GENUKI Home page
Carmarthenshire Carmarthenshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

Carmarthenshire section (Vol 3)

 

  Pages 407 - 420

 

See main project page

Proof read by Eleri Rowlands (March 2008)

Chapels below;
  • (Continued) BLAENYCOED   (Cynwyl Elfed parish)
  • PENYBONT   (Tre-lech a'r Betws parish)
  • BRYN IWAN  (Cilrhedyn parish)

 


Pages 407 - 420

407

(Continued) BLAENYCOED  (Cynwyl Elfed parish)

Blaenycoed. Prif amcan hon oedd dysgu sillebu a darllen y Beibi yn benaf; a dysgu penodau i'w hadrodd yn gyhoeddus; ac ymddengys mai yn hon y dysgodd Theophilus Davies, Penrhiwcowyn, (gweinidog Cana wedi hyny) yr ychydig a ddysgodd mewn darllen yn gystal ag yn egwyddorion cyntaf crefydd. O gylch y flwyddyn 1805, penderfynodd Dafydd Bowen, Daniel Davies, ac eraill o'r henafgwyr, sefydlu Ysgol Sabbothol yn yr ysgubor yn Blaenycoed. Ymddengys mai hon oedd yr Ysgol Sabbothol gyntaf drwy yr holl wlad, ac mai mynediad hon ar draws yr eglwysi ar y Sabbothau  " adrodd pwnc'  (fel y dywedid) a fu yn achlysur i gychwyn y mudiad addysgol ar y Sabboth yn Nhrelech, Capel Iwan, ac amryw fanau eraill.

Y mae yn anhawdd sicrhau dyddiad sefydliad eglwys yma; oblegid yr oedd y bobl grefyddol yn y gymydogaeth, y rhai a ymdrechent gyda'r achos ieuangc yn yr ysgubor, yn aelodau ac yn myned i gymundebau,  eglwysi eraill, yn neillduol Drelech. Ond ar brydnawn Sabboth yn y flwyddyn 1805, torodd diwygiad allan mewn canlyniad i bregeth danllyd o eiddo Mr. Morgan Jones. Derbyniwyd y pryd hwnw tua deugain o aelodau i eglwys Iesu Grist, a llawer o honynt yn ddynion pwysig, yn benau teuluoedd yn yr ardal. Credwn mai y pryd hwn y ffurfiwyd eglwys reolaidd yma gyntaf, ac mai dyma'r pryd y daeth y waedd effeithiol gyntaf am gael estyniad ar gortynau yr hen ysgubor. Yr oeddynt wedi cael digon ar dabernacl yr ysgubor, ac yr oedd yn rhaid bellach gael rhywbeth ar ffurf teml. Cafwyd tir, ac adeiladwyd capel arno yn y flwyddyn 1807, lle y saif yr addoldy presenol. Adeiladwyd hwnw a'i wyneb i'r dehau, ac nid i'r dwyrain megis y mae y capel presenol. Codwyd yr addoldy presenol yn y flwyddyn 1837; ac y mae heddyw, er iddo fyned drwy amryw adgywiriadau, yn un o'r capelau harddaf, iachaf a helaethaf yn y gymydogaeth. Y mae hefyd fynwent eang wrth yr addoldy, a lluaws mawr o'r ffyddloniaid erbyn heddyw yn gorwedd ynddi. Bu y lle o'r dechreuad mewn cysylltiad a Threlech dan ofal Mr. M. Jones, ac yn mhen tair blynedd wedi marwolaeth y gwr da hwnw unodd a'r eglwys yn Nhrelech i roddi galwad i Mr. D. Hughes, Casnewydd. Dechreuodd ar ei weinidogaeth yn y flwyddyn 1839, yn mhen ychydig wedi agoriad yr ail deml yn Blaenycoed. Bu Mr. Hughes yn hynod lwyddianus am holl yspaid ei weinidogaeth yn y cylch. Ystyrid ef yn un o gewri y weinidogaeth yn sir Gaerfyrddin; ac yr oedd ei graffder fel duwinydd, ei argyhoeddiadau dyfnion fel Ymneillduwr, yn gystal a'i ymdrechion di-ildio gyda'r Ysgol Sabbothol, wedi ei wneyd yn boblogaidd dros ben drwy'r holl wlad. Derbyniodd yn Blaenycoed yn unig yn ystod ei weinidogaeth, sef o 1839 hyd 1849, gymaint a dau gant a dau-ar-bymtheg o aelodau. Rhifai yr eglwys y pryd yma ei chanoedd. Ond bu farw Mr. Hughes yr 20fed o Chwefror, 1849, a gellir dweyd am dano ef, fel am Samuel gynt, fod " holl Israel mewn galar" ar ei ol.

Yn mhen amser wedi marwolaeth Mr. Hughes, gwnaeth yr eglwys yn Blaenycoed apeliad taer, mewn ffurf o alwad, at Mr. W. Morgan, Caerfyrddin (y Proffeswr Morgan yn awr), gymeryd ei gofal mewn undeb a'r eglwys yn Union Street. Yr oedd Mr. Morgan ar y pryd yn byw mewn lle o'r enw Cadwgan Hall. Cydsyniodd a chais yr eglwys yn Blaenycoed, a bu yma yn ymdrechgar iawn, ac yn hynod o dderbyniol gan yr eglwys a'r gynnulleidfa am dros flwyddyn a haner. Yr oedd y pellder rhwng yr eglwysi, a'r galwadau oedd arno yn y dref, yn ei gwneyd

408

braidd yn anmhosibl iddo allu gwasanaethu y ddwy gyda chysondeb. Yn wyneb hyn, barnodd yn ddoeth i roddi Blaenycoed i fyny. Yn y flwyddyn 1856 rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Henry Lewis o Beddgelert, sir Gaernarfon; a bu yn gweinidogaethu yma gyda graddau o lwyddiant am yspaid pedair blynedd. Symudodd oddiyma i Lanidloes, sir Drefaldwyn. Yn nechreu y flwyddyn 1861, rhoddwyd galwad i'r gweinidog presenol, sef Mr. William Meirion Davies. Yr oedd y pryd hwnw yn efrydydd yn Athrofa Aberhonddu. Yr oedd yr eglwys ieuangc yn Penybont, Trelech, yn uno gyda hi yn yr alwad. Atebodd Mr. Davies hi yn gadarnhaol, a dechreuodd ar ei waith yn mis Mai yr un flwyddyn. Ordeiniwyd ef Mehefin 10fed, 11eg, a'r 12fed, 1861. Y gweinidogion a gymerasant ran swyddogol yn y gwasanaeth oeddynt Meistri W. Morgan, Caerfyrddin; W. Thomas, Bwlchnewydd; D. Davies, Pantteg; Proffeswyr Morris a Roberts, Aberhonddu; Meistri J. Wiiliams, Castellnewydd; S. Thomas, Bethlehem; a J. Lewis, Henllan. Yr oedd hefyd amryw eraill yn bresenol. Y mae Mr. Davies wedi bod yma bellach dros ddeuddeng mlynedd, a'r achos hyd yma wedi bod yn hynod o lewyrchus dan ei ofal. Y mae wedi derbyn ugeiniau os nad canoedd o aelodau yn Blaenycoed yn unig yn ystod ei weinidogaeth. Bu yma amryw ddiwygiadau yn nghorff y deng mlynedd a aeth heibio. Bu diwygiad grymus iawn yma yn 1865, a'r nesaf ato mewn nerth oedd yr un a fwynhawyd yn nechreu 1872. Rhoddwyd deheulaw cymdeithas i driugain yn y cyntaf, ac o gylch deugain yn yr olaf. Y mae cymaint o symudiadau wedi bod trwy farwolaeth a chyfryngau eraill, fel nas gallwn ddweyd fod plant yr eglwys wedi'r cwbl yn nemawr lluosocach yn awr nag ydoedd yn nechreuad gweinidogaeth Mr. Davies. Teimla eglwysi a chymydogaethau amaethyddol siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi yn rhyfeddol oddiwrth y mudiadau mynych sydd i Morganwg a Mynwy. Y mae Blaenycoed hefyd wedi gorfod dyoddef oddiwrth gyfodiad achosion ac eglwysi newyddion yn y cylchoedd cymydogaethol. Ond rhifa etto cydrhwng 250 a 300 o aelodau. Y mae yma hefyd Ysgol Sabbothol y gellir dweyd am dani yn rhif nad ydyw yn ail i un yn Nghymru, o ran trefn, gwybodaeth, a ffyddlondeb. Rhifa o gylch naw ugain.

Nis gallwn ymattal rhag nodi enwau rhai o brif golofnau yr " achos goreu" yn y lle hwn y cenedlaethau a aethant heibio - heblaw y ddau y cyfeiriasom atynt eisioes - sef Lewis Lewis, Cwm; William Davies, Glynpurfaith; Dafydd Rees  Pant-hwdog; Benjamin Phillips, Pantyceidyn;  Daniel Phillips, Gilfach; Griffith Jones, Penygraig; John Jones, Drysgolgoch, ac eraill. Bu y personau a enwyd uchod a'u gwragedd yn llettygar i'r achos am dymor hir; ac y mae yn llawen genym ddeall fod plant  i amryw o honynt wedi cyfodi i lenwi y bylchau a wnaed ar ol colli y tadau.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

409

 

PENYBONT

(Tre-lech a'r Betws parish)

Yn nyddiau gweinidogaeth Mr. Morgan Jones, a thrachefn yn ystod yr eiddo Mr. D. Hughes, yn Nhrelech, yr oedd yr holl blwyf o'r bron yn ymgynnull ar y Sabboth yn Nghapel y Graig. Yr oedd gan lawer ag oeddynt yn byw yn y dosbarth deheuol o'r plwyf dair, pedair, a phum' milldir o ffordd i drafaelu ar y Sabboth yno. Nis gallasai y cyfryw fod o lawer o ddefnydd i'r eglwys yn y Graig na'u cyfleusderau crefyddol yno fod o lawer o adeiladaeth iddynt hwythau. Yn wir, treulient eu prif oedfaon ar y Sabbothau yn Eglwys y Plwyf, yr hon a safai yn nghanol y dosbarth. Cynhelid Ysgol Sabbothol yn Penybont flynyddau lawer cyn sefydliad yr achos yno, ac ymddengys fod yno ysgol gref, luosog, a dylanwadol. Yr oedd manteision yn perthyn i'r lle at hyn, gan fod yma bentref bychan, a'r gymydogaeth o'i gwmpas yn dra phoblog. Dygid yr Ysgol Sabbothol yn mlaen yn Ysgoldy y Plwyf, a phregethid yma yn gyson bob mis, ar brydnawn Sabboth. Yr hen " Esau'r Gof," fel y gelwid ef, oedd a phwys y gwaith arno gan mwyaf y pryd hwnw. Dywedir y byddai dynion yn crynhoi i Benybont ar y Sabboth pregethu wrth y canoedd, ac yn aml allan yn yr awyr agored y byddai gweision Duw yn anerch y gynnulieidfa fawr a ddeuai yn nghyd.

Ond oddeutu'r flwyddyn 1855, meddyliodd amryw o'r Ymneillduwyr mwyaf egwyddorol fod yn rhaid cael capel yn Mhenybont - fod y daith i Gapel y Graig yn ormod i'w thrafaelu bob Sabboth ac nas gallasent, gydag un math o gysondeb, gyduno yn yr addoliad Sefydledig. Gwnaed cais at y fam eglwys am gefnogaeth; ac er fod llawer yn bleidiol i'r mudiad etto yr oedd lluaws o'r rhai a ystyrid yn golofnau yn dra gwrthwynebol iddo ar y cyntaf. Ond yr oedd rhai o'r brodyr yn nghymydogaeth Penybont mor selog a phenderfynol, fel nas mynent ildio na meddwl rhoddi i fyny. Yn mysg y rhai hyn yr oedd Meistri Thomas Davies, Glasfryn; John Davies, Glynpurfaith;  a Howell Howells, Cwmgest. Yr

410

oedd yr olaf yn aelod yn Blaenycoed. I'r tri wyr hyn, yn benaf yr ydys i briodoli cyfodiad yr addoldy presenol yn Penybont. Yr oedd eu penderfyniad y fath, fel "rhaff deircainc," nad oedd yn bosibl ei dori ar frys; a llwyddasant yn ardderchog i gario eu penderfyniad allan i fuddugoliaeth. Cafwyd tir cyfleus am goron y flwyddyn o ardreth a les arno am dri chant o flynyddau. Y gwaethaf erbyn hyn, ydyw na ofynwyd i'r boneddwr, perchenog y tir, am fynwent, ac nid oes y fath yn y lle hyd heddyw.

Adeiladwyd yr addoldy yn 1856. Gallesid dweyd am y gymydogaeth fod ganddi         "galon i weithio" gyda'r symudiad newydd. Cyfodwyd yma gapel hardd a chyfleus. Ffurfiwyd yma eglwys ynddo tua gwanwyn 1857, pryd y gweinyddwyd yr ordinhad o swper yr Arglwydd, dan lywyddiaeth Mr. Isaac Williams, Trelech; y duwiolfrydig a'r ymdrechgar Evan Lewis, Fronlas, a John Davies, Glynpurfaith, yn cario yr elfenau. Yr oedd y ddau yn ddiaconiaid parchus yn Nghapel y Graig, ond yr oedd yr olaf yn dyfod i aros gyda'r ferch yn Penybont. Dewiswyd tri o ddiaconiaid ato, sef Thomas Davies, Glasfryn; Benjamin Thomas, Brunant, a Benjamin Jones, Rhiw. Y mae'r tri hyn, yn aros hyd heddyw, ond y mae J. Davies wedi myned at ei wobr er mis Mawrth y flwyddyn hon (1873). Nid oedd yr eglwys ar y cymundeb cyntaf yn rhifo uwchlaw triugain a phump; ond yn mhen ychydig fisoedd wedi hyn, rhifai yn agos i gant. Daeth amrai a llythyrau o Gapel y Graig ar ol y fintai gyntaf  a llawer hefyd yn eu canlyn o Blaenycoed.

Agorwyd yr addoldy yn gyhoeddus yn Mehefin 9fed a'r 10fed, 1857. Yr oedd yn bresenol ar y pryd oddeutu ugain o weinidogion, a chymerasant oll o'r braidd ran yn ngweithrediadau'r agoriad. Casglwyd ar y pryd uwchlaw triugain punt at glirio y ddyled arosol ar yr adeilad. Ac er clod bythol i'r eglwys ieuangc y dylid dweyd na chafodd y ddyled fod yn boen a blinder iddynt uwchlaw dwy flynedd.  Yn nechreu y flwyddyn 1861, ymunodd yr eglwys a Blaenycoed i roddi galwad i Mr. W. M. Davies o Athrofa Aberhonddu, yr hwn a ddaeth i'w mysg, ac a erys gyda hwynt hyd heddyw. Derbyniwyd ugeiniau yma yn nghorff gweinidogaeth Davies; ac er fod y rhan amlaf o sylfaenwyr yr achos - neu o'r dyfodiaid cyntaf - wedi gadael y byd, a degau wedi symud o'r ardal i'r gweithfeydd, etto, rhifa yr eglwys dros gant a haner o aelodau. Y mae yma Ysgol Sabbothol weithgar a llafurus. Adgyweiriwyd yr addoldy ychydig flynyddau yn ol; a bernir wrth weled y gynnulleidfa sydd yn dyfod i wrando ambell Sabboth yn y mis, y rhaid ei helaethu cyn bo hir.

 

BRYN IWAN

(Cilrhedyn parish)

Mae y capel hwn yn mhen uchaf  plwyf Cilrhedyn. Prif  gychwynydd yr achos yma oedd Mr. Thomas Davies, Crugiwan neu Crugifan, amaethwr cyfrifol, a thirfeddianwr yn y gymydogaeth. Y mae'n wir iddo gael help a chydymdeimlad dynion da eraill, ond efe oedd enaid yr ysgogiad. Rhoddodd haner erw o dir i adeiladu y capel, a lle claddu, yn gystal hefyd ag  i godi ysgoldy arno, am fil o flynyddau, neu cyhyd ag y byddo haul yn goleuo y ffurfafen, am chwe'cheiniog o ardreth yn flynyddol. Esiampl deilwng o efelychiad, onide, i holl dirfeddianwyr y byd!

Yr oedd Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn gyson bob Sabboth yn Crugiwan er's dros ddeng-mlynedd-ar-hugain yn flaenorol i adeiladiad y

411

capel. Byddai gweinidogion Trelech yn pregethu yno hefyd unwaith yn y mis drwy y blynyddau. Ond wedi i'r capel gael ei godi yn mhen uwchaf y ffarm, symudodd yr ysgol o'r amaethdy i Bryn Iwan. Bu y meddylddrych o godi capel y Bryn Iwan yn hir iawn yn yr esgoreddfa. Siaradwyd llawer am dano yn ystod gweinidogaeth Mr. Hughes, ond wedi ei farwolaeth ef, a chyn dyfodiad Mr. Isaac Williams i'r gymydogaeth, y dechreuwyd mewn gwirionedd ar y gwaith, sef yn y flwyddyn 1851. Yr oedd y diweddaf wedi dyfod i'r cylch cyn i'r eglwys gael ei ffurflo, nac i'r capel gael ei agor. Sefydlwyd eglwys yma oddeutu gwanwyn 1852. Nid oedd rhifedi yr aelodau ar y pryd uwchlaw deugain a dau, a'r rhai hyny yn dyfod o dair ffynonell, sef Blaenycoed, Hermon, a Chapel y Craig. Mr. Isaac Williams oedd yn llywyddu yn ei sefydliad. Cynaliwyd cyfarfodydd agoriad yr addoldy Mehefin 16eg a'r 17eg, 1852; ac y mae yn dda genym ddyweyd fod yr adeilad bellach er's dros ddeuddeng mlynedd yn berffaith ddiddyled. Bu dyfodiad Mr. George Bowen (wyr y Dafydd Bowen y cofnodir am dano yn hanes Blaenycoed) i fyw i Nantglas, fferm yn y gymydogaeth, yn fendithiol dros ben i'r achos ieuangc pan yn ei wendid. Gellir dyweyd yn wir fod cael y fath ddyn a George Bowen i unrhyw eglwys yn gaffaeliad nid bychan iddi. Y mae ganddo galon i weithio yn mhob cylch, a galluoedd amrywiol at lenwi y cwbl.

Yr oedd llaw Duw i'w gweled yn amlwg yn nhrefn rhagluniaeth yn nygiad oddiamgylch yr achos goreu yma, ac yn nghydgyfarfyddiad personau i ffurfio eglwys yn y lle. Y mae yn rhaid dyweyd hefyd fod llaw Duw yn amlwg yn y llwyddiant sydd wedi bod ar yr achos hyd heddyw. Rhifa yr eglwys yn awr uwchlaw saith ugain o aelodau. Y mae'n rhyfedd fod plant y fath gynnulleidfa yn ymgasglu i'r fath fan. Ychydig flynyddau yn ol, nid oedd yn y lle hwn, nac am lawer o ffordd o'i gylch, na thy na chlawdd i'w weled. Yr oedd y lle yn naturiol yn ddangoseg lled dda o sefyllfa foesol ei drigolion. A phaham lai? Nid oedd y pryd hwnw un cyfleusdra ganddynt i ymwneyd a'u gilydd yn gymdeithasol grefyddol yn nes na Blaenycoed, Hermon, Trelech, a Chapel Iwan, ac ychydig iawn a gyrchent o'r gymydogaeth hon i'r lleoedd uchod. Fel y gallesid disgwyl, yr oedd y dosbarth ieuangc, blaenffrwyth yr oes, yn cael eu hesgeuluso i raddau anghyffredin. Ond bellach, y mae'r nos hono wedi myned, a'r dydd er's blynyddau wedi gwawrio ar y trigolion.

Gweinidogaeth deithiol gan mwyaf oedd eiddo Bryn Iwan hyd o fewn dwy neu dair blynedd yn ol. Mr. Williams, Trelech, oedd a'i gofal yn benaf arno. Bu yn dyfod yma unwaith bob mis am ugain mlynedd ar " Sabboth y cwrdd mawr," fel y gelwir ef; a bu yn selog iawn drostynt ac yn ffyddlawn iawn iddynt, am yr amser hwnw. Rhoddodd Mr. Williams eu gofal hwynt i fyny yn Hydref, 1863; ac yn mhen y flwyddyn gwnaethant apeliad at Mr. W. M. Davies, Blaenycoed, i gymeryd atynt; ac y mae Mr. Davies hyd yma yn pregethu iddynt yn gyson ddwywaith yn y mis. Ychwanegwyd tua deugain at yr eglwys yma yn nghorff y ddwy flynedd a haner a aeth heibio. Y mae yma hefyd Ysgol Sabbothol nad oes nemawr o'i chyffelyb mewn undeb a gweithgarwch, yn ol ei rhif, drwy yr holl wlad. Rhifa ugain a chant.*

  

*Yr ydym yn ddyledus i Mr. W. M. Davies, am ddefnyddiau hanes Blaenycoed,Penybont, a Bryn Iwan.

412  

FFYNONBEDR

(Tre-lech a'r Betws parish)

Dechreuwyd yr achos yma yn y flwyddyn 1808, trwy lafur Mr. Jones, Trelech. Aelodau o Drelech oedd yr holl rai a ymffurfiodd yma yn eglwys ar y dechreu, oddigerth dau o Bethlehem a ymunodd a hwy. Bu y lle dan ofal Mr. Jones mewn cysylltiad a Threlech hyd ei farwolaeth, ac wedi hyny dan ofal ei fab Mr. Evan Jones hyd nes y symudodd i Loegr. Wedi bod am flynyddau heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. Evan Jones, yr hwn a fu yn fyfyriwr yn Athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef Rhagfyr 19eg, 1839. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Hughes, Trelech. Holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Davies, Cana. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Jones, Saron. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. M. Rees, Pencadair, ac i'r eglwys gan Mr. S. Griffiths, Horeb. Cafwyd yma gryn ychwanegiad at yr eglwys y flwyddyn gyntaf wedi urddiad Mr. Jones, ac wedi hyny yn 1859 cafwyd yma adfywiad grymus iawn, ac nid oes un flwyddyn wedi myned heibio er ei sefydliad yma heb fod rhyw rai yn cael eu hychwanegu at yr eglwys, ac y mae wedi derbyn yma yn ystod ei weinidogaeth chwe' chant o aelodau newyddion. Yn 1825 ail-adeiladwyd y capel yma; ac yn 1851 codwyd yma gapel newydd cyfleus, a thalwyd am dano oll yr un flwyddyn. Nis gallwn grybwyll enwau yr holl ffyddloniaid a fu yma yn nglyn a'r achos, ond y mae rhai personau wedi bod mor flaenllaw gyda'r achos yma fel na byddai yn iawn i ni fyned heibio heb gyfeirio atynt. Yr oedd Mr. John Davies, Plasparciau, a'i briod, a Mr. J. Phillips yn mysg noddwyr cyntaf yr achos yma, a'u ty yn gartref i'r rhai a ddeuai heibio am dymor hir. Dafydd Evans, Glanrhyd, oedd un o sylfaenwyr yr Ysgol Sabbothol, a bu yn arolygwr iddi hyd ddiwedd ei oes. John Williams, Glandwr, a'i briod, a'u plant ar eu hol, a fu o help mawr i'r achos. Dafydd Shadrach, Pantgwyn, oedd seren ddysglaer mewn crefydd, a gosodai ei arswyd ar annuwiolion.* Gallwn enwi llawer eraill, ond ni chaniata ein terfynau.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:

Cyfodwyd Jonah Rees hefyd a Jonah Thomas, ond ni wyddom ddim am danynt gan na chawsom ond eu henwau yn unig.

  

CAPEL IWAN

(Cilrhedyn parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Cilrhedyn, o fewn tair milldir i Gastellnewydd. Nid oes gwybodaeth pwy o'r Annibynwyr a bregethodd gyntaf yn yr ardal, ond codwyd y capel cyntaf mor foreu a'r flwyddyn 1723. Nid oes sicrwydd pa un ai fel cangen o Landwr ai fel cangen o Drelech y

*Llythyr Mr. E. Jones, Ffynonbedr.

413

dechreuodd, ond y mae sicrwydd iddi fod mewn cysylltiad a Glandwr; a than weinidogaeth Mr. Griffith yr oedd hyd nes y derbyniodd Mr. Morgan Jones alwad o Drelech, ac ar yr un adeg cymerodd hefyd ofal yr eglwys yma. Yn 1795, ail-adeiladwyd y capel, a gwnaed ef yn llawer helaethach nag o'r blaen; ac o dan weinidogaeth Mr. Jones daeth yma eglwys gref a chynnulleidfa luosog, a bu ei gofal arno hyd ei farwolaeth. Yn 1837, rhoddwyd galwad i Mr. Edward Rees, Bryn Seion, a bu yma yn boblogaidd a llwyddianus hyd 1843, pryd y symudodd i Benmain, Mynwy. Bu yr eglwys ar ol hyn dair blynedd heb weinidog. Yn 1845, adeiladwyd yma gapel newydd helaeth a chyfleus, ac agorwyd ef Mehefin 16eg a'r 17eg, 1846, ac ar yr un pryd urddwyd Mr. William Jenkins, aelod o Rehoboth, Brynmawr, ond a fuasai yn yr ysgol gyda Mr. Evans, Crwys, yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwys yn Llwynyrhwrdd. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Davies, Pantteg; holwyd y gweinidog gan Mr. W. Morris, Abergwyli; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Jones, Saron; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Stephen son, Nantyglo, ac i'r eglwys gan Mr. J. Evans, Crwys. Bu Mr. Jenkins yn dderbyniol a llwyddianus yn y lle, a phrofwyd yma awelon grymus o adfywiad fel yr ychwanegwyd ugeiniau at yr eglwys. Yn 1850, derbyniodd alwad oddiwrth ei fam-eglwys yn Rehoboth, Brynmawr, a symudodd yno. Y flwyddyn ganlynol, unodd yr eglwys hon a'r eglwys yn Nghastellnewydd i roddi galwad i Mr. John Williams, Llangadog; a bu yma yn llafurus a phoblogaidd am ddeunaw mlynedd. Daliwyd ef gan angau yn anterth ei ddydd, a bu farw wedi byr gystudd yn Tachwedd, 1869. Wedi bod fwy na dwy flynedd heb weinidog, unodd yr eglwys hon a'r eglwysi yn Castellnewydd a Bryn Seion i roddi galwad i Mr. Evan A. Jones, Dolgellau, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn haf 1872. Mae yma eglwys gref yn rhifo tua 350, a chynnulleidfa luosog a chapel da, a mynwent helaeth yn nglyn ag ef, ac ysgoldy cyfleus lle y cynhelir ysgol ddyddiol, fel y mae yr achos yn ei wedd allanol mewn cyflwr tra dymunol. Mae yma hefyd ddau ysgoldy cyfleus lle y cynhelir Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio a phregethu yn achlysurol. Un yn Llwyndrain, Clydau, a'r llall yn Tanglast; ac y mae yn y rhai hyn ag ysgol y capel tua 300 dan addysg Sabbothol.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

414

  

BRYN SEION

(Cenarth parish)

Cyn cyfodi y capel sydd yn myned dan yr enw uchod, arferid cadw cyfarfodydd gweddi mewn ty-anedd, o'r enw Cilfod, er y flwyddyn 1804. Cymerwyd y gofal mwyaf am y cyfarfodydd gan aelodau o eglwys Capel Iwan. Er nad oedd yr un capel yn y gymydogaeth y pryd hwnw etto ychydig iawn oedd yn ymgynnull i'r cyfarfodydd gweddi nes i ddiwygiad nerthol a grymus iawn dori allan yn y flwyddyn 1805 pryd yr ychwanegwyd llawer at y gwahanol eglwysi, ac adfywiodd yr achos bychan yn Cilfod yn neillduol yr adeg heno. Dyma y pryd y dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol yn y lle, a thua'r flwyddyn 1810 y dechreuwyd pregethu yn lled gyson. Gosodwyd pulpud ynddo fel y byddai yn fwy cyfleus, a chedwid ysgol ddyddiol yno yn yr wythnos gan bregethwr  perthynol i'r Methodistiaid o'r enw Phillip James.  Bu y diweddar Mr. Morgan Jones, Trelech, yn pregethu yno  lawer gwaith, ac i Gapel Iwan y byddai yr aelodau yn myned i gymundeb. Bu llawer iawn o enwogion o wahanol enwadau yn pregethu yn Cilfod, megis Ebenezer Morris, Twrgwyn; John Evans, New Inn; Daniel Davies, Aberteifi; Lewis Powel, Caerdydd; Thomas Jones, o Saron; a Thomas Griffiths, Hawey, a llu o rai ereill rhy faith i'w henwi. Ond yr un a fu yn fwyaf ffyddlon a llafurus gyda' r achos yn y lle oedd John James, Aberdwylan. Bu ef yn pregethu yn Cilfod bob yn ail Sabboth am lawer o flynyddoedd, yn nghyd ag mewn llawer o anedd-dai eraill yn y gymydogaeth, ac yn aml iawn yn Penlangych; a byddai pawb yn wir barchus o hono. Efe fyddai yn pregethu mewn angladdau fynychaf yn y gymydogaeth. Yr oedd iddo air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Bu ef farw yn y flwyddyn 1851, yn 72 oed, a chladdwyd ef yn ymyl capel Brynseion, yr hwn yr oedd ef wedi bod a'r llaw flaenaf yn ei adeiladiad. Tua'r flwyddyn 1830, daeth Mr. John Phillips, o'r Drewen, i bregethu yn Cilfod, yr  hyn a fu yn foddion i adfywio ac ychwanegu yr achos yn fawr. Cynyddodd yr Ysgol Sabbothol a'r  gwrandawyr dan ei weinidogaeth ef, fel yr aeth y lle yn rhy gyfyng aros ynddo. Danfonwyd at Iarll Cawdor am gael tir i adeiladu capel mewn man mwy cyfleus, a chafwyd hyny, yn nghyd a lle claddu perthynol iddo, ac yn y flwyddyn 1831, adeiladwyd capel yn ymyl Pontseli, a galwyd ef yn Brynseion, a phregethwyd ynddo y waith gyntaf yr ail Sabboth yn mis Medi y flwyddyn hono. Ar y 9fed o Hydref yr agorwyd y capel, pryd y gweinyddwyd gan Meistri M. Jones, Trelech; D. Davies, Aberteifi; a J. Phillips, Drewen, a derbyniwyd trwy lythyrau o Capel Iwan, Tyrhos, a'r Drewen, tua dau-ar-bymtheg-a-deugain, y rhai oedd wedi eu derbyn mewn cysylltiad a Cilfod. Bu yr eglwys yn llwyddianus iawn o dan ofal Mr. Phillips am yr ychydig flynyddau y bu yma cyn i'w iechyd waelu a'i orfodi i symud i Wlad yr Haf. Rhoddwyd galwad yn mhen amser i Mr. Edward Rees, o Llanrhaiadrynmochnant, swydd Dinbych, ac urddwyd ef i gyflawn gwaith y weinidogaeth yma Mai 6ed, 1835, pryd y gweinyddwyd gan Meistri J. Davies, Glandwr; D. Thomas, Penrhiwgaled; W. Miles, Tyrhos; T. Jones, Saron; T. Griffiths, Horeb; David Owens, Llechryd, ac eraill. Bu yma yn gweinidogaethu am wyth mlynedd, nes y symudodd i Benmain yn 1843. Bu yr eglwys yn ymddi

415

bynu drachefn ar weinidogaeth achlysurol hyd y flwyddyn 1847, pryd rhoddwyd galwad i Mr. Abednego Jenkins, o Brynmair, a bu yn ymdrechgar iawn yn y lle gyda y cyfarfodydd gweddi a'r Ysgol Sabbothol, a phob moddion crefyddol, er ei fod ar y pryd yn gofalu fel gweinidog am eglwys Brynmair. Derbyniodd tua deg-a-thriugain yn aelodau y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth yn y lle; a bu yma am yspaid deuddeng mlynedd, nes yn 1859 y derbyniodd alwad oddiwrth eglwysi Cana a Gibeon, a symudodd yno. Yn fuan ar ol symudiad Mr. Jenkins  rhoddodd eglwys Brynseion ei hun dan ofal Mr. John Williams, Castellnewydd, a bu felly hyd ei farwolaeth yn 1869. Bu Mr. Williams yma yn ddedwydd a llwyddianus am yn agos i ddeng mlynedd. Yn bresenol mae yr eglwys dan ofal Mr. Evan A. Jones, gyda Chastellnewydd a Chapel Iwan, a phob peth yn myned yn mlaen yn gysurus, ond bod y cylch yn llawer rhy eang fel nas gall y gweinidog fod yn aml gyda'r bobl.

Codwyd i bregethu yn yr eglwys hon.

Hefyd, yn yr eglwys yma y magwyd ac y derbyniwyd y brodyr E. H. Evans, Caernarfon, a W. J. Evans, Hwlffordd, ond ar ol ymadael oddiyma y dechreuasant bregethu. Mae golwg siriol  ar yr achos yn Brynseion, a'r eglwys yn wastad yn heddychol a thangnefeddus.

 

SARON, LLANGELER

Dechreuwyd pregethu yn yr ardal hon o gylch y flwyddyn 1670, mewn lle a elwir Penlon, yn agos i Felindre Siencyn. Yr oedd Mr. E. Hughes, yr hwn a drowyd allan o Eglwys Llandyfriog, yn byw heb fod yn mhell o'r ardal, a phregethai yn fynych i'r ychydig ddysgyblion; a deuai Mr. James Davies, o Merthyr Fach, yma yn achlysurol; ac ar ol hyny bu gweinidogion Henllan a Threlech yn cyrchu yma yn fynych; a dywedir i ryw weinidog oedd a gofal yr achos yn benaf arno ymfudo i America.

Rywbryd yn haner gyntaf y ddeunawfed ganrif  cymerodd Mr.Thomas Jones, Glanyffrwd, ofal yr eglwys yma mewn cysylltiad a Nantgronwy, yn mhlwyf Cynwil. Yn nhymor gweinidogaeth  Mr. T. Jones, y  symudwyd yr achos o Penlon i Drefach. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1753, a buwyd am dair blynedd yn cyfarfod mewn ty anedd yn Drefach. O gylch yr amser yma yr oedd dirywiad mewn barn wedi dyfod i mewn i lawer o eglwysi, ac ymddengys i rai yma gael eu llygru fel yr aeth yn gynen ac ymryson, ar diwedd fu i'r eglwys fechan ymranu. Aeth yr Arminiaid allan i Benrhiw, ac yno y maent hyd y dydd hwn. Sefydlodd y rhan arall yn nghongl yr allt goed oedd gerllaw, gosodwyd y pulpud wrth hen dderwen, ac yno y buont yn pregethu hyd 1756, pryd y codwyd capel bychan yn Drefach. Mae yr hen dy i'w weled etto, ac nid yw ond bwthyn llwyd a tho gwellt, ond edrychir arno fel llecyn cysegredig. Helaethwyd y capel ar ol ei adeiladu y tro cyntaf,  a gosodwyd oriel ynddo. Bu Mr. T. Jones yn dra ffyddlon a llafurus; ond gan fod ei ffordd yn mhell ac yntau yn heneiddo, rhoddwyd galwad i Mr. John Lewis, aelod o Henllan, i fod yn gynorthwywr iddo. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1761, ac yn mhen pedair blynedd wedi hyny rhoddodd Mr. T. Jones i fyny yn llwyr gan fod  ei analluog i deithio

416

hyd yma. Yr oedd Mr. Lewis yn byw yn Nghastellnewydd, ac yn fasnachydd cyfrifol yno; ac ymddengys iddo fod yn dra llwyddianus fel masnachydd, ond ni bu felly fel gweinidog.  Baich ei bregethau oedd gwrthwynebu Arminiaeth;  ac yn mhen naw-mlynedd-ar-hugain nid oedd nifer yr aelodau ond deuddeg. Bu yr ychydig ffyddloniaid hyn yn petruso am yspaid, a oedd yn ddoeth iddynt barhau yr achos yn mlaen o dan y fath amgylchiadau. Yn y cyfamser yr oedd gwr ieuangc o'r enw David Davies, wedi dechreu pregethu yn Mhencadair, a chan fod ei ddoniau fel pregethwr yn tynu sylw y wlad, penderfynwyd ei wahodd yma yn fisol.  Cydsyniodd a'r gwahoddiad, a bu yma amryw weithiau, a rhoddodd ei bregethau cyffrous, a'i ysbryd gwresog fywyd newydd yn yr achos.  Yr oedd newydd-deb a rhagoroldeb ei ddawn, a'r arbenigrwydd a roddai yn ei bregethau i gyflwr colledig dyn fel pechadur, a'r ffordd i gadw trwy Gyfryngwr yn peri fod yr holl wlad yn cyrchu i'w wrando. Penderfynwyd rhoddi galwad iddo, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1790. Dechreuodd ar ei waith o ddifrif. Dyrchafai ei lais fel udgorn er mynegi i'r bobl eu camwedd, a byddai ei weinidogaeth yn danllyd a brawychus nes creu arswyd ar annuwiolion y wlad; ond newidiodd ei don yn fuan, a chyhoeddai drefn Duw i faddeu trwy Gyfryngwr nes y trodd llawer at yr Arglwydd am drugaredd. Daeth yr achos oedd ar fin marw i wisgo gwedd newydd hollol, fel yr aeth yr hen gapel cyn pen dwy flynedd yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa. Yn 1792, adeiladwyd capel newydd mewn man mwy cyfleus i'r holl ardal, a galwyd ef yn Saron, a llanwyd ef yn fuan a gwrandawyr. Yr oedd cysylltiad Mr. Lewis a'r eglwys yn parhau o hyd, ac er mai yn gynorthwywr iddo yr urddwyd Mr. Davies, etto arno ef yr oedd yr holl ofal. Er galar a cholled i'r holl wlad derbyniodd Mr. Davies alwad o'r Mynyddbach gerllaw Abertawy, a symudodd yno yn 1795. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. John Bowen, aelod o'r eglwys, ac urddwyd ef Tachwedd 3ydd, 1795. Bu yma yn dra llwyddianus hyd y flwyddyn 1802, pryd y taenodd cwmwl dros yr achos. Er fod Mr. Bowen yn ddyn da a thalentog, etto nid oedd bob amser mor wyliadwrus ag y buasai ddymunol; ac yr oedd Mr. Thomas Jones, Gilfach Isaf, yn bregethwr ieuangc yn yr eglwys, ac er na chyfrifid ef mor ddoniol fel pregethwr a Mr. Bowen, etto yr oedd ei fywyd diargyhoedd yn enill iddo air da gan bawb; ac yr oedd rhai yn awyddus am ei urddo yn gydweinidog a Mr. Bowen. Pa fodd bynag aeth pethau mor anymunol yn yr eglwys fel y diarddelodd Mr. Bowen gryn nifer o'r aelodau, a rhai o honynt yn ddynion rhagorol fel crefyddwyr. Yr oedd rhan fawr o'r eglwys yn annghymeradwyo hyny, a barnai yr hen weinidog Mr. Lewis mai gweithred fyrbwyll oedd eu diarddel, ac oblegid hyny cyhoeddodd y byddai iddo y Sabboth canlynol weinyddu cymundeb i'r rhai a ddiarddelwyd, ac felly y bu. Rhanwyd yr eglwys, rhan gyda Mr. Bowen, a rhan gyda'r hen weinidog, ac ymffurfiasant yn eglwysi hollol annibynol; ond cadwodd y ddwy ran eu gafael yn y capel, ac yn pregethu ynddo bob yn ail Sabbotb, a byddent yn cadw eu moddion wythnosol ar amserau gwahanol. Urddwyd Mr. Thomas Jones yn gynorthwywr i Mr. Lewis, yr hen weinidog, yn y flwyddyn 1802. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin. Holwyd y gofyniadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Lewis, yr hen weinidog. Pregethodd Mr. T. Davies, Pantteg, i'r gweinidog, a Mr. D. Davies, Abertawy, i'r eglwys. Parhaodd pethau i fyned yn mlaen

417

felly dros rai blynyddau, ac er fod teimladau yn gwella yn raddol, etto yr oeddynt yn mhell o fod yn gysurus. Ar y cyntaf ni ddeuai neb o bobl Mr. Jones i'r capel ar Sabboth Mr. Bowen, na neb o bobl Mr. Bowen ar Sabboth Mr. Jones; ond cyn hir nesasant at eu gilydd mor agos nes dyfod i wrando y naill fel y llall. Gwnaed llawer o ymdrech i'w huno gan weinidogion cylchynol, ac eraill, ond y cwbl yn ofer hyd ryw adeg pan y daeth eu cyn-weinidog, Mr. Davies, Abertawy, heibio, a phregethodd gyda'r fath nerth a dylanwad nes eu toddi oll i'w gilydd yn un eglwys dan ofal y ddau weinidog, ac felly y parhaodd hyd farwolaeth Mr. Bowen, yr hyn a gymerodd le Ebrill 30ain, 1830. Byddai y ddau weinidog adref bob amser ar y cymundeb, un yn pregethu, a'r ddau yn cydweini wrth y bwrdd, ac yr oedd y teimladau mwyaf brawdol a chynes yn bodoli rhyngddynt.

Yn y flwyddyn 1825, ail-adeiladwyd y capel a gwnaed ef yn dy hardd a chryf, a chyrchai iddo yn rheolaidd gynnulleidfa luosog. Yn y flwyddyn 1807, adiladwyd capel yn Nghastellnewydd, yr hwn ar y cychwyn a ystyrid fel cangen o'r eglwys hon, a bu dan ofal Mr. T. Jones hyd ei farwolaeth. Adeiladwyd hefyd, yn 1836, gapel bychan yn mhlwyf Penboyr, yr hwn a alwyd yn Soar. Llafuriodd Mr. Jones yma yn ddiwyd a ffyddlon hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth 9fed, 1850.

Wedi bod am dair blynedd heb weinidog rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Jonah Morgan, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol parchus yn Cross Inn, Llandybie, ac urddwyd ef Chwefror 24ain, 1853, a bu yma hyd ddechreu haf 1856, pryd y symudodd i Cwmbach, Aberdar, lle y mae etto. Cyn diwedd y flwyddyn hono rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Jones, aelod o Rydybont, ac urddwyd ef Tachwedd 19eg, 1856. Bu yma dros rai blynyddoedd, ond darfu ei gysylltiad a'r eglwys yn niwedd y flwyddyn 1864. Yn nechreu y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. John Elias, myfyriwr o Athrofa y Bala, ac urddwyd ef Mai 22ain yr un flwyddyn, ond darfu ei gysylltiad a'r eglwys cyn diwedd y flwyddyn hono. Derbyniodd yr eglwys yn y blynyddoedd hyny glwyfau dyfnion, and daliodd yr achos yn gryf a blagurog trwy y cwbl. Cyn diwedd y flwyddyn 1870, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas J. Morris, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Chwefror laf, 1871, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda chymeradwyaeth, a'r achos mewn gwedd lwyddianus.

Bu yma lawer o ddynion ffyddlon yn nglyn a'r achos o bryd i bryd, ac ymysg  eraill coffeir yn barchus am enwau Thomas Price, Trebedw; John Joshua,Penrhiw; David Jones, Cefn; Evan Griffiths, David Jones, Penalltygigfran ; a William Williams, Trebedw. Yr oedd yn yr eglwys yn y dyddiau gynt lawer iawn o wres crefyddol, ac nid ydyw wedi ei lwyr golli etto, er fod y rhan fwyaf o'r hen frodyr a'r hen chwiorydd oedd yn nodedig am eu teimladau crefyddol wedi eu cymeryd ymaith.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

418

Gan mai yn nglyn a'r eglwys yma y treuliodd yr hen bregethwr hynod Rhys Davies y rhan fwyaf o'i oes, dichon mai yma y byddai yn fwyaf priodol i ni wneyd crybwylliad byr am dano. Nis gallwn yma wneyd olrheiniad helaeth i neillduolion ei gymeriad, ond cofnodwn y prif ffeithiau yn hanes ei fywyd. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Castellnewydd-Emlyn, yn y flwyddyn 1772. Derbyniwyd ef yn aelod, a dechreuodd bregethu yn ieuangc, a bu am yspaid yn yr ysgol dan ofal Mr. J. Griffiths, Glandwr. Aeth i'r Gogledd cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, a bu yn cadw ysgol mewn amryw fanau yn siroedd Trefaldwyn, Meirionydd, a Dinbych. Mewn adeg o ddiwygiad grymus yn Penarth, yn y flwyddyn 1796, digwyddodd i ddyn mawr cryf o'r enw John Rogers, wrth orfoleddu a neidio, sathru ar ei droed, ac o ddiffyg gofal mewn pryd chwyddodd yr enyniad i fyny i'w goes fel y bu raid ei thori, ac o hyny allan defnyddiai glun bren, yr hyn yn nghyd a'i ddull hynod a'i ystumiai annaturiol a roddai lawer o ddifyrwch i ieuengetyd difeddwl. Yr oedd o dymer gyffrous a chwerw, ond deuai i'w le yn union; ac yr oedd pawb yn cydnabod ei fod yn Gristion gwresog a didwyll. Teithiodd lawer trwy ei oes, a bu am flynyddoedd yn myned trwy y wlad i werthu " Llythyr y Gymanfa." Yr oedd yn wrandawr bywiog, ac yn weddiwr gafaelgar, a phregethai yn dda, ond e fod yn hynod o anfedrus fel traddodwr. Mae lluaws mawr o hanesion difyrus am dano ef a'i anifail ar gof a llafar, ond nid dyma y lle i'w cofnodi; ond y mae dwy ffaith yn nglyn ag ef sydd yn werth eu crybwyll. Efe oedd yr Annibynwr  cyntaf a bregethodd yn ardal Talybont, sir Abertifi. Aeth yno o Pennal, lle yr oedd yn cadw ysgol, ar gais Mrs. Anwyl, Llugwy; a phregethodd oddiar gareg-farch o flaen y Black Lion. Efe hefyd, pan yn pregethu mewn lle a elwir Beddcoedwr, yn mhlwyf Trawsfynydd, a fu yr offeryn yn llaw yr Arglwydd i argyhoeddi bachgenyn o'r enw William Williams, yr hwn wedi hyny a adwaenid trwy Gymru oll wrth yr enw anwyl "Williams o'r Wern." Nis gellir adrodd hanes eglwys Talybont yn llawn heb son am Rhys Davies; a thra y byddo Williams o'r Wern mewn coffadwriaeth, coffeir hefyd am "Rhys y glun bren." Anfarwolwyd y pregethwr di-addurn yn anfarwoldeb un o'r " tri chedyrn cyntaf."  

419

Bu Rhys Davies farw yn dra disymwth, Ionawr 6ed, 1847, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llangeler, ac ni wybyddir hyd y dydd y datguddir y dirgelion oll pa faint o wasanaeth a wnaeth i'r efengyl yn ei oes.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

THOMAS JONES. Yr oedd yn byw yn Glanffrwd, yn mhlwyf Llannewydd, gerllaw Caerfyrddin. Yr oedd yn weinidog yn Penlon a Nantgronwy, ac yn ei amser ef y symudodd yr achros o Benlon i'r Drefach. Dywedir ei fod yn wr duwiol a llafurus iawn, ac yn nodedig o dawel a heddychol. Er fod ganddo lawn deng milldir i fyned o Lanffrwd i'r Drefach, etto ni byddai byth yn colli hyd nes y daliwyd ef gan henaint nes ei orfodi i roddi i fyny. Nis gallasom gael allan pa bryd y bu farw, ond yr ydym yn casglu i hyny gymeryd lle yn fuan ar ol y flwyddyn 1780. Gwelsom rai hen bobl oedd yn ei gofio, ac yr oeddynt yn coffau am dano gyda pharch.

JOHN LEWIS. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Henllan, yn y flwyddyn 1723, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod ac y dechreuodd bregethu; er na anfonwyd ei enw i ni yn mysg y pregethwyr a gododd oddiyno. Ymsefydlodd fel masnachydd yn Nghastellnewydd-Emlyn, ac yno y treuliodd ei oes. Urddwyd ef yn weinidog yn Nhrefach fel cynorthwywr i Mr. Thomas Jones, Glanffrwd, tua'r flwyddyn 1761, pan oedd yn 38 oed. Yr oedd yn ddyn o gorff cryf, ac o ddeall da, ond ychydig o lwyddiant a fu ar ei weinidogaeth. Pregethai bob amser yn erbyn Arminiaeth, ac os llwyddodd i atal y bobl at yr Arminiaid ni lwyddodd i'w cael ato ef. Nid oedd ganddo ond deuddeg o aelodau yn y Drefach ar ol naw-mlynedd-ar-hugain o weinidogaeth. Llwyddodd i gasglu y byd. Efe a roddodd dir i adeiladu capel yn Nghastellnewydd. Bu farw Mai 14eg, 1818, yn 95 oed, wedi bod yn aelod eglwysig am 77 o flynyddoedd. Claddwyd ef yn Hawen.

JOHN BOWEN. Mab ydoedd i Mr. Owen Bowen, offeiriad Llangeler. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1768. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Drefach yn nhymor gweinidogaeth Mr. D. Davies, ac yn fuan dechreuodd bregethu. Ar ymadawiad Mr. Davies i'r Mynyddbach, urddwyd ef yn weinidog yn Saron yn 1795, a llafuriodd yno am bymtheng-mlynedd-ar-hugain. Yr oedd Mr. Bowen yn gweinidogaethu hefyd yn Hermon, ac wedi marwolaeth Mr. T. Dayies, Pantteg, cymerodd hefyd ofal yr eglwys yn Bwlchnewydd. Oherwydd ei lesgedd a phellder y ffordd rhoddodd Hermon a Bwlchnewydd i fyny fwy na blwyddyn cyn ei farwolaeth, ond parhaodd ei gysylltiad a Saron hyd ei ddiwedd. Yr oedd Mr. Bowen, yn ol tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai, yn ddyn o ddeall cryf, wedi cael addysg dda, ac o ddoniau grymus fel pregethwr. Yr oedd mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn cael ei barchu yn fawr fel cymydog a gwladwr, ac yr oedd ymlyniad cryf iawn wrtho gan bobl ei ofal. Bu farw Ebrill 30ain, 1830, yn 62 oed.

THOMAS JONES. Mab ydoedd i John a Mary Jones, Gilfachisaf, Llangeler. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1770, a derbyniwyd ef yn y Drefach yn fuan wedi sefydliad Mr. D. Dayies yno. Dechreuodd bregethu cyn hir, ac urddwyd ef yn y flwyddyn 1802. Ystyrid Mr. Jones yn ddyn call, yn meddu ar synwyrau cryfion, o dymer ac ysbryd heddychol, ac yn nodedig mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb. Er nad oedd yn

420  

meddu doniau poblogaidd fel pregethwr, etto yr oedd ei bregethau yn orlawn o efengyl, a thraddodai hwy yn eglur, yn syml, ac yn wresog. Bu yn ffyddlon, diwyd, a llafurus fel gweinidog, a gwelodd ffrwyth ei lafur. Trwy ei ymdrechion ef yn benaf y sefydlwyd yr eglwys yn Nghastellnewydd, a bu yn gwylio drosti hyd ei ddiwedd. Yr oedd yn ddwfn iawn yn serchiadau pobl ei ofal, a chynyddai yn ei barch hyd derfyn ei oes.  Bu farw Mawrth 9fed, 1850, yn 80 oed.

  

CASTELLNEWYDD-EMLYN

(Cenarth parish)

Mae Castellnewydd-Emlyn yn hen dref, yn sefyll yn nghanol dyffryn Teifi, ac yn cael ei hamgylchynu gan y golygfeydd mwyaf prydferth, amrywiol, a thoreithiog. Gelwir y lle yn Gastellnewydd, am fod y castell diweddaf wedi ei adeiladu ar adfeilion yr un o'i flaen gan Rhys ab Thomas, yn amser Harri VII. Gelwir y lle yn Gastellnewydd-Emlyn am fod Teifi yn ymddolenu o gwmpas y dref a'r castell yn agos ar lun M.

Er fod gan yr Annibynwyr eglwysi lluosog a chyfrifol o gwmpas y dref nid oedd ganddynt achos yn y lle, hyd tua'r flwyddyn 1807. Dechreuwyd gwasanaeth crefyddol yma yn nhy Mr. John Lewis, hen weinidog Saron, yr hwn oedd yn fasnachwr cyfrifol yn y dref; a phan gynygiodd ddarn o dir i adeiladu capel arno, derbyniodd Mr. T. Jones, cyd-weinidog Mr. Lewis yn Saron, ac amryw gydag ef, y cynyg yn llawen. Cafwyd ysgrif-rwym arno am 999 o flynyddau, ac adeiladwyd addoldy yn 1807, yr hwn a alwyd Ebenezer, a ffurfiwyd yma eglwys, yn benaf o aelodau Saron. Mr. T.Jones oedd eu gweinidog cyntaf, yr hwn a'u gwasanaethodd dri Sabboth yn y mis hyd ei farwolaeth yn 1850. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn o gymeriad pur, o dymer hynaws, ac o ddoniau melus, a bu yn llwyddianus a derbyniol yma drwy ei oes. Tua 1840 prynodd yr eglwys y tir o dan y capel, a darn arall ato; ac yn 1844 adeiladwyd capel helaethach o lawer, fel yr oedd ar y pryd y mwyaf a harddaf yn yr ardaloedd, ac y mae yr oll er's blynyddau yn ddiddyled, a'r tir yn feddiant bythol i'r eglwys, a digon o le i helaethu y capel, yr hyn yn ol yr argoelion presenol a fydd raid wneyd cyn hir. Agorwyd y capel newydd Mawrth 5ed ar 6ed, 1845. Yn 1851 rhoddodd yr eglwys yn Ebenezer, mewn cysylltiad a Capel Iwan, alwad i Mr. John Williams, Llangadog, yr hwn a fu yma yn boblogaidd a llwyddianus hyd Tachwedd, 1869, pryd y bu farw, yn 51 oed. Yn niwedd 1871 rhoddodd eglwys Ebenezer, mewn cysylltiad a Capel Iwan a Brynseion, alwad unfrydol i Mr. Evan A. Jones, Dolgellau; ac y mae ugeiniau lawer wedi eu derbyn yn y tri lle yn ddiweddar. Mae yn y tri lle naw cant o aelodau, a chynnulleidfaoedd lluosog o wrandawyr, fel y mae yn un o'r maesydd pwysicaf yn y Dywysogaeth; canys y mae y wlad o gwmpas wedi ei meddianu gan mwyaf gan yr Annibynwyr. Rhifa yr eglwys hon tua 380.

Mae yma lawer o bobl lafurus a gweithgar wedi bod gyda'r achos o bryd i bryd, ac y mae yma lawer o rai felly yn aros; ac y mae eu llafurus gariad mewn coffadwriaeth ger bron Duw, a'u henwau yn y ysgrifenedig yn y nefoedd.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma :

 

CONTINUED

 


Return to top

[Gareth Hicks  5 June 2008]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes, and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages withill GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark.

Valid HTML 4.0!