| Carmarthenshire | Contents |
Pages 421 - 434
Proof read by Maureen Saycell (March 2008)
Chapels below;
|
|
421
JOHN WILLIAMS. Ganwyd ef yn Ffrwdwen, plwyf Llandilofawr, Mai, 1819. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ai dad yn ddiacon yn hen eglwys Capel Isaac. Pan nad oedd ef ond ieuanc symudodd ei rieni i Brown Hill, yn mhlwyf Llansadwrn, un o'r ffermydd mwyaf yn Nyffryn Towy. Cadwasant eu syniadau boreuol am grefydd gymdeithasol er newid eu hardal ; ac nid aethant yn rhy fydol, nac yn rhy goeg-falch i gael ambell oedfa yn achlysurol yn Brown Hill, fel yr arferent yn Ffrwdwen. Cyrchai yr holl deulu i addoli i Ebenezer, Llansadwrn, ac yno, ar Sabboth y Pasg, 1837, y derbyniwyd Mr John Williams yn aelod gan Mr Williams, Llandilo. Dangosodd yn fuan arwyddion gobeithiol. Yr oedd ei ddawn gweddi yn nodedig ; a chymhellid ef gan ei weinidog i bregethu. Nid oedd ei rieni yn a wyddus i hyny, nid oblegid eu bod am gael ei wasanaeth ar y fferm, ond ofnai y tad nad oedd dim dawn ganddo, ac arferai ddyweyd yn ei ddull syml ei hun, nad oedd dim yn waelach na phregethwr gwael. Ond yr oedd y tad yn ofni lle nid oedd ofn, wrth ofni nad oedd dim dawn gan y bachgen, oblegyd ni bu erioed neb a mwy o ddawn ganddo. Rhedai ei ddawn yn ffrwd ddiatal. Dechreuodd bregethu yn ngwanwyn 1839, a chyrhaeddodd yn fuan boblogrwydd mawr yn ei wlad fel pregethwr ieuangc. Aeth i Athrofa Ffrwdyfal, a bu yno am rai blynyddoedd, a gwnaeth yn fawr o'i amser ac o'i fanteision am y tymor y bu yno. Pan yr oedd yno daethom ni gyntaf i gydnabyddiaeth ag ef. Arferai ei gydefrydwyr edrych i fynu ato mewn mwy nag un ystyr ; ac anaml y gwelsom ddyn ieuangc mwy gwylaidd a chrefyddol nag ydoedd yn yr adeg hono. Cafodd alwad o Siloa, Llanelli, ac ar yr un adeg cafodd alwad o Langadog, a Sardis, a Myddfai ; ac oherwydd agosrwydd y lleoedd olaf i'w gartref, a dylanwad barn a chyngor ei weinidog, Mr Williams, Llandilo ; gogwyddwyd ef atynt, ac urddwyd ef yn Llangadog, Awst y 5ed, 1841, a chynaliwyd cyfarfodydd hefyd yn nghlyn a'r urddiad yn Sardis a Myddfai. Llettyai yn Brown Hill gyda'i rieni, ac ni chychwynodd gweinidog ieuangc erioed yn fwy addawol. Teithiodd lawer i gyfarfodydd pregethu gyda'i gyfaill Mr Williams, Llandilo, yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth ; ac anaml y cyrhaeddodd yr un dyn ieuangc y fath boblogrwydd a chyhoeddusrwydd mewn amser mor fyr ag a gyrhaeddodd ef. Ymaflodd yn ei waith o ddifrif, a gwelodd yn fuan yn maes eang ei weinidogaeth, ffrwyth i'w lafur. Ni welsom neb yn fwy llwyr ymroddgar i'w waith nag ydoedd yn y tymor hwnw ; ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi cyfranogi yn helaeth o ysbryd diwygiadol y gweinidog effro Mr Williams, Llandilo, o dan nawdd yr hwn y dygasid ef i fynu. Yr oedd cymhwysderau pregethu
422
anarferol ynddo. Dyn bychan, crwn, crasgoch, glandeg ydoedd ; ac yn yr adeg hono yn nodedig o gryno a glanwaith. Nid oedd dim yn hyf yn ei ymddangosiad, ond yr oedd yn serchog ac enillgar yr olwg arno. Siaradai yn gyflym iawn gyda llais cryf, ond yn tueddu braidd at fod yn gras, ond fel y poethai byddai yn lliniaru, ac yn tyneru nes dod yn dra effeithiol. Nid oedd nerth mawr yn ei feddyliau, na'i gyfansoddiad, na'i draddodiad ; ond yr oedd cyflawnder ei ddawn, a chyfanrwydd ei gyfansoddiad, a thlysni ei feddyliau yn peri ei fod yn aml yn cario pob peth o'i flaen. Clywsom rai pregethau ganddo nad anghofiwn hwy yn fuan, yn enwedig ei bregeth Ddirwestol yn Nghyfarfod Castellnedd, Calan, 1843 ; a phregeth y Plant yn urddiad Mr Davies, yn Llanelli, Brycheiniog, a'i bregeth ar Gyfraith y Fam, yn Nghymanfa Gibeon yn nechreu Haf, 1850. Yr oedd ganddo fedr nodedig i ymdrin materion ymarferol yn enwedig a phethau yn nglyn a rhieni a phlant. Clywsom of lawer gwaith mewn blynyddau diweddarach, ac er i fod mewn rhai pethau yn gryfach, etto nid oedd ynddo y tlysni a'r perffeithrwydd hwnw oedd mor amlwg yn ei nodweddu yn y deng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth .Ni bu ei gysylltiad a'r wasg yn ddim help iddo fel pregethwr ; ac nid efe yw yr unig un y gwyddom am dano a ddrygwyd fel pregethwr wedi dechreu darlithio. Ond yr oedd er hyny trwy ei oes yn bregethwr o'r fath fwyaf poblogaidd ; ac yn sicr yn un o'r dynion mwyaf doniol a fagodd ein cenedl erioed. Yr oedd ei egluriadau prydferth, ei ddarluniadau barddonol, ei ergydion hapus, a'i draddodiad llifeiriol yn ei wneyd yn gyfryw fel pregethwr ag yr hoffai pawb wrando arno. Wedi treulio deng mlynedd yn barchus yn Llangadog, derbyniodd alwad o Castellnewydd-Emlyn, a symudodd yno yn niwedd y flwyddyn 1851. Bu yno am ddeunaw mlynedd yn weithgar a diflino. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf caredig a pharod i wneyd cymwynas i bwy bynag a ddeuai ar i ofyn, ac yn gyfaill ffyddlawn ac yn noddwr tyner i ddynion ieuaingc. Yr oedd yni lonaid gorff a'i enaid, ac ni wybu erioed beth oedd diogi. Yr oedd wedi ei dori allan at bregethu, a phe cyfyngasai ei sylw yn llwyr i'r pulpud a'r weinidogaeth, y mae yn sicr genym yr arbedasai iddo ei hun lawer o ofidiau. Er mai fel pregethwr y rhagorai etto yr oedd ynddo lawer o fedrusrwydd fel llenor. Cyhoeddodd gofiant i Mr Williams, Llandilo, yr hwn yn sicr sydd yn un o'r bywgraphiadau goreu yn yr iaith Gymraeg ; ac ysgrifenodd lawer o bryd i bryd i'r Diwygiwr, ac y mae y cwbl a ysgrifenodd yn ystwyth a darllenadwy. Efe a gychwynodd y Byd Cymreig, newyddiadur wythnosol, ac yr oedd i holl gyfrifoldeb arno am y pum, mlynedd y bu yn dyfod allan, a pharodd iddo lawer o lafur, a phryder, a cholled. Gorweithiodd ei natur wrth fyw yn rhy gyflym, a thrwy ryw helbulon dirwynodd ei hun i drallod yn ei amgylchiadau bydol ; ac y mae yn rug genym orfod ychwanegu nad ydoedd am y deng mlynedd diweddaf o'i oes mor wyliadwrus a gochelgar ag yr ydoedd yn y deng mlynedd cyntaf o weinidogaeth. Ffufriasom gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch a'n gilydd pan nad oeddym ond ieuangc, ac y mae genym adgofion cynes am adegau a dreuliasom yn ddedwydd ynghyd; ac nis gallwn yn awr ysgrifenu y grybwyllion hyn am dano heb hiraeth, a thristwch, a galar. Ni chafodd ond byr gystudd, ond yr oedd hwnw yn chwerw, a phan y cafodd hamdden galwodd ei blant oll at ei wely a chydganodd gyda hwy un o'r hen emynau melus a arferent ganu ar yr aelwyd. Bu farw Tachwedd 9fed, 1869, yn 59 oed ; a chladdwyd ef mewn llanerch dawel yn mynwent
423
Capel Iwan, lle yr oedd ei wraig wedi ei rhoddi i orwedd chwe' blynedd o'i flaen. Boed heddwch i'w lwch ; a " Thad yr amddifad '* a ofalo am ei blant sydd wedi eu gadael heb dad na mam i wylio drostynt.
(Llanfihangel-ar-arth parish)
Mae hanes yr eglwys hon yn myned yn ol i ddyddiau boreuaf Ymneillduaeth yn ein gwlad. Mae yn sicr fod gan Mr Stephen Hughes, Meidrym, nifer o ddysgyblion yma at y rhai y cyrchai tua'r flwyddyn 1650, ac y mae yn bosibl ei fod yn arfer dyfod yma rai blynyddoedd cyn hyny. Cyfarfyddent yn gyntaf yn anedd-dy Llynddwfr, ac wedi hyny pan ddaeth yn adeg erledigaeth ymgynnullent er mwyn diogelwch yn ogof Cwmhwplin, ac mewn lle cysgodol yn yr ogof a elwir Cwmclud. Cymerasom unwaith yr hyfrydwch o ymweled a'r fan. Wedi gadael Llynddwr ar y chwith, a chroesi dros afon Dolgran, ac esgyn ryw ddau can, llath o'r afon, y mae Cwmhwplin. Wedi myned ychydig uwchlaw y ty y mae y cwm yn ymagor yn ddau yn debyg i'r llythyren Y. Yn y cwm ar y new dde y mae y creigiau mwvaf, ond rhaid dilyn y cwm ar y Ilaw chwith am ryw ddau can' llath, nes dod at dro byr, swta, ar y dde, ac yno y mae Cwmclud, neu Ogof Cwmhwplin. Nid agen mewn craig fel ogofau yn gyffredin ydyw, ond cysgod craig ; ac yr oedd ddau can' mlynedd yn ol wahanol iawn i'r hyn ydyw yn awr, heblaw fod y llwybrau a arweiniai iddi yn llawer mwy anhygyrch. Nis gallesid gweled y lle nes dyfod i'r fan. Dywedir yr arferai dynion ddyfod at eu gilydd i addoli yma o ugain milldir o bellder; a bu y fangre gysegredig iddynt yn "dy Dduw a phorth i'r nefoedd.'* Byddai Mr. Stephen Hughes yn dyfod at ei braidd yma yr holl ffordd o Abertawy. Digwyddodd ei fod yn dyfod yma ar un dydd Llun Pasg trwy Lanegwad, ac wedi dyfod yn agos i Bantyblawd luaws o ddynion yn dawnsio. Galwodd ar eu blaenor a dywedodd
"Deuwch gyda mi dros y mynydd, a chewch amgen camp o lawer. Gadawodd y dyn y cwmni a dilynodd y pregethwr bob cam, ac erbyn cyrhaedd cysgod y graig synodd yn fawr i weled cynifer wedi dyfod yn nghyd i'r fath le; a chyn y cyfarfod oedd goleuni dwyfol wedi tywynu ar ei enaid. Ymwasgodd a'r dysgyblion yn y lle, a theithiodd yn rheolaidd hyd tuag yno o hyny allan. Mae yn debyg mai yma yr arferent gyfarfod hyd derfyn oes Mr Hughes; ac mai ar ol cael cysgod o dan Ddeddf Goddefiad yr adeiladwyd y capel cyntaf. Crybwyllir am enwau Owen Davies a John James oeddynt yn bregethwyr cynorthwyol yma i Mr Hughes, ond efe a fyddai yn gweini yr ordinhadau. Yn y flwyddyn 1688, sef y flwyddyn y bu farw Mr Hughes, urddwyd Mr William Evans yn weinidog yma,a'r un flwyddyn urddwyd Owen Davies a enwyd uchod yn Henllan, a John James yn Llanybri. Bu Mr Evans yma hyd ddechreu. y ddeunawfed ganrif, pryd y symudodd i Gaerfyrddin; ac wedi bod rai blynyddoedd heb weinidog urddwyd Mr James Lewis o Ddinascerdin, yn mhlwyf Llandysul, yn 1706. Bu Mr. Lewis yma yn llafurio yn ddiwyd am y flynyddau, a bu farw Mai 3 lain, 1747, yn 73 oed. Yr oedd Mr Lewis, o Flaencerdin wedi ei urddo chwe' blynedd cyn marwolaeth yr hen weinidog i fod yn gynorthwywr iddo, a bu yma yn llafurio am bum' -mlynedd-ar-hugain, a bu farw Ionawr 21ain, 1766, yn 56 oed. Ar hyn urddwyd Mr Lewis Lewis, o'r Ddolwen, yn mhlwyf Llanfihangel -
424
ar-arth, ond nid ymddengys iddo fod yma ond dros dymor byr. Dilynwyd ef gan Mr William Perkins, yr hwn a ddaeth yma o Ddinbych, ac yr oedd yma yn y blynyddoedd o 1772 hyd 1775, ac fe allai am ryw gymaint o amser yn mhellach. Yr oedd yn wr golygus o ran ei person, o feddwl cryf a gwrol, ac yn ddoniol a phoblogaidd fel pregethwr ; a gallasai o ran ei dalentau fod yn weinidog defnyddiol a llwyddianus. Ond cafwyd allan yn fuan ei fod yn ddyn o fywyd llygredig, ac yn ymroi i anghymedroldeb, yr hyn a andwyai i ddylanwad, ac a waradwyddai grefydd yn y wlad. Wedi i'r eglwys ymwrthod ag ef glynodd nifer o'r bobl wrtho, ac adeiladasant gapel yn ymyl y New Inn, o fewn dwy filldir i Bencadair, yr hwn a alwyd Salem. Yn mhen amser llwyddodd Mr Perkins a'i blaid i gael meddiant o'r capel gan fod y weithred gan Mr Lewis, Cwmhuar, yr hwn oedd yn un o'i gefnogwyr; a chan ei bod wedi ei gwneyd yn ol trefn yr Henaduriaethwyr rhoddai hawl i'r gweinidog ar y capel. Aeth yr eglwys ar ol ei throi allan o'r capel i addoli i Cwmhwplin, yr hwn a drwyddedwyd ganddi i'r perwyl ; ond ni bu Mr Perkins yn hir cyn myned yn rhy ddrwg gan y blaid a adawyd yn y capel i'w oddef, ac wedi iddi i fwrw ymaith dychwelodd yr eglwys yn ol i'w thy. Yn mhen amser ar ol hyn rhoddwyd galwad i Mr Benjamin Jones, myfyriwr yn Athrofa Abergavenny, ac urddwyd ef Mai 25ain, 1779. Ar yr achlysur gweinyddwyd gan Mistri L. Rees, Mynyddbach ; J. Griffith, Glandwr; T. Davies, Pantteg; I. Tibbot, Esgairdawe ; S. Lloyd, Brynberian ; Phillip Maurice, ac amryw eraill. Dechreuodd Mr Jones ei weinidogaeth yma yn llewyrchus iawn, ac yr oedd yr achos yn myned rhagddo yn obeithiol, a disgwyliai gael eistedd yn hir i fwynhau ei weinidogaeth. Yr oedd wedi cymeryd les ar fferm y Bwlchog, a'r eglwys wedi adeiladu ty iddo arno. Ond yn mhen tair blynedd, pan oedd Mr. Jones yn Pantycreuddyn (Horeb yn awr) un Sabboth, ac wedi dyfod i lawr o'r pulpud ar ol pregethu at y bwrdd i weini y cymundeb, estynwyd llythyr iddo, ac wedi ei ddarllen aeth allan. Wrth ei weled yn hir heb ddychwelyd aeth un o'r diaconiaid i edrych am dano, ac er ei syndod gwelai ef ar ei anifail yn myned tuag adref. Darfu cysylltiad Mr Jones a'r eglwysi yma ar hyny, ac yn mhen amser ymsefydlodd yn Rhosymeirch, Mon, an aeth wedi hyny lle y treuliodd weddill ei oes. Yn fuan wedi ymadawiad Mr Jones rhoddwyd darn o dir gan Mr Jenkin Davies, Maesycrigian, ar lan y Tyweli, at adeiladu capel newydd, ac agorwyd ef yn y flwyddyn 1785; ac ar yr un adeg sefydlwyd Mr Jonathan Jones, Rhydybont, yn weinidog yma. Bu yn gofalu am yr eglwys hyd y flwyddyn 1818, a darfu ei gy- sylltiad a'r eglwys hon yr un pryd ag y darfu ei gysylltiad a Rhydybont. Yr oedd £40. wedi eu gadael gan Mr William Thomas, Brynbuwchswynog, yn ei ewyllys i'r eglwys, a chasglodd yr eglwys £26. at hyny, a phrynwyd Ffynonfair, tyddyn bychan yn ymyl y capel, ac yn y flwyddyn 1789 yr ysgrifenwyd gweithred arno. Wedi bod am fwy na chwe' blynedd heb weinidog rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Moses Rees, yr hwn a urddasid yn weinidog yn Nhalybont rai blynyddoedd cyn hyny, ac a fuasai yno am ychydig fisoedd. Cynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad. yma Chwefror 10fed, 1825. Bu yma am un-flynedd-ar-bymtheg, a gwnaed yma lawer o waith yn ystod y blynyddoedd hyny. Yn y flwyddyn 1827 adeiladwyd yr addoldy eang a chyfleus presenol, yr hwn sydd o wneuthuriad cadarn, ac oriel ar dair rhan o hono. Adeiladwyd hefyd ysgoldy gerllaw iddo, a chodwyd ty i'r gweinidog ar dir Ffynonfair, ar y fan lle y safai yr hen
425
addoldy cyntaf, a thalwyd yr holl draul gan yr eglwys a'r ardal, yr hyn oedd, heb gyfrif y cludiad, yn fwy na £600, a rhoddwyd gan yr eglwys yn yr un amser £50 i drysorfa gyffredinol yr undeb er talu dyledion addoldai. Cymerwyd darn bychan o dir at gladdu gyda'r addoldy presenol, ond yr oedd cryn wrthwynebiad gan lawer i gladdu eu meirw ynddo. Merch fechan i Mr Rees oedd y gyntaf a gladdwyd yn y lle, ac aeth yn agos i ddwy flynedd heibio cyn i neb arall gael ei gladdu yn y fan. Oherwydd rhyw amgylchiadau aeth pethau yn anghysurus hollol rhwng Mr Rees a'r eglwys yn mlynyddoedd olaf ei weinidogaeth; ac yn 1840 derbyniodd alwad o'r Groeswen, sir Forganwg, a symudodd yno. Ar ol ei ymadawiad bu yr eglwys am fwy na phedair blynedd yn ymddibynu ar gynorthwy gweinidogion cymydogaethol, hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr John Owen, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd of yma Awst 14eg, 1845. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr S. Evans, Penygroes; holwyd y gofyniadau gan Mr D. Davies, Pantteg; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr S. Griffiths, Horeb; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr J. Griffith, Tyddewi; ac i'r eglwys gan Mr D. Davies, Aberteifi. Parhaodd cysylltiad Mr Owen a'r eglwys yma hyd y flwyddyn 1868 yn hollol gysurus, ond yn yr adeg yma cododd ystorm, a barnwyd mai gwell oedd iddo roddi i fyny ei gysylltiad a hwy, yr hyn a wnaeth heb dwrf na therfysg. Yn Hydref y flwyddyn ganlynol, priododd ac ymfudodd i America ac ymsefydlodd yn Waterville, ond bu farw y flwyddyn ganlynol yn Johnstown, pan ar ei daith trwy ran o Pennsylfania. Yn niwedd y fiwyddyn 1871, rhoddwyd galwad i Mr Richard Pugh Jones, Llanegryn,* yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Ionawr 1872, ac y mae yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad. Yr oedd yr amgylchiadau o dan ba rai yr ymadawodd y pum gweinidog diweddaf a ymadawsant o'r eglwys yma yn mhell o fod yn gysurus, ac er nad ydym yn dyweyd fod cyhuddiadau o anfoesoldeb wedi eu profi yn erbyn yr oll o honynt, etto, a dyweyd y lleiaf, yr oedd llawer o annoethineb ac anwyliadwriaeth yn nglyn a'r hyn a achosodd hymadawiad; nc nis gall y fath bethau ddigwydd heb fod yn ysigdod mawr i'r achos. Mae yr achos yma yn gryf a dylanwadol er y cwbl, ac ar ol treigliad mwy na dau cant o flynyddoedd y mae yr eglwys yn glynu wrth yr un ffurflywodraeth eglwysig, a'r un golygiadau efengylaidd, ag y glynai eu hynafiaid erlidiedig wrthynt pan y cyfarfyddent yn ddirgelaidd yn nghysgod craig Cwmhwplin. Cynhaliwyd yma gyfarfod Dau-can'-mlwyddol, Mehefin 25ain a'r 26ain, 1850, er adgofio cychwyniad yr achos; a chafwyd yma gyfarfodydd rhagorol ; ond ychwanegasai yn fawr at ddyddordeb yr amgylchiad pe cynaliesid y cyfarfod ar y llecyn yr arferai y tadau gyfarfod.
Mae yma lawer o gymeriadau nodedig wedi bod o oes i oes, ac y tyrid yr eglwys ar un cyfnod yn hynod am ei gwybodaeth dduwinyddol, a gwelsom yma rai oeddynt yn fedrus fel dadleuwyr. Anfonwyd i ni y rhestr a ganlyn o swyddogion yr eglwys hon o bryd i bryd, ac er nad ydym yn meddwl ei bod yn berffaith, etto y mae yn dda genym ei chyhoeddi fel y mae. Thomas Davies, Gorwydd; David Jones, James Rees, Glandyweli ; John Jones, Glynadda ; John Phillips, Scythlyn; John Evans, Cwmgwern (efe oedd tad yr efengylwr hyawdl John Evans, Llwynffortyn); William
* Yn hanes urddiad Mr. Jones yn Llanegryn, Cyf 1, tudal. 500, gwneir camgymeriad trwy osod ei enw yn Robert P. Jones, yn lle Richard P. Jones.
426
Lloyd, Dolmaen; David Samuel, Llethrneuadd ;David Rees, Cefnybedd; Daniel Davies, Glyncoch ; Lewis Jones, Glynadda ;John Daniel, Llwyndywallter ; David John, David Phillips, Cwmgof ; John Griffiths, Wythen; Daniel Francis, Gwndwn; Daniel Beynon, Lan ; Ebenezer Jones, Pencadair; Thomas Daniel, Pencadair ; William John, Langlynadda ; Thomas Jones, David Evans, Penygraig; Jenkin Davies, Blaenbella ; Enoch Jones Powell, David Phillips, Blaencyfre ; Daniel Davies, Maesyfelin; Evan Williams, Clawddcoch ; Evan Evans, Bryngwyne; David Beynon, Lan; David Griffith, Pantporthmon ; Thomas Bowen, Glandyweli ; John Phillips, Scythlyn; John Eyans, Gwarcoed; William Phillips, Glynmelyn; John Jones, Pantglas ; David Franis, Gwndwn; David Evans, Rhiwlwyd, ac Evan Evans, Glyncoch. Buasai yn dda genym roddi rhyw grybwylliad pellach am danynt, yn gystal ag am eraill, y rhai y mae yn sicr genym a fu o ddefnydd i'r eglwys mewn gwahanol gyfnodau.
Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.
427
JAMES LEWIS. Ganwyd ef mewn lle a elwir Dinas Cerdin, yn mhlwyf Llandysul, yn sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1674. Dywedir ei fod yn disgyn o hen deulu anrhydeddus. Tebygol mai yn Mhencadair y derbyniwyd ef yn aelod, ac y dechreuodd bregethu, ac urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys yno, a'r eglwys yn Pantycreuddyn, yn y flwyddyn 1706. Yr oedd wedi derbyn addysg dda yn rhywle, er nas gwyddom yn mha le. Yr oedd yn wr cadarn nerthol yn yr Ysgrythyrau, ac yn hollol uniongred yn ei olygiadau. Bu dadl frwd rhyngddo a Mr Jenkyn Jones, Llwynrhydowen, ar y pyngciau mewn dadl rhwng Calfiniaid ac Arminiaid; ac yr oedd yn eglur ei fod yn deall y pyngciau mewn dadl a'r dylanwad a adewir gan y ddwy athrawiaeth. Bu farw Mai 31ain, 1747, yn 73 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanllawddog. Mae yr hyn a ganlyn yn Saesneg ar ei gareg fedd:-" O dan y gareg hon y gorwedd corff y Parch. James Lewis, o'r plwyf hwn. Gweinidog ffyddlon gair Duw, a'i ordinhadau, a phorthwr diwyd a chyson i braidd yn Mhencadair. Ganwyd ef yn Ninas Cerdin, Sir Aberteifi, o rieni duwiol ac elusengar. Yr oedd yn addfwyn a gostyngedig tuag at Dduw a dyn ; ac yn awr ar ol llafur caled y mae (fel y gobeithiwn) yn mwynhau coron o ogoniant anfarwol trwy eiriolaeth ein Hiachawdwr Iesu Grist.
JOHN LEWIS; o Flaencerdin, yn mhlwyf Llandysul. Mae yn debyg mai yn Mhencadair y derbyniwyd ef yn aelod, ac y dechreuodd bregethu. Nid oes genym nemawr wybodaeth am dano, ond dywedir ei fod yn ddyn da ac yn weinidog gweithgar. Llafuriodd yma am bum'-mlynedd-ar-hugain, a bu farw Ionawr 21ain, 1766, yn 56 oed.
LEWIS LEWIS. Nid oes genym ddim o'i hanes rhagor nag y gelwid ef yn Lewis Lewis, Ddolwen. Nid ymddengys iddo fod yma ond dros ychydig amser.
Daw i'n ffordd i gyfeirio at y gweinidogion eraill a fu yma mewn cysylltiad ag eglwysi eraill, yn nglyn a'r rhai yr oeddynt ar derfyn eu gyrfa.
(Llanfihangel-ar-arth parish)
Yr oedd amryw o aelodau Pencadair yn byw yn mhlwyf Llanllawddog, a rhan isaf plwyf Llanfihangel-ar-arth, a rhai yn mhlwyf Llanpumsamt, ac er mwyn cyfleustra y rhai hyny, yn gystal ag er mwyn eangu terfynau r achos, dechreuwyd pregethu yn Glynadda o gylch y flwyddyn 1784. Pregethid hefyd yn achlysurol yn mhentref Troedrhiw tua'r un adeg. Y prif offeryn yn nghychwyniad yr achos oedd Lewis Jones, Glynadda. Wedi pregethu mewn gwahanol dai dros lawer o flynyddoedd cymerwyd les ar dy yn Nhroedyrhiw, yn y flwyddyn 1806, ac ymffurfiodd yr aelodau oedd yn yr ardal yn perthyn i Bencadair yn eglwys ynddo. Yn 1819 helaethwyd y ty, a gwnaethpwyd ef yn fwy cyfleus at addoli. Yn 1832 codwyd y capel presenol ar dir Lewis Morris, Ysw., ac y mae mynwent helaeth yn nglyn ac ef. Talwyd yr holl draul gan yr ardalwyr ar y pryd. Mae y lle o'r dechreuad wedi bod o dan yr un weinidogaeth a Phencadair, ac y mae yn awr. Mae yma lawer o bersonau gwybodus a dylanwadol wedi bod yn nglyn a'r achos, ac y mae llawer o olafiaid y sylfaenwyr yn glynu yn ffyddlon wrtho. Coffeir yn barchus am yr Hen Shon
428
Corn, fel ei gelwid, ac Ophi, Cwmcreigiau, y rhai oeddynt hynod mewn duwioldeb, ac y mae eu henwau yn berarogl yn yr ardal; ac nid a caredigrwydd teulu Glynadda yn anghof.
Codwyd y personau a ganlyn i bregethu yma.
(Conwil Elfed parish)
Dechreuwyd yr achos yma mewn lle a elwir Nantgronwy, amaethdy heb fod yn mhell o'r fan y saif y capel presenol. Nid oes genym sicrwydd am ddyddiad yr achos yn Nantgronwy, ond y mae yn eglur ei fod er yn gynar yn y ganrif ddiweddaf. Yr ydym yn cael fod Penlon a Nantgronwy mewn cysylltiad a'u gilydd, a bod Mr Thomas Jones, Glanffrwd, yn gweinyddu i'r ddwy gangen, a pharhaodd y ddwy mewn cysylltiad a'u gilydd o dan ofal yr un gweinidogion hyd farwolaeth Mr J. Bowen. Dywedir nad oedd yma ond saith o aelodau pan gymerodd Mr Bowen ofal yr achos yn 1795, ond cynyddodd yn gyflym, ac yn 1799, penderfynwyd cael capel i'r gynnulleidfa i addoli ynddo. Cafwyd tir gan Mr Llewelyn Lewis, Pantyrhaidd. Galwyd ef Hermon. Prif gynorthwywyr Mr Bowen yn y gwaith oedd John Evans, Glanrhyd ; John James, Nantgronwy ; Thomas Jones, Penyrallthafan ; Dafydd Morgan, Llwyncynwil, a Dafydd Jones, saermaen. Yr oeddynt oll yn ddynion o gymeriad rhagorol. Yn y flwyddyn 1826, ail-adeiladwyd y capel i'w ffurf bresenol. Oherwydd methiant a gwendid rhoddodd Mr Bowen yr eglwys i fyny 1829, ac unodd Hermon a Bwlchnewydd i roddi galwad i Mr Owen Owens, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn Athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yn Bwlchnewydd yn Chwefror 1830. Bu yma yn ddiwyd a ffyddlon am naw mlynedd. Yn mhen amser wedi iddo roddi yr eglwys i fyny rhoddwyd galwad i Mr Evan Evans, aelod o Saron, ac urddwyd ef Hydref 8fed, 1840. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Mistri T. Jones, Saron ; E. Rees, Brynsion ; D. Evans, Castellnedd (brawd yr urddedig); S. Grifflths, Horeb ; T. Rees, Maenygroes, ac eraill. Mae Mr Evans yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad a pharch. Rhifa yr eglwys dros ddau cant o aelodau, ac y mae yma Ysgol Sabbothol flodeuog. Bu yma lawer o aelodau ffyddlon yn nglyn a'r eglwys heblaw y rhai a enwyd. Cafodd yr achos achles nodedig wedi dyfodiad Mr a Mrs. Phillips i Cadwgan, a bu eu ty yn gartref clud i'r gweinidogion a ddelent heibio.
Codwyd y rhai canlynol i bregethu yn nglyn a'r eglwys hon. Jonathan Jones. Mae yn awr yn New York, America.
429
Adeiladwyd capel bychan yma yn y flwyddyn 1836, fel cangen o Saron. Ni fwriadid ef ar y cyntaf ond i gadw ysgol a phregethu yn achlysurol ; ond wrth weled fod yr achos yma yn myned rhagddo, a chynnulleidfa luosog yn ymgasglu, penderfynwyd ffurfio eglwys yma a chafwyd y cymundeb cyntaf Mai 13eg, 1838. Gweinyddai Mr Jones, Saron, ar yr achlysur. James Beynon, hen ddiacon parchus yn Saron, ac Evan Beynon, ei fab, a William Jones, oeddynt y diaconiaid cyntaf yma. Yn Hydref 1840, cymerodd Mr Evan Evans ofal yr eglwys yn nglyn a Hermon, ac y mae yn parhau i ofalu am dani etto. Yn 1859, ail-adeiladwyd y capel, ac y mae yma gynnulleidfa dda bob Sabboth, ac eglwys yn rhifo 140 a aelodau.
Codwyd yma un pregethwr, sef Dayid Davies, yr hwn wedi treulio ei dymor yn Athrofa Aberhonddu a urddwyd yn Risca, lle y mae etto.
Mae llawer o dywyllwch yn nglyn a'r achos hynafol hwn yn ei ddechreuad ac yn mlynyddoedd cyntaf ei hanes. Dywedir fod yma gynnulleidfa fechan yn cyfarfod mor foreu a dyddiau gweriniaeth Oliver Cromwell, ond nid oedd ond bychan a dilewyrch, ac ymddibynai am gynorthwy eglwysi eraill, yn benaf o Sir Fynwy. Nid oes un crybwylliad am yr achos yma am rai blynyddau ar ol hyny, a thybir iddo ddiflanu yn llwyr, ac mai gan Mr Stephen Hughes yr ail gychwynwyd ef pan y cafwyd mesur o dawelwch ar ol tymor erledigaethus dyddiau Charles yr Ail. Cyfarfyddant yn Heol Prior, ac yr oedd yno hen dy yn nghof rhai sydd yn fyw at yr hwn y cyfeirid fel " yr hen dy cwrdd." Bu y lle dan ofal Mr Hughes mewn cysylltiad a lluaws o fanau eraill hyd ei farwolaeth, yn 1688. Nid oes genym ddim gwybodaeth am yr achos yma, na phwy a weinyddai i'r eglwys am y deuddeg neu y pymtheg mlynedd canlynol ; ond yn nechreu y ddeunawfed ganrif symudodd Mr William Evans, Pencadair, i'r dref i gymeryd gofal yr eglwys ac i osod i fyny athrofa er addysgu dynion ieuaingc i'r weinidogaeth. Daeth Mr Evans i'r dref yn 1703, a bu yn athraw yr athrofa hyd 1718, ac y mae yn debyg mae dyna flwyddyn y bu farw, fel y gadawyd yr eglwys a'r athrofa yn amddifaid yr un pryd. Yn yr un flwyddyn daeth Mr Thomas Perrot yma, a bu yma hyd i farwolaeth, yn 1733. Yn ystod ei weinidogaeth ef y symudwyd yr achos o Heol Prior i Heol Awst. Cafwyd tir i aderladu gan Mr John Corrie, sidan-werthwr ( Mercer), yn nhref Caerfyrddin. Dyddiad y weithred ydyw Mai 12fed, 1725. Yr ymddiriedolwyr oeddynt Thomas Bowen, Llannewydd, boneddwr ; Thomas Maurice, Llanstephan, boneddwr; James Johnston, ieuaf, Caerfyrddin, sidan-werthydd; William Rowlands, Caerfyrddin, sidan-werthydd, a William Williams, Caerfyrddin, dilledydd. Mae yn debyg i'r capel cyntaf yn Heol Awst gael ei godi yn yr adeg yma. Wedi marwolaeth Mr Perrot, rhoddwyd. galwad i Mr Samuel Thomas i fod yn weinidog i'r eglwys yma ond y mae yn debyg fod wedi bod yn weinidog yn rhywle cyn hyny, oblegid yn 1734 y dechreuodd yma, ond yr oedd wedi gadael yr athrofa ddeng mlynedd cyn hyny. Yr oedd yn un o'r myfyrwyr cyntaf a fu dan ofal Mr Perrot. Bu Mr Thomas
430
yma hyd ei farwolaeth yn 1766, a dilynwyd ef gan Dr. Jenkin Jenkins, yr hwn oedd yn flaenorol yn gwasanaethu fel cyd-athraw a Mr Thomas yn yr athrofa. Ymadawodd oddiyma i Lundain yn 1779. Dilynwyd ef gan Mr Robert Gentleman, yr hwn oedd yn weinidog yn yr Amwythig, a bu yma hyd 1784, pryd y symudodd i Kidderminster i fod yn weinidog i'r eglwys yno, a bu farw yn 1785. Yn y flwyddyn 1781, yn nhymor gweinidogaeth Mr Gentleman, gwnaed yma weithred newydd, ac ymddiriedolwyr newyddion. Mae yn debyg i ymddiriedolwyr gael eu gwneyd o'r blaen ar ol y rhai cyntaf a wnaed yn 1725, oblegid cyfeirir yn y weithred a wnaed yn 1781 at Jenkin Jenkins, gweinidog yr efengyl, fel un o'r ymddiriedolwyr, yr hwn oedd erbyn hyn wedi marw. Nid oedd ei enw ef yn y weithred gyntaf, ac nid yw y weithred a'i gwnaeth ef yn ymddiriedolwr ar gael. Mae y weithred a wnaed yn 1725 a gweithred 1781 yn awr ar gael mewn safe yn Heol Awst. Y gyntaf wedi ei hysgrifenu ar bapyr a'r olaf ar groen. Yn yr olaf yr ydym yn cael John Ross, argraffydd yn Nghaerfyrddin, yn cael i wneyd yn ymddiriedolwr. Ceir ei enw yn aml ar hen lyfrau Cymreig, a chreodd gyfnod newydd yn Nghymru mewn argraffu yn gywir, yn hardd, ac yn rhad. Yr oedd yr eglwys trwy yr holl flynyddau yn ymddibynu ar yr athrofa am ei gweinidogion, ac yn derbyn yn weinidog y neb a benodid yn athraw yr athrofa beth bynag fyddai ei gymhwysderau a'i olygiadau duwinyddol ; a chan fod rhai o honynt wedi dirywio yn fawr oddiwrth yr hyn a ystyrir yn uniongred, yr oedd yn yr eglwys - er nad oedd ond ychydig mewn nifer bob cymysgedd mewn barn. Pan wnaed cyfrif o rifedi cynnulleidfaoedd y sir yn 17 I 4, nid oedd cynnulleidfa Caerfyrddin yn rhifo ond 200, pan y mae rhai o gynnulleidfaoedd gwledig y sir yn cael eu rhoddi i lawr yn 750.
Yn y flwyddyn 1792, rhoddwyd galwad i Mr David Peter, a fuasai yn fyfyriwr yn yr athrofa pan oedd yn Abertawy dan ofal Mr Solomon Harries, ac urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys Mehefln 8fed, 1792. Traddodwyd y bregeth urddiadol gan Mr E. Davies, Llanedi. Holwyd y gofyniadau gan Mr W. Howell, Abertawy. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr J. Griffith, Abergavenny, yn Saesneg, a chan Mr D. Davies, Llwynrhydowen, yn Gymraeg. Pregethwyd i'r gweinidog gan Mr B. Evans, Drewen.Nid oedd nifer yr aelodau yma ar sefydliad Mr Peter ond tua deugain, ac am y rhai hyny dywedai na fedrai ef na neb arall wybod beth oedd eu barn ar athrawiaethau yr efengyl, ac nid oedd ganddynt un synied clir am drefn a dysgyblaeth eglwysig. Yr oedd yma ychydig ddynion o olygiadau efengylaidd ar drefn cadw pechadur, ac eraill yn Ariaid a Sociniaid proffesedig, ond Arminiaid deddfol oedd y rhan fwyaf. Trwy ddoethineb a phwyll, a symledd duwiol, llwyddodd Mr Peter yn raddol i newid ton yr eglwys, a daeth yr achos rhagddo yn nodedig. Yn y flwyddyn 1795, symudwyd yr athrofa i Gaerfyrddin o dan ei ofal, a chafodd help a chynorthwy y myfyrwyr a ddeuai yma o bryd i bryd, ac yn eu plith yr oedd rhai pregethwyr tra galluog. Pregethai Mr Peter ei hun yn y boreu yn Gymraeg, ac yn y prydnhawn yn Saesneg, ac yn yr hwyr pregethai y myfyrwyr ar gylch, ond byddai Mr. Peter yno bob amser yn gwrando arnynt. Yn y boreu y byddai, y gynnulleidfa luosocaf, hono a ystyrid yr oedfa bwysicaf. Helaethwyd y capel yn 1802, ac mor gyflym yr oedd y gynnulleidfa yn cynyddu fel yr aeth hwnw yn rhy gyfyng cyn hir, ac yn y flwyddyn 1826 adeiladwyd yr addoldy eang a hardd presenol, yr hwn sydd yn un o,r rhai helaethaf yn Nghymru, ac yn mhob ystyr yn un
431
o'r rhai mwyaf cysurus i bregethu a gwrando ynddo. Aeth holl draul adeiladiad y capel yn £2590/ 5/ 5. Agorwyd ef Ebrill 5ed, 1827, ac erbyn Ebrill 15fed, 1831, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu. Daeth y gynnulleidfa yn lluosog a chyfoethog, a'r eglwys yn rhifo mwy na chwe' chant o aelodau. Ystyrid eglwys Heol Awst yn nyddiau Mr Peter yr eglwys fwyaf pendefigol yn yr enwad. Yr oedd yn gwbl annibynol ar bob eglwys arall, ond carid ei llywodraeth fewnol yn mlaen agos yn gwbl gan y gweinidog a'r diaconiaid, ond gwneid hyny yn y fath fodd fel nad oedd neb o'r aelodau yn teimlo eu bod hwy yn cael eu hyspeilio o'u hawliau teg a chyfreithlawn. Dichon y dylasai eglwys o'r fath rifedi a chyfoeth fod wedi eangu ei therfynau yn fwy, ac yn arbenig dylasai fod achos Seisnig wedi ei gychwyn pan yr oedd pob peth yn amgylchiadau yr eglwys a'r dref yn fwyaf ffafriol i wneyd hyny. Ond wedi y cwbl gwnaeth Mr. Peter waith mawr yn ei oes, os cydmerir sefyllfa yr achos ar ei sefydliad yma'i ac agwedd yr achos yn adeg ei farwolaeth.
Gan fod nerth ac iechyd Mr Peter yn gwanhau ar ol mwy na deugain mlynedd o lafur didor, meddyliwyd am gael cydlafurwr ag ef dros weddill ei oes, ac olynydd iddo. Gwnaeth ef a'r eglwys gais am gael Mr Griffith, Caergybi, yr hwn oedd y pryd hwnw yn mlodeu ei ddyddiau ; ond yr oedd ei afael mor gref wrth faes cyntaf ei lafur fel y methodd y demtasiwn a'i orchfygu er cryfed ydoedd. Yn niwedd y flwyddyn 1834, rhoddwyd galwad i Mr John Breese, Liverpool, hwn y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf yn Ionawr, 1835. Gwaelodd Mr Peter yn fuan ar ol sefydliad Mr Breese yma, a bu farw Mai 4ydd, 1837, yn 72 oed. Bu Mr Breese yma yn boblogaidd dros rai blynyddau, er fod nodwedd ei weinidogaeth yn dra gwahanol i eiddo ei ragflaenydd. Gwaelodd ei iechyd cyn diwedd y flwyddyn 1841, er iddo fod yn alluog i bregethu ychydig dros fisoedd cyntaf y flwyddyn ganlynol, ond yr oedd yn amlwg arno fod ei gyfansoddiad yn ymollwng. Bu farw Awst 8fed,1841, yn 52 oed. Am y ddwy flynedd ganlynol bu yr eglwys yn ymddibynu ar gynorthwy gweinidogion dyeithr hyd ddiwedd haf 1841, pryd y rhoddwyd galwad i Mr Hugh Jones, Tredegar, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn Ionawr, 1845. Yr oedd lleiafrif bychan yn yr eglwys yn annghytuno a'r lluaws yn yr eglwys yn eu dewisiad o Mr Jones, a phenderfynasant ar ei ddyfodiad ymneillduo a chychwyn achos arall yn y dref ; a chan fod mwyafrif gweinidogion y Sir, oherwydd rhyw resymau, yn cydymdeimlo a lleiafrif yr eglwys, addawsant eu cynorthwy iddynt mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Salem, gerllaw Llandilo, Rhagfyr 11eg, 1844; ac ar y Sabboth cyn fod Mr Jones yn dechreu ei weinidogaeth yn Heol Awst yr oedd dau o weinidogion y Sir yn pregethu yn y Lancasterian School-room. Parodd hyn deimladau blin a chwerw yn y dref, ac yn mysg gweinidogion ac eglwysi y Sir ; ac yr oedd y teimladau drwg yn ymledu Siroedd eraill. Nid oedd neb yn amheu nad oedd angen achos arall yn Nghaerfyrddin, ond yr oedd llawer yn amheus o'r priodoldeb o'i gychwyn dan yr amgylchiadau y gwnaed ; ac yn enwedig ystyrient fod gwaith gweinidogion y Sir yn addaw cynorthwyo nifer o aelodau Heol Awst pan yr ymddeolent o'r eglwys hono, yn anfrawdol ac afreolaidd a dyweyd y lleiaf, a gwyddom fod rhai o'r gweinidogion oedd yn nghyfarfod Salem pan y daethant i oedran aeddfetach yn barnu y gallesid cael llwybr mwy rheolaidd a chyfansoddiadol i weithredu. Nid ydym am ddyweyd dim yn nglyn a'r amgylchiad blin yma na ddisgwylir i haneswyr teg ac anmhleidiol
432
ei ddyweyd ; ac yr oedd yn ddigwyddiad rhy bwysig yn hanes yr eglwys i fyned heibio iddo yn ddisylw. Mae yn dda genym ychwanegu i'r teimladau anghysurus rhwng Mr Jones a gweinidogion y Sir gael eu hiachau yn fuan ; a bod y ddau achos yn y dref ers llawer o flynyddoedd ar y telerau goreu. Bu Mr Jones yma yn dderbyniol a phoblegaidd am lawer o flynyddoedd, ond dyoddefodd yr achos ychydig, yn mlynyddoedd olaf ei oes gan nad oedd yn alluog i gyflawni ei weinidogaeth fel cynt. Bu farw Mawrth 5ed, 1872, yn 72 oed, ac y mae yr eglwys er hyny yn amddifad o weinidog.
Mae llawer o bobl ragorol wedi bod yn nglyn a'r achos yma o bryd bryd, ond gan nad oes genym ond enwau ychydig o honynt gwell i ni beidio crybwyll y cyfryw, rhag y digwydd i ni adael allan eraill llawer mwy teilwng. Mae enwau Meistri Evans, printer; W. G. Thomas, J. Lewis, Cilwaunydd, a W. Thomas (Gwilym Mai), yn cael eu coffau fel rhai a fu o lawer o help i'r achos yma yn nghorff y genhedlaeth bresenol. Yr oedd John Corrie, yr hwn a roddodd dir at adeiladu y capel, yn wr nodedig gyda'r achos. Bu farw Rhagfyr 10fed, 1731, yn 47 oed, a chladdwyd ef o dan ei seat yn y capel. Gwelir careg er coffadwriaeth am dano ef a rhai o'i deulu ar fur gorllewinol y capel.
Mae yn ddiau i lawer o bregethwyr gyfodi o'r eglwys hon o bryd i bryd, ond nid oes genym ond rhestr anmherffaith iawn o honynt. Aeth llawer o honynt i Loegr, a chollwyd eu henwau felly o bob cofnodion Cymreig.
Codwyd y rhai a ganlyn oddiyma.
433
WILLIAM EVANS. Nid ydym yn gwybod amser na lle ei enedigaeth. Dygwyd ef i fyny yn Athrofa Ystradwalter, dan ofal Mr Rees Prytherch. Urddwyd ef yn Mhencadair, yn y flwyddyn 1688. Bu yno yn Ilafurus am bymtheng mlynedd. Tua'r flwyddyn 1703, ymudodd i Gaerfyrddin i gymeryd gofal yr eglwys yno, ac i osod i fyny athrofa. Yr oedd yn ddyn tra dysgedig ; ac wedi marwolaeth Mr Rees Prytherch, a Mr Samuel Jones, Brynllywarch, teimlid fod angen sefydliad o'r fath. Bu yn athraw yr athrofa am bymtheng mlynedd, a dygwyd nifer fawr o wyr ieuaingc i fyny dan ei ofal. Efe a fu prif offeryn i sefydlu yr achos yn Capel Seion, Llanddarog, ac yn ei amser ef y codwyd y capel yno. Bu farw tua'r flwyddyn 1718.
THOMAS PERROT. Dywedir ei fod yn enedigol o Lanybri. Bu dan addysg Mr Griffith yn Abergavenny, a Mr James Owen yn yr Amwythig. Urddwyd ef yn Knutsford, Sir Amwythig, Awst 6ed, 1708. Ni bu yno yn hir, canys symudodd i New Market, Sir Flint, a bu yno hyd y flwyddyn 1718, pryd y symudodd i fod yn ddilynydd i Mr W. Evans yn yr athrofa ac yn yr eglwys yn Nghaerfyrddin. Bu dros gant a haner o fyfyrwyr ymneillduol dan ei ofal yn Nghaerfyrddin yn ystod ei arosiad yno, heblaw y nifer mawr oedd yn parotoi i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd yn ddyn hynaws a chrefyddol, ond yn wan a llac yn ei lywodraeth ar y myfyrwyr, fel y dywedir i lawer o honynt cyn diwedd ei dymor fyned yn llygredig eu buchedd, yn gystal ag yn wyredig eu barn. Bu farw Rhagfyr 26ain, 1733, a theimlai yr eglwys a'i r myfyrwyr dan ei ofal hiraeth mawr ar ei ol.
SAMUEL THOMAS. Ni wyddom ddim am dano yn ychwaneg nag iddo ddyfod yma yn 1734, ac iddo fod yma yn weinidog ac athraw hyd ei farwolaeth nad yn 1766. Yr oedd yn Ariad os nad yn rhywbeth pellach yn ei
434
olygiadau, ac yn ei amser ef y tynodd y Bwrdd Cynulleidfaol eu cynorthwy oddiwrth yr athrofa'i ac y penderfynasant sefydlu athrofa uniongred yn Abergavenny. Claddwyd Mr Thomas yn mynwent capel Heol Awst, lle y gweinidogaethai.
DAVID PETER. Ganwyd ef yn Aberystwyth, Awst 5ed, 1765. Yr oedd ei dad yn enedigol o Landudoch, gerllaw Aberteifi, a'i fam o Fachynlleth. Nid oedd ei rieni ond pobl isel eu hamgylchiadau, ond eu bod yn ddiwyd, a gonest, a chrefyddol, ac yn aelodau o'r Eglwys Sefydledig. Yn 1772, pan nad oedd ef ond plentyn, symudodd ei dad i'r Ceinewydd i weithio ei gelfyddyd fel saer llongau. Derbyniodd yr addysg oreu a allai ysgolion ei gymydogaeth i roddi iddo, a phan yn fachgen, yr oedd awydd mawr ynddo i fyned i'r mor,ond gan fod rieni yn wrthwynebol i hyny, rhoddodd i fyny y meddwl am hyny. Awyddai ei dad am ei ddwyn fyny i weinidogaeth yr Eglwys Sefydledig, ac er mwyn hyny rhoddai bob cefnogaeth iddo i ddilyn ei lyfrau. Bu dan addysg Mr D. Davies, Castellhywel, ac wedi ffurfio cydnabyddiaeth a rhai o'r Ymneillduwyr, a gwrando Mr B, Evans, Drewen, yn pregethu, penderfynodd ymuno a'r Annibynwyr, ac yn mis Mawrth, 1783, derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenrhiwgaled. Nid amlygodd ei dad unrhyw anfoddlonrwydd i'r cyfnewidiad ond rhoddodd iddo gyflawn ryddid i ddilyn argyhoeddiadau i gydwybod. Dechreuodd bregethu yn fuan, ac yn fuan aeth i Athrofa Caerfyrddin dan ofal Mr R. Gentleman, ar ei draul i hun, ac yn 1786, derbyniwyd ef ar draul y Bwrdd Presbyteraidd, wedi symudiad yr athrofa i Abertawy. An y flwyddyn 1789, dewiswyd ef yn athraw cynorthwyol yn yr athrofa, a bu yn y swydd hyd 1792, prod y derbyniodd alwad o Heol Awst, ac yr urddwyd ef yno. Yn y flwyddyn 1795, symudwyd yr athrofa i Gaerfyrddin, a gosodwyd ef yn brif athraw arni, a bu yn y swydd am ddeugain mlynedd. Rhoddodd hyny ddylanwad mawr iddo yn y dref, a bu o lawer o help iddo yn y weinidogaeth, ac ymddygodd yntau yn mhob modd yn deilwng o'i sefyllfa. Yr oedd yn Mr Peter gydgyfarfyddiad o wahanol ragoriaethau a'i gwnai yn un o'r gweinidogion mwyaf defnyddiol a llwyddianus yn ei oes. Nid oedd yn meddu athrylith a doniau hyawdl y fath ag a'i gwnelai yn bregethwr poblogaidd, ac nid oedd tlysni celfyddydol yn ei bregethau y fath ag a swynai i wrandawyr, na tharawiadau cyffrous i'w brawychu a'u dychrynu ; ond yr oeddynt yn meddu y fath symledd ac eglurdeb, fel nad oedd yn bosibl i neb a wnai y sylw lleiaf, beidio eu deall. Yr oedd ei agwedd yn syml a phrydferth - ei iaith yn bur a dirodres - ei lais yn gryf a pheraidd - a'i ysbryd yn llawn sobrwydd a difrifoldeb.Yr oedd ei olygiadau ar athrawiaethau y Beibl yn wir efengylaidd ; ac er mai anaml y rhoddai wedd byngciol i'w bregethau, etto, cyfranogent yn helaeth o'r egwyddorion hyny, er mai mewn gwedd ymarferol yr ymdriniai a hwy fynychaf. Bu trwy ei oes yn ddyn diwyd a llafurus ; a gellir priodoli lwyddiant yn fwy i'w ffyddlondeb a'i ddyfalbarhad nac i ddysglaerdeb ei dalentau naturiol. Yr oedd rhyw fawredd yn ei bresenoldeb a hawliai iddo barch pawb y deuai i gyffyrddiad ag ef. Yn mysg ei frodyr byddai yn siriol a chyfeillgar, ac yr oedd bob amser yn unplyg a didwyll. Llwyddodd yn fawr fei gweinidog, ac yr oedd ei ddylanwad bron yn ddiderfyn dros bawb yn yr eglwys.
Prif waith llenyddol ei oes yw "Hanes Crefydd yn Nghymru," ac yn sicr y mae yn dangos ol llafur mawr ; ac y mae ynddo gronfa o wybodaeth sydd yn anmhrisiadwy. Dichon na roddir iddo le uchel fel cyfan
[Gareth Hicks 5 June 2008]
Find help, report problems, and contribute information.
| notices, etc., that are to be found on individual information pages withill Copyright © GENUKI and Contributors 1996
to date |