Proof read by Steve Stephenson (April 2008)
Chapels below;
|
|
|
152
yma yn wanychiad dirfawr i'r fam eglwys, ac felly gadawyd y peth i fod yn destyn siarad yn unig hyd ar ol rnarwolaeth Mr. Thomas. Yn 1850, pan aeth yr eglwys yn Mhenrhiwgaled i son am ddewis canlyniedydd i Mr. Thomas, aeth yr aelodau yn ardal y Wern i son o ddifrif am gael tir i adeiladu capel. Llwyddasant i gael darn o dir at gapel a mynwent yn y llecyn mwyaf prydferth yn yr holl ardal gan T. Ll. Lloyd, Ysw., Nantgwyllt, Maesyfed, ar les o 999 o flynyddau. Adeiladwyd y capel yn nechreu y flwyddyn 1851, ac yn mis Medi, yn yr un flwyddyn, agorwyd y capel, a ffurfiwyd ynddo eglwys o gant a thriugain-a-saith o aelodau. Yn y mis canlynol urddwyd Mr. Evan Jones yn weinidog yma ac yn Mhenycae, a than yr un weinidogaeth a Phenycae y mae yr eglwys hon wedi bod o'r pryd hwnw hyd yn bresenol. Meistri Jones, Glynarthen; Griffiths, Horcb, a Rees, Maenygroes, oedd y gweinidogion fuont yn gweinyddu yma ar ffurfiad yr eglwys. Pan ymsefydlodd Mr. Prytherch, y gweinidog presenol, yma, fel y nodasom yn hanes Penycae, torodd diwygiad grymus iawn allan yn y ddwy eglwys. Y pryd hwnw derbyniwyd gwrandawyr y Wern oll, oddieithr dau neu dri, i gymundeb eglwysig. Mae yr achos yma yn parhau mewn agwedd llewyrchus iawn. Ni hysbyswyd ni fod neb wedi cael ei gyfodi i bregethu yma.*
(Llangrannog parish)
Saif y capel hwn yn ymyl y brif-ffordd o Aberteifi i Aberystwyth. Yr oedd ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol yn cael eu cadw yn yr ardal hon, yn benaf gan bobl Capel-y-wig, amryw flynyddau cyn adeiladu capel yma. Trwy lafur Mr. Rees, Maenygroes, ac aelodau ei eglwys yn Nghapel-y-wig, yr adeiladwyd yr addoldy yma yn yflwyddyn 1848. Pregethodd Mr. Rees y bregeth gyntaf yn y capel newydd Gorphenaf 16eg, yn yr un flwyddyn, ac ar y 19eg o Awst, 1849, corpholwyd yma eglwys. Daeth 50 o'r aelodau o Gapel-y-wig, saith o Pisgah, a thri neu bedwar o Hawen. Aeth yr achos rhagddo yn hwylus iawn wedi corpholiad yr eglwys, ond oherwydd helaethrwydd maes ei lafur, a'i ymdrech ar y pryd i dalu dyled Capel-y-wig, bu raid i Mr. Rees roddi gofal y gangen hon i fyny yn 1850, a chymerwyd ei gofal yn ei le gan Mr. R. Thomas, Penrhiwgaled, yr hwn fu yn gweinidogaethu yma gyda mesur helaeth o lwyddiant hyd y flwyddyn 1856, pryd y rhoddodd ei ofal i fyny. Yr amser hwnw yr oedd muriau y capel yn rhoddi ffordd, fel y bu raid ei ailadeiladu. Y pryd hwn ymgymerodd Mr. Rees a gofal y lle drachefn, a than ei ofal ef y bu, mewn rhan, hyd Mai 23ain, 1860, pryd yr urddwyd Mr. David Evans, aelod o eglwys Llwyncelyn, yma. Bu Mr. Evans yn llafurus a llwyddianus iawn yma hyd ei farwolaeth annisgwyliadwy yn 1873. Oddiar farwolaeth Mr. Evans hyd yn bresenol, Mr. John Morgan, Penlan, sydd yn gweinyddu yr ordinhadau, ac yn pregethu yma yn fisol neu fynychach. Mae son yn awr am helaethu yr addoldy gan fod yr un presenol yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa. Mae golwg siriol iawn ar yr achos yn y lle hwn, ac yr ydym yn hyderu mai felly y parha.
* Llythyr Mr. Prytherch.
153
DAVID EVANS. Ganwyd yn Cilfach-yr-halen, gerllaw Aberaeron, yn y fiwyddyn 1818. Pan yn dair-ar-ddeg oed derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn y Neuaddlwyd. Ar gychwyniad ei fywyd crefyddol cafodd Bryn anhawsderau yn ei deulu i fyned rhagddo yn ei broffes, ond daliodd yn ddidroi yn ngwyneb pob anhawsder. Wedi iddo dyfu i fyny, wrth weled ei gynydd mewn gwybodaeth a doniau, a'i lafur drbaid gyda phob rhan o waith crefydd, anogwyd ef gan yr eglwys i ddechreu pregethu, ond gan nad oedd ganddo obaith am gael addysg i'w gymhwyso at waith y weinidogaeth, ni feddyliai wrth fyned yn bregethwr, ar gais yr eglwys, wneyd dim ond llenwi bylchau yma ac acw fel pregethwr cynorthwyol am ei oes, ond fel arall y bwriadai y Llywydd mawr. Bu am lawer o flynyddau yn bregethwr cynorthwyol derbyniol iawn yn ei fam eglwys a'r eglwysi cymydogaethol. Yn 1860, derbyniodd alwad unfrydol oddi wrth yr eglwys ieuangc yn Mhantycrugiau, ac urddwyd ef yno yn mis Mai y flwyddyn hono. Bu yn llafurus iawn yno, ac fel cynorthw\ wr i Mr. Rees yn Nghapel-y-wig, Maenygroes, Ceinewydd, a Nanternis hyd nes i angau roddi terfyn lled ddisymwth ar ei fywyd defnyddiol. Bu farw wedi cystudd byr iawn Awst 15fed, 1873.
Yr oedd David Evans yn ddyn da ac yn bregethwr defnyddiol iawn. Pethau ymarferol fynychaf y pregethai arnynt, ond yr oedd ton ei weinidogaeth yn berffaith efengylaidd. Oddiwrth olygfeydd natur ac rferion cyffredin by wyd yn fwy nag oddiwrth lyfrau y casglai yr eglurhadau a'r cymhariaethau a arferai yn ei bregethau, ac am hyny yr oedd yn nodedig o ddealladwy i'r werin, ac yn dderbyniol ganddynt. Yr oedd yn ddyn ddiymhoniad. Er fod ei alluoedd a'i ddoniau yn tra rhagori ar yr ciddo llawer a gymerant arnynt eu bod yn ddynion mawr, nid ymhonai ef i unrhyw fawredd. Dyn gwledig o ran ymddangosiad ydoedd, a dyn yn mhob ystyr yn ateb i'r wlad y treuliodd ei oes ynddi. Safai yn ddiysgog at eeigwyddor, ac nis gallasai gweniaeth na bygythion beri iddo fradychu ei broffes. Oherwydd iddo bleidleisio dros yr ymgeisydd Rhyddfrydig yn etholiad 18E8, cafodd ei fwrw allan o'i fferm. Ond y mae yn awr wedi cyrhaedd y lle na " chlywant lais y gorthrymydd," ac y gorphwys y rhai lluddedig. Mae ei goffadwriaeth yn fendigedig o fewn holl gylch ei gydnabyddiaeth.
Mae yr eglwys hon yn un o'r rhai hynaf yn y Dywysogaeth. Casglwyd hi ar y cyntaf trwy lafur Mr. Charles Price, yr hwn a drowyd allan o eglwys plwyf Aberteifi gan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662. Cafodd yr eglwys ei chorpholi gan Mr. Price yn eglwys Annibynol amryw flynyddau cyn 1662, a pharhaodd ef i fod yn weinidog iddi nes iddo orfod ymadael a'r wlad oherwydd poethder yr erledigaeth. Ryw amser ar of 1662, daeth Mr. James Davies, yr hwn a droisid allan o eglwys Merthyr, sir Gaerfyrddin, i Aberteifi i gadw ysgol, a chymerodd ef y praidd gwasgaredig, fuasai gynt dan ofal gweinidogaethol Mr. Price, dan ei ofal, a gwnaeth bob
154
peth a allasai i'w hymgeleddu, cyn belled ag y goddefai enbydrwydd yr amseroedd iddo wneyd. Pan roddodd Siarl II. ychydig o ryddid i'r Ymneillduwyr yn 1672, darfu i aelodau yr eglwys hon gyfodi trwyddedau ar dai at bregethu ynddynt mewn gwahanol ardaloedd, fel y dengys y cofnodion canlynol :- " Trwydded i James Davies i fod yn bregethwr Annibynol yn ei dy ei hun yn Abertifi, ac yn nhy John James yn Cenarth, sir Gaerfyrddin. Dyddiedig Mai 8fed, 1672. Ty John James yn Cenarth, sir Gaerfyrddin, i fod yn dy cyfarfod i'r Annibynwyr, a thy James Davies yn Aberteifi i fod felly hefyd. Mai 8fed, 1672. Ty Jenkin Jones yn Cilgeran, sir Benfro, i fod yn addoldy i'r Annibynwyr, a Jenkin Jones i fod yn bregethwr Annibynol yn ei dy ei hun."* Ni pharhaodd y rhyddid hwn ond tua blwyddyn, ond dichon i'r cyfeillion fod yn addoli yn yr anedd-dai hyn yn ddirgel am flynyddau wedi hyny. Mae tystiolaeth Mr. Henry Maurice genym, fod cyfarfodydd yn cael eu cynal yn nhy Mr. Jenkin Jones, yn Nghilgeran yn 1675, a bod Mr. Jones ei hun yn pregethu yno. Bu yr eglwys hon, neu gangenau o honi, ar wahanol amserau rhwng 1672 a 1709 yn addoli yn Rhosgilwern, gerllaw Cilgeran, a dichon dyna enw ty Mr. Jenkin Jones ; yn y Tirllwyd, yn mhlwyf Llangoedmore, yn Nghastellmaelgwyn, ac mewn lle a elwir y Wern. Mr. James Davies a Mr. Jenkin Jones fu gweinidogion y gynnulleidfa hon, fel yr ymddengys, hyd derfyn eu hoes, ond dichon fod Mr. John Thomas, Llwynygrawys, wedi ei urddo cyn i'r olaf o honynt hwy farw. Byw amser wedi sefydliad Mr. John Thomas yma, cyfododd dadl bedydd i boethder mawr yn yr ardaloedd, ac amlygai y gwrthfabanfedyddwyr sel neillduol i geisio proselytio aelodau yr eglwysi Annibynol. Yn ngwyneb hyn, barnwyd yn briodol i gael cyfarfod cyhoeddus i drin y pwngc gan ddynion a fernid y rhai mwyaf galluog yn y ddwy blaid. Trefnwyd i'r cyfarfod gael ei gynal yn Mhenylan, yn agos i'r Frennifawr, a bod Mr. John Thomas, gwcinidog yr eglwys a gyfarfyddai y pryd hwnw yn Rhosgilwern, i bregethu dros fedydd babanod y dydd cyntaf, a bod Mr. John Jenkins, gweinidog Rhydwilym, i bregethu ar yr ochr wrthwynebol dranoeth. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1691. Yn lle terfynu y ddadl ei chyneu yn fwy wnaeth y cyfarfodydd hyn. Y canlyniad fu i bleidwyr bedydd babanod geisio gan Mr. Samuel Jones, Brynllwarch, ysgrifenu llyfr ar y pwngc, ond gan na oddefai sefyllfa ei iechyd iddo wneyd hyny, ceisiodd gan ei gyfaill talentog, a'i ddysgybl gynt, Mr. James Owen, i ymgymeryd a'r gorchwyl. Ysgrifenodd Mr. Owen lyfr galluog yn cynwys deuddeg o resymau dros fedydd babanod. Gwelodd y gwrthfabanfedyddwyr nad oedd ganddynt hwy un dyn yn Nghymru yn ddigon dysgedig a galluog i'w ateb, ac felly cyfieithiasant ef i'r Saesoneg fel y gallasai Mr. Benjamin Keach ysgrifenu ateb iddo, ac wedi cael yr ateb hwnw yn barod bu raid ei gyfieithu i'r Gymraeg. Cyhoeddwyd ef dan yr enw Goleuni wedi tori allan yn Nghymru. Cyhoeddodd Mr. Owen ateb i hwn drachefn, ac felly distawodd y ddadl am dymor.
Mewn anedd-dai y bu yr eglwys hon, fel lluaws o eglwysi eraill yn Nghymru. yn addoli hyd y flwyddyn 1709, pryd yr adeiladwyd yr addoldy cyntaf yn Llechryd. Dywedir i ryw wr mawr o'r gymydogaeth, pan oedd y gynnulleidfa yn addoli yn y Tirllwyd, fygwth tynu y ty i lawn, ond iddo y noson cyn y dydd y bwriadai osod ei fygythiad mewn gweithrediad
* State Papers. Interregnum.
155
gael ei gymeryd yn glaf, a marw ar ol ychydig oriau o gystudd. Gan Thomas Lloyd, Ysw., o Goedmore, y cafwyd tir at adeiladu y capel yn Llechryd, ar les o fil ond un o flynyddau. Yr ydym yn barnu fod Mr. John Thomas, y gweinidog, yn fyw pan yr adeiladwyd y capel yn 1709, ac iddo fyw ddwy neu dair blynedd ar ol hyny. Mae yn debyg i'r eglwys fod yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol am rai blynyddau ar ol marwolaeth Mr. Thomas. Nid ydym yn gallu dyfod o hyd i enw un gweinidog yma rhwng yr amser y bu ef farw ac urddiad Mr. Dayid Sais yma yn 1725. Parhaodd Mr. Sais i weinidogaethu yma hyd y flwyddyn 1741, pryd y bu farw. Yr oedd cangen o'r eglwys wedi ymffurfio yn eglwys Annibynol yn Mrynberian cyn dechreuad ei weinidogaeth ef, a'r eglwys yn Nhrewyddel yr un modd, ac yn 1737, adeiladodd y gangen o gylch Cenarth a Chastellnewydd addoldy yn y Drewen. Mae yn ymddangos i Mr. Lewis Jones, wedi hyny o Benybont-ar-ogwy, fod am flwyddyn neu ddwy yn cydweinidogaethu a Mr. Sais yn y Drewen a Llechryd, ac yn 1739, cafodd Mr. Dayid Evans ei urddo yma yn weinidog cynorthwyol, ac yn fuan disgynodd yr holl ofal arno ef. Ond yn 1742, urddwyd Mr. Davrd Griffiths yn gynorthwywr iddo, a buont ill dau yn cydweinidogaethu hyd farwolaeth Mr. Evans yn 1773, yna bu Mr. Griffiths yn unig weinidog am tua phedair-blynedd-ar-ddeg. Yn 1788, urddwyd Mr. Griffith Griffiths yn gydweinidog ag ef, ac ar ei farwolaeth yn 1794, disgynodd y gofal oll ar Mr. G. Griffiths, yr hwn fu yn llafurio yma hyd 1818, pryd y bu farw. Mae yn ymddangos nad oedd un o'r tri gweinidog olaf a enwyd - D. Evans, D. Griffiths, a G. Griffiths, fel eu rhagflaenoriaid, yn selog dros yr hyn a ystyrir yn "athrawiaeth iachus,'* Os nad oeddynt yn Arminiaid, Pelagiaid, neu Ariaid proffesedig eu hunain, yr oeddynt yn cyfeillachu a gweinidogion o'r golygiadau hyny, ac yn eu derbyn i'w pulpudau. Darfu i gangen y Drewen ymneillduo oddiwrth y fam eglwys yn Llechryd yn fuan wedi marwolaeth Mr. D. Evans, a dewis gwr o olygiadau hollol efengylaidd yn weinidog. Parhaodd pethau yn lled dawel yn Lfechryd hyd farwolaeth Mr. G. Giiffiths, ac am ychydig wedi hyny. Wedi ei farwolaeth ef, urddwyd un Mr. David Davies o'r Neuaddlwyd yn weinidog yma, ond gan mai cymeriad hollol ddiwerth, os nad drygionus, ydoedd, ymwrthodwyd ag ef yn mhen tair blynedd wedi ei sefydliad. Treuliodd weddill ei oes yn fasnachydd yn Llanelli, sir Gaerfyrddin, ond heb fod ag unrhyw gysylltiad rhyngddo a chrefydd.
Tua yr amser yr ymadawodd D. Davies yr oedd yr eglwys yn ferw byw gan ddadleuon a chroesolygiadau ar brif byngciau Cristionogaeth. Yr oedd yma rai Arminiaid, rhai Ariaid, a rhai Undodiaid, ond yr oedd tua haner yr eglwys yn dal at y golygiadau a ystyrir yn efengylaidd. Yn nghanol y dadleuon poethion hyn daeth Mr. Methusalem Davies, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, heibio, a chafodd anogaeth i aros yma ar brawf. Ye fuan aeth rhai o'r aelodau i son am ei urddo. Yn nglyn. a hyny gynyrfwyd y dadleuon. Mynai un blaid gael gweinidog Ariaidd ac Undodaidd i gymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad, ond gwrthwynebai y blaid arall hyny yn benderfynol, a'r canlyniad fu i'r eglwys rwygo yn ddwy blaid. Cauwyd yr Annibynwyr Calfinaidd allan o'r capel a chadwodd yr Arminiaid a'r Ariaid feddiant o hono am ychydig amser. Yn fuan cafwyd allan fod y les wedi myned yn ddirym o herwydd fod yr ymddiriedolwyr oll wedi meirw, ac felly fod y capel a'r tir yn eiddo cyfreithlon i Mr. Lloyd, Coedmore, etifedd y perchenog gwreiddiol. Pan ddeallwyd
156
hyny, cymerodd Mr. Lloyd feddiant o hono, a rhoddodd ef trwy weithred newydd i fod yn eiddo i'r blaid Galfinaidd, ac yn eu meddiant hwy y mae hyd yn bresenol. Dyddiad y weithred newydd yw Ionawr 25ain, 1828. Wedi i'r Annibynwyr gael meddiant o'r capel rhoddasant alwad i Mr. Daniel Davies, Aberteifi, a bu yr achos dan ei ofal ef hyd y flwyddyn 1854. Cynorthwyid ef am rai blynyddau gan Meistri W. Miles, Tyrhos, a David Owen, Aberteifi. Rhif yr aelodau yn Llechryd oedd 45 pan y dechreuodd Mr. Davies ei weinidogaeth yn eu plith, ond yr oeddynt dros ddau cant pan y rhoddodd ef eu gofal i fyny. Cafodd y capel ei ail adeiladu yn nhymor gweinidogaeth Mr. Davies, ac y mae hefyd yn ei ymyl dy cyfleus at gadw ysgol ddyddiol. Yn y flwyddyn 1856, rhoddodd yr eglwys hon, mewn cysylltiad a Tyrhos, alwad i Mr. Rees Morgan, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Awst 12fed a'r 13eg, yn y flwyddyn hono. Cynaliwyd cyfarfodydd yr urddiad y dydd cyntaf yn Nhyrhos a'r ail ddydd yn Llechryd. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri D. Davies, Aberteifi; J. Davies, Glandwr; W. Morgan, Troedyrhiw, Merthyr; S. Griffiths, Horeb; S. Evans, Hebron ; J. M. Evans, Trefgarn; J. Williams, Castellnewydd ; D. Bateman, Rhosycaerau, ac eraill. Bu Mr. Morgan yn llafurus, llwyddianus, a pharchus iawn yma hyd y flwyddyn 1863, pryd y symudodd i Glynnedd. Yn y flwyddyn 1864, rhoddodd yr eglwys yn Llechryd alwad i Mr. William Rees, myfyriwr yn yr Athrofa Orllewinol yn Plymouth, ac urddwyd ef yma yn mis Rhagfyr, y flwyddyn hono. Efe yw y gweinidog yma hyd yn bresenol. Aelod gwreiddiol o eglwys Trelech yw Mr. Rees, a pherthynas agos i'r diweddar Mr. Rees, Llanelli.
Mae nifer lluosog o ddynion rhagorol iawn wedi bod yn perthyn i'r achos yn y lle hwn o bryd i bryd, ond nid ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i enwau ond ychydig o honynt. Mae coffadwriaeth Henry Edwards, David Thomas, Thomas Griffiths, ac Owen Jones yn barchus iawn yn yr eglwys a'r ardal hyd y dydd hwn. Ond dichon mai y cymeriad mwyaf adnabyddus trwy yr holl wlad o aelodau yr eglwys hon yn yr oes ddiweddaf oedd Dafydd Siencyn Morgan, y cerddor diail. Yr oedd ei enw ef haner can' mlynedd yn ol yn adnabyddus trwy y rhan fwyaf o Ddeheudir Cymru, ac mae yn debygol iddo wneuthur mwy tuag at ddiwyllio cerddoriaeth y cysegr nag un o'i gydoeswyr yn Nghymru. Teithiai i leoedd pell ac agos i gadw ysgolion can. Y mae amryw donau o'i gynghaneddiad a rhai o'i gyfansoddiad ef mewn arferiad hyd y dydd hwn. Y mae y gwr enwog hwn wedi gorphwys oddiwrth ei lafur er's deng-mlynedd-ar-hugain bellach. Claddwyd ef yn mynwent Manordeifi.
Mae yn dra thebyg i lawer o aelodau yr eglwys hon yn yr oesau gynt gael eu cyfodi i'r weinidogaeth, ond o ddiffyg cofnodion eglwysig nid ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i enwau neb o honynt, ond y rhai canlynol :-
157
CHARLES PRICE. Yr oll a wyddom am dano ef ydyw, mai un genedigol o sir Faesyfed ydoedd ; iddo fod am rai blynyddau, yn amser y Werinlywodraeth, yn bregethwr tithiol yn sir Aberteifi ; iddo ymsefydlu fel gweinidog plwyf Aberteifi ryw amser cyn adferiad Siarl II., o ha le y trowyd ef allan gan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662. Yn fuan wedi hyny gorfodwyd ef i fyned o'r parth hwn o'r wlad gan boethder yr erledigaeth. Bu farw yn Hammersmith, yn agos i Lundain, ond nid yw amser ei farwolaeth yn hysbys i ni.
JAMES DAVIES. Un genedigol o sir Faesyfed oedd yntau. Cafodd ei osod yn winidog plwyf Merthyr, gerllaw Caerfyrddin, yn amser y Werinlywodraeth, a chafodd ei droi oddiyno gan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662. Yn fuan wedi hyny symudodd i Aberteifi, neu y gymydogaeth uniongyrchol, lle y u am flynyddau yn ymgynal wrth gadw ysgol Ramadegol. Pan ddaeth i'r gymydogaeth hon cymerodd ofal yr eglwys Ymneillduol a ffurfiesid yma flynyddau cyn hyn gan Mr. Charles Price. A bu ef, a Mr. Jenkin Jones yn cydweinidogaethu iddi am lawer o flynyddau. Yr oedd Mr. Davies yn byw yn nhrf Abertcifi yn 1672, canys trwyddedodd ei dy yno yn y flwyddyn hono at bregethu ynddo. Yr oedd yn fyw, ac yn weinidog i'r eglwys sydd yn awr yn Llechryd, yn y flwyddyn 1675. Nis gwyddom pa bryd y bu farw. Dywed Dr. Calamy am dano, ei fod yn ddyn gostyngedig a gwylaidd, yn ysgolhaig da, yn fyfyriwr caled, ac yn bregethwr galluog, eglur, a doniol, a bod bregethau yn cael en dilyn gan fendith neillduol yr Arglwydd. Dywed hefyd iddo ddyoddef llawer o erledigaethau yn amyneddgar, ac iddo farw yn ddedwydd iawn, a bod pawl) o'i gydnabod yn galaru yn fawr ar ei ol.
JENKIN JONES. Yr oed ef yn byw yn Nghilgeran, ac yn henuriad athrawiaethol yn yr eglwys Ymneillduol yn yr ardal hono. Trwyddedodd ei dy at bregethu ynddo yn 1672, ac yr oedd yn cydweinidogaethu a Mr. James Davies yn 1675. Dyna y cwbl a wyddom ni am dano. Gau fod Mr. Henry Maurice yn ei ysgrif ar Eglwysi Ymneillduol Cymru yn ei alw " Captain Jenkin Jones," yr ydym yn cad ein gogwyddo yn gryf i gredu mai yr un ydoedd a'r enwog Jenkin Jones o Landdetty, ac wedi hyny o Langattwg, Glynuedd. Dywedasom yn nghofiant Mr. Jones yn nglyn a hanes Maes-yr-haf, Castellnedd, iddo mill ai marw yn y flwyddyn 1660, neu orfod ymguddio rhag ei erlidwyr. Dichon mai yn y parth hwn o'r wlad y cafodd le i ymguddio.
158
JOHN THOMAS. Er pob ymchwiliad yr ydym wedi methu casglu ond y peth nesaf i ddim o hanes y gwr da hwn. Yn Llwyngrawys, yn mhlwyf Llangoedmore, yr oedd yn cyfaneddu, ac mae yn dra thebyg mai efe Oedd perchenog y lle hwnw, ac amryw leoedd eraill. Bernir iddo dderbyn ei addysg yn un o'r ddwy brif athrofa. Nis gwyddom pa bryd y dechreuodd ei weinidogaeth yn Llechryd. Yn y flwyddyn 1688, ar doriad gwawr rhyddid crefyddol, cafodd f, nc amryw weinidogion Ymneillduol eraill, ei urddo. Parhaodd i weinidogaethu yn Llechryd, a'r cangenau, hyd derfyn ei oes. Nis gwyddom pa bryd y bu farw, ond y mae yn dra sicr ei fod wedi mares cyn y flwyddyn 1715, gan nad yw Dr. John Evans yn yr ystadcgau a gasglwyd ganddo yn y flwyddyn hono yn son dim am ei enw. Cawn ragor nag un crybwylliad o'i enw yn hanes r ddadl fu yn eglwys Henllan yn 1707-1710. Ymddengys i fod ef yn ochri i'r blaid uchel-Galfinaidd yn y ddadl hono, ond y mae y ddwy blaid yn crybwyll ei enw ef mewn geiriau parchus. Yr ydym yn tybied iddo farw ryw amser rhwng 1710 a 1715.
DAVID SAIS. Yr ydym yn barnu mai brodor o gymydogaeth Trefgarn, sir Renfro, oedd ef. Yr oedd un o'r enw Thomas Sais yn aelod o'r eglwys hono ar i ffurfiad tua'r fiwyddyn 1686, a dichon mai mab iddo ef oedd Mr. David Sais. Nid oes genym un wybodaeth o hanes boreu ei oes; pa le y dechreuodd bregethu, na pha le yr addysgwyd ef. Cofnodir yn llyfr eglwys y Cilgwyn, gan Mr. Phillip Pugh, iddo gael ei urddo yn Llechryd. yn mis Awst, 1725, ac iddo farw yn 1741. Dyna y cwbl a wyddom o'i hanes.
DAVID EVANS. Nid oes genym un wybodaeth am le ci enedigaeth ef a'i ddygiad i fyny, ond gan iddo, yn ol v cofnodiad ar gareg ei fedd, farw yn 66 oed, yn 1773, gwelir mai yn 17-07 y ganwyd ef. Cafodd ei urddo yn weinidog i'r eglwysi yn Llechryd o'r Drewen, Ebrill 1739. Yr 'Deihl y gweinidogion canlynol yn bresenol yn i urddiad fel y cofnodir yn llyfr eglwys y Drewen :- Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. George Palmer, Abertawy ; pregethodd Mr. Phillip Pugh, Llwynypiod, ar natur y gwaith a threfn eglwys Crist ; holwyd y gofyniadau gan Mr. Eyan Davie s, Hwlffordd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. Thomas Mauriee, Down, Llanybri; pregethodd Mr. James Lewis, Pencadair, ar ddyledswydd y gweinidog a'r g Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri Henry Palmer, Henllan; DaviJenkins, Crugymaen; Samuel Jones, Capel &ion ; Samuel Thomas, Caerfyrddin ; Jenkin Jones, Llwyn-rhyd-owen ; Timothy Davies, Cilgwyn, ac Abel Francis, gweinidog gyda'r Bedyddwyr.
Yn Mhenypistyll, yn mhlwyf Llangoedmore, yr oedd Mr. Evans yn byw, ac yno y bu farw Ebrill 20fed, 1773, yn 66 oed. Claddwyd ef y tu allan i'r gangell yn mynwent Llangoedmore, lle y mae i gareg fedd i'w etto. 0 ddiffyg defnyddiau nid oes genym ddim yn ychwaneg o'i hanes i'w roddi. gaveled
DAVID GRIFFITHS. Nid ydym yn gwybod dim o hanes boreu oes yntau. Cafodd ei urddo i fod yn gydweinidog a Mr. David Evans VI Llechryd a'r Drewen Ebrill 21ain, 1742. Gan ei fod yn ddeuddeg-ar-hugain oed pan yr urddwyd ef yr ydym yn lled dybied mai amaethwr parchus o'r ardal hon ydoedd, heb gael addysg reolaidd i'r weinidogaeth, canys y mae myfyrwyr rheolaidd yn mhob cyfnod o hanes Ymneillduaeth, gydag ychydig iawn o eithriadau, yn cael eu hurddo rhwng y dwy a'r wyth-ar-hugain oed. Mae yr un sylw yn gymwysiadol at Mr. David
159
Evans, cydweinidog Mr. Griffiths, yr oedd yntau yn ddeuddeg-ar-hugain oed yn cad ei urddo. Nid yw eu hoed yn profi yn bendant na buont yu fyfyrwyr, ond y mae yn gwneyd y peth yn debygol iawn, yn enwedig pan gofier nad yw eu henwau i'w cad yn rhestr y myfyrwyr a addysgwyd yn Nghaerfyrddin yr amser hwnw, a Chaerfyrddin oedd yr unig athrofa Ymneillduol yn Nghymru y pryd hwnw. Bu Mr. Griffiths yn weinidog yn Llechryd am y tymor maith o ddeng-mlynedd-a-deugain. Bu farw Hydref 20fed, 1794, yn 84 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Manordeifi. Yn y Faenor, yn y plwyf hwn, yr oedd yn cyfaneddu. Bu un mab iddo yn offeiriad, ac yn byw yn rhywle yn nghymydogaeth Llanboidy. Nid oes ond ychydig flynyddau er pan y bu ef farw.
GRIFFITH GRIFFITHs. Nid oes genym un wybodaeth am le ei enedigaeth ef, na pha le y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig, ac y dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i athrofa Caerfyrddin yn 1784, ac aeth oddiyno i Lechryd, lle yr urddwyd ef yn 1788 yn gynorthwywr i'r hcn weinidog, Mr. David Griffiths, ac yno y bu hyd Ionawr 31ain, 1818, pryd y bu farw yn 57 oed. Claddwyd ef yn mynwcnt Llandygwydd, ond yn Neuaddwilym, yn mhlwyf Llangoedmore, yr oedd yn cyfaneddu hyd derfyn i oes. Yr oedd Mr. Griffiths yn ddyn boneddigaidd a pharchus gan yr holl wlad. Cyfrifid ef yn un o'r ysgolfeistri rhagoraf yn ei oes. Cadwai ysgol trwy holl dymor ei wcinidogaeth, ac yn ei ysgol ef y derbyniodd y rhan fwyaf o blant boneddigion, yn gystal ag amaethwyr glanau y Teifi, cu haddysg yn yr oes hono. Ychwanegai hyny yn ddirfawr at ei ddylanwad yn y wlad.
Nid ymddengys fod Mr. Griffiths, na'i ddau ragflaenydd- D. Evans a D. Griffiths, y peth y buasai yn ddymunol eu bod fel gweinidogion yr efengyl. Nid oes genym ni un sail i'w cyhuddo o fad yn Ariaid nac yn ond y mae yn amlwg eu bod y peth a adwaenir dan yr enw Latitudinarians, hyny yw, dynion 3-n dal nad yw o un pwys pa beth fyddo credo dyn, ond iddo fod yn foesol ei fuchedd. Yn gydweddol a'r syniad hwn cyfeillachent hwy a gweinidogion o bob credo, a newidient bulpudau yn ddiwahaniaeth a hwynt. Y canlyniad fu i'r eglwys dan cu gofal fyned yn gymysgedd o Galfiniaeth, Arminiaeth, Ariaeth, ac Undodiaeth, ac i ldi yn y diwedd rwygo yn yfflon.
Yn y flwyddyn 1792 yr oedd hen wraig, aelod o Benrhiwgaled, o'r enw Esther Phillips, wedi dyfod i fyw i'r dref hon, a chan nad oedd un capel na chynnulloedfa o'i henwad ei hun iddi hi i ymuno a hwynt, elai yn achlysur i Ddrewyddel, a chafodd gan Mr John Phillips gweinidog y lle hwnw, addaw dyfod i bregethu i'w thy hi. Ty bychan ydoedd yn Pwllhai. Yn mhen ychedigaeth Mr Phillips i bregethu yno yn lled gyson bob bythefnos, a byddai Mr Benjamin Hughes, Cilgeran, pregethwr cynorthwyol tra phobogaidd, yn pregethu yno yn achlysurol. Rhoddid pregeth yn awr ac eilwaith hefyd gan Mr B. Evans, Drewen, a Dr Phillips, Neuaddlwyd. Ennillwyd rhai o drigolion y dref trwy y pregethau hyn i ddyfod i geisio crefydd. Ond elent i Drewyddel i gael eu derbyn yn aelodau eglwysig gan nad oedd yma un eglwys wedi cael ei ffurfio. Yn mhen amser aeth ty Esther Phillips yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr,
160
fel y bu raid edrych allan am le mwy eang a chyfleus. Cafwyd hen ystordy, yn agos i'r Angel Hotel, ar ardreth, a chyfaddaswyd ef i fod yn lle addoliad. Llanwyd y lle hwnw yn fuan, a chorpholwyd yno eglwys fel cangen o Drewyddel. Ond am gryn amser wedi corpholiad yr eglwys diaconiaid Trewyddel fyddai yn dyfod yma ar y Sabbothau cymundeb i gario yr elfenau, oblegid y mae yn debygol nad oedd neb yn yr eglwys ieuangc a fernid yn addas i gael ei wneyd yn ddiacon. Fel hyn y parhaodd pethau cyhyd ag y bu yr achos dan ofal Mr. John Phillips. Er fod yma yn awr amryw o aelodau, etto gan mai tlodion oeddynt gan mwyaf oll, teimlent fod talu ardreth yr ystafell a threuliau eraill yr achos yn faich trwm iawn iddynt, a barnent y gallasent wneyd yn well pe yr adeiladesid capel mewn rhyw fan cyfleus. Rhoddodd Mr. David Dayies, masnachydd cyfrifol a chyfoethog yn y dref, ddarn o dir yn Heol Mair at adeiladu capel am chwe' cheiniog y flwyddyn o ardreth dros byth. Sicrhawyd y tir i'r enwad Annibynol mewn gweithred tra y byddo dwfr yn rhedeg yn afon Teifi. Dechreuwyd adeiladu y capel yn 1803, ond gan fod y bobl yn ychydig ac yn dlodion, a'r gweinidog, Mr. Phillips, Trewyddel, yn analluog oherwydd llesgedd, ac amryw ofalon eraill, i roddi nemawr o help i'r gwaith, gellir yn briodol ddyweyd mai mewn amseroedd blinion yr adeiladwyd y muriau. Wedi llawer o drafferth a rhwystrau cafwyd y ty dan do, ond er nad oedd ynddo oriel na nemawr o eisteddleoedd, yr oedd arno faich o gan' punt o ddyled ; a pheth oedd waeth, yr oedd y bobl mewn anghydfod oherwydd methu cydweled am ryw bethau yn nghylch adeiladaeth y capel. Ymadawodd un ar ol y llall a'r achos, fel yr oedd wedi myned i fin trancedigaeth. Yn y flwyddyn 1812, daeth Mr. Danicl Davies, Rhesycae, aelod gwreiddiol o Drewyddel, i fod yn gynorthwywr a Mr. Phillips yn Nhrewyddel a'r canghenau. Bu ei ddyfodiad ef yma yn fywyd o farwolaeth i'r achos yn y dref Yr oedd y capel o hyd heb ei orphen, a'r ddyled yn aros arno. Ond trwy ymdrechion Mr. Dayies talwyd y ddyled yn lled fuan, a gosodwyd oriel ac eisteddleoedd yn y capel. 0 hyn allan aeth pethau yn mlaen yn nodedig o lewyrchus. Lluosogodd yr eglwys a chynyddodd y gynnulleidfa. Yn 1831, tynwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd yn ei le addoldy hardd, yn mesur 48 troedfedd o hyd wrth 36 o led, ac oriel helaeth ynddo. Talwyd am hwn etto yn mhen ychydig amser, a gorlanwyd ef o aelodau a gwrandawyr. Yr oedd llwyddiant yr achos yn y dref yn awr yn fwy rhyfedd gan fod cynydd yr eglwysi yn Llechryd a Thyrhos dan weinidogaeth Mr. Davies a'i gynorthwywyr, a ffurfiad eglwys yn Llandudoch, yn cadw pobl y wlad oddiamgylch rhag dyfod mwyach i chwyddo cynnulleidfa y dref. Parhaodd pethau i fyned yn mlaen yn llewyrchus iawn yma hyd derfyn oes lafurus Mr. D. Davies. Pan aeth ef i deimlo pwys henaint yn ei wasgu, anogodd yr eglwys edrych allan am ganlyniedydd iddo, fel y gallasai ef ymneillduo o'r weinidogaeth sefydlog, ond addawai wneyd yr oll a fedrai fel cynorthwywr i'w ganlyniedydd. Yr oedd yn awyddus am weled gweinidog wedi ymsefydlu yma cyn ei farw, rhag ofn ar ol ei farwolaeth y buasai terfysg yn ymgodi yn yr eglwys yn nghylch dewisiad gweinidog, a chafodd ei ddymuniad. Yn mis Mai, 1864, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny, ac yn nechreu y flwyddyn ganlynol rhoddodd ef a'r eglwys alwad unfrydol i Mr. William Davies, aelod o Drelech, a myfyriwr yn athrofa Aberhonddu. Cynaliwyd cyfarfodydd urddiad Mr. Davies Ebrill 19eg a'r 20fed, 1865. Pregethwyd y nos gyntaf gan Meistri W. E. Jones, Ceinewydd, a T. Phillips
161
Horeb. Dranoeth am ddeg pregethodd Mr. O. Thomas, Brynmair, ar natur eglwys; holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Davies, yr hen weinidog ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. I. Williams, Trelech, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W, Evans, Aberaeron. Am ddau yn y prydnawn pregethodd Meistri D Jones. Penygroes, a D. Jones, Drewen ; ac yn yr hwyr pregethodd Meistri G. Williams, Trewyddel, ac E. Lewis, Brynberian. Dyma yr urddiad cyntaf yn ol trefn yr Annibynwyr a gymerodd le yn y dref hon, canys yr oedd Mr. Daniel Davies yn weinidog urddedig flynyddau cyn iddo ddyfod yma. Bu yr hen weinidog yn gynorthwyol iawn i'r gweinidog ieuangc hyd derfyn ei oes yn 1867. Yn y flwyddyn 1868, penderfynodd yr eglwys adeiladu capel newydd helaethach a harddach na'r un a adeiladesid yn 1831, ac ar yr 20fed o Fai, 1869, tynwyd yr hen dy i lawr a dechreuwyd adeiladu yr un presenol, yn ol cynllun Mr. Thomas, Glandwr, gan Mr. J. R. Daniel, Aberteifi. Gorphenwyd y gwaith ac agorwyd y ty newydd Medi 21ain a'r 22ain, 1870. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri I. Williams, Penygroes; S. Evans, Hebron; E. Lewis, Brynberian; J. G. Morris, Trefdraeth ; T. Phillips, Horeb ; J. Davies, Gedeon ; J. Davies, Glynarthen; T. Davies, Llanelli; D. Jones, B.A., Merthyr; I. Williams, Trelech ; T. Thomas, Glandwr, a Dr. W. Rees, Liverpool. Costiodd yr adeilad yn agos i 1,500p. Casglwyd erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad 900p. Mae hwn yn un o'r capeli prydferthaf yn y Dywysogaeth, yn mesur 61 troedfedd wrth 41, a llenwir ef gan gynnulleidfa fywiog a siriol. Mor wahanol yw pethau yma yn awr i'r hyn oeddynt pan adeiladwyd y capel cyntaf. Rhif yr aelodau yn bresenol yw 360. Hyderwn fod gan Mr. Davies, y gweinidog presenol, oes hirfaith o'i flaen fel ei ragflaenydd enwog. Bu y Gymanfa Orllewinol yma yn 1817, a chymanfa nodedig o lewyrchus ydoedd. Darfu i'r dylanwadau grymus a brofwyd yn y gymanfa hono lwyr ymlid ymaith holl olion ac effeithiau yr ymryson diflas a fuasai yn nychu yr eglwys flynyddau cyn hyny, a bu yn foddion i gychwyn diwygiad grymus a bendithiol iawn yma. Cynaliwyd yr ail gymanfa yma yn 1836, ac yr oedd hono hefyd yn rhyfeddol o lwyddianus.
Mae llawer o gymeriadau rhagorol iawn wedi bod yn dal cysylltiad a'r achos hwn o bryd i bryd, a gwragedd duwiol ar gychwyniad yr achos ddarfu hynodi eu hunain fwyaf am eu llafur a'u defnyddioldeb. Mae enwau Esther Phillips, Anne James, Trefigan-lodge; Mally William Evan, Betty Finch, Bet Davies, Lleine, a hen wraig dduwiol y Clun, yn barchus ac anwyl yn yr eglwys hyd y dydd hwn, a dydd y farn yn unig a ddengys pa faint o ddaioni a wnaethant gyda'r achos goreu. Sonir yn barchus hefyd am enwau George Thomas, William Finch, Shon, Rhosfach ; Shon o Felin-y-dyffryn ; Jonah, Rhoshill ; David Beynon Eyans, Cadben David Timothy, ac eraill.
Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon
162
Diaconiaid presenol yr eglwys ydyw Meistri T. Griffiths, Draper ; W. Jones, Pwllhai; A. Morgan, O. Picton Dayies, J. R. Daniel, a John Evans.
DANIEL DAVIES. Ganwyd y gweinidog enwog a defnyddiol hwn mewn amaethdy a elwir Penywern, yn mhlwyf Trewyddel, sir Benfro, yn y flwyddyn 1780. .....................................
163 / 164/ 165
(Tre-main parish)
Capel bychan, ond nodedig o dlws, yw hwn, yn cynwys tua 150 o eisteddleoedd, o fewn tair milldir i Aberteifi, ac heb fod yn mhell o'r brifffordd sydd yn arwain o'r dref hono i Aberaeron. Yr oedd awydd am gael capel Annibynol yn yr ardal hon er's deugain mlynedd, gan nad oedd un capel perthynol i'r enwad yn nes nag Aberteifi a Brynmair, a buasai capel wedi ei adeiladu yma er's blynyddau pe gallesid cael tir i'w adeiladu arno. O'r diwedd daeth tyddyn yn y gymydogaeth yn eiddo i Mr. David Williams, Treferddiuchaf, a rhoddodd ef haner erw o'r tyddyn hwnw at adeiladu capel a lle i gladdu y meirw. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1865, ac y mae Mr. Williams yn garedig wedi rhoddi y lle i'r gynnulleidfa am swllt y flwyddyn ar les o 999 o flynyddau. Cyn gynted ag y cafwyd y capel yn barod corpholwyd yma eglwys o 26 o aelodau, gan mwyaf o Gapel Mair, Aberteifi. Gweinyddwyd y cymundeb cyntaf yma gan yr hen weinidog, Mr. Daniel Davies, Aberteifi. Wedi hyn bu yr eglwys fechan am bum' mlynedd dan ofal gweinidogaethol Mr. W. Davies, canlyniedydd Mr. D. Dayies yn Aberteifi. Bu llafur Mr. Davies yma yn llwyddianus. Yn nhymor i weinidogaeth ef talwyd y geiniog olaf o'r ddau-cant-a-haner o bunau a gostiodd yr adeiladaeth. Yn 1871, rhoddodd Mr. Davies ofal y lle i fyny, a dilynwyd ef yma gan Mr. W. Rees, Llechryd, ac efe yw y gweinidog yn bresenol. Mae yr aelodau yn awr yn 60 o rif, a'r capel yn agos yn llawn bob Sabboth. Mae yr achos bychan hwn mewn agwedd nodedig o lewyrchus.
Yn y flwyddyn 1837, ymsefydlodd Mr. Thomas Lloyd o Hwlffordd yn y dref hon fel masnachydd, a chan ei fod yn aelod ac yn bregethwr gyda'r Annibynwyr, ac yn anwybodus o'r iaith Gymraeg, darfu iddo trwy gymorth Mr. Daniel Davies, gweinidog Capel Mair, wneyd cynygiad ar ddechreu achos Saesonig yma. Cafwyd ychydig bersonau i gefnogi y cynygiad. Adeiladwyd gapel bychan a ffurfiwyd eglwys ynddo. Yn fuan wedi ffurfiad yr eglwys urddwyd Mr. David Phillips o athrofa
In 1837, Mr Thomas Lloyd, Haverfordwest, a businessman settled in this town. He was a member and preacher with the Independents, but had no knowledge of Welsh, and with help from Mr Daniel Davies, Capel Mair, made an effort to set up an English cause here. A few people backed him, a small chapel built and a church formed. Soon after Mr David Phillips, from Rotheram College, came here. After a few years he left for his home area of Cilcennin where he remains, but with no connection to religion. After his departure a call was sent to Mr Richard Hancock, Brecon College, in 1849, he was also here for a few years, then moved to Llanelli, Carmarthenshire. The next minister was Mr R Breeze, but he only stayed for two to three years. In 1861 Mr D Jones was ordained here, he was a student at the time in Mr D Palmer's school in this town. He was here for six years, then went to Neath and is currently in America. Next came Mr J N Richards, a student from Brecon College, he was here from 1869 and 1873, when he moved to Penygroes, Pembrokeshire. Soon after this a call was sent to Mr Lewis Beynon of Bristol, he is the current minister. This has been a small and weak cause from the start, it could not be much different as there is only a small English population in the town, most of them being with the established church if anywhere. There was many gaps of a year or more between one leaving and the other arriving as ministers, Mr Daniel Davies would fill in as minister at those times. Mr T Lloyd, who began the cause with Mr Davies, is still alive in Newport. Monmouthshire. His daughter is the widow of Mr David Duduley Evans, Baptist minister in that town.
[Gareth Hicks: 10 Nov 2008]
Find help,
report problems, and contribute information.
|
Copyright © GENUKI and
Contributors 1996 to date |