GENUKI Home page

Carmarthenshire Carmarthenshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

Carmarthenshire section (Vol 3)

 

  Pages 505 - 518

 

See main project page

Proof read by Deric John (April 2008)

Eleri translating

Chapels below;

 


Pages 505 - 518

505

(Continued) LLANEDI

 

lle hefyd y derbyniwyd yntau yn aelod pan yn dair-ar-ddeg oed gan Mr. Samuel Price. Symudodd i'r Mynyddbach ac yno y dechreuodd bregethu pan yn ddwy-ar-bymtheg oed. Yr oedd ganddo gof nodedig, a thrysorodd lawer o'r Beibl ynddo, ac adroddodd lawer o benodau yn Llanedi ar ddechreu yr oedfaon pan nad oedd ond bachgen. Derbyniodd alwad o Lanedi, ac urddwyd ef Mehefin 27ain, 1832, ac er fod yr amgylchiadau dan ba rai yr urddwyd ef fel y crybwyllasom eisioes yn mhell o fod yn gysurus, eto ni ddigalonodd yn ei lafur ; er fod yn sicr genym ddarfod i'r deng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth, y rhai a dreuliwyd ganddo mewn neillduaeth cymharol, effeithio i raddau ar ei holl oes. Yr oedd yn ddyn cywir a ffyddlon, yn nodedig o serchog a charuaidd, ond yn tueddu weithiau at bruddglwyfder ac iselder meddwl. Pregethai yn ddoniol a dylanwadol, ac yr oedd ei lais yn swynol i'r glust ac yn ogleisiol i'r teimlad. Gwnaeth ddaioni mawr, yn enwedig yn Llangenech, ac y mae ffrwyth ei lafur i'w weled eto yn y lle. Daliwyd ef gan angau yn annisgwyliadwy. Yr oedd cyfarfod Jubili yn nglyn a thaliad y ddyled yn cael ei gynal yn Llangenech Sabboth, Tachwedd 3ydd, 1867. Y nos Sadwrn blaenorol galwodd un o'i ddiaconiaid gydag ef a dywedodd fod y swm gofynol wedi ei gael a thair punt dros ben. Llonodd ei galon pan glywodd, a dywedodd "Mae fy ngwaith wedi ei orphen ;" ac fe wiriwyd y geiriau yn fuan. Wrth ddyfod i lawr y grisiau y boreu canlynol syrthiodd yn farw, o glefyd y galon fel y tybir, a chladdwyd ef y dydd Iau canlynol yn Llangenech, a phregethodd Mr. D. Rees, Llanelli, ei bregeth angladdol i gynnulleidfa luosog a galarus.

OL-YSGRIF.  - Dylasem grybwyll ddarfod i Mr. Lewis Jones fod yn weinidog yn Llanedi wedi marwolaeth Mr. D. Penry, a chyn dyfodiad Mr. D. Thomas, Ffos-yr-efail. Urddwyd ef yma yn mis Medi, 1734. Ni bu ei arosiad yn y lle yn hir, oblegid cawn ef yn weinidog yn Llechryd a'r Drewen yn y flwyddyn 1739, a'r flwyddyn ganlynol symudodd i Benybont-ar-ogwy. Yn mysg y pregethwyr a godwyd yma yr ydym wedi cael hefyd y personau canlynol. James Davies, Merthyr ; David Thomas, Wotton-under-edge ; a John Hughes, Hwlffordd. Bu Thomas Phillips hefyd yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys am flynyddau lawer ; ac yr oedd yn ddysgybl ffyddlon i Mr. Evan Davies yn ei olygiadau.

 

LLANGENECH

Adeiladwyd y capel hwn gan Mr. Samuel Price, Llanedi, yn y flwyddyn 1831, ond bu farw cyn ei gwbl orphen. Agorwyd ef yn nglyn ag urddiad Mr. John Joseph, Mehefin 26ain a'r 27ain, 1832. Defnyddiwyd ef gan eglwys Llanedi at gadw Ysgol Sabbothol, a phregethid ynddo bob nos Sabboth. Yn y flwyddyn 1857 adgyweiriwyd ef, ac ail agorwyd ef yn Mehefin, 1858, ac yn yr adeg yma ffurfiwyd eglwys yn y lle gan Mr.Joseph, a daeth yr achos rhagddo yn llewyrchus iawn o dan ei weinidogaeth. Llwyddodd Mr. Joseph yn 1867 i gael erw o dir yn lle claddfa, gan Mr. E. J. Sartoris, yr aelod seneddol dros sir Gaerfyrddin, yr oedd yr holl draul yn 200p., ond talwyd y cwbl cyn marwolaeth Mr. Joseph, yr hyn a gymerodd le Tachwedd 3ydd, 1868.

Yn Mehefin, 1870, rhoddwyd galwad i Mr. Lot Lake, Blaenllechau, a  

506   

bu yma am ddwy flynedd, ac yna ymfudodd i America. Yn nechreu haf 1873 rhoddwyd galwad i Mr. John Silin Jones, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Gorphenaf 7fed yr un flwyddyn. Ar yr achlysnr pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. E. Jones, M.A., Sirhowy ; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Davies, Llanelli; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Thomas, Bryn, yr hwn hefyd a bregethodd i'r eglwys; a phregethodd Mr. H. James, Llansantffraid, i'r gweinidog. Mae yr eglwys yn bresenol yn rhifo 230, a'r achos yn ei holl ranau yn dra addawol.

Dechreuodd David Joseph, mab Mr. Joseph, y gweinidog, bregethu, ac yr oedd yn wr ieuangc tra gobeithiol, ond er galar mawr bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Yr oedd yn cydgychwyn a John Morlais Jones, yr hwn sydd yn awr yn Lewisham.

 

PONTARDDULAIS

(Llandeilo Talybont, GLA)

Saif y capel hwn ar lan afon Llwchwr, yn mhlwyf Llandilo Talybont, yn sir Forganwg. Mae y rhan fwyaf o'r gynnulleidfa yn dyfod iddo o sir Gaerfyrddin ; ac yn nghyfundeb y sir hono yr ystyrir ef. Nid yw y pellder oddiyma i Lanedi ond ychydig, ond ni wnaed cynyg ar sefydlu achos Annibynol hyd y flwyddyn 1868, pryd y barnwyd gyda chynydd boblogaeth fod yn llawn bryd gwneyd hyny. Y personau mwyaf blaenllaw yn hyny oedd Mistri Thomas Rees, Rees Roberts, Howell D. Hinds, Richard Thomas, a William Davies (y diaconiaid presenol), David Price, John Edwards, J. Powell, a Thomas Walters, yr hwn sydd wedi marw. Cawsant bob help gan Meistri J. Thomas, Bryn, a William Humphreys, Cadle. Cafwyd les ar dir am 99 o flynyddau, ac yn Ebrill 1869 dechreuwyd adeiladu ystafell yn mesur 34 troedfedd wrth 24 troedfedd. Bu Mr. Humphreys farw cyn gorphen yr adeilad, ond parhaodd Mr. Thomas yn ffyddlon i'r achos yma, ac ar yr 22ain o Awst, 1869, corpholodd yma eglwys o ddeugain o aelodau. Rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Williams, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Chwefror 7fed, 1871. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Proffesor Roberts, Aherhonddu ; holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Proffesor Morris, Aberhonddu ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Jones, Crugybar, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. J. Thomas, Bryn. Yn ddioed meddyliwyd am gael capel newydd. Cynlluniwyd ef gan Mr. T. Thomas, Glandwr, ac adeiladwyd ef gan Mr. Thomas White, Abertawy. Mesura 45 troedfedd wrth 35 troedfedd, a chynhwysa eisteddleoedd i 450, a chostiodd 1000p. Galwyd ef HOPE CHAPEL. Agorwyd ef Hydref 20fed a'r 21ain, 1872. Rhifa yr eglwys yn awr 120 o aelodau, ac y mae y gweinidog, y diaconiaid, a'r eglwys yn unol a gweithgar i gario yr achos yn mlaen.

 

CAPEL SEION

(Llanddarog parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanddarog. Adeiladwyd ef gyntaf yn Y flwyddyn 1712, ond ymddengys yr arferid pregethu yn yr ardal cyn hyny. Dywedir mai dan gysgod derwen dewfrig y pregethid yma dros amser, hyd nes y rhoddwyd tir gan Mr Phillip Lloyd, Heol-ddu, at godi

507

capel. Codwyd ef yn fath o orsaf i bregethu yn nglyn a Pantteg, oblegid yno yr oedd yr ychydig grefyddwyr oedd yn byw yn yr ardal yma yn aelodau. Ceir yn hen lyfr eglwys Pantteg y rhestr ganlynol o aelodau yr eglwys hono oedd yn byw yn mhlwyfydd Llanarthney a Ldanddarog :Owen Evan, Elizabeth Owen, William Thomas (henuriad), Jane Thomas, Rees Williams, David William Rees, Rees David Williams, Jonet William, a Catherine William. Yn dilyn yr enwau ceir y nodyn a ganlyn : - " Yr aelodau uchod yn Llanarthney a Llanddarog, a ddarfu i ni eu dismiso i fod mewn undeb gyda'u gilydd yn Nghapel Seion, Hydref 7fed, 1714, tan olygiaeth Mr. William Evans, Oct. 7fed, 1714, hyd oni cheir amser i osod bugail arnynt." Dyna eu llythyr gollyngdod, ac adeg eu corpholiad yn eglwys. Nis gwyddom pa cyhyd y bu Mr. Evans yn gweinidogaethu yma, ond urddwyd Mr. Christoducius Lewis yma yn fuan wedi ffurfiad yr eglwys ond symudodd oddiyma i Sir Faesyfed yn 1815 ; ac yr oedd Mr. Samuel Jones yn gweinidogaethu yma hefyd gydag ef, at yr hwn yr ydym eisioes wedi cyfeirio yn hanes Mynyddbach, gerllaw Abertawy, ac yr oedd yn gweinidogaethu yn y ddau le yr un pryd. Y tebygolrwydd ydyw iddo ddechru ei weinidogaeth yma tua'r flwyddyn 1715 ; beth bynag y mae genym sicrwydd ei fod yma o 1730 hyd 1751, oblegid cawn ei enw am y blynyddoedd hyny yn derbyn cymorth o'r Drysorfa Bresbyteraidd. Bu yn byw am lawer o flynyddoedd yn Pentwyn, heb fod yn nepell oddiyma, ac yr oedd ganddo o dan ei ofal nifer o wyr ieuaingc yn derbyn addysg er parotoi(sic) at y weinidogaeth. Cyhuddid ef o fod yn gogwyddo at Arminiaeth, ac y mae yn sicr i'r eglwys mewn adeg ddiweddarach gael ei lefeinio yn fawr a'r golygiadau hyny. Rhoddodd Mr. Jones i fyny ofal yr eglwys yma fel y tybir yn 1751, gan gyfyngu ei lafur i'r Mynyddbach ; ac yn yr un flwyddyn rhoddodd yr eglwys hon alwad i Mr. Evan Griflith, yr hwn oedd ar derfynu ei amser fel myfyriwr yn Nghaerfyrddin, ac urddwyd ef yn 1752. Bu Mr. Griffith yma yn barchus am haner can' mlynedd, a chynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fawr o dan ei weinidogaeth. Cyhuddid ef o wyro at Undodiaeth, ac addefai ei gyfeillion ei fod yn Ariad. Parodd y gwyriad yma yn ei olygiadau ef a'r rhan fwyaf o'r eglwys i nifer o bobl o olygiadau Calfinaidd ymneillduo o'r eglwys yn agos i derfyn gweinidogaeth Mr. Griffith, a chychwyn achos newydd yn Llanon, a chodi capel Betbania. Bu Mr. Griffith farw lonawr 25ain, 1802, yn 77 oed. Dilynwyd ef yma gan Mr. William Gibbon, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Nghapel Isaac, a bu yma hyd ei farwolaeth yn mis Medi, 1814. Er fod Mr. Gibbon yn Galfinaidd ei olygiadau eto cadwodd heb roddi tramgwydd i'r rhai a synient yn wahanol iddo. Yn agos i ddiwedd ei weinidogaeth ef ail adeiladwyd a helaethwyd y capel. Wedi marwolaeth Mr. Gibbon rhoddwyd galwad i Mr. David Lewis Jones, yr hwn oedd ar y pryd yn athraw ieithyddol yn Athrofa Caerfyrddin, a bu yma hyd ei farwolaeth Medi 8fed, 1830. Yr oedd Mr. Jones yn Ariad proffesedig, os nad yn rhywbeth pellach,ac yr oedd yr eglwys erbyn hyn wedi myned yn gymysgedd rhyfedd yn ei golygiadau duwinyddol; ac yr oedd rhai o'r hobl fwyaf dylanwadol yn Sosiniaid digel, fel mai gorchwyl anhawdd oedd cael gweinidog i foddloni yr holl bleidiau. Rhoddwyd galwad i Mr. Joseph Evans, myfyriwr o Athrofa y Drefnewydd, ac urddwyd ef Mawrth 12fed, 1832. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri W. Rees, Llwynrhydowen ; D. Rees, Llanelli ; E. Jones, Trelech ; D. Davies, Pantteg ; D. Peter, Caerfyrddin,

508

ac eraill. Bu Mr. Evans yma yn barchus a phoblogaidd am lawer o flynyddoedd. Yn 1848 ad-drefnwyd y capel a gwnaed ef yn dy hardd a chyfleus. Bu Mr. Evans farw Gorphenaf 9fed, 1867. Yr oedd ei gysylltiad a'r eglwys wedi darfod er's mwy na dwy flynedd cyn ei farwolaeth; ac yntau wedi symud i Gaerfyrddin i fyw. Yn haf 1866 rhoddwyd galwad i Mr. William E. Evans, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, i fod yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwys yn Mhontyberem, ac urddwyd of Medi 26ain y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau i lafurio yma. Nid ydym wedi llwyddo i gael unrhyw hysbysrwydd am sefyllfa bresenol yr achos yn y lle, ac nid ydym wedi cael enw yr un pregethwr a godwyd yma, os codwyd rhai hefyd.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

EVAN GRIFFITH. Ychydig wyddom o'i hanes. Urddwyd ef yn Nghapel Seion yn 1752, a llafuriodd yno hyd ei farwolaeth Ionawr 25ain, 1802, yn 77 oed. Yr oedd wedi cael addysg dda, yn foneddwr yn ei holl ymddygiadau, ac yn gymeradwy iawn fel pregethwr, a bu yn dra llwyddianus yn ei weinidogaeth. Gyda dirywiad y dyddiau hyny ymollyngodd i Arminiaeth ac Ariaeth, ond ni fynai y rhai arferent wrando arno mewn un modd addef i fod yn Undodwr. Buom yn ymddiddan ag amryw o'i hen aelodau, ac yr oedd ganddynt oll y parch mwyaf iddo.

WILLIAM GIBBON. Ganwyd ef yn sir Benfro, yn y flwyddyn 1751, a derbyniwyd ef yn aelOd yn Glandwr, lle hefyd y dechreuodd bregethu. Yn y dwyddyn 1780 cafodd alwad gan eglwysi Capel Isaac ac Abergorlech, ac wedi ei urddo bu yn llafurio yno am yn agos i ddeng mlynedd. Cyfrifid ef yn ddyn call a gwybodus, ac yn bregethwr doniol; ac yr oedd gwresawgrwydd ei ysbryd yn peri ei fod yn boblogaidd iawn gartref ac oddicartref ; ond trwy anwyliadwriaeth syrthiodd i odineb. Adferwyd ef drachefn yn mhen blynyddau, a derbyniodd alwad o Capel Seion, lle y llafuriodd hyd ei farwolaeth yn mis Medi 1814.

DAVID LEWIS JONES. Mab ydOedd i Mr. William Jones, Glyn Adda, lle y ganwyd yntau yn y fiwyddyn 1788. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhencadair, ac yno y dechreuodd bregethu. Aeth i'r Athrofa i Gaerfyrddin, ac wedi treulio ei amser yno dewiswyd ef yn Athraw Clasurol yn y flwyddyn 1813, a chafodd alwad hefyd i fod yn weinidog i'r eglwys yn Nghapel Seion. Yr oedd Mr. Jones yn wr dysgedig, o dymer hynaws a charuaidd, o fywyd diargyhoedd, ac ar ei gychwyniad yn nodegig o addawol fel pregethwr. Dirywiodd i Undodiaeth yn ei olygiadau duwinyddol, yr hyn a sychodd ei ysbryd, ac a grebachodd ei ddoniau fel pregethwr; ond perchid ef yn fawr gan bawb fel dyn rhinweddol a chyfaill cywir. Bu farw Mai 8fed, 1830 yn 42 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Seion, lle y gwelir maen coffadwriaah ar ei fedd.

JOSEPH EVANS. Ganwyd ef yn mhlwyf Trelech, yn y flwyddyn 1801, a derbyniwyd ef yn aelod yn Nghapel y Graig pan yn ieuangc. Yr oedd yn ddyn o ddeall cryf, ac o graffder nodedig, ac yn llawn o arabedd a natur  dda, ond yn ddiffygiol mewn egni ac ymroad corfforol a meddyliol, fel oedd yn rhaid iddo yn wastad wrth symbyliad. Anogwyd ef gan y gweinidog a'r eglwys i ddechreu pregethu, a thraddododd ei bregeth gyntaf mewn ty anedd yn yr ardal,  mis Awst, 1823. Ei destyn cyntaf ydoedd

509

Salm lvi. 4, " Y mae afon, a'i ffrydiau a lawenhant ddinas Duw." Yr oedd ei gyfaill Mr. Rees, Llanelli, yn dechreu yr un noswaith. Afrwydd a dihwyl ydoedd ar y cychwyn, ond yr oedd yn amlwg fod athrylith ynddo, er na thybiodd neb y deuai yn bregethwr mor boblogaidd ag y daeth wedi hyny. Nid oedd ei amgylchiadau bydol ond isel, ac oblegid hyny ymwthiodd trwy lawer o anfanteision yn ei ymdrech i gael addysg. Aeth i'r Drefnewydd, lle y bu yn gyntaf yn yr ysgol ramadegol, ac wedi hyny yn yr Athrofa. Er na wnaeth gynydd cyflym mewn dysgeidiaeth glasurol, eto, casglodd lawer o wybodaeth dduwinyddol, a thalodd gryn sylw i resymeg ac athroniaeth feddyliol. Wedi gorphen ei dymor athrofaol derbyniodd alwad o Capel Seion, ac urddwyd ef yn mis Mawrth, 1832. Yr oedd sefyllfa yr eglwys ar ei sefydliad yno yn mhell o fod yn foddhaol, gan fod ynddi gymysgedd o bob math o olygiadau duwinyddol; ond trwy ei dymer hawddgar, ei ysbryd heddychol, a'i ochelgarwch rhag dyweyd dim i beri tramgwydd, llwyddodd i gadw tangnefedd eglwysig ; ac yn raddol i ddwyn pawb i'r un golygiadau ag ef ei hun, fel y mae yr eglwys er's blynyddau mor uniongred a'r eglwysi yn gyffredinol. Yr oedd Mr. Evans yn eang iawn i olygiadau ar drefn yr efengyl, ac yn gyffredin yn ymarferol yn ei weinidogaeth, yr hyn oedd yn ateb i'r eglwys yn ei sefyllfa drawsnewidiol. Yn ei graffder a chywirdeb ei farn ar bethau a phersonau, anhawdd oedd, yn un cyfnod ar ei oes, cael neb yn rhagori ar Mr. Evans, ond yr oedd ei farn yn llawer cryfach na'i benderfyniad i gario allan ei argyhoeddiadau. Ei wendid mawr oedd ei feddalwch, a gwell oedd ganddo roddi ffordd a goddef na myned yn erbyn dim na neb. Gwelid hyn ynddo yn ei arferion personol, ac i hyn y priodolir na bu erioed yn ei deulu nac yn yr eglwys yn fedrus i ddysgyblu a llywodraethu. Yn hyny yr oedd gwahaniaeth dirfawr rhyngddo ef a'i gyfaill Mr. Rees, Llanelli, a diamheu y buasai wedi ymollwng i syrthni corfforol a meddyliol llawer mwy oni buasai fod Mr. Rees gerllaw iddo i'w Symbylu. Nid oedd syniadau moesol uchel yn nghylch ei weinidogaeth ar ei sefydliad ef ynddi, ac yr oedd arferion y rhai oedd o'i gylch yn dylanwadu yn gryf arno. Bu myned yn ddirwestwr, tua'r flwyddyn 1837, yn help mawr iddo yn yr ystyr hono, a sicr genym mai y deuddeng mlynedd dilynol i hyny a fu y cyfnod gloywaf a dysgleiriaf yn ei oes ; a phe buasai yn parhau felly hyd ei fedd machludasai ei haul yn llawer mwy digwmwl. Cawsom lawer cyfle i gymdeithasu ag ef, a theithiasom lawer yn nghyd, ac yr oedd yn anmhosibl cael cydymaith mwy dyddan a charedig. Pregethu oedd ei brif hyfrydwch, ac yn hyny yr oedd ei brif ragoriaeth ; ac mewn un ystyr yr oedd yn un o bregethwyr goreu ei oes. Nid yn nghyfoeth ei adnoddau, nac yn nghyflawnder ei ymadroddion yr oedd ei ragoroldeb ; ond yn ei allu nodedig i ddwyn pob peth i'w bregethau, a'u trefnu yn y modd goreu. Yr oedd cynlluniad ei bregeth a'i gweithiad allan yn un cyfanwaith, ac yr oedd ei frawddegau byrion bachog, ei iaith gyfan ac ystwyth, a'i ymadroddion tlysion, diarhebol, fel modrwyau aur yn addurno y cwbl. Ni byddai byth yn pregethu yn faith, ond siaradai yn ddiatal mewn ton leddf, ond ar brydiau codai yn uchel nes bod yn anarferol o effeithiol. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd gan bob dosbarth o wrandawyr, ond yn unig fod priod-ddull lleol rhai o'i ymadroddion y fath ag na theimlasid oddiwrth eu min y tuallan i gylch ei wlad ei hun, a hyny am na ddeallid eu llawn ystyr. Byddai ei bregethau mor llawn o athroniaeth o'r fath buraf fel gwledd feddyliol i'r dynion callaf fyddai ei wrando; ac eto yr oedd

510  

digon o symledd yn ei bethau a thynerwch yn ei draddodiad fel y byddai y rhai gwanaf ei amgyffredion hefyd yn gallu ei fwynhau. Wrth reswm yr ydym yn son am ei bregethau ar achosion cyhoeddus ; a dichon na bu yr un dyn yn ei oes yn cymeryd mwy o drafferth i barotoi ar gyfer acblysuron neillduol. Yn ei weinidogaeth feunyddiol, fel y mae yn naturiol i ni feddwl, byddai yn aml yn disgyn yn isel a chyffredin ; ond ar achlysuron pwysig byddai ei bregethau yn ddarnau gorphenol a gorchestol. Coffeir gan lawer am ei bregethau ar Ymffrost y Groes-Duw, cariad yw - Y pechod parod - Rhagfarn plaid, ac amryw eraill.

Tua'r fiwyddyn 1840 priododd Mr. Evans a Mrs. Hopkins, Bryngwenyn, yr hon oedd yn berchen cryn eiddo. Bu iddo un plentyn, yr hwn a fu farw ar ol tyfu i fyny yn llangc addawol. Bu claddu ei wraig a chladdu ei fab yn ysigdod mawr i'w natur, a chafodd drallod chwerw oddiwrth un o'i lysblant ; ac ymollyngodd yn fawr ar ol hyny fel na bu o fawr gwasanaeth cyhoeddus. Dirwynwyd ef i helul yn ei amgylchiadau bydol gan ddyniou cyfrwysach nag ef ei hun, ac yn ei ymdrech i amddiffyn ei hawliau cymerai ei arwain a'i ddylanwadu gan ddynion nad oedd eu cwmni na'u cymdeithas yn gweddu i un o'i sefyllfa ef. Symudodd i Gaerfyrddin i fyw at un oedd wedi dyfod i feddiant o gyfran o'i eiddo; ac yr oedd ei afiechyd yn gyfryw fel y cyfyngid ef i'w ystafell ; ond byddai yn dda ganddo weled ei hen gyfeillion yn ymweled ag ef. Bu farw Gorphenaf 9fed, 1867, yn 66 oed, a dygwyd ei gorff i fynwent Pontyberem i'w gladdu. Yr oedd yn un o wir feibion athrylith, ac ni ddisgynodd ei dyneracb, ei ddiniweitiach, a'i ffyddlonach fel cyfaill erioed i fedd. Boed heddwch i'w lwch.

 

PONTYBEREM

(Llangendeirne parish)

Dechreuwyd pregethu yma yn y flwyddyn 1812, gan Mr. Thomas Davies, Bethania, yn nhy un Josuah Treharne, masnachwr yn y lle ; a bu y gwr hwn a'i deulu o gymhorth mawr i'r achos yn y lle. Adeiladwyd yma gapel yn y flwyddyn 1816, a chymerodd J. Treharne a Griffith Thomas, Penlan, y llaw benaf yn ei godiad. Wedi agoriad yr addoldy ffurfiwyd ynddo eglwys o ddeg o aelodau, yn benaf o Bethania ac yr oedd y ddau wr uchod a'u gwragedd yn eu plith. Bu y lle dan ofal Mr, Davies mewn cysylltiad a Bethania hyd ei ymadawiad i'r Cymer yn 1818. Wedi hyny bu gofal yr eglwys ar Mr. Samuel Price, Llanedi, hyd ei farwolaeth, ac yn yr yspaid hwnw bu Mr. E. Evans, Cilcarw, o gynorthwy mawr i'r achos. Cymerodd Mr. J. Dayies, Penygraig, ofal yr achos yn 1830, a bu yn dyfod yma yn gyson hyd ei symudiad i Gwmaman yn 1835 ; ac ar ol hyny cymerodd Mr. Joseph Evans, Capel Seion, ei gofal ; ac er hyny mae y lle mewn cysylltiad gweinidogaethol a Chapel Seion, ac felly mae yn parhau yn awr dan ofal Mr. W. E. Evans. O gylch y flwyddyn 1837, gan fod y gymydogaeth wedi myned yn boblog gydag agoriad y gweithfeydd glo, a'r hen gapel wedi myned yn fychan ac anghyfleus, meddyliwyd am gael capel newydd mewn man mwy manteisiol. Cafwyd darn o dir yn rhad gan Mr. D. Gravel, Cwmfelin, i fod byth yn eiddo i'r eglwys, a hwnw mewn man cyfleus i adeiladu capel, a mynwent helaeth yn nglyn ag ef. Adeiladwyd ty eang, ond oblegid i fethiant ddyfod i weithfeydd y lle bu y ddyled yn gwasgu am dymor, ond ymuniawnodd pethau yn fuan, ac mae yma er's blynyddau achos cryf a llwyddianus.

511

BETHANIA, LLANON

Dechreuwyd yr achos yma gan nifer o bersonau a ymneillduasant o Gapel Seion oblegid eu bod yn anghytuno a Mr. Griffith, y gweinidog yno yn eu golygiadau ar rai o brif bynciau yr efengyl. Yr oedd Person ac Aberth Crist, Gwaith yr Ysbryd Glan, a dwyfoldeb rhai rhanau o'r Testament Newydd yn rhai o'r pynciau yr anghytunent arnynt. Adeiladwyd Bethania yn y flwyddyn 1800, yn benaf trwy lafur Griffith Thomas, Penlan, a Thomas James, Blaenhirwen. Cawsant help gan eraill yn yr ardal, a chan rai o'r eglwysi cymydogaethol, ond arnynt hwy yr oedd baich y gwaith. Agorwyd ef Gorphenaf 30ain a'r 31ain, 1800. Dydd Sabboth, Medi 7fed, y cafwyd y cymundeb cyntaf yma. Gweinyddwyd gan Mr. D. Davies, Abertawy ; ac ar yr 20fed o'r un mis corfforodd Mr. Davies ugain o bersonau, y rhai a ymadawsant o Gapel Seion, yn eglwys yn y lle. Bu gofal yr eglwys am ychydig ar Mr. Davies, ac yn nechreu haf 1804 urddwyd Mr. Evan Evans, Cilcarw, yr hwn oedd bregethwr cynorthwyol perthynol i eglwys Pantteg, yn weinidog yma. Aeth Mr. Evans i Lundain i gasglu at ddyled y capel, a daeth a 80p. adref; ond gan fod cryn lawer o ddyled yn aros, a'r eglwys yn awyddus iddo fyned eilwaith i gasglu, ac yntau yn anfoddlawn, rhoddodd Mr. Evans i fynu ofal yr eglwys. Cymerodd Mr. John Davies, Bethlehem, St. Clears, ofal yr eglwys, a deuai yma mor aml ag y gallai, a thynodd ei ddoniau poblogaidd sylw mawr. Rhoddodd Mr. Davies ofal yr eglwys i fyny oblegid pellder ffordd, a rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, yr hwn oedd yn nai i'r hybarch Mr. Davies, Alltwen, ac urddwyd ef yma Ionawr 18fed, 1810. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Alltwen; J. Bowen, Castellnedd; D. Davies, Abertawy ; D. Peter, Caerfyrddin ; D. Davies, Llanybri ; a J. Bowen, Saron. Bu yma yn barchus hyd y flwyddyn 1818, pryd y symudodd i'r Cymer, Morganwg. Dilynwyd ef yma gan Mr. Samuel Price, Llanedi, yr hwn a lafuriodd yma yn egniol hyd ei farwolaeth. Yn 1833 cymerodd Mr. Joseph Evans, Capel Seion, ofal yr eglwys. Helaethwyd y capel yn y flwyddyn 1835, ac yn ystod y blynyddoedd dilynol llu- osogodd yr eglwys yn fawr. Rhoddodd Mr. Evans ofal yr eglwysi fyny yn niwedd 1841, a derbyniodd Mr. Henry Dayies, a fuasai yn fyfyriwr yn Athrofa Ffrwdyfal, alwad yr eglwys, ac urddwyd ef yma Chwefror 2il, 1842. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Davies, Pantteg ; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Williams, Bethlehem ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Evans, Capel Seion ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Jones, Gwynfe ; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Williams, Llandilo. Llafuriodd Mr. Davies yma yn ffyddlon am naw mlynedd ar hugain. Yn 1845 codwyd capel newydd Llwynteg, ac yn 1854 ail-adeiladwyd capel Bethania, ac yr oedd yr achos yn ei holl ranau mewn agwedd lewyrchus. Bu farw Mr. Davies, Chwefror laf, 1871. Y flwyddyn ganlynol rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. R. L. Thomas, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Gorphenaf 10fed, 1872. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin ; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Morris, Aberhonddu ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Davies, Llandilo ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. Evans, Aberdar ; ac i'r

512  

eglwys gan Mr. W. C. Jenkins, Cydweli. Mae Mr. Thomas yn parhau i lafurio yma dan arwyddion ffafriol. Rhifa yr eglwys 270 o aelodau.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

EVAN EVANS. Ganwyd ef mewn lle a elwir Byrddau Cochion, yn mhlwyf Llanegwad, sir Gaerfyrddin, Ebrill 26ain, 1760. Treuliodd foreu ei oes yn wyllt ac anystyriol, ac yr oedd yn flaenor yn myddin y gelyn, ond dychwelwyd ef trwy ras, ac ymunodd a'r eglwys yn Pantteg. Anogwyd ef cyn hir i ddechreu pregethu, a bu ar ol hyny yn cadw ysgol mewn amryw fanau. Yn y flwyddyn 1787 priododd, ac wedi byw am ychydig yn GorsgOch, Llanarthney, symudodd i Cilcarw, lle y treuliodd ei oes. Urddwyd ef yn Bethania yn nechreu haf 1804, ond ni bu y gofal arno ond dros ychydig, ac ar ol hyny gwrthododd gymeryd gofal unrhyw eglwys, ond pregethai yn gyson bob Sabhoth. Bu llaw neillduol ganddo yn nghychwyniad yr achos yn Pontyberem. Yr oedd yn ddyn synwyrol, ac yn bregethwr cymeradwy. Pregethodd ei bregeth olaf yn Pantteg, Mai 19eg, 1833, lle hefyd er's mwy na haner can' mlynedd cyn hyny y pregethodd ei bregeth gyntaf. Cafodd ei dro yn glaf ar ei ffordd adref, a bu farw yn fuan yn 73 oed, a gorphenodd ei yrfa mewn llawenydd.

HENRY DAVIES. Ganwyd ef yn mhlwyf Llansadwrn, yn sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1820. Arferai o'i febyd gyrchu i addoli yn Carmel, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod. Cafodd lawer o help a chefnogaeth gan Mr. Stephens, o'r Brychgoed, yr hwn a fu am dymor yn cadw ysgol yn Carmel ; a dygwyd ef yn ieuangc i gymdeithas a Mr. Williams, Llandilo, a Mr. Jones, Pentretygwyn, a'r to o weinidogion oedd yn nghwr uchaf sir Gaerfyrddin yn yr adeg honO, a chyfranogodd i fesur helaeth o'u hysbryd. Ar ol dechreu pregethu aeth i'r Athrofa i Ffrwdyfal, lle y bu dros rai blynyddoedd, a phregethai bob Sabboth gyda derbyniad mawr yn yr eglwysi cylchynol. Derbyniodd alwad o Bethania Llanon, ac urddwyd ef yno Chwefror laf, 1842, a llafuriodd yno gyda derbyniad mawr, a bu farw yn mhen naw mlynedd ar hugain i'r diwrnod yr urddwyd ef. Claddwyd ef yn mynwent Bethania, a daeth torf fawr yn nghyd i hebrwng ei weddillion marwol i'r bedd. Nid Oedd Mr. Davies yn adnabyddus  ond ychydig, mewn cydmariaeth y tuallan i'w sir ei hun. Gweinidog cartrefol hollol a fu trwy i oes; and yn ei gylch cartrefol yr oedd yn weithiwr cyson a dyfal. Cododd gapel newydd yn Llwynteg, a chorffolwyd nifer o aelodau Bethania yn eglwys yno ; a bu y ddau le dan ei ofal hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd Mr. Dayies yn un o'r dynion mwyaf synwyrol a adwaenasom erioed - yn meddu deall clir a barn add

513

fed, gyda gallu nodedig i ddyweyd ei feddwl ar unrhyw beth yn eglur ac i'r pwynt. Nid oedd yn meddu llawer o ysbryd cyhoeddus, ond pa bryd bynag y byddai gan yr eglwysi dan ei ofal neu yr enwad yn y sir rywbeth penodol i'w wneyd, cymerai ei ran yn ewyllysgar. Ni byddai byth yn grwgnach mai eraill oedd yn gwneyd y cwbl; ond teimlai yn llawen fod rhywrai yn gwneyd, a phan y gosodid arno cyflawnai yr hyn a geisid ganddo yn siriol. Yr oedd yn llawn o arabedd a natur dda, ac yn meddu gallu nodedig i beri i bawb deimlo yn hapus yn ei gwmni. Nid oedd yn teimlo mor gryf ar faterion cyffredinol, fel yr oedd perygl iddo gan ei sel fyned dros y terfynau gyda hwy ; ac oblegid hyny ymgadwodd rhag cymeryd plaid amlwg dros nac yn erbyn unrhyw beth; ond gallasai pob amcan da gyfrif yn lled sicr ar ei gydymdeimlad a'i gynorthwy ef. Yr oedd yn bregethwr da yn holl ystyr y gair, o ran sylwedd, cyfansoddiad, a thraddodiad. Nid oedd yn y naill na'r hall o bosibl yn y rhestr flaenaf; ond yr oedd pob peth wedi eu cyfartalu mor dda ynddo fel yr oeddynt gyda'u gilydd yn ei wneyd yn bregethwr cyfan. Yr oedd yn wastad yn ei flas; a'r rhai a'i gwrandawent amlaf oedd yn meddwl mwyaf o hono. Yn mysg pobl ei ofal yr oedd yn gwbl rydd a chartrefol, yn eu caru ac yn cael ei garu ganddynt oll. Priododd yn mhen blynyddoedd lawer wedi ei sefydliad yn Bethania, a bu iddo un ferch, yr hon a gladdodd wedi ei magu am lawer o flynyddoedd, ac aeth yr ergyd o'i cholli yn ddwfn iawn at ei galon, oblegid ei uniganedig ydoedd. Gwaelodd ei iechyd i raddau yn mlynyddoedd olaf ei oes, a bu farw Chwefror laf, 1871, yn 51 oed.

LLWYNTEG

(Llannon parish)

Mae y capel yma yn mhlwyf Llanon, ar y ffordd i Lanedi. Codwyd ef yn y flwyddyn 1845, fel cangen o Bethania. Mr. Thomas, Ystlysooed, tad-yn-nghyfraith Mr. Dayies, Betbania, oedd un o'r rhai gymerent y flaw flaenaf yn ei adeiladiad. Agorwyd ef Mai 26ain a'r 27ain, 1846. Pregethwyd ar yr achlysur gan Mistri T. Jones, Hermon ; D. Evans, Nazareth ; J. Thomas, Bwlchnewydd ; D. Evans, Castellnedd; T. Rees, Siloa; a D. Rees, Llanelli. Mae yr achos wedi bod mewn cysylltiad a Bethania o'i sefydliad, ac felly y mae yn awr o dan weinidogaeth Mr. Thomas, ac y mae yn ei holl ranau mewn gwedd obeithiol.

  

PENYGROES

(Llandybie parish)

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon gan Mr. R. Powell, Cross Inn, tua'r fdwyddyn 1823, mewn ty anedd a elwid Lanlash, heb fod yn mhell o'r fan y saif y capel presenol. Yn fuan cynhaliwyd cyfeillachau crefyddol yn yr un lle, ac ymunodd amryw a'r achos. Yn y flwyddyn 1825 adeiladwyd addoldy Penygroes, yn mhlwyf Llandybie. Y rhai fu a'r llaw flaenaf yn y gorchwyl oedd John Jenkins, Lanlash, a'i fab Thomas Jenkins, a William Jones, Rhyd. Yr oedd y tri hyn yn aelodau gwreiddiol yn Cross Inn, a Thomas Jenkins wedi dechreu pregethu yno. Wedi cael y capel yn barod ymffurfiodd yr aelodau oedd yn byw yn yr ardal yn eglwys; a rhoddasant alwad i Mr. Thomas Jenkins i fod yn weinidog, ac

514

urddwyd ef Mawrth 25ain, 1827. Nid oedd nifer yr aelodau ar y pryd and 32. Cafwyd adfywiad grymus yn 1828, pryd yr ychwanegwyd llawer at yr eglwys; ac yn yr un flwyddyn dechreuwyd pregethu yn nghymydogaeth Temple Bar, yr hyn a fu yn gychwyniad i'r achos sydd yn awr yn Milo. Cafwyd yma lwyddiant mawr draehefn yn 1840, ac ar ol hyny penderfynwyd adeiladu capel newydd, gan fod yr hen yn fychan ac adfeiliedig. Ail-adeiladwyd ef yn 1842. Yn 1848 cododd yr eglwys a'r ardal ysgoldy helaeth i gynal Ysgol Frytanaidd. Bu Mr. Jenkins yn dra llwyddianus yma, a gwelodd yr eglwys a gychwynwyd yn benaf trwy ei offerynoliaeth ef ei hun yn rhifo uwchlaw dau cant o aelodau, heb gyfrif yr eglwys yn Milo. Bu farw Mai 23ain, 1857, yn 58 oed.

Wedi bod yspaid dwy flynedd heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. David Henry, Cymer-glyn-corwg, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Medi 20fed, 2lain, a'r 22ain, 1859, a bu yma yn llafurio mewn cymeradwyaeth a pharch, a chyda mesur helaeth o lwyddiant, hyd ei farwolaeth, Gorphenaf 12fed, 1873, ac y mae yr eglwys ar hyn o bryd yn amddifad o weinidog.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

THOMAS JENKINS. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1799, mewn lle a elwir Lanlash, yn mhlwyf Llandybie, yn Sir Gaerfyrddin. Derbyniwyd ef yn aelod yn Cross Inn, lle yr oedd ei rieni yn aelodau, pan yn ugain oed; ac yn fuan ar ol hyny anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ni chafodd ychydig o fanteision addysg foreuol, ond yr oedd yn ddyn o ddeall cryf, o sel danllyd, ac o dduwioldeb amlwg. Urddwyd ef yn weinidog yn Mhenygroes yn Mawrth, 1827, a llafuriodd yn ei ardal enedigol gydag arddeliad a llwyddiant mawr am ddeng mlynedd ar hugain.

Yr oedd yn mhob ystyr yn ddyn tra nodedig. Tynai ei ymddangosiad sylw pawb. Edrychai yn ddwys, trymaidd, a myfyrgar, er ei fod pan y dechreuai siarad yn hollol siriol a chyfeillgar. Yr oedd wedi colli un llygad, ac yr oedd ei wedd yn deneu a glaswyn ; ac yn ei wisg a'i ddillad yr oedd hollol ddiofal. Yr oedd gogwyddiad athronyddol yn ei feddwl fel yr oedd bob amser, am gael allan y rheswm am bobpeth. Cydnabyddai pawb ai hadwaenai ei fod yn ddyn o feddwl grymus, ond mai darn o'r graig heb gaboli ydoedd. Nerth a difrifoldeb oedd ei nodweddion amlycaf fel pregethwr, er byddai yn aml yn ei sylwadau lawer o dlysni a phrydferthwch ; ond gwelsom ei ddifrifwch sanctaidd lawer gwaith yn gorchfygu cynnulleidfaoedd. Yr oedd yn ddyn pur a sanctaidd, a'i enaid yn teimlo yn ddwfn yn herwydd anwiredd y wlad. Cafodd y Gymdeithas ddirwestol ynddo un o'i phleidwyr mwyaf aiddgar, a daliodd yn ei sel hyd ei ddiwedd. Tybiai rhai fod ei sel weithiau yn ei gario i eithafion ar y mater hwnw, ond yr oedd gweled ymlygriad y wlad mewn diota, cyfeddach, a meddwdod yn cynhyrfu ei holl enaid. Yr oedd ei deimladau yn

515

ddwys, a'i argyhoeddiadau yn gryfion, yr hyn a'i gwnelai yn hallt i bechod, ac yn wrol a diofn i dystiolaethu yn ei erbyn. Gwaelodd ei iechyd yn fawr y flwyddyn olaf y bu byw, ac yr oedd yn amlwg arno fod amser ei ymddatodiad yn nesau. Ni ddywedodd lawer yn ei gystudd, ond yr oedd yn amlwg ei fod yn aeddfedu i'r nefoedd. Bu farw Mai 23ain, 1857, yn 59 oed, a gadawodd weddw ac un mab ar ei ol. Claddwyd ef yn mynwent Penygroes, lle y daeth torf fawr i dalu eu teyrnged olaf iddo, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan amryw o'r gweinidogion cylchynol'*

DAVID HENRY. Ganwyd ef yn mhlwyf Llangydeyrn,(sic) gerllaw Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1817, a phan yn ieuangc derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Mhenygraig, lle yr oedd ei rieni yn aelodau. Aeth i weithio i Maesteg, Sir Forganwg, ac yr oedd yno yn un o gychwynwyr yr achos sydd yn awr yn Zoar, Maesteg, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu am dymor dan addysg yn Llanelli, ac wedi hyny dychwelodd i Maesteg, a phriododd a merch yr hen bregethwr parchus Rees Powell. Derbyniodd alwad o Cymer-glyn-corwg, ac urddwyd ef yno yn mis Hydref, 1849 ; ac wedi llafurio yno am ddeng mlynedd symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Penygroes a Milo, lle y bu yn dra defnyddiol hyd ei farwolaeth. Yr oedd Mr. Henry yn ddyn craff, o wybodaeth eang, yn ysgrythyrwr cywir a chyflawn, yn gyfansoddwr trefnus, ac yn bregethwr pur a sylweddol, ac eto yn flasus i'w wrando. Ysgrifenodd lawer mewn rhyddiaeth a barddoniaeth o dan yr enw " Myrddin Wyllt ;" ac yr oedd llawer o elfenau y llenor a'r bardd yn cydgyfarfod ynddo. Bu yn ddiwyd llafurus yn y weinidogaeth, a gwelodd nad aeth ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Yr oedd ei iechyd wedi gwaethygu yn fawr yn ei flynyddoedd olaf, ond dyoddefodd ei gystudd yn amyneddgar, a bu farw Gorphenaf 12fed, 1873, yn 56 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Milo, a daeth tyrfa fawr i ddilyn ei weddillion marwol i dy ei hir gartref.

 

MILO

(Llanfihangel Aberbythych parish)

Mae y capel yma yn mhlwyf Llanfihangel Aberbythych. Dechreuwyd pregethu gan Mr. T. Jenkins, Penygroes, yn yr ardal yn y flwyddyn 1828. Cedwid hefyd Ysgol Sabbothol yn Llwyndu, a derbyniwyd amryw o'r ardal yn aelodau yn Mhenygroes. Adeiladwyd yma gapel bychan yn y flwyddyn 1830, a sefydlwyd eglwys ynddo fel cangen o Benygroes. Y rhai a gymerent y llaw benaf yn nghychwyniad yr achos yma heblaw Mr. Jenkins oeddynt David Thomas, Brynbach; Morgan Evans, Gwernoleu; William Thomas, Llwyndu; a Phillip Eyans, Bwlchygroes. Daeth yr achos yma rhagddo yn fawr, ac yn 1851 adeiladwyd yma un o'r capeli tlysaf yn yr holl wlad. Mae y lle o'r dechreuad o dan yr un weinidogaeth a Phenygroes.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys yma.

*Cyhoeddwyd Cofiant iddo gan Mr. Davies, Llandilo, lle y ceir golwg helaeth ar ei gymeriad, a brasluniau o'i bregethau.

516  

 

TABERNACL, LLANDILO

Dechreuodd yr Annibynwyr bregethu yn Llandilo tua'r flwyddyn 1796. Yr oedd yma rai Annibynwyr yn preswylio yr amser hyny, os nad cyn hyny, a chyfarfodydd gweddio yn cael eu cynal, a phregethu achlysurol, yn nhy un John Thomas (yr hwn hefyd a elwid Jack o'r Gate). Yr ydym er pob ymchwiliad wedi methu cael allan pa flwyddyn y dechreuwyd cadw gwasanaeth rheolaidd yma, ond yr ydym yn tybied mai tua'r flwyddyn 1800. Yn mysg yr Annibynwyr proffesedig yma yr amser hwnw, neu yn fuan wedi hyny, gellir enwi John Thomas, Anne Thomas, ei wraig ; John Evans, Towy Cottfach ; Arthur Dayies, Saddler ; John Rowland, Llandilo ; Phillip Pergrine (sic); Jane Lewis, Caledfwlch; Anne Thomas, Troedyrhiw, ger Glandulais, ac amryw eraill. Tua'r flwyddyn 1803 cymerwyd hen Ystabl yn heol Caerfyrddin, a gwnaed capel bychan, cryno, a chyfleus o hono. Pan symudodd y frawdoliaeth o dy John Thomas i'r capel newydd, daeth amryw i'r gyfeillach. Derbyniwyd y pump canlynol yr un Sabboth - y pump cyntaf wrth bob tebyg a dderbyniwyd yn y capel newydd : - Mary Roberts, Caledfwlch ; Anne Jones, Pontyberem (fel ei gelwid); Anne Rhydderch a Margaret Morgan, Llandilo ; ac un Elizabeth, gwraig i arddwr yn y dref. Derbyniwyd yma fagad o dro i dro i gymundeb yr eglwys. Byddai Meistri D. Davies, Sardis; J. Bowen, Castellnedd; J. Davies, Alltwen ; D. Davies, Abertawy ; D. Williams, Llanwrtyd; M. Jones, Trelech ; ac eraill, yn ymweled yn achlysurol a'r lle. Ni bu yr achos yno yn gryf un amser, ac hyd y gwyddom, ni ddigwyddodd dim nodedig yn ei hanes ; ond yr oedd yno ychydig enwau a'u calonau yn gynhes at achos yr Arglwydd, a chafwyd llawer cyfarfod hyfryd a dymunol yn Y eapel bychan. Ond ryw fodd yn mhen chwech neu saith mlynedd, mwy neu lai, nid oedd yno fawr o'r ddiadell fechan yn aros heb ei gwasgaru.

Yr oedd rhai wedi gadael y dref a myned i leoedd eraill i fyw, eraill wedi oeri a gwrthgilio, a'r gweddill yn gwangaloni, an yn y diwedd darfyddodd yr achos yn hollol. Wedi i'r capel bychan yn y dref gael ei gau, aeth yr ychydig aelodau oedd yno, - rhai i Capel Isaac ac eraill i Bethlehem; ond y mae yn eglur eu bod yn selog dros egwyddorion Annibyniaeth, canys daliasant wrthynt o dan gryn anfanteision. Yr oedd Annibyniaeth erbyn hyn yn y dref a'r cylch agosaf, fel colomen Noah, yn ehedeg yn yr awyr, heb le i osod ei throed i lawr, ac felly y bu am dymor. Yr oedd y pryd hwnw wr o'r enw William Jones, yn byw yn Melin Tregib, gelwid ef yn gyffredin William o'r Felin. Yr oedd wedi treulio llawer o'i oes yn aelod gyda'r Methodistiaid yn y dref; ond drwy ryw amgylchiadau, cyfododd teimladau anghysurus rhyngddo a'i hen frodyr, ac ymneillduodd oddiwrthynt, ac ymunodd a'r Annibynwyr. Rhoddodd wahoddiad i Mr. R. Powell, Cross Inn, ac eraill o weinidogion yr Annibynwyr, i ddyfod i bregethu i'w dy, a rhoddodd hyn ail gychwyniad i Annibyniaeth yn y gymydogaeth. Yr oedd pwys y gwaith yn gorphwys ar ysgwyddau William Jones a i deulu agos yn hollol am dymhor. Yr oedd ei dy, ei eiddo, a'i galon, yn

517

wastad at wasanaeth crefydd yr Arglwydd Iesu Grist. Byddai pregethu yn aml yn nhy William Jones, a chedwid cyfarfodydd gweddio a chyfeillachau crefyddol yn aml yno. Yn mhen rhyw ysbaid o amser wedi dechreu pregethu yn y Felin, aed i edrych allan am dir i adeiladu capel, a llwyddwyd i gael darn o dir agored, ryw ehwarter milldir o'r dref, gan y Gwir Anrhydeddus John, Arglwydd Cawdor. Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn y fiwyddyn 1817, a galwyd ef y TABERNACL ; a bu Mr R. Powell, Cross Inn, yn gweinidogaethu ynddo am ddeuddeng mlynedd. Yr oedd Mr. Powell yr amser hwnw yn mlodau ei ddyddiau, ac yn boblogaidd iawn fel pregethwr, a derbyniodd ugeiniau i gymundeb yr eglwys. Yn 1830 cyfododd anghydfod rhwng Mr. Powell a'r eglwys yn y Tabernacl, yr hwn a derfynodd mewn ymraniad : aeth plaid fechan allan, a buont am ryw gymaint o amser yn addoli yn y dref, ond y diwedd fu iddynt symud i Benybanc. Yn yr " Efangylydd," am Ebrill, 1833, yr ydym yn cael i'r penderfyniad canlynol gael ei gynyg a'i dderbyn gan y frawdoliaeth mewn cynnadledd o weinidogion y sir, yn Nghyfarfod Chwarterol Capel Isaac : - " Cytunwyd hefyd, fod i'r achos ieuangaidd yn Mhenybangc, ger Llandilo, gael ei dderbyn i'r Cyfundeb, ac i gael ei noddi gan y gweinidogion ; ond ar yr amod na bydd i eglwys na chynnulleidfa gael ei ffurfio yn Llandilo, dan yr amgylchiadau presenol, oblegid bod y Tabernacl yno yn barod. Yr ydys yn ymdrechu cadw heddwch a thangnefedd yn ninasoedd Israel." Mae yn anhawdd dyweyd yn bendant beth oedd gwir achos y cweryl yn y Tabernacl, a dichon i gydgyfarfyddiad o wahanol bethau ei achosi. Ymadawodd Mr. Powell a'r Tabernacl yn nechreu y flwyddyn 1831; ac yn Hydref yr un flwyddyn rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Williams, gwr ieuanc o eglwys Bethel, Cwmaman, i fod yn weinidog iddi, yr hwn a gydsyniodd a'u cais, ac urddwyd ef yn y Tabernacl, Llandilo, cyn ei fod yn gyflawn ugain oed. Dywedir fod Mr. Williams yn rhyfeddol o addfwyn a charuaidd o ran ei dymer, ac yn bregethwr tlws, eglur, a tharawiadol iawn. Ymunodd amryw a'r eglwys yn ystod yr amser y bu yn gweinidogaethu iddi, ac er ei fod yn llafurio o dan gryn anfanteision drwy ei fod yn byw yn benaf gyda'i berthynasau yn mhell oddiwrth bobl ei ofal, ac hefyd fod cryn ddyled yn aros ar y capel, a nesaf peth i ddim yn cael ei wneyd er ei ddileu, ac at hyn, a gwaeth na'r cwbl, yr oedd cryn lawer o deimladau anghysurus yr ymraniad yn aros; ond er cwbl yr oedd yn barchus iawn yn y lle ; yr oedd yn sefyll yn uchel yn marn yr eglwys a'r gynnulleidfa, ac wedi eu gwasanaethu yn ffyddlon, a bod yn lled lwyddianus yn eu plith am dair blynedd, efe a symudodd i'r Maendy, sir Forganwg. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1835, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. William Williams, gwr ieuangc o eglwys Capel Isaac, y pryd hwnw yn fyfyriwr dan ofal Mr. W. Jones, Rhydybont, yn awr Heolycastell, Abertawy. Yr oedd yr eglwys wedi cael manteision blaenorol i'w adnabod fel dyn, cristion, a phregethwr, gan mai mewn ardal gyfagos y magwyd ef. Urddwyd ef i'r weinidogaeth yma ar y 6ed a'r 7fed o Fai, 1835. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Rees, Llanelli. Holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Davies, Llanymddyfri. Dyrchafwyd yr Urddweddi gan Mr. O. Owens, Bwlchnewydd. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Jones, Rhydybont, ac i'r eglwys gan Mr. D. Jones, Gwynfe. Wedi i Mr. Williams gael ei neillduo i'r swydd weinidogaethol, ymroddodd yn egniol i'w waith heb arbed corff na meddwl. Teimlai pawb fod gwr Duw yn eu mysg, ac fel yr oedd yn naturiol disgwyl

518  

parodd ei sefydliad yn y lle gyffroad ac adfywiad mawr yn yr eglwys a'r gynnulleidfa. Yr oedd ei bregethau mor rymus a'i ysbryd mor danllyd, fel na bu yn llafurio nemawr o amser cyn enill sylw y wlad yn gyffredinol. Cyrchai y lluaws i'w wrando, ymunodd llawer a'r eglwys, a chynyddodd yr achos mor gyflym, fel yr aeth yr hen gapel yn rhy gyfyng, ac yn y flwyddyn 1840, adeiladwyd capel newydd, ac agorwyd ef Mehefin 26ain a'r 27ain y flwyddyn hono, ac o hyny allan daeth yr achos rhagddo gan enill tir yn barhaus. Mwynhaodd yr eglwys heddwch mawr trwy holl dymhor gweinidogaeth Mr. Williams, ac enillodd safle yn ngolwg y cyhoedd nad oedd ganddi o'r blaen. Yr oedd Mr. Williams yn caru pobl ei ofal yn fawr, ac yn cael ei garu ganddynt ; ac yr oedd eu hymddiried ynddo agos yn ddiderfyn. Creai ei ymweliadau fywyd trwy y teuluoedd a'r eglwysi. Yr oedd dyled ar yr hen Dabernacl pan godwyd y newydd yn 1840, ond talwyd yr hen ddyled yn nghyd a'r newydd hyd at ryw gan' punt cyn diwedd oes Mr. Williams. Bu Mr. Williams farw Medi 6ed, 1846, yn 34 oed, wedi bod yn gwinidogaethu yn y lle gyda llwyddiant anarferol am fwy nag un-mlynedd-ar-ddeg. Mawrth 15fed, 1847, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr yn Athrofa Aberhonddu, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth Awst 10fed a'r 11eg. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Hughes, Trelech ; derbyniwyd cyffes ffydd yr urddedig gan Mr. D. Davies, Pantteg ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Jones, Gwynfe ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Davies, M.A., Athraw Ieithyddol Athrofa Aberhonddu; ac ar ddyledswydd yr eglwys  gan Mr. T. Rees, Siloa'i Llanelli. Ymosododd Mr. Davies o ddifrif ar y gwaith o symud ymaith y ddyled oedd yn aros ar y capel, a chafodd y cydweithrediad mwyaf calonog yn yr eglwys a'r gynnulleidfa, ac yn fuan talwyd y geiniog olaf. Yn ngwanwyn 1854, adeiladwyd Ysgoldy Brytanaidd yn ymyl y capel, yr hwn a gostiodd 238p. 13s. 4c. Talwyd yr holl dreuliau yn mhen tair blynedd. Cychwynwyd Ysgol Frytanaidd mewn cysylltiad a'r Tabernacl yn Hydref, 1854, yr hon sydd wedi bod yn llewyrchus a llwyddianus hyd yn hyn, a'r hon sydd wedi gwneyd lles dirfawr yn yr ardal.

Gan fod capel y Tabernacl, yr hwn a adeiladwyd yn 1840, wedi dadfeilio yn fawr, barnwyd yn briodol ei ail adeiladu. Yn Ebrill, 1860, y dechreuwyd adeiladu yr un presenol. Mr. T. Thomas. Glandwr, oedd y cynllunydd, a Mr. D. Williams, Llanfynydd, oedd yr adeiladydd. Mesuriad y  ty yw 64 troedfedd wrth 42 troedfedd dros y muriau. Mae o wneuthuriad cadarn, ac yn un o'r rhai mwyaf cyfleus a phrydferth yn y Dywysogaeth. Agorwyd ef ar y 15fed a'r 16eg o Hydref, 1861. Am 11 o'r gloch y dydd cyntaf dechreuwyd gan Mr. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, a phregethwyd yn Saesneg gan Mr. T. Jones, Albany, Llundain. Am 2, dechreuwyd  gan Mr. I. Davies, Cwmaman, a phregethodd Meistri D. C. Jones, Abergwyli, a T. Jones, Llundain. Am 6, dechreuwyd gan Mr. H. Evans, Penbre, a phregethodd Meistri J. Thomas, Bryn, R. Pryse, Cwmllynfell; a J. Evans, Capel Sion. Am 10, dydd Mercher, dechreuwyd gan Mr. D. Davies, Pantteg, a phregethodd Meistri J. Davies, Aberaman ; J. Hughes, Dowlais; a D. Williams, Troedrhiwdalar. Am 2, dechruwyd gan Mr. D. Rees, Llanelli, a phregethwyd gan Meistri W. Jones, Heolycastell, Abertawy, a J. Mathews, Castellnedd. Am 6, dechreuwyd gan Mr. H. Jones, Ffaldybrenin, a phregethodd Meistri T. Thomas,

 

CONTINUED


Return to top

[Gareth Hicks 5 Sept 2008]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

notices, etc., that are to be found on individual information pages withill

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

Valid HTML 4.01 Transitional