Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

See main project page

Proof read by Yvonne John (April 2008)

Carmarthenshire section (Vol 3) - Pages  575 -588

Chapels below;

  • (Continued) HERMON  (Llandeilofawr parish)
  • LLANSADWRN (translation)
  • SARDIS (Mothvey parish) (with translation)
  • MYDDFAI (Mothvey parish) (with translation)

 


Pages 575 - 588

575

(Continued) HERMON  (Llandeilofawr parish)

 

7fed, 1851. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. T. Davies, Llandilo ; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Jones, Crugybar; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Griffiths, Horeb; pregethwyd ar ddyledswydd y gwenidog gan Mr. D. Davies, Pantteg ; ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. H. Jones, Caerfyrddin. Llafuriodd Mr. Jones yma yn ddiwyd a pharchus hyd y flwyddyn 1859, pryd y symudodd i Benybontarogwy. Y flwyddyn ganlynol cymerodd Mr. David Jones, Bethlehem, ofal yr eglwys, a bu yma yn ddefnyddiol hyd y flwyddyn 1860, pryd yr ymfudodd i America. Yn y flwyddyn 1868 adnewyddwyd y capel trwy draul o 500p., ac y mae y ddyled oll wedi i thalu. Rhoddwyd galwad i Mr. David M. George, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Medi 6ed, 1871. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Proffeswr Roberts, Aberhonddu ; holwyd y gofyniadau gan Proffeswr Morris, Aberhonddu; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Jones, Crugybar; pregethwyd i'r gwenidog gan Mr. E. Lewis, Brynberian; ac i'r eglwys gan Mr. J. B. Jones, B.A., Penybontarogwy. Mae Mr. George yn parhau i lafurio yma, a'r achos mewn gwedd lewyrchus. Mae yma lawer o ffyddloniaid wedi bod yn nglyn a'r achos yma heblaw y rhai a enwyd, ac y mae eto rai o gyffelyb ysbryd yn aros yn yr eglwys.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

  • David Thomas. Urddwyd ef yn Troedyrhiw, Merthyr, ac yr ydym eisioes wedi cyfeirio ato yn hanes yr eglwys hono.
  • J. Stephen Davies. Bu ef am dymor yn Athrofa Aberhonddu, ond enciliodd i'r Eglwys Sefydledig.
  • A. J. Francis. Mae yn awr yn parotoi i fyned i'r athrofa.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

THOMAS JAMES. Ganwyd ef yn mhlwyf Trelech, yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghapel y Graig, ac yno y dechreuodd bregethu. Wedi treulio ei amser yn Athrofa Caerfyrddin urddwyd ef yn Abergorlech yn y flwyddyn 1828, a bu yno yn dderbyniol a llwyddianus hyd 1834, pryd. oherwydd rhyw amgylchiadau, y rhoddodd yr eglwys i fyny. Bu gofal Hermon a Tabor arno o hyny i'w farwolaeth. Yr oedd Mr. James yn ddyn deallus a boneddigaidd, ac yn bregethwr trefnus ac efengylaidd; ac ar un adeg bu yu nodedig o boblogaidd Gwaelodd ei iechyd yn fawr yn ei flynyddoedd olaf, ac wedi hir nychdod bu farw Chwefror 27ain, 1841, a chladdwyd ef yn mynwent Tabor, ac ar achlysur ei gladdedigaeth ef gweinyddwyd gan Meistri W. Williams, Llandilo, a D. Davies, Pantteg.

  

LLANSADWRN

Yr oedd amryw o aelodau Tabor a Hermon yn preswylio yn yr amgylchoedd yma, a dechreuodd Mr. Daniel Jones bregethu yn achlysurol yn Bryndyfan, Bwlchygwynt, a'r Cefn, mor foreu a'r flwyddyn 1811; a deuai amryw weinidogion eraill yma yn eu tro. Ar ol hyny sefydlwyd  ar ysgubor perthynol i un Daniel Williams, Saercoed, yr hon oedd yn cael ei dal gan John Timothy, yn agos i'r man lle y saif y capel presenol. Wedi

576

addoli yno am dymor ffurfiwyd eglwys yn y lle yn y flwyddyn 1829, gan Mr. D. Jones, Gwynfe. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd un-ar-ddeg, sef Thomas ac Anne Jones, Bryndyfau ; Thomas Timothy, Cefn ; Mary Edwards, Bwlchygwynt; Esther Williams, Beiliglas ; Elizabeth Edwards, Cefn; Morgan a Margaret Williams, Cwmllynfe; Catherine Bennet, Felindre ; Elizabeth ac Anne Davies, Pistyll. Neillduwyd T. Jones, Brynidyfan, a T. Timothy, Cefn, i fod yn swyddogion ; ac nid oedd neb o'r aelodau a allasai ddechreu canu ond Esther Williams, a chymerodd hi y swydd. Yn y flwyddyn 1830 adeiladwyd yma gapel, yr hwn a alwyd yn EBENEZER ; a bu y lle yn benaf dan ofal Meistri D. Jones, Gwynfe, ac E. Jones, Crugybar, hyd y flwyddyn 1835, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. William Williams i fod yn weinidog yma mewn cysylltiad â Llandilo ; ac adfywiodd yr achos yn fawr yn nhymor ei weinidogaeth. Bu y lle dan ei ofal hyd ei farwolaeth yn 1846. Wedi hyny bu Meistri J. Williams, Llangadog, a T. Jones, Hermon, yn cydofalu am y lle am flwyddyn; a Mr. T. Davies, Llandilo, ar ol hyny ; ac yn 1850 rhoddodd yr eglwys hon mewn cysylltiad â Bethlehem alwad i Mr. David Jones, myfyriwr yn Athrofa Aberhonddu, a bu yr eglwys dan ei ofal am bedair-blynedd-ar-bymtheg, hyd nes yr ymfudodd i America. Yn 1871 rhoddwyd galwad i Mr. D. M. George i fod yn weinidog yma yn nglyn â Hermon; a chynhaliwyd cyfarfodydd yn y ddau le yn nglyn a'i urddiad Mehefin 6ed a'r 7fed y flwyddyn hono, ac y mae Mr. George yn parhau yn weinidog yma. Mae y capel yn awr wedi ei dynu i lawr i'w ail-adeiladu yn dý eang a chyfleus, ac y mae gan y bobl ewyllys at dý eu Duw yn y lle. Heblaw y rhai a grybwyllwyd yn nglyn â chychwyniad yr achos y mae yma lawer o bobl ragorol wedi bod yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd. Coffëir gan lawer am garedigrwydd Mr. M. Williams a'i briod yn y Brown Hill, ac yr oedd eu tý yn lletty y fforddolion oll ; ac y mae y drws yno eto yn agored, a chymaint croesaw ag erioed; ac y mae yma eraill sydd yn gyffelyb yn eu caredigrwydd.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

  • David Joshua. Ni bu yn pregethu ond dros ychydig.
  • John Williams, Brown Hill. Yr ydym eisioes wedi cyfeirio ato yn hanes Castellnewydd-Emlyn.
  • William Williams, Cwmllynfe. Mae ef yn parhau yn aelod yma, ac yn bregethwr cynorthwyol parchus.
  • David Evans. Addysgwyd ef yn Athrofa Aberhonddu. Mae yn awr yn weinidog yn Briton Ferry.
  • Benjamin Williams, Brown Hill. Dygwyd ef i fyny yn Athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Gwernllwyn, Dowlais, ac y mae yn awr yn Canaan, gerllaw Abertawy.
  • Thomas Edwards (Iorwerth Llansadwrn). Mae yn awr yn Llandilo, ac yn bregethwr cynorthwyol mewn cysylltiad â'r eglwys yno.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

THOMAS DAVIES, LLANDILO. Gan fod hanes Llandilo wedi myned i'r wasg, ac wedi ei weithio cyn i'r newydd galarus ein cyrhaedd am farwolaeth annisgwyliadwy Mr. Davies, nis gallwn wneyd dim yn well na rhoddi byr grybwylliad am dano yma, yn nglyn ag eglwys Llansadwrn,

577

yr hon a fu o dan ei ofal am ychydig yn nechreuad ei weinidogaeth. Nis gallwn wneyd ond cofnodiad anmherffaith o hanes ei fywyd, gan nad oes genym ddefnyddiau wrth law, a chan fod yr amser yn rhy fyr i'w casglu; ond gwyddom y bydd yn dda gan ein darllenwyr gael yr ychydig sydd genym, yn nglyn a hanes eglwysi Sir Gaerfyrddin, i aros cofiant helaeth iddo, yr hwn, fel y gobeithiwn, a gyhoeddir yn fuan. Ysgrifenodd atom lawer yn ystod y ddeufis diweddaf o hanes eglwysi a phersonau, ond ychydig feddyliodd ef na ninnau y pryd hyny y galwesid arnom mor fuan i gofnodi ei farwolaeth yntau.

Ganwyd ef yn Nhrelech, yn niwedd y flwyddyn 1820, ac yno y treuliodd flynyddoedd boreu ei oes, y cafodd ei addysg grefyddol, ac y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig. Wedi bod am dymhor yn Maesteg, Morganwg, dychwelodd i Drelech, ac ar gais yr eglwys yno, a'i gweinidog, dechreuodd bregethu yn 1841. Wedi bod am dymhor yn derbyn addysg ragbarotoawl yn Nghaerfyrddin, derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu yn haf 1843, ac ar derfyniad ei amser yno derbyniodd alwad o Landilo, i fod yn olynydd i'r doniol WILLIAMS, Llandilo, yr hwn oedd wedi dystewi yn angeu y flwyddyn flaenorol. Urddwyd ef yn y Tabernacl, Llandilo, Awst lleg, 1847, ac yr oedd yno nifer luosog o weinidogion yn cymeryd rhan yn ngwasanaeth y dydd, y rhai ydynt agos oll erbyn hyn wedi gorphwys oddiwrth eu llafui. Bu yn myned i Lansadwrn dros ychydig, ond ni pharhaodd yn hir i fyned yno, am y credai fod y dref yn gofyn ei holl wasanaeth. Ymroddodd yn ddyfal, ac heb unrhyw dwrf nac ymhoniad, i gyflawni ei weinidogaeth. Talwyd y ddyled oedd yn aros ar yr hen Dabernacl, codwyd ysgoldy cyfleus yn ymyl y capel i gynal Ysgol Frytanaidd, ac yn mhen amser adeiladwyd Tabernacl newydd eang a hardd ; ac erys y rhai hyn yn gofgolofnau o weithgarwch diball Mr. DAVIES. Bu gofal Penybanc arno am dymor, a chafodd yr achos ieuanc yn Llanarthney hefyd ynddo ef noddwr tyner a charedig.

Yr oedd yn ddyn nodedig o hapus a siriol, bob amser mewn tymer dda; pa un bynag ai yn ei dulu, ai yn yr eglwys, ai yn nghymdeithas ei frodyr, byddai ei ffraethineb a'i ysbryd bywiog yn cadw pawb yn llawen. Gallesid o draw dybied ei fod yn ddiofal, ac nad oedd yn teimlo dyddordeb maws mewn dim, ond gwyr y rhai a'i hadwaenant oreu yn amgen. Mae yn wir nad ymrysonai â neb heb achos, a'i fod yn nodedig o ryddfrydig tuagat y rhai a wahaniaethant oddiwrtho, ac yn dyner hyd yn nôd wrth y rhai y cydnabyddai eu diffygion ; ond yr oedd yn anmhosibl cael neb yn cymeryd mwy o ddyddordeb, nid yn unig yn amgylchiadau yr eglwys dan ei ofal, ond yn holl symudiadau yr enwad. Os ymgymerai âg unrhyw beth, byddai yn sicr o'i gwblhau; a pha orchwyl bynag a fyddai ar droed gallesid bod yn sicr na welsid ef yn tynu yn groes, nac yn sefyll draw. Caiff y genadaeth, a'r colegau, a holl symudiadau cyhoeddus yr enwad golled fawr ar ei ol. Er nad ymhonodd erioed i fod yn arweinydd, eto gwyddai pawb y gallesid cyfrif ar ei gefnogaeth a'i gydweithrediad.

Yr oedd yn mwynhau hyfrydwch gwastadol yn mhob peth cysylltiedig â chrefydd. Magwyd ef mewn cymydogaeth nad oedd ynddi nemawr ddim ond cynnulliadau crefydd gymdeithaeol i roddi hyfrydwch a thestyn siarad i'r trigolion ; ac ni welsom neb erioed wedi glynu yn llwyrach wrth arferion crefyddol ei febyd. Nid ydym yn tybied fod yr un dyn o'i oed, yn yr oes yma, a wrandawodd fwy o bregethau, os oes rhyw un yn wir a

578

wrandawodd gynifer. Nid myned i gyfarfod chwarterol neu gymanfa y byddai ef erbyn yr awr y disgwylid iddo bregethu, ac ymaith âg ef wedi gwneyd hyny; ond elai iddynt i wrando yr efengyl, a dibwys iawn oedd ganddo pa un a ofynid ganddo bregethu neu beidio. Elai iddynt erbyn y dechreu, ac os byddai modd, arosai hyd y diwedd. Ac nid i gyfarfodydd ei enwad ei hun yn unig yr ä'i, ond i gyfarfodydd a chymanfloedd pob enwad o fewn ei gyrhaedd. Clywsom weinidog poblogaidd perthynol i enwad arall yn dyweyd, iddo lawer gwaith ei weled yn eu cymanfaoedd hwy, a hyny weithiau, ddeuddeg neu bymtheg milldir o'i gartref. Gwyr llawer o'i frodyr sydd eto yn fyw, y rhai a ddygwyddodd fod yn myned trwy ei wlad ar ryw achlysuron, mor barod ydoedd i ddyfod i'w cyfarfod i'r eglwysi cymydogaethol, ac i wneyd pob peth a allai er eu cefnogi a'u calonogi; a byddai yn wastad yn gwrando gyda sirioldeb, fel un yn mwynhau yr efengyl. Nid oes achos i ni ddyweyd ei fod yn ddoniol a phoblogaidd fel pregethwr. Mewn un arddull, nid oedd neb yn ei oes yn fwy felly. Safai yn unionsyth yn y pwlpud, fel derwen gref, ac heb unrhyw ymddangosiad o ymdrech, tywalltai ei ymadroddion yn ffrydiau diatal, nes synu y gynnulleidfa. Yn ei flynyddoedd boreuaf defnyddiai iaith uchel, gref, gadwynog, yn ymylu ar fod yn chwyddedig ; ond yr oedd ystwythder barabliad a phereiddiwch i lais yn peri ei fod yn gallu dyweyd y geiriau cryfaf a'r brawddegau hwyaf yn hollol ddidrafferth. Yn y deng mlynedd diweddaf yr oedd wedi newid llawer yn ei arddull, ac yn fwy syml ei iaith, a llac ei frawddegau, ac yn fwy pwyllog yn ei draddodiad ; er ei fod hyd y diwedd pan y torai yr argae yn gollwng allan raiadrau ei hy-awdledd. Yr oedd hefyd yn llawn ffraethineb ac arabedd, nes peri i'r gwrandawyr wylo a chwerthin bob yn ail. Cawsom enghraifft nodedig o hyny yn ei bregeth ar " Deulu Duw," yn y Tabernacl, Liverpool, nos Sabboth y Gymanfa yno, mis Medi diweddaf (1873). Yr oedd y dorf fawr oll at ei law, a gallasai wneyd â hi fel y gwelai yn dda ; ac er fod rhai o'i ymadroddion a'i gymhariaethau yn syml a chyffredin, ac yn ymylu ar fod yn ysgafn, eto dilynid hwy gan ryw darawiadau bywiog a gyffyrddai â  phob teimlad nes diarfogi pob beirniadaeth. Yn sicr yr oedd yn un o'r dynion mwyaf doniol, ac yn un o'r lleiswyr mwyaf soniarus, a fagodd ein cenedl erioed ; a phe buasai ychydig yn ychwaneg, o dynerwch wedi ei daflu i'w ddawn a'i lais ni buasai yn ol mewn effeithiolaeth i neb o gewri y pwlpud Cymreig. Nid amcanodd erioed yn ei weinidogaeth at bethau dyfnion a dyrys, ond yr oedd bob amser yn ymarferol, a thuedd iachusol yn y cwbl.

Ond nid fel gweinidog a phregethwr yn unig y rhagorodd, ond cyrhaeddodd radd uchel fel llenor Cymreig. Ysgrifenodd lawer i'r wasg, a bu rhan o olygiaeth y " Diwygiwr" arno am flynyddau wedi i Mr. Rees, Llanelli, ei roddi i fyny. Cyhoeddodd amryw fân draethodau hefyd, a dygodd allan gofiant a gweithiau Mr. Rees, Llanelli, ac y mae pawb a ddarllenodd y cofiant yn cydnabod ei fod yn meddu ar deilyngdod llenyddol o radd uchel.

Ond yr hyn sydd yn bwysicach na phob dawn a thalent a feddai, yr oedd yn ddyn gwir dda. Ni bu brycheuyn erioed ar ei gymeriad. Disgynodd i'w fedd heb fod drwgdybiaeth am dano mewn dim. Bu yn ddirwestwr pur o'i ieuengctyd, ac er na wthiai ei olygiadau ar eraill, a'i fod yn dra goddefol tuag at y rhai a wahaniaethent oddiwrtho, eto cadwodd ei hun yn bur. Yr oedd ei ymarweddiad diargyhoedd yn ei ganmol i gyd-

579

wybod yr holl wlad; a thrwy gylch ëang ei weinidogaeth teimlid nerth a dylanwad ei gymeriad.

Ond efe a fu farw! Yn nghanol ei ddyddiau - yn nghanol ei gynlluniau - ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Mor ddyrus yw ffyrdd Rhagluniaeth. Nid oedd yr un dyn yn fyw y teimlem yn anmharotach i dderbyn y newydd am i farwolaeth; oblegid yr oedd pob peth o'i gwmpas yn peri i ni feddwl fod llawer o flynyddoedd yn ol iddo ef. Yr oedd o gyfansoddiad cryf a chydnerth - o arferion pur a chymedrol - o dymer fywiog a llawen ; yn wir, yr oedd pob peth o'i gylch yn peri i ni gyfrif arno fel un o'r ychydig, tebyg i fyw i oedran têg. Ond, nid gwiw amheu bellach. Mae y gedrwydden gref wedi syrthio! Bu farw yn ddisymwth o glefyd y galon, o gylch saith o'r gloch nos Fawrth, Hydref 28ain, 1873, yn 53 oed. Daeth cwmwl tywyll du dros y teulu yn y fan, llanwyd y dref a'r wlad oddiamgylch â thristwch a phrudd-der, gyda chyrhaeddiad y newydd trwm, ac yr oedd pob dyn yn mhob man pan y gwneid y mynegiad iddo yn sefyll fel gwr wedi synu. Claddwyd ef yn mynwent y Tabernacl, Llandilo, y dydd Llun canlynol, ac ni bu y fath angladd yn Llandilo yn yr oes yma. Gadawodd weddw, ac unig fab ar ei ol. Cysgoded " Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon" ei weddw alarus, a'i unig blentyn amddifad ; a gosoded eglwys y Tabernael a holl eglwysi Cymru yn ddifrifol at eu calon yn y dyddiau hyn pan y mae yr ARGLWYDD yn cymeryd oddiarnynt  "y cadarn a'r rhyfelwr, y brawdwr a'r proffwyd, y synwyrol a'r henwr, yr anrhydeddus a'r cynghorwr, y crefftwr celfydd a'r AREITHIWR HYAWDL."

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

There were several members from Tabor and Hermon present in the environs here, and Mr Daniel Jones started preaching occasionally in Bryndyfan, Bwlchygwynt, and the Cefn, as early as the year 1811; and some other ministers came here in their turn. After that they settled on a barn connected to one Daniel Williams, Saercoed, who held occupancy from John Timothy, near to where the present chapel stands. Having worshipped there for a while a church was formed in the place in 1829 by Mr D Jones, Gwynfe. The number of members at the time was 11, namely Thomas and Anne Jones, Bryndyfau ; Thomas Timothy, Cefn ; Mary Edwards, Bwlchygwynt; Esther Williams, Beiliglas ; Elizabeth Edwards, Cefn; Morgan and Margaret Williams, Cwmllynfe; Catherine Bennet, Felindre ; Elizabeth and Anne Davies, Pistyll. They appointed T. Jones, Brynidyfan, and T. Timothy, Cefn, as officials; but none of the members were able to start the singing but Esther Williams, who took the job. In 1830 they built a chapel here, which they called EBENEZER; and the place was mainly under the care of Messrs D Jones, Gwynfe, and E Jones, Crugybar, until 1835, when they called Mr William Williams to be the minister here together with Llandilo; and the cause revived greatly during his ministry. The place was under his care until he died in 1846. After that Messrs J Williams, Llangadog, and T Jones, Hermon, jointly looked after the place for a year; and Mr T Davies, Llandilo, after that; and in 1850 the church here together with Bethlehem gave a call to Mr David Jones, a student at Brecon College, and the church was under his care for 19 years, until he moved to America. In 1871 they gave a call to Mr D M George to be their minister together with Hermon; and they held meetings in both places for his ordination on June 6th & 7th of that year, and Mr George continues as the minister here. The chapel has now been pulled down for rebuilding as a large and convenient house, and the people have (good) will towards the house of their god in the palce. Apart from those mentioned to do with the start of the cause there are here several excellent people who have been truly caring over the cause of the Lord. Remembered by many is the benevolence of Mr M Williams and his wife at Brown Hill, and their house was a lodgings for all travellers; and the door of that house is yet open, with as much welcome as ever; and there are here others who are comparable in their kindliness.

The following people were raised to preach in this church;

  • David Joshua. He only  preaches once in a while
  • John Williams, Brown Hill.  Already mentioned in the history of Newcastle-Emlyn.
  • William Williams, Cwmllynfe. He continues a sa member here, and a respected assistant preacher
  • David Evans. Educated at Brecon College. Now minister at Briton Ferry
  • Benjamin Williams, Brown Hill. He went off to Brecon College. Ordained at Gwernllwyn, Dowlais, now at Canaan, near Swansea
  • Thomas Edwards (Iorwerth Llansadwrn). He is now in Llandilo, and an assistant preacher with the church there

Biographical Notes *

THOMAS DAVIES, LLANDILO. ... mainly involved with Llandilo but looked after Llansadwrn at the start of his ministry ... born in Trelech, in 1820 ... spent time in Maesteg ... returned to Trelech, preached there  from 1841 ... went to both Carmarthen and Brecon Colleges ... accepted a call from Tabernacle, Llandilo and ordained there in 1847 ... visited Llansadwrn on occasion ... also cared for Penybanc and the young cause at Llanarthney ... ... wrote much in the press, edited the Diwygiwr ... a most premature death in 1873, aged 53, buried in Tabernacle's graveyard ... left a widow and one son ...

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

SARDIS

(Mothvey parish)

Mae y capel hwn yn sefyll o fewn dwy filldir i bentref Myddfai, ar ffordd i Langadog. Dechreuwyd yr achos yma yn niwedd y ganrif ddiweddaf, yn benaf trwy lafur Mr. Thomas Thomas, Craigybwbach, gweinidog ffyddlawn Pentretygwyn. Adeiladwyd y capel cyntaf yn y flwyddyn 1792, ar dir Mr. William Rogers, Blaenycwm, yr hwn a roddodd lês arno. Mae rhai yn awr yn fyw sydd yn cofio Mr. Thomas yn pregethu ar ganol dydd gwaith yn nhý Mr. Rogers, pryd y penderfynwyd codi y capel, ac y sefydlwyd ar y man i wneyd hyny. Bu gofal yr achos yma ar Mr. Thomas hyd ei farwolaeth, Hydref 27ain, 1794. Yn mhen rhai blynyddoedd rhoddwyd galwad i Mr. David Davies, aelod o Saron, Llangeler, ac urddwyd ef yn weinidog yma. Nis gallasom gael allan ddyddiad ei urddiad, ond yr oedd cyn diwedd y ganrif ddiweddaf. Bu Mr. Davies yma hyd ei farwolaeth yn ddoniol a phoblogaidd fel pregethwr, a chyda mesur o lwyddiant fel gweinidog, pan ystyriom gylch eang ei weinidogaeth. Yn y flwyddyn 1823 adeiladwyd capel yn mhentref Myddfai, yr hwn a alwyd Seion; ac yn 1827 ail-adeiladwyd Sardis. Bu Mr. Davies farw Chwefror 2il, 1838. Yn fuan rhoddwyd galwad i Mr. David Phillips, myfyriwr yn Athrofa Drefnewydd, ac urddwyd ef Tachwedd 1 af, 1838. Ni bu Mr.  Phillips yma ond dwy flynedd cyn i'w gysylltiad â'r eglwys derfynu. Yn y flwyddyn 1841 unodd yr eglwys hon â Llangadog i roddi galwad i Mr. John Williams, Brown Hill, myfyriwr yn Athrofa Ffrwdyfal, ac urddwyd ef yn Awst y flwyddyn hono. Bu yma yn dderbyniol a llwyddianus am fwy na deng mlynedd, nes y symudodd i Gastellnewydd-Emlyn. Wedi ymadawind Mr. Williams rhoddwyd galwad i Mr. Evan A. Jones, myfyr-

580  

iwr yn Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Myddfai, Gorphenaf laf, 1852. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin ; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Jones, Cilcenin ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. R. Jones, Ffaldybrenin ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, Athraw Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr. D. Rees, Llanelli. Bu Mr. Jones yma yn ddiwyd a defnyddiol hyd haf 1856, pryd y symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Ynysgau, Merthyr. Wedi ei ymadawiad ef bu gofal yr eglwys ar Mr. Rees Rees mewn cysylltiad â Chapel Isaac, a gwelwyd yma ddyddiau da mewn llwyddiant yn adeg ei weinidogaeth. Yn y flwyddyn 1865 daeth Mr. William B. Morgan yma, yr hwn a fuasai am ychydig yn weinidog yn Sheffield, a bu yma hyd ddiwedd 1870, ac y mae yn awr yn Maesteg, Morganwg. Yn niwedd Chwefror, 1872, dechreuodd Mr. Lewis Patagonia Humphreys, Glantwrch, ei weinidogaeth yma ; ac y mae eto yn parhau i lafurio yn y lle. Mae yr achos yma ac yn Myddfai wedi bod bob amser mewn cysylltiad â'u gilydd, a hyd y flwyddyn 1844 un eglwys yr ystyrid hwy. Crybwyllir am y personau canlynol fel rhai a fu yn ffyddlawn, ac a wasanaethasant swydd diaconiaid yma ac yn Myddfai: - Phillip Thomas Daniel, Castellcoch; Rhys Thomas, Blaendynfuch; Thomas Price, Glanalltfawr ; David Price, Tynewydd ; Rhys Lewis, Tirpaun; Benjamin Davies, Myddfai ; David Thomas, Pwllcalch ; Thomas Morgan, Esgairllaethdy ; Thomas Lewis ; William Williams, Cwmbran; a John Davies, Tynllwyn. Diaconiaid presenol Sardis ydynt William Morgan, Nelson Cottage; John Evans, Beudywern; John Davies, Bairiryn; a David Jones, Cwrt.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.

  • Daniel Thomas. Mae wedi encilio i'r Eglwys Sefydledig, ond nid i'r weinidogaeth ynddi.
  • Edward Thomas. Mab yr uchod. Aeth yntau i'r Eglwys, ac y mae yn offeiriad yn Sciwen.
  • David Davies. Bu farw yn 30 oed, ar ol hir gystudd.
  • J. Puntan. Ni bu byw ond ychydig ar ol dechreu pregethu.
  • Lewis Davies. Mab yr hen weinidog, Mr. Davies. Mae yn weinidog yn Ysgetty, gerllaw Abertawy.
  • David Morgans. Bu farw ar ol pregethu dros rai blynyddoedd.
  • Lewis Davies. Mae yn awr yn Athrofa Caerfyrddin.

Yn yr eglwys hon hefyd y derbyniwyd Mr. Davies, Caerdydd, yn aelod, ond ar ol symud i'r Brychgoed y dechreuodd bregethu.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Drefach, yn mhlwyf Llangeler, yn y flwyddyn 1775. Yr oedd yn berthynas agos i Mr. D. Davies, Drefach; Abertawy wedi hyny. Nid ydym yn gwybod dim am ei hanes boreuol. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Drefach tua'r flwyddyn 1792, yr un adeg a'r Meistri M. Jones, Merthyr, a J. Bowen, Saron, ac eraill. Gwelwyd ei fod wedi ei gynysgaeddu a doniau neillduol, ac anogwyd ef yn fuan i ddechreu pregethu. Tynodd ei ddoniau hylithr a'i lais peraidd sylw mawr, a daeth yn fuan yn boblogaidd trwy yr holl wlad, a byddai yr holl eglwysi yn galw am ei wasanaeth. Derbyniodd alwad o Sardis, yn mhlwyf Myddfai, ac urddwyd ef yno cyn diwedd y ganrif ddi-

581

weddaf. Dechreuodd ei weinidogaeth yn gyffrous a tharanllyd, gan ddyrchafu ei lais fel udgorn, ond ni bu yn hir cyn newid tôn ei weinidogaeth, a daeth yn enwog fel efengylwr peraidd. Yr oedd yn ddyn hardd a golygus, o daldra canolig, yn fywiog a grymus ei ymddangosiad, yn serchog a charuaidd ei gyfarchiad, a'i draddodiad fel pregethwr yn esmwyth a naturiol, ei lais yn gerddgar a soniarus. Yr oedd o synwyr cyffredin cryf, a diau genym ei fod o alluoedd meddyliol uwchraddol, ond na ddadblygwyd mo honynt yn gyflawn. Bu trwy ei oes yn ymwneyd â negeseuau y bywyd hwn, a gosodwyd angenrhaid arno i hyny mewn trefn i ddwyn i fyny deulu lluosog. Bu gofal yr eglwys yn Abergorlech arno am flynyddau, a chyrchai yno yn gyson er pelled ei ffordd. Ar un adeg bu yn gwylio dros yr eglwys yn Salem, Llanymddyfri, ac efe a fu a'r llaw benaf yn nghodiad Capel Seion, Myddfai, ac yr oedd a fynai â dechreu yr achos yn Llangadog ; ac arno ef y bu ei ofal am flynyddoedd. Yr oedd Sardis a Myddfai a Bethlehem dan ei ofal hyd ddiwedd ei oes ; a chyrchai iddynt yn rheolaidd, er nad oedd un amser yn nodedig o ofalus am fod mewn pryd. Mae ei goffadwriaeth yn barchus yn y wlad lle y llafuriodd cyhyd; ac y mae adgofion melus am dano gan lawer o'r hen bobl a fu yn eistedd dan ei weinidogaeth. Bu farw Chwefror 2il, 1838, yn 63 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Bethlehem, lle y gwelir maen er coffadwriaeth am dano. Bu yn briod ddwywaith, a chafodd deulu lluosog, a mab iddo ef o'i ail wraig ydyw Mr. L. Davies, gweinidog presenol Ysgetty, gerllaw Abertawy.

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

This chapel stands within 2 miles of Myddfai village, on the way to Llangadog. The cause here began at the end of the last century, mainly through the efforts of Mr Thomas Thomas, Craigybwbach, the faithful minister at Pentretygwyn. The first chapel was built in 1792, on the land of Mr William Rogers, Blaenycwm, which he granted a lease over. There are some alive nowadays who recall Mr Thomas preaching in the middle of the work day in the house of Mr Rogers, when it was decided to raise a chapel, and settled on the place to do this. Mr Thomas had care of the cause here until he died on Oct 27th 1794. At the end of  a few years they gave a call to Mr David Davies, a member at Saron, Llangeler, and he was ordained as  minister here. We can't work out the ordination date but itv was before the end of the last century. Mr Davies was here until his death, humerous and popular as a preacher, and with a measure of success as a minister, considering the length of his ministry. In 1823 a chapel was built in Myddfai village, which they called Seion,; and in 1827 they rebuilt Sardis.  Mr Davies died on 2 Feb 1838. They soon gave a call to Mr David Phillips, a student at Newtown College, and he was ordained on Nov 1st 1838. Mr Phillips was only here for 2 years nefore he broke his connection with the church. In 1841 this church joined with Llangadog in giving a call to Mr John Williams, Brown Hill, a student at Ffrwdyfal College, and he was ordained in August that year. He was here acceptably and successfully for over 10 years, until he moved to Newcastle Emlyn. After Mr Williams left they called Mr EvanA Jones, a student at Brecon College, and he was ordained in Myddfai on July 1st 1852. On the occasion Mr W Morgan, Carmarthen,  preached on the Nature of a Church; questions were asked by Mr T Jones, Cilcenin, the ordination prayer given by Mr R Jones, Ffaldybrenin; prayer to the minister by Mr E Davies, Head (Teacher/Professor ?), Brecon College; and to the church by Mr D Rees, Llanelli. Mr Jones was here diligently and helpfully until summer 1856, when he moved to take care of the church in Ynysgau, Merthyr. After he'd gone care of the church was under Mr Rees Rees together with Capel Isaac, and it was a successful time here during the period of his ministtry. In 1865 Mr William B Morgan came here, who for a while had been a minister at Sheffield, and he was here to the end of 1870, and is now in Maesteg, Glamorgan. At the end of February 1872 Mr Lewis Patagonia Humphreys, Glantwrch, began his ministry here; and he yet continues to labour in the place. The causes here and at Myddfai have always been connected to each other, and until 1844 were considered one church. The following persons are mentioned as ones who were faithful, and served as deacons here and at Myddfai - Phillip Thomas Daniel, Castellcoch; Rhys Thomas, Blaendynfuch; Thomas Price, Glanalltfawr ; David Price, Tynewydd ; Rhys Lewis, Tirpaun; Benjamin Davies, Myddfai ; David Thomas, Pwllcalch ; Thomas Morgan, Esgairllaethdy ; Thomas Lewis ; William Williams, Cwmbran; and John Davies, Tynllwyn. The present deacons at Sardis are William Morgan, Nelson Cottage; John Evans, Beudywern; John Davies, Bairiryn; and David Jones, Cwrt.

The following were raised to preach here;

  • Daniel Thomas. Has gone to the Established Church
  • Edward Thomas. Son of the above, also went to the Est. Church, now in Skewen
  • David Davies. Died aged 30
  • J. Puntan. Didn't live long after startting to preach
  • Lewis Davies. Son of the old minister, Mr Davies. Now a minister at Sketty, Swansea
  • David Morgans. Died after preaching for a few years
  • Lewis Davies. Now at Carmarthen College

Biographical Notes*

DAVID DAVIES.  .. born the Drefach area, Llangeler parish, in 1775 ... close relative of Mr Davies, Drefach ... member at Drefach in c1792 ... ordained at Sardis at end of last century ... Sardis, Myddfai and Bethlehem under his care until the end of his life ... died in 1838 aged 63, buried in Bethlehem graveyard ... large family ... son Mr L Davies current minister at Sketty, Swansea....

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

MYDDFAI

(Mothvey parish)

Yn y flwyddyn 1823 adeiladwyd capel bychan gerllaw y pentref hwn gan eglwys Sardis. Galwyd ef Capel Seion. Pregethid ynddo un rhan o'r Sabboth, ac yn Sardis y rhan arall, ond un eglwys a gyfrifid yma, ac i Sardis yr elid i gymundeb fynychaf. Ond gan fod Myddfai yn nghanol y boblogaeth yma y byddai y gynnulleidfa luosocaf, a chynyddodd yr achos yma, fel, erbyn y flwyddyn 1844, yn adeg gweinidogaeth Mr. J. Williams, barnwyd yn angenrheidiol i ail-adeiladu y capel, a gwnaed ef yn dý cyfleus a hardd. Wedi ei agoriad ffurfiwyd yma eglwys; ac er hyny Myddfai a ystyrir y prif le yn y weinidogaeth. Mae y lle wedi bod mewn cysylltiad â Sardis o'r dechruad, fel nad rhaid i ni yma ail grybwyll y manylion. Yn y flwyddyn 1871 adeiladwyd capel bychan a elwir BWLCH-Y-RHIW, er cynal ynddo Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio, a phregethu ynddo yn achlysurol. Saif tua dwy filldir a haner o bentre Myddfai, y ffordd yr eir i Drecastell, ar etifeddiaeth George Groner, Ysw., Ystrad House, yr hwn a roddodd ddarn helaeth o dir at gladdfa a mynwent ar lês o 999 o flynyddoedd am swllt y flwyddyn o ardreth. Dangosodd y gymydogaeth ffyddlondeb mawr wrth ei godi, a bu D. Thomas, Ysw., Llanymddyfri, a Mr. E. A. Jones, yn awr o Gastellnewydd-Emlyn, o lawer o gynorthwy mewn cysylltiad â sicrhau y tir.* Dechreuwyd codi yr adeilad cyn ymadawiad Mr. Morgan, ac agorwyd ef yn Mehefin, 1872, yn nglyn â sefydliad Mr. Humphreys.

Diaconiaid presenol yr eglwys yma ydynt Rees Price, Cwmnantybeudy; David Jones, Fron ; a D. B. Morgan. Nid ydym yn gwybod i ni godi i bregethu yma ond y rhai a enwyd yn nglyn â Sardis.

* Llythyr Mr. L. P. Humphreys.

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

 In 1823 a small chapel was built next to this village by the church at Sardis. It was called Capel Seion. They preached in it on one part of Sunday, and in Sardis the other part, but only one church was recorded here, and it was to Sardis that they usually went for communion. But as Myddfai was in the middle of the population the congregation was bigger, and the cause increased here, so that, by 1844, in the time of Mr J Williams's ministry, they decided it was necessary to rebuild the chapel, and  make it a convenient and beautiful house. After it opened a church was formed here; and since then Myddfai has been considered the main place in the ministry. The place has been connected to Sardis since the start, so that it isn't necessary to repeat the ins and outs here. In 1871 they built a small chapel and called it Bwlch-y-rhiw, in order to hold in it Sunday schools and prayer meetings, and occasional sermons. It stood about 2 1/2  miles from Myddfai village, in the direction of Trecastle, on the inheritance of George Groner Esq, Ystrad House, who gave a large piece of land for a graveyard/cemetery on a 999 year lease at a rent of a shilling a year. The neighbourhood showed great faith in its raising, and D Thomas Esq, Llandovery, and Mr E A Jones, now in Newcastle Emlyn, were of great assistance in securing the land*. They began to raise the building before Mr Morgan left, and it opened in June 1872, together with the installation of Mr Humphreys.

The present deacons of the church here are Rees Price, Cwmnantybeudy; David Jones, Fron ; and D. B. Morgan. We don't know of anyone raised to preach here apart from those noted under Sardis.

 *Letter from Mr L P Humphreys

582

CEFNARTHEN A PHENTRETYGWYN

(Llanfairarybryn parish)

Mae y ddau gapel hyn yn mhlwyf Llanfairarybryn, gerllaw Llanymddyfri. Gan mai un eglwys sydd yn y ddau nis gellir yn drefnus roddi eu hanes ar wahan. Mae yr achos hwn yn un o'r rhai henaf yn y Dywysogaeth. Trwy weinidogaeth Mr. Jenkin Jones, Llanddetty, yr enillwyd y dysgyblion cyntaf yma. Yr oedd Mr. Jones yn pregethu cyn i'r rhyfel dori allan yn 1642, rhwng y brenin a'r Senedd, ond ni hysbysir ni pa un ai cyn neu ar ol y rhyfel y dechreuwyd yr achos yn yr ardal hon ganddo ef. Un eglwys yr ystyrid holl Ymneillduwyr sir Frycheiniog gynt, ac yn Llanigon, gerllaw y Gelli, yr oedd eu prif fan cyfarfod, ac felly " eglwys Llanigon" y gelwid hi yn amser y Werin-lywodraeth. Yr oedd canghenau o honi yn ymgynnull mewn amryw fanau yn sir Frycheiniog, yn Merthyr Tydfil, yn Morganwg, ac yn Llanfairarybryn, yn sir Gaerfyrddin. Eglwys Mr. Jenkin Jones yr ystyrid hi, gan mai efe oedd y gweinidog henaf ac enwocaf ynddi, ac mai trwy ei lafur ef y casglwyd hi ar y cyntaf. Yn ddioed wedi adferiad Siar II. yr ydym yn cael i Mr. Jones ac amryw o aelodau ei eglwys gael eu dal a'u hanfon i garchar Caerfyrddin. Cymerodd hyn le yn mis Mai, 1660. Buont yno yn garcharorion am fis. Gan mai y gangen yn mhlwyf Llanfairarybryn yn unig a berthynai i eglwys Mr. Jones yn sir Gaerfyrddin, mae yn rhaid mai aelodau yr eglwys hon fu yn gydgarcharorion a'u gweinidog yn Nghaerfyrddin. Yr ydym yn cael i'r ddeadell fechan hon gael ei gwasgaru a'i maeddu yn greulon gan yr erledigaeth ar ol 1660, ond ryw amser cyn y flwyddyn 1675 yr oedd y praidd bychan wedi cael ei ail-gasglu drachefn, ac yn y flwyddyn hono dewisasant Mr. Rees Prytherch yn weinidog iddynt,* ond oherwydd angerdd yr erledigaeth nis gallwyd ei urddo yn gyhoeddus cyn y flwyddyn 1688. Bu y gynnulleidfa hon yn addoli am dymor yn amser yr erledigaeth mewn ogof a elwir Castell Craigyrwyddon , neu Craig y Derwyddon fe ddichon. Mae yr ogof hono o fewn ychydig i gapel Cefnarthen, ac i'w gweled eto, ond fod yn awr lawer o bridd a cherig yn y fynedfa i mewn iddi. Cafodd llawer o bregethau efengylaidd eu traddodi yn yr hen ogof hon, ac y mae yn ddiameu i filoedd o weddiau gwresog esgyn o honi i'r nefoedd. Mae yn debygol i'r capel cyntaf gael ei adeiladu yn Nghefnarthen tua y flwyddyn 1689, cyn gynted ag y cafwyd nawdd Deddf y Goddefiad. Bu Mr. Rees Prytherch yn gwasanaethu yr eglwys hon yn effeithiol hyd ei farwolaeth yn 1699. Ychydig cyn ei farwolaeth yr oedd Mr. Roger Williams, yr hwn, fel yr ymddengys, oedd yn aelod gwreiddiol o'r eglwys, wedi cael ei urddo yn gynorthwywr iddo.

Arminiad oedd Mr. Williams o ran ei olygiadau, o leiaf aeth yn Arminiad rai blynyddau cyn ei farwolaeth. Nid oes genym ddefnyddiau i roddi hanes ei weinidogaeth ef. Bu farw yn Mai, 1730, wedi bod yn weinidog yma ac yn Merthyr Tydfil am ddeuddeg-ar-hugain o flynyddau. Mae yn ymddangos fod yr achos yn lled gryf yma trwy holl dymor ei weinidogaeth ef. Wedi marwolaeth Mr. Roger Williams yr ydym yn fuan yn cael yma dri o weinidogion, sef David Williams, yr hwn a urddwyd yma Mehefin, 1731, a John Williams. yr hwn oedd yn gweini yr ordinhad o swper yr Arglwydd yma Hydref 31ain, 1731, ac yn Hydref 1732, yr ydym yn cael un Mr. David Thomas yn weinidog yma, ac yma y bu yn rhyfeddol o

* Broad Mead Records, tudalen 512.

583

lwyddianus hyd Rhagfyr 2il, 1739, pryd y traddododd ei bregeth ymadawol oddiwrth 2 Cor. viii. 19. Yr ydym yn lled dybied mai meibion neu berthynasau agos i Mr. Roger Williams, yr hen weinidog, oedd David a John Williams, ac iddynt hwy gael eu dewis yn weinidogion gan y blaid Arminiaidd o'r eglwys, ac mai gan y blaid Galfinaidd y dewiswyd Mr. David Thomas. Cadarnheir y dyb hon gan y ffaith i'r eglwys ymranu yn ddioed wedi ymadawiad Mr. Thomas. Tueddir ni i feddwl mai dyma y David Thomas a fu wedi hyny yn Llanedi, ac a adnabyddid fel Mr. Thomas, Ffosyrefail. Cadwodd yr Arminiaid feddiant o'r capel, ac aeth y Calfiniaid i addoli i le a elwir Glynypentan. Trwyddedwyd y tý hwnw at bregethu ynddo Gorphenaf 10fed, 1740, a gweinyddwyd swper yr Arglwydd yno am y waith gyntaf gan Mr. Edmund Jones, Pontypool, Awst 10fed, 1740, pryd y derbyniwyd pedwar o'r byd, ac un trwy lythyr o Lanwrtyd. Rhif y cymunwyr yma y waith gyntaf hon oedd 36. Ychwanegwyd saith atynt y cymundeb canlynol, a pharhasant i fyned ar gynydd o fis i fis. Mae yn ymddangos fod gan Mr. Edmund Jones law neillduol yn yr ymraniad hwn. Ionawr laf, 1740, traddododd bregeth yn Nghefnarthen, ar Etholedigaeth, ac yn mhen tua saith mis ar ol hyny cymerodd ymraniad gweithredol le. Yr oedd dynion o ddylanwad a duwioldeb mawr yn perthyn i'r blaid a aeth allan o Gefuarthen i ddechreu yr achos yn Nglynypentan. Yn mysg y rhai yr oedd Mr. John Williams, o Gefnycoed, a'i wraig Dorothy, sef tad a man yr enwog emynwr W. Williams, Pantycelyn. Bu Mr. John Williams farw Ebrill laf, 1742, yn 86 oed. Yr oedd yn ddall tua chwe' mlynedd cyn ei farwolaeth. Bu yn henuriad llywodraethol yn yr eglwys yn Nghfnarthen am lawer o flynyddau. Dywedir i fod yn Gristion addfwyn, sobr, gonest, a chywir, ac iddo gael ei fynediad trwy anialwch y byd hwn i'r wlad well yn lled rydd oddiwrth ofidiau.

Wedi i'r eglwys ymsefydlu yn Nglynypentan edrychasant allan am weinidog, a syrthiodd ei dewisiad ar Mr. Owen Rees, aelod gwreiddiol, feddyliwn, o'r eglwys yn Nghefnarthen, ac urddwyd ef yn Nglynypentan, Mawrth 11eg, 1742, pryd y gweinyddwyd gan Meistri Phillip Pugh; John Harries, Capel Isaac; Thomas Morgan, Llanwrtyd, ac eraill. Yr un dydd ac yn yr un lle urddwyd Mr. William Jenkins, aelod arall o'r eglwys hon, i fod yn weinidog i'r eglwys Gymreig yn Cwmiau, yn agos Drehir, yu sir Henffordd. Bu Mr. Rees yn llwyddianus iawn yma am tua phedair-blynedd-ar-ddeg. Wedi bod yn addoli yn Nglynypentan am tua naw mlynedd rhoddodd Mrs. Dorothy Williams, a'i mab, Mr. W. Williams, le cyfleus ar dir Pantycelyn at adeiladu capel Pentretygwyn, yr hwn a adeiladwyd yn y flwyddyn 1749. Yn y flwyddyn 1756, neu yn gynar yn 1757, symudodd Mr. Rees oddiyma i Aberdar. Yn dra buan ar ol ei ymadawiad ef rhoddwyd galwad i Mr. Milbourn Bloom. Bu ef yma hyd y flwyddyn 1766. Yr oedd ef yn un o'r rhai a fu yn fwyaf cynorthwyol i Mr. Griffith Jones, Llanddowror, gyda'r ysgolion dyddiol. Wedi ei ymadawiad ef bu yr eglwys am ddwy flynedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol. Chwefror 14eg, 1768, bu Mr. John Davies, aelod o Bencadair, yn pregethu yma yn y bore ac yn Llanymddyfri yn yr hwyr. Pregethodd yma drachefn y nos Fawrth canlynol, a'r pryd hwnw cydunodd yr eglwys i roddi galwad iddo. Gorphenaf 18fed, yn yr un flwyddyn, derbyniwyd ef yn aelod i'r eglwys, am na buasai yn unol â threfn yr hen Annibynwyr i'w urddo cyn iddo yn gyntaf gael

584

ei aelodi yn y lle. Awst 3ydd a'r 4ydd cynaliwyd cyfarfodydd ei urddiad, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Meistri Thomas Lewis, Glyntawy ; Milbourn Bloom ; Isaac Price, Llanwrtyd ; John Tibbot, Esgairdawe; Thomas Davies, Pantteg ; Dr. Benjamin Davies, Abergavenny ; a Morgan Jones, wedi hyn o Bentretygwyn. Ni bu arosiad Mr. Davies yma ond tair blynedd. Yn Awst, 1771, symudodd i Gwmllynfell a'r Alltwen. Wedi ei ymadawiad ef rhoddwyd galwad yn ddioed i Mr. Morgan Jones, Tygwyn ; yr hwn oedd yn byw yn yr ardal ar ei dir ei hun, ac fel yr ymddengys, yn aelod gwreiddiol o'r eglwys hon. Bu Mr. Jones yn rhyfeddol o lwyddianus am y naw mlynedd y bu yma. Yn mysg pethau eraill llwyddodd i ail uno y cynnulleidfaoedd yn Nghefnarthen a'r Pentre, ac y maent yn parhau yn un o'r pryd hwnw hyd yn bresenol.

Ychydig a wyddys o hanes Cefnarthen o'r ymraniad yn 1740 hyd yr ail uniad yn amser Mr. Morgan Jones. Pan y cymerodd yr ymraniad le yr oedd yno ddau weinidog, y rhai a arosasant yn y capel gyda'r blaid a ystyrid yn Arminaidd, sef John Williams a David Williams. Bu farw John Williams, Chwefror 7fed, 1742, ond yr oedd David Williams yn parhau yn weinidog yma hyd 1758, ac o bosibl rai blynyddau ar ol hyny. Aeth yr achos yn wan iawn yma wedi sefydliad yr eglwys yn Mhentretygwyn, a dywedir i'r Bedyddwyr fod yn addoli yn yr hen gapel am dymor, ond mae yn debygol mai cydaddoli yr oeddynt a'r ychydig Annibynwyr oedd yn aros yno. Yr ydym yn barnu mai Awst 19eg, 1772, y cymerodd yr undeb le yn weithredol. Cynaliwyd ar y dydd hwnw gyfarfod gweinidogion yn Nghefnarthen, pryd y pregethodd Mr. Owen Davies, Crofftycyff, a Mr. Simon Williams, Tredwstan. Un o ddiaconiaid Pentretygwyn oedd yn talu treuliau y gweinidogion. Bu farw Mr. Morgan Jones yn 1780, er mawr golled i'r eglwys a'r ardal. Wedi marwolaeth Mr. Jones buwyd heb un gweinidog sefydlog am saith mlynedd, ond tymor nodedig o lwyddianus oedd y saith mlynedd hyny. Darfu i un o'r aelodau ysgrifenu cofnodion eglwysig y tymor hwnw, y rhai sydd yn deilwng o'u cyhoeddi. " Mehefin 10fed, 1781, derbyniwdd THOMAS THOMAS, Cerigybwbach, i gymundeb eglwysig." Bu ef wedi hyn yn weinidog rhyfeddol o lwyddianus yma. "Ionawr 20fed, 1782. derbyniwyd i gymundeb eglwysig Rees Price, Cwmclyde ; Thomas John, Ferdre ; Thomas Richard, Werddonfach ; Phillip, mab Phillip Thomas, Maesybwlch; MORGAN, mab Evan Jones, Troedyrhiw, bachgenyn tair-ar-ddeg oed, ac Anne Evan, morwyn Phillip Thomas, Maesybwlch."  Y bachgenyn tair-ar-ddeg oed a drodd allan wedi hyn i fod yr enwog Morgan Jones, Trelech. Awst 28ain, 1785, derbyniwyd EBENEZER JONES, wedi hyny o Bontypool, a phedwar ereill. Yn Medi, 1787, urddwyd Mr. Thomas Thomas, Cerigybwbach, weinidog yma, ac o hyny allan yr ydym yn cael chwech neu saith yn cael eu derbyn bob Sul cymundeb. Mewn canlyniad i lwyddiant rhyfeddol gweinidogaeth Mr. Thomas, adeiladwyd capel Sardis, a ffurfiwyd cangen o'r eglwys yn eglwys Annibynol yno. Hefyd gwnaed darpariaeth effeithiol at gychwyn achos yn nhref Llanymddyfri. Bu Mr. Thomas farw yn 1794, yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Thomas urddwyd Mr. Evan Harries, un o'r aelodau, yn weinidog yma. Yr oedd ef yn un o'r pregethwyr mwyaf galluog a doniol yn Nghymru, a phe buasai ei fuchedd yn cyfateb i'w ddoniau buasai ei enw yn perarogli trwy yr holl Dywysogaeth. Ymddygodd yn weddol addas am ychydig flynyddau wedi ei urddiad, a chasgl-

585

odd beth dirfawr o bobl i'w wrandaw yma ac yn Llanymddyfri, ac i bob man yr elai iddo. Mae yn debygol i'r eglwys hon, ac eglwysi y wlad yn gyffredinol, gydymddwyn âg ef yn hwy nag y dylasent wneyd oherwydd ei boblogrwydd anghyffredin, ond erbyn y flwyddyn 1805 yr oedd wedi myned mor llygredig ei fuchedd fel y bu raid i bobl ei ofal ymwrthod âg ef yn hollol ac am byth. Yn nechreu y flwyddyn 1807 rhoddwyd galwad i Mr. Jenkin Morgan, aelod o'r eglwys yn Esgairdawe, ac urddwyd ef yma Ebrill 16eg y flwyddyn hono. Parhaodd i lafurio yma gyda diwydrwydd, parch, a llwyddiant hyd ei farwolaeth yn 1833. Wedi marwolaeth Mr. Morgan buwyd dros ddwy flynedd cyn dewis canlyniedydd iddo. Yn nechreu y flwyddyn 1837 rhoddwyd galwad i Mr. Edward Jones, un o'r aelodau, ac urddwyd ef yma Mai 4ydd yn y flwyddyn hono. Cyn gynted ag yr ymsefydlodd yma ymroddodd i'w waith a'i holl egni, dan ystyriaeth ddifrifol o'i gyfrifoldeb i'w Dduw a gwerth yr eneidiau a roddesid dan ei ofal. Ymroddodd i fyfyrio, i gynllunio mesurau er adfywiad yr achos, ac i osod y cynlluniau hyny mewn gweithrediad. Wedi llafurio yn galed, gweddio yn daer, a disgwyl yn ddyfal am lwyddiant heb weled ond ychydig, yn y flwyddyn 1840 cafodd yr hyn a ddymunai. Torodd allan ddiwygiad nerthol yn yr eglwysi dan ei ofal, ac ychwanegwyd atynt mewn yspaid blwyddyn a haner ddau cant a haner o bersonau. Bu y llafur dirfawr a'r cyffroad mawr yn y diwygiad hwn yn ormod i gyfansoddiad eiddil Mr. Jones. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, ac wedi dihoeni am rai misoedd bu farw yn Rhagfyr, 1841. Colled dirfawr i'r eglwys a'r ardal oedd colli gweinidog o'i ymroddiad, ei dalent, a'i dduwioldeb ef. Ar y 5ed a'r 6ed o Orphenaf, 1843, urddwyd Mr. William Jones, o Athrofa y Neuaddlwyd, yma, ac efe sydd wedi bod yn weinidog yma hyd yn bresenol. Nid ydym yn gwybod am ddim neillduol sydd yn galw am ei gofnodi yn hanes yr eglwys hon yn y deng-mlynedd-ar-hugain diweddaf. Mae heddwch eglwysig wedi cael ei gadw yma, ac ugeiniau o bryd i bryd wedi cael eu derbyn i,r eglwys. Ail-adeiladwyd capel y Pentre ychydig dros ddeng mlynedd-ar-hugain yn ol, a chapel Cefnarthen rai blynyddau wedi hyny. Maent yn addoldai cedyrn a gwasanaethgar, a chynnulleidfaoedd lluosog yn ymgynnull iddynt.

Cafodd llawer iawn o bregethwyr eu cyfodi yn yr eglwys henafol hon o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol. Yr ydym ni wedi dyfod o hyd i enwau y rhai canlynol, and y mae yn ddiameu fod llawer eraill wedi cyfodi yma nas gallasom ni gael eu henwau.

  • Rees Prydderch. Rhoddir ei hanes ef yn mysg y gweinidogion.
  • Rees Prydderch. Mae yn debyg mai nai i Mr. Rees Prydderch, Ystradwallter, oedd ef. Gweler hanes Capel y Drindod, Caerdydd.
  • William Williams. Yn nglyn â hanes Tredwstan, lle y bu yn weinidog, y rhoddir ei hanes ef.
  • Owen Rees. Rhoddir ei hanes ef yn mysg y gweinidogion.
  • John Williams a David Williams, y maent hwythau i fod yn mysg y gweinidogion.
  • William Jenkins. Urddwyd ef yma Mawrth 11eg, 1742, i fod yn weinidog yn agos i Drehir, yn sir Henffordd. Symudodd oddiyno i Ludlow, lle y bu farw yn y pulpud. Yr oedd  yn ddyn da ac yn wr cyfoethog. Yn ddiweddar darfu i Mr. William Rees, o'r Ton, Llanymddyfri, un o'i

586  

  • .......................hiliogaeth, osod cofgolofn o farmor iddo yn nghapel yr Annibynwyr yn Ludlow.
  • John Williams. Bu ef yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys am lawer o flynyddau yn y ganrif ddiweddaf. Nid ydym yn gwybod pa bryd y bu farw.
  • Peter Jenkins. Derbyniwyd ef yma yn 1773. Gweler ei hanes yn nglyn a'r Brychgoed, lle y bu yn weinidog.
  • Rees Jones. Cymeradwywyd ef gan yr eglwys i fyned i Athrofa Croesoswallt, a derbyniwyd ef yno yn amser Nadolig, 1782. Nid ydym ni yn gwybod rhagor o'i hanes.
  • Thomas Thomas. Gweler hanes y gweinidogion.
  • Evan Harries. Nid rhaid i ni grybwyll ychwaneg am dano ef.
  • Morgan Jones. Gweler hanes Trelech.
  • Ebenezer Jones. Gweler hanes Ebenezer, Pontypool.
  • Rees Powell. Gweler hanes Cross Inn.
  • James Rees. Yr oedd ef yn bregethwr yma o 1792 hyd 1800. Nis gwyddom ychwaneg o'i hanes.
  • Evan Price, Cerigybwbach. Derbyniwyd ef yn aelod gan Mr. Jenkin Morgan yn 1807. Bu yn bregethwr cynorthwyol derbyniol iawn am rai blynyddau. Yr oedd hefyd yn ysgolfeistr rhagorol. Bu Mr. Powell, Caerdydd, pan yn bregethwr ieuangc, am yspaid yn ei ysgol. Bu farw Ebrill 20fed, 1818, yn 38 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Cefnarthen.
  • Jonathan Davies. Ganwyd ef yn y Caerllwyn, yn mhlwyf Llywel, yn y flwyddyn 1796. Pan yn un-ar-hugain oed derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mhentretygwyn. Dechreuodd bregethu yn mhen dwy flynedd wedi ei dderbyn yn aelod. Bu am ychydig amser yn Athrofa y Neuaddlwyd. Yn 1826 priododd ferch Mr. Jenkin Morgan, ei weinidog, a bu farw Mawrth 12fed, 1831, yn 35 oed. Claddwyd ef yn mynwent Cefnarthen. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy iawn. Merch iddo ef yw gwraig Mr. Jones, gweinidog presenol yr eglwys hon.
  • John Griffiths. Urddwyd ef yn Nhrefgarn yn 1845. Bu wedi hyny am rai blynyddau yn weinidog defnyddiol iawn yn Llanymddyfri. Mae yn bresenol yn St. Florence, sir Benfro. Y mae efe yn orwyr i'r bardd enwog W. Williams, Pantycelyn, ac efe yw perchenog presenol Pantycelyn, hen etifeddiaeth ei hendaid.
  • John Griffiths, Llanwrtyd. Rhoddir ei fywgraphiad ef yn nglyn â'r eglwys hono.
  • David Davies. Urddwyd ef yn Onllwyn, ychydig flynyddau yn ol. Y mae yn awr yn cadw ysgol yn Mryncaws, gerllaw Castellnedd.
  • Jonathan Humphreys. Bu ef yn pregethu am ychydig flynyddau, ond nid oes un cysylltiad rhyngddo a chrefydd er's blynyddau bellach.
  • Jenkin Morgan Prydderch. Gweinidog y Wern a Phenycae, sir Aberteifi. Y mae efe yn fab i ferch Mr. Jenkin Morgan, hen weinidog yr eglwys hon, a thrwy ei dad y mae yn disgyn oddiwrth hen deulu urddasol Rees Prydderch, Ystradwallter, ail weinidog yr eglwys hon.
  • Evan Price. Y mae efe yn awr yn byw yn Llanon, gerllaw Llanelli.

Mae llawer o leygwyr nodedig am eu rhagoriaethau crefyddol wedi bod yn perthyn i'r achos hwn o oes i oes, ond ni oddefai ein terfynau i ni roddi hanes nemawr o honynt pe byddai genym ddefnyddiau at hyny ; ond y mae yn eu plith ddau nas gallwn lai na chrybwyll eu henwau, sef Morgan Williams a Morgan Davies. Yr oedd Morgan Williams yn byw yn Nhyn-

587

ycoed, Rhandirisaf, ac yn dirfeddianwr lled fawn. Yr oedd ei rieni yn aelodau o'r eglwys hon er dyddiau Mr. Rees Prydderch. Brawd iddo ef oedd Mr. William Williams, gweinidog Tredwstan. Yr oedd Morgan Williams yn ysgolhaig campus; yr oedd yn feistr ar y Lladinaeg a'r Saesonaeg. Gadawodd ar ei ol ddyddiadur ysgrifenedig yn cynwys lluaws o gofnodion pwysig gyda golwg ar hanes yr achos hwn. I'w ysgrifeniadau ef yr ydym ni yn ddyledus am y rhan fwyaf o'r ffeithiau a gynwysir yn yr hanes blaenorol. Efe yn benaf oedd yn arolygu adeiladaeth capel Pentretygwyn yn 1749, ac yr oedd yn un o brif golofnau yr achos yno. Bu farw tua y flwyddyn 1759. Mae enw Morgan Davies hefyd yn deilwng o gael ei gadw mewn cof. Pe na wnelsai unrhyw wasanaeth yn ei oes ond cynorthwyo yr enwog Morgan Jones, Trelech, pan yn fachgenyn tlawd, i ddyfod yn ddyn cyhoeddus, dylai ei enw gael ei gadw mewn coffadwriaeth byth. Yn rhyw fodd daeth dydd-lyfr Morgan Williams i feddiant Morgan Davies, ac ysgrifenodd yntau gofnodion gwerthfawr ynddo o 1762 hyd 1794. Nid ydym yn gwybod amser marwolaeth y gwr da hwn.

Yr oedd yr eglwys hon yn eang iawn ei therfynau gynt. Yr oedd ei haelodau yn wasgaredig ar hyd plwyfydd Llanfairarybryn, Llandingat, Myddfai, Cilycwm, Llywel, a Llandilo-o'r-fan. Yr oedd y gynnulleidfa yma yn 1715 yn 250 o rif, ac yn cynwys ugain o dirfeddianwyr. Byddid, er mwyn cyfleustra yr aelodau gwasgaredig, yn fynych yn y ganrif ddiweddaf yn cynal cyfarfodydd cymundeb yn Mwlchygymanfa, yn mhlwyf Cilycwm, ac yn Mwlchygarnddu. Yn awr, wedi adeiladu capeli a sefydlu cynnulleidfaoedd yn Sardis, Myddfai, Llanymddyfri, Cilycwm, Bethel, Trecastell, a Chwmwysg, y mae maes yr hen fam-eglwys lawer yn gyfyngach, ond y mae yn faes lled eang eto, a'r achos yn parhau yn gryf, ac i ddal ei afael yn yr ardalwyr.

Mae mynwentydd henafol wrth y capeli yn Nghefnarthen a Phentretygwyn. Yn mynwent Cefnarthen y gorphwysa gweddillion marwol Peter Jenkins, o'r Brychgoed; Jenkin Morgan a Jonathan Davies, Pentretygwyn; ac Evan Price, Cerigybwbach ; ac yn mynwent y Pentre y gorphwysa llwch Thomas Thomas ac Edward Jones, gynt gweinidogion y lle ; Rees Jones, Ffaldybrenin (tad Mr. Kilsby Jones); a Davies, Rees, ac Edwards, gweinidogion Salem, Llanymddyfri.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

REES PRYDDERCH. Ganwyd y gwr enwog hwn, mae yn dra sicr, yn agos i Lanymddyfri. Yn Ystradwallter, gerllaw y dref hono, y bu yn cyfaneddu am flynyddau lawer. Efe, mae yn debygol, oedd meddianydd y lle hwnw, ac amryw dyddynod eraill yn yr ardal. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Nid oedd yn dal bywioliaeth eglwysig yn 1662, pan y daeth Deddf Unffurfiaeth i rym, os ydoedd wedi dechreu pregethu y pryd hwnw, ond cafodd ddyoddef yn uniongyrchol oddiwrth y gyfraith greulon hono fel ysgolfeistr os na chafodd ddyoddef fel pregethwr. Yr ydym yn barnu mai ryw amser rhwng 1662 a 1670 y dechreuodd ef bregethu. Yn 1675 yr oedd wedi cael galwad i fod yn weinidog i'r Ymneillduwyr erlidiedig yn ardal Cefnarthen, ond oherwydd enbydrwydd yr amseroedd ni chafodd ei urddo yn gyhoeddus cyn 1688. O'r pryd y dechreuodd breg-

588

ethu hyd ei farwolaeth bu yn rhyfeddol o lafurus, nid yn unig yn mysg ei gynnulleidfa ei hun, ond ymwelai yn fynych â'r holl gynnulleidfaoedd trwy sir Frycheiniog a'r rhanau uchaf o sir Gaerfyrddin. Ar ol bywyd o lafur dibaid fel ysgolfeistr a phregethwr bu farw yn yr Arglwydd yn ei dý hun yn Ystradwallter, Ionawr 25ain, 1699. Nid ydym yn gwybod ei oed pan y bu farw, ond y mae yn rhaid ei fod mewn bwth o oedran, oblegid yr oedd ganddo blant yn 1662 os nad cyn hyny. Bu farw ei fab, Daniel Prydderch, yn Maesybwlch, Mehefin 25ain, 1756, yn 94 oed. Yr oedd Mr. Prydderch wedi pregethu yn ei dý ei hun ar y dydd y bu farw. Ar ddiwedd yr oedfa ceisiodd gan un o'r gwrandawyr ei gynorthwyo i fyned i'r llofft i'w lyfrgell, lle hefyd yr oedd ei wely, a chyn gynted ag y gorweddodd ar y gwely bu farw. Cafodd ei eni, ei urddo, a bu farw ar ddydd Gwyl Paul, sef Ionawr 25ain.

Bu Mr. Prydderch yn cadw ysgol enwog am fwy na deugain mlynedd, ac yn ei ysgol ef y derbyniodd y rhan fwyaf o bregethwyr Ymneillduol yr haner cyntaf o'r ddeunawfed ganrif, ran, os nad yr oll, o,u haddysg. Un o'i ysgolheigion ef oedd Mr. William Evans, athraw cyntaf Athrofa Caerfyrddin. Yn mhen ychydig flynyddau wedi ei farwolaeth cyhoeddodd Mr. Evans lyfr gwerthfawr a adawsid yn barod i'r wasg gan ei Hen athraw, dan yr enw " Gemau Doethineb." Mae hwn yn un o'r llyfrau goreu yn yr iaith Gymraeg. Mae llawer o hiliogaeth Mr. Prydderch o oes i oes wedi glynu gydag Ymneillduaeth, er fod amryw o'r rhai cyfoethocaf o honynt wedi encilio i'r Eglwys Sefydledig.

ROGER WILLIAMS. Nid oes genym ddim i'w ychwanegu am dano ef at yr hyn a roddasom yn nglyn a hanes yr Ynysgau, Merthyr, ond yn unig mai merch iddo ef oedd gwraig Mr. William Jenkins, Ludlow, ac felly ei fod ef yn gyndad i'r Reesiaid o'r Ton, Llanymddyfri.

JOHN WILLIAMS. Yr ydym yn barnu ei fod ef yn berthynas agos i Mr. Roger Williams, os nad oedd yn fab iddo. Mae y cwbl o'i hanes sydd yn hysbys i ni yn gynwysedig yn y difyniad canlynol o law-ysgrifau Morgan Williams;- "Y Parchedig Mr. John Williams, o Sclydach, yn mhlwyf Llywel, aelod a gweinidog gynt gyda ni yn Nghefnarthen, a fu. farw Chwefror 7fed, 1742, yn 42 oed, oedd yn nodedig am ei amynedd a'i add- fwynder. Yr oedd yn feddyg medrus iawn. Dyn nodedig o ddefnyddiol yn ei deulu a'r gymydogaeth ydoedd, ac yr oedd galar mawr are i ol, nid yn unig gan ei berthynasau, ond gan bawb a'i hadwaenai. Ni bu ei wraig Anne fyw ond ychydig wythnosau ar ei ol. Bu iddynt dri o blant, Rachel, Harry, a Roger."

DAVID WILLIAMS. Dywedir yn llyfr eglwys y Cilgwyn, yn llaw-ysgrifen Mr. Phillip Pugh, iddo ef gael ei urddo yn Nghefnarthen yn Mehefin, 1731 ; ac yn llyfr eglwys y Brynteg, Morganwg, yr ydym yn cael ei fod yn weinidog yma yn 1758. Nid yw Morgan Williams yn crybwyll ei enw dros ddwy neu dair gwaith yn ei law-ysgrifau. Nid oes genym ni ychwaneg o hanes i'w roddi am dano.

OWEN REES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1715, yn rhywle yn yr ardal hon fel y tybiwn ni. Derbyniodd ei addysg yn ysgol Mr. Samuel Jones, yn Mhentwyn, Llanon, sir Gaerfyrddin. Yr oedd ef o fewn ychydig i orphen ei amser yno pan yr aeth Mr. Thomas Morgan, o Henllan, i'r ysgol hono Urddwyd ef yma, fel y nodasom, Mawrth 11eg, 1742. Er fod achos wedi ei osod i fyny yn Nglynypentan er Gorphenaf, 1740, yr ydym yn cael lle i ddeall nad oedd ysgariaeth hollol wedi cymeryd lle rhwng y

Translation by Maureen Saycell (March 2009)

Both of these chapels are in the parish of Llanfairarybryn, near Llandovery. They are one church and as such are nigh impossible to give the history of them separately. This is one of the oldest causes in the principality. The first disciples here were won through the ministry of Mr Jenkin Jones, Llandetty. He was preaching before the outbreak of war in 1642 between the King and parliament, but we do not know whether it was before or after the war that the cause was established here. All the nonconformists in Breconshire were considered to be one church and their primary meeting place was at Llanigon, near Gelli. There were branches meeting in several places in Breconshire, Merthyr Tydfil, Glamorgan, Llanfairarybryn and Carmarthenshire. Soon after Charles II was reinstated Mr Jones and many members were captured and sent to prison in Carmarthen in May 1660, they remained in prison for one month. It was only Llanfairarybryn that belonged to Mr Jones' church it appears that it was the members from here that were imprisoned with him. This small congregation were scattered and defeated  by persecution after 1660, but somewhere before 1675 this small congregation had re-grouped and chose Mr Rees Prytherch as their minister,* but could not be publicly ordained until 1688. For a time this congregation worshipped in a cave known as Craigyrwyddon or Craig y Derwyddon, which is close to Cefnarthen Chapel and still visible. Many inspirational sermons and prayers were given in that cave. The first chapel at Cefnarthen was constructed in 1689, as soon as the Act of Tolerance was instituted. Mr Rees Prytherch served here until his death in 1699, shortly before his death Mr Roger Williams had been ordained to support him.

Mr Williams took Arminian views before his death in May 1730 having been here and Merthyr Tydfil for 32 years. We have no detail of his time as minister here. It appears that the cause was strong during that time, but then 3 ministers in short succession - David Williams, ordained June1731, John Williams offering communion on October 31st, 1731, Then in October 1732,  we have Mr David Thomas as minister here and he remained here  until December 2nd, 1739 when he gave his final sermon from 2 Cor. viii 19. We believe the first 2 were sons of Mr Roger Williams and Arminian then Mr Thomas chosen by the Calvinists, this seems to be confirmed by the church splitting soon after his departure. Mr Thomas later went to Llanedi and was known as Mr Thomas, Ffosyrefail. The Arminians kept their hold on the chapel, the Calvinists worshipped at a place named Glynypentan. The latter was licensed to preach in on July 10th, 1740 and the first communions celebrated by Mr Edmund Jones, Pontypool on August 10th, 1740, 4 were confirmed and one accepted by letter from Llanwrtyd. This first time 36 took communion, another 7 next time and the increase continued. It appears that Mr Edmund Jones was involved in the separation here as he preached on the right to choose at Cefnarthen on the first of January 1740, 7 months prior to the separation. Among those that left the chapel for Glynpentan were Mr. John Williams, Cefnycoed, and his wife Dorothy, parents of the hymn writer W. Williams, Pantycelyn. Mr. John Williams died April 1st, 1742, age 86. He was one of the governing elders at Cefnarthen for many years.

After settling at Glynypentan they chose Mr Owen Rees as a minister, originally a member of Glynarthen, ordained on March 11th, 1742. Messrs Phillip Pugh; John Harries, Capel Isaac; Thomas Morgan, Llanwrtyd, officiated. The same time another member of this church was ordained to minister in the Welsh chapel at Cwmiau, Herefordshire. Mr Rees successful here for 14 years. After 9 years at Glynypentan the Williams family donated some land at Pantycelyn to build Pentretygwyn chapel in 1749. Mr Rees left for Aberdare in 1756/7. Soon after a call was sent to Mt Milbourn Bloom who was here until 1766, he was very supportive of Mr Griffith Jones, Llanddowror with his day schools. After he left the church was dependent on occasional preaching for 2 years, On February 14th, 1768 Mr John Davies, member at Pencadair, preached here in the morning, Llandovery in the evening and here again on the Tuesday evening when it was agreed to give him a call. July 18th he was accepted as a member here and ordained on August 3rd and 4th he was ordained. The following took part Messrs  Thomas Lewis, Glyntawe; Milbourn Bloom ; Isaac Price, Llanwrtyd ; John Tibbot, Esgairdawe; Thomas Davies, Pantteg ; Dr. Benjamin Davies, Abergavenny ; and Morgan Jones, later of Pentretygwyn. Mr Davies was here for 3 years, moving to Cwmllynfell and Alltwen. There was no delay in calling Mr Morgan Jones, Tygwyn, he lived in the area. He was very successful here for 9 years, and succeeded in reuniting the congregations, they remain so to this day.

There is little known of Cefnarthen in the intervening time, the cause appears to have become weak, it is also said the Baptists had used the chapel at some point, probably worshipping along with the few  members left. We believe the actual unifying took place on August 19th, 1772 as there was a meeting of ministers at Cefnarthen that day when sermons were given by Mr Owen Davies, Crofftycyff and Mr Simon Williams, Tredwstan. The ministers' expenses were underwritten by a deacon from Pentretygwyn. Mr Morgan Jones died in 1780, a great loss to the church and community. For the next 7 years there was no settled minister but nevertheless it was a successful period. One of the members wrote an account of the church during that time which deserve to be published. " June 10th, 1781, THOMAS THOMAS, Cerigybwbach,was confirmed to communion." Later a successful minister here. " January 20th, 1782, Rees Price, Cwmclyde,confirmed here; Thomas John, Ferdre ; Thomas Richard, Werddonfach ; Phillip, son of Phillip Thomas, Maesybwlch; MORGAN, son of Evan Jones, Troedyrhiw, a 13 year old lad, and Anne Evan, maid with Phillip Thomas, Maesybwlch. The 13 year old was later the famous Morgan Jones, Trelech. August 28th, 1785, EBENEZER JONES, later Pontypool, and 4 others confirmed. September,1787, Mr. Thomas Thomas, Cerigybwbach, was ordained here, and from then on 6 or 7 were confirmed every communion Sunday. Following  Mr. Thomas successful ministry, Sardis chapel was built, and an Independent branch was formed there. Also the foundations for a cause in Llandovery were laid. Mr. Thomas died in 1794, soon afterwards one of the members, Mr Evan Harries was ordained. He is an able and amusing preacher but his behaviour did not match up. He behaved for a few years and many came to listen to him here and at Llandovery, and elsewhere. His behaviour was tolerated longer than it should have because of his popularity but by 1805 tolerance stopped and he was removed. Early in 1807 a call was sent to Mr Jenkin Morgan, a member of Esgairdawe, who was ordained here April 16th that year. He worked here with great respect and success until his death in 1833. After his death it was 2 years before they decided on his successor, in 1837 a call was given to Mr Edward Jones, a member here, and was ordained here on the 4th of May. He set about his duty to his God and his congregation with enthusiasm, spent time working on strategies to revive the cause but with little success. In 1840 he got his wish when a very strong revival worked through the churches in his care and within 18 months 250 people were added to the congregations. The whole experience proved too much for his weak constitution, he contracted tuberculosis and died in December 1841. On July 5th and 6th Mr William Jones, student at Neuaddlwyd, was ordained here and continues today. The last 30 years at the church have been peaceful and uneventful with new members coming in. Pentre chapel was rebuilt 30 years ago and Cefnarthen some years afterwards.

Many were raised to preach at this old church, this is a list of some of them :

  • REES PRYTHERCH - See ministers.
  • REES PRYTHERCH - nephew of Mr Rees Prydderch, Ystradwallter, see Trinity Chapel, Cardiff.
  • WILLIWM WILLIAMS -see Tredwstan.
  • OWEN REES - See ministers.
  • JOHN WILLIAMS and DAVID WILLIAMS -See ministers.
  • WILLIAM JENKINS - ordained here March 11th, 1742, as minister for Drehir, Herefordshire. moved to Ludlow, where he died in the pulpit.
  • JOHN WILLIAMS - was an useful supporting minister here.
  • PETER JENKINS - confirmed here 1773. See Brychgoed, where he was minister.
  • REES JONES - recommended by the church for Oswestry College, accepted Christmas, 1782.
  • THOMAS THOMAS -  See ministers.
  • EVAN HARRIES - See ministers.
  • MORGAN JONES -  see Trelech.
  • EBENEZER JONES - see Ebenezer, Pontypool.
  • REES POWELL - see Cross Inn.
  • JAMES REES - minister here 1792 to 1800.
  • EVAN PRICE - Cerigybwbach. Confirmed by Mr. Jenkin Morgan, 1807. Was a good supporting minister and schoolmaster,died April 20th, 1818, age 38, buried Cefnarthen.
  • JONATHAN DAVIES - born Caerllwyn, 1796. Confirmed age 21 Pentretygwyn.Neuaddlwyd for a while, married 1826, died March 12th, 1831, age 35. Buried Cefnarthen.  
  • JOHN GRIFFITHS - Ordained Trefgarn 1845. At Llandovery for a while. Now at St. Florence, Pembrokeshire. Great grandson of  W. Williams, Pantycelyn, current owmer of Pantycelyn.
  • JOHN GRIFFITHS - see Llanwrtyd.
  • DAVID DAVIES - ordained Onllwyn. Now keeping School at Bryncaws, near Newport.
  • JONATHAN HUMPHREYS - preached for a few years, no longer involved in religion.
  • JENKIN MORGAN PRYTHERCH - minister at Wern and Penycae, Cardiganshire.
  • EVAN PRICE - now living at Llanon, near Llanelli.

There have been many outstanding laymen here but can only mention a few:

  • Morgan Williams, Tyncoed, Rhandirisaf - the diary he left has given us much of this history.
  • Morgan Davies - he added to the above diary from 1762 to 1794.

This was a church with vast geographical area including Llanfairarybryn, Llandingat, Myddfai, Cilycwm, Llywel, and Llandilo-o'r-fan.The congregation numbered 250 in 1715, including 20 landowners. Communion was held at  Bwlchygymanfa, Cilycwm, and Bwlchygarnddu for the comvenience of members. Now with chapels in Sardis, Myddfai, Llanymddyfri, Cilycwm, Bethel, Trecastell, and Cwmwysg the area is reduced for the mother church but the cause is still strong.

There are old cemeteries with both chapels, buried at Cefnarthen are the remains of Peter Jenkins, Brychgoed; Jenkin Morgan a Jonathan Davies, Pentretygwyn; and Evan Price, Cerigybwbach and at Pentre Thomas Thomas and Edward Jones, past ministers here; Rees Jones, Ffaldybrenin (father of Mr. Kilsby Jones); and Davies, Rees, and Edwards, ministers of Salem, Llandovery.

BIOGRAPHICAL NOTES**

REES PRYTHERCH - born Ystradwallter, near Llandovery - called 1675 to minister to the persecuted Independents around Carmarthen, ordained publicly 1688 - after a busy life as schoolmaster and minister he died at home in Ystradwallter January 25th, 1699

ROGER WILLIAMS - history with Ynysgau, Merthyr.

JOHN WILLIAMS - possibly the son of the above - from notes by Morgan Williams he died February 7th, 1742, age 42 - an able medical man - wife Ann died soon after him - children Rachel, Harry and Roger.

DAVID WILLIAMS - according to Cilgwyn's books ordained Cefnarthen June 1731 - minister at Brynteg, Glamorgan 1758.

OWEN REES - born 1715 - educated Mr Samuel Jones school, Pentwyn, Llanon, Carmarthenshire - ordained here March 11th, 1742 - went with the split to Glynpentan - to Aberdare in 1756, Heolyfelin Unitarian now - there until his death  March 14th, 1768 - buried Aberdare Parish Church outside the chancel wall - Son Josiah minister of Gellionnen, born October 2nd, 1744, Unitarian when he died.

MORGAN JONES - born 1717, owner of Tygwyn - ordained before settling here - 1771 at Alltwen - died April 1st, 1780, age 63 - buried Llanfairarybryn - only daughter married minister who sold her inheritance and left her in extreme poverty.

THOMAS THOMAS - born October 3rd, 1756 in Cwmyronnen, Llanfairarybryn - inherited Cerigybwbach, lived there the remainder of his life comfortably - confirmed Pentretygwyn June 10th,1781 - ordained there in September 1787 - contracted Tuberculosis, died October 27th, 1794, age 38 - buried Pentretygwyn within the chapel.

JENKIN MORGAN - born February 24th, 1762, Llanddewiaberarth, Cardiganshire - apprenticed as a weaver, and worked for many years - moved to Esgairdawe, married and was confirmed  around 23 to 24 years of age - preached occasionally for 10 years - ordained here April 16th, 1807 -  Messrs D. Williams, Llanwrtyd ; D. Morgan, Esgairdawe ; D. Davies, Sardis ; D. Powell, Caebach ; D. Evans, Rhayader ; J. Jones, Rhydybont ; and  P. Jenkins, Brychgoed, officiated - died November 13th, 1833, age 72 - buried Cefnarthen.

EDWARD JONES - born February 26th, 1811 Blaenyglyn, Cefnarthen - Sunday School education - apprentice shoemaker - 1829 revival was strong in the area, eventually became a member after long consideration - 1830 moved to Tredegar, joined Saron - saved 10/- a week while there  - returned to his home area and in 1831 began preaching - 1833 went to Rhydybont school and was successful with English, Latin and Greek - ran out of money  and left school - kept school in Esgairdawe for a year - called by his mother church in 1837, ordained in May - Bethel joined Cefnarthen and Pentre in this call, all 3 remained in his care until he died - enthusiastic and industrious in his ministry - understood the order of nature and the order belief and used them in his sermons - he was a popular preacher on temperance etc. - despite his work the result was not visible for the first 3 years - 1840 went to Tabernacl, Liverpool for a month which was in the grip of a strong revival - returned and soon fired his congregations with the spirit by 1840 the area was full of the revival fire - 250 were added to his churches - preached 140 times in the first half of 1841 - he neglected himself and contracted tuberculosis - died December 15th, 1841 - buried Pentretygwyn

* Broad Mead Records, page 512.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

CONTINUED