| Carmarthenshire | Contents |
Pages 379 - 392
Proof read by Maureen Saycell (March 2008)
Chapels below;
|
|
|
379
Yr oedd y chwech olaf a nodwyd yn frodyr, meibion Dafydd Owen, Factory, Bankyfelin, yr hwn oedd yn ddiacon yn Bethlehem. Ychydig o les a wnaeth y meibion yn y weinidogaeth, nid yn gymaint o ddiffyg talent a chymeriad, ag o ddiffyg doethineb.
JOHN DAVIES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780, mewn lle a elwir Cwmerchydd, yn nghymydogaeth Henllan. Yr oedd pan yn ieuangc yn ysgafn a chellweirus, a dywedir iddo unwaith ar dir Pantyffynon, wneyd gwawd o un o'r ordinhadau sanctaidd nes peri fod rhagfarn yn meddyliau llawer yn ei erbyn dros ei oes. Derbyniwyd ef yn aelod yn Henllan, a buan y dangosodd ei fod yn meddu talentau uwchlaw ei gyfoedion, ac anogwyd ef i ddechreu pregethu. Derbyniwyd ef i Athrofa Caerfyrddin tua'r flwyddyn 1799, ac yno gwnaeth gynydd cyflym mewn dysgeidiaeth. Daeth yn alluog i bregethu Saesneg yn rhwydd. Derbyniodd alwad o Bethlehem, ac urddwyd ef yno yn y flwyddyn 1803. Yr oedd yn ddyn ieuangc o ymddangosiad boneddigaidd ond ei fod yn lled eiddil, ac yn ddarostyngedig i bruddglwyfder meddwl, ond yr oedd yn anarferol o boblogaidd fel pregethwr, ac yn llawn o ysbryd cyhoeddus. Cyrchai i'r rhan fwyaf o Gymanfaoedd y wlad, ac am y deng mlynedd cyntaf o'r ganrif hon nid oedd odid neb yn fwy derbyniol gan y cynnulleidfaoedd. Nid yn mater ei bregethau y rhagorai gymaint ag yn ei ddawn i draddodi; ac etto y mae yn eglur nad oedd yn amddifad o allu. Pan y cytunwyd yn Nghymanfa Abertawy, yn y flwyddyn 1806, i ddwyn allan gyhoeddiad bychan yn chwarterol, enwyd ef yn un o'r Golygwyr, gyda D. Peter, Caerfyrddin ; D. Davies, Llanybri; M. Jones, Trelech ; W. Griffith,
380
Glandwr ; a J. Lloyd, Henllan. Heblaw Bethlehem a Lacharn bu Bethania, Llanon, am yspaid dan ei weinidogaeth, a chyrchai yno yn gyson er pelled ei ffordd' a bu ar un adeg yn gofalu am St. Florence, sir Benfro. Cyfarfu a thrallodion blinion yn y weinidogaeth fel y gwelsom, ond y mae yn debyg y gallasai gyda phwyll a doethineb ysgoi llawer o honynt; ond dichon fod ei dymer bruddglwyfus yn cyfrif am ei fyrbwylldra. Mae coffadwriaeth barchus iddo yn y wlad lle y llafuriodd, a'r argraff yn gyffredinol mai dyn Duw ydoedd. Bu farw Ebrill 12fed, 1814' yn 34 oed' a chladdwyd ef yn mynwent Bethlehem, lle y mae cofadail wedi ei chodi ar ei fedd ac arni deyrnged uchel i'w goffadwriaeth.
JAMES PHILLIPS. Mab ydoedd Mr J. Phillips, gweinidog Trewyddel. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1787, ac yn moreu ei oes derbyniodd yr addysg oreu a allasai ysgolion ei gymydogaeth roddi iddo. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Nhrewyddel pan yn ieuangc, ac wedi canfod ei gymhwysderau anogwyd ef ddechreu pregethu, a'r hyn y cydsyniodd. Aeth cyn hir Athrofa Neuaddlwyd, lle y bu dros rai blynyddoedd ac wedi hyny ordeiniwyd ef yn Nhynygwndwn gydlafurio a Mr Phillip Maurice. Ni arosodd yno ond dros ychydig amser, oblegid derbyniodd alwad o Bethlehem, a dechreuodd ei weinidogaeth yno yn Awst, 1814, a pharhaodd lafurio yno gyda chymeradwyaeth a llwyddiant mawr am bedair-blynedd-ar-hugain. Yr oedd yn ddyn hynaws a boneddigaidd, yn fugail tyner a gofalus, yn bregethwr efengylaidd ac effeithiol. Yr oedd ei holl wrandawyr yn mwynhau weinidogaeth, oblegid yr oedd iddynt "fel can cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda.* Byddai yn ddrylliog iawn wrth bregethu, yr hyn a effeithiai yn fawr ar deimladau wrandawyr. Bu gofal Lacharn arno am dymor hir, a bu yn Llundain yn y flwyddyn 1815 yn casglu at ysgafnhau y ddyled oedd yn gorwedd ar y capel yno. Bu hefyd ar un adeg yn gofalu am yr eglwys yn Rhydyceisiaid, ac yn mhob man cyflawnai ei weinidogaeth gyda ffyddlondeb. Teimlai ddyddordeb mawr yn llwyddiant ei enwad a llwyddiant crefydd yn y byd, a bu yn Ysgrifenydd y Gymdeithas Genhadol yn Sir Gaerfyrddin am flynyddoedd lawer. Derbyniodd 550 o aelodau yn nhymor ei weinidogaeth yn Bethlehem, Elim, a Lacharn, a phregethodd lawer mewn anedd-dai trwy yr holl wlad oddiamgylch. Daeth feddiant o gryn lawer o gyfoeth trwy ei briodas a Miss Phillips, Nantyreglwys, er fod yn bosibl mai cyn hyny y bu yn fwyaf llwyddianus yn weinidogaeth. Nid oedd yn gryf ei iechyd ar y goreu, ac wedi claddu ei wraig yn Gorphenaf, 1838, gwaelodd yntau yn gyflym, a bu farw Chwefror 5ed, 1839, yn 52 oed. Mae ei gorph yn gorwedd yn mynwent Bethlehem, ac y mae beddfaen hardd yno er coffadwriaeth am dano.
SAMUEL THOMAS. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1815, mewn lle o'r enw Cwmcych heb fod yn mhell o Gastellnewydd-yn-Emlyn. Yr oedd ganddo frawd o'r enw Michael Thomas yn weinidog llwyddianus yn Wooton Bassett, Swydd Wilts, a thrwy weinidogaeth ei frawd y dychwelwyd Mr Samuel Thomas at yr Arglwydd. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghapel Evan yn y flwyddyn 1829, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu am ychydig yn yr ysgol dan ofal Mr Davies, Rhydyceisiaid, ac wedi hyny bu yn cadw ysgol yn Berea Sir Benfro, ac oddiyno yr aeth i Athrofa Aberhonddu yn y flwyddyn 1840. Tair blynedd yr arhosodd yno, derbyniodd alwad o Drefdraeth, Sir Benfro, ac urddwyd ef yno Awst 10fed, 1843. Llafuriodd yn ddiwyd a llwyddianus yno am yn agos ddwy flynedd-ar-bymtheg.
381
Llwyddodd i adeiladu yno gapel eang a hardd, a chadwodd ynddo gynnulleidfa luosog. Yr oedd yn dra derbyniol fel pregethwr, nid yn gymaint ar gyfrif ei ragoriaeth mewn rhyw un elfen neillduol, ond oblegid cydgyfarfyddiad amryw ragoriaethau. Yr oedd ei olwg allanol yn hardd, o daldra cyffredin, ac yn llawn drwyddo, heb fod yn boenus mewn corpholaeth iddo ei hun na neb arall. Ymddangosai dwysder a difrifwch yn ei wynebpryd, ac felly yr ydoedd heb fod mewn un modd yn sarug, ond yr oedd sirioldeb a charedigrwydd lonaid ei natur. Derbyniodd lawer o alwadau o eglwysi cyfrifol yn ystod y blynyddoedd y bu yn Nhrefdraeth; ac er iddo ymddangos yn siglo lawer gwaith, etto ni lwyddwyd i'w symud hyd nes y derbyniodd yr ail alwad o Bethlehem yn niwedd y flwyddyn 1860. Symudodd yno yn fuan, a dechreuodd ar ei waith yn ddioed. Cododd gapel newydd rhagorol yn St. Clears, yn lle yr hen gapel oedd yno yn rhy gyfyng ac mewn man anghyfleus, a chododd gapel newydd yn Eglwys Cymun, mewn man lle y dylasai fod capel er's blynyddau. Yr oedd ganddo hyfrydwch mewn codi capeli, ac yn wir mewn gwneyd pob peth o blaid hyrwyddiant achos y Gwaredwr. Nid oedd neb yn fwy ffyddlon nag ef i'r undeb i'r hwn y perthynai, ac wedi ei sefydliad yn Bethlehem efe a fu y prif offeryn i gychwyn undeb yn mysg Ysgolion Sabbothol y cylch hwnw. Anhawdd fuasai cael neb yn ffyddlonach i argyhoeddiadau ei gydwybod, ac yn enwedig gyda dyledswyddau ei swydd gysegredig; yr oedd yn anarferol o ffyddlon i'w gydwybod ac i'w bobl. Gallesid disgwyl iddo fyw lawer o flynyddau, ond clafychodd yn mis Mawrth, 1869, a gwaethygodd yn raddol hyd ei farwolaeth yn Mai 9fed, 1869, yn 54 oed. Gadawodd ar ei ol weddw alarus, a lluaws mawr o geraint a chyfeillion a deimlent hiraeth dwys oblegid ei ymadawiad. Mae beddfaen hardd er coffadwriaeth am dano yn mynwent Bethlehem, ac nis gall neb a'i hadwaenai fyned heibio i'r fan heb deimlo mai " Bedd gwr Duw" ydyw.
(Eglwys Cymyn parish)
Adeiladwyd y capel yma yn y flwyddyn 1832, trwy lafur Mr Phillips a'r eglwys yn Bethlehem. Agorwyd y capel Hydref l6eg, 1832, a daeth o gylch ugain o aelodau Bethlehem yma ddechreu yr achos. Bu y lle mewn cysylltiad a Bethlehem hyd y flwyddyn 1845, pryd y rhoddodd Mr Joseph Williams yr eglwys hon i fyny ; a'r flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i Mr David Mathias, ac urddwyd ef yma Medi 1af, 1846. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr J. M. Evans, Lacharn. Holwyd y gweinidog a dyrchafwyd yr urdd weddi gan Mr W. Thomas, Llandysilio ; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr W. Davies, Rhydyceisiaid, ac i'r eglwys gan Mr J. Lewis, Henllan. Symudodd Mr Mathias i Saundersfoot, ond parhaodd ofalu am yr eglwys hon hyd y flwyddyn 1856. Wedi ymadawiad Mr Joseph Williams â Bethlehem dychwelodd Elim i gysylltiad a'i mam eglwys, ac felly y mae yn parhau hyd yn awr dan ofal Mr Morgan. Yn y flwyddyn 1872 adgyweiriwyd y capel, codwyd ei furiau yn uwch, rhoddwyd pen newydd arno, ac addrefnwyd ef oddi mewn fel y mae yn cryno a chyfleus. Ailagorwyd ef Hydref 1af a'r 2il. Casglwyd ar y pryd 135p, yr hyn oedd yn ddigon i glirio yr holl draul, yn gystal a'r gweddill dyled oedd yn aros ar Ebenezer. Mae yr achos yma wedi sirioli yn fawr rhagor y gwelwyd ef, ond y mae
382
mewn sefyllfa draws-newidiol o'r Gymraeg i'r Saesonaeg, ac y mae yr olaf yn enill tir yn gyflym.
They built the chapel here in the year 1832, through the efforts of Mr Phillips and the church in Bethlehem. The chapel opened on 16th October 1832, and around 20 members from Bethlehem came here to start the cause. The place was connected with Bethlehem until 1845, when Mr Joseph Williams gave up the church here, and the following year they gave a call to Mr David Mathias, and he was ordained here on 1st September 1846. On that occasion Mr J M Evans, Lacharn, preached on the Nature of a Church. Questions of the minister were asked and ordination prayer given by Mr W Thomas, Llandysilio, preaching to the minister by Mr W Davies, Rhydyceisiad, and to the church by Mr J Lewis, Henllan. Mr Mathias moved to Saundersfoot, but continued to look after this church until 1856. After Mr Joseph Williams went from Bethlehem, Elim returned to the close relationship with its mother church, and so it continues under the care of Mr Morgan. In the year 1872 they rebuilt the chapel, they raised the walls higher, gave it a new top, and restored it so that it was convenient and compact. It re-opened on 1st & 2nd October. The collection on that occasion was £135, this was enough to clear the whole cost, as much as the residual debt that remained on Ebenezer. The cause here is much livelier than it used to be, but is in a state of conflict between Welsh and English, and the latter is fast gaining ground.
Megis mawr crybwyllasom yn hanes Lacharn, arferai Mr Morris Evans pan yn weinidog yno bregethu llawer yn yr ardal mewn lle a elwir Barriets' ond rhoddwyd i fynu bregethu yma wedi ei ymadawiad, hyd ar ol sefydliad Mr Samuel Thomas, yn Bethlehem. Prynodd ef dir gerllaw " Three Lords," Eglwys Cymun, ac adeiladodd gapel arno gwerth 350p., a galwyd ef Ebenezer, a bu llawer o bryder arno cyn ei gael yn barod. Cynhelid Ysgol Sabbothol yn flaenorol yn Saddle Room, Castledoch, ac y mae adgofion cynes gan amryw am dani. Pregethwyd gyntaf ynddo gan Mr Thomas, am ddau o'r gloch Sabboth,, Medi 14eg, 1862. Mae mawr lle yn gangen o Elim, ac y mae yn y ddau le faes addawol i lafurio arno.
Just as described in the history Lacharn, Mr Morris Evans, when he was the minister there, used to preach often in the district in a place called Barriets' but that was given up after he left, until after the ordination of Mr Samuel Thomas, in Bethlehem. He bought land next to the "Three Lords", Eglwys Cymun, and built a chapel there worth £350, and called it Ebenezer, and there was much worry on him before he got it finished. A Sunday School was previously held in the Saddle Room, Castledoch, and some have fond memories of it. The first preaching there was by Mr Thomas, at 2 o'clock on Sunday 14th September 1862. It is very much a branch of Elim, and there is in both places auspicious material to work on.
(Llanboidy parish)
Mae y capel hwn yn nghymdogaeth Hen Dy-gwyn-ar-Daf ; lle y mae llawer o ffeithiau a thraddodiadau hynafol yn nglyn ag ef. Dechreuwyd pregethu yma yn bythefnosol ar brydnawn Sabboth, mewn lle a elwid y Swan, lle yr oedd un Ben Griffiths yn byw ar y pryd ; ac ar hwyr y Sabbothau pregethid yn achlysurol yn y Fforge yn nyddiau Mr John Morgan. Mr Lloyd, Henllan, a bregethai yma fynychaf ar y dechreu, ond deuai Mr Davies Bethlehem ac eraill yma yn achlysurol. Pregethid weithiau yn Sguborfawr, lle yr oedd John James yn byw. Ond yn y Fforge y pregethid fynychaf yn nyddiau John Morgan, ac wedi hyny yn nyddiau David Morgan, ac ar ol ei gladdu ef yn nyddiau ei weddw, hyd nes y symudodd o'r lle. Cyrchai gweinidogion i'r Fforge o bob man, a bu pregethwyr enwocaf De a Gogledd yn pregethu yno. Trowyd ty glo (coal-house) perthynol i'r Fforge yn gapel bychan, a chynhelid ynddo foddion yn Sabbothol ac wythnosol, a chafwyd ynddo gyfarfodydd a hir gofir. Yn y flwyddyn 1840 cafwyd darn o dir Regwm gan MrThomas, Lampeter House, Llanbedrfelffre, ac adeiladwyd capel arno yr hwn a alwyd yn Soar. Dechreuwyd pregethu yn ddioed, ond ni chynaliwyd cyfarfod ei agoriad yn ffurfiol hyd Mawrth 1af a'r 2il, 1812. Bu y lle mewn cysylltiad a Henllan hyd y flwyddyn 1847, pryd y rhoddodd yr eglwys hon, mewn cysylltiad a Carfan, alwad i Mr David Phillips myfyriwr yn Athrofa Aberhonddu ac urddwyd ef Awst 4ydd y flwyddyn hono. Llafuriodd yma yn ddiwyd a chyda graddau helaeth o lwyddiant am fwy na chwe blynedd. Gwaelodd i iechyd, a bu farw Hydref 26ain, 1853 yn 36 oed.*
Cyn diwedd haf 1855 rhoddodd yr
*Gan i ni gael ychwaneg o fanylion ei hanes wedi ni wneyd ein cofnodiad byr o hono ynglyn ag eglwys Carfan, rhoddwn hwy i lawr yma. Ganwyd ef yn mhlwyf Dewi, Sir Benfro Chwefror 16eg, 1818. Yr oedd ei rieni yn byw yn Trehysbys, ar dir Treliwyd, y trigai Mr Griffith, Tyddewi. Bu ei dad yn aelod yn Rhodiad am 60 mlynedd, ac yn ddiacon am ó0 mlynedd, a chyfrifid ef yn un o ddynion goreu y wlad. Mae yn ymddangos ei fod wedi ei anog i bregethu gan eglwys Tyddewi, ac wedi pregethu ei bregeth gyntaf yn Berea ar gais Mr Samuel Thomas, wedi hyny o Bethlehem, St. Clears' yr hwn oedd yno ar y pryd yn cadw ysgol, ond wedi iddo symud i Brynmawr y cydnabyddwyd ef yn bregethwr rheolaidd.. Priododd a Miss Martha Williams, Pantffynon, un o'r merched mwyaf rhagorol ond bu farw yn mhen deng mis ar ol priodi. Yr oedd argraff ar feddwl yr holl wlad fod Mr Phillips yn nodedig mewn duwioldeb.
383
eglwys yma, mewn cysylltiad a'r eglwys yn Bethel, alwad i Mr William Thomas, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Rhagfyr 26ain y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr R. Pryse, Cwmllynfell. Holwyd y gofyniadau gan Mr J. Lewis, Henllan. Dyrchafwyd yr urdd weddi gan Mr H. Evans, Penbre. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Morris, Athraw Athrofa Aberhonddu, ac i'r eglwysi gan Mr W. Morgan, Caerfyrddin. Mae Mr Thomas yn parhau i lafurio yma, ac wedi cael yr hyfrydwch o weled yr achos yn myned rhagddo, er fod amryw o'r rhai ffyddlonaf wedi eu cymeryd ymaith gan angau. Ad-drefnwyd a phrydferthwyd y capel ar ol ei adeiladu, ac y mae mynwent gyfleus yn nglyn ag ef, lle y mae llwch llawer o anwyliaid yn gorwedd. Mae nifer yr aelodau wedi mwy na dyblu er y daeth Mr Thomas yma. Mae y Saesneg yn enill tir yma, fel y mae angenrheidrwydd am bregethu yn y ddwy iaith bob Sabboth.
Gan fod nerth y boblogaeth yn Whitland, a Soar yn dipyn yn anghyfleus i'r bobl ddyfod oddiyno iddo, siaradwyd am flynyddoedd am godi capel yn y lle. Daeth teimlad yr eglwys yn addfed i hyny o'r diwedd. Cafwyd les ar ddarn o dir am 999 o flynyddoedd gan Mr Morris Phillips, Tynewydd, am ddeg swllt y flwyddyn o ardreth. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr gan Miss Margaret Phillips, Tynewydd, Gorphenaf 9fed, 1872, ac y mae y capel agos a bod yn barod i'w agor. Bydd yn werth 1200p., ac yn mhob ystyr yn addurn i'r ardal. Mae ysgoldy ynglyn a'r hen gapel, ac ysgol ddyddiol flodeuog yno.
Yn mysg llawer o ffyddloniaid a fu yma crybwyllir am Griffith Jenkins, Trevaughan. Anogwyd ef i ddechreu pregethu wedi marwolaeth D. Morgan, Fforge, ac yr oedd yn bregethwr hynod o brofiadol. Yr oedd iddo air da gan bawb. Thomas Richards, Llwyndewi. Yr oedd yntau yn pregethu yn achlysurol o gylch yr adeg y codwyd Soar, ac yr oedd yn ddyn manwl a chyson gyda'i holl ddyledswyddau. Bu teulu y Fforest o help mawr i'r achos. Yr oedd Mr John Thomas, yn ddyn rhydd, calon agored. Cymerodd ef ran arbenig gydag adeiladu Soar, ac yr oedd yr achos yn agos at ei galon. Am Mrs Thomas, yr oedd hi yn un o'r gwragedd mwyaf deallgar a chrefyddol; a hir gofir ei charedigrwydd gan y rhai a fu dan i chronglwyd. Mae amryw eraill o hen aelodau Soar y rhai y mae eu coffadwriaeth yn berarogl yn yr ardal, a'r rhai nad â eu llafurus gariad yn anghof.*
This chapel is in the vicinity of Hen Dy-gwyn-ar-Daf (Old White House on the Taf); a place with several faiths and old traditions along with it. They started preaching here every fortnight on Sunday afternoons, in a place called The Swan, where one Ben Griffiths lived at the time; and lately occasionally on sermon Sundays in the Forge in the days of Mr John Morgan. Mr Lloyd, Henllan, frequently preached here at the beginning, but Mr Davies, Bethlehem, and others came here occasionally. He preached sometimes in Sguborfawr, the place where John James lived. But it was in the Forge that he frequently preached in the days of John Morgan, and after that in the days of David Morgan, and after he was buried in the days of his widow, until he moved from the place. Ministers gathered at the Forge from all parts, and well known ministers from the South and North preached there. They turned a coal house belonging to the Forge into a small chapel, and held in it weekly and Sabbath related services, and had there meetings to be remembered for a long time. In 1840 they obtained a piece of Regwm land from Mr Thomas, Lampeter House, Llanbedrfelffre, and built a chapel on it which they named Soar. They started preaching right away, but didn't hold a formal opening meeting until 1st & 2nd March 1812. The place was joined with Henllan until 1847, when this church, in conjunction with Carfan, gave a call to Mr David Phillips a student at Brecon College, and he was ordained on 4th August of that year. He laboured here diligently and with a large degree of success for over 6 years. His health deteriorated and he died on 26th October, 1853, aged 36.*
*As we received more of the ins and outs of his history after we made brief notes on him in connection with Carfan, we'll put them in here. He was born in St David's parish, Pembrokeshire on 16th February 1818. His parents lived in Trehysbys, on Treliwyd land, the home of Mr Griffith, Tyddewi. His father was a member in Rhodiad for 60 years, and a deacon for 60 years, and he was considered one of the best men in the country. It appears he was encouraged to preach by the Tyddewi church, and after preaching his first sermon in Berea, at the behest of Mr Samuel Thomas, afterwards of Bethlehem, St Clear's who was there at the time keeping school; but after he had moved to Brynmawr he became recognised as a regular preacher. He married Miss Martha Williams, Pantyffynon, one of the most admirable of girls but he died after 10 months of marriage. It was engraved on the minds of the whole country that Mr Phillips was notable for his piety.
Before the end of the summer of 1855 this church, in conjunction with the church in Bethel, gave a call to Mr William Thomas, a student at Brecon College, and he was ordained here on 26th December that year. On the occasion Mr R. Pryse, Cwmllynfell preached on the Nature of a Church.. Questions asked by Mr J. Lewis, Henllan. The ordination prayer was given by Mr H Evans, Penbre. The prayer to the minister by Mr J Morris, Professor at Brecon College, and to the church by Mr W Morgan, Carmarthen. Mr Thomas continues to labour here, having had the pleasure of seeing the cause move forward, despite some of the faithful having been taken off by death. They re-appointed and beautified the chapel after it was built, and it has a convenient graveyard with it, a place where the dust of many beloved ones lies. The number of members has more than doubled since Mr Thomas came here. The English is gaining ground here, so there is the necessity for preaching in both languages every Sabboth.
As the weight of population is in Whitland, and Soar is fairly inconvenient for the people come here from there, they have talked for years about raising a chapel in the place. The feeling of the church grew in favour of this in the end. They obtained a lease on a piece of land for 999 years from Mr Morris Phillips, Tynewydd, for 10 shillings a year rent. The foundation stone was laid by Miss Margaret Phillips, Tynewydd, on 9th July 1872, and the chapel is nearly ready for opening. It will cost £1200, and in every sense an adornment to the district. There is a school along with the old chapel, and a flourishing day school there.
Amongst the many faithful here Griffith Jenkins, Trevaughan, is mentioned. He was prompted to begin preaching after the death of D Morgan, Forge, and he was a notable and experienced preacher. He had a good word for everyone. Thomas Richards, Llwyndewi. He preached occasionally around the time that Soar was formed, and he was a scrupulous and consistent man in all his duties. The Forest family were a great help to the cause. Mr John Thomas was a liberal man, with an open heart. He took a leading role in the building of Soar, and the cause was close to his heart. As for Mrs Thomas, she was one of the most intelligent and devout women, and long remembered is her kindness towards those under her roof. There are several others of the old Soar members who are remembered sweetly in the area, and some whose labours of love are not forgotten.
(Llanstephan parish)
Mae y lle hwn yn mhlwyf Llanstephan, o fewn rhyw wyth milldir i Gaerfyrddin. Hen Gapel Eglwysig ydyw, fel y mae yn hawdd deall arno, ond nis gwyddom pa bryd na pha fodd y daeth i feddiant yr Ymneillduwyr. Mae Saunders yn ei "Religion in the diocese of St. Davids' 1707," yn achwyn fod yr Ymneillduwyr wedi myned a'r capel oddiar yr Eglwys, ond nid yw yn nodi yr amgylchiadau cysylltiedig a hyny. Mae yr ysgrif ar " Stephen Hughes a'i Amserau" yn yr "Adolygydd," Cyf. I , tudal. 426, oddiar awdurdod a grybwylla, yn dyweyd fod Llanstephan dan ofal Stephen Hughes mewn cysylltiad a Meidrym, a bod capel Llanybri dan nodded eglwys Llanstephan ac i Stephen Hughes, pan fwriwyd ef allan yn 1662, yn rhyw ffordd lwyddo i gadw meddiant o gapel Llanybri. Mae
*"Henafiaethau yr Hen Dy-Gwyn-ar-Daf, gan y Parch.William Thomas"
384
Mr. Morgan, oddiar awdurdod yr " Adolygydd," fel y tybiwn, yn dyweyd yr un peth yn " Hanes Ymneillduaeth." Yr ydym ar ol ymchwiliad pellach yn amheus o gywirdeb yr hyn a gyhoeddwyd yn yr " Adolygydd." Nid oes genym un sail i gredu fod bywioliaeth Llanstephan gan Stephen Hughes cyn ei fwrw allan gan Ddeddf Unffurfiaeth. Yr oedd yn gwasanaethu Eglwys Merthyr, ac nid yw yn debyg y gallasai hefyd ymgymeryd â gwasanaethu Llanstephan yn ychwanegol at y llafur mawr oedd arno y tu allan. Heblaw hyny, mae genym sicrwydd mai ar anedd yn mhlwyf Llanstephan y cafodd Stephen Hughes drwydded i bregethu yn 1672, pan y rhoddodd y brenhin gyhoeddiad allan o ryddid i'r Ymneillduwyr, yr hwn yn sicr a fwriadwyd i ffafrio y Pabyddion. Mae agos yn sicr nad oedd yr Hen Gapel yn meddiant yr Ymneillduwyr y pryd hyny, onide, buasai Stephen Hughes yn ei enwi fel lle y cafwyd trwydded arno. Mae yn amlwg, pa fodd bynag, fod yr Hen Gapel wedi dyfod rywfodd yn foreu i afael yr Ymneillduwyr, ac nad oedd yn ngallu yr Eglwyswyr i'w gymeryd oddiarnyn,onide, y mae yn sicr y buasent wedi gwneyd. Dichon mai hwn yw yr addoldy Ymneillduol hynaf yn Nghymru. Adeilad hir, cul ydyw, yn hollol ar ffurf yr hen eglwysi, a chlochdy wrth ei dalcen. Mae yn y blynyddau diweddaf wedi ei ad-drefnu yn fawr oddifewn, a'i wneyd yn lle digon cyfleus i bregethu a gwrando ynddo. Mae yn debygol mai Stephen Hughes fu y gweinidog yma o ddechreuad yr achos hyd farwolaeth y gwr da hwnw yn y flwyddyn 1688. Y flwyddyn hono urddwyd nifer luosog o weinidogion ar wahanol eglwysi, y rhan fwyaf o ba rai a ddygwyd i fyny dan nawdd Mr Stephen Hughes ; ac yn mysg eraill urddwyd Mr John James yn weinidog yn Llanybri. Nis gwyddom ddim yn ychwaneg am dano na'i enw, a'r crybwylliad sydd yn " Hanes Crefydd yn Nghymru, " gan Mr Peter, mai yn Mai, 1705, y bu farw. Yr ydym yn cael enw Mr William Morris yn " Hanes Ymneillduaeth" fel un a fu yma yn weinidog, ond nis gwyddom oddiar ba awdurdod, ond y mae yn eglur, pa fodd bynag, nad efe oedd y cyntaf yma wedi marwolaeth Mr S. Hughes. Nid oes genym ddim gwybodaeth am yr achos yma i sicrwydd hyd y fiwyddyn 1743, pan y symudodd Mr Evan Davies o Hwlffordd gyda'r Athrofa i Gaerfyrddin, ac y cymerodd ofal yr eglwys hon ac eglwys y Bwlch. Bu yma hyd y flwyddyn 1759, pryd y symudodd i Essex. Daeth un Mr Thomas Davies yma yn weinidog rywbryd feddyliem ar ol y flwyddyn 1756, oblegid o gylch y pryd hwnw y bu farw ei wraig gyntaf, yr hon a gladdwyd yn Llangyfelach, a thebygol mai ar ol hyny y sefydlodd yma. Mae genym sicrwydd ei fod yma yn y blynyddoedd 1764-65, oblegid yr ydym yn cael ei enw amryw weithiau yn hen lyfr eglwys Pantteg yn bedyddio ac yn derbyn aelodau o farwolaeth Mr Christmas Samuel, Mehefin 18fed, 1664, hyd urddiad Mr Thomas Davies, Hydref 16eg, 1765. Nid oes genym nemawr wybodaeth am sefyllfa yr achos yma yn ei amser rhagor nag mai yn nhymor ei weinidogaeth ef yn y flwyddyn 1773 y codwyd capel Bethesda. Bu farw Medi 17eg, 1782, yn 72 oed. Crybwyllir am enw un Mr Jonathan Lewis a ddaeth yma ar ol Mr T. Davies, a dywedir iddo fyned oddiyma i Benygraig, ond nid oes genym unrhyw wybodaeth ychwanegol i'w roddi am dano. Dilynwyd ef yma yn y weinidogaeth gan Mr David Davies,
* Ai tybed nad at Jenkin Morris, Panty'rathro, y cyfeirir ? Yr oedd ef yn weinidog yr efengyl; a bydd genym air i'w ddywyed dano pan ddeuwn at hanes Bwlch-newydd,
385
yr hwn a ddygasid i fyny yn Athrofa Caerfyrddin. Yr oedd yno o'r flwyddyn 1783 hyd 1786, ac y mae yn debyg mai yma yr urddwyd ef, er nas gallasom gael allan y dyddiad. Dewiswyd ef yn gyd-athraw a Mr D. Peter ar yr Athrofa yn Nghaerfyrddin yn y flwyddyn 1795, ac y mae yn amlwg ei fod yn weinidog yma cyn hyny. Darfu ei gysylltiad a'r Athrofa yn y flwyddyn 1813, ac yn yr un adeg aeth yn gynwrf mawr yn yr eglwys yn ei achos. Daeth rhyw ddyryswch i'w amgylchiadau - amheuid iachusrwydd ei olygiadau-a chyhuddid ef o anfoesoldeb mewn buchedd, a'i fod wedi gwyro yn mhell oddiwrth symledd yr efengyl, ac yn mhellach na hyny oddiwrth burdeb yr efengyl. Yr oedd yma yn flaenorol i hyny gynnulleidfa luosog, oblegid yr oedd Mr Davies yn ddyn talentog, ac yn meddu ar ddoniau poblogaidd; ac oblegid y mynai rhan fawr o'r eglwys lynu wrtho er ei holl wyriadau, aeth y nifer luosocaf allan, ac yn mhen amser adeiladasant gapel gerllaw, yr hwn a adnabyddir hyd y dydd hwn fel y Capel Newydd. Parhaodd Mr Davies i weinidogaethu yma ac yn Bethesda hyd yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1828, pryd y daeth i ddiwedd torcalonus trwy foddi mewn nant gerllaw Rhydygors, yn agos i Gaerfyrddin!
Yn y flwyddyn 1828 rhoddwyd galwad. i Mr Daniel Evans, aelod o Carmel, Llanguwg, ac a fuasai yn yr ysgol gyda Mr R. Howell, Baran, ac urddwyd ef yma. Llafuriodd Mr Evans yma yn ddiwyd hyd y flwyddyn 1837, pryd y symudodd i Nazareth, Pontyates, lle y mae etto yn gweinidogaethu. Yn mhen ychydig amser rhoddodd yr eglwys hon alwad i Mr Josiah Thomas Jones, yr hwn oedd wedi symud o Bontfaen i Gaerfyrddin fel argraffydd a chyhoeddydd. Bu yma am lawer o flynyddoedd, ond nid oedd yr achos mewn un wedd yn flodeuog. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny a symudodd i Aberdar, lle y treuliodd weddill ei oes fel argraffydd a chyhoeddydd, ond pregethai yn achlysurol. Yn nechreu y flwyddyu 1849 dewiswyd nai iddo, Mr. John Thomas Jones, a fuasai yn efrydydd yn Ffrwdyfal, yn gydweinidog ag ef, ac urddwyd ef Mawrth 29ain y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr D. Davies, Pantteg. Holwyd y gofyniadau gan Mr J. T. Jones, Llanybri. Gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr J. Davies, Bethlehem. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Hughes, Dowlais, ac i'r eglwys gan Mr H.Jones, Caerfyrddin. Ni chafodd y gweinidog ieuangc ond oes fer. Cychwynodd ar daith i'r Gogledd y Mehefin canlynol, ond cafodd wely llaith, a chymerwyd ef i feddygdy Dinbych lle y bu farw Awst 9fed, 1849, yn 26 oed. Bu yr eglwys am rai blynyddoedd wedi ymadawiad Mr Josiah Thomas Jones i Aberdar heb weinidog sefydlog, ond deuai Mr Phillips, Cana, yma yn fisol i gadw cymundeb hyd ei farwolaeth. Yn y flwyddyn 1864, rhoddodd alwad i Mr William C. Jenkins, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yma Hydref 1af, 1864. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr W. Morgan, Athraw Athrofa Caerfyrddin. Holwyd y gofyniadau gan Mr J. Thomas, Salem, Aberdar. Dyrchafwyd yr urdd weddi gan Mr H. Jones, Caerfyrddin. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr H. Oliver, B.A., Casnewydd, ac i'r eglwys gan Mr J. Williams, Castellnewydd. Pan ddaeth Mr. Jenkins yma nid oedd yma ond 50 o aelodau, a 6 yn Bethesda ; ond gadawodd 63 yma a 18 yn Bethesda. Adnewyddwyd Bethesda trwy draul o 93p., yr hyn a dalwyd oll ar ddydd yr ail-agoriad. Bu Mr Jenkins yma hyd Hydref,
386
1867, pryd y symudodd i Gydweli, lle y mae etto yn llafurio. Dilynwyd ef yma gan Mr David Davies, aelod o Ebenezer, Abertawy, yr hwn a urddwyd yma Gorphenaf 14eg, 1869. Ni bu yma ond prin ddwy flynedd, oblegid derbyniodd alwad o America, ac ymfudodd yno. Yn gynar yn y flwyddyn 1878, rhoddwyd galwad i Mr Abednego Jenkins, ac y mae wedi cymeryd ei gofal ac ymsefydlu yn weinidog yma gydag arwyddion boddhaol am lwyddiant. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Mai 26ain a'r 27ain, yr un flwyddyn. Mae yn ddiau i lawer o bobl nodedig fod yn perthyn i'r achos yma o oes i oes, ond gan na chyrhaeddodd eu henwau hyd atom nis gallwn eu crybwyll; ond y mae yn weddus i ni grybwyll mai teulu Pentrewyn sydd wedi bod drwy y blynyddau yn brif noddwyr yr achos; ac ar un adeg bu pwys y baich agos yn hollol ar Mrs Thomas, yr hon a gymerodd lawer o boen er mwyn achos yr Arglwydd yn y lle.* Mae y rhestr ganlynol y gyflawnaf a allasom gael o'r pregethwyr a gyfodwyd yma. Dichon mai gorchwyl anhawdd fyddai penderfynu pa un o'r ddwy eglwys yn y lle sydd yn ddilyniad o'r hen eglwys wreiddiol. Gyda'r rhan a aeth allan yr oedd y mwyafrif, ond y lleiafrif a lwyddodd i gadw y capel, a chymerwn in rhyddid i gysylltu pawb a ddechreuodd bregethu cyn yr ymraniad a'r hen gapel, gan fod yn debyg mai ynddo y pregethasant gyntaf.
EVAN DAVIES. Ganwyd ef yn agos i Lanbedr, yn Sir Aberteifi. Dygwyd ef i fyny yn Athrofa Dr. Ridgley, yn Llundain. Urddwyd ef yn nghapel Albany, Hwlffordd, Mehefin 5ed, 1723. Yr oedd wedi llafurio yno am dair blynedd cyn hyny, a bu yno am ugain mlynedd ar ol hyny. Ymddengys i fod yn weinidog cymeradwy, ac yn ddyn dysgedig. Yn y flwyddyn 1741, wedi marwolaeth Mr Vavasor Griffith, dewiswyd ef gan y Bwrdd Henadurol a'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Athraw yr Athrofa a symudwyd y myfyrwyr ato i Hwlffordd. Yn mhen dwy flynedd symudwyd yr Athrofa i Gaerfyrddin, ac ar yr un adeg derbyniodd Mr Davies alwad gan yr eglwysi yn Llanybri a'r Bwlch, a sefydlodd yno. Yr oedd
*Llythyr Mr A. Jenkins.
387
MrSamuel Thomas, cyd-athraw Mr Davies yn yr Athrofa, yn Pelegiad os nad yn Ariad yn ei olygiadau, yr hyn, yn nghyd a'r cyhuddiadau o anfoesoldeb a ddygid yn erbyn rhai o'r myfyrwyr, a barodd i'r Bwrdd Cynnulleidfaol basio penderfyniad Mawrth 5ed, 1753, yn gorchymyn i Mr Davies symud yr Athrofa o Gaerfyrddin. Er fod Mr. Davies yn hollol uniongred i olygiadau, a phur i fywyd, yr oedd yn anmharod i gydsynio a chais y Bwrdd ; ac ar y 3ydd o Chwefror, 1755, ataliodd y Bwrdd Cynnulleidfaol yr arian a arferent gyfranu at y sefydliad; a chychwynasant Athrofa uniongred yn gwbl dan eu nawdd eu hunain yn Abergavenny. Parhaodd Mr Davies i gysylltiad a'r Athrofa ac a'r eglwysi dros dair blynedd yn ychwaneg, ond wrth weled ei hun wedi ei adael gan ei frodyr a'r rhai arferai gydlafurio ymadawodd yn y flwyddyn 1758, a chymerodd ofal yr eglwys yn Billericay, Essex, lle y llafuriodd hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Hydref 16eg, 1770, pan oedd yn 76 oed.
THOMAS DAVIES. Ganwyd ef ar fynydd Llandilofach, Sir Forganwg, yn y flwyddyn 1710. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth. Mae wyres iddo yn awr yn fyw yn Llanybri, yn 87 oed, a chanddi weddillion hen ddodrefnyn o'i wneuthuriad.* Un o blwyf Llanguwg oedd ei wraig gyntaf, a bu iddynt bump o blant, bu hi farw yn fuan wedi genedigaeth yr olaf o honynt, tua'r flwyddyn 1756, a chladdwyd hi yn mynwent Llangyfelach. Daeth ef yn fuan ar ol hyny i Lanybri, lle yr urddwyd ef ac y bu yn gwinidogaethu tua phum'-mlynedd-a-deugain. Priododd yr ail waith a gwraig weddw gyfrifol oedd yn byw yn y Derigleision, gerllaw Meidrym; yr hon oedd yn berthynas agos i wraig gyntaf Mr D. Peter, Caerfyrddin. Nid oes genym ond ychydig i'w ddyweyd am Mr Davies. Mae hen Feibl Peter Williams yn meddiant ei wyres, ar ddalenau yr hwn y mae wedi ysgrifenu llawer o nodiadau, y rhai a ddangosant ei fod yn graffus' os nad oedd yn alluog. Yr oedd yn hollol groes i'r syniadau Sebelaidd a welir unwaith neu ddwy yn yr argraffiad hwnw o sylwadau Peter Williams. Mae y " bys cyfeiriol" yn aml ganddo, a "llinellau duon," ac y mae ganddo ar un ddalen y sylw canlynol er eglurhad. "Nodwch. Lle y mae y bys cyfeiriol fod y sylwadau yn rhagorol, ac yn cyfateb i natur y grefydd Gristionogol; a lle mae'r sylwadau wedi gosod llinell neu linellau duon," rhyngddynt, eu bod o'r fath ag y dylid eu profi wrth yr ysgrythyrau a natur y grefydd Gristionogol cyn rhoddi coel iddynt, a'r sawl a wnel felly yn ddiduedd a gaiff weled gwrthuni a chyfeiliornad yr awdwr yn y cyfryw ran o'r sylwadau." Yr oedd, fel y gallwn gasglu, yn Ymneillduwr egwyddorol, oblegid y mae llinellau duon, mwy nag arferol rhwng y llinellau ar yr erthygl hono o'r "Deugain erthygl ond un"* sydd yn gosod allan natur yr eglwys Gristionogol. Nid oes genym ddim i'w ddyweyd am ei lafur gweinidogaethol yn ychwaneg na bod Mr E. Griffith, Capel Seion, yn dyweyd fod y gyn y flwyddyn 1774, yn cyfrif 360, ac mai trwy ei lafur ef y codwyd capel Bethesda. Teithiai lawer i wasanaethu eglwysi y Sir,a bu am dymor yn cyrchu yn lled reolaidd i Abergorlech a Chrygybar. Bu farw Medi 17eg, 1782, yn 72 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Bethesda, lle y gwelir maen er coffadwriaeth am dano.
DAVID DAVIES . Dywedir ei fod yn enedigol o rywle yn nghymydogaeth Llansawel, Sir Gaerfyrddin, ond nis gallasom gael allan le nac amser ei
*Galwodd Mr G. Jones Lacharn, i weled yr hen wraig, ac iddo ef yr ydym yn ddyledus am yr ychydig grybwyllion hyn am Mr Thomas Davies.
388
enedigaeth. Dywedir mai unig blentyn ei rieni ydoedd, ag iddo eu claddu pan yn ieuangc, ac mai gydag ewythr a modryb iddo mewn lle o'r enw Llwyncelyn y magwyd ef. Sefydlodd yn Llanybri rywbryd wedi y flwyddyn 1786, oblegid dyna y flwyddyn y gadawodd Athrofa Caerfyrddin. Priododd a Mary, merch Trefynys, gerllaw Abergwyli, yr hon oedd yn wraig rinweddol iawn, ond bu farw ar enedigaeth y plentyn cyntaf, Mehefin 14eg, 1789' yn 23 oed, a chladdwyd y plentyn, yr hwn oedd farw pan aned ef, yn yr un bedd. Ail briododd ef ar ol hyny a merch ac etifeddes Penybont, Pontarddulas, o ba un y bu iddo chwech o blant, pedwar mab a dwy ferch. Yr oedd yn wr cadarn nerthol o gorph, ac felly yr ydoedd hefyd o feddwl, ac yr oedd golwg urddasol arno ger bron cynnulleidfa. Bu yn gyd-athraw a Mr Peter yn yr Athrofa yn Nghaerfyrddin o'r flwyddyn 1795 hyd 1813, pan y dygwyd cyhuddiad i'w erbyn gan ryw ferch mai efe oedd tad ei phlentyn anghyfreithlawn, ac er iddi fethu profi y cyhuddiad er hyny effeithiodd yr amgylchiad yn fawr ar ei ddefnyddioldeb ; yr hyn yn nghyd a rhyw bethau eraill a fu yn achlysur o rwygo yr eglwys fel y gwelsom. Bu fyw ar ol hyny am bymtheng mlynedd, ond yr oedd i fawr nerth wedi ei adael, a chyfarfu a'i ddiwedd mewn modd brawychus trwy foddi mewn nant sydd rhwng y Royal Oak Gate a Rhydygors, gerllaw Caerfyrddin. Claddwyd ef yn mynwent Bethesda yn ymyl i wraig gyntaf, a lle hefyd y gorwedd ei ail wraig, a dau o'i blant, ond nid oes yno yr un gareg er coffadwriaeth am dano.
JOHN THOMAS JONES. Mab doedd i John Jones, Pontgellifaelog, gerllaw Dowlais. Ganwyd ef yn y fiwyddyn 1823. Derbyniwyd ef pan yn ieuangc yn aelod yn Bethania, Dowlais, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu yn yr ysgol yn Ffrwdyfal, ac yn Mawrth, 1849, urddwyd ef yn gyd-weinidog a'i ewythr, Mr. Josiah Thomas Jones, yn Llanybri a Bethesda. Yn niwedd y Mehefin dilynol cychwynodd ar daith i'r Gogledd gyda gwr ieuangc o Athrofa Caerfyrddin, ond ar eu ffordd cawsant wely llaith,, a theimlodd Jones yn fuan oddiwrth i effeithiau. Erbyn cyrhaedd Dinbych yr oedd yn sal iawn. Cafodd yno bob caredigrwydd gan y cyfeillion, a rhoddwyd ef yn meddygdy, ond er pob ymdrech a thynerwch bu farw Awst 9ed, 1849, yn 26 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys-wen. Yr oedd yn ddyn ieuangc gobeithiol, a phe cawsai fyw daethai yn weinidog defnyddiol; ond gwywodd fel blodeuyn pan yn dechreu ymagor.
JOSIAH THOMAS JONES. Ganwyd ef mewn, lle a elwir Cwmhir, yn mhlwyf Clydey, Sir Benfro, Medi 20fed 1799. Pan yn bymtheg oed derbyniwyd ef yn aelod yn y Tabernacl, Narberth. Dechreuodd bregethu ar gais eglwys Llwynyrhwrdd, ac yn nhy Thomas Anthony y pregethodd ei bregeth gyntaf. Wedi bod yn yr ysgol gyda M. S. Griffiths, Horeb, ac wedi hyny gyda M. D. Thomas, Tierscross, derbyniwyd ef Athrofa Newport Pagnell, ac ar derfyniad ei amser yno derbyniodd alwad o eglwys Pendref, Caernarfon, lle yr urddwyd ef Awst 6ed, 1828. Ni bu ei gysylltiad a'r eglwys yno fel i gweinidog ond byr, ond arosodd yn y dref fel argraffydd a chyhoeddydd hyd y flwyddyn pryd y symudodd Ferthyr Tydfil. Yn mhen amser symudodd oddiyno i Bontfaen, ac yn y flwyddyn 1838 symudodd oddiyno i Gaerfyrddin, ac yn yr adeg hono cymerodd ofal yr eglwysi yn Llanybri a Bethesda, lle y bu hyd y flwyddyn 1852, pryd y symudodd i Aberdar, ac yno y bu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn annisgwyliadwy boreu Llun, lonawr 27ain, 1873, yn 74 oed. Claddwyd ef yn nghladdfa newydd Aberdar y dydd Iau canlynol,
389
a dangoswyd gan drigolion y lle barch mawr i'w goffadwriaeth ar yr achlysur.
Nid rhyw lewyrchus iawn fu Mr. Jones yn ei berthynas a'r weinidogaeth. Yr oedd yn meddu gwybodaeth helaeth, a dawn rhwydd, ac yn hollol efengylaidd ei bregethau; ond yr oedd rhyw anwastadrwydd ynddo, yn enwedig yn moreu a chanol ei oes, oedd yn anmharu ei ddefnyddioldeb. Da genym ddeall ei fod yn ei flynyddoedd diweddaf wedi gloywi yn fawr, ac yr oedd gan y rhai a'i hadwaenai oreu feddyliau tyner am dano. Yn nglyn a'r Wasg y bu yn fwyaf llwyddianus i wasanaethu ei oes, ond ychydig elw a wnaeth iddo ei hun trwy ei holl anturiaethau. Dan y dwfr, megis, yr ydoedd bob amser yn ei amgylchiadau, ac etto gwaredwyd ef rhag suddo. Yr oedd yn ddyn diwyd iawn, heb hyny nis gallasai wneyd cymaint o waith. Yn ei oes cyhoeddodd nifer mawr o lyfrau, y rhai gan mwyaf a gyfieithwyd ganddo ef ei hun. Cyhoeddodd "Esboniad Burkit ar y Testament Newydd;" efe gyhoeddodd " Eiriadur Duwinyddol" Mr. W. Jones, Penybontarogwy ; " Anturiaethau Cenhadol John Williams," " Hanes y Nef a'r Ddaear," ond dichon mai y penaf a'r hwn a barodd iddo y llafur mwyaf oedd " Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru," yr hwn sydd yn cynwys cronfa helaeth o wybodaeth. Cyhoeddodd hefyd lawer o lyfrau llai, rhai yn wreiddiol a rhai yn gyfieithiadau, a dygodd allan amryw gyhoeddiadau misol a newyddiaduron yn Gymraeg a Saesneg, a thrwy y cwbl y mae yn ddiamheuol iddo wneyd gwasanaeth anmhrisiadwy i'w genedl.
(Llangynog parish)
Mae y capel yma yn mhlwyf Llangynog, ar y ffordd o Lanybri i Gaerfyrddin. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1773, trwy lafur Mr Thomas Davies, Llanybri, a gwr Nantygof, a gwr y College, a gwr Nantyrhebog, oedd ei brif gynorthwywyr i gario y gwaith yn mlaen. Cafwyd y tir gan Jenkin Morris, o Bantyrathro, Llanstephan, ac y mae mynwent helaeth yn nglyn ag ef, ond fod y tir yn ddyfrllyd. Hen gapel a darn croes iddo ydyw, ond y mae yn ddiweddar wedi ei ad-drefnu, fel y mae yn un cysurus i bregethu a gwrando ynddo. Mae tyddyn bychan wedi ei roddi i fod yn feddiant i'r eglwys at wasanaeth gweinidog Bethesda a Llanybri. Mae y lle yma o'r dechreuad mewn cysylltiad a Llanybri, ac felly y mae yn awr o dan weinidogaeth Mr A. Jenkins.
(Llanstephan parish)
Dechreuwyd yr achos yma mewn canlyniad i'r ymryson a gymerodd le yn yr Hen Gapel yn y flwyddyn 1813, yn achos Mr D. Davies. Llwyddodd Mr Davies a'i gefnogwyr i gadw meddiant o'r capel, ond aeth y nifer luosocaf o'r eglwys allan. Buont yn addoli am ryw gymaint o amser yn nhy William Abel, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys, a chynorthwyid hwy gan y rhan fwyaf o weinidogion y Sir. Ymosodasant yn ddioed at adeiladu capel iddynt en hunain ychydig y tu allan i'r pentref, ac yr oedd yn barod erbyn y flwyddyn 1815. Gwnaed ef yn gapel helaeth, a mynwent eang yn nglyn ag ef. Nis gallasom ddyfod o hyd i ddyddiad ei agoriad, ond agorwyd ef, ac urddwyd Mr John Rowlands, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, yn weinidog i'r eglwys
390
yr un pryd. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Lloyd, Henllan; W. Griffith, Glandwr ; D. Peter, Caerfyrddin; D. Lewis, Aber, ac eraill. Bu Mr Rowlands yma yn egniol a gweithgar, ac yn anarferol o barchus hyd y flwyddyn 1822, pryd y derbyniodd alwad o Gwmllynfell, ac symudodd yno. Bu yr eglwys dros rai blynyddoedd ar ol hyny heb weinidog, ond yn y flwyddyn 1826, rhoddwyd galwad i Mr William James, efrydydd o Athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yma Gorphenaf 27ain y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Lloyd, Henllan ; D. Jones, Cydweli ; D. Davies, Aberteifi ; E. Jones, Trelech; D. Davies, Pantteg ; J. Phillips, Bethlehem ; Ll. Rees, Trewyddel; M. Rees, Pencadair ; B. Rees, Llanbadarn ; E.Davies, Penbre; T. Mortimer, Solfach; a J. Silvanus, Philadelphia. Bu Mr James yma yn ddiwyd a ffyddlon am un-mlynedd-ar-bymtheg-ar-hugain. Yn y flwyddyn 1834, adeiladwyd capel newydd a alwyd Smyrna, ar y ffordd o Llanstephan i Gaerfyrddin, ac aeth nifer o'r aelodau yno i ymffurfio yn eglwys. Cedwid ysgol bob Sabboth, a phregeth yr hwyr, a moddion wythnosol yn er's blynyddoedd mewn ysgoldy bychan yn nglyn a thy Mr James ynLlanstephan; ac yn y flwyddyn 1865 adeiladwyd yno gapel bychan, yr hwn a agorwyd Medi 17eg a'r 18fed y flwyddyn hono. Costiodd 100p. Nid oes yma eglwys etto wedi ffurfio, ond cynhelir yma foddion yn rheolaidd dan nawdd y fam-eglwys. Gelwir y capel yn Bethel. Mae capel bychan arall wedi ei godi rhwng Llanybri a St. Clears, hwn a elwir Capel Cowyn, lle y cynhelir Ysgol Sabbothol bob prydnawn Sabboth a phregeth unwaith yn yr hwyr, a chyfarfodydd gweddio ar y Sabbothau eraill. Llafuriodd Mr James lawer yn y cyrau yma yn mhell cyn adeiladu yr un o'r ddau gapel, a gadawodd yr achos mewn cyflwr tra dymunol. Bu farw yn hollol annisgwyliadwy Gorphenaf 27ain, 1862, yn 61 oed. Cyn pen dwy flynedd rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Thomas Williams, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu; ac urddwyd ef Mehefin 17eg, 1861. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr S. Evans, Hebron ; holwyd y gweinidog gan Mr S. Thomas, St. Clears ; dyrchafwyd yr urdd-weddi ddi gan Mr D. Davies, Aberteifi ; pregethwyd ar Ddyledswydd y Gweinidog gan Mr E. Lewis, Brynberian, ac ar Ddyledswydd yr Eglwys gan Mr D: Evans, Nazareth. Bu Mr Williams yma yn dderbyniol am yn agos i saith mlynedd, hyd nes y darfu ei gysylltiad a'r eglwys, ac wrth weled nad oedd gobaith am i adferiad enciliodd i'r Eglwys Sefydledig, ac y mae yn awr yn Llanbedr yn ymbarotoi i'r offeiriadaeth.
Yn nechreu Ebrill, 1872, Mr. Thomas Lewis, Solfach, ei weinidogaeth yma, ac er i fod er hyny wedi cyfarfod a thrallodion teuluaidd chwerw iawn, etto y mae ei weinidogaeth wedi bod yn hynod o lwyddianus. Derbyniodd uwchlaw triugain i gymundeb yr eglwys y flwyddyn gyntaf o'i lafur yn y lle, ac y mae agwedd gysurus ar yr achos yn ei holl ranau. Mae y capel yn awr wedi ei chwalu, a chyfodir un newydd, harddach, ac eangach yn ei le. Gosodwyd y gareg sylfaen lawr Mehefin 6ed, 1873, gan y foneddiges Mrs W. Morris, Coombe, ae ymddengys y gymydogaeth yn meddu calon weithio er talu am dano. Gresyn na ellid uno y ddau achos yn yr hen gapel a'r capel newydd, fel y byddai yn un achos grymus a nerthol i ddylanwadu er daioni ar y wlad. Disgwyliwn gydag amser mai i hyny y daw. Mae yma amryw deuluoedd cryfion wedi bod yn nglyn a'r achos yma, a choffeir yn arbenig am deulu Glany-fferri, a Mr D. Davies, Pentewyn, fel rhai fu o gefn mawr i'r achos yma.
391
Heblaw rhai o'r pregethwyr a enwyd genym yn nglyn a'r Hen Gapel, rhai gan mwyaf yr oedd eu cydymdeimlad gyda'r Capel Newydd, codwyd y personau canlynol i bregethu yma.
WILLIAM JAMES. Ganwyd ef mewn amaethdy a clwir Cwmcangwell, yn agos i Drewyddel, yn Sir Benfro, yn y flwyddyn 1801. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yn 18 oed, ac anogwyd ef cyn hir i ddechreu pregethu gan weinidog ac eglwys Trewyddel. Aeth i Athrofa Neuaddlwyd, lle treuliodd rai blynyddoedd, a derbyniodd alwad gan eglwys Capel Newydd, Llanybri, ac urddwyd ef yno yn Gorphenaf 1826. Bu yn dra defnyddiol yn y weinidogaeth. Er nad oedd o alluoedd cryfion, nac o ddoniau poblogaidd, etto yr oedd yn nodedig o gymeradwy. Pregethai yn eglur, cryno, ac ysgrythyrol, ac oedd bob amser yn flasus. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf diniwed a chyfeillgar, ac ni byddai ganddo un amser air drwg ac enllibus i'w ddyweyd am neb. Rhodiodd yn ddiargyhoedd yn mysg pobl i ofal, ac y mae ei goffadwriaeth yn berarogl yn yr ardal. Bu yn ddiwyd ac egniol, ac er na chadwodd lawer o drwst gwna waith yn ei oes, ac oedd yn gwir ofalu am bobl ei ofal. yn mhen ychydig flynyddoedd wedi ei sefydliad yn Llanybri priododd a Mrs Richards, gweddw y diweddar Cadben Richards, am yr hwn y crybwyllasom ; a chafodd ynddi wraig hawddgar, garedig, a hynaws, ond ni Pharhaodd yr undeb yn. hir. Wedi ei chladdu hi parhaodd ef yn weddw dros i oes, a bu yn dadmaeth tyner i ferched Mrs James, y rhai oeddynt wedi eu gadael amddifaid. oedd iechyd yn gryf yn ei flynyddedd diweddaf, Serch hyn a wnai yn anhawdd ganddo fyned oddicartref, ond cyflawnai ei ddyledswyddau gyson yn ei gylch gweinidogaethol. Pregethodd dair gwaith y Sabboth, olaf y bu byw, yn y Capel Newydd y
392
boreu, yn Smyrna am ddau, ac yn Llanstephan yn hwyr, ac am ddau o'r gloch yn Smyrna gweinyddodd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Aeth i'w dy a mwynhaodd ei swper fel arferol, ac wrth ei weled yn hir yn codi boreu Llun, aeth ei lysferch i alw arno, ond erbyn myned i'r ystafell yr oedd i ysbryd wedi myned at Dduw yr hwn rhoes. Bu farw Gorphenaf 27ain, 1862, yn 61 oed - un-mlynedd-ar-bymtheg-ar-hugain i'r diwrnod yr urddwyd ef. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol yn mynwent Capel Newydd, a dangoswyd parch i'w goffadwriaeth gan yr holl wlad ar ddydd ei angladd.
(Llangain parish)
Mae y capel hwn yn mhlwyf Llangain, ac yn agos i haner y ffordd rhwng Llanstephan a Chaerfyrddin. Yr oedd amryw aelodau o'r ardal yma yn cyrchu i'r Capel Newydd er cychwyniad yr achos yno, er fod Bethesda yn llawer nes iddynt. Wedi pregethu mewn amryw dai anedd yn y gymydogaeth, adeiladwyd yma gapel yn y flwyddyn 1834, a daeth yma yn fuan achos siriol iawn. Yn y flwyddyn adeiladwyd a helaethwyd y capel, yr hyn a gostiodd yn agos i 200p., ac, yr oedd yn mron yr oll o'r ddyled wedi ei thalu erbyn fod y capel yn barod. Agorwyd ef Medi 19eg a'r 29fed, 1865. Mae yr achos yn parhau fyned rhagddo. Gwelir egni a gweithgarwch yn yr aelodau, ac y mae llawer o bobl ieuaingc nid yn unig wedi cymeryd lle eu tadau, ond hefyd yn meddu eu hysbryd. Mae y lle o'r dechreuad mewn cysylltiad gweinidogaethol a Chapel Newydd, Llanybri, ac felly y mae yn parhau. Codwyd yma pregethwr, sef J. Charles, yr hwn sydd yn awr yn fyfyriwr yn Athrofa y Bala.
(Merthyr parish)
Mae y capel hwn yn mhlwyf Meidrym, o fewn pedair milldir i Gaer- fyrddin, ar ochr y ffordd i St. Clears. Nid ymddengys fod un cynyg wedi ei wneyd i bregethu yn yr ardal brydferth yma cyn y flwyddyn 1815, er fod yma rai aelodau cyn hyny yn cyrchu i'r eglwysi cylchynol, megis Llanybri, Bethlehem, Caerfyrddin, a Bwlchnewydd. Ychydig amser cyn y flwyddyn a enwyd yr oedd James Thomas, yr hwn oedd yn aelod yn Nghaerfyrddin, a Jonah Thomas, Bancyfelin, yr hwn oedd yn aelod Llanybri, wedi dechreu cynal cyfarfodydd gweddi o dy i dy ar brydnhawn Sabboth. Parhausant felly dros dymor heb gael fawr gefnogaeth. flwyddyn 1815 gwahoddasant David Jones, pregethwr cynorthwyol yn Ffynonbedr, i ddyfod ar un prydnhawn Sabboth, i bregethu i Lwynderw a dyna y bregeth gyntaf y mae genym hanes am dani gan Annibynwr yn yr ardal. Yn fuan daeth Theophilus Davies, pregethwr cynorthwyol yn Bwlchnewydd, i bregethu i'r un lle. Agorwyd tai ereill yn fuan, ac ymwelwyd a'r ardal gan bregethwyr eraill. Lluosogodd y gwrandawyr, ac wedi ymgynghori a gweinidogion cymydogaethol calonogwyd y cyfeillion i'r fath raddau fel y meddyliasant am adiladu capel. Cafwyd tir gan Mr. Hamilin Williams, a chodwyd y capel yn y flwyddyn 1820. , oedd Theophilus Davies yn gwithio gyda'r ychydig frodyr oedd yma a holl egni. Ffurfiwyd yma eglwys gan Mr D. Peter, Caerfyrddin, yn
[Gareth Hicks 13 Nov 2008]
Find help, report problems, and contribute information.
| Copyright © GENUKI and Contributors 1996
to date |