| Carmarthenshire | Contents |
Pages 547 - 560
Proof read by Eleri Rowlands (April 2008)
Chapels below;
|
|
|
547
egniol gyda chodi y capel a thalu am dano, ond cafodd help mawr gan bawb yn yr ardal, ac yn enwedig y mae llafur Meistri John Lewis, Brechfa, y cynllunydd, a John Davies, Cefn, yn haeddu ei goffau. Rhoddodd Mr. Thomas yr eglwys i fyny yn 1855, pan y symudodd i Bwlchnewydd. Bu Mr. Rees Rees, Capel Isaac, yma ar ol hyny am ychydig, ac yn ei amser ef mwynhaodd yr eglwys adfywiad grymus. Yn Mai, 1860, cymerodd Mr. T. D. Jones ofal yr eglwys mewn cysylltiad â Gwernogle, a pharhaodd i'w gwasanaethu yn ffyddlon hyd ei farwolaeth yn mis Mawrth, 1868. Dyma y weinidogaeth gyflawnaf a gafodd yr eglwys oherwydd fod Mr. Jones yn byw gerllaw y lle. Cymerodd Mr. J. Rogers, Pantteg, ofal yr eglwys yn 1869, a bu yma yn 1lwyddianus hyd nes y symudodd i Benbre yn 1871. Mae yr eglwysi eleni (1873) wedi rhoddi galwad i Mr. Daniel Jones, Llanybri (gynt o Benheolgerig).
Mae yr eglwys yma bob amser wedi bod yn nodedig o ffyddlon, yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol, ac y mae yr hen bobl yn hyny yn esiampl i'r rhai ieuaingc. Mae enw Mr. a Mrs Davies, Llwynbrain; David Rees, John Evans, Cwm; Benjamin Davies, a David Davies, Cefn; yn deilwng o goffad parchus fel ffyddloniaid yr achos yma.
(Llanybydder parish)
Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanybydder. Mae yn ymddangos yr arferai amryw o'r ardal yma gyrchu i Bencadair mor foreu a dyddiau Mr. Stephen Hughes, ond nid yw yn debyg fod un cynyg wedi ei wneyd i sefydlu achos yma am rai blynyddau wedi dechreu y ddeunawfed ganrif. Bernir fod y Bedyddwyr a'r Annibynwyr yn cyd-addoli yma ar gychwyniad yr achos; pa fodd bynag yr oedd yma eglwys yn 1715 dan ofal Meistri James Lewis a David Jones, Maes, mewn cysylltiad â Phencadair, oblegid y mae yn cael ei chyfrif yn ystadegaeth Dr. J. Evans a wnaed yn y flwyddyn hono. Codwyd y capel cyntaf ar dir Rhydybont, ychydig i'r de-orllewin o'r man y saif y capel presenol, yn benaf dan nawdd boneddwr o'r ardal, Mr. Lloyd, Alltyrodyn, a galwyd ef yn ol enw y fferm. Wedi datod y cysylltiad â Phencadair bu y lle yn olynol dan ofal Meistri David Jenkins, Crugymaen; John Harries, Capel Isaac; ac Owen Davies, Crofftycyff. Yr oedd nifer y gynulleidfa yma yn 1774 yn 250; y flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i Mr. Jonathan Jones i fod yn weinidog yr eglwys, ac urddwyd ef Awst 9fed, 1775. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys a holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Griffith, Glandwr; gweddiodd Mr. O. Davies, Trelech; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. Davies, Canerw; ac i'r eglwys gan Mr. T. Davies, Llanybri. Cynyddodd y gynnulleidfa yn fawr, ac yn 1778 adeiladwyd capel newydd ar ddarn o dir a roddwyd gan Herbert Evans, Ysw., o'r Dolau. Llafuriodd Mr. Jones yma hyd y flwyddyn 1718, pryd y darfu ei gysylltiad â'r eglwys. Rhoddwyd galwad i Mr. William Jones, myfyriwr o Athrofa Cacrfyrddin, ac urddwyd ef Medi laf, 1818. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri P. Morris, Ebenezer; I. Rowlands, Llanybri; T. Phillips, D.D., Neuaddlwyd; J. Lloyd, Henllan; D. Peter, Caerfyrddin; D. Evans, Mynyddbach; ac M. Jones, Trelech. Llafuriodd Mr. Jones yma yn ddiwyd a llwyddianus am yn agos i again mlynedd, nes y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys Seisonig yn Heolycastell, Abertawy. Yn ei amser ef, sef yn 1829, yr adeiladwyd y capel eang presenol, a chafwyd darn o dir yn ychwanegol er helaethu y
548
fynwent. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Jones rhoddwyd galwad i Mr. John Lewis, myfyriwr yn Athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Awst 9fed, 1838. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Davies, Pantteg; holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Jones, Ffaldybrenin; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. M. Rees, Pencadair; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. J. Breese, Caerfyrddin. Ni bu tymor gweinidogaeth Mr. Lewis ond byr, gwaelodd ei iechyd, a bu farw yn mis Chwefror, 1841. Wedi bod am fwy na blwyddyn heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. John Jones, yr hwn a adnabyddid fel " Jones, Llangollen," ac urddwyd ef Hydref 6ed, 1842. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. S. Griffith, Horeb; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Thomas, Penrhiwgaled; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Davies, Aberteifi; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Rees, Llanelli; ac i'r eglwysi gan Mr. J. Saunders, Aberystwyth. Dechreuodd Mr. Jones ei weinidogaeth yn addawol iawn, a bu yma radd o ychwanegiad at yr eglwys ar un tymor, ond yn mhen ychydig flynyddau rhoddodd yr eglwysi i fyny a symudodd i Ferthyr fel cyhoeddwr llyfrau. Bu yr eglwys am flynyddoedd ar ol hyn heb weinidog. Yn y flwyddyn 1852 rhoddwyd galwad i Mr. Henry Jones, myfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin, a mab yr Hybarch Thomas Jones, Saron, a bu yma hyd y flwyddyn 1860, pryd yr enciliodd i'r Eglwys Sefydledig. Yn y flwyddyn 1862 rhoddwyd galwad i Mr. David Williams, Glynnedd, a symudodd yma, ac y mae yn parhau i weinidogaethu i'r eglwys mewn cysylltiad â Chapel Noni a Brynteg, a'r achos yn myned rhagddo yn llwyddianus. Mae yr eglwys yma wedi bod yn nodedig bob amser am iachusrwydd ei golygiadau duwinyddol, a chynhesrwydd ei theimladau crefyddol, ac nid yw yr holl wreichion eto wedi diffodd.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.
JOHN LEWIS. Yr oedd yn enedigol o sir Aberteifi, heb fod yn mhell o ardal Llangeitho. Addysgwyd ef yn Athrofa Neuaddlwyd. Derbyniodd
549
alwad o Rhydybont, ac urddwyd ef yno Awst 9fed, 1838. Yr oedd yn bregethwr gwlithog a thyner, ac yn anwyl a serchog yn mysg ei bobl; ond nid oedd ei iechyd ond gwan ar y goreu; ac ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw Chwefror 21ain, 1841, cyn ei fod yn 28 oed.
JOHN JONES. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Gwrecsam. Yr oedd ei dad yn flaenor gyda'r Methodistiaid, ac yn mysg yr enwad hwnw y dygwyd yntau i fyny hyd ganol ei oes, a bu am dymor yn flaenor yn eu mysg. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei oes ar ol tyfu i fyny mewn swyddfau yn nglyn a gweithfeydd mwn a glô ei wlad enedigol, a bu wedi hyny yn arolygwr ar rai o honynt. Symudodd i fyw i ymyl Llangollen, a thra yno y daeth yn adnabyddus yn gyntaf i'r cyhoedd, yn benaf fel areithiwr ar Ddirwest, ac fel " Jones, Llangollen" yr adnabyddid ef trwy ei oes. Efe oedd Ysgrifenydd y Gymanfa Ddirwestol fawr yn Nghaernarfon yn 1837, pan yr oedd Mr. Williams, o'r Wern, yn Gadeirydd. Symudodd i ardal Rhosllanerchrugog, a thra yno, yn y flwyddyn 1839, ymunodd a'r Annibynwyr; ac yn yr adeg hono y daeth i wrthdarawiad a'r Bedyddwyr, a gwnaeth ei hun yn hynod fel dadleuydd ac ysgrifenydd ar Fedydd. Cyhoeddodd lyfr, ac aeth trwy y wlad i ddarlithio ar y pwngc, a pharodd ei ymweliadau, fel y gallesid disgwyl, gyffroad mawr. Bu dadl gyhoeddus rhyngddo ag un o weinidogion y Bedyddwyr yn Rhymni, a gwnaeth iddo ei hun trwy hyny enw mawr, a chyrhaeddodd boblogrwydd cyffredinol. Dechreuodd bregethu ar rai o'r teithiau hyny, ac yn fuan cafodd alwad gan eglwysi Rhydybont, Capel Noni, a Brynteg; ac urddwyd ef gyda rhwysg mawr yn mis Hydref, 1842. Yr oedd yn ddyn o athrylith nodedig, yn llenor rhagorol, ac yn fardd awenyddol; ond yr oedd yn ddiffygiol o'r callineb hwnw sydd yn angenrheidiol yn y weinidogaeth. Cymeriad rhyfedd ydoedd yn mhob ystyr. Ni pharodd neb yn yr oes hon fwy o gyffroad yn yr eglwysi â'r rhai yr ymwelai nag a barodd ef, ac yr oedd ganddo allu anghydmarol i daflu dynion oddiar eu hen olygiadau; ond yr oedd yn gwbl amddifad o allu i'w sefydlu yn ei olygiadau ei hun, os oedd ganddo yn wir syniad clir a sefydlog o gwbl. Yr oedd yn fedrus iawn mewn dadl i ddiangc o ffordd ei wrthwynebwr, neu i wneyd gwawd o hono trwy gymeryd mantais ar ryw gamgymeriad dibwys a wnai. Yr oedd ynddo ryw deimladau crefyddol dwysion iawn, a gwelsom ef lawer gwaith mewn dagrau yn cynghori ei blant ei hun ac eraill, ond ar yr un pryd yr oedd rhyw lacrwydd pechadurus ynddo mewn gair a gweithred, a gwnai anturiaethau hollol anghydweddol a geirwiredd a gonestrwydd, Dechreuodd argraffu a chyhoeddi llyfrau yn Rhydybont, a symudodd i Ferthyr er mwyn bod yn fwy cyfleus i'r gweithfaoedd yn y rhai y gwnai fwyaf o fasnach, ond trodd pob peth yn fethiant dan ei law. Parhaodd i bregethu tra y cafodd dderbyniad, a chychwynodd godi capel yn Mountain Ash i ryw ychydig a ymlynent wrtho; ond gadawodd y capel ar ei haner, ac yn 1853 aeth yn ddirgelaidd tuag America, gan adael y rhai oedd ar ol mewn profedigaeth fawr. Mae llawer o chwedlau yn cael eu hadrodd am dano yn America, ac y mae ei hanes yn rhyfeddach nag un nofel a gyhoeddwyd yn ein hiaith erioed. Aeth i Cincinnati ac yno y bu farw, ac yr oedd ar y pryd mewn rhyw fath o undeb a chynnulleidfa o Bresbyteriaid yno. Byddai yn hawdd i ni lenwi rhan gyfan o'r Hanes a hynodion ei fywyd; ond ni byddai hyny yn gydweddol a'n hamcan, gan mai nid yn ngwasanaeth yr efengyl, nac wrth eangu terfynau crefydd yr hynododd ei hun. Ond yr oedd yn un o wir feibion athrylith, a phe buasai
550
ei gallineb yn cyfateb i ddisglaerdeb ei alluoedd, a'i farn a'i gydwybodolrwydd yn o gyhyd a'i wybodaeth a'i dalentau, gallasai fod o wasanaeth anrhaethol i grefydd ac i'w oes, ac i'r oesau dyfodol.
(Llanllwni parish)
Mae y capel yma wedi ei godi ar dir Maesnoni, yn mhlwyf Llanllwni. Er fod amryw oddiyma yn cyrchu i Bencadair er dyddiau boreuaf yr achos yno; ac er fod llawer o bregethu wedi bod mewn gwahanol dai yn yr ardal, eto ni chodwyd yma gapel hyd y flwyddyn 1810, yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jonathan Jones yn Rhydybont. Cafwyd tir ar les o gant ond un o flynyddau i'r perwyl gan Meistri John a David Jones, Maesnoni, a'i dyddiad ydyw Mai laf, 1810. Ail-adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1838, ond nid agorwyd ef yn ffurfiol hyd Mai 25ain a'r 26ain, 1842. Mae y lle o'r dechreuad wedi bod mewn cysylltiad gweinidogaethol â Rhydybont; oddigerth am y tymor y bu Mr. John Lewis yn weinidog yno, ni bu i'r eglwys yma ymuno a hi. Mae yma yn awr fel y deallwn eglwys gref a lluosog dan ofal Mr. D. Williams, er na anfonwyd i ni unrhyw fanylion am ei sefyllfa.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.
(Conwil Caio parish)
Mae y capel hwn yn mhlwyf Caio. Nid oes wybodaeth sicr pa bryd dechreuodd yr achos o'r hwn y mae yr eglwys hon yn ddilyniad, ond y mae yn dra thebyg fod ei ddechreuad yn ffrwyth llafur y gweinidogion enciliedig Walter Cradog, Vavasor Powell, Stephen Hughes, ac eraill. Wedi hyny bu Rees Prydderch, Ystradwalter, yn llafurio yn yr holl gymydogaethau oddiyma i sir Frycheiniog; ac ar ei ol ef bu Mr. W. Evans, un o'i ysgolheigion, yr hwn a urddwyd yn Pencadair, ac un David Edwards, yr hwn oedd weinidog yn Caeronen-Cellan, yn ymweled yn aml a'r ardal hon. Dywedir y byddai pobl Pencadair a Llanwrtyd yn dal cymdeithas ac yn talu ymweliadau a'u gilydd; a chan fod Crugybar tua haner y ffordd rhyngddynt digon tebyg yr arferent alw yma wrth fyned a dychwelyd. Mae yn ymddangos fod yr ychydig nifer ag oedd yn gwneyd i fynu yr eglwys hon ar y dechreu yn wasgaredig iawn, ac yn gyfansoddedig o Daenellwyr a Throchwyr, ac mai mewn lle a elwir Bwlchyrhiw, yr hwn sydd ar doriad y tir rhwng blaen plwyf Caio a blaen plwyf Cilycwm, mewn man anghyfanedd ac anghysbell, yr arferent gyfarfod i addoli, a hyny rhag ofn eu gelynion, ond ar ol pasio Deddf y Goddefiad gwnaeth Taenellwyr eu cartref arosol yn Crugybar, a'r Trochwyr eu cartref yn Bwlchyrhiw. Nis gwyddom yn sicr pa flwyddyn dechreuwyd yma, ond y mae yn sicr i hyny gymeryd lle yn ddioed wedi 1788, os nad yn wir yn
551
yr ychydig seibiant a gafwyd yn 1772. Dywedir i un Daniel Harry ag oedd yn byw yn Esgerowen, yn mhlwyf Pencarreg, drwyddedu ei dy i bregethu, ac i eglwys gael ei chorffori yno yn y flwyddyn 1790, a hono oedd dechreuad eglwys bresenol Esgairdawe; ac yr oedd y Daniel Harry hwnw yn aelod yn Crugybar, a bu yn ddiacon yma am flynyddau ar ol hyny. Dywedir i'r achos yn yr adeg yr ymneillduodd i Grugybar gael ffafr nodedig gan Nicholas Williams, Ysw', Rhydodyn, a'i foneddiges; ac yn mysg y gweinidogion a lafuriasant yn benaf yma yn y cyfnod hwnw yr ydym yn cael enwau Meistri Christmas Samuel, Pantteg; James Lewis, Pencadair; John Powell, Tredwstan; Lewis Richards, Trelech; a William Davies, Capel Isaac. Wedi hyny bu yn cael ei gwasanaethu gan Mr. John Harries,Capel Isaac, a than ei ganlyniedydd, Mr. Thomas William, am lawer o flynyddau mewn cysylltiad â Chapel Isaac, Abergorlech, a Chrottydyff. Ar ol hyny, tua'r flwyddyn 1755, urddwyd Mr. Isaac Price yn Llanwrtyd a Throedrhiwdalar, a rhoddodd eglwys Crugybar alwad iddo ddyfod yn weinidog iddi mewn cysylltiad â'r lleoedd hyny, a bu yn dyfod yma bob mis am wyth-mlynedd-a-deugain, er fod ganddo tuag ugain milldir o ffordd. Yn 1763 adeiladwyd capel newydd yn Nghrugybar, yr hwn meddir oedd y trydydd yn y lle. Bu Crugybar yn amser gweinidogaeth Mr. Price ac wedi hyny yn ddiarhebol am wres a hwyliau crefyddol. Weithiau byddai pobl Crugybar yn ymweled â Llanwrtyd, a phryd arall byddai pobl Llanwrtyd yn ymweled â Chrugybar, a byddent weithiau yn canu a molianu ar hyd yr holl ffordd. Mae yr oes bresenol yn cofio am rai o'r hen bobl danllyd hyny, sef Dafydd Sion Edmwnd, William Evan Rhydderch, Sara Evan, a Nancy Jones, yr hon a adwaenir trwy Gymru wrth yr enw " Nani Crugybar." Yr oedd yn wraig barchus a chyfrifol yn y byd, ac yn nodedig am felusder ei doniau wrth folianu a gorfoleddu. Hi oedd Miriam diwygiadau crefyddol ei hoes. Yr hyn a wnai hwyliau a chaniadau nefolaidd y cyfeillion hyn mor gymeradwy ac effeithiol oedd eu bywyd diargyhoedd a sanctaidd. Tua'r flwyddyn 1760, yn fuan wedi sefydliad Mr. Price yn weinidog yma, dylanwadwyd ar ryw bedwar-ar-ddeg o aelodau yr eglwys hon gan y cyffroad Methodistaidd, ac ymadawsant yn heddychol i ddechreu yr achos sydd yn awr yn Caio. Yr oedd Mr. William Llwyd o Henllan yn un o honynt, yr hwn wedi hyny a ddaeth yn bregethwr enwog yn mysg y Methodistiaid; ac adnabyddid ef fel " William Llwyd o Gaio," ac yn y flwyddyn 1808 y bu farw. Yn ei flynyddau olaf cynorthwyid Mr. Price yma gan Mr. D. Davies, yr hwn wedi hyny a sefydlwyd yn Llangatwg, a chan Mr. Ebenezer Jones a urddwyd yn Mhontypool; a chan Mr. David Williams, yr hwn wedi hyny a urddwyd yn gydweinidog a Mr. Price yn Llanwrtyd a Throedrhiwdalar. Bu Mr. Price farw Chwefror 26ain, 1805. Yn y flwyddyn hono rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Jones, aelod o Abergorlech, ac urddwyd ef yma. Dyma yr unig urddiad a fu yma yn ystod hanes yr eglwys. Bu Mr. Jones yn llafurio gyda llawer o lwyddiant yma ac yn y canghenau perthynol i'r lle hyd ddiwedd y flwyddyn 1833, oddieithr ryw dair blynedd, sef o'r flwyddyn 1826 hyd 1829, pryd y bu y maes o dan ofal y diweddar Mr. D. Jones, Gwynfe. Wedi ymadawiad Mr. Daniel Jones bu Mr. E. Jones, o'r Brychgoed, yn gwneyd gwaith gweinidog yma hyd y flwyddyn 1837, pryd y derbyniodd alwad gan yr eglwys hon ac eglwys Abergorlech, a chafodd ei sefydlu yn gyhoeddus yn y ddau le ar y 29ain a'r 30ain o Fawrth yn y flwyddyn hono.
552
Yr un flwyddyn ag y sefydlwyd Mr. Jones yma yr adeiladwyd y capel presenol, yr hwn yn ol yr hanes a geir yw y pedwerydd capel a godwyd yn y lle. Mae yn gapel cryf a chyfleus, a chynnulleidfa gref a lluosog yn ymgynnull iddo. Er na chafodd Mr. Jones ei lwybr yn esmwyth a blodeuog yma bob amser, eto cafodd yr hyfrydwch o dderbyn llawer i'r eglwys, a gwelwyd yma adfywiadau grymus, yr hynotaf o ba rai a fu yn y flwyddyn 1859, pryd y derbyniwyd 107 o'r newydd; ac er fod yr eglwys wedi colli tanbeidrwydd ei hwyliau, a melusder ei chaniadau, rhagor yr hyn a fu yn yr oesoedd o'r blaen, eto y mae wedi enill mewn gwybodaeth a gweithgarwch crefyddol. Canghenau o'r eglwys hon a dorodd allan i Esgairdawe, Tabor, Hermon, Carmel, a Llansawel. Mae yn deilwng i ni grybwyll hefyd am gapel bychan BWLCHYFFIN sydd eto yn gangen o'r eglwys hon. Mae hwn yn ymyl y brif ffordd o Lanbedr i Lanymddyfri, ar gydiad plwyfi Caio a Llanwrda. Saif agos i dair milldir o Crugybar, ac ychydig yn fwy o Tabor, a thua yr un faint o Carmel. Yr oedd amryw aelodau o'r lleoedd hyn, yn enwedig o Grugybar, yn byw yn y gymydogaeth, ac yn eu mysg ychydig Fethodistiaid a Bedyddwyr; ac yr oedd ganddynt gyfarfod gweddi wythnosol ac Ysgol Sabbothol er's llawer o flynyddau yn yr ardal, ac yr oeddynt yn cydweithio yn dangnefeddus a ffyddlon. Yr oeddid yn teimlo eisiau lle mwy cyfleus iddynt i gyfarfod, a. daeth feddwl Mr. Jones, Crugybar, os oedd capel i fod yn yr ardal mai yr Annibynwyr oedd i'w godi, oblegid hwy oedd luosocaf o lawer ynddi; ac ymgynghorodd yn nghylch y peth â Mr. Thomas Williams, o Nantyrhogfaen, aelod a diacon ffyddlon o Carmel, ac un ag oedd wedi bod gyda'r mwyaf diwyd ac ymroddgar mewn llafur crefyddol yn yr ardal am lawer o flynyddau. Daeth ef ar unwaith i'r syniad mai buddiol iawn fuasai cael lle mwy manteisiol i gynal moddion crefyddol, a daeth Mr. David Edwards, Troedyrhiw, i'r un farn, a chafodd Mr. Jones bob calondid a chymhorth oddiwrth y ddau gyfaill hyn i gario allan ei amcan. Arnynt hwy yn benaf y bu y gofal i ddwyn yr adeiladaeth i fyny, ond bu y rhan fwyaf yn y gymydogaeth yn garedig i gludo'r defnyddiau a chyfranu o'u harian. Adeiladwyd y capel bychan yn 1864, ar gwr tir Troedrhiw, sef eiddo Saunders Davies, Ysw. Mae yn bob peth er cyfateb i angen presenol yr ardal. Costiodd yr adeiladaeth a'r cwbl tua 120p., ond mae'r cyfan wedi eu talu er's blynyddau. Pregetha Mr. Jones, Crugybar, ynddo ar brydnawn un Sabboth yn y mis o'r dechreu, a gwna gweinidog Tabor yr un peth. Llenwir ef fynychaf a gwrandawyr, ac y mae golwg fawr gan yr ardalwyr arno, oblegid ei fod yn fan cyfleus iddynt i fwynhau moddion crefyddol. Mae pawb ar foreuau'r Sabbothau yn myned i'r lleoedd perthynant iddynt, ond yma y deuant yn y prydnhawn naill ai i wrando pregeth neu i gadw Ysgol Sabbothol, a chyfarfod gweddi yn yr hwyr.
Mae llawer o grefyddwyr enwog wedi bod yn yr eglwys hon o bryd i bryd. Heblaw y rhai a grybwyllwyd eisioes, y rhai oeddynt enwog am eu gwresawgrwydd crefyddol, gellir enwi David Davies, Ynysau; John Evans, Rhos; Enoch Davies, Glanranell; Richard Jones, Cilwenau; Morgan Jones, Glantowy; William Richard, Nantygwin; David Roderick, Ynysau; Morgan Jones, Maesllan; John Williams, Abernaint; ac amryw eraill y rhai oeddynt wyr rhagorol yn mysg y brodyr. Ond dichon mai yr enwocaf o honynt oll, a'r un a adawodd y dylanwad mwyaf parhaol ar ei oes, oedd Dafydd Jones, o Gaio, cyfieithydd Salmau a Hymnau Dr. Watts, a'r hwn a gyfansoddodd lawer o emynau melus ei hun. Yr oedd ef yn mhob ystyr
553
yn ddyn pell uwchlaw ei oes - wedi cael addysg ragorach, ac wedi gweled mwy o'r byd. Ganwyd ef yn Nghwmcogerdden, yn mhlwyf Caio, yn y flwyddyn 1711. Yr oedd ei dad yn ddyn cyfrifol yn y byd, ac yn barchus fel porthmon, a dilynodd ei feibion yr un ffordd o fywoliaeth. Treuliodd D. Jones foreu ei oes yn ddigrefydd, ac yr oedd wedi dyfod yn ben teulu cyn gwybod dim am grefydd. Dywedir mai yn hen gapel Troedrhiwdalar, i'r hwn y trodd wrth ddychwelyd adref o Loegr ar un Sabboth, y cyrhaeddodd saeth argyhoeddiad i'w galon. Yn ddioed wedi dychwelyd adref ymunodd â'r eglwys yn Nghrugybar; a bu ei ymuniad a hi yn foddion i adfywio llawer ar yr achos yno. Rhwng ei fod yn ddyn cyfoethog a dylanwadol yn yr ardal, ac yn un bywiog a gweithgar gyda chrefydd, bu yn offerynol i ddeffroi yr hen eglwys o'i chwsg. "Dissenters sychion" y galwai Methodistiaid y dyddiau hyny yr Annibynwyr, ond nid un felly oedd Dafydd Jones, o Gaio. Yn un o'i ganiadau dywed
" Mae plant y byd yn holi, ac yn rhyfeddu'n syn
Pan fwy i'n molianu f'Arglwydd beth yw'r ynfydrwydd hyn ?
Rhyddhawyd fi o'm caethiwed, ni thawaf ddim a son,
Mi gana yn ngwyneb gwawdwyr am rinwedd gwaed yr Oen.Mi fu'm yn hir dan gwmwl yn ffaelu canmol Duw,
'Roedd pechod a'i euogrwydd o'm mewn fel colyn byw;
Fe dynwyd hwnw ymaith ynghyd a'i bwys a'i boen,
Mi ganaf yn dragywydd am rinwedd gwaed yr Oen.Mi fu'm dan fynydd Sinai dan ofnau Duw a'i wg,
Heb glywed ond bygythion, taranau, mellt, a mwg;
Ond de's i Sion dawel, 'podd gallai dewi a sôn,
Heb ganu yn wastadol am rinwedd gwaed yr Oen.A pheth pe bawn yn neidio, a'i wneyd e gyda pharch,
A chwareu megis Dafydd cyn hyn o flaen yr arch:
Neu'r cloff wrth borth y deml, am hwnw clywsoch sôn,
Pan oedd e'n teimlo iechyd a rhinwedd gwaed yr Oen."
Bu yr hen brydydd efengylaidd farw mewn tangnefedd Awst 30ain, 1777, yn 66 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Crugybar. Mae Mrs. Johns, priod Mr. T. Johns, Capel Als Llanelli, yn orwyres iddo; ac y mae cenedlaeth yr uniawn hwn yn cael ei bendithio.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.
554
Bu yma lawer o bregethwyr eraill am dymor, yn neillduol yn yr adeg yr oedd Athrofa yn Ffrwdyfal, gerllaw yma; a derbyniwyd yma lawer yn aelodau, y rhai a ddechreuasant bregethu mewn eglwysi eraill ar ol myned oddiyma. Daw cofnodion bywgraphyddol yr holl weinidogion a fu yma yn nglyn ag eglwysi eraill oedd dan eu gofal.
Bu cwyno am ugeiniau o flynyddau o eisiau cael capel Annibynol yn Llansawel, a darfu o bryd i bryd i lawer o aelodau Annibynol uno â'r Methodistiaid oblegid nad oedd ganddynt un achos o'u heiddo eu hunain yn y lle, ond yr oedd eraill mwy egwyddorol yn glynu o hyd er fod ganddynt lawer o ffordd i fyned i'r manau lle yr oeddent yn aelodau. O'r diwedd wedi hir ddisgwyl a phryderu, llwyddwyd i gael darn o dir i adeiladu capel yn y man mwyaf cyfleus yn ymyl y pentref. Prynwyd ef ar unwaith, yn y flwyddyn 1867, wedi hyny rhoddwyd y peth o flaen Cyfarfod Chwarterol y sir, a chafwyd yr anogaethau mwyaf calonog i adeiladu heb oedi. Yna dechreuwyd tanysgrifio, a darfu i'r addewid gyntaf roi calondid mawr, sef yr eiddo Mr. David Evans, Pistyllgwyn, aelod o Esgairdawe, am ugain punt, yna Meistri Stephen Jones, Llansawel; Daniel Morgan, Treglog; a Rees Evans, Ty'rddinas, aelodau o Abergorlech, y ddau flaenaf am 10p. yr un, a'r olaf, er nad oedd ond gweithiwr, 5p.; Meistri Daniel Williams, Pengelly, a Jonah Evans, aelodau o Crugybar, y blaenaf a'i deulu 9p., a'r olaf 5p. Costiodd yr adeilad i Mr. Jones, Crugybar, tua 25p. mewn arian heblaw cerdded rhan helaeth o un-ar-ddeg o blwyfi o dy i dy i gasglu tuag ato, a llwyddodd hefyd i gael 26p. trwy gylch-lythyrau oddiwrth gyfeillion o Loegr. Yn 1868 bu cyfarfod cyhoeddus ar yr achlysur o osod i lawr y gareg sylfaen gan Mr. D. P. Davies, Troedybryn, pryd yr anerchwyd y cyfarfod gan Meistri Jones, Hermon, Jones, Ffaldybrenin; Jones, Crugybar; a Davies, Llandilo. Nid oedd un moddion .crefyddol yn cael ei ddwyn yn mlaen hyd nes gorphen y capel; ac yn mis Hydref, 1869, yr agorwyd ef. Galwyd ef SILOH. Erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad yr oedd uwchlaw 400p. wedi dyfod i law. Buwyd hefyd mor ffodus a chael chwarter a haner chwarter erw o dir at gladdu, a hwnw yn dir hollol sych a graianog, ac yn wynebu ar y De.
555
Yr oedd yn werth deg-punt-ar-hugain heblaw gweithred y pryniad. Mae y capel yn 40 troedfedd wrth 32 dros y muriau, gydag oriel yn un pen, ac ystafelloedd odditano. Yn fuan ar ol agor y capel corffolwyd yma eglwys, pryd yr ymunodd 14 o aelodau Crugybar, 12 o aelodau Abergorlech, ac un chwaer o Carmel; derbyniwyd hwy trwy lythyrau gollyngdod rheolaidd o'r lleoedd uchod, ac y maent yn aros hyd heddyw oddieithr dwy chwaer, y rhai a aethant i dderbyn eu gwobr. Ar yr un pryd hefyd adferwyd gwrthgilwyr, a derbyniwyd amryw aelodau newyddion, ac mae yr achos yn myned rhagddo yn raddol fel mae rhif yr aelodau yn bresenol o gylch 60. Bu gorfod i Mr. David Evans, Pistillgwyn, y soniasom am dano, a'i deulu symud o'r gymydogaeth ychydig wythnosau cyn agoriad y capel, ond y maent yn nghymydogaeth Gwernogle, ac yn ddefnyddiol yno. Mae'r lleill a nodasom yn nechreu yr ysgrif, yn nghyd a'u teuluoedd yn aros ac yn ffyddlon. Wedi corffoli yr eglwys dewisasant eu hen weinidog i'w bugeilio, ac y mae yn aros ac yn cael ei gynorthwyo gan Mr. Jonah Evans yma ac yn Crugybar, yr hwn a urddwyd Mehefin 9fed, 1870. Aeth traul y ddau bryniad, sef y tir sydd dan y capel a'r fynwent yn nghyd a'r adeiladaeth a thoi un ochr ac un talcen o'r muriau, yn ymyl 550p., ond bu Mr. Jonah Evans mor ddiwyd a ffyddlon a chasglu amryw ugeiniau o bunau ar hyd dosparth isaf y sir, fel erbyn mis Mawrth diweddaf nad oedd dim llawer o'r ddyled yn aros. Penderfynwyd cael y Cyfarfod Jubili, pryd y gweinyddwyd gan Meistri D. Lewis, y Dock, a T. Johns, Capel Als, Llanelli; W. R. Davies, Bethlehem; T. G. Jones, Gwernogle; H. Jones, Ffaldybrenin; a T. Thomas, Llanfair. Casglwyd yn dda a chyhoeddwyd na chaffai dyled Siloh ddim blino y cyhoedd mwy. Mae golwg mor addawus ar yr achos ag a ellir ddisgwyl; mae y cyfeillion yn ddiolchgar iawn i Dduw ac i ddynion am eu cartref newydd.
555/558
Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanycrwys, ac y mae yr eglwys yma yn ddilyniad o'r hen achos yn Crofftycyff, at yr hwn yr ydym fwy nag unwaith wedi cael achlysur i gyfeirio. Mae yr achos yma yn ei hanes boreuaf yr un a'r achos yn Nghrugybar, ac ymddengys mai yno yr arferai yr Annibynwyr o'r ardal yma fyned wedi yr ymwahaniad yn Mwlchyrhiw; a'r gweinidogion a lafurient yno a fu yn llafurio i blanu yr achos yma. Fel y gwelsom yn hanes Crugybar darfu i Daniel Harry, Esgairowen, drwyddedu ei dý at bregethu yn 1690, a chyn hir ffurfiwyd yno eglwys, a thorodd Crofftycyff ac Esgairdawe yn ddwy gainc allan o honi, y rhai hyd yn ddiweddar mewn cydmariaeth a ystyrid yn un eglwys. Ymddengys mai tua'r flwyddyn 1700 y dechreuwyd yn Crofftycyff, er nad oes genym wybodaeth sicr pa bryd y codwyd y capel cyntaf yno. Enwir Meistrí James Lewis, Pencadair; John Powell, Tredwstan; Lewis Richards, Trelech; *David Jenkins, Crugymaen; Christmas Samuel, Pantteg; a John Harries, Capel Isaac, fel y gweinidogion a lafurient yma yn benaf am y deugain mlynedd cyntaf o'r ganrif ddiweddaf. Ar y 7fed o Hydref, 1743, urddwyd Mr. Owen Davies, aelod o'r eglwys, yn weinidog yn y lle, ac ar
* Camarweiniwyd ni gan " Hanes Crefydd yn Nghymru," gan D. Peter, wrth gofnodi adeg marwolaeth Mr. Lewis Richards, Trelech, i ddyweyd mai yn y flwyddyn 1708 y bu farw, pan y mae yn eglur na bu farw hyd y flwyddyn 1729. Yr ydym yn cael crybwylliadau achlysurol am dano hyd y flwyddyn hono.
yr un pryd urddwyd Mr. James Davies, Abermeurig. Yr oedd Mr. James Davies i lafurio fel cynorthwywr i Mr. Phillip Pugh yn nghylch eang ei weinidogaeth; a dichon i'r ddau gael eu hurddo yr un pryd yn yr un lle yn fwy o gyfleustra na dim arall. Bu Mr. Owen Davies yn llafurus yma hyd y flwyddyn 1767, pryd y symudodd i Drelech; ac yr ydym eisioes wedi cyfeirio ato yn nglyn a'r eglwys yno. Dilynwyd ef yma gan Mr. John Tibbot, ac urddwyd ef yn Esgairdawe, Tachwedd 5ed, 1767. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri Timothy Davies, Cilgwyn; T. Davies, Llanybri; L. Lewis, Pencadair; T. William, Mynyddbach; J. Griffith, Glandwr ; R. Tibbot, Llanbrynmair ; Isaac Price, Llanwrtyd ; T. Davies, Pantteg; ac O. Dayies, Trelech. Bu yma yn ymdrechgar am ddeunaw mlynedd, ond bu farw yn sydyn ar y ffordd yn ymyl y fan lle y mae capel presenol Esgairdawe, ar foreu Sabboth, Chwefror 6ed; 1785. Yn fuan ar ol hyny rhoddwyd galwad i Mr. Howell Powell, aelod o'r Brychgoed, ond a oedd wedi symud er's tro i'r ardal yma, ac urddwyd ef yn Esgairdawe, Mehefin 13eg, 1786. Yr oedd pedwar-ar-ddeg o weinidogion yn ei urddiad. Bu yma am dair blynedd, ac yna symudodd i Langatwg, Crughowell. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd rhoddwyd galwad i Mr. David Morgan, Dolaugwyrddion - aelod yn Rhydybont - ac urddwyd ef yn Esgairdawe, Awst 6ed, 1789. Gymerwyd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad gan Meistri J. Griffith, Glandwr; J. Richards, Trefgarn; T. Davies, Pantteg; W. Gibbon, Mynyddbach; D. Williams, Disgwylfa ; J. Davies, Alltwen ; J. Jones, Rhydybont; P. Maurice, Ebenezer; J. Griffith, Abergavenny; T. Thomas, Pentretygwyn ; D. Lewis, Cwmmawr; H. Powell, Llangatwg; M. Williams, Glyntawy; D. Davies, Cydweli; a D. Davies, Drefach. Yn nghymor gweinidogaeth Mr. Morgan y symudwyd o Crofftycyff i Ffaldybrenin yn 1792. Cafwyd darn o dir ar etìfeddiaeth Rhosybedw. Llafuriodd Mr. Morgan yma hyd ei farwolaeth, Chwefror 26ain, 1810. Yn 1813 daeth Mr. Thomas Jones yma, yr hwn a fuasai yn weinidog yn Beaumaris; ac ymadawodd oddiyma yn 1816. Wedi bod ddwy flynedd heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. Rhys Jones, ac urddwyd ef Gorphenaf 2il, 1818. Pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Williams, Llanfairmuallt. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri P. Jenkins, Brychgoed; T. Phillips, Neuaddlwyd; T. Jones, Saron ; T. Griffith, Hawen ; L. Powell, Mynyddbach; D. Jones, Crugyhar; J. Morgan, Pentretygwyn; J. Sylfanus, Cellan; J. Jeremy, Llanymddyfri; a D. Thomas, Penrhiwgaled. Nifer yr eglwys ar sefydliad Mr. Jones oedd 122, ond gwelodd gynydd dirfawr, a bendithiwyd yr eglwys ar rai adegau yn ystod ei weinidogaeth a diwygiadau grymus. Yn 1833 ail-adeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn harddach a helaethach. Oherwydd gwaeledd a henaint rhoddodd Mr. Joncs ei ofal gweinidogaethol i fyny yn 1858, ac aeth i Lanymddyfri i fyw dros weddill ei oes. Bendithiwyd yr eglwys a diwygiad grymus yn nechreu y flwyddyn 1859, pryd yr ychwanegwyd llawer at ei rhifedi. Derbyniwyd 101 ar yr un Sabboth cymundeb, heblaw degau ar Sabbothau eraill. Rhoddwyd galwad i Mr. Henry Jones, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Gorphenaf 20fed, 1859. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. W. Evans, Aberaeron ; holwyd y gofyniadau gan Mr. W. Thomas, Bwlchnewydd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Stephens, Brychgoed; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Roberts, Athraw Clasurol Athrofa Aberhonddu; ac i'r eglwys gan Mr. D. Stephens, Glantaf.
Mae Mr. Jones yn llafurio yma er hyny gyda chymeradwyaeth mawr, a'r achos yn myned rhagddo yn llwyddianus. Mae y capel yn awr yn cael ei wneyd oll o newydd, a bydd yn adeilad eang a hardd gwerth 900p. heb gyfrif y cludiad a roddir yn rhad gan yr ardalwyr. Mae dwy Ysgol Sabbothol yn perthyn i'r gynnulleidfa y rhai ydynt gryf a lluosog, ac y mae y canu yma mewn gwedd lwyddianus, trwy lafur Mr. T. Price, Gwernfendigaid yn benaf. Mae ysgoldy helaeth a chyfleus wedi ei godi yn nglyn a'r capel lle y mae ysgol ddyddiol wedi ei chynal trwy y blynyddau; ac y mae yr ardalwyr bob amser yn selog dros roddi addysg i'w plant, ac y mae llawer o fechgyn yr ardal trwy yr addysg a gawsant a'u diwydrwydd mewn canlyniad wedi gweithio eu ffordd yn llwyddianus yn y byd.
Mae yma lawer o wyr rhagorol wedi bod o bryd i bryd, ond gan fod y lle hwn ac Esgairdawe wedi bod yn nglyn a'u gilydd fel un eglwys er dechreuad yr achos nis gallwn ddyweyd pa rai oedd yn perthyn i'r naill a phwy i'r llall; a'r un fath am y pregethwyr a gododd rhwng y ddau le. Mae yr enwau canlynol wedi disgyn hyd atom fel rhai nodedig mewn crefydd. Daniel Harry, Esgairowen, ty yr hwn oedd y cyntaf i gael ei drwyddedu at bregethu yn yr ardal; Evan Rees, Cwmcanol; Evan Jones, yr oedd ef yn hendaid i Mr. Jones, Crugybar; Morgan William, Rhydlydan, yr hwn a fu yn aelod am 76 mlynedd, ac yn ddiacon am 70 mlynedd; Shon Thomas Dafydd Shon, Rhydyfallen; William Jenkins; William Evan; Evan Dafydd ab Dafydd, Caegwyn; Daniel John Walter; William Morgan, Rhydlydan; Dafydd Josuah, ac amryw eraill.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.
John TIBBOT. Ganwyd ef yn Llanbrynmair, yn 1734, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod ac y dechreuodd bregethu. Brawd ydoedd i Richard Tibbot, a thad i Mr. Abraham Tibbot. Bu am lawer o flynyddoedd yn pregethu yn gynorthwyol i Mr. Lewis Rees, ac wedi hyny i'w frawd, hyd nes y derbyniodd alwad ac yr urddwyd oe yn Esgairdawe, yn Awst, 1767. Yr oedd yn ddyn diwyd a chywir, ac yn bregethwr melus. Nid oedd yn meddu ar ddoniau poblogaidd ei fab, nac ar ysbryd cyhoeddus ei frawd, ond yr oedd yn marn pawb yn weinidog da i Iesu Grist. Bu farw yn sydyn ar y ffordd yn ymyl Esgairdawe, ar foreu Sabboth Chwefror 6ed, 1785, yn 51 oed. Claddwyd ef yn mynwent plwyf Pencareg.
DAVID MORGAN. Mab Morgan Rhys, o'r Dolaugwyrddion, Llanybydder, ydoedd. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1755. Derbyniwyd ef yn aelod yn Rhydybont, ac yno y dechreuodd bregethu. Urddwyd ef yn Esgaírdawe, Awst 6ed, 1789, a bu yn gweinidogaethu yno ac yn Ffaldybrenin a Gwernogle hyd ei farwolaeth, Chwefror 26ain, 1810. Yr oedd yn byw yn Pantyfedwen, Llanybydder, ac felly yn lled anghyfleus i'w eglwysi, ond bu yn ddiwyd a ffyddlon yn cyrchu atynt ar bob tywydd. Yr oedd yn wr call a synwyrol, o ymarweddiad diargyhoedd, ac yn bregethwr syml a sylweddol, a chyfrifid ef yn iach yn y ffydd, ac yn gadarn yn yr ysgrythyrau. Pregethwyd yn ei gladdedigaeth gan Meistri T. Phillips, Neuaddlwyd, ac M. Jones, Trelech.
RHYS JONES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780, yn ardal Troedyrhiwdalar. Derbyniwyd ef yn aelod yn Beilihalog, yn mhlwyf Gwenddwr, gan Mr. D. Williams, Llanwrtyd. Symudodd yn ol i dy ei dad ac ymaelododd yn Nhroedrhiwdalar, ac yno y dechreuodd bregethu yn 1809. Ar ol pregethu yn gynorthwyol yn ei wlad am naw mlynedd derbyniodd alwad o Ffaldybrenin ac Esgairdawe, ac urddwyd ef yno yn Gorphenaf, 1818. Llafuriodd yno yn ddiwyd a chydwybodol am ddeugain mlynedd, a gwelodd ffrwyth lawer yn cael ei gasglu ar y maes lle y gweithiai. Yr oedd yn nodedig am ei grefyddolder, ac nid oedd anmheuaeth yn meddwl neb nad Israeliad yn wir ydoedd yn yr hwn nid oedd twyll. Gofidiai yn fawr yn herwydd anwiredd y wlad, a phoenai ei enaid cyflawn yn herwydd meddwdod ac anniweirdeb yr oes. Yr oedd pob dirywiad mewn barn a buchedd yn ofid calon iddo, a'i brofedigaeth ef oedd edrych yn ormodol ar yr ochr dywyll bob amser; ond yr oedd ei gydwybod yn fyw ac yn dyner, ac yn ei weddiau a'i ddefosiynau teimlem ei fod yn myned yn uniongyrchol at Dduw. Yr oedd ei lais yn gryglyd a thoredig, ond fel y gwresogai byddai weithiau yn dra effeithiol. Oherwydd llesgedd a methiant rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny yn 1858, a symudodd i Lanymddyfri i fyw, a wedi disgyn i lawr yn araf i'r glyn bu farw Ebrill 3ydd, 1862, yn 80 oed. Bu farw yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, ac yr oedd hyd ei ddiwedd yn addfedu i'r nefoedd. Mab iddo ef ydyw Mr. J R Kilsby Jones, Llandrindod.
559
"Yr ydym wedi rhoddi agos y cwbl sydd genym am yr achos yma yn hanes Ffaldybrenin.
Codwyd y capel cyntaf yma yn 1755, ac yno y bu yr achos hyd y flwyddyn 1844, pryd y codwyd capel newydd yn nes i ganol y boblogaeth, tua milldir oddiwrth yr hen gapel ar y ffordd i Lansawel. Gallwn dybied mai yma yr oedd y gynnulleidfa gryfaf hyd nes ysymudwyd o Crofftycyff i Ffaldybrenin, er nad ydym yn tybied i'r gynnulleidfa fod yn gryf iawn yn y naill na'r llall cyn dechreu y ganrif bresenol.Nid yw Crofftycyff nac Esgairdawe i'w cael yn yr ystadegaeth a gasglodd Dr John Evans yn 1715; ac yn yr ystadegaeth a gasglodd Mr.Evan Griffiths yn 1774 rhoddir cynnulleidfa Esgairdawe i lawr yn 160.
Mae yma yn awr achos cryf a llewyrchus, ac y mae yn parhau mewn undeb gweinidogaethol â Ffaldybrenin, dan ofal Mr. H. Jones."*
Dechreuwyd yr achos yn y lle hwn gan ychydig aelodau o Crugybar, o gylch y flwyddyn 1827, ac mae rhai ohonynt yn fyw hyd y dydd hwn. Urddwyd Mr. Griffith Griffiths, yr hwn a adwaenid wrth yr enw Griffith Pant-y-cenglau, yn weinidog yma, a bu yn llafurio yma am amryw o flynyddau, hyd nes y rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny. Ar ol hyny bu y lle am ryw flwyddyn dan ofal Mr. D. Williams, Bethlehem, sef hyd farwolaeth Mr. Williams. Ar ei ol bu un Robert Owen yn gweinidogaethu yma am tua thair blynedd, ac ymadawodd. Wedi hyny urddwyd Mr. Isaac Jones yma Tachwedd 27ain, 1845, a llafuriodd yn ddiwyd a llwyddianus, ac adeiladwyd y capel presenol yn ei amser ef, ac agorwyd ef Gorphenaf 1af a'r 2il, 1851, ond ymadawodd i Drefnewydd, Morganwg, yn 1854, lle mae yn bresenol. Ar ol hyny bu y lle dan ofal Mr. J. Bevan, Llangadog, am ryw chwech mlynedd, sef hyd nes methodd ei iechyd. Ar ol hyny rhoddodd yr eglwys hon, mewn cysylltiad a Bethlehem, alwad i Mr. W. R. Davies, myfyriwr yn Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1863. Yn ei dymhor ef adeiladwyd yma ysgoldy ac ystabl, a thalwyd am y cwbl mewn ychydig o fisoedd. Llafuriodd yma gyda gradd o lwyddiant, a hyny yn yr ysbryd mwyaf heddychol a dymunol. Ymadawodd oddiyma i Siloh, Penybanc, ger Llandilo, yn mis Medi, 1873.
Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.
* Yr ydym yn ddyledus i ysgrif o eiddo Dr. Davies. yr hon a ymddangosodd yn y "Diwygiwr " am 1848, am lawer o ddefnyddiau hanes Ffaldybrenin ac Esgairdawe; a chawsom help effeithiol gan Mr. Jones, Crugybar, wrth ddarparu hanes yr eglwys yno, yn gystal a Llansawel a Carmel.
560
GRIFFITH GRIFFITHS. Ganwyd ef mewn lle bychan a elwir Perth-yr hafod, yn mhlwyf Cilrhedyn. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nhrelech, yn nechreuad gweinidogaeth Mr. M. Jones yno. Daeth yn grefyddwr gwresog, ac yr oedd ganddo ddawn gweddi nodedig. Priododd wraig weddw oedd yn byw yn Pant-y-cenglau, ac fel "Griffiths Pant-y-cenglau' yr adnabyddid ef. Yr oedd yn un o'r rhai a gychwynodd yr achos yn Ffynonbedr, ac yno y dechreuodd bregethu. Symudodd i gymydogaeth Capel Isaac yn y flwyddyn 1816, a bu yn llafurus yno ac yn yr eglwysi cymydogaethol. Bu llaw ganddo yn nghychwyniad yr achos yn Siloam, a chyda nifer o aelodau o Grugybar bu a fynai â chychwyn yr achos ar fynydd Llansadwrn, a chodi Carmel, lle yr urddwyd ef yn 1827. Bu Penybanc am rai blynyddoedd dan ei ofal. Nid oedd ond dyn o gyrhaeddiadau bychain, a gwybodaeth gyfyng; ond yr oedd yn ddyn diniwaid, yn nodedig o ffyddlawn, ac o ddawn melus, a phob amser yn fyr. Cymerai ddyddordeb mawr mewn holi plant, a chyda'r plant nid oedd neb yn fwy poblogaidd. Bu farw Ionawr laf, 1851, yn 74 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Isaac.
Saif capel Tabor ar fryn tra hyfryd, ar yr ochr orllewinol i afon Tywi, ac oddeutu pedair milldir o dref Llanymddyfri, a gellir ei ganfod yn dra eglur wrth fyned gyda'r gerbydres o Lanymddyfri i Landilo ond troi y wyneb i'r ochr ddeheu. Adeiladwyd y capel gan Mr. Thomas Jones, ar ddarn o dir perthynol i ffarm Cefenbenydd, eiddo yr hwn oedd y ffarm yn nghyd ag amryw ffermydd ereill yn mhlwyf Llanwrda yr amser hwnw. Offeiriad oedd Mr. Jones, yn gweini yn Whitefield, swydd Henffordd, ond yr oedd yn enedigol o blwyf Llanwrda. Tueddwyd ei feddwl i adeiladu capel Annibynwyr yn y lle, ac fe a hysbysodd ei feddwl i'w frawd Mr. John Jones, Bwlchygwynt, yr hwn a ymddiddanodd âg eglwys Annibynol Crugybar, yn nghyd ag amryw weinidogion Annibynol, a chafodd anogaethau i fyned a'r gwaith yn mlaen. Aelod o eglwys Crugybar oedd Mr. Jones, Bwlchygwynt. Adeiladwyd y capel, y ty anedd, a'r marchdy (stable) yn y flwyddyn 1792, y rhai, yn nghyd â dernyn helaeth o dir i fod yn gladdfa ac yn ardd, a roddwyd gan Mr. T. Jones yn anrheg i'r Annibynwyr dros byth. Rhwymodd hefyd y swm o bedair punt y flwyddyn i'w talu o ardreth Cefenbenydd at ddwyn traul y weinidogaeth yn y lle. Trosglwyddodd yr oll i ddwylaw pedwar o ymddiriedolwyr, sef Meistri Thomas Thomas, Craigybwbach; Isaac Price, Llanwrtyd; Peter Jenkins, Brychgoed; a David Morgan, Dolau. Yr oedd proffeswyr crefydd yn anaml yn yr ardal hon cyn adeiladu Tabor; eto yr oedd yma rai yn canlyn y Gwaredwr, sef Mr. John Jones, Bwlchygwynt, a'i wraig; y wraig o Gilffara; a'r wraig o Bwllagddu; Morgan Jones, Castelliorwg, a'i wraig a'i ferch; John Davies, Cobbler, a'i wraig, y rhai oeddynt oll yn aelodau o eglwys Crugybar. Nid yn aml y pregethid yr efengyl yma y dyddiau hyny; ond byddai Mr. Price, Llanwrtyd, a Mr. Thomas, Craigybwbach, yn dyfod yma ambell brydnawn Sabboth, a rhai troiau yn yr
[Gareth Hicks 6 June 2008]
Find help, report problems, and contribute information.
| Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes, and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages withill GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark. |