GENUKI Home page up Cardiganshire Contents Contents

 

 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

CARDIGANSHIRE section (Vol 4)

Pages 96 - 109

 

See main project page

Proof read by Gareth Hicks (April 2008)

Chapels below;

  • (Continued) PARC Y RHOS
  • TY'NYGWNDWN  (Llanfihangel Ystrad parish) (with translation)
  • TROEDYRHIW  (Dihewyd parish) (with translation)
  • NEUADDLWYD  (Henfenyw parish) (with translation)

 


Pages 96 - 109

96

(Continued) PARC Y RHOS

y dechreuodd bregethu. Wedi treulio ei amser yn athrofa Caerfyrddin, lle y cyrhaeddodd gymeriad uchel fel ysgolhaig, derbyniodd alwad o ryw le yn Ngwlad yr Haf, lle y llafuriodd hyd y flwyddyn 1835, pryd y gorfodwyd ef oblegid gwaeledd ei iechyd i ddychwelyd i Gymru. Wedi cael graddau o adferiad, ymgymerodd a bod yn athraw i blant Mr. Davies, Ffrwdyfal, a chodwyd ty bychan ar dir Ffrwdyfal i fod yn ysgoldy, a daeth eraill ato i dderbyn addysg, fel y daeth athrofa Ffrwdyfal yn lle o gryn hynodrwydd. Bu yno amryw yn derbyn addysg a ddaeth wedi hyny yn ysgolheigion rhagorol, ac yn bregethwyr poblogaidd. Yr oedd Dr. Davies yn meddu cymhwysderau neillduol fel athraw, ac yr oedd cyfranu addysg yn hyfrydwch iddo. Bu gofal yr eglwys yn Parcyrhos arno am lawer o flynyddoedd, ond ychydig o gynydd a wnaeth yr achos yn ei dymor. Yr oedd yn rhy oer a diddawn fel pregethwr i dynu sylw y werin, ond edrychai llawer i fyny ato fel pregethwr mawr, ond ei fod yn lled sych. Bu cryn amheuaeth ar un adeg yn nghylch iachusrwydd ei olygiadau duwinyddol. Nid ydym yn gwybod a oedd sail i'r amheuon hyny, ond y mae yn ffaith y byddai yn aml yn dyweyd pethau i daflu dynion oddiar hen olygiadau, a theimlem ei fod bob amser yn fwy llwyddianus i aflonyddu ar hen olygiadau dynion nac i'w sefydlu yn y gwirionedd. Nid ymddangosai ei fod o argyhoeddiadau cryfion, a dichon mai hyny, yn nghyd a'r cyfeill-garwch a ffynai rhyngddo a llawer o'r Undodiaid, a barodd i rai amheu ei iachusrwydd, yn fwy na dim byd pendant a ddywedodd erioed ar y mater. Yn wir, traethai yn bur glir weithiau ar Dduwdod y Cyfryngwr. Ysgrifenodd lawer i'r misolion Cymreig, ac yr oedd yn dra hoff o hynafiaethau, yn enwedig hynafiaethau Ymneillduaeth, a gadawodd ar gof a chadw lawer o ffeithiau gwerthfawr. Symudodd o Ffrwdyfal, a sefydlodd ysgol gyffelyb ar dir Mr. Jones, Derlwyn, gerllaw, Troed-rhiw-allt-walis, a bu yno hyd oni ddewiswyd ef yn athraw Gwyddonol a Rhifyddol yn athrofa Caerfyrddin. Ni bu erioed yn briod, a thrwy ofal a chynildeb, casglodd gryn lawer o arian, ac er ei holl ochelgarwch, goddefodd hefyd golledion trymion. Nid oedd ond dyn bychan, o gyfansoddiad eiddil, ac ar y goreu nid ydoedd yn gryf, ond gwaelodd ei iechyd yn fawr yn ei flynyddoedd olaf, a bu farw Rhagfyr 10fed, 1859, yn 55 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Elim, Ffynonddrain, gerllaw Caerfyrddin.

 

TY'NYGWNDWN

(Llanfihangel Ystrad parish)

Mae yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanfihangel-ystrad, ac yn agos i Dalysarn. Gosododd Ymneillduaeth ei throed i lawr yn yr ardal hon yn fore iawn. Mae yn dra thebygol fod yma Ymneillduwyr oddiar amser y Werin-lywodraeth. Yn 1672 trwyddedwyd ty un David Rees, o'r plwyf hwn, at gynal gwasanaeth crefyddol gan yr Annibynwyr, ac nid oes un ddadl na fu gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynal yn yr ardal yn lled gyson trwy yr oesau dilynol. Er nad oedd un o'r capeli, y rhai y pregethai Mr.P. Pugh a'i gydlafurwyr ynddynt, yn uniongyrchol yn yr ardal hon, yr oedd amryw o honynt mewn gwahanol gyfeiriadau o fewn cyrhaedd y preswylwyr, ac y mae yn ddiameu fod yma lawer o aelodau Mr. Pugh yn cyfan-eddu tua chanol y ganrif ddiweddaf. Wedi ei farwolaeth ef, pan aeth y cynnulleidfaoedd yn y Cilgwyn a'r Ciliau yn Belagiaid neu Ariaid cyhoeddus, ac Abermeurig a lleoedd eraill yn Fethodistiaid, darfu i'r

97

aelodau a breswylient yn y gymydogaeth hon, yr un fath a phobl Ebenezer a'r Neuaddlwyd, ymneillduo oddiwrth y cynnulleidfaoedd hyn a gosod  fyny wasanaeth crefyddol ar egwyddorion Calfinaidd ac Annibynol yn eu hardal eu hunain. Dywedir i amaethdy a elwir y Graigwen gael ei gofrestru at bregethu ynddo yn y flwyddyn 1760, ond camgymeryd y mae Mr. Morgan, Llanfyllin, pan y dywed fod Mr. W. Gibbon, Capel Isaac, yn dyfod yno  bregethu yr amser hwnw, oblegid nid oedd Mr. Gibbon ond naw mlwydd oed yn 1760, a phedair-blynedd-ar-bymtheg wedi hyny yr urddwyd ef yn Nghapel Isaac. Mae yn dra sicr fod gweinidogion Calfinaidd yn dyfod yma i bregethu yn lled gyson o'r flwyddyn hono yn mlaen hyd at y flwyddyn 1773, pryd yr adeiladwyd yr addoldy cyntaf yn Nhy'nygwndwn. Dywedir mai yr amser yr adeiladwyd y capel y ffurfiwyd yr eglwys. Mr. Phillip Maurice fu y gweinidog sefydlog cyntaf yma, a bu yr eglwys hon dan ei ofal ef a'i gynorthwywyr mewn cysylltiad ag Ebenezer o 1775 hyd amser ei farwolaeth yn 1820. Pan yr oedd Mr. Maurice yn heneiddio barnodd ef a'r eglwysi dan ei ofal y buasai yn fuddiol iddo gael cynorthwywr. Cydunwyd yn unfrydol  roddi galwad  i Mr. John Maurice, mab yr hen weinidog. Urddwyd ef yma Hydref 3ydd, 1840. Yr oedd trefn y gwasanaeth fel y canlyn : - Y nos cyn dydd yr urddiad pregethodd Mr. Shadrach, Talybont, a Mr. Griffiths, Glandwr. Bore dranoeth dechreuwyd trwy weddi gan Mr. T. Jones, Saron. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. J. Griffiths, Machynlleth, (wedi hyny o Dyddewi); derbyniwyd y gyffes ffydd a gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Evans, Drewen ; rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. Roberts, Llanbrynmair, ac i'r eglwys gan Mr. George, Brynberian. Pregethwyd yn y prydnawn gan Mr. Griffiths, Trefgarn, a Mr. Lloyd, Henllan. Yn mhen ychydig gyda chwe' mis ar ol  ei urddiad bu farw y gweinidog ieuangc gobeithiol hwn o'r darfodedigaeth. Yn mhen ychydig drachefn edrychwyd allan am gynorthwywr i'r hen weinidog, a syrthiodd y dewisiad ar Mr. James Phillips, mab Mr. Phillips, Trewyddel, yr hwn oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr yn athrofa Neuaddlwyd. Yr ydym wedi methu cael allan amser  urddiad ef, ond yr ydym yn dra sicr iddo gymeryd lle rywbryd yn 1812 neu 1813. Yn 1814 symudodd ef oddiyma i Bethlehem, St. Clears, lle y bu yn enwog a defnyddlol hyd derfyn ei oes. Ni bu yma drachefn un cynorthwywr i'r hen weinidog tra y bu ef byw. Wedi ei farwolaeth rhoddodd yr eglwys hon, mewn cysylltiad ag Ebenezer, alwad i Mr. Griffith Griffiths, o athrofa y Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yma Ebrill 5ed, 1821. Gan ein bod wedi rhoddi hanes ei urddiad yn hanes ei fywyd yn nglyn ag eglwys Mynydd Sion, Casnewydd, nid oes galwad am ei roddi yma etto. Yn y flwyddyn 1837 symudodd Mr. Griffiths i'r Cas- newydd, a bu yr eglwys hon yn ymddibynu a'r weinidogaeth achlysurol hyd 1840, pryd y rhoddwyd galwad  Mr. Thomas Jones o athrofa Neuaddlwyd. Urddwyd ef yma Medi 15fed, yn y flwyddyn hono, pryd y gweinyddwyd gan y Meistri J. Saunders, Aberystwyth ; D. Thomas, Penrhiwgaled; W. Jones, Glynarthen; T. Jones, Saron; S. Griffiths, Horeb, a D. Davies, Aberteifi. Bu Mr. Jones yn gweinidogaethu yma hyd y flwyddyn 1851, pryd y darfu ei gysylltiad a'r lle fel gweinidog. Wedi ei ymadawiad ef bu yr eglwys dan ofal Mr. T. Jones, Cilcenin, hyd y flwyddyn 1858, pryd y darfu i Mr. Benjamin Phillips, mab y Dr.

98 

Phillips, Neuaddlwyd, gael galwad oddiyma a Throedyrhiw i ddyfod yn weinidog i'r ddwy eglwys. Urddwyd ef Mai 13eg, 1858. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan y gweinidogion canlynol: -  S. Griffiths, Horeb; W. Evans, Aberaeron; T. Jones, Cilcenin; J. Williams, Castellnewydd; B. Rees, Llanbadarn; A. Jenkins, Brynmair; J. Owens, Pencadair; T. Thomas, Llanfair ; D. M. Davies, Wern; J. Saunders, Aberystwyth; D. Davies, Llanbedr; D. C. Jones, Abergwili, ac eraill. Mae Mr. Phillips yn parhau i weinidogaethu yma gyda pharch a llwyddiant hyd yn bresenol, ac yr ydym yn hyderu fod etto flynyddau o ddefnyddioldeb o'i flaen. Crybwyllasom eisoes mai yn y flwyddyn 1773 yr adeiladwyd y capel cyntaf. Ailadeiladwyd ef yn helaethach yn 1815, ac yn 1835 helaethwyd ef i'w faintioli presenol, ond ni osodwyd oriel ynddo y pryd hwnw. Gwnaed hyny yn 1861, pryd hefyd yr adgyweiriwyd yr holl adeilad. Talwyd ymaith yr holl draul mewn ychydig amser. Mae yma yn bresenol eglwys luosog, heddychol, a gweithgar, a chynnulleidfa fawr. Deallwn hefyd fod yr ysgol Sabbothol yn fwy llewyrchus nag y bu ar un adeg flaenorol.

Nid ydym yn gwybod am neb a gyfodwyd yma  bregethu ond y tri canlynol: -

Bu yma lawer o bobl ffyddlon ac enwog fel crefyddwyr yn dal cysylltiad a'r achos o bryd i bryd, a byddai yn angharedig peidio crybwyll enwau ychydig o honynt. Bu John Jones, Ysw., Cwmere, a'i briod, yn noddwyr caredig i'r achos am flynyddau, a'u ty yn gartref genhadau Crist a ymwelent a'r ardal, ac y mae yn hyfryd meddwl fod amryw o'u plant a'u hwyrion yn dilyn eu siampl, ac yn ffyddlon a blaenllaw iawn gyda'r achos. Yr oedd William Davies, Troedyrhiw, yn hen gristion rhagorol, yn hyddysg iawn yn yr ysgrythyrau, yn meddu gradd uchel o dduwioldeb, a mwy o gymhwysder na nemawr i fod yn swyddog eglwysig. Bu Evan Jones, Cross Inn; Evan Davies, Graigwen, a David Davies, Spite, ac amryw ereill, yn enwog yma yn eu dydd. Hyderwn y cyfyd yma etto genhedlaetheu o ddynion cyffelyb.* Am gofiantau y gweinidogion gweler hanes Ebenezer.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This Chapel is in Llanfihangel Ystrad Parish near Talysarn.Independence arrived here very early on, probably since the time of the Commonwealth. In 1672 the house of Davis Rees was licensed for worship by the Independents, and there is no doubt that religious services were held fairly regurlarly. Although none of the chapels that Mr P Pugh and his contemporaries preached in were in this area they were in varied directions so as to service the populace.After his death when the congregations in Cilgwyn and Ciliau became Pelagian and Arian publicly, and Abermeurig and others became Methodist, members who lived in this area, like those of Ebenezer and Neuaddlwyd set up their own services with Calvinistic and Indepent principles in their areas. It is said that a farm namedGraigwen was licensed for preaching in 1760, but it is a mistake when  Mr Morgans, Llanfyllin states that Mr W Gibbon came here to preach at that time as he was only nine years old and was ordained nineteen years later at Capel Isaac.

It is certain that Calvinistic came to preach here fairly regurlarlyfrom then up to 1773 when the first chapel was built in Ty'ngwndwn, it is thought that the church was formed when the chapel was built. Mr Phillip Mauricewas the first minister to settle here and this church remained under his care and that of his supporters, in association with Ebenezer, until his death in 1775.When Mr Maurice became elderly his son Mr John Maurice was appointed to help him and ordained here on October 3rd,1840. The order of service was as follows - The evening before the ordination Mr Shadrach, Talybont, and Mr Griffiths, Glandwr, preached. The following morning began with a prayer from Mr T. Jones, Saron. The sermon preceding the ordination was given by Mr J Griffiths, Machynlleth (later St. David's), the confession of faith and the ordination prayer given by Mr Evans, Trewen, the challenge to the minister given by Mr Roberts, Llanbrynmair and to the church by Mr George, Brynberian. In the afternoon sermons were given by Mr Griffiths, Trefgarn and Mr Lloyd, Henllan. A little over six months later this promising young preacher died of Tuberculosis. Soon another helper was sought to help the old minister and Mr James Phillips was chosen, son of Mr Phillips, Trewyddel, who was a student at Neuaddlwyd College. We have not been able to find when he was ordained, but beleive it was around 1812 or 1813. In 1814 he moved to St. Clears, where he remained for the rest of his life. to the end of his life there was no further support employed for the old minister. After his death this church in asssociation with Ebenezer sent a call to Mr Griffith Griffiths, from Neuaddlwyd College, and he was ordained on April 5th, 1821. We have already reported his ordination in the history of Mount Sion, Newport where he moved in 1837. From that date until 1840 the church depended on occasional ministry, when a call was sent to Mr Thomas Jones from Neuaddlwyd College. He was ordained o September 15th that year when the following officiated - Messrs J. Saunders, Aberystwyth ; D. Thomas, Penrhiwgaled; W. Jones, Glynarthen; T. Jones, Saron; S. Griffiths, Horeb, and D. Davies, Cardigan. Mr Jones remained here until 1851 when he broke ministerial contact. From then until 1858 the church was in the care of Mr Jones, Cilcennin, whenMr Benjamin Phillips, son of

Dr. Phillips, Neuaddlwyd, was sent a call , combined with Troedyrhiw, to be minister to both churches. He was ordained on May 13th, 1858. The following officiated - S. Griffiths, Horeb; W. Evans, Aberaeron; T. Jones, Cilcenin; J. Williams, Castellnewydd; B. Rees, Llanbadarn; A. Jenkins, Brynmair; J. Owens, Pencadair; T. Thomas, Llanfair ; D. M. Davies, Wern; J. Saunders, Aberystwyth; D. Davies, Llanbedr; D. C. Jones, Abergwili, and others. Mr Phillips remains here, well respected and successful, and we hope it remains so for many years to come. As mentioned the first chapel was built in 1773, it was rebuilt and extended in 1815, and further extended to it's current size in 1835. A gallery was added in  1861 and the cost was soon cleared. There is currently a large peaceful, industrious and congregation. We understand that the Sunday School is more succcessful now than it has ever been.

We only know of the following three who have been raised to preach here-

Among the faithful here - John Jones, Cwmere and wife - William Davies, Treodyrhiw - and Evan Jones, Cross Inn; Evan Davies, Graigwen, a David Davies, Spite, and many others.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

 

TROEDYRHIW

(Dihewyd parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Dihewyd. Dechreuwyd yr achos yn y lle hwn trwy offerynoliaeth Mrs. Jones, Penybryn, boneddiges gyfoethog, yr hon a adeiladodd gapel bychan ar ei thir ei hun. Amcanasai hi yr addoldy i fod at wasanaeth yr Annibynwyr a'r Wesleyaid, a bu y ddau enwad addoli bob yn ail ynddo am dymor. Yn mhen amser, aeth y Wesleyaid at Mrs. Jones i ofyn iddi am iddynt hwy yn unig gael meddiant o'r Ile. Digiodd hithau gymaint wrthynt, oherwydd gofyn y fath beth, fel y darfu

* Llythyr Mr. B. Phillips.

99

iddi roddi y capel i'r Annibynwyr yn unig. Arferai Mrs. Jones fyned yn fisol i'r Eglwys Wladol i gymuno, ond byddai hefyd yn wastad yn derbyn yr ordinhad yn y capel. Mr. Jonathan Jones, Rhydybont, fu y gweinidog sefydlog cyntaf yma, a pharhaodd i ddyfod yma cyhyd ag y daliodd ei nerth. Wedi iddo ef fethu, bu yr eglwys hon am tua deng mlynedd, yn benaf, dan ofal Mr. Griffiths, Horeb. Yn y flwyddyn 1840, unasant a Thy'nygwndwn mewn galwad i Mr. Thomas Jones, a bu ef yn eu gwasanaethu hyd y flwyddyn 1851. Wedi hyny bu Mr. E. Harris, Mydroilyn, yn gwasanaethu yma am ychydig amser, ac ar  ol ef Mr. D. Davies, Llanbedr. Ar ddyfodiad Mr. B. Phillips i Dy'nygwndwn yn 1858, rhoddodd y bobl hyn eu hunain dan ei ofal ef, mewn cysylltiad a Thy'nygwndwn drachefn, a than ofal Mr. Phillips y maent hyd yn bresenol. Yn 1860, aeiladwyd yma gapel newydd bychan a chyfleus iawn, yn ddigon mawr i boblogaeth yr ardal. Nid ar yr un tir a'r hen gapel y mae. Cafwyd les o gant ond un o flynyddau ar y tir. Costiodd yr adeilad, er cael cludiad y defnyddiau yn rhad, 220p. Talwyd y cwbl mewn dwy neu dair blynedd. Llenwir y capel bob Sabboth gan y gynnulleidfa, ac y mae yma ysgol Sabbothol effeithiol a llewyrchus iawn. Mae yr achos hwn wedi myned trwy wahanol dymorau, a thrwy rai profedigaethau lled chwerwon, ond etto wedi cael ei gadw yn fyw trwy y cwbl. Colledwyd ef yn fawr rai prydiau trwy symudiadau amryw ddynion defnyddiol a ffyddlon o'r ardal. Ar un adeg, rai blynyddau yn ol, ymadawodd naw o deuluoedd o'r gymydogaeth, ac ymfudodd y rhan fwyaf o honynt i'r America, ac ni ddaeth neb o'r un syniadau crefyddol i lenwi eu lleoedd hyd y dydd hwn. Etto, fel y nodasom, mae yr achos yn fyw, a'r capel yn cael ei lenwi o wrandawyr, ond cwyna y bobl fwyaf selog yma am fwy o fywyd crefyddol. Mae syniadau Undodaidd yn cael eu coleddu gan amryw o'r ardalwyr, yr hyn sydd yn gryn rwystr i lwyddiant crefydd efengylaidd. Nid ydym ni yn gwybod fod un o aelodau yr eglwys hon wedi cael ei gyfodi i bregethu oddiar ddechreuad yr achos hyd yn bresenol.*

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JONATHAN JONES. Ganwyd ef yn agos i gapel Llanfihangel, yn mhlwyf Abergwyli, gerllaw Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1745. Yr oedd ei rieni yn arfer addoli yn Pantteg, i'r lle hefyd, pan yn fachgen, y cyrchai yntau yn aml, er yr esgeulusai yn fynych wrth ddilyn ei gyfoedion annuwiol. Yr oedd o'i febyd yn fachgen ffraeth a diofn, ac yn fywyd i bob cwmpeini yr elai iddo. Dygwyd ef i fyny yn of yn ol celfyddyd ei dad, a chyfrifid ef yn gywraint a medrus fel crefftwr. Symudodd  i Llanllwyni  weithio, ac yn mhen amser cymerodd yr efail o law ei feistr, gan weithio ar ei gyfrifoldeb ei hun. Priododd yn fuan ar ol hyny. Arferai yr holl amser yma gyrchu i Bencadair a Rhydybont i wrando yr efengyl, ac i Maesnoni, lle yr oedd pregethu yn achlysurol, ond nid oedd etto wedi rhoddi ei hun i'r Arglwydd. Teimlai argyhoeddiadau dwysion ar ei feddwl ar amserau, ac wedi i Mr. Lewis Lewis, Pencadair, ymddiddan yn bersonol ag ef, penderfynodd ymuno a'r eglwys yno. Gan ei fod o alluoedd cryfion, yn hoff o ddarllen, ac yn meddu dawn nodedig, tynodd sylw yr holl eglwys, ac yn

* Llythyr Mr. Phillips, Ty'nygwndwn.

100

fuan anogwyd ef i ddechreu pregethu. Cafodd freuddwydion neillduol ar adeg ei ymuniad a chrefydd, a phan yn petruso gyda golwg ar ddechreu pregethu, yr hyn a esbonid ganddo fel llais uniongyrchol oddiwrth yr Arglwydd ato. Traddododd ei bregeth gyntaf ar brydnhawn Sabboth yn Maesnoni, pan yr oedd y gynnulleidfa wedi ei siomi am ryw bregethwr a ddisgwylid; ac o hyny allan pregethai trwy yr holl wlad o amgylch, lle y gelwid am ei wasanaeth. Derbyniodd alwad unfrydol oddiwrth yr eglwys yn Rhydybont, ac urddwyd ef yno Awst 9fed, 1775, pan oedd yn 30 oed. Ymroddodd yn egniol i gyflawni ei weinidogaeth. Yr oedd yn ddyn cryf o gorpholaeth, ac felly yn abl i ddal gwaith caled, ac yr oedd hefyd o alluoedd eneidiol grymus. Ni wyddai yn y pulpud nac allan o hono beth oedd ofn dyn i beri magl iddo; ac am yr hyn a gredai oedd wirionedd traethai ef gyda phob hyfder yu ddiwahardd. Yr oedd yn Drindodwr diysgog - yn Galfiniad uchel - ac yn bendant hollol yn ei olygiadau ar Fedydd. Ystyrid ef gan lawer yn un o amddiffynwyr galluocaf Bedydd Babanod yn ei oes. Yr oedd ganddo berffaith feddiant arno ei hun, a phan y byddai ei wrandawyr wedi eu cyffroi gan yr hyn a ddywedai, ymddangesai ef yn hollol ddigynwrf. Yn ei ffraethder a'i arabedd yr oedd yn fwyaf nodedig, ac y mae llawer o'i ddywediadau etto ar gof a chadw yn ei wlad. Beiai rhai ef i fod weithiau yn disgyn yn rhy isel yn ei ymadroddion, ac yn dyweyd pethau a yrai ei wrandawyr i chwerthin, ond barnai ef mai trwy hyny yr oedd ennill clust a sylw ei wrandawyr, ac byddai byth heb gymhwysiad difrifol i'w bethau mwyaf digrifol. Bu ei lafur yn llwyddianus yn Rhydybont, a llafuriodd yn egniol hefyd yn Pencadair, Horeb, Gwernogle, ac Abergorlech. Bu yn cyrchu yn hir i'r lleoedd blaenaf, ac os nad oedd yn weinidog yn ffurfiol, yr oedd felly bob pwrpas ymarferol. Drwg genym orfod ychwanegu i gwmwl ddyfod dros ei gymeriad, yr hyn a anmharodd ei ddefnyddioldeb, ac yn 1815, darfu ei gysylltiad a Rhydybont a'r eglwysi eraill. Adferwyd ef yn mhen amser, ac am y gweddill o'i oes, tra y gallodd bregethu, bu yn weinidog yr eglwys yn Nhroedyrhiw, yr hon a ffurfiwyd trwy ei lafur ef. Collodd ei olygon cyn diwedd  ei oes, ac am y ddwy flynedd olaf o'i fywyd nis gallodd fod ond o ychydig wasanaeth cyhoeddus. Ystyrid ef gan y rhai a'i hadwaenai oreu, er y cwmwl a ddaeth drosto, yn "Israeliad yn wir." Yr oedd hyd ei ddiwedd yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd, yn garuaidd a diddichell i'w holl gyfeillion, ac yn dyner a drylliog ei dimladau gyda phethau pwysicaf crefydd. Bu farw Chwefror 18fed, 1832, yn 88 oed, wedi pregethu am 60 mlynedd, a chladdwyd ef yn mynwent Rhydybont.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel is in the parish of Dihewyd. The cause was instigated by Mrs Jones, Penybryn, a wealthy lady, she built a small chapel on her own land. Her intention was for the chapel to be used by Independents and Wesleyans, both denominations worshipped there alternately for a while. In time the Wesleyans went to Mrs Jones and asked her for the exclusive use of the chapel. She was so disgusted with them that she gave sole use of the chapel to the Independents.Mrs Jones was accustomed to going to the Established Church monthly to receive communion, but she always took the sacrament in the chapel. Mr Jonathan Jones was the first settled minister and continued here until his health failed. Following this the church was under the care of Mr Griffiths, Horeb, for most of the next ten years. In 1840 they joined with Ty'ngwndwn to call Mr Thomas Jones, who ministered here until 1851, following this Mr E Harris, Mydroilyn took on the care here for a short time, then Mr D Davies, Lampeter . When Mr B Phillips came to Ty'ngwndwn in 1858, the people here placed themselves in his care in association with Ty'gwndwn, and they remain under his care today. In 1860 a new more convenient chapel was built, large enough to service the community. This chapel is not on the same land as the old chapel. A lease of ninety nine years was granted on this land. The building cost was 220, this did not include the carriage of materials. It was all paid within two to three years. The chapel is filled by the congregation every Sunday, and there is also a successful and efficient Sunday School. This chapel has gone through varied, sometimes troubled, times, but has survived. It has lost many faithful members due to their relocation. Some years before nine families moved from the area at the same time, most of them migrating to America, none has come to replace them. Despite this some of the faithful wish for a more evangelical life but the Unitarianism in the area makes this difficult. We do not know of any from this chapel that have been raised to preach.

BIOGRAPHICAL NOTES*

JONATHAN JONES - Born Abergwili, Carmarthen 1745 - blacksmith by trade, moved to Llanllwni and took over the forge in time - first semon at Maesnoni, then as neede in the area - ordained Rhydybont August 9th, 1770 age 30 - also ministered to Pencadair, Horeb, Gwernogle, and Abergorlech.- ceased association with these churches in 1815 - Died February 18th, 1832 aged 88 - had preached for 60 years -buried in Rhydybont.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

NEUADDLWYD

(Henfenyw parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Henfenyw. Rhyw amser cyn y flwyddyn 1746, adeiladodd Mr. Jones, perchenog y tyddyn a elwid y Neuaddlwyd, ysgoldy bychan ar ei dir, er mwyn cael ysgol yn gyfleus at addysgu ei blant. Ugeiniau o flynyddoedd cyn hyny yr oedd eglwys luosog o Ymneillduwyr yn Nghiliau Aeron, a llawer o'r aelodau yn byw yn nghymydogaeth y Neuaddlwyd. Yn y flwyddyn 1746, trwy ganiatad y perchenog, darfu iddynt gofrestru yr ysgoldy at gynal moddion crefyddol ynddo, a rhyw amser cyn y flwyddyn 1760, corpholwyd yma eglwys, fel cangen o'r fam eglwys yn y Ciliau. Yr enwog Phillip Pugh, yn cael ei gynorthwyo

101

gan amryw weinidogion ieuengach, oedd gweinidog y Ciliau, ac amryw gynnulleidfaoedd eraill. Rhai blynyddau cyn marwolaeth yr hen weinidog, er gofid dirfawr iddo ef, dechreuwyd taenu golygiadau Arminaidd, Pelagaidd, ac yn y diwedd Ariaidd, yn y Ciliau, a rhai o'r cynnulleidfaoedd eraill. Yn fuan ar ol ei farwolaeth, aed i bregethu a choleddu y golygiadau hyny yn fwy digel, a than fod cangen y Neuaddlwyd yn hoffach o olygiadau Calfinaidd nag o'r hyn a bregethid yn y Ciliau, torasant bob cysylltiad a'r fam eglwys, a mynasant weinidogiou Calfinaidd i weinyddu iddynt. Yr ydym yn barnu i'r ymraniad hwu gymeryd lle yn ddioed ar ol marwolaeth Mr. Pugh. Nid ydym wedi cael allan pa flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf yn y Neuaddlwyd, ond bernir mai ar y fan y safai yr ysgoldy, buwyd yn addoli ar y cyntaf, yr adeiladwyd ef. Ar ol tori y cysylltiad ag eglwys y Ciliau, bu yr eglwys hon yn cael ei gwasanaethu am flynyddau gan weinidogion Calfinaidd o ardaloedd pellenig, megis Lewis Lewis, Pencadair ; John Lewis, Castellnewydd-Emlyn ; John Tibbot, Esgairdawe; Thomas Gray, Phillip Maurice, Ebenezer; William Gibbon, Capel Isaac ; David Davies, Drefach, (wedi hyny o Abertawy), a Henry George, Brynberian. Lluosogodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn ddirfawr yn y tymor y bu Mr. Davies, Drefach, yn gweinidogaethu iddi ; ac fel y gwelsom yn hanes y Mynyddbach, Morganwg, anfonodd swyddogion yr eglwys hon lythyr llym a cheryddol at yr eglwys hono oherwydd ei bod yn eu hysbeilio hwy o weinidog a gerid mor fawr ganddynt, ac ydoedd mor llwyddianus yn eu mysg. Rhoddodd Mr. Davies ofal y lle i fyny yn 1795, ar ei symudiad i'r Mynyddbach. Yn fuan wedi hyny, rhoddwyd galwad ar  Mr. Thomas Phillips, aelod o eglwys Pencadair. Bu ef am oddeutu blwyddyn cyn rhoddi ateb cadarnhaol i'r alwad, am y bwriadai fyned i athrofa Homerton er perffeithio ei hun yn fwy mewn dysgeidiaeth. O'r diwedd, penderfynodd mai i'r Neuaddlwyd yn hytrach nag i Homerton yr elai, ac felly yr urddwyd ef yma Ebrill 6ed, 1796. Efe oedd y gweinidog sefydlog cyntaf a fu yma. Dyfed i'r lle yn fisol y byddai rhai fuasant yma o'i flaen ef, ond yn byw mewn ardaloedd eraill a thra phellenig. Chwechugain oedd rhif yr aelodau pan roddwyd galwad i Mr. Phillips, ond cafodd fyw i'w gweled yn gynifer a hyny o ganoedd. Yn nhymor  weinidogaeth ef cafodd  yr eglwys ei bendithio ag amryw ddiwygiadiu grymus iawn. Lluosogodd yr aelodau yn fawr, a bu raid helaethu y capel ddwy neu dair gwaith, ond nid oedd hyny yn ddigon i ateb cyfleusdra lluaws a ymunent a'r achos, ac am hyny bu raid corpholi cangenau y fam eglwys yn eglwysi Annibynol, y naill ar ol y llall, yn Penycae, Mydroilyn, Aberaeron, Llwyncelyn, Dihewydd,, a lleoedd eraill. Ar ol ymadawiad y cangenau hyn oll, y mae y fam eglwys yn parhau yn gymharol gref a lluosog hyd y dydd hwn. Yn ei dymor gweinidogaethol derbyniodd Dr. Phillips amryw filoedd o aelodau yn y Neuaddlwyd a'r cangenau. Nid yw yn debygol i un gweinidog yn Nghymru fod yn fwy, os mor, llwyddianus ag ef. Darfu i'w ragoriaeth fel pregethwr, y llwyddiant dir-fawr a ddilynai ei lafur, a chysylltiad yr athrofa a'r lle, gyfodi y Neuaddlwyd i sylw ac enwogrwydd trwy yr holl deyrnas. Pan yr oedd Dr.Phillips yn dechreu teimlo llesgedd henaint yn myned i bwyso arno, anogodd yr eglwys a'i changenau  edrych allan am gynorthwywr iddo yn y weinidogaeth. Atebasant ei gais trwy ofyn ganddo ef nodi y dyn allan ddewis. Cyfarwyddodd hwynt at Mr. William Evans, gwr ieuangc o Dalybont, yr hwn oedd ar pryd yn fyfyriwr yn athrofa y Dr.

102 

Dewisodd yr eglwys ef yn unfrydol, ac urddwyd ef Rhagfyr 3ydd a'r 4ydd, 1835. Dechreuwyd cyfarfod yr urddiad trwy weddi gan Mr. D. Thomas, Penrhiwgaled; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. M. Rees, Pencadair; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. A. Shadrach, Aberystwyth ; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Dr. Phillips ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. M. Ellis, Talybont, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. T. Griffiths, Hawen. Parhaodd Mr. Evans i gydweinidogaethu a'r Dr. hyd farwolaeth yr henafgwr parchedig yn niwedd y flwyddyn 1842, ac yr oeddynt yn cydweithredu yn hyfryd fel Paul a Thimotheus. Wedi marwolaeth y Dr. bu y fam eglwys a rhai o'r cangenau dan ofal Mr. Evans ei hun am dymor, ond yn raddol rhoddodd ofal y naill ar ol y llall o'r cangenau i fyny, fel nad oes ganddo er's rhai blynyddau bellach ond y Neuaddlwyd ac Aberaeron yn unig dan ei ofal, ac y mae gofalu am ddwy gynnulleidfa o'r lluosogrwydd hyn yn ddigon o waith i unrhyw weinidog. Mae Mr. Evans yn weinidog sefydlog yma er's yn agos i bedair-blynedd-ar-bymtheg-ar-hugain, ac yn parhau yn ei ddylanwad a'i lwyddiant heb golli dim tir, ond yn hytrach ennill o flwyddyn i flwyddyn. Yr ydym yn hyderu fod etto amryw flynyddau o lwyddiant a defnyddioldeb o i flaen.

Mae eglwys a gweinidogion y Neuaddlwyd er's mwy na phedwar ugain mlynedd bellach wedi bod yn esiampl deilwng i holl eglwysi y Dywysogaeth mewn cydweithrediad heddychol ac ysbryd cyhoeddus. Nis gwyddom am un eglwys sydd wedi ymranu i gynifer o gangenau, mewn modd mwy heddychol, ac heb y mesur lleiaf o deimlad annymunol rhwng y farn eglwys a'r cangenau ar eu hymadawiad oddiwrthi ; ac ni ddarfu i Dr. Phillips na Mr. Evans wrth roddi gofal y cangenau, y naill ar ol y llall i fyny, wneyd hyny mewn ysbryd digofus, fel y gwnaed mewn degau o amgylchiadau cyffelyb, ond trwy gydsyniad ac anogaeth y fam eglwys a'i gweinidogion, y darfu i bob un o'r cangenau ddewis gweinidogion iddynt eu hunain. Pe buasai pob mam eglwys yn y Dywysogaeth wedi gweithredu felly buasid yn rhagflaenu llawer o warth ac amlygiad o deimladau anheilwng o'r efengyl.

Nid oes un eglwys Ymneillduol yn Nghymru ag y mae ei henw yn fwy adnabyddus trwy yr holl deyrnas na'r Neuaddlwyd. Gwnaeth yr athrofa a fu mewn cysylltiad a'r lle am ddeng-mlynedd-ar-hugain, a'r cenhadau a anfonwyd oddiyma i Madagascar, lawer tuag at enwogi y lle, ond ni buasai y pethau hyny o nemawr o anrhydedd iddo oni buasai fod yma eglwys a gweinidogion o'r cymeriadau rhagoraf. Dengys y difyniad canlynol o lythyr a dderbyniasom oddiwrth Mr. Evans, y farn a goleddir am yr eglwys enwog hon gan yr un mwyaf cymhwys o bawb i ddyweyd ei farn am dani :-

" Yr addoldy presenol yw y trydydd a adeiladwyd yn y lle. Ar ol helaethu yr ail, yn fuan ar ol dechreuad gweinidogaeth Dr. Phillips, aeth hwnw yn rhy gyfyng, ac adeiladwyd yr un presenol yn 1819. Adnewyddwyd gryn lawer arno o gylch pedair blynedd yn ol. Mae yn adeilad cryf, ac o ymddangosiad digon prydferth i ateb hyd yn oed i chwaeth yr oes hon. Un o'r pethau goreu yn hanes eglwys y Neuaddlwyd yw, ei bod wedi cael ei hanrhydeddu  fod yn fam i gynifer o eglwysi lluosog a llewyrchus, sef Penycae, Mydroilyn, Aberaeron, Dihewyd, a Llwyncelyn. Cafodd y tair flaenaf o'r cangenau hyn eu corpholi yn eglwysi Annibynol cyn marwolaeth Dr. Phillips. Yn 1852, ymffurfiodd y gangen yn Dihewyd yn eglwys. Mae yno yn awr addoldy hardd a chynnulleidfa gref. Yn 1856, adeilad-

103

wyd capel Llwyncelyn, ac ymadawodd o leiaf haner yr eglwys a'r gynnulleidfa o'r Neuaddlwyd, yn y modd mwyaf brawdol, ac a ymsefydlasant yno. Mae yno yn awr achos llewyrchus a chynnulleidfa luosog. Trwy i gynifer o ymraniadau heddychol gymeryd lle, naturiol yw meddwl y rhaid fod cynnulleidfa yr hen le wedi gwanhau yn fawr. Felly y mae wrth yr hyn a fu yn yr amseroedd gynt pan yr oedd y wlad am filldiroedd o gwmpas yn ymarllwys iddo. Ond etto mae golwg galonog a llewyrchus ar yr achos yma yn bresenol. Mae y cynnulliad Sabbothol yn gystal ag y gellid disgwyl iddo fod yn ol yr amgylchiadau. Rhifa yr eglwys o gylch naw ugain, a pherthyna iddi ysgol Sabbothol dda a gweithgar. Mae eglwys y Neuaddlwyd wedi bod bob amser yn hynod am ei hysbryd heddychol. Ni roddodd erioed achos gofid i'w gweinidogion oherwydd ymrafaelion ac ymraniadau. Gellir dyweyd hefyd nad yw wedi bod yn ol i un eglwys yn y Dywysogaeth yn ei pharch i'r weinidogaeth a'i gwerthfawrogiad o honi. Beth bynag yw, ac a fu ei diffygion, y mae wedi cadw ei henw da am ei hymlyniad wrth y gwirionedd. Pan yr ymsefydlodd yr ysgrifenydd gyntaf yn y Neuaddlwyd, yr oedd yn yr eglwys gryn nifer o swyddogion, gan mwyaf yn oedranus, am y rhai yr anturiaf ddyweyd, na fendithiwyd un eglwys yn y ganrif hon a'u rhagorach - dynion o radd uchel mewn duwioldeb, cedyrn yn yr ysgrythyrau, a ffyddlon a chydwybodol gyda'u dyledswyddau crefyddol: - yr oedd achos Duw yn agos at eu calonau. Mae llu mawr o hen ffyddloniaid yr ardal hon wedi cyrhaedd pen eu taith yn eithaf diogel, ac y mae eu henwau a'u coffadwriaeth hyd heddyw yn fendigedig gan y rhai sydd wedi myned i mewn i'w llafur hwynt. Hyderaf fod yma lawer etto yn ddilynwyr cywir iddynt."

Mae yr eglwys enwog hon yn fam i lawer o'r gweinidogion fuont yn eu dydd yn y rhes flaenaf yn mysg duwinyddion a phregethwyr Cymru. Mae y rhestr ganlynol yn cynwys enwau pob un a gyfodwyd yma  bregethu, cyn belled ag y gallasom ni ddyfod o hyd iddynt: -

104

Codwyd yma hefyd bersonau teilwng o goffadwriaeth, y rhai na fuont yn gweinidogaethu yn Nghymru, sef y rhai canlynol:-

Thomas Bevan, y canhadwr. Ganwyd ef yn y gymydogaeth hon, ond nis gwyddom pa flwyddyn. Derbyniwyd ef yn ieuangc i'r eglwys yn y Neuaddlwyd. Wedi iddo ddechreu pregethu, aeth i'r athrofa a gedwid yno gan Dr. Phillips. Wrth glywed ei weinidog a'i athraw yn rhoddi desgrifiad o sefyllfa ddaearyddol ynys Madagascar, a chyflwr moesol y trigolion, cynhyrfwyd ei feddwl ef, a meddwl ei gydfyfyriwr David Jones, fel yr amlygasant awydd am fyned allan yno fel cenhadau. Cynygiasant eu gwasanaeth  gyfarwyddwyr Cymdeithas Genhadol Llundain, y rhai a dderbyniasant eu cynygiad. Awst 20fed a'r 21ain, 1817, cynhaliwyd cyfarfod i urddo y ddau yn y Neuaddlwyd. Y prydnawn cyntaf gweddiwyd gan Mr. W. Griffiths, Glandwr, a phregethodd Meistri C. Jones, Dolgellau, a J. Phillips, Bethlehem. Boreu yr ail ddydd, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Ebenezer Richard, Tregaron; traddodwyd pregeth rymus yn desgrifio y maes cenhadol a'i bwysigrwydd gan Mr. M. Jones, Trelech, oddi wrth Josuah xiii 1. ; gofynwyd y gofyniadau arferol gan Dr. Phillips; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Phillip Maurice, Ebenezer; wedi hyny traddododd Dr. Phillips bregeth effeithiol ar eu dyledswydd i'r ddau genhadwr, oddiwrth Galat. i. 15, 16, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair. Yn y prydnawn, gweddiodd Mr. T. Griffiths, Hawen, a phregethodd Meistri J. Davies, Aberhafesp; J. Rowlands, Llanybri, a J. Roberts, Llanbrynmair. Yr oedd yr holl wasanaeth yn un nodedig o effeithiol, ac yr oedd tua phum' mil o bobl yn bresenol yno. Aeth y ddau genhadwr, a'u gwragedd, y rhai hefyd oeddynt yn aelodau o eglwys y Neuaddlwyd, ymaith o'r wlad hon yn niwedd y flwyddyn 1817, a chyrhaeddasant Mauritius yn Ebrill 1818. Gadawsant eu gwragedd yno, ac aethant ill dau yn mis Awst i Madagascar, lle y cawsant dderbyniad croesawus gan y brenhin a'r bobl. Wedi iddynt fod yno am ychydig amser ac agor ysgolion yno, dychwelasant i Mauritius i nol eu gwragedd a'u plant. Cychwynodd Mr. Jones a'i deulu i Madagascar o flaen Mr. Bevan a'i deulu. Cyn i Mr. Bevan gyrhaedd Tamatave, y brif ddinas, clywodd fod Mrs. Jones a'i phlentyn wedi marw, a bod Mr. Jones ei hun yn glaf iawn. Yn ddioed cymerwyd yntau yn glaf, a bu farw yn

* Cenhadwr 1842. Tu dal. 343.

105

mhen tri diwrnod, a'i wraig a'i blentyn yn fuan ar ei ol. Erbyn diwedd Ionawr, 1819, yr oedd Mrs. Jones a'i phlentyn, a Mr. a Mrs. Bevan a'u plentyn wedi meirw, gan adael Mr. Jones yn unig ac yn glaf, ond gan fod gan yr Arglwydd waith iddo ef i'w wneuthnr, arbedodd ei fywyd ac adferodd ei iechyd.

David Jones. Mab  un o swyddogion y Neuaddlwyd oedd ef. Pan yr oedd yn fyfyriwr yn athrofa Dr. Phillips, gogwyddwyd ei feddwl i fyned yn genhadwr i Madagascar, dan yr amgylchiadau canlynol :-Yr oedd y Dr. wedi bod yn darllen cryn lawer am Madagascar a sefyllfa ei thrigolion, ac ar un noswaith, breuddwydiodd ryw bethau cyffrous iawn am y wlad hono a chyflwr truenus ei phreswylwyr fel paganiaid. Gadawodd y breuddwyd argraff mor nodedig ar ei feddwl, fel y gofynodd yn yr ysgol dranoeth i'r myfyrwyr, a oedd neb o honynt a ymglywent a myned allan i'r ynys hono fel cenhadau. Atebodd David Jones o gongl bellaf yr ysgoldy, " Yr wyf fi yn foddlon myned ;" a chyda ei fod yn llefaru, cyfododd Thomas Bevan a dywedodd yr elai yntau. Cymeradwywyd y ddau i gyfarwyddwyr y Gymdeithas Genhadol, ac anfonwyd hwy allan, fel y nodwyd yn hanes Mr. Bevan, ond bu Mr. Bevan, y ddwy wraig, a'r ddau blentyn farw, gan adael Mr. Jones yn unig ac yn glaf. Cyn gynted ag y cafodd gyfleusdra, dychwelodd mewn llong i Mauritius, lle y bu am bedwar-mis- ar-ddeg. Erbyn hyny yr oedd ei iechyd wedi ei adferu, ac yna dychwelodd at ei waith yn Madagascar. Llwyddodd i gychwyn ysgolion dyddiol yno, ac yr oedd mab y brenhin yn mysg ei ysgolheigion. Yn y flwyddyn 1822, daeth Mr. David Griffiths yno i gydlafurio ag ef. Yn 1830, dychwelodd i Loegr, ond aeth allan drachefn yn mhen ychydig amser gyda bwriad i ail ymaflyd yn ei waith. Erbyn iddo ddychwelyd yr oedd yr awdurdodau wedi gosod rhwystrau ar ffordd y cenhadau, ac felly bu raid iddo ddychwelyd i ynys Mauritius. Cymerwyd ef yn glaf yno, a bu farw Mai 1af, 1841. Claddwyd ef yn barchus yn y fynwent gyhoeddus yn Port Louis. Gan mai o'r Neuaddlwyd yr aeth y cenhadau Protestanaidd cyntaf i Madagascar, yr eglwys anrhydeddus hon sydd i'w hystyried yn fam eglwys i'r holl eglwysi Cristionogol lluosog sydd yn awr yn Madagascar.

Francis Evans, oedd yn fab i John Evans, Efailisaf. Ganwyd ef yn flwyddyn 1812. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn y Neuaddlwyd pryd nad oedd ond deng mlwydd oed. Dechreuodd bregethu cyn ei fod yn bymtheg oed. Wedi cael addysg ragbarotoawl yn ysgol Dr. Phillips, derbyniwyd ef i athrofa y Drefnewydd pan yn bymtheng mlwydd oed. Bu yno am bedair blynedd, ac er mwyn perffeithio ei hun mewn dysgeidiaeth, aeth oddi yno i athrofa Blackburn, lle y bu am ddwy flynedd yn ychwaneg. Yn y flwyddyn 1834, aeth ar brawf i Ulverstone, lle y bu yn pregethu dros dair blynedd cyn cael ei urddo. Urddwyd ef yno Awst 2i1, 1837, a bu yno yn llafurus a llwyddianus iawn hyd 1852, pryd y derbyniodd alwad o Long Buckley, yn sir Northampton. Wedi bod yn y lle hwnw am bum' mlynedd, perswadiwyd ef gan ei hen gyfeillion yn Ulverstone i ddychwelyd atynt hwy, yr hyn a wnaeth, ac yno y bu hyd ei farwolaeth ddisymwyth Awst 16eg, 1868. Yr oedd Mr. Evans yn ysgolhaig rhagorol, yn dduwinydd galluog, ac yn bregethwr tlws, efengylaidd, a derbyniol iawn.

106

Mae y personau canlynol, a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon, etto ar dir y rhai byw :  -

Heblaw y rhai a enwyd uchod, dechreuodd cryn nifer o aelodau eglwysi eraill bregethu yma yn ystod eu harosiad yn yr athrofa.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

THOMAS PHILLIPS, D.D. Ganwyd y gweinidog enwog hwn mewn amaethdy a elwir y Scythlyn, yn mhlwyf Llanfihangel-ar-arth, yn sir Gaerfyrddin, Mawrth 29ain, 1772. Yr oedd ei dad a'i fam, John ac Anne Phillips, yn aelodau o'r eglwys yn Mhencadair. Efe oedd eu hail fab, a  pedwerydd plentyn. Bu ei dad a'i daid yn swyddwyr yn eglwys Pencadair, ac y mae amryw o'i berthynasau yn perthyn i'r eglwys hono hyd y dydd hwn. Yr oedd ef er yn blentyn yn nodedig o feddylgar, a chymerai sylw manwl o bob peth a welai ac a glywai. Yr oedd er yn saith mlwydd oed yn ddeiliad argraffiadau crefyddol dwys iawn. Teimlodd yn neillduol oddiwrth bregeth gan Mr. B. Evans, Drewen, oddiwrth 2 Cor. x 4., tua yr oed tyner hyny. Yr oedd ynddo dueddiadau cryfion at fod yn bregethwr o'i febyd, ac ni theimlai duedd at ddim arall o'r pryd yr oedd yn rhy blentynaidd i ddeall natur a phwys y gwaith y gogwyddai feddwl gymaint ato. Byddai yn fynych yn pregethu i nifer o blant, ac unwaith, ond nid mewn ysgafnder a gwawd, bu yn dynwared gweinyddiad Swper yr Arglwydd i'w gymdeithion plentynaidd. Pan yr oedd tua deng mlwydd oed, teimlodd yn ddwys iawn wrth weled amryw wyr ienaingc, ac yn eu plith Mr. D. Davies, wedi hyny Abertawy, yn cael eu derbyn yn aelodau i'r eglwys yn Mhencadair. Bu rai blynyddau ar ol hyn cyn ymuno a'r eglwys, trwy yr holl amser yr oedd yn ddeiliad teimladau cymysglyd iawn. Weithiau meddianid ef gan ffoledd ac ysgafnder ieuengctyd, nes anghofio Duw a phethau tragywyddol agos yn hollol. Brydiau eraill llenwid ei feddwl gan ofnau, amheuon, a chysur a gobaith bob yn ail.   Byddai pregethwr tra phoblogaidd, yr hwn, ar ol bywyd gwyllt ac annuwiol, a argyhoeddwyd yn ddisymwth a grymus iawn, yn arfer dyfod yn fisol i Bencadair yr amser hwnw. Arferai y pregethwr hwnw osod ei ddychweliad ei hun, o ran ei ddull a'i ddisymwthder, i fyny fel safon, a dyweyd fod yn rhaid i bob un a wir ddychwelid at yr Arglwydd, gad ei ddychwelyd yn yr un dull. Cythryblodd hyn lawer ar feddwl ieuengaidd Thomas Phillips, a bu yn foddion i'w gadw yn ol rhag rhoddr ei hun i'r Arglwydd a'i bobl am gryn amser. Yn yr adeg hono hefyd gwrandawodd bregeth gan Mr. George, Brynberian, ar y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan, yr hyn a'i trallododd yn fawr iawn. Bu yn drallodus ei feddwl am amser lled faith - yn ofni na wyddai ddim am gyfnewidiad cyflwr, a'i fod wedi pechu y pechod anfaddeuadwy, ac yn disgwyl yr argyhoeddiad disymwyth yr arferasai wrandaw am dano. Ond ar un boreu Sabboth wrth wrandaw Mr. Jonathan Jones yn gweinyddu Swper yr Arglwydd yn Mhencadair, tarawyd ei feddwl gan yr hyn a ddywedai Mr. Jones wrth yr edrychwyr, fel y penderfynodd roddi ei hun yn y fan i'r Arglwydd ac i'w bobl. Un o'r dyddiau canlynol aeth i'r gyfeillach, a derbyniwyd ef yn aelod cyflawn pan yr oedd tua deunaw mlwydd oed.

107

Yr oedd o'i febyd wedi cael llawer o fanteision addysg, a chan ei fod yn gryfach ei alluoedd naturiol na'r cyffredin, nid oedd nemawr, os oedd neb, yn yr holl eglwys yn ogyfuwch ag ef mewn gwybodaeth er ieuenged ydoedd. Wedi iddo ymuno a'r eglwys, ail enynwyd yn ei feddwl yr awydd am fod yn bregethwr, yr hyn oedd mor rymus ynddo yn ei febyd. Gan ei fod erbyn hyn yn fwy galluog i ddeall natur a phwysigrwydd y gwaith na chynt, bu llawer o groesdynu rhwng ofn ac awydd ynddo ; ond wedi cael anogaeth unfrydol yr eglwys, ymroddodd i'r gwaith. Yr oedd wedi bod am flynyddau cyn iddo ddechreu pregethu yn ysgol yr athraw enwog Mr. Davies, Castellhowell, ac yn fuan wedi dechreu pregethu aeth i athrofa Caerfyrddin, lle y bu yn fyfyriwr diwyd am ddwy-flynedd-a-haner. Ar farwolaeth yr enwog Mr. Edmund Jones, derbyniodd gais oddiwrth yr eglwys yn Ebenezer, Pontypool, i fyned yno ar brawf. Cydsyniodd ei athraw a'r cais hwnw, ac anogodd ef i fyned yno. Wedi bod yno am chwe' mis, methodd yr eglwys gyduno i roddi galwad iddo, ac felly dychwelodd adref, nc yn lle myned yn ol i'r athrofa yn Nghaerfyrddin, penderfynodd fyned i athrofa Homerton i orphen ei efrydiaeth ; ond bu pobl y Neuaddlwyd mor daer am ei gael fel y newidiodd ei feddwl, ac y cydsyniodd i gymeryd ei urddo yno. Urddwyd ef, fel y nodasom, Ebrill 6ed, 1796. Mawrth 29ain, 1798, priododd ddynes ieuangc o'i eglwys, a thrwy ei briodas daeth i feddiant o gryn lawer o gyfoeth, trwy yr hyn y galluogwyd ef i fod yn fwy defnyddiol, ac yr ychwanegwyd llawer at ei ddylanwad yn y wlad. Bu iddynt deulu lluosog. Dechreuodd pedwar o'u meibion bregethu, a bu eu merch hynaf yn wraig i Mr. Moses Rees, Groeswen. Bu Dr. Phillips am gryn dymor wedi ei sefydliad yn y Neuaddlwyd yn myned un Sabboth yn y mis i Bencadair, a phan roddodd i fyny fyned yno, ymroddodd i gychwyn achosion newyddion yn Llanbadarnfawr a Thalybont, lle y bu ei lafur yn tendithiol iawn, fel y nodir yn hanes y lleoedd hyny. Yn dra buan wedi ei sefydliad yn y Neuaddlwyd, bu yr eglwys yn Machynlleth yn daer iawn am iddo symud yno, ond gwrthododd. Cafodd alwadau o amryw leoedd eraill yn mlynyddau cyntaf ei weinidogaeth, ond pan y byddai y cyfryw alwadau yn dechreu siglo ei feddwl, cyfodai rhyw amgylchiad ar ol y llall yn y Neuaddlwyd i ben iddo wneyd fyny ei feddwl i beidio symud, ac felly treuliodd ei holl oes yn maes cyntaf ei lafur. Yn y flwyddyn 1810, penderfynodd gweinidogion sir Aberteifi, a'r siroedd cylchynol, osod i fyny athrofa yn y Neuaddlwyd er addysgu pregethwy er fuasant yn rhy hen i fyned i athrofau o radd uwch, ac er parotoi dynion ieuaingc  fyned i'r athrofau yn Nghaerfyrddin, Wrecsam, a Lloegr. Penodwyd Mr. John Maurice i fod yn athraw clasurol, a Dr. Phillips i fod yn athraw duwinyddol. Bu farw Mr. Maurice cyn pen chwe' mis wedi agoryd yr athrofa, ac mewn canlyniad syrthiodd yr holl ofal ar y Dr.   Parhaodd i fod yn athraw effeithiol yn y sefydliad hwn hyd nes iddo ychydig flynyddau cyn ei farwolaeth, oherwydd llesgedd orfod tori yr athrofa i fyny. Cafodd ugeiniau o bregethwyr ieuaingc eu haddysgu yn y sefydliad hwn, degau o ba rai a droisant yn weinidogion nodedig o boblogaidd a defnyddiol. Mae ychydig o honynt yn aros etto ar dir y byw.

Yn y flwyddyn 1831, derbyniodd Mr. Phillips y radd o Athraw Duwinyddiaeth o brif athrofa New Jersey, America. Os yw titl o'r fath yn anrhydedd, yr oedd gweinidog galluog y Neuaddlwyd, ac athraw llwyddianus yr athrofa, mor deilwng o hono a neb yn Nghymru. Yn y naw neu

108

y deng mlynedd olaf o'i fywyd, cyfarfyddodd y Dr. ag amryw amgylchiadau adfydus, y rhai a ysigasant ei gorph a'i ysbryd yn dost. Yn 1834, bu farw ei fab John, yr hwn oedd yn un o'r gweinidogion ieuangc mwyaf gobeithiol yn yr holl wlad. Curodd amryw stormydd ar ol hyny arno yn y blynyddau dilynol, ac ar y 25ain o Ebrill, 1842, bu farw ei briod hoff, ar ol hir gystudd. Yr oedd Mrs. Phillips yn un o'r gwragedd mwyaf hynaws a charuaidd yn y byd. Bu yn ymgeledd gymhwys i'w phriod am bedair-blynedd-a-deugain. Rhagfyr 22ain, yn yr un flwyddyn, tynodd yntau ei draed i'r gwely i farw, pan yr oedd o fewn tri mis i fod yn driugain ac un-ar-ddeg oed. Claddwyd ef yn barchus yn mynwent y Neuaddlwyd, a gweinyddwyd yn ei angladd gan Meistri Jones, Glynarthen ; Jones, Saron ; Lloyd, Llanelwy; Thomas, Penrhiwgaled; Grifflths, Horeb ; a Davies, Aberteifi.

Dichon na fu un gweinidog mwy llafurus a defnyddiol mewn un oes na gwlad na Dr. Phillips. Er fod gofal y Neuaddlwyd, a'i changenau lluosog a gwasgaredig, a Chilcenin a Nebo, am y rhan fwyaf o'i oes weinidogaethol, arno ef, yn nghyd a holl ofal yr athrofa, am oddeutu deng-mlynedd-ar-hugain, cafodd amser i gasglu a phlanu eglwysi mewn gwahanol ranau o'r sir, ac i deithio i gyfarfodydd trwy Ddehu a Gogledd yn fynych iawn, ac mewn ychwanegiad at y cwbl, i ddarparu amryw bethau i'r wasg. Derbyniodd i'r eglwysi dan ei ofal yn ystod y saith-mlynedd-a-dugain y bu yn eu gwasanaethu, rhwng dwy a thair mil o aelodau. Rhwng darllen, myfyrio, pregethu, cyflawni dyledswyddau eraill ei weinidogaeth, addysgu y pregethwyr ieuaingc, a theithio i gyfarfodydd pell ac agos, ni chafodd nemawr o ddyddiau i fod yn segur trwy gydol ei fywyd cyhoeddus. Gan na chawsom y fraint o weled na gwrandaw y Dr. ond unwaith yn ein hoes, nid oes genym fantais, oddiar adnabyddiaath bersonol, i roddi desgrifiad manwl a chywir o'i nodwedd, ond gan fod Mr. Morgan, Llanfyllin, yr hwn fu yn gydnabyddus ag ef am yn agos i ddeugain mlynedd, wedi gwneyd hyn mor alluog, nis gallwn wneyd dim yn well na rhoddi y difyniad canlynol o'i waith ef yn Hanes Ymneillduaeth: -

(Not extracted)

109  

(Not extracted)

 

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel is in Henfynyw parish. Sometime before 1746 Mr Jones built a small schoolhouse on his land at Neuaddlwyd, in order to educate his children. A long time before this there was a large non conformist churchin Ciliau Aeron, many of whom lived in the vicinity of Neuaddlwyd. In 1746 the schoolhouse was licensed for worship, by 1760 a church had been established here as a branch of Ciliau Aeron. The well known Phillip Pugh, supported by

101

many younger ministers, was minister of Ciliau, as well as many other congregations. Some years before he died Arminianism, Pelagianism and latterly Arianism became widespread in Ciliau and some other congregations. After his death these philosophies were used more openly and as Neuaddlwyd was more Calvinistic in it's views than that preached at Ciliau, they broke all connection, and got a Calvinistic minister to carefor themselves. We beleive that this happened very soon after his death. We do not know when the first chapel was built in Neuaddlwyd, but it is thought that it was on the same site as the schoolhouse that it was built. After splitting with Ciliau, the church was ministered to by Calvinistic ministers from afar like:-Lewis Lewis, Pencadair ; John Lewis, Newcastle-Emlyn ; John Tibbot, Esgairdawe; Thomas Gray, Phillip Maurice, Ebenezer; William Gibbon, Capel Isaac ; David Davies, Drefach, (later Swansea), aand Henry George, Brynberian.

The church and congregationflourished while Mr Davies, Drefach ministered to it. As we have seenin the history of Mynyddbach, Glamorgan that the officials wrote a very sharp letter because they had taken a much loved and successful minister from their midst. Mr Davies gave up his care in 1795, on his move to Mynnyddbach. They then called Mr Thomas Phillips, a member at Pencadair. He delayed giving a positive response for about a year, in the hope of going to Homerton to improve his education. Eventually he decided to go to Neuaddlwyd rather than Homerton. He was ordained here on April 6th, 1796. He was the first minister to settle here. Previously the ministers came here on a monthly basis, continuing to live in distant areas.

When the call was sent to Mr Phillips there were 120 members, he lived to see that many in hundreds. During his ministry the church was blessed by many strong revivals. The members increased dramatically, and the chapel had to be extended several times, this was not suffucient to accommodate the flood of new members and therefore the branches of the mother church had to be established as independent churches in their own right for example yn Penycae, Mydroilyn, Aberaeron, Llwyncelyn, Dihewydd, and many others. Following the departure of all these churches the mother church remains strong and numerous. During his ministry Dr Phillips confirmed thousands of members in Neuaddlwyd and it's branches. It is unlikely that any minister in Wales was more or even equally successful as him. His superior style of preaching, the success of his labour and the attachment of the College brought Neuaddlwyd to the notice of the whole principality. When old age began to take it's toll he encoraged all the churches to look for a supporting minister to help him maintain his ministry.He directed them towards Mr William Evans, a young man from Talybont, who was a current student at the Dr's College.

102

The church selected him unanimously and he was ordained on December 3rd and 4th, 1835. The ordination began with a prayer offered by Mr D Thomas, Penrhiwgaled, the initial sermon was given by Mr M Rees, Pencadair, the confession of faith was taken by Mr A Shadrach, Aberystwyth, the ordination prayer was given by Dr Phillips, the sermon on the duties of a minister was given by Mr M Ellis, Talybont and the sermon on the duty of a church by Mr T Griffiths, Hawen. Mr Evans continues to share the ministry with Dr Phillips until his death in 1842, they cooperated beautifully as did Paul and Timotheus. After the Dr.'s death the mother church and some of the branches remained under Mr Evans sole care but one by one he gave up the ministry of the branches, and for some years now has only been responsible for Neuaddlwyd and Aberaeron. The care of two large congregations like these are more than enough for one minister. Mr Evans has been settled here for more than 39 years, and he continues with success to gain influence year by year. We hope there are many more successful years ahead of him.

The church and ministers of Neuaddlwyd have for over forty years been an example to the whole principalityfor their peacful cooperation and public spirit. We do not know of any other church that has subdivided into so many branches, peacsfully, and with no ill-feeling between the mother church and branches on their departure, and that neither Mr Evans nor Dr. Phillips stopped ministering to them as had happened in many other places, but had encouraged each branch to call their own ministers. If all mother churches acted in the same way the ill-feeling and poor perception of religion would be avoided.There is no Independent church in the country that in better known than Neuaddlwyd. The College that was attached to it for 30 years and the missionaries sent from here to Madagascar raised it's profile considerably, but this would do nothing if the church and it's ministers were not of the best. The following excerpt from a letter sent by Mr Evans to us shows the opinion of this church by someone well qualified to give one:-

" The current chapel is the third to be built on this site. After extending the first one, soon after the start of Dr Phillips' ministry, that became too small and the present one was built in 1819. It was extensively renovated some four years ago. It is a sturdy building, it's appearance pleasing even to this age. One of the best things in the story of Neuaddlwyd is the glory of being the mother to so many large and prospering churches such as Penycae, Mydroilyn, Aberaeron, Dihewyd, and Llwyncelyn. The first three branches were embodied as Independent churches during the life of Dr Phillips. In 1852 Dihewyd formed a church. There is now a handsome chapel with a strong congregation. In 1856

103

a chapel was built in Llwyncelyn, and at least half the congregation of Neuaddlwyd left, in a spirit of brotherhood, and settled there. There is now a large and praspering congregation. As so many peaceful divisions occured, it is natural to assume that the congregation of the old chapel would be greatly diminished. So it has been in the past when the population poured in for miles around.The church here looks promising and the audience on a Sunday is as good as can be expected. The membership is about 180, with an industrious Sunday School. The church at Neuaddlwud is still known for it's peaceful spirit. There was never any problem for the ministers with disagreements and divisions. It can also be said that it has been second to none in the principality, in it's appreciation and respect for the ministry. Whatever it is or was it has kept it's reputation for following the truth.When the writer arrived in Neuaddlwyd, there were already a number of officials in the church, mostly of advanced age, of whom I dare to say that no church has been so blessed with such high religious standards, educated in the scriptures, faithful and consciousof their religious duties - God's cause was close to their hearts. Many of the old faithfuls in this area have safely reached the end of their journey and their names and memories are still held in high respect. I beleive their legacy remains in those still here."

This famous church is mother to many of the ministers, who in their days were leaders of the ministry and theology in Wales. The following is a list of those raised here to preach, complete as far as we know:-

104

Many others were raised here who deserve to be remembered, although they were never ministers in Wales :-

* Cenhadwr 1842. page 343.

105

106

The following are still living :-

Besides the above many  members of other churches began preaching here during their stay at the College.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

THOMAS PHILLIPS, D.D. - Born Scythlyn Farm, Llanfihangel ar Arth, Carmarthen. March 29th, 1772 - parents John and Ann, members Pencadair - took deep interest in religion at an early age, after sermon Mr B Evans, Drewen - confirmed at 18 years old -

107

educated at Mr Davies School, Castell Howell - Carmarthen College for two and a half years- Trial at Ebenezer, Pontypool after the death of Mr Edmund Jones, not called -Ordained Neuaddlwyd April 6th, 1796 - Married March 29th, 1798 - good marriage, gained wealth, large family - four sons became preachers , eldest daughter married Mr Moses Rees, Groeswen - started churches at Llanbadarn Fawr and Talybont - refused a call from Machynlleth and others - 1810 College established at Neuaddlwyd, Mr John Maurice(classics)died 6 months later, Dr Phillips(divinity) took on all the responsibility -Awarded Doctorate of Divinity by New Jersey College, America, well deserved -

108

Son John died 1834 - wife died 1842 after 44 years marriage - Died December 22nd, 1842, buried at Neuaddlwyd - officiating ministers Messrs  Jones, Glynarthen ; Jones, Saron ; Lloyd, Llanelwy; Thomas, Penrhiwgaled; Grifflths, Horeb ; and Davies, Aberteifi. - said to have confirmed between two and three thousand new members

 

CONTINUED


Return to top

[Gareth Hicks: 11 Oct 2008]

Valid HTML 4.01 Transitional

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI