Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

See main project page

Proof read by Deric John (April 2008)

Carmarthenshire section (Vol 3) - Pages 491 - 504

Chapels below;

 


Pages 491 - 504

 491

oedd yn eistedd ar y glaswellt yn codi ar eu traed - y rhai oedd yn nghyrau y dorf yn ymwasgu yn mlaen - y rhai oedd yn sisial a'u gilydd yn distewi. Mae yn adrodd hanesyn byr, cyffrous, yn nglyn a pharhad crefydd mewn teulu wrth egluro " corn Dafydd yn blaguro.' Mae yr hanesyn wedi taro yn dda, ond daeth yn rhy sydyn, a darfu yn rhy fuan. Mae yn hawdd deall ar y pregethwr ei fod yn disgwyl i'r chwedl a'i chymhwysiad wneyd yn well. Digon tebyg iddo ei gweled yn gwneyd yn well. Dyrcha ei lais yn uwch, a'i swn yn ddifrifolach wrth siarad am y gelynion yn cael eu gwisgo a chywilydd." Mae ei wefus isaf yn haner syrthio - ei lygaid yn gloywi ac yn disgleirio - estynai ei fraich ddehau allan a'i law yn agored yr hon a ysgydwai yn raddol i gynorthwyo cryniad y llais, a bloeddiai yn soniarus, ar bwynt uchaf ei lais, " Ei elynion ef a wisgaf a chywilydd." " Mae yn ysgwyd y gynnulleidfa am yr eiliad ; ac yn cynhyrchu effaith ddymunol ar y dorf i gyd, er nad yw y bobl sydd wedi ei glywed ar ei uchel-fanau yn timlo ei fod ef ei hun yno ; ac yr oedd yn amlwg i ninau nad oedd ar ei oreu, er ein bod yn teimlo fod yn rhaid mai un o feistri y gynnulleidfa yn unig a allasai wneyd y peth a wnaeth y prydnawn hwnw.

Clywsom ef wedi hyny ddegau o weithiau ar bob math o achlysuron -bychain a mawrion-mewn capeli mawrion, ac mewn tai anedd - ar esgynlawr y Gymanfa ac yn y capel bychan, yn yr oedfa ganol dydd, ar y ffordd tuag yno. Gwrandawsom ef yn pregethu pob math o bregethau athrawiaethol a dyledswyddol - yn erbyn pechodau yr oes - ac i ddiddanu yr eglwys - i ddihuno proffeswyr cysglyd - ac i argyhoeddi y byd annuwiol. Ei bregethau ymarferol fel rheol oedd y rhai rhagoraf. Dyna y rhai oedd yn cydweddu oreu a'i yspryd ef ei hun. Yr oedd y diwygiwr mor gryf yn ei galon fel y gosodai ei ddelw ar ei holl bregethau.

Un o'r troion mwyaf effeithiol y clywsom ef erioed ar achlysur pwysig oedd yn Nghymanfa Cendl yn 1849, pan oedd y geri marwol yn gwneyd dinystr ofnadwy yn y rhanau hyny o'r wlad. Ei destyn ydoedd, "O seirph, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gallwch ddiangc rhag barn uffern ?' Yr oedd yr amgylchiadau yn gwneyd llawer iawn tuag at gynorthwyo effeithiolaeth y bregeth - teimlai pawb fod angau yn edrych yn eu gwynebau - ac yr oedd yr annuwiolion mwyaf rhyfygus yn gweled "barn uffern" ar ddisgyn arnynt. Yr oedd y pregethwr wrth fyned tua'r Gymanfa trwy Ferthyr a Dowlais wedi gweled lluaws o gyrph meirw yn cael eu cario i'r bedd, ac oblegid hyny mewn teimladau cyffrous - fel, rhwng dwysder teimlad y llefarwr - dychryn a braw y gwrandawyr - a difrifwch y gwirioneddau a draddodai, yr oedd yr oedfa yn un i'w hir gofio. Pregethodd yn lled faith am uffern, a barn uffern, a'r anmhosibilrwydd i'r dyn sydd yn byw ac yn marw yn ei bechod i "ddiangc rhag barn uffern.' Yr oedd wedi gwasgu y gynnulleidfa i'r gongl - wedi eu cael i lawr, ac yn dal ar eu hanadl. Ond o'r diwedd, agorodd ddrws gobaith. Bloeddiai yn uchder ei lais clir, soniarus, ond wedi ei dyneru a'i ystwytho gan deimlad - "Mae modd diangc heddyw" - eto yn uwch, "MAE MODD DIANGC HEDDYW;" ac yn uwch drachefn y drydedd waith, "MAE MODD DIANGC HEDDYW." Gweithiai fel trydan drwy y dorf. Wylai miloedd mor naturiol a chawod o wlaw yn mis Mai - torai degau allan ar unwaith i waeddi; "Diolch" wrth weled fod modd diangc ; ac anhawdd genym feddwl na " ddengys y dydd hwnw" fod rhyw rai drwy yr oedfa hono wedi "diangc rhag barn uffern."

492

Ond y mae y llygaid gloyw wedi sefyll yn llonydd - mae y llais peraidd wedi crygu yn oerder afon angau - ac y mac y gwyneb y bu edrych arno yn sirioldeb i filoedd wedi newid, ac yntau wedi ei ddanfon i ffordd (sic).

Er iddo gychwyn ei fywyd dan amgylchiadau mwy ffafriol na'r cyffredin o'i gyfoedion, eto cafodd ran helaeth o ofidiau bywyd. Yn ei gysylltiad eglwysig, hwyrach na bu yr un dyn erioed am dymor cyhyd yn fwy hapus. Ond estynwyd ato er hyny lawer cwpanaid o ddyfroedd Mara. Trwy ei gysylltiadau teuluol tynwyd ef i mewn i anturiaethau masnachol, y rhai fuont aflwyddianus. Boddodd dau fachgen iddo yr un diwrnod, dau o'r bechgyn mwyaf cariadus fu yn eiddo tad erioed - cymerwyd ei wraig ymaith gan glefyd poeth ar adeg yr oedd ei iechyd f ei hun wedi ei anmharu yn fawr - a gwelodd farw ei unig ferch, gan adael ei baban amddifad a'i dad i alaru eu colled. Ac er i Ragluniaeth fod yn dyner iawn o hono, drwy ddarparu iddo ymgeledd gymhwys, a phob cyflawnder yn niwedd ei oes; eto ysigwyd ei gyfansoddiad cryf trwy yr ystormydd a'i cyfarfu. Bu yn gwaelu am y rhan fwyaf o'r ddwy flynedd olaf o'i oes; a phan ymwelsom ag ef yn mis Medi diweddaf, yr oedd yn ffarwelio heb obaith cael cyfarfod mwy ar y ddaear. Os bu yn hir yn gwersyllu ar lan yr afon yn disgwyl yr adeg i fyned trosodd, nid oedd un dyn yn ei oes allasai fforddio gwneyd hyny yn fwy esmwyth a thawel. Yr oedd wedi gweithio yn ei iechyd a'i nerth, fel nad oedd achos fod loes yn ei feddwl ei fod ef yn cael ei gadw yn gaeth, a'i waith heb ei wneyd. Mae ambell weithiwr wedi gweithio mor dda fel y mae y Meistr Mawr yn caniatau iddo orphwys tipyn yr ochr yma i'r afon, cyn myned i'r " orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw.' Cadwyd yntau am dipyn yn rhosydd Moab; ond boreu dydd Mercher, Mawrth 31ain, croesodd yr afon i dir y bywyd i dderbyn gwobr "y gwas da a ffyddlawn." Gwneled yr Arglwydd drugaredd a'i weddw, megis y gwnaeth hithau a'r marw. Bydded cysgod yr Hollalluog dros ei unig fab, a'i wyrion - ac na phalled i David Rees, Llanelli, mwy nag i Jonadab mab Rechab, " wr i sefyll ger bron Duw yn dragywydd."

 

SILOA, LLANELLI

Yn y flwyddyn 1840 penderfynodd Mr. Rees a'r eglwys yn Nghapel Als i adeiladu capel newydd yn nglan y mor, lle yr oedd o gylch chwech- ugain o'r aelodau yn byw. Pasiwyd trwy bleidlais reolaidd i wneyd hyny, ond ar nos Sabboth, Gorphenaf 19eg, 1840, mynwyd arwydd mwy sylweddol na chodiad llaw, trwy gasgliad at yr amcan, pryd y cafwyd 46p. 2s. 4c. Yna cymerwyd tir ac adeiladwyd addoldy yn mesur 40 troedfedd wrth 36 troedfedd. Ar y 14eg o Ionawr, 1841, aeth 116 o'r aelodau mwyaf cyfleus i'r capel newydd, iddo i ymffurfio yn eglwys, ac ychwanegwyd atynt y dydd hwnw un-ar-bymtheg o'r rhai nid oeddynt yn aelodau o'r blaen. Arwyddasant eu dymuniad am i Mr. Rees i gymeryd eu gofal. Costiodd y capel 651p., a galwyd ef Siloa. Cynhaliwyd cyfarfodydd yr agoriad Ebrill 26ain a'r 27ain, 1841. Cyn diwedd y flwyddyn hono, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Rees, Aberdar, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Mawrth 15fed, 1842, a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad y 26ain a'r 27ain o'r Gorphenaf canlynol. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Davies, Pantteg.  Rhoddodd Mr. D. Rees, Capel Als,

493

hanes byr o ddechreuad a chynydd yr achos, a hysbysodd mai i gydweinidogaethu ag ef y galwyd Mr. Rees, ond ei fod ef yn rhoddi i fyny yn hollol bob gofal gweinidogaethol, ac yna gweddiodd am fendith ar yr undeb. Pregethodd Mr. D. Jones, Gwynfe, ar ddyledswydd y gweinidog, a Mr. J. Evans, Crwys, ar ddyledswydd yr eglwys. Llafuriodd Mr. Rees yma gyda chysur a llwyddiant hyd nes y derbyniodd alwad o Carmel, Cendl. Traddododd ei bregeth ymadawol yma Mehefin 3ydd, 1849.

Cyn diwedd yr haf hwnw rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Davies, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Hydref 4ydd, 1849. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin. Holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Rees. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Powell, Cross Inn. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. J. Lewis, Henllan, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. J. Evans, Capel Seion. Bu Mr. Davies yma yn dderbyniol dros ddwy flynedd, ond yn y flwyddyn ddiweddaf y bu yma nid oedd pethau yn llawn mor gysurus. Ymadawodd yn y flwyddyn 1852, ac yn Lloegr y mae wedi bod yn gweinidogaethu er hyny. Mae yn awr yn Broomsgrove,(sic) swydd Worcester. Yn niwedd y flwyddyn 1853 rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Davies, Llansamlet, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Ionawr 22ain, 1854. Rhifedi aelodau yr eglwys ar sefydliad Mr. Davies oedd 194, ac yr oedd tua 100p. o ddyled yn aros ar yr addoldy. Dechreuodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fuan gynyddu yn raddol, ac yn mis Mawrth, 1855, penderfynwyd yn unfrydol i helaethu yr addoldy i 60 troedfedd wrth 40 dros y muriau ; costiodd 1100p', ac yn 1864, gorphenwyd talu y cwbl. Yn fuan wedi hyny gwnaed cyfnewiadau yn y capel a gostiodd tua 160p.; ac yn amser ffurfiad eglwys y Dock Newydd cymerodd eglwys Siloa 250p. o'r ddyled oedd yn aros ar y tai a berthynant i'r eglwys hono. Yn 1871 adiladwyd ysgoldy yn ymyl addoldy Siloa, yr hwn sydd yn cynwys lle i 300 o blant i eistedd, a chostiodd 400p. Yr oll o ddyled sydd yn aros yn bresenol yw 370p. Bu ychydig o groesdynu yn amser ymadawiad Mr. D. Davies; ond ag eithrio hyny y mae heddwch ac undeb perffaith wedi nodweddu holl weithrediadau yr eglwys hon o'r dechreuad. Aeth 74 o frodyr a chwiorydd allan o Siloa yn wirfoddol ac mewn heddwch yn amser ffurfiad eglwys y Dock Newydd ; a dilynwyd hwy gan weddiau a dymuniadau goreu y rhai a arosent ar ol. Nid oes dim tebyg i rwyg wedi bod yn eglwysi Annibynol Llanelli, er pan ddechreuodd Mr. Thomas, o Ffosyrefail, bregethu yma fwy na chan, mlynedd yn ol. Gofalodd diweddar Hybarch D. Rees, a'r bobl galonog a gydweithient, ag ef am eangu y terfynau yn ddigon cyflym fel na chai ysbryd cynen feddianu ran o'r maes; ac y mae arwyddion fod yr un ysbryd yn aros yn yr eglwysi. Mae Mr. Davies yn parhau i weinidogaethu yn Siloa, a'r achos yn ei holl ranau mewn gwedd iachus a siriol. Rhifedi aelodau yr eglwys yn bresenol yw 409:*

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

  • William R. Davies. Addysgwyd ef yn Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn weinidog yn Bethlehem, gerllaw Llandilo, lle yr erys eto.
  • John Morlais Jones. Dygwyd ef i fyny yn Athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Narberth, ac y mae yn awr yn Lewisham, gerllaw Llundain.
  • James Davies. Mae yn awr newydd ei dderbyn yn fyfyriwr i Athrofa Aberhonddu.

* Llythyr Mr. Davies, Llanelli.

Translation by Gareth Hicks (Nov 2008)

In the year 1840, Mr Rees and the church in Capel Als decided to build a new chapel near the sea, a place where about 120 members lived. They regularly passed a vote to do this, but on the night of Sunday July 19th 1840, had a more substantial pointer than raising a hand, through a collection for the purpose, when they received £46.2s.4d. Then they accepted land and built a temple measuring 40 feet by 36. On the 14th of January 1841, 116 of the members who were most convenient for the new chapel went there to form a church, and that day 16 others were added who weren't members before. They indicated their wish for Mr Rees to look after them. The chapel cost £651, and they called it Siloa. They held the opening ceremony on 26th & 27th of April 1841. Before the end of that year they gave a call to Mr Thomas Rees, Aberdar, and he started his ministry there on March 15th 1842, and his installation ceremony was held on 26 & 27th of the following July. Mr D Davies, Pantteg, preached on the Nature of a Church. Mr D Rees, Capel Als, gave a brief history of the start and progress of the cause, and announced that Mr Rees was called to co-minister with him, but that he was giving up all ministerial duties, and then prayed for a blessing on the union. Mr D Jones, Gwynfe, preached on the duties of the minister, and Mr J Evans, Crwys, on those of the church. Mr Rees laboured here warmly and successfully until he accepted a call from Carmel, Cendl. He delivered his leaving sermon  here on June 3rd 1849.

Before the end of that summer they gave an unanimous call to Mr David Davies, a student form Brecon College, and he was ordained on 4th October 1849. On that occasion Mr W Morgan, Carmarthen, preached on the Nature of a Church. Questions asked by Mr D Rees. Ordination prayer given by Mr R Powell, Cross Inn. Mr J Lewis, Henllan, preached on the duties of the minister, and Mr J Evans, Capel Seion, on those of the church. Mr Davies was here quite acceptably for over 2 years, but in his last year here things weren't quite as cosy. He left in 1852, and has been ministering in England ever since. He is now in Broomsgrove,(sic), Worcestershire. At the end of 1853 they called Mr Thomas Davies, Llansamlet, and he started his ministry here on January 22nd 1854. The number of members when Mr Davies was installed was 194, and there was about £100 of debt outstanding on the building. The church and congregation soon started to gradually increase, and in March 1855, they unanimously decided to enlarge the building to 60 feet by 40 across the walls; it cost £1100, and in 1864, finished paying it all. Soon after that they made changes in the chapel which cost about £160; and at the time that New Dock was formed, the church at Siloa took on £250 of the debt that was outstanding on the houses that belonged to that church. In 1871 they built a school house near Siloa chapel, which contains room for 300 children to sit, and it cost £400. The whole debt outstanding at present is £370. There was a bit of a wrangle at the time of Mr D Davies's departure; but apart from that peace and perfect solidarity has characterised all the proceedings of this church from the beginning. 74 of the brothers and sisters went from Siloa voluntarily and in peace when the church at New Dock was formed; and they were acccompanied by prayers and best wishes from those left behind. There has been nothing like a schism in the Independent churches of Llanelli, apart from when Mr Thomas, from Ffosyrefail, started to preach here more than 100 years ago. The late Venerable D Rees, and the spirited people who helped, oversaw matters, as he was for expanding the boundaries sufficiently quickly so not to have a contentious spirit  take over that section of the field; and there are signs that the same spirit is staying in the churches. Mr Davies continues to minister in Siloa, and the cause in all its parts has a healthy and cheerful countenance. The numbers of members currently is 409 *

The following people were raised to preach in this church;

  • William R Davies. Educated at Brecon College, ordained a minister at Bethlehem, near Llandilo, where he still is.
  • John Morlais Jones. Spent time at Brecon College. Ordained in Narberth, now in Lewisham, near London
  • James Davies. He is newly accepted as a student at Brecon College

 *Letter from Mr Davies, Llanelli

494 

BRYN, LLANELLI

Y mae addoldy y Bryn yn sefyll ar fryn hyfryd a dymunol, tua dwy filldir o dref Llanelli, yr ochr nesaf i Abertawy ; mewn cymydogaeth hynod boblog, a llawn o weithfaoedd glo ac alcam. Adeiladwyd y cysegr cyntaf yma trwy lafur ac ymdrechion diflino Mr. Rees, Capel Als ; rhoddwyd y gareg sylfaen i lawr Mehefin, 1841, ar dir y boneddwr caredig Mr. Llewelyn, Penlle'rgaer ; y mesuriad dros y muriau ydoedd 30 troedfedd wrth 30 troedfedd ; traul yr adeiladaeth ydoedd 241p. 14s. lc. Yn niwedd y flwyddyn hon sefydlwyd eglwys yma o 40 o aelodau Capel Als, ag oedd yn trigianu yn yr ardal hon ; cynhaliwyd cyfarfodydd yr agoriad Gorphenaf 26ain, 1842, pan y pregethwyd gan Meistri D. Jones, Merthyr; H. Davies, Bethania ; J. Evans, Capel Seion ; W. Williams, Llandilo ; D. Evans, Castellnedd ; J. Thomas, Bethlehem; a J. Ridge, Cendl ; yr oedd yma oedfaon da a gwlithog, a chasglwyd y Sabboth cyn yr agoriad, yn Nghapel Als, 33p.; yn Siloa, 15p. 12s. 7c.; ac yn y Bryn ar yr agoriad, 26p. 18s. 2c. Nid oedd oriel i'r addoldy y pryd hwn. Rhoddodd yr eglwys fechan a ieuangc hon alwad unol i Meistri D. a T. Rees i gydweinidogaethu iddynt ; ac felly y cydlafuriasant hyd y flwyddyn 1844 gyda graddau boddhaol o arwyddion fod yr anturiaeth grefyddol hon i droi allan yn llwyddianus a bod yn fendith barhaol ac anrhaethol yn y gymydogaeth. Ar yr 17eg o Orphenaf, 1844, neillduwyd Mr. Thomas Jones, genedigol o Raiadrwy (yn awr Wallter Road, Abertawy), yr hwn oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr gyda Mr. Roberts, Llanelli, i fugeilio yr eglwys yn y Bryn, yr hon oedd wedi cynyddu erbyn hyn i bedwarugain o aelodau. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. E. Watkins, Canaan ; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Rees, Capel Als ; gweddiodd Mr. J. Evans, Crwys ; rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. D. Davies, Pantteg ; ac i'r eglwys gan Mr. J. Evans, Capel Seion. Llafuriodd yma gyda derbyniad cyffredinol, yn nghyd a dilyn yr ysgol, am flwyddyn. Derbyniodd alwad unfrydol oddiwrth eglwysi Tabor a Hermon, a sefydlwyd ef yno ar y 19eg o Awst, 1845. Drachefn dychwelodd gofal yr eglwys, trwy alwad unfrydol, i Meistriaid D. a T. Rees, a chynorthwywyd hwynt gan y dynion ieuaingc oedd yn yr Athrofa oedd yn Llanelli. Ar y 24ain o Orphenaf, 1846, neillduwyd Mr. J. Rees, un o'r myfyrwyr (yn awr Rodborough), genedigol o ardal Horeb, swydd Aberteifi, i fugeilio eglwys y Bryn. Pregethodd Mr. J. Lewis, Henllan, ar Natur Eglwys; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Rees ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Jones, Cydweli ; rhoddwyd siars i'r gweinidog ieuangc gan Mr. P. Grifflths, Alltwen; ac i'r eglwys gan Mr. E. Jones, Crugybar. Wedi i Mr. Rees lafurio yma gyda llwyddiant a chymeradwyaeth cyffredinol am tua blwyddyn a haner, ymadawodd i Carmel, Llanguwg, a sefydlwyd ef yno ar yr 2il a'r 3ydd o Chwefror, 1848. Yn wyneb yr ymadawiadau hyn yr oedd cyfeillion y Bryn yn ymgysuro yn y moes a dalai eglwysi eraill i'w chwaeth grefyddol, canys cyn gynted ag yr ordeinid yn y Bryn, yr oedd eglwysi gweigion a'u llygaid yn uniongyrchol ar eu gweinidog hwy ; a bu hyn yn brofedigaeth i un o'r hen frodyr ddywedyd, " ei fod ef yn cyfrif eglwys y Bryn fel math o goleg i godi gweinidogion i eglwysi gweigion y gymydogaeth." Ar ol y symudiad hwn eto bu raid i Meistri D. a T. Rees gymeryd gofal yr eglwys drachefn, a chynorthwywyd hwy gan y myfyrwyr ieuaingc, hyd

495

oni chafwyd gweinidog y drydedd waith; ac yn Hydref, 1849, neillduwyd Mr. W. Williams, myfyriwr, genedigol o Clydach, Morganwg, i'r weinidogaeth yma. Traddodwyd yr araeth arweiniol gan Mr. E. Jones, Crugybar ; holodd Mr. D. Rees y gofyniadau ; gweddiodd Mr. D. Evans, Nazareth ; rhoddwyd siars i'r gweinidog ieuangc gan Mr. T. Thomas, Clydach (yn awr Glandwr); ac i'r eglwys gan Mr. J. Williams, Llangadog. Yr oedd y cyfarfod hwn hefyd yn ail-agoriad ar yr addoldy ar ol gosod ynddo oriel hardd, a gwneyd llawer o welliadau eraill, y rhai yn nghyd a gostiodd yn agos iawn i 100p. Ar y pryd hwn yr oedd yr eglwys wedi cynyddu i 150 o aelodau, a'r Ysgol Sabbothol yn hynod luosog a llewyrchus. Nid oedd Mr. Williams ond un gwanaidd iawn o iechyd corfforol, er hyny yr oedd yn ddiwyd, ffyddlon, a hynod lwyddianus i enill cynnulleidfa ; yr oedd yn feddyliwr tlws, yn draddodwr melus, a'i weinidogaeth fel "gwlith-wlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt.' Ond nid hir y bu cyn fod ei gyfansoddiad yn gwanychu, a'i analluogi yn aml i gyflawni ei weinidogaeth. Byddai yn cael ei gynorthwyo yn fynych gan y myfyrwyr ieuaingc, gweinidogion Llanelli, a gweinidogion cymydogaethol; a theimlai yr eglwys yn ddwys am dano, a gweddient lawr drosto, er hyny " amser ei ymddatodiad a nesaodd," a bu raid iddo roddi ei " dabernacl hwn heibio,' Hydref 11eg, 1852, yn 28 oed. Claddwyd ef yn barchus yn ymyl y capel, a chyfodwyd beddfaen hardd gan yr eglwys ar ei fedd yn goffadwriaeth am dano.

Ar ol hyn daeth y gofal gweinidogaethol ar Mr. D. Rees drachefn, hyd oni roddwyd galwad unfrydol a gwresog i Mr. J. Thomas, Capelygraig, Rhymni, yn mis Ebrill, 1854. Ac ar y 25ain o Mehefin dechreuodd Mr. Thomas ei weinidogaeth yn y Bryn. Y pryd hwnw nid oedd yr eglwys ond 128 o aelodau ; yr Ysgol Sabbothol heb fod yn llewyrchus iawn ; y capel yn lled wael, ac arno yn agos i 80p. o ddyled ; ond deffrowyd, ymdrechwyd, a thalwyd y ddyled hon yn mhen naw mis. Yn fuan iawn cynyddodd yr Ysgol Sabbothol, a daeth y gynnulleidfa rhagddi mewn rhifedi, hyd nes y meddyliwyd, y teimlwyd, y siaradwyd, ac y penderfynwyd fod yn rhaid helaethu yr addoldy. Nid oedd yn meddiant yr eglwys y pryd hwn ond ychydig o dir at eu gwasanaeth fel mynwent ; gan hyny, penderfynwyd i ofyn am gael ychwaneg gyda myned i ail-adeiladu, a llwyddwyd i gael erw a haner gan foneddwr caredig am 3p. o ardreth y flwyddyn, ar les am 99 o flynyddau. Yn mis Ebrill, 1856, dechreuwyd tynu yr hen gapel i lawr; a thynwyd ef i lawer(sic) i'w sylfaeni ; ac yn fuan dechreuwyd adeiladu y newydd, yr hwn a fesura dros y muriau 60 troedfedd wrth 40 troedfedd. Y mae yn adeilad hardd a chyfleus, ac oriel o'i amgylch yn grwn, ac iddo vestry gyfleus i gynal yr oedfaon wythnosol ; ar y cyfan y mae yn un o'r capelau goreu, heb fod yn addurniadol. Cynhaliwyd cyfarfodydd yr agoriad Awst 3ydd, 4ydd, a'r 5ed, 1857, pryd y gweddiwyd ac y pregethwyd gan y gweinidogion canlynol :- Meistri W. Humphreys, Cadle ; W. Jenkins, Brynmawr ; S. Thomas, Trefdraeth ; H. Grattan Guiness, New College, Llundain ; J. Joseph, Llanedi ; J. Daniel, Mynyddbach ; J. Ll. Jones, Tyddewi ; J. Thomas, Glynnedd ; D. Evans, Nazareth; J. Davies, Gideon ; J. Griffiths, Llanwrtyd ; W. Morgan, Caerfyrddin ; D. Jones, Bethlehem (yn awr Gomer, Ohio), J. Davies, Cwmamman; T. Davies, Llandilo ; a J. Evans, Capel Seion. Cafwyd yma oedfaon gwlithog, a chynnulleidfaoedd lluosog ; a phrofion lled galonog i'r rhai mwyaf pryderus nad ydoedd yr anturiaeth

496

yn ormod i ffyddloniaid Seion, gyda bendith yr hwn sydd wedi addaw bod gyda'i bobl bob amser hyd ddiwedd y byd. Yr oedd yr adeilad newydd yn werth 1,060p., heblaw gwerth yr hen addoldy, yr hyn a gyfrifwyd yn werth tua 250p. Casglwyd ar yr agoriad 313p. 15s. 6c. Casglwyd gan blant ieuangaf yr Ysgol Sabbothol mewn tair wythnos 10p. 15s. 5 1/2c. at yr areithfa ; ac ymroddwyd i gasglu yn mhob dull, fel y credodd pawb na byddai y ddyled yn hir heb ei llwyr dalu.

Yn y flwyddyn 1861 yr oedd yr eglwys mor galonog, ac mor unol a charedig, fel y penderfynwyd adeiladu ty hardd a hynod gyfleus i'r gweinidog ar y rhan bellaf o'r tir perthynol i'r addoldy, ac yno y mae Mr. Thomas a'i deulu yn preswylio er 1862 - yn un o'r manau mwyaf swynol am olygfeydd a iachusrwydd trwy yr holl wlad. Costiodd Brynffynon i'r eglwys, heblaw'r cludiad, 215p. Drachefn, yn y flwyddyn 1863 prynwyd tir yn lled agos i'r capel, nid ar yr un darn, ac adeiladwyd ysgoldy hardd i gynal Ysgol Frytanaidd . yr oedd hwn yn werth 340p , heblaw llawer o gludiad a llafurwaith arall. Y mae yma ysgol lewyrchus, yn cynhwys tua 90 o blant ar gyfartaledd - o dan arolygiaeth Mr. J. Williams, a ddygwyd i fyny yn y Boro' Road, Llundain. Nid ydyw yr eglwys wedi gorphwys yn y fan yna etto; yn y flwyddyn 1871 adeiladwyd capel bychan i gadw Ysgol Sabbothol, a chynal cyfarfod gweddi yn yr wythnos. Mesuriad hwn dros v muriau ydyw 36 troedfedd wrfh 21 troedfedd. Y mae tua milldir o'r Bryn, ar ochr y ffordd i Abertawy, mewn pentref cyflym gynyddol. Gelwir ef Berea. Y mae yno tua 110 neu 120 yn yr Ysgol Sabbothol; a phob peth yn dwyn prawfion may cam yn yr iawn gyfeiriad ydoedd hwn etto. Costiodd yr adilad hwn 120p. Y mae Mr. Thomas yn awr wedi dechreu ar ei ugeinfed flwyddyn er Mehefin 25ain, 1873, yn ei lafur gweinidogaethol yn y Bryn, ac wedi bod yn hynod ddedwydd trwy y blynyddau, a'r Arglwydd wedi bendithio ei lafur ef a'r eglwys i wneuthur llawer o ddaioni ; a'u goleuni yn llewyrchu yn ddisglaer yn mlith dynion yr ardal. Y mae'r eglwys erbyn hyn yn 340 o aelodau ; a'r Ysgol Sabbothol yn y Bryn a Berea yn 400 ; a'r gynnulleidfa yn parhau yn ffyddlon a chynyddol ; ac er fod y treuliadau am y gwahanol adeiladau wedi cyrhaedd y cyfanswm o 1,738p. nid ydyw yr holl ddyled arosol yn bresenol and 290p. " Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen.'

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :

  • John Daniel, Mynyddbach. Dechreuodd bregethu yn y Bryn Yn y flwyddyn 1851. Aeth i America ac urddwyd ef yn Nhalaeth Illinois. Bu yno yn gymeradwy am rai blynyddau. Dychwelodd i roi tro am ei berthynasau, and cyn myned yn ol derbyniodd alwad gan hen eglwys barchus Mynyddbach, ger Ahertawy, lle y mae yn aros hyd y dydd hwn mewn parch a chymeradwyaeth cyffredinol.
  • John H. Williams, Llaniestyn, Sir Caernarfon. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1863 ; ac wedi bod bedair blynedd yn Athrofa Caerfyrddrn urddwyd ef yn Llaniestyn, Ceidio, a Thydweiliog, lle y mae yn llwyddianus a pharchus.
  • John Bowen. Dechreuodd bregethu yr un noson a J. H. Williams. Wedi bod am flwyddyn yn ysgol ramadegol Llanelli derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu ; ac yn mhen tua chwe' mis bu farw yn ei wely, yn hollol ddisymwyth ac annisgwyliadwy o gleddyf(sic) y galon, Mawrth

 497

  • ............3ydd, 1865, yn 22 oed. Yr oedd yn ddyn iuangc gobeithiol iawn, ac yn hynod boblogaidd yn ei ddoniau llafar.
  • John Bevan, Ysgolfistr. Wedi bod am ddwy flynedd yn Ysgol Normalaidd Bangor gwahoddwyd ef i gadw yr ysgol Frytanaidd yn Llansadwrn, ac yno y mae hyd heddyw, er's mwy na deg o flynyddau, ac mewn parch neillduol.
  • William Davies. Dyn ieuangc amddifad. Wedi bod am bum' mlynedd yn pupil teacher yn ysgol Frytanaidd y Bryn aeth i Rhymni yn assistant teacher, ac oddi yno i Northumberland ; ond cyn bod yno ddwy flynedd aeth yn glaf, dychwelodd adref, a bu farw o'r darfodedigaeth yn Mehefin, 1870, yn 23 oed.*

Translation by Maureen Saycell (March 2009)

Bryn stands on a pleasant hill about 2 miles from Llanelli town, on the Swansea side, in an area that is highly populated because of the coalmines and Alcan works. The first building here was built due to the work and efforts of Mr Rees, Capel Als. The foundation stone was laid in June, 1841, on land owned by Mr Llewelyn, Penlle'rgaer. It measured 30 x 30 feet and the cost of building was £241/14/1.At the end of that year a church of 40 members, from Capel Als and who lived in the area, was established here. The inaugural services were held on July 26th, 1842 when sermons were given by Messrs D. Jones, Merthyr; H. Davies, Bethania ; J. Evans, Capel Seion ; W. Williams, Llandilo ; D. Evans, Castellnedd ; J. Thomas, Bethlehem; and J. Ridge, Cendl ; there were some good and tearful services, on the Sunday before £33 was collected at Capel Als, £15/12/7 at Siloa, and at the opening of Bryn £26/18/2. There was no gallery at this time. This small young church gave a combined call to Messrs D and T Rees to be co-ministers, they worked together until 1844 with a degree of success and signs that this religious enterprise looked set to be a blessing to the area. On the 17th of July, 1844, Mr Thomas Jones of Rhayader originally, now of Wallter Road, Swansea and under instruction of Mr Roberts, Llanelli was chosen to care for the Bryn, which by now had 80 members. At his ordination a sermon on the nature of a church by Mr. E. Watkins, Canaan ; questions asked by Mr. D. Rees, Capel Als ; a prayer offered by Mr. J. Evans, Crwys ; a challenge to the minister by Mr. D. Davies, Pantteg ; and to the church from Mr. J. Evans, Capel Seion. He worked here with general approval as well as attending school for a year. He received a united call from Tabor and Hermon, and he was settlerd there on 19th of August, 1845. Once again Messrs D and T Rees were called and they were supported by the students of Llanelli College. On the 24th of July,1846,Mr J Rees, a student, now of Rodborough, originally from Horeb, Cardiganshire, was chosen to care for Bryn. Mr. J. Lewis, Henllan, preached on the nature of a church;  questions were asked by Mr. D. Rees; the ordination prayer was offered by Mr. D. Jones, Cydweli ; the young minister was challenged by Mr. P. Grifflths, Alltwen; and a sermon to the church from Mr. E. Jones, Crugybar. After Mr Rees had worked here with success and general acceptance for about a year and a half he left for Carmel, Llangiwg, where he settled there on the 2nd and 3rd of February, 1848. The only comfort that the members had in the face of all these departures was the respect for their religious stature that other churches had for them, no sooner ordained at Bryn than other empty churches cast their eye directly to their minister, this prompted one of the older brothers to say that "he counted the church at Bryn as a kind of local College to get ministers for the empty churches of the neighbourhood". After this departure again Messrs D and T Rees had to step in, supported as before until a third young minister was chosen in October 1849. Mr W Williams, originally from Clydach, Glamorgan. The opening speech was given by  Mr. E. Jones, Crugybar; Mr. D. Rees asked the questions; a prayer from Mr. D. Evans, Nazareth ; the young minister was challenged by Mr. T. Thomas, Clydach (now Glandwr); Mr. J. Williams, Llangadog, preached to the church. The re-opening of the chapel was celebrated at the same time, having had a gallery installed and other improvements costing almost £100. By now there were 150 members, with a large successful Sunday school. Mr Williams was not a robust man, but was industrious, faithful and successful at winning over a congregation. His constitution weakened and prevented him from fulfilling his ministry, he was frequently helped by the young students, Llanelli's ministers and neighbouring ministers. He died on October 11th, 1852, age 28. he was buried near the chapel and a memorial stone erected.

Mr D Rees stepped in again until an united call was sent to Mr J Thomas, Capel y Graig, Rhymney in April 1854. He began his ministry on the 25th of June, there were only 128 members then and the Sunday school failing, the chapel was also in debt for £80, but the chapel improved and the debt cleared within 9 months. The Sunday school improved and the congregation grew to a point that it was decided to extend the chapel. There was only a small amount of ground with the chapel for burials and a kind gentleman allowed them an acre and a half for £3 per year to rebuild on, for 99 years. In April 1856 the old chapel was demolished to its foundations, soon a new chapel was started with its walls measuring 60 x 40 feet. It was a handsome building with a gallery all round, a convenient vestry to hold weekly meetings. The opening services were held on August 3rd, 4th and 5th, 1857, when the following ministers took part : Messrs  W. Humphreys, Cadle ; W. Jenkins, Brynmawr ; S. Thomas, Trefdraeth ; H. Grattan Guiness, New College, London ; J. Joseph, Llanedi ; J. Daniel, Mynyddbach ; J. Ll. Jones, St Davids ; J. Thomas, Glynnedd ; D. Evans, Nazareth; J. Davies, Gideon ; J. Griffiths, Llanwrtyd ; W. Morgan, Carmarthen ; D. Jones, Bethlehem (now Gomer, Ohio), J. Davies, Cwmamman; T. Davies, Llandilo ; and J. Evans, Capel Seion. Many moving services were had, and the doubts were laid aside. The new chapel was worth £1,060, beside the value of the old chapel, thought to be £250. Collections at the opening were £313/15/6. The youngest of the Sunday school collected £10/15/5 towards a pulpit, and all means were used to collect so that the people believed that they would not be in debt for long.

In 1861 the church was in good shape and united, it was decided to build a house for the minister on the furthest part of the land, Mr Thomas and his family have lived in it since 1862. Brynffynnon cost the church £215, excluding carriage. Later in 1863 another piece of land was acquired a short distance away and a schoolhouse was built on it to open a Brittanic School, cost £340, excluding carriage and labour. There is now a flourishing school of 90 children, under the care of Mr J Williams, originally from Boro' Road, London. The church is not finished yet, in 1871 a small chapel was built to keep Sunday Schools and prayer meetings during the week. It measured 36 x 21 feet, it stands about 1 mile away from Bryn on the way to Swansea. It was named Berea. There are some 110 to 120 in the Sunday school, proving this to have been a good step. This building cost £120. Mr Thomas has now started his 20th year, having been very content. There are now 340 members, with 400 in the Sunday Schools in Bryn and Berea. Despite all the outlay of £1,738 there only remains £290.

The following were raised to preach here *:

  • JOHN DANIEL -  Mynyddbach. began to preach at Bryn in 1851. Ordained in Illinois, America. Came home for a visit and during that time got and accepted a call to Mynyddbach, near Swansea, where he remains.
  • JOHN H WILLIAMS - Llaniestyn,Caernarfonshire. Began to preach in 1863 ; after 4 years at Carmarthen College was ordained to Llaniestyn, Ceidio, a Thydweiliog,where he remains.
  • JOHN BOWEN - began to preach same night as Mr Williams. Educated Llanelli Grammar School, then Brecon College, died suddenly of heart disease on March 3rd, 1865, age 22.
  • JOHN BEVAN - Schoolmaster. After 2 years at Normal College Bangor, invited to keep the Brittanic School at Llansadwrn, still there 10 years on with great respect.
  • WILLIAM DAVIES - Young orphaned man, pupil teacher at the Brittanic School at Bryn, went to Rhymney as an assistant teacher, then to Northumberland ; after 2 years caught Tuberculosis and died in June, 1870, age 23.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

DOCK, LLANELLI

Yn y flwyddyn 1855 y dechreuodd yr achos yma pryd yr ymunodd nifer o aelodau Siloa oeddynt yn preswylio yn yr ardal, i gynal Ysgol Sabbothol yn nhy Mr. William Williams. Tua'r un adeg dechreuodd Mr. T. Davies, eu gweinidog, bregethu yn achlysurol ar nosweithiau o'r wythnos mewn gwahanol anedd-dai yn yr ardal. Darfu i'r llwyddiant cydfynedol a'r ymdrechion hyn galonogi'r cyfeillion i'r fath raddau fel yn 1858 y penderfynasant adeiladu ysgoldy gwerth 450p. Bu yr ysgoldy hwn o wasanaeth mawr i gynal ysgol Frytanaidd ddyddiol ynddo am rai blynyddau yn gystal a'r un Sabbothol. Parhai y bregeth wythnosol gan Mr. T. Davies yn gyson drachefn yn yr ysgoldy. Mawrth 17eg, 1867 - sef yn mhen deuddeng mlynedd wedi'r cychwyniad cyntaf - mewn pwyllgor o dan lywyddiaeth Mr. D. Rees, Capel Als, pan oedd Mr. T. Davies, Siloa, a lluaws o gyfeillion yn bresenol, ystyriwyd y priodoldeb o ffurfio eglwys yn y lle. Yr oedd 450p. yr ysgoldy yn aros hyd yma heb eu talu, ond darfu i Mr. Rees yn enw Capel Als, a Mr. Davies yn enw Siloa, fyned yn gyfrifol am 225p. yr un ; felly galluogwyd yr eglwys i ddechreu ei byd nid yn unig yn ddiddyled ond gydag eiddo gwerth 450p. yn ei meddiant. Ffurfiwyd yr eglwys Ebrill 7fed, 1867, gan Mri. Rees a Davies. Daeth 76 a'u llythyrau gollyngdod o Siloa, a 17 o Gapel Als. Yn fuan wedi hyn penderfynwyd adeiladu capel. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr Awst 24ain, 1867, gan Mrs. Rees, Capel Als. Y cynllunydd ydoedd Mr. Humphreys, Treforis ; eistedda ynddo tua 700, a chostiodd yr oll dros 1500p. Ystyrir ef yn gapel anghyffredin o hardd, cyfleus, a rhad. Medi, 1867, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. T. P. Evans, o Athrofa Caerfyrddin; i gymeryd eu gofal gweinidogaethol. Urddwyd Mr. Evans, ac agorwyd y capel yn yr un dyddiau, Hydref 4ydd, 5ed, a'r 6ed, 1868. Pregethwyd yn y cyfarfodydd hyn gan Meistri T. Davies, Llandilo ; W. Caledfryn Williams, Groeswen ; Dr. Rees, Abertawe, ar Natur Eglwys ; Proffeswr Morgan, Caerfyrddin, i'r gweinidog ; B. Thomas, Gurnos, i'r eglwys ; a D. C. Jones, Abergwyli. Ebrill, 1870, ymadawodd Mr. Evans i gymeryd gofal yr eglwys Annibynol yn Ceinewydd. Yn ystod ei winidogaeth yn y lle ychwanegwyd lluaws mawr at yr eglwys. Tachwedd 24ain, 1870, rhoddwyd galwad i Mr. David Lewis, Brynmenyn, a'r hon y cydsyniodd, a dechreuodd ar ei weinidogaeth Ionawr 29ain, 1871. Yn ei sefydliad

* Cawsom yr hanes cyflawn uchod oddiwrth Mr. Thomas, Bryn, ac yr ydym yn ei gyhoeddi agos yn gwbl fel y derbyniasom ef.  

498  

Chwefror 20fed a'r 21ain, 1871, pregethwyd gan Meistri J. Davies, Caerdydd, ar Natur Eglwys ; J. B. Jones, B.A., Penybontarogwy, i'r gweinidog ; T. P. Evans, Ceinewydd, i'r eglwys ; W. E. Jones, Treforis ; T. Davies, Llandilo ; a Dr. Rees, Abertawy, i'r gynnulleidfa yn gyffredinol. Y mae yr eglwys hon ar hyn o bryd mewn agwedd hynod obeithiol, rhifa ei haelodau tua 190, ac y mae y ddyled yn cyflym ddiflanu. Teimla golled fawr yn ngwyneb marwolaeth Mr. Lewis Davies, un o'i diaconiaid a'i chychwynwyr ; yr oedd ef yn un nodedig am ei ffyddlondeb gyda holl wasanaeth y lle. Perchid ac anwylid ef yn fawr gan bawb ; yr oedd y capel a'r eglwys yn un o'r pethau agosaf at ei galon.*

Translation by Gareth Hicks (Nov 2008)

The cause here started in 1855 when a number of members from Siloa, who lived in the area, joined here to hold a Sunday School in the house of Mr William Williams. About the same time Mr T Davies, their minister, began to occasionally preach on weekday evenings in different houses in the district. The lessening of this concurrent success and effort encouraged the friends to the sort of extent that in 1858 they decided to build a school house costing £450. This schoolhouse was of great service in holding a  British day school as good as the Sunday school in for some years The weekly preaching by Mr T Davies continued regularly in the schoolhouse. (On) March 17th 1867 - that is at the end of 10 years after it first started - in a committee under the chairmanship of Mr D Rees, Capel Als, when Mr T Davies, Siloa, with a crowd of friends were present, deliberated the desirability of forming a church in the place. The £450 for the schoolhouse remained outstanding, but Mr Rees in the name of Capel Als, and Mr Davies in the name of Soloa, made themselves responsible for £225 each; thus enabling the church to begin its life not only fully-paid but owning property worth £450. The church was formed on April 7th 1867, by Messrs Rees and Davies. 76 came with their release letters from Siloa, and 17 from Capel Als. Soon after that they decided to build a chapel. The foundation stone was laid down by Mrs Rees, Capel Als. on 24th August 1867. The designer was Mr Humphreys, Morriston; it could seat about 700, and the whole thing cost over £1500. It was considered an extraordinary beautiful chapel, convenient and inexpensive. In September 1867 they gave an unanimous call to Mr T P Evans, from Carmarthen College; to take over their ministry. Mr Evans was ordained, and the chapel opened on the same days, October 4th, 5th & 6th, 1868. The preaching at this meeting was by Messrs T Davies, Llandilo; W Caledfryn Williams, Croeswen; Dr Rees, Swansea - on the Nature of a church; Professor Morgan, Carmarthen to the minister; B Thomas, Gurnos, to the church; and D C Jones, Abergwyli.  In April 1870 Mr Evans left to take over the care of the Independent church in Newquay. In the time of his ministry in the place the membership increased greatly. On November 24th 1870, they gave a call to Mr David Lewis, Brynmenyn, to which he agreed, and he started his ministry on January 29th 1871. At his installation on February 20th & 21st 1871, the preaching was by Messrs J Davies, Cardiff, on the Nature of a church;  J B Jones, BA, Bridgend to the minister; T P Evans, Newquay, to the church; W E Jones, Morriston; T Davies, Llandilo; and Dr Rees, Swansea, to the general congregation. This church is at the present time in a notably hopeful state, the number of members about 190, and the debt fast disappearing. It suffered a great loss faced with the death of Mr Lewis Davies, one of the deacons and founders; he was notable for loyalty to everything about the place. He was greatly admired and cherished by all; the chapel and church was one of the things closest to his heart.

 

PARK CHAPEL, LLANELLI

Yr ydym eisioes wedi cyfeirio at gychwyniad yr achos Seisnig yn y dref hon yn nglyn a hanes Capel Als. Wedi i Mr. Rees bregethu Saesneg am dri o'r gloch bob Sabboth am flynyddoedd, penderfynwyd adeiladu capel i'r Saeson. Cafwyd tir i'r perwyl yn Park Street, a chyfodwyd arno gapel tlws a chyfleus. Agorwyd ef Mehefin 2il, 1839. Aeth yr holl draul yn 750p. Ar y 7fed o Orphenaf ffurfiwyd eglwys yn y capel newydd gan Mr. Rees, o bedwar-ar-hugain o aelodau a ollyngwyd trwy lythyrau o Gapel Als, a thri arall a unodd a hwy ar y pryd.; ac ychwanegwyd eraill yn fuan atynt. Rhoddwyd galwad i Mr. James James (Iago Emlyn), o Bristol, ond a fuasai am dymor dan addysg yn Nghaerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 4ydd, 1841. Wedi llafurio yma am ddwy flynedd, ymadawodd Mr. James i Portishead, gerllaw Bristol. Yn fuan wedi ei ymadawiad rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Roberts, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Medi 27ain, 1843. Yn mhen tair blynedd wedi sefydliad Mr. Roberts yma bu raid helaethu y capel trwy draul o 300p. Parhaodd Mr. Roberts i lafurio yma hyd y flwyddyn 1851, pryd y symudodd i Loegr. Ar ol hyny bu Meistri Richard Hancock, R. Perkins, a John James yn olynol yn gweinidogaethu yma ; ac o fewn rhyw ddwy flynedd yn ol rhoddwyd galwad i Mr. J. H. Lochore, Casnewydd, i ddyfod i weinidogaethu i'r lle, ac efe yw y gweinidog presenol.

Ar ol i'r eglwys hon babellu gyda llwyddiant helaeth am chwe'-mlynedd-ar-hugain yn nghapel Park Street, disgynodd arni ysbryd adeiladu addoldy ardderchocach a helaethach. Cymerwyd darn o dir mewn lle cyfleus a chanolog yn Murray Street. Mabwysiadwyd cynllun y Meistri Lander a Bedells, Llundain. Rhoddwyd y gareg goffadwriaethol yn y mur gan John Crossley, Ysw., Halifax, Gorphenaf 26ain, 1864. Mae yn adeilad ardderchog, yn yr arddull a elwir "early decorated,' ac yn werth erbyn gorphen pob peth ryw 2200p. Mesura capel y tufewn i'r muriau 58 troedfedd wrth 38 troedfedd heblaw y cynteddau (lobbies) yn y wyneb a lle i'r organ yn y cefn. Nifer yr eisteddleoedd ar y llawr i bobl mewn oed yw 366, a 100 ar yr oriel yn y talcen, heblaw lle i 60 o blant ; cyfanswm yr eisteddleoedd felly yw 526, gyda lle i roddi orielau yn yr ochrau i  gynwys rhyw 150 eto. Mae ystafell eang odditan y capel yn mesur 44 troedfedd wrth 38 troedfedd, lle y cynhedir Ysgol Sabbothol y plant, gyda class-room i'r plant lleiaf, ystafell i'r diaconiaid i gydymgynghori, ac un oddiarni i'r gweinidog. I goroni y cwbl mae i'r adeilad yn y front uwch

* Llythyr Mr. D. Lewis.

499

ben y brif fynedfa dwr pigfain yn 104 troedfedd o uwchder. Pan soniodd rhai o gyfeillion Park Street wrth Mr. Rees, Capel Als, fod yn rhaid cael spire i'r capel newydd, dadleuodd yn dyn yn eu herbyn fel peth rhy eglwysyddol i'w rhoi mewn cysylltiad a chapel Ymneillduol, ond pan ddeallodd nad oedd dim argyhoeddi ar y cyfeillion, dywedodd yn lled swrth ond gyda gwen yn tori dros ei wyneb yr un pryd, " Wel os rhaid i chwi gael spire, cofiwch ei chodi yn ddigon uwch na dim sydd yn Llanelli, ac yna yr wyf yn foddlon," ac felly y bu. Gyda llaw mae yr hanesyn yn ddangoseg tra chywir o Mr. Rees yn mhob gwaith a gymerai mewn llaw. Ni foddloni heb fod ar y blaen gyda phob peth. Cynaliwyd cyfarfodydd agoriad capel newydd y Park ar nos Wener a dydd Sabboth Hydref 20fed a'r 22ain, 1865, pryd y gweinyddwyd gan yr enwogion Thomas Binney, Llundain, a James Parsons, York, ac eraill. Mae y rhan fwyaf o'r ddyled erbyn hyn wedi ei thalu, a'r capel yn mhob ystyr yn deilwng o Annibyniaeth yn y lle. Dywedodd Mr. Rees dair blynedd-ar-hugain yn ol am yr achos Seisnig fel y canlyn: - "Mae y gynnulleidfa hon yn debyg o fod yn ddylanwadol a phwysig yn y dref, ac yn ddefnyddiol iawn dros grefydd yn gyffredinol," ac y mae yr agwedd sydd ar yr achos Seisnig yn awr o dan weinidogaeth Mr. J. H. Lochore yn dangos fod y broffwydoliaeth yn gywir.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

  • Thomas Toke Lynch. Ganwyd ef yn Great Dunmow, Essex, Gorphenaf 5ed, 1818. Daeth i Lanelli pan yn fachgen, ac unodd a'r achos Seisnig yma. Ychydig feddyliodd pobl Llanelli y byddai i " Tom Lynch' fel y gelwid ef, gyrhaedd y fath enwogrwydd; ac nid rhyw syniadau uchel iawn oedd gan Mr. Rees am dano ; ond gan fod angen rhyw un i'w gynnorthwyo anogodd ef i bregethu, a bu yma am yspaid. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Highgate, yn y flwyddyn 1848, ac oddiyno symudodd i Fitzroy Square, ac oddiyno drachefn i Mornington Chapel, Hampstead Road, Llundain, lle y pregethodd i gynnulleidfa fechan a deallgar, yr hon a werthfawrogai ei dalent a'i athrylith. Parodd y "Rivulet' a gyhoeddwyd ganddo flynyddoedd yn ol gyffroad mawr, a bu agos i'r ddadl yn gylch rwygo yr Undeb Cynnulleidfaol. Yr oeddd yn ddiamheu yn ddyn o athrylith, yn fardd ac athronydd, ond dichon i'r cyhuddiadau a ddygwyd yn eu erbyn nag oedd yn uniongred wneyd llawn cymaint a dim arall dros ei boblogrwydd. Nid oedd ond dyn o gyfansoddiad gwan, a bu yn hir yn dihoeni rhwng bywyd ac angau, hyd nes y rhyddhawyd  o'i holl ddyoddefiadau. Claddwyd ef yn Abney Park Cemetery, Mai 17eg, 1871.
  • Llewelyn D. Bevan, Ll.B. Addysgwyd ef yn New College. Urddwyd ef yn Weigh House Chapel yn gydweinidog a'r Hybarch Thomas Binney; ac mae yn awr yn weinidog yn nghapel Tottenham Court Road, Llundain.
  • David Williams. Mae yn awr yn athraw yn y sefydliad i ddysgu athrawesau sydd newydd ei gychwyn yn Abertawy.

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

 We have already referred to the start of the English cause in this town in the history of Capel Als. After Mr Rees had preached in English at 3 o'clock every Sunday for years, they decided to build a chapel for the English. They obtained land for this purpose in Park Street, and raised on it a pretty and convenient chapel. It opened on 2nd June, 1839. The total cost was £750. On the 7th July Mr Rees formed a church in the new chapel, with 24 members being released by letters from Capel Als, and 3 others who joined them on the occasion; and others were soon added. They called Mr James James (Iago Emlyn), from Bristol, but who was for a term being taught in Carmarthen, and he was ordained on on 4th June 1841. After labouring here for 2 years, Mr James left for Portishead, near Bristol. Soon after they gave a call to Mr Thomas Roberts, a student at Brecon College, and he was ordained on September 27th 1843. At the end of 3 years of installing Mr Roberts here it was necessary to enlarge the chapel at a cost of £300. Mr Roberts continued to labour until 1851, when he moved to England. After that Messrs Richard Hancock, R Perkins and John James were successively ministers here; and within about the last 2 years they gave a call to Mr J H Lochore, Newcastle, to become the minister of the place, and he is the current minister.

After this church had encamped with great success for 26 years in Park Street chapel, there descended upon it a desire to build a greater and bigger temple. They took a piece of land in a convenient and central spot in Murray Street. They adopted the design of Messrs Lander & Bedells, London. The memorial stone was installed  in the wall by John Crossley, Esq, Halifax, on 26th July 1864. It is a superb building, in the style called 'early decorated', and cost counting everything some £2200. The chapel measured between the walls some 58 feet by 38ft without the lobbies in the facade and a place for the organ in the rear. The number of sittings for adults is 366, and a 100 in the front gallery, apart from room for 60 children; the total sittings thus 526, and room to add  galleries to the sides to take another 150. There is a roomy chamber underneath the chapel measuring 44ft by 38ft, somewhere to hold a children's Sunday School, with a class room for the youngest children, and a room for the deacons to  meet. and one for the minister as well. To crown it all the building in front above  the main pointed water entrance is 104 ft in height. When some of the friends of Park Street mentioned  to Mr Rees, Capel Als, that they had to get a spire for the new chapel, he argued rigidly against it as something too 'churchlike' to be associated with an Independent chapel, but when he understood that there was no arguing with the friends, he said bluntly but with a smile on his face at the same time, "If you have to have a spire, remember to make it higher than anything else in Llanelli, and with that I'm content," and so it was. By the way, this anecdote shows how straightforward Mr Rees was in everything he took a hand in. He was not happy if not in the lead in all things. They held the opening meeting for the new Park chapel on the Friday night and Sunday the 20th & 22nd October 1865, when the preaching was by the noted Thomas Binney, of London, and James Parsons, of York, and others. Most of the debt is by now repaid, and the chapel is in every sense worthy of the Independence in the place. Mr Rees said about the English cause 23 years ago as follows - "This congregation is likely to be influential and important in the town, and very useful across religion in general, " and the aspect that is on the English cause now under the ministry of Mr J H Lochore shows that  prophecy to be true.

The following people were raised to preach in this church;*

  • Thomas Toke Lynch. ... Born in Great Dunmow, Essex, in 1818 ...  came to Llanelli as a boy ... became known as 'Tom Lynch' ... started in ministry at Highgate in 1848 ... then Fitzroy Square ... then Mornington Chapel, Hampstead Rd, London ...  buried Abney Park Cemetery in 1871
  • Llewlyn D Bevan, LlB. ...Educated at New College ... ordained at Weigh House chapel with the Venerable Thomas Binney ... now minister at Tottenham Court Rd, London
  • David Williams ... now a teacher at a teacher training college at Swansea

 *Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

BURY PORT

(Pembrey parish)

Dyma yr enw a roddwyd ar borthladd Penbre. Gyda chynydd y boblogaeth, a dyfodiad llawer o Saeson i'r lle, barnwyd y dylesid cychwyn yma achos Seisnig. Aelodau Park Chapel, Llanelli, oedd a'r llaw flaenaf

500  

yn y gorchwyl, ac oddiwrthynt hwy y cafwyd y cynorthwy mwyaf at gychwyn yr achos. Adeiladwyd yma gapel bychan cyfleus yn y flwyddyn 1871, ac y mae eglwys wedi i ffurfio ynddo. Bu gweinidog Seisnig Llanelli yn gofalu am y lle dros ychydig, ond yn awr y mae Mr. T. Simm yn weinidog yn y lle. Nid yw yr achos ond egwan, ond yn raddol gellir disgwyl iddo gynyddu a chryfhau.

Translation by Gareth Hicks (Jan 2009)

This is the name given to the port of Pembrey. As the population increased, and  many English people came to the place, they decided to start an English cause. Members of Park Chapel, Llanelli were in the vanguard at the beginning of the task, and it was from them that the greatest support was given for starting the cause. They built here a small convenient chapel in 1871, and a church has been formed here. The minister of the English chapel, Llanelli,  looked after the place for a short while, but now Mr T Simm is the minister in the place. The cause is still weak, but it can be increasingly seen as growing and strengthening.

 

LLANEDI

TYNEWYDD y gelwir capel Llanedi, er fod yr achos yma yn un o'r rhai hynaf yn y sir. Bu hen Vicar Llanymddyfri, fel ei gelwir, yn dal bywioliaeth y plwyf hwn, a diau y gellir disgwyl fod ei lafur ef wedi ei fendithio er daioni y trigolion. Ymddengys mai i ymdrechion Stephen Hughes y priodolir cychwyniad yr achos yma, a diamheu iddo gael llawer o help gan offeiriaid efengylaid(sic) eraill. Yr oedd Meredith Davies, gwr llawn o'r Ysbryd Glan, yn gweinidogaethu yn Llanon, ac nid oedd Marmaduke Mathews, Abertawy, yn mhell o'r ardal yma ; ond Stephen Hughes a gydnabyddir fel y prif offeryn yn y gwaith. Dechreuwyd yr achos mewn lle a elwir Wernchwith, mor foreu a'r flwyddyn 1650, a dywedir i eglwys reolaidd gael ei sfydlu yno y pryd hwnw. Arferid pregethu hefyd yn Cribyn Walter, yn mhlwyf Llanelli, ac yn Llwydcoedfawr, a Phenderimarch, yn mhlwyf Llanon ; ond yn Wernchwith, Llanedi, y cyfarfyddent fynychaf. Wedi adferiad Charles yr Ail, ac i ystorm yr erledigaeth ddechreu curo arnynt, bu raid i'r praidd bychan yma ymguddio yn aml tua Pandybach, o dan allt y Droserch, a chyfarfyddent a'u gilydd liw nos yn y coedydd cylchynol. Pan oedd Mr. Stephen Hughes unwaith yn pregethu yn Wernchwith ar ddydd gwyl, daeth un Mr. David Penry o blas Llanedi i wrando arno. Yr oedd Mr. Penry yn ddyn tal, o ymddangosiad boneddigaidd, ac wedi ei ddwyn i fyny i fod yn offeiriad. Gan ei fod yn gwbl anadnabyddus iddo, ofnodd Mr. Hughes mai swyddog gwladol ydoedd wedi dyfod yno i'w ddal a'i gymeryd yn garcharor. Ar ddiwedd yr oedfa aeth Mr. Penry yn mlaen a gafaelodd yn llaw y pregethwr. Ar hyny gofynai Mr. Hughesyn lled frawychus, " Gobeithio, Syr, nad ydych wedi dyfod yma i'm dal a'm dwyn yn garcharor ? " Nac ydwyf fy anwyl Syr," atebai Mr. Penry, a'r dagrau yn ffrydio dros ei ruddiau, "ond chwi a'm daliasoch i." Yr oedd geiriau Duw wedi cyrhaedd i'w galon, glynodd with wrando, ymunodd a'r eglwys yn Wernchwith, dechreuodd bregethu, a'r flwyddyn y bu farw Mr. Stephen Hughes urddwyd ef yn weinidog yn Llanedi. Nis gwyddom dros ba yspaid y bu Mr. Penry yn gweinidogaethu  yma, na pha bryd y codwyd y capel cyntaf ; ond tueddir i feddwl iddo fod yma am dymor lled faith, ac mai yn ei amser ef yr adeiladwyd y capel yma. Dilynwyd ef yma yn y weinidogaeth gan Mr. David Thomas, Ffosyrefail, yn mhlwyf Llandilofach, yr hwn a lafuriodd yma am dymor hir. Yr cedd mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn wr cyfrifol yn ngolwg y wlad, ond cyhuddid ef o fod yn gogwyddo at Arminiaeth, ac y mae Edmund Jones, Pontypool, yn llawdrwm iawn arno oherwydd hyny. Fel yr oedd Mr. Thomas yn heneiddio rhoddwyd galwad i Mr. Evan Davies, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, i fod yn gydweinidog ag ef. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1775. Cynyddodd yr eglwys fawr yn yspaid gweinidogaeth Mr. Davies, ac eangwyd terfynau yr achos

501

i Lanelli, Cross Inn, Cydweli, Penbre, a manau eraill. Parhaodd Mr. Davies i lafurio yma am ddeng mlynedd-ar-hugain, nes y rhoddodd angau derfyn ar ei holl lafur Ebrill 12fed, 1806.

Wedi ei farwolaeth daeth Mr. Thomas Edwards i'r ardal, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn yr Athrofa yn Ngwrecsam ; ac aeth yr eglwys i ymryson blin yn ei gylch. Yr oedd yn fwy Calfinaidd ei olygiadau na Mr. Davies, a pharodd hyny i rai fyned yn fwy selog drosto, ac i eraill fyned yn fwy penderfynol yn ei erbyn. Rhaid ei fod yn bregethwr doniol a phohlogaidd, ac yn meddu gallu i enill y werin ar ei ol, ond yr oedd yn dra diffygiol mewn callineb, ac yr oedd ei fyrbwylldra yn andwyo ei holl ddefnyddioldeb. Anrheithiwyd yn yr ymryson yn ei achos un o'r gerddi prydferthaf oedd yn y tir; a gwnaed y lle oedd o'i flaen yn baradwys, ar ei ol yn anialwch. Cadwodd Mr. Edwards a'i blaid feddiant o'r capel; ac ar yr 16eg o Orphenaf, 1809, aeth y rhai a'i gwrthwynebant allan yn ol cyngor y gweinidogion cylchynol, a dechreuasant gynal moddion yn yr ysgubor berthynol i Mr. W. Mainwaring ; a phregethwyd iddynt yn gyntaf yno gan Mr. Davies, Alltwen. Ond daeth cyfnewidiad buan wedi hyny. Nis gallodd Mr. Davies, oblegid ei fyrbwylldra a'i annoethineb, gadw ei bleidwyr yn nghyd yn hir, ac yr oeddynt hwythau wedi cael digon ar ryfela ac yn gweled ffolineb eu gwaith yn gwrthod gwrando ar gyngor y gweinidogion i ollwng Mr. Edwards ymaith rhag rhwygo yr eglwys ; ac ar y 5ed o Dachwedd yr un flwyddyn, dychwelodd y rhai a ymadawsant yn ol i'r capel; ond yr oedd yr achos wedi ei anrheithio yn fawr, a llawer wedi encilio at enwadau eraill, ac fel y gallesid disgwyl nid oedd y teimladau mwyaf dymunol rhwng y rhai oedd wedi glynu. Gwasanaethwyd yr eglwys am yn agos i ddwy flynedd gan y gweinidogion cymydogaethol, ac yn yr yspaid hwnw yr oedd yr archollion yn graddol iachau. Rhoddwyd galwad i Mr. Samuel Price, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Awst 14eg, 1811. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. T. Davies, Pantteg. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Davies, Llanybri, ac i'r eglwys gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd. " Er fod yr eglwys yn rhanedig ac aflonydd iawn, a llawer o hen glwyfau heb eu gwella, a hen deimladau chwerw heb ei symud, y fath oedd ei ysbryd mwynaidd a'i lwybr heddychlawn a dengar fel y toddodd hwynt i gyd i'r un ysbryd efengylaidd a siriol ag ef ei hun. Carai pawb ef, a rhywfodd heb yn wybod iddynt, daeth amryw o'r rhai oedd yn methu cydweled i gydrodio llwybrnu glwysaidd tangnefedd ac ewyllys da ; carthwyd llawer, o leiaf, o'r hen lefain i ffwrdd, a chydiodd pob un yn ei orchwyl fel yr ymadnewyddodd yr eglwys oedd wedi bod yn barchus a blodeuog yn amser yr enwog a'r duwiol Evan Davies. Cafodd yr hen bobl dduwiol a gawsant eu porthi a bara gofid, a'u diodi a dagrau wrth fesur mawr, ganu megis yn y dyddiau gynt, a chyd-orfoleddu fod y gauaf wedi myned heibio, a chydweddio O Dduw y lluoedd dychwel atom ; edrych o'r nefoedd a chenfydd, ac ymwel a'r winwydden hon ;' ac nid hir y cafodd yr eglwys weddio cyn i'r Arglwydd ateb, ac eglur ddangos nad yw had Jacob yn cael ei geisio yn ofer. Tyrodd y bobl yn nghyd yn fuan, llewyrchodd yr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd gweddi yn yr ardal, a bu llaw yr Arglwydd yn amlwg gyda'r weinidogaeth, oblegid ychwanegwyd llawer at yr eglwys yn amser Mr. Price."* Llafuriodd yma am ugain

* Cofiant Mr. Samuel Price, Llanedi, gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd, " Diwygiwr," 1837, tudalen 154.

502  

mlynedd, nes y torwyd ef i lawr gan angau yn nghanol ei ddyddiau ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Bu farw Chwefror 23ain, 1831, yn 46 oed.

Yn mhen ychydig wedi marwolaeth Mr. Price, tueddid llawer o'r eglwys i roddi galwad i Mr. John Joseph, yr hwn oedd yn aelod gwreiddiol o'r eglwys, ond a ddechreuasai bregethu yn y Mynyddbach, ac a fuasai am dymor yn derbyn addysg dan ofal Mr. Eyans, o'r Crwys; ond yr oedd rhan fawr o'r eglwys yn ei erbyn, ac yn eu plith rai personau cyfrifol a dylanwadol yn yr eglwys. Aeth pethau yn flin a therfysglyd iawn. Ail agorwyd hen glwyfau oedd wedi iachau i bob ymddangosiad, ac aeth yr eglwys i gyflwr mor gythryblus a rhanedig ag ydoedd fwy nag ugain mlynedd cyn hyny. Yr oedd y rhan fwyaf o weinidogion y sir yn ffafrio y rhai oedd yn erbyn Mr. Joseph, o leiaf yn barnu y buasai yn well iddo encilio gan fod y bobl yn rhanedig yn ei gylch ; er fod yn lled sicr y buasai yr eglwys yn llawer mwy unfrydol pe buasai pawb o'r tuallan i'r eglwys yn ymgadw rhag ymyraeth yn yr amgylchiadau. Penderfynodd cefnogwyr Mr. Joseph y mynasent ef yn weinidog; a chadwyd cyfarfod i'w urddo yn Bethesda Llangenech - capel oedd wedi ei godi mewn cysylltiad a Llanedi  - Mehefin 27ain, 1832. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. J. Davies, Llantrisant ; holwyd y gofyniadau gan Mr. B. Cook, New York; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Evans, Mynyddbach, yr hwn hefyd a bregethodd ar ddyledswydd y gweinidog, a phregethodd Mr. J. Evans, Crwys, ar ddyledswydd yr eglwys. * Ar ol hyn aeth y blaid

*"Efengylydd" 1832, tudalen 254.

oedd yn erbyn Mr. Joseph allan, ac wedi bod yn pregethu dros ychydig mewn gwahanol fanau adeiladasant gapel bychan ar gwr uchaf y fynwent, a deuai gweinidogion y sir yno i bregethu iddynt. Rhoddwyd galwad i Mr. Samuel Williams, Capel Isaac, i fod yn weinidog iddynt, a bu yn y lle hyd ei ymfudiad i America yn 1839. Wedi hyny bu gofal yr eglwys ar Mr. Thomas Jenkins, Penygroes; ond yr oedd yr achos yn gwaelu yn fawr, ac nid oedd nemawr fwy o lewyrch dros yspaid y blynyddau hyny  ar yr achos yn yr hen gapel ; a theimlai pawb y dylasid gwneyd cynyg i'w huno, oblegid yr oedd yn wrthun fod dau gapel i'r un enwad ar yr un fynwent. Ystyrid Mr. Joseph a'i gynnulleidfa y tu allan i gylch cyfundeb y sir, ac anaml y byddai gweinidogion dyeithr yn ymweled a hwy, ac nis gallasent wneyd hyny heb i'r gweinidogion cylchynol wgu arnynt. Ond yr oedd pob ochr wedi blino, ac yn awyddus am gymod, ac yn y " Diwygiwr" 1842, tudalen 159, o dan y peniad " LLANEDI," cawn y mynegiad a ganlyn, " Yn Nghyfarfod Chwarterol Carmel, Penbre, a gynhaliwyd ar y 10fed o Awst, 1841, cynygiodd Mr. Joseph el hun, a'r bobl dan ei ofal, i gyfundeb yr Annibynwyr. I hyn yr atebodd y gweinidogion y buasai pob boddlonrwydd i'w derbyn, ond i'r bobl oedd allan gael cenad i ymofyn y gweinidog neu y pregethwr a fynasant unwaith y mis, a bod Mr. Joseph i newid a'r cyfryw un os buasai yn dewis. Cymerodd Mr. Joseph a'r eglwys amser i ystyried cais y gweinidogion dros y bobl; ac yn awr dywenydd genym hysbysu eu bod wedi cydsynio, a bod undeb trwyadl a chalonog wedi cymeryd lle - byddant yn un mewn cymundeb yno y Sabboth cymundeb nesaf. Buasai yn dda iawn pe uasai hyn wedi cymeryd lle yn gynt. Pwy bynag fyddo yn anfon eu cyhoeddiadau y ffordd hon, dymunir arnynt gofio Llanedi, megis y byddent yn arfer gwneyd cyn yr ymrafael." Er nad oes enw wrth yr hysbysiad eto y mae yn eglur mai Mr. Rees, Llanelli, a'i hysgrifenodd, oblegid yr oedd efe o'r

503

dechreuad mewn modd neillduol yn noddi y rhai oedd allan. Cymeradwywyd yr hyn a wnaed gan Gyfarfod Chwarterol y sir a gynhaliwyd yn Llandilo, Awst 9fed, 1842; a derbyniwyd Mr. Joseph yn ffurfiol i'r Undeb; ac yn yr Hydref canlynol cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y sir yn Llanedi, yr hwn oedd hefyd yn gyfarfod Cenhadol. Effeithiodd yr undeb yn ffafriol iawn ar yr holl ardal, a dychwelodd llawer i'r capel o'r rhai oeddynt wedi cilio er's blynyddoedd o'r ddau le, a gwisgodd yr achos yn ei holl ranau wedd tra gobeithiol ; ond yr oedd anamledd y trigolion o gylch y capel, a'r cyfleusterau i addoli a gai eraill yn nes atynt yn gwneyd nad oedd y gynnulleidfa yn Llanedi ond bechan yn mlynyddoedd diweddaf Mr. Joseph, ond parhaodd i lafurio yma hyd ei farwolaeth Tachwedd 4ydd, 1867. Yn fuan wedi marwolaeth Mr. Joseph rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. David Morgan, Felindre, nc y mae yn parhau i ofalu am y ddau le.

Mae yr eglwys hynafol yma fel y gwelir wedi myned trwy lawer o helbulon (sic) yn ystod ei hanes ; ac yn enwedig ysgydwyd hi i'w seiliau yn y ddau amgylchiad blin at y rhai y cyfeiriasom. Mae y canghenau yn awr wedi tori oddiwrthi, a chapelau cyfleus wedi eu codi yn yr ardaloedd poblog o'i hamgylch, fel nas gellir disgwyl yma mwy gynnulleidfa luosog; ond y mae llawer yn teimlo yn gynes at yr hen fangre gysegredig, yn  "hoffi ei meini ac yn tosturio wrth ei llwch hi.' Dyma yr unig ganhwyllbren oedd yn y wlad yma am fwy na chan' mlynedd i ddal canwyll yr efengyl i fyny, a diamheu i ganoedd yn ei goleuni weled y ffordd uniawn i'r bywyd.

Mae agos yn sicr genym i lawer o bregethwyr godi yma o oes i oes ; ond nid ydym wedi cael ond enwau dau o honynt, sef Griffith Griffiths a fu am flynyddoedd yn weinidog yn y Plough, A berhonddu ; a Rees Philpot Griffiths a fu yn weinidog yn Penlan, Pwllheli ; ac yr ydym eisioes wedi cyfeirio at y ddau yn nglyn a hanes yr eglwysi yn y rhai y buont yn llafurio.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

DAVID PENRY. Nid oes genym ddim i'w ychwanegu am y gwr da hwn at yr hyn a ddywedasom. Mab Plas Llanedi ydoedd. Yr oedd yn wr cyfoethog, ac wedi ei ddwyn i fyny i weinidogaeth yr Eglwys Wladol. Dychwelwyd ef trwy weinidogaeth Stephen Hughes, o dan y bregeth fythgofus yn y Wernchwith, ac urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys yn Llanedi yn 1688, a bernir iddo lafurio iddi hyd ei farwolaeth, er nad oes gwybodaeth pa bryd y cymerodd hyny le.

DAVID THOMAS. Ganwyd ef yn ardal y Cilgwyn, yn sir Aberteifi. Urddwyd ef yn olynydd i Mr. D. Penry yn Llanedi. Yr oedd yn byw yn Ffosyrefail, yn mhlwyf Llandilofach, sir Forganwg, yn gyfoethog o dda y byd hwn, yn foneddwr yn ei holl ymddygiadau, yn ddylanwadol fel pregethwr, a llafurus fel gweinidog. Efe a ddechreuodd bregethu yn Llanelli, ac mae ei gymeriad yn uchel yn yr ardal lle y llafuriodd yn hir. Yr oedd yn gymhedrol iawn o ran ei olygiadau duwinyddol, ac yn ceisio cadw canol y ffordd mewn oes yr oedd llawer yn gogwyddo yn ormodol i Arminiaeth ar y naill law, ac i Antinomiaeth ar y llaw arall ; ac nid oedd oblegid hyny yn gwbl foddhaol gan unrhyw blaid. Mae Edmund Jones, Pontypool, yn ei drin yn ddiarbed yn ei ddyddlyfr am 1773, fel un o'r

504

"cyfeiliornwyr." Nis gwyddom amser ei farwolaeth, ond yr oedd yn hen a methedig yn 1775 pan roddwyd galwad i Mr. Evan Davies i fod yn gynorthwywr iddo.

EVAN DAVIES. Mab ydoedd i Mr. James Davies, gweinidog y Cilgwyn ac Abermeurig. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1750, mewn lle a elwir Dyffrynllynoedd, plwyf Llandysul, sir Aberteifi. Dygwyd ef i fyny yn Athrofa Caerfyrddin. Yr oedd yno o'r flwyddyn 1772 hyd 1775, a derbyniodd alwad o Lanedi i gydlafurio a Mr. Thomas, Ffosyrefail. Bu yn egniol iawn yn y weinidogaeth, a chynynodd yr achos dan ei ofal yn fawr. Eangodd derfynau ei lafur i Gydweli, Cross Inn, Penbre, a Bethania ac efe a fu y prif offeryn i adeiladu Capel Als, Llanelli, ac i ffurfio eglwys ynddo. Goddefodd lawer o'i erlid yn ei ymdrech i gychwyn achos yn Nghydweli, ond er hyny ni ddiffygiodd yn gwneuthur daioni. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn deallus, o alluoedd cryfion, ac yn meddu gwybodaeth gyffredinol eang. Rhoddid ymddiried mawr ynddo gan ei holl gydnabod, ac yr oedd yn wr o ddylanwad mawr yn mysg ei frodyr. Pregethai yn eglur, syml, a theimladol, a phob amser yn agos at ei wrandawyr. Anaml y pregethai heb dywallt dagrau. Ychydig a ymyrai a'r dadleuon duwinyddol oedd yn cynhyrfu yr eglwysi yn y dyddiau hyny, a dichon iddo ymgadw yn ormodol heb draethu ei olygiadau yn ddiofn rhag i hyny beri tramgwydd i neb, ac mai i hyny mewn rhan fawr y mae priodoli y blinderau a gyfarfyddodd a'r eglwys wedi ei ymadawiad ef. Bu farw Ebrill 12fed, 1806, yn 56 oedd.(sic)

SAMUEL PRICE. Ganwyd  yn Mhenhemwenfawr, Llangamarch, sir Frycheiniog, Ionawr 28ain, 1785. Mab ydoedd i David ac Elizabeth Price, ac wyr i'r hybarch Isaac Price, Llanwrtyd. Dygwyd ef i fyny dan ofal ei daid, a daeth yn ddeiliad argraffiadau crefyddol cyn ei fod yn naw mlwydd oed. Cafodd addysg ysgolion goreu ei ardal enedigol, ac ar ol dechreu pregethu aeth i'r Athrofa yn Nghaerfyrddin, lle yr arhosodd dair blynedd.  Ymadawodd flwyddyn cyn ei amser er mwyn myned i gynnorthwyo ei ewythr, frawd ei dad, oedd yn weinidog yn Mhenybontarogwy, ond wedi bod yno am yspaid ni thueddid ef i aros yn y lle. Derbyniodd alwad o Lanedi, ac urddwyd ef yno Awst 14eg, 1811. Yr oedd cymhwysder nodedig yn Mr. Price i sefyllfa yr eglwys yn Llanedi ar y pryd, a phrofodd ugain mlynedd o lafur llwyddianus fod gan Ragluniaeth law uniongyrchol yn ei arweiniad i'r lle. Enillai serch, ymddiried, a pharch ei gydnabod o bob graddau, a chariai argyhoeddiad i bob meddwl nad yr eiddo ei hun a gisiai, ond yr eiddo Crist lesu. Safai yn uchel yn nghymeradwyaeth a serchiadau ei holl frodyr yn y weinidogaeth. Llafuriodd yn Bethania a Phontyberem yn gystal ag yn Llanedi, ac yr oedd yn anwyl gan bobl ei ofal yn mhob man. Yn fuan wedi ei sefydliad yn Llanedi priododd a Jane, ail ferch Mr. John Roberts, masnachydd cyfrifol yn Llanelli, yr hon a adawodd yn weddw ar ei ol gyda saith o blant amddifaid. Torwyd ef i lawr yn nghanol i ddyddiau, ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Cafodd anwyd trwm wrth ddychwelyd adref wedi bod yn pregethu yn Bethania, yr hwn a drodd yn fflameg (inflamation) ar ei ymysgaroedd, ac er pob dyfais a gofal bu farw wedi naw niwrnod o gystudd chwerw, Chwefror 23ain, 1831, yn 45 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Tynewydd, Llanedi.

JOHN JOSEPH. Ganwyd ef yn Llangenech, yn sir Gaerfyrddin, Ebrill 6ed, 1806. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac yn aelodau yn Llanedi,

Translation by Maureen Saycell (March 2009)

The chapel here is named Tynewydd (New House), despite the fact that this is one of the oldest causes in the County. The old vicar of Llandovery, as he was known, held this living and undoubtedly his labour was for the good of the occupaants. It appears that the efforts of Stephen Hughes and other ministers of his time, such as Meredith Davies, Llanon and Marmaduke Mathews, Swansea, led to the founding of  this cause. It began in Wernchwith as early as 1650 and it is said that a church was established that far back.  Preaching also took place in Cribyn Walter, Llanelli, as well as Llwyncoedfawr and Penderimarch, Llanon. With the coming of Charles II and the storm of persecution, this small flock had to secrete themselves frequently at Pandybach, under the woods of Droserch, and they met in the surrounding woodland at night. One time when Mr Hughes was preaching at Wernchwith on a feast day a Mr David Penry, of Llanedi Mansion, came to listen to him.  Mr Penry was tall and with the appearance of a gentleman, he had been intended for the church. As he was unknown to Mr Hughes, he thought he might be a government official coming to take him into custody, but at the end of the service he came forward and took Mr Hughes' hand. Mr Hughes asked if he had come to arrest him, and the reply was " No my dear Sir", he replied with tears flowing down his cheeks, "but you have caught me". The word of God had reached his heart, he continued to listen, then joined the church and began to preach. The year that Mr Hughes died he was ordained at Llanedi. It is thought that he was here a long time and that the first chapel was built in his time, although there is no actual history. He was followed by Mr David Thomas, Ffosyrefail, Llandilofach who served here a long time. He was of comfortable circumstances and responsible in the eyes of the world, but he was accused of leaning towards Arminism and Edmund Jones, Pontypool was rather heavy fisted towards him because of that. As Mr Thomas became older a call was sent to Mr Evan Davies, a student at Carmarthen, to become his assistant, he was ordained 1775. The church expanded considerably in Mr Davies time, the borders were pushed to  Llanelli, Cross Inn, Cydweli, Pembrey as well as other places. Mr Davies remained here 30 years until death claimed him on April 12th, 1806. Mr Thomas Edwards came next after his time at Wrexham College. The church became divided over his appointment, he was more Calvinistic in his views than Mr Davies. Some thought this was better than Mr Davies' views others consolidated against it. Mr Edwards must have been a charismatic preacher, but wisdom was not his strongpoint, and because of that he was doing a harm to the congregation. His future was paradise, but he left wasteland behind him, this was portrayed in a current poem. Mr Edwards and his faction of the congregation kept the chapel, those who disagreed left on July 16th, 1809 after taking advice from neighbouring ministers. They began to worship in a barn owned by Mr W Mainwaring, the first sermon given by Mr Davies Alltwen. Due to his lack of caution Mr Davies failed to keep that faction together, they had also had enough of warring and saw their folly in ignoring advice to let Mr Edwards go instead of ripping the chapel apart. On November 5th that same year they returned to the chapel, but the cause was badly affected, many had gone to other denominations and there was ill-feeling between those that remained. The church was ministered to for about 2 years by neighbouring ministers, and things gradually improved during this period. A call was sent to Mr Samuel Price, a student at Carmarthen, ordained on August 14th, 1811. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by  Mr. T. Davies, Pantteg. To the minister by Mr. D. Davies, Llanybri, and the church by Mr. D. Williams, Llanwrtyd. Despite the past differences and bitterness he managed to reunite many to walk on the same path without them realising his success. Many were added to the church by Mr Price, he was here for 20 years until he was cut down in his middle years on February 23rd, 1831, age 46.

After the death of Mr Price some of the congregation wanted to call Mr John Joseph, originally a member here, but started to preach in Mynyddbach, had some of his education with Mr Evans, Crwys. The majority were against calling him, including some responsible and influential members. Things became very uncomfortable, old wounds reopened where the split was deeper than 20 years previously. Most ministers agreed with those in opposition to Mr Joseph, and felt that he should withdraw for the benefit of the church, but he felt that if the outsiders stayed outside there would be more unity within the church. His supporters decided to go ahead and ordain him at Bethesda, Llangenech, a branch of Llanedi on June 27th, 1832. On the occasion Mr J Davies, Llantrisant preached on the nature of a church, the questions were asked by Mr B Cook, New York, The ordination prayer was offered by Mr D Evans, Mynyddbach, he also preached on the duty of a minister, Mr J Evans, Crwys preached on the duty of a church. The opposing members then moved out and after a while they built a small chapel on the edge of the burial ground, and ministers from within the County preached to them. A call was sent to Mr Samuel Williams, Capel Isaac, and he was with them until he emigrated to America in 1839. Then the church was cared for by Mr Thomas Jenkins, Penygroes, but the cause was weak, and the other cause in the main Chapel were not doing much better, and everyone felt that an attempt at unifying them shoud be made, as it was not good that there were 2 chapels of the same denomination on the same burial ground. Mr Joseph and his congregation were considered to be outside the County Independent Union, rarely would ministers visit them, and if they did it was frowned on by the area's ministers. Both sides were now tired and keen for some solution, and in "Diwygiwr" 1842, page 159 heading Llanedi,  " The quarterly meeting at Pembrey August 10th, 1841 - Mr Joseph offered himself and his flock to the Independent Union. To this they replied that they would accept them if those excluded were allowed to choose  a minister once a month, and Mr Joseph could swap if he wanted to do so. Mr Joseph and his church took some time to consider this and agreed to the conditions. Since then a full and hearty reunion has taken place and a united communion will be held. It is a shame that this had not happened a long time ago. Whoever wished to preach here should remember Llanedi as it was before these troubles." Although the author is not named, it is obvious that it was written by Mr Rees, Llanelli, as he was always the one to back those excluded. The action was commended by the quarterly meeting in Llandilo on August 9th, 1842, Mr Joseph was farmally accepted into the Union and the following October the Quarterly meeting was held in Llanedi, this was also a mission meeting. The unification meant a great deal to the area, many returned to the chapel who had pulled away from both of the chapels, the cause looked hopeful in all aspects. Attendances were low because the people went to chapels that were nearer to them, Mr Joseph continues to serve here until his death November 4th, 1867. Soon after his death the church called Mr David Morgan, Felindre, who remains here, caring for both places.

This old church has gone through many troubled times in its history. The branches have now gone their own way, but still have a place in their hearts for the old church. It was the only candle to give light to the scriptures for many to find the way to a righteous life. We feel sure that many were raised to preach here but we have no records of the majority only :

  • GRIFFITH GRIFFITHS -  for many years minister of the Plough, Brecon.
  • REES PHILPOT GRIFFITHS - minister of Penlan, Pwllheli.

BIOGRAPHICAL NOTES*

DAVID PENRY - son of Llanedi  Mansion - ordained Llanedi 1688 - date of death not known.

DAVID THOMAS - born Cilgwyn, Cardiganshire - succeeded Mr Penry at Llanedi - man of means - middle of the road theologically, therefor not fully approved by anyone -1775 was failing and  Mr. Evan Davies called to support him, date of death not known.

EVAN DAVIES - born 1750 Dyffrynllynoedd, Llandyssul, Cardiganshire- son of Mr. James Davies, minister of Cilgwyn and Abermeurig - educated Carmarthen College from 1772 to1775 - called to Llanedi to co-minister with Mr. Thomas, Ffosyrefail - extended the parish to Cydweli, Cross Inn, Penbre, and Bethania and was the power behind the building of Capel Als, Llanelli - did not get involved in the arguments within the churches - died April 12th, 1806, age 56.

SAMUEL PRICE - born January 28th, 1785 in Penhemwenfawr, Llangamarch, Breconshire - son of David ac Elizabeth Price,grandson of the Venerable Isaac Price, Llanwrtyd - brought up by his grandfather, good early education - to Carmarthen College for 3 years - left a year early to assist his Uncle in Brigend, after 3 years decided not to stay there - called Llanedi, ordained August 14th, 1811 - suited the situation there and served for 20 years - also ministered to Bethania and Pontyberem - soon after settling in Llanedi married Jane, second daughter of Mr. John Roberts, a Llanelli businessman, who was left a widow with 7 young children - died after 9 days of suffering on February 23rd, 1831, age 45 -  buried Tynewydd, Llanedi

JOHN JOSEPH - born April 6th, 1806, Llangenech,Carmarthenshire - confirmed age 13 - moved to Mynyddbach began to preach at 17  - called Llanedi, ordained June 27th, 1832 - worked hard in Llangennech - told on the Saturday that the debt there had been cleared with £3 over, said his work was done - the following morning he dropped down dead coming down stairs.

POST SCRIPTUM - we should mention that Mr. Lewis Jones was minister in Llanedi after the death of Mr. D. Penry, and before Mr. D. Thomas, Ffos-yr-efail - he was ordained in September 1734 - short stay, in Llechryd and Trewen in 1739,moved to Bridgend the following year.

We have since received th following as having been raised to preach here:

  • JAMES DAVIES - Merthyr
  • DAVID THOMAS - Wotton-under-edge
  • JOHN HUGHES - Haverfordwest
  • THOMAS PHILLIPS - a faithful supporting preacher here for many years

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

  CONTINUED

 


Return to top

[Gareth Hicks 9 March 2009]