GENUKI Home page
Carmarthenshire Carmarthenshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

Carmarthenshire section (Vol 3)

 

  Pages 393 - 406

 

See main project page

Proof read by Eleri Rowlands (March 2008)

Chapels below;
  • (Continued) Cana (Merthyr parish)
  • GIBEON  (Meidrym parish)  

 


Pages 393 - 406

393

(Continued) Cana (Merthyr parish)

nechreu y flwyddyn 1821; ac yn fuan amlygodd Mr. Theophilus Davies ddymuniad cryf am gael ei urddo yn weinidog yn y lle. Yr oedd yn amaethwr parchus, a boddlonodd gymeryd arno ei hun holl ddyled y capel, yr hon ydoedd tua 150p. Gwrthwynebai Mr. Peter a'r gweinidogion agosaf ei urddo oblegid mai dyn hollol anllythrenog ydoedd; ond wrth weled awydd yr ardal am hyny daeth Meistri H. George, Brynberian; S. Skeel, Trefgarn; W. Griffith Glandwr; a J. Evans, Penygroes, i fyny o sir Benfro i'w urddo yn y flwyddyn 1823. Bu Mr. T. Davies yn ddiwyd a llafurus, a llwyddianus iawn yn y weinidogaeth yma er byred ei gyrhaeddiadau ac er cyfynged ei wybodaeth. Yr oedd yr eglwys - yr hon nad oedd ond pump o aelodau ar ei ffurfiad yn 1821 - wedi cynyddu i ddau gant erbyn y flwyddyn 1841; ac yn eu plith rai o amaethwyr mwyaf cyfrifol yr ardal; ac yr oedd yr achos yn ei holl ranau mewn gwedd lwyddianus.  Bu yr hen weinidog farw Chwefror 12fed, 1843, yn 71 oed. Wedi bod am flwyddyn heb weinidog rhoddasant alwad i Mr. David Phillips, mab Dr. Phillips, Neuaddlwyd, a bu yma yn ddiwyd a ffyddlon am yn agos i dair-blynedd-ar-ddeg. Gwaelodd ei iechyd, a bu farw Tachwedd 29ain, 1856, yn 46 oed. Yn nechreu y flwyddyn 1859  unodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Gibeon i roddi galwad i Mr. Abednego Jenkins, Brynmair, a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Mai 17eg, 18fed a'r 19eg y flwyddyn hono. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jenkins adeiladwyd yma gapel newydd cyfleus iawn, a dangosodd yr eglwys a'r ardalwyr oll ffyddlondeb mawr yn nglyn a'i adeiladiad. Wedi llafurio yma am ddeng mdynedd rhoddodd Mr. Jenkins yr eglwys i fyny, ac y mae yn awr yn gweinidogaethu yn Hen Gapel Llanybri, a Bethesda; ac y mae yr eglwys hon hyd yma yn amddifad o weinidog. Bu yma lawer o bobl ffyddlon a gofalus am yr achos, yn mysg y rhai y gellir enwi Jonah Thomas, James Thomas, Thomas Adams, ac eraill; ac nid yn fuan yr anghofir caredigrwydd teuluoedd y Derllys,  Bragdy, Maespieor, Capel,  Penplas, a Nantyrhebog, y rhai ydynt oll erbyn hyn wedi myned i ffordd yr holl ddaear, er fod hiliogaeth rhai o honynt etto yn glynu yn ffyddlon wrth yr achos yn y 1le.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

THEOPHILUS  DAVIES. Ganwyd ef yn mhlwyf Abernant yn y flwyddyn 1772. Ni chafodd ddim manteision addysg yn foreuol, ond derbyniwyd ef yn aelod yn Bwlchnewydd gan Mr. Thomas Davies, pan oedd yn gydmarol ieuangc. Yr oedd ganddo ddawn gweddi nodedig, ac yr oedd yn ganwr rhagorol yn yr hen ddull. Dilynai y cyfarfodydd gweddi oedd o dy i dy bob nos Fawrth yn rheolaidd, ac ni chai na thywydd garw na phellder ffordd ei atal. Dechreuodd bregethu, ac yr oedd gan ei hen Weinidog serch mawr tuag ato, oblegid ei fod bob amser mor barod i'w wasanaethu. Dyn anllythrenog hollol ydoedd. Ni fedrai gymaint a darllen penod yn gywir, ac yn aml gwnai y  camgymeriadau mwyaf gwrthun; ond yr oedd rhwyddineb ei ddawn, a gwresawgrwydd ei ysbryd, a phereidd-dra ei lais yn peri ei fod yn dderbyniol iawn gan ddosbarth 1luosog o'i wrandawyr. Yr oedd wedi meddwl y cawsai alwad i fod yn Weinidog yn Bwlchnewydd wedi marwolaeth Mr. Davies; a theimlodd yn dramgwyddus iawn pan y rhoddwyd galwad i Mr. J. Bowen, Saron.

394  

Ar ol hyny y trodd ei wyneb tuag ardal Cana, ac ymgymerodd a chodi achos ynddo a llwyddodd i gael ei urddo yno. Yr oedd yn ddyn diniwed a diddichell hollol, ac nid oedd dadl yn meddwl neb am ddidwylledd ei grefydd. LIafuriodd yn ddyfal yn Cana yn hollol ar ei draul ei hun, a gwelodd ffrwyth lawer i'w ymdrechion. Adroddodd yn Nghynadledd Cymanfa Bwlchnewydd yn y flwyddyn 1841 hanes y diwygiad oedd wedi cymeryd lle yn Cana nes gwfreiddio pawb yn y lle. Bu am rai blynyddoedd yn cyrchu yn fisol i Salem, gerllaw Liandilo ac yr oedd gofal yr eglwys hono arno, ond rhoddodd hi i fyny oblegid  pellder ffordd; ond yr oedd coffadwriaeth parchus iddo gan yr hen bobl yno. Pregethai yn fisol yn Bwlchnewydd am lawer o flynyddoedd, ac wedi hyny yn Blaenycoed; ac yr oedd yn hoff iawn o holi yr ysgolion, ond mai y cwestiynau symlaf a ofynai iddynt. Llwyddodd trwy ei ddiwydrwydd i gasglu cryn lawer o'r byd, ac yr oedd Penrhiw, lle yr oedd yn byw y rhan olaf o'i oes, yn eiddo iddo; er iddo trwy ei ddiniweidrwydd gael ei ddrygu yn fawr yn ei amgylchiadau. Priododd, ond ni bu plant iddo  ac yr oedd ei wraig yn mhell o fod yn "ymgeledd gymhwys iddo."* Yr oedd ynddo ymlyniad cryf wrth yr achos yn Cana ac yr oedd gan yr eglwys yno barch dwfn iddo yntau er eu bod yn teimlo ei fod yn ei flynyddoedd, diweddaf yn anghymwys oherwydd methiant a phalldod ei gof  i gyflawni ei weinidogaeth. Bu farw Chwefror 12fed, 1843, yn 71 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Cana, a phregethwyd yn ei angladd gan Mr. D. Davies, Pantteg.

DAVID PHILLIPS. Ganwyd ef Mehefin 14eg, 1810, yn Penybarc yn mhlwyf Hen Fenyw, yn sir Aberteifi. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Neuaddlwyd, dan ofal ei dad, pan yn bedair-ar-ddeg oed, a phan yn ddeunaw oed dechreuodd bregethu. Aeth i Athrofa Drefnewydd yn y flwyddyn 1829, lle yr arhosodd rai blynyddoedd. Bu am yspaid ar ol hyny yn aros yn Llanelltydfawr.  Yn 1838, urddwyd ef yn weinidog yn Sardis a Myddfai, gerllaw Llanymddyfri.  Darfu ei gysylltiad a'r eglwys yno yn mhen dwy flynedd, a dychwelodd adref.  Yn mhen amser aeth i Dinas Powys, gerllaw Caerdydd, ac arosodd yno dros ychydig, ac oddiyno cafodd alwad cyn diwedd y flwyddyn 1843, o Cana, lle yr ymsefydlodd ac y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd Mr. Phillips yn ddyn hardd, o ymddygiad boneddigaidd, o dymer lednais, ac o ddawn melus; ond yr oedd yn amddifad mewn nerth corfforol a phenderfyniad meddyliol. Bu yn gysurus a defnyddiol yn Cana, a chafodd lawer o garedigrwydd gan bobl ei ofal. Nychodd ei iechyd yn raddol, a bu farw Tachwedd 29ain, 1856, yn 46 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Cana, a gadawodd weddw a nifer o blant amddifaid i alaru ar ei ol.

 

GIBEON

 (Meidrym parish)

Mae y capel yma yn mhlwyf Meidrym. Arferai Mr. Phillips, Bethlehem, bregethu yn achlysurol yn yr ardal, ac yr oedd yma rai o aelodau Bethlehem, a rhai o aelodau Ffynonbedr yn byw yma. Yn y flwyddyn 1840, penderfynwyd adeiladu capel bychan er cyfleustra y gymydogaeth.

David Thomas, Bronhaul; John Phillips, Penlan; a John Williams, Warwenallt, oedd y rhai a gymerent y llaw flaenaf yn y gorchwyl, ac o'r gweinidogion Mr. Owens, Bwlchnewydd, oedd eu prif gynorthwywr; a phregethodd ef lawer mewn gwahanol dai yn yr ardal. Agorwyd y capel yn nechreu y flwyddyn 1841. Ni bu yma yr un gweinidog sefydlog hyd

395

ddechreu y flwyddyn 1844, pryd y cymerodd Mr. E. Jones, Ffynonbedr, ofal y lle, a chynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Chwefror 14eg a'r 15fed, a bu yma am fwy na phedair blynedd. Yn 1849, cymerodd Mr. J. Thomas ofal yr eglwys mewn cysylltiad a Bwlchnewydd, a pharhaodd yn nglyn a Bwlchnewydd hyd ymadawiad Mr. M. D. Jones i'r Bala,  yn y flwyddyn 1855. Bu yr eglwys dan ofal Mr. A. Jenkins o'r flwyddyn 1859 hyd 1872  pryd y rhoddodd hi i fyny, ac y cymerodd ofal Llanybri. Mae yma gapel newydd prydferth wedi ei godi, a bu Mr. Jenkins a'r eglwys yn ddiwyd iawn i'w gael i ben ac i dalu am dano. Mae y rhan fwyaf o'r aelodau a ddechreuodd yr achos wedi eu symud ymaith gan angau, ond y mae yma eraill wedi codi i gau y bylchau. Codwyd yma un pregethwr, sef David Lewis, yr hwn sydd yn parhau yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys.

 

TRELECH

Mae yr eglwys barchus a lluosog hon yn un o'r canghenau cryfaf a dorodd allan oddiar yr hen gyff yn y Palmawr. Arferai amryw o'r plwyf hwnw gyrchu yno i gymundeb yn nyddiau Mr. Stephen Hughes, ac er mwyn cyfleustra i'r rhai hyny ac eraill a breswylient yma, deuai yntau yn achlysurol yma i bregethu i dy bychan mewn lle a elwir y Dinas; ac yn mhen amser ffurfiwyd yr aelodau hyny yn eglwys. Nis gallasom gael allan ddyddiad ei ffurfiad ond tueddir ni i gredu iddi gael ei chorpholi gan Mr. Stephen Hughes ryw ychydig cyn ei farwolaeth. Ymddengys mai dan yr un weinidogaeth a Henllan y bu dros yspaid. Yr oedd Thomas Jones, Glanffrwd, yr hwn wedi hyny a fu yn weinidog yn Drefach, yn aelod o'r eglwys yma, a dywedir yn "Hanes Crefydd yn Nghymru," fod yn debygol fod Lewis Richards, Fronlas, yn un o'r aelodau a ymffurfiasant yn eglwys yma. Adeiladwyd capel bychan yn y man lle y saif y capel presenol yn gynar  yn y ddeunawfed ganrif, ac ymddengys fod y cysylltiad wedi ei dori rhyngddynt a Henllan cyn yr ymraniad a gymerodd le yno yn y flwyddyn 1707.

Tueddir ni i feddwl mai y gweinidog cyntaf a fu yma oedd Mr. Lewis Richards, Fronlas, oblegid dywed Mr. Peter yn "Hanes Crefydd yn Nghymru," iddo farw yn y flwyddyn 1708; ac yn y flwyddyn hono dywedir i Mr. David Jenkins, Crugymaen, ddyfod yma yn weinidog. Mae traddodiad wedi treiglo  o oes, i oes, fod y ddau wr a enwyd yn ddynion syml a chrefyddol, yn bregethwyr cymeradwy, ac yn fugeiliaid gofalus. Nid oes, dim wedi ei adael ar gof a chadw hyd y flwyddyn 1750, pryd y derbyniodd Mr. John Davies, Ffynondafolog, aelod gwreiddiol o'r eglwys hon, ond a urddasid yn Nghastellnedd ddeng mlynedd cyn hyny, alwad oddiyma, a'r hon y cydsyniodd, a bu yma yn ffyddlon hyd ei farwolaeth Mawrth 27ain 1765. Yn nhymor ei weinidogaeth ef ail-adeiladwyd  a helaethwyd y capel. Yn mhen dwy flynedd wedi ei farwolaeth rhoddwyd galwad i Mr. Owen Davies, Crofftycyff, - Ffaldybrenin yn awr - a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn y flwyddyn 1767. Llafuriodd yma gyda mesur helaeth o lwyddiant am ugain mlynedd, pryd yn anhapus iddo ei hun ac i'r eglwys yr ymyrodd a chynen mewn eglwys arall, a thrwy hyny tynodd fyd o ofid am ei ben. Llettyodd rhai personau o gryn ddylanwad yn eglwys Glandwr olygiadau croes i eiddo y rhan fwyaf o'u cydaelodau, ar rai o brif athrawiaethau yr efengyl; ac wedi i bob moddion fod yn aneffeithiol

396  

i'w ddychwelyd i'r hen ffordd dda, penderfynodd yr eglwys eu diarddel. Daeth, y rhai hyn i gydnabyddiaeth a Mr. Davies, Trelech, ac er na ddrwg-dybid ef o fod o'r un golygiadau a hwy, etto ystyriai fod y ddysgyblaeth a  weinyddwyd arnynt yn rhy lym, ac arwyddodd barodrwydd i'w derbyn i'r eg1wys yn Nhrelech. Safodd yr eglwys yn erbyn hyny gan eu bod yn hollol o'r un farn a'r eglwys yn Glandwr ar y pyngciau mewn dadl; yr hyn a barodd deimladau blin rhwng Mr. Davies a'i bobl. Aeth ef allan a rhyw ychydig nifer gydag ef  ac wedi pregethu am ychydig yn ei dy ei hun y diwedd fu i'r rhai a. fwriwyd allan o Glandwr godi capel iddynt eu hunain yn Rhydparc ac aeth Mr. Davies yno yn weinidog iddynt; a dilynwyd ef gan ychydig o'i gefnogwyr mwyaf selog. Effeithiodd yr amgylchiad yma yn fawr ar yr eglwys hon fel y collodd lawer o'r tir oedd wedi ei enill yn yr ugain mlynedd blaenorol.

Cyn diwedd y flwyddyn 1788, rhoddwyd galwyd i Mr. Morgan Jones, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn ysgol Mr. Griffith, Glandwr; ac urddwyd ef Mawrth 13eg, 1789. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri; T. Thomas,,Pentretygwyn;. J. Griffith, Glandwr; B. Evans, Drewen; T. Davies, Pantteg; R. Morgan, Henllan; D. Peter, Caerfyrddin; I. Price, Llanwrtyd; S. Lloyd, Brynberian; P, Morris, Tynygwndwn; W. Gibbon, Neuaddlwyd; D. Davies, Abertawy; J. Davies, Alltwen, ac eraill. Nid oedd Mr. Jones ond 22 oed pan ddechreuodd ei weinidogaeth, ac yr oedd yn edrych yn fachgenaidd iawn; ac er fod yr eglwys yn mhell o fod mewn agwedd galonogol, ni bu yn hir heb ddychwelyd i'w mwynder blaenorol. Ymroddodd trwy lwyrfryd calon i'w waith ac yr oedd wedi ei gyfaddasu gan natur a gras i'r maes eang yr arweiniwyd ef iddo gan Ragluniaeth.. Taflodd ysbryd crefyddol i'r holl eglwys, sefydlodd gyfarfodydd gweddio yn ngwahanol ranau y wlad, a phregethai ei hun yn mhob cwr mor aml ag y gallai. Yr oedd Capel Iwan wedi ei adeiladu yn flaenorol i'w sefydliad ef yn Nhrelech, ond ail adeiladwyd ef yn ei amser yntau, a chodwyd capeli newyddion yn Ffynonbedr, Blaenycoed, a Llwynyrhwrdd, yn y rhai y sefydlodd eglwysi blodeuog.  Sefydlwyd Żsgolion Sabbothol mewn gwahanol fanau, a gosodai y rhai hyny i ddysgu pyngciau, a dyfod yn eu tro i Drelech i'w hadrodd ar foreu Sabboth. Dywedir iddo yn. ystod y chwe'-blynedd-a-deugain y bu yn gweinidogaethu yma dderbyn oddeutu dwy fil a phedwar cant o bersonau i gymundeb. Mwynhaodd yr eglwys amryw dymhorau o ddiwygiadau grymus; ac yn enwedig bu y flwyddyn 1829 yn un nodedig i gofio Sion. Derbyniwyd ar un Sabboth cymundeb chwech-ugain o aelodau, ac o ugain i driugain ar Sabbothau eraill, fel y derbyniodd i'r eglwysi dan ei ofal yn nghorff y flwyddyn hono bedwar cant o eneidiau. Ail-adeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn addoldy eang a chadarn, ac ymgasglai yr holl wlad iddo.

Gan fod y gwaith yn trymhau ac yntau  yn heneiddo amlygodd ddymuniad am i'w fab, Mr. Evan Jones, yr hwn a ddygasid i fyny yn Athrofa Caerfyrddin, i gael ei ddewis i gydlafurio ag ef. Cynhaliwyd cyfarfodydd yr urddiad Tachwedd l7eg a'r l8fed, 1824. Ar yr achlysur  pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. L. Jones, Athraw Ieithyddol Athrofa Caerfyrddin. Holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Phillips,  Neuaddlwyd. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. M. Jones, Trelech. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin, ac i'r eglwys gan Mr. T. Phillips.*  Bu y ddau yn cydlafurio hyd farwolaeth y tad, yr hyn a

* Disgedydd 1825, Tudal 153

397

gymerodd le Rhagfyr 23ain, 1835; ond bu y gofal ar Mr. Evan Jones dros yspaid wedi hyny, hyd nes y symudodd i Ruscombe, yn swydd Caerloyw.

Yn y flwyddyn 1839, rhoddwyd  galwad i Mr. David Hughes, Casnewydd a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sfydliad yn Nhrelech a Blaenycoed, Mehefin l1eg, l2fed, a'r 13eg y flwyddyn hono. Nid oedd yr eglwys ar ei ddewisiad yn gwbl unol, ond ni bu yn hir cyn enill yr holl wlad yn ei ffafr. Yr oedd ei ddawn yn hollol wahanol i'w ragflaenydd, and yr oedd nodwedd ei addysg a'i weinidogaeth y fath ag a wnaeth les dirfawr i'r eglwys yn y cyfnod hwnw. Creodd ymchwiliad ac ysbryd darllengar mewn llawer oedd hyd hyny yn lled ddifeddwl, a pharhaodd y gynnulleidfa yn gref a lluosog trwy holl ystod ei dymor yn y lle. Rhoddodd ei " Holwyddoreg" symbyliad effeithiol i lawer o feddyliau, y rhai a deimlant oddiwrth ei ddylanwad hyd y dydd hwn. Parhaodd yr eglwys i fyned rhagddi, fel yn yspaid deng mlynedd ei weinidogaeth y derbyniwyd rhwng Trelech a Blaenycoed tua saith gant o aelodau newyddion. Gwaelodd ei iechyd yn raddol, a bu farw Chwefror 20fed, 1849, yn 49 oed.

Wedi bod ychydig gyda dwy flynedd heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. Isaac Williams, Brynteg, Sir Forganwg; a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma ac yn Llwynyrhwrdd, Gorphenaf laf, 2il, a'r 3ydd, 1851. Llafuriodd Mr. Williams yma yn ddiwyd a chymeradwy am un-flynedd-ar-hugain, ac yn y flwyddyn 1872 symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Pantteg a Horeb, gerllaw Caerfyrddin. Mae yr achos wedi parhau yn ei nerth, a llawer o'r gwresawgrwydd oedd yn yr eglwys gynt yn aros ynddi etto. Mae yr eglwys yma wedi bod bob amser yn nodedig am ei heddwch a'i thangnefedd. Nid ydym yn gwybod am un ymryson o bwys a fu ynddi trwy ei holl hanes, ond yr un y cyfeiriasom ati yn nhymor gweinidogaeth Mr. Owen Davies. Anhawdd cael un eglwys yn fwy parod i estyn help i achosion dyeithr, ac i syrthio i mewn a pha symudiad cyhoeddus bynag fyddo yn yr enwad. Mae bywiogrwydd crefyddol wedi bod yn un o'r nodweddion arbenig, ac er o bosibl nad yw hyny mor amlwg ag y bu, etto nid yw y tān wedi llwyr ddiffodd ar ei haelwyd; a hwyrach mai i hyny y gellir profi fod ynddi gynifer o bobl mor nodedig mewn doniau gweddi, a chynifer o bregethwyr wedi cyfodi o honi. Anhawdd genym feddwl fod un gymydogaeth yn Nghymru lle y mae cymaint o bregethu wedi bod mewn anedd-dai yn ystod y triugain mlynedd diweddaf ag a fu yn y gymydogaeth hono, ac i hyny yr ydym yn priodoli fod y wlad wedi ei darostwng mor llwyr gan yr Efengyl. Mae yma lawer o bersonau a theuluoedd sydd wedi bod yn swcwr mawr i'r achos yma o bryd i bryd, ac nid yn fuan yr ā yn anghof garedigrwydd hen deuluoedd Ffynonwen, Garegwen, Crosffau, Crugiwan, Glanrhyd, Fronlas, Plasparciau, Rhydcarnarfon, Godreudewi, Siop, a llu yn ychwaneg nas gallwn yma eu crybwyll.

Codwyd yma luaws o bregethwyr o bryd i bryd, a daeth llawer o honynt i gyhoeddusrwrdd a dylanwad mawr yn yr enwad. Dyma y rhestr gyflawnaf a allasom gasglu :

398

* Llythyr Mr. T, D, Jones, Pontystyllod.

399

Nis gallwn sicrhau fod y rhestr uchod yn gyflawn, ond parodd i ni lawer o lafur i'w chael fel y mae, ac yr ydym yn ddyledus iawn i'n hanwyl frawd Mr. Davies,  Llandilo, am ei gymhorth i'w gwneyd i fynu. Mae enwau Evan Davies, John Owens, Thomas Jones, a John Williams, gan Mr. S. Griffiths, Horeb, yn Nghofiant Mr. Morgan Jones, fel rhai a fu yn bregethwyr cynorthwyol yn yr eglwys hon, ond nid oes genym unrhyw wybodaeth pellach am danynt.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

LEWIS RICHARDS, Fronlas. Nid oes genym ddim i'w ddyweyd am dano, ond a ddywedasom eisioes. Yr oedd fel y tybir yn un o aelodau gwreiddiol yr eglwys, ac y mae yn debyg mai efe oedd y gweinidog cyntaf a urddwyd yn y lle. Yr oedd yn wr duwiol, a llafurus iawn yn y weinidogaeth. Bu farw yn y flwyddyn 1708.*

DAVID JENKINS, Crugymaen. Bydd genym air i'w ddyweyd am dano ef pan ddeuwn at hanes Ffaldybrenin.

JOHN DAVIES.  Ganwyd ef yn y flwyddyn 1714, yn Ffynondafolog, ac efe oedd etifedd y lle hwnw, ac amryw o diroedd eraill. Ymunodd yn ieuangc a'r eglwys yn Nhrelech, lle y dechreuodd bregethu, a derbyniwyd ef i'r Athrofa yn Nghaerfyrddin. Wedi gorphen ei amser yno derbyniodd alwad o Gastellnedd, ac urddwyd ef yno yn y flwyddyn 1710. Wedi llafurio yno am ddeng mlynedd derbyniodd alwad oddi wrth ei fam eglwys yn Nhrelech, a symudodd yno i fyw, a thrigodd yn nhreftadaeth ei hynafiaid yn Ffynondafolog. Coffeir am dano fel gweinidog ffyddlon a diwyd a phregethwr cymeradwy gan ei wrandawyr. Mae

*Hanes Crefydd yn Nghymru.

400

llawer iawn o'i hiliogaeth etto yn aros ac yn glynu wrth yr Arglwydd. Merch iddo ef oedd Sarah, gwraig  Mr. Thomas Davies, Pantteg. Bu farw Mawrth 27ain, 1765, yn 49 oed. Mae orwyr iddo yn byw yn awr yn Ffynondafolog; ac yr oedd ei weddw, Mrs. Gwenllian Davies, yn fyw yn y flwyddyn 1812, ac y mae ei hewyllys a wnaed y pryd hyny yn awr ger ein bron.

OWEN DAVIES. Ganwyd ef mewn coty bychan ar dir Erwyon, yn agos i Ffaldybrenin, yn y flwyddyn 1719. Bu y diweddar Mr. Rees Jones, Ffaldybrenin, yn byw yn Erwyon am  ddeugain mlynedd, ac arferai ddangos y cae ar ba un y safai y coty lle y ganwyd Owen Davies. Yr oedd yno Bandy, ac y mae hen redle y dwfr at y felin bān i'w gweled etto, er fod y coty a'r pandy wedi eu hen chwalu. Ymunodd a'r eglwys yn Croftycyff pan yn ieuangc, a dechreuodd bregethu pan yn bedair-ar-hugain oed. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1742,* i fod yn gydweinidog a Mr. Phillip Pugh. Llafuriodd yno hyd y flwyddyn 1768, ac yr oedd yn ddefnyddiol yn y wlad fel ysgolfeistr yn gystal ag yn gymeradwy fel pregethwr. Yn y flwyddyn a nodwyd derbyniodd alwad o Gapel y Graig, Trelech, a bu yno yn dra llwyddianus am ugain mlynedd, hyd nes yn anffodus y cymerodd blaid nifer o ddynion a dorwyd allan o eglwys Glandwr oblegid eu bod yn gwyro yn eu barn ar rai o brif wirioneddau yr efengyl. Nid oedd neb yn amheu iachusrwydd ei olygiadau ef, ond beiid ef am gymeryd plaid y rhai y credid eu bod yn cyfeiliorni oddiwrth y gwirionedd, ac yn enwedig am y mynai eu derbyn i'r eglwys yn erbyn barn a theimlad mwyafrif yr aelodau. Cauwyd y drws yn ei erbyn, ac wedi codi capel Rhydyparc bu yn gweinidogaethu yno dros weddill ei oes. Diau iddo gael ei dwyllo yn y bobl y cymerodd eu plaid, a'u bod wedi gwyro yn llawer pellach yn eu golygiadau nag yr oedd efe erioed wedi meddwl, oblegid trodd rhai o honynt allan yn Ariaid ac yn Sosiniaid; a chydnabyddodd ei gamgymeriad cyn ei farw, a dymunodd gael ei gladdu yn mynwent Capel y Graig, Trelech, ac felly y bu, er fod bedd wedi ei dori iddo yn mynwent Rhydyparc.

MORGAN JONES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1768, mewn lle a elwir Troedyrhiw, Cwmyglyn, yn mhlwyf Llywel, sir Frycheiniog. Yr oedd ei dad, Evan Jones, yn amaethwr bychan diwyd a gonest; ond nid oedd yn aelod eglwysig; ond yr oedd ei fam yn wraig ragorol am ei duwioldeb, ac yn aelod yn Nghefnarthen. Efe oedd eu hunig blentyn. Cafodd ychydig addysg ddyddiol yn ei febyd, a phan yn ddeuddeg oed aeth i wasanaeth Phillip Thomas, un o aelodau Cefnarthen. Symudodd yn mhen dwy flynedd at un Morgan Davies; a chan nad oedd plant gan hwnw cymerodd hoffder neillduol ynddo, ac ymddygodd tuag ato fel pe buasai yn fab iddo. Yn y teuluoedd hyn daeth i deimlo argraffiadau crefyddol dwys ar ei feddwl, a derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr. Peter Jenkins. Dangosodd yn fuan fod ynddo gymhwysderau pell uwchlaw y cyffredin, a dechreuodd ei ddoniau mewn gweddi ymddadblygu, ac yr oedd ganddo y fath gof i adrodd y pregethau a wrandawai fel y cymhellwyd ef i bregethu, a daeth yn fuan yn dra chymeradwy trwy holl gylch ei adnabyddiaeth. Aeth i'r ysgol i Landwr, dan ofal Mr. J. Griffith, lle yr oedd nifer o wyr ieuaingc yn ymbarotoi at y weinidogaeth; ac yno ymroddodd yn ddiwyd i gyfaddasu ei hun i'r gwaith oedd o'i flaen. Derbyniodd alwad gan eglwysi Trelech a Chapel Iwan. Yr oedd y lle olaf hyd hyny*

*Non Parochial Record Office

401

mewn cysylltiad a Glandwr, a than ofal ei athraw, Mr. Griffith, yr hwn a roddodd y lle i fyny ar fynediad Mr. Jones i Drelech. Urddwyd ef Mawrth 13eg, 1789. Dechreuodd ei weinidogaeth o ddifrif, ac ymglymodd yr eglwys ag yntau yn eu gilydd yn ddioed gyda serch anarferol. Cydgyfranogasant yn fuan o'r gwres oedd mor nodedig ynddo, a daethant i gydymdrech gydag ef mewn gweddiau am lwyddiant ar ei weinidogaeth, ac nid hir y buont heb gael arwyddion boddhaol fod "llaw yr Arglwydd gyda hwynt, a nifer mawr yn credu ac yn troi at yr Arglwydd."

Gan i ni gyfeirio at lafur gweinidogaethol Mr. Jones eisioes yn nglyn a hanes yr eglwys, nid rhaid i ni ail grybwyll hyny yma. Ond nid i'w faes cartrefol yn unig y cyfyngai ef lafur. Bu llaw ganddo mewn cysylltiad a Mr. Morgans, Henllan, yn sefydliad amryw o'r eglwysi yn rhanbarth Seisnig sir Benfro, a dyoddefodd lawer o'i anmharchu yn ei ymdrech i bregethu yr efengyl mewn conglau tywyll. Yr oedd yn un o'r offerynau blaenaf yn sefydliad yr achos Cymreig yn Llundain . Cyrchai yno vn fynych pan yr oedd myned. i'r brif ddinas yn rhywbeth gwahanol iawn i'r hyn yw yn ein dyddiau ni; a dadleuodd hawliau yr eglwys fechan yno,yn hyawdl ger bron eglwysi Cymru. Yr oedd yn ddyn o ysbryd cyhoeddus, ac ar ffurfiad y Gymdeithas Genhadol yr oedd yn un o'i phrif gefnogwyr. Bu ei godiad ef a Mr. Davies, Llangeler, ac un neu ddau eraill yn ddechreuad cyfnod newydd ar yr enwad Annibynol yn Nghymru. Yr oedd eu hysbryd cyhoeddus, a'u hawydd i ledaenu yr achos, yn nghyd a. nodwedd gyffrous eu gweinidogaeth, yn .peri fod yr eglwysi yn edrych i fyny atynt fel eu harweinwyr. Edrychid ar Mr. Davies fel y blaenaf yn yr enwad yn ei oes fel pregethwr doniol a gweinidog gweithgar, ac yr oedd Mr. Jones wedi cyfranogi yn helaeth o'r un elfenau; a'r ysbryd rhagorol oedd ynddo oedd ei hynodrwydd. Mae y rhai a gafodd gyfle i'w adnabod oreu yn ein sicrhau ei fod wedi ei gynysgaeddu a chymhwysderau neillduol, o ran ei gorff, ei feddwl, a'i ysbryd, i waith y weinidogaeth.

Yr oedd o ran ei gorff o faintioli cyffredin, yn hardd a lluniaidd, ond yn dew a chorffol. Yr oedd ei wyneb yn serchog ac agored, a rhyw sirioldeb gwastadol yn ei wedd, fel yr oedd yn hoffus i edrych arno. Er ei fod yn ddoeth, a synwyrol, etto nid oedd ystrywiau a dichellion yn llechu yn ei fynwes, na neb yn ofni fod perygl iddo eu bradychu ar ol troi ei gefn arnynt. Teimlid yn ei bresenoldeb nad dyn cyffredin ydoedd, ac yr oedd rhyw fawreddigrwydd yn ei ymddangosiad a brofai ei fod wedi ei eni i fod yn un o dywysogion y ddynoliaeth. Yr oedd yn ddyn nodedig yn ei gymdeithas, ac yn meddu ar allu i droi pob cyfeillach y byddai ynddi i adeiladaeth. Ni adawai unrhyw dy 1le yr elai iddo heb ymdrechu gwneyd rhywbeth dros ei Arglwydd yno, a chafodd lawer o brofion yn ei oes, nad aeth ei lafur felly yn ofer. O ran ei olygiadau duwinyddol yr oedd yn Galfin lled uchel, ac wedi darllen cryn lawer ar weithiau rhai o'r hen Buritaniaid. Nis gellir dyweyd ei fod yn dduwinydd dwfn, ond yr oedd yn hollol efengylaidd, ac arswydai  rhag i ddim gymylu gras Duw yn nghadwedigaeth pechadur. Yr oedd yn wrthwynebydd penderfynol i olygiadau duwinyddol Dr. Williams ac Andrew Fuller, ac ofer oedd i neb o bleidwyr yr hyn a elwid yn System Newydd ddisgwyl unrhyw gymeradwyaeth oddiwrtho. Bu yn gyfyng ar yr Hybarch John Roberts, Llanbrynmair, i gael pregethu yn ei Gymanfa,yn Blaenycoed, gan mor wrth wynebus y teimlai tuag at ei olygiadau; er ei fod ef ei hunan yn pregethu

402

bron yr un golygiadau ond mewn termau gwahanol. Os na newidiodd ei farn am y golygiadau hyny daeth i deimlo yn wahanol iawn at y rhai a'u pregethent, ac yr oedd yn dda ganddo gael eu cyfrif yn frodyr a chydlafurwyr yn yr efengyl.

Safai fel pregthwr yn rhestr flaenaf pregethwyr poblogaidd Cymru. Yr oedd ei barabl yn rhwydd ac esmwyth, ei lais yn beraidd a soniarus, ei ysbryd. yn gynes a gwresog, a'i draddodiad yn ddifrifol ac efengylaidd. Ni byddai byth ddiffyg arno am eiriau cymhwys i osod allan ei feddwl, ac yn aml byddai ganddo fan hanesion tarawiadol, yr hyn a'i gwnelai yn ddifyrus i'w wrando, ac a gynorthwyai ddealldwriaethau ei wrandawyr i amgyffred yn eglurach yr hyn a osodai o'u blaen. Cyfansoddodd rai llyfrau bychain megis "Dydd yn Gwawrio," yr hwn  a gyhoeddodd ar gychwyniad y Gymdeithas Genhadol. " Y Prophwydoliaethau yn cael eu cyflawni;" "Catecism ar y Cyfamod;" "Egwyddorion y Grefydd Gristionogol." Cyfieithodd hefyd bregeth o waith Davies o America ar " Adgyfodiad y Meirw."  Mae y llyfrau oll a gyhoeddodd yn llawn addysg ac adeiladaeth; er fod yn amlwg mai yn y pulpud yn benaf y bwriadodd yr Arglwydd iddo ef wasanaethu ei genhedlaeth.

Priododd yn fuan wedi ei sefydliad yn Nhrelech, a Miss Parry, etifeddes Esgairgraig, yn mhlwyf Troedyraur, sir Aberteifi, o ba un y bu iddo un-ar-ddeg o blant. Claddwyd amryw o honynt pan yn ieuaingc, ond cafodd  y rhan fwyaf o honynt fyw i ddyfod yn benau teuluoedd, ac i ymgysegru i wasanaethu Duw eu tad. Mae lluaws o'i hiliogaeth yn fyw, ac yn glynu wrth yr Arglwvdd.

Ni chafodd Mr. Jones fyw i oedran mawr, ac er ei fod o ymddangosiad cryf a chydnerth, etto, nid oedd mor gryf ag y buasid yn tybied yn yr olwg arno. Bu yn glaf amryw weithiau yn ei oes; ac o gylch tair blynedd cyn ei farwolaeth dyoddefodd oddiwrth ddyfrglwyf yn ei fynwes ac er iddo wella i raddau i allu cyflawnai ei weinidogaeth, etto ni chryfhaodd fel o'r blaen; ac wedi chwech wythnos o gystudd lled chwerw yn yr hwn y suddodd yn raddol, bu farw mewn cyflawn fwynhad o dangnefedd yr efengyl, Rhagfyr 23ain, 1835, yn 67 oed; a chladdwyd ef wrth gape! Llwynyrhwrdd, yn lle beddrod y teulu, lle yr erys mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragywyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

EVAN JONES. Ganwyd ef yn Esgairgraig, yn mhlwyf Troedyraur, air Aberteifi, lle yr oedd ei rieni yn trigo cyn iddynt symud i'r Garegwen, yn mhlwyf Trelech. Yr oedd ei dad, Mr. Morgan Jones, yn weinidog yn Nhrelech, a derbyniwyd yntau yn aelod pan yn ieuangc, ac anogwyd ef i ddechreu pregethu. Wedi treulio ei amser yn Athrofa Caerfyrddin, urddwyd ef yn gydweinidog a'i dad yn Nhrelech, ac wedi llafurio yno hyd farwolaeth ei dad ac am dair blynedd ar ol hyny, penderfynodd ymadael, a derbyniodd alwad o Ruscombe, yn sir Gaerloyw, lle y bu yn ddefnyddiol a derbyniol am ddeunaw mlynedd. Nid oedd yn ddoniol a phoblogaidd fel pregethwr, ond yr oedd yn ddyn deallgar, dysgedig, ac yn nodedig ar gyfrif ei ddidwylledd a'i dduwioldeb. Ni fynai wneyd archoll i neb, ac yr oedd yn well ganddo ddyoddef cam a cholled na bod yn achlysur tramgwydd i eglwys Dduw. Yr oedd ei iechyd wedi gwaelu yn fawr yn y ddwy flynedd olaf o'i oes, ac ar y 15fed o Fehefin, 1855, daeth i lawr i'r Garegwen er adnewyddiad i'w iechyd; ond bu farw dranoeth wedi ei ddychweliad, yn 54 oed. Claddwyd ef yn  nghladdfa y teulu yn Llwyn

403

yrhwrdd, a theimlai pawb ar ddiwrnod ei angladd na ddisgynodd purach na chywirach dyn erioed i fedd. Yr oedd efe yn wr da, a gair da iddo gan yr boll bobl. Ni bu erioed yn briod, ac felly ni adawodd wraig na phlentyn ar ei ol, ond yr oedd trigolion pentref Ruscombe yn wylo fel plant wrth ei weled yn cychwyn i'w wlad enedigol i ymofyn am le beddrod.

DAVID HUGHES. Ganwyd ef yn Amlwch, yn y flwyddyn 1800. Yr oedd ei dad yn amaethwr parchus, ac er nad oedd yn proffesu crefydd yr oedd yn fawr ei barch i grefyddwyr, a'i dy yn agored i weinidogion yr Efengyl. Yr oedd ei fam yn wraig rinweddol a chrefyddol, ac yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Amlwch, lle hefyd y derbyniwyd yntau yn aelod pan yn ieuangc gan Mr. J. Evans. Cafodd yr addysg oreu a allai ysgolion ei gymydogaeth roddi iddo; ac wedi hyny bu am ysbaid yn yr ysgol yn Liverpool, lle hefyd y mwynhaodd weinidogaeth rymus Mr. Breese, yr hon a fawr hoffai, a'r hon a wnaeth argraff ddofn arno. Anogwyd ef i ddechreu pregethu pan nad oedd ond bachgen, a phan yn un-ar-hugain oed derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn Athrofa Caerfyrddin. Wedi gorphen ei amser yno derbyniodd alwad o Heolyfelin, Casnewydd, ac urddwyd ef yno Ionawr 1af, 1829.  Dechreuodd ei weinidogaeth o dan yr amgylchiadau mwyaf anfanteisiol.  Yr oedd yr eglwys yn ddirywiedig ac ymrysongar, a'r achos yn ei holl ranau yn hynod o ddilewyrch.  Yn mhen rhyw ddwy flynedd wedi ei sefydliad ymadawodd pedwar-ar-ddeg-ar-hugain o'r aelodau ar unwaith ymaith o Heolyfelin, ond derbyniwyd hwy yn Hope Chapel y Sabboth canlynol gan Dr. Jenkin Lewis.  Mae y ffaith i weinidog o oedran, a phwyll, a safiad Dr. Lewis dderbyn y personau hyny yn brawf mai nid dynion o gymeriadau isel oeddynt, ac wedi eu hymadawiad disgynodd yr achos i gyflwr isel iawn. Ond bu Mr. Hughes yno am fwy nag wyth mlynedd wedi hyny yn pregethu i ychydig o bersonau; ond trwy y blynyddoedd hyny yr oedd yn darllen llawer ar weithiau yr awduron goreu, ac yn cyfansoddi pregethau y rhai yn mhob ystyr oeddynt yn ddarnau cyfan a gorphenol. Ar doriad y diwygiad dirwestol allan, ymgymerodd Mr. Hughes a'r egwyddor yn un o'r rhai cyntaf yn Nghasnewydd, a thaflodd hyny ysbryd newydd iddo ef, ac i'w holl bregethau. Yn y flwyddyn 1838, dywedodd yr hen bregethwr selog  Rhys Davies, wrth rai o bobl Trelech, fod dyn ieuangc dysgedig a thalentog yn pregethu i ddyrnaid o bobl mewn hen gapel yn Casnewydd, ac nas gallasent wneyd dim yn well nag anfon am dano er mwyn iddynt gael ei glywed. Anfonwyd ato, daeth Mr. Hughes, a phregethodd yn y fath fodd nes tynu sylw yr holl gynnulleidfa;  a'r diwedd fu i'r eglwysi yn Nhrelech a Blaenycoed uno i roddi galwad iddo. Yr oedd Trelech yn mhell o fod yn unol yn y dewisiad, ond yr oedd mwyafrif mawr o'i blaid, ac am y rhai oedd yn anghydweled, yr oeddynt yn ddynion hynaws a heddychol, fel na wrthryfelasant mewn un modd yn erbyn penderfyniad y lluaws, ac ni bu Mr. Hughes trwy ei bregethau galluog a'i ysbryd doeth ond ychydig amser cyn eu henill i fod ei gyfeillion goreu. Llafuriodd Mr. Hughes yn ei faes newydd gyda diwydrwydd  ac ymroddiad gan gyfyngu ei hun yn gwbl i'w waith cartrefol a bu yn dderbyniol, defnyddiol, a llwyddianus am ddeng mlynedd. Ymaflodd afiechyd ynddo, ac wedi dihoeni am fisoedd bu farw Chwefror 20fed, 1849, yn 49 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Trelech.

Gan na chyhoeddwyd  cofiant i Mr. Hughes, a chan i ni gael cryn gyfleusdra i ddyfod i gydnabyddiaeth ag ef, y mae yn briodol i ni ymhelaethu

404

ychydig ar ei nodwedd personol, a'i fywyd cyhoeddus. Yr oedd Mr. Hughes yn ddyn o faintioli cyffredin, ac yn mhob peth yn dra lluniaidd a chyfartal. Gwyneb crwn, gwridgoch, serchog a charuaidd yr olwg arno, ac etto heb ddim neillduol ynddo i dynu sylw. Nid oedd mewn un modd yn hyf, ac nid oedd dim a ffieiddiai yn fwy na gweled unrhyw un yn gwthio ei hun i sylw. Dichon fod hyny yn cyfrif mewn rhan paham y treuliodd y deng mlynedd cyntaf o'i fywyd gweinidogaethol megis dan lestr. Yr oedd yn nodedig o serchog a charedig at y rhai a ymwelent ag ef, ac nid oedd neb yn fwy siriol a chyfeillgar gyda dynion ieuainge, ond ni byddai byth mewn cyfeillach nac mewn cynhadledd yn gwthio ei hun i sylw; ac ni welsom erioed awydd ynddo am gael y lleoedd uchaf mewn gwleddoedd, a'r prif gadeiriau yn  synagogau. Nid ydym yn dyweyd nad oedd uchelgais ynddo, ond nid i'r cyfeiriadau yna y rhedai. Yr oedd yn Annibynwr trwyadl, ac yr oedd yn eiddigus rhag i gyfundeb na chynhadledd ymyraeth a gweithrediadau mewnol yr eglwysi, yn newisiad eu swyddogion na gweinyddiad eu dysgyblaeth. Dichon ei fod wedi ei weithio yn lled bell i'r tir yna gan y gefnogaeth a roddwyd i ddosbarth o ddynion a ymneillduasant oddiwrtho ef a'i bobl yn y Casnewydd yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth yno. Ond nid oedd mewn un modd yn encilio o'r cyhoedd. Dilynai y Gymanfa yn lled reolaidd, a chyrchai i gyfarfodydd Chwarterol v sir tra y daliodd ei nerth os byddent o fewn pellder rhesymol iddo; ond yr oedd cylch eang ei weinidogaeth yn gofyn ei holl wasanaeth; ac yr oedd yn credu yn gryf mai yn mysg pobl ei ofal y dylai pob gweinidog dreulio ei amser a'i lafur.

Yr oedd yn ffyddlon dros ben i'w frodyr yn y weinidogaeth, ac nid oedd dim a'i cynhyrfai yn fwy na gweled gweinidogion yn brysio i gefnogi y rhai a ystyriai ef yn derfysgwyr yn yr eglwysi. Ni buasai dynion anesmwyth ac aflonydd mewn eglwys byth yn meddwl am fyned at weinidog Trelech i ddyweyd eu cwynion, oblegid gwyddent oll yn dda nad oedd dim croesaw iddynt. Mae gweinidogion i'w cael y maent yn sicr o ddyfod o hyd i bob aelod anhywaeth yn mhob eglwys, ac y mae y dynion anhywaeth yn sicr o'u cael hwythau allan; ond nid oedd dim cyfathrach rhwng Mr. Hughes a'r cyfryw rai. Yr oedd yn ddihafal am ei ffyddlondeb i'w frodyr, ac ni chai terfysgwyr ac aflonyddwyr eu gweinidogion ddim ffafr oddiar ei law. Cafodd pob dyn ieuangc a aeth i gyffyrddiad ag ef, ynddo noddwr tirion a charedig, ac ni byddai dim yn ormod ganddo i'w wneyd i'r cyfryw rai; ac yr oedd ei gyfeillach bob amser er addysg ac adeiladaeth.

Yr oedd yn feddianol ar alluoedd cryfion, ac wedi cael addysg dda, a thrwy ei oes wedi bod yn ddarllenwr mawr. Yr oedd yn gyfarwydd yn holl ganghenau gwybodaeth, er mai duwinyddiaeth oedd wedi cael ei sylw mwyaf; ac yr oedd yn meddu gallu nodedig i ddwyn pob peth a ddarllenai i ffurf a threfn. Ymdriniai bob amser ag egwyddorion mawrion, a hyny yn fwy mewn gwedd osodiadol nag mewn ffurf athronyddol. Nid mewn gallu creadigol  rhagorai  gymaint ag mewn gallu i drefnu a dosbarthu yr hyn y deuai o hyd iddo. Ffrwyth darlleniad yn benaf oedd ei wybodaeth, ac mewn amgyffrediad clir a chwmpasog nid yn fynych ceid ei ragorach. Nid oedd dim a fynai a damcaniaethau a thybosodiadau duwinyddol; ac yr oedd yn cwbl anghymeradwyo yr awydd a ddangosid gan rai am bethau newydd a hynod. Cerddai ef yn wastad ar hyd yr hen ffordd dda y gwirionedd; ac ni welid byth mo hono yn troi i ymddifyru ar hyd llwybrau blodeuog dychmygion a gwrachiaidd chwedlau

405

ar y naill law; nac ychwaith  ddyrus lwybrau philosophi a gwag dwyll ar y llaw arall. Yr oedd yn Galfiniad cymhedrol o ran ei olygiadau, ac yr oedd yn gyfarwydd iawn yn ngweithiau Jonathan Edwards, Andrew Fuller, Dr. Edward Williams, ac eraill o'r un ysgol. Rhoddai wedd athrawiaethol fynychaf i'w weinidogaeth. Mae yn wir y pregethai yn aml yn hollol ymarferol; ac yn nghyflawniad ei weinidogaeth gartrefol nid ataliai ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegi. Pregethodd lawer i'w bobl ar ddyledswyddau ymarferol crefydd megis Santeiddio y Sabboth, Crefydd Deuluaidd, Cadw Cydgynnulliad, neu ryw ddylswydd gyffelyb; a phan y gwnai hyny, yr oedd yn anhawdd cael neb a'i gwnai yn fwy llwyr a llawn. Byddai ei bregethau ar faterion felly bob amser yn orphenol gan eu dyhysbyddu mor llwyr fel y teimlai pawb fod pob peth a allasid ddyweyd ar y mater hwnw wedi ei ddyweyd, a'i ddyweyd mor dda fel mai ofer fyddai i neb i fyned i geisio gwella ei waith. Byddai fynychaf yn dwyn gwirioneddau yr efengyl mor uniongyrchol at gydwybodau a chalonau ei wrandawyr fel y teimlent mai wrthynt hwy yr oedd yn llefaru, ac nas gallasant ysgoi eu rhwymedigaeth i gredu y dystiolaeth a osodai ger eu bron; ond nid fel pregethwr ymarferol y rhagorai yn benaf; ac nid ei neillduolrwydd mawr oedd dwyn y gwirionedd yn uniongyrchol at gyflwr a chalon pechadur; ond fel athrawiaethwr y rhagorai yn benaf, ac yn hyny yr oedd ei fawr gryfder. Nid oedd yn ddoniol fel pregethwr yn yr ystyr y deallir y gair yn gyffredin. Nid oedd ystwythder yn ei barabl, gwresawgrwydd yn ei ysbryd, pereiddiwch yn ei lais, tlysni yn ffigyrau, na newydd-deb yn ei gydmariaethau. Nid yn hyny y rhagorai, er fod ganddo ddigon o'r holl bethau hyny i foddloni dynion deallgar. Canmolid ef gan ddynion anwybodus, nid am fod ynddo ddim neillduol i'w taro hwy, ond am eu bod wedi clywed gan eraill ei fod yn bregethwr mawr; a thybient oblegid hyny y dylasent ganmol rhag iddynt gael eu cyfrif yn anwybodus. Yr oedd ei bregeth bob amser yn un cyfanwaith, wedi ei dosbarthu yn drefnus, a'i holl frawddegau wedi eu morteisio i'w gilydd, neu fel dolenau cadwyn i gyd yn rhwym y naill wrth y llall. Dichon fod cyfansoddiad ei bregethau yn rhy gaeth ac yr ychwanegasid at ystwythder y traddodiad, yn gystal ag y buasai yn fantais i gofio ei bethau, pe defnyddiasai fwy o droell ymadroddion a chydmariaethau yn achlysurol. Anaml y defnyddiai gydmariaeth, ac ni chlywsom ganddo hanesyn erioed. Mewn nwyddau trymion y masnachai efe, a bwyd cryf a ddygid ganddo fynychaf i'r bwrdd. Y mae y bregeth ar " Eithafion a Chanol y Ffordd,' a draddodwyd ganddo yn Nghymanfa Trefgarn yn haf 1842, yn un o'r engreifftiau goreu o nodwedd ei bregethau. Cyhoeddodd bregeth yn y Diwygiwr ar " Ysbryd Cyhoedd," yr hon sydd yn dwyn delw fwy poblogaidd na'i bregethau cyffredin; ac y mae hono mewn ffurf mor boblogaidd ag odid i bregeth a ymddangosodd erioed trwy y wasg Gymreig.

Dygodd allan trwy y wasg " Holwyddoreg' at wasanaeth yr Ysgolion Sabbothol, ac y mae pawb a'i darllenodd yn gwybod ei bod o nodwedd llawer uwch na'r holwyddoregau a ddysgid yn flaenorol. Gwnaeth les dirfawr i lawer. Dihunodd eu meddyliau i chwilo  " ddyfnion bethau Duw hefyd'' a rhoddodd ryw synied iddynt am wirioneddau ac athrawiaethau nad oedd ganddynt yn flaenorol un dirnadaeth am danynt. Yr oedd wedi bod yn ddiwyd am flynyddau yn parotoi math o Eiriadur Cyffredinol, a diameu ped arbedasid ei fywyd i'w ddwyn allan, y buasai ynddo gronfa

406  

helaeth o wybodaeth fuddiol. Ond ei amcanion ef a dynwyd ymaith. Dyrysodd angau ei holl gynlluniau. Pan yr oedd ef yn disgwyl, a'i gyfeillion yn dymuno iddo gael byw lawer o flynyddau i gyflawni ei fwriadau, rhoddodd angau ei law arno, ac wedi ei gadw ar lan yr afon am fisoedd i nychu mewn cystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel ac amyneddgar, hunodd mewn tangnefedd.

O.Y. - Yr ydym yn ddyledus i Mr. Davies, Llandilo, am lawer o help i gael defnyddiau hanes hen eglwys barchus Trelech; ond y mae yn bosibl y gwelir etto fod rhai enwau wedi eu gadael allan, yn enwedig yn rhestr y pregethwyr a gododd yma. Gwelsom wedi iddi fyned yn rhy ddiweddar fod camgymeriad yn enw un o'r pregethwyr diweddaf a godwyd. Yn lle Owen Picton Davies, darllener Owen Picton Jones.  Mae ef yn wyr i'r Hybarch Morgan Jones.

Codwyd i bregethu yma hefyd David Harwood Hughes mab y diwcddar Mr. D. Hughes, y gweinidog, ond ymunodd yn fuan ar Eglwys Sefydledig. Dechreuodd John Bowen Williams, mab Mr. Isaac Williams yn awr o Pantteg, bregethu; a bu am ychydig yn yr ysgol yn Llangadog, ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo a bu farw yn mlodeu ei ddyddiau. Yr ydym yn meddwl mai tra yn yr ysgol yn Llangadog y dechreuodd bregethu.

  

BLAENYCOED

(Cynwyl Elfed parish)

Cymerwyd enw yr addoldy oddiwrth enw y pentref lle y saif yn mhlwyf Cynwl-elfed, ryw saith milldir i'r gorllewin o dref Caerfyrddin. Dechreuwyd yr achos crefyddol yma tua diwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechreu yr un bresenol. Bu y Trefnyddion Calfinaidd a'r Bedyddwyr mewn ymdrech galed i osod i lawr sylfaen achos i'w henwadau gwahanol hwy, ond ni bu fawr os dim llwyddiant ar y naill na'r llall o honynt. Y diwedd oedd iddynt hwy, roddi i fyny a gadael y maes i eraill. Y mae cryn wahaniaeth barn yn mysg yr ardalwyr gyda golwg pwy oeddynt  y cyfryngau i gychwyn Annibyniaeth yn y lle. Dywed rhai mai dyfodiad Dafydd Bowen, hen amaethwr cyfrifol o blwyf Cilrhedyn, i fyw i Brynchwith (ffermdy yn y gymydogaeth), fu yr achlysur o'i gychwyniad. Yr oedd oedd efe y pryd hwnw yn aelod crefyddol yn nghapel y Graig, Trelech. Dywed eraill mai un Dafydd Harry, hen Fethodist ag oedd yn byw mewn amaethdy o'r enw Nantyrolchfa, a fu yr offeryn penaf. Dywedir i hwn, oblegid methiant y Trefnyddion wneyd apeliad at Mr. Morgan Jones, Trelech, i ddyfod i bregethu i'r pentref ac i wneyd cais teg i sefydlu cangen yma o'r eglwys yn Nhrelech.  Fodd bynag, nid oes amheuaeth na bu dyfodiad Dafydd Bowen yma ar yr amser arbenig hwn y nerth mwyaf i roddi cychwyniad da i achos crefydd yn y gymydogaeth. Daeth Mr. Morgan Jones i'r ardal, a chafodd dderbyniad calonog. Cymerwyd ysgubor yn y pentref at gynal yr addoliad ynddo - dodrefnwyd hi yn gyfleus, a bu Mr. Jones yn pregethu ynddi am rai blynyddau gyda derbyniad anghyffredin, unwaith bob deufis. Cynelid cyfarfodydd gweddio yma yn gyson, y rhai a ddygid yn mlaen yn benaf  dan oruchwyliaeth Dafydd Bowen, o'r Brynchwith, a Daniel Davies, o Brynceirch, yr hwn hefyd oedd yn ddyn da, cywir, a lled oleu yn yr Ysgrythyrau. Bu y ddau wron yma yn ffyddlawn dros ben gyda'r achos yn ei holl gysylltiadau. Sefydlasant ysgol nosawl mewn lle o'r enw Tycefn, ryw filldir i'r gogledd o

 

CONTINUED

 


Return to top

[Gareth Hicks 5 June 2008]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes, and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages withill GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark.

Valid HTML 4.0!