GENUKI Home page

Carmarthenshire Carmarthenshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

Carmarthenshire section (Vol 3)

 

  Pages  589 - 599

 

See main project page

Proof read by Yvonne John (April 2008)

Chapels below;

  • (Continued) CEFNARTHEN A PHENTRETYGWYN (Llanfairarybryn parish)
  •  LLANYMDDYFRI (Llandingad parish) (with translation)
  • BETHEL (Llanfairarybryn parish)  (with translation)
  • CILCWM  (with translation)

 


Pages 589 - 599

589

(Continued) CEFNARTHEN A PHENTRETYGWYN (Llanfairarybryn parish)

 bobl yno a phobl Cefnarthen cyn diwedd y flwyddyn 1742, oblegid yr ydym yn cael, yn llaw-ysgrifau Morgan Williams, i'r casgliad cyntaf at weinidogaeth Mr. Rees gael ei wneyd yn Nghefnarthen, Mehefin 13eg, 1742. Nid ymddengys i Mr. Rees fod yno nemawr ar ol hyny. Cylyngodd ei lafur o hyny allan tra y bu yn yr ardal hon i Glynypentan. Tua y flwyddyn 1756 symudodd i Aberdar i fod yn weinidog y capel sydd yn bresenol yn meddiant yr Undodiaid, ar Heolyfelin. Yno y bu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth 14eg, 1768. Claddwyd ef y tuallan i fur y gangell wrth Eglwys plwyf Aberdar. Mab iddo ef oedd Mr. Josiah Rees, yr hwn a fu am yn agos ddeugain mlynedd yn weinidog yn Gellionen. Ganwyd ei fab Josiah, Hydref 2il, 1744, a bedyddiwyd ef y nawfed o'r un mis gan Mr. Thomas Morgan, Llanwrtyd. Yr oedd Owen Rees yn cael ei gyfrif yn ddyn galluog ac o olygiadau efengylaidd, ond fe aeth ei gynnulleidfa yn Aberdar ar ol ei farwolaeth ef yn Ariaid ac Undodiaid, ac yr oedd ei fab Josiah Rees yn Undodwr cyn ei farw.

MORGAN JONES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1717, ond nis gwyddom yn mha le, ac y mae hanes bore ei oes yn gwbl anhysbys i ni. Gan ei fod yn berchen y Tygwyn yr ydym yn casglu naill ai ei fod yn enedigol o'r ardal hon neu iddo ddyfod i feddiant o'r lle trwy ei briodas. Mae yn amlwg ei fod yn weinidog urddedig cyn iddo ymsefydlu fel gweinidog yn Mhentretygwyn, oblegid yr ydym yn ei gael yn cymeryd rhan yn urddiad Mr. John Davies, ei ragflaenydd yn y weinidogaeth yma, yn Awst, 1768. Pa le y bu yn weinidog cyn ymsefydlu yma yr ydym wedi methu cael allan er pob ymchwil. Yn 1771, ar ymadawiad Mr. Davies i'r Alltwen, dilynwyd ef yn y weinidogaeth yma gan Mr. Jones, a bu yn rhyfeddol o barchus a llwyddianus yma hyd ei farwolaeth. Bu farw Ebrill 1af, 1780, yn 63 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanfairarybryn. Bernir mai efe ddarfu gyhoeddi cyfieithiad diwygiedig o'r llyfr a elwir " Mr Duwinyddiaeth Iachus" yn y flwyddyn 1754. Gadawodd ar ei ol ferch, yr hon oedd ei unig blentyn ac etifeddes y Tygwyn. Ei henw oedd Mary. Derbyniwyd hi yn aelod yn Mhentretygwyn, Mawrth 14eg, 1784. Bu y ferch ieuangc hon mor anffodus a phriodi rhyw bregethwr yr hwn a drodd allan yn gymeriad gwael. Gwerthodd ei hetifeddiaeth hi a symudodd i Beaumaris yn Mon, lle y gwariodd yr eiddo oll ac y gadawodd hi i ddiweddu ei hoes mewn tlodi mawr.

THOMAS THOMAS. Ganwyd ef yn Nghwmyronen, yn mhlwyf Llanfairarybryn, Hydref 3ydd, 1756. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn Mhentretygwyn. Pan yr oedd ef yn bedair blwydd oed bu farw Thomas Jones, ewythr iddo, a gadawodd dyddyn Cerigybwbach yn etifeddiaeth iddo ef. Mewn canlyniad i hyny symudodd ei rieni ac yntau i'r lle hwnw, ac yno y treuliodd ef weddill ei oes mewn amgylchiadau bydol cysurus iawn. Er fod ei rieni yn grefyddol, ac yntau wedi ei fagu mewn ardal nodedig o grefyddol, ni ddarfu iddo ef ymostwng i wneyd proffer gyhoeddus o grefydd nes yr oedd yn agos i bump-ar-hugain oed. Wrth wrando Mr. Davies, o'r Alltwen, yn pregethu yn Nghefnarthen, ar y farn ddiweddaf, gafaelodd y gwirionedd yn effeithiol yn ei feddwl, ac ni chafodd lonydd mwyach nes rhoddi ei hun i'r Arglwydd a'i bobl. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhentretygwyn, Mehefin 10fed, 1781. Mr. Peter Jenkins, o'r Brychgoed, oedd y gweinidog a weinyddai yno y Sabboth hwnw. Yn fuan ar ol ei dderbyn barnodd yr eglwys fod ynddo gymhwysder at y weinidogaeth, ac anogwyd ef i ddechreu pregethu, 'r hyn y cydsyniodd. Yn Medi, 1787,

590

cafodd ei urddo yn weinidog i'w fam-eglwys, a pharhaodd i weinidogaethu iddi gyda llwyddiant anghyffredin hyd derfyn ei oes. Darfu i'w lafur dibaid a'i deithiau mynych trwy wlaw ac oerni effithio ar ei gyfansoddiad fel yr ymaflodd y darfodedigaeth ynddo. Wedi nychu am rai misoedd bu farw yn llawn o orfoledd yr iachawdwriaeth, Hydref 27ain, 1794, yn 38 oed, a chladdwyd ef yn Mhentretygwyn, y tufewn i furiau y capel. Cafodd yr eglwys a'r ardal, a'r enwad Annibynol, golled ddirfawr trwy farwolaeth dyn mor ddefnyddiol yn mlodau ei oes, ond y mae yn sicr i'r amgylchiad fod yn elw tragywyddol iddo ef.

JENKIN MORGAN. Ganwyd y dyn da a ffyddlon hwn yn Llanddewiaberarth, sir Aberteifi, o rieni crefyddol, Chwefror 24ain, 1762. Wedi dyfod i oedran cyfaddas gosododd ei rieni ef i ddysgu y gelfyddyd o wu, a bu yn enill ei fywioliaeth wrth yr alwedigaeth hono am flynyddau lawer. Symudodd o'i ardal enedigol i gymydogaeth Esgairdawe pan yr oedd rhwng tair a phedair-ar-hugain oed, ac yno priododd, a derbyniwyd ef yn aelod eglwysig tua yr un amser. Yn mhen deng mlynedd wedi ei dderbyn yn aelod anogwyd ef i ddechreu pregethu, ac wedi bod yn bregethwr cynorthwyol derbyniol yn ei fam-eglwys a'r eglwysi cymydogaethol am ddeng mlynedd, derbyniodd alwad o Bentretygwyn a Chefnarthen, ac urddwyd ef yno Ebrill 16eg, 1807. Gweinyddwyd yn ei urddiad gan y Meistri D. Williams, Llanwrtyd ; D. Morgan, Esgairdawe ; D. Davies, Sardis ; D. Powell, Caebach ; D. Evans, Rhaiadr ; J. Jones, Rhydybont ; a P. Jenkins, Brychgoed. Bu yn llafurus a llwyddianus iawn yma hyd derfyn ei oes. Yn fuan wedi ei sefydliad yma bu ef, mewn cysylltiad Mr. Williams, Llanwrtyd, yn foddion i sefydlu yr achos yn Bethel, ac arno ef yn benaf y bu gofal yr achos hwnw hyd nes ei luddias gan henaint ac angau. Bu farw Tachwedd 13eg, 1833, yn 72 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Cefnarthen.

Er nad oedd Jenkin Morgan yn wr dysgedig nac yn helaeth yn ei ddoniau fel pregethwr, eto darfu iddo trwy ei dduwioldeb amlwg, ei ymroddiad llwyr i wasanaeth ei Arglwydd, a'i synwyr cyffredin cryf wneyd daioni mawr yn ei ddydd, ac ymadawodd a'r byd mewn parch mawr gan fyd ac eglwys.

EDWARD JONES. Ganwyd y gweinidog enwog a rhagorol hwn yn Mlaenyglyn, gerllaw Cefnarthen, Chwefror 26ain, 1811. Efe oedd yr ieuengaf o dri o blant. Ni chafodd ef fawr o fanteision addysg yn ei febyd, oherwydd nad oedd un ysgol ddyddiol yn cael ei chadw yn agos i breswylfod ei rieni, ac nad oeddynt mewn amgylchiadau i'w anfon allan o'r ardal i ysgol. I'r Ysgol Sabbothol y bu ef yn ddyledus am y rhan gyntaf o'i addysg. Yno y dysgodd ddarllen ei Feibl Cymraeg, ac y gweithiwyd ynddo archwaeth at ei gofio a deall ei gynwysiad. Amlygodd er yn blentyn alluoedd tuhwnt i'r cyffredin i ddysgu a chofio yr Ysgrythyrau, ac i sylwi yn graffus ar bob peth a ddeuai dan ei sylw. Yr oedd hefyd yn un o feddwl penderfynol. Yr oedd ei fam a'i frawd, yr hwn oedd rai blynyddau yn hn nag ef, yn aelodau gyda'r Bedyddwyr yn Nghwmdwr, ond methasant er pob ymdrech gael ganddo ef fyned gyda hwynt yno. I Gefnarthen y mynai fyned, ac yno yr aeth. Pan yn bedair-ar-ddeg oed rhwymwyd ef yn egwyddorwas gydag un David Humphreys, i ddysgu bod yn grydd. Tra y bu yno ymroddodd i ddefnyddio pob mynyd o amser a allasai hebgor at ddarllen y Beibl, y cyhoeddiadau misol, a phob llyfr Cymreig y gallasai ddyfod o hyd iddo. Yn y flwyddyn 1829 torodd di-

591

wygiad crefyddol grymus allan yn yr ardal. Aeth lluaws o ieuengctyd ac eraill i'r gyfeillach grefyddol, ond am rai wythnosau wedi i'r diwygiad ddechreu safodd Edward Jones yn ol heb fyned gyda ei gyfoedion i geisio lle yn yr eglwys, am yr ofnai nad oedd yn teimlo yn ddigon dwys. O'r diwedd gorchfygwyd yntau a rhoddodd ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl. Yn lled fuan wedi iddo gael ei dderbyn, wrth ystyried ei ragoriaeth ar y cyffredin mewn gwybodaeth, ei ddoniau rhyfeddol mewn gweddi, a disgleirdeb ei gymeriad, anogwyd ef gan amryw o'r brodyr i ddechreu pregethu. Ond er fod ynddo duedd at hyny gwrthododd gydsynio chais y brodyr y pryd hwnw, oherwydd amryw resymau digonol i'w feddwl ef ei hun. Yn y flwyddyn 1830 aeth i Dredegar i weithio wrth ei alwedigaeth fel crydd. Yno ymunodd 'r eglwys yn Saron, a daeth yn fuan i sylw y gweinidog a'r eglwys, a phe buasai yn aros yno ychydig yn hwy ni chawsai lonydd heb fyned i bregethu. Tra y bu yn Nhredegar bu fyw yn gynil iawn fel y gallasai ystorio ychydig arian i'w alluogi i fyned i'r ysgol. Ystoriodd ddeg swllt yr wythnos tra y bu yno. Wedi bod yno am dymor dychwelodd i'w ardal enedigol i weithio wrth ei alwedigaeth, ac yn y flwyddyn 1831 cydsyniodd chais taer yr eglwys i ddechreu pregethu. Yn y flwyddyn 1833 aeth i'r ysgol i Rydybont, at Mr. Jones, yn awr o Abertawy. Yr oedd W. Williams, Llandilo; J. Stephens, Brychgoed, ac amryw wr ieuaingc eraill yno yn gydfyfyrwyr g ef. Bu yno yn rhyfeddol o lafurus i geisio meistroli y Saesonaeg, y Lladinaeg, y Groeg, ac amryw ganghenau eraill o wybodaeth, a daeth mewn dwy flynedd yn rhagorach ysgolhaig na llawer un ar ol bod ddeng mlynedd yn yr ysgol. Yn nechreu y flwyddyn 1836, gan fod ei arian wedi darfod, bu raid iddo adael yr ysgol. Yna aeth i Ysgairdawe i gadw ysgol ei hun, a bu yno am flwyddyn. Yn nechreu y flwyddyn 1837 rhoddodd ei fam-eglwys alwad iddo, ac urddwyd ef yn mis Mai y flwyddyn hono. Yr oedd Bethel yn uno Chefnarthen a'r Pentre yn yr alwad iddo, a bu y tri lle dan ei ofal tra y bu fyw. Nis gallwn osod allan ei deimladau a'i ymroddiad ar ddechreuad ei weinidogaeth yn well nag yn ngeiriau  gyfaill mynwesol Mr. Williams, Llandilo : - " Ar ol iddo gael galwad gan eglwysi y Pentref, y Cefn, a Bethel, a chael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth, ystyriai ei fod wedi cymeryd arno waith pwysig iawn, ac yr oedd hyn yn aros yn neillduol ar ei feddwl. Gwnai bob ymdrech i gyflawni ei weinidogaeth. Nid oedd yn meddwl pan ddaeth i'r sefyllfa hon ei fod wedi cyrhaedd 'stol i eistedd i lawr, ac y gallasai fod yn dawel ac enjoyo mwyach, ar ol ei lafur a'i ludded yn y blynyddoedd o'r blaen; ond ystyriai ei fod wedi dechreu ar waith, a hwnw yn waith anhawdd ei ddwyn yn mlaen, a gwneuthur hyny yn effeithiol. Ystyriai fod ganddo waith mawr i'w wneuthur arno ei hun er bod yn addas weinidog i Iesu Grist. Llafuriai ddydd a nos, a llafuriai in ddibaid er gwneyd ei hunan yn gymhwys i lanw ei gylch. Yr oedd yr amser hwn yn awyddus iawn am gyrhaedd gradd helaeth o wybodaeth gyffredinol am wahanol bethau, ac am amgylchiadau nad oedd yn gwybod i fanyirwydd yn eu cylch o'r blaen. Gwnai ymholiadau synwyrol, a gwrandawai yn astud beth fyddai yr atebion; ac os cai ryw wybodaeth newydd ymddangosai yn foddhaol, a gosodai hyn at ei drysor cyffredin, ac i'r pwrpas hwn darllenai yn ddiflino. Yr oedd arno syched mawr am ddeall trefn natur a threfn gras. Gwyddai mai yr un awdwr oedd i'r ddwy-bod y naill yn ddefnyddiol i egluro y llall- a bod yr un dyben i'r naill a'r llall. Yr oedd yn hawdd deall wrth

592

ei wrandaw yn pregethu ei fod yn hyddysg yn mhob un o'r ddwy. Yr oedd ei wybodaeth o drefn natur at ei law ac yn wasanaethgar iawn iddo pan yn egluro trefn gras." Er cymaint oedd ei syched am wybodaeth a'i lafur i'w chyrhaedd, eto ni oddefodd i hyny yn y mesur lleiaf ei atal i gyflawni yn ffyddlon ac effethiol holl ddyledswyddau ymarferol y weinidogaeth. Ni bu gweinidog erioed yn fwy ymdrechgar i agoryd deall a deffroi cydwybodau pobl ei ofal. Cyn gynted ag yr urddwyd ef daeth i sylw yr holl eglwysi cymydogaethol fel pregethwr o alluoedd yn mhell tuhwnt i'r cyffredin. Gwahoddid ef yn mhell ac agos i gyfarfodydd pregethu, i areithio ar Ddirwest, &c., fel yr oedd cyn pen dwy flynedd ar ol ei urddiad yn un o'r gweinidogion mwyaf adnabyddus ac enwog yn Neheudir Cymru. Er ei holl ragoriaethau fel Cristion duwiolfrydig, gweinidog llafurus, a phregethwr nodedig o alluog, ni chafodd weled ond ychydig o lwyddiant yn yr eglwysi dan ei ofal am y tair blynedd cyntaf o'i weinidogaeth. Parai hyny yn fynych ofid dwys i'w feddwl. Yn nechreu y flwyddyn 1840 aeth am fis i wasanaethu eglwys y Tabernacl, Liverpool. Yr oedd yr eglwys hono y pryd hwnw yn llawn o dn diwygiad. Taniwyd ei ysbryd yntau yn fwy nag erioed. Pan y dychwelodd adref ni fu fawr enyd cyn llwyddo i lenwi pobl ei ofal ag ysbryd y diwygiad, a chyn diwedd y flwyddyn 1840 yr oedd yr holl gymydogaeth yn oddaeth o dn y diwygiad. Ychwanegwyd yn ystod y cyffroad bendithiol hwnw 250 at yr eglwysi dan ei ofal, ond ychwanegodd y cyffroad gymaint at ei lafur yntau fel y gweithiodd fwy nag a allasai ei natur eiddil oddef. Yn y pum'-wythnos-ar-hugain gyntaf o'r flwyddyn 1841 pregethodd 140 o weithiau, sef agos i chwe' phregeth bob wythnos. Yn fynych pregethai mewn anedd-dai bychain nes y buasai yn foddfa o chwys, ac elai felly allan i'r awyr oer. Hyny, yn nghyd chysgu mewn gwely llaith ar un o'i deithiau, a barodd i'r darfodedigaeth ymaflyd ynddo. Gweithiodd ei glefyd yn fuan at eisteddle bywyd. Yn mis Medi, 1841, traddododd ei bregeth olaf oddiar Phil. iii. 21. Parhaodd wedi hyny i ddihoeni hyd Rhagfyr 15fed, 1841, pryd yr ehedodd ei enaid pur o'r babell egwan i fyd yr ysprydoedd. Claddwyd ef yn ol ei gais wrth gapel Pentretygwyn.

Dyn cymharol fychan o gorff oedd Edward Jones. Yr oedd o dymer wylaidd a nodedig o addfwyn a hawddgar. Yr oedd ganddo feddwl galluog, craffus, a threiddgar iawn. Medrai osod ei feddwl allan yn nodedig o eglur, trefnus, a deniadol, ac yr oedd ei lais yn hyglyw a pherseiniol, er nad oedd yn nerthol iawn.

Dichon na fu dau gyfaill erioed yn hoffach o'u gilydd nag Edward Jones a William Williams, Llandilo. Gellid dweyd am danynt mai un enaid mewn dau gorff oedd ganddynt. Ond er hoffed oeddynt o'u gilydd, ac er mor unol a gwresog y cydweithredent ni welsom ni erioed ddau ddyn yn fwy anhebyg y naill i'r llall mewn llawer o bethau. Tymer ryfeddol o fwyn oedd tymer Edward Jones, a'i eiriau bob amser yn dyner a hynaws, tra yr oedd Williams ar y tarawiad cyntaf o dymer naturiol hytrach yn sarug, a'i eiriau yn chwerwon nes y buasid yn dyfod yn ddigon agos ato i'w adnabod trwyddo, yna gwelsid fod cyflawnder o natur dda dan yr edrychiad sarug a'r geiriau chwerwon. Un hynod o ddiofal am ei wisgiad a'i ymddangosiad corfforol oedd Jones. Ni buasai fawr pwys ganddo fyned i'r pulpud a'i wallt heb ei gribo, rhai o fotymau ei wisgoedd yn eisiau, a chlymiad cadach ei wddf ar ochr ei gern yn lle dan ei n. Ond yn ei bregeth yr oedd y cyfansoddiad mor ddigoll o ran ymresymiad fel na

593

buasai meddwl rhesymegol Whateley yn cael un gwall ynddo, ac mor gywir o ran iaith fel nas gallasai clust heirniadol Caledfryn ddal ar un diffyg na cham-eiriad. O'r tu arall, yr oedd Williams o ran ei wisgiad a'i ymddangosiad yn berffaith hardd a thaclus, ond nid yn goegaidd, ond yn ei bregeth yr oedd yn hynod ddiofal am gywirdeb iaith, ac weithiau byddai yn ei eglurhadau yn ymylu ar iselder chwaeth. Yr oedd aflerwch gwisgiad yn ddolur iddo, ond ni ofalai ddim am aflerwch iaith os gallasai yn rhyw fodd gyrhaedd cydwybodau ei wrandawyr. Yr oedd bod yn daclus mewn trwsiad corfforol a bod yn ddiofal am iaith yn naturiol i Williams; a bod yn annyben ei wisgiad, ac yn dlws yn nghyfansoddiad ei bregethau ac yn eu geiriad yn naturiol i Jones. Nid ydym ni yn alluog i gyfrif am hyn, ond dyna y ffaith gyda golwg ar y ddau. Bu y ddau frawd anwyl hyn yn oleuadau mawrion ac amlwg yn ffurfafen Eglwysi Annibynol Deheudir Cymru am ychydig flynyddau, ond gyda fod y miloedd yn dyfod i weled eu gwerth symudwyd hwy i oleuo mewn ffurfafen uwch. Ni bu dau weinidog ieuangc mwy addawol erioed yn Nghymru na'r ddau hyn, a phe cymerid pob peth i ystyriaeth yr oeddent yn agos os nad yn hollol gydbwys. Williams oedd y traddodwr mwyaf nerthol a chynhyrfus, ond Jones oedd y pregethwr mwyaf tlws a chwaethus. Ond pa ddyben yw ceisio eu pwyso a'u mesur ? Cafodd miloedd achos i ddiolch i'r Arglwydd am eu benthyg i'r eglwys ar y ddaear am ychydig amser, a'n dyledswydd ni yw rhyfeddu ac nid beio y drefn a'u symudodd gyda bod perarogledd eu defnyddioldeb yn dechreu ymwasgaru.

  

LLANYMDDYFRI

(Llandingad parish)

Yr oedd amryw o aelodau Cefnarthen a Phentretygwyn yn cyfaneddu yn, ac yn agos i'r dref hon er yr ail-ganrif-ar-bymtheg, ond y mae yn dra sicr fod gormod o ysbryd erledigaethus yn y trigolion i oddef iddynt gynal cyfarfodydd cyhoeddus yma hyd yn mhell wedi i Ddeddf Goddefiad ddyfod i rym. Yr oedd pregethu yma mewn anedd-dai yn fynych ar nos y Sabbothau er y flwyddyn 1768, ac o bosibl rai blynyddau cyn hyny. Ond nid ymddengys i wasanaeth crefyddol cyson gael ei osod i fyny yma cyn y flwyddyn 1792. Tua yr amser hwn darfu i Mr. Daniel Thomas, un o aelodau Pentretygwyn, ac un o hiliogaeth yr hen Annghydffurfwyr, ymsefydlu yn y dref fel masnachydd, a chan ei fod yn grefyddwr selog, a bod ei weinidog, Mr. T. Thomas, Cerigybwbach, o'r un ysbryd, ymgynghorasant a'u gilydd a daethant i'r penderfyniad i ardrethu t yma at gynal moddion crefyddol yn rheolaidd. Cawsant at eu gwasanaeth d hen wraig dduwiol o'r enw Anne Edwards, yr hwn a safai ar y man y mae capel y Methodistiaid Calfinaidd yn sefyll arno yn bresenol. Daeth lluaws yno i wrandaw, a chafwyd pob calondid i fyned 'r gwaith yn mlaen. Wedi marwolaeth Mr. T. Thomas, yn 1794, dewiswyd Mr. Evan Harries yn ganlyniedydd iddo yn y Cefn a'r Pentref. Yr oedd yn enedigol o dref Llanymddyfri, a thra y parhaodd i ymddwyn yn foesol yr oedd yn anarferol o boblogaidd; ond trodd allan yn gyfryw gymeriad na byddai cofnodi ei hanes o fudd i neb. Aeth yr achos yn y dref rhagddo mor obeithiol fel y cymerodd y cyfeillion galon i adeiladu capel yn 1797. Cafwyd tir at ei adeiladu gan D. Davies, Ysw., meddyg, Caerfyrddin. Galwyd y capel yn Salem. Parhawyd i bregethu ynddo bob prydnawn a hwyr Sabboth, ac i

594  

gynal moddion wythnosol ynddo, ond elid i Bentretygwyn bob bore Sabboth hyd y flwyddyn 1805. Ar y 26ain o Gorpbenaf yn y flwyddyn hono cafodd un-ar-hugain o'r aelodau ollyngdod gan y fam-eglwys yn y Pentre, a chorffolwyd hwy yn Eglwys Annibynol yn Salem. Yr oedd pob cysylltiad rhwng Mr. Evan Harries a'r eglwys yn y Pentre a'r Cefn wedi darfod erbyn hyn, ac yn gymaint nad oedd gweinidog gan y fam-eglwys darfu i'r eglwys ieuangc yn Salem roddi ei hun dan ofal Mr. D. Davies, mewn cysylltiad Sardis. Buont dan ei ofal ef hyd ddechreu y flwyddyn 1815. Yr oedd yr aelodau erbyn hyn yn ddeugain o rif, a barnasant y dylasent gael gweinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i Mr. John Jeremy, o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yma Ebrill 20fed, 1815. Bu Mr. Jeremy yn llafurio yma gyda mesur o lwyddiant hyd ddechreu y flwyddyn 1820, pryd y symudodd i ardal Llanbedr, lle yr oedd wedi priodi boneddiges gyfrifol. Wedi ei ymadawiad ef rhoddodd yr eglwys yn Salem ei hun dan ofal Mr. Lewis Powell, mewn cysylltiad Chapel Isaac. Yn ystod y saith mlynedd y bu Mr. Powell yn llafurio yma ychwanegwyd at yr eglwys gant a saith, a lluosogodd y gwrandawyr yn fawr. Yn 1827 rhoddodd Mr. Powell ofal y lle i fyny ar ei symudiad i Gaerdydd. Yn nechreu y flwyddyn 1828 rhoddwyd galwad i Mr. William Davies, Llantrisant. Dechreuodd ef ei weinidogaeth yma ychydig fisoedd cyn i'r diwygiad mawr a ymdaenodd dros holl Ddeheudir Cymru dori allan. Rhwng doniau melus Mr. Davies a'r dylanwadau nerthol a deimlid yn y diwygiad crefyddol bu ychwanegiad dirfawr at rif yr eglwys a'r gynnulleidfa mewn ychydig fisoedd. Aeth y capel yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, ac ymgymerwyd a'r anturiaeth bwysig o adeiladu addoldy eang a chostus. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr Medi 29ain, 1829, gan David Thomas, Ysw., un o'r diaconiaid. Agorwyd y capel Ebrill 27ain, 1830. Traul yr adeiladaeth oedd 1000p. Nid oedd ar y pryd ond pedwar o addoldai yn yr holl sir gan yr Annibynwyr, na chan un enwad arall yn helaethach na hwn, ac nid oedd un yn brydferthach nag ef. Parhaodd Mr. Davies i lafurio yma am yn agos i ddwy-flynedd-ar-bymtheg gyda chymeradwyaeth mawr, a gradd helaeth o lwyddiant. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau yn mis Tachwedd, 1844. Derbyniodd yn ystod ei weinidogaeth 340 o aelodau i'r eglwys. Yn mhen blwyddyn wedi marwolaeth Mr. Davies rhoddwyd galwad i Mr. Edward Rees, Penmain, Mynwy, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn Tachwedd, 1845. Yn fuan wedi ei sefydliad ef yn y lle torodd diwygiad grymus allan, ac ychwanegwyd mewn ychydig fisoedd tua chant at yr eglwys. Wedi bod yma ychydig gydag wyth mis bu farw y gweinidog defnyddiol hwn ar ol ychydig wythnosau o gystudd trwm er mawr alar i'r gynnulleidfa a'r dref yn gyffredinol. Yn y flwyddyn 1848 rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Richard Parry, Conwy. Bu ef yma yn llafurio yn ddiwyd a llwyddianus am ddwy flynedd, ac yna gwnaeth ei feddwl i fyned i ddychwelyd i'r Gogledd. Derbyniodd yn ystod y ddwy flynedd y bu yma gant o aelodau. Ar ei ymadawiad cyflwynwyd iddo gan D. Thomas, Ysw., yn enw yr eglwys, godaid o aur a rhai llyfrau fel arwydd o'u parch iddo fel gweinidog da i Iesu Grist. Gwnaed rhai cyfnewidiadau a gwelliantau yn y capel yn y flwyddyn 1849. Yn mhen dwy flynedd wedi ymadawiad Mr. Parry, rhoddwyd galwad i Mr. Robert Edwards, o Athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef Mehefin 30ain, 1852. Er fod Mr. Edwards yn wr ieuangc galluog ac addawol iawn ni welodd yr Arglwydd yn dda i'r eglwys gael ei wasanaeth ond am ychydig iawn o amser. Bu farw yn Rhagfyr 1854. Enillodd barch cyffredinol yr eglwys a'r gyn-

595

nulleidfa yn ystod y tymor byr y bu yn ymdaith yn eu plith. Wedi marwolaeth Mr. Edwards buwyd rhwng dwy a thair blynedd cyn dewis canlyniedydd iddo. Yn 1857 rhoddwyd galwad i Mr. John Griffiths, Trefgarn. Bu Mr. Griffiths yma yn barchus a dylanwadol am wyth mlynedd. Yn ystod yr amser hwnw, trwy ei lafur dibaid ef, D. Thomas, Ysw., a chynnulleidfa Salem, adeiladwyd capel bychan, ond tlws, o werth 300p., yn Nghilycwm, a bu Mr. Griffiths yn ffyddlon iawn yn gweinidogaethu i'r eglwys fechan yno mewn cysylltiad Salem nes iddo symud i St. Florence, sir Benfro, yn Rhagfyr, 1865. Wedi ymadawiad Mr. Griffiths buwyd yn agos i dair blynedd drachefn heb winidog sfydlog. Yn y flwyddyn 1848 rhoddwyd galwad i Mr. William Jansen Davies, Clarach, sir Aberteifi. Bu ef yma hyd 1870, pryd y symudodd i'r Casnewydd, lle y mae yn bresenol. Yr oedd gweinidogaeth Mr. Davies yn cael ei gwerthfawrogi yn fawr gan yr eglwys a'r gynnulleidfa. Wedi bod eto dair blynedd heb weinidog sefydlog, rhoddwyd galwad i Mr. William Gibbon, Glynnedd, gynt o Gapel Isaac, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma yr ail Sabboth yn Tachwedd, 1873. Yr ydym yn hyderu fod blynyddau lawer o ddefnyddioldeb o'i flaen yma. Mae yr eglwys wedi bod yn lled anffodus trwy golli ei gweinidogion mor fynych. Mr. Gibbon yw yr unfed-ar-ddeg o weinidogion yma er dechreuad yr achos tua phedwar-ugain mlynedd yn ol. Cymered yr holl aelodau at eu hystyriaeth ddifrifolaf a oes ynddynt hwy ddim ag sydd yn peri y symudiadau mynych hyn. Mae Mr. Gibbon yn dechreu ei weinidogaeth yma dan amgylchiadau cysurus iawn. Rhif yr aelodau yw 300, ac y maent oll yn unol a chariadus, a'r yn ddiddyled er fod 600p. wedi eu gosod allan yn ddiweddar i'w adgyweirio a'i brydferthu. Ag ystyried mor lluosog yw yr eglwys hon nid yw nifer y rhai a gyfodwyd yma i bregethu ond ychydig iawn. Cyn belled ag y gallasom ni gael allan y rhai canlynol yn unig a gyfodwyd yma.

Yma hefyd y derbyniwyd John Protheroe, Bulford, Wiltshire ; W. Davies, B.A., Woolton, ger Liverpool ; John L. Jones, Malpas ; a David Davies, yr hwn sydd yn weinidog yn nhalaeth Pensylfania, ond wedi iddynt fyned oddiyma y dechreuodd pob un o honynt bregethn.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

JOHN JEREMY. Ganwyd ef mewn amaethdy a elwir Cwmynys, yn agos i Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1782. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn y Pantteg, a derbyniwyd yntau yn aelod yno pan yn dra ieuangc. Cafodd

596

fanteision addysg rhagorol yn ei febyd, ac wedi iddo ddechreu pregethu aeth i ysgol ramadegol Mr. Peter yn Nghaerfyrddin, a derbyniwyd ef i'r Athrofa yno yn 1804. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa bu am rai blynyddau yn athraw teuluaidd i blant boneddwr yn Ngogledd Cymru, ac yn y flwyddyn 1815 derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Salem, Llanymddyfri, lle yr urddwyd ef. Yn y flwyddyn 1829 priododd a gweddw Mr. Evan Davies, gweinidog Caeronen, gerllaw Llanbedr, a symudodd at ei wraig i'r ardal hono. Cafodd alwad i fod yn weinidog i'r gynnulleidfa yn Nghaeronen, a pharhaodd i weinidogaethu iddi nes ei luddias gan fethiant a henaint. Yr oedd yn cyfaneddu rai blynyddau cyn ei farwolaeth yn nhref Llanbedr. Bu farw Tachwedd 16eg, 1860, yn 78 oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys blwyfol Llanbedr. Ar ei ymadawiad o Lanymddyfri darfu cysylltiad Mr. Jeremy 'r enwad Annibynol, ond parhaodd ei serch atynt tra y bu fyw. Pa bryd bynag y byddai cyhoeddiad gweinidog dyeithr yn nghapel yr Annibynwyr yn Llanbedr ar ddiwrnod o'r wythnos byddai ef yn wastad yn mysg y gwrandawyr yno. Os na chamhysbyswyd ni Arminiad y proffesai Mr. Jeremy ei hun hyd y diwedd, er fod y rhan fwyaf o'i gynnulleidfa yn Nghaeronen yn Undodiaid. Yr oedd ef yn ddyn pur ei fuchedd, boneddigaidd ei ymddygiad, a llawn o hynawsedd. Meibion iddo ef yw Mr. W. D. Jeremy, y Bargyfreithiwr, Llundain ; a Mr. Daniel Jeremy, M.A., Dublin.

WILLIAM DAVIES. Ganwyd ef yn ardal Henllan, yn y flwyddyn 1800. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Henllan yn dra ieuangc, a phan yr oedd tua dwy-ar-bymtheg oed dechreuodd bregethu. Yn fuan wedi hyny aeth i'r Athrofa i Lanfyllin. Yr oedd ef yn un o'r myfyrwyr a symud- wyd gyda'r Athrofa i'r Drefnewydd yn 1821. Yn 1822 ymadawodd o'r Athrofa ac aeth i Cendl, Mynwy, lle y bu yn pregethu am o wyth i naw mis, ond methodd yr eglwys ieuangc, yr hon nid oedd eto ond gwan a bechan o rif, ymglywed 'r anturiaeth o roddi galwad iddo. Bu wedi hyny am ryw yspaid yn cadw ysgol yn, neu yn agos i'r Casnewydd, ac yn pregethu pa le bynag y buasai drws agored iddo. Yn nechreu y flwyddyn 1824 aeth i Lantrisant, Morganwg, lle yr urddwyd ef Mai 6ed yn y flwyddyn hono. Yn y flwyddyn ganlynol ymunodd mewn priodas Miss Susanah Hopkins, un o aelodau ei eglwys. Yn nechreu 1828 symudodd i Lanymddyfri. Bu farw i wraig yn Llanymddyfri yn 1830, gan adael un ferch fechan i ofal ei thad gweddw. Wedi bod yn wr gweddw am tua naw mlynedd priododd yr ail waith Miss Maria Jones, un o aelodau ei eglwys yn Llanymddyfri, ac wyres i'r enwog David Jones, Llanwrda. Cyfieithydd Psalmau a Hymnau Dr. Watts. Cafodd un ferch o'i all wraig, a hi yn awr yw gwraig Mr. T. Johns, gweinidog Capel Als, Llanelli. Bu ei lafur yn Llanymddyfri yn rhyfeddol o lwyddianus fel y nodwyd uchod yn hanes yr eglwys. Bu farw ar ol mis o gystudd. Cafodd anwyd trwm yn angladd Mrs. Thomas, priod D. Thomas, Ysw., yr hwn a derfynodd yn ei farwolaeth. Hydref 5ed, 1844, pregethodd bregeth angladdol Mrs. Thomas, yn Salem, oddiwrth 2 Cor. xii. 9, a thyna y bregeth olaf a draddododd, a dywedir iddo ei thraddodi yn rhyfeddol o effeithiol. O hyny allan gwaelu fwy fwy a wnaeth hyd Tachwedd 2il, pryd y cafodd ollyngdod trwy angau, yn 44 oed. Claddwyd ef wrth gapel Pentretygwyn. Gweinyddwyd yn ei angladd yn Llanymddyfri ac yn Mhentretygwyn gan y Meistri J. Stephens, Brychgoed ; W. Williams, Llandilo; D. Jones, Gwynfe ; D. Williams, Llanwrtyd ; G. Griffiths, Aberhonddu ; D. Evans, Cwmwysg ; ac R. Jones, Ffaldybrenin. Yr oedd tort ddirfawr

597

yn ei gladdedigaeth, a phawb yn y dref a'r ardal, hyd yn oed y dynion mwyaf annuwiol, yn ymddangos yn alarus iawn. Yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ei anwylo, ac nid rhyfedd, oblegid yr oedd yn un o'r dynion mwyaf siriol a diddrwg ar y ddaear. Yr oedd yn rhy ddiniwed i sefyll dros ei iawnderau, ac felly dyoddefodd lawer o gam ar rai adegau o'i fywyd. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, a'i lais yn nodedig o dyner a pherseiniol, ac felly yr oedd yn bregethwr poblogaidd iawn. Nis gellir son am ei enw yn Llanymddyfri i'r dydd heddyw heb deimladau o barch i'w goffadwriaeth.

EDWARD REES. Ganwyd ef yn Llanrhaiadr-ynmochnant, Ebrill 9ed, 1809, a derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yno pan yr oedd yn 17 oed. Cyn pen tair blynedd wedi ei dderbyn yn aelod aeth i'r Main i gadw ysgol, ond nis gallasom gael allan i sicrwydd a oedd wedi dechreu pregethu cyn gadael Llanrhiadr. Mae rhai o'i berthynasau yno yn tueddu i feddwl ei fod. Bu wedi hyny yn gwasanaethu am rai misoedd i'r eglwysi yn Llanberis, Llanerchymedd, a Hebron a Nebo yn Lleyn. Aeth ar daith trwy y Deheudir, ac wedi aros ychydig yn y Drewen derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Brynseion, gerllaw Castellnewydd-Emlyn, lle yr urddwyd ef Mai 6ed, 1835. Yn fuan wedi hyny cymerodd ofal Capel Iwan a Llwynyrhwrdd, mewn cysylltiad Brynseion, a bu y tri lle dan ei ofal nes iddo yn 1843 symud i Benmain, Mynwy. Yr oedd yn barchus iawn gan yr eglwys a'r gynnulleidfa yno, ond ar ol bod yno ddwy flynedd a haner gogwyddwyd ei feddwl i dderbyn galwad o Salem, Llanymddyfri, ac ymsefydlodd yno yn Tachwedd, 1845. Ychydig gydag wyth mis fu tymor ei weinidogaeth yma. Cymerwyd ef yn glaf o'r clefyd poenus hwnw a elwir Erysipelas, yr hwn a osododd derfyn ar ei oes mewn ychydig amser. Bu farw Awst 10fed, 1840, a chladdwyd ef wrth gapel Pentretygwyn. Gadawodd weddw a nifer o blant yn amddifaid. Yr oedd Mr. Rees yn ddyn tal a hardd ei ymddangosiad corfforol, yn fwyn ei dymer, yn bur ei fuchedd, ac yn bregethwr rhagorol iawn. Yr oedd yn draddodwr galluog, ei lais yn eglur, a'i barabliad yn esmwyth a hyfryd i'r glust, ond sylwedd a nerth ei bregethau yn hytrach na phereidd-dra ei lais oedd yn ei wneyd yn bregethwr poblogaidd.

ROBERT EDWARDS. Ganwyd ef yn Rhydymain, sir Feirionydd, Rhagfyr 23ain, 1825. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Brithdir, gan Mr. H. James, yn awr o Lansantffraid, ond yn fuan symudodd i Rydymain, ac yno y dechreuodd bregethu. Yr oedd ei frawd, Mr. Edward Roberts, Coedpoeth, wedi dechreu pregethu rai blynyddoedd o'i flaen ef. Wedi treulio rhai blynyddoedd yn Athrofa y Bala, derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu; ac ar derfyniad ei amser yno derbyniodd alwad o Lanymddyfri, lle yr urddwyd ef Mehefin 30ain, 1852. Dechreuodd ei weinidogaeth yn addawol, a thynai allan ei gynlluniau fel un yn penderfynu gweithio. Ni bu erioed yn gryf ei gyfansoddiad, er na thybiodd neb y buasai ei iechyd yn dadfeilio mor fuan. Yr oedd yn wr ieuangc hawddgar, o dymer lednais, yn feddyliwr clir a chryf ; ac yn draddodwr tyner ac effeithiol. Gwaelodd ei iechyd yn fuan wedi ei sefydliad yn Llanymddyfri fel y siomwyd ef yn ei holl ddisgwyliadau. Bu yn dihoeni am y rhan fwyaf o ddwy flynedd. Symudodd at ei frawd i Carno, ac yno y bu farw Rhagfyr 20fed, 1854, yn 29 oed. Mor ebrwydd y gwywodd y llysieuyn tyner. Claddwyd ef yn mynwent hen gapel Llanbrynmair, a chymerodd Meistri S. Roberts ; H. Morgan, Samah ; J. Williams, Aberhosan, ac ereill ran yn y gwasanaeth.

Translation by Maureen Saycell (March 2009)

Many members of Cefnarthen and Pentretygwyn lived in and near  this town since the 17th century, but there was too much fear of persecution to hold services in the town long after the Act of Toleration came in. There was frequent preaching in dwelling houses on Sunday evenings since 1768, regular preaching began around 1792. An old nonconformist named Mr Daniel Thomas came to set up a business here, he was strongly religious, and his minister Mr T Thomas, Cerigybwbach, felt the same way and after discussion agreed to rent a house to hold services in regularly. They were granted the use of Anne Edwards, a religious old lady, which stood  where the current Calvinistic Methodist Chapel stands. Many came to listen, which encouraged them to keep going. After Mr T Thomas' death in 1794, Mr Evan Harries succeeded him at Cefn and Pentref. He was originally from Llandovery, and while his behaviour was good he was very popular, but he turned out to have many sides to his character and repeating his history would do no good at all. The cause took off so well that they took heart and built a chapel in 1797. Land to build was given by D Davies, Esq., Doctor of Carmarthen. The chapel was named Salem. Preaching continued afternoon and evening, and weekly worship, but they went to Pentregwyn every Sunday morning until 1805. On the 26th of July that year 21 members of the mother church, Pentre, were given their letters to move membership and they formed an Independent church in Salem. There was no minister after Mr Harries, so the young church placed itself in the hands of Mr D Davies, Sardis. They remained under his care until 1815, when there were 40 members. They sent a call to Mr John Jeremy, of Carmarthen College, and he was ordained on April 20th, 1815. Mr Jeremy was here with a degree of success until 1820 when he moved to Lampeter area, where he had married a gentlewoman. Salem then put itself into the care of Capel Isaac and Mr Lewis Powell. During his time in charge the church grew to 107, with a big increase in the listeners. Mr Powell moved to Cardiff in 1827 and in 1828 a call was sent to Mr William Davies, Llantrisant. He began his ministry a few months before the great revival broke through South Wales. With Mr Davies' talent and the effects of the revival the numbers were increased massively in a few months. The chapel became too small for the congregation and they undertook the work of building a new, large and costly chapel. The foundation stone was laid on September 29th, 1829, by David Thomas, esq., one of the deacons. The chapel was opened on April 27th, 1830. The cost was 1000. At this time there were only 4 Independent chapels in the county, no denomination had a larger building or a more attractive one. Mr Davies continued to work here for 17 years  with success and popularity. He died in middle age in November 1844, he confirmed 340 members during his ministry. A year later a call was sent to Mr Edward Rees, Penmain, Monmouthshire, who began his ministry in November, 1845. A revival broke soon after he settled here and around 100 were added to the church in a few months. After only 8 months this young and useful preacher died after a short, but traumatic illness, much to the grief of the congregation and the area in general. In 1848 a united call was sent to Mr Richard Parry, Conway, who was industrious and popular here for 2 years then he decided to go back North. He confirmed 100 new members here. He was presented with a bag of gold and some books as a mark of respect as a good minister. Some alterations and improvements were made to the chapel in 1849. 2 years after Mr Parry died a call was sent to Mr Robert Edwards, Brecon College, he was ordained June 30th, 1852, he died in December 1854, he had earned respect generally during his short time here. After Mr Edwards death, it was 2 to 3 years before a successor was chosen. In 1857 a call was sent to Mr John Griffiths, Trefgarn, who was here  with respect and influence for some 8 years. During his time and with the industry of David Thomas esq., and Salem Church a pretty little chapel was built for 300, at Cilycwm. Mr Grifiths ministered faithfully at Salem and Cilycwm until he moved to St Florence, Pembrokeshire, in December 1865. Again there was 2 to 3 years without a settled minister. In  1848 a call was sent to Mr William Jansen Davies, Clarach, Cardiganshire, who remained here until 1870 when he moved to Newport, where he is currently. Mr Davies' ministry was appreciated by the congregation. After 3 years again a call was sent to Mr William Gibbon, Glynnedd, previously Capel Isaac. He began his ministy on the second Sunday of November, 1873. We hope he remains here for a long time. This church has been very unfortunate with losing ministers with such frequency, Mr Gibbon is the 11th minister in 80 years. All the members should consider if they have any influence on these frequent changes. Mr Gibbon begins his ministry in pleasant circumstances, there are 300 members, all united and debt free despite the fact that 600 has recently been spent on restoring and decorating the chapel. Considering how numerous this church is the numbers raised to preach here are few. The following is an accurate list as far as we know:-

 It was here that the following were accepted as members  John Protheroe, Bulford, Wiltshire ; W. Davies, B.A., Woolton,  Liverpool ; John L. Jones, Malpas ; and David Davies, Pensylvania, but they began to preach elsewhere.

BIOGRAPHICAL NOTES*

JOHN JEREMY - Born 1782, Cwmynys Farm, near Carmarthen - members at Pantegg - educated Grammar School Carmarthen - College 1804 - private tutor North Wales for a while - called Salem, Llandovery, 1815, and ordained - married widow of Evan Davies, Caeronnen, Lampeter, and moved to his wife there - called Caeronnen - ministered to them till old age stopped him - died November 16th, 1860, age 78 - buried Lampeter Churchyard.

WILLIAM DAVIES - Born 1800, Henllan - began to preach age 17 - College at Llanfyllin, moved with it to Newtown 1821 - to Cendl, Monmouthshire - there for 8 - 9 months, then the small new church failed - 1824 ordained Llantrisant, Glamorgan - 1825 married Susanah Hopkins - early 1828 moved to Llandovery - wife died 1830, leaving a young daughter for her husband to care for - after about 9 years he married again to Maria Jones, one of his congregation - had another daughter - caught a heavy cold at a funeral and Died a month later November 2nd, age 44 - buried Pentretygwyn.

EDWARD REES - Born April 9th,1809, Llanrhayader - kept a school at Main - Llanberis, Llannerchymedd, Hebron and Nebo on the Llyn Peninsula - then went south and spent time at Trewen - called Brynseion near Newcastle Emlyn, ordained May 6th, 1835 soon took on the care Capel Iwan and Llwynyrhwrdd - moved to Penmain, Monmouth in 1843 - after 2 years accepted call to Salem, Llandovery, settled there November 1845 - developed Erysipelas - died August 10th, 1840 - buried Pentretygwyn - left a wife and  several children.

ROBERT EDWARDS - born December 23rd, 1825 at Rhydymain, Meirioneth - Bala College - then Brecon College - called Llandovery, ordained June 30th, 1852 - health broke down - 2 years later moved to Carno with his brother - died December 20th, 1854, age 29 - buried Llanbrynmair.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

598

BETHEL

(Llanfairarybryn parish)

Mae y capel hwn o fewn pedair milldir i Lanymddyfri, ac heb fod yn nepell oddiwrth balasdy hynafol Glanbrn. Arferai amryw bersonau o'r ardal yma fyned i Lanwrtyd i addoli, fel y cawn achlysur i sylwi pan ddeuwn at hanes yr eglwys hono ; a'r Hybarch D. Williams, Llanwrtyd, fu y prif offeryn i gychwyn yr achos yma. Teithiai yma yn ffyddlawn er fod ganddo ddeunaw milldir o ffordd dros fynyddoedd uchel ; a gwelwyd ef lawer gwaith yn cychwyn allan ar dywydd mor ystormus na feiddiasai unrhyw fugail braidd fyned allan o'i d. Llwyddodd i gael darn o dir at adeiladu capel, yr hwn a godwyd yn y flwyddyn 1813, a thrwy ymdrech Mr. Williams gartref ac oddicartref llwyddwyd i dalu ei ddyled. Wedi ffurfio eglwys yma cymerwyd ei gofal gan Mr. Jenkin Morgan, Pentretygwyn, yr hwn a fu yn gwylio drosti hyd ei farwolaeth. Dilynwyd ef yma gan Mr. Edward Jones, yr hwn a fu yn dra llwyddianus yn y weinidogaeth. Penderfynwyd ail-adeiladu y capel, a chymerodd Mr. Jones ddyddordeb mawr yn hyny ; ond bu farw cyn gorphen ei adeiladu, fel na chafodd yr hyfrydwch o bregethu ynddo. Rhoddwyd galwad i Mr. William Rees, pregethwr cynorthwyol perthynol i Bethlehem, Llangadog, yr hwn a urddwyd yma Ebrill 25ain, 1843, a bu yma yn ddiwyd, ffyddlon, a chymeradwy hyd ei farwolaeth, Mai 19eg, 1852. Bu Mr. E. A. Jones, Myddfai, yma wedi hyny am bedair blynedd, nes y symudodd i Ynysgau, Merthyr. Ar ol hyn cymerodd Mr. John Griffiths ofal yr eglwys mewn cysylltiad Llanwrtyd, a llafuriodd yma yn ffyddlawn hyd ei farwolaeth, Mai 11eg, 1869. Yn ddioed wedi marwolaeth Mr. Griffiths rhoddwyd galwad i Mr. William Jones, pregethwr cynorthwyol perthynol i'r eglwys yn Salem, Llanymddyfri, ac urddwyd ef Gorphenaf 8fed, 1869, ac y mae efe yn parhau i weinidogaethu yma. Mae y capel yn awr yn cael ei adgyweirio, a bydd y draul tua 300p.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM REES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1806, mewn lle a elwir Caregyfoelgam, yn mhlwyf Llangadog. Derbyniwyd ef yn aelod yn Bethlehem tua'r flwyddyn 1826. Bu yn aelod ffyddlon a gweithgar am flynyddoedd, ac yn 1839 cymhellwyd ef i ddechreu pregethu. Pregethai yn fisol mewn amryw fanau, ac yn 1842 derbyniodd alwad o Bethel, ac urddwyd ef yno Ebrill 25ain, 1843. Cyflawnodd ei weinidogaeth gyda diwydrwydd ; ac er nad ydoedd o dalentau gloywon nac wedi cael manteision helaeth, eto bu yn ffyddlawn yn ol y dawn a rodded iddo. Buasai ychydig yn ychwaneg o hynawsedd yn help i'w ddefnyddioldeb. Yr oedd Bethel dan faich o ddyled pan urddwyd ef yno, ond gwnaeth ei oreu i'w symud, a gwelodd gryn adfywiad ar yr achos ar ei sefydliad yn y lle. Bu a fynai a chychwyn yr achos yn Cilcwm, a theithiodd lawer yno i bregethu heb ddisgwyl unrhyw gydnabyddiaeth am hyny. Ni chafodd ond cystudd byr, a bu farw Mai 19eg, 1852, yn 54 oed.

Translation by Gareth Hicks (Dec 2008)

This chapel is within 4 miles of Llandovery, without being far from the ancient mansion of Glanbran. Some of the people of the area were accustomed to going to Llanwrtyd to worship, thus they'll have reason to take note when they come to the history of that church; and the Venerable D Williams, Llanwrtyd, was the main instrument towards starting a cause here.  He trekked here faithfully despite having nine miles to travel across high mountains; and  many times he was seen starting out with the weather so stormy that hardly any shepherd ventured forth from his house. He succeeded in obtaining a piece of land to build a chapel, and this was raised in the year 1813, and through the efforts of Mr Williams, at home and away, succeeded in paying the debt. Having formed a church here they accepted their care from Mr Jenkin Morgan, Pentretygwyn, and he looked after them until he died. He was followed here by Mr Edward Jones, who was very successful in the ministry. They decided to rebuild the chapel, and Mr Jones took a great interest in this; but he died before they finished the work, thus not having the pleasure of preaching in it. They gave a call to Mr William Rees, an assistant preacher at Bethlehem, Llangadog, and he was ordained here on 25th April 1843, and was here diligently, faithfully and creditably until his death on May 19th 1852. Mr E A Jones was here then for 4 years, until he moved to Ynysgau, Merthyr. After that Mr John Griffiths took care of the church together with Llanwrtyd, and he laboured here faithfully until he died, on 11 May 1869. Immediately after Mr Griffiths' death they called Mr William Jones, an assistant preacher at the church in Salem, Llandovery, and he was ordained on 8th July, 1869, and he continues to minister here. The chapel is now being renovated, and the cost will be about 300.

Biographical Notes *

WILLIAM REES. Born in 1806 in Caregyfoelgam, Llangadog ... member of Bethlehem in 1826 ... ordained at Bethel in 1843 ... died in 1852 aged 54

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated

 

CILCWM

Saif pentref Cilcwm mewn dyffryn prydferth tua phedair milldir i'r gogledd o dref Llanymddyfri. Dechreuwyd yr achos yn y lle trwy offer-

599

ynoliaeth Mr. W. Rees, Bethel, a Mr. Hughes, tad y diweddar Dr. Hughes, Llanymddyfri, tua y flwyddyn 1852. Pregethid ar y cyntaf yn nh Mr. Hughes, yr hwn oedd yn y pentref, ond yn dra buan ardrethwyd t t gwellt at gynal cyfarfodydd ynddo, yr hwn a saif yn bresenol y tu cefn i'r capel, ac yn hwnw y buwyd yn addoli am rai blynyddoedd, hyd nes y torodd diwygiad allan ac y cynyddodd yr eglwys i'r nifer o driugain o aelodau. Yn wyneb hyny teimlid fod yn angenrheidiol cael capel, a chafwyd tir at ei adeiladu gan Mr. Lloyd, Glansefin, am gant ond un o flynyddoedd. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1860, trwy draul o 320p., yr hwn a dalwyd trwy ymdrechion Mr. J. Griffiths, Llanymddyfri y pryd hwnw, St. Florence yn bresenol. Cymerwyd prif ran y draul uchod gan eglwys Salem, Llanymddyfri, ac yr ydym yn deall fod eglwys Tabor, Llanwrda, yn nghyd a rhai eglwysi ereill, wedi cyfranu yn haelfrydig tuag ati, fel y dilwyd hi yn dra buan.

Dan nawdd eglwys a gweinidog Salem, Llanymddyfri, y mae eglwys Cilcwm wedi bod yn benaf er adeg adeiladiad y capel hyd yn bresenol, ac felly y mae yn parhau i fod. Dylid crybwyll fod Mr. Daniel Howells, Llanymddyfri, wedi bod yn ffyddlon iawn i'r achos yn Cilcwm o'i ddechreuad trwy barhau i fyned yno ryw ddwy waith y mis i bregethu a chynal cyfeillachau crefyddol. Y mae ei lafur yn ddiau wedi bod o fendith fawr yn y lle. Bu Mr. E. Jones, Crugybar, hefyd yn dyfod yn fisol yma am beth amser, a rhwng llafur y naill a'r llall, a bendith yr Arglwydd y mae yr achos yn parhau er pob anfantais. Gwanychwyd yr eglwys yn fawr yn ddiweddar trwy symudiad tri o deuluoedd lluosog a chryfion i leoedd ereill, un o ba rai a aeth i America. Yr oedd y teuluoedd hyny yn noddwyr da i'r achos, ac nid oes neb hyd yma wedi dyfod i lenwi eu lleoedd yn yr ystyr hono. Hyderwn er hyny y gofala Duw am ei achos, gan ddwyn rhywrai eto i lenwi y bylchau.

Translation by Gareth Hicks (Oct 2008)

The village of Cilcwm stands in a pretty  valley about 4 miles to the north of the town of Llandovery. The cause began in this place about the year 1852 through the efforts of Mr W Rees, Bethel, and Mr Hughes, the father of the late Dr Hughes, Llandovery. At first preaching took place at the house of Mr Hughes, which was in the village, but they very quickly rented a straw roofed house to hold meetings in, which now stands behind the chapel, and in this they worshipped for some years, until the revival broke out, and the church grew in numbers to 60 members. In the face of that it was felt timely to have a chapel, and they got the land to built one from Mr Lloyd, Glansefin, for 99 years. The chapel was built in the year 1860, at a cost of 320, which was paid through the endeavours of Mr J Griffiths, of Llandovery at the time, of St Florence now.  They accepted the greater part of the cost from the church at Salem, Llandovery, and we understand that Tabor church, Llanwrda, along with other churches, contributed generously to it, so it was repaid very quickly.

It is under the guidance of the church and minister of Salem, Llandovery, that the church at Cilcwm has been mainly since the building of the chapel up until now, and so it continues to be. It is said that Mr Daniel Howells, Llandovery, has been very loyal to the cause at Cilcwm from the start by continuing to go there about twice a month  to preach and support religious fellowship. His labour has certainly been a great blessing in the place. Mr E Jones, Crugybar, too, has come here monthly for some time, and between the efforts of one and the other, and the Lord's blessing, the cause continues despite every set back. The church was greatly weakened recently when three of the strong and numerous families moved elsewhere, one of which went to America.  That family was a good patron of the cause, and nobody came to take their place in that period. We trust that nevertheless God will take care of his cause, by yet finding someone to fill the gaps.

 


Return to top

[Gareth Hicks 3 March 2009]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Copyright GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

Valid HTML 4.01 Transitional