GENUKI Home page up Cardiganshire Contents Contents

 

 

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books

CARDIGANSHIRE section (Vol 4)

Pages 124 - 137

See main project page

Proof read by Steve Stephenson (April 2008)

Chapels below;

  • (Continued) TALYBONT
  • SEION   (Llanfihangel-genau'r-glyn parish) (translation)
  • BETHESDA  (Llanfihangel-genau'r-glyn parish) (translation)
  • TABOR  (Llanfihangel-genau'r-glyn parish) (translation)
  • SALEM, COEDGRUFFYDD    (Llanbadarnfawr parish) (translation)
  • SILOA  (Llanbadarnfawr parish) (translation)
  • CLARACH   (Llanbadarnfawr parish) (translation)
  • BORTH  (Llanfihangel-genau'r-glyn parish) (translation)
  • ABERYSTWYTH (with translation)

 


Pages 124 - 137

124

(Continued) TALYBONT

See previous page for translation

yr un cyfnod y daeth yr eglwys i benderfyniad i adeiladu "Tabor yn y mynyddoedd." Ymadawodd Mr. Rees yn Gorphenaf, 1869, i Capelmawr, Mon, lle y mae etto yn barchus a defnyddiol, ac er hyny y mae yr eglwys yma yn amddifad o weinidog.

Mae llawer o weithgarwch wedi bod yn yr eglwys hon o'i dechruad. Yn 1824, adeiladwyd capel a chorpholwyd eglwys yn Salem, Coedgruffydd, yr hon a ddaw etto dan ein sylw. Mae capeli wedi eu codi hefyd a elwir Bethesda, Seion, a Tabor, ac eglwysi wedi eu ffurfio yn mhob un o honynt, a'r tri lle wedi ymuno yn un weinidogaeth, a'r fam eglwys yn Nhalybont yn estyn cynorthwy iddynt. Mae etto ddwy gangen yn aros yn nglyn a'r eglwys yma, sef  Soar a Bethania, lle y cynhelir ysgolion Sabbothol, a chyfarfodydd gweddio, a phregethir yn y naill neu y llall bob Sabboth. Bu yma lawer o bobl rhagorol yn yr eglwys o bryd i bryd, ac y mae yma rai teuluoedd sydd wedi glynu wrth yr Arglwydd o genhedlaeth i genhedlaeth. Anfonwyd i ni y rhestr a ganlyn o ddiaconiaid, a diau genym y bydd ei darllen yn ddyddorol gan lawer, a gwelir fod hiliogaeth rhai o swyddogion cyntaf yr eglwys yn ffyddlawn i Arglwydd Dduw eu tadau : - Meistri R. Morgan ac L. Evans, Talybont ; W. Richard, Penybanc ; J. Jones, Llwynadda ; T. Jones, Cerygcaranau ; W. Owen, Cwmgaulan ; R. Rowlands, Erglodd ; J. Jones, Pen-bont-bren-ucha' ; Evan Edward, Cynnullmawr ; D. Morgan, Winllan; E. Owens, Alltgoch; T. Morgan, Factory; R. Morgan, Felinfach ; W. James, Ty'nygraig ; D. Lloyd, Ty'nywern, ac 0. Davies, Talybont. Mae y rhai uchod oll wedi myned ymaith, and y mae y rhai canlynol etto yn aros : - E. Davies, Talybont ; J. Owens, Alltgoch ; J. Evans, J. Jenkins, E. Jenkins, J. Adams, J. Jones, R. Davies, J. Pritchard, Talybont; T. Dela Hoyde, Llettyllwyd; E. James, Tanyrallt, a J. Lewis, Ty'nygraig. Nid ydym yn tybied mai dyma yr unig rai fu yma y mae yn werth crybwyll eu henwau, ond y mae eu bod wedi gwasanaethu swydd diaconiaid yn yr eglwys yn rheswm dros eu rhoddi hwy i mewn, ac " ennillodd rhai o honynt iddynt eu hunain radd dda," fel yr erys eu henwau yn berarogl, a'u coffadwriaeth yn fendigedig.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :-

125

Dyna restr y pregethwyr a godwyd yn yr eglwys hon, mor gyflawn ag y gallasom ei chael. Un genedigol o Lwynadda, yn yr ardal hon oedd Thomas Jones, yr hwn a aeth allan yn genhadwr, ac yma y derbyniwyd ef yn aelod, ond wedi symud i Dredegar dechreuodd bregethu, ac yr ydym, fel y gwelir, wedi rhoddi byr grybwylliad am dano yn nglyn a'r eglwys hono.

126

Yr ydym yn ddyledus i Mr. John Adams, Talybont, am lawer o ddefnyddiau yr hanes uchod, er fod genym hefyd lawer o ffeithiau a gasglasom o leoedd eraill, ac nid oes neb ond nyni yn gyfrifol am ddim a ysgrifenwyd. Gan na bu yr un gweinidog farw mewn cysylltiad a'r eglwys hon, nid oes genym gofnodion bywgraphyddol i'w hychwanegu.

 

SEION

(Llanfihangel-genau'r-glyn parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanfihangel-genau'r-glyn. Pregethodd Meistri A. Shadrach, a D. Morgan, ac eraill, lawer gynt yn yr ardal yma, yn Rhydyronen, a manau eraill. Yn y flwyddyn 1835, ymgymerodd yr eglwys yn Bethel a'r gwaith o adeiladu addoldy yn nyffryn Ceulan, rhyw dair milldir o Dalybont, er mwyn y rhai a breswylient yn yr ucheldiroedd. Buwyd yn cadw ysgol Sabbothol yn gyson am lawer o flynyddoedd, ac yn pregethu yn achlysurol, ac yn cynal cyfarfodydd gweddio yn ngwahanol anedd-dai y cwm. Wedi adeiladu yr addoldy, galwyd ei enw Seion. Cedwid ysgol Sabbothol ynddo yn gyson, a chyfarfodydd gweddio bob nos Sabboth, ac yn aml yn yr wythnos, a byddai gweinidogion yr amser gynt yn pregethu ynddo rhyw unwaith yn y mis. Byddai y diweddar Lewis Rowlands, Talybont, a J. Dayies, y Glasbwll, y rhai a lafuriasant lawer yn eu dydd rhwng y bryniau yma, yn pregethu yn eu tro yn Seion. Yn y flwyddyn 1869, prynodd eglwys Bethed y tir lle y saif addoldy Seion, ac ar y 27ain o Hydref, 1872, traddodwyd y bregeth olaf yn yr addoldy cyntaf gan Mr. J. Adams, ac erbyn hyn y mae yma dy newydd harddach ac helaethach na'r ty cyntaf. Ffurfiwyd yma eglwys, yr hon a unodd a'r eglwysi yn Bethesda a Tabor i roddi galwad i Mr. Peter Davies, Arthog, a dechreuodd yntau ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Hydref, 1872, ac y mae yn parhau i lafurio yn y lle.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel is in the parish of Llanfihangel Geneu'r Glyn. Messrs A Shadrach and D Morgan, and others preachedin this area at Rhydyronnen and other houses. In 1835 Bethel undertook to build a chapel in the Ceulan valley, some three miles from Talybont, for the benefit of those living up in the mountains. There was a Sunday School held there, and occasional preaching, and prayer meetings at various houses in the valley. After building the chapel, named Seion, a Sunday School was held there regurlarly and a prayer meeting every Sunday and frequently during the week. Ministers would preach once a month. The late Lewis Rowlands, Talybont, and J. Dayies, Glasbwll, took their turn here and on October 27th, 1872, the last sermon at the first chapel was given by Mr J Adams, by now there is a new, attractive larger chapel.A church was formed here and it united with Bethesda and Tabor to call Mr Peter Davies, Arthog. He began his ministry on the first Sunday in October, 1872, and he remains here.

 

BETHESDA

(Llanfihangel-genau'r-glyn parish)

Saif y capel hwn oddeutu dwy-filldir-a-haner i'r dwyrain o Dalybont. Tynant oedd enw y lle cyn adeiladu y capel presenol. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal tua'r flwyddyn 1807 gan Mr. A. Shadrach, yn benaf mewn amaethdy a elwid Nantyberfau, gyda hen deulu crefyddol ag oedd yn aelodau yn Nhalybont. Cyrchai y bobl yn yr amser hwn yn gyffredin ar y Sabboth i Eglwys y plwyf, Llanfihangel-genau'r-glyn, pellder o bump i saith milldir o ffordd. Wedi dyfodiad Mr. Shadrach i'r ardal ymunodd rhai ag oedd yn aelodau yn yr Eglwys Wladol a'r eglwys yn Nhalybont. Tua'r flwyddyn 1815, cychwynodd John Jones, Pen-y-bont-bren ; Dayid Griffrths, Tynant, a'i chwaer Margaret Griffiths, ysgol Sabbothol yn Cwmerebach, a hwy ill tri yn unig oedd y gynnulleidfa y Sabboth cyntaf. Daeth ychwaneg yn nghyd yr ail Sabboth, ac yn raddol daeth yn gymharol luosog. Bu yr ysgol yn aros yma am rai blynyddau, pryd y symudodd i Neuaddywinllan. Wedi aros yma am ysbaid, cynygiodd hen wr, Griffith Griffiths, Tynant, yr hwn oedd yn aelod yn yr Eglwys Wladol, ac yn byw ar ei dyddyn ei hun, wneyd lle cyfleus ar ei fferm i gadw ysgol Sabbothol a phregethu, a chytunwyd ar hyny, a dyna ddechreuad yr achos yn Tynant. Aeth yr achos yn mlaen yn raddol mewn cysylltiad a Thalybont

127

Gadawodd y teulu Eglwys y plwyf ac ymunasant a'r eglwys yn Nhalybont. Daeth Tynant yn gylch gweinidogaeth Mr. Moses Ellis, a phregethai Mr. Lewis Rowlands, tad Mr. Richard Rowlands, Llanon, yma yn rheolaidd ddwy waith yn y mis, a Mr. John Davies, Glasbwll, yn achlysurol. Erbyn dyfodiad Mr. O. Thomas yn weinidog i Talybont, yr oedd y ty wedi myned yn rhy fychan ac anghyfleus, a phenderfynwyd adeiladu capel newydd. Cafwyd tir gan Mr. John Griffiths, Tynant, am bris rhesymol. Costiodd y capel 70p. Aed trwy yr ardal am arian i gyfarfod a'r draul, ac yr oedd 20p. yn fyr, wedi bod allan yn casglu, i gyfarfod a'r treuliau, ond cytunwyd ar fod i garedigion yr achos yn y lle roddi benthyg yr hyn oedd yn ddiffygiol, sef punt neu ddwy yr un, fel y byddai yr amgylchiadau yn galw, a hyny yn ddilog, hyd nes y gallesid eu talu yn ol, ac felly talwyd y cwbl heb fod neb yn achwyn ar y baich. Byddai yr aelodau yn Tynant yn myned i Talybont i gymuno, ond byddai Mr. Thomas, y gweinidog, bob amser yn eu hanog, i ymgorpholi yn eglwys ar ei phen ei hun, ond .yr oedd y gynnulleidfa yn Tynant yn ofni y canlyniadau o dori cysylltiad a Thalybont, ac ymgymeryd a'r anturiaeth a'r cyfrifoldeb o gadw ty ei hun. Yn mhen amser, trwy anogaeth gweinidogion y cylch, ac addewid yr eglwys yn Nhalybont i'w cynorthwyo i gynal gweinidog iddynt mewn cysylltiad a Tabor a Seion, ffurfiwyd yr eglwys yn 1871. Yn fuan rhoddwyd galwad i Mr. P. Davies, Arthog, i ddyfod yma yn weinidog. Dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Hydref, 1872, ac er hyny hyd yn awr mae pob peth yn ei gysylltiad a'r achos a'r weinidogaeth yn gysurus a dedwydd.*

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel stands two and a half miles to the east of Talybont. Before the chapel was built it was called Tynant. Preaching started here around 1807, by Mr Shadrach, in a farm named Nantyberfau, with an old family who were members in Talybont. Prior to this the local people went to worship to the established church in Llanfihangel Geneu'r Glyn, a distance of 5 to 7 miles away. When Mr Shadrach arrived many became members of the cause in Talybont. Around 1815 John Jones, Pen y pont bren, David Griffiths, Tynant and his sister Margaret Griffiths started a Sunday School at Cwmerebach. These three were the congregation on the first Sunday. More came each Sunday until there was a good number. The School remained here for some years, then moved to Neuadd y Winllan. Some time later Griffith Griffiths, Tynant, who was a church man living on his own smallholding, made available a place on his farm to hold Sunday School and for preaching, this was agreed and so began the cause at Tynant.The cause moved on gradually and the family became members at Talybont.  Tynant came under the ministry of Mr. Moses Ellis, Mr. Lewis Rowlands, father of Mr. Richard Rowlands, Llanon, preached here regularly twice a month and Mr. John Davies, Glasbwll, occasionallyl. By the time of Mr O Thomas becoming minister in Talybont , the house had become too small and uncomfortable and it was decided to build a chapel. The land was aquired from Mr John Griffiths, Tynant for a very reasonable price. The chapel cost 70. Collections were made through the area to pay the debt, but they were 20 short, it was decided that wellwishers in the area would lend them the money in amounts of one and two pounds each without interest, until they could be repaid. The members continued to go to Talybont once a month for Communion, and the minister, Mr Thomas encouraged them to form an independent church. They were afraid of the conequence of this, but after assurances from Talybont joined with Tabor and Seion to call their own minister. Soon a call was issued to Mr P Davies, Arthog, who began his ministry in October, 1872, who remains here peacfully and content.*

* Llythyr Mr. W. Jones, Pen-y-bont-bren.

 

TABOR

(Llanfihangel-genau'r-glyn parish)

Mae y capel hwn yn nghwr uchaf sir Aberteifi, tuag wyth milldir o Dalybont, yn nghyfeiriad Plumlimon. " Y Mynydd " y gelwir yr ardal, a mynydd-dir uchel ydyw. Mae yn debyg i  Mr. A. Shadrach a Mr. D. Morgan bregethu yn yr ardal hon yn gynar yn y ganrif bresenol, ond yn y flwyddyn 1819, nid oedd yma ond un yn proffesu crefydd, sef  Mary Evans, Cwmdwrbach. Cychwynwyd yma ysgol Sabbothol mewn anedd-dy, a elwir Lluestygrafian. Tebygol mai cyfeillion o ardal y Glasbwll a ymgymerodd a'r gwaith o gychwyn ysgol Sabbothol ar y ynyddoedd yma, a bu y diweddar Thomas Rowlands, Byrdir, taid Mr. Rowlands, Beaumaris, yn pregethu llawer hyd derfyn i oes, ar hyd y fryniog fro yma, a'r diweddar J. Dayies, Glasbwll, hefyd. Parhaodd ef  i ymweled yn fisol a'r fangre am ddegau o flynyddoedd. Efe o bawb a bregethodd fwyaf yn yr ardal, ond ymgymerodd y brodyr o Dalybont a'u cynorthwyo. Bu y brodyr oddiyno yn teithio yn eu cylch am ugeiniau o flynyddau, i gynal yr ysgol a chyfarfodydd gweddio o dy i dy. Bu y diweddar L. Rowlands yn pregethu yn achlysurol yn eu plith am flynyddoedd. Siaradwyd llawer am gael lle cyfleus i'r arch i aros yma'i ond tra buwyd yn disgwyl, aeth bron ddwy genhedlaeth gyfan heibio. Ond Tachwedd l4eg, 1869, penderfynodd yr eglwys yn Nhalybont i adeiladu addoldy ar y mynydd-dir., ac an y 18fed o'r un mis, aeth John Adams ac Edward Hughes, Miner, fyny i gyfarfod a'r cyfeillion i benderfynu ar y lle i adeiladu. Un o'r dyddiau canlynol aeth Mr. J. Evans, un o ddiaconiaid eglwys Talyont

* Llythyr Mr. W. Jones, Pen-y-bont-bren.

128

at oruchwyliwr Gogerddan i ofyn am dir, yr hyn a ganiatawyd yn ddiwrthwynebiad. Adeiladwyd y capel a phregethwyd ynddo am y tro cyntaf gan Mr. J. Adams ar y 5ed o Chwefror, 1871. Bu Edward Pritchard, gynt o Luestygrafian ; D. Jones, Llechweddmawr, a theulu y Cwmdwrbaeh, am ugeiniau o flynyddoedd yn ffyddlawn a gweithgar gyda'r achos ar y Mynydd. Ymdrechent i hyfforddi yr ieuengetyd mewn cerddoriaeth a gwybodaeth ysgrythyrol, ac y mae yma yn aros gantorion rhagorol. Yn gynorthwywyr iddynt i adeiladu yr addoldy bu J. Edwards, L. Jones, Edward Jones, Th. Jenkins, a D. Evans yn ddiwyd a llafurus, a bu Mr. E Richards, goruchwyliwr mwn-waith Henfwlch yn ffyddlawn hyd y diwedd gyda'r gwaith. Ffurfiwyd yma eglwysn yr hon a unodd a Seion a Bethesda i roddi galwad i Mr. Peter Davies, Arthog, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn Hydref, 1872. Diaconiaid cyntaf yr eglwys oedd Lewis Jones, John Edwards, ac Edward Pritchard, ac y maent yn parhau yn eu swydd; ac y mae golwg lewyrchus ar yr achos yn y lle.*

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel is in the upper reaches of Cardiganshire, some 8 miles from Talybont , in the direction of Plynlimon. The mountain is how the area is referred to, as it is high hill land. Mr A Shadrach and Mr D Morgan preached in this area early in this century, but in 1819 there was only one practising religion, one Mary Evans, Cwmdwrbach. A Sunday school was started in a house called Lluestygrafian. It was probably members from Glasbwll that were responsible, and Thomas Rowlands, Byrdir, grandfather of Mr Rowlands, Baeumaris, preached here to the end of his days, along with J Davies, Glasbwll. He continued to visit monthly for tens of years.He was the mainstay, but brothers from Talybont supported him, praying from house to house. The late L Rowlands preached occasionally here as well. there was much talk of a chapel, but two generations passed beforethe decision to build was made on November 14th, 1869. On the 18th of the month John Adams and Edward Hughes, miner went to meet the people and try to decide where to build. In the following days Mr J Evans, deacon at Talybont, went to speak to the overseer at Gogerddan, to ask for some land, which was granted without question. The chapel was built and the first sermon was given by Mr J Adams on February 5th, 1871. Edward Pritchard, late of Luestygrafian ; D. Jones, Llechweddmawr, and the family of Cwmdwrbach, were faithful and industrious with the cause in the mountains. They endeavoured to teach the people the scriptures and also music, and there are still some excellent singers there. Helping to build the chapel were J. Edwards, L. Jones, Edward Jones, Th. Jenkins, and D. Evans were very active, and Mr. E Richards, overseer of Henfwlch lead mine.A church was formed here and they joined with Seion and Bethesda to call Mr Peter Davies, Arthog, who began his ministry in October, 1872. The first deacons were Lewis Jones, John Edwards, and Edward Pritchard, who remain in office. There is a hopeful look to the place.*

* Llythyrau J. Adams and J. Pritchard.

 

SALEM, COEDGRUFFYDD

(Llanbadarnfawr parish)

Saif y capel hwn oddeutu chwe' milldir i'r dwyrain o dref Aberystwyth, yn mhlwyf  Llanbadarnfawr. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon gan yr Annibynwyr yn Tynewydd, Cwmswmlog, Lluestnewydd, a Nantyperfedd, yn y flwyddyn 1810. Mr. A. Shadrach, Mr. T. Rowlands, Byrdir, gerllaw Machynlleth, a Mr. Morgans, Ty'nycae, fu yma gyntaf yn hau yr had da. Pregethai Mr. Shadrach yn mhob man y cawsai gyfleusdra, a phan yn cyrchu i bregethu i'r lleoedd a nodwyd, yr oedd dymuniad byw yn ei galon am gael pregethu yn Coedgruffydd, amaethdy mawr yn ymyl y fan lle saif capel Salem yn bresenol. Ond pa fodd yr oedd cael myned yno nis gwyddai, am fod perchenog y lle, sef yr un oedd yn preswylio yno, yn Eglwyswr selog. Methai weled fod cysylltiad rhyngddo a'r lle o un cyfeiriad, ond yn ffodus ganwyd wyr i berchenog Coedgruffydd yn Nhalybont, a Mr. Shadrach oedd y gwr i'w fedyddio. Wrth reswm, yr oedd y taid i fod yn bresenol yn y bedydd, a phan ddaeth y dydd oddiamgylch, gwelodd Mr. Shadrach ei fantais yn union, a phenderfynodd anelu at galon y gwr da, ond oedd gochelgrwch, a thipyn o ragfarn, fe allai, yn ei gadw draw. Yn ngwyneb pob anfantais, pa fodd bynag, darfu iddo drwy gallineb ac unblygrwydd i ysbryd, wneuthur argraff go ddwfn ar galon gwr Coedgruffydd, ac nid hir y bu heb ofyn i Mr. Shadrach pa bryd y deuai i bregethu i'w dy yntau. Felly darfu iddo gael derbyniad i Coedgruffydd, ac yn mhen ysbaid o amser symudodd yr achos yno, lle y bu am amryw flynyddau. Byddai Mr. Shadrach, a lluaws eraill, yn cyrchu yno i bregethu, a ffyddloniaid yn ardal yn mynychu yno i gadw ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a chyfeillachau, y mae amryw o'r rhai hyny yn fyw yn awr, ac yn dwyn tystiolaeth na wnant byth anghofio ugeiniau o gyfarfodydd a chyfeillachau crefyddol gwlithog a nefol a gawsant yy Tynewydd, Lluestnewydd, Nantyperfedd, a Choedgruffydd.

Yn y flwyddyn 1824, codwyd yma gapel, a galwyd ef yn Salem, pryd y ffurfiwyd eglwys o aelodau Talybont ag oedd yn byw yn yr ardal, ac i fod yn gangen yn nglyn ag eglwys Talybont, a Mr. Moses Ellis i ddyfod yma

* Llythyrau J. Adams a J. Pritchard.

129

i ofalu am dani. Yn 1839, wcdi ymadawiad Mr. Ellis i Mynyddislwyn, rhoddwyd galwad i ddyn ieuangc o'r enw Mr. William Davies, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth ar y 15fed o Orphenaf, 1841. Ni bu yma ond o gylch dwy flynedd. Wedi ymadawiad Mr. Dayies, bu yr eglwys heb un gweinidog am amser maith. Yn y tymor hwn byddai Mr. S. Silfanus, Cwmswmlog, a Mr. E. Morgans, masnachydd o Goginan, yn gofalu am yr achos yma, a byddai Mr. Thomas, Talybont, yn dyfod drosodd unwaith bob mis, sef Sabboth cymundeb. Felly bu yr achos yn cael ei gynal yn mlaen hyd y flwyddyn 1849, pan y rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. R. W. Roberts, Pantglas, sir Gaernarfon, (yn awr o Ystradgynlais), i fod weinidog iddi, yr hwn a gydsyniodd a'i chais. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma yn mis Hydref, 1849. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri T. Jones, Parcyrhos; T. Jones, Cilcenin; S. Griffiths, Horeb; 1. Jones, Carmel;                J. Williams, Aberhosan; H. Morgan, Sammah, ac I. Thomas, Towyn. Gwenodd yr Arglwydd mewn modd neillduol ar lafur Mr. Roberts a'r eglwys am flynyddau lawer, - bu ychwanegiadau at nifer yr aelodau, ac yn eu plith lawer o ddynion fu ac sydd yn parhau o ddefnydd mawr gyda'r achos. Aeth yr hen gapel cyntaf yn rhy fychan, ac oblegid hyny, penderfynodd yr eglwys, yn y flwyddyn 1850, ei dynu i lawr ac adeiladu un mwy, ac yn mhen rhai blynyddau aeth hwnw yn rhy fychan eilwaith, a phenderfynwyd yn 1864 gael capel mwy eang drachefn, a dyma'r un sydd yn aros hyd yn bresenol. Costiodd y capel tua 1000p., ac y mae yn un cyfleus iawn i wrando ac i bregethu, ac y mae hwn etto yn cael ei lanw bob Sabboth. Bu Mr. Roberts yma yn llafurus a llwddianus iawn hyd Ebrill, 1864, pryd y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Pentrefoelas. Yn Hydref, 1864, rhoddodd eglwysi Salem a Clarach alwad i Mr. T. Close Davies, o athrofa y Bala. Cydsyniodd a'r alwad, a chymerodd ei urddiad le Rhagfyr 15fed, y flwyddyn hono. Darfu ei gysylltiad a'r eglwys, ac enciliodd i'r America. Yn y flwyddyn 1866, rhoddwyd galwad i Mr. William Jansen Davies, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Gorphenaf 4ydd a'r 5ed, 1866. Pregethodd Proff. W. Roberts, Aberhonddu, at natur eglwys; Mr. D. Price, Aberdar, i'r gweinidog, a Mr. W. Evans, Aberaeron, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri W. Edwards, Aberdar; O. Thomas, Brynmair ; W. E. Jones, Ceinewydd ; D. Griflith, Troedrhiwdalar, a J. Davies, Glynarthen. Llafuriodd Mr. Davies yma yn ddiwyd a llwyddianus hyd Awst, 1868, pan dderbyniodd alwad i Llanymddyfri, ac y symudodd yno. Yn niwedd y flwyddyn 1870, rhoddwyd galwad i Mr. William B. Marks, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mai 24ain a'r 25ain, 1871. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Proff.  Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. James, Llanaelhaiarn; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. G. Jones, Cefncribwr, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan ei diweddar weinidog, Mr. W. Jansen Davies, Casnewydd. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri T. Phillips, Horeb; J. R. Roberts, Aberhosan ; W. Perkins, Pennal, a W. Williams, Borth. Y mae Mr. Marks yn parhau i lafurio yma, a'r eglwys yn myned rhagddi mewn nerth a dylanwad ysbrydol.

Yn gymaint ag fod hanes a chymeriad eglwys yn cael ei wneyd i fyny o hanes a chymeriad ei haelodau, nid ydym yn ystyried y byddai hanes

130 

eglwys Salem yn gyflawn heb ddyweyd gair am y rhai mwyaf nodedig a ffyddlawn. Par Jones, efe oedd y diacon cyntaf fu yn yr eglwys, yr oedd yn ddyn gonest, ffyddlon, defnyddiol, a chrefyddol iawn. Efe fu unig flaenor yr eglwys a'r gan am amser maith. Y peth sydd yn rhyfedd yn ei hanes ydyw iddo gael chwech o blant - un ferch a phump o feibion, ac i'r pum' mab ddyfod yn ddiaconiaid yn yr eglwys ar ei ol. Jacob Jones. Bu am flynyddau yn, ddiacon ffyddlon, ac yr oedd yn fab i Par Jones Ni welwyd dyn erioed wedi ei gymwyso mor drwyadl gan natur i'r swydd ddiaconaidd. Yr oedd yn ddyn heddychlawn, duwiol iawn, ac yn llawn o synwyr cyffredin.

Codwyd y personau canlynol i pregethu yn yr eglwys hon : -

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel is about six miles east of Aberystwyth, in the parish of Llanbadarn Fawr. The Independents began to preach in this area at Tynewydd, Cwmsymlog, Lluestnewydd, and Nantyperfedd in 1810. Mr. A. Shadrach, Mr. T. Rowlands, Byrdir, near Machynlleth, and Mr. Morgans, Ty'nycae, were the first to sow the seeds. Mr Shadrach would preach wherever he could, he had a particular wish to preach at Coedgruffydd, a large farm near to the site of the current Salem chapel, how he was to do this  he did not know, as the owner occupier was a staunch churchman. He could not find a way to connect until a grandson to the owner was born in Talybont and he was the one to christen him. Of course the grandfather had to be present at the christening, and Mr Shadrach saw an opportunity and decided to hit to the heart, with some caution, as prejudice might turn him away. Despite this disadvantage, he made a deep impression on the heart of the man from Coedgruffydd, and soon he asked Mr Shadrach when would he preach at his home. Thus he gained entry to Coedgruffydd, and soon the cause moved there, and remained for many years. Mr Shadrach and many others went there to preach and the local faithful went to a Sunday School and to socialize. Many of those are still a witness to the many heavenly, fruitful services and religious socialising that took place in Tynewydd, Lluestnewydd, Nantyperfedd, and Coedgruffydd.

In 1824 a chapel was built here, named Salem, when a church waas formed here from members of  Talybont that lived in the area. Mr Moses Ellis came here to care for them. In 1839 Mr Ellis had left for Mynyddislwyn, a call was sent to Mr William Davies, a student at Carmarthen College, and he was ordained to full ministry on July 15th,1841. He only stayed for about two years. The church was then without a minister for many years. During this time Mr S Silfanus, Cwmsymlog, and Mr E Morgans, a businessman from Goginan, took care of the cause and Mr Thomas, Talybont, came once a month to give Communion. this is how the cause survived until 1849, then the church sent a call to Mr R W Roberts, Pantglas, Caernarfonshire (now Ystradgynlais), who accepted the call. His induction took place in October1849. Those officiating were Messrs T. Jones, Parcyrhos; T. Jones, Cilcenin; S. Griffiths, Horeb; J. Jones, Carmel; J. Williams, Aberhosan; H. Morgan, Sammah, and I. Thomas, Towyn. The Lord smiled upon Mr Roberts ministry here, as well as the church, for many years. There waas a considerable increase in the membership - good men, useful to the cause. The first chapel became too small and a larger one built in 1850, this again became too small and was demolished to make way for the current bigger chapel. The cost was 1000, and it is an excellent place for preaching, and it is still full on a Sunday. Mr Roberts remained here until April 1864 when he left to care for the church in Pentrefoelas. In October 1864 Salem and Clarach sent a combined call to Mr Close Davies from Bala College, he accepted and was ordained December 15th of that year. He ended his association with the church and went to America. In 1866 Mr William Jansen Davies, from Brecon College, was called and was ordained on July 4th and 5th, 1866. Proff. W Roberts, Brecon, preached on the nature of a church; Mr D Price, Aberdare, to the minister, and Mr W Evans, Aberaeron, to the church. Sermons were also given by Messrs  W Edwards, Aberdare; O Thomas, Brynmair ; W E Jones, New Quay ; D Griffith, Troedrhiwdalar, and J Davies, Glynarthen. Mr. Davies worked here successfully until  August, 1868, when he accepted a call from Llandovery, and moved there. At the end of 1870 a call was sent to Mr William B Marks, student at Carmarthen College, and he was ordained on May 24th and 25th, 1871. Proff.  Morgan, Carmarthen,  preached on the nature of a church; questions were asked by Mr E. James, Llanaelhaiarn; a sermon on the duty of a minister given by Mr G. Jones, Cefncribwr, and on the duty of a church by their old minister Mr W. Jansen Davies, Newport. Also officiating were Messrs T. Phillips, Horeb; J. R. Roberts, Aberhosan ; W. Perkins, Pennal, and W. Williams, Borth. Mr Marks continues to minister here and the church is progressing well.

In as much as the history of a church is made up of its character and its members, we judge that the story of Salem would be incomplete without mention of its faithful. Par Jones, he was the first deacon, an honest man, faithful, useful and very religious. He was the only leader to the church and the song for a long time. The notable thing is that he had six children, one girl and five sons, all five sons became deacons in their time. Jacob Jones who was a faithful deacon for many years was a son to Par Jones. He was a peaceful man, very godly and with a great deal of common sense.

The following were raised to preach here :-**

* Letter of Mr W. B. Marks.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

SILOA

(Llanbadarnfawr parish)

Saif y capel hwn oddeutu dwy filldir oddiwrth Salem, mewn cwm a elwir Cwmerfin, yn nghanol gweithiau mwn plwm, rhwng Salem a Goginan, yn mhlwyf Llanbadarnfawr. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon er's blynyddau. Buwyd yn pregethu yn hir yn nhy Mr. J. Lewis, yr hwn oedd ac sydd etto yn un o'r diaconiaid. Yn ystod gweinidogaeth Mr. W. Jansen Davies yr adeiladwyd y capel, ac y corpholwyd eglwys yma o aelodau Salem, ac i fod yn gangen yn nglyn a Salem. Agorwyd y capel yn mis Mai, 1868. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Jones, Llwyncelyn ; E. Jones, Llandudoch ; J. Jones, (B.,) Penrhyncoch, a D. Griffiths, Troedrhiwdalar. Mae yr aches yma yn myned yn mlaen. yn dra llwyddianus. Mae yma gynnulleidfa gryno bob Sabboth, ac yn ei holl ranau y mae gwedd siriol ar yr achos.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel is two miles from Salem in Cwmerfin, amid the lead mines between Salem and Goginan, in the parish of Llanbadarn Fawr. There was preaching here for many years in the home of Mr J Lewis, who remains one of the deacons. It was in the time of Mr W Jansen Davies' ministry that the chapel was built, and a church formed from the members of Salem, and as a branch attached to Salem. The chapel was opened in May 1868. The following officiated Messrs E Jones, Llwyncelyn ; E Jones, Llandudoch ; J Jones, (B.,) Penrhyncoch, and D. Griffiths, Troedrhiwdalar. The cause here continues successfully. There is a good congregation every Sunday, and all appears well.

 

CLARACH

(Llanbadarnfawr parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanbadarnfawr. Dywedir fod pregethu wedi bod yn y dyffryn hwn yn gynar yn hanes Ymneillduaeth. Pan

* Ysgrif Mr. W. B. Marks.

131

bregethid unwaith mewn lle o'r enw Cross, clywodd hen foneddwr oedd yn byw gerllaw am yr oedfa, ac ymwylltiodd gymaint fel yr aeth at y pregethwr gan ddyweyd wrtho am dewi. "Os y'ch chwi yn gorchymyn i mi dewi mi wnaf," meddai y pregethwr. Yn ymwybodol nad oedd ganddo awdurdod i wneyd, fe giliodd ymaith, a chafwyd llonyddwch. Yr hen efengylydd gwaithgar A. Shadrach ddechreuodd yr achos yma. Cyn hyny elai y preswylwyr i Lanbadarn i addoli, ond wedi cael hen dy to gwellt yn addoldy, cynheuwyd tan ar aelwyd newydd, ac er mor ddiolwg oedd yr hen dy, gwresogwyd llawer calon yno sydd heddyw yn diolch am oedfaon y ty to gwellt. Oedwyd rhoi lle iddynt i godi capel gan deulu Gogerddan, nid oherwydd eu bod yn anfoddlon eu hunain, ond rhag digio boneddwr culfarn a'u cymhellai i beidio, ond trwy barhau i ofyn llwyddwyd i'w gael. Yn y flwyddyn 1836, adeiladwyd y capel presenol, yr hwn a alwyd yn Hephsibah, ac yr oedd yn ddiddyled ar ei agoriad. Y mae mynwent wrth ei ochr, ac amryw o'r ffyddloniaid ynddi yn gorwedd. Pan adeiladwyd y capel, Mr. Rees, Llanbadarn, oedd y gweinidog. Wedi i faes ei lafur eangu mewn cyfeiriad arall, rhoddodd Clarach i fyny, ac unwyd ef a Salem. Daeth Mr. R. W. Roberts, Pantglas, sir Gaernarfon, i wasanaethu yma, fel yr ydym eisioes wedi crybwyll yn hanes Salem, ac yn nglyn a Salem y bu hyd yn agos i derfyn tymor gweinidogaeth Mr. Jansen Davies, yr hwn wedi adeiladu Siloa, fel cangen o Salem, a roddodd Clarach i fyny. Wedi hyny cysylltwyd ef a'r achos newydd yn y Borth. Ar ol yr undeb hwn yn y flwyddyn 1868, rhoddwyd galwad i Mr. William Williams, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Gorphenaf 8fed, 1868. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Evans, Aberaeron ; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. T. Davies, Abergele; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Saunders, Aberystwyth; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Proff. Morgan, Caerfyrddin, ac ar ddyledswydd yr eglwysi gan Mr. R. Williams (Hwfa Mon), Llundain: Mae Mr. Williams yn parhau i lafurio yma ac yn y Borth.

Ni chyfodwyd yma ond un pregethwr, sef Lewis Jones, Nantycastell, yr hwn a addysgwyd yn athrofa Aberhonddu, ac wedi bod yn gweinidogaethu yn Nghroesoswallt ac Abergwaun dros rai blynyddoedd, enciliodd i'r Eglwys Sefydledig.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel is in the parish of Llanbadarn Fawr. It is said that there has been preaching here from the early days of nonconformity. Preaching took place on an area known as the Cross, An old gentleman living nearby got very annoyed and went to tell the preacher to be quiet. "If you command that I stop I will" said the preacher. Knowing that he did not have the authority to stop him, he went away, and peace returned. It was the old evangelist Mr A Shadrach that began the cause here. Before that the residents went to Llanbadarn Fawr to worship, but having aquired an old thatched building to worship in, a fire was lit in a new fireplace, although it was not a handsome place it warmed many a heart to be grateful for those services under the thatch. There was a delay in giving them land to build by the family of Gogerddan, not because they were unwilling but because they did not want to offend a narrowminded gentleman, they kept asking and eventually succeeded. In 1836 the present chapel was built and named Hepsibah, it was without debt by the time it was completed. There was a cemetery alongside it, with many faithful lying there. When the chapel was built Mr Rees, Llanbadarn was the minister. When the workload grew in another direction, he gave up Clarach and it was paired with Salem.  Mr R W Roberts, Pantglas, Caernarfonshire came here to minister, as we have mentioned in the story of Salem, and it remained with Salem until close to the end of Mr Jansen Davies' ministry, who gave up Clarach after Siloa was built as a branch of Salem.From there on it was associated with Borth. After they were joined in 1868, a call was sent to Mr William Williams, a student from Carmarthen, was ordained on July 8th, 1868.

On the occasion Mr W Evans, Aberaeron preached on the nature of a church. Questions were asked by Mr E T Davies, Abergele, the ordination prayer was given by Mr J Saunders, Aberystwyth, a sermon on the duty of a minister was given by Prof. Morgan, Carmarthen and on the duty of a church R Williams (Hwfa Mon), London. Mr Williams continues here and Borth.

Only one was raised to preach here

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

BORTH

(Llanfihangel-genau'r-glyn parish)

Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanfihangel-genau'r-glyn. Dechreuwyd yr achos yma tua'r flwyddyn 1864, pan agorwyd y gledrffordd trwy'r gymydogaeth. Daeth Mr. Edward Jones a'i wraig i fyw i'r pentref, a thrwy gnorthwy Mr. Rees, Talybont, a brawd Mr. Jones, sef Mr. D. Jones, Abergwili, dechreuwyd pregethu yn ei dy. Yn fuan symudodd Mr. J. Thomas a'i deulu yma o Dalybont. Ffurfiwyd eglwys yn y lle gan Mr. Rees, a derbyniodd yr achos bob caredigrwydd oddiar ei law ef ac eglwys Talybont. Yn y flwyddyn 1868, dechreuodd Mr. W. Williams, y gweinidog presenol, ar ei lafur yma mewn cysylltiad a Chlarach. Y prif rai noddasant yr achos yma ar ddyfodiad Mr. Williams i'r lle oeddynt, E. Jones a'i deulu; John Thomas a'i deulu; M. Evans a'i deulu; Mr. Roberts, Station-master, a'i deulu, a Mrs. Lewis, Penybont. Yr oedd yma 21 o aelodau, y rhai oll ond un erbyn hyn ydynt wedi symud. Yn fuan wedi i Mr. Williams ymsefydlu yma dechreuwyd adeiladu y capel. Yr oedd y

132

tir wedi ei sicrhau, a'r cynllun wedi ei dynu a'i gymeradwyo yn barod. Yn haf y flwyddyn 1870, agorwyd y capel, a phregethodd y rhai canlynol ar yr achlysur, Meistri Stephen, Tanymarian; Gallaway, Llundain; Evans, Gaernarfon ; Jones, Abergwaun ; Foulkes, Tyddewi ; Rowlands, Llansamled, ac Edwards, Aberdar. Y mae y capel o gynllun Gothic, ac yn un o'r adeiladau harddaf yn y wlad. Y mae yr adeilad, y tir, a'r llogau hyd yn awr wedi cyrhaedd y swm 1050p , o'r hyn y mae tua 750p. eisioes wedi eu casglu, ac y mae tua 300p. yn aros o ddyled, ond o'r swm hwn y mae 50p. i ddyfod i orphen ei glirio oddiwrth Gymdeithas Adeiladu Llundain. Y mae cryn anhawsder i godi achos cryf yma oblegid fod enwadau eraill wedi cymeryd meddiant o'r lle, ac am nad yw y lle wedi cynyddu mor gyflym ag y disgwylid iddo ar y cyntaf. Trwy ymdrech a ffyddlondcb y maent wedi llwyddo i gadw yr achos yn fyw yn ngwyneb symudiadau ac anfanteision eraill.

Pregethir yma yn aesnaeg yn yr haf i'r ymwelwyr, ac er sicrhau hyny cyfranodd S. Morley, Ysw., A.S., 150p., a'r Gymdeithas adeiladu 110p. at godi y capel.*

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This place is in the parish of Llanfihangel Geneu'r Glyn. The cause was started here in 1864, when the railway came through. Mr Edward Jones and his wife came here to live and with help from Mr Rees, Talybont, and Mr Jones' brother, Mr Jones Abergwili, preaching began in his home.Soon Mr J Thomas and his family moved here from Talybont. A church was formed here by Mr Rees, the cause received every help from Talybont. In 1868 the current  minister Mr W Williams began here in association with Clarach, those who supported the cause then were E. Jones and family; John Thomas and family; M. Evans and family; Mr. Roberts, Station-master,and family, and Mrs. Lewis, Penybont. There were 21 members, who have all left by now. Soon after Mr Williams settled a chapel was built, it was opened in the summer of 1870 and the following officiated Messrs Stephen, Tanymarian; Gallaway, London; Evans, Caernarfon ; Jones, Fishguard ; Foulkes, St. David's ; Rowlands, Llansamlet, and Edwards, Aberdare. The chapel is of a Gothic design and one of the most handsome in the country. Th debt for the building, land and other items has reached a sum of 1050, about 750 has already been collected, and around 300 remains There is 50 owed to the "London Building Society" . It is difficult to build a strong membership here as the other denominations have already got a hold here. By effort and faithfulness they have succeeded in maintaining the cause despite much movement and other disadvantages.

There is preaching through the medium of English here in the summer, this was secured by a gift of 150 from S Morley, Esq., MP., and 110 from the Building Society to build the chapel.*

*Letter Mr W. Williams.

 

ABERYSTWYTH

Dechreuwyd pregethu yn rheolaidd gan yr Annibynwyr yn y dref hon o gylch y flwyddyn 1810, ond ymddengys fod rhai gweinidogion wrth deithio o'r Deheudir i'r Gogledd wedi pregethu yn achlysurol yma cyn hyny. Y lle cyntaf a gymerwyd ganddynt i gynal addoliad oedd Storehouse perthynol i un Mr. Thomas Jones, Rope-maker. Safai yr adeilad ar lan yr afon Rheidol, ychydig islaw y bont. Dywed Mr. D. Morgan, Llanfyllin, yr hwn oedd yn bresenol ar yr amgylchiad, fod Mr. Thomas Jones, Moelfro, sir Ddinbych, wedi pregethu yn agoriad y lle uchod. Yma y cyfarfyddai y gynnulleidfa yn gyson am amryw flynyddoedd. Yn Ionawr, 1816, agorwyd capel bychan a thlws yn Baker-street gan Mr. A. Shadrach. Adeiladwyd y capel hwn gan Mr. David Jenkins, yr hwn a fuasai yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond a'u gadawodd am ei fod yn anghymeradwyo eu gwaith yn urddo gweinidogion i weinyddu yr ordinhadau. Credai ef mai offeiriaid wedi eu dwyn i fyny yn rheolaidd yn yr Eglwys Sefydledig, ac wedi eu hurddo gan esgobion, oeddynt yr unig rai cymwys i weinyddu yr ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd. Adeiladodd y capel yn Baker-street gan dybied y buasai ei hen gyfeillion yn ei gynorthwyo i gario yr achos yn mlaen yn ol ei olygiadau ei hun, ond pan y siomwyd ef yn ei ddisgwyliadau, ac y methodd a chael pregethwyr i'r pulpud, penderfynodd osod y capel i'r Annibynwyr am 9p. yn y flwyddyn. Wedi bod yn y capel uchod am ddwy flynedd, rhoddwyd ef i fyny am fod y perchenog wedi amlygu ei fwriad i godi yr ardreth. Ar ol hyny cymerwyd hen ysgubor yn agos i waelod Queen-street, am yr ardreth o chwe' gini yn y flwyddyn. Gosodwyd pulpud i fyny, a chafwyd meingeiau i'r lle er ei wneyd mor gyfleus ag yr oedd modd i gynal gwasanaeth crefyddol yn gyson a rheolaidd. Agorwyd y lle hwn Ebrill 12fed, 1818, pryd y pregethodd Mr. Shadrach oddiar 2 Cronicl iii. 1. Hyd yma nid oedd eglwys wedi i ffurfio yn y lle. Dywed Mr. Shadrach, yn yr ychydig hanes o'i fywyd a ysgrifenwyd ganddo ei hun, mai Mai 30ain, 1819, y

*Llythyr Mr. W. Williams.

133

ffurfiwyd eglwys gyntaf yma, pryd y derbyniwyd dau o'r newydd, ac yr ymunodd ychydig o aelodau Llanbadarn gyda hwynt i gyfranogi o Swper yr Arglwydd, yr hwn a weinyddwyd gan Mr. Shadrach ei hun. Ymddengys fod cyfeiliachau crefyddol wedi eu cynal yma cyn hyny, ond dyma y pryd y ffurfiwyd yr eglwys.

Gosodwyd careg sylfaen y capel presenol Awst 1af, 1821, a thraddododd Mr. Shadrach anerchiad ar yr achlysur. Saif y capel yn Vulcan-place. Mesura 45 troedfedd wrth 37 troedfedd. Prysurwyd yn gyflym gyda'r gwaith o adeiladu, a llwyddwyd i'w gael o dan do cyn gauaf y flwyddyn hono. Yna gadawyd ef mewn sefyllfa anorphenol am yn agos i flwyddyn. Tua diwedd 1822, gosodwyd oriel i fyny ynddo, ac ychydig eisteddleoedd o gwmpas y pulpud. Traul yr ychwanegiad ydoedd 164p. Yn y cyfamser yr oedd Mr. Shadrach yn brysur wrth y gwaith o gasglu er cyfarfod a'r draul. Teithiodd lawer trwy Gymru a Lloegr, a llwyddodd i gadw yr eglwys ieuangc yn rhydd oddiwrth faich fuasai yn gwasgu yn drwm arni pe gadewsid y ddyled i aros. Agorwyd y capel Sahboth Mai 11eg, 1823, pryd y pregethwyd i gynnudleidfa luosog gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Yn Ionawr, 1830, daeth Mr. Elicim L. Shadrach, mab yr hen weinidog, yr hwn a fuasai weinidog yn Doncaster, i gynorthwyo ei dad yn y weinidogaeth. Yn fuan ar ol ei ddyfodiad i'r lle, ymgymerodd a'r gwaith o osod llawr i'r capel, ac ychydig o eisteddleoedd o dan yr oriel, ac aeth i Loegr i gasglu yr arian gofynol i gyfarfod a'r draul. Dywed Mr. A. Shadrach fel y canlyn, mewn perthynas i draul yr adeiladu: - "Ni bu neb o aelodau yr eglwys yn Aberystwyth yn atebol am un swllt o'r holl draul a aeth at adeiladu eu capel hardd, ac ni thalasant un geiniog o log arian." Tua diwedd 1834, derbyniodd Mr. E. L. Shadrach alwad o Darsley, swydd Gaerloyw, ac ymadawodd gan adael ei dad i ofalu am yr eglwys. Yn fuan iawn gwaelodd iechyd a gwanhaodd nerth Mr. Shadrach, a chan ei fod mewn oedran, penderfynodd roddi ei ofal gweinidogaethol i fyny, yr hyn a wnaeth Awst 16eg, 1835. Yn Ionawr, 1836, ar ol ystyriaeth bwyllog, penderfynodd yr eglwys roddi galwad i Mr. John Saunders, yr hwn oedd yn weinidog ar y pryd yn Mynydd Buckley, sir Flint. Cydsyniodd yntau a'r alwad, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yma ddiwedd y Mehefin canlynol. Parhai Mr. Shadrach i fyw yn y dref, a phregethai yn i fynych yma ac yn yr eglwysi cylchynol hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Ionawr 18fed, 1844, yn 70 oed. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Saunders gwnaed ychydig o gyfnewidiadau oddi fewn ac oddi allan i'r capel, yr hyn a gostiodd 75p. 19s. 6 1/2c. Tanysgrifiwyd 23p. 9s. 9c. o'r swm uchod gan yr eglwys, ac ymroddodd ychydig o'r aelodau i gasglu y gweddill oddiwrth gyfeillion tu allan i gylch yr eglwys, yr hyn a wnaed yn bur fuan. Ymddengys na chymerodd dim neillduol le mewn cysylltiad a'r eglwys yn ystod gweinidogaeth Mr. Saunders. Byddai llawer o fyned a dyfod, ond er hyny daliodd yr eglwys yn agos yr un nifer. Darfu i lawer o aelodau fyned allan yn amser  sefydliad yr achos Saesoneg yn y dref, yr hyn a wanychodd y gynnulleidfa a'r eglwys i raddau. Pregethodd Mr. Saunders y tro olaf y Sabboth diweddaf yn Ebrill, 1871, a bu farw ar ol byr ond trwm gystudd ar y 27ain o'r un mis, yn yr un flwyddyn, yn 75 oed. Wedi bod flwyddyn a haner yn amddifad o weinidog, penderfynodd yr eglwys Tachwedd 3ydd, 1872, i roddi galwad unfrydol i Mr. Job Miles, Bethesda, Merthyr. Atebodd yntau yr alwad yn gadarnhaol, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yma Ionawr 12fed, 1873,

134

a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad y 12fed a'r 13eg o'r Chwefror canlynol. Mae golwg lewyrchus iawn ar yr achos yma yn awr. Rhif yr eglwys yw 252, a dengys yr adroddiad a gyhoeddwyd am y flwyddyn 1873, fod sefyllfa arianol yr eglwys yn addawol a chalonogol iawn. Mae yma gynnulleidfa ragorol, a diau y byddai yn llawcr gwell pe byddai y capel yn fwy. Nid oes gymaint ag eisteddle i'w gosod i neb. Teimlir fod yma fawr angen am gapel newydd, ac y dylasai fod wedi ei godi er's blynyddoedd. Pa fodd bynag, prynwyd yr hen gapel, a'r tir sydd dano, yn nghyd a thri thy o gwmpas iddo, yn ystod y flwyddyn 1873, ac yn ychwanegol at hyny, sicrhawyd tir yn Church-street at godi capel newydd, a bwriedir dechreu ar y gwaith o adeiladu mor gynted ag y ceir pethau i drefn, a'r amgylchiadau yn gyfleus. Mae yr eglwys eisoes wedi dechreu casglu at y gwaith, a gwnaed digon y flwyddyn ddiweddaf i brofi fod gan y "bobl galon i weithio." Mae clod yn ddyledus i'r eglwys hon am ei pharodrwydd i helpu pob achos da. Yn achos capel y Borth dangosodd haelioni charedigrwydd anarferol, a chyda chodi y capel Seisnig yn y dref yr ocdd yn gweithio fel pe buasai yn adeiladu capel iddi ei hun, ac nid oes yr amheuaeth leiaf na wna y ferch dalu yn ol yn anrhydeddus i'w mam am ei charedigrwydd iddi wrth ddechreu ei byd.

Mae yma lawer o deuluoedd ffyddlon wedi bod yn nglyn a'r achos yn y lle, ond dichon mai doeth fyddai i ni beidio enwi neb o honynt, rhag i ni wrth enwi rhai adael allan eraill oeddynt yn llawn mor deilwng o sylw. Goddefer i ni, er hyny, nodi enwau y ddau fuont a'r llaw flaenaf gyda Mr. Shadrach yn nechreuad yr achos, sef Edward Mason, yr hwm oedd yn ddiacon yn Llanbadarn, ond yn byw yn y dref, a Mrs. Edwards, gwraig i un William Edwards, masnachwr cyfrifol yn y dref. Dywedir hefyd fod un o'r enw Richard Hughes, dyn ieuangc, wedi bod yn dra ffyddlon am yr ychydig amser y bu yma cyn symud i Liverpool.*

Nid ydym wedi cael enwau neb a godwyd yma i bregethu, oddigerth Mr. Thomas Thomas, yr hwn sydd yn aros yn yr eglwys yn bregethwr parchus, ac yn ddiacon defnyddiol.

*Ysgrif Mr J. Miles

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

*Not fully extracted*

AZARIAH SHADRACH. Ganwyd ef mewn lle a elwir Garndeilofach, yn mhlwyf Llanfair, yn agos  Abergwaun, sir Penfro, Mehefin 24ain, 1774. Yr oedd ei rieni Henry ac Ann Shadrach yn enedigol o blwyf Nyfern. ..................................

135 / 136 / 137

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

Regular praching began around 1810, and it appears that prior to this preachers travelling north to south would preach occasionally as they passed through. The first place they preached in was the Storehouse belonging to Mr Thomas Jones, Ropemaker. The building stood just below the bridge on the shore of the river Rheidol. Mr D Morgan, Llanfyllin, who was present states that  Mr Thomas Jones, Moelfro, Denbighshire preached on the opening of the above place.

The congregation met here for many years. In January 1816, Mr A Shadrach built a small chapel on Baker Street. The chapel was built by David Jenkins, he had been a Calvinistic Methodist but left because of a difference of opinion over ordination of ministers to administer the sacraments. He believed that only vicars, ordained by a bishop should be allowed to Christen and offer Holy Communion .He built the chapel in the belief that he had the support of others in his thinking, and that they would support him to continue this cause, but when he was disappointed in this, and failed to find a minister, he decided to rent the chapel to the Independents for 9 a year. Having been in the chapel for two years, they gave it up when the owner intended to increase the rent. Then they took to using a barn near the bottom of Queen Street for a rent of six guineas a year( 6/6/0). A pulpit was built and some benches put in, to make it as comfortable as possible. It was opened on April 12th, 1818, when Mr Shadrach preached on Chronicles 2 iii 1. So far no church had been formed here. Mr Shadrach states in the small part of his life story that he wrote himself that it was on May 30th, 1819, that a church was first formed.Two new members were confirmed and some members from Llanbadarn joined them in Holy Communion administered by Mr Shadrach. It appears that religious meetings had been held here before this, but it was now the church was formed.

The foundation stone of the current chapel was laid on August 1st, 1821, and Mr Shadrach gave the address on that occasion. The chapel stands in Vulcan Place, it measures 45 x 37 feet. They set to building and managed to get the roof on before the winter of that year. It was then left unfinished for a year. Towards the end of 1822 a gallery was added and a few seats around the pulpit. This cost 164. In the meantime Mr Shadrach was busy collecting to pay the debt, travelling through Wales and England he managed to keep the young church from the worry of heavy debt. The chapel was opened on Sunday May 11th, 1823 when Dr Phillips, Neuaddlwyd, preached to a large congregation. In January 1830 Mr Elicim Shadrach, son of the old minister, who had been minister in Doncaster, came to help his father in his ministry. Soon he undertook to floor the chapel and add some seating under the gallery, he went to England to collect for the debt. Mr A Shadrach wrote "That not one of the members had contributed a single shilling to the building of their beautiful chapel, and they never paid one penny in interest". Toward the end of 1834, Mr E L Shadrach received a call from Darsley, Gloucestershire, and went leaving his father to care for the church. Soon, due to his age and deteriorating health, he gave up his ministry on August 16th, 1835. In January 1836, after due consideration, they sent a call to Mr John Saunders, who was a minister at Buckley, Flintshire. He accepted the call and began his ministry the following June. Mr Shadrach continued to live in the town and carried on preaching here and at other chapels nearby to within a few months of his death, which took place on January 18th, 1844, aged 70. During Mr Saunders' ministry some changes were made both inside and outside the chapel at a cost of 75/19/6 1/2. 23/9/9 was underwritten by the members and the remainder was soon collected from friends outside the church. Nothing extraordinary took place during Mr Saunders' ministry, there was a lot of coming and going but numbers remained fairly constant. Many members left when the English chapel was opened in the town, which weakened the congregation to some extent. Mr Saunders preached for the last time in April, 1871 and died after a short but devastating illness on the 27th of the same month aged 75. After being without a minister for a year and a half, the church decided unanimously on November 3rd, 1872, to call Mr Job Miles, Bethesda, Merthyr. He accepted the call and he began his ministry on January 12th, 1873. His induction was held on February 12th and 13th. This church looks very promising with 252 members, and a report published in 1873 shows that the financial status is encouraging. There is a good congregation and could be better if the chapel was larger. There is a feeling that a new chapel is needed and should have been built years ago.The old chapel was purchased along with the land it stood on , as well as three surrounding houses during 1873, as well as this some land was aquired in Church Street to build a new chapel, and work should commence as soon as all is in order. The church has already begun to collect for the cost of the work, and enough was collected to demonstrate that "the people have the heart to work". Praise is due to this church for helping all good causes. In the case of Borth, uncommon charity was shown, as well as working as if for themselves to help with the English chapel in the town, and there is no doubt that the daughter will repay the mother for the help given at inception.

There are many faithful families involved with this cause, but it would be wise not to name any in case some were missed out. We must,all the same name two that helped Mr Shadrach in the early days - Edward Mason, Deacon at Llanbadarn, but living in the town and Mrs Edwards, the wife of one William Edwards, businessman of the town.It is also said that Richard Hughes, a young man, was also very faithful before he left for Liverpool*

We have no names of anyone raised to preach here except for Mr Thomas Thomas , who remains a good preacher and deacon here.

*Letter of Mr J. Miles

BIOGRAPHICAL NOTES**

AZARIAH SHADRACH - born Garndeilofach, parish of Llanfair, near Fishguard, Pembrokeshire, June 24th, 1774 - Parents Henry and Ann Shadrach born Nevern parish - Died January 18th, 1844 age 70.

JOHN SAUNDERS - Born near Capelnoni,Carmarthenshire, yn 1796 - Died April 27th, 1871, age 75.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

CONTINUED


Return to top

[Gareth Hicks: 23 Oct 2008]

Valid HTML 4.01 Transitional

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI