Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru. (History of the Welsh Independent Churches)

hide
Hide

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+) From the CD published by Archive CD Books

CARDIGANSHIRE section (Vol 4)

Pages  194 - 209

See main project page

Proof read by Yvonne John (April 2008)

Chapels below;

  • (Continued) BEULAH (Bettws Ifan parish)
  • HOREB (Llandysul parish) (with translation)
  • CARMEL  (Llandysul parish) (with translation)

Pages  194 - 209

194

(Continued) BEULAH (Bettws Ifan parish)

Bowen, Ysw., Troedyraur, ac adeiladwyd capel Beulah arno yn 1860. Yn y flwyddyn hono rhoddodd Mr. Jones, Glynarthen, ofal y lle i fyny, ac yna unodd yr eglwys hon ag eglwys Brynmair i roddi galwad i Mr. Thomas, y gweinidog presenol. Goddefwyd y gynnulleidfa i gadw Glandwr tra y buwyd yn adeiladu Beulah. Gorphenwyd adeiladu y capel yn 1861. Costiodd 300p., er cael cludiad y defnyddiau ato yn rhad, ond talwyd am dano yn fuan heb fyned nemawr allan o'r ardal i gasglu. Cyn fod y capel wedi ei gwbl orphen bu raid i'r gynnulleidfa ymadael o Glandwr, am fod y perchenog mewn brys mawr am gael meddiant o'r lle. Felly symudwyd i Beulah Mawrth 10fed, 1861. Er yn ddiau fod perchenog Glandwr yn meddwl drygu yr achos wrth ymlid y gynnulleidfa oddiyno, ond ei wasanaethu yn fawr fu yr effaith, oblegid wedi cael capel hardd a chyfleus cynyddodd y gynnulleidfa yn fawr, ac ychwanegwyd ugeiniau yn fuan at yr eglwys. Wedi ymlid yr Ymneillduwyr o Glandwr, amcanwyd troi y lle hwnw i fod o ryw wasanaeth i'r Eglwys Wladol. Anfonwyd am rai offeiriaid i ddyfod yno i draddodi rhyw fath o ddarlithiau er mwyn goleuo trigolion y gymydogaeth, y rhai y tybid eu bod yn byw mewn tywyllwch mawr. Wedi cael dwy neu dair o'r darlithiau hyny, rhoddwyd y cynllun heibio am fod pobl yr ardal naill ai yn rhy dywyll i werthfawrogi y darlithiau neu yn rhy oleuedig i gael un budd oddiwrthynt. Yn y flwyddyn 1872, cafwyd darn o dir at fynwent gan J. Bowen, Ysw., Troedyraur. Yr oedd y boneddwr hwn yn Eglwyswr efengylaidd, ac yn selog dros ei Eglwys, ond yr oedd yn ddigon crefyddol a goleuedig i fod yn rhydd a charedig tuag at enwadau eraill. Perchid ef yn fawr gan bawb a'i hadwaenai fel dyn da a christion syml. Byddai ef a'i foneddiges yn dyfod yn fynych i wrandaw i Beulah. Talent am eisteddle yno, a chyfranant yn gyson at y weinidogaeth. Buwyd yn cynal cyfarfodydd gweddio yn ei balas ef bob pythefnos am flynyddau, a chafwyd yno lawer o gyfarfodydd nefolaidd iawn. Yr oedd awydd ar y gynnulleidfa am gael tir at gladdu wrth y capel, ond yr oedd ar bawb o honynt ofn gofyn i Mr. Bowen am dano rhag iddo ddigio. Ond un diwrnod gofynodd ef i Mr. Thomas, y gweinidog, a garent hwy gael tir claddu. Atebodd yntau y buasent yn ddiolchgar iawn am dano os gwelsai ef yn dda ei roddi. Yna gofynodd iddo pa faint a welai yn dda ei roddi, ac ar ba amodau. "O," ebe yntau.; "chwi gewch faint a fynoch ar lês o 99 o flynyddau am swllt y flwyddyn." "Mae hyny yn dda iawn," ebe Mr. Thomas, "ond y mae 99 o flynyddau yn amser lled fyr ar dir claddu, am y bydd ar y meirw ei eisiau i orphwys ynddo yn hwy na hyny." "O wel," ebe y boneddwr, "chwi a'i cewch ef dros byth." Diolchwyd yn wresog iddo am ei garedigrwydd. Yna anturiwyd gofyn iddo am gael y tir yr oedd y capel arno ar yr un amodau, a chafwyd ef. Wedi hyny gwnaeth Mr. Bowen bob brys i barotoi y weithred er trosglwyddo y tir yn feddiant i'r eglwys. Aeth i lawr i Aberteifi lawnodi y weithred, ac yn fuan wedi hyny bu farw. Bydded heddwch i'w lwch.

Mae golwg obeithiol iawn ar yr achos yma yn awr. Mae y cynnulleidfaoedd yn lluosog ar y Sabbothau, yr ysgol Sabbothol yn effeithiol, a'r eglwys yn cynyddu yn ei hysbryd haelionus o flwyddyn i flwyddyn, a rhai beunydd yn dyfod yn ymgeiswyr am aelodaeth. Ond teimlir fod yr achos yn cael ei wanychu i raddau oherwydd fod cynifer o ieuengctyd yr ardal yn symud beunydd oddiyma i weithfaoedd siroedd Morganwg a Mynwy.

195

Un yn unig a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon, sef Mr. Samuel Griffiths, yr hwn a addysgwyd yn athrofa Caerfyrddin, ac sydd yn bresenol yn weinidog yr eglwys Saesonig yn Abersychan, Mynwy.*

HOREB

(Llandysul parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llandysul, a thua dwy filldir i'r gogledd-orllewin o'r pentref ac Eglwys y plwyf. Cangen o Bencadair yw yr achos hwn, ac y mae yn agos, os nad yn hollol, cyn hyned a'r fam eglwys. Dan ofal Mr. Stephen Hughes yr oedd yr holl Ymneillduwyr yn y parth hwn o'r wlad o 1662 hyd amser ei farwolaeth yn 1688. Byddai Mr. Hughes yn pregethu yn fynych yn mhlwyf Llandysul yn nhymor yr erledigaeth o 1662 hyd derfyn ei oes, ond nis gwyddom yn mha le neu leoedd y pregethai yma yn yr amser enbyd hwnw. Mae yn dra thebygol fod llawer o Ymneillduwyr yn y plwyf hwn oddiar amser y Werin-lywodraeth. Yr oedd Mr. Jenkin Lloyd, M.A., mab David Lloyd, Ysw., o'r Tairdref-fawr, yn weinidog y plwyf hwn yn amser Cromwell, a chyn hyny. Yr oedd ef yn weinidog galluog ac efengylaidd iawn. Yr oedd yn un o'r rhai a osodwyd i brofi a chymeradwyo dynion cymwys i fod yn bregethwyr cyhoeddus dan y weithred seneddol a basiwyd yn nechreu 1650, er taenu yr efengyl yn Nghymru, ac ni buasai neb ond dynion o syniadau Puritanaidd yn cael yr anrhydedd hwnw gan y senedd. Gan fod Mr. Lloyd yn ddyn mor enwog, yn buritan, ac yn fab i dir feddianwr parchus o'r plwyf, mae yn rhaid fod ganddo ddylanwad mawr yma, ac iddo ennill llawer i'r ffydd yn y lle. Mae yn debygol iddo ef farw cyn adferiad Siarl II. yn 1660, ac yna disgynodd y gofal o borthi ei ddysgyblion ef ar Mr. Stephen Hughes. Cyfeiriasom yn hanes Penrhiwgaled at yr anghydfod a gyfododd rhwng Mr. Thomas David Rees a Mr. Hughes oherwydd fod Mr. Hughes yn myned i wrandaw i Eglwys y plwyf. Gan i Mr. Rees yn yr ymryson hwnw fyned yn Fedyddiwr, ac ennill rhai o'r Ymneillduwyr yn y parthau hyn i ddilyn ei esiampl, mae yn sicr fod yr Ymneillduwyr yma yn nhymor yr erledigaeth yn ddau enwad. Yr oedd yn mhlwyf Llandysul yr amser hwnw un John James yn pregethu gyda'r Bedyddwyr, a bu yn ddyoddefydd mawr yn achos ei grefydd. Mae yn dra sicr i'r Annibynwyr hefyd orfod dwyn eu rhan o'r tywydd garw yma y pryd hwnw; ond y mae eu hanes hwy a'u dyoddefiadau agos yn hollol anhysbys i ni o 1662 hyd 1698. Dywedir eu bod y flwyddyn hono yn addoli dan dderwen yn agos i amaethdy a elwir Pantgwyn. Nid oes un sail i feddwl mai oherwydd unrhyw erledigaeth yr addolent dan y dderwen yn 1698, oblegid yr oedd rhyddid crefyddol i'r Ymneillduwyr i addoli lle y mynent y pryd hwnw. Y peth mwyaf tebygol ydyw, mai yn y Pantgwyn yr addolent, a'u bod ar dywydd teg, oherwydd fod y torfeydd yn lluosog a'r ty yn rhy fychan i'w cynwys, yn addoli allan dan y dderwen er mwyn cyfleusdra. Yn mhen rhyw amser wedi 1698, o bosibl tua 1700, adeiladwyd addoldy bychan yn Mhantycreuddyn, ar dir Gellifarharen, a symudodd y gynnulleidfa o'r Pantgwyn yno; ac yn Mhantycreuddyn y buont yn addoli am o leiaf bedwar ugain mlynedd. Dan yr un weinidogaeth a Phencadair y bu

* Llythyr Mr. Thomas.

196

yr achos hwn trwy yr oll o'r ddeunawfed ganrif, a chyn hyny. Tua y flwyddyn 1722, neu y flwyddyn ganlynol, cyfododd ychydig o derfysg yn yr eglwys yn Mhantycreuddyn. Yr oedd gwr iauangc o'r eglwys hon o'r enw Jenkin Jones yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, a thra yno mabwysiadodd olygiadau Arminaidd neu Belagaidd, ac yn mhoethder ei sel dros ei olygiadau newyddion gwnaeth newidiad ei farn yn hysbys i amryw. Yr oedd ei weinidog, Mr. James Lewis, Pencader, yn wrthwynehydd selog i Arminiaeth, ac y mae yn ddiameu fod mwyafrif mawr o'r aelodau yn Mhencadair a Phantycreuddyn yn Galfiniaid yr un fath a'r gweinidog. Yr ydys hefyd i gofio fod Arminiaeth y pryd hwnw yn beth hollol newydd i eglwysi Ymneillduol Cymru, a'u bod yn edrych arno fel cyfeiliornad gwenwynig iawn. Felly pan aeth y son allan fod Jenkin Jones yn Arminiad nid oedd boddlonrwydd iddo gael pregethu yn ei fam eglwys. Ond pan ddychwelodd adref o'r athrofa, yn adeg un o'r gwyliau, daeth y peth i brawf. Yr oedd yn naturiol i'w berthynasau, ac yr oedd llawer o honynt yn aelodau yn Mhantycreuddyn, ddymuno iddo gael pregethu, tra yr oedd y rhai a ddygent sel dros yr hyn a ystyrient yn athrawiaeth iachus yn erbyn iddo gael pregethu o gwbl. Pa fodd bynag, ar un boreu Sabboth aeth i'r areithfa yn Mhantycreuddyn, a phan ddaeth Mrs. Lewis, gwraig y gweinidog, i fewn a'i weled ef yn yr areithfa, cyfododd ac aeth allan.   Achosodd hyn gryn deimlad a chynwrf. Yr amser hwnw hefyd byddai symiau o arian yn dyfod i bob un o'r hen eglwysi o'r Funds yn Llundain, ac ystyrid fod hawl gan y myfyrwyr yn gystal a'r gweinidogion i gyfran o honynt. Gwrthodid i Jenkin Jones gael cyfran o'r arian a ddaethai i Bantycreuddyn, oblegid ei Arminiaeth, a hyny, yn nghyda'r gwrthwynebiad iddo gael pregethu yno, a arweiniodd yn y diwedd i rwygiad yr eglwys. Mae yn ymddangos fod Jenkin Jones yn wr ieuangc talentog a doniol iawn, ac nas gallusai fod gan neb ddim yn ei erbyn ond ei Arminiaeth. Felly darfu iddo yn raddol ennill plaid yn ei fam eglwys i sefyll drosto ef a'i olygiadau. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa daeth adref a phriododd etifeddes o gryn gyfoeth yn ei ardal enedigol. Ychwanegodd hyny lawer at y dylanwad oedd ganddo yn barod. Pan na chydunid i roddi derbyniad iddo fel pregethwr yn Mhantycreuddyn, adeiladodd addoldy Llwynrhydowen, ar ei dir ei hun, tua dwy filldir neu lai o Bantycreuddyn, ac ymadawodd rhan o'r gynnulleidfa gydag ef i'r capel newydd, lle yr urddwyd ef yn weinidog yn 1726. Am ddim a wyddom ni yn amgen bu heddwch yn teyrnasu yn Mhantycreuddyn am flynyddau lawer wedi yr ymraniad hwn. Ond tua y flwyddyn 1770 daeth Mr. William Perkins yn weinidog Bencadair a Phantycreuddyn, ac ni bu ei arosiad yn eu mysg yn hir cyn i'r ddwy eglwys fyned yn derfysglyd ac anedwydd yn ei achos. Yr oedd yn ddyn galluog iawn o gorph a meddwl, ond un o gymeriad moesol lled amheus ydoedd. Rhyw amser rhwng 1775 a 1778, aeth yr anghydfod y fath yn Mhantycreuddyn fel yr ymadawodd y rhan fwyaf o lawer o'r aelodau a'r gwrandawyr, gan adael yr hen gapel i Mr. Perkins a'r ychydig bobl a ymlynent wrtho. Ond wedi ymadawiad y bobl hyn a wrthwynebent Mr. Perkins aeth yr achos yno yn fuan i'r dim, ac ymadawodd yntau a'r lle. Mae yn debygol i'r bobl a ymadawsant a'r capel fod yn addoli mewn anedd-dai am dymor, ac iddynt ar ol ymadawiad Mr. Perkins ddychwelyd i hen gapel Pantycreuddyn hyd nes yr adeiladwyd Horeb yn y flwyddyn 1784, mewn man mwy cyfleus o'r ardal. Bu Mr. Benjamin Jones, Pencadair, yn gweinidogaethu iddynt cyhyd ag yr arosodd yn

197

Mheneadir, ac ar ei ymadawiad ef rhoddodd pobl Horeb eu hunain dan ofal Mr. Jonathan Jones, Rhydybont, a than ei ofal ef y buont am un-mlynedd-ar-hugain, ond cafodd Mr. John Lloyd, aelod o Bencadair, a myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, ei urddo yn gynorthwywr i Mr. Jones yn. Horeb, Tachwedd 2i1, 1802. Bu Mr. Lloyd yn llafurio yma fel cydweinidog a Mr. Jones hyd ei symudiad i Henllan yn 1805. Wedi ei ymadawiad ef bu yr eglwys am ysbaid yn petruso pa un a'i aros dan ofal Mr. Jones, mewn cysylltiad a'r eglwysi eraill oedd dan ei ofal a wnelent, neu fyny gweinidog iddynt eu hunain. O'r diwedd penderfynodd y mwyafrif i gael gweinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i Mr. Thomas Griffiths, Trefdraeth, ac urddwyd ef yma yr wythnos gyntaf yn mis Mawrth, 1808. Y dydd cyntaf pregethodd Mr. A. Shadrach, Talybont, a Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Yr ail ddydd, gweddiodd Mr. P. Maurice, Ebenezer; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. B. Evans, Drewen; derbyniwyd y gyffes ffydd, a gweddiwyd yr urdd-weddi, gan hen weinidog y lle, Mr. Jonathan Jones, Rhydybont; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. H. George, Brynberian, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. M. Jones, Trelech. Yn y prydnawn, pregethodd Mr. D. Peter, Caerfyrddin, a Mr. D. Jones, Crugybar. Wedi i Mr. Griffiths lafurio yma yn gydwybodol a diwyd iawn am chwe' blynedd, symudodd i fod yn gydweinidog a'i ewythr, Mr. Evans, Drewen. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Griffiths rhoddodd yr eglwys alwad i un o'i meibion, sef Mr. John Jones, Cilfachgronw, yr hwn oedd newydd orphen ei efrydiaeth yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yma ryw amser yn niwedd y flwyddyn 1814, ond gan na welsom hanes ei urddiad mewn ysgrifen nac argraff nis gallwn enwi y dydd, na'r personau a gymerasant ran yn y gwasanaeth. Wedi bod yn llafurus a llwyddianus iawn fel gweinidog am yr ysbaid byr o dair blynedd, bu y gweinidog addawus hwn farw yn mlodeu ei ddyddiau yn y flwyddyn 1817. Yn fuan wedi marwolaeth Mr. Jones, edrychodd yr eglwys allan am ganlyniedydd iddo, a syrthiodd eu dewisiad ar Mr. Samuel Griffiths, aelod o'r eglwys yn Llwynyrhwrdd. Cynaliwyd cyfarfodydd urddiad Mr. Griffiths Medi 29ain a'r 30ain, 1818. Dygwyd y gwasanaeth yn mlaen yn y drefn ganlynol: - Yr hwyr cyntaf, dechreuwyd trwy weddi gan Mr. J. Bowen, Saron, a phregethodd Meistri D. Jones, Crugybar, a Mr. W. Davies, Rhosycaerau, oddiwrth Mat. xxi. 13, a Jer. xxx. 17. Boreu dranoeth, dechreuwyd. gan Mr. J. Lloyd, Henllan; pregethwyd ar natur eglwys, a derbyniwyd y gyffes ffydd, gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Jones, Saron; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. M. Jones, Trelech, oddiwrth Phil. ii. 10, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin, oddiwrth Exod. xvii. 12. Yr oedd yr eglwys yn Horeb yn gymharol gref ar sefydliad Mr. Griffiths yma. Rhifai yr aelodau y pryd hwnw 218, ond yn mhen ychydig o flynyddau, trwy fendith yr Arglwydd ar ei ymdrechion doeth a dibaid ef, aethant yn fwy na thri chymaint o rif, a chan i'r capel fyned yn rhy fychan helaethwyd ef i gymaint arall o faint yn 1826. Cynaliwyd cyfarfod ei agoriad yn nglyn a chyfarfod chwarterol sir Aberteifi, Hydref 4ydd a'r 5ed, 1826. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Jones ac M. Jones, Trelech; G. Griffiths, Ebenezer; T. Griffiths, Hawen; I. Jones, Trefdraeth; M. Ellis, Talybont; J. Rowlands, Cwmllynfell; W. Jones, Rhydybont; D. Davies, Aberteifi; T. Phillips, Neuaddlwyd, a D. Peter, Caerfyrddin. Mesurai y capel 40 troedfedd wrth 27

198

troedfedd, a thalwyd yr holl ddyled gan yr eglwys a'r ardal.* Aeth y capel hwnw yn fuan yn rhy gyfyng, fel y bu raid ei helaethu yn 1832. Yn y flwyddyn hono hefyd adeiladwyd addoldy i gangen o'r fam eglwys yn Mwlchygroes, ac ail adeiladwyd Carmel, cangen arall a ffurfiesid yn eglwys yn fuan ar ol dechreuad tymor gweinidogaethol Mr. Griffiths yn y  lle. Ar ol bywyd o lafur diatal a llwyddianus iawn yn y cylch hwn am dwy-flynedd-a-deugain bu farw Mr. Griffiths yn 1860, yn gyflawn o ddyddiau, ac o barch gyda Duw a dynion.

Yn mhen dwy flynedd wedi marwolaeth Mr. Griffiths urddwyd ei ganlyniedydd, Mr. Thomas P. Phillips, y gweinidog presenol. Urddwyd Mr. Phillips yma Gorphenaf 18fed, 1862. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Davies, Llanbedr; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Roberts, un o athrawon athrofa Aberhonddu; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. W. Jones, Glynarthen; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Davies, Aberteifi; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. J. Morris, athraw duwinyddol athrofa Aberhonddu, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. J. Williams, Castellnewydd. Pregethwyd hefyd yn y prydnawn yn Horeb, a thrwy y dydd canlynol yn Mwlchygroes, gan Meistri W. M. Davies, Blaenycoed; J. Williams, Hawen; J. M. Prytherch, Wern; D. Williams, Rhydybont; I. Williams, Trelech; W. Evans, Aberaeron; O. Thomas, Brynmair, ac eraill. Mae Mr. Phillips, fel ei ragflaenydd rhagorol Mr. Griffiths, wedi bod yn ymdrechgar iawn i ledaenu terfynau yr achos trwy ffurfio cangenau o'r fam eglwys mewn gwahanol gyrau o'r ardal. Fel y nodwyd, yn nhymor gweinidogaethol Mr. Griffiths ffurfiwyd cangenau yn Carmel a Bwlchygroes, ac yn nhymor Mr. Phillips ffurfiwyd y cangenau yn y Gwernllwyn a Llandysul. Felly mae yr hen eglwys barchus hon, yr hon nid oedd ond un yn 1818, erbyn hyn wedi myned yn bump, ac er fod pob un o'r cangenau yn flodeuog y mae yr hen fam etto yn parhau yn lluosog ei haelodau. Mae yma eglwys unol a gweithgar, ac ysgol Sabbothol effeithiol a bywiog. Fel y cawn sylwi etto, y mae gweinidog wedi cael ei sefydlu ar y gangen yn y Gwernllwyn, ond y mae y tair cangen arall, yn gystal a'r fam eglwys dan ofal Mr. Phillips.

Mae yn sicr fod llawer o bersonau rhagorol am eu duwioldeb a'u defnyddioldeb wedi bod o bryd i bryd yn dal cysylltiad ag eglwys mor henafol a lluosog a hon, ond o ddiffyg defnyddiau nid ydym ni yn alluog i gofnodi eu henwau nac i roddi un hanes am danynt. Mae ein cofres o'r pregethwyr a gyfodwyd yma yn sicr o fod yn mhell o fod yn gyflawn, ond wele hi mor gyflawn ag y medrasom ni ei gwneyd:-

  •  Jenkin Jones. Efe yw y cyntaf o'r pregethwyr a gyfodwyd yma ag y mae genym ni hanes am dano. Fel y nodasom eisoes, bu ef yn achlysur o derfysg a rhwygiad yn yr eglwys ryw amser rhwng 1723 a 1726. Efe oedd y cyntaf o'r pregethwyr Ymneillduol yn Nghymru ag y mae genym hanes am dano a bregethodd Arminiaeth neu Belagiaeth yn gyhoeddus: Wedi i'w fam eglwys yn Mhantycreuddyn ymwrthod ag ef oherwydd ei Arminiaeth, urddwyd ef yn Ebrill, 1726, yn Llwynrhydowen, capel a adeiladesid ganddo ar ei dir ei hun. Bu yno yn gweinidogaethu hyd ei farwolaeth yn 1742. Yr oedd Jenkin Jones, fel yr ymddengys yn ddyn talentog a boneddigaidd iawn, a thrwy fod cyfoeth mawr wedi dyfod i'w ran trwy ei briodas yr oedd ganddo ddylanwad dirfawr. Mae yn dra

*Seren Gomer. Rhagfyr, 1826.

199

  • .............thebygol iddo fod yn fwy cynil yn ei addefiad o'i Arminiaeth cyn ei urddiad nag y bu wedi hyny, pe amgen ni chawsai un gweinidog Ymneillduol yn Nghymru i ddyfod i'w urddiad. Yn fuan ar ol ei urddiad cyhoeddodd ei olygiadau yn fwy digel. Bernir mai efe yw awdwr y llyfryn a gyhoeddwyd yn 1729, dan yr enw, Cyfrif cywir o'r pechod gwreiddiol. Cyhoeddwyd ateb i hwn yn 1730, gan James Lewis, Pencadair, a Christmas Samuel, Pantteg, dan yr enw Y Cyfrif o'r pechod gwreiddiol. Gwnaeth cyhoeddiad ei olygiadau newyddion gan Jenkin Jones gynwrf nid bychan trwy holl gylch Ymneillduaeth Gymreig. Cofleidiwyd ei olygiadau gan rai o bregethwyr y Bedyddwyr, yn gystal a'r Annibynwyr, yr hyn a derfynodd yn rhwygiad rhai eglwysi yn eu mysg. Cafodd Jenkin Jones cyn ei farwolaeth weled pump neu chwech o gynnulleidfaoedd Ymneillduol yn Neheudir Cymru wedi mabwysiadu ei olygiadau, ac er nad oedd ef yn proffesu dim yn mhellach nag Arminiaeth aeth y rhan fwyaf o'i bleidwyr cyn diwedd eu hoes yn Ariaid ac yn Undodiaid. Gwnaeth Mr. Jones gryn ddefnydd o'r argraffwasg. Yn 1723, cyhoeddodd gyfieithiad o'r Llun Agrippa gan Mathew Mead; yn 1727, cyhoeddodd gyfieithiad o waith Thomas Vincent ar Ddydd y farn fawr; yn 1729, fel y nodwyd, cyhoeddodd ei lyfryn ar Bechod gwreiddiol; yn 1732, cyhoeddodd lyfr o fwy na 150 o dudalenau o gatecismau i blant; ac yn 1769, cyhoeddwyd gan ei gyfeillion ei gyfansoddiadau barddonol, cynwysedig o hymnau a chaniadau. Nid oes un dadl nad oedd Mr. Jones yn ddyn gweithgar a galluog, ond y mae yn ddiameu i waith dyn o'i weithgarwch, ei dalent, a'i ddylanwad ef daro allan i bleidio Pelagiaeth, neu Arminiaeth anefengylaidd, fod o niwed dirfawr i Ymneillduaeth yn Nghymru. Achlysurodd rwygiadau mewn amryw eglwysi, oerodd deimladau y gweinidogion tuag at eu gilydd, ac ymlidiodd ysbryd crefydd, i raddau pell iawn, o'r eglwysi. Os oedd yn ddyn o deimladau crefyddol, fel yr ydym yn casglu ei fod oddiwrth duedd dduwiol y llyfrau a gyfieithwyd ganddo, mae yn ddiameu na chymerasai y byd am bleidio y golygiadau a bleidiwyd ganddo pe buasai yn gallu rhagweled eu canlyniadau andwyol.
  • John Jones. Rhoddir ei hanes ef yn mysg y gweinidogion.
  • James Jones. Urddwyd ef yn Nghapelhelyg, Arfon, yn 1832. Symudodd oddiyno i'r Abermaw, lle y bu yn ddefnyddiol iawn hyd o fewn tair blynedd yn ol, pryd y rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny. Mae etto yn parhau i bregethu bob Sabboth mewn gwahanol fanau.
  • John Williams. Efe a ymfudodd i'r America wedi iddo ddechren pregethu, ac nid oes genym ychwaneg o hanes i'w roddi am dano.
  • D. W. Jones. Yn nglyn a Threffynon y daw ei hanes ef.
  • David Evans. Ganwyd ef yn mhlwyf Llandysul yn 1803. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Horeb yn 1824. Dechreuodd bregethu yn 1828. Bu wedi hyny am rai blynyddau yn athrofa y Neuaddlwyd. Aeth oddiyno i Meare, yn Ngwlad yr Haf, lle y bu yn pregethu am dymor fel efengylwr, ond heb gael ei urddo. Yn 1837, symudodd i Winsham, yn yr un sir, lle yr urddwyd ef yn Hydref, 1839. Bu yno yn ddefnyddiol hyd 1859, pryd y rhoddodd y weinidogaeth i fyny oherwydd methiant yn ei iechyd. Yna symudodd i Wiveliscombe, lle y bu farw yn ddisymwth iawn Rhagfyr 20fed, 1863.
  • Theophilus Griffiths, mab Mr. Griffiths, y gweinidog. Bu ef farw yn ugain oed Ionawr 20fed, 1838, pan yr oedd newydd ddechreu pregethu. Yr oedd yn wr ieuangc gobeithiol iawn.

200

  • Thomas Davies, Pantmorwynion. Yr oedd ef oddeutu yr un oed a Mr. Theophilus Griffiths. Dechreuasant bregethu yr un amser, a buont farw yn agos i'r un amser.
  • David Griffith; mab Mr. Griffiths, y gweinidog. Addysgwyd ef yn Nghaerfyrddin. Cafodd ei urddo yn Bethesda a Llandysilio, gerllaw Narberth, symudodd oddiyno i St. Florence. Mae er's blynyddau bellach yn weinidog i gynnulleidfa Saesonig yn Falfield, sir Gaerloew.
  • David Jones. Urddwyd ef yn Mhenygroes, sir Benfro. Mae yn awr yn weinidog yn y Gwernllwyn, cangen o Horeb.
  • John Davies. Bu ef yn bregethwr cynorthwyol. Y mae wedi marw er's amser bellach.
  •  James Davies. Y mae efe yma yn awr yn bregethwr cynorthwyol.

Aelodau gwreiddiol o'r eglwys hon oedd Mr. D. Davies, Glantaf, a Dr. Pan Jones, Mostyn; ond yn Seion, Rhymni, a Berea, Blaenau, y dechreuasant hwy bregethu, fel y gwelir yn hanes yr eglwysi hyny.*

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

(Not fully extracted)

JOHN JONES. Ganwyd ef mewn amaethdy, yn nghymydogaeth Horeb, a elwir Cilfachgronw, neu efallai Cilfachgoronwy, yn y flwyddyn 1787............................................

* Llythyrau Mr. T. P. Phillips, Mr. Ebenezer Jones, a Mr. J. B. Jones, B.A.

201

SAMUEL GRIFFITHS. Ganwyd ef yn mhlwyf Clydau, sir Benfro, yn y flwyddyn 1783. ...................................

202 / 203   

Translation by Maureen Saycell (Nov 2008)

This chapel is in the parish of Llandysul, about 2 miles north west of the village and the parish church. It is a branch of Pencadair and is nearly if not equally old as the mother church. The care of all the nonconformists in this area were under the care of Mr Stephen Hughes from 1662 until his death in 1688. Mr Hughes would preach frequently in the Llandysul area during the time of persecution from 1662 until the end of his life, although we do not know where. It is very likely that there have been many nonconformists here since the time of the commonwealth. Mr Jenkin Lloyd, M A , son of David Lloyd, Esq., Tairdref-fawr, was the minister in the parish from the time of Cromwell and before. He was a very able and very evangelical. He was one of those who were appointed to test and approve men suited to be public preachers under the Act of Parliament at the beginning 1650, in order to spread the gospel in Wales, and none but those of Puritanical ideals would be allowed that privilege. As Mr Lloyd was well known , a Puritan, and the son of a respected land owner in the parish, he must have had considerable influence here and also won many for the faith. It is likely that he had died before the relief granted by Charles II in 1660, then the responsibility for his disciples fell on Mr Stephen Hughes. We referred to the disagreement between Mr Thomas David Rees and Mr Hughes in the history of Penrhiwgaled, because of Mr Hughes going to listen at the parish church. As Mr Rees became a Baptist at that time and persuaded some nonconformists to follow him, it is certain that there were two denominations here during the time of persecution. At that time in Llandysul John James was a preacher with the Baptists and suffered greatly for his religion. It is certain that the Independents also suffered their share during those stormy times but details between 1662 and 1698 are not known to us. It is said that they worshipped under the oak near the farm known as Pantgwyn. There is no reason to believe that this was due to persecution as there was freedom for the nonconformists to worship wherever thay wanted at that time. The most likely reason was that they worshipped at Pantgwyn, under the oak, was for convenience , as the numbers attending in good weather were too large to be accommodated in the small house. Sometime after 1698, possibly about 1700, a small house of worship was built at Pantycreuddyn, on the land of Gellifarharen, and the congregation moved there from Pantgwyn, and it was in Pantycreuddyn that they continued to worship for at least the next 80 years. It was under the same ministry as Pencadair for all eighteenth century and before that. Around 1722, or the next year, there was some unease within the church at Pantycreuddyn. There was a young man from this church, Jenkin Jones, a student at Carmarthen  College, had adopted an Arminian or Pelagian outlook and in the heat of his feelings had made his outlook known to many. His minister, Mr James Lewis, Pencader, was strongly against Arminianism, and most likely most of the congregations at Pencadair and Pantycreuddyn were Calvinistic, like their minister.We should remember that Arminianism at that time was new to the nonconformist churches of Wales. and they looked upon it as a poisonous doctrine. When the story that Jenkin Jones was Arminian, they were unwilling for him to preach in his mother church. When he came home from the College, some holiday time, this was put to the test. Naturally his relatives, of whom many were members in Pantycreuddyn, wanted to hear him preach while those that believed in what they thought of as a healthier teaching were opposed to his preaching at all. However one Sunday morning he went into the pulpit in Pantycreuddyn, and when Mrs Lewis, the minister's wife, saw him there, got up and walked out. This caused considerable consternation. At that time money came into all the old churches from the Funds in London, it was considered that students should have access to them as well as the ministers. Jenkin Jones was refused any part of the money that came to Pantycreuddyn, because of his Arminism, and that along with the refusal to let him preach eventually ripped the church apart. It appears that Jenkin Jones was a talented and amusing young man, and there was nothing against him except his Arminian beliefs. Therefore he slowly won over a section of his mother church to stand up for him and his beliefs. After completing his time at the College he came home and married an heiress to a considerable fortune, in his home parish. This added to his influence. When no invitation was forthcoming from Pantycreuddyn for him to preach, he built Llwynrhydowen chapel, on his own land, about 2 miles or less from Pantycreuddyn, and some of the congregation left with him for the new chapel. He was ordained as minister there in 1726. As far as we know peace reigned at Pantycreuddyn for many years after the split.  In 1770 Mr William Perkins became minister in Pencadair and Pantycreuddyn, and he had not been there for long when there was a rift between the two churches. He was strong in body and mind but his moral fibre was doubtful. Sometime between 1775 and 1778, the few people that clung on left. Soon after the departure of those that opposed Mr Perkins, the cause went to nothing and he left.  It is likely that the ones who left must have worshipped in houses for a time, but after Mr Perkins departure they returned to Pantycreuddyn until Horeb was built in 1784, in a more convenient part of the village. Mr Benjamin Jones ministered to them whilst he was at Pencadair, but on his departure the people of Horeb put themselves in the care of Mr Jonathan Jones, Rhydybont, and they remained in his care for 21 years, but Mr John Lloyd , a member of Pencadair, and a student at Carmarthen College, was ordained to help Mr Jones at Horeb on November 2nd, 1802. Mr Lloyd worked here as co-minister with Mr Jones until he moved to Henllan in 1805.  After his departure the members debated whether they should stay under his care, along with the other churches, or have their own minister. In the end the majority decision was to have their own minister. They called Mr Thomas Griffiths, Trefdraeth, and he was ordained here in the first week of March, 1808. On the first day Mr A Shadrach, Talybont, and Dr. Phillips, Neuaddlwyd, preached. The second day Mr P Maurice, Ebenezer, prayed; Mr. B. Evans, Drewen, preached on the nature of a church; the confession of faith and the ordination prayer taken by Mr Jonathan Jones, Rhydybont, the old minister;  Mr H George, Brynberian, preached on the duties of a minister, and a sermon on the duties of a church given by  Mr M Jones, Trelech. In the afternoon Mr D Peter, Carmarthen and Mr D Jones, Crugybar. After working here for six years he moved to be a co-minister with his uncle, Mr Evans, Drewen. Soon after the departure of Mr Griffiths the church called one of its sons, Mr John Jones, Gilfachgronw, who had just completed his time at Carmarthen College. He was ordained here toward the end of 1814, but as we have no written history we cannot name the day, or the persons who took part in the service. After working successfully as a minister here for the short time of three years, this promising minister died in 1817. Soon after his death they looked for a replacement and decided on  Mr Samuel Griffiths, a member of Llwynyrhwrdd. His ordination services were held on September 29th and 30th, 1818. The first evening began with a prayer from Mr J Bowen, Saron, Messrs D Jones, Crugybar, and Mr W Davies, Rhosycaerau, preached from Mat. xxi. 13, and Jer. xxx. 17. The following morning was started by Mr J Lloyd, Henllan; Dr. Phillips, Neuaddlwyd, preached on the nature of a church, and took the confession of faith; the ordination prayer given by Mr T Jones, Saron; Mr M Jones, Trelech, preached on the duty of a minister from Phil. ii. 10,and on the duty of a church by Mr D Peter, Carmarthen, from Exod. xvii. 12.

The church at Horeb was comparatively strong when Mr Griffiths settled here. The members numbered 218, but within a few years through the Lord's blessing upon his unfailing efforts, they became more than 300, and as the chapel became too small it was doubled in size in 1826. The opening coincided with the quarterly meeting of Cardiganshire, October 4th and 5th, 1826. Those officiating were Messrs E Jones and M Jones, Trelech; G Griffiths, Ebenezer; T Griffiths, Hawen; I Jones, Trefdraeth; M Ellis, Talybont; J Rowlands, Cwmllynfell; W Jones, Rhydybont; D Davies, Cardigan; T. Phillips, Neuaddlwyd, and D. Peter, Carmarthen. The chapel measured 40 x 27 feet, and the whole debt was paid by the area and the church.* That chapel became too small again and it had to be extended again in 1832. Also in that year a branch was built at Bwlchygroes, and Carmel, a branch formed in the early days of Mr Griffiths' ministry, was rebuilt. After a hard working and successful life in this parish for 42 years Mr Griffiths died in 1860, a full life, and with respect from God and man.

Two years after Mr Griffiths death, his successor was ordained, Mr Thomas P Phillips, the present minister. Mr Phillips was ordained here on July 18th, 1862. The occasion was started with a prayer from Mr Davies, Lampeter, a sermon on the nature of a church from Mr W Roberts, a teacher at Brecon College; Mr W Jones, Glynarthen, took the confession of faith; the ordination prayer was offered by Mr D Davies, Cardigan; a sermon on the duty of a minister was given by Mr J Morris, teacher of Divinity at Brecon, and the nature of a church by Mr J Williams, Newcastle Emlyn. In the afteernoon sermons were given at Horeb, and through the following day at Bwlchygroes, by Messrs W M Davies, Blaenycoed; J Williams, Hawen; J M Prytherch, Wern; D Williams, Rhydybont; I Williams, Trelech; W Evans, Aberaeron; O Thomas, Brynmair, and others. Mr Phillips, like his predecessor, has been industrious in his efforts to spread the borders of the cause by forming new branches in the furthest corners of the area. As noted , it was during the ministry of Mr Griffiths that the branches at Carmel ans Bwlchygroes, and during the time of Mr Phillips that Gwernllwyn and Llandysul were formed. So this venerable old church, which was only one in 1818, was now five, and although the five branches are flourishing the old mother is still numerous in its members. There is now an united and industrious church, with an effective and lively Sunday school. As we shall see, there is a settled minister at Gwernllwyn, but the other three remain in the care of Mr Phillips.

Certainly there have been some remarkable people here, in both their usefulness and godliness, but due to the lack of information we are unable to name them. The list of those who were raised to preach here is also likely to be incomplete:-

  • JENKIN JONES - First known to preach from here - caused the rift mentioned - less open re Arminianism before the rift than after - thought to be the author of booklet published 1729, "Cyfrif cywir o'r pechod gwreiddiol" (True account of the original sin) - reply published by James Lewis, Pencadair, and Christmas Samuel, Pantteg, "Y Cyfrif o'r pechod gwreiddiol" (The account of the original sin) - pulication of his views caused great consternation among Welsh nonconformists - Baptist and Independent minority agreed - 5-6 congregations adopted his views before his death, went on to Arianism then Unitarian - he published many translations between 1723 and 1769 - caused rifts in many churches - very able and industrious but destructive to nonconformism in Wales.
  • JOHN JONES - His  history is among the  ministers.
  • JAMES JONES - Ordained at Capel Helyg, Arfon,1832 - moved to Barmouth, until 3 years ago when he gave up his ministry - still preaching.
  • JOHN WILLIAMS - emigrated to America after he began to preach.
  • D W JONES - history with Treffynon.
  • DAVID EVANS - born Llandysul,1803 - Confirmed Horeb in 1824 - began preaching 1828 - educated Neuaddlwyd - to Meare, Somerset, preached as an evangelist, not ordained -1837, moved to Winsham, ordained October 1839 - gave up his ministry due to ill health in 1859 - moved to Wiveliscombe - died suddenly December 20th,1863.
  • THEOPHILUS GRIFFITHS - son of Mr Griffiths, the minister - died January 20th,1838, age 20 - soon after he began to preach
  • THOMAS DAVIES - Pantmorwynion - same age approx., began to preach and died around same time as above.
  • DAVID GRIFFITHS - son of Mr Griffiths, the minister - educated Carmarthen - ordained Bethesda and Llandysilio, near Narberth - moved to St. Florence - minister to an English congregation at Falfield, Gloucestershire.
  • DAVID JONES -  ordained in Penygroes, Pembrokeshire - now minister of Gwernllwyn, a branch of Horeb.
  • JOHN DAVIES -  occasional minister - now dead.
  • JAMES DAVIES - Now an occasional minister.

Original members of this church were  Mr D Davies, Glantaf, and Dr. Pan Jones, Mostyn; but it was in Seion, Rhymni, and Berea, Blaenau,that they began to preach**

BIOGRAPHICAL NOTES***

(Not fully extracted)

JOHN JONES - born 1787 Cilfachgronw or Cilfachgoronwy, near Horeb.............

SAMUEL GRIFFITHS. - born Clydau, Pembrokeshire, 1783. ...................................

202 / 203

*Seren Gomer. December, 1826.

** letters of Mr T P Phillips, Mr Ebenezer Jones, and Mr J B Jones, B.A.

***Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

CARMEL

(Llandysul parish)

Cangen o Horeb yw yr achos hwn. Saif y capel tua thair milldir o Landysul ar ymyl y ffordd oddiyno i Ceinewydd, ac o fewn ychydig ddegau

204

o latheni i gapel yr Undodiaid, a elwir Pantydefaid, ac y mae hefyd o fewn milldir i Lwynrhydowen, ac felly yn nghanol yr Undodiaid. Dechreuwyd yr achos yma dan yr amgylchiadau canlynol: -  Mr. John Jones, mab Mr. Jonathan Jones, Rhydybont, yr hwn oedd yn bregethwr ac yn weinidog urddedig, ond yn wrthodedig gan yr Annibynwyr oherwydd ei fod yn proffesu syniadau Arminaidd, ac o bosibl nad oedd ganddynt ddigon o ymddiried yn ei foesoldeb, a aeth at Mr. Jones, Pantydefaid, hen foneddwr oedranus, a mab i Mr. Jenkin Jones, sylfaenydd yr achos yn Llwynrhydowen, a dywedodd wrtho, "Yr oedd eich tad yn bregethwr enwog a dylanwadol yn y gymydogaeth hon; ond y mae y bobl sydd yn awr yn nghapeli Llwynrhydowen a Phantydefaid wedi gwyro at Ariaeth ac Undodiaeth, fel y maent yn anghymeradwy gan lawer yn yr ardal. Mae pobl Horeb yn ormod o Galfiniaid iddynt fyned i'w plith; felly mae yma lawer o bobl yn Arminiaid, fel eich tad, a hoffent gael addoldy ar eu penau eu hunain. Pe caid yma gapel iddynt mi a'u casglwn hwynt yn nghyd, a bregethwn iddynt, ac a ofalwn am danynt." Mewn canlyniad i hyn adeiladodd Mr. Jones gapel ar ei dir ei hun. Wedi ei gael yn barod gwahoddodd Mr. John Jones weinidogion yno i'w agor; ond gan nad oedd ef yn awr yn dal cysylltiad ag un enwad neillduol o grefyddwyr, a bod amheuaeth am iachusrwydd ei gred a glendid ei fuchedd, ni ddaeth ond ychydig o weinidogion i'r cyfarfod. Adeiladwyd ac agorwyd y capel yn y flwyddyn 1819. Bu Mr. J. Jones yn pregethu yma am ychydig fisoedd ond ni ddaeth nemawr i'w wrandaw. Yn y flwyddyn 1820 clafychodd ef a bu farw. Yna cauwyd y capel i fyny   Bu yn gauedig am ychydig amser. Yn urddiad Mr. J. Davies yn Llwynrhydowen, tua y flwyddyn 1821, daeth un John Charles, gof o'r gymydogaeth, at Mr. Griffiths, Horeb, yr hwn oedd yn nghyfarfod yr urddiad, a dymunodd arno fyned at Mr. Jones, Pantydefaid, i geisio benthyg yr addoldy gwag oedd ganddo ar ei dir iddo ef at bregethu ynddo. "Nid wyf fi yn adnabod Mr. Jones," ebe Mr. Griffiths. "Mi ddeuaf fi gyda chwi ato," ebe Sion y gof. Aethant, a derbyniwyd hwy yn garedig. Caniataodd Mr. Jones i Mr. Griffiths gael pregethu yn y capel y Sabboth canlynol. Daeth yno gynnulleidfa luosog yn nghyd. Yn fuan cymerwyd lês o un-flynedd-ar-hugain ar y capel, a pharhawyd i bregethu ynddo bob Sabboth. Cynyrfodd hyn eiddigedd yr Undodiaid, y rhai a dybient mai iddynt hwy yn unig y perthynai y gymydogaeth hono. Ond nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd ond canu ambell rigwm i wawdio y pregethwr a'r gwrandawyr, a darogan mai achos i fyned i'r dim ydoedd. Ond profwyd hwy hyd yma yn gau brophwydi. Mae yr achos wedi byw yma am fwy na haner can' mlynedd, ac y mae ynddo yn awr fwy o elfenau bywyd nag erioed.

Yn mhen ychydig amser wedi dechreu pregethu yn y capel meddyliwyd am ffurfio yr aelodau o Horeb a breswylient yn yr ardal yn eglwys yma. Cyhoeddwyd cyfarfod parotoad cyn y cymundeb cyntaf, ac yn mysg eraill, daeth Sion y gof yno yn ymgeisydd am aelodaeth fel aelod achlysurol. Gofynodd Mr. Griffiths iddo pa beth a olygai wrth "aelod achlysurol?" Atebodd iddo ef fod am flynyddau yn aelod gyda'r Undodiaid, a'i fod yn awr am eu gadael, ac y gwyddai na chawsai lythyr o ollyngdod ganddynt. "Mae hyny yn ddigon tebyg," ebe Mr. Griffiths, " oblegid y mae y fath bellder mawr rhyngom mewn barn am brif bethau yr efengyl, fel nad yw ryfedd yn y byd ein bod heb gyfrinachu a'n gilydd trwy lythyrau. Os nad yw Iesu Grist yn wir Dduw, megis y bernir genym ni ei fod, yna mae

205

yn rhaid ein bod ni, yn eu golwg hwy, yn ymddiried mewn braich o gnawd, ac yn addoli creadur yn lle Duw. Ond os ydyw Iesu Grist yn wir Dduw, megis yr ydym ni yn credu ei fod, yna nis gallent hwy, sydd yn gwadu ei Dduwdod, fod yn Gristionogion; oblegid nad ydynt yn rhoddi y parch a'r addoliad dyledus iddo." Atebodd Sion, "Y mae hynyna yn eithaf rhesymol; ond efallai eich bod yn fy ngweled i yn ormod pechadur i ddyfod i'ch plith." "Na, ni chauir neb allan oblegid hyny," ebe Mr. Griffiths, "ond y pwngc mawr ydyw, a ydych chwi yn gweled ac yn teimlo eich bod yn bechadur mawr, y fath ag sydd yn golledig yn mhob man tu allan i'ch cael yn Iesu Grist yn gwbl i'ch cadw." " Pechadur mawr ydwyf fi, boed a fyno," ebe Sion. " Y mae genym ni bethau eraill i'w hystyried cyn cymodi a'n gilydd," ebe Mr. Griffiths, " y mae yn rhaid cael crefydd yn y teulu yn gystal ag yn yr eglwys." " Nid oes genyf fi deulu yn byd ond yr hen wraig a minau," ebe  y Sion. " Hawddaf i gyd yw i chwi fyned trwy y gwaith gyda'ch gilydd; ond gan ein bod yn lled anhysbys o'n gilydd, meddyliwn mai gwell i chwi aros am ychydig heb ymgyfamodi a ni," ebe Mr. Griffiths. "Gwelaf," ebe Sion, "eich bod am fy ngwrthod, ond pa un bynag a wneloch a'i fy nerbyn a'i peidio, yr wyf yn penderfynu eich dilyn hyd fy medd." Parhaodd i ddyfod i'r cyfarfodydd cyhoeddus, ond ni chynygiodd ei hun yn aelod mwyach. Daeth ei wraig yn mlaen, a derbyniwyd hi yn aelod. Erbyn y flwyddyn 1832 yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, fel yr oedd eisiau ei helaethu. Yr oedd Mr. Jones, Pantydefaid, perchen y capel, erbyn hyn wedi marw, a'i eiddo wedi myned i feddiant Mr. David Thomas o Lanfair. Er fod y gwr hwnw yn fwy o Undodwr na dim arall, etto bu mor garedig a rhoddi lês newydd ar y capel am gant ond un o flynyddau, a swm o arian at ei helaethu. Helaethwyd ef fel y mae yn awr yn ddigon eang i gynwys cynnulleidfa lled fawr. Er na fu yma ddim tebyg i gyffroad neu adfywiad crefyddol o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol, y mae yma ychydig o gynydd graddol wedi bod o flwyddyn i flwyddyn, fel y mae yr achos wedi gwreiddio a myned yn gymharol gryf yma. Mae yr aelodau er's blynyddau bellach tua chant a haner o rif.

Mae y capel hwn yn lled agos i Bontycreuddyn, lle bu yr Annibynwyr yn addoli am fwy na phedwar ugain mlynedd, felly wrth osod i fyny achos Annibynol yma nid oedd yr arch ond yn dychwelyd i'w hen gymydogaeth. Er mai Mr. Jenkin Jones fu yn achlysur i ddwyn Ariaeth ac Undodiaeth i'r ardal defnyddiodd rhagluniaeth ei fab drachefn fel offeryn i ddwyn yr athrawiaeth wrthwynebol yma i'w gwrthweithio. Mae dechreuad yr achos Annibynol yn y lle hwn yn dangos y gall yr Arglwydd ddefnyddio unrhyw foddion at ddwyn ei achos yn mlaen, a'i fod yn fynych iawn yn cyfodi offerynau o leoedd na buasai neb yn disgwyl i gyflawni ei fwriadau, fel Sion y gof a Mr. Jones, Pantydefaid, yn yr amgylchiad hwn. Gweinidogion Horeb sydd wedi bod yn gweinidogaethu yma o'r dechreuad.

Cyfodwyd yma yn ddiweddar ddau bregethwr, sef John Morgan Jones a Daniel Jones, y rhai sydd yn awr yn fyfyrwyr yn athrofa Caerfyrddin.

Translation by Maureen Saycell (Dec 2008)

This is a branch of Horeb. The chapel stands about 3 miles from Llandysul by the road to New Quay and within yards of the Unitarian chapel named Pantydefaid and also within a mile of Llwynrhydowen, therefore surrounded by unitarians. This cause was started as follows - Mr John Jones, son of Mr Jonathan Jones, Rhydybont who was a preacher and minister but refused by the indpendents because of his Arminian beliefs and possibly they did not have enough faith in his morals, he went to Mr Jones, Pantydefaid, an elderly gentleman, son of Mr Jenkin Jones founder of the cause in Llwynrhydowen, and said  " Your father was a famous preacher, influential in this area, but the people that are now in the chapels Llwynrhydowen and Pantydefaid lean to Arianism and Unitarianism, thus not accepable to many in the area. The people at Horeb are too Calvinist to mix with them, so many are Arminian, like your father, who would like a chapel of their own. If there was a chapel I would gather them all together, preach to them, take care of them". As a result of this Mr Jones built a chapel on his own land. When it was ready Mr John Jones invited ministers to come and open it, but because he was now not associated with any particular denomination, and there were doubts about the purity of his beliefs, and his way of life, only a few ministers came to the service. The chapel was built and opened in 1819. Mr J Jones preached there for a few months , but very few came to listen to him. In 1820 he became ill and died. The chapel was then closed up. It remained closed for a short time. During the ordination of Mr J Davies at Llwynrhydowen, around 1821, John Charles, a blacksmith in the area, came to see Mr Griffiths, Horeb, who was at the ordination service, and asked him to go to Mr Jones, Pantydefaid, and ask him for the use of the empty chapel on his land to preach in. " I do not know Mr Jones", said Mr Griffiths. "I'll come with you to see him,"said John the blacksmith. They went and were kindly met. Mr Jones consented to Mr Griffiths preaching there the following Sunday. A large congregation came together. Soon a lease was granted for 21 years and preaching continued every Sunday. This stirred up the Unitarians, because they thought the area was theirs.All they could do was mock the preachers and the congregation, and that it was a road to nowhere. They were proved to be false prophets. The cause has lived here for more than 50 years, and looks more alive now than ever.

Shortly after preaching began at the chapel it was thought to form a church from members of Horeb living in the area. A preparatory service was held before the first Communion, and among others John the blacksmith came to request occasional membership. When Mr Griffiths asked him what this meant, he said that he was a member with the Unitarians, but now he wanted to leave, and it was unlikely that they would allow him letters to free him. "That is very likely" said Mr Griffiths,"because there is such a wide difference of opinions between us on the main things of the scriptures, so it is not surprising that there are no letters between us. If Jesus Christ is the true God, as we believe, then we must, in their eyes worship a creature instead of God. But if Jesus Christ is not the true God we believe him to be, then they, who deny his deity, cannot be Christians, because they deny the respect and worship due to him." John said "That is quite reasonable, but perhaps you see me as too big a sinner to be in your midst." " No one will be excluded for that reason," said Mr Griffiths,"the big question is, do you feel that you are such a sinner that you cannot  accept Jesus Christ to save you." " I am  a sinner, whatever, " said John."We have other things to consider before we come to agreement," said Mr Griffiths," there has to be religion in the family as well as at the church." "I have no family other than my old wife," said John. It would be best for you to go through the work together, but as we know little of each other, it would be better for you to come to us without commitment for now," said Mr Griffiths. " I see that you are not going to accept me," said John," but I will follow you to my grave." He continued to attend public services, but never asked for membership again. His wife came forward and became a member. By 1832 the chapel was too small and needed extending. Mr Jones, Pantydefaid had died by that time and ownership had passed to Mr David Thomas, Llanfair, who was more of an Unitarian than anything else, but was kind enough to grant a new lease on the chapel fo 999 years and also contributed a sum of money towards the rebuilding. It was extended to its current size, large enough for a big congregation. Although there has been no revival or religious fervour there has been a gradual year on year increase, and the roots have gone very deep here. The membership has been 350 now for some years.

This chapel is close to Pontycreuddyn, where the Independents have worshipped for 80 years, so by setting up here it was only returning the Arc to it's old ground. Although Mr Jenkin Jones was the cause of Arianism and Unitarianism arriving here providence used his son as the instrument of removing them. The start of the Independent cause here shows that the Lord can use any means to nurture his cause, and often used unlikely vessels for this purpose, like John the blacksmith and Mr Jones, Pantydefaid in this case. The ministers of Horeb have always cared for this chapel from the beginning.

Recently two preachers have been raised here -*

JOHN MORGAN JONES

DANIEL JONES

Both are now studying at Carmarthen College

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

BWLCHYGROES

(Llangynllo parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llangunllo, tua haner y ffordd o Horeb i Hawen, ac oddeutu tair milldir o'r ddau le. Pan ddaeth Mr. Samuel

206

Griffiths i weinidogaethu i Horeb daeth i fyw i le a elwir y Llethr yn agos i'r lle hwn. Wedi iddo ymsefydlu yno, gan fod cryn bellder i gapel Horeb, dechreuodd gadw moddion crefyddol yn ei dý ei hun. Trwy y moddion hyn ennillwyd amryw o'r ardalwyr i wrandaw, ac aeth rhai o honynt i ymgeisio am aelodaeth yn Horeb. Yn fuan cychwynodd ysgol Sabbothol yn yr ardal, ac wrth weled cynydd yr ysgol yn yr anedd-dai tueddwyd Llewelyn Parry, Ysw., o'r Gurnos, boneddwr a breswyliai yn yr ardal, i roddi tir a choed at adeiladu ysgoldy. Wedi cael yr ysgoldy yn barod cynelid ynddo gyfarfodydd gweddio a phregethu achlysurol, yn gystal ag ysgol. Yn 1833, dechreuwyd cadw cyfeillachau crefyddol yma, ac yn fuan aed i son am gael capel. Cynyrfwyd ysbryd T. L. Parry, Ysw., mab y gwr a roddodd y tir at yr ysgoldy, ac mewn ymddiddan a Mr. S. Griffiths dywedodd fod yn rhaid cael addoldy yn y gymydogaeth. Dywedodd yntau fod y bobl yn dlodion i fyned dan y fath faich, ac y gallasai hyny fod yn achos i'w gofidio a'u digaloni. Atebodd y boneddwr, "Mae yn rhaid i ni eu cynorthwyo hwy i fyned trwy y gwaith." Cyffrodd yr addewid garedig hon yr holl ardal. Yr amser hwn aeth Mr. Griffiths am dri mis i Lundain, ond cymaint oedd brys y bobl am gael capel fel y dechreuasant ar y gwaith yn ei absenoldeb ef. Hysbyswyd ef mewn llythyr fod y capel wedi cael ei roddi allan i'r crefftwyr, dan arolygiad Mr. Rees Rees, yr hwn a roddai ei wasanaeth yn rhad, a bod Mr. Parry wedi rhoddi ugain punt at ddechreu y gwaith. Wrth gael y fath gychwyniad calonog, cyffrowyd y bobl i ysbryd haelionus. Cyfranodd yr ardalwyr yn gyffredinol yn ol eu gallu. Aeth Mr. Rees, arolygydd y gwaith, trwy y gymydogaeth i dderbyn cyfraniadau y bobl, a daeth yr adeilad yn fuan dan dô, a gosodwyd pulpud a meingciau ynddo, fel y gallesid addoli ynddo am dymor heb gyfleusderau ac addurniadau ychwanegol. Dygwyd ef i'r sefyllfa hon heb fod yn aros nemawr o ddim dyled. Penderfynwyd cael cyfarfod agoriad, ac yn ol dymuniad Mr. Parry gwahoddwyd rhai o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yn gystal a'r Annibynwyr yno i bregethu ar yr achlysur. Darparodd Mr. Parry giniaw i'r gweinidogion ar ddydd yr agoriad yn ei balas, ac fel y dengys y ffaith ganlynol, mae yn amlwg mai caredigrwydd dynol a chymydogol, yn hytrach na sel grefyddol, a barai iddo gymeryd y fath ddyddordeb yn adeiladaeth y capel a sefydliad yr achos yn y lle. Boreu dydd yr agoriad yr oedd tri i bregethu, ar diweddaf o'r tri oedd Mr. John Evans, Llwynffortun; gyda fod Mr. Evans yn cyfodi i ddarllen ei destyn, wele genad yn dyfod o'r palas yn hysbysu fod y ciniaw yn barod. Mynai Mr. Parry i'r cwbl gael ei roddi i fyny ar y pryd iddynt gael myned i giniaw, a phan y gwrthodwyd cydsynio, nes y buasai Mr. Evans wedi gorphen pregethu, ffromodd ef ac aeth allan o'r capel, ond safodd wrth y drws nes yr oedd yr oedfa drosodd. Yna yn y modd siriolaf arweiniodd y gweinidogion i'r palasdy, a chawsant bob caredigrwydd ganddo.

Yn fuan wedi agoriad y capel, corpholwyd ynddo eglwys o ychydig o aelodau o Horeb oedd yn cyfaneddu yn y gymydogaeth. O hyny allan aeth yr achos ar gynydd yn barhaus. Yn y deg neu ddeuddeng mlynedd diweddaf y mae rhif yr aelodau wedi dyblu. Y maent erbyn hyn tua dau cant neu ychwaneg o rif. Amgylchynir y capel gan fynwent eang wedi ei threfnu yn nodedig o daclus. Fel yr ydym wedi crybwyll yn barod yn y fynwent hon y gorphwys gweddillion y duwiol Mr. Samuel Griffiths, Horeb. Bwriedir yn fuan dynu yr hen gapel i lawr, ac adeiladu

207

un harddach a llawer mwy eang. Y mae lluosogrwydd a grym y gymnulleidfa yn galw am hyny er's amser bellach.

Ni hysbyswyd ni fod neb wedi cael ei gyfodi i bregethu yn yr eglwys hon. Mewn cysylltiad gweinidogaethol a Horeb y mae yr eglwys hon wedi bod o'r dechreuad, ac felly y mae yn debyg o barhau. Hysbysir ni gan Mr. Phillips, y gweinidog, fod yma eglwys unol, wresog, a gweithgar.

Translation by Maureen Saycell (Dec 2008)

This chapel is in the parish of Llangunllo, half way between Horeb and Hawen, about 3 miles from each. When Mr Samuel Griffiths became a minister here he came to live at Llethr, near here. After he had settled , as the distance to Horeb was considerable, he began to hold services in his own home. By doing this he gained a large number of the local people as listeners, some went to seek membership at Horeb. Soon a Sunday school was started in the area, and on seeing the success of the school in the houses, Llewelyn Parry, Esq., Gurnos, a local gentleman, was inspired to donate a piece of land and the wood with which to build a schoolhouse. Once the schoolhouse was finished prayer meetings, occasional preaching took place as well as the Sunday School. In 1833 religious society meetings began here, and talk of a chapel started. This touched T L Parry,Esq., son of the gentleman who gave the land for the school, and in a conversation with Mr Griffiths he said there must be a chapel built in the area. He replied that the people were poor and the worry of such a large debt could dishearten them. The gentleman replied "We must support them to get through the work."  This had fired the people of the area. At this time Mr Griffiths had to go away to London for 3 months, but the people were so enthusiastic that they began the work in his absence. He was informed by letter that the craftsmen had been engaged with the supervision of Mr Rees Rees, who gave his services free, and that Mr Parry had donated £20 to get the work started. With such a hearty effort, the people were inspired to be generous. The whole neighbourhood gave according to their means. Mr Rees, the supervisor, went round the area collecting, and the building was soon under roof, a pulpit and benches were installed, so that worship could take place for a while before the decoration was added. It was brought to this stage with virtually no debt. It was decided to have an opening service, and in accordance with Mr Parry's wishes some Calvinistic Methodist ministers were invited as well as the Independent ministers to preach on the occasion. Mr Parry prepared a dinner for all the ministers on the day at his mansion, and as will be demonstrated it was human kindness and being neighbourly, not religious fervour that inspired him to take such an interest in building the chapel and establishing the cause here. On the morning of the opening, three ministers were to preach, the last of these was Mr John Evans, Llwynffortun, just as he had risen to read his subject a messenger arrived from the mansion to say that dinner was ready. Mr Parry wanted everything to stop so that dinner could be served, but no one was willing to go until Mr Evans finished his sermon, with this Mr Parry left the chapel, but waited outside and when the sermon was over all the ministers were taken to the mansion and shown every kindness by him.

Soon after  the chapel was opened a church was formed from members of Horeb that lived in the area. Since then the growth has been continual and in the last ten to twelve years the membership has doubled. They are now 200 or more. the chapel is surrounded with a well appointed cemetery. As we mentioned this is where Mr Samuel Griffiths' remains lie. It is intended soon to demolish the old chapel and build a larger more handsome edifice, as the congregation have been wanting for some time.

We know of no one who has been raised to preach here. The ministry is in association with Horeb and will remain so. Mr Phillips the minister tells us that this is an industrious, unified and warm church.

Y GWERNLLWYN

(Llanfairorllwyn parish)

Saif y capel hwn tua thair milldir i'r gorllewin o Horeb, yn ymyl y brif-ffordd sydd yn arwain o Landysul i Gastellnewydd, ar y tu gogleddol i'r afon Teifi. Adeiladwyd yma gapel tlws iawn, ac agorwyd ef Hydref 12fed a'r 13eg, 1864. Yr un amser corpholwyd yma eglwys o aelodau Horeb, a bu Mr. Phillips yn weinidog yma am chwe' blynedd. Yn 1870 rhoddodd ofal y lle i fyny, ac yna dewiswyd Mr. David Jones, gynt o Benygroes, sir Benfro, yn weinidog, ac y mae efe yn parhau yma hyd yn bresenol. Cymerodd llawer o'r ardalwyr eu rhan yn deg yn nghychwyniad yr achos ac adeiladaeth y capel hwn, ac yn mysg y rhai mwyaf blaenlaw, ymdrechgar, a selog gyda'r gwaith, dylid crybwyll enwau Meistri John Jones ac Enoch Jones, Ffynonwen. Gan fod y boblogaeth yn lled luosog yn y gymydogaeth hon, a bod yr addoldy yn un mor hardd a chyfleus, y mae pob sail i ddisgwyl, gyda bendith yr Arglwydd, y daw yma gydag amser achos cryf a dylanwadol iawn. Os nad ydym yn camgymeryd, yn mhlwyf Bangor y mae y capel hwn. Ychydig i fyny ar y llechwedd uwchlaw iddo y mae y Bronwydd, palasdy Syr Thomas D. Lloyd, Barwnig.

Translation by Maureen Saycell (Dec 2008)

This chapel stands 3 miles west of Horeb, on the main road from Llandysul to Newcastle Emlyn, on the northern side of the river Teify. A pretty little chapel was built here and opened October 12th and 13th, 1864. At the same time a church was formed here of Horeb members, and Mr Phillips was the minister here for 6 years. In 1870 he gave up the care and Mr David Jones, formerly Penygroes, Pembrokeshire, became minister and remains here.  The local people did their fair share to build the chapel and start the cause here, among the foremost Messrs John and Enoch Jones, Ffynonwen. As this is  a well populated area it is expected that, with an attractive and convenient chapel, with the Lord's blessing this will become a strong and influential cause. Unless we are mistaken this chapel is in the parish of Bangor. A short way up the hill from it is the mansion of Bronwydd, home of Sir Thomas D Lloyd, Baronet.

SEION, LLANDYSUL

Mae Llandysul yn un o'r pentrefydd harddaf yn y Dywysogaeth, ac yn deilyngach o gael ei alw yn dref nag yn bentref, gan fod yma adeiladau prydferth, a mwy o drigolion, a phob cyfleusdra arall, nag a geir mewn llawer o drefydd. Dylasai fod yma gapel gan yr Annibynwyr er's haner can' mlynedd yn ol, gan mai hwy yw yr enwad hynaf a lluosocaf o lawer yn y plwyf eang hwn er's mwy na dau ganrif, ond yn rhyw fodd esgeuluswyd adeiladu capel yma hyd yn ddiweddar. Yn niwedd y flwyddyn 1870 dechreuwyd ar y gwaith o ddifrif. Tynwyd cynllun capel eang a phrydferth gan Mr. Thomas, Glandwr, a chafodd yr adeilad hardd ei orphen fel y cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad yma Hydref 4ydd a'r 5ed, 1871. Yr oedd y cyfarfod hwn hefyd yn gyfarfod chwarterol y sir. Pregethwyd yn y gwahanol oedfaon gan Meistri Thomas, Glandwr; Evans, Caernarfon; Kilsby Jones, Evans, Aberaeron; Evans, Ceinewydd; Morgans, Penlan; Thomas, Llanfair; Jones, LIwyncelyn; Davies, Aberteifi; Marks, Salem, a Thomas, Brynmair. Mewn cysylltiad a'r achos hwn dylid crybwyll gyda pharch enw Mrs. Jones, y Shop, yr hon a roddodd y tir at adeiladu y capel, a chanoedd o bunau at draul yr adeiladaeth. Bu Mr. Ebenezer Jones hefyd yn ddiwyd haelionus, ymdrechgar, a ffyddlon iawn gyda'r gwaith o'r dechreu i'r diwedd. Trwy eu gweithgarwch a'u dylanwad hwy, a chydweithrediad calonog yr ardalwyr, cyfodwyd yma un o'r addoldai harddaf yn y sir. Ffurfiwyd yma eglwys o aelodau Horeb gan Mr.

208

Phillips, y gweinidog, ac efe yw bugail yr eglwys ieuangc mewn cysylltiad a'r fam eglwys. Mae yma gynnulleidfa dda, a thua chant o aelodau yn barod, a phob argoel y bydd yma achos cryf iawn mewn ychydig amser. Mae y capel erbyn hyn yn ddiddyled, a phob peth yma yn ymddangos yn nodedig o addawus a gobeithiol. Mor wahanol yw agwedd pethau yn mhlwyf Llandysul yn awr i'r hyn ydoedd pan yr ymwelai Stephen Hughes a'r lle rhwng 1662 a 1688, ac y pregethai yn ddirgel mewn anedd-dai i nifer cymharol fychan o bobl erlidiedig. Gall trigolion Llandysul heddyw ddyweyd, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen." Ond dylent gofio mai i lafur a dyoddefiadau y tadau y maent yn ddyledus am eu holl freintiau yn yr oes hon.

Translation by Maureen Saycell (Dec 2008)

Llandysul is one of the most beautiful villages in the principality, more worthy to be called a town than a village, as there are more people and services than many towns. There should have been an Independent chapel here 50 years ago, as they are the oldest and most numerous denomination in the area for around two centuries, but through some neglect one was only built here recently. The work began at the end of 1870, a design was drawn up by Mr Thomas, Glandwr, and the chapel was completed and the opening coincided with the quarterly county meeting on October 4th and 5th, 1871.  the following ministers took part - Messrs Thomas, Glandwr; Evans, Caernarfon; Kilsby Jones, Evans, Aberaeron; Evans, Ceinewydd; Morgans, Penlan; Thomas, Llanfair; Jones, LIwyncelyn; Davies, Aberteifi; Marks, Salem, and Thomas, Brynmair. In association with this cause we should mention Mrs Jones, the Shop, who gave land to build the chapel and hundreds of pounds toward the building. Mr Ebenezer Jones was also generous and industrious from start to finish.  With the efforts of these and other  local people one of the prettiest chapels in the county was built. A church was formed from the members of Horeb by Mr Phillips, the minister, and he is the minister to this young church is association with the mother church.  There is a large congregation, about 100 already, and the hope of a strong cause in the near future. The chapel is now debt free and all looks promising for the future. Things are very different  from the time Stephen Hughes came in secret to preach at people's homes between 1662 and 1688, to avoid persecution, to a small number of people. The people of Llandysul today can truly say " The Lord made for us great things, and for that we are grateful." They should also remember that it was the suffering of their fathers that gained the advantages they have today.

BRYNTEG

(Llanwenog parish)

See  translation on /big/wal/CGN/Llanwenog/Chapels.html#Brynteg

Saif y capel hwn yn rhan orllewinol plwyf Llanwenog. Er's llai na deugain mlynedd yn ol yr oedd y plwyf hwn yn amddifad o addoldy Ymneillduol, ac oherwydd hyny mewn cyflwr digrefydd ac anfoesol. Treulid y Sabboth yn gyffredin i ddwyn yn mlaen gampau llygredig, yn neiliduol "cicio'r bêl droed."  Ar y Nadolig yr oedd "match cicio'r bêl" yn cymeryd lle rhwng gwyr y plwyf a gwyr y Blaenau, pryd y ceid cynnulliad lluosog, oddeutu tair mil, meddir, o drigolion y plwyf ardaloedd cyfagos. O dosturi at gyflwr truenus y trigolion gwnaed cynyg i godi ysgol Sabbothol yn mhentref Rhuddlan, ond oherwydd ymddygiad anfad a gwrthwynebus y trigolion, gorfodwyd ei rhoddi i fyny. Yn 1834, symudodd Mr. John Jones a'i deulu o Blaenborthyn, yn mhlwyf Llandysul, i fyw i Blaenbronfain, yn mhlwyf Llanwenog, a daeth ei frawd-yn-nghyfraith, Mr. John Griffiths, a'i deulu, i fyw yn ei le yn Blaenborthyn. Yr oedd y ddau deulu yn perthyn i eglwys Pencadair. Yr oedd Mr. David Griffiths a'i deulu, Llanfechan, a Mr. David George, gwas Major Evans, Dolaubach, hefyd yn perthyn i Rydybont. Cynygiasant gadw ysgol yn amaethdai Bro Gwenog ar gylch, a llwyddasant tu hwnt i bob disgwyliad. Cawsant lawer o gymorth gan rai o aelodau y Methodistiaid Calfinaidd yn nghapel Waunifor. Pan gasglodd yr ysgol nerth, penderfynwyd codi addoldy. Cafwyd tir at hyny, a chladdfa eang, gan Major Evans, ar dir Abertegan, ar  lês o 200 o flynyddau am 10s. y flwyddyn. Cafwyd pob caredigrwydd gan amaethwyr yr ardal. Agorwyd y capel yn 1838, a'r Nadolig cyntaf cynaliwyd cyfarfod ysgolion Sabbothol Noni, Rhydybont, Brynteg ynddo, er mwyn dybenu "y match cicio'r bel," yr hyn a wnaed yn llwyr, ac am byth wrth bob tebyg. Ffufiwyd yma eglwys, ac am y pedair blynedd cyntaf gofelid am yr achos gan Meistri S. Griffiths, Horeb; M. Rees, Pencadair; J. Lewis, Rhydybont; D. Davies, Llanbedr, ac E. Williams, Penycae. Bu y ddau olaf yn cadw ysgol yn Brynteg, bob un am auaf yn olynol. Yn 1842, ymunodd Brynteg a Rhydybont a Chapel Noni i fod dan weinidogaeth "Jones, Llangollen," ond darfyddodd Mr. Jones a gweinidogaethu yn Brynteg flynyddoedd cyn iddo ymadael a'r ddwy eglwys arall. Yn 1852, ymunodd Brynteg a'r ddwy eglwys uchod i roddi galwad i Mr. Henry Jones, Saron, ac yn 1862, i Mr. D. Williams, Glynnedd. Talwyd dyled adeiladu y capel yn bur fuan, ond yn ddiweddar y mae wedi ei adnewyddu a'i brydferthu. Mae golwg gysurus iawn ar yr achos dan weinidogaeth fywiog ac effeithiol Mr. Williams.

209

Yr unig bregethwr a gyfodwyd yma yw Mr. John Bowen Jones, B.A., Penybont-ar-ogwy, a mab Mr. John Jones, Blaenborthyn, un o gychwynwyr yr achos yma.

End of Cardiganshire


[Gareth Hicks: 4 Dec 2008]