Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru. (History of the Welsh Independent Churches)

hide
Hide

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+) From the CD published by Archive CD Books

CARDIGANSHIRE section (Vol 4)

Pages  138 - 151

See main project page

Proof read by Yvonne John (April 2008)

Chapels below;

  • NANTERNIS  (Llandysiliogogo parish) (with translation)
  • PENYCAE  (Llannarth parish) (with translation)
  • Y WERN (Llanina parish) (with translation)

Pages 138 - 151

138

(Continued) Aberystwyth

(Not fully extracted)

JOHN SAUNDERS. Ganwyd ef mewn amaethdy yn agos i Gapelnoni, sir Gaerfyrddin, yn 1796. .......................................

CAPEL SAESNAEG ABERYSTWYTH

Arferid yma am lawen o flynyddoedd i gynal gwasanaeth Saesonig yn yr haf, yn benaf er mwyn cyfleustra yr ymwelwyr a'r lle, ond teimlid anfantais fawr oblegid fod yn rhaid cynal y moddion yn y capel Cymraeg. Penderfynwyd o'r diwedd adeiladu capel Saesnaeg, a sicrhawyd tir yn Portland-street, yr hwn a gostiodd 325p. Adeiladwyd yma gapel hardd,

139

gwerth 2,550p, ac agorwyd ef Gorphenaf 27ain, 1866, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan Mr. Newman Hall, Ll.B., Llundain, a Proff. Morris, Aberhonddu. Ffurfiwyd yma eglwys o un-ar-bymtheg o bersonau y rhai a ollyngwyd gyda llythyr o'r capel Cymreig. Wedi bod am ddwy flynedd yn dibynu ar weinidogaeth achlysurol, a chynorthwy Mr. Saunders,  rhoddwyd galwad i Mr. Arthur Griffith, BA., Ll.B., myfyriwr o athrofa Spring Hill, Birmingham, a dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Tachwedd, 1868. Bu Mr. Griffith yma hyd mis Medi, 1871, pryd y derbyniodd alwad o gapel Bishopsgate, Llundain. Yn yr ysbaid y bu ef yma tynwyd y ddyled i lawr i 700p., ac wedi ei ymadawiad gwnaeth yr eglwys ymdrech derfynol i lwyr ddileu y ddyled, ac yr oedd wedi ei chwbl dalu cyn diwedd 1872. Yn Ionawr, 1873, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Thomas Arthur Penry, myfyriwr o athrofa Annibynol swydd Lancaster. Dechreuodd ei lafur yma Gorphenaf 13eg, 1873, a chynhaliwyd cyfarfodydd ei urddiad Ionawr 14eg, 1874, pryd y llywyddid gan Mr. J. Miles, gweinidog yr eglwys Gymreig yn y dref; traethwyd ar natur eglwys gan Proff. Morgan, Caerfyrddin ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Proff. Scot, B.A., Ll.B., Manchester, ac i'r eglwys gan Dr. Rees, Abertawy; ac y mae Mr. Penry yn argoeli bod yn ddefnyddiol a llwyddianus yma.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

There was a tradition here for many years to hold English services during the summer, mainly for the convenience of visitors to the area, they felt that this was a disadvantage because that they had to hold the services at the Welsh chapel. It was decided to build an English chapel, and land was aquired in Portland street at a cost of £325. A beautful chapel was built, worth £2,550, and it was opened on July 27th, 1866. Mr Newman Hall, Ll B, London and Professor Morris, Brecon officiated. A church was formed with fifteen people from the Welsh chapel, released with letters. After two years depending on occasional ministry , and support from Mr Saunders, they sent a call to Mr Arthur Griffiths, BA, Ll.B, a student from Spring Hill College, Birmingham, and he began his ministry on the first Sunday in 1868. Mr Griffiths was here until September, 1871, when he accepted a call from Bishopsgate, London. In the short time that he was here the debt was reduced to £700. After his departure the church made a big effort to clear the debt, and it was cleared by the end of  1872. In January 1873 an unanimous call was sent to Mr Thomas Arthur Penry, a student at the Independent College, Lancaster. He began his ministry on July 13th, 1873, and his ordination service was held January 14th, 1874 when Mr J Miles, the Welsh chapel's minister presided. Prof Morgan, Carmarthen preached on the nature of a church, Prof Scott, BA, LlB, Manchester preached on the duties of a minister, and to the church by Dr Rees, Swansea, and Mr Penry gives the impression that he will be useful and successful here.

PENRHIWGALED

(Llanllwchaearn parish)

 Yr oedd amryw Ymneillduwyr, a rhai o honynt yn ddynion o ddylanwad a safle uchel mewn cymdeithas, yn Llanarth a'r plwyfydd cylchynol yn amser Siarl II. Un o'r cyfryw oedd Thomas David Rees o Foyddyn. Yr oedd ef yn dirfeddianwr ac yn bregethwr lled boblogaidd. Byddai ef, ac eraill o'r ardaloedd hyn, yn myned i Landysul i addoli gyda'r gynnulleidfa oedd yno dan ofal Mr. Stephen Hughes, ac y mae yn dra sicr fod Mr. Hughes yn dyfod atynt hwy yn achlysurol i bregethu yn eu hanedd-dai. Mae genym hanes i T. D. Rees anfoddloni wrth Mr. Stephen Hughes oherwydd ei fod yn myned i'r Llan yn Llandysul ar amser y gwasanaeth, a chadw ei bobl ei hun i aros nes y buasai y gwasanaeth plwyfol drosodd cyn dechreu eu haddodiad cyhoeddus. Byddai Mr. Hughes yn arfer gwneyd hyn yn y gwahanol ardaloedd yr elai iddynt er mwyn dofi cynddaredd yr offeiriaid yn erbyn yr Ymneillduwyr. Nid ystyriai T. D. Rees, ac eraill o aelodau eglwysi Mr. Hughes hyny yn iawn, ac am nad addawai ef beidio gwneyd felly rhagllaw, ymadawodd Mr. Rees ag ef, ac yn fuan ymunodd a'r Bedyddwyr, a chyda hwy y bu hyd derfyn ei oes. Tua y flwyddyn 1668 yr ymadawodd ef a'r Annibynwyr. Ond wedi iddo fyned yn Fedyddiwr parhaodd i gydaddoli a'i hen frodyr, a phregethu yn fynych iddynt trwy holl dymor yr erledigaeth. . Mae yn ymddangos i ryw nifer o Ymneillduwyr, cynwysedig o Annibynwyr a Bedyddwyr, fod yn cynal addoliad cyhoeddus yn Sinoduchaf, yn mhlwyf Llanarth, ac Arthach, yn mhlwyf Llangranog, ac o bosibl, mewn manau eraill yn y parthau hyn, o amser Siarl II. byd y flwyddyn 1778, pryd y penderfynasant adeiladu Capel Llwyndafydd, yn mhlwyf Llandysuliogogo. Yr oedd y gynnulleidfa yn dal croesolygiadau ar yr ordinhad o fedydd, ac felly ni buont yn hir yn eu haddoldy newydd cyn iddynt fyned i ddadleu yn rhy boeth ar y pwngc i allu cydaddoli yno. Mr. B. Evans, Drewen, oedd yn dyfod i weini yr ordinhadau i'r rhan Annibynol o'r gynnulleidfa, a phan welodd ef fod

140

dadl bedydd yn eu gwneyd yn anghysurus, cynghorodd yr Annibynwyr i adael y capel i'r Bedyddwyr, ac adeiladu capel iddynt eu hunain. Yn y flwyddyn 1781, cafwyd darn o dir gan D. Evans, Ysw., Penrhiwgaled, yn mhlwyf Cydblwyf, i adeiladu addoldy, ac felly y gwnaed. Yr oedd yma nifer fechan o ddynion selog yn cychwyn yr achos, ac ni bu yn hir cyn dyfod yn achos cryf a llewyrchus iawn. Mr. Evans, Drewen, fu y gweinidog yma o sefydliad yr achos hyd y flwyddyn 1818, pryd yr urddwyd Mr. Daniel Thomas yma. Ond bu Mr. Evans yn cael ei gynorthwyo am fwy nag ugain mlynedd gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd, yr hwn a bregethai yma un Sabboth o bob mis. Bu Mr. Griffiths, Hawen, yn cynorthwyo yma hefyd am rai blynyddau. Wedi i Mr. Evans heneiddio, ac i faesydd llafur Dr. Phillips a Mr. Griffiths fyned yn rhy eang iddynt allu hebgor amser i ddyfod yma, ac eglwys Penrhiwgaled, a'r gangen yn Nghapel-y-wig bellach wedi dyfod yn llawn ddigon galluog i gynad gweinidog iddynt eu hunain, penderfynasant roddi galwad i Mr. Daniel Thomas, myfyriwr yn athrofa y Neuaddlwyd. Urddwyd ef Mawrth 25ain a'r 26ain, 1818. cynaliwyd cyfarfod prydnawn y dydd cyntaf yn Nghapel-y-wig, lle y dechreuwyd y gwasanaeth gan Mr. James Phillips, Bethlehem, ac y pregethodd Meistri J. Rowlands, Llanybri, oddiwrth 2 Tim. iii 5, a W. Griffiths, Glandwr, oddiwrth Luc xv. 2. Yn yr hwyr pregethodd Mr. D. Davies, Pantteg, yn Mhenrhiwgaled. Boreu dranoeth, yn yr un lle, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. T. Griffiths, Hawen ; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. J. Griffiths, Tyddewi ; holwyd y gofyniadau arferol, a gweddiwyd yr urdd-weddi gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. M. Jones, Trelech, oddiwrth 1 Tim. iv. 16, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. A. Shadrach, Aberystwyth, oddiwrth 1 Tim. v. 17. Profodd Mr. Thomas yn ddioed mai y dyn iawn yn y lle iawn oedd ef yma. Cynyddodd y cynnulleidfaoedd yma ac yn Nghapel-y-wig o flwyddyn i flwyddyn. Yr ydym yn barnu i'r capel gael ei helaethu ar ryw adeg rhwng 1781 ac 1828, pryd yr ail adeiladwyd ef. Yn yr un flwyddyn ag y cafodd ei ail adeiladu, cyfodwyd capel Maenygroes, a ffurfiwyd yno gangen luosog o'r fam eglwys. Cyn hyny, sef yn 1821, yr oedd tua haner cant o aelodau Penrhiwgaled wedi cael gollyngdod i fyned i ddechreu yr achos yn Pisgah, a thua, yr un amser yr oedd cangen arall o'r Neuaddlwyd oddeutu cael ei ffurfio yn Penycae, Llanarth, ac amryw o aelodau Penrhiwgaled wedi ymuno yno, ac yn mhen blynyddau wedi hyny ffurfiwyd cangen y Wern. Felly y mae yr hen gwch toreithiog hwn wedi anfon allan tua phump o heidiau, y rhai erbyn hyn sydd yn eglwysi cryfion a lluosog iawn, a rhai o honynt hwythau wedi anfon allan gangenau. Wedi i Mr. Thomas lafurio yn y maes eang hwn gyda derbyniad a llwyddiant anghyffredin am ddwy-flynedd-ar-hugain, bu raid iddo gael cynorthwywr, ac yn 1840, urddwyd Mr. Thomas Rees yn gynorthwywr  iddo. Wedi bywyd o lafur diflin, gorphenodd Mr. Thomas ei yrfa yn y flwyddyn 1848. Yn fuan wedi hyny, oherwydd helaethrwydd mawr y cylch gweinidogaethol, rhoddodd Mr. Rees ofal Penrhiwgaled a Pisgah i fyny, ac yn y flwyddyn 1850, rhoddodd y ddwy eglwys hyn alwad i Mr. Robert Thomas, Maenclochog, ac efe yw y gweinidog yma hyd yn bresenol.

Mae maes yr eglwys hon wedi ei gyfyngu yn fawr trwy fod cangenau o honi wedi cael eu ffurfio yn eglwysi Annibynol yn mhob cyfeiriad am filldiroedd o gwmpas iddi, fel nad oes lle i ddisgwyl y fath gynydd ynddi

141

o hyn allan ag a fu yn y blynyddoedd gynt. Gan fod y capel yn sefyll mewn man anghyfleus iawn i ddyfod ato o eisiau ffyrdd da, bwriedir yn fuan adeiladu capel newydd yn ymyl y brif-ffordd. Os gwneir hyny bydd yn welliant mawr. Mae dynion rhagorol iawn wedi bod yn perthyn i'r achos hwn o oes i oes. Yr oedd David Evans, Ysw., Penrhiwgaled, y gwr a roddodd dir at adeiladu y capel, yn grefyddwr da, ac yn aelod ffyddlon a defnyddiol yn yr eglwys hyd derfyn ei oes. Bu ei dý yn lletty cysurus i bob pregethwr a ymwelai a'r ardal cyhyd ag y bu efe byw, ac am rai blynyddau ar ol ei farwolaeth, ond y mae y teulu wedi cael ei golli i Ymneillduaeth er's blynyddau bellach. Yr oedd Morgan, y Crug-glas, yn un o'r aelodau a ddaethant yma o Lwyndafydd, a dywedir ei fod yn wr hynod iawn am ei ragoriaeth fel crefyddwr. Mae llawer o'i hiliogaeth etto yn glynu yn ffyddlon gyda'r achos. Mae coffadwriaeth Rees, Cwmcynog ; Moses, y Goetre, a Samuel, y Clai, hefyd yn barchus yn yr ardal fel sylfaenwyr cyntaf yr achos yn y lle. Mae hiliogaeth y dynion da hyn yn perthyn etto i'r fam eglwys neu y cangenau. Yn mysg yr ail dô o ffydddoniaid yr achos yma, sonir gyda pharch mawr am William o'r Wstrws, fel gwr diarhebol am ei dduwioldeb, ac am Dafydd Owen o'r Trawsnant, a James ei fab ; Enoch Thomas, y Frongoch, a Dafydd Evans, y Goetre, y rhai oeddynt yn gymeriadau rhagorol iawn fel gwyr cedyrn yn yr ysgrythyrau a gweddiwyr nodedig o effeithiol. Heblaw y gwyr hyn, bu yma o bryd i bryd ganoedd o wyr a gwragedd ffyddlon yn eu dydd, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd, er nas gallwn ni eu cofnodi yn y llyfr hwn.

Cofodwyd yma amryw i bregethu o bryd i bryd, ond nid ydym yn sicr ein bod wedi gallu dyfod o hyd i restr gyflawn o honynt. Gwyddom am y rhai canlynol :-

  • David Peter, am yr hwn y soniasom yn nglyn a hanes Heol Awst, Caerfyrddin.
  • John Evans. Gwelir ei hanes ef yn nglyn ag eglwysi Machynlleth ac Amlwch.
  • William Davies. Gwelir i fywgraphiad ef yn nglyn a hanes Rhydyceisiaid, lle y bu yn weinidog.
  • David Johns, un o'r cenhadau a aethant allan i Madagascar dan nawdd Cymdeithas Genhadol Llundain. Mab J. Johns, Llain, plwyf Llanarth, oedd ef. Derbyniwyd ef yn dra ieuangc yn aelod eglwysig yn Mhenrhiwgaled, ac yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu aeth i athrofa Neuaddlwyd. Aeth o'r Neuaddlwyd i athrofa Drefnewydd, ac wedi i Gymdeithas Genhadol Llundain ei dderbyn fel cenhadwr i'w anfon allan i Madagascar, anfonwyd ef i'r athrofa genhadol yn Gosport i orphen i addysg. Cynaliwyd cyfarfod ei urddiad yn Mhenrhiwgaled Chwefror 14eg, 1826. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy weddi gan Mr. Jonathan Jones, Troedyrhiw, (gynt Rhydybont); traddodwyd araeth ragarweiniol gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin, oddiwrth Esaiah. lx. 15 ; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. Daniel Thomas, Penrhiwgaled ; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. M. Jones, Trelech ; traddodwyd siars effeithiol i'r cenhadwr gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd, oddiwrth Dan. xii. 3, a thraddodwyd pregeth ar y genhadaeth gan Mr. D. Morgan, Machynlleth, oddiwrth Mat. xxiv. 14. Pregethwyd y prydnawn a'r hwyr y dydd blaenorol gan Meistri Griffiths, Hawen ; Davies, Aberteifi ; Jonathan Jones, ac M. Jones, Trelech. Cyn cychwyn allan i'w faes cenhadol priododd Mr, Johns a merch Mr. W. Thomas, gynt gweinidog yr Annibynwyr yn y Bala. Yn ddioed wedi ei       

142

  • .....................urddiad. hwyliodd ef a'i briod tua Madagascar, a chyrhaeddasant yno yn ddiogel Medi 11eg, 1826, lle y cawsant dderbyniad caredig gan eu brodyr Meistri Jones a Griffiths, y rhai fuasent yn llafurio yno er's chwe' blynedd. Bu Mr. Johns yno yn cydlafurio gyda'r cenhadau eraill yn ffyddlon a diwyd iawn hyd fis Medi, 1836, pryd y gorfodwyd hwynt gan angerdd yr erledigaeth i ymadael o'r ynys. Cyffeithodd Mr. Johns Daith y Pererin, a llawer o fan draethodau i iaith y wlad, a bu yn gynorthwy i Meistri Jones a Griffiths i gyfieithu yr Ysgrythyrau a chyfansoddi geiriaduron, a llyfrau eraill. Wedi gorfod ymadael o Madagascar, bu am dymor yn y wlad hon, ond dychwelodd drachefn i ynys Mauritius, a gwnaeth amryw fordeithiau oddiýno i gyffiniau Madagascar er gweini pob cymhorth a allai i'r Cristionogion erlidiedig yno Ar un o'r ymweliadau hyn a Madagascar, cymerwyd ef yn glaf ye Wosibi, yn Ngogledd-orllewin yr ynys, bu farw yno Awst 6ed, 1843. Yr oedd Joseph, un o'r Cristionogion Malagasaidd, yn gweini arno yn ei oriau olaf. Wedi ei farwolaeth ef dychwelodd ei briod a'r plant i'r wlad hon. Mae Mrs. Johns wedi marw er's blynyddau bellach. Aeth eu dau fab i'r weinidogaeth, ond y mae yr hynaf er's tair neu bedair blynedd wedi cael ei analluogi gan gystudd blin i wneyd dim gyda gwaith y weinidogaeth, ac nid oes fawr gobaith yr adferir ef byth yn y byd hwn. Yr oedd yn wr ieuangc dysgedig, duwiol, a rhagorol iawn. Mae yr ail fab, Mr. James Johns, B.A., yn weinidog yn Northwich, Cheshire. Yr oedd David Johns yn un o'r cenhadau rhagoraf a mwyaf ffyddlon a anfonwyd erioed allan o Frydain i fysg y paganiaid. Yn awr y mae cynhauaf toreithiog yn cael ei fedi mewn gorfoledd yn Madagascar oddiwrth yr had a hauwyd yno mewn dagrau gan Meistri Jones, Bevan, Griffiths, a Johns, ac eraill, ac yn y man caiff y rhai sydd yn awr yn medi gyfarfod a'r rhai fuont yn hau i gydlawenychu yn y wlad well.
  • John Williams. Bu yn weinidog yn y Berriew, yn agos i'r Drefnewydd, Maldwyn. Nid ydym yn gwybod ychwaneg o'i hanes.
  • Evan Davies. Bu ef yn weinidog yn yr Aber, Brycheiniog, yn Libanus, Llanfabon, ac yn Onllwyn. Mae er's blynyddau bellach yn gweinidogaethu yn Ohio, America.
  • Griffith Jones, Llacharn. Mae Zoar, Merthyr, a Phenrhiwgaled yn ei hawlio ef fel eu mab, ond yn Penrhiwgaled y pregethodd gyntaf.
  • Evan Jones, gweinidog LIwyncelyn a Mydroilyn. Dechreuodd ef bregethu yn 1859.

Gwyddom am  neu ddau eraill a gyfodwyd yma, ond gan eu bod er's blynyddau wedi syrthio i dir gwrthgiliad, nid yw eu henwau yn deilwng o gael eu crybwyll.*

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

DANIEL THOMAS. Yr oedd ef yn fab i Dafydd Thomas o'r Gors, yn mhlwyf Llanbedrfelffre, sir Benfro. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1785. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Henllan pan yn wr ieuangc, a daeth yn fuan i sylw yr eglwys fel dyn ieuangc llafurus a thalentog. Rhagorai yn neillduol fel canwr. Yn mhen rhyw gymaint o amser wedi iddo gael

*Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r ffeithau uchod i lythyrau oddiwrth Mr. R. Thomas, y gweinidog.

143

ei dderbyn anogwyd ef i ddechreu pregethu. Aeth yn fuan wedi hyny i athrofa y Neuaddlwyd, lle y bu am rai blynyddau. Yn 1818, fel y nodasom eisioes, urddwyd ef yn weinidog i'r eglwysi yn Mhenrhiwgaled a Chapel-y-wig, lle y treuliodd weddill ei oes yn barchus a defnyddiol iawn. Yn fuan wedi ei urddo priododd a gwraig weddw, yr hon oedd yn dal fferm o'r enw Llwynon, as yno y bu hyd derfyn ei oes. Bu yr undeb priodasol hwn yn un dedwydd iawn a manteisiol iddo ef a hithau. Ni bu iddynt blant, ond yr oedd ganddi hi blant o'i gwr cyntaf, ac yr oeddent hwy yn ei werthfawrogi ac yn ei anwylo ef fel tad. Yr oedd Llwynon gryn ffordd o Benrhiwgaled, ac oherwydd pellder y ffordd cedwid yno ysgol Sabbothol a chyfeillachau crefyddol, a'r canlyniad o hyny fu i eglwys y Wern gael ei ffurfio, yr hon, fel y cawn weled etto, sydd yn eglwys gref a llewyrchus. Yr oedd Mr. Thomas, fel y nodasom, yn ganwr rhagorol, ac yn deall cerddoriaeth i'r fath raddau fel y medrai gyfansoddi tonau, ac y mae amryw donau o'i gyfansoddiad ef yn cael eu canu yn yr ardaloedd hyn hyd yn bresenol. Bu ei fedr gyda'r canu yn ychwanegiad dirfawr at ei ddefnyddioldeb fel gweinidog. Er ei fod yn ganwr da, nid oedd yn ystyr arferol yr ymadrodd yn bregethwr poblogaidd ; ond yr oedd yn bregethwr addysgiadol iawn i bawb a ddalient sylw ar yr hyn a draddodai. Hynodid ei holl ymwneyd a dynion mewn pethau bydol a chrefyddol gan bwyll, boneddigeiddrwydd, a synwyr cyffredin. Yr oedd ei holl frodyr yn y weinidogaeth trwy y sir yn ei anwylo a'i barchu, a byddai pob gair a lefarai mewn cynadledd neu gyfeillach bersonol yn cael sylw ac ystyriaeth. Dyn cyflawn a da iawn ydoedd. Gwnaeth waith dirfawr yn ei oes heb gadw nemawr o swn yn ei gylch. Bu farw Rhagfyr 22ain, 1848, yn 63 oed, wedi rhai misoedd o nychdod. Mae ei goffadwriaeth yn barchus yn ei eglwysi, a thrwy yr holl sir hyd y dydd hwn.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

There were many nonconformists, some of them men of substance and influence in society, in Llanarth at the time of Charles II. One of them was Thomas David Rees of Foyddyn. He was a landowner and a fairly popular preacher. He and many others went to Llandyssul to worship with the congregation cared for by Mr Stephen Hughes, and it is fairly certain that he came to them occasionally and preached at their homes. We hear that T D Rees became annoyed with Mr Hughes because he used to go to the established church and listen to their service, while keeping his own congregation waiting to start their public service. Mr Hughes used to do this in every place he went in order to ease the vicar's rantings against the nonconformists. T D Rees and other members of Mr Hughes' churches did not agree with his strategy and the fact that he would not promise not to do this in advance, Mr Rees parted company with him and joined the Baptists, where he remained for the rest of his life. He left the Independents around 1668. After he went to the Baptists he continued to worship with his friends and preach to them through the period of persecution. It appears that some numbers of nonconformists, consisting mainly of Independents and Baptists, held public services at Synoduchaf, Llanarth parish and Arthach, Llangrannog Parish, and possibly other places in this area from the time of Charles II until 1778, when they decided to build a Llwyndafydd Chapel in Llandyssiliogogo parish. The congregation disagreed on the holy sacrament of Christening, soon after they built the chapel the disagreement became so heated that they could not worship in the same chapel. Mr B Evans, Drewen came to hold the christenings for the Independents, when he realised how bad the disagreement was he advised them to leave the chapel to the Baptists and build their own. In 1781 a piece of land was aquired from D Evans, Esq., Penrhiwgaled, in Cydblwyf parish, to build a chapel, and this was done. There was a small number of faithful men at the start of the cause, it was not long before becoming strong and prosperous. Mr Evans, Trewen was the minister here from the beginning until 1818, when Mr Daniel Thomas was ordained here. Mr Evans was supported by Dr Phillips, Neuaddlwyd, for more than twenty years he preached here once a month. Mr Griffiths, Hawen, also helped out for some years. As Mr Evans age advanced, and Dr Phillips and Mr Griffiths workload increased to a point where they were unable to come here, and with Penrhiwgaled and the branch at Capel y Wig, became well able to support their own minister, they decided to send a call to Mr Daniel Thomas, a student in Neuaddlwyd. He was ordained on March 25th and 26th, 1818, the afternoon service the first day was held at Capel y Wig - the service was opened by Mr James Phillips, Bethlehem, Sermons were delivered by Messrs J. Rowlands, Llanybri, from 2 Tim. iii 5, and W. Griffiths, Glandwr, from Luc xv. 2. In the evening Mr. D. Davies, Pantteg, in Penrhiwgaled. The next morning began with a prayer from Mr. T. Griffiths, Hawen ; the opening address from Mr. J. Griffiths, Tyddewi ;the questions were asked and the ordination prayer given by Dr. Phillips, Neuaddlwyd; a sermon on the duty of a minister from Mr. M. Jones, Trelech, from 1 Tim. iv. 16, and on the duties of a church by Mr. A. Shadrach, Aberystwyth, from 1 Tim. v. 17. Mr. Thomas soon proved that he was the right man in the right place. The congregation in Capel y Wig increased from year to year. We believe that the chapel was extended between 1781 and 1828, when it was rebuilt. The same time as the chapel was rebuilt, the chapel at Maenygroes was built, and a large branch was formed from the mother church. Before then in 1821 around fifty members were released to set up a cause at Pisgah, and about the same time a branch of Neuaddlwyd was being formed at Pen y Cae, Llanarth, with many members from Penrhiwgaled joining there.Within a few years another branch was formed at Y Wern. Thus this fertile old boat sent out about around five hordes, which are now strong churches in their own right, and some have sent out their own branches. Mr Thomas worked this large area with great success for 22 years, he had to have assistance, and in 1840, Mr Thomas Rees was ordained as his assistant. After a life of uncomplaining labour he ended his career in 1848. Soon after this Mr Rees gave up the care of Penrhiwgaled and Pisgah, and in 1850 these two churches sent a call to Mr Robert Thomas, Maenclochog, he remains here.

The area of this church has been greatly limited by the branches surrounding it becoming strong Independent churches themselves, therefore increases as in the past cannot be expected. This chapel, because it stands in such a difficult place to access, due to the lack of roads, it is intended to build a new chapel on the side of a main road. If this is done it will make a big difference. David Evans, Esq., Penrhiwgaled, the man who donated land to build the chapel, a religious man and was a faithfull and useful member to the end of his life. His home was a comfortable shelter to every preacher that visited the area throughout his life, and for a while afterwards, but the family has been lost to the Independents for some years now. Morgan, Cruglas, was a member who came here from Llwyndafydd, he was said to be an exceptionally religious man. Many of his descendants remain faithful to the cause. The memories of  Rees, Cwmcynog ; Moses, Goetre, and Samuel, Clai, are respected as founders of this place, their descendants are still with the cause. Amongst the second generation of faithful here William of Wstrws is mentioned with great respect for his religious ways, as well as Dafydd Owen, Trawsnant, and James his son, Enoch Thomas, Frongoch, and Dafydd Evans,  Goetre, for their knowledge of the scriptures and effective praying. There have been many others who have made their mark, but we cannot name them all here.

The following were raised to preach here -

  • DAVID PETER - with Heol Awst, Carmarthen.
  • JOHN EVANS -  with Machynlleth and Amlwch.
  • WILLIAM DAVIES -with Rhydyceisiaid,where he was minister.
  • DAVID JOHNS - Missionary to Madagascar - this story is related with Neuaddlwyd in relation to Thomas Beavan.
  • JOHN WILLIAMS - minister at Berriew, near Newtown, Montgomeryshire
  • EVAN DAVIES -  minister at Aber, Breconshire, Libanus, Llanfabon, and Onllwyn - In Ohio, America, for many years.
  • GRIFFITH JONES -  Llacharn. Zoar, Merthyr, and Penrhiwgaled both lay claim to him, but he first preached at Penrhiwgaled.
  • EVAN JONES - minister of LIwyncelyn and Mydroilyn - began to preach in1859.

We know of one or two others but they have fallen by the wayside.*

* We are grateful for many of the above facts to the letters of Mr R Thomas, Minister.

BIOGRAPHICAL NOTES**

DANIEL THOMAS - son of Dafydd Thomas, Gors, Lampetervelfrey, Pembrokeshire - born 1785 - confirmed at Henllan - Neuaddlwyd College - ordained Penrhiwgaled and Capel y Wig, was there for the rest of his life - married a widow, owner of Llwynonn farm - no children(some from her previous marriage) - Sunday school held at Llwynonn - good singer, composer -Died December 22nd, 1848 age 63.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

PISGAH

(Llandysiliogogo parish)

Mae y capel hwn rhwng y mynyddau, yn mhlwyf Llandysuliogogo, o dair i bedair milldir i'r de-ddwyrain o Benrhiwgaled. Dyma yr ail gangen a aeth allan o'r fam eglwys yn Mhenrhiwgaled. Mae yr addoldy, yr hwn a amgylchynir gan fynwent helaeth, ar dyddyn a elwir Pantswllt, eiddo J. Lloyd Williams, Ysw. Yr oedd pregethu lled gyson yn yr ardal hon gan yr Ymneillduwyr er cyn cof neb sydd yn awr yn fyw, ac wrth bob tebygolrwydd er dyddiau yr hen Annghydffurfwyr. Yr oedd amryw o aelodau Penrhiwgaled ac aelodau yr eglwys Arminaidd yn Llwyn-rhyd-owen yn cyfaneddu yn y parthau hyn o'r wlad. Tua thriugain, neu ychwaneg o flynyddau yn ol, adeiladwyd capel Bwlchyfadfa i fod yn lle i'r ddwy blaid i gynal gwasanaeth crefyddol bob yn ail ynddo. Ond gyda bod yr Arminiaid yn llithro yn raddol i Ariaeth ac Undodiaeth, barnodd yr Annibynwyr nad oedd yn briodol iddynt hwy barhau i addoli yn yr un capel a hwynt. Gan fod darbodaeth yn y lês fod gweinidog Penrhiwgaled i bregethu yno ddwywaith yn y mis, yr oedd gan yr Annibynwyr hawl ranod yn y lle. Pan wnaethant eu meddyliau i fyny i ymneillduo oddiyno, rhoddodd yr Arminiaid bymtheg-punt-ar-hugain iddynt am roddi i fyny eu hawl yn y capel, ac a'r arian hyny, mewn rhan, yr adeiladwyd capel Pisgah yn y flwyddyn 1821. Wedi cael y capel yn barod, gollyngwyd haner cant o aelodau o Benrhiwgaled, a chorpholwyd hwy yn eglwys yn

144

y capel newydd. Dan yr un weinidogaeth a Phenrhiwgaled y mae yr eglwys hon wedi bod oddiar ei chorpholiad hyd yn bresenol. Mae yma achos llewyrchus iawn, a'r eglwys er's blynyddau yn rhifo dros ddau cant o aelodau. Yn y flwyddyn 1849, cafodd y capel ei adgyweirio a'i doi o newydd, ac yn y flwyddyn 1871, tynwyd yr hen dý i lawer ac adeiladwyd yma dý newydd prydferth a helaeth, ac anedd-dy cyfleus yn ei ymyl. Costiodd y cwbl dros chwe' chant o bunau, ond y mae y rhan fwyaf, os nad yr oll o'r ddyled wedi ei ddileu gan yr ardalwyr erbyn hyn. O'r haner cant a ddaeth yma i gychwyn yr achos o Benrhiwgaled, nid oes yn awr yn aros ar dir y byw ond dwy chwaer oedranus. Yr oedd yma ddynion rhagorol iawn yn mysg sylfaenwyr yr achos, megis Enoch Evans, Esgairwen; Dafydd Thomas, Rhydyrwyn; Daniel Davies, tad Mr. Davies, Rhydyceisiaid, a Mesech, Pantglas. Mae yr hanes canlynol yn cael ei adrodd yn yr ardal am Daniel Davies a Mesech :- Yr oeddynt yn ddau gyfaill nodedig - gyda'u  gilydd yn wastad yn myned ac yn dychwelyd o'r cyfarfodydd. O'r diwedd daeth yr amser i Daniel gael ei alw o'r byd. Bu am dymor ar ei wely angau. Un noswaith aeth ei gyfaill, Mesech, i eistedd wrth ei wely i'w wylio yn ei gystudd. Wedi toriad y dydd aeth adref i gael ei foreufwyd, ac wedi ymborthi aeth allan i'r ardd, a chlywodd lais uwch ei ben yn yr awyr yn dyweyd, " Dyma fi yn myned." Adnabu Mesech mai llais ei gyfaill Daniel ydoedd, ond ni welodd ddim yno. Yna rhedodd yn ol i dý ei hen gyfaill, a chafodd ei fod wedi anadlu yr anadl olaf ychydig funudau cyn hyny. Dyna yr hanes fel y cawsom ni ef, a gwneled y darllenydd yr hyn a farno yn briodol o hono. Yr oedd Thomas Davies, y Banc, neu Thomas, y teiliwr, hefyd yn gymeriad rhagorol iawn. Bu am lawer o flynyddau yn blaenori y canu yn Pisgah. Ar ol bod yn aelod eglwysig am 67o flynyddau bu farw yr hen bererin hwn yn 84 oed amryw flynyddau yn ol. At y rhai uchod gellir ychwanegu enwau Thomas Thomas,. Rhydlydan, tad Mr. Thomas, Llanbedr; Thomas Williams, Llwyndu, fab Benjamin, a James Williams, Crug-glas, y rhai oeddynt yn ddynion rhagorol am eu duwioldeb, eu gwybodaeth, a'u defnyddioldeb gyda'r achos. Crybwylla ein hysbysydd hefyd enw Mary Thomas, Blaencwmpridd, yr hon a fu farw ychydig yn ol yn saith-ar-hugain oed. Bu yn aelod eglwysig er pan yr oedd yn ddeg oed. Yr oedd o gymeriad difrycheulyd, ac yn nodedig am ei defnyddioldeb gyda'r ysgol Sabbothol, a'i medr i adrodd yr Ysgrythyrau yn gywir ac effeithiol. Cafodd yr eglwys a'r ysgol golled fawr yn ei marwolaeth.

Dau yn unig a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon, cyn belled ag y gwyddom ni, sef John Thomas, gweinidog presenol Llanbedr, a Thomas Thomas, yr hwn sydd wedi ymfudo i'r America.*

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel is between the mountains, in the parish of Llandysiliogogo, between three and four miles south east of Penrhiwgaled.This was the second branch out of the mother church. The chapel with its surrounding burial ground is on a smallholding called Pantswllt, the property of  J. Lloyd Williams, Esq.. There was fairly regular preaching here before living memory, probably back to the time of the old nonconformists. Many members of Penrhiwgaled and the Arminians of Llwyn rhyd owen cohabited here, sixty or more years ago; Bwlchyfadfa Chapel was built for both contingents to worship there alternately. But with the Arminians going to Arianism and Unitarian, the Independents judged it was time to stop using the same chapel. A lease existed saying that the Independent minister could preach there twice a month, therefore they had a share in the chapel. When they decided to leave the Arminians bought them out for £35, and it was partly that money that paid for the chapel in Pisgah in 1821.Once the chapel was ready fifty members were released from Penrhiwgaled and formed into a church there. They have been under the same ministry from the start. There is a very healthy cause here, there are over two hundred members. In 1849 the chapel was repaired and a new roof put on, in 1871 the old chapel waas demolished and a handsome new one built, with a house near by. This cost a total of £600, most of which has been paid. Of the fifty that came here originally from Penrhiwgaled, only two elderly sisters remain. There were many excellent people among those who established the church :- Enoch Evans, Esgairwen; Dafydd Thomas, Rhydyrwyn; Daniel Davies, father of Mr. Davies, Rhydyceisiaid, and Mesech, Pantglas. The following tale is told in the area of Daniel Davies and Mesech:- They were good friends, alway going to and leaving services together. Daniel was near to death and one evening his friend Mesech came to sit with the dying man, in the morning he returned home, had breakfast and then went out to his garden where he heard " I am going". He recognised Daniel's voice, but could see nothing. He ran back to his friend's house to find that he had drawn his last breath a short time before. This is the story we were given, let the reader interpret as he wishes. Thomas Davies, Banc, or Thomas the taylor was also a character. He was for many years in charge of the singing at Pisgah. After being a church member for 67 years he died age 84 many years ago. To these may be added:- Thomas Thomas,  Rhydlydan, father of Mr. Thomas, Lampeter; Thomas Williams, Llwyndu, his son Benjamin, and James Williams, Crug-glas, who were noted for their religious ways, knowledge and usefulness to the cause. We should also remember Mary Thomas who died age 27. She had been a member of the church from the age of 10, she was of exemplary character and notably useful with the Sunday School as well as the ability to recite the scriptures accurately. The church greatly missed her.

Only two were raised to preach here :-**

  • JOHN THOMAS - current minister of Lampeter
  • THOMAS THOMAS -emigrated to America.*

*We are indebted to the informative letters of Mr. Thomas.    

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

CAPEL-Y-WIG

(Llangrannog parish)

Saif y capel hwn ar lechwedd mewn ardal brydferth iawn yn mhlwyf Llangranog. Y mae yn cael ei enw oddiwrth enw y tyddyn ar ba un yr adeiladwyd ef. Yr oedd pregethu mynych yn yr ardal hon gan yr Annibynwyr mewn lle a elwir Tredwr, flynyddoedd lawer cyn adeiladu y capel cyntaf yma. Yr eglwys hon yw yr hynaf o gangenau lluosog y fam

*Yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o gynwysiad yr hanes uchod i lythyrau cynwysfawr Mr. Thomas.

145

eglwys yn Mhenrhiwgaled. Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn 1813. Nid amcenid ef ar y pryd ond i fod yn lle at gadw ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio a phregethu achlysurol, ond nid fel yr edrych dyn yr edrych Duw. Yr oedd i'r Arglwydd bobl lawer yn yr ardal, ac felly yn fuan wedi adeiladu y capel daeth yma y fath luaws i wrandaw ac i geisio crefydd, fel y bu raid ffurfio eglwys yma yn fuan a helaethu y capel. Nid yw yr amser yn gymhwys pan y cymerodd hyn le wedi cael ei hysbysu i ni. Mae yma eglwys luosog o tua phedwar cant o aelodau er's llawer o flynyddau bellach, a'r achos yn mhob ystyr mewn agwedd nodedig o lewyrchus. Gan fod y capel cyntaf, er iddo gael ei helaethu unwaith, wedi myned lawer yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, tynwyd ef i lawr a dechreuwyd adeiladu yr un presenol yn 1848, a Rhagfyr 2il, 1849, aeth y gynnulleidfa am y waith gyntaf i'w haddoldy newydd. Oherwydd rhyw resymau anhysbys i ni, gohiriwyd cyfarfodydd agoriad y capel newydd hyd Awst 4ydd a'r 5ed, 1852. Yn y cyfarfodydd hyny pregethwyd gan y gweinidogion canlynol, Meistri D. Stephens, Llanfair; B. Rees, Llanbadarn ; S. Griffiths, Horeb; T. Jones, Cilcenin ; R. Jones, Ffaldybrenin; D. Davies, Aberteifi; O. Thomas, Talybont; H. Jones, Caerfyrddin ; D. Jones, Cydweli . D. Davies, Pantteg; H. Jones, Rhydybont ; J. Jones, Llwyni, ac R. W. Roberts, Clarach. Costiodd y capel 700p., er cael cludiad y defnyddiau yn rhad. Talwyd y geiniog olaf o'r ddyled er's amryw flynyddau bellach. Mae mynwent helaeth wrth y capel, a llawer o feirw yn gorphwys ynddi.

Gweinidogion Penrhiwgaled sydd wedi bod yn gofalu am dani o'r dechreuad. Tua dwy flynedd wedi marwolaeth Mr. Daniel Thomas, rhoddodd Mr. T. Rees ofal Penrhiwgaled a Pigsah i fyny, a chyfyngodd ei lafur i Maenygroes a Chapel-y-wig, ac efe yw y gweinidog yn y ddau le hyn a Nanternis hyd y dydd hwn, ac yma y bydd, yn ol pob argoel, cyhyd ag y rhoddo yr Arglwydd nerth iddo i gyflawni ei weinidogaeth, ac yr ydym yn hyderu y rhoddir iddo y nerth hwnw am flynyddau lawer etto.

Ni hysbyswyd ni am neb a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel stands on a slope in a beautiful area in the parish of  Llangrannog. Its name comes from the smallholding on which it stands. There was frequent preaching in this area by the Independents in a place called Tredwr, years before a chapel was built. This church is the oldest of the branches of Penrhiwgaled. The first chapel was built in 1813. Initially it was intended to keep Sunday Schools in originally, along with prayer meetings and occasional preaching, but God sees things differently to men. The Lord had many people in this area, soon after building the chapel many came to listen and look for religion, so much so that a church had to be formed and soon the chapel extended. The timing of this is not known to us. There have been around four hundred members for many years now, and the cause notably successfully. The original chapel became too small despite the extension and it was demolished and  the current one started in 1848. On December 2nd, 1849, the congregation entered their new chapel for the first time. For some unknown reason the opening service was not held until August 4th and 5th, 1852. Those officiating were:- Messrs D Stephens, Llanfair; B Rees, Llanbadarn ; S Griffiths, Horeb; T Jones, Cilcenin ; R Jones, Ffaldybrenin; D Davies, Cardigan; O Thomas, Talybont; H Jones, Carmarthen ; D Jones, Kydweli . D Davies, Pantteg; H Jones, Rhydybont ; J. Jones, Llwyni, and R. W. Roberts, Clarach. The chapel cost £700, although carriage of materials was free. The debt has long been cleared, and the chapel has a large cemetery with many resting there.

It has been the ministers from Penrhiwgaled that have taken care of it since the beginning. About two years after the death of Mr Daniel Thomas  Mr T Rees gave up the care of Penrhiwgaled and Pisgah, confining himself to Maenygroes and Capel y Wig, and he remains the minister along with Nanternis, we hope he is given the strength to continue for many years.

We do not know of anyone who was raised to preach here.

MAENYGROES

(Llanllwchaearn parish)

Mae y capel hwn ar ael bryn, yn agos i filldir o'r Ceinewydd, yn mhlwyf Llanllwch-haiarn. Gan fod llawer o aelodau Penrhiwgaled yn byw yn yr ardal hon, a bod y ffordd yn mhell iddynt i fyned yno, penderfynwyd adeiladu capel yma. Cafwyd darn o dir cyfleus ar dyddyn Maenygroes, gan E. Evans, Ysw., o'r Neuadd, ac adeiladwyd arno gapel cadarn o gryn faintioli yu y flwyddyn 1828. Yn fuan wedi adeiladu y capel, corpholwyd yma eglwys. Cynaliwyd yma gyfarfod cyhoeddus ar yr achlysur, pryd y gweinyddwyd gan Mr. Thomas, Penrhiwgaled, gweinidog y lle ; Dr. Phillips, Neuaddlwyd, a Mr. S. Griffiths, Horeb. Bu yr eglwys hon, mewn cysylltiad a Phenrhiwgaled, Capel-y-wig, a Pisgah, dan weinidogaeth Mr. Thomas ei hun, yn cael ei gynorthwyo gan fyfyrwyr o athrofa y Neuaddlwyd, a phregethwyr cynorthwyol, hyd 1840. Yn y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Rees, o athrofa y Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yn Maenygroes i gydlafurio a Mr. Thomas yn yr holl gylch

146

gweinidogaethol. Cymerodd yr urddiad le Tachwedd 4ydd a'r 5ed, 1840, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan luaws o weinidogion, megis Meistri Breese, Caerfyrddin; Jones, Glynarthen; Evans, Neuaddlwyd, ac eraill. Yr oedd trefn gwasanaeth yr urddiad fel y canlyn: -Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. T. Jones, Saron ; traddodwyd y gynaraeth gan Mr. J. Saunders, Aberystwyth; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Davies, Aberteifi ; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Thomas, Penrhiwgaled; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. S. Griffiths, Horeb, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Davies, Pantteg. Er iddo, fel y nodwyd yn hanes Capel-y-wig, wedi marwolaeth Mr. D. Thomas, orfod oherwydd helaethrwydd y cylch, roddi dau o'r pedwar lle i fyny, y mae Mr. Rees yn parhau i lafurio yma, yn y Wig, a Nanternis, gyda llwyddiant a chymeradwyaeth gyffredinol, hyd heddyw. Yr oedd yr eglwys yn Maenygroes wedi cynyddu mor fawr erbyn y flwyddyn 1858, fel nad oedd agos ddigon o le i'r aelodau a'r gwrandawyr yn y capel, a chan fod poblogaeth fawr yn y Ceinewydd, a chapel Maenygroes yn lled anghyfleus iddynt, penderfynwyd yn heddychol i ranu yr eglwys, ac adeiladu capel yn Ceinewydd, yr hyn a wnaed fel y cawn sylwi etto. Aeth rhan arall o gynnulleidfa Maenygroes i ddechreu yr achos yn Nanternis yn 1867, ond er i'r heidiau lluosog hyn ymadael, y mae yr hen gwch etto yn dra llawn, a'r achos yma mewn cyflwr llewyrchus

Nid oes genym ddim i ychwanegu am y lle hwn, amgen na bod y capel wedi cael ei adgyweirio a'i wellhau yn fawr yn ddiweddar, a bod darn ychwanegol o dir wedi cael ei brynu at gladdu y meirw. Er mai yn 1841 y dechreuwyd claddu yma, yr oedd y fynwent wedi ei llenwi. Y mae eglwys y Towyn, Ceinewydd, wedi uno a'r fam eglwys yn mhryniad y tir at helaethu y fynwent, ac felly, yma bellach y bydd y lle claddu perthynol i'r ddwy gynnulleidfa.

Y pregethwyr a gyfodwyd yn yr eglwys hon ydynt  -

  • John Jones. Gweinidog yr eglwys yn Zoar, Maesteg, Morganwg.
  • J. Noall. Yr hwn sydd wr galluog a dysgedig. Mae yn rhywle yn Lloegr, ond nis gwyddom yn mha le yno.
  • John Davies. Gweinidog yr eglwys yn Glynarthen.

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel is on the top of a hill, about a mile from New Quay, in the parish of Llanllwchaearn.. As many members of Penrhiwgaled lived in this area, and it was a long way away, it was decided to build a chapel here. A convenient piece of land was aquired on Maenygroes, a smallholding owned by E Evans, Esq. of Neuadd, and a sturdy, large chapel was built here in 1828. Soon afterwards a church was formed here. A public service was held here on the occasion when the following officiated -  Mr. Thomas, Penrhiwgaled, the minister ; Dr. Phillips, Neuaddlwyd, and Mr. S. Griffiths, Horeb.This church in association with Penrhiwgaled, Capel y Wig and Pisgah were under the ministry of Mr Thomas himself, supported by students from Neuaddlwyd and occasional preaching until 1840. In that year a call was sent to Mr Thomas Rees, Neuaddlwyd College, and he was ordained at Maenygroes to work alongside Mr Thomas in the whole of his ministerial circle. The ordination took place on November 4th and 5th, 1840 when the following officiated -like Messrs Breese, Carmarthen; Jones, Glynarthen; Evans, Neuaddlwyd, and others, the order of the service was follows - Opened with a prayer by Mr T. Jones, Saron ;the introduction by Mr J. Saunders, Aberystwyth; Confession of faith taken by Mr D. Davies, Aberteifi ;the ordination prayer offered by  Mr D. Thomas, Penrhiwgaled; a sermon on the duty of a minister from Mr S. Griffiths, Horeb, and the duty of a church by Mr. D. Davies, Pantteg. Although as noted with Capel y Wig, after Mr Thomas' death, because of the extent of the work, he gave up two of the four. Mr Rees continues in Nanternis and Wig to this day. The church in Maenygroes had grown so much that by 1858, that there was not enough room for the members and listeners, and also because of the large population of New Quay, with Maenygroes being inconvenient for them , that the church would divide peacfully and a new chapel to be built in New Quay, this we will refer to later. Another section of the congregation formed  new church at Nanternis in 1867, but despite large numbers leaving the old boat is full and still afloat.

There is not much we can tell of this chapel, other than it has been restored and improved recently and some extra land bought for the burial of the dead., Although burial only started here in 1841, the cemetery was full. The church at Towyn, New Quay, jointly paid for the burial ground so that in future this will be the common burial land for both congregations.

The following were raised to preach here:-

  • JONES JONES - minister at Zoar, Maesteg, Glamorgan.
  • J. NOALL -  Able and well educated - Somewhere in England.
  • JOHN DAVIES - minister at Glynarthen.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

CAPEL-Y-TOWYN, CEINEWYDD

(Llanllwchaearn parish)

Mae y capel hwn wedi cael ei enw oddiwrth y tyddyn ar ran o ba un yr adiladwyd ef. Fel y crybwyllwyd yn hanes Maenygroes, gan fod yr eglwys hono wedi lluosogi i fwy na phum' cant o aelodau, fel nad oedd y capel yn alluog i'w cynwys hwy a'r gwrandawyr, yn hytrach na helaethu yr hen capel, yn enwedig gan ei fod tua milldir o'r Ceinewydd, a bod y ffordd oddiyno yn orifyny serth, penderfynwyd adeiladu capel yn y Ceinewydd. Gwnaed hyn yn heddychol trwy gydsyniad unfrydol y gweinidog a'r eglwys. Cafwyd darn o dir cyfleus gan y Cadben Evans ar  lês o fil ond un o flynyddau, am yr ardreth o ddwy bunt yn y flwyddyn. Dyddiad y weithred yw Medi 29ain, 1858. Yn fuan ar ol hyny, gwnaed darpariaeth ar gyfer yr adeiladaeth. Gosodwyd i lawr gareg sylfaen y capel gan yr hybarch S. Griffiths, Horeb. Wedi gosod y gareg yn ei lle, esgynodd i'w phen, rhoddodd emyn allan i'w chanu, a gweddiodd yn daer am fendith yr Arglwydd ar yr hyn a fwriedid wneyd yn y tý a adeiladid

147

ar y sylfaen hono. Bu yr holl eglwys yn Maenygroes yn cydweithredu yn galonog i gasglu at draul yr adeiladaeth. Cynllunydd yr adeilad oedd Mr. Thomas Jones, Penycnwc. Pregethwyd y tro cyntaf yn y tý newydd gan Mr. Rees, y gweinidog, am 2 o'r gloch prydnawn Sabboth, Gorphenaf 28ain, 1861. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad Awst 14eg a'r 15fed. Y Sabboth canlynol, corpholwyd yr eglwys gan Mr. Rees, y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. H. Jones, Caerfyrddin. Rhif yr aelodau y pryd hwnw oedd 291. Cynwysa y capel 750 o eistedddeoedd, a chostiodd 1,398p. 15s. 2c. Erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad yr oedd y ddyled wedi ei thynu i lawr i 527p. 15s. Wedi i'r eglwys newydd gael ei sefydlu mor gysurus yn ei chysegr newydd, aeth pethau yn mlaen yn nodedig o ddymunol a llwyddianus. Erbyn Ebrill, 1865, yr oedd y ddyled wedi dyfod i lawr 335p. 15s. Rhoddodd Mr. Rees y pryd hwnw ofal yr eglwys hon i fyny, oherwydd helaethrwydd ei gylch gweinidogaethol, ac am fod yr eglwys ieuangc agos yn rhydd o ddyled, ac yn ddigon galluog i gynal gweinidog iddi ei hun.

Ar derfyniad cysylltiad gweinidogaethol Mr. Rees a'r lle, urddwyd Mr. William Emlyn Jones o athrof Aberhonddu, yn weinidog yma. Cymerodd ei urddiad le Ebrill 5ed a'r 6ed, 1865, pryd y cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth, Meistri Williams, Trewyddel; Williams, Hawen ; Thomas, Penrhiwgaled; Phillips, Horeb; Jones, Drewen ; Saunders, Aberystwyth; Rees, Maenygroes; Williams, Castellnewydd; Evans, Aberaeron, a Thomas, Brynmair. Bu Mr. Jones yma yn barchus, llafurus, a llwyddianus dros ystod ei arosiad yn y lle. Gan nad oedd cynlluniad y capel yn foddhaol, barnwyd yn ddoeth wneyd cyfnewidiadau ynddo. Sicrhawyd gwasanaeth Mr. Thomas, Glandwr, Abertawy, at hyn. Tynwyd yr oriel i lawr ddwy droedfedd ac wyth modfedd. Gwnaed esgynlawr, neu areithfa newydd, ac agorwyd dwy ffenestr yn y mur - un o bob tu iddi. Gwnaed hefyd amryw fan welliadau eraill, yr hyn a gostiodd dros ddau gant o bunau. Gwnaeth hyn drauly capel o'r dechreuad yn 1,600p. 15s. 2c. Yr oedd y ddyled erbyn hyn wedi chwyddo i rhwng pump a chwe' chant o bunau. Yn Mawrth, 1869, symudodd Mr. Jones i Libanus, Treforis. Wedi ei ymadawiad ef bu yr eglwys am rai misoedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1870, rhoddwyd galwad i Mr. T. P. Evans, Docks, Llanelli, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma yr ail Sabboth o Fai, yn y flwyddyn hono. Yn dra buan wedi ymsefydlu yn y lle, ymroddodd Mr. Evans i gynhyrfu y bobl i wneyd ymdrech er symud ymaith y ddyled oedd yn aros yma, ac erbyn diwedd 1872, yr oedd wedi ei dynu i lawr i 229p. Yna dechreuodd son am ddileu y gweddill yn ddioed, a chan fod gan y bobl galon a gallu i weithio, cyfranwyd digon i dalu y cwbl a deugain punt dros ben. Cynaliwyd cyfarfod jubili yma Mawrth 18fed a'r 19eg, 1873. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri Miles, Aberystwyth; Evans, Caernarfon; Davies, Siloa, Llanelli, a Thomas, Bangor. Cymerodd amryw o weinidogion y sir hefyd ran yn y gwasanaeth. Mae Mr. Evans wedi bod yn hynod o lwyddianus yma o ddechreuad ei weinidogaeth hyd yn bresenol, ac yn sefyll yn uchel iawn yn ngolwg ei bobl a phreswylwyr y lle yn gyffredinol, ond y mae yn ddiweddar wedi cael cwpaneidiau chwerwon iawn i'w hyfed. Yn Mawrth, 1873, bu farw ei ferch fach yn ddeunaw mis oed, ac ar ei marwolaeth, clafychodd ei briod, ac wedi dihoeni dan gystudd blin hyd Mawrth 19eg, 1874, bu farw yn mlodeu ei dyddiau. Mae gwenau yr

148

Arglwydd ar ei lafur gweinidogaethol, a charedigrwydd ei bobl iddo, wedi gwneyd llawer tuag at gynal ei feddwl yn ei dywydd garw. Nid oes neb yn awr yn y gynnnlleidfa, ond plant ieuaingc, heb fod yn gymunwyr. Mae yma dorf fawr o addolwyr, ac un o'r capeli prydferthaf yn y Dywysogaeth.*

Translation by Maureen Saycell (Oct 2008)

This chapel is named after the samllholding it was built on. As mentioned with Maenygroes the church there had grown to more than 500 members, and the chapel could no longer contain them, so instead of extending the chapel, and New Quay was only a mile away down a steep hill, it was decided to build at New Quay. This was done peacefully with unanimous agreement within the church. Land was aquired from Captain Evans on a lease of 999 years at a cost of £2 per year, the deed is dated September29th, 1858. Preparation began and the foundation stone was laid by S. Griffiths, Horeb. After putting it in place he climbed onto it and gave out a hymn to the congregation, then prayed sincerely for the Lord's blessing for the purpose of the building to be built on this foundation. The whole church at Maenygroes cooperated willingly to collect for the cost of the building. The building was designed by Mr Thomas Jones, Penycnwc. The first sermon in the new house was given by the minister Mr Rees, at 2 o'clock on Sunday July 28th, 1861. The inaugural service was on August 14th and 15th. The following Sunday a church was formed by Mr Rees, the minister, helped by Mr H Jones, Carmarthen. The members numbered 291. The chapel has 750 seats and cost £1,398/15/2, by the end of the opening service the debt ewas down to £527/15/0. After the church was formed, all went well. By April, 1865, the debt was down to £ 335/15/0. At this time Mr Rees gave up the care of this church, because of his workload, and the new church was strong enough to maintain it's own minister. After Mr Rees' departure Mr William Emlyn Jones, Brecon College, was ordained here on April 5th and 6th, 1865. Those who officiated :- Messrs Williams, Trewyddel; Williams, Hawen ; Thomas, Penrhiwgaled; Phillips, Horeb; Jones, Trewen ; Saunders, Aberystwyth; Rees, Maenygroes; Williams, Newcastle Emlyn; Evans, Aberaeron, and Thomas, Brynmair. Mr Jones was successfull during his time here. The design of the chapel was not satisfactory and it was decided to alter it. Mr Thomas, Swansea was retained for this work.The gallery was lowered by two feet eight inches, a new raised area for speakers, and two new windows put in, so there was one each side. Many other minor improvments were also made, the cost came to £200. This brought the total cost to £1,600/15/2, this was now swollen by some five to six hundred pounds. In March, 1869, mr Jones moved to Libanus, Morriston. For some months after he left the chapel depended on occasional ministry. In the spring of 1870, a call was sent to Mr T P Evans, Docks, Llanelli, who began his ministry on the second Sunday of May that year. Soon after settling here he motivated the people to make the effort to clear the debt, and by the end of 1872there was only £229 remaining. Then he managed to get the people to raise the remainder with £40 extra. A jubilee service was held here in 1873 on March 18th and 19th. Sermons were given by Messrs Miles, Aberystwyth; Evans, Caernarfon; Davies, Siloa, Llanelli, and Thomas, Bangor. Many of the other ministers in the county also took part. Mr Evans was very successful during his ministry and remains well respected by the majority, but lately he has had many a bitter cup to swallow lately. In March 1873 his 18 month old daughter died, and following her death his wife became ill, she suffered until March 19th1874, when she died in her prime. The Lord has smiled on his ministry, and the kindness of the people has helped him through the difficult times. There are none in the congregation that are not taking communion, other than the young. There is a large congregation of worshipers, and with the most beautiful chapel in the principality.*

*Letter of Mr Joshua Jones

NANTERNIS

(Llandysiliogogo parish)

Mae yr addoldy hwn yn mhlwyf Llandysiliogogo, tua haner y ffordd rhwng Maenygroes a Chapel-y-wig. Yr oedd cyfarfodydd gweddio wythnosol, ac ysgol Sabbothol yn cael eu cynal yma flynyddau lawer cyn adeiladu yr addoldy. Prynwyd y tir at adeiladu y capel a digon at fynwent am bris rhesymol iawn gan Mr. John Jones, Penperthi. Dechreuwyd adeiladu yr addoldy Awst 22ain, 1865, a dechreuwyd addoli yn y tý newydd Gorphenaf 22ain, 1866. Gwneir yr eglwys i fyny o aelodau o Gapel-ywig a Maenygroes, ac ychydig o Benrhiwgaled. Ffurfiwyd hwy yn eglwys Annibynol gan Mr. Rees, y gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. D. Evans, Pantycrugiau, Chwefror 3ydd, 1867. Costiodd y capel, er cael cludiad y defnyddiau yn rhad, bedwar cant o bunau, ond y mae y geiniog olaf o honynt wedi cael ei thalu er's amser maith.

Gan ein bod yn awr ar adael mans llafur Mr. Rees, yr hwn sydd wedi cael ei freintio a chymaint o lwyddiant ar ei lafur gweinidogaethol, byddai yn briodol i ni gofnodi yr hyn a wyddom o'i hanes. Ganwyd ef yn agos i Pisgah, a phan yn llangc tra ieuangc aeth i'r gyfeillach grefyddol yno, ond cyn iddo gael ei dderbyn yn gyflawn aelod, symudodd i ardal Ty'nygwndwn, lle y derbyniwyd ef yn Ionawr, 1831, gan Mr. G. Griffiths, y gweinidog, wedi hyny o'r Casnewydd ac Aberhonddu. Ebrill 15fed, 1835, dechreuodd bregethu yn Nhy'nygwndwn. Yn Mai, 1836, aeth i athrofa y Neuaddlwyd, a bu yno hyd Chwefror, 1840. Urddwyd ef yn Maenygroes, fel y gwelsom, Tachwedd 5ed, 1840, a than ei fod wedi cael help gan Dduw y mae yn aros yno hyd yn hyn. Yr ydym yn hyderu na fydd galwad am lawer o flynyddau etto i neb ysgrifenu hanes ei fywyd na 'i farwolaeth.

Translation by Maureen Saycell (Nov 2008)

This chapel is in the parish of Llandyssiliogogo, about half way between Maenygroes and Capel y Wig. There were weekly prayer meetings and Sunday Schools being held here for many years before a chapel was built. Land was bought for a chapel and enough for a cemetery for a reasonabler price from Mr John Jones, Pantperthi. Building began on August 22nd, 1865, worship was started in the new chapel on July 22nd, 1866, The church is made up of members of Capel y Wig, Maesygroes and some from Penrhiwgaled. This was formed as an Independent church by Mr Rees, the minister, helped by Mr D Evans, Pantycrugiau on February 3rd, 1867. The chapel cost £400, excluding carriage, but the last penny has been paid a long time ago.

As we are about to leave the era of Mr REES, who has been blessed with so much success during his time as a minister, it would be appropriate for us to make a note of his history - He was born near Pisgah, went to religion while quite young - moved to Tyn'gwndwn, where he was confirmed January 1831. Stared preaching April 15th, 1835 - to Neuaddlwyd College in May 1836 to February 1840. Ordained Maenygroes November 5th 1840 where he remains - we hope nobody has to complete his life's story for many years.
 

  

PENYCAE

(Llannarth parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanarth. Dechreuwyd yr achos yma dan yr amgylchiadau canlynol : - Yn haf y flwyddyn 1819, yr oedd Evan Williams, mab Jenkin Williams Cae'rcoed, Llanarth, bachgenyn pedair- ar-ddeg oed, yn ysgol Dr. Phillips, Neuaddlwyd, ac ar yr un amser yr oedd Mr. Griffith Griffiths, wedi hyny o Dy'nygwndwn, Casnewydd, ac Aberhonddu, yn fyfyriwr yno yn yr athrofa. Gwahoddodd  E. Williams, Mr. Griffiths i ddyfod i bregethu i dy ei dad yn Llanarth ar un hwyr Sabboth. Cydsyniodd Mr. Griffiths, ac aeth rhai o'i gydfyfyrwyr yno gydag ef. Dywedodd Jenkin Williams wrthynt a'r ddiwedd yr oedfa, os buasent yn addaw dyfod i'w dy ef i bregethu bob pythefnos ar nos Sabboth y buasai efe yn darparu lluniaeth iddynt, ond nas gallasai addaw unrhyw dal ychwan gol. Boddlonodd y myfyrwyr i'r amodau, a pharhaus-

*Llythyr Mr. Joshua Jones.

149

ant i fyned yno am rai misoedd, ac yr oeddynt yn cael oedfaon llewyrchus iawn yno. Yn fuan wedi hyn torodd diwygiad grymus iawn allan o gylch y Neuaddlwyd ac Aberaeron, yn benaf yn y cyfarfodydd gweddio, a thrwy offerynoliaeth Meistri P. Griffiths, yn awr o'r Alltwen, a'i gâr Daniel Griffiths, wedi hyny o Gastellnedd, y rhai oeddynt ar y pryd yn fyfyrwyr yn athrofa Dr. Phillips. Yr oedd yr adfywiad hwn yn un nodedig o rymus, a theimladau ei ddeiliaid yn cael eu llwyr orchfygu, fel yr oeddynt yn tori allan i folianu a neidio. Ymdaenodd y gawod fendithiol hono trwy yr ardaloedd cylchynol, ac yn mysg lleoedd eraill, cyrhaeddodd i Lanarth, a'r canlyniad fu i rai ugeiniau o'r plwyf hwn ymuno a'r eglwys yn y Neuaddlwyd. Yn ganlynol i hyn gosodwyd i fyny addoliad cyhoeddus yn mhentref Llanarth bob nos Sabboth, yn lle bob pythefnos fel o'r blaen, a sefydlwyd yma ysgol Sabbothol effeithiol a llewyrchus iawn. Wedi bod am gryn amser yn cynal y cyfarfodydd a'r ysgol mewn anedd-dai, ardrethwyd hen ysgubor gerllaw mynwent y plwyf at gynal moddion cyhoeddus. Yn fuan wedi hyn aeth i edrych allan am dir at adeiladu capel, ac i son am ffurfio eglwys yma. Nid oedd y mam eglwysi yn y Neuaddlwyd a Phenrhiwgaled yn gwbl foddlon i ffurfio eglwys, ond yr oeddynt yn foddlon cynorthwyo i adeiladu addoldy at gynal gwasanaeth achlysurol ynddo. Mae yr hen eglwysi yn gyffredin wedi amlygu gradd o anmharodrwydd i ollwng eu gafael o'r cangenau, rhag ofn gwanychu yr hen le, ond ar y cyfan nid oes nemawr o hen eglwysi yn Nghymru wedi bod yn fwy parod i gefnogi ffurfiad cangenau na'r Neuaddlwyd a Phenrhiwgaled. Ond y rhwystr mwyaf i gychwyniad yr achos hwn ydoedd yr anhawsder i gael tir at adeiladu yr addoldy. Gwrthodai y tirfeddianwyr yma le at hyny oherwydd eu culni sectyddol. Pa fodd bynag, ni chymerodd y ffyddloniaid yma eu digaloni gan unrhyw rwystrau. Ffurfiwyd eglwys yn yr hen ysgubor yn 1825. Cafwyd tir ychydig allan o'r pentref at adeiladu capel, ac wedi cael addoldy cyfleus, cynyddodd y gynnulleidfa nes iddi yn fuan fyned yn fwy nag un gynnulleidfa arall yn y plwyf. Bu yr eglwys mewn rhan dan ofal Dr. Phillips tra y bu fyw, a bu ei olynydd, Mr. Evans, am ysbaid yn cydlafurio ag ef yn Mhenycae, fel yn y lleoedd eraill. Tua y flwyddyn 1840, rhoddodd y Dr. a Mr. Evans ofal y lle i fyny, ac yna rhoddwyd galwad i Mr. Evan Williams, Cefn-coed-y-cymer, y bachgenyn fuasai yn offerynol, trwy wahodd Mr. Griffiths yma, i ddechreu yr achos. Ychydig a feddyliai pan yn gwahodd Mr. Griffiths i dy ei dad, ei fod yn ei wahodd i gychwyn cynnulleidfa iddo ef wedi hyny i fod yn weinidog iddi. Bu Mr. Williams yn llafurio yma hyd derfyn ei oes yn 1851, a pherchid ef yn fawr gan yr eglwys a'r ardal. Claddwyd ef yn mynwent capel Penycae. Yn yr un flwyddyn, penderfynodd yr eglwys hon, mewn undeb a'r eglwys yn Wern, i roddi galwad i Mr. Evan Jones, o athrofa Caerfyrddin. Cydsyniodd a'r alwad, ac urddwyd ef Hydref 15fed a'r 16eg, y flwyddyn hono. Cynaliwyd cyfarfodydd yr urddiad yn y Wern a Phenycae. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri D. Davies, Pantteg; H. Jones, Caerfyrddin, a'r rhan fwyaf o weinidogion y sir. Yn fuan wedi ei urddiad dechreuodd glafychu o'r darfodedigaeth, ac felly ni bu yn alluog i bregethu yma ond am naw mis, ond bu yr eglwysi ar ei enw am dwy flynedd. Pan welodd nad oedd gobaith iddo wellhau, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny yn Medi, 1853. Yn 1854, rhoddwyd galwad i Mr. D. Milton Davies o'r Gelli, sir Frycheiniog, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma ar y Sabboth cyntaf yn Awst, y flwyddyn hono. Yn mis

150  

Mai, 1855, penderfynwyd tynu yr hen gapel a adeiladwyd yn 1825 i lawr ac adeiladu un mwy at wasanaeth y gynnulleidfa gyflym-gynyddol. Gorphenwyd yr adeiladaeth mewn pedwar-mis-ar-ddeg, ac agorwyd y capel newydd Awst 14eg, 1856. Yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion y sir, a rhai o siroedd eraill, yn bresenol ar yr achlysur. Ni bu yr eglwys a'r gynnulleidfa nemawr o amser cyn talu yr oll o'r draul. Parhaodd Mr. Davies i lafurio yma gyda pharch mawr a mesur helaeth o lwyddiant hyd y Sabboth diweddaf yn Tachwedd, 1858, pryd y symndodd i Lanfyllin, lle y terfynodd ei oes ddefnyddiol yn 1869. Yn nechreu y flwyddyn 1859, rhoddwyd galwad i Mr. Jenkin Morgan Prytherch, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mawrth 16eg a'r 17eg, yn y flwyddyn hono. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad gan Meistri Jones, Glynarthen ; Davies, Aberteifi ; Griffiths, Horeb ; Evans, Aberaeron ; Saunders, Aberystwyth ; Thomas, Talybont; Jones, Pentretygwyn; Griffiths, Llanwrtyd, a Griffiths, Llanymddyfri. Yn mhen ychydig fisoedd wedi ei urddiad, cafodd Mr. Prytherch a'r eglwysi dan ei ofal eu bendithio ag adfywiad crefyddol grymus iawn, fel y cafodd y gweinidog ieuangc yr hyfrydwch o dderbyn rhai canoedd o aelodau i'r eglwysi dan ei ofal yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o'i weinidogaeth. Mae pethau yn parhau yn ddymunol yma oddiar hyny hyd yn awr, a'r gweinidog a phobl ei ofal yn cydweithio yn hyfryd.

Nid ydym yn gwybod am neb a godwyd yma i bregethu heblaw Mr. Evan Williams, yr hwn a fu yn weinidog yma, a Mr. Daniel Sylvan Evans, yr hwn sydd er's blynyddau bellach yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig, ac yn adnabyddus trwy holl Gymru fel llenor enwog.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

EVAN WILLIAMS. Ganwyd ef yn mhentref Llanarth yn y flwyddyn 1804 neu 1805. Enwau ei rieni oeddynt Jenkin ac Elleanor Williams. Saer oedd ei dad wrth ei alwedigaeth. Wedi bod yn mlynyddau ei blentynod yn yr ysgol yn ei bentref genedigol, anfonwyd ef i ysgol Dr. Phillips. i'r Neuaddlwyd, pan yr oedd tua phedair-ar-ddeg oed. Bu yno am rai blynyddau. Mae yn dra sicr mai pan yr oedd yn yr ysgol y dechreuodd bregethu, ond nid ydym yn sicr pa un ai yn y Neuaddlwyd neu yn Mhenycae y pregethodd gyntaf. Yn y flwyddyn 1829, urddwyd ef yn Moelfro, Mon, lle y bu yn llafurio yn ddiwyd, ac yn serch pobl ei ofal, am chwe' blynedd. Priododd yno, a chladdodd ei wraig gyntaf, a chyn ymadael oddiyno priododd yr ail waith. Symudodd o Fon i Benygroes, Arfon, lle y bu am ysbaid byr yn cadw ysgol. Ymfudodd oddiyno i America, ond nid ydym yn meddwl iddo aros yno flwyddyn o gwbl. Pan ddychwelodd o'r America ymsefydlodd yn Merthyr Tydfil fel ysgolfeistr. Bu am tua blwyddyn a haner yn weinidog yn Ebenezer, Cefn-coed-y-cymer, ond oherwydd fod prif ddynion yr eglwys hono yn ffafriol iawn i Siartiaeth, ac yntau yn groes i hyny, rhoddodd ei gofal i fyny yn 1839, a symudodd i'w ardal enedigol, a bu yn weinidog i'w fam eglwys am y deng mlynedd olaf o'i fywyd. Bu farw Ebrill 13eg,1851, yn 46 oed, a chladdwyd ef yn ol ei ddymuniad wrth gapel Penycae.

Yr oedd Evan Williams yn ddyn da, ac yn ysgolhaig rhagorol, yn ysgolfeistr effeithiol iawn, ac yn bregethwr hynod o adeiladol a blasus. Bywyd

151

lled gythryhlus a gafodd o ddechreuad ei weinidogaeth hyd nes iddo ymsefydlu yn Mhenycae, ond cafodd brydnhawn-ddydd teg a dymunol, ac y mae coffa parchus am dano yn mhob man y bu yn llafurio.

EVAN JONES. Ganwyd ef yn Rhiwseithbren, yn agos i Gwernogle, sir Gaerfyrddin, Hydref 28ain, 1826. Yr oedd er yn blentyn yn ddeiliad teimladau crefyddol. Wrth wrandaw ei ewythr, Mr. John Davies, Castellnedd, yn pregethu y dygwyd ef i benderfyniad i wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Ymunodd a'r eglwys yn Gwernogle, yr hon oedd y pryd hwnw dan weinidogaeth Mr. Powell, Cross Inn, yn y flwyddyn 1840. Yr oedd efe yn un o ddeg-ar-hugain yn cael ei dderbyn i gymundeb yr un boreu Sabboth. Gan fod ynddo dueddiad cryf at waith y weinidogaeth, anfonodd ei rieni ef i ysgol Mr. J. Jones, Rhydybont, ac wedi hyny i ysgol ramadegol yn Llandysul, er cael addysg ragbarotoawl i fyned i'r athrofa. Yn 1846, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle y bu yn fyfyriwr diwyd am bum' mlynedd. Ymadawodd oddiyno yn Mehefin, 1851, ac yn mhen ychydig fisoedd wedi hyny urddwyd ef, fel y nodasom, yn weinidog i'r eglwysi yn Mhenycae a'r Wern. Yr oedd rhagolygon gobeithiol o'i flaen ef a'r eglwysi ar amser ei urddiad, gan fod yr eglwysi yn berffaith unol yn eu dewisiad o hono, ac yntau yn ddyn ieuangc dysgedig, talentog, a chymwys yn mhob ystyr at waith y weinidogaeth. Ond yn fuan siomwyd yr holl ddisgwyliadau. Dechreuodd arwyddion o'r darfodedigaeth ymddangos ynddo, ac yn mhen naw mis wedi ei urddiad aeth yn analluog i bregethu. Gan y bernid fod awyr y mor yn sir Aberteifi yn rhy gryf iddo, aeth adref i dý ei rieni i orphwyso gyda gobaith am adferiad iechyd. Disgwyliodd yr eglwysi wrtho yn amyneddgar am bymtheng mis. Ond wrth weled nad oedd iddo un gobaith am wellhad, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny yn Medi, 1853, a bu farw yn nhy ei dad Rhagfyr 27ain, yn yr un flwyddyn. Teimlai pobl ei ofal alar dwys ar ei ol, ond gan mai ewyllys ei Arglwydd oedd ei alw ato ei hun, nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd ond ymostwng i'w ewyllys ddwyfol.

Translation by Maureen Saycell (Nov 2008)

This chapel is in the parish of Llanarth.The cause was started here as follows - In the summer of 1819, Evan Williams, son of Jenkin Williams, Cae'rcoed, Llanarth, a boy of 14 years old, who was in school at Neuaddlwyd with Dr Phillips, at the same time as Mr Griffiths Griffiths, later of Ty'ngwndwn, Newport and Brecon, was a student there. Mr E Williams invited Mr Griffiths to preach in his fathers house in Llanarth one Sunday evening.Mr Griffiths agreed and took along some of his fellow students. Jenkin Williams told them that if they promised to come to his home and preach on Sunday evening every other week that he would prepare some food for them, but he would not be able to pay them anything else. The students agreed and continued to go there for some months very successfully. Soon after this there was a strong revival around Neuadddlwyd and Aberaeron, mostly at prayer meetings  and through the offices of Messrs P Griffiths, now Alltwen, and his friend Daniel Griffiths, later Neath, who were at that time students in Dr Phillips College. This revival was notably strong, those it took hold of were totally overcome and they began to praise and jump around. This blessed shower spread through the surrounding areas, and among the places was Llanarth, the result being that people flocked to become members of Neuaddlwyd. As a result regular public services were set up in Llanarth every Sunday night, instead of fortnightly as before, and a successful Sunday school was also started. After some time of holding the school and service in various houses, a barn was rented near the parish burial ground to hold services in. Soon they began to look for land to build a chapel, and talked of forming a church here. Neither of the mother churches at Neuaddlwyd and Penrhiwgaled, were willing to form a church here, but they were prepared to help financially with building a house for occasional services. The old churches have become increasingly reluctant to let go of the branches, in case it should weaken the the older ones, but in general no churches in Wales have been as willing to help with the formation of branches as Neuaddlwyd and Penrhiwgaled. The biggest stumbling block to starting a cause here was the difficulty with finding land to build on. The landowners refused because of their sectarianism. However the faithful were not disheartened. A church was formed in the old barn in 1825. Some land was aquired ouside the village to build a chapel, and soon after gaining a convenient chapel the congregation grew to be larger than any other in the parish. The church was under the care of the Dr for his lifetime, and his successor, Mr Evans worked with him for a short time at Penycae, as well as other places. Around 1840, The Dr and Mr Evans gave up the care of this church and a call was sent to Mr Evan Williams, Cefn coed y cymmer, the boy who was instrumental, by inviting Mr Griffiths here, in starting the cause here. Little did he think when he invited Mr Griffiths to his father's house that he was creating a congregation for himself to become their minister. Mr Williams worked here for the rest of his life in 1851, with great respect within the church and the area. He was buried in Penycae. In the same year, this church decided along with Wern to send a call to Mr Evan Jones, of Carmarthen College, which he accepted. He was ordained on October 15th and 16th of that year. Services were held at Wern and Penycae. Messrs D Davies, Pantteg, H Jones, Carmarthen and most of the ministers in the county took part. Soon after his ordination he became ill with Tuberculosis and was only able to preach here for nine months, although the church was in his name for two years. When he realised he was not getting better he gave up his ministry in September, 1853. In 1854 a call was sent to Mr D Milton Davies of Gelli, Breconshire and he began his ministry here on the first Sunday in August of that year. In May 1855 it was decided to demolish the chapel that was built in 1825, and to build a more suitable chapel for the ever increasing congregation. The building was completed in 14 months and the new chapel was opened on August 14th, 1856. Most of the minister from within the county were present as well as many from outside. The church soon paid the debt. Mr Davies continued to serve with great respect and a measure of success until the last Sunday of November, 1858 when he moved to Llanfyllin, where he ended his useful life in 1869. At the beginning of 1859 a call was sent to Mr Jenkin Morgan Prytherch, of Brecon College, and he was ordained on March 16th and 17th of that year.Those officiating were Messrs Jones, Glynarthen ; Davies, Cardigan; Griffiths, Horeb ; Evans, Aberaeron ; Saunders, Aberystwyth ; Thomas, Talybont; Jones, Pentretygwyn; Griffiths, Llanwrtyd, and Griffiths, Llandovery.  A few months after his ordination, Mr Prytherch and the churches under his care were blessed with a strong religious revival, so the young minister was honoured to be able to confirm hundreds of members into the churches under his care during his first 2 years of his ministry. Things remain good here and the minister and his flock are working together.

We do not know of anyone other than Mr Evan Williams, who was a minister here, and Mr Daniel Sylvan Evans, who has been a minister with the established church for many years now, and well known through Wales as a learned man.

BIOGRAPHICAL NOTES*


EVANWILLIAMS - Born Llanarth 1804 or 5 - Parents Jenkin and Elleanor Williams - father carpenter -  educated Llanarth and Neuaddlwyd - first sermon either Neuaddlwyd or Penycae - Ordained Moelfre, Anglesey 1829 - there for 6 years - married and buried his first wife there - remarried then moved to Penygroes, Caernarvonshire where he had a school - emigrated to America and returned in a bout a year - Merthyr Tydfil as a schoolmaster - minister Ebenezer, Cefn coed cymmer for 18 months - gave it up 1839 because one of the important members was a keen chartist which he objected to - returned to his mother church for the last 10 years of his life as minister - Died April13th, 1851 age 46 - buried in Penycae.

EVAN JONES - born Rhiwsiethbren, Gwernogle, Carmarthenshire October 28th, 1826 - influenced by uncle Mr John Davies, Neath - Joined Gwernogle church in 1840, confirmed age 30 - sent Mr J Jones school at Rhydybont, the Llandyssul Grammar school - 1846 to Carmarthen College till July 1851 - ordained Wern and Penycae shortly after - developed Tuberculosis soon after - Died December 27th, 1853.


*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

  

Y WERN

(Llanina parish)

Saif y capel hwn mewn man nodedig o brydferth ar lan y mor yn mhlwyf Llanina. Er's tua thriugain mlynedd yn ol darfu i nifer o aelodau Penrhiwgaled a breswylient yn yr ardal hon, gan fod Penrhiwgaled dros ddwy filldir oddiyma, benderfynu cychwyn ysgol Sabbothol mewn anedddai yn y gymydogaeth, a llwyddasant yn fuan i gael yma ysgol mor luosog fel yr oedd yn anhawdd cael un anedd-dy yn yr ardal yn ddigon mawr i'w chynwys. O'r diwedd, penderfynwyd ei chynal bob Sabboth yn Llwynon, wedi hyn preswylfod Mr. Daniel Thomas, gweinidog Penrhiwgaled Yn nglyn a'r ysgol sefydlwyd yma gyfarfodydd gweddio a chyfeillachau wythnosol, ac yn raddol ennillwyd yr holl ardalwyr, oddieithr ychydig bersonau, i fod yn Annibynwyr. Bob boreu Sabboth gwelid corph yr ardalwyr yn dringo y llechweddi i fyny tua Phenrhiwgaled, ac yn dychwelyd yn brydlon at gynal eu hysgol Sabbothol yn y prydnawn. Wedi i bethau ddyfod i'r agwedd lewyrchus hon, dechreuwyd son am adiladu capel yn yr ardal, ond buwyd yn son am hyny ugain mlynedd cyn i wneyd. Dichon nad oedd Mr. Thomas a'r eglwys yn Mhenrhiwgaled, yn orselog dros y peth, am y gwelent y buasai sefydliad eglwys

Translation by Maureen Saycell (Nov 2008)

This notably beautiful chapel stands in the parish of Llanina. About sixty years ago the members of Penrhiwgaled who lived in this area, decided to start a Sunday school here, as the chapel was more than two miles away, held in various houses, it became so numerous that it was difficult to find houses large enough to hold them. Eventually it was decided to hold it in Llwynonn every Sunday, later the home of Mr Daniel Thomas, minister of Penrhiwgaled. As well as the Sunday school a weekly prayer meeting and fellowship here, and in time almost all the people were won over to the Independents.Every Sunday morning a body of people could be seen climbing the hill to Penrhiwgaled, then returning in time for their sunday school in the afternoon.  When this satisfactory situation was reached, there was talk of building a chapel, it was twenty years before it happened. It is true that Mr Thomas and the church at Penrhiwgaled were not keen, they saw the establishment of a church here would weaken the mother church, so it was a mere talking point until after the death of Mr Thomas. In 1850 when the church at Penrhiwgaled was discussing a successor for Mr Thomas, the members from the Wern area decided to have a chapel of their own. They acquired a piece of land for a chapel and cemetery, in a very attractive area, from T Ll Lloyd,Esq., Nantgwyllt, Radnorshire, on a 999 year lease. The chapel was built at the start of 1851, and in September that year, the chapel was opened and a church of 167 members formed in it. The following year Mr Evan Jones was ordained here and Penycae, and the two churches have shared the same minister to this day. Messrs Jones, Glynarthen; Griffiths, Horeb, and Rees, Maenygroes officiated at the formation of this church. When Mr Prytherch settled here, as noted with Penycae, a strong revival hit both churches. At that time all but two or three of the listeners were admitted to communion. This cause remains healthy. We are not aware of anyone that was raised to preach here.*

* Letter Mr Prytherch

CONTINUED


[Gareth Hicks: 5 Nov 2008]