GENUKI Home page
Carmarthenshire Carmarthenshire Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)

From the CD published by Archive CD Books

Carmarthenshire section (Vol 3)

 

  Pages 449 - 462

 

See main project page

Proof read by Yvonne John (March 2008)

Chapels below;

 


Pages 449 - 462

449

(Continued) BWLCHNEWYDD (Aber-Nant parish)

 

a'r flwyddyn 1691, oblegid y mae y bedyddiadau a weinyddwyd ganddo yn y flwyddyn hono weili eu cofnodi yn hen lyfr eglwys Pantteg yn ei lawysgrif ef ei hun. Yr oedd Thomas Bowen yn byw yn mhlwyf Llannewydd, ac yr oedd amryw o'r rhai y cofnodir eu bedyddiadau yn y llyfr eglwys yn byw yn y plwyf hwnw. Trowyd Mr. James Davies allan o blwyf Merthyr-fach gan Ddeddf Unffurfiaeth, a'r tebygolrwydd ydym fod moddion crefyddol wedi ei  gynal yn ddirgelaidd yn y Bwlch, neu yr Henfwlch fel y gelwir ef yn awr, gan deulu Thomas Bowen ac eraill er hyny, ac yr oedd y cysylltiad oedd rhwng Mr. Stephen Hughes a Merthyr yn gwneyd y tebygolrwydd yn fwy yr arferid yma gynal aildoliad er yn foreu. Nid ydym yn cael enw Mr. Bowen yn llyfr eglwys Pantteg ar ol y flwyddyn 1707, oddigerth un cyfeiriad a wneir ato gan Christmas Samuel, ac yr ydym yn casglu fod ei gysyllitiad a'r eglwys hono wedi darfod y pryd hwnw, ac iddo am yr ugain mlynedd dilynol o'i oes gyfyngu ei lafur i'r Bwlch a'r amgylchoedd. Nis gwyddom pa bryd y bu farw, ond yr oedd yn fyw Mai 12fed, 1725, oblegid y mae ei enw yn mlaenaf ar restr ymddiriedolwyr capel Heol Awst a wnaed ar y dyddiad hwnw ; ac y mae y llawysgrif yn y withred yn dwyn yr un neillduolrwydd a'i law-ysgrif yn llyfr eglwys Pantteg. Pa cyhyd ar ol hyny y bu byw nis gwyddom, ond ymddengys ei fod wedi marw cyn 1728, oblegid ar y 15fed o Fehefin y flwyddyn hono y mae ei weddw, Mary Bowen, yn gwneyd cytundeb a'i mab hynaf, David Bowen, ac ai hunig ferch, Alice Bowen, yn yr hwn, am swm o arian, a rhan o ddodrefn y ty, y mae yn rhoddi  fynu i'w phlant a enwyd ei hawl i'r drydedd ran o eiddo ei phriod. Mae y cytundeb hwnw yn awr ger ein bron. Yr oedd Thomas Bowen yn berchen tiroedd yn mhlwyfydd Llannewydd, Merthyr, ac Abernant, ac felly, mewn ystyr fydol, yn barchus a chyfrifol yn yr ardal. Nid ydym yn gwybod pwy a fu yn gweinidogaethu i'r gynnulleidfa yn y Bwlch o farwolaeth Mr. Bowen hyd ddyfodiad Mr. Evan Davies yma o Hwlffordd yn y flwyddyn 1743. Daeth Mr. Davies  Gaerfyrddin i fod yn Athraw yr Athrofa, ac yn weinidog yn Llanybri a'r Bwlch. Yn mhen tair blynedd wedi ei ddyfod, oherwydd rhyw amgylchiad, gorfodwyd y gynnulleidfa  adael y Bwlch. Yr oedd cynghaws cyfreithiol rhwng David Bowen, mab Mr. Thomas Bowen, yn mhen deuddeng mlynedd ar ol hyn, â Jane Corrie, gweddw, ond nis gwyddom a oedd rhyw gysylltiad rhwng hyny a throad y gynnulleidfa allan. Cafwyd tir at adeiladu capel ddwy filldir yn mhellach o Gaerfyrddin, heb fod yn nepell o'r ffordd i Gynwil, ar lês o 199 o flynyddoedd, am chwe'' cheiniog y flwyddyn o ardreth, gan un John Scurlock, etifedd ei ewythr Griffith David. Dyddiad y weithred yw Hydref 9fed, 1746. Yr ymddiriedolwyr, heblaw pobl y gymydogaeth, oedd Evan Davies, gweinidog yr efengyl yn Nghaerfyrddin, Samuel Thomas eto o'r un lle, George Palmer eto o Abertawy, a Jenkin Morris, Pantyrathro, Llanstephan. Heblaw y gweinidogion hyn y mae tri o bersonau o blwyf Abernant, chwech o blwyf Llannewydd, a dau o blwyf Merthyr, yn ymddiriedolwyr; ac o'r nifer yna yr oedd pedwar yn rhydd-ddeiliaid (freeholders), a'r gweddill yn grefftwyr ; yr hyn a ddengys fod yn rhaid fod yr achos yn lled gryf ar ei sefydliad. Gan mai Bwlch y gelwid yr hen gapel, er mwyn eu gwahaniaethu galwyd y newydd yn Bwlchnewydd; ac o dan yr enw hwnw yr adnabyddir ef hyd y dydd hwn. Llafuriodd Mr. Evan Davies yma fel gweinidog hyd y flwyddyn

450  

1758, pryd y symudodd i Billericay, Essex. Nid oes genym ond ychydig i'w ychwanegu am dano at yr hyn a ddywedasom yn hanes Llanybri. Un genedigol o ardal Cellan, gerllaw Llanbedr, ydoedd. O'r un teulu yr hanodd y diweddar Dr. Evan Davies, Abertawy. Yr oedd llawer o'i lythyrau, y rhai a ysgrifenwyd ganddo o Loegr, yn nhai perthynasau iddo yn nghymydogaeth Cellan ddeng mlynedd-ar-hugain yn ol, ond trosglwyddwyd hwy gan mwyaf i ofal y diweddar Dr. Davies, Ffrwdyfal. Profai y rhai hyny ei fod yn hollol uniongred yn ei olygiadau, ac yn elyn anghymodlon i Arminiaeth ei gyd-athraw, Mr. Samuel Thomas, ac yr oedd yn dra anfoddlawn oblegid gwaith y Bwrdd Henadurol yn ei apwyntio yn gyd-athraw ag ef, ac anfoddlonrwydd am hyny a rhyw bethau eraill a barodd iddo symud i Loegr yn 1758.

Wedi ei ymadawiad ef cymerodd Mr. John Davies, Ffynondafolog, ofal yr eglwys dros rai blynyddoedd, ,ac y mae yn debyg fod Mr. Thomas Jones, Glanffrwd, yn ei gwasanaethu yn achlysurol wedi marwolaeth Mr. Davies. Nid ydym yn tybied fod yr hyn a ddywedir yn 'Hanes Ymneillduaeth, yn gywir fod Mr. O. Davies, Trelech, wedi bod yn gweinidogaethu yma. Yn y flwyddyn 1767 y symudodd Mr. O. Davies o Crofftycyff i Drelech; ac erbyn hyny yr oedd Mr. T. Davies wedi cymeryd gofal yr eglwys mewn cysylltiad â Phantteg. Urddwyd ef yn Pantteg, Hydref 16eg, 1765, ac yn mhen o gylch blwyddyn ar ol hyny y cymerodd ofal yr eglwys hon. Llafuriodd. Mr. Davies yma yn ffyddlon hyd ei farwolaeth, Hydref 4ydd, 1813. Yn y flwyddyn 1810 ail-adeiladwyd y capel, yr hwn a godwyd yn 1746. Yr oedd y Bwlch, lle yr oedd teulu Thomas Bowen wedi arfer byw, wedi myned yn eiddo un Mr. Beynon, a chan ei fod ef yn ffafriol i grefydd, ail-ddechreuwyd pregethu yno yn yr hen gapel ar fuarth y ffarm ; ac yn mhen amser, pan oedd Mr. Bowen yn weinidog yn Bwlchnewydd, codwyd capel ychydig oddiwrth y ty at wasanaeth y tri enwad, y Bedyddwyr, yr Annibynwyr, a'r Methodistiaid, a byddai gweinidog Bwlchnewydd yn pregethu yno un prydnhawn Sabboth o'r mis.

Pan oedd Mr. Davies yn heneiddio ac yn gwanhau mewn nerth deuai Mr. J. Bowen, Saron, yn fynych i'w gynnorthwyo. Bu gofal Nazareth, rhwng Caerfyrddin a Llanelli, ar Mr. Bowen ar ddau gyfnod, ac yn y cyfnod cyntaf rhoddai bregeth am dri o'r gloch yn Bwlchnewydd un Sabboth o bob mis wrth ddychwelyd o Nazareth, wedi bod yno y  boreu yn cadw cymundeb. Yn fuan wedi marw Mr. Davies siaradodd Mr. Bowen a phobl Bwlchnewydd mewn cyfarfod eglwysig y buasai efe yn cymeryd eu gofal; ac felly y cytunwyd yn y fan. Nid oedd hyny yn foddhaol  bawb, oblegid ei fod wedi ei wneyd mor fuan ar ol marwolaeth yr hen weinidog, ac heb roddi rhybudd priodol i'r eglwys. Yr oedd David Davies, Rhosychen, "Davies y Cei," fel y gelwid ef ar ol hyny (mab Mr. Owen Davies, Trelech), yn aelod a phregethwr yn Bwlchnewydd; a phan glywodd am gytundeb yr eglwys â Mr. Bowen, ysgrifenodd lythyr hirfaith ato, yn cwyno oblegid yr hyn oedd wedi cymeryd lle. Barnai ef fod maes gweinidogaeth Mr. Bowen eisioes yn rhy helaeth a gwasgaredig, heblaw fod y cytundeb wedi ei wneyd yn ddi-rybudd i fwyafrif yr eglwys, ac rhy fuan ar ol marwolaeth eu hen weinidog. Y Sabboth cymundeb cyntaf ar ol hyny, ar ol pregethu a dyfod i lawr at y bwrdd, darllenodd Mr. Bowen ranau helaeth o'r llythyr, ond heb grybwyll enw yr ysgrifenydd. Cododd David Davies, yr hwn a eisteddai yn ei ymyl, i

451

fyny, a dywedodd, "Y fi ysgrifenodd y llythyr ar fy nghyfrifoldeb fy hun. Os oes rhywbeth yn anghywir ynddo y fi sydd yn gyfrifol am dano. Mae fy marn i ynddo, ac ond odid farn yr eglwys." Eisteddodd D. Davies i lawr ar hyny, ac aeth Mr. Bowen yn mlaen â'r cymundeb, ac ni chlywyd ychwaneg am y peth. Parhaodd Mr. Bowen i lafurio yma hyd y flwyddyn 1829, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Owen Owens, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn Athrofa Neuaddlwyd, ac urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys hon a'r eglwys yn Hermon, Chwefror 25ain, 1830. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Peter, Caerfyrddin. Holwyd y gofyniadau gan Mr. M. Jones, Trelech. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Jones, Saron. Pregethwyd i'r gweinidog gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd, ac i'r eglwys gan Mr. T. Griffith, Hawen.* Yr oedd. Mr. Bowen yn fyw pan urddwyd Mr. Owen, a'i enw ef sydd yn mlaenaf ar ei alwad, ond bu farw yn mhen deufis wedi ei urddiad. Gan i ni gael y dyddiadau canlynol ar ol i ysgrifenu hanes bywyd Mr. Bowen yn nglyn a Saron, rhoddwn hwy i mewn yma. Cymerwyd hwy oddiar i gareg fedd. Ganwyd ef Medi 16eg, 1765. Urddwyd ef Tachwedd 3ydd, 1795. Bu farw Erill 30ain, 1830, yn 65 oed, ac wedi bod 35 mlynedd yn y weinidogaeth. Llafuriodd Mr. Owens yma yn ddiwyd a chymeradwy am un-flynedd-ar-ddeg. Yn 1833 codwyd yma gapel newydd eang, ac yn y flwyddyn 1838 adeiladwyd ty bychan yn ngwaelod plwyf Abernant at gadw Ysgol Sabbothol, a phregethu yn achlysurol. Galwyd yr Ysgoldy yn Aber. Nantshedfa y gelwid hen dyoedd gerllaw yno yn flaenorol, a bu llawer o bregethu yn y lle yn nhy hen wraig dlawd, ond duwiol, a elwid Naômi, gan Mr. Davies, Cana, ac eraill. Gwaelodd iechyd Mr. Owen, ac wedi bod am fisoedd yn dihoeni bu farw Gorphenaf 25ain, 1841. Yn mhen chwe' mis wedi marwolaeth Mr. Owen daeth Mr. John Thomas, myfyriwr o Athrofa Ffrwdyfal, heibio i bregethu, a chymhellwyd ef i aros yn y lle; ac yn mhen ychydig wythnosau rhoddwyd galwad iddo, ac urddwyd ef yno Mehefin 15fed, 1842. Ar yr achlysur pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. D. Davies, Pantteg ; holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Evans, Penbre ; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Griffiths, Horeb; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Hughes, Trelech ; ac i'r eglwys gan Mr. D. Evans, Penygraig.+ Yr oedd nifer fawr o weinidogion eraill yn bresenol ar yr achlysur ; ond nid oes ond dau neu dri ohonynt yn aros. Bu tymor gweinidogaeth Mr. Thomas yn dymor lled lwyddianus ar yr eglwys. Adfywiodd a lluosogodd yr Ysgol Sabbothol yn fawr, a bu ymweliad Mr. T. Davies, Dolgellau, a'r ardal yn help mawr i hyny. Ad-drefnwyd y capel oddifewn,  ac ail-adeiladwyd a helaethwyd yr ysgoldy er cynal ysgol ddyddiol; a sefydlwyd yma ysgol ragorol ar y cynllun Brytanaidd, a chafwyd athraw o'r Borough Road, Llundain, yr hwn a wnaeth les mawr yn yr ardal. Bu yma ddiwygiad crefyddol grymus yn y flwyddyn 1849, pryd yr ychwanegwyd ugeiniau at yr eglwys ; ac yr oedd yr achos yn ei holl ranau mewn gwedd lewyrchus. Digwyddodd un amgylchiad yn nhymor gweinidogaeth Mr. Thomas na byddai yn iawn i ni i fyned heibio iddo heb ei grybwyll. Megis y crybwyllasom eisioes, arferai gweinidog Bwlchnewydd bregethu un prydnhawn Sabboth o bob mis yn yr Henfwlch. Yr oedd y capel yn eiddo Mrs. Beynon, Bwlch ffarm; o leiaf perchenogid y lle ganddi, a bu llawer o ymgyfreithio yn ei gylch er

* Dysgedydd, 1830. Tudal 149.   + Diwygiwr,1842. Tudal 218.

452

mwyn myned a'r lle oddiwrth yr etifeddion cyfreithlawn. Ar ddydd gwyl Bartholemew, Awst 24ain. yr hwn a ddisgynodd ar y Sabboth, yn y flwyddyn 1845, yn ol cymhelliad cyffredinol a anfonwyd allan i holl Anghydffurfwyr y deyrnas, pregethodd Mr. Thomas yn Bwlchnewydd ar Ymneillduaeth ; a chyhoeddwyd y pregeth yn un o rifynau cyntaf y Diwygiwr ar ol hyny. Gan fod y bregeth yn cynwys syniadau noethach ar seiliau ein Hymneillduaeth nag a gyhoeddid yn gyffredin yn y dyddiau hyny, parodd gryn siarad a chyffroad yn yr ardal, a chyffrodd gynddredd yr Eglwyswyr yn fawr, ac yn enwedig chwerwodd Mrs. Beynon, yr hon oedd Eglwys-wraig selog, yn aruthr, a gwaharddodd i Mr. Thomas i ddyfod i'r Henfwlch o hyny allan. Dyma yr ail waith yn hanes yr eglwys yma i weinidog y Bwlch gael ei fwrw allan o'r Henfwlch. Gwnaeth y bregeth hono, trwy yr amgylchiad a'i dilynodd, les anrhaethol i Ymneillduwyr yn nghymydogaeth Bwlchnewydd. Hyd hyny yr oeddynt yn wasaidd ac ofnus i draethu eu golygiadau ; ond ni buont byth wedi hyny mor dueddol i fod yn ddistaw a goddefol i grach-foneddigion Eglwysig pan fathrent eu hegwyddorion.* Ymadawodd Mr. Thomas i Glynnedd yn nghanol ei lwyddiant yn Chwefror, 1850, a bu yno hyd fis Mawrth, 1854, pryd y symudodd i Liverpool. Yn nechreu haf 1850, rhoddwyd galwad i Mr. Michael D. Jones, yr hwn a fuasai yn fyfyriwr yn Athrofau Caerfyrddin, a Highbury, Llundain, ac a urddasid yn Cincinnati, America. Cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad Mehefin 27ain y flwyddyn hono. Bu yma hyd ddechreu y flwyddyn 1855, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwysi yn y Bala a'r amgylchoedd, ac oddiwrth Bwyllgor yr Athrofa Ogleddol i fod yn Athraw fel olynydd i w hybarch dad. Yn ystod ei weinidogaeth dygodd Mr. Jones yn mlaen Gymdeithas Lenyddol yr hon a adawodd ddylanwad deallol a chrefyddol da iawn ar ieuengctyd y cyfnod hwnw. Yn yr un adeg hefyd prynodd eglwys Bwlchnewydd yr Henfwlch. Dyddiad gweithred y pryniad ydym Gorphenaf 16eg, 1853. Yr oedd y Methodistiaid Calfinaidd a'r Bedyddwyr wedi bod yn addoli yma am flynyddoedd ; a ffurfiodd y blaenaf eglwys, a gweinyddid cymundeb ganddynt ; a chynygiwyd y capel i'r naill a'r llall o'r enwadau hyny ; ond gan nad oeddynt yn gweled gobaith i allu codi achos yn y lle ni dderbyniasant y cynygiad. Mae y capel yn awr yn eiddo yr eglwys yma, a chynhelir ynddo wasanaeth er cyfleustra y rhan o'r eglwys sydd yn byw yn yr ardal hono.

Yn y flwyddyn 1855, rhoddwyd galwad i Mr. William Thomas, Capel Isaac, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Sabboth, Hydref 21ain, a chynhaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Hydref 31ain a Tachwedd 1af yr un flwyddyn, ac y mae Mr. Thomas yn parhau i lafurio yma. Bu yma ych- wanegiad mawr at yr eglwys o fis Tachwedd, 1858, hyd ddiwedd y flwyddyn ganlynol. Yn 1859 hefyd ad-drefnwyd y capel, a rhoddwyd darn o dir at y fynwent, nes ei gwneyd yn gymaint dair gwaith ag o'r blaen, a muriwyd o'i hamgylch, ac aeth yr holl draul tua 200p. Yr oedd y capel hyd yma ar lês, fel y dywedasom, o 199 mlynedd, am chwe' cheiniog  flwyddyn o ardreth ; ond rhoddwyd y cwbl i fyny gyda'r tir ychwanegol i fod yn rhyddfeddiant i'r eglwys, gan Mr. W. Thomas, y gweinidog pre-

*Ysgrif Mr. W. Thomas, Bwlchnewydd, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am lawer o ffeithiau a dyddiadau yn hanes yr eglwys yma, yn gystal ag eglwysi Heol Awst, Caerfyrddin, Pantteg, Llanybri, Capel Seion, Elim, ac amryw eraill yn Sir Gaerfyrddin fel y cawn achlysur eto i grybwyll.

453

senol, a Mrs. Davies, Gwaunllanau, ei fam-ynghyfraith, gan yr hon y mae life interest yn y tir. Gwnaed a llaw-nodwyd y weithred Rhagfyr 3ydd, 1870. Mae y capel a'r gladdfa wedi eu harddu yn fawr drwy hyn, ac y mae llawer iawn wedi eu claddu yn y fynwent yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Mae ymddiriedolwyr yr eiddo oll yn aelodau yn yr eglwys, a'r rhan fwyaf yn amaethwyr ieuaingc.

Yn y flwyddyn 1866, codwyd capel bychan yn lle ysgoldy yr Aber, ar y groesffordd gerllaw pentref Abernant. Cafwyd tir gan Mr. Lewis Evans, Pantycendy, ar lês o 199 o flynyddoedd, am dri swllt a chwe' cheiniog y flwyddyn o ardreth. Cynhelir yma Ysgol Sabbothol a phregeth neu gyfarfod gweddio bob nos Sabboth. Gelwir ef Capel Cendy.

Byddai yn hawdd iawn i ni ychwanegu llawer am yr hen eglwys barchus yma, yn gystal ag am lawer o gymeriadau rhagorol a fu ynddi; ond gan y byddai yn anhawdd ymatal ar ol dechreu gwell i ni beidio crybwyll enwau neb. Ond y mae dau beth yn eglwys Bwlchnewydd na byddai yn deg ynom i beidio eu crybwyll. Mae wedi bod bob amser yn nodedig o heddychol a thangnefeddus ; ac nid yw yn ol i un eglwys a welsom erioed mewn parch i'w gweinidog ei hun. Parhaed yr ysbryd yma yn hir ynddi.

Cyfodwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

OWEN OWEN. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1809, mewn lle a elwir Penalltygwin, Troedyraur, yn sir Aberteifi. Pan yn dair-ar-ddeg oed derbyniwyd ef yn aelod yn Drewen, a chyn hir dechreuodd bregethu. Traddododd ei bregeth gyntaf mewn lle a elwir Porthyfynwent, yn agos i dý ei fam. Yn y flwyddyn 1826, aeth i Athrofa Neuaddlwyd, lle yr arhosodd am dair blynedd, ac enillodd barch mawr yn mysg ei gydefrydwyr, a hyder ei athraw. Nid rhyw lawer o gynydd a wnaeth mewn dysgeidiaeth, ond cyrhaeddodd wybodaeth o'r iaith Seisnig, ac yr oedd yn dra derbyniol fel pregethwr. Yn haf 1829, aeth i Laniestyn, sir Gaernarfon, a bu yno am chwe' mis yn cadw ysgol, a bwriadai ymsefydlu yn weinidog yn y lle; ond aeth ar ymweliad a'i gartref a chymhellwyd ef i fyned i Bwlchnewydd i bregethu. Cafodd alwad oddiyno, a phenderfynodd gydsynio gan roddi i fyny bob meddwl am ddychwelyd i sir Gaernarfon. Urddwyd ef yn Bwlchnewydd yn Chwefror, 1830, i fod yn weinidog i'r eglwys yno a'r eglwys yn Hermon, a bu yn dra defnyddiol a chymeradwy yn y weinidogaeth. Rhoddodd yr eglwys yn Hermon i fyny oherwydd rhyw amgylchiadau yn 1839, gan gyfyngu ei lafur i Bwlchnewydd ; ac yr oedd ei nerth a'i iechyd erbyn hyny yn dechreu dadfeilio. Gwnaeth ymdrech mawr i fyw, ond nid oedd newidiad awyr na medr meddygon yn tycio i gadw angau draw. Yr oedd ei ddisgwyliad yn fawr am gymanfa Bwlch-

454

newydd, yr hon oedd i fod yn Mehefln, 1841, ac er gwaeled oedd mynodd fyned yn ei wely mewn cerbyd i'r oedfa y prydnawn cyntaf. Bu farw Sabboth, Gorphenaf 25ain, 1841, yn 34 oed; a chladdwyd ef o flaen y capel yn mynwent Bwlchnewydd.

Yr oedd Mr. Owen yn ddyn lluniaidd a chadarn wrth bob ymddangosiad, o daldra canolig - yn hynaws a serchog o ran ei dymer, ac yn nodedig am ei ffyddlondeb fel cyfaill. Teimlai ofal mawr am bobl ei ofal, ac yr oedd ei ymlyniad yn gryf wrthynt; a'u hymlyniad hwythau felly wrtho yntau. Yr oedd yn gymeradwy gan bawb fel pregethwr, am ei fod bob amser yn synwyrol, difrifol, ac efengylaidd. Yn ei gystudd diweddaf yr oedd ei brofiad yn felus; ac yn ei ddiwedd cafodd "fynediad helaeth"  i lawenydd ei Arglwydd. Gadawodd weddw a phump o blant amddifaid ar ei ol, tri o ba rai sydd etto yn aros. Mab iddo ef ydym Mr. E. Owen, Clydach, a merch iddo ef ydyw Mrs. Jones, gwraig Mr. J. B. Jones, B.A., Penybontarogwy ; ac ynddynt y cyflawnir yr addewid " Plant dy weision a barhant, a'u had a sicrheir ger dy fron di."

 

ELIM, gerllaw CAERFYRDDIN

Dechreuwyd cynal moddion yma yn nhý John a Margaret Thomas, y rhai yn eu hen ddyddiau oeddynt wedi rhoddi i fyny amaethu yn y Derllys, ac wedi dyfod i fyw i bentref Ffynonddrain. Yr oeddynt yn aelodau yn Bwlchnewydd. Arferai Mr. T. Davies, Pantteg, bregethu yn eu tý yn  Derllys un nos Sabboth o bob mis pan y byddai yn pregethu yn Bwlchnewydd yn y prydnawn ; a'r nos Sabboth arall pregethai yn Nhalyfanisaf, lle yr oedd mam Mrs. Thomas, Liverpool, yn byw. Wedi i'r hen bobl symud i Ffynonddrain, ymunasant a'r eglwys yn Heol Awst, a chan i'r hen wraig fyned yn fuan yn analluog i fyned allan o'r tý, pregethid yno er ei mwyn hi, agos bob prydnawn Sabboth, yn benaf gan y myfyrwyr yn Athrofa Caerfyrddin. Cychwynwyd Ysgol Sabbothol yn yr ardal, yr hon a gynhelid o dý i dý. Yn y flwyddyn 1821, cafwyd lês ar ddarn o dir yn ymyl Melin Ffynonddrain, yr hon a berchenogid gan amryw bersonau, o leiaf mewn enw, er gwneyd bwrdeisiaid o honynt eu hunain yn Mwrdeisdref Caerfyrddin. Adeiladwyd ysgoldy ar y tir er mwyn cadw Ysgol Sabbothol a dyddiol ynddo. Nid oedd y weithred yn caniatau un gwas- anaeth arall i fod ynddo; ond wedi marw hen wraig y Derllys, fel ei gelwid, dechreuwyd pregethu yn yr ysgoldy. Mr. Caleb Morris, pan yn fyfyriwr, a bregethodd y bregeth gyntaf ynddo ; ac o hyny allan pregethwyd ynddo bob nos Sabboth hyd y flwyddyn 1849, pryd y tynwyd ef i lawr. Bu llawer o son am gael capel, ond yr anhawsder oedd cael tir, ond wedi Mrs. Thomas (Bwlchnewydd yn awr) brynu Parkglas yn 1848, rhoddodd ddarn o dir yn rhad at adeiladu capel arno, yr hwn a adeiladwyd y flwyddyn ganlynol. Ffurfiwyd yma eglwys yn Ebrill, 1850, yn benaf o aelodau Heol Awst, a'r rhan fwyaf o honynt wedi eu derbyn yno y flwyddyn flaenorol. Daeth un teulu hefyd o Peniel, a thri neu bedwar o deuluoedd o Bwlchnewydd, fel yr oedd yr eglwys ar ei ffurfiad uwchlaw cant o aelodau. Agorwyd y capel Mehefin 11eg a'r 12fed, 1850. Yn Hydref, 1851, bu farw Mr. Richard Thomas, Penlan, yr hwn oedd wedi bod yn gymhorth mawr yn nghychwyniad a dygiad yn mlaen yr adeilad, yn gystal ag mewn rhoddi a chasglu at y draul. Claddwyd ef o

455

flaen y capel. Parodd hyn i'r eglwys yn fuan feddwl am dir claddu yn nglyn a'r capel. Cafwyd chwarter erw gan Mrs. Thomas, Parkglas, yn ol y pris a dalasai am dano, a chyfranodd hi a'i mam, Mrs. Davies, Gwaunllanau, yr haner er talu am dano, a gwnaeth yr eglwys yr haner arall. Bu gofal yr eglwys am flwyddyn ar Mr. W. Morgan, yn nglyn ag Union Street, Caerfyrddin; ond yn Hydref, 1855, daeth Mr. W. Thomas, Capel Isaac, i weinidogaethu yma mewn cysyllitiad a Bwlchnewydd, ac y mae yn parhau i lafurio yma mewn parch a llwyddiant, Nid oed rhifedi yr eglwys ar ei ddyfodiad yma ond 87, ond y mae yn awr o gylch 200. Mae y capel yn llawer rhy fychan i'r gynnulleidfa, ac nid yw wedi ei adeiladu yn y ffordd oreu i'w helaethu, fel y mae yn digwydd yn fynych pan y mae eglwys yn codi capel heb adeiladydd medrus i'w chyfarwyddo. Heblaw y personau y crybwyllwyd eu henwau eisioes, bu teuluoedd Cwmdu a Moelcowen o lawer o help i'r achos yma ; ac nid oes neb wedi bod yn ffyddlonach iddo trwy y blynyddoedd na'n hen gyfaill caredig William Howells, Penybont, a'i briod; ac y mae yntau bellach yn hynafgwr yn mysg gwyr, Codwyd yma un pregethwr, sef J. Davies, yr hwn a fu farw pan yn parotoi i fyned i'r athrofa.

 

PANTTEG

  (Abergwili parish)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Abergwyli, o fewn ychydig gyda phedair milldir i Gaerfyrddin. Cychwynwyd yr achos yn yr ardal trwy lafur yr hyglod Stephen Hughes, ac aelodau yn Mheneadair oedd y rhai a ymffurfiodd yn eglwys yma ar y cyntaf. Dywedir i eglwys gael ei sefydlu yma gan Mr. Hughes yn y flwyddyn 1669, mewn lle a elwir Penbwch, ac yr oedd y gangen yma dan ei ofal yn mysg eraill yn nghylch eang ei weinidogaeth, hyd ei farwolaeth. Bu yr eglwys yn cyfarfod hefyd yn Cruglas cyn adeiladu Pantteg. Wedi marwolaeth Mr. Hughes bu gofal yr eglwys ar Mr. Thomas Bowen, at yr hwn yr ydym eisioes wedi cyfeirio yn hanes Bwlchnewydd. Nid ydym yn gwybod a'i yma yr urddwyd ef, ond yr oedd yn weinidog i'r eglwys o'r flwyddyn 1690 hyd 1707, fel y dengys cofrestr y bedyddiadau yn hen lyfr eglwys Pantteg, y rhai a weinyddwyd. ganddo yn y blynyddoedd hyny. Dilynwyd ef yma yn y weinidogaeth gan Mr. Christmas Samuel. Mae amser dechreuad ei weinidogaeth yntau yn ansicr. Yn ei law-ysgrif ef y mae y cofnodiadau yn y llyfr eglwys ar ol y flwyddyn 1707, ond Mawrth 17eg, 1710-11 yw dyddiad y bedydd cyntaf a weinyddwyd ganddo ef, ac Elizabeth, merch John David Thomas, oedd y bedyddiedig. Cawn mai Medi 23ain, 1711, y derbyniodd alwad yr eglwys, wedi ei harwyddo gan ddeuddeg o swyddogion yn enw yr eglwys, yn ngwydd dau o dystion ; ac ar yr un diwrnod atebodd yr alwad, a bu yn gweini i'r eglwys am yr yspaid maith o dair-ar-ddeg-a-deugain o flynyddau. Yn ei amser ef yr adeiladwyd capel Pantteg, ac efe a roddodd dir i hyny. Yr oedd yr eglwys yn ei dymor ef yn nodedig am ei hedd-ychlonrwydd, ei ffyddlondeb i gynnulliadau y tý a'i gofal am gadw y Sabboth; ac y mae Mr. Samuel yn talu teyrnged uchel i swyddogion yr eglwys am eu gofal i gadw allan bob cwerylon a allasai achosi cynhenau, ac i argraffu ar feddyliau yr aelodau fod yn well iddynt oddef cam a cholled na therfysgu heddwch y frawdoliaeth. Aelodau o'r eglwys yma, y rhai oeddynt yn byw yn mhlwyfydd Llanarthney a Llanddarog, a ym-

456  

ffurfiodd yn eglwys yn Nghapel Seion, yn y flwyddyn 1714. Tua phum' mlynedd cyn ei farwolaeth collodd Mr. Samuel ei olygon ; ac yn y blynyddau hyny bu Mr. Milbourn Bloom, a Mr. Thomas Williams, Ddisgwylfa, o lawer o help iddo. Bu farw Mehefin 18fed, 1764, yn 90 oed.

Wedi bod am fwy na blwyddyn heb weinidog rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr o Athrofa Caerfyrddin. Mae yn deilwng o'i goffau yn y fan yma, fod nifer o'r eglwys ar ol marwolaeth Mr. Samuel, yn tueddu i roddi galwad i bregethwr o'r enw James James, ac eraill yn awyddus am gael Thomas Davies. Pan ddeallodd. Mr. Davies fod yr eglwys yn rhanedig, ciliodd ymaith, a gadawodd y maes yn rhydd i Mr. James, i'r hwn y rhoddodd yr eglwys alwad. Ond cyn ei urddo bu farw. Ar ol hyny rhoddodd yr eglwys alwad unol i Mr. Davies, ac urddwyd ef Hydref 16eg, 1765. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri Samuel Thomas a Jenkin Jenkins, Caerfyrddin ; Thomas Davies, Llanybri; Milbourn Bloom, John Powell, Henllan ; Thomas Jones, Glanffrwd ; Rees Davies, John Griffiths, Glandwr ; Evan Griffiths, Capel Sion ; David Williams, Lewis Lewis, Pencadair ; a Daniel Gronow. Bu Mr. Davies yma yn llafurus a llwyddianus am wyth-mlynedd-a-deugain. Yn ei amser ef a thrwy ei lafur ef yr adiladwyd Peniel, yn y flwyddyn 1809. Bu farw Hydref 4ydd, 1813, yn 78 oed. Y flwyddyn gyntaf wedi marwolaeth Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. David Davies, yr hwn ychydig gyda blwyddyn cyn hyny a urddasid yn weinidog yn Nghaernarfon. Cydsyniodd a'r gwahoddiad, a symudodd yma cyn diwedd y flwyddyn 1814, a bu yma yn barchus a llwyddianus am yn agos i haner can' mlynedd. Gwnaeth yr eglwys lawer o gynydd mewn rhif a gwybodaeth yn ystod ei weinidogaeth ; a thrwy ei ymdrechion ef a'r eglwys yr adeiladwyd Horeb, gerllaw Brechfa, yn y flwyddyn 1829. Gwelir felly na bu yma ond tri gweinidog am yr yspaid maith o gant a haner o flynyddau. Wedi bod am dymor heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. John Rogers, myfyriwr o Athrofa Aberhonddu.* Bu Mr. Rogers yma am dair blynedd yn dra llwyddianus. Yn ei amser ef y codwyd capel bychan yn mhlwyf Llanllawddog, tua thair milldir i'r gogledd o Pantteg, yr hwn a alwyd Libanus, gyda bwriad i gynal Ysgol Sabbothol, a phregethu yn achlysurol. Yr oedd llawer o bregethu wedi bod yn yr ardal yn y triugain mlynedd diweddaf, a mynych y soniwyd am godi capel yno, ond oedwyd gwneyd hyny hyd yn ddiweddar. Yn 1870, derbyniodd Mr. Rogers alwad o Jerusalem, Penbre, a symudodd yno. Yn 1871, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. Isaac Williams, Trelech, a dechreuodd i winidogaeth yn 1872, ac y mae yn parhau i  lafurio yma. Ar y 27ain o Ebrill, 1873, corpholwyd eglwys yn Libanus o ddeugain o aelodau Pantteg, ac y mae yr achos yn y ddau le yn myned yn mlaen yn llwyddianus. Mae y capel presenol yn Pantteg y pedwerydd capel yn y lle, ac y mae yn mhob ystyr yn cyfateb i'r gymydogaeth.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn nglyn a'r eglwys hon, ac o bosibl rai eraill na chawsom eu henwau.

*Yn hanes eglwys Glynnedd, Cyf. II., tudal. 115, trwy ryw amryfusedd dywedasom mai yn Athrofa y Bala yr addysgwyd Mr. Rogers ; ac yr ydym yn cymeryd y cyfle yma i gywiro y gwall.

457

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

CHRISTMAS SAMUEL, Ganwyd f yn mhlwyf Llanegwad, yn y flwyddyn 1674. Nid ydym yn sicr, ond yr ydym yn casglu mai yn eglwys Pantteg  derbyniwyd ef yn aelod, ac y dechreuodd bregethu. Yr oedd ei wraig, pa fodd bynag, yn aelod yn Mhencadair, ac yn un o'r aelodau ar sefydliad eglwys yma. Yr oedd mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac yn berchen tir neu diroedd yn yr ardal. Bu yn dra llwyddianus fel gweinidog, ac yn foddion i sefydlu amryw o achosion newyddion yn y sir. Cyhoeddodd gryn nifer o lyfrau defnyddiol yn yr iaith Gymraeg, fel mewn mwy nag un ffordd yr oedd yn gwasanaethu ei genedlaeth. Dygodd allan dalfyriad o "Esboniad Harvey ar y Testament Newydd," ac "Eglurhad ar Gaticism y Gymanfa," gyda llawer o lyfrau eraill. Bu yn llawer o help i Mr. Griffith Jones, Llanddowror, yn sefydliad yr ysgolion dyddiol ; ac nid oedd yn ei oes yr un gweinidog ag ysbryd mwy cyhoeddus yn mysg yr Anghydffurfwyr. Yr oedd yn hollol uniongred ei athrawiaeth, ac efengylaidd  ei ysbryd mewn cyfnod yr oedd llawer yn dirywio oddiwrth y  gwirionedd; ac y mae rhai pregethau o'i eiddo sydd etto ar gael yn

458

cynwys mêr yr efengyl. Cafodd fyw i oedran teg, a chasglwyd ef at ei dadau yn ben ac yn gyflawn o ddyddiau. Bu farw Mehefin 18fed, 1764, yn 90 oed.

THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn Pantyllaethdy, yn mhlwyf Llanllwni, yn sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1735. Yn Mhencadair y derbyniwyd ef yn aelod gan Mr. Lewis Lewis, y gweinidog ar y pryd, ac yno y dechreuodd bregethu. Yr oedd yn sefyll yn uchel yn marn yr eglwys yn Mhencadair, fel y dengys y llythyr cymeradwyaeth a roddodd yr eglwys yno iddo i'w drosglwyddo i'r eglwys yn Pantteg. Ar ol treulio ei amser yn Athrofa Caerfyrddin, urddwyd ef yn weinidog i'r eglwys yn Pantteg Hydref 16eg, 1765. Yn mhen llai na dwy flynedd derbyniodd alwad o Bwlchnewydd, a bu gofal y ddau le arno hyd ei farwolaeth. Priododd a merch Mr. John Davies, Ffynondafolog, a fuasui yn weinidog cymeradwy yn Nhrelech, ac yr oedd Bwlchnewydd hefyd wedi bod dan ei ofal am ychydig cyn i farwolaeth. Ar ol priodi, aeth Mr. T. Davies i fyw i Ffosddu, yn ymyl Bwlchnewydd. Nis gwyddom pa bryd yr aeth yno na pha hyd yr arhosodd yno; ond yr oedd yno yn 1776, fel y dengys llyfr cyfrifon Mr. Rees Davies, Gwaunllanau, perchenog Ffosddu ar y pryd. Symudodd oddiyno i Aberddauddwr, gerllaw Peniel, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Bu yn weinidog llwyddianus, ac yn fawr ei barch gan bobl ei ofal, a than yr eglwysi a'r gweinidogion yn gyffredinol.  Mewn cofiant byr a gyhoeddwyd iddo yn y " Tywysydd," gan Mr. D. Davies, ei olynydd yn Pantteg, dywed, " Cerid ef yn fawr gan bawb, hen ac ieuangc, proffeswyr a rhai heb fod yn aelodau. Bu deffroadau neillduol ar amserau yn yr eglwysi trwy lafur Mr. Davies. Cysur a llwyddiant trwy ei oes dilyn ei ymdrechiadau. Wrth gymharu y flwyddyn (1813) y bu farw, a'r flwyddyn y neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, gwelir ei fod wedi bod yn Pantteg 48 o flynyddoedd - a dywed y rhai a'i hadwaenent oreu, ei fod wedi treulio yr holl amser hwn heb un cwmwl ar ei gymeriad moesol - heb neb yn dyweydyd y carent gael ei le - heb neb yn blino arno yn y teuluoedd lle y byddai yn arferol o lettyn pan oddicartref - ac ar ddydd ei angladd nid John a Sarah, ei blant, a pherthynasau eraill yn unig oedd yn wylo - yr oedd y dyrfa a ganlynasant y corff o Aberddauddwr i Bwlchnewydd, lle y claddwyd ef, yn dangos yn eglur eu bod yn hebrwng eu tad i dy ei hir gartref.

" Sonia llawer hyd heddyw am ei enw gyda llonder. Nid unwaith y clywodd ysgrifenydd yr hanes hwn Mrs. Evans (gwraig gyntaf y diweddar Mr. Evans, Ffosygest) yn adrodd fel y canlyn am ei hybarch weinidog, ac un o'r cyfeillion anwylaf a feddai hi a'i gwr : - ' Yr oedd Mr. Davies yn ddyn na chymerai gan neb osod ei droed arno, er ei fod yn eithaf gostyn-gedig - yr oedd o dymer boeth, ond nid hir y daliai ddig - yr oedd yn bregethwr goleu a dengar, a'i lais pan yn ieuangc yn hynod o dreiddgar  - rhyfedd oedd weithiau ar y cymundeb pan yn son am farwolaeth Iesu Grist. Yr oedd pawb yn llon pan y byddai yn dyfod i'w tai -a bu,' ebai hi, 'dros ei oes heb ddim gan neb i ddyweyd yn erbyn ei gymeriad moesol.' Clywais amrywiol eraill yn dyweyd yr un peth am dano." Dyna dystiolaeth Mr. Davies am dano, yr hwn a'i hadwaenai yn dda, ac a gafodd lawer o gyfleusterau i siarad ag eraill oedd wedi eistedd yn hir o dau ei weinidogaeth. Mae ei ddisgynyddion yn lluosog iawn yn amgylchoedd Caerfyrddin, a bron yn ddieithriad yn Annibynwyr selog, ac yn ddynion gweithgar a dylanwadol yn yr eglwysi y perthynent iddynt. Mae tri o'i

459

wyrion yn awr yn y weinidogaeth yn Lloegr, sef Meistri D. Davies, BA., Therfield; T. Davies, B.A., Worthing ; ac E. W. Jones, Hadleigh. Bu farw, fel y crybwyllasom, Hydrf 4ydd, 1813, yn 78 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Bwlchnewydd, lle y gwelir maen er coffadwriaeth am dano.

DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn mis Chwefror, 1791, mewn lle a elwir Cilfforch, yn agos i Aberaeron, yn sir Aberteifi. Cyrchai yn ieuangc gyda'i rieni i Neuaddlwyd i addoli, ac yno y derbyniwyd ef yn aedod cyn ei fod yn bymtheg oed. Dangosodd duedd a gwelwyd ynddo gymhwysder i bregethu, ac anogwyd  i hyny gan i weinidog a'r eglwys ; a rhoddodd ei rieni bob cefnogaeth iddo i gael addysg er ei barotoi i'r gwaith. Wedi bod am ychydig dan addysg Mr. D. Davies, Castellhywel, derbyniwyd ef i Athrofa Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1809, ac wedi treulio pedair blynedd yno, derbyniodd alwad o Gaernarfon, i gydweinidogaethu a Mr. J. Griffith, ac ystyriai pawb fod y dewisiad yn un doeth iawn, ac urddwyd ef yno Medi 28ain, 1813. Ni bu yno ond ychydig gyda blwyddyn ar ol ei urddo. Aeth i'r Deheudir gyda bwriad i gasglu at gapel Bethel, Llanddeiniolen, a thra yno derbyniodd alwad o Pantteg a Peniel, a phenderfynodd symud yno, yr hyn a wnaeth yn niwedd 1814. Teimlai pawb fod ei golli o'r Gogledd ar yr adeg hono yn golled fawr, ac yn yspaid yr amser byr yr arosodd yno enillodd barch ac ymddiried pawb y daeth i gysylltiad â hwy, ond profodd haner can' mlynedd o lafur llwyddianus fod gan Ragluniaeth law yn ei arweiniad i sir Gaerfyrddin. Cyn hir wedi ei symudiad i Pantteg, priododd â Miss Anne Jeremy, merch Mr. D. Jeremy, Trefynys, yr hwn oedd yn amaethwr cyfrifol, ac yn ddiacon parchus yn Peniel ; a bu yn hapus iawn yn ei briodas. Bu yn byw y rhan fwyaf o'i oes yn Tynewydd, heb fod yn mhell o Abergwyli; ac yr oedd ganddo ffarm dda, yr hyn oedd yn hollol angenrheidiol mewn trefn i ddwyn i fyny ei deulu lluosog. Bu iddynt dri-ar-ddeg o blant, y rhan fwyaf o ba rai a fuont fyw i oedran gwyr, ond buont oll ond pedwar farw o flaen eu tad. Bu dau o'i feibion, David a Richard, yn parotoi at y weinidogaeth, ond torwyd hwy i lawr yn mlodeu eu dyddiau. Yn 1835, rhoddodd Mr. Peter ei swydd i fyny fel Athraw Duwinyddol yr Athrofa yn Nghaerfyrddin, a dewiswyd Mr. Davies gan yr Ymddiriedolwyr i fod yn olynydd iddo, a llanwodd y swydd am ugain mlynedd. Yn 1840, pan yn nghanol i ddyddiau, daliwyd ef gan glefyd poeth (y brain fever), a bu yn agos i angau. Ofnid am wythnosau na ddeuai trwyddi; ond adferwyd  ef, er fod yn debyg na bu byth mor gryf o ran corff na meddwl ar ol hyny. Yn y flwyddyn 1856, rhoddodd i fyny ei le fel athraw yr athrofa, ond parhaodd i gyflawni ei ddyledswyddau fel gweinidog, er fod ei iechyd wedi ei anmharu yn fawr. Yn 1864, ar derfyniad ei haner canfed flwyddyn yn y weinidogaeth, penderfynodd yr eglwysi dan ei ofal, a'i gyfeillion, a'i hen fyfyrwyr, wneyd Tysteb yn arwydd o'u parch iddo. Cyflwynwyd iddo 167p. Yr oedd ychydig cyn hyny wedi cyfarfod a damwain trwy i'r anifail a farchogai syrthio dano ar ei ddychweliad o Pantteg, ac ofnid nas gallasai fod yn bresenol i dderbyn anrheg ei gyfeillion ; ond daeth yno er yn llesg, ac yn ol ei arfer dywedodd ychydig eiriau yn fyr ac i'r pwrpas ; ond yr oedd ei waeledd ef, a'r arwyddion amlwg a welid na byddai yn hir cyn ymadael, yn tynu yn fawr oddiwrth fywiogrwydd y cyfarfod; ac ni chafodd gyfle mwy i fod yn mysg pobl ei ofal. Gwaelodd yn gyflym a bu farw Sahboth, Gorphenaf 31ain, 1864, yn 73 oed, ac wedi bod yn y weinidogaeth 52 o flynyddau, ac yn pregethu am yn agos i 60 mlynedd. Cladd

460

wyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent Peniel, lle yr oedd y rhan fwyaf o'i blant wedi eu rhoddi i orwedd o'i flaen ; ac yr oedd y dorf luosog a ddaeth yn nghyd ar yr achlysur yn brawf o'r parch cyffredinol oedd iddo gan yr holl wlad.

Byddai yn dda genym allu ychwanegu ychydig eiriau ar fywyd a chymeriad Mr. Davies ag a roddai i'r rhai nas gwelsant ef ryw syniad am dano. Yr oedd newydd gael ei adferyd o'r clefyd trwm a gafodd pan welsom ef gyntaf, ac er i fod y pryd hwnw yn anterth ei ddydd, yn llawn haner cant oed, etto sicrhir ni nad ydoedd y peth y gwelwyd ef cyn hyny. Mae cofiant iddo wedi ei ysgrifenu gan ei gyfaill Mr. Willlam Jones, Heolycastell, Abertawy, gyda llythyrau oddiwrth gyfeillion adnabyddus iawn o hono, a chymerwn help y rhai hyny wrth amcanu rhoddi darluniad o hono.

Yr oedd yn ddyn o wneuthuriad hardd a lluniaidd, o daldra uwchlaw y cyffredin, ac yn serchog a boneddigaidd bob amser yn ei gyfarchiad, ond heb ddim yn goegaidd a rhodresgar ynddo. Gwisgai bob amser yn weddus, ac yn mhob peth a wnai gofalai am urddas ei gymeriad fel gweinidog yr efengyl. O ran i dymer naturiol yr oedd yn hynaws a charedig, ac ni fynai ddyweyd na gwneyd dim i beri dolur i neb, er y  medrai, pan welai angen am hyny, ddywedyd geiriau a gyrhaeddant i'r asgwrn. Heddychol a thangnefeddus oedd ei ysbryd, ac yr oedd yn wastad yn tueddu i syrthio i'r ochr dyneraf i feddwl y goreu o bob dyn. Yr oedd y tynerwch yma oedd yn ei natur yn peri i ryw rai gymeryd mantais arno, ac yntau weithiau yn cael ei osod yn agored i ryw rai ddyweyd ei fod yn taflu ei aden dros ddynion llygredig, er ei fod ef ei hun yn gymeriad hollol ddiargyhoedd ; ond yr oedd ei natur dda yn peri ei fod am wneyd y goreu o bawb, ac anhawdd oedd ganddo roddi neb i fyny: Rhoddai bob cefnogaeth a chalondid i ddynion ieuaingc, ac ni fynai roddi unrhyw rwystr ar ffordd y gwanaf, a mynych y dywedai ei fod wedi gweled llawer yn cychwyn yn dra diamcan, y rhai a ddaethent wedi hyny yn weinidogion defnyddiol. Rhagorai yn fawr fel athraw a gweinidog yn mysg pobl ei ofal. Yr oedd cylch ei weinidogaeth yn eang, ond yr oedd yn ofalus iawn am ei aelodau, yn enwedig yn eu cynnulliadau eglwysig.

Gwneid cyfrif mawr ohono yn y teuluoedd yr ymwelai â hwynt, ac yn yr eglwys yn gystal ag o dy i dy dysgedd i bobl yn dda yn holl wirioneddau yr efengyl a dyledswyddau crefydd. Anhawdd fuasai cael gweinidog yn gymaint o athraw a dysgawdwr i'w bobl. Yr oedd yn meddu adnabyddiaeth helaeth o'r natur ddynol, ac adnabyddiaeth a'i cymhwysodd yn fawr i fod yn athraw i eraill. Gwyddai y ffordd oreu i ddyweyd pob peth, ac yr oedd ei fod mor bwyllog a gwyliadwrus yn help mawr iddo bob amser i lefaru gair yn ei hryd yn ol yr amgylchiadau. Yr oedd ganddo fedr neillduol i ddyweyd ei feddwl mewn ychydig eiriau, ac nid oedd dim yn fwy annyoddefol ganddo na mithder mewn dim. Rhoddwn y difyniad a ganlyn o lythyr i gymydog Mr. D. C. Jones, Abergwyli, yn ei gofiant, er eglurhad ar hyny.         

" Os oedd yn fwy meistrolgar mewn rhyw bethau na'u gilydd, yn y 'multum in parvo' y rhagorai. Rhaid fod dyn yn feddyliwr clir i fod yn simple a chryno pan yn egluro ei feddwl. Nid oedd ein cyfaill byth yn claddu ei feddyliau mewn geiriau amwys a thrystfawr ; yr oedd symledd yn hynodi yr oll o'i gylch. Dywedai gymaint mewn tri gair deu-sill ag a ddywedai llawer mewn dwsin o eiriau. Anaml, os byth, y byddai raid

 461

i neb gymeryd ei anadl ar ganol gair gan ei hyd ; byddai yn ddystaw os na chai air i egluro ei feddwl rhwng yr un a'r tri sill ; a dywedai yr oll fyddai ar ei feddwl mewn mor ychydig o'r geiriau hyny ag a fyddai yn ddichonadwy. Gwasanaethed yr isod fel engraifft : -

' The bearer ................................ is dismissed from Pantteg to our sister church at Abergwyli.

D. DAVIES, Pastor.'

Byr ac i bwrpas, onide ? Wel, dyna yr hen gyfaill yn gorphorol.

" Yr oedd yn cario allan ei system yn mhob man a phob peth ; cyfarchiad byr ar yr heol, dywediad byr yn nghynadledd cwrdd chwarter neu gymanfa ; anerchiad byr iawn yn y gyfeillach, a phregeth fër, fër  - ugain mynyd neu haner awr o bellaf yn y pwlpud. Pa beth bynag oedd y swmbwl oedd yn nghnawd Paul, nid oedd yn fwy annyoddefol na meithder i Mr. Davies. Ac yr oedd llawn cymaint o angen gras ar y naill ag oedd ar y llall, yn gymorth iddynt i ddal ei dolur. Gan ei fod yn byw heb fod neppell o Abergwyli, pe dygwyddai fod brawd dyeithr yn pregethu yma ag oedd at ei chwaeth ef, deuai i lawr yn fynych; ond anfynych y gallasai aros hyd ddiwedd y cwrdd. Yr oedd yn poeni peth arnaf, weithiau, fel y bu gorfod i mi arfer dichell er ei demtio i aros hyd y diwedd pan y delai. Mae yn gofus genyf, ryw ychydig cyn yr anffawd a brofodd yn angeu iddo, ei fod mewn cyfarfod gweddi yn nhy un o'i ddiaconiaid : yr oedd y cwrdd wedi bod yn feithach na 'i ddymuniad- A oes gair genych chwi Mr. Davies,' ebe r trefnwr, i ddyweyd wrth y bobl cyn i chwi ddibenu trwy weddi ?" Oes,' ebe fe, ' yr ydych wedi bod yn rhy hir o lawer, a'm gweddi yw, am i bawb fyn'd adre, cyn gynted ag y gallont.' Ar hyn cipiodd ei het a ffwrdd ag ef:"

Ni dderbyniodd erioed oddiwrth bobl ei ofal gydnabyddiaeth ddigonol am ei lafur, ond yr oedd ef yn fwy cyfrifol am hyny na neb arall. Nid yn unig ni roddai gymhelliad i'w bobl i gyfranu yn helaethach, ond pan yr awgrymai ryw frawd mwy llygadgraff na'r cyffredin y priodoldeb iddynt wneyd hyny ni roddai ef unrhyw gefnogaeth. Cyfodai hyny oddiar ei ochelgarwch rhag beichio ei bobl. Oni buasai fod ganddo ffarm nis gallasai byth ddwyn i fyny ei deulu lluosog, ac er fod ganddo ffarm nis gallasai byth gael cynhaliaeth oddiarni oni buasai fod Mrs. Davies yn deall amaethyddiaeth yn well nag ef. Adrodda Mr. Jones, Abergwyli, y digwyddiad a ganlyn am dano : -

" Yr oeddwn yn dygwydd myned heibio un prydnhawn yn nghwmni cyfaill arall. Clywem swn aruthrol o,n blaen; ac wedi tynu yn mlaen a dringo i ben y clawdd, Mr. Davies oedd yno yn treio cael dau lô bychan o un cae i'r llall ; gallesid gyru cant o ychain bob cam i Loegr â llawer llai o swn nag a gadwai efe. Yn enw'r anwyl, Mr. Davies bach,, ebe fi, pa beth ydyw'r stwr ydych yn gadw ?" O yn siwr, Mr. Jones,' ebe fe, a blaen bysedd un law yn cwrdd yn gynil â blaen bysedd y llaw arall, Deuwch drosodd i'm helpu i fyned a'r ddau fustach bach yma i'r cae arall ; y maent yn myned yn drech yn deg na mi., Gallasai o ran maintioli i 'ddau fustach,' daro un o dan bob cesail, a myned a hwy yn daclus a didrafferth, debygswn i ; oblegid nid oedd ganddo ond lled y clawdd rhyngddo a'r man y mynasai eu cael. Ond nid ei fai ef oedd hyn, dylasai yr hogyn gael ei ddanfon at hyn ac nid efe. Ond o ran hyny, fe ddichon nad oedd angen eu danfon o'u man o gwbl, ond fod eisieu rhyw neges ddiniwed i'w gael ef allan o'i ystafell er mwyn ei threfnu a'i glanhau."

462  

Yr oedd llawer iawn o ddiniweidrwydd ynddo, ac yr oedd mor rhydd oddiwrth gulni ac eiddigedd a neb a adwaenasom erioed. Byddai yn hyfrydwch yn wastad i edrych arno yn gwrando, os nad elai y bregeth yn orfaith, yna dechreuai anesmwytho; a medrai ymddwyn yn foneddigaidd er y gallai na byddai yn cydolygu a'r hyn a draethid. Yr oedd ganddo barch dwfn i'r gwirionedd, gormod o barch iddo i gymeryd dim a ddywedai neb yn ganiataol heb " chwilio beunydd yr Ysgrythyrau a oedd y pethau hyn felly." Ac yr oedd hob amser yn annibynol a diragfarn yn ymofyn am dano. Daeth yn adnabyddus yn mysg. y tô cyntaf o amddiffynwyr yr hyn a elwid yn System Newydd.. Efe a Mr. Griffith, Tyddewi, oedd y ddau a wnaeth fwyaf drosti o bawb yn y Deheudir. Cyhoeddodd lyfryn ar "Sefyllfa Prawf," yr hwn a dynodd sylw mawr, ac a achlysurodd lawer o ddadleu. Cyhoeddodd hefyd bregeth ar "Yr Athrawiaeth Iachus," lle y ceir mynegiad clir a llawn o'i odygiadau ar y pyngeiau y dadleuid yn eu cylch. Ond yn ei bregethau  gwnaeth fwyaf aros y golygiadau hyny. Yr oedd ar un cyfnod yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd yr enwad yn Nghymru. Ymddadblygodd ei ddawn fel pregethwr i raddau mawr pan yn fyfyriwr yn yr athrofa, a pharhaodd i fyned rhagddo am y deng-mlynedd-ar-hugain cyntaf o'i weinidogaeth. Yr oedd llawer iawn o elfenau pregethwr poblogaidd yn cydgyfarfod ynddo.

"Yr oedd yr olwg arno yn yr areithfa yn bur fanteisiol. Edrychai o ran ei ddullwedd yn grwn a thaclus. Safai, yn gyffredin, yn unionsyth, ac ymddangosai, weithiau, yn o gyffrous ac anesmwyth a'i lygaid treiddgar yn llawn agored, fel gwr yn gwbl barod at ei waith.  Dywedodd un cyfarwydd iawn a phregethwyr, hen ac ieuaingc, am dano, nad oedd nemawr yn ymddangos mor feistrolaidd ag ef uwch ben y gorchwyl o bregethu. Nid oedd i symudiadau mewn un modd yn anmhrydferth. Yr oedd yn areithiwr naturiol. Nid ymddangosai un amser fel yn ymgynyg at y gelfyddyd o areithyddiaeth. Yr oedd yn daer ac enillgar. Gogwyddai weithiau at ei wrandawyr er tynu eu sylw ac ymresymu â hwynt. Yr oedd yn gwbl wreiddiol ; nid oedd yn dynwared neb yn fwriadol, er y meddyliai ambell un, a adwaenai y ddau yn dda, ei fod yn seinio rhai brawddegau yn debyg iawn i'w hen weinidog ac athraw, Dr. Phillips. Areithiai Mr. Davies weithiau yn hyawdl a pheraidd iawn ; ond dysgu a denu'r bobl oedd ei amcan a'i ddull arferol. Nid oedd heb rybuddio yr amryfus a'r annuwiol, a chyhoeddi iddynt y farn i ddyfod ; ond gwelloedd ganddo eu toddi i edifeirwch, a'u harwain i'r diogelwch tragywyddol. Cyn belled ag y perthynai i'w ddull, yr oedd yn ymgeisio at symledd anarferol. Cynygiai at hyn i gymaint graddau fel y dywedodd brawd yn y weinidogaeth wrtho unwaith, mewn cyfeillach garedig, ei fod yn ymddangos weithiau fel pe gwnai y pethau mwyaf sylweddol yn ddim. Ond sicr yw nad oedd i'w feio am hyn. Y gwir mynai i bawb ddeall " *

Yr oedd difrifoldeb a thynerwch wedi eu cyd-dymheru yn nodedig yn ei  bregethau. Byddai yn wastad gyda chyflyrau a chydwybodau  ei wrandawyr, ac etto yr oedd ei bregethau yn llawn o dynerwch yr Efengyl. Yr oedd rhyw swyn nodedig yn ei leis nes goglais holl deimladau ei wrandawyr, ond ar darawiad disgynai gan gyfeirio saeth y gwirionedd at eu cydwybodau. Ymarferol oedd nodwedd gyffredin ei bregethau, ac yn enwedig byddai pob un yn terfynu felly. Mae Mr. Davies, Therfield, mewn llythyr yn ei gofiant, yn adgoffa ymadrodd o eiddo ei dad (Mr.

*Ei gofiant gan Mr. W. Jones, Abertawy, tudalen 34.

 

  CONTINUED

 


Return to top

[Gareth Hicks  5 June 2008]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes, and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages withill GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark.

Valid HTML 4.0!