| Carmarthenshire | Contents |
The umbrella project for
WALES is detailed on this Genuki page where there is a contents listing for each county/section and data on what has been extracted/translated already.
This is the complete Carmarthenshire section of Volume 3, in Welsh - any existing translations will be itemised on the above page.
This extraction is as it is in the book, chapel names and page numbers act as separators.
Pages are in groups of 14, each group will be on a separate page of Genuki.
Footnotes remain at the bottom of pages
Extraction by Gareth Hicks (March 2008), proof read by those named on each
page.
Chapels on this page;
Proof read by Deric John (March 2008)
337
Mae y capel hwn yn mhlwyf Henllan Amgoed, ac yn cael ei enw oddi wrth enw y plwyf. Nid yw amser dechreuad yr achos hwn yn hysbys, ac nid oes un sicrwydd pendant trwy weinidogaeth pwy yr enillwyd yr aelodau cyntaf i'r ffydd. Cafodd yr ardaloedd hyn eu bendithio er yn fore a gweinidogaeth efengylaidd a grymus iawn. Yr oedd Mr. Phillips, tad yr enwog Peregrine Phillips, yr hwn oedd yn buritan selog ac yn bregethwr grymus, yn weinidog plwyf Amroth yn amser Siarl I., a bu dan erledigaeth tua y flwyddyn 1630 a'r tair neu y chwech blynedd ganlynol am ei buritaniaeth a'i lafur fel efengylwr. Mae yn ddigon tebygol i rai o wreichion ei weinidogaeth danllyd ef gyrhaedd rhai o gyrau ardal helaeth cynnulleidfa Henllan. Byddai Ficer Llanymddyfri hefyd yn pregethu yn achlysurol yn Llanhaden, a byddai ei ymweliadau ef yn cynhyrfu yr holl wlad am lawer o filldiroedd o gwmpas. Yn amser y werin-lywodraeth a llywyddiad Cromwell yr oedd y llafurus a'r tanllyd Stephen Hughes yn gweinidogaethu yn Meidrym; Dayid Jones yn Llandysilio ; William Jones yn Cilmaenllwyd; James Davies yn Merthyr, a rhai eraill a ellid enwi heb fod yn mhell o'r ardal hon. Mae yn sicr fod gweinidogaeth pob un o'r dynion da hyn wedi effeithio, i raddau mwy neu lai, i enill niferi o bobl yma ac acw trwy y parth hwn o'r wlad i gofleidio crefydd efengylaidd ac Ymneillduaeth, ond i lafur Mr. Stephen Hughes yn benaf y mae traddodiad yn priodoli dechreuad yr achos hwn. Mae yn anhysbys pa un a oedd eglwys Annghydffurfiol (sic) wedi cael ei ffurfio mewn rhyw gwr o'r wlad rhwng Lacharn a Chilmaenllwyd cyn adferiad Siarl II.; ond y mae yn ddiamhuol fod Stephen Hughes, David Jones, ac eraill o'r gweinidogion rhag grybwylledig, yn pregethu mewn gwahanol aneddau yn y parthau hyn trwy holl dymor yr erledigaeth o 1662 hyd 1689, ac i eglwys Ymneillduol gael ei ffurfio yma ryw amser yn ystod y tymor hwnw, os nad oedd wedi ei ffurfio yn amser y werin-lywodraeth, neu dymor llywyddiad Oliver Cromwell. Yn y weithred gyntaf a wnaed er sicrhau tir at adeiladu capel Henllan, yr hon a ddyddiwyd Rhagfyr 9fed, 1695, dywedir fod y tir yn cael ei roddi fel lle addoldy "i'r gynnulleidfa o Ymneillduwyr Prostestanaidd oedd ag y sydd yn arfer ymgynnull i addoli yn y Pal, yn mhlwyf Cyffig, yn mhlwyf Egremont, ac yn Canerw yn mhlwyf Llanboidy." Felly gwelir fod y gynnulleidfa hon yn arfer addoli mewn tri lle ar wahanol gyrau yr ardal. Y mae capel Henllan agos yn y canol rhwng y tri lle hyn. Tua y flwyddn 1696 bu farw gwr y Pal, ac mewn canlyniad i hyny bu raid rhoddi i fynu y gwasanaeth yno. Gan nad oedd capel Henllan wedi cael ei adeiladu etto, aeth rhan o gynnulleidfa y Pal i addoli dros ychydig amser i Gefnyfarchen, yn agos i'r fan yr oeddid yn adeiladu y capel, ac aeth y rhan arall i'r Mwr, rhwng St. Clears a Lacharn. Dyna ddechreuad y cynnulleidfaoedd sydd yn bresenol yn Lacharn a Bethlehem. Yr oedd Mr. Owen Davies wedi cael ei urddo yn weinidog i'r gynnulleidfa a addolai yn y Pal, Egremont, a Canerw, er y flwyddyn 1688, a bu yn llafurio yn eu plith hyd y flwyddyn 1691, pryd yr ymsefydlodd yn Abertawy fel canlyniedydd Mr. Daniel Higgs.* Dilynwyd ef yn y
* Records of the Presbyterian Fund.
338
weinidogaeth yma gan Mr. David Lewis o Gynwil, yr hwn a barhaoddi (sic)lafurio yma gyda llwyddiant a pharch nodedig hyd derfyn ei oes, yr hyn a gymerodd le ryw bryd rhwng y flwyddyn 1700 a 1705. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Lewis yr adeiladwyd y capel cyntaf yma, sef yn y flwyddyn 1697. Dyddiad y les, fel y nodasom, yw Rhagfyr 9fed, 1695. Cafwyd y tir, sef un erw, at gapel a mynwent, ar ran o fferm a elwir Caer Emlyn, gan y perchenog, William Lewis, am 99 o flynyddau, am yr ardreth o bum swllt yn y flwyddyn. Yr ymddiriedolwyr oeddynt David John Owen, amaethwr, o blwyf Llangorn, yr hwn wedi hyn a fu yn weinidog yma ; Eyan John Owen, amaethwr o blwyf Cyffig, brawd D. J. Owen mae yn debygol ; John David Lewis o blwyf Eglwysfair a Churig; a Lewis Protheroe o blwyf Egremont. Yn y flwyddyn 1767 rhoddwyd y les gyntaf i fynu i Mr. Lewis Phillips, yr hwn oedd wedi dyfod i feddiant o fferm Caer Emlyn trwy bryniad, a rhoddodd yntau les newydd i'r eglwys, yr hon sydd i barhau am 999 o flynyddau.
Ar farwolaeth Mr. Dayid Lewis rhoddwyd galwad i Mr. David John Owen, aelod o'r eglwys, a brawd henaf yr enwog James Owen o Groesos-wallt, i fod yn ganlyniedydd iddo. Mae yn dra sicr fod Mr. Owen wedi bod cyn hyn am flynyddau lawer yn bregethwr cynnorthwyol yn yr eglwys, oblegid yr oedd yn llawn haner cant oed, os nad yn ychwaneg, pan y dewiswyd ef. Yr oedd pregethwr arall o gryn dalent ac enwogrwydd yn aelod yma ar yr amser y dewiswyd Mr. Owen yn weinidog, sef Mr. Lewis Thomas, Bwlchysais, ac y mae yn ddigon tebygol fod llairif lled luosog yn yr eglwys y buasai yn fwy dewisol ganddynt gael Mr. Thomas yn weinidog, na chael Mr. Owen. Yn anffodus yr oedd ychydig wahaniaeth yn ngolygiadau y ddau bregethwr ar brif athrawiaethau yr Efengyl a ffurf-lywodraeth eglwysig. Yr oedd Mr. Owen yn dal Calfin-iaeth gymedrol, y fath a ddysgid yn ysgrifeniadau Dr. Daniel Williams, a Phresbyteriaeth oedd y ffurf-lywodraeth eglwysig y safai drosti. Yr (oedd) Mr. .Thomas, o'r to arall, yn sefyll yn dyn dros Uchel Galfiniaeth fel y dysgid hi yn ysgrifeniadau Dr. Thomas Goodwin, a Dr. Crisp, ac yn Annibynwr eithafol. Aeth gwahaniaeth barn y ddau bregethwr yn fuan yn destyn dadleuon poethion rhwng yr aelodau. Parhaodd y ddadl yn ei ffyrnigrwydd mwyaf trwy y blynyddoedd 1707-8 a 9. Cyhuddai plaid David Owen blaid Lewis Thomas o ddal syniadau Antinomaidd mwyaf gwrthun, a phen-rhyddid yn lle llywodraeth eglwysig drefnus ; a chyhuddai plaid Lewis Thomas eu gwrthwynebwyr o fod yn Neominiaid, neu o ddal math o ddeddf newydd yn yr Efengyl, trwy yr hon y gall pechadur gael ei gyfiawnhau am ei weithredoedd er eu bod yn fyr ddyfod i fynu a gofynion y ddeddf foesol, ac o fod yn esgeulus gadw dysgyblaeth bur yn yr eglwys trwy oddef dynion o fuchedd aflan mewn cymundeb. Mae yn dra thebygol fod y cyhuddiadau hyn a daflai y pleidiau, i wynebau eu gilydd yn cael eu gosod allan mewn iaith eithafol. Dywed Mr. Mathias Maurice, yr hwn oedd yn aelod yma, ac yn amser y ddadl fyfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin, fel y canlyn yn yr hanes a gyhoeddodd am y terfysg hwn an 1727, " Yn ebrwydd ar ol hyn amryw mewn modd chwerw a gymerasant mewn llaw i wrthsefyll ein geiriau. Nid oedd pawb o'r rhai nid oeddynt yn unfryd a ni yn yr un wedd yn ein gwrth-wynebu ; ond nifer neillduol o'r gynnulleidfa hono (Henllan), a rhai o gynnulleidfaoedd eraill a oeddynt yn barnu cu hunain wedi eu cynysgaeddu a chreulondeb neu ddichell dyledus i'r fath waith. Amryw Gristionogion
339
difrifol gwirioniaid* ni ddywedasant ddim, er eu bod dan fawr ofal calon; ond eraill nid oeddynt yn ein harbed. Yn nghyflwr Dafydd yr oeddem pan ddywedai,.' Beunydd y camgymerant fy ngeiriau.' Pan ddywedem i Dduw garu ei etholedig a chariad tragywyddol anghyfnewidiol, dywedent ein bod yn barnu fod Duw yn caru pechod ; pan y dywedem i Dduw yn ei gynghor tragywyddol ragarfaethu y pethau a ddygwyddant yn y byd, dywedent ein bod yn barnu fod Duw yn awdwr pechod ; pan y dywedem i Grist ddioddef fel person cyffredin, yn arwyddoccai neu yn representio ei holl etholedigion ar y groes, dywedent ein bod yn barnu i ni ein hunain gael ein croeshoelio ar y groes ; pan y dywedem mai nid ein ffydd a'n hedifeirwch yw telerau neu gondishwnau y cyfamod gras, ar gyflawniad pa rai yr ydym yn enill ffafr Duw a bywyd tragywyddol, dywedent ein bod yn barnu nad oes raid i ni wrth ffydd nac edifeirwch. Er ein bod ni, yn ol mesur dawn Crist, yn hiraethu am ychwaneg ffydd, ychwaneg edifeirwch am bob pechod, ychwaneg santeiddrwydd i'r Arglwydd, ychwaneg sel dros enw Duw a threfn ei dy, etto yr oeddynt yn ddiatal yn gwaeddi yn ein herbyn, gan haeru ein bod yn agoryd drws i bob aflywodraeth. Llyfrau yn erbyn dysgyblaeth gynnulleidfaol eglwysi Crist; llyfrau yn erbyn athrawiaeth yr efengyl a anfonasant ar led ac a ganmolasant. Cyf-eiliornus lyfrau yn gwneuthur yr efengyl yn gyfraith newydd, ac felly yn Gyfamod Gweithredoedd dan enw Cyfamod Gras, mewn modd galarus yn distrywio cyfraith yr efengyl, mynent i drueiniaid eu derbyn ; ac etto yn mhob pregethiad ac yn mhob ymarweddiad yn crochlefain yn ein herbyn ni, gan haeru mai nyni oedd yn distrywio y gyfraith ac felly yn Antinomiaid: Barned Duw, barned y byd pwy ydynt yn distrywio y gyfraith, ai nyni y rhai ydym yn sefyll dros gyflawnder perffaith a santeiddrwydd cyfraith Duw mewn modd cyfiawn yn ein rhwymo i bob ufudd-dod hyd y diwedd, ai hwynthwy y rhai ydynt yn gosod o'r neilldu gyfraith Duw, ac yn gosod i fyny gyfraith newydd anmherffaith o'u gwneuthuriad eu hunain yn foddlon i ufudd-dod anmherffaith." Haera Mr. Jeremiah Owen, yn ateb i hanes Mr. Maurice, a gyhoeddwyd ganddo yn 1733, fod y geiriau cryfion ac anwyliadwrus a arferai Mr. Maurice ac eraill wrth draethu eu syniadau yn rhoddi sail deg i'w gwrthwynebwyr i'w cyhuddo o Antinomiaeth, ac y mae yn dra sicr fod y blaid arall wrth son am ffydd ac edifeirwch fel amodau y Cyfamod Gras, ac wrth esbonio yr hyn a olygent wrth amodau, yn rhoddi sail i'w gwrthwynebwyr i'w galw yn Neominiaid. Mae Mr. Maurice, fel y gwelsom, yn gwrthod yr enw Antinomiaid fel enw priodol iddo ef a'i blaid, ac y mae Mr. Owen yn haeru fod eglwys Henllan yn dal yn dyn at olygiadau Calfinaidd, ac yn bendant yn gwadu y cyhuddiad o ddiofalwch am ddysgyblaeth bur a osodid yn ei herbyn. Mae un peth yn ddigon amlwg, sef fod y pleidiau yn y ddadl hon, fel y mae yn gyffredin yn mhob anghydfod, yn rhoddi y lliw gwaetbaf ar ymddygiadau a geiriau eu gilydd. Ar ol dadleu llawer yn yr eglwys gosodwyd yr achos ger bron cynnadleddau o weinidogion a gynaliwyd yn Mhencadair, Trelech, a Henllan. Mae yn ymddangos i bob un o'r cynnadleddau, neu Y " synodau" hyn, fel geilw Mr. Mathias Maurice hwynt, roddi eu barn o du Mr. Owen a mwyafrif yr eglwys, ac yn erbyn Mr. Lewis Thomas a'i blaid. Wedi iddynt gael eu beio gan y cynnadleddau cawsant eu diarddel gan Mr. Owen yn gyhoeddus, ac yn mhoethder ei dymer cymhwysodd atynt eiriau y prophwyd Jeremiah wrth eu diarddel, " Tal y pwyth idd
* Arferir y gair gwirioniaid yma yn yr ystyr o ddynion diddrwg a hynaws o dymer.
340
ynt, O Arglwydd, yn ol gweithred eu dwylaw. Dod iddynt ofid Won, dy felldith iddynt. Erlid hwynt a digofaint, a difetha hwynt odditan nefoedd yr Arglwydd." Mewn canlyniad i hyn ymadawodd y blaid ddiarddeledig gan mwyaf oll gyda Mr. Lewis Thomas ac adeilasant gapel Rhydyceisiaid, lle y ffurfiasant eglwys Annibynol. Yn fuan wedi y rhwygiad hwn bu farw Mr. Owen, y gweinidog, a dewiswyd ei fab Mr. Jeremiah Owen, yn ganlyniedydd iddo. Bu y dewisiad hwn, yn gysylltiedig o bosibl a gradd o anoethineb yn y gweinidog ieuangc, yn achlysur ail derfysg yn yr eglwys, ac yn yr ail ymryson hwn aeth Mr. Mathias Maurice, Mr. Henry Palmer, a rhai eraill, allan ac ymunasant a phlaid Mr. Lewis Thomas yn Rhydyceisiaid. Er i'r dadleuon a'r terfysgoedd hyn fod yn ddolur calon i bob dyn da yn y ddwy blaid, ac iddynt yn ddiau fod yn destynau gwawd i lawer o annuwiolion, etto cawsant eu goruwchlywodraethu er daioni mawr. Buont yn foddion i gyffroi meddyliau i fyfyrio ac i geisio deall gwirioneddau mawrion yr efengyl, ac y mae y cyffroad meddyliol hwn yn parhau yn yr ardaloedd hyn a'r cymydogaethau cylchynol hyd y dydd hwn. Dichon nad oes un parth o Gymru, nac o'r byd, lle y mae y werin yn gyffredin yn fwy gwybodus mewn duwinyddiaeth nag o Henllan i Frynberian. Effeithiodd dadl Henllan yn ddaionus ar eglwysi Cymru yn gyffredinol, fel na oddefwyd i olygiadau cyfeiliornus ymlusgo i mewn iddynt yn y blynyddau dyfodol heb wrthwynebiad penderfynol a chryf iawn. Er nad oedd Mr. Owen a'i blaid yn Henllan nac yn Arminiaid nac Ariaid, mae yn sicr u bod yn gosod llai o bwys ar wirioneddau efengylaidd nag a ddylasent, ac y buasai y gogwyddiad at " Efengyl arall," oedd yn awr yn dechreu ymddangos mewn llawer man yn y Dywysogaeth, yn effeithio lawer yn fwy dinystriol nag y gwnaeth oni buasai y cyffroad grymus a phrydlon hwn .
Yn Hydref, 1710, y bu farw Mr. David John Owen, ac y mae yn dra thebygol i'w fab, Mr. Jeremiah Owen, gael i urddo yn gynar yn y flwyddyn 1711. Er ei fod ef yn un o'r gweinidogion ieuangc mwyaf dysgedig a thalentog yn y deyrnas, darfu iddo ymddyrysu mewn rhyw brofedigaethau yn mhen ychydig amser ar ol ei urddiad, fel y bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef. Cawn osod allan ei wrthgiliad yn ei eiriau ef ei hun yn ei fyw- graphiad. Mae yn debygol iddo ymadael tua'r flwyddyn 1715, os nad cyn hyny. John Pugh oedd y gweinidog yn 1716, ac ymddengys iddo barhau yma am dair neu bedair blynedd ar ol hyn. Nis gwyddom pa un ai marw neu ymadael i ryw le arall a wnaeth. Yn llaw ysgrifau Dr. John Evans, ac yn y gofres o fyfyrwyr a addysgwyd yn Athrofa Caerfyrddin, yn unig yr ydym wedi cyfarfod a'i enw. Nid oes genym un hanes i roddi am ei lwyddiant na'i aflwyddiant am yr ychydig amser y bu yn gweinidogaethu yn Henllan. Yr oedd yr eglwys hon yn dra lluosog yn nhymor gweinidogaeth Mr. Pugh. Yn yr ystadegau a gasglwyd gan y Dr. J. Evans yn 1715-17 yr ydym yn cael fod cynnulleidfa Henllan yn rhrifo 700 o bersonau, ond mae yn ymddangos mai dynion mewn amgylchiadau cyffredin oedd y rhan fwyaf o honynt gan nad oedd yn eu mysg ond un-ar-ddeg o bersonau yn meddu pleidlais i ethol aelodau i'r Senedd.
Wedi i Mr. Pugh ymadael, neu farw, rhoddwyd galwad i Mr. Henry Palmer i ddychwelyd o Rydyceisiaid, a chymeryd gofal ei fameglwys fel ei gweinidog. Yr oedd y teimladau annymunol a amlygwyd yn y rhwgiad un-flynedd-ar-ddeg yn ol yn awr wedi tawelu o du Mr. Palmer a'r
341
eglwys yn Henllan, ac hefyd o du corph yr eglwys yn Rhydyceisiaid, oblegid yr ydym yn cael i genhadau fyned o Hanllan i Rydyceisiaid i ofyn gymwynas o gael gollyngdod i Mr. Palmer i ddyfod yn weinidog iddynt hwy yr hyn a ganiatawyd. Yr oedd Mr. Palmer wedi dechreu pregethu ers blynyddau bellach yn Rhydyceisiaid, ac yn " Henuriad Athrawiaethol" yno, ond nid yn fugail neu weinidog urddedig. Urddwyd ef yn Henllan yn mis Hydref, 1721, a pharhaodd i lafurio yno yn barchus a defnyddiol iawn hyd ei farwolaeth yn Rhagfyr, 1742. Yn y flwyddyn 1724, ail adeiladwyd y capel, a gwnaed ef lawer yn helaethach na'r un blaenorol.
Bu yr eglwys am dair blynedd a haner wadi marwolaeth Mr. Palmer cyn taro wrth un a farnent yn gymwys i fod yn weinidog iddynt. Yn 1746 rhoddasant alwad unfrydol i Mr. Thomas Morgan, myfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yma yn mis Mehefin y flwyddyn hono. Gan i ni fod mor ffodus a dyfod i feddiant o'i ddyddlyfrau, yn ei lawysgrifen ef ei hun, yr ydym yn alluog i roddi hanes cyflawn o'i weinidogaeth yn Henllan. Cofnoda hanes ei urddiad fel y canlyn :--"Mehefin 25ain. Pregethais ger bron y gweinidogion yn Henllan y prydnawn hwn, oddiwrth Ioan xx. 31, pryd y cefais lawer o gymorth. Diolch i Dduw. Mehefin 26 (dydd Iau). Heddyw y cefais fy neillduo i waith y weinidogaeth yn nhy cyfarfod Henllan. Y mae addunedau Duw arnaf yn awr i fod yn ffyddlon a diwyd yn yr ymddiriedaeth a roddwyd i'm gofal. Duw a'm cynnorthwyo i gyflawni fy swydd er ei ogoniant ef a lles ei eglwys. Dechreuwyd gwaith y dydd gan Mr. George Palmer ; traddodwyd y bregeth gan Mr. David Williams, Caerdydd, oddiar Heb. v. 4, a phregeth ragorol ydoedd; gweddiwyd yr urddweddi gau Mr. Phillip Pugh; traddodwyd y siars i mi gan fy athraw, Mr. Evan Davies, oddiwrth Rhuf. xi. 13; a diweddwyd trwy weddi gan Mr. William Maurice, o Drefgarn." Yr oedd yn arferiad yn yr oes hono i bob gweinidog ieuangc y prydnawn cyn ei urddiad, i draddodi pregeth yn nghlyw y gweinidogion, fel y gallasent farnu pa un a fuasai yn meddu galluoedd addas i'w gwneyd yn briodol iddynt i'w urddo.
Awst 1af, 1746, symudodd o Gaerfyrddin i dy Mr. Lewis Phillips, gerllaw Henllan, lle y bu yn llettya am ddwy flynedd; a bu ddwy flynedd drachefn yn nhy David John, o'r Lan. Mai 18fed, 1750, ymunodd mewn priodas ag un o ferched yr enwog Daniel Phillips, Pwllheli, o'r hon y cafodd ddau o blant. Wedi priodi bu yn byw mewn lle a elwir Gwauntrebeddau, gerllaw Henllan, hyd Hydref 26ain, 1752, pryd y symudodd i Lacharn, lle y parhaodd i gyfaneddu hyd Ebrill 14eg, 1760, pan yr ymadawodd o Henllan, ac y symudodd i Loegr.
Mae yn ymddangos i Mr. Morgan fod yn dra llafurus a llwyddianus am y pedair blynedd-ar-ddeg y bu yn gweinidogaethu yn Henllan. Byddai fynychaf bob boreu Sabboth yn Henllan, ac yn y prydnawn ar gylch yn Llandilo, St. Clears, a Lacharn. Cawn yn ei ddyddlyfr enwau saith a deugain a dderbyniwyd ganddo i gymundeb eglwysig yn Henllan, o Gorphenaf 1746 hyd ddiwedd y flwyddyn 1751. Nid oes genym gofnodiad am yr ychwanegiadau at yr eglwys o'r flwyddyn 1752 hyd ei ymadawiad i Loegr. Mae y dail am y blynyddau hyny wedi eu colli o'r dyddlyfr. Ar y 3ydd o Awst, 1748, cafodd Mr. Lewis Phillips, o Penpontbren, boneddwr oedd yn aelod o'r eglwys ac yn bregethwr cynorthwyol yno ers deuddeng mlynedd, ei urddo yn Henllan yn gynorthwywr i Mr. Morgan.
342
Pregethwyd ar yr achlysur gan Mr. Lewis Jones, Penybontarogwy, oddiwrth Act. xxvi. 16, a thraddodwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. George Palmer, Abertawy. Yr oedd Mr. Phillips yn rhoddi ei wasanaeth fel pregethwr yn rhad. Er fod eglwys Henllan yn un o'r eglwysi lluosocaf a chyfoethocaf yn y Dywysogaeth y pryd hwnw, nid oedd ei chyfraniadau at gynaliaeth y weinidogaeth ond cywilyddus o isel. O wyth i ddeuddeg punt ar hugain yn y flwyddyn oedd y cwbl a dderbyniai Mr. Morgan ; ac yr oedd yn agos i haner hyny yn dyfod o'r Funds o Lundain. Ysgrifena yn ei ddyddlyfr am Rhagfyr, 1754, "Gan nad wyf yn cael digon oddiwrth y weinidogaeth at gynal fy nheulu, yr wyf, ar ol ymgynghori ag amryw gyfeillion yn Lloegr a Chymru, wedi penderfynu cadw ychydig o fasnach; ac yr wyf wedi cael boddlonrwydd i'm meddwl ei bod mor gyfreithlon i weinidog fod yn fasnacbwr, pan y byddo ei amgylchiadau yn galw am hyny, ag ydyw iddo ddal fferm." Ymddengys oddiwrth ryw grybwyllion a gyfarfyddwn yn nes yn mlaen yn y dyddlyfr, i'r fasnach, pa beth bynag ydoedd, droi i raddau yn aflwyddianus iddo; ac am hyny penderfynodd symud, er anwyled oedd pobl Henllan ganddo, i le y cawsai ei gynaliaeth oddiwrth y weinidogaeth yn unig. Yn niwedd y flwyddyn 1759, ysgrifena, " Gan fy mod yn gweled nas gallaf fyw a chynal fy nheulu, yr wyf wedi cael fy ngorfodi yn erbyn fy nhuedd i feddwl yn ddifrifol am symud o Henllan. Ac yn gymaint a'm bod' wedi derbyn galwad oddiwrth yr eglwys yn Delph, Saddleworth, Yorkshire, lle y mae golwg obithiol am i mi fod yn ddefnyddiol, a chael cynaliaeth gysurus: yr wyf wedi penderfynu, ar ol gweddio, ac ystyried llawer, i dderbyn ei galwad; ac yr wyf yn gobeithio mai ewyllys Duw yw hyny. Mae yn wir fod pobl Henllan yn awr wedi cynyg codi fy nghyflog i 40p. y flwyddyn, pe yr aroswn yn eu plith ; ond gan fy mod wedi cael fy mherswadio yn fy meddwl fod yr alwad o Delph yn alwad oddiwrth Dduw mewn atebiad i'm gweddiau i, yr wyf yn rhwym o ufuddhau i'r llef. Yr wyf yn gobeitbio ni ddarfu i mi wneuthur dim yn fyrbwyll yn yr achos hwn. O Dduw, par i'th bresenoldeb fyned gyda mi i'm cynorthwyo a'm cyfarwyddo, ac i'm bendithio yn ngwaith y weinidogaeth ; i'm harwain i a'm heiddo yn ein holl ffyrdd. Caniata hyn er mwyn Crist. Amen."
Ar gyfer Ebrill 13eg, 1760, ysgrifena, "Heddyw bu'm yn ceisio traddodi fy mhregeth ymadawol yn Henllan oddiwrth Dat. iv. 11 ; ond yr oedd yr amgylchiad yn effeithio gormod ar fy nheimladau i mi allu dweyd nemawr ar bwngc (sic) fy nhestyn ; a chyda llawer o ddagrau y dywedais yr hyn a ddywedais. Y prydnawn yn nhy James Palmer, yn mhlwyf Llangan, bu'm yn dyweyd ychydig oddiar Esay lv. 1. Boreu dydd Llun, Ebrill 14eg, 1760, cychwynais i a'm teulu o Lacharn tua Delph yn Yorkshire. "O Dduw gwneler dy ewyllys di ; caniata dy fendith a'th bresenoldeb i ni." Felly ymadawodd y gweinidog talentog a duwiol hwn a gwlad ei enedigaeth, ac ni ddychwelodd iddi i ymsefydlu ynddi byth mwyach. Nid Thomas Morgan oedd y cyntaf na'r diweddaf chwaith a orfodwyd i adael Cymru oherwydd diofalwch neu gybydd-dod yr eglwysi. Dywed wrthym iddo mewn deng mlynedd wario mwy na dau cant o bunnau a gawsai yn waddol gyda ei wraig wrth wasanaethu pobl Henllan, ac na buasai yn eu gadael er hyny pe cawsai fodd i fyw gyda hwy. Nid ydym yn tybied y goddefasai eglwys Henllan i bethau fod felly pe cawsai yr achos ei osod yn deg ger eu bron. Yr oedd bai yn ddiameu yn gorwedd wrth ddrws y swyddogion. Mae gweinidogion ymneillduol Cymru wedi
343
dyoddef may nag a wyr neb ond eu Tad nefol oddiwrth dlodi ac amgylchiadau gwasgedig, a hyny yn fynych pryd yr oedd digon o allu ac ewyllys yn eu heglwysi i'w gwneyd yn gysurus pe gwnelsai y diaconiaid eu dyledswydd trwy alw sylw y frawdoliaeth at y mater. Barn drom ar weinidog yw myned i winidogaethu i eglwys y byddo ei diaconiaid yn ddiofal, crebachlyd eu syniadau, neu gybyddlyd.
Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol ymadawiad Mr. Morgan, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Powell, yr hwn fel y tybiwn ni, fu am ychydig amser wedi dyfod allan o Athrofa Caerfyrddin yn weinidog yn Nghapel Isaac, ac wedi hyny yn rhywle yn Ngorllewin Lloegr. Dechreuodd ef ei weinidogaeth yn Henllan, Gorphenaf 9fed, 1761, a bu farw yn Gorphenaf, 1766. Bu ei weinidogaeth yn nodedig o lwyddianus yma. Derbyniodd driugain ond un o aelodau i'r eglwys, ac yn eu mysg amryw o benau teuluoedd mwyaf cyfrifol y gymydogaeth. Bu farw yn dra disymwth yn nghanol ei barch a'i ddefnyddioldeb, er galar dirfawr i'r holl wlad. Yn Hydref, 1768, bu farw Mr. Lewis Phillips, yr hwn a fuasai yma yn weinidog cynorthwyol er y flwyddyn 1748, ac felly gadawyd yr eglwys yn awr heb un gweinidog.
Dydd Nadolig, 1768, daeth Mr. Richard Morgan o Athrofa Abergavenny yma ar brawf, ac urddwyd ef Medi 28ain, 1769. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad :- William Evans, Cwmllynfell; gweinidog, Mr. Morgan; Dr. B. Dayies, ei athraw; Lewis Rees, Mynyddbach; Rees Davies, Canerw; Thomas Dayies, Llanybri neu Pantteg; John Tibbot, Esgairdawe; John Dayies, Pentretygwyn; Owen Dayies, Trelech; a John Griffiths, Glandwr. Ymaflodd Mr. Morgan yn ngwaith y weinidogaeth lel gweithiwr difefl. Gan fod cylch ei weinidogaeth yn cyrhaedd o St. Clears i Landilo, yn sir Benfro, yr oedd ei lafur yn ddirfawr. Dau Sabboth o'r mis y pregethai yn Henllan. Yn Bethlehem a Llandilo y byddai ar y ddau Sabboth arall. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ac yn fyfyriwr dwys trwy ei oes, ac felly porthodd bobl ei ofal a gwybodaeth grefyddol yn ddiwyd ac effeithiol trwy ei holl dymor. Cadwai gyfarfodydd esbonio bob dydd Mercher a dydd Sadwrn, a chyfarfod bob nos Wener yn ei dy ei hun i egwyddori pobl ieuaingc y gynnulleidfa. Yr oedd wedi sefydlu pethau cyffelyb i ysgolion Sabbothol yn holl gylch eang ei weinidogaeth lawer o flynyddau cyn i Mr. Raikes o Gaerloew, a Mr. Charles o'r Bala, ymddangos ar y maes fel sefydlwyr ysgolion Sabbothol. Gosodai ieuengctyd y cynnulleidfaoedd oedd dan ei ofal i ddysgu ac adrodd " Catecism y Gymanfa" gyda gofal a chysondeb mawr. Yr oedd yn Henllan, yn amser Mr. Morgan, amryw bregethwyr cynorthwyol parchus a defnyddiol iawn, megys Lewis Roberts, tad Mr. Roberts, Dinbych ; John Thomas, Llwynygwyddil; John Davies, Carfan; a Theophilus Morgan. Byddai y naill neu y llall o'r dynion da hyn yn llenwi lle y gweinidog yn ei absenoldeb, ond ni byddent un amser yn anfon eu cyhoeddiadau o gylch y wlad, fel y gwnelai llawer o bregethwyr cynorthwyol yr oes hono. " Arfer duwioldeb gartref" y byddent hwy. Mae Mr. John Thomas, Llwynygwyddil, yn dyweyd fel y canlyn am ragor- iathau Mr. Morgan fel gweinidog : - " Yr oedd bob amser yn deimladwy iawn o bwysfawredd y gwaith a gymerasai mewn llaw o wylio praidd Duw, dan Fugail mawr y defaid, ac i ofalu am eneidaau gwerthfawr dynion, fel un y byddai raid iddo roddi cyfrif. Penderfynai na byddai iddo wybod am ddim ond Iesu Grist a hwnw wedi ei groeshoelio, yn bob peth,
344
ac yn mhob peth yn eu plith. Ni chelai oddiwrth ei wrandawyr un ran o gynghor Duw - ni wisgai un emser ddau wyneb er rhyngu bodd dynion --ac ni arferai fwyseiriau i guddio ei feddwl oddiwrth ddynion, ac i ddarnguddio unrhyw ran o'r athrawiaethau pwysig a ddatguddir yn yr efengyl. Gwnai yn eglur i eraill, trwy ei bregethau a'i ymadroddion, yr hyn a gredai ei hun ei fod yn wirionedd. Ei bregethau oeddynt yn gyffredin yn fyrion, ond yn dra phwysig, efengylaidd, profiadol, a llawn o sylwedd. Pan mewn addoliad cyhoeddus yn ymwneyd ag ordinhadau yr efengyl - gweddio, pregethu - byddai i deimladau yn hynod o doddedig, fel y gwelid dagrau yn ffrydio aros ei ruddiau."
Trwy fendith yr Arglwydd ar lafur dibaid Mr. Morgan a'i gynorthwywyr ffyddlon cynyddodd yr eglwys yn fawr mewn rhifedi, gwybodaeth, a dylanwad crefyddol. Yn y flwyddyn 1777, bu raid tynu yr hen gapel i lawr ac adiladu un mwy, a chyn diwedd tymor ei weinidogaeth of adeiladwyd capeli yn Llanboidy a Charfan, lle y mae eglwysi blodeuog ers blynyddau lawer bellach.* Er helaethed cylch ei lafur cartrefol darfu i Mr. Morgan, fel y nodasom amryw weithiau, mewn cysylltiad a'i gyfaill ieuangc, Mr. Jones, Trelch,(sic) lafurio llawer yn mysg Saeson sir Benfro.
Calfiniad diysgog o ran ei farn ydoedd, a gwreiddiodd bobl ei ofal yn yr un golygiadau. Yr oedd pob gwyriad oddiwrth yr hyn a ystyriai yn athrawiaeth iachus yn anyoddefol ganddo. Gosodai y fath bwys ar iachusrwydd barn fel ni allai oddef neb o farn afiachus mewn cymundeb eglwysig, llawer llai i ddal unrhyw swydd yn yr eglwys. Mae yr hyn a ganlyn a ysgrifenwyd ganddo yn llyfr yr eglwys yn dangos mor ofalus yr ydoedd ar y pen hwn, " Yn gymaint a bod y pethau canlynol yn cael eu gwadu a'u gwrthwynebu yn fawr yn y dyddiau hyn, sef yr athrawiaeth o dri pherson yn y Duwdod, pechod gwreiddiol, etholedigaeth o rifedi neillduoli fywyd tragywyddol, Duwdod ac iawn Crist, gweinidogaeth Ysbryd Dow yn angenrheidiol ac anhebgorol i gyfnewid pechadur, parhad mewn gras, ac nad aiff dim o werth gwaed Crist i uffern, a pharhad tragywyddol i boenau yr annuwiol yn y byd a ddaw. Os bydd i rai yn eglwys Henllan mewn amser i ddyfod, geisio gosod i fyny gymysgedd mewn gweinidog- aeth, neu gymundeb a'r rhai a wadant y pethau uchod, a fydd i chwi Joshua Phillips, James Lewis, David Morgan, John Morgan, Lewis Roberts, a Theophilus Morgan, i wrthwynebu y cyfryw gymysgedd ? Ateb. Bydd. Hyn oedd ateb y personau uchod pan nillduwyd hwy i fod yn ddiaconiaid ac yn henuriaid i ac yn eglwys Henllan. Arwyddwyd hyn gan y personau uchod yn nghapel Henllan, Ionawr 25, 1800.
" R. Morgan, Henllan, "}Tystion.
"M. Jones, Trelech."
Derbyniodd Mr. Morgan 344 i gymundeb eglwysig yn Henllan yn nhymor ei weinidogaeth, heblaw yr ugeiniau a dderbyniwyd ganddo yn y canghenau. Wedi bywyd o lafur didor, yn ngwyneb llawer o lesgedd a phoenau corphorol, yn i flynyddau diweddaf, bu y gweinidog defnyddiol hwn farw yn Chwefror, 1805, wedi bod yn gweinidogaethu yn Henllan a'r canghenau am 37 o flynyddau.
* Wedi ysgrifenu hanes Carfan anfonwyd i ni gan Mr. Thomas Whitland y cefnodiad a ganlyn allan o lyfr eglwys Hallan, wedi ei ysgrifenu gan y gweinidog ar y pryd, am Carfan, yr hyn sydd yn gwahaniaethu fel y gwelir, am ddyddiad adeiladu y capel.: " Ty cwrdd Carfan a adeiladwyd y flwyddyn 1797. Am y tro cyntaf gweinyddwyd Swper yr Arglwydd ynddo Mehefin 3ydd, 1789."
345
Wedi marwolaeth Mr. Morgan rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. John Lloyd, yr hwn dair blynedd cyn hyny a urddasid yn weinidog yn Horeb, sir Aberteifi; a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn y flwyddyn 1805. Cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fawr wedi sefydliad Mr. Lloyd yma, a chafwyd prawf boddhaol yn fuan mai Rhagluniaeth a'i harweiniodd i'r maes eang hwn i lafurio. Yr oedd cylch ei weinidogaeth yn cyrhaedd o Landilo hyd Carfan, ac o Lanboidy i Bethel; a dichon na bu neb erioed yn llafurio cyhyd mewn maes mor eang yn fwy diofid nag y bu efe. Priodolid hyny yn benaf i'w gallineb, ac yn mhob peth a wnai yr oedd yn un o'r rhai mwyaf boddhaol i bawb. Aeth y capel yn rhy gyfyng, ac yn y flwyddyn 1830 adeiladwyd yr addoldy eang presenol, yr hwn sydd yn un o'r rhai helaethaf a harddaf a welir mewn gwlad amaethyddol yn unrhyw barth o Gymru. Dyoddefodd Mr. Lloyd yn fawr iawn oddiwrth y crydcymalau, yr hyn a ddiffrwythodd ei holl aelodau, ac a'i hanalluogodd am yr ugain mlynedd olaf o'i oes i deithio fel cynt trwy ei gylch. Byddent am flynyddoedd yn ei gario oddiar ei anifail i'r pulpud, a phregethai oddiar ei eistedd, ond yr oedd ei dafod yn parhau mor ffraeth ag erioed. Rhoddwyd galwad i Mr. Josuah Lewis, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, i fod yn gydweinidog ag ef, ac urddwyd ef Hydref 3ydd, 1838. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. J. Griffith, Tyddewi. Holwyd y gofyniadau gan Mr. H. George, Brynberian. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan yr hen weinidog, Mr. Lloyd, Henllan. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Davies, Pantteg, ac i'r eglwys gan Mr. J. Breese, Caerfyrddin.* Cydlafuriodd y ddau mewn brawdgarwch perffaith am ddeuddeng mlynedd, ac nis gallasai plentyn gyda thad fod yn fwy cysurus nag y bu Mr. Lewis gyda Mr. Lloyd. Bu farw yr hybarch weinidog Medi 21ain, 1850, yn 73 oed, ac o hyny allan disgynodd y gofal yn gyflawn ar Mr. Lewis, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth a pharch hyd y dydd hwn. Mae y rhan fwyaf o'r canghenau a hanodd o Henllan o bryd i bryd wedi tori oddiwrthi, a myned yn weinidogaethau annibynol, ond gwnaed hyny bob amser yn y teimladau goreu. Rhoddodd Mr. Lloyd Landilo i fyny flynyddau cyn sefydliad Mr. Lewis yn y lle, ac yn y flwyddyn 1847, dair blynedd cyn marw Mr. Lloyd, datodwyd y cysylltiad rhwng Carfan a Soar, a Henllan; ac yn fuan wedi marw Mr. Lloyd teimlodd Mr. Lewis fod y llafur yn ormod iddo, a rhoddodd Bethel i fyny, fel nad oes o'r holl ganghenau ond Llanboidy yn aros mewn cysylltiad uniongyrchol a'r fam eglwys. Mae yma etto ddwy gangen perthynol i'r eglwys lle y cynhelir Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio yn rheolaidd, a phregethu yn achlysurol; sef Rhydtyrdu a Cwm Miles. Crybwyllasom am yr olaf yn nglyn a hanes Nebo, am ei fod yn feddiant cydrhwng yr eglwys hon a'r eglwys yno.
Mae yr eglwys yma wedi bod bob amser ar y blaen i'r rhan fwyaf o eglwysi y wlad mewn parchusrwydd a sefyllfa gymdeithasol ei haelodau ; ac nid yw wedi bod ar ol mewn rhinweddau a grasusau Cristionogol. Mae teuluoedd mwyaf cyfrifol y wlad wedi bod mewn cysylltiad a hi, ac y mae Yn parhau i gynal i fyny ei pharchusrwydd cyntefig, er nad yw ei chylch mor eang, oblegid fod y rhan fwyaf o'r canghenau wedi ymwahanu oddiwrthi. Pan y cyhoeddodd Mr. W. Thomas, Bala, ei gyfieithiad o esboniad Dr. Guyse ar y Testament Newydd - llyfr a gymerodd flynyddau i'w ddwyn
* Diwygiwr 1838 Tudal. 343.
346
allan - cafodd 102 o dderbynwyr iddo yn eglwys Henllan* Mae yn amheus a geid haner y nifer hyny mewn unrhyw eglwys yn Nghymru yn awr i dderbyn llyfr o'r un maintioli. Mae y ffaith yna, heblaw ei bod yn dangos ysbryd darllengar yr eglwys hon y pryd hwnw, yn rhyw awgrym hefyd o amgylchiadau bydol ei haelodau. Yn Hydref, 1761, rhoddodd Mr. Lewis Phillips, Penybontbren, gwr cyfrifol o'r ardal a urddasid yn weinidog cynorthwyol yn Henllan, fferm fechan a elwir Bwlchmelyn yn feddiant i eglwys Henllan, at wasanaeth y gweinidog; ac yno y mae gweinidogion yr eglwys yn olynol er hyny wedi trigianu. Dadleuir yn aml mai anfantais i grefydd ydyw y meddianau a adawyd fel hyn i eglwysi; ond digon tebyg y byddai yn anhawdd argyhoeddi neb yn Henllan fod y meddiant o Bwllchmelyn wedi bod o un anfantais i'r aches yno. Adeiladwyd y capel cyntaf fel y gwelsom eisioes yn y flwyddyn 1697, ail adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1724, a thrachefn yn y flwyddyn 1777, ac yn y flwyddyn 1830 y cod wyd ef i'w ffurf bresenol, a dygwyd yr holl draul gan yr ardalwyr ar unwaith, fel na bu ei ddyled yn faich ar neb.
Codwyd yma lawer o bregethwyr o bryd i bryd, ac aeth llawer o honynt i'r weinidogaeth gan mwyaf i Loegr ; bu eraill farw yn mlodeu eu dyddiau ; a bu eraill dros eu hoes yn bregethwyr cynorthwyol defnyddiol yn yr eglwys. Rhoddwn yma y rhestr gywiraf a chyflawnaf a allasom gael o honynt.
David John Owen, Pwllhwyaid. Urddwyd ef yn weinidog yr eglwys yma, ac felly daw dan ein sylw etto.
Mathias Maurice. Byddai yn hawdd i ni ysgrifenu llawer am dano ef. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanddewifelffre, gerllaw Narberth, yn y flwyddyn 1684. Dilledydd oedd ei dad, ac y mae yn debyg iddo yntau gael ddwyn i fyny yn yr un alwedigaeth. Derbyniwyd ef yn aelod yn Henllan yn ieuangc, ac wrth weled e ddoniau a'i dalentau yn ymddadblygu, anogwyd ef i ddechreu pregethu, a chynorthwywyd ef i fyned i'r athrofa i Gaerfyrddin, dan ofal Mr. W. Evans. Pan y torodd yr ymryson y cyfeiriasom ato allan yn eglwys Henllan, yr oedd ef yn fyfyriwr yn yr athrofa, ac oblegid hyny, fel y tybiwn, ni chymerodd unrhyw ran ynddo; ond pan dorodd yr ail ymryson allan ar apwyntiad Mr. Jeremiah Owen i fod yn ganlyniedydd i'w dad yn y weinidogaeth, cymerodd Mr. Maurice ochr y blaid Galfinaidd yn yr eglwys, ac ymunodd ef a nifer o honynt a'r gangen oedd erbyn hyn wedi i sefydlu yn Rhydyceisiaid. Arosodd tua dwy flynedd yn mysg ei frodyr yn Rhydycisiaid ; ac yna cymerodd amgylchiad le a'i harweiniodd i dreulio gweddill ei oes yn Lloegr. Dywedir ei fod yn myned an diwrnod ar neges i Hwlffordd, ac i rai o'i elynion crefyddol ei draddodi i ddwylaw pressgang, y rhai a'i cymerasant mewn llong ryfel o gyffiniau sir Benfro i rywle ar afon Llundain. Wedi cyrhaedd yno ysgrifenodd at un o weinidogion y brif ddinas i wneyd yn hysbys ei sefyllfa adfydus. Trwy ddylanwad y gweinidog hwnw, gyda rhai o awdurdod yn y llywodraeth, rhyddhawyd ef, ac wedi cael boddlonrwydd am ei gymhwysderau gweinidogaethol cymeradwywyd ef i'r eglwys yn Olney, sir Buckingham, a llafuriodd yno gyda derbyniad mawr am tua blwyddyn a haner. Yn mis Tachwedd, 1714, derbyniodd oddiwrth yr eglwys yn Rowell, sir Northampton, alwad i fod yn olynydd i'r Cymro clodwiw Richard Davies, gwr genedigol o sir Aberteifi. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yno Ionawr 6ed, 1715, i'w gydnabod fel gweinidog. Yr oedd
* Llyfryddiaeth y Cymry. Tudal. 664.
347
Mr. Maurice yn Galfiniad uchel o ran ei olygiadau duwinyddol, ac yn Gynnulleidfawr trwyadl, os nad eithafol, yn ei olygiadau ar ffurflywodraeth eglwysig, fel yn wir yr oedd yr holl weinidogion a'r eglwysi yn y dyddiau hyny a'u galwant eu hunain yn Anuibynwyr, ac a gilient yn mhell oddiwrth Bresbyteriaeth. Barnai Mr. Maurice mai o'u plith eu hunain y dylasai eglwysi edrych allan am weinidogion ; a chyn y gallasai eglwys roddi galwad i unrhyw ddyn dyeithr y dylasai yn gyntaf ei dderbyn trwy lythyr yn aelod o honi. Yr oedd yr eglwys yn Rowell fel yr Eglwysi Cynnulleidfaol yn gyffredinol yr un farn a Mr. Maurice am hyny; ond bu tipyn o benbleth arno i gael gollyngdod rheolaidd. Gwrthodai yr eglwys yn Olney roddi llythyr gollyngdod iddo, oblegid nad oedd am ymadael ag ef ; ac nis gallasai eglwys Rhydyceisiaid wneyd, oblegid yr oeddynt hwy yn flaenorol wedi rhoddi gollyngdod iddo i Olney. Pa fodd bynag nid oedd gan yr eglwys yn Rowell yn ei chyfyngder ddim i'w wneyd ond troi at yr eglwys yn Rhydyceisiaid, ac wele yn canlyn llythyr a dderbyniodd. " Yr ydym ni yn caniatau eich dymuniad i chwi ar yr amod hwn, sef fod y gollyngdod a roddasom ni o'r blaen i gael ei anfon yn ol i ni, neu i gael ei ddinystrio, yn nghyd a hanes byr oddiwrth bobl Olney, i'n hysbysu pa fodd y mae pethau wadi digwydd fel y maent; a hefyd llythyr oddiwrthych chwi yn rhoddi hanes ei dderbyniad rheolaidd i'ch plith ; felly yr ydym yn myned rhagom ;--Yr ydym ni eglwys Grist cynnulledig er cynal addoliad cyhoeddus yn Rhydyceisiaid, yn unfrydol, yn caniatau ac yn rhoddi gollyngdod cyflawn i'n brawd Mathias Maurice, yn ol ei ddymuniad duwiol, i gael ei dderbyn genych chwi; ac ymddygwch tuag ato fel aelod o Grist. Byddwch wych.
"Lewis Thomas, Gweinidog.
"Henry Palmer, William James, a David Rees."
Ystyriai Mr. Maurice hefyd nad oedd urddiad yn ddim yn ychwaneg na gwaith eglwys yn dewis dyn a farnent hwy yn gymwys i bregethu gweinyddu yr ordinhadau; ac nad oedd dyn yn weinidog yn un man, ond yn unig yn yr eglwys a'i dewisodd. Cyhoeddodd Mr. Maurice lawer o lyfrau gwerthfawr ; ond y penaf o honynt oll, a'r hwn sydd wedi anfarwoli ei enw ydyw ei lyfr rhagorol a'r Grefydd Gymdeithasol. Math o alegori ymddiddanol ydyw, yn ddarluniad o arferion, golygiadau, a dull Eglwysi Ymneillduol Cymru yn nechreuad y ddeunawfed ganrif o ddwyn yn mlaen eu hachosion crefyddol. Mae wedi ei drwytho mewn ysbryd crefyddol dwfn, ac ni wybyddir hyd ddydd y farn y gwasanaeth a wnaeth i grefydd bur ac efengylaidd. Bu llafur gweinidogaethol Mr. Maurice yn dderbyniol a llwyddianus yn Rowell am bedair-blynedd-ar-hugain, a gorphenodd ei yrfa ddaearol yn y flwyddyn 1738, yn 54 oed.
348
349
350
Yr oedd y tri olaf a enwyd yn feibion i Mr Phillip James, Llwyncelyn. Collasant eu tad pan yn ieuaingc, ond dygwyd hwy i fynu yn ofalus dan nodded mam grefyddol. Yr oedd y tri yn cael eu nodweddu gan alluoedd meddyliau cryfion - egwyddorion cywir - ysbryd boneddigaidd - a chymer- iadau dysglaer.
[Gareth Hicks 4 June 2008]
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes, and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages withill GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark. |