| Carmarthenshire | Contents |
Pages 519 - 532
Proof read by Eleri Rowlands (April 2008)
Chapelks below;
|
|
519
Glandwr, a T. Jones, Llundain. Traul yr adeiladaeth yn nghyd a'r muriau o gylch y gladdfa oedd 1236p. 7s. 3c.; ac erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad yr oedd y swm o 754p. 6s. 5c wedi eu casglu; ac yn mhen chwe' mlynedd yr oedd y Tabernacl newydd yn rhydd o ddyled, a phawb yn cydlawenhau. Y mae yn perthyn i'r eglwys chwech o Ysgolion Sabbothol, yn y rhai yr ymdrechir addysgu plant, ieuengctyd, ac eraill i ddarllen a deall yr Ysgrythyrau Sanctaidd. Mae eglwys y Tabernacl wedi bod bob amser yn ewyllysgar a chwbl barod i gymeryd ei rhan gyda holl achosion cyhoeddus crefydd. Heblaw cynydd graddol a chyson, cafodd ei bendithio ag amryw adfywiadau crefyddol grymus oddiar ei chychwyniad hyd yn awr. Mae Mr. Davies yn parhau i lafurio yma, a'r achos yn myned rhagddo yn gysurus.
Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yma.
WILLIAM WILLIAMS. Ganwyd ef Ionawr 12fed, 1811, yn yr Hafod, plwyf Llangathen, gerllaw Llandilo. Enwau ei rieni oeddynt Henry ac Elizabeth Williams. Tyddynwr oedd ei dad, ac yn digon cysurus eu byd. Yr oeddynt ill dau yn grefyddol, a'i dad yn ddiacon ffyddlon yn hen eglwys barchus Capel Isaac. Derbyniwyd Mr. Williams yn aelod yn 1828, blwyddyn nodedig fel adeg o ddiwygiad yn yr eglwys. Hyd hyny treuliodd ei oes yn wyllt ac anystyriol fel ei gyfoedion; ac yr oedd ei ffraethder yn rhoddi iddo y flaenoriaeth yn eu plith. Dechreuodd bregethu yn mhen o gylch dwy flynedd wedi ei dderbyn yn aelod. Treuliodd ran o ddwy flynedd drachefn yn yr ysgol dan ofal Mr. W. Jones, Rhydybont, yn awr o Abertawy. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn Llandilo a Llansadwrn, ac urddwyd ef Mai 5ed, 1835. Bu Llangadog a Phenybanc hefyd dan ei ofal. Llafuriodd yn egniol yn y weinidogaeth, bu yn " weithiwr difefl," heb arbed corff na meddwl, ymdreuliodd yn ngwasanaeth ei Dduw. Ymunodd mewn priodas a Mrs. Morgan, Bailyllwyd, ar y 9fed o Ebrill, 1846, hyd yn hyn yr oedd wedi byw dan gronglwyd ei fam. Yr oedd ei iechyd yn flaenorol yn gwaethygu; ac erbyn pob ymdrech bu farw Medi 6ed, yr un flwyddyn, yn 34 oed. Claddwyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent y Tabernacl, Llandilo, lle yr oedd yn bresenol o gylch 25 o weinidogion. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistri T. Jenkins, Penygroes; D. Jones, Gwynfe; J. Evans, Capel Seion; D. Rees, Llanelli; T. Rees, Cendl; a J. Stephens, Brychgoed.
Ysgrifenasom gyfres o erthyglau ar " Williams, Llandilo, yn y pulpud," y rhai a ymddangosasant yn yr "Annibynwr" am 1858; ac nid ydym yn meddwl y gallwn wneyd dim yn well yma na rhoddi ychydig ddifyniadau o'r ysgrifau hyny
*Cawsom yr hanes cyflawn uchod oddiwrth Mr. Davies, Llandilo.
520
" Rhyw ddeuddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol y gwelsom Mr. Williams gyntaf erioed. Da yr ydym yn cofio y fan a'r funyd. Yr oeddym yn flaenorol wedi clywed llawer am dano, ac yn awyddus iawn am ei weled a'i glywed, ond heb gael cyfle i hyny. Dygwyddodd fod cyfarfod a elwid yn Gyfarfod Diwygiadol yn cael ei gynal yn Salem, gerllaw Llandilo. Yr oedd y fath gyfarfodydd yn cael eu cynal yn amal yn Sir Gaerfyrddin y pryd hwnw; ac yr oeddynt yn gwneyd daioni mawr. Yr oedd y pregethu ynddynt o nodwedd gyffrous yn erbyn pechodau y byd, a chysgadrwydd yr eglwys; ac yr oedd yno ddosbarth o weinidogion fel wedi eu codi gan Dduw mewn adeg neillduol i wneyd gwaith neillduol. Ond O! y fath gyfnewidiad sydd wedi cymeryd lle mewn byr amser. O'r saith bregethodd yn y cyfarfod hwnw nid oes yr un yn fyw.* Yn y canol, yn yr oedfa y boreu, yr oedd Mr. Williams yn pregethu. Ei destyn oedd, Y morwyr yn dihuno Jonah, 'Beth a ddarfu i ti gysgadur ? cyfod, galw ar dy Dduw, fe allai yr ystyr y Duw hwnw wrthym fel na'n coller.' Yr oedd yn pregethu o ddifrif, ac fel yn penderfynu y mynai ddihuno pob pechadur cysglyd, a phob proffeswr difraw; ac yr oedd rhyw fywyd, a nerth, a theimlad, yn cerdded drwy y gynulleidfa gyda'i eiriau. Yr oedd rhyw neillduolrwydd ynddo fel pregethwr ag a barai ei fod yn cario goruwchafiaeth ar y dorf, er nad oedd yr hyn a eilw y cyffredinolrwydd yn 'bregethwr mawr.'
"Pe gofynid i ni ddyweyd mewn un gair pa beth oedd neillduolrwydd mawr Mr. Williams fel pregethwr, dywedem mai 'Pregethwr argyhoeddiadol ydoedd.' Deuai at gynnulleidfa fel un anfonedig gan Dduw, a chenadwri ganddo dros Dduw at ddynion. Pregethai yn ddeffroedig, yn gynhyrfus, yn argyhoeddiadol, nes y daliai bob gwrandawr gyda'i fater ei hun yn bersonol. Ysgwyd pechaduriaid oedd ei waith. Dihunai broffeswyr cysglyd, aflonyddai ar wrandawyr diofal, datguddiai eu perygl i hunan-dwyllwyr esmwyth arnynt yn Sion, ffaglai dân yn llochesau y rhagrithwyr, ymaflai yn nghalon y pechadur cyndyn, siaradai a chydwybod y gwrthgiliwr caled, teimlai y bachgen anystyriol fod rhyw un wedi bod yn dyweyd ei hanes wrtho, ac yr oedd y ferch wyllt yn gwrando arno fel un wedi ei dal ganddo. Wedi ei wrando byddai y pechadur yn cael ei rwymo i aros gyda'i fater ei hun. Yr oedd yn bur sicr o beri i gydwybod y gwrandawr i aflonyddu arno wedi ei wrando.
"Yr oedd gwahaniaeth anarferol rhyngddo pan yn ymdrin a'r un pwnc yn athrawiaethol, a phan yn ymdrin ag ef yn ymarferol; pan yn ei ymresymu, a phan yn ei gymwyso; pan yn edrych arno mewn egwyddor, a phan yn edrych arno mewn gwaith. Gallesid tybied mai nid yr un dyn oedd, ac yr ydym yn sicr nad yr un dawn ydoedd. Yr ochr ymarferol, gymhwysiadol, argyhoeddiadol i bob pwnc, oedd yr un yr hynodai ef wrth ymdrin â hi. Ond nid yw dyweyd ei fod yn bregethwr ymarferol, cymwysiadol, yn ddigon i roddi i'r rhai na chlywsant ef ddrychfeddwl o hono; oblegid y mae llawer felly, er na chyrhaeddasant un rhan o ddeg o'i boblogrwydd ef. Yr oedd rhyw hynodrwydd hyd yn nod yn ei neillduolrwydd. Clywsom lawer o bregethwyr mor ymarferol ac yntau; ond yr oedd ynddo gydgyfarfyddiad o gryn lawer o bethau, ac er nad ydynt ar
* Yn y cyfarfod hwnw yn Salem pregethwyd y nos gyntaf gan Meistri D. Williams, Bethlehem, a T. Jenkins, Penygroes. Am ddeg dranoeth gan Meistri J. Prothero, Llangynidr; W. Williams, Llandilo; a W. Davies, Llanymddyfri. Am ddau gan Meistri J. Stephens, Brychgoed, a T. James, Hermon.
521
wahan yn ymddangos yn gymaint, ond erbyn eu dwyn at eu gilydd yr oeddynt yn rhwym o osod hynodrwydd arno. Ac yn hyn eto yr ydym yn cadw at yr hyn yr ymddangosai yn y pwlpud.
" Yr oedd ei ymddangosiad yn naturiol a dirodres. Nid oedd dim byd yn debyg arno i ragfeddwl, er gosod ei hun mewn ffurf neillduol. Nis gallesid gweled dyn mwy dirodres. Nid oedd dim yn ysgafn a chellweirus ynddo, na dim yn isel a phendrist. Nid oedd nac ystum, nac ysgogiad, na throad llygad, na thafliad eiliau, na llaesiad gwefl, na llaciad gwyneb, na chrychiad talcen, na dim byd yn debyg i rag-gynllun i ymddangos mewn rhyw ddull neillduol. Fel yr oedd ymddangosiad ei berson, felly hefyd yr oedd traddodiad ei bregeth. Nid oedd dim y gallesid barnu oddiwrtho fod ganddo unrhyw rag-gynllun pa fodd y pwysleisiai y frawddeg yma. ac ar ba air arall y rhoddai ei floedd, a pha beth a ddywedai yn ddystaw. Yr oedd holl ystumiau ei gorff, holl ddelweddau ei wyneb, holl seiniau ei lais, a holl godiadau a gostyngiadau ei draddodiad yn ymddangos vn ddangosiad cywir o'i galon a'i deimlad ar y pryd. Ac yr oedd absenoldeb pob peth tebyg i ddysg a chelfyddyd, a'r argraff a ddisgynai yn ddioed i bob meddwl ei fod yn naturiol a dirodres, yn siarad teimlad ei galon, yn cymeryd y gynnulleidfa ryw fodd heb yn wybod iddi.
" Yr oedd yn ddedwydd iawn yn ei eglurhadau. Ni byddai byth mewn angen am gydmariaeth i ddangos ei feddwl. Clywsom lawer o'i well am ddwyn engreifftiau ysgrythyrol yn mlaen i egluro ei faterion; yn wir nid oedd un hynodrwydd ynddo yn hyny; ac adwaenom lawer a wnai well defnydd o hanes effeithiol fel eglurhad; ond ni chlywsom neb yn fwy medrus i gael gafael mewn cydmariaeth syml, darawiadol, bwrpasol nag ef; na neb ychwaith yn fwy llwyddianus i wneyd cymwysiad pwrpasol o honi. Tarawai yr hoel ar ei phen yn wastad. Ac.yr oedd ei gydmariaethau bob amser oddiwrth bethau adnabyddus i'w wrandawyr; fynychaf oddiwrth arferion amaethyddol, oblegid mai yn mhlith y dosbarth yna y dygwyd ef i fyny, ac y treuliodd ei oes. Disgynai ar gydmariaeth bwrpasol, dangosai yn eglur pa beth ynddi oedd yn egluro y mater mewn golwg ganddo, dygai y cwbl mor eglur i bawb fel y symudai y dorf oll mewn eiliad, a llonder llygaid pawb yn dyweyd, 'Ie, dyna hi, ni gwelwn hi.' Uin o'r pregethau grymusaf a draddodwyd ganddo erioed oedd ei bregeth i'r hen wrandawyr. Yr oedd hono yn llawn iawn o eglurhadau bywiog a chyffrous. Y tro cyntaf y pregethodd hono yn gyhoeddus oddicartref oedd yn Nghyfarfod Chwarterol Pantteg; yr oedd yr eglurhadau mor bwrpasol, ac yn cael eu dyweyd mor gyffrous, nes yr oedd y cwbl fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynnulleidfa. Yn mysg pethau eraill, wedi chwilio i'r achosion pa fodd yr aethant yn hen wrandawyr, dywedai, fod dynion yn myned felly oblegid eu bod yn gaethion i ryw bechodau neillduol;' ac fel eglurhad, dywedai, 'iddo wel'd weithiau, wrth dynu hen berth i lawr, y ceid gafael yn ngwreiddiau bychain y goeden yn lled fuan; ond y byddai yno ryw hen stone wedi estyn yn mlaen, a chydio yn ddwfn, ac nid oedd y fath beth a'i gael yn rhydd; gallesid meddwl gan fel yr oedd y pren yn siglo nad oedd dim rhyngddo a bod yn rhydd; ond yr oedd yr hen foncyff yno; ac os gadawsid ef heb ei lwyr ddiwreiddio y gwelsid ef yn blaguro wedi hyny. Felly y gellid meddwl wrth weled hen wrandawyr yn siglo o flaen grym yr efengyl eu bod yn ymyl crefydd; ond yr oedd yr hen wreiddyn yn aros, y galon wedi ym
522
blethu am ryw bechod neillduol, ac hyd nes y ceir hwy yn rhydd oddiar hwnw nid oes gobaith am eu dychweliad.' Byddai ei bregethau yn llawn o eglurhadau syml a dealladwy o'r fath.
"Yr oedd yn taflu ei holl enaid i'w waith. Nid oedd o un pwys pa bryd, pa beth, nac yn mha le y byddai wrthi, yr oedd yn tywallt ei holl enaid allan. Nid oedd un gwahaniaeth yn ei egni a'i ymroddiad ef wrth bregethu mewn anedd, neu ysgoldy bychan y noson o flaen y gymanfa, nac a fyddai ynddo ar y maes dranoeth. Ychydig iawn o wahaniaeth oedd cynnulleidfa fawr yn fwy na chynnulleidfa fechan yn ei wneyd arno; o leiaf, yn ei egni i bregethu, byddai yn mhob man ar ei oreu. Yr oedd ei enaid yn cael ei danio gan y gwirionedd. Nid oedd ganddo ef ddim pregeth fach fer i le bychan, a phregeth fawr faith i le mawr. Mae gan lawer o bregethwyr eu pregethau neillduol, ar gyfer lleoedd neillduol, yn set sermons ganddynt trwy y blynyddau. Yr oeddynt yn dda ar y dechreu, ond drwy eu coethi a'u gloewi, eu pregethu a'u hail-bregethu, eu gwella a'u diwygio, gosod tlysau newydd ynddynt, a thynu rhai gwaelach o honynt, nes y maent o'r diwedd yn dyfod yn ddarnau cyfan, digoll a meddwl yn mhob gair, ac ystyr i bob ymadrodd. Ond nid oedd dim o hyny ynddo ef. Nid ydym yn ei feio ef am na buasai felly, nac yn beio y rhai sydd am wneyd hyny; ond yr ydym yn gwybod, pe gwnaethai hyny, y collasai lawer iawn o'i rym a'i effeithiolaeth. Yr oedd llawer o'i nerth yn newydd-deb y meddyliau iddo ei hun, ac fel y byddai ef yn cael ei danio ganddynt; byddai yntau yn tanio eraill â hwy; ond nis gallasai hen bregethau ei gynhyrfu felly. Clywsom yr un pregethau yn cael eu traddodi ganddo fwy nag unwaith; ond bob amser y troion cyntaf yr oedd oreu; yr oedd rhywfodd fel pe buasai yn colli ei hyder ynddynt, ac yn diflasu arnynt. Gwyddom yn dda mai nid y pregethau sydd oreu wrth eu darllen, rhai goreu wrth eu gwrando. Er fod Mr. Williams yn gyfansoddwr da, eto nis gallasai y cyfansoddiad ar wahan i'r traddodiad dynu sylw neillduol. Nid oes dim yn dylanwadu yn fwy ar gynnulleidfa na'r argyhoeddiad a dderbyniant wrth wrando ar bregethwr, beth bynag fyddo ei destyn, fod ei enaid wedi ei danio ganddo. Mae mwy o ddylanwad gan ysbryd siaradwr ar y gwrandawyr er eu cael i'r un feddwl ag ef, nac sydd gan ei resymau. Mae rhyw hylif bywiol yn rhedeg o galon y traddodwr trwy ei eiriau i galon y gwrandawr. Yr oedd meddyliau a geiriau Mr. Williams yn disgyn yn gynes ar glust a chalon y gwrandawr, fel newydd ddyfod allan o' ffwrn danllyd boeth ' ei enaid ef ei hun. Yr oedd holl ymadferthoedd ei enaid ef wedi eu dihuno, a phenderfynai y mynai ddihuno eraill.
"Yr oedd yn nerthol iawn yn ei draddodiad. Yr oedd o gorff cryf, esgyrnog, gewynog, a thynai ef allan i gyd. Yr oedd bob amser yn ymdeimlo yn gryfach na'i faich. Nid rhaid oedd i'r gwrandawyr gydymdeimlo a gwendid y pregethwr, ac felly golli eu golwg arnynt eu hunain. Mae y pregethwr, yn y man y byddo yn wrthrych tosturi a chydymdeimlad y dorf a'i wendid, ar unwaith yn peidio a bod o ddefnydd iddynt. Ond yr oedd Mr. Williams yn gryf iawn. Gallesid, wrth ei glywed yn pregethu yn ei ddyddiau goreu, feddwl nad oedd dim terfyn ar ei gryfder braidd. Gwelsom eithaf prawf anianyddol yn cael ei wneyd ar ei nerth yn nghymanfa Maenygroes. Yr oedd yn dywydd ystormus iawn, a'r gwynt yn gryf ac yn uchel, ac yn taro yn hollol yn wyneb y pregethwyr. Efe oedd i bregethu gyntaf y boreu hwnw. Yr oedd yno dorf fawr o
523
ddynion corffol cryfion, y fath ag a fegir yn Sir Aberteifi. Cyfododd i fyny i bregethu, ei destyn ydoedd, 'Y rhai sydd oddiallan, Duw sydd yn eu barnu.' Rhoddai gryn nerth wrth ddechreu, ac yr oedd hyny yn ofynol cyn y gallai y dorf oll ei glywed. Yr oedd ganddo ddarluniau ofnadwy o gyflwr annuwiolion fel rhai oddiallan. Oddiallan i Grist, oddiallan i'r eglwys, ac oddiallan i'r nefoedd. Defnyddiai iaith yr annuwiol fel un yn ymffrostio yn ei ryddid, 'Nad oedd e'ddim yn eglwys Dduw, a gallai fwynhau ei hunan yn y ffair, ac ymollwng gyda'i chwantau; ac os dygwyddai fyned dros y terfyn, ei fod ef yn wr rhydd heb hawl gan neb i'w alw i gyfrif;' a dilynai yn mlaen yn yr un dull; ond yn ddisymwth y mae yn troi arno, a chan edrych gyda difrifwch ofnadwy, yn estyn ei law fel pe buasai am gymeryd gafael yn yr ymffrostiwr rhyfygus, a chyda nerth ac awdurdod, dywedai yn groew, 'Y rhai sydd oddiallan, Duw sydd yn eu barnu. Y mae un i'th alw dithau i gyfrif wr.' Ac er holl wrthwynebiad y gwynt cyrhaeddai ei eiriau i gyrau eithaf y dorf. Yr oedd ganddo ymadroddion cryfion, gafaelgar, nerthol, ar hawl a chymwysder Duw i'w barnu, ac yn cael eu traddodi gyda'r fath nerth ofnadwy, nes dan bwysau ei eiriau miniog, ei frawddegau grymus, ei ddifrifwch sobrddwys, ei lais treiddiol, ac ymdywalltiad ffrydiau ei hyawdledd, y crymai y dynion cryfaf ger ei fron. Yr oedd y tro hwn yn un o'r rhai mwyaf aruthr a brawychus y clywsom ef erioed; ac yn cynwys mwy o ryw aethau difrifol, a llai o ffraethder bywiog nag a fyddai arferol yn ei bregethau. Daliodd ati felly yn nanedd y gwynt am awr gron; a pan yr eisteddodd i lawr yr oedd yn crynu fel deilen dros gryn amser gan gymaint o ymadferthoedd corfforol a meddyliol oedd wedi eu rhoddi allan ganddo.
"Mae y naill a'r llall o'r pethau yna, erbyn eu dwyn at eu gilydd, yn rhyw gynorthwy i ddeall pa beth oedd ei neillduolrwydd, ac yn cyfrif paham yr oedd ganddo y fath feistrolaeth ar ei wrandawyr. O angenrheidrwydd, yn ol nodwedd ei weinidogaeth, gorchfygu y gynnulleidfa y byddai, ei meistroli yn deg. Nid swyno y dorf yn ddiarwybod iddynt, a'u mwydo mewn dagrau, a gwneyd a fynai a hwy wedi hyny. Medrai Griffiths, Castellnedd, swyno y gynnulleidfa â phereiddiwch ei lais, ac ymdywalltiad ei hyawdledd, nes peri iddynt anghofio y byd yn llwyr, a thybied eu bod haner y ffordd i'r nefoedd, ac yntau fel udgorn clir yn swnio yn beraidd. Ond nid felly y byddai Williams, Llandilo. Gellir gyrru cynnulleidfa i wylo fel plant heb ei gorchfygu, a gellir ei meistroli trwy eu siarad allan o anadl heb eu gyro i wylo. Clywsom ambell bregethwr, ar adroddiad hanesyn effeithiol, neu droad swynol yn ei lais, yn gwneyd pob grudd yn wlyb gan ddagrau, ond byddai yr holl argraffiadau wedi eu dileu cyn pen deng mynyd. A gwelsom bregethwyr wedi gorchfygu cynnulleidfa mor llwyr nes eu cael oll i blygu eu penau, ac er nad oedd yno swn wylo, eto yr oedd y dylanwad mor gryf fel na feiddiant godi eu llygaid i fyny wrth gyfeirio tua'r drws. Yr oedd yn hawdd darllen arnynt, wrth eu gweled yn myned allan, eu bod yn teimlo eu bod wedi colli'r dydd. Gwelsom Mr. Williams yn gorchfygu cynnulleidfa felly. Casglai nerth, ymosodai arnynt, ymlidiai hwy o bob man, dilynai hwy i bob lloches, diarfogai hwy o bob gwrthddadl, cymerai o'u genau bob esgus; os ciliant i fan arall, byddai yntau ar eu hol, dilynai hwy nes eu dal; wedi eu dal, curai hwy nes eu cael i lawr; wedi eu cael i lawr, gwasgai ar eu hanadl nes cael boddlonrwydd
524
eu bod yn ildio; yna agorai ddrws gobaith o'u blaen, dygai oludoedd yr efengyl ger eu bron, cymellai hwy i gyfranogi, troellai ei ddawn yn ddeniadol i'w gwahodd, bloeddiai nes gwefreiddio y gynnulleidfa, cynhyrfai bywyd trwy y lle fel rhai wedi cael ysglyfaeth lawer.
"Yn adeg y diwygiad grymus yn 1840 aeth i Liverpool i dreulio ychydig Sabbathau yno i wasanaethu yr eglwys yn y Tabernacl. Yr oedd diwygiad crefyddol nerthol yn Ngogledd Cymru ar y pryd, a'r wreichionen wedi cydio yn Liverpool, ac yr oedd yn anmhosibl cael gwell megin i'w chwythu yn fflam. Yr oedd ei enaid fel pentewyn yn barod i gymeryd tân, llanwyd ef a'r Ysbryd Glan, llosgai ei enaid mewn awydd am achub eneidiau; gweddio, areithio, a phregethu oedd ei fwyd a'i ddiod. Yr oedd yn ddyn o bwrpas ar gyfer adeg felly, a'i ddawn bywiog, ei ffraethder cyffrous, a'i nerth corfforol, a'i gwnai yn bob peth a allesid ddymuno mewn adeg felly. Aeth tuag adref yn llawn o'r un ysbryd, ofnai i'w galon oeri, i'w zel ddiffodd, ac i ysbryd y diwygiad ei adael cyn cyrhaedd gartref.
'Dychwelai o'r Gogledd gan holi ei hunan,
A'i byw oedd y teimlad ddaeth yno i'w ran;
Awyddai ei gadw, 'diwygiad Llynlleifiad'
Oedd testyn ei siarad wrth bawb yn mhob man.
'Wrth fyw yn nghymdeithas ei frodyr Gogleddol,
Cynhyrfwyd ei enaid anghofiodd y llawr;
Gwnaeth aelwyd o'i fynwes i gludo'r gwres nefol,
O lan môr Llynlleifiad i Landeilofawr
Ni oerodd wrth groesi oer fryniau St. Armon,
A dringo dros gopa hen Ros y Saith Maen;
Calonau ugeiniau yn ngwigoedd Brycheiniog.
Wrth ddychwel i'w artref osododd ar dau'
Wrth fyned adref taflodd wreichionen y diwygiad i hen goedwig Troedrhiwdalar, nes yr aeth yn goelcerth. Wedi cyrhaedd gartref, achub oedd y cwbl ganddo; am hyny gweddiai, y myfyriai, y siaradai, y cynghorai, ac y pregethai. A rhoddodd, y cyfnod yma, ddadblygiad llawer helaethach i'w alluoedd, dygwyd ef i gydnabyddiaeth eangach, tynwyd ei enaid ef allan, yr oedd fel dyn ar ei eithaf wedi ymagor i gyflawni ei weinidogaeth.
"Bellach y mae yn llawn pryd i ni geisio tynu portread o hono. Yr ydym yn bur sicr na allwn wneyd hyny mor gywir fel y gellir dyweyd, Dyna Williams Llandilo. Yr anhawsder ydyw cael safle fanteisiol i edrych arno mewn trefn i dynu darlun o hono. Clywsom ef lawer gwaith, mewn gwahanol fanau, yn pregethu ar wahanol destynau, mewn gwahanol hwyliau; ond nid oes un amgylchiad neillduol o flaen ein meddwl oedd yn tra rhagori ar bob tro arall. Ond odid na thybia rhai ein bod yn lliwio yn rhy gref, ond ein barn bob amser yw, y dylid darlunio y dyn ei hun, a hyny yn y fan oreu arno. Yn gyffredin y mae yr argraff gyntaf a dderbynir i'r meddwl yn lled debyg o fod yn gywir, amcanwn gan hyny edrych ar Mr. Williams mewn cysylltiad a'r tro cyntaf y clywsom ef yn pregethu mewn cymanfa, a'r ail dro y gwrandawsom ef erioed.
" Yr oedd cymanfa yn Bwlchnewydd, yn yr haf, ddeuddeng mlynedd ar hugain yn ol, a dysgwylid am amryw weinidogion dyeithr i fod yn bresenol; ond oblegid rhyw amgylchiadau methodd rhai o honynt a dyfod. Hysbyswyd gan hyny y byddai i Mr. Williams, Llandilo, ac un arall i bregethu y prydnawn cyntaf. Nid oedd yn drefn arferol i roddi neb o
525
weinidogion y sir i bregethu yn y gymanfa pan y byddai yn y sir. Ond gan fod rhai o'r dyeithriaid a ddysgwylid wedi eu siomi, a Mr. Williams y pryd hwnw yn nerth ei boblogrwydd, barnwyd yn ddoeth ei osod i bregethu, ac nid allasai dim fod yn fwy boddhaus gan y gwrandawyr oll.
Cynelid y gymanfa ar gae lled agored, yn tueddu at fod yn llethrog. Yr oedd yr esgynlawr wedi ei chodi ar y tir isaf, a'r dorf oll o'i blaen yn fanteisiol iawn i bawb weled y pregethwr, ac i'r pregethwr weled y dorf. Yr oedd y pregethwyr agos oll ar yr esgynlawr. Safem ni yn nghwr pellaf y gynnulleidfa, eto yn ddigon agos i glywed y cwbl, ac mewn lle manteisiol i weled y pregethwr a'r gwrandawyr. Traddodwyd pregeth fer, flasus, doddedig, yn gyntaf gan ddyn bychan oedranus, oddiar y geiriau, 'A ymlanhei di, pa bryd bellach?' Yr oedd rhyw arogl hyfryd gyda'i weinidogaeth, 'fel arogl maes a fendithiodd yr Arglwydd.'*
" Yn ddioed dacw Williams Llandilo ar ei draed. Dyna fe ddarllenydd, a welaist ti ef erioed ? Mae yn ddyn o wneuthuriad cadarn, yn ymddangos o gylch 32 oed, ond gall nad yw yn gymaint; mae o daldra canolig, nid yw yn dew, er fod golwg gorffol arno, ac esgyrn ei wyneb yn lled uchel. Mae ei wisg yn lan a thrwsiadus, heb ddim yn goegaidd i dynu sylw ar y naill law, na dim yn gyffredin i dynu sylw ar y llaw arall. Sai i fyny yn syth, gan droi dalenau y Bibl yn bur brysur. Mae yn hawdd deall fod ei feddwl yn llawn cyffroad, edrycha braidd yn sarug, nid yw ei wyneb yn ei liw naturiol, ac y mae ychydig lesni ar ei wefusau. Mae yn hawdd deall arno fod ei enaid wedi dihuno, ac yn deimladol fod ganddo genadwri bwysig i'w dwyn. Mae arwyddion pryder drwy y dorf, ac nid anhawdd darllen ar eu hwynebau fod un y dysgwyliant lawer wrtho ar agor ei enau. Dyma y canu yn diweddu, a bron cyn i'r dorf gael hamdden i feddiannu eu hunain, darllenai ei destyn mewn cywair uchel, yn hyglyw i'r dorf oll, Dat. iii. 12 : 'Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach, ac mi a ysgrifenaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw y Jerusalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o'r nef oddiwrth fy Nuw i; ac mi a ysgrifenaf arno ef fy enw newydd i.' Nid oedd dim yn narlleniad y testyn yn ein taro, yr oedd braidd yn frysiog, heb arwydd fod unrhyw ofal am bwyslais nac aceniad. Ac yr oedd y prysurdeb gyda'r hwn y dechreuodd yn bradychu rhyw fath o ofnusrwydd, er i'r sylwedydd cyffredin yr arddangosai hyfdra a gwroldeb mawr. Yr oedd y rhagymadrodd yn agoriad ar y llythyr at eglwys Philadelphia; ac yr oedd yr holl sylwadau yn eglur a phriodol, ac yn arwain i mewn yn ddigon naturiol. Ac eto y mae rhyw beth ar ol, y mae sylw y gynnulleidfa heb i gael, mae y gweinidogion y tu ol iddo yn bur ddigynwrf, ac nid ymddengys ynddynt ychwaith y diflasder, a'r hunan ddigonedd hwnw, welir yn rhy fynych mewn gweinidogion wrth wrando eu gilydd; ac y mae y pregethwr yn ymdeimlo ei fod mewn cylch, a bod yn rhaid tori hwnw cyn y daw y dorf ac yntau i ymyl eu gilydd. Ond y cwestiwn ydyw pa fodd i'w dori. Un gair all ei wneyd, ond y gamp ydyw cael gafael ar y gair hwnw. Wedi ymdroi yn lled faith, nid yn orfaith ychwaith, y mae yn parotoi at ddosraniad ei destyn, 'Cymeriad a gwobr y duwiol.' Nid oedd ei raniadau ond syml a chyffredin; ond yn ddioed wedi eu crybwyll, mae mewn dull ffraeth yn gwneyd math o ymddihurad dros bregethu yno, 'Na feddyliodd mewn un modd wrth ddyfod yno am bregethu, gan ei fod
*Mr. B. Griffith, Trefgarn.
526
yn ei sir; ond gan iddynt ei alw ati, ei fod yntau yn myned i'w galw hwythau oll i ryfel.' Derbyniwyd y sylw gyda gwên foddhaus gan y dorf oll, unai y gweinidogion yn yr unrhyw, dyna yntau mewn eiliad yn ymryddhau, torai yr holl gylchau oedd o'i gwmpas, newidiai y sarugrwydd oedd hyd yma yn ei lygaid yn llonder a bywiogrwydd, ciliai y glesni oddiar ei wefusau, a'r gwyni oddiar ei ruddiau, a gwisgai ei wynebpryd ddelw sirioldeb; ac fel yn awyddus am gadarnhau e nerth, a chryfhau ysbryd, dymunai am ran yn eu gweddiau am i'w ymdrech fod yn llwyddiannus i'w cael oll yn orchfygwyr; ac wedi i ganoedd ar unwaith arwyddo eu parodrwydd mewn mil o amenau, nes ysgwyd y gynnulleidfa oll, ymaflai yntau o ddifrif yn ei waith, fel un yn teimlo fod ganddo yntau frwydr i'w hymladd.
"Y darluniad o'r cristion, 'Un yn gorchfygu.' Cymerai olwg ar ei elynion, ei ryfel â'i elynion, a'i fuddugoliaeth ar ei elynion. Gosododd ger bron bedwar o elynion cryfion ag y mae gan bob cristion i ymladd â hwy, y byd, y cnawd, y diafol, a'i hunan. Darluniodd y gelynion yma yn eu holl ffurfiau, y dulliau gwahanol trwy y rhai yr ymrithient, yr ystrywiau sydd ganddynt i ddwyn eu cynllwynion yn mlaen, y ffyrnig- rwydd gyda'r hwn yr ymosodant, ac mor gyndyn ydynt i roddi i fyny er colli lawer gwaith. Eglurai y cwbl trwy gydmariaeth syml, tarawiadau ffraeth, iaith ddealledig, bywiogrwydd cyffrous, ac apeliadau cymwysiadol, nes yr oedd y gynnulleidfa oll yn hongian wrth ei wefusau.
" Triniai hunan mewn dull gwawdlym, miniog, a gafaelgar. Lluniai y V fawr â'i fysedd o flaen y dorf yn ymledu tuag i fynu, heb ofalu dim am neb, ond cael digon o le iddi ei hun. Dangosai y llywodraeth sydd gan hunan ar y byd, edrychai arni yn effeithio dinystr o'r dechreuad, olrheiniai ei hanes a'i gydweithrediadau, darluniai y diafol yn ei bortreadu yn ei swynion ger bron llygaid ' Sanct Duw ' yn yr anialwch, ond fod yr holl elynion yn llesmeirio yn ei bresenoldeb ef.
" Wedi cymeryd golwg fanol ar gryfder, cyfrwysder, hudoliaeth, ac ystryw y gelynion, y mae yn symud yn mlaen at y filwriaeth, ac y mae y dorf i'w gweled yn symud gydag ef. Mae yn galw y cristion i'r maes, ac yn ei wisgo mewn 'cyflawn arfogaeth.' Mae yn parotoi i frwydr galed, boethlyd, ddwysganlyniadol. Mae gwynebpryd y dorf yn newid. Tra y darluniai y gelynion er eu holl gyfrwysder a'u dichell, yr oeddynt yn gallu gwenu; ond gan ei fod yn eu galw i'r maes a'u tynghedu i ryfel, yn gwasgu arnynt eu cyfrifoldeb, ac yn sicrhau mai ymladd duel ydyw gwaed am waed, bywyd am fywyd, mae y dorf yn difrifoli; mae dwysder yn ei pherchenogi; mae y pregethwr yn siarad, nid am, ond wrth y bobl. Mae ei bethau, nid i'w gwybod yn unig, ond i'w gwneyd; nid yw deall, ond i'w hymarfer. Dilyna hwy i bob congl, myn iddynt feistroli pob chwant, darostwng pob tueddiad, croeshoelio pob nwyd, ymwadu â phob blys, a gosod holl dueddiadau natur lygredig dan reolaeth. Mae fel dyn o ddifrif, yn penderfynu y myn gyffroi pob cyneddf, a galw pob gallu i'r maes yn erbyn y gelynion. Edrycha yn myw llygaid y dorf i edrych a wel arwyddion eu bod yn ufuddhau; a chan nad yw yn teimlo yn foddhaol fod ei amcan wedi ei gyrhaedd, ail ymosoda arni gyda'r fath rym anianyddol, meddyliol, ac ysbrydol, fel y mae ochenediau y dorf yn awgrymu ei bod ar eu heneidiau yn 'ddydd ymladd a rhyfel.' Ac wrth adael y sylw, datganai ei hoff ddymuniad, 'Duw lwyddo y gymanfa i gael milwyr newydd,' gyda'r fath nerth, fel, erbyn ei fod dros ei wefusau, yr
527
oedd y dorf yn rhoddi echo iddo, nes yr oedd eu swn 'fel swn dyfroedd lawer,' a'r pregethwyr gan mwyaf ar eu traed, ac yn ymwasgu i'r wyneb, ac yntau yn hwylio rhagddo at oruchafiaeth y cristion ar ei elynion, 'Un yn gorchfygu.' Gosodai bwys mawr ar hyny, a thynghedai hwy i beidio troi cefn nes cario y dydd. Gwnaeth rai cyfeiriadau sydd yn sicrhau concwest i'r credadyn. Ond nid oeddynt ond byr iawn. Ei bwnc ef oedd dal ar y dyn, gwasgu ar ei anadl ef, fod yn rhaid iddo sefyll ar y maes nes y byddo y gelynion wedi eu maeddu bob un. Ail ddywedai y geiriau, 'Un yn gorchfygu,' gyda'r fath rym; edrychai yn ngwyneb y dorf gyda'r fath benderfyniad; estynai ei fraich allan fel sêl ar ei eiriau na fynai lai na'i fod yn meddwl y peth a ddywedai; a thybiem, yn yr olwg oedd ar y dorf, fod yno bawb yn meddwl mai ofer fuasai cynyg cilio o'r maes cyn enill y dydd. Gwasgai ar anadl y dorf am ddeugain mynyd heb ganiatau iddynt hamdden i wibio a gwenu, teimlent fod y gelynion mor lluosog, ac yn gwylio arnynt o bob tu, fel yr oeddynt mewn perygl am eu bywyd yn mhob man, na feiddient na huno na hepian, oblegid na wyddent pa fynyd y deuai y gelynion ar eu gwarthaf.
" Nid oedd yr effaith a gynyrchai ar y gynnulleidfa mewn un modd yn ei rhwygo, ei dryllio, ei brywio, a'i dwyn i wylo nes ei mwydo mewn dagrau; ond ymddangosai yn hytrach wedi ei gorchfygu. Yr oedd swn a chynhwrf yn gyffredinol, a'r gynnulleidfa yn ymddangos fel wedi ei chymeryd mewn ystorm; ac yntau yn fynych yn anadlu i hoff air, 'Duw lwyddo y gwirionedd,' nes y mae pawb sydd o'r un dymuniad yn rhoddi gollyngdod i'w teimladau mewn amenau uchel, y rhai a glywid yn dyrchu o bob cwr i'r maes. Ni bu un areithiwr erioed yn fwy llwyddianus i wasgu ei wrandawyr i bwynt, nes eu bod yn ddiarwybod iddynt eu hunain yn curo eu dwylaw a'u traed, nag ydoedd Mr. Williams y pryd hwnw i dynu amenau oddiwrth y gynnulleidfa.
"Dyna fe wedi gweithio yn mlaen drwy y rhyfel, a thrwyddi yn fuddugoliaethus. Gwelwch, y mae ei ddullwedd yn cyfnewid, mae yn ymddangos fel yn teimlo fod yr orchestwaith wedi ei gwneyd; bellach y mae y canlyniadau i'w mwynhau. Mae y frwydr wedi ei hymladd, yn awr y mae yr anrhaith i gael ei ranu. Mae y rhyfel drosodd, nid oes yn ol ond mwynhau y wobr. Cyhoeddai y wobr fel efengylwr peraidd, 'Mi a'i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac ysgrifenaf arno enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, ac ysgrifenaf arno ef fy enw newydd i' Darluniai y cristion yn cael ei wneyd yn golofn goffadwriaethol o ras Duw, yn golofn gynaliol i achos Duw, ac yn golofn arhosol yn eglwys Dduw. Mae yn tywallt allan ffrydiau o iaith gref, mewn dull cyffrous, gyda llais clochaidd, nes y mae ei eiriau yn disgyn fel gwreichion ar y gynnulleidfa; a'r fath newydd-deb swynol yn ymddangos yn y cwbl, fel y gellid meddwl mai y mynyd hwnw y daeth y cwbl i'w feddwl. Wedi dangos y golofn, mae yn darllen yr ysgrifen sydd arni, 'Enw fy Nuw i, enw dinas fy Nuw i, a fy enw newydd i;' neu fel y dywedai, 'Enw ei Dad, enw ei fam, ac enw ei frawd hynaf.' Mae yn dyrchu i fyny lais clir, clochaidd, soniarus, wedi ei droi yn beroriaethol, ac mewn cywair uchel yn bloeddio 'Fy enw newydd i.' Bobl anwyl! ni chlywsom ddim erioed yn fwy swynol. Mae yn gweithio fel trydan drwy y dorf, mae yn goglais y gynnulleidfa, nes y maent yn gwingo yn eu crwyn. Gwnaeth hyny eilwaith ac eilwaith, fel am y foment, anhawdd genym feddwl fod yno neb yn teimlo ei draed ar y ddaear. Mae ei swn peroriaethus yn bloeddio, 'Fy enw newydd i,' byth
528
ar ein clustiau; ac yn y teimlad hapus hwnw y terfynodd. Ymwasgarodd y dorf ar ddiwedd yr oedfa, fel rhai yn teimlo eu bod wedi cael llawn ddigon am y gymanfa.
" Ond y mae hyn oll yn mysg y pethau a fu! Mae y llygaid a belydrai mor ddysglaer wedi tywyllu; mae y llais swynai y miloedd wedi crygu yn oerni y glyn; mae y tafod dywalltai y fath arabedd santaidd wedi ei gloi gan angeu; a'r doniau ddyferai oddiar ei wefusau fel diliau mel wedi fferu yn y gweryd.
"Mor rhydlyd mae 'r hyawdlodd
Daniai 'r byd, yn y bedd.' "
(Llandeilofawr parish)
Dechruwyd yr achos yma yn y flwyddyn 1830, gan Mr. R. Powell, a nifer o aelodau y Tabernacl a ymneillduasant oddiyno gydag ef fel y crybwyllasom yn hanes yr eglwys hono. Cymerasant dy, yr hwn oedd wedi ei wneyd yn fath o addoldy, ac oriel fechan ynddo, a galwasant of yn Siloh; ond gan iddynt roddi llawer mwy na'i werth am dano bu ei ddyled yn asgwrn cynen am flynyddau. Rhoddodd Mr. Powell ofal y lle i fyny cyn hir, a chymerodd Mr. G. Griffiths, Carmel, ofal yr achos, a bu yma yn ffyddlon dros rai blynyddau, ond nid oedd fawr o lewyrch ar bethau yn yr adeg hono, ac nis gallesid disgwyl yn amgen yn ngwyneb buchedd anwastad y rhai a gymerant arnynt flaenori yn y lle. Wedi ymadawiad Mr. Griffiths cymerodd Mr. W. Williams, Llandilo, ofal yr achos, a llwyddodd i'w godi i sylw a chymeradwyaeth yn yr ardal. Ar ol ei farwolaeth cymerodd Mr. J Thomas, Bwlchnewydd, ofal yr eglwys, a deuai yma unwaith bob mis hyd ddechreu y flwyddyn 1850, pryd y symudodd i Glynnedd. Adeiladwyd yma gapel newydd yn 1848, a thrwy ymdrech Mr. Thomas a'r gynnulleidfa talwyd y rhan fwyaf o'i ddyled. Cafwyd yma adfywiad grymus yn 1849, pryd yr ychwanegwyd tua 70 at yr eglwys. Wedi ymadawiad Mr. Thomas bu y gofal ar Mr. T. Davies, Llandilo, am rai blynyddau, a bu o wasanaeth mawr i'r achos yma. Ar sefydliad Mr. D. M. Evans yn Salem cymerodd hefyd ofal yr eglwys yma, a bu yn ddiwyd a ffyddlon yn y lle am ddeng mlynedd. Mae yr eglwys yn awr dan ofal Mr. W. R. Davies, mewn cysylltiad â Bethlehem, a'r achos ar hyn o bryd mewn agwedd obeithiol. Gwelir fod yr eglwys yma wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau, ac wedi mwynhau gweinidogaeth dynion o wahanol ddoniau, er ei ffurfiad; a dichon y gallesid disgwyl ychwaneg o gynydd ynddi yn ol y manteision a fwynhaodd. Hyderwn fod dyddiau gwell yn ol iddi.
A cause was started here in 1830 by Mr R Powell, and a number of members of Tabernacl who left there with him as has been noted in the history of that church. They took a house, which had been made into some kind of place of worship, with a small gallery in it, and called it Siloh; but as they had paid much more than its worth for it, its cost was a bone of contention for years. Mr Powell soon gave up the place, and Mr G Griffiths, Carmel, took over care of the cause, and was faithful here for some years, but there wasn't much of a shine about things at that time, and it would not be possible to expect anything different in the face of the conduct of those who took on the leadership of this place. After Mr Griffiths left Mr W Williams, Llandilo took on the care of the cause, and succeeded in gaining attention and approval in the district. After he died, Mr J Thomas, Bwlchnewydd, took on the care of the church, and came here once a month until the start of 1850, when he moved to Glyn Neath. They built a new chapel here in 1848 and through the efforts of Mr Thomas and the congregation paid off most of the debt. They had a powerful revival here in 1849, when the numbers increased by about 70. After Mr Thomas left, Mr T Davies, Llandilo had the care for some years, and was of great service to the cause here. When Mr D M Evans was installed at Salem he also took over the care of of this church, and was diligent and faithful in the place for 10 years. The church is now under the care of Mr W R Davies, in conjunction with Bethlehem, and the cause is at this time in a hopeful state. We see that this church has gone through many changes, and has enjoyed the ministries of men of different talents, since their formation; and perhaps one could see more progress following the gains enjoyed. We trust there are better days to come.
Dechreuwyd yr achos yma yn y flwyddyn 1847, mewn ty anedd yn pentref, trwy offerynoliaeth Mr. David Griffiths, Dryslwynfawr. Ar deulu y Dryslwyn y bu pwys y gwaith gan mwyaf am flynyddoedd. Gwnaed llawer cynyg ar gael tir i adeiladu capel arno, ond aflwyddianus hyd y flwyddyn 1867, pan y llwyddwyd gan E. Ab. Adams, Ysw., Middleton Hall, i gael darn o dir cyfleus at gapel a mynwent yn ei ymyl.
529
Adeiladwyd yma gapel, yr hwn a alwyd yn SARON, ac agorwyd ef ar y 6ed a'r 7fed o Hydref, 1868, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Evans, Philadelphia; W. Jansen Davies, Llanymddyfri; D. Price, Aberdar; Proffeswr Morgan, Caerfyrddin; J. Thomas (M.C.), Llanymddyfri; a T. Lewis (B.), Caerfyrddin. Mae yn dy hardd a chyfleus, ac yn cyfateb i angenion yr ardal. Yr oedd y draul rhwng pob peth yn 422p. 11s. Ar sefydliad Mr. W. Gibbon yn Capel Isaac yn 1866, cymerodd ofal yr eglwys fechan yn Llanarthney, a pharhaodd i ofalu am dani hyd oni symudodd i Glynnedd, Morganwg, yn 1872. Bendith fawr i'r achos Annibynol yn Llanarthney oedd iddo gymeryd ei ofal pan y gwnaeth. Llafuriodd yn egniol a didor gyda phob rhan o'r gwaith; ac ymosododd yn y modd mwyaf gwrol a phenderfynol ar y gorchwyl o symud ymaith ddyled y capel; aeth i gasglu o dy i dy, ac o eglwys i eglwys, trwy'r holl gymydogaethau; ac yr oedd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn ol eu rhifedi, yn cydweithio ag ef i bwrpas, a chyn ei ymadawiad yr oedd y ddyled wedi ei ddileu yn llwyr, a chyfarfod Jubili wedi ei gynal. Nid yw yr achos yn gryf, ond y mae yma ychydig enwau a'u calonau yn gynhes at achos yr Arglwydd. Mae yr eglwys yn awr heb weinidog, ond y mae Mr. Davies, Llandilo, yn bwrw golwg drostynt; ac y mae wedi bod yn nodedig o garedig i'r achos bychan yma trwy y blynyddoedd.
The cause here began in 1847, in a dwelling house in the village, through the medium of Mr David Griffiths, Dryslwynfawr. It was on the families of the Dryslwyn that the importance of the work weighed most for years. They made several attempts to get land to build a chapel on, but were unsuccessful until the year 1867, when E Ab Adams, Middleton Hall, succeeded in getting a piece of land comvenient for a chapel with a graveyard along side. A chapel was built there, they called it Saron, and it opened on the 6th & 7th of October 1868, officiating on the occasion were Messrs E. Evans, Philadelphia; W. Jansen Davies, Llandoveryi; D. Price, Aberdare; Professor Morgan, Carmarthen; J. Thomas (M.C.), Llandovery; a T. Lewis (B.), Carmarthen. It is a beautiful and convenient building, and matches the needs of the district. The cost between everything was £422.11s. When Mr W Gibbon was installed in Capel Isaac in 1866, he took over the small church in Llanarthney, and continued to take care of it until he moved to Glyn Neath, Glamorgan, in 1872. It was a great blessing for the Independent cause in Llanarthney that he took charge of it when he did. He always laboured full-bloodedly in every aspect of the work; and tackled in the most courageous and determined manner the task of clearing the chapel's debt; he collected from house to house, and from church to church, throughout the whole neighbourhood; and the church and congregation in their abundance, were behind him in his task, and before he left the debt had been completely extinguished, and a Jubilee meeting held. The cause is not strong, but there are here some names with their hearts warm to the Lord's cause. The church is now without a minister, but Mr Davies, Llandilo, keeps an eye on it, and he has been notably kindly towards the tiny cause over the years.
(Llandeilofawr parish)
Mae y capel hwn yn sefyll ar gwr gogledd-orllewin yr hyn a elwid gynt Mynyddbach, Llandilo, ond nid oes yno bellach er's mwy na haner can' mlynedd un enw o fynydd gan fod y cwbl o hono wedi ei droi yn feusydd gwrteithiedig. Mae yr eglwys a gyferfydd yn y capel hwn yn un o'r rhai hynaf yn Nghymru. Yn ol hen lyfr yr eglwys, yr hwn a ysgrifenwyd o'r flwyddyn 1715 hyd 1746, yr ydym yn cael fod yma achos Ymneillduol er y flwyddyn 1650. Y cofnodiad canlynol yw y peth cyntaf yn y llyfr:- " Enwau rhai o aelodau eglwys Iesu Grist, a ymgyfarfyddent yn agos i'r Mynyddbach, yn mhlwyf Llandilo a Llanfynydd, yn amser teyrnasiad Siarl II., oddeutu y flwyddyn 1650, ac a ymgyfarfyddent i addoli Duw yn nhy William Phillips, y gof, y lle a elwir y Brynmelyn:- William Phillips a'i wraig, Thomas Bowen, Evan Bowen, David William Phillip, David Evan ap Jenkin, John Evan ap Jenkin, Evan Lewis, William John ap Thomas, Rees Evan David, William ap Thomas, Elenor William Phillip, Elizabeth William Phillip, Anne William Phillip, Jane Evan ap Jenkin, Mary William Richard, &c. Y gweinidogion yr amser hyny oedd Stephen Hughes, Samuel Jones, a David Jones.' Er mai amser y Werin-lywodraeth oedd 1650, fel y gwyr pob un cyfarwydd mewn hanesyddiaeth, eto teyrnasiad Siarl II. y cyfrifid y cyfnod o 1649 hyd 1660 gan bob ysgrifenydd ar ol yr adferiad yn 1660. Buasai cydnabod y Werin-lywodraeth o gwbl wedi adferiad y teulu brenhinol y peth nesaf at deyrnfradwriaeth. Dyna y rheswm paham y mae y cofnodydd yn hen lyfr yr eglwys hon yn galw 1650 yn amser teyrnasiad Siarl II.
Un-ar-bymtheg o'r aelodau a enwir yma am mai cynifer a hyny y gallodd y cofnodydd yn 1715 ddyfod o hyd i'w henwau, ond y mae yn amlwg eu bod yn ychwaneg o rif oblegid enwau rhai o honynt yn ol tystiolaeth
530
yr ysgrifenydd a gofnodir ganddo ef. Ryw amser ar ol 1650 oherwydd rhyw reswm anhysbys i ni, symudwyd yr addoliad o'r Brynmelyn i anedddy yn mhlwyf Llangathen, yn agos i Glanynant, ychydig lai na milldir o'r Brynmelyn. Cafodd yr eglwys ei gorthrymu yn dost yno gan ryw ynad erlidgar oedd yn cyfaneddu yn y Berllandywyll. Dywedir i'r erlidiwr hwnw ddirwyo y gynnulleidfa amryw weithiau, ac iddo brynu ceffyl drudfawr iawn ag arian y dirwyon. Un diwrnod aeth a chyfaill i'r cae i ddangos y ceffyl iddo, a thra yr oeddent yn edrych arno aeth tarw oedd yn pori yn ei ymyl ato a brathodd ef a'i gyrn yn ei fol nes i'w ymysgaroedd ddyfod allan. Oherwydd creulondeb yr nad hwnw symudodd y gynnulleidfa o ymyl Glanynant i gynal eu cyfarfodydd mewn ogof neu gwm dwfn ar odreu tir Tanycapel, yn mhlwyf Llandyfeusant, tua dwy neu dair milldir o'r man lle yr ymgyfarfyddent o'r blaen. Mae yn debyg mai yno y buont nes adeiladu Capel Isaac. Gan Isaac Thomas, un o'r aelodau, y cafwyd y tir at adeiladu y capel, ac oherwydd hyn y galwyd ef Capel Isaac. Yr ydym yn barnu mai enw a roddwyd arno o wawd gan y gelynion oedd hwn, ond wedi marw Isaac Thomas a'i gydoeswyr cafodd yr enw ei fabwysiadu gan y gynnulleidfa. Nid ydym yn gwybod pa un ai yn 1672, pan y caniatwyd ychydig o ryddid i'r Ymneillduwyr gan Siarl II., neu yn 1689, wedi cael nawdd Deddf y Goddefiad, y symudodd y gynnulleidfa oddiar dir Dan y Capel i'r fan lle mac yr addoldy presenol. Yr addoldy presenol, yr hwn sydd yn gapel helaeth a chyfleus, yw y pedwerydd adeilad. Wedi marwolaeth y gweinidogion cyntaf, Mr. Stephen Hughes, S. Jones, a D. Jones, bu yr eglwys hon am amryw flynyddau heb weinidog sefydlog ac yn cael eu gwasanaethu gan weinidogion Pencadair, y Pantteg, Llanedi, &c. Yn gynar yn y ddeunawfed ganrif ymsefydlodd Mr. William Davies yma. Nis gwyddom pa flwyddyn y dechreuodd ei weinidogaeth ond yr ydym yn barnu i hyny gymeryd lle ryw amser rhwng 1700 a 1710. Yn 1724 rhoddwyd galwad i Mr. John Harries, aelod o'r Pantteg, a myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, i ddyfod yn gydweinidog a Mr. Davies. Yn 1732 bu farw Mr. Davies, ac yna disgynodd yr holl ofal ar Mr. Harries ei hun, a gofal mawr ydoedd, oblegid yr oedd Abergorlech, Crofftycyff, a Chrugybar dan ei ofal mewn cysylltiad a Chapel Isaac. Bu Mr. Harries yn ddiwyd a llafurus iawn i gyflawni ei weinidogaeth hyd derfyn ei oes. Dengys llyfr yr eglwys ei fod yn ofalus iawn am egwyddori yr ymgeiswyr am aelodaeth cyn eu derbyn i gymundeb. Cymerer y cofnodiad canlynol fel enghraifft o'i ofal gyda golwg ar dderbyniad aelodau:- "Cafodd Evan Thomas Evan o gerllaw Cwmysgyfarnog, ei holi a'i dderbyn i gymundeb eglwysig ar y Mynyddbach, Chwefror 17eg, 1745. Yr oeddem wedi bod yn ei holi y mis o'r blaen, a barnasom yn angenrheidiol i'w gadw ar brawf am fis yn rhagor, i ni gael cyfle i'w egwyddori yn fanylach ac ymdrechu ei ddwyn i fwy o wybodaeth o egwyddorion sylfaenol crefydd." Ag ystyried fod poblogaeth cylch ei weinidogaeth lawer yn deneuach yn ei amser ef nag yw yr ardaloedd hyny yn bresenol, a bod proffesu crefydd y pryd hwnw yn beth llawer mwy anghyffredin nag yn awr, bu gweinidogaeth Mr. Harries yn rhyfeddol o lwyddianus. Derbyniodd yn ystod y pedair-blynedd-ar-hugain y bu yn gweinidogaethu yn Nghapel Isaac ac Abergorlech gant ond un o aelodau, ac o'r flwyddyn 1738 hyd ei farwolaeth yn 1748, derbyniodd dri-a-deugain yn Nghrofftycyff a Chrugybar.
Wedi marwolaeth Mr. Harries bu yr eglwys am tua phum mlynedd
531
heb weinidog sefydlog. Mr. Christmas Samuel, Pantteg, fyddai yn dyfod yma yn fisol i weinyddu yr ordinhadau yn y blynyddoedd hyny. Yn 1753 rhoddwyd galwad i Mr. John Powell, o Athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Medi 26ain yn y flwyddyn hono. Ni bu Mr. Powell yma ond o dair i bedair blynedd. Symudodd i Wiveliscombe, yn Ngwlad yr Haf, ac oddiyno i Henllan, lle y bu farw. Wedi ymadawiad Mr. Powell cydunodd yr eglwys i roddi galwad i Mr. Thomas William, yr hwn fuasai yn aelod ac yn bregethwr yno er's llawer o flynyddau. Yr ydym yn barnu mai yn 1757 neu 1758 yr urddwyd ef. Yr oedd ef y pryd hwnw tua triugain mlwydd oed. Parhaodd i weinidogaethu yma hyd ei farwolaeth yn 1778. Nid oes genym ddefnyddiau i roddi hanes yr eglwys yn nhymor ei weinidogaeth ef, gan na ddarfu iddo gofnodi dim am ei lafur ei hun yn yr hen lyfr eglwys sydd yn ein meddiant ni. Buom yn siarad a a rhai hen bobl a dderbyniasid i'r eglwys yn ei amser ef, a'u tystiolaeth hwy ydoedd ei fod yn barchus a defnyddiol iawn. Yn agos i derfyn ei dymor ef y derbyniwyd y Meistri Bowen, Castellnedd; Thomas, Penmain; a Lewis, Cwmmawr.
Yn fuan wedi marwolaeth Mr. Thomas William rhoddwyd galwad i Mr. William Gibbon, o ardal Glandwr, sir Benfro. Urddwyd ef yma rywbryd yn y flwyddyn 1779. Bu yn rhyfeddol o boblogaidd yma, ac mewn eglwysi eraill, am oddeutu un-flynedd-ar-ddeg. Cafodd Capel Isaac ei adeiladu o newydd a'i helaethu yn fawr yn fuan wedi ei ddyfodiad ef yma, ac yr oedd pethau yn myned yn mlaen yn llewyrchus iawn yma hyd y flwyddyn 1790, pryd, er gofid a gwarth dirfawr, y cafwyd allan fod y gweinidog yn odinebwr. Bu raid i'r eglwys ar unwaith ei ddiarddel, ac nis gallasai neb ei beio am hyny.
Hydref 4ydd, 1792, urddwyd un David Jones, o rywle yn sir Benfro, yma'i ond ni bu ei arosiad yn y lle ond dros dair neu bedair blynedd. Trodd allan yn feddwyn, a bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef. Cafodd yr achos ei ysigo yn druenus trwy i ddau weinidog yn olynol droi allan yn anfoesol. Collodd yr aelodau eu gwroldeb i weithio, aeth llawer o'r gwrandawyr yn wawdwyr, a lleihaodd y gynnulleidfa yn fawr. Bu yr eglwys am flynyddau ar ol hyn heb galon i roddi galwad i neb. Yn y flwyddyn 1805, urddwyd Mr. Daniel Jones yn Nghrugybar, a thynodd ei ddoniau poblogaidd ef sylw yr holl wlad. Bu yn dyfod yma yn fisol am tuag wyth mlynedd, a bu ei weinidogaeth ddengar yn foddion i roddi ail fywyd i'r hen eglwys wywedig. Lluosogodd y gwrandawyr a derbyniwyd amryw ugeiniau o bobl ganol oed ac iuengctyd i'r eglwys yn ystod y blynyddau y bu Mr. Jones yn cyrchu yma. Gan fod maes ei lafur ef mor eang bu raid iddo roddi gofal yr eglwys hon i fyny yn nechreu y flwyddyn 1813. Yna rhoddwyd galwad i Mr. Lewis Powell, o'r Brychgoed. Urddwyd ef yma yn mis Mai, 1813. Bu Mr. Powell yn llafurio yn y lle hwn a lleoedd ereill yn sir Gaerfyrddin am bedair-blynedd-ar-ddeg. Yr oedd yn barchus ac anwyl gan bobl ei ofal a chan bawb a'i hadwaenai. Cyfodwyd tri o'r aelodau i bregethu yn ei amser ef, a thrwy ei lafur ef yn benaf yr adeiladwyd capel Salem, Taliaris, ac y ffurfiwyd cangen o'r fam eglwys yn eglwys Annibynol yno. Bu y gymanfa dair sirol yn Nghapel Isaac yn 1818. Dyma y pethau mwyaf nodedig a gymerasant le yma yn nhymor gweinidogaeth Mr. Powell. Amser marwaidd iawn ar grefydd agos trwy yr holl wlad oedd ei amser ef yn yn y lle hwn, ac felly ni bu nemawr o ychwanegiad at yr eglwys, er fod y gweinidog mor llafurus a pharchus ag
532
y bu gweinidog erioed. Yn 1827 derbyniodd Mr. Powell alwad oddiwrth yr eglwys Gymreig yn Nghaerdydd, a symudodd yno.
Bu yr achos mewn agwedd ddigalon iawn am flwyddyn ar ol ymadawiad Mr. Powell. Nid oedd yr aelodau yn llawn driugain o rif, ac yr oeddynt oll yn cael eu gwneyd i fyny o hen bobl a dynion canol oed, nid oedd un dyn na dynes ieuangc yn eu mysg. Yr oedd rhai o honynt hefyd yn ymryson a'u gilydd am eu hawl i'r hen eisteddleoedd yn y capel. Yn nechreu haf y flwyddyn 1828 torodd diwygiad grymus allan yn siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Brycheniog. Daeth y son am y diwygiad hwnw i'r ardal hon, ond nid oedd yma ddim yn cael ei deimlo am rai wythnosau. Un dydd Mercher, yn gwbl annisgwyliadwy, daeth pedwar i'r gyfeillach - un wraig briod a thri gwr ieuangc. Yn mhen tua pythefnos ar ol hyny, sef nos Wener, Gorphenaf 18fed, 1828, ar ol pregeth effeithiol gan Mr. Jones, Gwynfe, cyhoeddwyd cyfeillach ac arosodd dros ddeg-ar-hugain ynddi. O hyny allan am wythnosau cynhelid tair neu bedair o gyfeillachau bob wythnos, a byddai o ddeg i ugain o newydd yn dyfod i bob un o honynt. Ychwanegwyd y pryd hwnw mewn o chwech i wyth mis rhwng dau cant a haner a thri chant at yr eglwys. Ni welwyd y fath lwyddiant yn yr eglwys hon erioed o'r blaen. Nid oedd yma nemawr o swn na neb yn neidio fel y gwnelent yn rhai o'r cynnulleidfaoedd cymydogaethol, ond yr oedd yma lawer o wylo a theimladau dwys iawn. Mr. Thomas James, o Abergorlech, oedd y gweinidog achlysurol yma ar y tymor dedwydd hwn, ac efe roddodd ddeheulaw cymdeithas i'r holl rai a dderbyniwyd. Bu Mr. Powell, Cross Inn; Mr. Jones, Gwynfe; a Mr. Griffiths, Carmel, y rhai a breswylient yn yr ardal, o wasanaeth mawr yn y cyfellachau crefyddol a'r cyfarfodydd gweddio. Cyn pen pedair blynedd yr oedd chwech o blant y diwygiad hwn wedi eu cyfodi i bregethu, a buont yn ddefnyddiol yn y weinidogaeth am flynyddau lawer. Nid oes ond dau o honynt yn bresenol ar dir y byw. Yn y flwyddyn 1830 daeth Mr. Samuel Williams, o Llanidloes, i'r ardal i fyw, a bu yn pregethu llawer yma ac o wasanaeth mawr i'r achos, ond ni chydunodd yr eglwys i roddi galwad iddo.
Yn nechreu y flwyddyn 1832 rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. David Jones i gymeryd gofal yr eglwys hon mewn cysylltiad â Gwynfe a Salem. Bu ef yn ddefnyddiol a llwyddianus iawn yma am ddeng mlynedd. Yn y blynyddoedd hyny derbyniodd amryw ugeiniau i'r eglwys, a chyfodwyd pump o'r rhai a dderbyniwyd ganddo i bregethu. Mae yn debyg y buasai Mr. Jones yn parhau yn weinidog yma hyd derfyn ei oes oni buasai un dyn anhywaith gyfodi yn ei erbyn yn hollol ddiachos. Cafodd y terfysgwr hwnw ei ddiarddel trwy bleidlais mwyafrif dirfawr o'r aelodau. Ond yn fuan wedi hyny, oherwydd i'w deimladau gael eu dolurio mor fawr gan yr amgylchiad, rhoddodd Mr. Jones ei ofal yma i fyny yn 1842. Yn fuan wedi hyny gosododd y terfysgwr a wnaethai gymaint o ofid iddo ef a'r eglwys derfyn ar ei einioes ei hun trwy ymgrogi. Anfynych iawn y mae aflonyddwyr heddwch eglwysi yn cael myned o'r byd hwn heb ryw arwydd o anfoddlonrwydd yr Arglwydd arnynt. Wedi ymadawiad Mr. Jones bu yr eglwys am dair blynedd heb weinidog sefydlog.
Yn 1845 rhoddwyd galwad i Mr. Joshua Thomas i gymeryd gofal yr eglwys hon mewn cysylltiad a Bethlehem. Cynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma 23ain a'r 24ain yn y flwyddyn hono, pryd y pregethwyd ar Ymneillduaeth gan Mr. John Thomas, Bwlchnewydd; ar bwysigrwydd y weinidogaeth gan Mr. Thomas Rees, Siloa, ac ar ddyledswydd yr eglwys at y weinidog
[Gareth Hicks 17 Nov 2008]
Find help, report problems, and contribute information.
| Copyright © GENUKI and Contributors 1996
to date |