| Carmarthenshire | Contents |
Pages 435 - 448
Proof read by Yvonne John (March 2008)
Chapels below;
|
|
|
435
soddiad llenyddol, ac y mae ol esgeulusdra a diofalwch ar lawer rhan o hono; ac nid yw ei ffeithiau a'i ffugyrau bob amser yn gyfryw ag y gellir eu cymeryd heb drafferth i ymchwilio i'w cywirdeb. Ond erys er hyny yn gofgolofn o'i lafur mawr.
Bu Mr. Peter yn briod ddwy waith. Priododd y tro cyntaf a gweddw i un Mr. Lewis, masnachydd cyfrifol yn Nghaerfyrddin ; ac wedi byw yn nghyd yn gysurus am bum'-mlynedd-ar-hugain bu hi farw yn mis Ebrill, 1820. Yn mhen dwy flynedd priododd a Miss Nott, chwaer y Cadfridog Syr William Nott, a bu hithau farw ychydig flynyddau o'i flaen. Ni bu iddo blant o'r naill na'r llall. Dechreuodd ei iechyd waelu yn nechreu haf 1834, ac o hyny allan deallodd fod ei ymddatodiad yn nesau, ond yr oedd ei ymddiried yn yr Arglwydd yn dal yn ddisigl. Aeth i lawr i'r glyn yn araf, ac ar y 4ydd o Fai, 1837, bu farw mewn llawn fwynhad o ddiddanwch yr efengyl, yn 72 oed; a chladdwyd ef yn Heol Awst, lle y mae maen mynor hardd wedi ei osod gan yr eglwys er coffadwriaeth am dano.
JOHN BREESE. Ganwyd ef yn mhlwyf Llanbrynmair, yn y flwyddyn 1789, a dygwyd ef i fyny dan ofal modryb ac ewythr iddo, y rhai a ym- ddygasant tuag ato fel pe buasai yn blentyn iddynt; ond gan nad oeddynt ond pobl isel eu hamgylchiadau gorfodwyd ef yn ieuangc i droi allan i wasanaethu. Mwynhaodd fanteision yr Ysgol Sabbothol yn foreu, a gwnaeth yn fawr o honynt. Pan o gylch un-ar-hugain oed derbyniwyd ef yn aelod yn hen gapel Llanbrynmair. Yr oedd ar y pryd yn ngwasanaeth Mr. R. Hughes, Cwmcarnedd-uchaf, yr hwn oedd un o swyddogion yr eglwys, ac yn un o'r dynion mwyaf ei ddylanwad yn y wlad. Anogwyd ef i ddechreu pregethu, a phregethodd ei bregeth gyntaf yn Nolgareg- wen. Mae rhai etto yn fyw sydd yn ei gofio y noson hono yn pregethu yn ei glocs a'i smockfrock. Cafwyd prawf buan fod ynddo gymhwysderau neillduol at y weinidogaeth, ac ar ol bod am ychydig mewn ysgol baroto-awl yn sir Amwythig, derbyniwyd ef i'r Athrofa yn Llanfyllin. Yr oedd yno yn mysg y rhai cyntaf ar ol symudiad yr athrofa yno o Wrexham. Bu yno am dair blynedd yn efrydydd diwyd ac ymdrechgar, a gwnaeth gynydd mawr mewn dysgeidiaeth, ag ystyried ei anfanteision blaenorol. Yr oedd yn boblogaidd iawn fel pregethwr pan oedd yn fyfyriwr, a rhag-welid y pryd hwnw y deuai yn un o brif bregethwyr ei genedl. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Gymreig yn Edmund Street, Liverpool, a chan fod yr eglwys yno wedi bod yn hir heb weinidog cymhellwyd ef i fyned yno flwyddyn cyn terfyniad ei amser yn yr athrofa. Dechreuodd ei weinidogaeth yno yn mis Mehefin, 1817. Yr oedd capel newydd y TABERNACL, Great Crosshall Street, yn cael ei adeiladu ar y pryd, ond bu Mr. Breese yn gweinyddu yn hen gapel Edmund Street am bedwar mis cyn fod y capel newydd yn barod. Nid oedd nifer yr eglwys ar ei sefydd-iad yn y lle uwchlaw triugain, ac nid oedd y gynnulleidfa ond bechan ; ond cynyddodd yn gyflym fel y calonogwyd ef a'i bobl yn fawr. Urddwyd ef Hydref 2il, 1817, yr un pryd ag agoriad Cymreig y Tabernacl,* a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; W. Williams, Wern; W. Hughes, Dinas; G. Lewis, D.D., Llanfyllin ; D. Jones, Treffynon; R. Everett, Dinbych, ac eraill. Ymaflodd Mr. Breese yn ei waith o ddifrif. Pregethai i'w gynnulleidfa dair gwaith bob Sabboth, ac unwaith yn yr wythnos ar nos Iau. Byddai gartref agos
*Yr oedd cyfarfod Seisnig wedi bod yn y capel yn flaenorol.
436
trwy y flwyddyn, oblegid nid oedd y pryd hwnw y cyfleusderau sydd yn bresenol i fyned o Liverpool i Gymru. Ymgysylltai lawer a gweinidogion Seisnig y dref, a phregethai yn aml iddynt. Llafuriodd lawer gyda sefydliad yr achos yn Manchester, a cherddodd ar ei draed yno ac oddi-yno lawer gwaith i bregethu i'w gydgenedl. Wedi dechreu achos yn y pen deheuol i Liverpool, byddai yn myned yno yn gyson ar nos Fawrth, ar bob tywydd, i bregethu. Yr oedd yn ddyn hollol ddiddiogi, ac yn mha beth bynag yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur efe a'i gwnai a'i holl egni. Buasai yn dda iddo mewn mwy nag un ystyr pe llafuriasai lai. Rhoddasid iddo fwy o hamdden i aros yn ei fyfyrgell i feddwl ei bregethau addfetach, ac arbedasid ei nerth a'i iechyd, y rhai a anmharwyd pan nad oedd ond dyn cymharol ieuangc.
Llafuriodd yn Liverpool am ddwy-flynedd-ar-bymtheg-a-haner, ac yn ystod cynifer o flynyddoedd gellir gwybod fod llawer tro wedi bod ar yr achos. Curodd llawer awel groes arno - trodd llawer yn siomedig - cafwyd cymysgedd o gysur a gofid, llawenydd a thristwch. Er fod ymroddiad mawr wedi bod i gasglu, yr oedd baich mawr o ddyled yn aros ar y Tabernacl. Yn 1824, aeth Mr. Breese i Lundain i gasglu, ac arhosodd yno flwyddyn a chwarter. Nid rhyw lwyddianus iawn oedd hi arno gyda'r casglu. Nid ydym yn sicr ei fod yn gasglwr o'r fath oreu, ac arhosai yno gan ddisgwyl y deuai pethau yn well. Pregethai yn Llundain i'r Cymry a'r Saeson, ac yr oedd yn boblogaidd gan bawb, ond nid oedd y pregethu yn chwyddo y tanysgrifiadau ar y llyfr. Oedai ddychwelyd gan y ddisgwyliai i bethau wella. Gwasanaethid yn ei le yn Liverpool gan Mr. Evan Davies, yr hwn oedd wedi gorphen ei amser fel myfyriwr yn y Dref-newydd, ac heb sefydlu ar le. Daeth yn fwy adnabyddus wedi hyny o dan yr enw Eta Delta. Yr cedd Mr. Breese a Mr. Davies yn enedigol o'r un ardal - wedi eu derbyn yn aelodau, a dechreu pregethu yn yr un eglwys - ac wedi eu dwyn i fyny yn yr un athrofa - ac os nad ydym wedi ein camhysbysu, yn berthynasau pell. Nid oedd dim yn fwy naturiol nag i Mr. Breese ymddiried yr achos i Mr. Davies tra y buasai yn Llundain yn casglu. Ond clywsom lawer o hen bobl hollol adnabyddus o'r amgylchiadau yn dyweyd na bu lle Mr. Breese byth mor gysurus ar ol hyny yn Liverpool, er iddo fod yno am ddeng mlynedd yn ychwaneg, ac i'r gynnudleidfa ddal yn gref a lluosog er nad oedd nifer yr eglwys yn cyf-ateb i faint y gynnulleidfa. Yn y flwyddyn 1834, aeth Mr. Breese, er mwyn adferiad iechyd, ar daith trwy ranau o'r Deheudir, pryd yr hoffwyd ef gan Mr. Peter a'r gynnulleidfa yn Heol Awst ; ac er fod iddo ganoedd o gyfedlion calon yn Liverpool, etto penderfynodd symud i Gaerfyrddin, a dechreuodd ei weinidogaeth yno yn Ionawr, 1835. Yr oedd am y pymtheng mlynedd blaenorol wedi bod yn un o brif bregethwyr ei enwad, yn enwedig yn Ngogledd Cymru. Cyrchai tyrfaoedd mawrion ar ei ol i ba le bynag yr elai, ac nid ystyrid yr un Gymanfa yn llawn heb ei fod ef ynddi. Efe a Mr. Williams, o'r Wern, a ystyrid yn mhob ystyr yn gol-ofnau y Cymanfaoedd yn yr adeg hono. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhyngddo ef a Mr. Williams ar yr un pryd. Rhagoriaeth mawr yr efeng-ylwr o'r Wern oedd ei allu nodedig i ddwyn pethau pell a dwfn i ymyl wrandawyr, a'u hegluro trwy ychydig o eiriau syml, a chydmariaethau adnabyddus nes y byddai y gwanaf ei amgyffredion yn eu deall. Ond yr oedd Mr. Breese yn cymeryd pethau oddiwrthym, ac yn eu cipio i'r cymyl-au uwch ein penau, ac oddiyno clywem ei swn, ond ychydig a ddeallem
437
hyd yn agos i ddiwedd y bregeth pryd y dechreuai y mellt rwygo y cym-ylau, ac y deuai yntau atom gyda dwysder ac angerddoldeb cenad oddi-wrth yr Arglwydd. Ond yr oedd ganddo ddylanwad grymus ar ei wran- dawyr, a mynych y llwyr orchfygai hwy a'i hyawdledd. Dyn byr, crwn, gwynebgoch o wneuthuriad cadarn ydoedd. Llais clir, cryf, clochaidd, cyffrous, yn hytrach na deniadol ; a chlywid ef gan y gynnulleidfa fwyaf yn dyweyd y gair cyntaf. Siaradai yn gyflym a diball, gyda gwresawg- rwydd angerddol; ac nid siarad y byddai ychwaith ond areithio. Athraw-iaethol oedd nodwedd gyffredin ei weinidogaeth, a'r athrawiaethau dyfnaf a mwyaf dyrus a fyddai fynychaf dan ei sylw, ac ymdriniai a hwy mewn gwedd byngciol. Yr oedd ei arddull yn dywyll ac aneglur, ei iaith yn uchel ac ansathredig, ac felly yn annealladwy i'r lluaws ; ond cordeddai ei eiriau cryfion a mawrion yn frawddegau hirion a chylymog nes llenwi ei wrandawyr a syndod ac aruthredd ; ac yr oedd y tân oedd yn ei yspryd, a'r gwresawgrwydd oedd yn ei draddodiad yn rhoddi bywyd yn y cwbl, ac yn peri iddo gario o pob peth o'i flaen. Buasai iaith symlach, a llai o osodiadau, a mwy o egluriadau yn gwneyd ei weinidogaeth yn fwy defn-yddiol gan y buasai felly yn dyfod yn nes at ddealldwriaethau ei wranda- wyr. Ond meistr y gynnulleidfa ydoedd wedi y cwbl. Clywsom y rhai a wrandawsant arno am flynyddoedd yn Liverpool yn dwyn y dystiolaeth i uchaf iddo ; ac yn nhymor ei arosiad yn Liverpool yr oedd yn uchder ei boblogrwydd. Adroddai y diweddar Mr. D. Hughes, Trelech, wrthym flynyddau yn ol mewn ymddiddan am Mr. Breese, ei fod yn cofio ei wrando pan yn fachgen yn Liverpool yn yr ysgol, y byddai ei bregethau ar nos Sabbothau yr hynod o ymarferol yn eu tuedd, a'u cyfeiriad mor nerthol fel y byddai eu dylanwad yn ofnadwy ar y gynnulleidfa. Dysgybl i Mr. Breese yn ei arddull oedd Mr. Hughes; ond fod Mr. Hughes yn meddu mwy o fedr i ddwyn gwirioneddau i ffurf a threfn. Nid oedd mor was-garog nac yr ymgladdu mor llwyr yn y cymylau; ond yr oedd ar yr un Pryd yn amddifad o athrylith greadigol Mr. Breese, o'i hyfdra meddyliol, o'i dân a'i angerddoldeb, ac o'i hyawdledd a'i araethyddiaeth gynhyrfus. Clywsom Mr. W. Ambrose, Porthmadog, yr hwn a eisteddodd am flynyddoedd dan ei weinidogaeth yn Liverpool, yn dwyn tystiolaeth gyffelyb am dano i eiddo Mr. Hughes; ac yr oedd ef wedi addaw, oni buasai i'w nerth gael ei ostwng ar y ffordd, ein hanrhegu a'i adgofion am dano Ys- tyriai ef mai ei bregethau ymarferol bob amser oedd ei rai rhagoraf ; a chlywsom lawer o'i hen wrandawyr yn dyweyd mai ei bregethau ar nos Iau bob amser fyddai y rhai goreu ; a hyny yr sicr am eu bod yn fwy syml a dealladwy. Ond yr oedd ei weinidogaeth bob amser yn nodedig am ei hiachusrwydd. Dygai fêr a brasder yr Efengyl ger bron ei wrandawyr. Iachawdwriaeth pechaduriaid colledig trwy aberth iawnol y groes oedd baich ei weinidogaeth ; ac yr oedd fel Paul wedi ei lyncu i fyny gan destyn mawr yr Efengyl "Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio."
Treuliodd fwy na saith mlynedd olaf ei fywyd yn gysurus a pharchus yr Nghaerfyrddin, er nad oedd ei nerth a'i iechyd y peth ydoedd gynt ; ac yn enwedig gwaelodd yn fawr yn y flwyddyn ddiweddaf y bu byw. Cawsom yr hyfrydwch o fwynhau llawer o'i gymdeithas yn misoedd olaf y fywyd ; ac yr oedd y gwirioneddau bregethodd trwy ei oes yn ddefnydd cysur iddo yn ei ddiwedd. Bu farw Awst 8fed, 1842, yr 52 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Heol Awst, lle y daeth torf luosog i ddangos eu parch i'w enw a'i goffadwriaeth. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan
438
Meistri D. Rees, Llanelli, a D. Davies, Pantteg. Priododd Mr. Breese a merch y diweddar D. Williams, Ysw., Saethon, a chwaer i'r diweddar D. Williams, o Gastelldeudraeth, yr aelod Seneddol dros sir Feirionydd; gadawodd hi yn weddw gyda chwech o blant amddifaid, owl y mae Rhag- luniaeth wedi bod yn dirion o honynt, ac y mae hi a rhai o'r plant yn aros etto dan nawdd a gwenau y Goruchaf.
HUGH JONES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1800, yn mhlwyf Cemmes, yn Sir Drefaldwyn. Yr oedd ei rieni yn bobl grefyddol, ac yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a dygwyd yntau i fynu pan yn blentyn yn eu Hysgol Sabbothol. Symudodd pan yn ieuangc i'r Drefnewydd, i ddilyn ei alwedigaeth fel gwehydd, ac yno yn y flwyddyn 1818 yr aeth i'r gyfeillach grefyddol, yn yr ystafell lle yr arferai Mr. James Davies, Aberhafesp, bregethu ; ond yn Bwlchyffridd y derbyniwyd ef yn aelod, oblegyd nad oedd etto eglwys wedi ei ffurfio yn y Drefnewydd. Bu o wasanaeth mawr ar gychwyniad yr achos yn y Drefnewydd gyda'r Ysgol Sabbothol a'r canu, ac wrth weded ei ddoniau yn ymagor anogwyd ef i ddechreu pregethu. Derbyniwyd ef i'r Athrofa yn y Drefnewydd, ac wedi bod yno dros rai blynyddoedd derbyniodd alwad o Saron, Tredegar, lle yr urddwyd ef Mawrth 29ain, 1827. Ymaflodd yn ei waith o ddifrif, ac yr oedd y pryd hwnw yn llawn yni a bywiogrwydd ieuengctyd. Yr oedd yn ddyn rhydd, serchog, caredig, ac yn un o'r siaradwyr goreu yn ei oes. Parablai mor esmwyth a didrafferth a neb a wrandawson erioed; ac an- hawdd oedd cael neb a allasai ddyweyd ychydig yn fwy cymhwys a phriodol ar unrhyw achlysur y gelwid arno i lefaru. Cyn belled ag yr oedd peirianau llafar, a chymhwysderau naturiol yn myned ychydig yn ei oes a geid i gystadlu ag ef. Yr oedd hefyd yn meddu ar lawer o wybodaeth gyffredinol, fel y gallasai siarad ar unrhyw fater, a gwneyd ei hun yn hapus mewn unrhyw gymdeithas. Enillodd iddo ei hun barch mawr yn Nredegar yn ystod y deunaw mlynedd yr arhosodd yno. Cymerai ddyddordeb mawr yn holl symudiadau yr enwad, yn enwedig yn Sir Fynwy ; ac yr oedd yn fwy hynod yn ei ymwneyd ag amgylchiadau allanol yr achos, nag yr oedd fel duwinydd a phregethwr. Yr oedd yn deall duwinyddiaeth yn dda, ac yn bregethwr poblogaidd, ond nid fel duwinydd dwfn na phregethwr poblogaidd yr oedd fwyaf adnabyddus, ond fel dyn i'w enwad yn y sir. Meddai ar ddeall da, ac o synwyr cyffredin cryf, ac yr oedd yn hynod fedrus i enill serch y rhai yr ymwnai fwyaf â hwy. Yr oedd yn benderfynol a diofn, a thybid am dano o draw ei fod yn llaw-drwm a gormesol; ond y mae y rhai mwyaf cydnabyddus o hono yn dwyn y dystiolaeth iddo, ei fod yn un o'r thai hawddaf i gydweithio ag ef. Eu yn ysgrifenydd i Gyfunden Mynwy am flynyddau lawer ; ac yr oedd y blynyddau hyny yn mhell o fod y blynyddau mwyaf tawel ar eglwysi yr enwad yn y sir. Parodd rhai pethau a wnaeth ac a ysgrifenodd yn y blynyddoedd hyny lawer gredu ei fod yn gogwyddo at Bresbyteriaeth yn ei olygiadau ar ffurf- lywodraeth eglwysig ; ac ystyrient ei fod yn cario awdurdod y Cyfarfod Chwarterol i'r fath eithafion nes sathru ar hawliau yr eglwysi. Parodd y cwerylon hyny lawer o flinder ar y pryd, ac ddiangodd Mr. Jones yn ei eglwys gartref heb ei ran o'r gofidiau. Cyhoeddodd draeth- awd ar "Eglwys Crist," yn yr hwn yr ymdrinia yn helaeth â manteision ac anfanteision gwahanol ffurf-lywodraethau eglwysig ; ac nid oes yn y llyfr ddim anghson â golygiadau y prif ysgrifenwyr ar Annibyniaeth o ddyddiau Dr. Owen hyd yn awr. Yr oedd yn llym yn erbyn pob gwrth-
439
ryfel eglwysig, ac ni chai gwrthryfelwyr ddim trugaredd oddiar ei law. Symudodd i Gaerfyrddin dan amgylchiadau anffafriol. Yr oedd rhyw ddrwg deimlad wedi bod am flynyddoedd rhwng Mr. Rees, Llanelli, ac yntau ; ac yn anffodus yr oedd Mr. Jones ychydig o amser cyn ei ddyfod-iad i Gaerfyrddin wedi ysgrifenu pamphletyn a edwid " Gelyn Anghrist," yr hwn oedd yn ymosodiad sarhaus ar y "Diwygiwr" a'i olygydd ; a chan fod cydymdeimlad y rhan fwyaf o weinidogion y sir â Mr. Rees, parodd dyfodiad Mr. Jones i'w plith lawer o flinder a thrallod; a threul-iwyd llawer o Gyfarfodydd Chwarterol i geisio dwyn y pleidiau i gyd-ddealldwriaeth. Nid ydym am roddi unrhyw farn ar yr amgylchiadau; ond tueddir ni, wrth adgofio, i feddwl y gallesid ysgoi y cwbl gydag ychydig o hunanymwadiad a chydoddefiad o bob ochr, ac yn enwedig pe buasai gweinidogion yn ymgadw rhag ymffurfio yn blaid i'r naill na'r llall. Da genym allu ychwanegu i'r rhwyg cyn hir gael ei gyfanu, ac i Mr. Rees a Mr. Jones newid pulpudau a'u gilydd, a chyd-lafurio yn y sir o hyny allan fel brodyr. Wedi ei symudiad i Gaerfyrddin ychydig a wnai Mr. Jones ag achosion cyhoeddus, yn wladol nac eglwysig, ond cyfyngai ei sylw a'i amser yn gwbl i gylch ei weinidogaeth gartrefol ; a bu yn nodedig o barchus yn mysg pobl i ofal am saith-mlynedd-ar-hugain. Yr oedd yn amlwg arno fod ei nerth yn gwanychu er's blynyddau, ond yr oedd ei afael mor gryf wrth bregethu, fel na fynai roddi i fynu. Ni ddiangodd heb gael ei ran o flinderau bywyd. Claddodd i wraig flynyddau cyn ei farw, yr hon oedd yn un o'r gwragedd mwyaf synwyrol ; a gwelodd ei blant yn gwywo o flaen i lygaid, rhai yn fabanod ieuangc, ac eraill wedi tyfu i fyny, ond meddianodd ei enaid mewn amynedd yn nghanol y cwbl; a phan y deallodd fod ei ymddatodiad ei hun gerllaw nid oedd mewn un modd yn brysio. Du farw Mawrth 5ed, 1872, yn 72 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Penygraig ; ac yr oedd ei angladd yn un o'r rhai lluosocaf a welwyd yn Nghaerfyrddin yn nghof neb sydd yn fyw, ac
"Yn Mhenygraig mae'n ei gryd
Wr da, a blaenor diwyd'"
Yr Ydym eisioes yn hanes eglwys Hcol Awst wedi cyfeirio at yr amgylehaidau o dan ba rai y cychwynwyd yr achos yma. Cymerwyd yr ysgoldy a elwid y Lancasterian School gan nifer o gyfeillion a ymddeolasant o Heol Awst gyda bwriad i gychwyn ail achos yn y dref. Nid oedd y lle mewn un modd yn gyfleus, ond yr oedd goreu a allesid gael ar y pryd. Ar y Sabboth cyn y Nadolig, 1844, daeth Meistri E. Jones, Crygybar, a Joseph Evans, Capel Sion, i agor y lle, a phregethasant trwy y dydd i gynnulleidfaoedd lluosog. Ar un o'r Sabbothau cyntaf yn Ionawr cafwyd yma gymundeb, pryd y gweinyddwyd gan Mr. H. Evans, Penbre, ac eisteddodd o gylch triugain wrth y bwrdd, y rhai ar y pryd a ymffurfiasant yn eglwys. Dewiswyd Meistri J. Daniel, D. Thomas, a J. Davies yn ddiaconiaid, a thraddodwyd siars iddynt gan Mr. J. Thomas, Bwlch-newydd. Aeth yr achos rhagddo yn raddol, fel yr amlhaodd yr eglwys a'r gynnulleidfa. Gwnaed ymchwiliad am dir i adeiladu capel yn rhywle yn nghanol y dref ; ond nis gallesid ei gael, o leiaf am bris rhesymol i'r gynnulleidfa. Yr oedd tir gan Mr. J. Daniel yn Union Street, ac er nad oedd yn y man goreu, etto, penderfynwyd adeiladu arno, gan nad allesid
440
cael lle mwy cyfleus. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr yn 1846, gan Mr. H. Davies, Bethania ac agorwyd y capel Ebrill 27ain a'r 28ain, 1847, yr hwn oedd gapel hardd a chyfleus, a gwnaeth yr eglwys a'r gynnulleidfa ymdrech egniol ar y pryd i dalu ei ddyled. Yn fuan wedi agor y capel rhoddwyd galwad i Mr. William Morgan, myfyriwr o Athrofa Hack- ney, Llundain, ac wedi hyny o Brif Ysgol Glasgow, i fod yn weinidog, ac urddwyd ef Awst 13eg, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Lloyd, Henllan; J. Evans, Hebron ; J. Griffiths, Trefgarn ; D. Thomas, Penrhiwgaled; J. Griffith, Tyddewi ; W. Evans, Neuaddlwyd ; S. Evans, Penygroes, a nifer fawr o weinidogion y sir. Mae Mr. Morgan wedi parhau i lafurio yma er hyny hyd yn awr gyda chymeradwyaeth mawr, a graddau helaeth o lwyddiant ; ac yn ychwanegol at ei ddyledswyddau fel gweinidog y mae er's mwy na deng mlynedd wedi ddewis yn un o Athrawon yr Athrofa yn Nghaerfyrddin. Yn y flwyddyn 1872, ad-drefnwyd y capel, fel y mae wedi ei harddu yn fawr, ac yn mhob modd wedi ei wneyd yn fwy cysurus. Nid oes ond ychydig o gychwynwyr yr achos yma yn aros, ond y mae eraill wedi codi i lenwi eu lle, ac y mae dau o'r tri a ddewiswyd yn ddiaconiaid wyth-mlynedd-ar-hugain yn ol yn parhau yn ffyddlon yn eu swydd. Mae Mr. John Daniel wedi bod yn brif golofn yr achos yma o'i ddechreuad, ac y mae cael y fath un mewn eglwys yn enill anmhrisiadwy iddi.
Codwyd yma un pregethwr, sef William Joseph, brawd i Thomas Joseph, y cenhadwr, at yr hwn y cyfeiriasom yn hanes eglwys Heol Awst. Ganwyd ef yn Nghaerfyrddin, Chwefror 12fed, 1832. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys hon pan yn bedair-ar-ddeg oed, ac wedi dechreu pregethu derbyniwyd ef i Athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef yn weinidog Great Eversden, sir Caergrawnt, yn 1852. Wedi llafurio yno rai blynyddoedd gwaelodd ei iechyd, a dychwelodd i Gaerfyrddin, lle y bu farw Ionawr 13eg, 1859, yn 27 oed. Yr oedd yn ddyn ieuangc difrifol a chrefyddol, er nad ydoedd o dalentau disglaer.
Yr oedd teimlad cyffredinol y dylasai fod yn y dref hon achos Saesonig er's blynyddoedd. Nid oedd oedfa Saesenig am dri o'r gloch bob Sabboth yn cyfateb i angenion yr enwad yn y dref. Yn 1861, sicrhawyd darn o dir yn Heol Awst, ychydig uwchlaw yr hen gapel, ond ar yr ochr arall i'r heol, ac adeiladwyd arno gapel tlws, yr hwn yn nghyd a'r tir odditano a gostiodd uwchlaw 2000p. Ffurfiwyd yma eglwys yn 1862, a rhoddwyd galwad i Mr. E. L. Little, myfyriwr o New College, Llundain yr hwn a urddwyd yma yn 1862. Wedi bod yma rai blynyddoedd enciliodd i'r Eglwys Sefydledig. Wedi hyny rhoddwyd galwad i Mr. D. Rowlands, B.A., Trallwm, yr hwn a fu yma hyd yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1872, pryd y dewiswyd ef yn Athraw yn Athrofa Aberhonddu, ac er hyny y mae yr eglwys heb weinidog.
Ysgoldy yw hwn hyd yma. Dylasai fod eglwys Annibynol yn y darn poblog hwn o'r dref er's blynyddau lawer ; ond oedwyd hyny hyd yn ddiweddar. Wedi ymgynghoriad â Mr. Jones, Heol Awst, a Mr. Morgan,
441
Union Street, penderfynodd Mr. Jones, Abergwyli, roddi prawf beth a ellid ei wneyd yn y darn hwn o'r dref. Prynodd ddarn o dir, ac mewn cysylltiad âg ychydig o gyfeillion ffyddlon eraill cododd ysgoldy ar y tir, gyda'r bwriad i agor Ysgol Sabbothol, a chael cyfarfodydd wythnosol ac ambell i bregeth nos Sabboth. Gwelwyd yn fuan fod yma ragolygon gobeithiol, ac felly, wedi cydymgynghoriad â'r eglwys yn Abergwyli, penderfynwyd i ffurfio eglwys ynddo. Ar y 7fed o Fai, 1871, yn mhen llai na blwyddyn wedi prynu y tir, pregethodd Meistri Jones, Abergwyli, a Davies, Penuel, yn yr ysgoldy am ddau o'r gloch. Ffurfiwyd yma eglwys, pan yr ymunodd tua deugain yn aelodau. Pythefnos cyn hyn, sef Ebrill 23ain, 1871, cafwyd cyfarfod o agoriad a chysegriad o'r lle at wasanaeth crefydd, pryd y pregethodd Meistri S. Davies, Penuel ; W. Morgan, Caerfyrddin ; D. Rowlands (yn awr o Aberhonddu); W. M. Davies, Blaenycoed; S. Evans, Hebron ; D. Williams, Rhydybont; T. Thomas (T.C.), Llandovery ; a J. Mathews, Castellnedd. Y mae yn llawenydd mawr genym ddyweyd fod yr achos ieuangc yn cynyddu yn gyflym, fel y mae yn awr, yn mhen ychydig gyda dwy flynedd, wedi d'od yn gryf a gobeithiol. Nifer yr aelodau eglwysig yw tua chant, ac yn agos yr un nifer o aelodau yn yr Ysgol Sabbothol. Mae arwyddion, os ca y cyfeillion yn y lle deml newydd eang a chyfleus, y ceir yma gynnulleidfa gref, gan fod gan yr Arglwydd bobl lawer yn y rhan boblog yma o'r dref.
Pentref poblog yw Abergwyli, yn sefyll ar wastadedd prydferth yn Nyffryn Tywi, o fewn milldir a haner i dref Caerfyrddin. Yn y pentref hwn y mae cartrefle Esgobion Tyddewi, yr hyn sydd yn anfantais i raddau Ymneillduaeth i ymledu a llwyddo yn y lle. Cafodd Annibyniaeth le i roddi ei throed i lawr yma yn gynar yn y ddeunawfed ganrif. Sefydlwyd yma orsaf i bregethu yn benaf gan fyfyrwyr Annibynol Athrofa Caerfyrddin. Yr oedd yma rai aelodau yn cyrchu bob Sabboth i Heol Awst. Yn y flwyddyn 1829 sefydlwyd yma eglwys reolaidd gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin. Ni chynhwysai yr eglwys ar y cyntaf ond ychydig lawn o bersonau. Y mae yn iawn i ni grybwyll enw Lewis Aaron, trwy yr hwn yn benaf y sefydlwyd yr eglwys; ac efe a fu yn brif foddion ei chynaliaeth dros flynyddau cyntaf ei bodolaeth. Bu yn aelod diwyd a diacon ffyddlon yn yr eglwys hyd ei fedd. Tuag adeg sefydliad yr eglwys priododd Mr. David Thomas, o Chepstow, â merch ieuangc o'r ardal yma, a bu hyny yn foddion iddo i symud i'r gymydogaeth i fyw, a chymerodd ofal bugeiliol yr ychydig braidd yn y lle; ond ni bu ei dymor yn faith, bu farw Mai 15fed, 1830. Daeth Mr. Methusalem Davies, Llechryd, yma i gadw ysgol, ac yn mhen amser dewiswyd ef yn fugail ar yr eglwys. .Bu Mr. Davies yn foddion i adeiladu capel yma. Tua'r flwyddyn 1833 symudodd oddi yma i Ceri, Sir Drefaldwyn, ac aeth oddi yno i Benywaun, Sir Fynwy, lle yr ymunodd â'r Bedyddwyr. Yn y flwyddyn 1838 daeth Mr. William Morris ar ei dro i'r gymydogaeth o Nebo, Swydd Caernarfon, ac ymbriododd â gweddw o'r gymydogaeth, ac a'r eglwys yr un flwyddyn. Bu hwn yn weithiwr difefl yn y gymydogaeth, a thrwy ei ymdrechion lluosogwyd yr eglwys, a chliriwyd y ddyled oedd ar yr addoldy. Nis gellir rhoddi canmoliaeth rhy uchel i Mr. Morris fel gweinidog; y mae yma
442
barch i'w goffadwriaeth, a hiraeth ar ei ol hyd y dydd hwn. Bu farw Mai 8fed, 1850, dan amgylchiadau torcalonus. Yr oedd yn ddyn cyffrous ei deimladau, ac wedi dangos arwyddion lawer gwaith o anmhwylledd, ac un diwrnod cafwyd ef wedi rhoddi terfyn ar ei einioes, trwy ymgrogi. Bu yn ddyn gweithgar a llafurus yn Sir Gaernarfon, lle y llafuriodd flynyddau, ac yn y gymydoraeth yma ; ac y mae y rhai mwyaf cydnabyddus ohono, ac o amgylchiadau blinion ei farwolaeth, yn rhoddi barn dyner arno - ai fod yn y weithred wedi colli pob ymsynied o'i gyfrifoldeb. Ond y mae yn alarus ar yr un pryd fod dyn o fywyd mor ddiargyhoedd, wedi gorphen ei yrfa dan amgylchiadau mor gymylog. Yn Awst 14eg, 1851, urddwyd Mr. Daniel Cadvan Jones, o Dywyn Meirionydd, yr hwn oedd yn fyfyriwr yn Athrofa Aberhonddu, i fugeilio yr eglwys ynglyn â Siloam, Pontargothi. Nid oedd nifer yr eglwys pan ddaeth Mr. Jones yma ond 150, a bu yma dros flynyddau lawer yn llafurio heb rhyw lawer o arwyddion am gynydd, yr hyn oedd yn ddigalondid mawr iddo. Tua'r flwyddyn 1858 daeth i benderfyniad mae doethach oedd iddo symud i faes arall. Yr oedd yma ychydig o bersonau yn peri i blinder iddo, ac yntau eisoes yn wan, am nad oedd yn gweled nemawr o ddysgyblion newydd yn cael eu lluosogi; ond gorfu iddo roddi y ffordd i erfyniadau y diaconiaid ynghyda chorph yr eglwys yn gyffredinol. Yn y flwyddyn 1859 sylwai Mr. Jones fod yma deimlad hynotach nag arfer yn mysg y gwrandawyr, yr hwn oedd yn myned rhagddo, gan gryfhau fwyfwy ; ond yr hyn oedd yn hynod ydoedd, mai yn mysg y gwrandawyr yr oedd y teimlad yn benaf. Ond ar nos Sabboth, Mawrth 27ain, 1859, pan oedd Mr. Jones yn pregethu ar y geiriau hyny, " Gofid un yn esgor a ddaw arno; mab anghall yw efe, canys ni ddydasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa'r plant," torodd y teimlad allan ac ychwanegwyd ugeiniau at yr eglwys ymhen ychydig o fisoedd. Pan ddaeth y llanw gorlifodd dros bob peth oedd yn annymunol o'r blaen, a daeth gwawr mwy llewyrchus ar bethau o hyny allan. Yr hyn oedd yn hynod yn yr ymweliad yma oedd dwysder teimlad, cawodydd o ddagrau hollol ddidrwst ; a mwy, fel y dywedwyd, o hyn yn cael ei amlygu yn y gwrandawyr nag yn yr eglwys yn gyffredinol. Yn nghorph yr un flwyddyn adeiladwyd ysgoldy eang a hardd yn y Felinwen. Cynhelir yma ysgol ddyddiol a Sabbothol. Canolrif y gyntaf yw 90, a chanolrif yr olaf o gant i chwech-ugain. Y mae Ysgol Sabbothol y fam eglwys yn Abergwyli tua'r un rhifedi.
Dechreuodd y brodyr canlynol bregethu yma.
Crybwyllasom ar y dechreu am yr anfantais sydd gan Ymneillduaeth y lle; gallwn ddwyn tystiolaeth fod Ymneillduaeth, nid yn unig yn fwyafrif pwysig yn y plwyf, ond y mae felly hefyd erbyn heddyw yn y pentref
443
ynghanol dylanwadau cryfion gwrthweithiol. " Mor gadarn y cynhyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd."* Nid oes genym ddim i'w ychwanegu am y gweinidogion fu yma yn llafurio, at yr hyn a ddywedasom yn hanes yr eglwys.
(Llandefaelog parish)
Mae y lle hwn o fewn tair milldir i Gaerfyrddin, heb fod yn nepell o'r ffordd sydd yn arwain i Gydweli. Dechreuwyd yr achos yma mewn lle a elwir Glannant, ac nid oes genym sail i feddwl fod pregethu wedi bod gydag unrhyw gysondeb yn un lle yma yn flaenorol i hyny. Yr oedd Mr. John Davies, Ffynondafolog, Trelech, fel y tybiwn, yma o'r flwyddyn 1742 hyd 1747, ac yn derbyn cynorthwy o'r Bwrdd Henadurol mewn cysylltiad a Glannant. Nid oes genym sicrwydd a oedd yma egdwys wedi ei ffurfio, ond y tebygolrwydd ydyw fod. Yn 1748 adeiladwyd capel Penygraig. Nifer yr eglwys y pryd hyny oedd 30. Y gweinidog a ofalai am dani y pryd hyn oedd Mr. Milbourn Bloom. Nid oes genym wybodaeth pa cyhyd y bu gofal yr eglwys arno, ond yr ydym yn cael mai Mr. Rees Davies, Canerw, oedd y gweinidog yma o'r flwyddyn 1757 hyd 1784. Gall fod yma yn flaenorol i'r dyddiad cyntaf, ond yr oedd yma y pryd hwnw. Yr oedd ganddo ffordd faith i gyrchu yma o Canerw, gerllaw Llanboidy, ond deuai yn rheolaidd ; a bu o lawer o wasanaeth yn y lle. Yn y flwyddyn 1784, rhoddwyd galwad i un John Williams, ond nid oes genym ddim gwybodaeth yn ei gylch, ac nid ymddengys iddo fod yma ond ychydig. Dilynwyd ef yma gan Mr. David Davies, yr hwn a urddwyd yn Nghydweli, ac a weinidogaethai i'r ddwy eglwys mewn cysylltiad a'u gilydd. Bu yma hyd y flwyddyn 1795, pryd y symudodd i Dreffynon. Dilynwyd ef yma gan Mr. Evan Evans, Llygadenwyn, fel y gelwid ef yn gyffredin Nis gwyddom pa bryd yr urddwyd ef yma, ond nis gallasai fod cyn y flwyddyn 1787, canys dyna y pryd y terfynodd ei efrydiau yn Athrofa Caerfyrddin. Bu ef yma yn barchus a defnyddiol o hyny hyd i farwolaeth, o gylch y flwyddyn 1818. Ar ol hyny rhoddwyd galwad i Mr. James Silfanus, Cellan, yr hwn a fu yma dros ychydig amser. Wedi ei ymadawiad ef bu Mr. S. Griffiths, Horeb, yn dyfod yma yn fisol, hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, aelod o'r eglwys, yr hwn oedd ar derfynu i amser yn Athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef Ebrill 20fed, 1829. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri D. N. Thomas, Abergwyli; D. Davies, Pantteg; D. Peter, Caerfyrddin ; E. Evans, Cilcarw; ac S. Griffiths, Horeb. Yr oedd Mr. Davies tra y bu yma yn boblogaidd fel pregethwr ; ac yn barchus gan yr holl ardal. Symudodd i Cwmaman, lle y mae etto yn llafurio. Cyn diwedd y flwyddyn 1834, rhoddwyd galwad i Mr. David Evans, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Ionawr 15fed, 1835. Ar yr achlysur gweinyddwyd gau Meistri D. Davies, Pantteg ; G. Griffiths, Llanbedr; J. Breese, Caerfyrddin ; M. Rees,, Pencadair ; D. Jones, Cydweli ; O. Owens, Bwlchnewydd ; W. James, Llanybri ; J. Evans, Capel Seion ; H. Evans, Penbre ; D. Evans, Nazareth ; ac M. Davies, Abergwyli. Llafuriodd Mr. Evans yma yn ddyfal am bedair blynedd-ar-ddeg, a gwnaeth lawer iawn o waith yn yr ardal; ond ni ddiangodd heb gyfarfod a gofidiau, ac aeth cangen allan i Ramah, a hyny, yn ol ei farn ef a llawer o'r eglwys, heb fod yn y dull
* Llythyr Mr. D. C. Jones.
444
mwyaf rheolaidd. Bu yn llafurus iawn gyda'r Ysgol Sabbothol, yr hon a gynyddodd yn fawr yn y capel a'r canghenau cysylltiedig. Bu Mr. Evans farw Mai 21ain, 1849. Wedi bod ddwy flynedd heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. Griffith Thomas Evans, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Medi 24ain, 1851. Ni bu yma ond ychydig fis- oedd. Gorfodwyd ef gan lesgedd a gwendid i roddi ei weinidogaeth i fyny, a dychwelodd i dý ei dad, lle y bu farw Mehefin 29ain, 1852, yn 29 oed. Yn nechreu y flwyddyn 1854, symudodd Mr. Joseph Jervis, Lacharn, yma i gymeryd gofal yr eglwys, ac y mae er hyny yn parhau i lafurio yn y lle. Mae yr achos yma wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau, ac wedi cyfarfod a chryn ystormydd yn yr haner can' mlynedd diweddaf sydd wedi effeithio i fesur arno, ond hyderir fod dyddiau gwell yn ol iddo.
Bu Mr. Griffith Hervey a'i wraig yn aelodau blodeuog yn yr eglwys am dymhor hir, a chladdwyd hwy yn mynwent y capel. Mr. David Gravell, Cwmfelin, hefyd a fu yn aelod o'r eglwys yma am dymor hir, ac yr oedd ynddo lawer o ragoriaethau, ond yr oedd i gyndynrwydd yn gwneyd fod yn anhawdd iawn i'r un gweinidog allu cydweithio ag ef ; ac effeithiodd hyny yn fawr ar gysur yr eglwys yn y blynyddau diweddaf. Nid ydym yn gwybod ond am ddau bregethwr a godwyd yn yr eglwys hon, sef John Davies, yr hwn fel y crybwyllasom a urddwyd yn weinidog yma, a'r hwn sydd yn awr er's yn agos i ddeugain mlynedd yn llafurio yn Nghwmaman; a John Davies, yr hwn a fu yn weinidog yn nghapel Albany, Llundain. Dichon fod eraill, ond ni chawsom eu henwau.
REES DAVIES. Nid ydym yn gwybod ond ychydig am fanylion ei fywyd. Yr oedd yn wr cyfoethog yn y byd, yn byw ar ei dir ei hun yn Canerw, gerllaw Llanboidy, ac yn aelod a phregethwr yn yr eglwys yn Henllan. Meibion iddo ef oedd Mr. James Davies a fu yn weinidog yn Broad Street, Bristol ; a Dr. Benjamin Davies, yr hwn a fu yn Athraw yn Athrofa Homerton. Dywedir iddo gael ei urddo yn weinidog yn Drefach, Llangeler, ond nid oes un prawf o hyny yn mysg defnyddiau hanes yr eglwys hono a anfonwyd i ni. Bu farw mor agos ag y gallwn gasglu i'r flwyddyn 1788, ond nid oes careg ar i fedd i hysbysu i oedran nac amser ei farw- olaeth. Yr oedd yn dduwinydd cryf, ac yn dra hoff o ysgrifeniadau Owen, Goodwin, a Charnock. Yr oedd tri hen dduwinydd cryf yn byw yn yr amser hwnw heb fod yn mhell oddiwrth eu gilydd, sef J. Griffith, Glandwr; R. Morgan, Henllan; a Rees Davies, Canerw ; ac yr oeddynt ill tri yn iachus yn y ffydd, ac yn selog dros y wir athrawiaeth. Nid ymddengys fod Mr. Davies, Canerw, yn ystyried ei hun yn ol i'w ddau gyfaill. Dywedai unwaith am y dadleuon oedd yn ffynu rhyngddynt, "Richard Morgan sydd yn ei chodi hi, John Griffith sydd yn ei chwrso hi, ond y fi sydd yn ei dal hi." Nid ydoedd fel yr ymddengys yn boblogaidd fel pregethwr. Digwyddodd i Mr. Jonathan Jones, Rhydybont, ddyfod i Benygraig un Sabboth, ac yr oedd yno dyrfa fawr yn dilyn ar ei ol. Gofynai yr hen wr iddo, "Beth yw yr achos fod cymaint mwy o bobl yn dyfod ar eich ol chwi nag ar fy ol i?' " Nis gwn," meddai Mr. Jones, "am un achos os nad hwn ydyw. Y mae genych chwi ymhorth da, ond yr ydych yn ei osod ar ben y seld yn rhy uchel i neb allu ei gyrhaedd ; ac yr wyf finau yn ei osod ar y bwrdd o'u blaen." Digon tebyg fod yn ei
445
bregethau ormod o gwrso (chwedl yntau) ar ol dadleuon duwinyddol, yn lle gosod yr ysgyfarnog wedi ei choginio yn flasus ar y bwrdd yn nghyraedd ei wrandawyr.
EVAN EVANS. Ganwyd ef yn Llygadenwyn, gerllaw Llanybydder. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Rhydybont, a dechreuodd bregethu yn fuan. Derbyniwyd ef i Athrofa Caerfrddin yn y flwyddyn 1793, a bu yno hyd 1797, pryd y derbyniodd alwad o Penygraig, gerllaw Caerfyrddin, ac urddwyd ef yno, lle y llafuriodd am ugain mlynedd. Cyfrifid ef yn gyfaill ffyddlawn a diweniaeth, ac yn Gristion cywir a gwresog. Yr oedd yn efengylaidd o ran ei olygiadu, a'i holl bregethau yn enillgar eu hysbryd, ac yn ymarferol yn eu tuedd.
DAVID EVANS. Ganwyd ef yn LIwyncelyn, yn mhlwyf Llanddewibrefi, sir Aberteifi, Rhagfyr 16eg, 1811. Nid oedd ei rieni yn grefyddol, ac arferai ei dad fasnachu mewn anifeiliaid, a myned a hwy i Loegr. Rhoddodd addysg dda iddo yn ol manteision y gymydogaeth; a phan oedd David tua 13 oed torodd diwygiad grymus allan yn Llangeitho, ac ymunodd yntau a'r eglwys yno. Ar ol hyny ymunodd ei fam a'r Annibynwyr yn Ebenezer. Pan oedd tuag 16 oed cymhellid ef gan ei dad a'i frawd hynaf i fyned yn offeiriad, ond ni fynai feddwl am hyny, ond boddlonodd i fyned i'r Neuaddlwyd dan ofal Dr. Phillips er mwyn cael addysg bellach. Tra yno ymunodd a'r eglwys yn y Neuaddlwyd, ac yn mhen o gylch blwyddyn anogwyd ef i ddechreu pregethu. Cymeradwywyd ef oddiyno i Athrofa Caerfyrddin, ac wedi treulio ei amser yno urddwyd ef yn Mhenygraig, Ionawr l5fed, 1835. Llafuriodd yno ac yn Philadelphia gyda llwyddiant mawr. Yr oedd yn ddyn o ysbryd diwygiadol. Ymosododd at cwrwau bach - arferion anweddaidd angladdau, a phethau cyffelyb oeddynt wedi bod yn hir yn rhwystr i grefydd yn yr ardal; a bu yn dra llwyddianus i'w rhoddi i lawr. Gan fod Mr. Evans wedi ei ddwyn i fyny yn moreu ei oes yn mysg y Methodistiaid, yr oedd llawer o ddelw eu haddysg hwy ar ei ysbryd a'i bregethau trwy ei oes. Yr oedd yn bregethwr bywiog, effro, gafaelgar gyda llawer o sylwadau bachog, y rhai a ymaflent yn nghydwybodau ei wrandawyr. Nid ymaflai mewn pyngciau dyrus, ac nid ymgeisiodd at bethau rhy fawr a rhy uchel iddo, ond yr oedd bob amser gyda chyflyrau ysbrydol ei wrandawyr; ac nid oedd neb yn sir Gaerfyrddin yn ei dymor ef y gwrandewid arno gan bawb gyda mwy o foddhad; a byddai ei bregethau yn wastad ar ol eu gwrando yn destynau ymddiddanion mewn cyfeillachau. Bu yn nodedig o weithgar gyda'r Ysgol Sabbothol, a sefydlodd amryw ganghenau newyddion yn nglyn a'r eglwysi dan ei ofal; ac yr oedd ynddo fèdrusrwydd nodedig i daflu ysbryd a gweithgarwch iddynt. Yr oedd yn gywir a ffyddlon i'w gyfeillion; ond yr oedd rhyw surni a chwerwder yn ei ysbryd fel os unwaith y digid ef yr oedd yn anhawdd i gymodi. Gwyddai yn dda, mai dyna oedd ei wendid, ac yr oedd yn cael gwaith mawr yn aml i gadw ei ysbryd cyffrous a chanddryll dan reolaeth. Nid oedd er iechyd ond gwan, ac yr oedd yn goddef oddiwrth ddoluriau a wnai ei ysbryd yn fwy anniddig. Cristion cywir a dihoced ydoedd er y cwbl, a cholled fawr i'r wlad lle yr oedd wedi cyrhaedd y fath ddylanwad oedd ei golli yn nghanol i ddyddiau. Yr oedd ei ysbryd yn llawn hyd ei ddiwedd, ac yn gystudd tynai allan gynlluniau y rhai y bwriadai ar ol gwella eu cario allan. Ond ei "amcanion ef a dynwyd ymaith." Bu farw Mai 21ain, 1849, yn 38 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Penygraig. Gadawodd weddw ar ei ol,
446
ond ni bu plant iddo. Yr ydym yn teimlo chwithdod wrth ysgrifenu y byr grybwylliad yma am dano, oblegid yr oedd yn un o gymdeithion blynyddoedd dedwyddaf ein hoes; ac nid oes odid un yn aros o'r rhai arferem gydgyfrinachu a hwy yn y dyddiau hyny.
GRIFFITH THOMAS EVANS. Ganwyd ef Awst 15fed, 1823. Mab ydoedd i Thomas a Magdalen Evans, Pontyrhenryd, heb fod yn mhell o Aberaeron, y rhai oeddynt yn adnabyddus, ac a fuont groesawgar i lawer o bregethwyr yr oes o'r blaen. Derbyniodd addysgiadau crefyddol ar aelwyd ei rieni, a mwynhaodd o'i febyd weinidogaeth ddihafal Dr. Phillips yn hen gapel Neuaddlwyd, a phan yn ddeng mlwydd oed, rhoddwyd iddo ddeheulaw cymdeithas i'w dderhyn yn aelod o'r eglwys. Dechreuodd bregethu Mawrth 22ain, 1845, ar gais Mr. Evans a'r eglwys yn y Neuaddlwyd, ac wedi derbyn addysg barotoawl yn Aberteifi, ac wedi hyny yn Ffrwdyfal, derbyniwyd ef i Athrofa Aberhonddu, lle y gwnaeth ddefnydd da o'i fanteision. Ar derfyniad ei dymor Athrofaol derbyniodd alwad o Benygraig, ac wedi aros gartef dros ychydig er mwyn ei iechyd, urddwyd ef yno Medi 24ain, 1851. Yr oedd i feddwl yn llawn awydd am waith, ac yr oedd wedi tynu iddo ei hun gynlluniau y rhai y bwriadai eu rhoddi mewn gweithrediad. Ond nid oedd ei nerth corfforol yn ateb i'w gynlluniau meddyliol. Methodd yn mhen pum' mis, a dychwelodd i dy ei dad er adfywiad i'w iechyd fel y tybiai, ond mewn gwirionedd dychwelodd yno i chwilio am fedd. Bu farw Mehefin 29ain, 1852, yn 29 oed; a chladdwyd ef yn lle beddrod y teulu yn mynwent Neuaddlwyd.
Yr oedd Mr. Evans yn ddyn o feddwl galluog, a hwnw wedi ei ddysgyblu yn dda. Cymerai i feddwl bob amser ffurf athronyddol, a mynai allan y rheswm bob amser dros bob peth a gymhellid arno. Yr oedd o feddwl pur, yn gystal ag o arferion pur, a chodai yr olaf o'r blaenaf. Nid oedd wedi ei gynysgaeddu a doniau hyawdl fel pregethwr, ond yr oedd ei bregethau oll yn llawn sylwedd, a'i draddodiad o honynt yn weddus a difrifol. Ond diffoddodd y ganwyll pan yn dechreu llosgi ; a syrthiodd ar y maes pan newydd wisgo i arfau i'r frwydr. Gallesid disgwyl fod llawer un o'r oed oedd yn haws i'r byd eu hebgor, ond efe aglwyfwyd gan y saeth angeuol. "Dyfnder mawr yw dy farnedigaethau!"
(Llangunnor parish)
Mae y lle hwn o fewn tair milldir i Gaerfyrddin, ar ochr y ffordd i Bontarddulais. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal gan D. Davies, gweinidog hen gapel Llanybri, yr hwn oedd yn byw yn yr ardal. Pregethai a chadwai gyfeillachau yn i dý ei hun, ond aelodau yn Mhenygraig oedd y rhan fwyaf o'r rhai a'i cynorthwyai. Cafwyd tir at adeiladu capel gan Mr. John Nicholas, boneddwr o Gaerfyrddin. Rhoddodd ddarn helaeth o dir at godi capel, a mynwent, a lle i godi ysgoldy a thý i'r gweinidog ar lês o fil ond un o flynyddoedd, am yr ardreth a ddwy bypyren yn y flwyddyn. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1809, a pherchenog y tir a gymerodd arno ei hun y rhan fwyaf o'r draul. Yn mysg aelodau cyntaf yr eglwys yr oedd Evan Evans,Tyhir ; Lefi Llywelyn,Tyrheol ; William Thomas, Wern; Rees Davies a John Samuel, Brigwalltycoed, a'u gwragedd. Aeth yr achos rhagddo yn llwyddianus dros yspaid tair blynedd, nes yn y flwyddyn 1813, y daeth dyryswch ar amgylchiadau y gweinidog, Mr. Davies ; a chan fod yr achos yn ieuangc ysigwyd ef yn fawr, a bu yn
447
wan dros rai blynyddoedd. Daeth Mr. William Williams, o Godreurhos, i'r lle, ond ni bu yma yn hir. Ymadawodd at y Bedyddwyr, a bu yn weinidog gyda hwy yn Paran, ac yn Felinifanddu, sir Forganwg. Wedi hyny daeth Mr. James Silfanus yma dros yspaid mewn cysylltiad a Phenygraig, a pharhaodd i weinidogaethu i'r eglwys hon, ar ol rhoddi i fyny ofal Penygraig, hyd y flwyddyn 1831, a bu ei lafur yn dra derbyniol. Wedi hyny cymerodd Mr. Joseph Evans, Capel Sion, ofal yr eglwys am bedair neu bum' mlynedd, a bu ei weinidogaeth yn dra derbyniol; ond oblegid pellder y ffordd rhoddodd y gofal i fyny, ac anogodd yr eglwys i roddi galwad i Mr. David Evans, oedd newydd ei urddo yn Mhenygraig. Bu Mr. Eyans yn dra llafurus a defnyddiol yma o'r flwyddyn 1836 hyd ei farwolaeth, Mai 12ain, 1849. Yr oedd Mr. Evans yn byw yn Plasmynydd, heb fod yn mhell o'r capel, ac felly yn gyfleus i allu bod yn bresenol yn mhob cyfartod. Cafwyd yma adfywiad grymus yn 1841, pryd yr ychwanegwyd llawer at yr eglwys; a'r flwyddyn hono tynwyd yr hen gapel i lawr i'w ail-adeiladu, a gwnaed yma dý cryf a chyfleus. Agorwyd ef Hydref lleg a'r 12fed, 1842.
Yn mis Mai 1850, cymerodd Mr. Evan Evans, Hermon, ofal yr eglwys; ac y mae wedi llafurio yma bellach er's tair-blynedd-ar-hugain. Mae efe yma ddau Sabboth o bob mis, a'r ddau arall yn Hermon a Soar ; ond gan ei fod yn byw yn Plasmynydd, gerllaw y capel, y mae yr eglwys yma yn cael ei wasanaeth yn y moddion wythnosol. Mae yr eglwys yn cyfrif tua 250, a'r Ysgol Sabbothol tua 150, ac y mae yr achos yn ei holl ranau mewn gwedd siriol. Nid ydym yn cael fod yr un pregethwr wedi codi yma, ond y mae Jenkin Davies yn hen bregethwr cynorthwyol sydd wedi bod bellach am flynyddau yn nglyn a'r eglwys.
(Llanegwad parish)
Dechreuwyd yr achos yn y gymydogaeth hon mewn tý-anedd o'r enw Ty'nycoed, ychydig uwchlaw y man y saif yr addoldy presenol. Mr. Griffith Griffiths, Pantycenglau, fel yr adnabyddid ef yn gyffredin, fu yn brif foddion dechreuad yr achos yn y lle hwn. Yr oedd yma hen faelfa gerllaw i Ty'nycoed, ac wrth fyned a dychwelyd y ffordd hono daeth Mr. Griffiths yn adnabyddus â Mr. Rees, yr hwn oed y pryd hwnw yn byw yn Ty'nycoed. "Ni byddai dim llawer i chwi," ebe yr hen Bantycenglau, "i roddi benthyg y shop yna i mi bregethu ynddi." " Chwi cewch hi," oedd yr ateb. Bu yno amryw o droion cyn i neb feddwl am ffurfio eglwys yno. O dipyn i beth aed i alw am hyny, ac yn y flwyddyn 1822, daeth Mr. Peter, Caerfyrddin, i Ty'nycoed i gorphori yr ychydig oedd yno yn eglwys. Cymerwyd ei gofal gan Mr. David Jones, Gwynfa. Bu Mr. Jones yn offerynol i gael addoldy mwy cyfleus na'r hen faelfa i fyned a'r gwaith da yn mlaen. Oherwydd rhyw resymau barnodd Mr. Jones yn ddoethach i roddi gofal yr eglwys i fyny, a chymerwyd ati gan Mr. Benjamin Griffiths, o Abergorlech. Ond ni bu yntau yma yn faith. Daeth un John Davies i'r ardal i gadw ysgol o'r Caebach ; rhoddwyd gofal yr eglwys dros ychydig iddo ef. Ar i ol yntau cymerodd Mr. Daniel Jones, o Grugybar, ei gofal am dymor. Yr oedd y pryd hyny yn uchder i boblogrwydd. Tynodd gynnulleidfa luosog i wrando, ac ychwanegwyd rhai ugeiniau at yr eglwys trwy ei lafur. Ar ei symudiad o Grugybar i'r Aber, yn sir Frycheiniog, difuddiwyd yr eglwys o'i lafur. Wedi hyny
448
cymerwyd ei gofal gan Mr. Daniel Evans, mewn cysylltiad a Nazareth, a bu yma nes y symudodd i Gastellnedd. Wedi iddo ef ymadael rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Jenkins, Penygroes. Bu yma yn llafurio yn y lle dros yspaid pedair-blynedd-ar-ddeg. Yn ei amser ef yr adeiladwyd yr addoldy presenol, sef yn y flwyddyn 1849. Gwelodd Mr. Jenkins fod sefyllfa y lle yn obeithiol, a bod rhagolygon ffafriol am achos cryf yma ond cael gweinidog a allasai roddi mwy o lafur nag a allasai efe roddi, oblegid pellder ei ffordd a phwysigrwydd ei waith gartref. Felly rhoddodd yr eglwys i fyny yn 1850. Yn Awst, 1851, urddwyd Daniel Cadfan Jones, o Athrofa Aberhonddu, i'w bugeilio yn nglyn ac Abergwyli. Rhif yr eglwys pan ddaeth Mr. Jones yma gyntaf ydoedd 120, y mae erbyn hyn wedi dyblu mewn rhif. Y mae dwy Ysgol Sabbothol yn nglyn a Siloam, un yn y capel, ac un arall mewn pentref o gylch dwy filldir oddiyno, o'r enw Felingwm. Nid yw yr ysgolion mor llewyrchus ag y dylent fod, er eu bod wedi magu bechgyn glewion. Teimlir y dylai dwy ysgol etto gael eu sefydlu yn nglyn a Siloam, un ar y ffordd i Landilo, a'r llall yn mhentref Llanmihangeluwchgwyli. Dylai yr olaf gael ei gwneyd o gyrau eithafol eglwysi Siloam a Pantteg ; gadlai dyfu yn ysgol gref yn mhen ychydig gyda ffyddlondeb. Fel y mae yn awr gadewir y ffiniau yn gwbl benagored at drugaredd ereill.
Ni chyfodwyd ond un i bregethu o'r eglwys hon, sef William Alonzo Griffiths, yn awr o Oakland Chapel, Llundain.
Y mae yr eglwys hon wedi bod yn hynod dangnefeddus yn ystod tymor arosiad Mr. Jones. Yr oedd ychydig o oerni yn digwydd bod rhwng rhai o'r brodyr pan ddaeth i'w mysg gyntaf, yr hyn oedd yn ei gwneyd yn hynod anfanteisiol iddynt i benderfynu at i'w bugeilio. Pob un a benodid yr oedd yn anghymwys am fod un o'r pleidiau yn digwydd ei ddewis. Ond yn ffodus disgynodd Mr. Jones i'w mysg heb yn wybod i'r un o'r ddwy blaid, ac y mae hanes y cyfarfod benderfynodd y ddadl yn ddyddorol. Gofynid i un o'r brodyr beth a feddyliai am y gwr ieuangc. "Wn i ddim am dano," oedd yr ateb, a dyna oedd eu hateb un ac oll. O'r diwedd daeth tro hen frawd oedd yn llygadu cyn hyn dyn pa un o'r ddwy blaid fyddai yr ymgeisydd - " Thomas Morgan, beth yw eich barn chwi am y dyn ifangc." " Wiri - ond frodyr bach rhaid cael pum' peth mewn gweinidog sefydlog - dyn gwybodus, dyn daionus, synwyr cyffredin, dyn duwiol, a hwnw yn eitha Calfin." Wel," ebe'r llall, "sut y doir o hyd i wybod a yw y gwr ifangc yn meddu y cymwysderau yna." Ar hyn dyna John Griffiths, tad Alonzo, ar ei draed a thorodd fel arfer y Gordian knot, "Pw, pw, rhowch alwad i'r dyn, pe bai mor anghymwys a'r cythral, ni flina hwn mo honom yn hir." Yr oedd golwg angeuol o deneu ar Mr. Jones y pryd hyny, felly ar y dybiaeth ei fod i farw yn fuan y rhowd galwad iddo.
(Aber-Nant parish)
Mae yn anhawdd cael allan i foddlonrwydd ddyddiad dechreuad yr achos yma; ond y mae sicrwydd fod eglwys yn y Bwlch yn y flwyddyn 1715, oblegid ceir enw y lle yn yr ystadegaeth a gasglwyd yn y flwyddyn hono gan Dr. John Evans. Yr oedd yr eglwys y pryd hwnw mewn rhyw fath o gysylltiad a Chaerfyrddin, a rhoddir cyfrif y ddau le yn nglyn a'u gilydd. Tueddir ni i feddwl fod achos yn yr ardal yn mhell cyn hyny. Yr oedd Mr. Thomas Bowen yn weinidog yn Pantteg, o leiaf mor foreu
[Gareth Hicks 5 June 2008]
Find help, report problems, and contribute information.
| notices, etc., that are to be found on individual information pages withill Copyright © GENUKI and Contributors 1996
to date |