GENUKI Home page

Carmarthenshire Carmarthenshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

Carmarthenshire section (Vol 3)

 

  Pages 463 - 476

 

See main project page

Proof read by Maureen Saycell (March 2008)

Chapels below;

  • (Continued) PANTTEG  (Abergwili parish)
  • PENIEL  (Abergwili parish) (with translation)
  • NEBO, YSTUMGWYLI  (Llanpumsaint parish)(translation)
  • RAMAH  (Llandefaelog parish) (with translation)
  • NAZARETH (Llangendeirne parish) (translation)
  • EBENEZER, CRWBYN  (Llangendeirne parish) (translation)
  • Cydweli (Kidwelly parish) (with translation)
  • SARDIS  (Pembrey parish) (with translation)

 


Pages 463 - 476

463

(Continued) PANTTEG  (Abergwili parish)

See previous page for continued translation (in summary form)

Davies, Aberddauddwr), sydd yn myned yn mhell iawn i osod allan neillduolrwydd Mr Davies, Pantteg, fel pregethwr - " Un rhyfedd ydyw i gaued bylchau ar ei ol," hyny yw, i ateb y gwrthddadleuon wrth fyned yn mlaen, ac yn hyny yr oedd yn nodedig. Yr oedd wedi astudio yn fanwl seiliau cyfrifoldeb dyn, ac nid oedd dim ai cyffroai yn fwy na bod neb wrth bregethu yn rhoddi cysgod o esgus i bechadur aros yn dawel yn  anufudd-dod. Yr ydym yn cofio yn  yn Nghymanfa Cwmaman, yn 1845, yr oedd i bregethu yn yr oedfa boreu yn un o dri. Pregethwyd yn gyntaf gan Mr Rees, Groeswen, ar y geiriau " Ni ddichon i neb ddyfod ataf fi oddieithr i'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd i, ei dynu ataf fi." Nid ydym yn tybied fod dim yn mhregeth Mr Rees nad oedd yn wirionedd, ond yn unig mai un ochr i'r gwirionedd oedd ganddo. Deallasom ar olwg Mr Davies ei  fod yn cyffroi, ac yn gweled perygl i ddynion ymesgusodi mewn anufudd-dod nes y deuai y Tad i'w tynu ; ac erbyn fod y bregeth gyntaf drosodd cododd  fynu, a mynodd bregethu yn ail, er mai yn olaf y bwriedid iddo wneyd, a darllenodd yn destyn " Ond ni fynech chwi ddyfod ataf fi fel y caffoch fywyd.'* Nid ydym yn tybied  fod wedi meddwl pregethu ar y geiriau hyny, ond fel y cynhyrfwyd ef ar y pryd. Eglurodd natur yr anallu i bechadur ddyfod at Grist, ac o ba le y codai, a dangosodd yn egdur mai cyndynrwydd pechadur yw ei unig anallu  ddyfod at Iesu Grist, ai fod yn hollol anesgusodol am ei wrthodiad o'r iachawdwriaeth. Anaml y clywsom ef yn fwy cyffrous, ac yn fwy difrifol, ac eto yn serchog a thyner, yn gwahodd ei wrandawyr at y Gwaredwr. Yr oedd yn credu mor bendant a neb yn yr angenrheidrwydd am ddylanwad Dwyfol i orchyfygu cyndynrwydd pechadur; ond credai ar yr un pryd fod yr Efengyl yn ymwneyd ai dynion fel rhai yn meddu cymhwysder naturiol i'w deall a'i chredu, ac nad yw gwaith yr Ysbryd mewn un modd yn llacio rhwymedigaeth foesol, nac yn ymyraeth a seiliau cyfrifoldeb. Bu yn golofn gref i'w enwad yn Sir Gaerfyrddin, ac yn wir yn holl siroedd y De, am oes hir, a disgynodd i'w fedd heb un brycheuyn ar ei gymeriad. Ei fywyd oedd ddysglaer, a'i ddiwedd yn dangnefedd.

OL YSGRIF. - Ar ol ysgrifenu a chysodi hanes eglwys Pantteg, a'r gweinidogion a fu yn llafurio ynddi, derbyniasom gofnodion helaeth  oddiwrth Mr W. Thomas, Bwlchnewydd, wedi eu crynhoi ganddo gan mwyaf allan o hen lyfr eglwys Pantteg ; a chan eu bod yn taflu goleu ar hanes yr eglwys yn ei chyfnodau cyntaf, ac yn cywiro rhai o'r pethau a ddywedasom, rhoddwn dalfyriad o rai o honynt yma, a daw y gweddill o honynt i mewn yn nglyn ag eglwysi Capel Isaac a Chapel Seion.

Yr ydym yn gweled ein bod wedi  camarwain gyda golwg ar ddyddiad sefydliad eglwys Pantteg. Mae yn sicr mai gan Stephen Hughes y ffurfiwyd yr eglwys, oblegid y mae Christmas Samuel amryw weithiau yn crybwyll yn ddigwyddiadol am dano fel gweinidog yr eglwys. Y mae yn amlwg mai rywbryd yn ystod y pedair blynedd olaf o oes Stephen Hughes y corpholwyd hi, oblegid yn 1684 yn derbyniwyd Jane, gwraig gyntaf Christmas Samuel, yn aelod gan Stephen Hughes yn Mhencadair, a dywedir yn bendant " ei bod hi, gyda rhyw rai eraill, yn un o'r meini cyntaf a gludwyd i roddi i lawr sylfaen yr eglwys yn Pantteg." Rhoddir ganmoliaeth uchaf iddi gan ei phriod, a'i bod yn mhob ystyr yn deilwng o'r wraig rinweddol a ddarlunid gan Solomon. Gallwn feddwl ei bod hi yn hynach o rai blynyddoedd nag ef, oblegid deng mlwydd oed oedd ef pan dderbyniwyd hi yn aelod yn 1784. Bu hi farw Tachwedd 20fed,

464  

1726. Cofnodir hefyd farwolaeth gweddw Evan Thomas, Cwmcyddau, yr hyn a gymerodd le Mawrth 8fed, 1719, a dywedir ei bod wedi bod yn aelod yn Mhencadair yn amser Mr. Hughes, ddeugain mlynedd yn ol, ac iddi, tuag ugain mlynedd cyn hyny, symud i eglwys Pantteg, ond ni ddywedir  ei bod yn un o'r sylfaenwyr, felly yr oedd yr eglwys wedi ei ffurfio yn yr unfed ganrif a'r bymtheg. Mae yn ffaith fod yr eglwys wedi bod yn cyfarfod yn Cruglas, oblegid crybwyllir am rai oedd yn aelodau yno. Dyma un - " Catherine Thomas Jenkins, chwaer William ac Evan Thomas a enwyd yn flaenorol; dau o Henuriaid Pantteg yn 1711  - a fu farw Mawrth 22ain, 1724, uwchlaw 80 oed, a hen aelod yn Cruglas." Dyna yr eglwys wedi  ffurfio gan Stephen Hughes rywbryd ar ol 1684, cyn  farwolaeth yn 1688, ac wedi bod yn arfer ymgynnull yn Cruglas. Nid oes genym ddim i'w ychwanegu am Thomas Bowen at yr hyn a ddywedasom, ac nid oes genym ddim gwybodaeth am Christmas Samuel hyd nes y mae yr eglwys yn rhoddi galwad iddo, ac yntau yn ei derbyn. Mae yr alwad a'r atebiad wedi eu hysgrifenu gan Christmas Samuel yn y llyfr eglwys, a diau y bydd yn ddyddorol gan lawer eu cael hwy fel yr ysgrifenwyd hwy. Dyma yr alwad

" Medi 23: 1711. Yr ydym ni aelode Eglwys Crist y sydd yn ymgynill yn y Pantteg yn arddel y galwad a roesom y Mr. Chrs. Samuel y fod yn figel arnom, y wilio tross ein heneidiau ; ag yr ydym yr awrhon yn adnewyddu ein galwad iddo ; ag'n addo gwneythur ein gorau y gyflawni  dyledswydde tuag ato fel ein bigel. Tyst o'n dwylo. John Harry, William David, Morgan Thomas, Richard Evan, Tho: Williams, Tho: Williams, John Richard, William Thomas, Evan Thomas, Henuriaid.

"William Thomas, Thomas Evans, gyda consent y lleill. - Decon."

Dyma ei ateb yntau alwad sydd yn canlyn;

"Pantteg, Medi y 23 : 1711. Yr ydwyf fi, Chrs. Samuel, er mwyn gogoneddu Duw, dischargio fy nghydwybod, atteb dymuniadau fy nghydfrodur, a bod mewn gwell cymhwysder y wneythur daioni; yn declaro fy nghydsyniad y alwad Eglwys Crist yn Pantteg  fod yn Figel arnynt, ag yr ydwyf yngwydd Duw a'r gynulleidfa yn gaddo gwneythur fy ngore i'w haddysgu ai llywodreythy yn yr Arglwydd.

"Tyst fy llaw Chrs. Samuel."

Nid ydym yn gwybod dim am urddiad Mr. Samuel, na pha un a ydoedd wedi  urddo yn rhywle arall yn flaenorol. Mae y bedyddiadau a weinyddwyd ganddo yn flaenorol i'r dyddiad uchod yn y llyfr, a gallwn gasglu  fod yn gweinyddu i'r eglwys er's blynyddau, ond mai dyma y pryd y cydsyniodd  dderbyn eu galwad  fod yn fugail arnynt. Mae yn ymddangos wrth ffurf geiriad yr atebiad yn enwedig, mai ger bron y gynnulleidfa y rhoddwyd yr alwad a'r atebiad, ac, yn ol Prof. De Morgan, yr oedd Medi 23ain, 1711, yn disgyn ar y Sabbath. Yr oedd aelodau Pantteg yn wasgaredig trwy blwyfydd Abergwyli, Llanllawddog, Llanpumsaint, Llanegwad, Llanfynydd, Llanarthne, a Llanddarog; a cheir rhestrau o honynt ar y llyfr eglwys mewn gwahanol flynyddoedd, a'r plwyfydd yr oeddynt yn byw ynddynt.

Yr oedd Christmas Samuel yn byw yn Troedrhiwfelda, yn mhlwyf Llanegwad, rhwng Pantteg a'r ffordd sydd yn arwain o Nantcaredig i Brechfa, ychydig yn nes  lawr na chyfer Horeb. Nis gwyddom ai ei eiddo ef oedd y tyddyn hwnw, ai ynte ei ddal dan ardreth yr oedd.

465

wedai y diweddar Mr Henry Davies, Llwynbrain, fod gwaun (meadow) islaw tir presenol Troedrhiwfelda yn cael ei hadnabod yn nyddiau ei febyd ef fel " Gwaun Mr. Samuel." Yn mhen blwyddyn wedi claddu ei wraig gyntaf priododd Mr Samuel yr ail waith. Ni bu yn briod ond blwyddyn a thri-chwarter. Bu hi farw Awst 7fed, 1727, yn 39 oed, ar enedigaeth plentyn. Bedyddiwyd ef Awst 27ain, gan Mr James Lewis, Llanllawddog, gweinidog Pencadair. Galwyd y bachgen yn John. Derbyniwyd ef yn aelod Awst 21 ain, 1743. Aeth i'r weinidogaeth, a bu farw yn Bradford, yn swydd Wilts, yn y flwyddyn 1773. Megis y crybwyllasom o'r blaen, Christmas Samuel a roddodd dir i adeiladu capel Pantteg, o leiaf ar dir Llegatty a ddaeth i'w law ef yr adeiladwyd ef. Dyddiad y les ydyw Ebrill 30ain, 1751. Yr oedd y capel wedi ei adeiladu yn mhell cyn hyny, a dichon fod y les gyntaf a gafwyd arno wedi rhedeg allan. Yr oedd y les yn cael  rhoddi gan Christmas Samuel a'i fab John Samuel, i Milbourn Bloom, Hannaniah John, ac Evan Richards. Dau swllt oedd yr ardreth flynyddol a delid, a thebygol mai gydag Elinor ei ail wraig y daeth Llegatty i law Christmas Samuel, a bod yr eiddo wedi ei sicrhau i'w hetifeddion hi me wn gweithred priodas; a phan ddaeth John ei mab i'w oed fod y weithred yn cael ei gwneyd o newydd er mwyn diogelwch, oblegid yr oedd y mab yn awr yn 21 oed. Mae y cyfeiriadau a wneir gan Christmas Samuel at y rhagoriaethau oedd yn ei ail wraig, yn rhoddi lle i ni gasglu ei bod mewn amgylchiadau bydol cysurus. Urddwyd Mr John Harries yn gynorthwywr  Mr Samuel yn Pantteg, ond symudodd i gymeryd gofal eglwys Capel Isaac, lle y llafuriodd hyd ei farwolaeth, Ionawr 3ydd, 1748. Nid ydym yn sicr pwy oedd cynorthwywr Mr Samuel ar ol hyny. Mae yn amlwg fod ganddo gynorthwywr, oblegid yn ei anerchiad i'r darllenydd yn y llyfr eglwys, y mae yn datgan ei ofid na buasai wedi dechreu yn gynt, ac wedi bod yn fanylach i gadw cofnodion, ac y mae "yn cymeradwyo i'w gydlafurwr presenol yn y weinidogaeth, a'r rhai a'i dilyno yn y lle hwn, i wneyd yr un peth." Yr oedd Mr David Williams, Disgwylfa, a Mr. Milbourn Bloom, yn cydlafurio ag ef; ac y mae yn debygol mai at yr olaf y cyfeiria. Nid ydym yn cael fod Mr D. Williams, Disgwylfa, wedi ei urddo o gwbl, er y gwyddom iddo wneyd daioni mawr, fel y cyfeiriasom. Am Milbourn Bloom y mae genym ei hanes ef yma yn bedyddio ac yn derbyn aelodau. Bydd genym ragor i'w ddyweyd am dano pan y deuwn at eglwysi Gwernogle a Phentretygwyn. Yn mysg llawer o bersonau rhinweddol gwneir cyfeiriadau caredig a chymeradwyol at y rhai a ganlyn. Ni oddef ein terfynau  ni wneyd fawr fwy na chrybwyll eu henwau.

John James, yr hwn a fu yn weinidog i'r eglwys yma. Dyna yr oll a ddywedir am dano. Ceir enw un John James yn " Hanes Crefydd yn Nghymru," wedi ei urddo yn Llanybri yn 1688, ond nid oes genym ddim ychwaneg o'i hanes; ac nid ydym yn sicr, er fod yn debyg, mai yr un a urddwyd yn Llanybri yw yr un y cyfeirir yma at ei farwolaeth. Anthony Thomas, pregethwr yr efengyl. Dyna yr oll a ddywedir. Evan Thomas Jenkins oedd ddyn sanctaidd, heddychol, a defnyddiol, ac yn seren ddisglaer yn mysg ei gydaelodau. Bu farw Mai 14eg, 1716. Gwenllian David, gweddw Harry Thomas, o blwyf Llanfynydd, a mam i Mr. John Harries, pregethwr yr efengyl a fu farw Chwefror 16eg, 1720, yn 82 oed. Rhoddir canmoliaeth uchel iddi. Iago Ab Dewi. Yr oedd yn fardd o

466

gryn hynodrwydd, yn ddyn o foesoldeb pur, ac yn Gristion profiadol. Mae llawer o'i waith barddonol yn " Blodeu Dyfed." Cyfleithodd gaticism Mathew Henry; ond y mae yn rhagorach fel bardd nac fel cyfieithydd. Ceir y penill cyrhaeddol a ganlyn mewn can o'i eiddo  ddiwedd yr ail argraffiad o " Gemau Doethineb" Rhys Prytherch, Ystradwallter.

"Os bydd i un fy nhwyllo unwaith,
Duw faddeuo iddo ei ddrygwaith
Ond Os fe'm twylla ddwy o weithiau
Maddeued Duw am hyn i minau."

Thomas William Dafydd Ab William a fu farw Mai 18fed, 1734. Derbyniwyd ef haner can' mlynedd cyn hyny yn Mhencadair, gan Mr Stephen Hughes, a  am lawer o flynyddoedd yn ddiacon rhinweddol a duwiol yn Pantteg. Yn mhlwyf Llanegwad yr oedd yn byw. Richard Evan Griffith a fu farw Mehefin 9fed, 1731, ar ol bod yn aelod ddeugain mlynedd. Yr oedd yn henuriad llywodraethol yn yr eglwys, a cheir ei enw yn mysgy rhai oedd yn arwyddo galwad Mr Samuel yn 1711. Crybwyllir am wraig a fu farw yn 1742, a dywedir ei bod yn un o aelodau cyntaf yr eglwys yn Cruglas, ac wedi hyny yn Pantteg. Y bywgraffiad olaf o'r bron a ysgrifenodd Christmas Samuel ydyw eiddo hen wr o'r enw Griffith Thomas Ab Iwan. Bu farw Ionawr, 1747, yn 108 oed, a dywed am dano "Bu yn aelod o gynnulleidfa Ymneillduol Brotestanaidd am o gylch pedwar-ugain mlynedd, sef yn Mhencadair ac yn Pantteg." Mae rhai bywgraffiadau byrion eraill, at y rhai y cawn gyfeiri, yn nglyn a lleoedd ereill; a'r rhai nas gallant lai na bod yn ddyddorol gan ein darllenwyr.

Wedi ysgrifenu hanes eglwys Pantteg caws en hefyd yr ychwanegiadau a ganlyn. Urddwyd Mr J. Rogers yno Mehefin 18fed, 1868. Ar yr achlysur pregethwyd  Natur Eglwys gan Mr W. Roberts, Athraw Ieithyddol Athrofa Aberhonddu.   Holwyd y gofyniad gan Mr R. Morgan, Glynnedd. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr E. Evans, Hermon. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr D. Williams, Rhydybont; ac i'r eglwys gan Mr P. Griffiths, Alltwen.

Cyfodwyd yma Ysgol Frytanaidd yn ymyl y capel yn 1870. Cafwyd hefyd ddarn helaeth o dir at fynwent gan Mr T. C. Morris, Bryn Myrddin,  les o fil ond un o flynyddau, am yr ardreth o bapyren os gofynir am dani.

 

PENIEL

(Abergwili parish)

Mae y capel hwn o fewn tair milldir i Gaerfyrddin,  ochr y ffordd i Lanbedr. Yr oedd amryw o'r ardal yma yn cyrchu  Pantteg trwy y ganrif ddiweddaf, ond yn y flwyddyn 1809 yr adeiladwyd y capel cyntaf yma. Meistri J. Davies, Glancorwg; D. Jeremy, Trefynys; T. Evans  Ffosygest; a J. Alban, Cwmnantyparc, oedd y rhai mwyaf blaenllaw i gael hyny oddiamgylch. Bu llawer o bregethu yn y Sarnau flynyddoedd cyn codi y capel, ac wedi hyny yn ddiweddarach yn Nhrefynys. Bu yr achos yma o'i ddechreuad hyd farwolaeth Mr D. Davies, yn 1864, mewn cysylltiad a Phantteg. Yn y flwyddyn 1866 rhoddwyd galwad i Mr Stephen Davies, Zoar, Aberdar, ac y mae yn parhau i lafurio yma, ac y mae yr eglwys yn gref a lluosog ; ac y mae Peniel wedi llwyddo yn nodedig trwy y blynyddoedd i ddal gafael  ar blant yr aelodau, y rhai a dderbynir yn gyffredin o ddeg i bedair-ar-ddeg oed. Mae ysgoldy bychan yn

467

perthyn i Peniel a elwir Bwlchcorn, lle y cynhelir Ysgol Sabbothol, a phregethu yn rheolaidd un nos Sabboth o'r mis; ac y mae Ysgolion Sabbothol llewyrchus yn Peniel a Bwlchcorn. Mae caniadaeth yn cael sylw mawr yma, a'r nodiant newydd wedi rhoddi cyffroad mawr yn yr achos. Mae yma ysgol ddyddiol hefyd ar y cynllun Brytanaidd, a'r holl ardal yn dangos sel mawr drosti. Ail-adeiladwyd y capel yn nhymor gweinidogaeth Mr D. Davies, ac y mae yn dy eang ar gynllun yr hen gapeli. Ystyrid yr eglwys gynt yn wybodus a deallgar, ac yr oedd yma lawer o bobl gryfion mewn gwybodaeth, ac nid ydym yn gwybod amgen nad yw y genhedlaeth bresenol mor nodedig yn hyny a'r tadau fu wyr enwog gynt.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys yma.

Yr ydym wedi rhoddi hanes y gweinidogion a fu yma yn llafurio yn nglyn a Phantteg; a buasai yn dda genym pe buasai ychwaneg o ddefnyddiau at ein llaw i ysgrifenu hanes yr eglwys barchus hon.

 

Translation by Gareth Hicks (Oct 2008)

 This chapel is within 3 miles of Carmarthen, on the road to Lampeter. There were some from this district who worshipped at Pantteg in the last century, but in the year 1809 the first chapel was built here. Messrs J Davies, Glancorwg; D Jeremy, Trefynys; T Evans, Ffosygest; and J Alban, Cwmnantyparc, were the leading lights getting it here. There was a lot of preaching in the Sarnau for years before raising the chapel, and latterly after that in Trefynys. The cause here from the start until the death of Mr D Davies, in 1864, was connected with Pantteg. In 1866 they gave a call to Mr Stephen Davies, Zoar, Aberdare, and he continues to labour here, and the church is strong and numerous; and Peniel has been notably successful over the years in retaining the children of the members, some of whom were admitted usually when 10 to 14 years of age. There is a small school connected to Peniel called Bwlchcorn, a place to hold Sunday Schools, with regular preaching one Sunday night a month; and there are flourishing Sunday Schools in Peniel and Bwlchycorn. Singing is getting a lot of attention here, and the new notation has given a big stimulation to the cause. There is also a day school here on the British School system, and whole area is showing a lot of enthusiasm for it. The chapel was rebuilt during the ministry of Mr D Davies, and it is a capacious building on the site of the old chapel. The church of old was considered to be knowledgeable and understanding, and there were here several people strong in intelligence, and we don't know otherwise than that the present generation are as notable as the fathers were distinguished men previously.

The following were raised to preach in this church; *

 We have given the history of the ministers who were here along with Pantteg, and it would have been a good thing if we had had more material to hand to write about this reputable church.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

NEBO, YSTUMGWYLI

(Llanpumsaint parish)

Dechreuwyd yr achos yma mewn ty anedd o'r enw Penyrheol, trwy gydymgynghoriad Meistri D. Davies, Pantteg; M. Rees, Pencadair; ac O. Owens, Bwlchnewydd. Pregethwyd y bregeth gyntaf yno yn 1832, gan Mr Owens, Bwlchnewydd. Ffurfiwyd eglwys a chadwyd y cymundeb cyntaf yno yn 1833, gan Mr Rees, Pencadair, ac ymunodd aelodau o Bwlchnewydd, Peniel, Pencadair, a Throedyrhiw a'r lle ar ei gychwyniad. Bu dan ofal Mr Rees, yn benaf, hyd 1840. Cafwyd yma amryw aelodau newyddion yn 1838, a phenderfynwyd adeiladu capel. Cafwyd haner erw o dir ar les o 999 o flynyddoedd gan Mr. Howells, Pantiauar, am wyth swllt y flwyddyn o ardreth. Costiodd y capel 129/ 7/10. Nid oedd ond ty bychan heb oriel iddo. Y prif gynorthwywyr gyda'i adeiladiad Griffith Griffiths, Bwlchtrap, Thomas Richards, Pantglas; a Mrs. Davies, Penfoel, a'i meibion. Agorwyd ef Gorphenaf 8fed, 1841, ac yr oedd y ddyled erbyn diwedd dydd yr agoriad wedi dyfod i lawr  80.

468

Wedi ymadawiad Mr M. Rees i'r Groeswen cymerodd Mr W. Morris, Abergwyli, ofal y lle, a llwyddodd  gasglu 40 o'r ddyled; a chyn diwedd 1846, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu. Bu Mr Evans, Hermon, yn dyfod yma bob mis am naw mlynedd, ond aeth ei lafur yn yr eglwysi dan ei ofal yn ormod iddo barhau i wneyd hyny. Wedi marwolaeth Mr Morris yn 1850, bu Meistri M. D. Jones, Bwlchnewydd , J. Morgan, Saron , ac E. Jones, Ffynonbedr, yn gwasanaethu yr eglwys yn ffyddlon yn ol cyfleustra hyd 1856, pryd y rhoddwyd galwad i Mr John Owen, Pencadair, yr hwn a fu yma yn gofalu am y cymundeb a chyfarfodydd yr eglwys hyd Hydref, 1869. Ar y tri Sabboth arall, gweinyddid fynychaf gan fyfyrwyr Athrofa Caerfyrddin. Yn nhymor gweinidogaeth Mr Owen adgyweiriwyd y capel a harddwyd ef yn fawr, a thalwyd yr holl draul gan y gynnulleidfa. Ar ol ymadawiad Mr Owen rhoddwyd galwad i Mr S. Davies, Peniel, ac y mae yn parhau yn y lle yn barchus a gweithgar. Yn 1871 ail-drefnwyd y capel a rhoddwyd oriel ynddo, ac yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu erbyn yr agoriad yn 1872. Diaconiaid cyntaf yr eglwys oedd Enoch Davies, Penllwyniorwg; David Lewis, Parcau; a John Williams, Penygraig. Bu y ddau olaf a enwyd farw, a dewiswyd John Davies, Penfoel, a Richard Howells, Pantiauar, yn eu lle ; ac wedi iddynt hwythau, yn mhen amser, symud o'r gymydogaeth, dewiswyd David Davies, Penfoel, a David Edwards, Clun-neuadd,  i lanw y swydd. Mae yr achos yn myned rhagddo yn llwyddianus, ond nad yw ei gylch yn eang iawn.

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

This cause began in a dwelling house called Penyrheol, through the joint consultation of Messrs D Davies, Pantteg; M Rees, Pencadair; and O Owens, Bwlchnewydd. The first sermon there was by Mr Owens, Bwlchnewydd, in 1832.  They formed a church and held the first communion there in 1833, with Mr Rees, Pencadair, and members joined there from the start from Bwlchnewydd, Peniel, Pencadair and Troedyrhiw. It was mainly under the care of Mr Rees until 1840. They had some new members in 1838, and decided to build a chapel. They obtaind half an acre of land on a lease of 999 years from Mr Howells, Pantiauar, for a rent of 8 shillings a year. The chapel cost 129/7/10. It was only a small house without a gallery. The main helpers with the building were Griffith Griffiths, Bwlchtrap, Thomas Richards, Pantglas; and Mrs. Davies, Penfoel, and sons. It opened on July 8th 1841, and the debt by the end of the opening day was down to 80.

After Mr Rees left for Groeswen, Mr W Morris, Abergwyli, took over care of the place, and succeeded in collecting 40 of the debt; and before the end of 1846 the whole debt was repaid. Mr Evans, Hermon, came here every month for 9 years, but the work in the church under his care came too much for him to continue to do so. After Mr Morris died in 1850, Messrs M D Jones, Bwlchnewydd, J Morgan, Saron, and E Jones, Ffynonbedr, served the church faithfully in all ways until 1856, when they gave a call to Mr John Owen, Pencadair, and he was here looking after the communion and meetings of the church until Oct 1869. On the other 3 Sundays, it was students at Carmarthen College who usually officiated. In the time of Mr Owen's ministry they repaired the chapel and beautified it greatly, and the congregatgion paid the whole cost. After Mr Owen left they called Mr S Davies, Peniel, and he continues here respectably and industriously. In 1871, they rebuilt the chapel, and installed a gallery in it, and the whole debt was paid by the openening in 1872. The first deacons of the church were Enoch Davies, Penllwyniorwg; David Lewis, Parcau; and John Williams, Penygraig. The last 2 named died, and chosen in their place were John Davies, Penfoel, and Richard Howells, Pantiauar; and after they, after a time, moved from the neighbourhood, David Davies, Penfoel, and David Edwards, Clun-neuadd were chosen to fill the office. The cause goes forward successfully, but its district is not very large.

 

RAMAH

(Llandefaelog parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llandyfaelog. Arferid cynal Ysgol Sabbothol yn yr ardal mor gynar a'r flwyddyn 1819. Bwriadid hi ar y cyntaf i'r holl enwadau Ymneillduol, ond syrthiodd yn fuan yn hollol i ddwylaw yr Annibynwyr. Aelodau Penygraig yn benaf a ofalai am dani, a rhai o aelodau Cydweli. Bu yn cael ei chynal yn olynol yn Manygath, ty David Davies, Tredegar ; Pantycwar, a Llwyncelyn. Siaradwyd llawer o bryd i bryd gan eglwys Penygraig am godi capel bychan yn yr ardal, and yr oedd y cwbl yn dibenu mewn siarad. Yn 1839 penderfynodd ysgol Llwyncelyn yn unfrydol i gael ty at ei gwasanaeth, ac wedi gosod y peth ger bron yr eglwys yn Mhenygraig cafwyd eu cymeradwyaeth i'r amcan. Cafwyd tir at adeiladu capel a lle i gladdu yn nglyn ag ef mewn man cyfleus gan David Parry, Ysw., Coalbrook, ar les o 500 o flynyddau, am bum swllt y flwyddyn o ardreth. Adeiladwyd capel yn mesur 24 troedfedd wrth 18 troedfedd y tu fewn i'r muriau. Costiodd 47/ 15/ 7, heb gyfrif y llafur rhad mewn cloddio y cerig a chludo y defnyddiau a wnaed gan yr ardalwyr. Agorwyd ef agos yn ddiddyled. Yn Hydref, 1841, symudwyd yr ysgol o Lwyncelyn i'r capel newydd. Meddyliodd yr aelodau yn yr ardal yma y buasai yn well iddynt ymffurfio yn eglwys Annibynol yn y lle, a bod o dan yr un weinidogaeth a Phenygraig ; ac ymddangosai pethau unwaith yn argoeli yn foddhaol i hyny, ond dyrysodd drachefn, a gwrthododd gweinidog Penygraig a'u corffoli yn eglwys, ac aeth teimladau yn lled annymunol o'r ddau tu. Yn Ebrill, 1842, ffurfiwyd hwy yn eglwys gan Mr D. Jones, Cydweli, a Mr Daniel Evans, Nazareth, a chymerodd yr olaf eu gofal, ac y mae etto yn parhau i fwrw golwg drostynt.

469

Yn 1845 helaethwyd y capel, a rhoddwyd oriel ar un pen iddo. Yn 1871 adeiladwyd y capel oll o newydd trwy draul o fwy na 600, a thalwyd y cwbl ar ddydd yr agoriad. Mae yma achos blodeuog, ac y mae wedi cynyddu yn fawr. Nid oedd nifer yr aelodau ar gychwyniad yr achos ond 39, ond erbyn hyn y maent yn dri chymaint. Mae cychwynwyr yr achos gan mwyaf oll wedi myned, ond y mae eraill wedi codi i lanw eu lle, a'r achos yn myned rhagddo. Codwyd yma un pregethwr, sef David D. Thomas, sydd yn awr yn Gwernllwyn, Dowlais.

Translation by Gareth Hicks (Nov 2008)

 This chapel is in Llandyfaelog parish. It was customary to hold a Sunday school in the district as early as 1819. At first it was intended for the whole Dissenting movement, but soon fell entirely into the hands of the Independents. It was mainly members of Penygraig that looked after it, with some members of Cydweli. They were held successively in Manygath, the house of David Davies, Tredegar; Pantycwar, and Llwyncelyn. There was much talk from time to time in Penygraig church about raising a small chapel in this area, but that's all it was, talk. In 1839, Llwyncelyn school decided unanimously to obtain  a house for its services, and had set up the thing before the church in Penygraig approved of the idea. They obtained land to build a chapel in a convenient place, with land for a graveyard adjoining, from David Parry, Esq, Coalbrook, on a lease for 500 years at  a rent of 5 shillings a year. They built a chapel measuring 24 feet by 18 feet inside the walls. It cost 47/15/7, without counting the free labour in digging the stone and the carrying of the building materials by the residents. It opened almost debt free. In October 1841, the school in Llwyncelyn moved to the new chapel. The members in this area thought it better for them to establish an Independent church in the place, to be under the same ministry as Penygraig; and at one time things seemed to point satisfactorly towards that, but got complicated again, and Penygraig's minister over-ruled them forming a church, and things got somewhat unpleasant between the two houses. In April 1842  a church was formed aby Mr D Jones, Cydweli and Mr Daniel Evans, Nazareth, and the latter took over its care, and he still continues to oversee them.

In 1845, they enlarged the chapel, and put a gallery at one end.  In 1871 they built the chapel completely from new at a cost of more than 600, and the whole lot was repaid on the day they opened it. There is a flourishing cause here, and it has grown considerably. The number of members at the start was only 39, but by now there are three times as many. The founders of the cause have by and large departed, but others have come forward to fill their places, and the cause goes forward. One preacher was raised here, namely David D Thomas, who is now in Gwernllwyn, Dowlais.

 

NAZARETH

(Llangendeirne parish)

Mae y lle hwn yn agos  Bontyates, o fewn chwe' milldir i Lanelli, ar yr hen ffordd i Gaerfyrddin. Yr oedd yn y gymydogaeth yma rai aelodau yn myned i Gydweli, Penygraig, a Chapel Seion, ac arferai Mr Griffiths, Capel Seion, ddyfod yn aml ar brydnawn Sabboth i Ynyshafen i bregethu, lle yr oedd un o'i aelodau yn byw. Wedi sefydliad Mr E. Evans yn Mhenygraig, deuai ef yn aml i'r ardal i bregethu, ac ymgynnullai llawer wrando arno. Cedwid yma gyfeillachau crefyddol, a derbyniwyd deuddeg neu bymtheg o'r gymydogaeth hon yn Mhenygraig. Penderfynwyd cael capel yn yr ardal, a chafwyd les ar ddarn o dir am gant ond un o flynyddau. Adeiladwyd y capel yn 1803, ac yr oedd Meistri T. Davies, Pantteg ; D. Davies, Llanybri ; D. Peter, Caerfyrddin ; E. Davies, Llanedi ; a D. Davies, Abertawy, yn gweinyddu ar ei agoriad. Ffurfiwyd yma eglwys, a bu ei gofal ar Mr Evans, Penygraig, ac aeth yr achos rhagddo yn llwyddianus. Wedi i Mr Evans fethu a dyfod yma, oherwydd afiechyd, cymerodd Mr John Bowen, Saron, ofal yr eglwys, a byddai yn dyfod yma bob mis, ac weithiau yn amlach. Pan y cymerodd Mr Bowen ofal y Bwlchnewydd yn 1813, rhoddodd  fyny ddyfod yma, a chymerodd Mr Howell Williams, Llanelli, ofal yr eglwys, a bu yn dyfod yma mor aml ag y medrai hyd nes y gwanychodd ei nerth ac y bu raid iddo gyfyngu ei lafur i Lanelli yn unig. Daeth Mr Bowen, Saron, yma yr ail waith, a bu yma hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr Daniel Evans, yr hwn oedd yn aelod ac yn bregethwr yn yr eglwys dan ofal Mr Bowen yn Hermon, Cynwil. Urddwyd ef yma Ionawr 21ain, 1829. Bu Mr Evans yma yn ddiwyd a llwyddianus hyd 1837, pryd y symudodd i Maesyrhaf, Castellnedd. Yn y flwyddyn 1831 ail-adeiladwyd y capel yn llawer helaethach. Ar ymadawiad Mr Evans i Gastellnedd rhoddwyd galwad i Mr Daniel Evans, Llanybri. Yr oedd Mr Evans wedi ei urddo yn Hen Gapel, Llanybri, Mai 10fed, 1829, a bu yno hyd nes y symudodd yma, ac y mae wedi llafurio yma bellach am un-mlynedd-ar-bymtheg-ar-hugain.

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

This place is near to Pontyates, within 6 miles of Llanelli, on the old road to Carmarthen. In this neighbourhood there were some members going to Cydweli, Penygraig and Capel Seion, and it was customary for Mr Griffiths, Capel Seion, to come  regularly on Sunday afternoons to Ynyshafen to preach, a place where one of his members lived. After Mr Evans was installed at Penygraig, he came regularly to the area to preach, and many gathered to listen to him. He maintained a religious fellowship here, and received 12 or 15 from this neighbourhood in Penygraig. They decided to have a chapel in the area, and obtained a lease on a piece of land for 99 years. The chapel was built in 1803, and Messrs T. Davies, Pantteg ; D. Davies, Llanybri ; D. Peter, Carmarthen ; E. Davies, Llanedi ; a D. Davies, Swansea officiated at the opening. They formed a church here, and its care fell to Mr Evans, Penygraig, and the cause went forward successfully. After Mr Evans missed coming here, because of sickness, Mr John Bowen, Saron, took over care of the church, and he came here every month, and sometimes more often. When Mr Bowen took over care of Bwlchnewydd in 1813, he gave up coming here, and Mr Howell Williams, Llanelli, took over the church, and he came here as often as he could until his strength weakened and he had to confine his labours to Llanelli alone. Mr Bowen, Saron, came here for the second time, and was here until they gave a call to Mr Daniel Evans, who was a member and a preacher in the church under the care of Mr Bowen at Hermon, Cynwil. He was ordained here on January 21st 1829. Mr Evans was here diligently and successfully until 1837, when he moved to Maesyrhaf, Neath. In 1831 they rebuilt a much bigger chapel. On Mr Evans leaving for Neath they gave a call to Mr Daniel Evans, Llanybri. Mr Evans had been ordained at the Old Chapel, Llanybri, on May 10th 1829, and was there until moving here, and he has laboured here ever since for 36 years

 

EBENEZER, CRWBYN

(Llangendeirne parish)

Yr oedd rhai o aelodau Nazareth yn byw yn mhentref Crwbyn, ac arferai Mr. Howell Williams, Llanelli, fyned yno i bregethu ar brydnhawn Sabbath fynychaf pan y byddai yn Nazareth, a deuai llawer iawn i wrando arno. Yn fuan wedi urddo Mr Daniel Evans yn Nazareth, ymroddodd i sefydlu achos yma. Cododd yma gapel bychan yr hwn a agorwyd yn Rhagfyr, 1829.  Gweinyddai Meistri O. Owens, Bwlchnewydd ; D. Evans,

470  

Llanybri; D. Jones, Cydweli ; D. Rees, Llanelli; D. Davies, Pantteg, ac eraill ar yr achlysur. Ffurfiwyd yma eglwys, ac ymunodd rhai o aelodau o Gapel Seion a Phontyberen a'r rhai oedd yma o Nazareth. Bu y lle dan ofal Mr Evans hyd ei ymadawiad i Gastellnedd, ac er hyny y mae dan ofal Mr Evans, Nazareth. Mae y capel wedi ei helaethu a'i harddu ar ol ei adeiladu y tro cyntaf, ac y mae yr achos yn parhau i fyned rhagddo.

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

Some members of Nazareth lived in Crwbyn village, and Mr Howell Williams, Llanelli, used to regularly go there to preach on Sunday afternoons when he was at Nazareth, and many came to listen to him. Soon after Mr Daniel Evans was ordained at Nazareth, he strove to establish a cause here. A small chapel was ruised here and this opened in December 1829. Officiating on the occasion were Messrs O. Owens, Bwlchnewydd ; D. Evans, Llanybri; D. Jones, Cydweli ; D. Rees, Llanelli; D. Davies, Pantteg, and others. They formed a church here, and some of the members of Capel Seion and Pontyberen joined those who were here from Nazareth. The place was under the care of Mr Evans until he moved to Neath, and since then it has been under the care of Mr Evans, Nazareth. The chapel has been enlarged and renovated since it was first built, and the cause continues to go forward.

 

CYDWELI

(Kidwelly parish)

Dechreuwyd pregethu yma gan Mr Davies, Llanedi, ac eraill, yn y ganrif ddiweddaf. Nid ydym yn gwybod pa le yma y pregethwyd gyntaf, na phwy oedd y personau a agorasant eu drysau i dderbyn yr Efengyl. Goddefwyd yma erledigaeth ddirmygus. Lluchiwyd llaid ac wyau pydredig at Mr Davies, ond daliodd i ddyfod yma. Wedi iddo gael ty i bregethu gomeddodd awdurdodau y dref a'i drwyddedu. Anfonodd Mr Davies i Lundain, a daeth cenad i lawr ai thrwydded iddo ; a dywedir i'r Maer a'r Ynad a wrthododd y drwydded orfod talu dau cant o bunau yr un o ddirwy. Enillwyd rhai i dderbyn yr Efengyl, a derbyniwyd chwech o bersonau oddi yma yn aelodau yn Llanedi. Yn y flwyddyn 1785 cafwyd tir at adeiladu capel ychydig allan o'r dref gan Mr David Jones, Pistyllgwyn, gyda lle claddfa ynglyn ag ef, ar les o fil o flynyddau, am yr ardreth o swllt y flwyddyn. Adleiladwyd y capel yn ddioed, a galwyd ef Capel Sul.Goddefodd Mr Davies, Llanedi, lawer o anmharch yma yn ei ymdrech i sefydlu yr achos a chodi y capel, a hyny gan rai a alwent eu hunain yn foneddigion. Bu Mr David Jones, Pistyllgwyn, farw y flwyddyn gyntaf wedi codi y caped, sef Ebrill 10fed, 1786, yn 83 oed, a chladdwyd  wrth y capel, ac efe oedd y cyntaf a gladdwyd yn y fan. Dywedir ei fod yn gymeriad lled hynod, yn gyfoethog yn y byd, ond yn dra ffafriol i'r achos yma: Yn y flwyddyn 1787 rhoddodd yr eglwys yma, mewn cysylltiad a Phenygraig, alwad i Mr David Davies, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, a bu yma dros yspaid tair blynedd, ac yna symudodd i Dreffynnon. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am dano yn hanes y Trallwm, Cyf. I tudal. 373. Ar ol ysgrifenu y byr grybwylliad hwnw gwelsom mai un genedigol o Lanybydder ydoedd ; ac iddo symud o'r Trallwm i Bridgenorth ; ac wedi llafurio yno fel gweinidog ac ysgolfeistr am bedair blynedd bu farw, a chladdwyd ef yn agos i'r ffenestr ganol ar yr ochr ddwyreiniol i'r capel presenol. Yn y flwyddyn 1794 urddwyd Mr John Abel, o Athrofa Caerfyrddin, a bu yma yn dra llwyddianus am bum-mlynedd-ar-hugain, er fod gelyniaeth mawr at Ymneillduaeth yn y dref, hyd yn nod mor ddiweddar a'i amser ef. Gan fod Mr Abel wedi derbyn addysg dda ymgymerodd chadw ysgol, a gwnaeth hyny lawer tuag at ladd gelyniaeth y trigolion. Bu farw Mehefin 25ain, 1819, yn 49 oed: Dilynwyd ef yma gan Mr David Griffith, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn mis Gorphenaf, 1820 ; ond llai na dwy flynedd yr arhosodd yn y lle. Wedi bod dwy flynedd heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr David Jones, o Athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Mai 18fed, 1824. Llafuriodd yn ddiwyd dan lawer o anfanteision, ac ni bu  ei  lafur yn ofer. Yn 1831 ail-adeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn dy helaeth a chyfleus, yn mesur 44 troedfedd ysgwar. Codwyd capel Sardis hefyd o gylch yr un amser. Bu Mr Jones farw Mehefin 23ain, 1867, Yn

471

67 oed. Rhoddodd yr eglwys alwad yn ddioed i Mr William C. Jenkins, Llanybri, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Tachwedd 5ed, 1867 ; ac mae yn parhau i lafurio yma, a'r achos yn myned rhagddo yn galonog. Yn 1870 adeiladwyd capel bychan ar Fynydd y Gareg  gynal Ysgol Sabbothol, a phregethu yn achlysurol. Gelwir ef Soar. Coffeir gyda pharch am Mary Harries,mam Mr Thomas Harries, Mynyddislwyn. Cymerai ran gyhoeddus mewn cyfeillachau a chyfarfodydd gweddio, ac yr oedd ei chymeriad crefyddol yn rhoddi dylanwad iddi. David Meredith hefyd oedd un y teimlir parch mawr i'w goffadwriaeth. Codwyd yma ddau bregethwr, sef William Morris, yr hwn a derfynodd ei oes yn Abergwyli, a Thomas Harries, Mynyddislwyn.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

JOHN ABEL. Mab ydoedd i William Abel, yr hwn oedd bregethwr cynnorthwyol parchus yn Llanybri. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1770. Derbyniwyd ef yn aelod yn hen gapel Llanybri, ac yno y dechreuodd bregethu. Wedi treulio ei amser yn Athrofa Caerfyrddin derbyniodd alwad o Capel Sul, Cydweli, lle yr urddwyd ef yno yn 1794. Gan nad oedd yr eglwys ond gwan ymroddodd i gadw ysgol, a dygodd hyny ef gysylltiad a llawer o deuluoedd nas gallasid dyfod atynt yn un ffordd arall. Bu gwenau yr Arglwydd ar ei lafur yn ystod y pum-mlynedd-ar-hugain y bu yn y lle; ond torwyd ef i lawr yn nghanol ei ddyddiau. Bu farw Mehefin 23ain, 1819, yn 49 oed; ac yn mhen saith mlynedd claddwyd  wraig hefyd yn yr un bedd.

DAVID JONES. Ganwyd ef yn Nghilcenin, Mai 18fed, 1800. Pan yn ddeuddeg oed derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn y lle ; ac wedi dechreu pregethu aeth i'r Athrofa, dan ofal ei weinidog, Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Urddwyd ef yn Nghapel Sul, Cydweli, Mai 18fed, 1824. Nid oedd yr achos yn gryf, ac fel yr oedd ei deulu yn cynyddu bu raid iddo ymafael mewn rhyw bethau eraill er cael rhyw gymhorth at eu cynhaliaeth, ac yr oedd hyny yn effeithio yn anffafriol ar ei weinidogaeth. Ond er y cwbl cryfhaodd yr achos, ac yn 1831 bu raid ail-adeiladu a helaethu y capel. Yr oedd yn ddyn synwyrol a deallgar, o dymer heddychol, ac o ddawn melus. Nid oedd ynddo lawer o wroldeb cyhoeddus, a buasai yn well iddo ef ac i'r achos pe buasai yn y deng-mlynedd-ar-hugain olaf o'i fywyd wedi yfed yn helaethach o ysbryd diwygiadol a deffroadol ei oes ; ond yr oedd yn barchus gan bawb, a theimlid chwithdod ar ei ol yn y dref lle y llafuriodd are 43 mlynedd. Tarawyd of gan ergyd o'r parlys, fel y bu yn fud am y chwe' mis olaf o'i fywyd ; a bu farw Gorphenaf 23ain, 1867, yn 67 oed. Claddwyd ef yn mynwent y capel; a gosododd yr eglwys faen coffadwriaeth hardd ar ei fedd.

 

Translation by Gareth Hicks (Oct 2008)

 Preaching was begun here by Mr Davies, Llanedi, and others, in the last century. We don't know which place here they first preached in, nor which people opened their doors to welcome the Evangel. They endured contemptible persecution here. Mud and rotten eggs were thrown at Mr Davies, but he continued to come here. After he obtained a house to preach in, the town authorities refused his licence. Mr Davies sent off to London, and a response came back with his licence; and the Mayor and Magistrates who refused the licence were ordered to pay a fine of 200 each. Some were restored to acceptance of the Evengel, and 6 people were accepted here who were members at Llanedi. In 1785 they obtained land to build a chapel a little away from the town, from Mr David Jones, Pistyllgwyn, with some ground for burials along with it, on a lease for 1000 years, for a rent of one shilling a year. They built the chapel  forthwith, and called it Capel Sul. Mr Davies, Llanedi, put up with a lot of disrespect  in his efforts to establish the cause and raise a chapel, and that from some who called themselves aristocrats. Mr David Jones, Pistyllgwyn, died the first year after raising the chapel, that is on 10th April 1786, aged 83. and was buried by the chapel, and he was the first one to be buried in that place. It was said he was a rather extraordinary character, a wealthy man of the world, but very indulgent towards this cause. In the year 1787, this cause, joined with Penygraig, in giving a call to Mr David Davies, a student at Carmarthen College, and he was here for over 3 years, and then moved to Treffynnon. we have already mentioned him in the history of Trallwm, volume 1, page 373. After writing that brief reference we saw that he was a native of Llanybydder; and that he moved from Trallwm to Bridgenorth; and after labouring there as minister and schoolmaster for 4 years, he died, and was buried near the middle window on the east side of the present chapel. In 1794 Mr John Abel, from Carmarthen College, was ordained, and was very successful here for 25 years, although there was great animosity against Nonconformity in the town, even as recently as his time. As Mr Abel had received a good education he undertook keeping a school, and that did much towards stifling the animosity of the inhabitants. he died on 25th June 1819, aged 49;  He was followed here by Mr David Griffith, a student at Carmarthen College, and he was ordained in the month of July, 1820; but stayed less than 2 years in the place. After being 2 years without a minister they gave a call to Mr David Jones, from Neuaddlwyd College, and he was ordained on 18th May 1824. He laboured diligently under many handicaps, and he didn't labour in vain.  In 1831 they rebuilt the chapel, and made it a capacious and convenient place, it measured 44 feet square. Sardis chapel was also raised in the same time frame. Mr Jones died on 23rd June 1867, aged 67. The church gave a call forthwith to Mr William C Jenkins, Llanybri, and he began his ministry here on 5th November 1867; and he continues to labour here, and the cause goes forward spiritedly. In 1870 a small chapel was built on Mynydd y Garreg to hold a Sunday School, with occasional preaching. It was called Soar. Mary Harries, mother of Mr Thomas Harries, Mynyddiswlyn, is remembered with respect. She took a public role in fellowships and prayer meetings, and her religious nature gave her influence. David Meredith is another who is remembered with great respect. Two preachers were raised here, namely William Morris, who ended his life in Abergwili, and Thomas Harries, Mynyddislwyn.

Biographical Notes *

JOHN ABEL ... son of William Abel ... preacher at Llanybri ...Born in 1770 ... admitted at Llanybri ... went to Carmarthen College ... ordained at Capel Sul, Cydweli in 1794 ... died in 1819, aged 49

DAVID JONES ... born in Cilcennin in 1800 ... admitted there aged 12 ... went to Neuaddlwyd College ... ordained Capel Sul in 1824 ... laboured there for 43 years ... died in 1867, aged 67

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

SARDIS

(Pembrey parish)

Mac y capel hwn yn mhlwyf Penbre, ar y ffordd o Gydweli i Lanelli, ac o'r dechreuad wedi bod mewn cysylltiad a Chydweli. Codwyd y capel yn y flwyddyn 1831; ond y mae er hyny wedi  gyfnewid yn fawr. Mae nifer yr eglwys yma yn awr yn gant a haner, a golwg obeithiol ar yr

472

achos yn ei holl ranau. Bu Thomas Rees, Morfa, yn golofn gref i'r achos yma am dymor hir. Bu farw Hydref 1af, 1854, yn 60 oed, ond nid yw ei lafurus gariad etto wedi myned yn anghof gan yr eglwys a'r ardal, ac nid yw yr eglwys wedi ei gadael heb rai o gyffelyb feddwl.

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

 This chapel is in Pembrey parish, on the way from Cydweli to Llanelli, and has been connected to Cydweli from the beginning. The chapel was raised in 1831; but since then has changed much. The number of members now is 150, and it has a hopeful outlook in all things. Thomas Rees, Morfa, was for a long time a pillar of the cause. He died 1st Oct 1854, aged 60, but his caring labours have still not  been forgotten by the church or in the district, and the church hasn't been left without people of similar mind.

 

 

JERUSALEM, PENBRE

(Pembrey parish)

Yr ydym yn cael crybwyllion am y lle hwn mewn hen gofnodion er yn gynar yn y ganrif ddiweddaf. Yr oedd un Thomas Morris yma yn 1724, ac yn derbyn rhodd o'r Trysorfwrdd Presbyteraidd yn y flwyddyn hono. Nis gwyddom a'i yr un ydoedd a'r Thomas Maurice y ceir ei enw yn nglyn a Llanybri o'r flwyddyn* 1716 hyd 1742. Yr oedd llawer o'r hen weinidogion yn byw yn mhell iawn oddiwrth eu heglwysi, a cheir enwau rhai o honynt yn nglyn a mwy nag un man, a hyny ar yr un pryd. Cawn enw Samuel Jones yn nglyn a'r lle o'r flwyddyn 1730 hyd 1752. Yr oedd yn weinidog yn Capel Seion, ac yr ydym wedi cyfeirio ato yn nglyn a'r Mynyddbach. Nis gwyddom a sefydlwyd achos gan y naill neu y llall o honynt yma, ond y mae yn eglur os bu iddynt wneyd hyny nad yw yr achos presenol yn ddilyniad difwlch o hono. Dechreuwyd pregethu yma gan Mr Davies, Llanedi, o gylch y flwyddyn 1810, a deuai yr enwog David Davies, Abertawy, yma yn aml. Crybwyllir enwau Dafydd Hugh, William Griffiths a'i wraig, a William Williams a'i wraig fel yr aelodau cyntaf yma, ond i Lanelli yr elai yr aelodau i gymundeb, ac i Lanedi cyn hyny, ac o gylch y flwyddyn 1812 y sefydlwyd yma achos rheolaidd, ac y codwyd y capel. Ar sefydliad Mr Howell Williams yn Llanelli, cymerodd ef ofal yr eglwys, a bu yma nes y gorfodwyd ef gan waeledd ei iechyd i roddi y lle i fyny. Rhoddwyd galwad i un Jonah Francis, ac urddwyd ef yma Tachwedd 5ed, 1828. Ni bu yma ond rhyw flwyddyn. Aeth i gasglu at ddyled y capel, ac ymollyngodd i yfed, ac ni ddychwelodd mwy i'r lle. Rhoddwyd galwad i Mr Evan Davies, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Hydref, 1824. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Peter, Caerfyrddin ; T. Griffith, Hawen ; S. Price, Llanedi; D. Davies, Pantteg; ac eraill. Cyflawnwyd gweithred waradwyddus noson gyntaf ei urddiad yn hollol oddiar genfigen. Torwyd holl ffenestri y capel yn chwilfriw, fel pan ddaeth gweinidogion foreu yr urddiad, dyna yr olygfa a welsant. Barn pawb ydoedd mai un o swyddogion uchaf y plwyf oedd a'r llaw benaf yn y weithred iselwael. Bu Mr Davies yma yn dderbyniol a llwyddianus am yspaid dwy flynedd, ond cododd cwmwl du, a daeth y gelyn i mewn fel afon. Nid ydym  yn gwybod manylion yr amgylchiadau, ond gwyddom mai y diwedd fu cloi y drws yn erbyn Mr Davies; ac aeth ef a'r nifer luosocaf o'r eglwys allan, ac wedi pregethu am yspaid o dy i dy codasant addoldy yn uwch i fyny, yr hwn a alwyd yn Carmel. Beth bynag oedd colliadau Mr Davies parodd y chwerwder a'r creulonder a ddangoswyd  tuag ato deimlad yr holl ardal agos droi o'i blaid ; a disgynodd yr achos yn hen gapel Jerusalem i gyflwr isel iawn. Yr oedd y capel wedi ei adael yn anorphenol, a thrawstiau yr oriel yno yn foelion, a baich trwm o ddyled arno. Rhoddwyd galwad i Mr Benjamin James, a fuasai yn fyfyriwr yn Nghaerfyrddin, ac urddwyd ef yma. Isel a dilewyrch oedd yr achos am

* Gwneir camgymeriad yn " Hanes Ymneillduaeth" trwy ei alw yn William Morris.

 473

y pedair blynedd y bu yma, ac yn y flwyddyn 1841 ymadawodd i Abersychan, Sir Fynwy. Cymerodd Mr Henry Evans ofal y lle mewn cysylltiad a Carmel a Rehoboth, a daeth yr achos rhagddo yn llwyddianus. Gorphenwyd y capel a gwnaed ef yn hardd a chyfleus, a than fod y boblogaeth yn cynyddu, a llawer o dai yn cael eu hadeiladu, a'r lle yn dyfod yn borthladd pwysig, daeth yr achos i wisgo gwedd hollol newydd. Aeth capel yn llawer rhy gyfyng, a bu raid adeiladu un newydd llawer helaethach, yr hyn a wnaed yn y flwyddyn 1856. Llafuriodd Mr Evans yma gyda derbyniad a pharch hyd ei farwolaeth Medi 24ain, 1869. Yn gynar yn y flwyddyn 1871 rhoddwyd galwad i Mr John Rogers, Pantteg, a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma y ddau ddiwrnod diweddaf yn mis Mai y flwyddyn hono. Parha Mr Rogers i lafurio yma gyda graddau helaeth o lwyddiant. Mae yr eglwys yn rhifo tua 400 o aelodau, a'r achos yn ei holl ranau yn myned rhagddo yn gysurus.

Translation by Gareth Hicks (Jan 2009)

We have references to this place in old records albeit early in the last century. A Mr Thomas Morris was here in 1724, and received a donation from the Presbyterian Treasury in that year. We don't know if it was the same Thomas Maurice seen mentioned in connection with Llanybri between the year *1716 and 1742. Many of the old ministers lived a long way from their churches, and some of them were named as connected with more than one place, and that at the same time. We can name Samuel Jones in connection with this place from 1730 to 1752. He was  minister at Capel Seion, and we have mentioned him in connection with Mynyddbach. We don't know whether a cause was established here by one or the other of them, but it is evident that if that did happen then the present cause didn't follow on continuously from it. Mr Davies, Llanedi, began to preach here around 1810, and the well known David Davies, Swansea, came here often. There are mentioned the names of Dafydd Hugh, William Griffiths and wife, and William Williams and his wife, as the first members here, but it was  Llanelli that the members attended for communion, and to Llanedi before that, and about 1812 they established here a regular cause, and raised the chapel. On Mr Howell Williams being installed at Llanelli, he took over care of this church, and was here until forced to give it up through ill health. They gave a call to one Jonah Francis, and he was ordained here on Nov 5th 1828. He was only here about a year. He went out collecting towards the chapel's debt, and succumbed to drink, and didn't come back to the place again. They gave a call to Mr Evan Davies, a student at Carmarthen College, and he was ordained  in Oct 1824. Officating on the occasion were Messrs D. Peter, Carmarthen ; T. Griffith, Hawen ; S. Price, Llanedi; D. Davies, Pantteg; and others. Disgraceful acts of jealousy were carried out on the first night of his ordination. All the windows of the chapel were broken into pieces, so that when the ministers arrived the morning of the ordination, that is what they saw. It was generally thought that it was someone from the upper part of the parish who was mainly responsible for the lowly act. Mr Davies was here acceptably and successfully for a period of 2 years, but a black cloud appeared, and the enemy came in like a torrent. We don't know the ins and outs of the circumstances, but know that the door was locked against Mr Davies; and he and a large number left the church, and after preaching house to house for a time, raised a place of worship above there, and this was called Carmel. Whatever were Mr Davies's failings, the bitterness and cruelty continued and indicated how the feelings of nearly the whole area had turned against him; and the state of the cause at the old chapel of Jerusalem sank to a very low level. The chapel had been left incomplete, and the joists of the gallery were bare, and the debt on it was a heavy burden. They gave a call to Mr Benjamin James, who was a student at Carmarthen, and he was ordained here. The cause was subdued and gloomy over the 4 years he was here, and in 1841 he left for Abersychan, Monmouthshire. Mr Henry Evans took over care of the place together with Carmel and Rehoboth, and the cause went forward successfully. They built the chapel and made it beautiful and convenient, and as the population increased, and a lot of houses built, and the place became an important harbour, so the cause came to wear a completely new face.  The chapel became much too small, and it was necessary to build a new and much bigger one, and this they did in 1856. Mr Evans laboured here acceptably and with respect until he died on Sept 24th 1869. Early in 1871 they gave a call to Mr John Rogers, Pantteg, and held his installation meetings here on the last 2 days of May that same year. Mr Rogersw continues to labour here with a large measure of success. The church numbers about 400 of members, and the cause in all respects moves forward comfortably.

 

CARMEL, PENBRE

(Pembrey parish)

Saif y capel uchod mewn cwm cul a dwfn, tua milldir a chwarter i'r dwyrain o Burry Port, a thua thair milldir i'r gorllewin o Lanelli. Adeil- adwyd ef yn y flwyddyn 1828, gan Mr Evan Davies ac eraill, dan yr amgylchiadau canlynol: - cafodd Mr Davies ei urddo yn Jerusalem, Penbre, yn Hydref, 1824, ac wedi bod yno yn llwyddianus dros yspaid dwy flynedd, taenodd cwmwl du a thywyll iawn dros amgylchiadau yr achos. Daeth y gelyn i mewn fel afon, a'r diwedd fu i'r capel gael ei gloi yn ei erbyn. Trodd y rhan luosocaf o'r eglwys gydag ef. Bu wedi hyn am lawer o fisoedd yn pregethu o dy i dy yn yr ardal, ac yn hynod o barchus a derbyniol gan y rhan luosocaf o'r trigolion. Llwyddodd yn y diwedd i gael darn helaeth o dir i adeiladu addoldy arno, yr hyn a wnaed, a galwyd ei enw yn Carmel ; ond ni chafodd yr hyfrydwch i bregethu ynddo ond unwaith, ni bu oes Mr Davies ond ber iawn, aeth trwy y trafferthion a'r pleserau uchod oll mewn pum' mlynedd. Ymaflodd y darfodedigaeth yn ei gyfansoddiad, ond yr oedd yn dra hyderus pan yn gwynebu angau. Bu farw Mawrth 25ain, 1829, yn 29 oed. Yn y flwyddyn 1830, rhoddwyd galwad i Mr Henry Evans, o Athrofa y Drefnewydd, ac urddwyd ef Chwefror 18fed yr un flwyddyn. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr T. Jones, Bethel, Dowlais; holwyd y gofyniadau gan Mr D. Jones, Cydweli ; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr M. Evans, Lacharn ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr M. Jones, Trelech, ac i'r eglwys gan. Mr D. Davies, Pantteg. Bu yn gweinidogaethu yma hyd y 24ain o Fedi, 1869, pan y cymerwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr, wedi bod yn fugail  yr eglwys hon am yn agos  ddeugain mlynedd. Claddwyd ef yn mynwent Rehoboth, lle y mae cofadail uwchben ei fedd yn goffadwriaeth o'r fan lle y gorwedd gwr Duw. Yn gynar yn y flwyddyn 1871 rhoddwyd galwad i Mr Samuel D. Jones, Saron, Maesteg, a chydsyniodd a'u cais. Dechreuodd ei weinidogaeth Mawrth 5ed, 1871. Cynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Ebrill 30ain a Mai 1af, yr un flwyddyn. Y mae yma ugeiniau wedi eu ychwanegu at yr eglwys yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, a gwedd lewyrchus  yr achos. Y swyddogion cyntaf yn Carmel oeddynt D. Williams, Pantachddu ; John John, Ty'rwain, y ddau  

474

hyn oeddynt henuriaid ; y diaconiaid oeddynt W. John, Derwyd; John Rogers, Derwyd ; Thomas Mansel, a David Morgan. Mae y rhai hyn oll wedi myned i ffordd yr holl ddaear, ond y mae eu henwau yn berarogl yn yr ardal a'r gymydogaeth. Yr ail ddiaconiaid a sefydlwyd oeddynt William Williams, Dyfatty ; William Hughes, Pantycoch ; John Williams, Pantachddu, a Thomas Davies, Blaenycwm ; maent oll wedi meirw oddigerth yr olaf a nodwyd. Mae eglwys Carmel wedi bod yn dangnefeddus o'i dechreuad, ac yn llwyddianus o'r pryd hwnw hyd yn hyn. Mae yr eglwys yn awr yn adeiladu capel newydd hardd gwerth 1,200 yn Burry Port, yn nghanol y boblogaeth, a bwriedir sefydlu eglwys ynddo fel cangen o Carmel. Gelwir y capel newydd yn Seion.*

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

EVAN DAVIES. Ganwyd  yn Cefnmerdy, yn mhlwyf Llanllwni, yn sir Gaerfyrddin, Ebrill 15fed, 1800. Derbyniwyd ef yn aelod yn nghapel Noni, a derbyniodd ei addysg yn Athrofa Caerfyrddin. Wedi bod am yspaid dwy flynedd yn cadw ysgol yn Nghapel Isaac, cafodd alwad o Jerusalem, Penbre, ac urddwyd ef yno yn Hydref, 1824. Bu am ddwy flynedd wedi ei urddiad yn lled lwyddianus, ond wedi hyny daeth cwmwl tywyll drosto, a thros yr achos. Yr oedd mwyafrif yr eglwys o'i blaid, y rhai a aethant allan gydag ef, a thrwy  lafur  a hwythau y codwyd Carmel. Priododd a bu iddo un ferch. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a gwanychodd yn raddol nes y bu farw Mawrth 25ain, 1829, yn 29 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Carmel, lle y gwelir cofadail fechan uwchben ei fedd, er cadw ei enw mewn coffadwriaeth.

HENRY EVANS. Ganwyd ef yn Nhrelech, yn y flwyddyn 1801. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghapel y Graig, ac ar gais yr eglwys yno anogwyd ef i ddechreu pregethu agos yr un adeg a'i gyfoedion Mestri D. Rees, Llanelli, a J. Evans, Capel Seion, y rhai er iddynt gyrhaedd poblogrwydd uwch nag ef fel pregethwyr ni ragorent arno mewn craffder a synwyr cyffredin. Ar yr adeg y dechreuodd bregethu yr oedd yn was gyda'r Hybarch Morgan Jones, Trelech, ac yr oedd gan ei feistr olwg fawr arno. Bu am yspaid dan addysg yn y Drefnewydd, ac yn 1830 ordeiniwyd ef yn weinidog yn Carmel, Penbre. Yr oedd Mr Rees wedi ymsefydlu yn Llanelli y flwyddyn cyn hyny ; ac yn mhen blwyddyn neu ddwy ar ol hyny ymsefydlodd Mr Evans yn Nghapel Seion. Cyd-ddigwyddadau pur darawiadol oedd i dri o'r un gymydogaeth - wedi eu cyd-ddwyn i fyny yn yr un eglwys, a dechreu pregethu yr un adeg - a derbyn addysg dan nawdd yr un athrawon - ac ymsefydlu yn weinidogion yn yr un cwmwd  - ac aros yno o ddechreuad hyd derfyniad eu gweinidogaeth, yr hon a barhaodd am yn agos i ddeugain mlynedd - a gorphen eu gyrfa o fewn dwy flynedd i'w gilydd. Yr oedd Mr Evans yn " llawn deugain mlwydd. oed ' pan welsom ef gyntaf. Dyn bychan, crwn, penddu, serchog ei wyneb, a charedig  ysbryd. Yr ydym yn cofio yn dda fyned gyda cyfaill at ei dy i ofyn a oedd cyhoeddiad i ni yn un o'i gapeli y canol dydd hwnw. Nid oedd yr hynaf o honom yn ugain oed; ac er nad oeddym y rhai mwyaf swil, yr oedd nesu at dy gweinidog canol oed yn peri i ni deimlo mesur o wylder ; ond erbyn ein hod yn ngolwg y drws, gwelodd ni, a daeth allan i'n cyfarfod, gyda gwen serchog, a chyfarchiad caredig.

* Llythyr Mr S. D. Jones.

475

Ciliai pob ofn, ac  mewn a ni yn y fan ; a gwnaeth  ni deimlo mor hapus a chartrefol a phe buasem ar yr aelwyd gartref gyda brodyr yn ol y cnawd. Yr oedd newydd ddychwelyd o gymanfa Sirhowy, lle yr oedd wedi bod yn pregethu, a hawdd oedd deall ei fod yn teimlo iddo gael yr awel o'i du. Meddai ddawn hollol rwydd a naturiol. Anhawdd fuasai gwrando ar neb a allasai siarad yn fwy esmwyth. Nid oedd dyweyd yn ddim poen iddo, ac yn sicr nid oedd ei wrando yn boen i neb arall ; ac fel y gwresogai ac yr enillai hyder, ymgodai yn uchel iawn ; a chafodd rai oedfaon mor nodedig nad anghofir mo honynt gan y rhai oedd ynddynt. Anaml y byddai yn ei gwneyd ar achlysuron pwysig. Ond mewn rhyw gapel bychan, neu dy ffarm y noson o flaen y gymanfa byddai yn cael hwyliau anarferol, fel y dymunai y bobl gael ei glywed dranoeth, ar un o'r prif oedfaon ; ond pan y rhoddid yn achlysurol iddo gyfle ar un o'r oedfaon cyhoeddusaf, anaml y cyrhaeddai y marc a gyrhaeddasai yn y gilfach anghysbell y nos o'r blaen. Yn hyny yr oedd gwahaniaeth pwysig rhyngddo ef a'i gyfaill o Gapel Seion. Pa bwysicaf yr amgylchiad uchaf oll yr ymgodai hwnw ; ond ar achlysuron cyffredin disgynai yn isel iawn. Ychydig o hunan-hyder fu erioed yn Mr Evans, Penbre, i ymddibynu ar ei adnoddau ei hun, yr hyn a'i gwnai i fesur yn ofnus yn y gynnulleidfa fawr. Ond pan y cai ei draed dano, fel y dywedir, a'r awel o'i du gwnai orchestion weithiau hyd yn nod ar yr adegau pwysicaf.

Digwyddodd ei fod yn Llundain yn foreu yn ei oes yn gwasanaethu yr achos Cymreig yno, ac yn casglu at gapel Carmel, Penbre. Yr oedd Cymanfa y Methodistiaid y pryd hwnw fel yn awr, yn cael ei chynal ar y Groglith a'r Pasg, ond nid oedd y fath gyflawnder o bregethwyr ag sydd yn awr ; ac oblegid hyny, pregethai gweinidogion y naill enwad yn nghymanfaoedd yr enwad arall. Yr oedd Mr Evans yn y brif ddinas yn adeg y gymanfa. William Morris, Cilgeran, y pryd hwnw, oedd y prif bregethwr y tro hwnw ; ond yn yr oedfa ddau o'r gloch, oblegid rhyw siomedigaeth a gafwyd, ceisiwyd gan Mr Evans i bregethu. Aeth i'r pulpud , nid oedd ond bychan o gorffolaeth, a'i wallt a'i gernflew yn ddu iawn, ac yr oedd yn gwbl ddyeithr i'r rhan fwyaf. Yr oedd ganddo hen bregeth ar gymeriad ac argyhoeddiad Manaseh, na byddai byth braidd yn colli ei nod ; a hono a ddaeth allan, ac oedfa anghyffredin a fu. Clywsom rai oedd ynddi yn son am dani yn mhen ugain mlynedd wedi hyny ; a dywedant nad oedd wrth fyned o'r capel na son na siarad am ddim na neb ond y ' Sentar du bach', - ac wrth yr enw ' Sentar du bach' yr adnabyddid ef gan y genhedlaeth hono yn y brif ddinas. Yr oedd yn gyfaill cywir a didwyll ; cawsom lawer cyfle i gymdeithasu ag ef, ac i gael prawf  ei ffyddlondeb. Ymladd a'r byd y bu o ran ei amgylchiadau y rhan fwyaf o'i oes wrth ddwyn teulu lluosog i fyny, a chafodd o gystuddiau a thrallodion teuluaidd ei ran yn helaeth ; ond " arhodd ei fwa ef yn gryf,'* a glynodd wrth waith y Cysegr hyd derfyn ei einioes. Yr ydym yn teimlo parch i'w goffadwriaeth. Yr oedd yn un o'r rhai a weinyddent  achlysur pwysig ein neillduad cyhoeddus i'r weinidogaeth, ac yn ei farwolaeth ef y mae yr olaf o'r rhai hyny wedi myned. Bu farw Medi 24ain, 1869, yn 68 oed.

Translation by Gareth Hicks (Jan 2009)

This chapel stands within a deep and narrow valley, about a mile and a half to the east of Burry Port, and about 3 miles west of Llanelli. It was built in 1828 by Mr Evan Davies and others, in the following circumstances - Mr Davies was ordained at Jerusalem, Pembrey, in Oct 1824, and after he'd been successful there over a two year period, a dark black cloud overcame the circumstamces of the cause. The enemy came in like a torrent, and the end result was that the chapel was locked against him. Most of the church's membership went with him. After this he for several months preached from house to house in the district, and was notably accepted and respected by the majority of the residents. He succeeded eventually in getting hold of a large piece of land to build a place of worship on, which he did, and called it Carmel; but only once had the pleasure of preaching in it, Mr Davies's life was very short, he went through the above troubles and pleasures all within 5 years. His constitution was completely overtaken by consumption, although he was very sanguine in its face. He died on 25th March 1829, aged 29. In 1830 they called Mr Mr Henry Evans, from Newtown College, and he was ordained on 18th February of that year. On the occasion Mr T Jones, Bethel, Dowlais, preached on the Nature of a Church; questions asked by Mr D Jones, Cydweli; the ordination prayer was given by Mr M Evans, Laugharne; preaching to the minister by Mr M Jones, Trelech; and to the church by Mr D Davies, Pantteg. He ministered here until 24th Sept 1869, when he departed his life's work for his prize, having shepherded the church here for nearly 40 years. He was buried in Rehoboth graveyard, where there is a memorial over his grave in memory of the fact that there lies a man of God. Early in 1871 they gave a call to Mr Samuel D Jones, Saron, Maesteg, and he accepted their invitation. He began his ministry on 5th March 1871. The meeting to install him was on 30th April and May 1st that same year. Scores have been added to the membership of the church in the last 2 years, and the cause is flourishing. The first officials of Carmel were D. Williams, Pantachddu ; John John, Ty'rwain, the two who were the elders; the deacons were W. John, Derwyd; John Rogers, Derwyd ; Thomas Mansel, and David Morgan. These have all gone the way of all mortal things, but their names are well known in the area and neighbourhood. The next deacons to be appointed were William Williams, Dyfatty ; William Hughes, Pantycoch ; John Williams, Pantachddu, and Thomas Davies, Blaenycwm; they have all died apart from the last mentioned. Carmel church has been peaceful from the start, and successful from then until now. The church is now building a new beautiful chapel costing 1200 in Burry Port, in the middle of the population, and intend setting up a church there as a branch of Carmel. The new chapel is called Seion *.

*Letter from Mr S D Jones

Biographical Notes *

EVAN DAVIES. ... born at Cefnmerdy in Llanwllni parish, Carmarthenshire in 1800 ... admitted at Capel Noni ... educated at Carmarthen College ... kept a school at Capel Isaac ... ordained at Jerusalem, Pembrey in 1824 ... left in traumatic circumstances ... started Carmel .... married with a daughter ... died 1829 aged 29, buried in Carmel graveyard....

HENRY EVANS. ... born in Trelech in 1801 ... member at Capel y Graig .... studied at Newtown ... ordained in 1830 at Carmel, Pembrey ... died in 1869, aged 68...

 

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

REHOBOTH

(Pembrey parish)

Saif yr addoldy uchod yn mhlwyf Penbre, bron ar gyffiniau plwyf Llanelli. Dechreuwyd yr achos yn y lle o dan yr amgylchiadau canlynol.

476  

Daeth offeiriad o'r enw Thomas Clement o blwyf Llanrhian i'r gymydogaeth i fyw i'w amaethdy ei hunan, o'r enw Bryngroesfach. Yn mhen rhai blynyddau ar ol ei ddyfodiad i'r lle efe a adeiladodd gapel ar ei dir ei hun, ac ar ei gost ei hun. Safai hwnw oddeutu milldir a haner yn nes i dref Llanelli na'r capel presenol, a gelwid ef yn Gapel Clement. Dechreuwyd ei adeiladu Mai, 1818, a gorphenwyd ef yn Medi canlynol. Dywedir i Mr Clement fynu trwydded yn Nghaerfyrddin at bregethu fel gweinidog Annghydffurfiol ac Annibynol. Ei wraig ac yntau oedd yr unig rai oedd yn dechreu yr achos yn y capel newydd. Pregethodd am chwe' blynedd yn y lle heb un arwydd o lwyddiant, sef o 1818 hyd 1824. Ceir ar ei fedd-faen ei fod wedi ei gladdu Mawrth 27ain, 1824, pan yn 76 oed. Claddwyd ef yn ei gapel ei hun yn ol ei gais, ond codwyd ef oddiyno drachefn a gosodwyd ef yn nghladdfa Rehoboth. Yn ol ei ewyllys yr oedd y capel a thir gwerth deg punt y flwyddyn i fod yn feddiant i un Mr David Davies, pregethwr cynorthwyol, yr hwn oedd yn aelod yn nghapel Als, Llanelli. Yr oedd y Mr Davies yma yn daid i Mr Llewelyn D. Bevan, Ll.B., Llundain. Ar ol marwolaeth Mr Clement defnyddiodd Mr Davies y capel at gadw Ysgol Sabbothol a phregethu ; a daeth pedwar o aelodau yno o ryw gapeli cymydogaethol. Ordeiniwyd Mr Davies yn weinidog yn y lle, a gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan Meistri J. Rowlands, Cwmllynfell ; S. Price, Llanedi ; J. Evans, Crwys; J. Silvanus, Caerfyrddin ; a D. Evans, Mynyddbach. Cynyddodd yr eglwys yn fuan yn 40 o rif. Yn mhen oddeutu dwy flynedd hawliwyd y capel gan etifeddion Mr Clement, felly dygwyd Mr Davies a'r eglwys i helbul. Gwerthwyd ef i Mr Morris, offeiriad Llanelli. Bu y mater yn mrawdlys Caerfyrddin, Awst, 1826, a bu raid i Mr Davies ollwng ei afael o'r capel a'r tir. Bu yr eglwys fechan am dymor ar ol hyn yn addoli yn nhai y gymydogaeth. Cafwyd tir at adeiladu capel newydd a mynwent gan Mr Samuel Stephens, o'r Gellifawr. Amseriad y les yw 999 o flynyddau, yn ol y rhent o chwe' cheiniog y flwyddyn. Yn ychwanegol at y rhodd hon, a chwarter erw o dir, cymerodd y gwr haelionus hwn y draul i gael muriau y capel i fyny. Agorwyd Rehoboth Chwefror 7fed, 1827. Bu llwyddiant mawr ar weinidogaeth Mr Davies yn y capel newydd o Chwefror, 1827, hyd Tachwedd 12fed, 1829. Gwelodd cyn ei farwolaeth yr eglwys yn gant o rif. Wedi colli Mr Davies drwy angau, rhoddodd yr eglwys alwad  Mr Henry Evans, Carmel, Penbre, a dechreuodd yntau ar ei weinidogaeth yn y lle Mai, 1830, gan ofalu am eglwys Carmel yr un modd. Bu yr eglwys o dan ei weinidogaeth ar rai cyfnodau yn rhifo 200. Yn 1854 ail-adeiladwyd y capel, ac agorwyd ef Gorphenaf 17eg a'r 18fed, 1855. Mesura y capel presenol 38 troedfedd wrth 34. Bu farw Mr Evans Medi 24ain, 1869, yn 68 oed, wedi bod yn y weinidogaeth am 40 mlynedd yn barchus, llafurus, a llwyddianus. Mae ei gorph yn gorwedd yn mynwent Rehoboth, yn meddrod ei wraig a'i blant. Wedi marwolaeth Mr Evans rhanwyd maes ei lafur yn dair gweinidogaeth, a rhoddodd yr eglwys yn Rehoboth alwad  i Mr J. Ll. Hughes, Gwernllwyn, Dowlais, a dechreuodd yntau ei weinidogaeth yn eu plith Mehefin 11 eg, 1871, a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad Gorphenaf 10fed a'r 11eg y flwyddyn hono.

Y rhai fu a'r llaw flaenaf yn cychwyn yr achos yn Rehoboth oeddyn Mr David Davies, y gweinidog ; Mr Samuel Stephens, gwr da ac y mae ei enw yn barchus yn y lle hyd heddyw, a Mr John Hughes, Cilferi isaf, dyn selog, ysgrythyrwr gwych a chyfarwydd, a haelionus at grefydd; yn ..............................

 

Translation by Gareth Hicks (Jan 2009)

This place of worship stands in Pembrey parish, almost in Llanelli parish. The casue began in this place in the following circumstances. A clergyman named Thomas Clement from Llanrhian parish came to the parish to live in his own farmhouse called Bryngroesfach. Some years after he arrived here he built a chapel on his own land, at his own cost. It stood about a mile and a half nearer to the town of Llanelli than the present chapel, and it was called Capel Clement. The building began in May 1818, and was finished in the middle of Sept. It is said that Mr Clement went to Carmarthen for a licence to preach as a Nonconforming and Independent minister. He and his wife were the only ones who began the cause in the new chapel. He preached in the place for 6 years without any sign of success, that is from 1818 to 1824. It says on his gravestone that he was buried on March 27th 1824, when 76 years of age. He was buried in his own chapel according to his wishes, but he was then moved and laid to rest in Rehoboth graveyard. According to his will the chapel and land worth 10 a year was to be conveyed to one Mr David Davies, an assistant preacher, who was a member at Capel Als, Llanelli. This Mr Davies was a grandfather of Mr Llewelyn D. Bevan, Ll.B., London. After Mr Clement died, Mr Davies used the chapel to keep a Sunday school and preaching; and 4 members came there from some neighbouring chapels. Mr Davies was ordained as a minister there, and officiating on the occasion were Messrs J. Rowlands, Cwmllynfell ; S. Price, Llanedi ; J. Evans, Crwys; J. Silvanus, Carmarthen ; and D. Evans, Mynyddbach. The chapel soon grew in membership to 40.  At the end of  about 2 years the chapel was claimed by the heirs of Mr Clement, thus putting the church and Mr Davies in turmoil. It was sold to Mr Morris, clergyman of Llanelli. The matter was [heard] at the court at Carmarthen in August 1826, and Mr Davies had to give up his possession of the chapel and land. The small church for a while after this worshipped in neighbourhood houses. They obtained land to build a new chapel and graveyard from Mr Samuel Stephens, from Gellifawr. The term of the lease is 999 years, for a rent of 6 pence a year. In addition to this gift, and a quarter acre of land, this generous man took on the cost of getting the walls of the chapel up. Rehoboth opened on February 7th 1827.  Mr Davies's ministry had great success from Feb 1827 in the new chapel, until 12th Nov 1829.Before he died he saw the church reach a 100 members. After losing Mr Davies by his death, the church gave a call to Mr Henry Evans, Carmel. Pembrey, and he began his ministry here in May 1830, whilst looking after Carmel likewise. The church under his ministry numbered 200 according to some records. In 1854 they rebuilt the chapel, and it opened on 17th & 18th July 1855. The present chapel measures 38 ft by 34. Mr Evans died on 24th Sept 1869, aged 68, having been a reputable, industrious and successful minister for 40 years. His remains lie  in Rehoboth graveyard, in a grave with his wife and children. After the death of Mr Evans his work was shared between 3 ministries and Rehoboth gave a call to Mr J Ll Hughes, Gwernllwyn, Dowlais, and he began his ministry in their midst on 11th June 1871, and his installation meeting was held on 10th & 11th July in that year.

Those at the forefront of the start of Rehoboth were Mr David Davies, the minister; Mr Samuel Stephens, a good man, and his name is respected in the place even now; and Mr John Hughes, Cilferi Isaf, a zealous man, a fine and conversant scripturist, and generous towards religion; amongst his benefactions can be seen the following sums, 50 towards building the chapel; 100 for building the minister's house, on condition that the church found the rest to finish; 100 towards building the British School, and before he died left 50 in his will to repair the chapel, which it is intended to do soon.

The following were raised to preach here; **

Biographical Notes **

DAVID DAVIES. ... born in 1776 in farmhouse called Garegwen in Trelech parish ... admitted at Capel y Graig, Trelech when 28 ... joined Capel Als, Llanelli where he started to preach ... married a daughter of Mr Abraham Powell, Lamphley, Pem,  in 1807 ... had 5 children who all died young, and his wife ... married again in 1818, to a daughter of Mr Griffith Rogers, Stackpoole, Pem, had another 5 children, 3 died young, left 2 daughters after him with their mother in an orphanage ... one was the mother of Mr Ll D Bevan, LlB. ... he was ordained at Mr Clement's chapel in 1825, but the chapel was lost (see above) ... went on to Rehoboth for last 2 years of his life - died in 1829 aged 53...

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

  CONTINUED

 


Return to top

[Gareth Hicks  4 Jan 2009]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

Valid HTML 4.01 Transitional


Hosted by Mythic Beasts Ltd.