd ganddo gryn ddawn at holi ysgolion yn ol yr hen ddull. Nid oedd heb ei ddiffygion a'i wendidau, ond yr ydym yn credu ei fod yn ddyn oedd yn ofni yr Arglwydd.

  

LLANBEDR-PONT-STEPHAN

(Lampeter parish)

Yr oedd rhai aelodau o eglwysi Annibynol yn preswylio yn, ac yn agos i'r dref hon er's oesau, ond ni wnaed un cynyg at ffurfio yma eglwys Annibynol cyn y flwyddyn 1831. Yr amser hwnw yr oedd Mr. G. Griffiths, gweinidog Ebenezer y pryd hwnw, yn byw yn y dref, a rhai o aelodau ei eglwys hefyd, ac amryw o honynt yn preswylio yn ymyl y dref. Yn y flwyddyn rag-grybwylledig, edrychasant allan am le i gynal gwasanaeth crefyddol. Cymerasant hen fragdy ar rent, yr hwn a gyfaddaswyd ganddynt i fod yn addoldy. Yn fuan wedi hyny ffurfiwyd yma eglwys, yn benaf o aelodau Ebenezer, a bu dan ofal Mr. Griffiths hyd nes y symudodd i'r Casnewydd yn y flwyddyn 1837. Dilynwyd Mr. Griffiths yma ac yn Ebenezer, am ychydig amser gan Mr. Richard Owen, yr hwd tra y bu yma a fu yn fwy o nychdod nag o gymorth i'r achos gwan. Wedi iddo ef roddi gofal y  lle i fyny, gadawyd yr achos mewn agwedd isel iawn. Byddai gweinidogion Ffaldybrenin a Rhydybont yn dyfod yma weithiau, ond gan nad oedd yma bregethu cyson, lleihaodd y gynnulleidfa, ac yr oedd yr ychydig aelodau wedi myned yn ddigalon iawn, ac yn bwriadu cau y lle i fyny. Yn yr adeg bruddaidd hono, daeth cyhoeddiad Meistri Davies, Aberteifi, a Griffiths, Horeb, i'r lle, ac wedi gwrandaw adroddiadau digalon y cyfeillion, dywedasant mai gresyn oedd claddu unrhyw beth yn fyw - nad oedd yr achos wedi hollol farw, ac dylesid meddwl am foddion i'w gryfhau yn hytrach na'i gladdu. Darfu i'w hymweliad a'u cynghorion hwy loni cryn lawer ar feddyliau y cyfeillion, a phenderfynasant geisio

94

cario pethau yn mlaen, ac ymwroli. Yn fuan wedi hyn daeth Mr. David Davies i'r ardal i gadw ysgol, a chan ei fod yn bregethwr o ddoniau melus, daeth llawer i'w wrandaw, a siriolodd agwedd pethau yn fawr iawn yma mewn ychydig amser. Rhoddwyd galwad iddo ef i fod yn weinidog yn y lle, ac urddwyd ef Mai 19eg, 1841. Gan nad oedd yr hen fragdy yn y dref, lle y cynhelid y gwasanaeth Sabbothol, yn gyfaddas at gynal cyfarfodydd yr urddiad, cynhaliwyd hwy yn Nghapel-yr-erw, Cellan. Yr oedd trefn yr urddiad fel y canlyn :-Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. W. Jones, Glynarthen ; pregethodd Mr. Thomas, Penrhiwgaled, ar natur eglwys; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. R. Jones, Ffaldybrenin ; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Jones, Saron; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. S. Griffiths, Horeb, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Davies, Aberteifi. Gan fod yr hen fragdy yn lle gwael ac anghyflus, yr oedd yn anmhosibl casglu cynnulleidfa iddo, ac felly edrychwyd allan am dir i adeiladu capel. Adeiladwyd capel cymharol helaeth a thlws yn y flwyddyn 1842. Yr oedd nifer yr aelodau pan aed i'r capel newydd yn 45, ac erbyn marwolaeth Mr. Davies yn 1871, yr oeddynt wedi cynyddu i 150.

Yn Mai, 1872, rhoddwyd galwad i Mr. John Thomas, myfyriwr o athrofa y Bala, ac wyr i'r enwog Dr. Phillips, Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Awst 1af, yn yr un flwyddyn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Rowlands, Llanon ; R. P. Jones, Pencadair; W. Evans, Aberaeron; R. Thomas, Penrhiwgaled; T. Rees, Maenygroes; J. Davies, Glyn; T. Phillips, Horeb; O. Thomas, Brynmair ; W. B. Marks, Salem ; E. A. Jones, Castellnewydd; T. Jones, Parcyrhos, a T. Thomas, Llanfair. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Thomas yma gwelwyd fod y capel yn rhy fychan ac rhy wael fel adeiladaeth i ateb i archwaeth yr oes, ac felly penderfynwyd adeiladu un mwy a phrydferthach. Tynwyd yr hen addoldy i lawr yn Awst, 1873, a bwriedir agor yr un newydd yn Mehefin, 1874. Costia o chwech i saith gant o bunau.

Bu yma amryw frodyr a chwiorydd selog a ffyddlon iawn gyda'r achos o'i gychwyniad cyntaf. Yn mysg y rhai fu yn fwyaf ymdrechgar gydag adeiladu y capel cyntaf, gellid enwi Thomas Davies, Pantmawr ; Samuel Evans, Coedeiddig ; George Leigh, Blaenplwy, a David Davies, yr hwn oedd yn byw yn y dref. Mae yma etto yn aros rai o'r hen chwiorydd ffyddlon fuont yn cychwyn yr achos yn y lle. Yr ydym yn hyderu y bydd gweinidogaeth Mr. Thomas yn llwyddianus iawn. Nid gwaith hawdd ydyw cadw achos Ymneillduol yn fyw mewn tref fechan fel Llanbedr, lle y mae dylanwad yr Eglwys Wladol mor fawr, trwy mai yma y mae yr athrofa lle yr addysgir ugeiniau o bersoniaid. Mae yr athrawon a'r myfyrwyr yn gwario rhai canoedd, os nad miloedd, o bunau yn y flwyddyn yma, ac nis gall hyny, pe na byddai dim arall, lai na dylanwadu yn ffafr yr Eglwys Wladol ar feddyliau y masnachwyr ac eraill. Ond er pob anfantais, y mae yr achos wedi cyfodi yma, ac yn well yr olwg arno yn awr nag ar un adeg o'i hanes. Nid ydym yn gwybod fod yma neb wedi cyfodi i bregethu o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

DAVID DAVIES. Ganwyd ef mewn lle a elwir Blaenpantyfi, yn mhlwyf  Troed-yr-aur, yn y flwyddyn 1806. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig

95

yn y Neuaddlwyd gan Dr. Phillips, pan yr oedd yno yn yr ysgol yn 1822. Bu wedi hyny yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau, a phan yr oedd yn ysgolfeistr yn y Groeslon, yn sir Fon, y dechreuodd bregethu yn 1828. Urddwyd ef, fel y nodasom, yn Llanbedr yn 1841, ac yno y bu yn llafurus a defnyddiol hyd ei farwolaeth ddisymwyth Rhagfyr 17eg, 1871. Bu farw mewn llewyg yn hollol annisgwyliadwy, a chladdwyd ef yn yr addoldy y bu yn gweinidogaethu ynddo am ddeng-mlynedd-ar-hugain. Yn mhen rhai blynyddau wedi ei urddiad ymunodd mewn priodas a Mrs. Margaret Lloyd, yr hon fu yn ymgeledd gymhwys iawn iddo hyd derfyn ei oes. Bu hithau farw Mai 20fed, 1873, a chladdwyd hi yn medd ei phriod. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn da a nodedig o ddiniwed. Cerid ef gan bawb o'i gydnabod. Er nad oedd yn ddyn galluog o feddwl nac yn bregethwr mawr, yr oedd yn dra derbyniol ar gyfrif ei sirioldeb, ei ddiniweithwydd, ei dduwioldeb, rhwyddineb ei ymadrodd, a phereidd-dra ei lais. Gwnaeth fwy o ddaioni yn ei ddydd na chanoedd yr edrycha byd arnynt fel dynion mawr.

PARC Y RHOS

(Pencarreg, CMN parish)

Mae y lle hwn yn mhlwyf Pencareg, o fewn ychydig gyda milldir i Lanbedr, ond yn sir Gaerfyrddin. Mae y lle o'r dechreuad yn nghyfundeb sir Aberteifi. Pregethwyd llawer yn yr ardal yn Gelliddewi, Coedeiddig, a Thawelan gan weinidogion Rhydybont a Ffaldybrenin ; ac yr oedd amryw o aelodau yr eglwysi hyny yn byw yn yr ardal, y rhai y mae eu coffadwriaeth yn berarogl hyd y dydd hwn. Nis gallwn eu crybwyll yma, ond yr oedd Thomas Davies, Coedeiddig, yn uwch o'i ysgwyddau na hwynt oll, ac mewn gwybodaeth, a dawn, ac ysbryd gweithio, anhawdd fuasai cael neb yn rhagori arno. Cychwynodd gyfarfod gweddi misol yn ei dı ei hun, ac un wythnosol o dı i dı yn y gymydogaeth, a dechreuodd ysgol Sabbothol yn Parcyrhos. Corpholwyd yma eglwys yn 1840, gan Mr. J. Lewis, Rhydybont, mewn tı a roddwyd gan Mr. W. Williams, Parcyrhos, ac a gyfaddaswyd i fod yn lle at addoli. Yn 1841, cymerodd Dr. Davies, Ffrwdyfal, ofal y lle, a bu yn dyfod yma yn gyson hyd 1855, pryd y dewiswyd ef i fod yn athraw yr athrofa yn Nghaerfyrddin. Yr un flwyddyn cymerodd Mr. Thomas Jones, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Nhy'nygwndwn, ofal yr eglwys, ac y mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad mawr. Gan fod yr hen dı, yn anghyfleus, meddyliwyd am adeiladu capel, ac yn 1859, cafwyd lês o 99 mlynedd gan y Milwriad Wood ar chwarter erw o dir, am swllt y flwyddyn o ardreth, ar ochr y ffordd o Lanbedr i Lanymddyfri. Nid yw yn gapel mawr, ond y mae yn un prydferth, ac yn ddigon eang i angen yr ardal. Agorwyd ef yn nechreu Awst, 1860, a thalwyd am dano ar unwaith. Bethel yw enw y capel, ond wrth yr enw Parcyrhos yr adwaenir ef fynychaf. Mae golwg siriol ar yr achos yma yn ei holl ranau.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM DAVIES, PH.D. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1804, mewn lle a elwir Crofftycyff, yn mhlwyf Llanycrwys, yn sir Gaerfyrddin. Ymunodd a eglwys yn Ffaldybrenin yn lled ieuangc, lle hefyd, yn mhen ychydig,

 

  CONTINUED


Return to top

[Gareth Hicks: 3 June 2008]

Valid HTML 4.0!

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes, and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark.