Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru. (History of the Welsh Independent Churches)

hide
Hide

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+) From the CD published by Archive CD Books

CARDIGANSHIRE section (Vol 4)

Pages 110 - 123

See main project page

Proof read by Steve Stephenson (April 2008)

Chapels below;

  • (Continued) NEUADDLWYD   
  • ABERAERON    (Llanddewi Aber-Arth parish) (with translation)
  • LLWYNCELYN  (Llannarth parish) (with translation)
  • MYDROILYN  (Llannarth parish) (with translation)
  • DYHEWYD  (with translation)
  • CILCENIN (with translation)
  • NEBO  (Llansantffraid parish) (with translation)
  • LLANON  (Llansantffraid parish)  (with translation)

 


Pages 110 - 123

110

 

(Continued) NEUADDLWYD  

(Not extracted)

ABERAERON

(Llanddewi Aber-Arth parish)

Yn nechreuad y ganrif bresenol nid oedd ond ychydig o dai yn y lle hwn, a chan fod y Neuaddlwyd a fewn ychydig gyda dwy filldir iddo, ni feddyliai neb driugain-a-deg o flynyddau yn ol am adeiladu capel yma. Ond yn raddol cynyddodd y boblogaeth, a daeth galwad am bregethu yn achlysurol yma. Byddai Dr. Phillips, ac eraill, yn pregethu yn lled fynych yma, mewn anedd-dai, flynyddau cyn bod son am gael capel yma. Wrth weled y lle yn cynyddu yn gyflym, ac aelodau a gwrandawyr y Neuaddlwyd yn amlhau yn fawr yn y lle, dechreuwyd son am gael capel, ond buwyd gryn amser cyn cael tir i'w adeiladu arno. O'r diwedd, llwyddodd Dr. Phillips i gael tir cyfleus ar les am driugain mlynedd, gan A. T. J. Wynne, Ysw. Yn 1832 y cafwyd y tir, ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn ganlynol. Mae yr hanes cywiraf a allwn gael am yr achos hwn wedi cael ei anfon atom mewn llythyr gan Mr. Evans, y gweinidog, yr hwn sydd fel y canlyn: - "Un o gangenau eglwys y Neuaddlwyd yw yr eglwys Annibynol yn y lle hwn. Adeiladwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1833, a ffurfiwyd eglwys yma yn 1834. Mae hon erbyn hyn wedi myned yn llawer cryfach a lluosocach na'r fam eglwys. Yn 1857  helaethwyd cryn lawer ar yr addoldy, a newidiwyd y fynedfa iddo, yr hyn fu yn welliant mawr arno, ac yn fanteisiol i'r gynnulleidfa. Rhifa  yr eglwys yn bresenol ryw gymaint dros 350, a'r ysgol Sabbothol dros 250. Mae rhifedi mawr o bobl ieuaingc a phlant yn perthyn i'r gynnulleidfa. Mae y gynnulleidfa Sabbothol yn gyffredin yn dra lluosog yn ol poblogaeth

111

y lle. Gan fod llawer o forwyr yn perthyn i'r gynnulleidfa, ac yn aelodau, gellid disgwyl fod llawer ar bob tymor yn absenol. Gallwn ddyweyd mewn ysbryd diolchgar, fod nawdd ac amddiffyn yr Arglwydd wedi bod yn amlwg dros yr eglwys hon o'i dechreuad. Pan sefydlwyd hi gyntaf, nid oedd ond gwan ac ychydig o nifer, a baich trwm o ddyled, dros 350p. ar yr addoldy; ond cynyddodd yn raddol a chyson, dilewyd yr oll o'r ddyled, a thynodd arni ei hun eilwaith dros 350p. o ddyled pan helaethwyd y capel, a thalwyd y swm hwn eilwaith. Nid yw y gynnulleidfa wedi bod yn ol i nemawr yn ei haelioni at achosion eraill, tuallan i'r cylch cartrefol. Mae un peth arall i'w ddyweyd sydd yn deilwng o sylw, mae yr eglwys hon o'i dechreuad wedi bod yn un o'r rhai mwyaf  heddychol ei hysbryd, a pharod i gydweithredu gydag achos yr Arglwydd. Credaf fod llawer iawn yn y nefoedd yn awr o'r hen aelodau, a bod llawer yn yr eglwys yn bresenol fydd yn sicr o gyrhaedd yno. Da genyf allu dyweyd fod golwg siriol a llewyrchus ar yr achos yn y dyddiau hyn."

"Dau yn unig a gyfodwyd yma i bregethu, sef  Jenkin Jones, yr hwn a addysgwyd yn athrofa Aberhonddu, a urddwyd yn Nhyddewi, a fu am ychydig amser yn weinidog gyda'r Saeson yn Dowlais, ac sydd yn bresenol yn weinidog eglwys yn Falmoutb; a John Griffiths,  yr hwn a gafodd dderbyniad i athrofa Caerfyrddin, ond a glafychodd, ac a fu farw cyn myned yno yn 1868. Yr oedd yn wr ieuangc gobeithiol, o gymeriad pur, ac gristion gostyngedig."

Nid oes genym ddim i'w ychwanegu at yr hanes uchod, ond mai Dr. Phillips a Mr. Evans fuont yr unig weinidogion yma o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol, a bod eglwys a chynnulleidfa y lle hwn yn un o'r rhai siriolaf a bywiocaf yn y Dywysogaeth. Parhaed heddwch o fewn rhagfuriau y lle, a ffyniant gwastadol yn ei balasau.

Yn y flwyddyn 1873, unodd yr eglwys hon a'r Methodistiaid Calfinaidd i adeiladu ysgoldy Brutanaidd, yr hwn sydd yn adeilad hardd ac eang, ac yn debyg o fod o wasanaeth mawr i'r lle.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

At the start of this century there were only a few houses here and, as Neuaddlwyd was only a couple of miles away , no thought was given to building a chapel here.The population grew slowly and there was a need for occasional preaching here. Dr Phillips and others preached here fairly frequently, in various houses, for many years before a chapel was thought of. Seeing the place growing more rapidly, as well as the listeners at Neuaddlwyd increasing, the idea of building a chapel was discussed but it took some time to find suitable land. Eventually Dr Phillips succeeded in getting a piece of land on a sixty year lease, from A T J Wynne, Esq. in 1832. The chapel was built the following year. The most accurate history of this chapelwas from Mr Evans, the minister's letter:- "This chapel is a branch of Neuaddlwyd. Built in 1833, the church formed in 1834, it is now stronger and more numerous than it's mother church. In 1857 the chapel was extended considerably, the entrace changed to make it better for the congregation. The members number more than 350 and the Sunday School more than 250. A large number of young people and children belong to the congregation. The Sunday congregation is normally very large considering the population here.

111

As there are many sailors that belong to the congregation, there are always some who are absent. We can say, with pride, that this church has always nurtured and protected the ways of the Lord. Initially the church was weak and with few members who were saddled with a heavy debt of £350 on the chapel. As the church increased they cleared the debt, but they acquired more when the chapel was extended at a cost of about £350, this again was cleared. The congregation has been second to none in it's generosity to other causes, outaide the home circuit. There is one more thing which must be said that deserves to be noted, from the beginning this church has been one of the most peaceful in spirit, and always ready to do the Lord's work. I beleive there are many of the old members today in Heaven, and many of the current ones will get there. I am happy to say that this cause looks healthy today."

Only two were raised to preach here*:-

  • JENKIN JONES - educated at Brecon College, ordained at St. Davids' - moved to Dowlais english - to Falmouth where he remains.
  • JOHN GRIFFITHS - accepted to Carmarthen College, died before he went there in 1868.

 We have little else to add to the above - 1873 joined with Calvinistic Methodists to build a Brittanic School.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

LLWYNCELYN

(Llannarth parish)

Yr hanes goreu a fedrwn roddi am yr achos hwn yw y llythyr canlynol a dderbyniasom oddiwrth Mr. Jones, y gweinidog.

"Bu llawer o bregethu gan yr Annibynwyr yn ardal am flynyddau cyn adeiladu yr addoldy, yn lleoedd canlynol yn benaf, Cilcert, Penybanc, (cartref Dr. Phillips); Nant-gwvn-fynydd-isaf, a Pontbrendu. Pregethid yn aml yn Cilcert yn amser James James, taid y James presenol. Yr oedd hyn tua chan' mlynedd yn ol. Bu llawer o bregethu yno yn amser Owen James, tad y presenol. Pan y byddai Meistri M. Jones, Trelech; George, Brynberian ; Jones, Saron, ac eraill, yn myned am Sabboth i Talybont a Llanbadarn, y cynllun oedd, myned i Gilcert i lettya nos Sadwrn, ac yna i ffwrdd am Talybont boreu dranoeth. Wedi pregethu yn y ddau le uchod, dychwelent yn ol i gysgu i Gilcert y noson hono, wedi teithio o leiaf 50 milltir! Mae yr un croesaw i weision yr Arglwydd yn aros yn y teulu hyd y dydd hwn. Tua'r flwyddyn 1810, cychwynwyd ysgol Sabbothol yn Pen-y-cnwc-canol, cartref tad Mr. Moses Rees, Groeswen. Ni bu yr ysgol yno ond unwaith; ar ol hyny cynhelid hi yn Pen-y-cnwc-isaf, neu yr Efailisaf, cartref John Evans, tad Mr. Francis Evans, Ulverstone.

112

 Cychwynwyd yr ysgol hon gan ddau langc ieuangc o'r enw Thomas Evans, wedi hyny Pontbrendu, a Moses Rees, wedi hyny o'r Groeswen. Nid oedd y cyntaf ond tua 18 oed, a'r olaf tua 16 oed. Yn mhen amser ymranodd yr ysgol hon yn ddwy gangen, er mwyn cyfleusdra gwell i'r ardalwyr. Ymgynnullai un yn Penybanc, yn ysgoldy Dr. Phillips, a'r llall yn Pontbrendu, a lleoedd eraill, ac yn y diwedd yn Derwengam. Pan adeiladwyd Llwyncelyn, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1855, ymunodd y ddwy ysgol uchod a'u gilydd yno."

 " Ar yr 20fed o Hydref, yn yr un flwyddyn, ymneillduodd o gylch 109 oddiwrth yr eglwys gynnulledig yn y Neuaddlwyd, drwy gydsyniad a chymeradwyaeth unol yr holl eglwys, ac ymffurfiasant yn eglwys i gyfarfod o hyny allan yn Llwyncelyn. Arwyddwyd cymeradwyaeth dros yr eglwys yn y Neuaddlwyd gan y gweinidog, Mr. W. Evans. At y 109 uchod, ymunodd rhyw ychydig a hwynt yn adeg ffurfiad yr eglwys o Penycae a'r Wern, oblegid fod y lle yn fwy cyfleus iddynt. Cynhaliwyd cyfarfod agoriad yr addoldy ar y Mercher a'r Iau cyntaf yn Awst, 1858, yr hwn oedd hefyd yn gyfarfod chwarterol y sir. Hydref 30ain, 1859, cynaliwyd cyfarfod jubili, pryd y pregethwyd gan Prof. Morgan, Caerfyrddin ; Meistri H. Jones, Rhydybont, a T. Rees, Maesygroes. Nid yn unig yr oedd dyled yr addoldy wedi ei thalu, ond hefyd y ddyled ar bob peth cysylltiedig ag ef, sef ty'r capel, yr ysgoldy, ystablau, a cherbyd-dy. Saif y capel ar dir a roddwyd gan y diweddar haelfrydig a dyngarol T. L. Lloyd, Ysw., Nantgwyllt, am yr ysbaid o 999 mlynedd. Y diweddar Thomas Evans, Pontbrendu, fu a'r llaw flaenaf yn adeiladu y capel - efe oedd y cynllunydd, a chyfranodd yn helaeth at y treuliau. Yr oedd yn un o'r diaconiaid, a bu yn cyflawni y swydd hono am flynyddau yn Neuaddlwyd cyn adeiladu Llwyncelyn. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, ac yn Ymneillduwr trwyadl a goleuedig, ac yn meddu ar ddylanwad pwysig mewn gwlad ac eglwys. Cristion rhagorol hefyd oedd Thomas Evans, gwehydd, diacon arall ddaeth o'r Neuaddlwyd yma. Un mawr mewn gweddi ydoedd, a chofir ei weddiau tra y cofir ei enw. Mae dau o'r diaconiaid ddaethant yma o'r Neuaddlwyd etto yn fyw, sef  David Jones a John Jones. Mae llawer erbyn hyn wedi huno ag oeddynt yma ar adeg ffurfiad yr eglwys, ag a fuont ffyddlon yn eu dydd, megis Lewis Thomas, Jane Lodwick, Jane Griffiths, Mary Evans, ac eraill; ond y mae tyrfa etto yn aros, ac ychwanegir atynt yn barhaus rai, ni a obeithiwn, a fyddant o nifer y rhai cadwedig."

        "Bu yr eglwys dan ofal Mr. W. Evans, Aberaeron, hyd y flwyddyn 1863. Rhagfyr 23ain a'r 24ain, 1863, neillduwyd Mr. Evan Jones, y gweinidog presenol, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, i waith y weinidogaeth yn y lle hwn a Mydroilyn. Trefn y cyfarfodydd : - Am 2 y dydd cyntaf yn Mydroilyn, dechreuwyd gan Mr. B. Phillips, Ty'nygwndwn, a phregethwyd gan Meistri J. Owens, Pencadair, ac R. W. Roberts, Clarach; pregethwyd yno am 6 gan Meistri Phillips, Horeb, a Jones, Abergwili ; yn Llwyncelyn am 6 gan Meistri Williams, Hawen, a Thomas, Llanfair. Am 10 dranoeth, dechreuwyd gan Mr. D. Davies, Llanbedr, a phregethwyd gan Meistri J. Saunders, Aberystwyth, ar natur eglwys ; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Rees, Maenygroes, a gweddiwyd gan Mr. O. Thomas, Brynmair, a phregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. Thomas, Penrhiwgaled; am 2, pregethwyd gan Meistri Aberaeron, i'r eglwys, a Williams, Castellnewydd, ac am 6 gan Meistri Jones, Ffaldybrenin, a Jones, Aber-

113

gwili." Mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad a llwyddiant, ac hyderwn fod blynyddau lawer o ddefnyddioldeb o'i flaen."

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon : -

  • Morgan Evans, mab Thomas Evans, Pontbrendu, a brawd i'r diweddar Mr. G. T. Evans, Penygraig, sir Gaerfyrddin. Mae yn bregethwr tra chymeradwy yma a'r eglwysi cylchynol er pan y dechreuodd.
  • Benjamin Phillips, mab y diweddar Dr. Phillips. Neillduwyd ef i waith y weinidogaeth yn Ty'nygwndwn a Throedyrhiw yn mis Mai, 1858, lle y mae yn llafurio gyda llwyddiant hyd y dydd hwn.
  • Dayid Evans, Penrhiwdrych. Cafodd ei urddo yn Pantycrugiau Mai 22ain a'r 23ain, 1860.
  • Evan Jones. Yr hwn yn mhen blynyddoedd a ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd.
  • John Evans. Pregethodd unwaith. Yr oedd yn ddyn ieuangc gwir alluog, ac yn sefyll yn uchel yn marn a serch yr eglwys. Bu farw yn fuan wedi dechreu pregethu.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

 The best history of this chapel comes from it's minister, Mr Jones:-"The Independents preached here for many years before a chapel was built, mainly at the following, Cilcert, Penybanc, (home of Dr. Phillips); Nant-gwvn-fynydd-isaf, and Pontbrendu. Sermons were frequently given in Cilcert in the time of James James, grandfather of the present James.This was about a hundred years ago. There was much preaching there in the time of Owen James, father of the current occupant.When Messrs M. Jones, Trelech; George, Brynberian ; Jones, Saron, and others were heading for Talybont and Llanbadarn, the idea was to stay at Cilcert on Saturday night, continuing to Talybont on Sunday morning. After preaching at Talybont and Llanbadarn the to return to Cilcert on Sunday night to sleep, a round trip of about 50 miles! The same welcome remains in the family for those who serve the Lord. About 1810 a Sunday school was started at Pen y Cnwc Canol, home of the father of Mr Moses Rees, Greoswen. The School was only held there once, it was subsequently held at either Pen y Cnwc Isaf or Efailisaf, home of John Evans, father of Mr Francis Evans, Ulverstone.

112

This school was started by two young men, namely Thomas Evans, later Pontbrendu, and Moses Rees, later Greoswen. The former was only 18 years old and the younger 16. In time the school divided into two for the convenience of the community. One held at Penybanc, Dr Phillips schoolhouse, and the other at Penbontdu and other places ending with Derwengam. When Llwyncelyn was built in 1855 the two schools united again there."

"On the 20th of October that year, about 109 members moved from Neuaddlwyd with full agreement, and formed a church at Llwyncelyn. Recommendation was signed on behalf of Neuaddlwyd by Mr W Evans. Added to the above 109 a few joined them fromPenycae and Wern, because it was more convenient for them. Th chapel was officially opened on the first wednesday and thursdayof August, 1858, this combined with the quarterly meeting for the County. September 30th, 1859, a jubilee service was held, sermons were given by Prof. Morgan, Carmarthen ; Messrs H. Jones, Rhydybont, and T. Rees, Maesygroes. Not only had all the debt for the chapel been paid but also all the other debts, the chapel house, school, stables and carthouse.The chapel stands on land kindly donatedby T L Lloyd, Esq., Nantgwyllt, for a period of 999 years. The late Thomas Evans, Pontbrendu was the leader with the building of the chapel, he was the designer and also contributed generously towards the costs.He was one of the Deacons , and had been for some time at Neuaddlwyd, before they moved to Llwyncelyn. He was a great reader and a thorough and enlightened nonconformist, and could add great influence in the community and church. Another great christian was Thomas Evans, Weaver, another deacon who moved from Neuaddlwyd. He was very accomplished in prayer, and will always be remembered. Two other Deacons who came from Neuaddlwyd are still living, namely David Jones and John Jones. Many of the faithfull who came here at the formation of the church have now died :- Lewis Thomas, Jane Lodwick, Jane Griffiths, Mary Evans, and others. There is a large number still here, and there are some still being added, who will one day be among the saved."

"The church was under the care of Mr W Evans, Aberaeron, until1863. A student from Brecon College, Mr Evan Jones, the current minister, was inducted here and Mydroilyn on December 23rd and 24th, 1863. The services were as follows - 2pm the first day, Mydroilyn, Mr B Phillips, Ty'ngwndwn started then sermons were given by Messrs J. Owens, Pencadair, and R. W. Roberts, Clarach. 6pm Messrs  Phillips, Horeb, a Jones, Abergwili preached. Llwyncelyn 6pm preachers were Messrs Williams, Hawen, and Thomas, Llanfair. At 10 am the following day began with Mr. D. Davies, Llanbedr, and sermons were given by Messrs J. Saunders, Aberystwyth, nature of a church; the questions were asked by Mr. T Rees, Maenygroes, a prayer offered by Mr. O Thomas, Brynmair, a sermon to the minister by Mr. R Thomas, Penrhiwgaled; At 2 pm, sermons were given by Messrs Evans Aberaeron, i'r eglwys, a Williams, Castellnewydd, and at 6 by Messrs Jones, Ffaldybrenin, and Jones, Abergwili."

113

Mr Jones continues here very successfully, and we hope that he will continue for many years to come.

The following were raised to preach here*

  • MORGAN EVANS - son of Thomas Evans, Pontbrendu, brother to the late Mr. G. T. Evans, Penygraig,Carmarthenshire.circulating preacher
  • BENJAMIN PHILLIPS -  son of the lateDr. Phillips. minister to Ty'nygwndwn and Throedyrhiw since May, 1858, where he remains
  • DAVID EVANS - Penrhiwdrych. Ordained Pantycrugiau May 22nd and23rd, 1860.
  • EVAN JONES - he went to the Calvinistic Metodists after a short time. .
  • JOHN EVANS - preached only once, died soon afterwards.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

MYDROILYN

(Llannarth parish)

Adeiladwyd yr addoldy cyntaf yn y Ile hwn mor foreu a'r flwyddyn 1753, a bwriedid ef ar y pryd i fod at wasanaeth pob enwad yn ddiwahaniaeth. Bu yr Ariaid a'r Undodiaid yn pregethu yn lled fynych yma am haner can, mlynedd, a'r Wesleyaid am tua thair blynedd, ond ni fu un mesur o lwyddiant ar lafur y naill na'r llall o honynt trwy yr holl ysbaid, ac ni ffurfiwyd yma un gymdeithas grefyddol. Trwy fod aelodau y Neuaddlwyd yn lluosocach yn yr ardal na neb arall, a'u bod yn amlhau o flwyddyn i flwyddyn, daeth y capel yn gynar yn y ganrif bresenol yn eiddo iddynt hwy yn unig. Tua'r flwyddyn 1813, ffurfiwyd yma gymdeithas grefyddol ac ysgol Sabbothol, fel cangen o'r Neuaddlwyd. Unwaith bob tri mis yn unig y gweinyddid swper yr Arglwydd yma gan Dr. Phillips hyd y flwyddyn 1833, ond yr oedd yma bregethu bob Sabboth. O'r flwyddyn hono bu cymundeb yma bob mis, a chorpholwyd yr aelodau yn eglwys Annibynol, ond ei bod yn parhau dan yr un weinidogaeth a'r Neuaddlwyd. Tua dwy filldir i'r de ddwyrain o'r Neuaddlwyd yw y lle. Bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yma am rai blynyddau wedi marwolaeth Dr. Phillips. Pan deimlodd fod maes ei lafur yn rhy eang, anogodd y gangen hon yn nghyd a'r gangen yn Dyhewyd i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain. Yn 1854, unodd yr eglwys hon a Dyhewyd, a Throedyrhiw i roddi galwad i Mr. Evan Harries, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Gorphenaf 13eg, yn y flwyddyn hono. Ni bu ef yma lawn dwy flynedd. Yn 1856, ymfudodd i'r America. Wedi ymadawiad Mr. Harries bu yr eglwys hon yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd y flwyddyn 1863, pryd yr unodd a Llwyncelyn dan weinidogaeth Mr. Evan Jones, yr hwn sydd yn parhau i lafurio yma, ac y mae yn dda genym gael ar ddeall fod yr achos yn ennill tir yma. Bu y brodyr canlynol o wasanaeth mawr i'r achos yma yn eu tymor, James Davies, David Davies, John Stephens, Evan Lloyd, James Evans, Jenkin Evans, a David Oliver. Maent oll yn awr wedi gorphwys oddiwrth eu llafur, ond y mae eu plant a'u hwyrion yn glynu yn ffyddlon gyda'r achos yn y lle.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

The first chapel was built here as early as 1753, and it was intended for use by all denominations. The Arians and the Unitarians preached here regurlarly for about 50 years and the Wesleyans for about three years, but none of them had any great success and no religious society was formed. As there were more members of Neuaddlwyd in the area  and they were increasing year on year, early in this century the chapel became the property of these members. Around 1813 a religious association and Sunday School was formed as a branch of Neuaddlwyd. It was only once every 3 months that Holy Communion was celebrated by Dr Phillips until 1833, but there was a service every week. After this date there was monthly Communion and the members were formed into an Independent Church, continuing under the ministry of Neuaddlwyd. The place is situated about 2 miles South East of Neuaddlwyd. Mr Evans ministered here for some years after the death of Dr. Phillips. When the work became too much for him he encouraged this branch and Dihewyd to look for a minister for themselves. In 1854 this church, Dihewyd and Troedyrhiw united to call Mr Evan Harries, Brecon College, and he was ordained here on July 13th of that year. He was here for less than two years. In 1856 he emigrated to America. After Mr Harries left the church here depended on occasional ministry until 1863 when they joined with Llwyncelyn under the ministry of Mr Evan Jones, who continues to minister here, and we are pleased to hear that the cause is increasing. The following were all of great service here doring their time  James Davies, David Davies, John Stephens, Evan Lloyd, James Evans, Jenkin Evans, and David Oliver. They are all at rest now and their chilren and grandchildren are still faithful to the cause.

 

114

DYHEWYD

(Already proofed/translated - see  /big/wal/CGN/Dihewyd/Chapels.html#Hanes)

"Cangen arall o'r Neuaddlwyd ydyw yr eglwys hon. Enw y plwyf yw Dyhewyd, neu Tyhewyd, ac enw y capel Annibynol yw Bethlehem. Bu Dr. Phillips a'i ysgolheígion yn pregethu yn fynych yn y Tycoch a Phant-yr-hewl-fawr, yn y plwyf hwn, am lawer o flynyddau. Yn y flwyddyn 1845, adeiladwyd yma ysgoldy at gadw ysgolion dyddiol a Sabbothol, cyfarfodwydd gweddio a phregethu. Gan fod y ffordd oddiyma i'r Neuaddlwyd yn lled bell, penderfynwyd cadw cymundeb yma bob tri mis er mwyn yr hen bobl a'r gwragedd oedd a phlant bychain ganddynt, fel nas gallasent fyned yn fisol i'r Neuaddlwyd.

Parhaodd pethau fel hyn am ychydig amser, ond yn raddol amlygodd y cyfeillion awydd am gael eu corpholi yn eglwys Annibynol, a'r hyn y cydsyniodd Mr. Evans a'r fam eglwys yn y Neuaddlwyd. Cymerodd hyn le yn 1852. Mr. Evans fu yn gweinidogaethu yma nes i'r eglwys fechan gael ei hanog i uno a Mydroilyn a Throedyrhiw i roddi galwad i Mr. Evan Harries yn 1854. Wedi ymadawiad Mr. Harries yn 1856, ni bu yma yr un gweinidog sefydlog hyd y flwyddyn 1863, pryd y cymerodd Mr. T. Jones, Cilcenin, ofal y lle, ac efe yw y gweinidog yma hyd yn bresenol. Yn 1867, adeiladwyd yma gapel hardd a chyfleus, yr hwn a gostiodd 300p. Pregethwyd yn nghyfarfod yr agoriad gan Meistri Jones, Drewen; Rowlands, Llanon; Phillips, Horeb; Williams, Rhydybont; Williams,Hawen; Morgans, Penlan; Jones, Gwernllwyn ; Thomas, Llanfair, a Davies, Llanbedr.

Cyfodwyd yma i bregethu Henry Davies, gweinidog presenol yr eglwys yn Llanelli, Brycheiniog, a David Davies, mab Samuel Davies, Banc. Yr oedd y gwr ieuangc hwn wedi dechreu ei efrydiaeth yn athrofa Caerfyrddin, ond yn fuan cymerwyd ef yn glaf, a bu farw yn 1864, er mawr siomedigaeth i'w berthynasau a'i gydnabod, y rhai a ddisgwyliant y buasai yn dyfod yn ddyn enwog a defnyddiol."

 

CILCENIN

Dechreuwyd yr achos Annibynol yn y lle hwn dan yr amgylchiadau canlynol : - Yr oedd pregethwr o'r enw Thomas Rees, yr hwn oedd yn ddilledydd wrth ei alwedigaeth, yn byw yn Llanbedr, ac yn arfer dyfod yn fisol i Dy'nygwndwn i bregethu. Yr oedd rhai o blwyf  Cilcenin myned yno i'w wrandaw. Un tro, cafodd gymhelliad taer i fyned ar brydnawn Sabboth i bregethu i le a elwir y Perthillwydion, ye mhlwyf Cilcenin, yn benaf er mwyn gwr y ty yr hwn oedd yn glaf. Aeth yno, a daeth llawer o bobl i'w wrandaw. Cafwyd y fath flas ar yr oedfa, fel yr anogwyd y pregethwr i ddyfod yno drachefn. Wedi parhau i fyned yno am ychydig amser, ennillwyd amryw o'r ardalwyr i geisio crefydd, a ffurfiwyd yno eglwys fechan. Aeth pethau yn mlaen mor llwyddianus fel yr adeiladwyd capel bychan ar y fan y saif y capel presenol. Bwriedid urddo Thomas Rees yn weinidog yno, ond cyn i'r bwriad allu cael ei gyflawni, galwodd yr Arglwydd ef ato ei hun. Dywedir ei fod yn bregethwr doniol a deniadol iawn. Wedi ei farwolaeth ef, cymerodd Mr. Phillip Maurice, Ebenezer, ofal y ddeadell fechan, a bu dan ei ofal ef am lawer o flynyddau. Rhywbryd tua dechreuad y ganrif bresenol, cyfododd rhyw bersonau anhywaith ymryson yn yr eglwys, yr hyn a barodd i Mr. Maurice

115

roddi gofal y lle i fyny. Bu y terfysgwyr hyn agos a lladd yr achos. Yr oedd pethau wedi myned mor isel yma fel yr oedd yr ychydig ddynion heddychol yn y lle wedi meddwl y buasai raid iddynt gau y drws a gadael pob peth i farw. Ar yr amser blin hwnw rhoddasant eu hunain dan nawdd eglwys y Neuaddlwyd, a chymerodd Dr. Phillips eu gofal yn 1803. Y pryd hwnw torodd diwygiad grymus allan yma, ac yn yr ardaloedd o gwmpas, a chyfodwyd yr achos yma yn ddioed o wendid a nychdod i nerth a chyflwr llewyrchus, ac felly y mae wedi parhau i fod, i raddau mwy neu lai, o'r pryd hwnw hyd yn awr. Parhaodd Dr. Phillips i weinidogaethu yma hyd y flwyddyn 1840, ond fod Mr. Evans yn ei gynorthwyo er y flwyddyn 1835. Oherwydd fod y Dr. wedi methu gan henaint, a bod cylch y weinidogaeth yn llawer rhy eang i Mr. Evans ei hun i'w lenwi, anogwyd Cilcenin a Nebo i ddewis gweinidog iddynt eu hunain. Syrthiodd eu dewisiad ar Mr. Thomas Jones, myfyriwr o athrofa Dr. Phillips. Urddwyd ef i fod yn weinidog yma ac yn Nebo, Mawrth 20fed a'r 21ain, 1840. Cynaliwyd y cyfarfod y dydd cyntaf yn Nebo, a'r ail ddydd yn Nghilcenin. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri Rees, Pencadair; Rees, Brynsion; Thomas, Penrhiwgaled; Griffiths, Horeb; Davies, Aberteifi; Jones, Faldybrenin, ac eraill. Y mae Mr. Jones yn parhau i lafurio yma gyda mesur cyson o lwyddiant hyd y dydd hwn.

Un bychan oedd y capel a adeiladwyd yma yn 1775. Yn fuan ar ol dechreuad gweinidogaeth Dr. Phillips yma, helaethwyd ef i fwy na chymaint arall. Aeth wedi hyny yn rhy fychan i'r gynnulleidfa fel yr helaethwyd ef yn fawr yr ail waith yn 1835. Yn 1859, cafodd ei helaethu y drydedd waith, nes y mae yn awr yn cynwys lle i gymaint arall o wrandawyr nag a gynwysai cyn yr helaethiad hwn.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma: -

  • Timothy Evans. Bu am rai blynyddau yn weinidog yn y Plough, Aberhonddu, ond tua y flwyddyn 1840, enciliodd i'r Eglwys Sefydledig. Y mae wedi marw er's blynyddau bellach.
  • David Jones. Rhoddwyd ei hanes ef yn nglyn a Chapel Sal, Cydwely, lle y bu yn weinidog.
  • Evan Price. Urddwyd ef yn Ruthyn, lle bu am wyth mlynedd. Bu wedi hyny am ysbaid yn Lloegr. Y mae er's blynyddau bellach yn ei ardal enedigol, ond wedi rhoddi i fyny bregethu er's blynyddau lawer.
  • David Evans. Yr oedd ef yn frawd i Timothy Evans. Priododd ag Anne, merch Dr. Phillips. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a farw yn mlodeu i ddyddiau tua y flwyddyn 1830.
  • Daniel Rees. Dechreuodd ef bregethu yr un amser a David Evans, a bu farw yn agos i'r un amser ag yntau, ac o'r un afiechyd.
  • John Davies Yr oedd ef yn ddyn dall, ac yn bregethwr rhyfeddol o effeithiol. Teithiodd gryn lawer trwy wahanol ranau o'r Deheudir am rai blynyddau. Bu am ysbaid yn pregethu yn Mhenmain, Cwmbran, a lleoedd eraill yn Mynwy. Dychwelodd oddiyno i'w ardal enedigol wedi colli ei iechyd, ac ar ol nychu am dymor. bu farw yn 1844.
  • Evan Evans. Wedi iddo ef fod rai blynyddau yn athrofa y Neuaddlwyd, derbyniwyd ef i athrofa Highbury, Llundain. Pan yno aeth yn bruddglwyfus, a bu raid iddo ddychwelyd adref. Effeithiodd dolur ei feddwl ar ei gorph, a gwanhaodd yn raddol nes y bu farw yn y flwyddyn 1843. Yr oedd yn ddyn lluniaidd iawn o gorph, ac o feddwl nodedig o rymus a gweithgar, ond machludodd yr  haul tra yr oedd hi etto yn ddydd.

116

  • Evan Jones. Gweinidog presenol yr eglwysi yn NghastellnewyddEmlyn, Capel Iwan, a Brynsion.
  • Isaac Evans. Ganwyd ef Awst 29ain, 1805. Yr oedd ei rieni yn ddynion crefyddol ac yn aelodau ffyddlon yn Nghilcenin. Derbyniwyd yntau yn aelod yno pan yn un-ar-bymtheg oed, ac yn fuan wedi hyny dechreuodd bregethu. Wedi cael addysg ragbarotoawl yn athrofa Neuaddlwyd, derbyniwyd ef i athrofa y Drefnewydd. Ar derfyniad ei amser yno aeth yn agos i Stockport, lle y bu yn pregethu fel Cenhadwr Cartrefol am ddwy flynedd. Yna derbyniodd alwad o Weedon, yn sir Northampton, lle yr urddwyd ef yn mis Gorphenaf, 1832, ac yno y bu hyd derfyn ei oes. Bu farw ar ol rhai misoedd o nychdod Mehefin 26ain, 1865. Yr oedd Mr. Evans yn ddyn gwir dda ac yn bregethwr nodedig o dderbyniol a llwyddianus. Er iddo dreulio ei holl fywyd cyhoeddus yn mysg y Saeson, cadwodd iaith ei fam a'i serch at Gymru hyd y diwedd. Ysgrifenodd amryw o'i bregethau i'r Diwygiwr flynyddau yn ol.
  • Jenkin Rees, yr hwn sydd yn awr yn athrofa y Bala. Mae yr eglwys hon wedi bod yn enwog am ei hysbryd heddychol o ddechreuad y ganrif bresenol hyd yn awr, ac yr ydym yn hyderu y parha byth.

 

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

The cause here was started as follows:- There was a preacher named Thomas Rees, who was a clothier by trade, living in Lampeter, who came to Ty'ngwndwn to preach once a month.Some from Cilcenin went there to listen to him. One time he was pressed to go and preach in a place called Perthillwydion, in the Cilcennin area, mainly because the owner of this house was ill. When he went there many people came to listen to him. There was a great enthusiasm, and he was asked to come again. After going there several times, some of the people came together to form a small church. Matters improved so that a small chapel was built where the present one stands. Thomas Rees was to be ordained there , but the Lord called him before the ceremony had taken place. He was said to have been an attractive and amusing preacher. After his death Mr Phillip Maurice, Ebenezer, took care of the small congregation. Early this century there was  some problems with intractable people, which caused Mr Maurice to give up his care.

115

These people nearly killed the cause. Matters got so bad that the few peaceful members started to think of letting the cause die. At this stage they put themselves under the care of Neuaddlwyd, and Dr Phillips undertook their care in 1803. At that time a strong revival occured heree and the surrounding area, and the cause was lifted from the depths into strength, and it has continued more or less to this day. Dr Phillips continued to minister until 1840, but with assistance from Mr Evans from 1835.

Due to his age , the Dr was failing and the large size of the ministry, Cilcennin and Nebo were encouraged to find a minister for themselves. Their choice fell on Mr Thomas Jones, a student with Dr Phillips. He was ordained here and Nebo on March 20th and 21st, 1840. The service on the first day  was at Nebo and the second at Cilcennin. Ministers officiating were Messrs Rees, Pencadair; Rees, Brynsion; Thomas, Penrhiwgaled; Griffiths, Horeb; Davies, Cardigan; Jones, Faldybrenin, and others. Mr Jones continues to labour here with a measure of success to this day.

The chapel here in 1775 was small. Soon after Dr Phillips took on the ministry, it was enlarged. It still became too small for the congregation and so it was massively enlarged again in 1835. In 1859 it was enlarged again for the third time, so it can now accomodate as many people again.

The following were raised to preach here:-*

  • TIMOTHY EVANS  - some years at Plough, Aberhonddu, 1840 joined the Established Church
  • DAVID JONES  - his history is with Sal Chapel, Kydwely, where he was a minister.
  • EVAN PRICE  - ordained Rhuthyn,there for 8 years - then to England - back in the area he was born - given up preaching.
  • DAVID EVANS - brother of Timothy Evans - married Anne, Dr Phillips daughter - died of Tuberculosis 1830.
  • DANIEL REES - began preaching the same time as Mr Evans(above) - died of the same cause around the same time.
  • JOHN DAVIES - Blind, effective preacher - travelling preacher for some time - short spell in Penmain, Cwnbran and other places in Monmouthshire - returned home - Died 1844.
  • EVAN EVANS - Some years at Neuaddlwyd - then to Highbury, London - became depressed, came home - he weakened generally, Died 1843.

116

  • EVAN JONES - Current minister CastellnewyddEmlyn, Capel Iwan, and Brynsion.
  • ISAAC EVANS -Born August 29th, 1805.Cilcenin - Confirmed at 15 - education Neuaddlwyd - then Newtown College - Homeland missionary for 2 years around Stockport - called to Weedon, Northampton, ordained July 1832 - remained there for the rest of his life- Died July 26th, 1865.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

NEBO

(Already proofed/translated - see /big/wal/CGN/Llansanffraid/Chapels.html#Nebo )

"Mae y capel hwn yn mhlwyf Llansantffraid, a thua thair milldir yn nes i Aberystwyth na Chílcenin. Yr oedd yn yr ardal hon lawer o anedd-dai wedi cael eu hadeiladu ar y mynydd-dir (common). Yn mysg eraill yr oedd un David Jenkin wedi adeiladu ty yma, ac yr oedd yn dafarn, ar ochr y ffordd sydd yn arwain o Lanbedr i Aberystwyth. Yr oedd gwraig David Jenkin yn aelod yn Nghilcenin, ac elai yno i'r moddion mor fynych ag y gallai. Tua'r flwyddyn 1805, gwahoddodd bregethwyr i gynal cyfarfodydd yn achlysurol yn ei thy. Cydsyniodd ei gwr a hyny. O hyny allan byddai Dr. Phillips yn pregethu yno unwaith yn y mis am chwech o'r gloch nos Sabboth. Byddai amryw bregethwyr eraill yn pregethu yma yn fynych wrth fyned a dyfod o'r Deheudir i'r Gogledd. Yn fuan lluosogodd y gwrandawyr fel na chynwysai y ty hwynt, a byddid fynychaf ar nos Sabbothau teg yn pregethu allan yn yr awyr agored. Cyn hir ymunodd amryw o'r ardalwyr yn y gymdeithas grefyddol, ac yn mysg eraill David Jenkin, a bu yn aelod hardd a defnyddiol yma hyd ei farwolaeth. Erbyn hyn yr oedd galwad am addoldy. Ymroddwyd at y gwaith o adeiladu, ac yn fuan gorphenwyd yma gapel bychan a chyfleus ar y common. Agorwyd ef yn amser y Pasg, 1808, pryd y pregethwyd gan Meistri B. Evans, Drewen; P. Maurice, Ebenezer; M. Jones, Trelech, ac eraill. Bu cyfarfodydd yr agoriad dan arddeliad nodedig. Dechreuodd yma ddiwygiad crefyddol y pryd hwnw, trwy yr hwn y dygwyd llawer o'r ardalwyr at grefydd. Yn mhen ychydig amser ar ol hyn pasiwyd deddf seneddol i werthu amryw diroedd annghwrteithiedig yn Nghymru, ac yn mysg eraill, y tir cyffredin yn yr ardal hon. Aeth Dr. Phillips at y rhai a awdurdodesid gan y llywodraeth i werthu y tir hwn, a phrynodd y tir yr oedd y capel arno, a digon o dir oddiamgylch íddo at fynwent. Wedi hyn efe a drosglwyddodd y tir a'r addoldy i ymddiriedolwyr

* Llythyr Mr. Jones.

117

am fil ond un o flynyddau, am swllt yn y flwyddyn o ardreth. Ailadeiladwyd y capel, yn fwy na chymaint arall na'r un cyntaf, yn 1835. Bu yr eglwys hon o'i dechreuad hyd 1840 dan weinidogaeth Dr. Phillips a'i gydweinidog Mr. Evans. Yn y fwyddyn hono rhoddasant hwy ofal y lle i fyny, ac urddwyd Mr. Thomas Jones, o athrofa y Neuaddlwyd, i fod yn weinidog yma ac yn Nghilcenin. Bu yr eglwys hon dan ofal Mr. Jones hyd 1869, pryd, oherwydd helaethrwydd maes ei lafur, a bod achos newydd wedi ei gychwyn yn Llanon, yr hwn oedd yn gyfleus i'w gysylltu a Nebo at gynal gweinidog, efe a roddodd ofal y lle i fyny. Yn y flwyddyn hono, unodd yr eglwys hon a Llanon i roddi galwad i Mr. R. Rowlands, Ceidio, sir Gaernarfon. Dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Tachwedd, 1869, a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma ac yn Llanon yn mis Mawrth, 1870, pryd y pregethodd Meistri T. Selby Jones, Drewen; D. Davies, Llanbedr ; J. Williams, Hawen ; H. T. Parry, Abersoch ; R. Thomas, Penrhiwgaled ; O. Thomas, Brynmair ; H. P. Jones, Hebron ; Dr. Phillips, Henffordd, a B. Rees, Llanbadarn. Y mae Mr. Rowlands yn parhau i lafurio yma ac yn Llanon yn dderbyniol a llwyddianus, ac felly y byddo am flynyddau lawer etto.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon : -

  • Darid Griffiths. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1791, mewn lle a elwir Pantypetris, yn agos i'r Paunant, yn mhlwyf Llanbadarn-tref-eglwys. Yn fuan ar ol dechreu pregethu aeth i athrofa y Neuaddlwyd. Ar derfyniad ei amser yno, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Nghydwely, sir Gaerfyrddin, ond cyn iddo allu myned yno, clafychodd a bu farw.
  • David Phillips, Bu yn weinidog yr eglwys Saesonig yn Aberteifi.
  • Stephen Jones. Urddwyd ef yn y Drewen. Y mae er's blynyddau lawer bellach yn byw yn Erwood, Brycheiniog. Nid oes ganddo ofal eglwysig, ond y mae yn pregethu yn fynych mewn gwahanol fanau.
  • Timothy Jones. Brawd Stephen Jones. Wedi bod yma am flynyddau yn bregethwr cynorthwyol, ymfudodd i'r America, lle yr urddwyd ef. Mae yn awr yn weinidog yn Delafield, Wisconsin.
  • David M. Richards. Mae efe yn fab i Mr. Evan Richards, un o swyddogion yr eglwys. Yn ddiweddar y dechreuodd bregethu. Bwriada fyned i ryw athrofa. "

 

LLANON

(Already proofed/translated - see /big/wal/CGN/Llansanffraid/Chapels.html#Siloh )

"Pentref lled boblog yw y lle hwn, tua phum' milldir o Aberaeron ar y ffordd i Aberystwyth. Yr oedd amryw o aelodau eglwysi Annibynol yn byw yma, a rhai o honynt wedi myned i gymundeb achlysurol gydag enwadau eraill, am nad oedd eglwys o'u henwad eu hunain yn gyfleus iddynt. Trwy gydymdrech Mr. Evans, Aberaeron, a Mr. Jones, Cilcenin, mewn cysylltiad a chyfeillion yn yr ardal, adeiladwyd yma gapel Annibynol hardd, mewn man cyfleus, yn y flwyddyn 1864.

Mesura y capel o fewn y muriau 42 troedfedd wrth 33. Y mae oriel hefyd yn y naill ben iddo. Yn fuan wedi adeiladu y capel, ffurfiwyd yma eglwys. Pump-ar-hugain oedd rhif yr aelodau yn y cymundeb cyntaf. Yn mis Mai, 1865, cynaliwyd, cyfarfodydd i agoryd y capel, pryd y pregethodd Meistri R. Thomas, Bangor; T. Davies, Llandeilo; T. Thomas, Glandwr, ac eraill. Costiodd yr addoldy chwe' chant o bunau, a thrwy ymdrech gweinidogion ac eglwysi y sir, talwyd pum' cant o'r ddyled erbyn diwedd y flwyddyn

118

1865. Hyderir y bydd yr ychydig weddill o ddyled sydd yn aros wedi ei dalu yn fuan. Yn y flwyddyn 1869, fel y nodasom yn hanes Nebo, rhoddodd yr eglwys hon ei hun, mewn cysylltiad a'r eglwys hono, dan ofal gweinidogaethol Mr. R. Rowlands, y gweinidog presenol. Mae yr eglwys hon wedi cynyddu gryn lawer oddiar ei ffurfiad yn niwedd 1864, ac ennill nerth yn raddol y mae yr achos. Yn ol yr argoelion presenol bydd yma eglwys cref yn mhen ychydig o flynyddau. Dan ofal Mr. Evans, Aberaeron, a Mr. Jones, Cilcenin, yn benaf yr oedd yr achos hwn oddiar ei gychwyniad hyd sefydliad Mr. Rowlands yma."

 

LLANGWYRYFON

(Already proofed/translated - see /big/wal/CGN/Llangwyryfon/Chapels.html#Saron )

"Yn y flwyddyn 1842 y dechreuwyd pregethu yn y lle hwn gan yr Annibynwyr. Dichon fod rhai pregethwyr Annibynol wedi bod yma yn achlysurol cyn hyny, ond y pryd hwnw y dechreuwyd cynal gwasanaeth cyson yma. Mr. B Rees, Llanbadarn, a Mr. T. Jones, Cilcenin, oedd y ddau weinidog cyntaf a ddeuent yma, ac mewn amaethdy a elwir Cilfachycoed y pregethent. Wedi i'r ddau frawd hyn fod yn pregethu yma yn lled fynych am oddeutu blwyddyn a haner, ac i fesur o fwyddiant ddilyn eu llafur, penderfynwyd adeiladu capel yn y gymydogaeth, yr hyn a wnaed, a ffurfiwyd yma eglwys. Agorwyd y capel Hydref 25ain a'r 26ain, 1843. Bu Mr. Rees a Mr. Jones yn cydweinidogaethu yma dros rywfaint o amser, ond oherwydd y galwad oedd am ei wasanaeth yn ei gylch cartrefol, rhoddodd Mr. Rees heibio ymweled a'r lle hwn, ac felly, syrthiodd y gofal yn hollol ar Mr. Jones, ond y mae rhai o weinidogion y sir a phregethwyr cynorthwyol yn llenwi ei le ar y Sabbothau na byddo efe yma. Y rhai sydd yn dyfod yma fynychaf yn bresenol yw Mr. Miles, Aberystwyth; Mr. Rowlands, Llanon; Mr. Thomas Thomas, Aberystwyth, a Mr. John Adams, Talybont. Cafodd y capel ei adgyweirio a'i harddu yn fawr yn ddiweddar. Yr oedd y draul i wneyd hyny tua thriugain punt. Nid yw nifer yr aelodau yn llawn ugain, na'r gwrandawyr ond ychydig mewn cymhariaeth, ond dichon y gwelir yr amser pan y bydd y fechan wedi myned yn fil, a'r wael yn genedl gref."*

LLANBADARNFAWR

(Already proofed/translated - see /big/wal/CGN/LlanbadarnFawr/Chapels.html#Soar )

" Mae y lle hwn o fewn milldir i Aberystwyth. Yma y corpholwyd yr eglwys Annibynol gyntaf yn y rhanbarth yma o'r sir. Dechreuwyd pregethu yma mewn ty anedd yn nghanol y dreflan, gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yn 1801. Cynorthwywyd ef gan eraill o weinidogion a phregethwyr yr enwad, a chyn hir cymerwyd ty bychan yn mhen gogleddol y pentref ar ardreth, a threfnwyd ef oreu gellid at gynal gwasanaeth crefyddol ynddo. Corpholwyd yma eglwys yn 1802, cynwysedig o un-ar-ddeg o aelodau. Yr oedd Dr. Phillips a Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, yn bresenol ar yr achlysur, a gweinyddwyd yma yr ordinhad o swper yr Arglwydd am y waith gyntaf.   Er mai ar  Dr. Phillips yr oedd y gofal yn benaf, etto cynorthwyid ef gan eraill, ac yn enwedig, ni ddylid esgeuluso

*Llythyr Mr. Jones, Cilcenin.

119

crybwyll enwau yr efengylwyr ffyddlon Rhys Daries a John Thomas, Glynarthen, y rhai nid yn unig yma, ond hefyd mewn rhanau eraiîl o'r wlad, a fuont o help mawr i gychwyn a sefydlu achesion.

Arferid cynal Gwylmabsant yn Llanbadarn ar ddydd Llun y Pasg bob amser, i'r hwn y cyrchai yr holl wlad oddiamgylch, a rnawr yr annuwioldeb a'i dilynui, ac er mwyn gwrthweithio dylanwad niweidiol y cynulliadau llygredig hyny, dechreuodd Dr. Phillips, ac eraill, bregethu yn y lle ar y diwrnod hwnw, a llwyddodd yr efengyl yn raddol i roddi uchel-wyliau annuwioldeb yn yr ardal i lawr. Dyna a fu yn gychwyniad i gyfarfod y Pasg, yr hwn sydd wedi ei gynal o'i pryd hwnw hyd yn awr, ond ei fod er's blynyddau wedi ei symud o ddydd Llun yn nes i ganol yr wythnos

Yn 1804, cafwyd darn o dir at adeiladu capel arno, yr hwn a alwyd yn Zoar.

Yn 1806, symudodd Mr. Azariah Shadrach yma o Lanrwst, i fod yn weinidog yma ac yn Nhalybont, a bu yn llafurio yma gyda llwyddiant mawr am yn agos i ddeunaw mlynedd, a phan y rhoddodd yr achos i fyny, gwnaeth hyny fel y gallai ymgyflwyno yn llwyrach i wasanaethu yr achos newydd a gychwynwyd ganddo yn nhref Aberystwyth. Bu cychwyniad yr achos yno yn dipyn o wanychdod i'r achos yma, ond daliodd ei dir er hyny, a chyn hir adnewyddodd ei nerth. Rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Rees, myfyriwr yn athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Medi 22ain, 1825. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri T. Phillips, Neuaddlwyd ; H. George, Brynberian ; Ll Rees, Trewyddel, (tad yr urddedig); W. Jones, Rhydybont ; D. Davies, Aberteifi; T. Griffiths, Hawen ; D. Thomas, Penrhiwgaled ; M. Rees, Pencadair, ac eraill. Yr oedd cangenau cyn hyn wedi eu sefydlu yn Dyffrynpaith a Clarach, i'r rhai hefyd yr oedd Mr. Rees i weinyddu.

Yn 1827, rhoddwyd eisteddleoedd cyfleus yn y capel, ac yn mhen tair blynedd wedi hyny helaethwyd ef, a rhoddwyd oriel ynddo. Daeth yma gynnulleidfa lled luosog, ac er na chyfrifid yr eglwys yn gyfoethog yn ei hamgylchiadau bydol, etto yr oedd yma lawer o bobl ffyddlawn a gweithgar gyda chrefydd. Llafuriodd Mr. Rees yma yn ddiwyd a chyson am saith-mlynedd-a-deugain, ond yn y ddwy flynedd ddiweddaf y mae ei iechyd wedi gwaelu yn fawr, fel nad ydyw yn gallu cyflawni ei weinidogaeth fel cynt, ond y mae etto yn aros mewn cysylltiad a'r eglwys. Nid ydym wedi cael enwau neb o hynodrwydd a fu yn nglyn a'r eglwys hon, ac nid anfonwyd i ni enw neb a godwyd yma i bregethu. "

 

DYFFRYNPAITH

(Already proofed/translated - see /big/wal/CGN/LlanbadarnFawr/Chapels.html#Beulah )

" Mae y lle yma o fewn tair milldir i Aberystwyth, yr ochr ddeheuol i'r dref. Dechreuwyd pregethu yma yn foreu yn y ganrif bresennol, yn fuan fel y tybiwn ar ol dechreu yn Llanbadarn. Dywed Mr. Morgan, Llanfyllin, yn Hanes Ymneillduaeth, yr arferai ef ddyfod yma yn lled gyson dros ysbaid saith mlynedd o Dalybont, i bregethu mewn ty bychan a elwid Penybont, lle yr oedd Richard a Betti, a'u merch yn byw, y rhai oeddynt ffyddlawn a gwresog gyda chrefydd. Os ceid deg-ar-hugain yn nghyd, cyfrifid hi yn gynnulleidfa dda, ond byddai raid yn aml foddloni ar cyn lleied a chwech. Ond daliwyd yn mlaen er pob digalondid. Cyfaddaswyd hen dy yn lle at addoli, ac ynddo y buwyd yn ymgynnull am lawer o flynyddoedd. Yn 1842, penderfynwyd cael capel newydd yma, ac 

120

agorwyd ef Chwefror 1af a'r 2il, 1843. Mae yr eglwys yma wedi sirioli yn fawr y blynyddau diweddaf, er nad yw etto yn lluosog, ac nis gelli disgwyl iddi fod, oblegid nid yw ei chylch ond cyfyng, etto mae yma amryw bersonau a theuluoedd wedi bod yn ffyddlon at Dduw a'i dy. Mae y lle o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Llanbadarn, ac felly y mae yn parhau.

Nid ydym yn gwybod am neb a godwyd yma i bregethu. Yma y derbyniwyd Mr. Darid Williams, Beulah, Bangor, yn aelod, a thueddir ni i feddwl mai yma y dechreuodd bregethu, er na chawsom, sicrwydd o hyny. "

TALYBONT

(Llanfihangel-genau'r-glyn parish)

Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanfihangel-genau'r-glyn, o fewn saith milldir i Aberystwyth, ar y briffordd i Fachynlleth. Gan fod Mr. Morgan, Llanfyllin, wedi ei ddwyn i fyny yn yr ardal yma, ac wedi treulio blynyddoedd ynddi, nis gallwn wneyd dim yn well na difynu o'i adroddiad ef yn Hanes Ymneillduaeth am hanes yr achos yma yn ei flynyddoedd cyntaf.

" Dechreuwyd pregethu yr efengyl gan yr Annibynwyr yn y lle hwn gan yr hen bererin ffyddlawn, Mr. Rees Davies o Saron, tua'r flwyddyn 1803, yr hwn a gadwai ysgol y pryd hwnw yn Mhennal, sir Feirionydd. Yr oedd gwraig foneddig o'r enw Mrs. Anwyl yn byw mewn lle a elwir Llugwy, yn agos i Bennal, ac yn aelod o'r gymdeithas grefyddol ydoedd wedi eu ffurfio yno yn ddiweddar, fel cangen o'r eglwys Annibynol yn Machynlleth. Yr oedd y foneddiges hon yn enedigol o ardal Talybont, a llawer iawn o'i pherthynasau yn byw yn yr ardal hono. Ar ol iddi gael ei dwyn i adnabod ffordd y gwirionedd ei hun, teimlai yn ddwys iawn dros ei hen gyfeillion a'i pherthynasau yn ardal eang Talybont, y rhai a arhosent yn mro a chysgod angau, ac yn amddifaid o fanteision crefyddol. Gan fod Mr. Rees Davies yn bregethwr gwresog, ac yn gyfaill mawr a Mrs. Anwyl, anfonodd ef yno i bregethu, ac anfonodd at rai o'i hen gydnabyddiaeth am iddynt roddi pob hwylusdod a allent iddo i gyflawni ei waith. Anfonodd lythyr hefyd at Mr. Phillips yn erfyn arno ymweled a'r ardal hon. Ar ol i Mr. Rees Davies ddyfod yno, a chael cenad i bregethu ar y gareg farch, wrth ddrws yr unig westy yn y pentref, o'r enw y Llew Du, daeth nifer lluosog i wrando arno y tro cyntaf; ac erbyn yr ail dro, yr oedd y gwrandawyr wedi ychwanegu cryn lawer. Seiniai yr enw Ymneillduwyr yn rhyw beth dyeithr iawn yn nghlustiau y rhan fwyaf o'r ardalwyr y pryd hwnw, ac yr oedd lluaws o honynt heb gymaint a gweled un o honynt erioed o'r blaen. Effeithiai dylanwad enw y wraig foneddig uchod yn dda ar lawer yn yr ardal, drwy eu dwyn i wrando, a pheri iddynt feddwl yn well am y bobl y perthynai hi iddynt. Adwaenent hi yn dda, a safai yn uchel, fel gwraig foneddig a rhinweddol, yn eu cymeradwyaeth. Ar ol i Mr. Rees Davies fod yno yn pregethu dros ychydig Sabbothau, daeth y Parch. T. Phillips, Neuaddlwyd, i ymweled a hwy, ac i bregethu iddynt, a chynorthwywyd ef yn fuan gan Jones o Saron; J. Lloyd o Henllan; D. Morgan o Ffaldybrenin; J. Thomas o Glynarthen, ac eraill. Pregethent weithiau ar y gareg farch, a phryd arall dan gysgod coeden dewfrig ar ganol y pentref, o flaen ty Mr. Richard Morgan, Lliwydd. Nid oedd neb yn y lle a dderbyniai yr un o'r cenhadon i'w tai i'w llettya, nac i roddi lluniaeth iddynt, ond daeth ambell ewyllysiwr da yn

121

lled fuan i dalu rhan o'u traul yn y gwesty. Tarddai yr ymddygiad yn benaf oddiar eu hanwybodaeth, a rhyw fath o wylder, am y tybient fod eu tai yn rhy waelion, a'u hymborth yn rhy gyffredin, i'w cynyg iddynt. Gwnaethant brawf o hyny yn lled fuan. Yr hen gyfaill Richard Morgan, Lliwydd, oedd y cyntaf a'u derbyniodd i'w dy, ac yr oedd ef yn un o'r aelodau blaenaf yn sefydliad yr eglwys yno, a bu yn ffyddlawn gyda'r gwaith dros fwy na deng-mlynedd-ar-hugain, sef hyd ddiwedd ei oes. Gwobrwyodd yr Arglwydd ef yn helaeth yn ei deimlad ei hun, drwy roddi iddo weled ei briod a'i blant oll yn broffeswyr crefydd cyn ei gladdu. Y gymdeithas grefyddol gyntaf a gynaliwyd gan yr ychydig oedd yn dechreu teimlo awdurded y gwirionedd ar eu meddyliau, oedd mewn ystafell fechan yn nhy Mr. Richard Herbert, Pen-bont-bren-mawr. Yr oeddynt yn bump o rifedi, rhwng gwr a gwraig y ty. Cynyddasant yn fuan i nifer mwy. Cymerasant dy bychan ar ardreth yn lled fuan yn Mhenrhiw, Talybont, a threfnwyd ef oreu ag y gellid, a chofrestrwyd ef yn lle i bregethu yr efengyl. Ymgyfarfyddent ynddo i addoli o ddechreu y flwyddyn 1804, hyd haf y flwyddyn 1805, pryd yr adeiladwyd ac yr agorwyd yr addoldy yn Mhenyrhylog, lle mae yr un presenol. Y tro cyntaf y bu Dr. Phillips yn pregethu yn y ty bychan yn Mhenrhiw, yr oedd y meibion oll a'u hetiau am eu penau, yr un modd a'r merched. Cymerodd ei destyn yn Exod. iii. 1-6. Sylwodd mai dyosg eu hesgidiau y byddai y bobl gynt wrth addoli yr Arglwydd, ond mai dyosg eu hetiau a ddylai yr addolwyr ei wneyd yn bresenol. Mor gynted ag y dywedodd y geiriau hyn, dyma yr holl wyr yn benoeth mewn moment.

"Yn fuan ar ol iddynt gymeryd y ty uchod, corpholwyd hwy yn eglwys gan Dr. Phillips. Eisteddai pump-ar-hugain am y tro cyntaf wrth fwrdd yr Arglwydd. Ar ol i'r nifer bychan yma ymroddi fel hyn i'r Arglwydd trwy gyfamod tragywyddol, a phenderfynu glynu wrtho o lwyrfryd calon, ychwanegwyd llawer o eneidiau atynt yn fuan. Daeth y ty bychan yn llawer rhy gyfyng i gynwys yr eglwys a'r gwrandawyr. Ymofynodd rhai o honynt am dir i adeiladu addoldy. Ysgrifenodd Mrs. Anwyl at Pryse Pryse, Ysw., Gogerddan, perchenog y rhan fwyaf o'r tiroedd yn yr ardal. Caniataodd iddynt ddarn o dir yn rhwydd yn Mhenyrhylog, yn ymyl pentref. Ymosodasant yn unfrydol i'w adeiladu yn y gwanwyn yn y flwyddyn 1805, a gorphenasant ef yn barod i'w agor erbyn y 5ed o Orphenaf, yn yr un flwyddyn. Galwyd ei enw yn Bethel. Y rhai y bu ganddynt y llaw benaf yn ei adeiladu oeddynt, Richard Morgan, William Richard, Edward Davies, Thomas Jones, Lewis. Evans, a Richard Herbert. Casglasant agos i ddigon at y draul yn y gymydogaeth, ac ni ofidiasant yr un gweinidog i fyned i gasglu y gweddill. Aethant eu hunain i ofyn cymorth yr eglwysi cymydogaethol, drwy yr hyn y symudwyd y ddyled yn llwyr. Parhaodd Dr. Phillips, yn benaf, ac eraill yn ei gynorthwyo, i fod yn ffyddlawn a llafurus iawn i ofalu am y ddeadell fechan hon, a llwyddodd yr Arglwydd eu hymdrechiadau uwchlaw eu disgwyliad, cyn ac ar ol adeiladu yr addoldy."

Hyd yma yr ydym wedi dyfynu o Hanes Ymneillduaeth gan Mr. Morgan, ac y mae yr adroddiad a ddyry am gychwyniad yr aches yma yn gyflawn a dyddorol. Teimlid erbyn hyn, gan fod y maes mor eang, a'r capel wedi ei godi, y dylesid cael rhyw un cymhwys i lafurio ynddo. Yr oedd  

122

pellder y ffordd, ac amledd ei ofalon, yn ei gwneyd yn anmhosibl i Dr. Phillips ddyfod yma yn fynych, ac nid oedd awydd arno i barhau ei gysylltiad a'r lle yn ddim hwy nag y ceid rhyw un cyfaddas i gymeryd y gofal.

Yn y flwyddyn 1806, daeth Mr. A. Shadrach o Lanrwst i gymeryd gofal yr eglwys yma, a llwyddodd yr Arglwydd ei lafur i droi pechaduriaid lawer o gyfeiliorni eu ffordd. Tua'r amser y dechreuodd ef ar ei weinidogaeth yma, y dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol yn Bethel, a John Jones, o Lwynadda, oedd yr unig broffeswr oedd yn ymdrechu gyda'r achos da uchod, pan y daeth Mr. Shadrach yma. Yn y dechreu nid oedd ganddynt ddosbarthiadau, ond plant a phobl blith draphlith. Y pedwar athraw cyntaf a ddewiswyd i ymgymeryd a dosbarthiadau oeddynt, David Lloyd, Penybanc ; Richard Morgan, Berthlwyd ; William Williams, Alltgochfach, a John Jenkins, Pentrebach. Ond cyn pen pedair-blynedd-ar-ddeg yr oedd yma saith o ysgolion yn perthyn i eglwys Bethel yn unig, ond ar ol ymadawiad Mr. Shadrach bu i enwadau eraill gymeryd meddiant o rai o blanigfeydd ef. Llafuriodd y gwas ffyddlon yma mewn amser ac allan o amser, am y cyfnod y bu yn Nhalybont. Byddai yn pregethu bron yn ddibaid, yn Sabbothol ac yn wythnosol, am tua phedair-blynedd-ar-ddeg yn y Garegestyllath, Tre'rddol, Borth, Penybont, Cwmgaulau, Pentrebach, Bryngwynisa, Penybanc, Cwmsymlog, Coedgruffydd, Ty'nycoed, Foelgolomen, Nantyperfedd, Cymeraubach, Caulan, heb gyfrif ei lafur mawr yn Llanbadarn ac Aberystwyth. Canlyniad y llafur mawr yma oedd cynydd cyflym fu ar yr achos, fel y bu raid yn y flwyddyn 1815 helaethu y capel. Wedi llafurio yn ddiwyd yma am bedair-blynedd-ar-ddeg, rhoddodd Mr. Shadrach ofal yr eglwys yma i fyny er rhoddi ei amser yn llwyrach i wasanaethu yr achos newydd yn Aberystwyth, yr hwn a gychwynwyd ganddo. Wedi bod am ychydig heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. Moses Rees, myfyriwr o athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yma, ond darfu ei gysylltiad a'r eglwys cyn pen deufis wedi ei urddiad. Yn mhen amser ar ol hyny, rhoddwyd galwad i Mr. Moses Ellis, myfyriwr o athrofa Drefnewydd, ac urddwyd ef Gorphenaf  7fed, 1824. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Davies, athraw yr athrofa yn y Drefnewydd; holwyd y gofyniadau gan Mr. A. Shadrach, Aberystwyth; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Roberts, Llanbrynmair, ac i'r eglwys gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Bu Mr. Ellis yma yn barchus a defnyddiol iawn am yn agos i bymtheng mlynedd. Yr oedd Mr. Shadrach wedi nodi terfynau y maes, ac wedi pregethu agos ar bob cwr o hono, a bu Mr. Ellis yn offerynol i gasglu ffrwyth toreithiog arno. Aeth yr hen gapel yn rhy fychan, ac yn 1830, tynwyd ef i lawr i'w sylfaeni, ac adeiladwyd yr addoldy helaeth presenol, yr hwn yn fuan a lanwyd o wrandawyr bywiog. Yr oedd Mr. Ellis o ddoniau melus ac ennillgar fel pregethwr, ac yn nodedig o boblogaidd gan bob dosbarth o wrandawyr. Anaml y bu gweinidog a phobl yn fwy hapus gyda'u gilydd nag y bu Mr. Ellis a'r eglwys yn Bethel am y deuddeng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth. Ond yn anffodus aethant wrthdarawiad anhapus a'u gilydd. Cariodd yr ymraniad blin oedd wedi cymeryd lle yn y Graig, Machynlleth, ddylanwad ar ryw rai yn yr eglwys hon, ac aeth Mr. Ellis a rhai cyfeillion i gydymdeimlo a'r naill blaid yno, ac eraill yma i gydymdeimlo a'r blaid arall, fel y meithrinwyd teimladau pur anghysurus rhwng personau oedd, gan mwyaf, yn flaenorol

123

 ar y telerau goreu. Aeth pethau, pa fodd bynag, mor ofidus o'r diwedd, fel yr aeth Mr. Ellis a nifer o gyfeillion allan, a buont dros dymor yn cynal moddion yn hen fragdy y Maesnewydd, ond arosodd y mwyafrif yn y capel fel o'r blaen. Parodd hyn flinder mawr i'r bobl oreu o'r ddautu, a pheryglodd heddwch a theimlad da yn mysg gweinidogion yr enwad. Yr oedd gweinidogion y Gogledd gan mwyaf yn cydymdeimlo a Mr. Ellis a'i gyfeillion oedd yn cyfarfod yn Maesnewydd, a gweinidogion sir Aberteifi a'r Deheudir agos oll yn ffafrio yr hen achos yn y capel. Parhaodd pethau fel hyn dros ysbaid, ond ymadawodd Mr. Ellis i Mynyddislwyn yn 1839, er gofid mawr i'w holl gyfeillion; ond cyn hir ar ol hyny daeth y ddwy blaid i gyd-ddealldwriaeth, a dychwelodd cyfeillion Maesnewydd yn ol i'r capel, a chymerodd undeb gweithredol le nos Iau, Mawrth 30ain, 1840. Nid ydym yn rhoddi unrhyw farn ar yr achos, nac yn beio y naill mwy na'r llall yn nglyn a'r amgylchiadau, ac yn wir, ni buasem yn cyfeirio ato o gwbl oni bai ein bod yn ei ystyried yn ddigwyddiad rhy bwysig yn hanes yr eglwys i fyned heibio iddo yn ddisylw. Mae y rhan fwyaf o'r thai oedd a fynent yn uniongyrchol a'r anghydfod wedi myned i ffordd yr holl ddaear, ac y mae yn dra sicr genym y cytuna y rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi eu gadael ar ol a ni, pan y dywedwn, ein bod yn credu y gallesid gydag ychydig bwyll, a chydoddefiad, a hunanymwadiad o bob tu, ysgoi y cwbl ; ond fel yr ydym wedi dyweyd ar fwy nag un achlysur cyffelyb o'r blaen, mae yn llawer iawn haws dyweyd wedi myned trwy amgylchiadau profedigaethus, pa fodd y dylesid gwneyd, nag ydoedd iawn ymddwyn pan ynddynt.

Wedi bod am dymor yn cydaddoli yn y capel, ac yn mwynhau gweinidogaeth pregethwyr De a Gogledd, rhoddwyd galwad i Mr. William Dayies, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd Gorphenaf 15fed, 1841. Nid oedd yr eglwys yn unol mewn un modd yn ei ddewisiad, ac y mae yn amheus a ydoedd ar y goreu yn gymhwys i'r fath faes eang a phwysig. Symudodd yn mhen dwy flynedd i Coed-duon, sir Fynwy, ac yn mhen amser enciliodd i'r Eglwys Sefydledig, lle yr oedd y gwaith yn ateb yn well i'w alluoedd, a'r fywioliaeth yn fwy cydweddol a'i archwaeth. Wedi bod am fwy na thair blynedd heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. Owen Thomas, Talysarn, sir Caernarfon, a daeth yma yn ngwanwyn y flwyddyn 1846, a llafuriodd yma am bedair-blynedd-ar-ddeg gyda chymeradwyaeth a llwyddiant mawr. Cafwyd yma ychwanegiad mawr at yr eglwys yn y diwygiad yn y flwyddyn 1859. Daeth y wlad yn boblog iawn trwy fod yn yr holl amgylchoedd lawer o weithfaoedd plwm, ac yn adeg y diwygiad 1859, ychwanegwyd llawer yma at yr eglwys. Yn 1860, gwnaeth Mr. Thomas ei feddwl i fyny i symud, a derbyniodd alwad wresog o Brynmair a Beulah, sir Aberteifi, lle y mae etto yn llafurio gyda chymeradwyaeth a pharch. Ar ol bod dair blynedd drachefn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. David C. Rees, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mehefin 4ydd, 1863. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Peter, Bala ; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Evans, Aberaeron; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Rees, Maenygroes; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. D. Jones, Bala, ac i'r eglwys gan Mr. J. Williams, Castellnewydd. Bu Mr. Rees yma yn ddiwyd dros rai blynyddoedd. Yn ei amser ef y codwyd capeli Soar a Bethania, ac yn * Diwygiwr, 1840. Tu dal. 191.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This place is in the parish of Llanfihangel Geneu'r Glyn, within seven miles of Aberystwyth, on the main road to Machynlleth. As Mr Morgan, Llanfyllin was brought up here and spent many years here, we should quote his report in Hanes Ymneulldiaeth (History of Nonconformism) regarding this cause.

 "Preaching by the Independent's started here with the old faithful Mr Rees Davies, Saron, around 1803, who at that time had a school at Pennal, Machynlleth, Meirionethshire. A gentlewoman named Mrs Anwyl lived in a place named Llugwy, near Pennal, who was a member of the religious fellowship recently formed there, as a branch of the Indpendent church in Machynlleth. She was born in the Talybont area, and many of her family still lived there. Having been led to the light she was very concerned about her old friends and family in the wide area of Talybont, because they were denied the advantages of religion. As Mr Rees Davies was a strong preacher, and also a good friend of Mrs Anwyl, she sent him there to preach and asked those she knew to facilitate his mission. She also sent a letter to Mr Phillips begging him to visit this area. Mr Rees Davies got permission to preach from the mounting block outside the only Inn in the village, The Black Lion. Quite a number came to listen to him, and the second time numbers had increased considerably. The word nonconformist was foreign to their ears, and most of them had never seen one before. The effect of the above gentlewoman's name on many in the area, by influencing them to come and listen, and to make them think better of the people she was related to. They knew her well and she was held in high regard. After Mr Davies had been preaching for a few Sundays, the Rev. T Phillips, Neuaddlwyd came to see them and preach for them, he soon gained the support of Jones, Saron, J. Lloyd of Henllan; D. Morgan of Ffaldybrenin; J. Thomas of Glynarthen, and others. Sometimes they would preach from the stone, other times from beneath a thick branched tree in the middle of the village or before the house of Mr Richard Morgan, Dyer. Nobody was prepared to host the missionaries or feed them. but an occasional well wisher

121

would help to pay the costs of the Inn. Their behaviour was mostly due to ignorance, and some shyness, as they thought their homes too lowly to make the offer.This was soon changed, Mr Richard Morgan, Dyer was the first to offer them shelter and he was a leader in establishing a church, he remained faithful for more than 30 years, all his life. The Lord rewsrded him by allowing him to see his wife and their children give their lives to God, before he died.The first religious society was held by the few that could see the light in their minds was held at the house of Mr Richard Herbert, Penbontpren Fawr. There were 5 of them, including the occupier and his wife. Their numbers soon increased and they took a small house in Penrhiw, Talybont and it was soon licensed for preaching, they continued to worship there from 1804 until the summer of 1805. They built and opened a chapel in Penrhylog, where the chapel remains today. The first time Dr Phillips came here to preach the men as well as the women kept their hats on. He took his suject from Exodus iii 1 - 6. He observed that in the past those who went to worship God took off their shoes, but today people removed their hats. No sooner had he said this than all the men were bare headed.

After they had taken the above house Dr Phillips formed them into a church. there were 25 at the Lord's table that first time. Following these few people taking the Lord into their lives they were soon followed by many others. Soon they began to look for land to build a chapel. Mrs Anwyl wrote to Pryse Pryse, Esq., Gogerddan, the biggest landowner in the area. He gave them a piece of land at Penrhylog, near the village. They began to build in the spring of 1805, and it was completed by July of the same year. It was named Bethel. Those who led the building effort were Richard Morgan, William Richard, Edward Davies, Thomas Jones, Lewis. Evans, and Richard Herbert. They collected enough within the area to pay the debt, with no need for any preacher to go collect the remainder. They themselves went and asked the neighbouring churches, and so cleared all the monies. Dr Phillips continued to come here, supported by others, to care for this small flock, with the Lord's grace before and after the completion of the chapel."

Up to here we have quoted from Hanes Ymneilldiaeth by Mr Morgan, a full and interesting account. Now that the chapel was completed it was felt that there should be someone to care for the place.

The distance and the weight of his ministry made it impossible for Dr Phillips  to come here frequently, so he did not wish to continue once they found someone suitable.

In 1806, Mr A Shadrach came, from Llanrhwst,  to care for this church, and the Lord enabled him to save many sinners. About the same time as his ministry began a Sunday School was started at Bethel, John Jones, Llwynadda, was the only one attempting this until Mr Shadrach arrived. Initially they did not have classes, just a mix of children and adults. The first four teachers to deal with classes were David Lloyd, Penybanc ; Richard Morgan, Berthlwyd ; William Williams, Alltgochfach and John Jenkins, Pentrebach. In 14 years there were seven Schools belonging to Bethel only, but after Mr Shadrach left some of the other denominations harvested what he had sown.Mr Shadrach worked extremely hard in the 14 years he was at Bethel, preaching Sundays, weekly in Garegestyllath, Tre'rddol, Borth, Penybont, Cwmgaulau, Pentrebach, Bryngwynisa, Penybanc, Cwmsymlog, Coedgruffydd, Ty'nycoed, Foelgolomen, Nantyperfedd, Cymeraubach, Caulan, not counting the har work in  Llanbadarn and Aberystwyth. The result of his work was that the chapel had to be extended in 1815. At the end of 14 years he gave up his ministry here and concentrated on the new cause in Aberystwyth. Following a short time without a minister a call was sent to Mr Moses Rees, a student at Neuaddlwyd, he was ordained here but ceased all association with the chapel within 2 months.. Later a call was sentto Mr Moses Ellis, a student at Newtown, he was ordained July 7th, 1824. On the occasion Mr. E. Davies,teacher at Newtown College preached on the nature of a chuch,  the questions werw asked by Mr. A. Shadrach, Aberystwyth; The ordination prayer by Mr. W. Hughes, Dinasmawddwy ; Mr. J. Roberts,Llanbrynmair, preached to the minister and to the church by Dr. Phillips, Neuaddlwyd.  Mr. Ellis remained here with great respect. Mr. Shadrach had marked out the boundaries, and preached in every corner of it, Mr Ellis was instrumental in gathering in the fruits. The old chapel became too small and it was demolished to its foundations. today's large chapel was soon built and filled with lively listeners. Mr Ellis was a talented preacher and could reach out to all classes. It was rare to have minister and congregation get along so well as during the first12 years. Unfortunately there was a disagreement the tiresome divisions at Graig Machynlleth and Mr Ellis went to sympathise with one faction and others with the second faction which caused some very uncomfortable feelings between the leaders,who were on good terms. However things got so bad that Mr Ellis and a number of the friends withdrew and worshipped in an old brewery  at Maesnewydd, the majority remained within the chapel. this caused illfeeling among the good people and and among the neighbouring ministers. The ministers of the northerly area of Talybont sympathised with Mr Ellis but those on the southern border favoured those who remained in the chapel. Matters continued like this until Mr Ellis left for Mynyddislwyn in 1839, much to the concern of his friends. Shortly after this the two parties came to an understanding and those who had gone to Maesnewydd, returned, and actual unification took place on Thursday, March 30th, 1840. We are not passing any judgement on either party, but felt it was too important an event to ignore, those who were actually involved have now gone the way all humans go. Hind site would make it easy to solve the problems.

After worshiping together at the chapel for some time, with ministry from both north and south, a call was sent to Mr William Davies, a student at Carmarthen College, and he was ordained on July 15th, 1841. The church was not united in the call to him, and it is doubtful whether he was the best suited to this large and important area. He moved to Coed Duon, Monmouthshire in 2 years and eventually joined the established church, which was better suited to his ability, and the pay to his pocket. After over 3 years without a minister, a call was sent to Mr Owen Thomas, Talysarn, Carnarvonshire, who came here in 1846 and worked here for 14 years successfully. The church expanded considerably during the revival of 1859. The population increased dramatically around this time with the lead mines. In 1860 Mr Thomas decided to leave and got a warm call from Brynmair and Beulah, Cardiganshire, where he continues to minister. After another 3 years of depending on occasional ministry they sent a call to Mr David C. Rees, a student at Bala College, he was ordained on September 4th, 1863. At the ceremony Mr J Peter preached on the nature of a church, the questions were asked by Mr W Evans, Aberaeron,the ordination prayer offered by Mr T Rees, Maenygroes, a sermon to the minister given by Mr J Williams, Newcastle Emlyn. Mr Rees remained here for a number of yearsand it was during his time that Soar and Bethania were built, and in the same period that the church decided to build "Tabor in the mountains" Mr Rees left in July 1869 to go to Capelmawr, Anglesey, where he remains. Since then this church has been without a minister.

Thos has been a very industrious church from the beginning. In 1824, Salem Coedgruffydd was built and a church established, which will be dealt with later. Chapels have also been built at Bethesda, Seion and Tabor with churches formed in each one of them, all joinedin the same ministry as the mother church in Talybont. There are 2 otherbranches of the church, Soar and Bethania, with Sunday Schools and prayer meetings being held in them, and preaching in one or the other every Sunday. There have been many good people associated with this church, and it continues through the generations.The following lists Deacons, which will be interesting as some are the descendants of the first officials of the church - Messrs R. Morgan and L. Evans, Talybont ; W. Richard, Penybanc ; J. Jones, Llwynadda ; T. Jones, Cerygcaranau ; W. Owen, Cwmgaulan ; R. Rowlands, Erglodd ; J. Jones, Pen-bont-bren-ucha' ; Evan Edward, Cynnullmawr ; D. Morgan, Winllan; E. Owens, Alltgoch; T. Morgan, Factory; R. Morgan, Felinfach ; W. James, Ty'nygraig ; D. Lloyd, Ty'nywern, ac O. Davies, Talybont. the above have all gone, the following are still with us :- E. Davies, Talybont ; J. Owens, Alltgoch ; J. Evans, J. Jenkins, E. Jenkins, J. Adams, J. Jones, R. Davies, J. Pritchard, Talybont; T. Dela Hoyde, Llettyllwyd; E. James, Tanyrallt, and J. Lewis, Ty'nygraig. We do not beleive that these are the only ones who should be mentioned, but many others are remembered with great affection.

The following have been raised to preach here :-*

  • DAVID MORGAN - He is recorded with Llanfyllin.
  • RICHARD HERBERT - He is recoeded with Pontrobert where he was ordained.
  • LEWIS ROWLANDS - Supporting preacher here.
  • WILLIAM EVANS -  educated Neuaddlwyd - ordained there to support Dr Phillips - 20 years in Neuaddlwyd and Aberaeron.
  • ISAAC JONES - Gwarcwmisaf - ordained Carmel, Llansadwrn, Carmarthenshire - now in Newton, Glamorganshire.
  • JOHN OWEN - Gwarcwmuchaf - educated Bala - ordained Hebron, Lleyn - after that Nefyn and Llanegryn - Llangefni, Anglesey now for many years.
  • EVAN OWEN - Gwarcwmuchaf - emigrated to America, ministering in Wisconsin.
  • JAMES EVANS - Cerigcaranau. - educated Brecon, went to the established church.
  • HENRY EVANS - brother of the above, also went to the established church.
  • JACOB JONES -Penlon - born  May 29ain, 1823 -school in Liverpool with Dr. Brown, Windsor - confirmed Tabernacl, Great Crosshall-street -by the revered Mr. Williams,Wern - 1842, University of  Glasgow, heard Dr Wardlaw here - returned to Talybont,1843, to run a school -began to preach -1845, accepted to Spring Hill, Birmingham, called and ordained in Melksham, 1851 - stayed 6 years - became interested in Australia - emigrated aboard  the Catherine Adamson,for Sydney, July 20th, 1857. - ship sank within sight of land October 24th,1857, age 34.
  • RICHARD ROWLANDS - educated Bala - ordained Ceidio and Llaniestyn - now at Nebo and Llanon, Cardigsanshire
  • EDWARD ROBERTS - educated Bala - emigrated to America.
  • DAVID THOMAS - educated Bala and Brecon -now minister in Dorset.
  • WILLIAM MORGAN - minister in Saron, Maesteg, Glamorgan.
  • JOHN ADAMS - Awating a church - occasional preacher and deacon.
  • I. RICHARDS -currently at school in  Cardiff
  • RICHARD EDWARDS -at school in Tarvin - preparing for College.
  • WILLIAM TIBBOT - has started preaching - not yet been to school.

This is as complete a list as we can give. Thomas Jones, who became a missionary, was born in Llwynadda and was confirmed here, syarted preaching in Tredegar.

We are indebted to Mr John Adams, Talybont, for much of the above history, but we are responsible for the writing. As no preacher has died while ministering to this church there are no biographical notes to add

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated

 

   CONTINUED


 

[Gareth Hicks: 17 Oct 2008]