Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

See main project page

Proof read by Yvonne John (April 2008)

Carmarthenshire section (Vol 3) - Pages 533 - 546

Chapels below;

  • (Continued) CAPEL ISAAC  (Llandeilofawr parish)
  • ABERGORLECH (with translation)
  • GWERNOGLE (Llanfihangel-Rhos-y-Corn parish) (with translation)
  • HOREB  (Llanegwad parish) (with translation)

 


Pages 533 - 546

533

(Continued) CAPEL ISAAC  (Llandeilofawr parish)

 

gan Mr. David Rees, Llanelli. Ni bu arosiad Mr. Thomas yma ond pedair blynedd, ond bu yn llafurus a defnyddiol yma yn y blynyddau hyny. Ar ei symudiad oddiyma i Aberaman yn 1849, ysgrifenodd diaconiaid yr eglwys yr hyn a ganlyn i'r "Diwygiwr:" - " Ystyriwn ni fel eglwys ymadawiad Mr. Thomas o'n plith yn golled o'r mwyaf, oherwydd am y blynyddau y bu yn gweinidogaethu yn ein plith bu yn ddiwyd, yn llafurus, yn llwyddianus, ac yn hollol ddigwmwl yn ei gymeriad. Bu yn ymdrechgar iawn yn nghylch adeiladu yr addoldy newydd y cyfarfyddwn ynddo yn bresenol i addoli Duw, a phriodol yw dyweyd iddo yn ei gyfrifon ar y diwedd roddi cyflawn foddhad i'r eglwys." Mae y capel a adeilwyd yma yn amser Mr. Thomas ac a agorwyd yn 1847, yn addoldy helaeth, hardd, a chyfleus, ac er's blynyddau bellach yn ddiddyled. Yn mhen blwyddyn wedi ymadawiad Mr. Joshua Thomas rhoddwyd galwad i Mr. William Thomas, o Athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yma Gorphenaf 4ydd a'r 5ed, 1850. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. N. Stephens, Sirhowy ; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. E. Jones, Crugybar ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Jones, Ffaldybrenin; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Davies, Athraw Clasurol Athrofa Aberhonddu, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Davies, Athraw Duwinyddol Athrofa Caerfyrddin. Bu Mr. Thomas yma am bum' mlynedd yn barchus gan fyd ac eglwys. Yn y flwyddyn 1855 derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn y Bwlchnewydd ac Elim, a symudodd yno, ac yno y mae eto yn barchus a defnyddiol. Yn mhen ychydig fisoedd wedi ymadawiad Mr. Thomas rhoddwyd galwad i Mr. Rees Rees, Zoar, Abertawy, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Rhagfyr, 1855, ac yma y bu hyd ei farwolaeth yn Rhagfyr 1864. Ar ei sefydliad yma torodd diwygiad grymus allan, ac ychwanegwyd mewn yspaid dwy flynedd o gant a haner i ddau cant at yr eglwys. Parhaodd Mr. Rees mewn parch mawr yma cyhyd ag y bu fyw, a dangosodd yr ardalwyr eu hanwyldeb tuag ato trwy ddyfod yn dorfeydd lluosog i'w gladdedigaeth.

Buwyd agos i flwyddyn a haner heb weinidog wedi marwolaeth Mr. Rees. Yn 1866 rhoddwyd galwad i Mr. William Gibbon, o Athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yma Mai 30ain a'r 31ain, 1866. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin ; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. W. Watkins, Maesteg ; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Joshua Thomas, Aberdar ; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Price, Aberdar, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. T. Davies, Llandilo. Enillodd Mr. Gibbon iddo ei hun air da gan bawb yn yr ardal, ac er gofid i'r holl gynnulleidfa gwnaeth ei feddwl i fyny yn niwedd y flwyddyn 1872 symud i Glynnedd, Morganwg. Oddiar ei ymadawiad ef nid oes yma un gweinidog wedi ei ddewis. Cymharol fyr fu tymor gweinidogaeth pob un o'r tri-gweinidog-ar-ddeg fuont yn llafurio yma er y flwyddyn 1700. Cafodd pedwar o honynt eu cymeryd ymaith gan angau, a dau gan eu hanfoesoldeb, ac ni chafodd un o'r lleill eu hymlid ymaith gan yr eglwys, ond y mae yn ddiameu y buasai rhai o honynt yn rhoddi eu gwasanaeth yn hwy yma pe buasai yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fwy haelionus yn eu cyfraniadau tuagat eu cynaliaeth. Yn y blynyddau a aethant heibio cywilyddus o fychan oedd cyfraniadau y gynnulleidfa hon at gynaliaeth y weinidogaeth. Dengys hen lyfr yr eglwys nad oedd cyflog Mr. William Davies yma ac yn Abergorlech fawr dros ddwy bunt y flwyddyn tua 1720. Er fod dwy bunt y pryd hwnw agos yn gyfwerth ag ugain punt yn awr,

534

eto cyflog waradwyddus o isel a dderbyniai pan ystyriom fod yr aelodau a'r gwrandawyr yn y ddau le yn bedwar cant o rif. Ni bu yr eglwys hon mewn un oes yn enwog am ei haeloni, ond y mae yn diwygio yn gyflym er's ugain mlynedd bellach. Ychydig flynyddau yn ol adeiladwyd ysgoldy cyfleus yn ymyl y capel, lle y cynhelir ysgol ddyddiol effeithiol. Mae adeiladiad yr ysgoldy hwn i'w briodoli yn benaf i sêl ac ymdrechion y diweddar Mr. John Oliver, Llanfynydd. Efe fu y prif offeryn i gynhyrfu yr ardalwyr at y gorchwyl.

Dechreuwyd claddu y meirw yma er's mwy na phedwar-ugain mlynedd bellach, ac y mae canoedd lawer o gyrff yr hen aelodau yn gorphwys yma, ac yn eu plith gyrff y gweinidogion Jones, Gwynfe; Powell, Cross Inn ; Griffiths, Carmel ; a Rees, Capel Isaac.

Nid oes un eglwys yn ol ei lluosogrwydd yn Nghymru wedi cyfodi cynifer o bregethwyr a'r eglwys hon. Mae y rhestr ganlynol yn cynwys enwau y rhan fwyaf, os nad pob un a gyfodwyd yma yn ystod y saith ugain mlynedd diweddaf, ond y mae yn dra thebygol fod yma rai wedi cyfodi yn yr ail-ganrif-ar-bymtheg nad ydym ni wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau.

  • Thomas William. Rhoddir ei hanes ef yn mysg y gweinidogion.
  • Joseph John. Bu ef yn fyfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin yn amser Mr. Perrot. Cafodd drwydded fel pregethwr yn llys yr ynadon yn Nghaerfyrddin, Ebrill 5ed, 1744. Parhaodd hyd derfyn ei oes yn bregethwr cynorthwyol. Bu farw Ebrill 2il, 1752. Trodd ddamegion ein Iachawdwr ar gân, ac yn fuan ar ol ei farwolaeth cyhoeddwyd ei gyfansoddiadau yn llyfryn bychan gan Mr. Thomas William. Yr oedd yn byw yn Pantymangoed, yn mhlwyf Llandyfeusant, a dywedir ei fod yn fedrus fel meddyg, ac y rhoddai ei holl gynghorion yn rhad. Claddwyd ef yn mynwent Capel Eglwysig Abergorlech, a phregethodd Mr. Milbourn Bloom ar yr achlysnr.
  • Thomas David John. Y cwbl a wyddom am dano ydyw eglwys, amser Gwyl Fair, 1744, wneyd casgliad o un swllt ar ddeg a chwech cheiniog i'w gynorthwyo i gael ysgol.
  • Thomas Bowen. Gweler hanes Maesyrhaf, Castellnedd.
  • David Thomas. Gweler hanes eglwys Penmain, Mynwy.
  • Jonathan Lewis. Gweler hanes eglwys y Crwys, Morganwg.
  • James Isaac, neu " Siams Isaac y watchmaker," fel yr adwaenid ef yn gyffredin. Dyn tra hynod oedd hwn, ond yr oedd yn mhell o fod yn hynod am ei graffder a'i synwyr cyffredin. Yr oedd gan yr hen bobl luaws o bethau digrif yn cael eu hadrodd am dano ef a'i bregethau. Un bore Sabboth wrth bregethu yn Abergorlech rhoddodd y fath ergyd grymus i'r pulpud nes i'r Beibl a'r astell a'i daliai syrthio ar ben hen wr. Pan ofynwyd iddo paham y rhoddasai y fath ergyd atebai, " Yr oedd y dyn o'r Ffosgotta yna yn edrych arnaf gyda llygaid ysgyfarnog fel y penderfynais roddi ergyd mor gryf ag a wnelsai iddo deimlo." Ond yr hen Evan Dafydd gafodd deimlo fwyaf trwy i'r Beibl a'r astyllen ddisgyn ar ei ben. Dro arall yr oedd wedi cyfodi yn Abergorlech i ddarllen Zeph. ii. 5, yn destyn. Darllenodd yn uchel " Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y cythreuliaid." Yr oedd Dafydd Evan Dafydd yn eistedd tu ol iddo yn y pulpud, wedi bod yn dechreu yr oedfa, pan y clywodd ef yn camddarllen ei destyn cyfododd a dywedodd yn ddistaw yn ei glust, " Cenedl y Cereth-iaid, Siams." Trodd ar hyny yn ol a dywedodd yn chwerw "Yr wyf fi

 535

  • ...............yn meddwl y gallaf ddarllen fy nhestyn yn iawn heb dy help di Dio." Yna dywedodd Dafydd Evan yn uchel " Cerethiaid ac nid cythreuliaid yw y gair." Wedi i Siams graffu ychydig yn fanylach a gweled ei gamgymeriad dywedodd " Dyma genedl na wn i ddim am dani, ychydig am genedl y cythreuliaid oedd genyf fi i'w ddyweyd; mae yn rhaid i ti Dio bregethu yn fy lle i y bore hwn." Ac felly y bu. Tua dechreuad y ganrif bresenol symudodd Siams o ardal Capel Isaac i Gaerfyrddin, ac ymddengys i'w bregethu a'i grefydd fyned i'r dim yno.
  • Theodosius Theodosius. Yr oedd yn nai fab cefnder i Mr. Thomas, Penmain. Bu am ychydig amser yn gweithio fel dilledydd yn ardal Penmain. Aeth oddiyno i Athrofa Wrexham. Yn 1803 urddwyd ef yn New Windsor, gerllaw Manchester. Wedi bod yno am ychydig flynyddau trodd i'r Eglwys Wladol, a bu hyd derfyn ei oes yn berson plwyf Gornal, yn sir Stafford.
  •  Henry Davies, Ll.D. Pan yn yr Athrofa yn Nghaerfyrddin trodd yn Undodwr. Bu am lawer o flynyddau yn weinidog Undodaidd yn Taunton. Terfynodd ei oes yn Nghaerloew tuag ugain mlynedd yn ol. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, a thrwy ei briodas wedi dyfod i feddiant o lawer o gyfoeth.
  • Griffith Roberts. Dechreuodd ef bregethu tua yr un amser a'r Dr. H. Davies, ac fel yntau aeth yn Undodwr yn Athrofa Caerfyrddin. Treuliodd ei oes yn weinidog Undodaidd. Aeth o'r athrofa yn 1803, a bu yn Warminster hyd 1825, ac nis gallwn ei ddilyn yn mhellach.
  • Joseph Griffith. Bu ef am lawer o flynyddau yn bregethwr cynorthwyol yn ei fam-eglwys a'r eglwysi cymydogaethol. Nid oedd ei wybodaeth a'i ddawn ond cyffredin iawn. Hoffid ef gan yr ieuengctyd oherwydd nad oedd ei bregeth un amser dros haner awr o hyd. Y mae wedi gorphen ei yrfa er's mwy na deugain mlynedd.
  • Benjamin Williams. Pregethwr cynorthwyol oedd yntau, a chydoeswr a Joseph Griffith. Yr oedd ef yn dra galluog fel duwinydd, ac yn dyweyd pethau miniog iawn, ond lled safndrwm ydoedd fel traddodwr, a phregethai yn faith iawn. Bu farw yn niwedd mis Mai, 1841.
  • David Morgan, neu Dafydd Daniel Thomas Morgan. Symudodd yn fuan i Ferthyr Tydfil, a bu am flynyddau yn bregethwr cynorthwyol yn yr Ynysgau. Cyhoeddodd Mr. Powell, Caerdydd, farwnad ar ol ei wraig, yr hon oedd yn ddynes nodedig o dduwiol.
  • David Jones. Rhoddir ei hanes yn nglyn a'r eglwys yn Gwynfe.
  • John Williams. Gweler ei hanes ef yn nglyn a'r eglwys yn Llansilin, Maldwyn.
  • Thomas Thomas, o'r Wern. Dechreuodd ef bregethu yn 1830, yr un amser a Rees Powell, John Stephens, William Williams, a Griffith Owen, as efe a ystyrid y mwyaf galluog o honynt oll y pryd hwnw. Yr oedd yn rhyfeddol o boblogaidd. Wedi pregethu am oddeutu chwe' mis aeth yn glaf a bu farw o'r darfodedigaeth ar ol ychydig fisoedd o gystudd.
  • Rees Powell. Mab hynaf y diweddar Mr. Powell, Cross Inn. Y mae efe eto yn fyw ac yn weinidog i gynnulleidfa o Gymry yn Ohio, America.
  • William Williams. Gweler ei gofiant ef yn dilyn hanes y Tabernacl, Llandilo.
  • John Stephens. Daw ef yn nglyn a hanes y Brychgoed.
  • Griffith Owen. Un genedigol o Bancyfelin, gerllaw Caerfyrddin, yw ef. Yr oedd yn gweithio yn Llanfynydd pan y dechreuodd bregethu. Yn nhy

536

  • Thomas Stephens, Ysgwynfach, tad Mr. Stephens, Liverpool, y traddododd ei bregeth gyntaf. Yr ydym yn tybied ei fod eto yn fyw ac yn weinidog gyda'r Saeson yn agos i Philadelphia, America.*
  • John Thomas. Dechreuodd ef bregethu yn y flwyddyn 1831. Trodd at y Bedyddwyr, ac y mae wedi bod yn weinidog am flynyddau yn Sardis, yn agos i Landebie.
  • Thomas Rees, D.D., Abertawy. Traddododd ei bregeth gyntaf nos Wener, Mawrth 2il, 1832, oddiwrth Ioan iii. 16.
  • John Powell. Ail fab Mr. Powell, Cross Inn. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1835, ac yn fuan wedi hyny ymfudodd i'r America. Bu yn weinidog parchus am rai blynyddau yn Granville, Ohio. Y mae wedi marw er's blynyddau bellach.
  • William Jones. Dechreuodd bregethu yn 1836. Wedi gorphen ei amser yn Athrofa Caerfyrddin cafodd ar ei feddwl i geisio urddiad esgobol. Y mae er's dros ugain mlynedd bellach yn berson Garthbeibio, Maldwyn.
  • David Stephens. Gweler hanes Ebenezer, Glantaf, Morganwg.
  • Noah Stephens. Y mae efe yn weinidog yr eglwys yn Park Road, Liverpool. Dechreuodd bregethu yr un amser a'i frawd yn 1840.
  • Dayid Jones, Bwlchllidiart. Dechreuodd bregethu yr un amser a D. ac N. Stephens. Bu dros ychydig yn ysgol Ffrwdyfal, ond ni bu yn hir cyn i'r darfodedigaeth osod terfyn ar ei einioes.
  • Henry Davies. Y mae ef yn nai fab brawd i'r Dr. Henry Davies a grybwyllir uchod. Dechreuodd bregethu yn 1840, ac wedi bod yn pregethu gyda'r Ymneillduwyr am tua dwy flynedd aeth i'r Eglwys Wladol. Mae yn awr yn berson rhyw blwyf yn agos i Beaumaris.
  • Henry Oliver, B.A. Gweinidog yr eglwys yn Victoria Road, Casnewydd.
  • Thomas Evans. Wedi gorphen ei amser yn Athrofa Caerfyrddin aeth i'r Eglwys Wladol. Y mae yn awr yn berson plwyf Cilycwm, gerllaw Llanymddyfri.
  • Henry Lewis. Y mae efe yn bresenol yn weinidog yr eglwysi yn Ehenezer a Bethania, Merthyrcynog.
  • Thomas Powell. Mab ieuengaf Mr. Powell, Cross Inn. Urddwyd ef yn 1854 yn weinidog i'r Cymry yn Dudley Port, sir Stafford, ond dychwelodd yn mhen ychydig amser i'w ardal enedigol, ac yno y mae hyd yn awr yn pregethu yn achlysurol lle byddo galwad am ei  wasanaeth.
  • John Oliver oedd wr ieuangc o alluoedd rhagorol, ac yn un a anwylid gan bawb a'i hadwaenai. Ganwyd ef Tachwedd 7fed, 1838. Derbyniwyd ef i Athrofa Caerfyrddin pan yn bymtheng mlwydd oed. Ar derfyniad ei amser yno yr oedd ei iechyd wedi anmharu i'r fath raddau fel nas gallasai feddwl am dderbyn galwad o un eglwys. Ar ol blynyddau o gystudd bu farw yn yr Arglwydd, Mehefin 24ain, 1866. Yr oedd yn ysgolhaig o'r radd uwchaf. Cyfansoddodd amryw bethau mewn rhyddiaith a barddoniaeth. Mae ei gyfansoddiadau a'i gofiant wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfrol dlos gan ei  frawd Henry Oliver, B.A.
  • David Oliver. Addysgwyd ef yn Athrofau Caerfyrddin a Spring Hill. Cafodd ei urddo yn Llanberis yn 1864, ac y mae yn awr yn Nhreffynon.
  • John Stephens. Y mae efe yn nai fab brawd i'r tri Stephens a grybwyllir uchod. Derbyniodd ei addysg yn Athrofau y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn Siloh, sir Gaernarfon, yn 1864. Mae yn bresenol yn y Brynteg, Morganwg.

*Rhoddwyd ei enw ef mewn camgymeriad yn nglyn a Bethlehem, St. Clears.

537

  • Frederick Tilo Evans. Addysgwyd ef yn Nghaerfyrddin, ac urddwyd ef yn Adulam, Merthyr Tydfil, yn 1866. Mae yn awr yn weinidog i'r Cymry yn Blossburgh, America.
  • William T. Hughes. Dechreuodd bregethu yn haf 1861. Bu yn derbyn addysg yn Llanymddyfri, ac wedi hyny yn Nghaerfyrddin. Yn 1867 ymfudodd i'r America. Urddwyd ef yn Parisville, Ohio, Ionawr 5ed, 1868, a bu farw yn nghanol ei ddyddiau, ei barch, a'i ddefnyddioldeb Gorphenaf 25ain, 1873, yn 31 oed.
  • Daniel W. Hughes, brawd W. T. Hughes. Dechreuodd ef bregethu ychydig o flaen ei frawd, ac ymfudodd i'r America ychydig o'i flaen, ac yno y mae eto.
  • William Oliver, M.A. Cafodd ef ei ddewis yn 1872 yn un o Athrawon Athrofa Aberhonddu.

Gwelir fod yn y rhestr uchod bedwar wedi troi yn fradychwyr i Ymneillduaeth, a dau wedi ymwrthod ag athrawiaeth yr eglwys a'u magodd. Pa fodd bynag y bu gyda'r tri chyntaf o'r chwech hyn yr ydym yn gwybod am ddau o'r rhai diweddaf a aethant i'r Eglwys Wladol, beth bynag am y trydydd, mai trwy oddefiad yn hytrach nag ar gais yr eglwys y cyfodwyd hwy i bregethu.

Heblaw y nifer fawr o bregethwyr a gyfodwyd yma bu yr eglwys hon yn mhob cyfnod o'i hanes yn enwog am swyddogion ac aelodau nodedig am eu gwybodaeth, eu duwioldeb, a'u dylanwad. Soniai yr hen bobl haner can' mlynedd yn ol yn fynych am William Harry, a'i fab-yn-nghyfraith, Sion Prys, fel dynion rhyfeddol o dduwiol a defnyddiol. Mae wyth o'r pregethwyr a grybwyllir yn y gyfres uchod yn hiliogaeth y ddau wr rhagorol hyn, sef Thomas, Penmain; T. Theodosius; Jones, Gwynfe ; y pedwar Stephens ; a T. Rees, Abertawy. Yn niwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu yr un presenol yr oedd yma nifer luosog o ddynion da ag y teimlwn mai ein dyledswydd yw trosglwyddo eu henwau i'r oesau dyfodol. Zechariah Christmas, neu " Zacri y teiliwr," yr hwn a fu farw yn 1817, yn 78 oed, oedd ddyn nodedig am ei ffraethineb a'i wybodaeth dduwinyddol. Baxteriad, neu rywbeth yn y canol rhwng Calfiniaeth ac Arminiaeth ydoedd o ran ei olygiadau, ond "Arminian" y galwai yr uchel Galfiniaid ef. Daliai y swydd o "henuriad llywodraethol" yn yr eglwys. Yr oedd amryw o'r aelodau yn ei amser ef yn uchel-Galfiniaid os nad rhywbeth yn uwch na hyny. Edrychai y cyfryw ar Zacri fel cyfeiliornwr peryglus iawn, yn enwedig oherwydd ei fod yn ddyn gwybodus ac yn siaradwr ffraeth. Gwyliai ei wrthwynebwyr am gael rhyw gwyn yn ei erbyn er mwyn lladd ei ddylanwad. Un dydd Llun aeth i flair Llandilo i gyfarfod a rhyw bersonau i gael ei dalu ganddynt am wneuthur dillad erbyn angladd, ac aeth y gair allan iddo yfed ychydig ar y mwyaf yn y flair. Yn y cyfarfod eglwysig cyntaf ar ol hyny wele Jacob Lewis, blaenor y blaid uchel-Galfinaidd, yn cyfodi ac yn dyweyd fod peth gwaradwyddus dros ben wedi cymeryd lle oddiar eu cyfarfod blaenorol. "Pa beth ydyw?" ebe Mr. Powell, y gweinidog; "Meddwdod yw y peth," ebe Jacob Lewis, " ond ei fod yn feddwdod digyffelyb am ei waradwydd; 1, meddwdoddyn, nid anifail ydyw ; 2, meddwdod proffeswr crefydd, nid dyn o'r byd ; 3, meddwdod swyddog yn yr eglwys, nid aelod cyffredin ; 4, meddwdod mewn flair, nid mewn lle dirgel ; 5, meddwdod ar ddydd Llun ar ol y cyfarfod cymundeb ; 6, meddwdod wrth ymofyn costau angladd, yr hyn a ddylasai beri

538  

i'r dyn feddwl am ei ddiwedd ; 7, meddwdod Arminian, dyn yn dal fod ganddo allu i sefyll, a Zacri y teiliwr yw y dyn." Wedi edrych i mewn i'r achos barnodd yr eglwys fod Jacob Lewis wedi ei liwio lawer yn rhy ddu, ac felly cafodd Zacri gadw ei aelodaeth a'i swydd hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn fuan wedi hyny. Thomas David, y gôf, o Benybanc, hen-daid Mr. Thomas, Llanfair, oedd wr ffyddlon a llafurus iawn gyda'r achos. Yr oedd ei dduwioldeb yn perarogli yr holl wlad. Un nodedig am heddychlonrwydd ei dymer ydoedd. Ar ddiwedd un cyfarfod eglwysig cyfododd rhyw ddadl fechan ac anghydwelediad rhyngddo ef a Mr. Powell, y gweinidog, a phasiodd ychydig o eiriau croesion rhyngddynt. Aeth y ddau i'w cartrefleoedd y noson hono, ond methasant gysgu trwy y nos. Cyfododd pob un o honynt yn fore dranoeth, cychwynodd Thomas David i fyned i dy Mr. Powell i gydnabod ei fai, a chychwynodd Mr. Powell tua ei dy yntau ar yr un neges. Cyfarfuasant ar y ffordd a buont ago ag ymryson drachefn wrth geisio penderfynu ar bwy yr oedd y bai y nos o'r blaen. Mynai pob un ddyweyd mai arno ef yr ydoedd. O'r dydd hwnw allan buont yn gyfeillion mynwesol hyd angau, ac y maent yn fwy felly heddyw nag y gallasant fod ar y ddaear. Morgan Morgans, neu "Morgan y crydd," taid John, David, a Noah Stephens, oedd yn ddyn rhyfeddol am ei wybodaeth a,i ddoniau. Efe fu yn gychwynydd i'r Ysgol Sabbothol yn Nghapel Isaac, ac yr oedd yn athraw diail. Bu ei dy am ddegau o flynyddau yn gartref i'r holl bregethwyr a ddeuent i'r ardal. Yr oedd yn brydydd rhagorol iawn. Baxteriad oedd yntau o ran i olygiadau duwinyddol. John David, neu " Jacki Ddafydd," taid y Meistri Williams, Pantteg, a Williams, Rhydybont, oedd un o ragorolion y ddaear. Er nad oedd ond gweithiwr tlawd yr oedd ei dduwioldeb wedi rhoddi iddo y fath ddylanwad fel yr oedd yn ddychryn i annuwiolion yr ardal. Buasai ei bresenoldeb ar faes ar ddydd cynhauaf yn ddigon i gadw y cellweirwyr a'r rhegwyr mwyaf rhyfygus yn ddistaw. Yr oedd ganddo fwy o ddylanwad yn unig trwy ei dduwioldeb nag a allasai fod gan un ynad heddwch. Yr oedd yn Galfiniad cryf o ran ei olygiadau. Darllenodd " Gorph Duwinyddiaeth " Dr. Lewis lawer gwaith drosodd. Un o'r gweddiwyr mwyaf toddedig a glywsom erioed ydoedd. Dyn hynod iawn oedd Lewis Lewis, o'r North. Medrai edrych yn sarug a llefaru geiriau chwerwon, ond yr oedd ganddo deimlad tyner a chalon garuaidd dan y cwbl. Un o'r uchel-Galfiniaid oedd ef, ond yr oedd tynerwch ei deimladau yn drech na holl lymder ei olygiadau. Un prydnawn Sabboth yn amser y diwygiad mawr yn 1828, yr oedd pregeth yn ei dy, a throdd yr oedfa allan yn rhyfeddol o effeithiol, yr oedd pawb yno yn foddfa o ddagrau. Wedi i'r rhan fwyaf o'r gynnulleidfa fyned allan trodd Lewis at Morgan y crydd a dywedodd " Yr wyf yn rhyfeddu at eich byrdra chwi Morgan, na buasech yn cyhoeddi Society ar ddiwedd y bregeth, fe fuasai degau yn sicr o aros yn ol yma. Nid oedd yn gweddu i mi gyhoeddi Society yn fy nhy fy hun, ond yr oeddwn yn disgwyl y buasech chwi Morgan yn gwneyd hyny." Yr oedd cryn dipyn o wahaniaeth golygiadau athrawiaethol rhwng Lewis a Morgan, ac felly daliodd Morgan ar y cyfleustra i roddi ergyd i uchel-Galfiniaeth Lewis. Atebodd yn ei ddull digrif, " Os ydynt yn yr arfaeth Lewis bach, hwy gant eu dal ryw dro eto." Atebodd Lewis yn ol yn lled chwerw, " Arfaeth neu beidio, ein lle ni oedd ceisio eu dal heddyw." Pe goddefai ein terfynau gallem gofnodi llawer o bethau am Evan Phillip, gwr mwyn a boneddigaidd ; Harry o'r

539

Hafod, tad Mr. Williams, Llandilo, dyn cywir a da iawn ; Thomas Dyer, Cristion didwyll a llawn o wres crefyddol, a llawer eraill o'u cyffelyb, ond y mae yn rhaid i ni ymatal.

Er fod ychydig o wahaniaeth barn wedi bod yma o bryd i bryd o berthynas i uchel ac isel Galfiniaeth ni ddarfu i'r eglwys ar un cyfnod o'i hanes ymwrthod a'r athrawiaethau pwysig a nodweddent weinidogaeth y tadau annghydffurfiol, ac nid oes genym hanes am unrhyw rwygiad eglwysig a gymerodd le yma, er fod rhai personau anhywaeth wedi peri ychydig o aflonyddwch yma rai troion. Parhaed tangnefedd i deyrnasu yn y lle, a bydded i'r  eglwys henafol hon yn y dyfodol fel y mae wedi bod hyd yn hyn i fod yn fam i luaws o ddynion defnyddiol yn nheyrnas Crist.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

Dywedir, fel y gwelsom yn hen lyfr yr eglwys, mai y gweinidogion cyntaf yma oeddynt Stephen Hughes, Samuel Jones, a David Jones. Gan ein bod eisioes wedi rhoddi hanes y ddau flaenaf yn nglyn a Henllan a Phenybont-ar-ogwy, nid oes genym yma ond rhoddi cymaint o hanes ag a feddwn am.

DAVID JONES. Nid oes genym unrhyw wybodaeth am amser a lle ei enedigaeth ef. Cafodd ei droi allan o eglwys Llandyssilio, gerllaw Nar- berth, gan ddeddf unffurfiaeth yn Awst, 1662. Wedi hyny bu yn cyd- lafurio a Mr. Stephen Hughes. Symudodd ryw bryd cyn 1682 i Abertawy, ac yno mae yn dra thebygol y bu farw yn fuan wedi y flwyddyn 1690. Efe ddarfu gyhoeddi yr argraphiad o'r Bibl a ddaeth allan y flwyddyn hono. Yr ydym yn cael iddo draddodi dwy bregeth yn Nghaerodor yn y flwyddyn 1682. Dyoddefodd lawer o erledigaeth wrth gydweithio â Mr. Hughes yn mhlaniad a meithriniad yr Eglwysi Ymneillduol. Mae yn flin genym na allasem roddi ychwaneg o hanes dyn mor dda a defnyddiol.

WILLIAM DAVIES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1669, ond nid ydym wedi gallu cael allan le ei enedigaeth, nac yn mha eglwys y dechreuodd grefydda a phregethu. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Nghapel Isaac, fel y nodasom, ryw bryd rhwng 1700 a 1710. Dichon iddo fod yn weinidog yn rhywle arall cyn dyfod yma. Bu yn byw, am ryw yspaid yn Nghwmygigfran, rhwng Capel Isaac a Thalyllychau. Gan ei fod yn cyfaneddu mewn lle mor urddasol a hwnw, mae yn rhaid ei fod mewn amgylchiadau gwell na'r cyffredin. Yn y flwyddyn 1715 yr  yn byw yn mhlwyf Llanegwad, ond nis gwyddom yn mha le yno. Bu ei ferch, yr hon a fu farw yn mhen dwy flynedd ar ei ol ef, yn wraig John Jones", Llwynybrain, a dichon mai yno yr oedd ei thad yn byw pan yn preswylio yn mhlwyf Llanegwad. Cofnodiad byr iawn, yn llaw ysgrifen Thomas William, sydd am ei farwolaeth yn llyfr eglwys Capel Isaac:- "Y Parchedig Mr. William Davies, gweinidog y Mynydd bach ac Abergorlech, a ymadawodd a'r fuchedd hon Tachwedd 5ed, 1732, yn 63 oed." Mae yr un amgylchiad yn cael ei gofnodi gan Mr. Christmas Samuel yn llyfr eglwys Pantteg yn helaethach, ond y mae yn dyddio ei farwolaeth ddiwrnod yn gynt nag yn llyfr Capel Isaac. Nis gellir penderfynu pa un o'r ddau ddyddiad sydd yn gywir : " Tach. 4ydd, 1732, bu farw Mr. William Davies, gweinidog yr efengyl, o'r dwymyn, wedi mis o gystudd.

540

Yr oedd efe yn ddyn da ar y cyfan er ei fod yn ddeiliad llawer o wendidau. Nid myfi yn unig ond llawer o Gristionogion eraill a unant a mi yn y farn ei fod yn ddyn grasol ei ysbryd, fod gwreiddyn y matter ynddo, a bod genym seiliau i obeithio yn dda am ei gyflwr tragywyddol. Cafodd eglwysi Crist golled ar ei ol, oblegid pregethai lawer yn eu mysg yn mhell ac agos." Bu Mr. Davies a llaw yn nghyhoeddiad amryw lyfrau Cymreig. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn llafurus iawn pa beth bynag oedd y gwendidau a berthynent iddo.

JOHN HARRIES. Yr oedd ef yn fab i Harry Thomas, o blwyf Llanfynydd, ac y mae yn dra sicr mai yn y plwyf hwnw y ganwyd ac y magwyd ef. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni, ond gan i'w fam farw yn 82 oed yn 1720, yr ydym yn casglu iddo ef gael ei eni tua y flwyddyn 1680, os nad rai blynyddau cyn hyny. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn y Pantteg yn 1703. Paham yr aeth i'r Pantteg yn hytrach nag i Gapel Isaac, ac yntau yn byw gymaint yn nes i'r lle hwnw nis gwyddom. Dichon mai cysylltiadau teuluol ai harweiniodd yno. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn y Pantteg yn 1724 yn gynnorthwywr i Mr. Christmas Samuel, ond cyn diwedd y flwyddyn hono cafodd alwad o Gapel Isaac i fod yn gydweinidog â Mr. W. Davies, ac yno y bu yn llafurus a defnyddiol hyd derfyn ei oes. Cyfaneddai mewn amaethdy a elwir Cilcanwr, yn mhlwyf Llanfynydd, ac y mae yn ddigon tebygol mai yno y ganwyd ac y magwyd ef. Bu Cilganwr mewn oes ddiweddarach yn breswylfod i Mr. David Rees, gweinidog enwog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr ydym yn cael yr hyn a ganlyn am Mr. Harries wedi ei ysgrifenu gan Mr. Christmas Samuel yn llyfr eglwys y Pantteg : " Ionawr 3, 1748, yr hwn oedd yn ddydd yr Arglwydd, bu farw Mr. John Harries, gweinidog yr efengyl ar y Mynydd bach, yn mhlwyf Llandilofawr. Yr oedd yn byw yn Nghilganwr, yn mhlwyf Llanfynydd. Cafodd ei dderbyn yn aelod yn y Pantteg, lle parhaodd i fod yn aelod am lawer o flynyddau. Wedi hyny urddwyd ef yn weinidog i'r gynnulleidfa hono fel cynnorthwywr i Christmas Samuel. Yna symudodd i fod yn weinidog y gynnulleidfa ar y Mynydd bach, yn mhlwyf Llandilofawr, Llafuriodd yno yn ffyddlon a llwyddiannus iawn hyd derfyn ei oes. Ymddugod yn dda yn mhob ystyr fel cymydog, fel pen teulu, fel Cristion, ac fel gweinidog. Yr oedd yn garedig iawn i'w berthynasau tlodion, i dlodion ei gynnulleidfa, ac i dlodion y plwyf. Y mae ei weithredoedd yn ei ganmol yn y pyrth." Claddwyd ef yn mynwent plwyf Llanfynydd, Ionawr 7fed, 1748.

THOMAS WILLIAM. Felly yr ysgrifenai ef ei enw, ac yr oedd yn anfoddlon iawn i neb ei alw yn Williams. Darfu i argraphydd un o'i lyfrau gymeryd y rhyddid i ychwanegu yr S at ei enw, yr hyn a ddigiodd gymaint arno fel y cyfansoddodd benill o sen iddo am osod " yr S fongam " wrth ei euw ef. Cafodd Thomas William ei eni yn y flwyddyn 1697, ond nis gwyddom yn mha le. Clywsom wyres iddo yn dyweyd fwy na phum' mlynedd a deu gain yn ol mai " dyn dwad" i ardal Capel Isaac oedd ei thaid, ond buom yn rhy ddifeddwl i ofyn iddi o ba le y daethai. Yr oedd ef yn aelod yma yn 1715, a chafodd ei ferch Anne, ei unig blentyn feddyliwn, ei bedyddio gan Mr. William. Davies, Ebrill 10fed, 1723. Cafodd ei neillduo yn ddiacon yn Nghapel Isaac, Medi laf, 1734, ac yn Awst, 1735, dechreuodd bregethu. Ar yr achlysur traddododd gyffes o'i ffydd, yr hon sydd. i'w gweled yn ei law ysgrif ef ei hun yn

541

llyfr yr eglwys. Ebrill 5fed, 1744, ymddangosodd ef a thri ereill, sef Joseph John, Thomas Morgan, o Henllan, a James Davies, Abermeurig, ger bron yr ynadon yn Nghaerfyrddin i gael eu trwyddedu i bregethu. Bu yn bregethwr cynorthwyol hyd y flwyddyn 1757 neu 58, pryd yr urddwyd ef yn weinidog i'w fam-eglwys, ac yno y bu yn llafurio gyda chymeradwaeth hyd ei farwolaeth. Claddwyd ef yn mynwent Llanfynydd, Mehefin 12fed, 1778. Clywsom aniryw hen bobl oeddent yn bresenol ar ei gladdedigaeth yn adrodd i'r hen offeiriad Cornelius Copner fyned i dymer ddrwg wrth y clochydd pan yn darllen gwasanaeth y claddedigaeth. Pan y deuwyd at y rhan hono o'r gwasanaeth lle y dywedir " Pridd i'r pridd," &c., wrth daflu ychydig bridd i lawr ar flaen y rhaw digwyddodd fod ynddo gareg fechan, yr hon wrth ddisgyn a wnaeth gryn swn ar gauad yr arch. Ar hyn trodd yr hen offeiriad at y clochydd a dywedodd yn chwerw wrtho " Taflwch chwi wr  y pridd i lawr yn esmwyth; dyn duwiol oedd hwn canys fe gysgodd un noswaith yn fy nhy i." Yr ydym yn gadael yr hanesyn i bob darllenydd i dynu y casgliad a fyno oddiwrtho. Dyn hynod oedd yr hen Copner, ac yn dyweyd llawer o bethau chwerthinllyd a ffol iawn o'r pulpud. Prin yr ystyrid ef yn gyflawn yn ei synwyrau, ond yn nghanol ei holl hynodion yr oedd ynddo lawer o natur dda.

Gwehydd oedd Thomas William wrth ei alwedigaeth, a dilynodd yr alwedigaeth hono hyd derfyn ei oes. Ni bu mewn un athrofa, ond yr oedd yn rhyw fodd wedi dyfod yn ysgolhaig campus. Medrai ysgrifenu y Gymraeg a'r Saesonaeg yn ramadegaidd a thlws, ac y mae ei law ysgrifen yn hardd dros ben. Cyfaneddai mewn ty bychan, nodedig o daclus, tua thri chwarter milldir i'r dwyrain o Gapel Isaac, ac yn mhen dwyriniol y ty, ar y llofft, yr oedd ei lyfrgell. Yr ydym yn casglu oddiwrth ychydig o'i bregethau yn ei law ysgrifen ef ei hun, y rhai sydd yn ein meddiant, ei fod yn bregethwr adeiladol iawn. Ni chlywsom neb yn son dim yn y naill ffordd na'r llall am ei ddoniau fel traddodwr. Gwnaeth Thomas William gryn ddefnydd o'r argraph-wasg. Yn y flwyddyn 1724, pryd nad oedd ond saith ar hugain oed, cyhoeddodd " Yr Oes Lyfr," a chyhoeddodd ail-argraphiad o hono, wedi ei helaethu yn fawr, yn 1768. Cyhoeddodd " Y waedd yn Nghymru yn wyneb pob cydwybod," gan Morgan Llwyd O Wynedd, gyda rhagymadrodd helaeth, yn 1727. Yn 1761 cyhoeddodd ddamegion  Iachawdwr ar gân, gan Joseph John, ac yn 1771 " Cynghorion Tad i'w Fab." Meddai ar lawer o ddawn i brydyddu. Yr oedd hen bobl ardal Capel Isaac, haner can' mlynedd yn ol, yn adrodd llawer o'i rigymau. Gorwyr i Thomas William oedd y diweddar Mr. David Jones, Gwynfe.

REES REES. Ganwyd ef mewn amaethdy bychan a elwir Y Spïen, yn mhlwyf Llandebie, yn y fiwyddyn 1826. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Nghapel yr Hendre, ond gogwyddwyd ei feddwl ef pan yn dra ieuanc i fyned at yr Annibynwyr i Benygroes. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yno gan Mr. T. Jenkins, ac yn lled fuan wedi hyny anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ar ol bod am dair blynedd yn Athrofa Ffrwdyfal derbyniwyd ef i Athrofa Caerfyrddin. Yr oedd er yn blentyn yn ddiffygiol iawn yn ei olygon, ac yr oedd flynyddau cyn ei farwolaeth wedi myned agos os nad yn hollol ddall. Er yr anfantais hyn, trwy fod ganddo gôf nodedig o afaelgar, daeth yn ysgolhaig rhagorol. Yn mhen ychydig amser wedi dyfod allan o'r athrofa

542  

derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys a gyferfydd yn awr yn Zoar, Abertawy, yr hon oedd y pryd hwnw newydd gael ei ffurfio, ac urddwyd ef yno yn y flwyddyn 1848. Wedi bod yno dros saith mlynedd gwnaeth ei feddwl i fyny i ymfudo i'r America, a phan wedi parotoi pob peth gyferbyn a'r daith, ac ar gychwyn, derbyniodd alwad o Gapel lsaac. Barnodd mai galwad oddiwrth Dduw ydoedd, a phenderfynodd gydsynio â hi.

Yn fuan wedi myned yno cafodd alwadau i fyned yn fisol i Myddfai a Horeb, Brechfa. Ar ddechreuad ei weinidogaeth yn mhob un o'r lleoedd hyn torodd adfywiad grymus allan, ac ychwanegwyd rhai canoedd at yr eglwysi. Gan nad oedd ei gyfansoddiad ef ond gwan, effithiodd ei lafur dirfawr yn amser yr adfywiad gymaint arno fel na bu y darfodedigaeth yn hir cyn ymaflyd ynddo. Bu yn gwaelu yn hir cyn iddo roddi fyny pregethu. Ond gan fod ei lais wedi pallu bu am agos blwyddyn cyn ei farwolaeth heb bregethu dim. Bu farw Rhagfyr 16eg, 1864. Claddwyd ef yn barchus yn mynwent Capel Isaac, yn ngwydd torf ddirfawr o bobl, pryd y traddodwyd pregeth effithiol gan Mr. Davies, Cwmaman.

Yr oedd Rees Rees yn effeithiol iawn fel pregethwr, a bu ei lafur fel gweinidog am ei dymor byr yn fendithiol i ganoedd o eneidiau.

  

ABERGORLECH

Dechreuwyd yr achos yma yn fuan ar ol cychwyniad yr achos yn Nghapel Isaac, a bu y ddau le mewn cysylltiad a'u gilydd ac o dan ofal yr un gweinidogion hyd derfyn gweinidogaeth Mr. William Gibbon. Nid rhaid i ni gan hyny ail grybwyll enwau y rhai a fu yn llafurio yma am y can' mlynedd cyntaf o hanes yr achos. Yr  y capel cyntaf a godwyd yma yr ochr arall i'r afon, yn mhlwyf Llanfynydd, ond nid yw dyddiad adeiladiad ar gael. Wedi i gysylltiad Mr. Gibbon a'r eglwys derfynu bu y gofal yn olynol ar Mr. D, Morgan, Ffaldybrenin, a Mr. Jonathan Jones, Rhydybont ; ond yn fuan wedi urddiad Mr. D. Davies yn Sardis cymerodd ef ofal yr eglwys, a bu yn cyrchu yma am fwy nag ugain mlynedd. Yn y flwyddyn 1824 rhoddodd Mr. Davies yr eglwys i fyny, a derbyniodd Mr. Benjamin Griffith, aelod o Drelech, ac a fuasai yn derbyn addysg dan Mr. Griffith, Glandwr, alwad yr eglwys i fod yn weinidog, ac urddwyd ef Mehefin 14eg, 1825. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. S. Griffith, Horeb ; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Davies, Sardis; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. D. Jones, Crugybar ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. Jones, Trelech ; ac i'r eglwys gan Mr. T. Griffith, Hawen. Ni bu tymor gweinidogaeth Mr. Griffith ond byr, ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw yn mhen dwy flynedd wedi ei urddiad. Yn 1827 adeiladwyd yma gapel newydd yr ochr arall i afon Cothi, yn mhlwyf Llanybydder, ac mewn man llawer mwy cyfleus nag yr oedd yr hen gapel. Dywedir fod yr hen gapel wedi ei adeiladu ddwy waith, ac felly y trydydd capel a godwyd yma oedd yr un yn 1827. Y flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i Mr. Thomas James, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 16eg, 1828, yn nglyn ag agoriad capel. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. M. Jones, Trelech ; gofynwyd yr holiadau arferol gan Mr. D. Davies, Pantteg,; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Griffiths, Horeb; pregethwyd i r gweinidog gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin ; ac i'r eglwys gan Mr. M.

543

Jones, Trelech. Llafuriodd yma gyda graddau o lwyddiant am chwe' blynedd, nes, oherwydd rhyw amgylchiadau, yr ymadawodd yn 1834, ac o hyny allan llafuriodd yn Hermon a Tabor hyd ei farwolaeth. Ar ol bod am yn agos i dair blynedd heb weinidog rhoddwyd galwad yn 1837 i Mr. Evan Jones, Brychgoed, i fod yn weinidog i'r eglwys hon mewn cysylltiad â Chrugybar, a llafuriodd yma yn ddiwyd a ffyddlawn am bymtheng mlynedd-ar-hugain, pryd y teimlodd oblegid eangder maes ei lafur fod yn rhaid iddo roddi y lle i fyny. Yn Awst, 1872, dechreuodd Mr. T. G. Jones ei weinidogaeth yma mewn cysylltiad a Gwernogle, a dechreuodd Mr. Jones ar ei waith o ddifrif. Adgyweiriwyd y capel, yr hwn oedd wedi myned yn ddadfeiliedig, trwy draul o 300p., fel y mae yn awr yn dy hardd a chyfleus ; ac agorwyd ef Hydref 14eg a'r 15fed, 1873. Mae yma ddau ysgoldy perthynol i'r eglwys lle y cynhelir Ysgol Sabbothol, a moddion eraill yn achlysurol. Gelwir un yn NANTYFFIN. Mae yn mhlwyf Llanfihangel-rhosycorn. Codwyd  gyntaf yn 1844, ac adgyweiriwyd  yn 1859 trwy draul o tua 30p. Perthyna i Abergorlech a Gwernogle, oblegid y mae mewn man lle y mae aelodau y ddwy eglwys yn cydgyfarfod. Gelwir y llall yn PENYGARN. Mae yn mhlwyf Llanfynydd. Adeiladwyd ef gyntaf yn 1869. Mae y Methodistiaid Calfinaidd a'r Bedyddwyr sydd yn yr ardal yn uno a'r Annibynwyr yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn y cyfarfodydd gweddi.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

  • Dafydd Evan, neu Dafydd Evan Dafydd,  fel y gelwid ef yn gyffredin. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ond yr oedd yn barchus yn ei ardal, yn ddyn synwyrol a deallgar, ac yn bregethwr derbyniol.
  • Thomas Williams, Disgwylfa. Gwnaed camgymeriad mewn un man yn hanes Pantteg trwy ei alw yn David Williams. Deallwn hefyd mai aelod a phregethwr yn yr eglwys hon ydoedd, ac mai yma y dechreuodd bregethu er iddo fod o lawer o gymorth i'r achos yn Pantteg. Yr oedd yn byw yn yr ardal yma, ac mewn amgylchiadau bydol cysurus, yn gystal a'i fod yn ddyn da, yr hyn a roddodd iddo ddylanwad helaeth ar bob dosbarth yn y wlad.
  • David Evan. Mab oedd ef i Dafydd Evan Dafydd. Bu yntau yn bregethwr cynorthwyol am dymor hir.
  • Daniel Jones. Urddwyd ef yn Nghrugybar, a symudodd i'r Aber, lle y bu farw.
  • Evan Evans. Mab oedd ef i David Evan, ac wyr i Dafydd Evan Dafydd. Symudodd i Gwernogle.
  • Rowland Jenkins. Aeth i'r Eglwys Sefydledig.
  • David Roberts, Cwmcwtta. Addysgwyd ef yn Athrofa Drefnewydd, ac urddwyd ef yn Tenby, ond y mae pob cysylltiad rhyngddo ac Ym- neillduaeth wedi darfod er's blynyddau.
  • Evan Lewis, Pant. Addysgwyd ef yn Athrofa y Drefnewydd, ac urddwyd ef yn Brynberian, lle y mae wedi llafurio mewn cymeradwyaeth mawr am ddeng mlynedd-ar-hugain.
  • Thomas Roberts, Cwmcwtta. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Park Street, Llanelli, a symudodd i Loegr, ac yr ydym yn deall ei fod yn awr wedi encilio i'r Eglwys Sefydledig.
  • Daniel Jones. Bu am ychydig amser yn Athrofa Ffrwdyfal, ond y mae er's blynyddoedd wedi marw.
  • Theophilus Harries, Cathilas. Bu yntau farw yn ieuangc.

544  

Dyna yr oll yr anfonwyd i ni eu henwau.* Diaconiaid presenol yr eglwys ydynt Stephen Griffiths, Esgairgynddu; Daniel Evans, Factory ; a Thomas Griffiths, Blaenwaen.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

BENJAMIN GRIFFITHS. Ganwyd ef mewn lle a elwir Blaenpistyll, yn agos i Drelech, yn 1799. Yr oedd yn gefnder i Mr. S. Griffiths, Horeb. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nhrelech, ac wrth weled ei gynydd mewn gwybodaeth, a'i ddoniau mewn gweddi, anogwyd  i ddechreu pregethu. Bu am ychydig yn yr ysgol yn Glandwr. Cafodd alwad o Abergorlech, ac urddwyd ef yno yn 1825. Yr oedd Hermon hefyd dan ei ofal. Nid yn aml y gwelid gwr ieuangc mwy gobeithiol. Yr oedd yn ddoniol fel pregethwr, ac yn barchus gan yr holl wlad. Ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw yn mhen dwy flynedd. Claddwyd ef yn mynwent Hermon, ac yr oedd y dorf fawr ai dilynodd o Abergorlech yno yn brawf o'r parch dwfn oedd iddo.

Translation by Gareth Hicks (Oct 2008)

The cause began here soon after that at Capel Isaac started, and the two places were connected to each other and under the care of the same ministers since the end of the ministry of Mr William Gibbon. There's no need for us to repeat  the names of those who laboured here over the first 100 years in the cause's history. The first chapel to beraised here was on the other side of the river, in the parish of Llanfynydd, but the date of erection isn't available. After the link between Mr Gibbon and the chapel ended its care was successively under Mr D Morgan, Ffaldybrenin, and Mr Jonathan Jones, Rhydybont; but soon after Mr D Davies was inaugurated at Sardis he took over care of this chapel, and he slaved here for over 20 years. In the year 1824 Mr Davies gave the church up, and Mr Benjamin Griffith, a member from Drelech, was educated under the tuition of Mr Griffith, Glandwr, accepted a call from the church to be its minister, and he was inaugurated on 14th  June 1825. On that occasion Mr S Griffith, Horeb, preached on the nature of a Church; questions asked by Mr D Davies, Sardis; the ordination prayer was given by Mr D Jones, Crugybar; the sermon to the minister given by Mr M Jones, Trelech, and to the church by Mr T Griffith, Hawen. Mr Griffith's  ministry was short, he was seized with consumption, and he died at the end of two years from his inauguration. In 1827 they built a new chapel on the other side of the river Cothi, in Llanybydder parish, and in a much more convenient place than the old chapel. It is said that the old chapel was built twice, and therefore it was the third chapel that was built here in 1827. The following year they gave a call to Mr Thomas James, a student from Carmarthen Seminary, and he was inaugurated on 16th June 1828, along with the opening of the chapel. On this occasior;  Mr M Jones, Trelech, preached on the nature of a Church; questions asked by Mr D Davies, Pantteg; the ordination prayer was given by Mr S Griffiths, Horeb; the sermon to the minister given by Mr D Peter, Carmarthen; and to the church by Mr M Jones, Trelech. He laboured here with some success for 6 years, until, because of some circumstances, he departed in 1834, and from then on he laboured in Hermon and Tabor until he died. After nearly 3 years without a minister they gave a call in 1837 to Mr Evan Jones, Brychgoed, to be the minister here together with Crugybar, and he laboured here diligently and faithfully for 35 years, when he felt obliged to give the place up to widen his field of work. In August, 1872, Mr T G Jones began his ministry here, together with Gwernogle, and Mr Jones began his work in earnest. They renovated the chapel, which had fallen into disrepair, at a cost of £300, so it is now a beautiful and convenient place; and it opened on 14/15th October, 1873.  There are here two schools allied to the church  where they maintain a Sunday School, and other modes sometimes. One is called Nantyffin. It's in Llanfihangel-rhosycorn parish. First raised in 1844, and renovated in 1859 at a cost of about £30. It is connected to Abergorlech and Gwernogle, because it is in a place where the members of the two chapels converge. The other is called Penygarn. It's in Llanfynydd parish. It was first built in 1869. The Calvinistic Methodists and the Baptists in the district join with the Independents in the Sunday School, and the prayer meetings.

The following people were raised to preach in this church.**

  • Dafydd Evan, or Dafydd Evan Dafydd, as he was usually called. He was a weaver by trade,..............
  • Thomas Williams, Disgwylfa. In one place in the history of Pantteg he was mistakenly called David Williams.............
  • David Evan, son of Dafydd Evan Dafydd............
  • Daniel Jones, inaugurated in Crugybar, moved to Aber where he died
  • Evan Evans, son of David Evan, and a grandson of Dafydd Evan Dafydd, moved to Gwernogle
  • Rowland Jenkins, went to the Established Church
  • David Roberts, Cwmcwtta, educated  Newtown College, inaugurated in Tenby...........
  • Evan Lewis, Pant, educated Newtown College, and inaugurated in Brynberian.............
  • Thomas Roberts, Cwmcwtta, educated  Brecon College, inaugurated in Park St, Llanelli, moved to England...............
  • Daniel Jones, was for some time in Ffrwdvale College, but has been dead for years
  • Theophilus Harries, Cathilas, he died young

That is all that was sent to us, their names.* The present church deacons are Stephen Griffiths, Esgairgynddu; Daniel Evans, Factory; and Thomas Griffiths, Blaenwaen.

Biographical Notes**

BENJAMIN GRIFFITHS.  He was born in 1799 at a place called Blaenpystill, near Drefach.A cousin to Mr S Griffiths, Horeb. A member at Trelech............inaugurated at Abergorlech in 1825, also looked after Hermon....died within 2 years, buried in Hermon Graveyard.......................

 *Letter from Mr T G Jones, Gwernogle

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

GWERNOGLE

 (Llanfihangel-Rhos-y-Corn parish)

Mae y capel yma yn mhlwyf Llanybydder mewn gwlad uchel. Dechreuwyd pregethu yma rywbryd yn haner gyntaf y ddeunawfed ganrif. Arferai rhai oddiyma fyned i Bencadair i addoli, ac eraill i Pantteg ac Abergorlech, ac os gellir dyweyd ei bod wedi hanu o un o'r eglwysi hyn o Bencadair y daeth allan. Sonir am enwau dau oedd yn flaenffrwyth yr achos yma y rhai oeddynt yn aelodau yn Mhencadair, sef Simon Lewis, crydd, o Danyrallt, a Griffith Thomas, neu Gruffydd Cadwgan, fel y gelwid ef. Adiladwyd y capel cyntaf yn ol y dyddiad sydd ar y gareg goffadwriaethol yn 1749. Nis gwyddom pwy oedd y gweinidog cyntaf yma, ond yn ol cofnodion y Trysorfwrdd Presbyteraidd yr oedd Milbourn Bloom yma yn 1757. Yr oedd ef wedi ei ordeinio yn Pantteg, Medi 26ain, 1745, fel cynorthwywr i Mr. Christmas Samuel ; a bu yn llafurio mewn amryw o eglwysi y sir. Yn 1774 pan gasglodd Mr. E. Griffith ystadegaeth eglwysi y sir, 100 oedd nifer y gynnulleidfa, ac nid oedd yr un gweinidog yma yn y flwyddyn hono. Pan sefydlodd Mr. David Morgan yn Ffaldybrenin yn y flwyddyn 1789, ymddengys iddo hefyd gymeryd gofal yr eglwys hon ; ac fel y gallwn gasglu llafuriodd yma hyd ei farwolaeth. Ar ol hyny bu Mr. E. Evans, Cilcarw, yn dyfod yma dros dymor. Yr oedd ef yma yn 1811, canys cawn ei enw gyda nifer o'r henuriaid a'r diaconiaid ar yr 20fed o Dachwedd y flwyddyn hono, yn arwyddo tystysgrif David Evan fel pregethwr. Wedi urddo Mr. Lewis Powell yn Nghapel Isaac yn 1813 cymerodd ef ofal yr eglwys, a bu yn dyfod yma dros rai blynyddoedd. Ail-adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1818. Wedi i Mr. Powell roddi y lle i fyny bu Mr. Evans, Cilcarw, yn dyfod yma eilwaith ; a daeth Mr. Rees Powell, Cross Inn, yma bob yn ail fis ag ef, ac felly y buont am dymor hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr. Powell, a bu yn weinidog yma hyd nes y lluddiwyd ef gan henaint i allu cyflawni ei weinidogaeth. Rhoddwyd galwad i Mr. Thomas D. Jones, aelod o'r

*Llythyr Mr. T. G. Jones, Gwernogle.

545

eglwys, ag a fuasai yn fyfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin, i fod yn olynydd iddo. Urddwyd ef yn Hydref 6ed, 1857. Bu yma yn ddefnyddiol a pharchus am fwy na deng mlynedd, a bu farw Mawrth 21ain, 1868. Bu yr eglwys heb weinidog hyd haf y flwyddyn 1870, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Thomas G. Jones, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Awst 4ydd, 1870 ; ac y mae yn parhau i lafurio yma. Mae yma rai enwau wedi disgyn i lawr y rhai y mae eu coffadwriaeth yn barchus; megis John Jeremy, Felin Farles ; Daniel Benjamin, y gof ; Thomas Nathan, Hendrefadog ; a David Morgan, Pantybettws. Diaconiaid presenol yr eglwys ydynt David Davies, Pantybettws, mae ef mewn oedran teg; John Davies, Gilfachgoch ; John Thomas, Lalach ; Thomas Thomas, Rhiwsaithpren ; John Thomas, Tanycoed ; Daniel Jones, Garth; a William Davies, Pantybettws. Mae yma ysgoldy bychan yn perthyn i'r eglwys ryw dair milldir i'r gogledd o Gwernogle, ar derfyn plwyf Llanfihangel. Adeiladwyd ef gyntaf yn 1837, yn benaf ar draul Mr. David Jones, Blaenholiw ; ond wrth weled fod yr hen dy yn adfeilio penderfynwyd adeiladu ty newydd, gerllaw yr hen, ond yn mhlwyf Llanybydder. Aeth y draul yn 95p., ond dygodd y gymydogaeth yr holl draul, ac yn enwedig y mae llafur a haelioni Meistri E. Jones, Hafod, ac M. Morgans, Blaenholiw, yn haeddu eu coffau. Cynhelir ynddo Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio a phregethu yn achlysurol.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

  • William Jones. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio ato yn nglyn a hanes Machynlleth.
  • Timothy Davies. Aeth ef at y Methodistiaid.
  • David S. Davies, Hendrelywarch. Daw ei hanes ef dan ein sylw yn nglyn a'r Boro', Llundain.
  • David Davies, Ffynongog. Gweler Penywaun, Mynwy.
  • Daniel Evan. Ganwyd ef yn y gymydogaeth yn 1782. Daeth at grefydd yn ieuangc, a dechreuodd bregethu yn un-ar-hugain oed. Pregethai yn fisol yn y capeli cylchynol. Bu yn cyrchu yn fisol i Gapel Noni am ddeugain mlynedd. Cadwai ysgol ddyddiol bob gauaf. Yr oedd yn ddyn doeth a synwyrol, ac yn gwir ofalu am yr achos ; a chan fod Mr. Powell yn byw yn mhell, arno ef yr oedd y gofal mwyaf. Bu farw Ionawr 19eg, 1855, yn 73 oed.
  • John Davies, Esgairfynwent. Gwelir crybwylliad am dano ef yn nglyn a Maesyrhaf, Castellnedd.
  • David Thomas, Croesceiliog, a Thomas Williams, Llidiardnenog. Nid oes genym ond eu henwau.
  • Daniel Davies, Esgairfynwent. Addysgwyd ef yn Athrofa Rotherham, ac y mae yn weinidog yn Stanstead, Essex.
  • David Jones. Mae yn adnabyddus fel pregethwr cynorthwyol er's mwy na deugain mlynedd. Mae yn awr yn byw yn ardal Pantteg.
  • Evan Jones, Garth. Addysgwyd ef yn Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn y Wern a Phenycae, lle y daw eto dan ein sylw.
  • William Thomas (Gwilym Marles). Ymadawodd at yr Undodiaid tra yn yr Athrofa yn Nghaerfyrddin.
  • Thomas D. Jones, Garth. Urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys hon.
  • David Silyn Evans. Bu yn Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Moriah, Rhymni.

546

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

MILBOURN BLOOM. Nid oes genym ond ychydig o'i hanes. Bernir mai un o deulu y Blooms, Castellpigyn, yn mhlwyf Abergwyli, ydoedd, y rhai oeddynt bobl o radd uchel yn y wlad. Ceir rhai eraill o'r un enw yn mysg hen aelodau Pantteg, ac yr ydym yn cael un John Bloome yn fyfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin yn 1753 ; ond y mae yn debyg ddarfod i hwnw trwy ryw amgylchiad ddirywio gyda chrefydd, oblegid yr ydym yn cael cofnod yn hen lyfr eglwys Pantteg ei fod yn 1761 wedi adnewyddu ei gyfamod. Derbyniwyd Milbourn Bloom yn aelod yn Pantteg yn Medi neu Hydref, 1843, oblegid y mae ei enw yn mysg amryw a dderbyniwyd yn y ddau fis. Urddwyd ef yn gynorthwywr i Mr. C. Samuel, Medi 26ain, 1845, felly y mae yn eglur iddo ddechreu pregethu yn ddioed wedi ei dderbyn. Llafuriodd lawer yn Pantteg, Penygraig, Gwernogle, a Phentretygwyn, ac yn ei dymor nid oedd mewn un modd na segur na diffrwyth. Nid oes gwybodaeth am le nac amser ei farwolaeth, ond y mae yn amlwg i hyny gymeryd lle lawer o flynyddoedd cyn diwedd y ganrif ddiweddaf.

THOMAS D. JONES. Ganwyd ef Chwefror 1 af, 1833, yn y Garth, yn mhlwyf Llanfihangel-rhosycorn, sir Gaerfyrddin. Derbyniwyd ef yn aelod yn Gwernogle pan yn un-ar-ddeg oed. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1851, ond yr oedd yn flaenorol wedi ei dderbyn i Athrofa Caerfyrddin. Gwnaeth y goreu o'r mantision addysg a gafodd, ac ar derfyniad ei amser yn yr athrofa, gan nad oedd ei iechyd yn gryf, arhosodd am ychydig gartref er adnewyddiad i'w nerth. Derbyniodd alwad gan ei fam-eglwys yn Gwernogle, ac urddwyd ef yno Hydref 7ed, 1857, ac ymroddodd o ddifrif i gyflawni ei weinidogaeth, ac ni bu ei lafur yn ofer. Cadwodd ysgol dros ei holl dymor yn gystal a phregethu- yn gyntaf yn Gwernogle, ac wedi hyny yn y Derlwyn, ac yn ddiweddaf yn Tymawr, Brechfa. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, a bu nifer luosog o ieuengctyd dan ei ofal yn derbyn addysg, ac yn eu plith rai pregethwyr. Cymerodd ofal eglwys Horeb yn nglyn a Gwernogle, a bu yn llafurus iawn yn ddau le ; ac yr oedd iddo barch mawr gan bobl ei ofal. Gwaelodd ei iechyd yn fawr yn ei flynyddoedd diweddaf, ond glynodd wrth ei waith tra y gallodd, ac ni chollodd ei hyder yn yr Arglwydd ei Dduw. Bu farw Mawrth 21ain, 1868, yn 36 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Siloam, Pontargothi. Gadawodd weddw ac un plentyn i alaru ar ei ol.

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

This chapel is in Llanybydder parish in high country. Preaching began here sometime in the first half of the C18th. It was traditional for some who lived here to go to Pencadair to worship, and others to Pantteg and Abergorlech, and if it was possible to say that they hailed from one of these chapels it would be Pencadair that they came from. To mention two that were members of Pencadair and amongst the 'first flush' of the cause here, namely Simon Lewis, the cobbler, of Danyrallt, and Griffith Thomas, or Gruffydd Cadwgan, as he was called. The first chapel was built in 1749 according to the date on the foundation stone. We don't know who the first minister here was, but according to the records of the 'Presbyterian Treasury(Magazine?)' then Milbourn Bloom was here in 1757.  He had been ordained in Pantteg on Sept 26th 1745, as an assistant to Mr Christopher Samuel; and he laboured in several churches in the county. In 1774, when Mr E Griffith collected the church statistics of the county, the congregation numbered 100, but the same minister wasn't here that year. When Mr David Morgan was installed in Ffaldybrenin in 1789, it appears that he also took over care of this church; and thus we can conclude that he laboured here until he died. After that, Mr E Evans, Cilcarw, came here for a time. He was here in 1811, for we have his name with a number of elders and deacons on the 20th of November of that year certifying David Evan as a preacher. After Mr Lewis Powell was ordained in Capel Isaac in 1813, he took over care of this church, and he came here for some years. The chapel was rebuilt in 1818. After Mr Powell gave the place up Mr Evans, Cilcarw came here again; and Mr Rees Powell, Cross Inn, came here alternative months to him, and that's how they were for a while until they gave a call to Mr Powell, and he was the minister here until he was prevented by old age from fulfilling his ministry. They gave a call to Mr Thomas D Jones, a member of the church, as he was a student at Carmarthen Colege, to be his successor. He was ordained on 6th Oct 1857.  He was here respectably and helpfully for more than 10 years, and he died on 21st March 1868. The church was without a minister until the summer of 1870, when theybgave a call to Mr Thomas G Jones, a student at Carmarthen College, and he was ordained on 4th August 1870; and he continues to labour here. There are some names that have been passed down of those whose memory is respected; such as John Jeremy, Felin Farles; Daniel Benjamin, the cobbler; Thomas Nathan, Hendrefadog; and David Morgan, Pantybettws. The present deacons of the church are David Davies, Pantybettws, he is a fair age; John Davies, Gilfach Goch; John Thomas, Lalach; Thomas Thomas, Rhiwsaithpren; John Thomas, Danycoed; Daniel Jones, Garth; and William Davies, Pantybettws. There is a small school house connected to the church, about 3 miles to the north of Gwernogle, on the boundary with Llanfihangel. It was first built in 1837, mainly to the cost of Mr David Jones, Blaenholiw; but on seeing that the old house was deteriorating it was decided to build a new house, near the old one, but in Llanybydder parish. The cost came to £95, but the neighbourhood raised the whole cost, and in particular the work and generosity of Messrs E Jones, Hafod, and M Morgans, Blaenholiw, deserve mention. A Sunday School was held in it, and occasional meetings for prayer and preaching .

The following people were raised to preach in this church;

  • William Jones. We have already referred to him in the history of Machynlleth.
  • Timothy Davies. Went to the Methodists.
  • David S. Davies, Hendrelywarch. His history will come to our notice with the history of the Boro', London.
  • David Davies, Ffynongog. See Penywaun, Monmouthshire.
  • Daniel Evan. Born in this area in 1782. Came to religion young, and began to preach when 21 years old. Preached monthly in the circulating chapels. Was in the monthly circuit of Capel Noni for 40 years. Kep a day school every winter. He was a wise and sensible man, who truly cared for the cause; and since Mr Powell lived away, much of the care fell on him. He died January 19th 1855, aged 73.
  • John Davies, Esgairfynwent. See mention of him with Maesyrhaf, Neath
  • David Thomas, Croesceiliog, and Thomas Williams, Llidiardnenog. We only have their names
  • Daniel Davies, Esgairfynwent. Educated at Rotherham College, now minister at Stanstead, Essex.
  • David Jones. Known as an assistant preacher for more than 40 years. Now lives in the area of Pantteg.
  • Evan Jones, Garth. Educated at Carmarthen College, and ordained at Wern and Penycae, where he will again come to our atention
  • William Thomas (Gwilym Marles). Moved to the Unitarians whilst at Carmarthen College.
  • Thomas D. Jones, Garth. Ordained as minister in this church
  • David Silyn Evans.Was in Brecon College, and ordained at Moriah, Rhymni.

Biographical Notes *

MILBOURN BLOOM. ... only have a touch of his history ... one of the Blooms of Castellpigyn, Abergwili ... member at Pantteg in 1843 ... ordained in 1845 as assistant to Mr Christopher Samuel ... laboured in Pantteg, Penygraig, Gwernogle and Pentretygwyn ... not known when he died

THOMAS D JONES. Born in 1833 in the Garth, Llanfihangel-rhosycorn ... member at Gwernogle aged 11 ... attended Carmarthen College ... poor health ... ordained at Gwernogle in 1857 ... kept a school as well as preaching ... first in Gwernogle, then Derlwyn, then Tymawr, Brechfa ... cared for Horeb as well as Gwernogle ... died in 1868, aged 36 , buried in Siloam, Pontargothi, leaving a widow and one child

*Only a shortened version of these biographical notes have been translated

 

HOREB

(Llanegwad parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanegwad, ar ochr y ffordd o Nantcaredig i Brechfa. Yr oedd llawer o aelodau Pantteg er yn foreu yn trigianu rhwng mynydd Crugmelyn a Chothi, a bu siarad yn amser Mr. Thomas Davies, Pantteg, am godi capel yn agos i Bontynyswen, ond wedi i'r Methodistiaid godi capel yno rhoddwyd y meddwl hwnw i fyny. Yn y flwyddyn 1830 cafwyd darn o dir ar lês gan Mr. Colman Evans, ac adeiladwyd capel, yr hwn a alwyd yn Horeb. Bu y lle dan ofal Mr. D. Davies, Pantteg, o ddechruad yr achos hyd y flwyddyn 1850, pan y cymerodd Mr. W. Thomas ofal yr eglwys mewn cysylltiad â Chapel Isaac. Yn y flwyddyn 1851 a dechreu 1852 ail-adeiladwyd y capel trwy draul o 150p., ond talwyd y cwbl cyn pen blwyddyn gan y gymydogaeth gydag ychydig help a gafwyd yn nghymydogaeth Pantteg. Ymroddodd Mr. Thomas yn

Translation by Gareth Hicks (Nov 2008)

This chapel is in Llanegwad parish, at the side of the road from Nantcaredig to Brechfa. There were many members from Pantteg since early on  living between Crugmelyn mountain and Cothi, and who had talked in the time of Mr Thomas Davies, Pantteg, about raising a chapel near to Pontynyswen, but after the Methodists raised a chapel they gave this idea up. In 1830 they had  a piece of land on lease from Mr Colman Evans, and built a chapel, which they called Horeb. The place was under the care of Mr D Davies, Pantteg, from the beginning of the cause until 1850, when Mr W Thomas took over the church  together with Capel Isaac. In 1851, and the beginning of 1852, they rebuilt the chapel at a cost of £150, but the neighbourhood repaid the lot within the year with some help from the Pantteg neighbourhood. Mr Thomas devoted himself full bloodedly to raising the chapel and paying for it, but he he had a lot of help from people in the district, and especially deserving of remembrance are the labours of Messrs John Lewis, Brechfa, the designer, and John Davies, Cefn. Mr Thomas gave up the church in 1855, when he moved to Bwlchnewydd. After that, Mr Rees Rees, Capel Isaac, was here for a while, and in his time the church enjoyed a powerful revival. In May 1860, Mr T D Jones accepted the care of the church together with Gwernogle, and he continued his faithful service until he died in March 1868. This was the most fulfilling ministry that the church had, because Mr Jones lived near the place. Mr J Rogers, Pantteg, took over care of the church in 1869, and he was successful here until he moved to Penbre in 1871. The churches have this year (1873) given a call to Mr Daniel Jones, Llanybri, formerly Penheolgerig.

The church here has always been notably faithful, especially with the Sunday School, and the old folk there are an example to the young. The names of Mr & Mrs Davies, Llwynbrain; David Rees, John Evans, Cwm,; Benjamin Davies, and David Davies, Cefn; are deserving of respectful remembrance as faithful to this cause.

 

CONTINUED


Return to top

[Gareth Hicks 8 March 2009]