Proof read by Yvonne John (April 2008)
Chapels below;
|
|
166
Rotherham yma. Wedi bod am ychydig flynyddau yn weinidog yn y lle, ymadawodd i'w ardal enedigol yn agos i Gilcenin, lle y mae etto, ond heb un cysylltiad rhyngddo a'r weinidogaeth. Wedi ei ymadawiad ef, rhoddwyd galwad i Mr. Richard Hancock, o athrofa Aberhonddu yn y flwyddyn 1849, a bu yntau yma am ychydig flynyddau. Symudodd i Lanelli, sir Gaerfyrddin. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. R. Breeze. Ni bu ei arosiad yntau yn y lle ond o ddwy i dair blynedd. Yn 1861, urddwyd Mr. D. Jones yma, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn ysgol Mr. D. Palmer, B.A., yn dref hon. Bu ef yma tua chwe' blynedd. Symudodd oddiyma i Gastellnedd, ac oddiyno i'r America lle y mae yn bresenol. Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. J. N. Richards, myfyriwr o athrofa Aberhonddu. Bu ef yma o 1869 hyd 1873, pryd y symudodd i Benygroes, sir Benfro. Yn fuan wedi ei ymadawiad ef rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Beynon o Gaerodor, ac efe yw y gweinidog yma yn bresenol. Achos bychan a gwan iawn yw hwn bod wedi bod o'i gychwyniad hyd yn bresenol, ac nis gall lai na bod felly gan nad yw poblogaeth Saesonig y dref ond bechan iawn, a bod y rhan fwyaf o'r cyfryw yn Eglwyswyr, pe byddent yn rhywbeth. Bu amryw gyfnodau o flwyddyn ac ychwaneg rhwng ymadawiad naill a sefydliad y llall o'r gweinidogion uchod. Mr. Daniel Davies fyddai ar yr adegau hyny yn gwasanaethu fel gweinidog yma. Yr oedd ef yn teimlo dyddordeb mawr yn yr achos Saesonig, am yr ystyriai fod bodolaeth Ymneillduaeth yn Nghymru yn y blynyddau dyfodol yn ymddibynu ar gael achosion Saesonig yn mhob tref ac ardal boblog. Yn Saesonig yn y capel hwn y traddododd Mr. Davies y bregeth obaf a bregethwyd ganddo. Mae Mr. T. Lloyd, yr hwn a ddechreuodd yr achos gyda Mr. Davies, etto yn fyw yn y Casnewydd, Mynwy. Merch iddo ef yw gweddw y diweddar Mr. David Dudley Evans, gweinidog y Bedyddwyr yn y dref hono.
(Brongwyn parish)
Saif yr addoldy henafol hwn ar lan y Teifi, yn mlwyf Bryngwyn, o fewn milldir a chwarter i'r gogledd-orllewin o dref Castellnewydd-Emlyn. Yr oedd Ymneillduaeth wedi ymdaenu yn yr ardal hon yn gynar yn yr, ail-ganrif-ar-bymtheg. Yn 1672, cafodd ty John James yn Cenarth ei drwyddedu i fod yn dy cyfarfod i'r Annibynwyr, a chafodd James Davies ei drwyddedu yr un dydd i fod yn bregethwr yn y ty hwnw. Mae yn ddiameu fod pregethu yn beth cyffredin yn anedd-dai y gymydogaeth hon, o bob tu i'r Teifi, yr amser hwnw, ac o'r pryd hwnw hyd yr amser yr adeiladwyd capel y Drewen y waith gyntaf, Nid ydym yn gwybod enwau y tai yn mha rai yn benaf y cynelid y moddion. Pa bryd y ffurfiwyd y dysgyblion yn yr ardal hon yn eglwys a chan bwy y gwnaed hyny sydd anhysbys i bawb yn yr oes hon. Ond pa bryd bynag y ffurfiwyd hi mae yn wybyddus mai cangen o'r fam eglwys yn Llechryd yr ystyrid hi hyd sefydliad Mr. Benjamin Evans yma yn 1779. Yn y flwyddyn 1737, yr adeiladwyd y capel cyntaf yma. Agorwyd ef Gorphenaf 16eg yn y flwyddyn hono, pryd y pregethodd Mr. Henry Palmer, Henllan, oddiwrth Gen. xxviii. 17, a Mr. Lewis Jones oddiwrth 2 Con vi. 18. Cofrestrwyd ef fel ty addoliad yn y mis canlynol i'w agoriad. Rhif yr aelodau y pryd hwnw oedd haner cant o frodyr a thua yr un nifer o chwiorydd. Mae yn ymddangos i Mr. Lewis Jones o Lanedi ymgymeryd a'r weinidogaeth yma
167
ac yn Llechryd y pryd hwn, fel cynorthwywr i Mr. David Sais, ond nid ymddengys iddo aros yma dros flwyddyn neu ddwy o hwyaf, canys cafodd Mr. David Evans ei urddo yn Llechryd i fod yn weinidog i'r ddwy eglwys yn 1739,a thua yr amser hwnw yr ymsefydlodd Mr. Jones yn Mhenybont-ar-ogwy. Yr ydym yn cael ein gogwyddo i dybied mai un genedigol o'r ardal hon ac aelod gwreiddiol o'r eglwys hon oedd Mr. Lewis Jones. Wedi marwolaeth Mr. D. Sais yn 1741, dewiswyd Mr. David Griffiths yn gynorthwywr Mr. David Evans yn Llechryd a'r Drewen. Bu y ddau le dan eu gofal unol hwy hyd farwolaeth Mr. Evans yn 1773, ac yna am ychydig flynyddau dan ofal Mr. Griffiths ei hun. Yn 1779, penderfynodd yr eglwys yn y Drewen ddatod ei chysylltiad gweinidogaethol a Llechryd, a mynu gweinidog iddi ei hun. Yn y flwyddyn hono rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Evans, y pryd hwnw o Hwlffordd. Cydsyniodd yntau a'r alwad ar yr amod iddo gael bod at ei ryddid i draddodi iddynt holl gynghor Duw, fel y credai ac y deallai efe ef. Yn yr amser hwnw yr oedd rhyw gymysgedd rhyfedd wedi dyfod i mewn i'r eglwysi Ymneillduol, yn enwedig yn siroedd Aberteifi, Caerfyrddin, a Morganwg. Yr oedd yn mysg y cymunwyr a'r gwrandawyr, mewn amryw o honynt, Galfiniaid, Arminiaid, Pelagiaid, Ariaid, a rhai yn dechreu gogwyddo at Undodiaeth noeth. Er cadw y cymysgedd hwn yn nghyd heb ymranu i wahanol gynnulleidfaoedd neu enwadau, ystyrid yn angenrheidiol i'r gweinidogion yn eu pregethau gyfyngu eu hunain i ddyledswyddau ymarferol crefydd yn unig, heb gyffwrdd ag un pwngc y gallasai fod gwahaniaeth barn yn ei gylch. Felly y gwneiai llawer o'r gweinidogion, a thrwy hyny ni chlywai eu cynnulleidfaoedd air o ddechreu y flwyddyn i'w diwedd am y pethau a ystyriai y Calfiniaid yn wirioneddau hanfodol yr efengyl. Ystyrid pob gweinidog na chadwai at y rheol hon yn un cul, rhagfarnllyd, anfoneddigaidd, ac yn derfysgwr heddwch y cynnulleidfaoedd. Cydunodd eglwys y Drewen i dderbyn Mr. Evans ar yr amodau a osodasai efe iddynt, ond mae yn debygol fod rhai o'r blaid wrth-Galfinaidd o honynt yn meddwl y buasai ef yn ddigon o wr boneddig i wneyd aberth o bob peth er mwyn heddwch, ond yn hyn camgymerasant eu dyn. Yr oedd Mr. Evans yn wr boneddig yn holl ystyr yr ymadrodd, ond nid ystyriai ef mai boneddigeiddrwydd mewn gweinidog fuasai celu oddiwrth ei wrandawyr yr hyn a ystyriai fel y gwirioneddau pwysieaf yn y Bibl, er mwyn cadw pob math o ddynion yn nghyd yn un gynnulleidfa. Ar y dechreu efe a arferodd lawer o bwyll a doethineb, fel y gallasai, os byddai modd, ennill ei wrandawyr oll un golygiadau ag yntau. Ystyriai mai annoethineb fuasai tarfu neb ymaith os gallesid eu cadw heb fradychu y gwirionedd. A llwyddodd, trwy ei arafwch a'i ddoethineb, gadw y rhan fwyaf o honynt, ond o radd i radd aeth tôn ei weinidogaeth yn rhy efengylaidd i rai i'w goddef, a'r canlyniad fu iddynt ymadael, ond ymadael i roddi lle i'w gwell wnaethant. Yn raddol daeth yr eglwys gymysglyd hon yn un o'r eglwysi iachusaf ei barn yn y Dywysogaeth. Bu gweinidogaeth Mr. Evans yn nodedig o lwyddianus yma, ac yn yr holl wlad oddiamgylch o'r afon Teifi hyd y Ceinewydd a Llangranog. Fel y nodir yn eu lleoedd priodol, ffrwyth ei lafur ef yw y cynnulleidfaoedd lluosog sydd yn awr yn Hawen, Glynarthen, Penrhiw- galed, Pisgah, a Chapel-y-wig. Yn 1814, ail-adeiladwyd capel y Drewen. Traul yr adeiladaeth y pryd hwnw oedd 400p., heb gyfrif cludiad y defnyddiau, a phethau eraill. Cafodd y ty hwn ei adgyweirio yn 1843, a thrachefn yn 1859, dygwyd ef i'w ffurf bresenol trwy draul o 200p. Ni
168
bu yr eglwys hon allan o'i hardal ar un cyfnod o'i hanes yn casglu at dreuliau ei hadeiladaethau, etto cadwai ei drws yn wastad yn agored i apeliadau am gymorth oddiwrth leoedd gweiniaid yn mhob parth o Gymru.
Gan fod maes gweinidogaethol Mr. Evans mor ddirfawr o helaeth, yn cynwys y Drewen, Hawen, Glynarthen, Penrhiwgaled, a Chapel-y-wig, bu raid iddo edrych allan am gynorthwywr yn y weinidogaeth, ac yn 1814, rhoddodd ef a'r eglwysi alwad i'w nai, Mr. Thomas Griffiths, Horeb, i ddyfod yn gynorthwywr iddo. Bu Mr. Griffiths yn cydlafurio a'i ewythr yn yr holl gylch hyd 1818, pryd y cyfododd rhyw deimladau annymunol rhyngddo a rhai o brif aelodau y Drewen, yr hyn a derfynodd yn ei ymadawiad a'r eglwys hon. Bu yr amgylchiad yn ddolur tost i'w deimladau ef a'i ewythr oedranus. Nid ydym ddigon hysbys o holl fanylion yr achos gofidus hwn i allu ei osod yn gyflawn ger bron ein darllenwyr, pe byddai hyny yn fuddiol. Yn gyffredin mewn pob anghydfod y mae rhyw fai neu annoethineb o bob tu, ond pa fodd bynag y bu yn yr achos hwn, mae y ffaith yn hysbys i eglwys y Drewen ymwrthod ag un o'r gweinidogion goreu a fagodd Cymru erioed, ac iddi wrth wneuthur hyny fyned yn mhell i dori calon ei hen weinidog parchus a defnyddiol ar derfyn bywyd hirfaith o lafur llwyddianus. Mae yn dra thebyg i lawer, os nad pawb o'r rhai a gyfodasant yn erbyn Mr. Griffiths, weled eu camgymeriad pan yr oedd wedi myned yn rhy ddiweddar. Gan eu bod oll cyn hyn wedi ymddangos ger bron eu Barnwr, ac fel yr hyderwn, wedi cael maddeuant am yr hyn fu yn feïus ynddynt, ni byddai o un bydd i neb i ni ychwanegu rhagor yn nghylch yr helynt gofidus.
Wedi ymadawiad Mr. Griffiths, ac am ryw faint o amser cyn hyny, nid oedd yr hen weinidog, Mr. Evans, yn alluog i bregethu dim oherwydd cystudd a llesgedd henaint, ond bu fyw hyd 1821. Yn 1819, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Watkin Williams, o athrofa Llanfyllin, ac urddwyd ef yma Mehefin 3ydd, y flwyddyn hono. Nid ydym wedi cael lle i ddeall fod dim ond tri gweinidog yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad, sef Meistri Davies, Aberteifi ; Jones, Saron, a Jones, Trefdraeth. Dichon mai ymddygiad diweddar yr eglwys tuag at Mr. Griffiths, a'u gofal rhag dolurio teimladau yr hen weinidog cystuddiedig, a barodd i'r gweinidogion cymydogaethol beidio dyfod i gyfarfod yr urddiad. Nis gallasai fod ganddynt ddim yn erbyn Mr. Williams, canys yr oedd yn ddyn ieuangc rhagorol ac o gymeriad difai. Ychydig fu tymor gweinidogaeth Mr. W. Williams yma, ond bu yn barchus a llwyddianus iawn yn ei dymor byr. Yn ystod y pum' mlynedd y bu yma derbyniodd ddau-cant-a-deg o aelodau i'r eglwys. Bu farw yn mlodeu eu ddyddiau yn 1824. Bu yr eglwys am bedair blynedd ar ol ci farwolaeth ef yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. 1828, rhoddwyd galwad i Mr. John Phillips, mab Dr. Phillips, Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yma Gorphenaf 31ain, y flwyddyn. hono. Yr oedd chwech-ar-hugain o weinidogion yn wyddfodol yn ei urddiad. Dywedodd ei dad ar ddydd ei urddiad wrth yr eglwys am iddynt beidio bod yn gas wrtho. "Pan flinoch arno,"meddai, " anfonwch ef at Mari ei fam, canys y mae ganddi hi olwg fawr arno, pa beth bynag fydd eich barn chwi am dano."Bu Mr. Phillips yn barchus a llwyddianus iawn yma am yr ychydig amser y caniataodd yr Arglwydd iddo nerth i gyflawni ei weinidogaeth. Yn fuan wedi ymsefydlu yma aeth Mr. Phillips yn lled fynych i bregethu i le a elwir Cilfod, tu arall i'r afon, yn mhlwyf Cenarth, lle yr oedd pregethu lled gyson wedi bod am fwy nag ugain
169
mlynedd, ond trwy ei weinidogaeth boblogaidd ef y rhoddwyd y fath gychwyniad i bethau da yn yr ardal, fel yr adeiladwyd capel Brynseion, ac y ffurfiwyd ynddo eglwys, yr hon sydd mewn rhan yn gangen o'r Drewen. Bu Mr. Phillips yn gweinidogaethu i'r eglwys ieuangc hon cyhyd ag y bu yn y Drewen. Yr oedd eglwys y Drewen yn flodeuog iawn yn nhymor gweinidogaeth Mr. Phillips. Cynwysai tua 600 o aelodau, ac ar y Sabbothau cymundeb nid oedd lle iddynt oll yn y capel fel yr oedd y diaconiaid yn gorfod myned a'r elfenau y tu allan i'r drysau i'r rhai a safent yno. Byddai rhai o'r aelodau y pryd hwnw yn dyfod yno o saith ac wyth milldir o bellder, ac mor rhagorol oedd yr oedfaon hyny fel y teimlent ac y dywedent eu bod yn cael eu talu yn dda am eu trafferth i ddyfod yno. Wedi i Mr. Phillips lafurio yma gyda llwyddiant a pharch anghyffredin am bum' mlynedd, gwaelodd ei iechyd fel y bu raid iddo roddi y weinidogaeth i fyny yn 1833. Wedi ei ymadawiad bu yr eglwys drachefn am tua phedair blynedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, yna rhoddasant alwad i Mr. Stephen Jones, o athrofa Rotherham, gwr ieuangc genedigol o ardal Cilcenin. Urddwyd ef yma Medi 28ain a'r 29ain, 1837. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn wyddfodol ar yr achlysur, ac amryw o honynt yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth: - Meistri O. Owens, Bwlchnewydd; W. Evans, Neuaddlwyd; D. Thomas, Penrhiwgaled; T. Evans, Aberhonddu ; D. Jones, Cydweli; E. Rees, Brynseion; J. Evans, Penygroes; S. Griffiths, Horeb; T. Griffiths, Hawen; D. Davies, Pantteg; D. Davies, Llundain, ac eraill. Ni bu arosiad Mr. Jones yma ond dros flwyddyn neu ddwy; ymadawodd ac ymsefydlodd fel masnachydd yn Erwood, Brycheiniog, lle y mae hyd yn bresenol. Mae yn parhau i bregethu yn achlysurol, ac yn ddyn o gymeriad difrycheulyd. Yn y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Jones, o sir Gaernarfon, yr hwn a fuasai yn perthyn Methodistiaid Calfinaidd. Wedi ymuno a'r Annibynwyr bu am ychydig amser yn Dublin yn derbyn addysg dan arolygiad Dr. Urwick. Urddwyd ef yn y Drewen, Rhagfyr 24ain, 1840. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan Meistri Davies, Glandwr; Davies, Aberteifi; Jones, Glynarthen ; Evans, Penygroes; Griffiths, Horeb, ac eraill. Bu ef yn dal cysylltiad gweinidogaethol a'r lle hwn am oddeutu deng mlynedd, ac am rai blynyddau bu yn lled lwyddianus a pharchus, ond yn hir cyn diwedd ei oes yr oedd pob cysylltiad rhyngddo a'r weinidogaeth wedi darfod. Wedi ei ymadawiad ef bu yr eglwys drachefn tua thair blynedd heb weinidog sefydlog. Yn ngwanwyn 1853, rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, o Dalysarn, sir Gaernarfon. Un genedigol o sir Gaerfyrddin yw Mr. Jones, ac yn athrofa Caerfyrddin yr addysgwyd ef. Bu ef yn weinidog yn y Drewen a'r cangenau yn Bethesda a Bryngwyn o fis Mai 1853 hyd fis Medi, 1865, pryd yr ymfudodd i'r America. Yr oedd eglwys y Drewen pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma wedi lleihau yn fawr oherwydd ffurfiad y cangenau yn Bethesda a Bryngwyn, fel nad oedd rhif yr aelodau yn y fam eglwys yn 1853 ond 250. Yn mhen tua blwyddyn wedi ymadawiad Mr. D. Jones, rhoddwyd galwad i Mr. T. Selby Jones, y gweinidog presenol. Gan nad oedd y pryd hwnw wedi gorphen ei amser yn athrofa Aberhonddu, arosodd yr eglwys iddo i'w orphen, âc felly ni chafodd ef ei urddo cyn Medi 20fed, 1867. Yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion y sir, ac amryw o siroedd eraill, yn bresenol yn yr urddiad. Nid ydym yn gwybod am unrhyw gyfnewidiad neillduol sydd wedi cymeryd lle yn amgylchiadau
170
yr achos yma yn nhymor gweinidogaeth y gweinidog presenol. Gellir disgwyl yn naturiol fod llawer o gymeriadau rhagorol wedi bod yn dal cysylltiad ag eglwys henafol a lluosog fel hon o bryd i bryd, ond ni oddefa ein terfynau i ni wneyd ychwaneg na chrybwyll enwau ychydig o honynt. David Davies, Penybwliaid, oedd ddyn o ysbryd hynaws iawn, ac yn dra gofalus am gydweithredu a'r eglwys yn wastadol. Daniel Jones, y Porth, oedd ddyn da a chymeradwy. Bu ei borth ef am lawer o flynyddau yn agored i dderbyn cenhadau Crist o ba le bynag y deuant. Phillip Davies, masnachydd, Castellnewydd-Emlyn, oedd yn enwog am ei gallineb, ei ffyddlondeb, a'i wasanaeth i'r achos. Mae ei fywyd pur yn perarogli hyd heddyw, a'i goffadwriaeth yn fendigedig. David Morris, Blaensilltin, oedd wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac o fywyd hollol ddiargyhoedd. Josuah Griffiths, Penalltgeriuchaf, a fu yn arweinydd ffyddlon i'r eglwys am flynyddau lawer. Yr oedd ei ddylanwad yn yr eglwys a'r ardal yn ddirfawr ar gyfrif ei alluoedd a'i dduwioldeb. Claddwyd ef yn mynwent y Drewen Medi 8fed, 1853, ac y mae yr englyn canlynol i'w weled yno ar ei gareg fedd: -
"Hil Griffiths hael a graffant - draw oesau,
O draserch hwy deimlent
Yn foddus pan ganfyddant
Hyn o son am yr hen sant."
At y rhai uchod gellid ychwanegu enwau Lewis Evans, John Jones, David Davies, John Williams, Dayid Jones, ac amryw eraill. Y diaconiaid presenol ydyw David Evans, Cwmcoy, yr unig un o'r rhai a dderbyniwyd gan Mr. Evans sydd wedi ei adael yn weddill gan angau ; Owen Davies, Llwynbedw; David Jones, Clinte; John Davies, Parc; Rees Rees, Thomas Jones, a Richard James.
Cyfodwyd yma lawer o bregethwyr o bryd i bryd. Cynwysa y rhestr ganlynol enwau amryw o honynt, ond mae yd dra sicr ei bod yn mhell o fod yn gyflawn :-
171
Mae y fam eglwys yn y Drewen yn parhau yn gref er cynifer o gangenau sydd wedi myned allan o honi o'r dechreuad hyd yn bresenol. Rhifa yr aelodau yn awr rhwng dau cant a haner a thri chant. Mae y capel yn sefyll ar ddarn o dir a roddwyd i'r eglwys, yn 1814, gan John Griffiths, Ysw., Penywenallt, ar lês o 900 o flynyddau am swllt y flwyddyn o ardreth. Gan nad oedd tir wrth y capel at gladdu y meirw, prynodd yr eglwys yn 1845 ddarn o dir tua chwarter milldir oddiwrth y capel at gladdu y meirw. Mr. Owen Davies, Llwynybedw, a werthodd y tir hwn i'r eglwys am driugain punt. Dylem grybwyll hefyd fod ysgoldy cyfleus wrth y capel, a bod y capel, yr ysgoldy, y fynwent, a'r cwbl a berthyn i'r achos, yn rhydd o ddyled. Mae yma gynnulleidfaoedd lluosog yn gwrandaw, ac ysgol Sabbothol flodeuog. *
BENJAMIN EVANS. Ganwyd ef mewn lle a elwir Ffynonadda, yn mhlwyf Melyne, sir Benfro, Chwefror 23ain, 1740. Yr oedd ei dad, Daniel Evans, yn aelod selog ac yn ddiacon gyda'r Bedyddwyr, a'i fam, yr hon oedd yn ddynes rhagorol iawn, yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Brynberian. ..................................
*Llythyr Mr. T. Selby Jones.
172 / 173 / 174
WATKIN WILLIAMS. Ganwyd ef yn Ninbych yn y flwyddyn 1792. .........................
175
JOHN PHILLIPS. Oedd fab i Dr. Thomas Phillips, Neuaddlwyd. Ganwyd ef yn Mhenybanc, yr anedd lle y treuliodd ei rieni eu hoes, Mehefin 30ain, 1805. ...............................
176
ROBERT JONES. Ganwyd yn Ty'nyllan, yn mhlwyf Llanddeiniolen, yn sir Gaernarfon, yn y fiwyddyn 1811. ..............................
(Llandygwydd parish)
Mae y capel hwn tua thair milldir i'r gogledd-orllewin o'r Drewen, yn mhlwyf Llandygwydd, yn agos i bentref bychan a elwir Ponthirwaen. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1840. Yn yr amser hwnw yr oedd y cymunwyr yn y Drewen lawer yn rhy luosog i'r capel eu cynwys, ac amryw o'r aelodau oedranus yn yr ardal hon yn teimlo fod y ffordd yn mhell iawn iddynt i fyned yno bob Sabboth. Aed i edrych allan am dir i adeiladu capel yma. Trwy ddylanwad Mr. Lewis Lloyd, Penalltybie, a Mr. Evan Davies, Tafarnybugail, cafwyd addewid am ddarn o dir cyfleus gan W. H. W. Parry, Ysw., o'r Neuadd. Pan glywodd gelynion Ymneillduaeth am y mudiad, gwnaethant eu goreu i gael gan Mr. Parry i alw ei addewid yn ol, ond mewn modd teilwng o foneddwr gwrthododd wneyd hyny a
177
rhoddodd lês ar y tir. Yn ddioed wedi llawnodi y lês aed at y gwaith o adeiladu, a chyfodwyd yma gapel digon maws i gynwys pedwar cant o gynnulleidfa. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad Mehefin 15fed a'r 16eg, 1841, pryd y gweinyddwyd gan Meistri Evans, Hebron; Jones, Glynarthen; Rees, Brynseion ; Rees, Maenygroes; Jones, Saron; Jones, Ty'nygwndwn; Jones, Cilcenin ; Davies, Aberteifi, ac eraill. Wedi cael y capel yn barod ffurfiwyd yma eglwys o agos i ddau cant o aelodau y Drewen. Mr. Lewis Lloyd, Penalltybie, oedd yr unig ddiacon o'r Drewen a ddaeth yma, ond wedi agoriad y capel etholwyd dau eraill i'r swydd yn yr eglwys newydd, sef Mr. Evan Davies, Tafarnybugail, a Mr. Thomas Jones, Ffynoncripil. Mae Mr. Davies yn dal ei swydd yma hyd yn awr, a Mr. Jones wedi symud i ardal Llechryd, ac yn ddiacon defnyddiol yno. Wedi hyny dewiswyd Rees Jones, John Williams, a John Jones yn ddiaconiaid, ond y mae y tri wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Y diaconiaid yn bresenol ydyw Meistri Evan Davies, Stephen James, John Jones, Samuel Jones, Daniel Jones, a John Evans, ond mae y diweddaf wedi symud i Aberteifi. Cafwyd yma ddiwygiad grymus iawn yn y flwyddyn 1859 a'r un ganlynol, pryd yr ychwanegwyd ugeiniau at yr eglwys. Rhif yr aelodau yn bresenol yw yn agos i ddau cant. Dan yr un weinidogaeth a'r Drewen y mae yr eglwys hon wedi bod o'r dechreuad. Yn y flwyddyn 1870, rhoddwyd tô newydd ar y capel, a chafodd ei adgyweirio a i wellhau yn fawr oddifewn.
Un pregethwr a gyfodwyd yma, sef Mr. Josiah Jones, Machynlleth.
(Bettws Ifan parish)
Mae y capel hwn yn mhlwyf y Bettws, ar fin y ffordd o Gastellnewydd i Aberporth, ac o fewn llai na dwy filldir i'r Drewen. Yn 1841, adeiladodd eglwys y Drewen ysgoldy yma at gadw ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol. Cafwyd y tir ar ba un y saif yr addoldy hwn ar lês o 900 o flynyddau gan John Lewis, Ysw., Glenview. Y mae yma fynwent helaeth yn nglyn a'r capel. Trwy ymdrechion Mr. Josuah Griffiths, Penalltgeriuchaf, un o ddiaconiaid y Drewen, y cyfodwyd y ty cyntaf yma. Yn y flwyddyn 1867, tynwyd yr hen dý i lawr ac adeiladwyd yma gapel hardd. Cymerodd Mr. David Evans, Cwmcoy, y diacon hynaf yn y Drewen, ran neillduol gyda'r adeiladaeth. Mae aelodau yr eglwys hon wedi mwy na dyblu yn ystod y saith mlynedd diweddaf. Y diaconiaid ydyw Meistri Joseph Evans, Bryn, a John James, Ddolgoch. Mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r Drewen y mae yr achos hwn wedi bod o'i gychwyniad hyd yn bresenol. Mae yr achos mown agwedd gysurus.
(Troed-yr-aur parish)
Saif y capel hwn ar fan prydferth yn nyffryn Troedyraur, yn agos i bentref bychan Rhydlewis. Nid oes sicrwydd pa bryd y dechreuwyd yr achos yn y lle hwn. Mae yn debyg fod rhai o aelodau y Drewen yn byw yn yr ardal hon er dechreuad yr aches yn y lle hwnw, a'r traddodiad yw
178
mai aelodau o'r Drewen nad allent archwaethu yr athrawiaeth a bregethid yno, ddarfu ymneillduo a chychwyn achos yma. Nid ydym yn canfod un rheswm dros ameu cywirdeb yr traddodiad hwn, oblegid mae yn ddigon hysbys fod udgorn y weinidogaeth mewn llawer o bulpudau Ymneillduol yn rhoddi allan sain anhynod tua chanol y ganrif ddiweddaf, a bod amryw o'r aelodau agos yn mhob cynnulleidfa yn anghymeradwyo dull anefengylaidd eu gweinidogion o bregethu. Felly yn ddiameu yr oedd yn y Drewen. Ond pa bryd yr ymneillduodd yr aelodau yn yr ardal hon oddiwrth y fam eglwys sydd anhysbys. Yr ydym yn tybied mai ryw amser rhwng 1740 a 1760 y cymerodd hyn le, oblegid mai yn y blynyddoedd hyny yn benaf y daeth cymysgedd golygiadau ar athrawiaethau yr efengyl i beri blinder amlwg a lled gyffredinol i'r eglwysi. Nid oes un sicrwydd fod ychwaneg na dau neu dri o weinidogion Ymneillduol yn Nghymru yn pregethu Arminiaeth neu Belagiaeth noeth cyn y flwyddyn 1740, ond o'r flwyddyn hono allan ymdaenodd y lefain yn fwy cyffredinol ac amlwg, nes nad oedd ond ychydig iawn o'r hen eglwysi yn rhyddion hollol oddiwrtho. Dywedir bobl Hawen fod yn addoli am rai blynyddau mewn anedd-dy bychan yn y gymydogaeth cyn adeiladu yr addoldy cyntaf, yr hwn a adeiladwyd yn 1769. Mae traddodiad yn y gymydogaeth o berthynas i'r achos hwn fel y canlyn: - Bod yr achos ar un adeg yma wedi myned mor isel, yr aelodau mor ychydig o rif, a nifer y gwrandawyr mor lleied, fel y cynghorid y ddeadell fechan i roddi y cwbl i fyny a chau y drws. Mewn cyfarfod gweinidogion (yn Glynarthen, medd ein hysbysydd), anogid y cyfeillion wneyd felly, ond yr oedd Mr. David Davies, Hawen, yr hwn oedd wedi bod hyd yma yn brif golofn yr achos, yn anfoddlon iawn i'r meddwl am ei adael i farw. Pan oedd y gweinidogion o un i un yn dyweyd mai gwell fuasai rhoddi y lle i fyny, cyfododd Mr Jonathan Jones, Rhydybont, ac adroddodd Caniad. viii. 8, - "Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronau iddi : beth a wnawn i'n chwaer y dydd y dyweder am dani ?" Yna traethodd ychydig o ymadroddion ffraeth a chyffrous yn erbyn y syniad o adael y chwaer fechan yn Hawen i farw o eisiau ymgeledd. Ar hyny distawodd pawb, a phenderfynwyd gwneyd y goreu dros yr achos gwan. O hyny allan aeth yr achos ar ei gynydd yn barhaus nes y mae er's ugeiniau o fiynyddau bellach yn un o'r achosion mwyaf llwyddianus yn y Dywysogaeth. Mae yn ddigon posibl fod y traddodiad hwn yn gywir, ond nid ydym yn credu i'r achos fod yn yr agwedd isel a ddarlunir wedi i Mr. B. Evans, Drewen, gymeryd ei gofal tua 1779, ac ni allasai y cyfarfod gweinidogion, yn yr hwn y bu yr achos dan sylw, gan hyny, gael ei gynal yn Glynarthen, oblegid nid oedd capel y Glyn wedi ei adeiladu yn hir ar ol hyny. Mae yn ddigon tebygol mai pan yr oeddid yn addoli yn y ty anedd, neu yn y capel cyntaf yn Hawen, cyn dechreuad gweinidogaeth Mr. Evans, y bu hyn, a dichon mai yr amgylchiad hwn a barodd iddo ef gymeryd gofal yr achos bychan mewn cysylltiad a'r Drewen. Y gweinidogion a ddeuent i Hawen fynychaf cyn i'r lle fyned dan ofal Mr. Evans, oeddynt Meistri John Davies, Trelech ; Lewis Lewis, Pencadair, ac Evan Davies, o'r Cilgwyn, o bosibl. Tynewydd Troedyraur y gelwid y capel cyntaf yma, a Rhydhawen y gelwid yr ail gapel, yr hwn a adeiladwyd yn 1790. Bu yma ddiwygiad grymus iawn tua yr amser yr adeiladwyd yr ail gapel. Yn y flwyddyn 1804, y dechreuwyd claddu yn y fynwent wrth gapel Hawen. Yn 1810, torodd diwygiad effeithiol allan yma drachefn, ac ychwanegwyd amryw ugeiniau at yr eglwys hon a'r
179
eglwysi cymydogaethol. Yn 1811, adeiladwyd yr addoldy y drydedd waith ar ddarn o dir newydd a brynwyd er helaethu y fynwent. Mae y capel presenol, yr hwn a adeiladwyd tua deng-mlynedd-ar-hugain yn ol, y pedwerydd i'r gynnulleidfa hon i'w adeiladu er 1769. Wedi i Mr. B. Evans barhau i wasanaethu y gynnulleidfa hon, a'r tair cynnulleidfa arall, gyda diwydrwydd a llwyddiant mawr am bymtheng-mlynedd-ar-hugain, teimlodd fod pwys y gwaith, eangder y cylch, a llesgedd henaint, yn ei analluogi wneyd ei wasanaeth yn effeithiol, ac felly yn 1814, dymunodd ar yr eglwysi am gyduno ag ef i gael gwasanaeth ei nai, Mr. Thomas Griffiths, Horeb, fel cynorthwywr iddo, a chydsyniasant. Ymsefydlodd Mr. Griffiths yma y flwyddyn hono fel cynorthwywr i'w ewythr. Yn y flwyddyn 1818, ar anogaeth Mr. Evans a Mr. Griffiths, dewisodd Penrhiwgaled a Chapel-y-wig weinidog iddynt eu hunain, ac yn yr un flwyddyn darfu cysylltiad Mr. Griffiths a'r Drewen. O hyny allan cyfyngodd ei lafur i Hawen a Glynarthen, ond ni bu y ddwy eglwys hyn yn hir cyn ymledu nes yr oeddynt wedi myned yn bedair, rai blynyddau cyn ei farwolaeth ef. Un eglwys yr ystyrid Hawen a Glynarthen am fwy na thriugain mlynedd, a chynelid y cyfarfodydd cymundeb bob yn ail yn y ddau gapel, ond erbyn y flwyddyn 1824, yr oedd yr aelodau wedi myned mor lluosog fel nas gallasai un capel eu cynwys ar y cymundeb, ac felly penderfynwyd yn heddychol i ranu y gymdeithas i ddwy eglwys, un yn Hawen a'r llall yn y Glyn, ond yr oeddynt i barhau dan yr un weinidogaeth. Bu Mr. Griffiths mor ryfeddol o lwyddianus fel yr oedd y cymunwyr yn ei gylch gweinidogaethol cyn terfyn ei oes ef yn rhifo o 700 i 750, a'r ysgolion Sabbothol yn 900. A chofier mai nid mewn tref boblog, neu yn nghanol pentrefydd mawrion, ond mewn gwlad amaethyddol, a chymharol deneu ei phoblogaeth y bu hyn.
Yn mhen ychydig fisoedd wedi marwolaeth Mr. Griffiths yn 1838, rhoddodd yr eglwysi yn Hawen a Glynarthen alwad Mr. William Jones, Pwllheli. Wedi i Mr. Jones fod yn gwasanaethu yr eglwysi hyn yn ffyddlon a llwyddianus am ddwy-flynedd-ar-hugain, rhoddodd ofal Hawen a Bryngwenith i fyny yn 1860, a chyfyngodd ei lafur o hyny allan i'r Glyn a Brynmoriah. Yn mis Gorphenaf, yr un flwyddyn, rhoddodd yr eglwysi yn Hawen a Bryngwenith alwad i Mr. John Williams, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Hawen yn mis Awst, y flwyddyn hono. Y mae Mr. Williams yn parhau i lafurio yma gyda ffyddlondeb, llwyddiant, a chysur hyd yn bresenol. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Williams yma prynodd eglwys Hawen ddarn helaeth o dir at helaethu y fynwent, yr hon oedd wedi llenwi yn fawr. Costiodd y tir ychwanegol 160p., ond casglwyd digon i dalu am dano yn ddioed. Bwriedir yn fuan adgyweirio y capel, yr hwn, er ei fod yn adeilad eang, cadarn, a phrydferth, sydd yn galw am adgyweirio.
Mae nifer luosog o ddynion nodedig o ragorol am eu sel, eu llafur, a'u galluoedd, wedi bod yn aelodau o'r eglwys hon ar wahanol adegau. Crybwyllasom eisoes am enw David Davies, yr hwn fu yn eiriol am beidio gadael yr achos yma farw yn ei wendid. Buasai yn dda genym allu rhoddi ychydig o hanes y gwr ffyddlon hwn, ond o ddiffyg defnyddiau nis medrwn. Mae enw Mr. Nathaniel Griffiths, Pantybrain, yn deilwng o'i goffau gyda'r parch mwyaf. Dywedir fod ef yn ddyn da iawn, yn grefyddwr ffyddlawn a gwresog, ac yn wr cyfoethog, a digon o ras ganddo i ddefnyddio ei gyfoeth er gogoniant Duw a lles dynion. Bu yn ymdrech-
[Gareth Hicks: 4 June 2008]
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes, and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark. |