Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

This was extracted by Gareth Hicks from the CD published by Archive CD Books (Dec 2007)  - with translation


Bethel, Cwmaman

 (Vol 2, p174 - 178 - listed under Glamorgan as described below)

"Mae y capel hwn yn mhlwyf Llandilo, yn swydd Caerfyrddin, ond yn nghyfundeb eglwysi Morganwg y mae yr eglwys wedi bod bob amser. Mae yn ymddangos fod achos crefyddol wedi cael ei ddechreu yma tua chanol y ganrif ddiweddaf, gan yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd yn nghyd, ond ni chafodd capel ei adeiladu yma cyn y flwyddyn 1773. Yr oedd y ddau enwad yn cydweithredu hyd y pryd hwnw, ond mae yn ymddangos i'r Methodistíaid ymneillduo oddiwrth yr Annibynwyr tua yr amser yr adeiladwyd y capel, neu yn dra buan ar ol hyny, oblegid yn y flwyddyn 1774, anfonodd Mr. Evan Griffiths, capel Seion, enwau a rhif yr eglwysi Annibynol yn sir Gaerfyrddin i Lundain, ac y mae eglwys Cwmaman yn cael ei henwi ganddo fel eglwys Annibynol, a'r gynnulleidfa yn gant a haner o rifedi.

Wedi i'r Methodistiaid ymwahanu oddiwrth yr Annibynwyr, buont am ychydig amser yn addoli yn yr Hendrefawr, tua haner milldir i'r dwyrain o gapel Cwmaman, ac wedi hyny yn Glynymeírch, tua dwy fllldir i'r gorllewin ; ond aeth eu hachos hwy yn lled fuan yn yr ardal hon yn wan a dilewyrch, ac felly y parhaodd hyd y flwyddyn 1840, pryd y daeth aelodau o fanau eraill i'r ardal gydag agoriad y gweithiau glo.

Dywedir yn Hanes Methodistíaeth, Cyf. II.. tu dal. 480, mai yr achos o ymwahaniad y ddau enwad oedd i'r Annibynwyr, o herwydd eu bod lawer yn lluosocach, un boreu Sabboth, gloi y capel yn erbyn un Mr. Jones, o Llanllian; ond mae yn dra thebyg mai yr achos o hyny ydoedd fod dadl wedi cyfodi rhyngddynt yn nghylch perchenogaeth. y capel.

Mr. William Evans, Cwmllynfell, yn nghyda rhai o bregethwyr y Methodistiaid fu yn offerynol i ddechreu yr achos yn y lle hwn. Nid yw yn hysbys pa un a ffurfiwyd yma eglwys cyn adeiladu y capel ai naddo. Pan ymsefydlodd Mr. John Davies yn weinidog yn Nghwmllynfell a'r Alltwen, efe a gymerodd ofal yr achos hwn, mewn cysylltiad a'r eglwysi hyny, a bu yn gofalu am dano hyd derfyn ei oes yn 1821. Yr oedd ei barch a'i ddylanwad yn yr eglwys hon, fel yn ei eglwysi eraill, yn ddirfawr. Ni fynai y bobl dan ei ofal gredu fod un gweinidog rhagorach nag ef ar y ddaear. Edrychid i fyny atto gan hen ac ieuangc, crefyddol a digrefydd, fel cenad Arglwydd y lluoedd.

Wedi marwolaeth Mr. Davies, sef yn y flwyddyn 1822, rhoddodd yr eglwysi yn Nghwmllynfell a Chwmaman, alwad i Mr. John Rowlands, Llanybri, a bu yntau yn llafurio yn en plith gyda llwyddiant a pharch anghyffredin am ddeuddeng mlynedd. Erbyn y flwyddyn 1825, yr oedd ei ddoniau poblogaidd wedi gorlenwi y capel, fel y bu raid ei helaethu i'w faintioli presenol. Cafodd ar ol hyny ei adgyweirio a'i brydferthu.

Ar farwolaeth Mr. John Davies, rhanwyd maes eang ei weinidogaeth yn ddau. Dewiswyd Mr. Rowlands gan y cynnulleidfaoedd yn Nghwmllynfell a Chwmaman, a Mr. Grifflths gan bobl yr Alltwen, y Pantteg, a Charmel. Yr un modd ar farwolaeth Mr. Rowlands, rhanwyd maes ei lafur yntau. Dewisodd pobl Cwmllynfell Mr. R. Pryse, a phobl Cwmaman Mr. John Davies, eu gweinidog presenol, yr hwn a symudodd yma o Benygraig, lle yr urddwyd ef ddydd Llun y Pasg, 1829, ac yn mis Mawrth, 1835, symudodd oddiyno i Gwmaman, lle y mae wedi bod yn llafurio bellach am ddwy-flynedd-ar-bymtheg-ar-hugain. Yr oedd capel Cwmaman pan yr adeiladwyd ef mewn man canolog iawn o'r gymydogaeth, ond wedi adeiladu llawer o dai, mewn cysylltiad a'r gweithfaoedd, mewn un ran o'r ardal, mae yr addoldy yn bresenol yn lled anghyfleus i fwyafrif y boblogaeth. Yn wyneb hyny, penderfynodd yr eglwys tua saith mlynedd yn ol, adeiladu ysgoldy eang yn y rhan fwyaf poblog o'r ardal, ac yno y cynelir y gwasanaeth bob nos Sabboth, a'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd wythnosol.

Pa ddiffygion bynag a ddichon fod yn perthyn i eglwys Cwmaman, nid oes un eglwys yn Nghymru wedi rhagori arni mewn dau beth, sef ei hysbryd heddychol, a'i hymlyniad wrth ei gweinidogion. Nid oes yma ond tri gweinidog wedi bod er's mwy na chan mlynedd, ac y mae y trydydd, fel ei ddau ragflaenor, yn debyg o aros yma nes y symudir ef gan angau.

Eglwys nodedig am fagu pregethwyr yw hon, fel y dengys y rhestr ganlynol:-

  • Herbert Herbert. Derbyniwyd ef yn aelod a dechreuodd bregethu yma yn amser Mr. Davies o'r Alltwen. Rhoddwn ei gofiant ef yn nglyn a hanes y Drefnewydd, lle y bu yn llafurio am y rhan ddiweddaf o i oes.
  • William Hopkins. Dan weinidogaeth Mr. Rowlands y dechreuodd ef  bregethu. Gyda hanes Cwmrhos a Thretwr y rhoddir ei gofiant.
  • Thomas Williams. Gweler hanes Mount Pleasant, Pontypool
  • Thomas Edwards. Ymfudodd i America yn 1834, a bu am flynyddau yn weinidog yn Pittsburgh a Cincinatti.
  • William Edwards. Yn amser Mr. Davies, y gweinidog presenol, y dechreuodd ef bregethu. Mae wedi ymfudo i'r America, ac yn weinidog yno yn awr.
  • David Davies, oedd wr ieuangc gobeithiol iawn. Pan yn yr athrofa yn Aberhonddu, torodd un o'i waed-lestri, fel y bu raid iddo ddychwelyd adref. Wedi nychu am rai misoedd, torodd ei waed yn ddisymwth drachefn pan yn sefyll yn nrws y ty. Ymaflodd ei fam ynddo pan welodd ei waed yn rhedeg, a bu farw rhwng ei breichiau Chwefror 8fed, 1854.
  • Jonathan Jones. Ar ol bod am dymor yn derbyn addysg dan arolygiad ei weinidog, derbyniwyd ef í athrofa Aberhonddu. Bu farw cyn i'w dymor yno ddyfod i ben. Claddwyd ef wrth gapel Cwmaman lonawr 20fed, 1857. Yr oedd yn un gafaelgar iawn ei gof, ac yn draddodwr hwylus.
  • Daniel Jones. Yr oedd yn ddyn ieuangc talentog. Pan yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin, ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, fel y bu raid iddo ddychwelyd adref i farw.
  • William Thomas. Dechreuodd bregethu yn ieuangc iawn, ac yr oedd bychander ei gorph, ei ieuengctyd, a'i ddoniau diail, yn tynu canoedd i'w wrandaw. Yr oedd yn wr ieuangc o fuchedd a galluoedd rhagorol. Bu am ychydig yn yr ysgol gyda Dr. Davies, Abertawy, ond gorfodwyd ef gan gystudd i ddychwelyd adref, lle y bu farw yn yr Arglwydd Awst 8fed, 1864.
  • W. I. Morris. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac y mae yn awr yn Sardis, Pontypridd.
  • John Evans. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Caerfyrddin, ac y mae yn awr yn Nghwmamnn, Aberdar.

Mae yn bresenol ddau bregethwr cynorthwyol yma, sef John Williams, a William Jones.

Yr oedd llawer o gymeriadau hynod a rhagorol iawn yn perthyn i gynnulleidfa Cwmaman yn y dyddiau gynt: - dynion tra doniol a thalentog, a rhai o honynt yn brydyddion rhagorol.

Yn mysg y rhai gellid enwi Thomas William Edward, tad Mr. Thomas Edwards, Cincinatti. Ganwyd ef yn 1754, a bu farw yn 1806. Mae ei gorph yn gorphwys wrth gapel Cwmaman. Magodd blant rhagorol, ac y mae crefydd yn parhau i aros yn mysg ei hiliogaeth. Dywedir ei fod yn brydydd parod iawn.

Un nodedig arall oedd Thomas o'r Gors, yr hwn a anwyd yn 1742, ac a fu farw yn 1838, yn agos i gan' mlwydd oed. Meddai yntau y ddawn brydyddol i raddau helaeth. Wrth wrandaw pregeth yn Nghwmllynfell ar Arch Noah, cyfansoddodd y penill canlynol, a rhoddodd ef allan ar ddiwedd y bregeth :-

" Pa beth oedd Arch hen Noah, at arch ein Iesu glan,
Fe geidw hon eneidiau, rhag myn'd i uffern dân ;
Wyth gadwyd yn Arch Noah, bydd cof am hyny byth,
Fe geidw'r arch ysbrydol fyrddiynau rif y gwlith. "

Dro arall, mewn cyfarfod gweddi yn Llwynhen, pan yr oedd gwr y ty yn glaf, cyfansoddodd y penill canlynol:-

" Mae'r babell rwy' ynddi mor wan,
Sigledig rwy'n teimlo ei bod,
O Iesu gad i mi gael rhan
Mewn pabell na siglwyd erioed ;
Llinynau hon yma a dyr,
Mae'r hoelion yn llacio bob dydd,
Ac yna fe'm rhoddir ar fyr
I orwedd mewn gwely o bridd"

Ond yr hynotaf a'r enwocaf o bobl Cwmaman ya ei ddydd oedd Owen Dafydd, y melinydd. Yr oedd ef yn ddyn hynod iawn, ac yn brydydd rhagorol. Dywedir mai ei gân ar Dragywyddoldeb yw yr oreu o'i gyfansoddiadau, ond ofnir fod hono, oddieithr ambell benill sydd ar gof rhai hen bobl, wedí myned ar goll. Bu Owen Dafydd yn prydyddu llawer yn erbyn y Sosiniaid, y rhai a'u galwant eu hunain yn Ddwyfundodiaid. Er ei fod yn ddyn rhagorol a rhyfeddol o dalentog, yr oedd yn mhell o fod yn berffaith. Ei bechod parod oedd yfed yn anghymedrol yn awr ac eilwaith. Un tro yr oodd mewn priodas yn y Gwndwngwyn, lle y gwnaeth yn rhy rydd ar y ddioden. Eisteddai yno a chysgodd dan effaith y cwrw. Yr oedd yn wyddfodol amryw o'i wrtlwynebwyr y "Dwyfundodiaid," y rhai yn ddiau a deimlent yn llawen eu bod wedi cael cyfleusdra i daflu careg at y gwr a'u poenai mor fynych a'i benillion ffraethlym. Ymgasglodd nifer o honynt at y fan lle yr eisteddai, a chan ei ddeffro o'i gwsg, dywedodd un o honynt:-

 " Mae Owen Dafydd gystal dyn,
Ag un o'r Calfinistiaid,
Ond iddo beidio meddwi mwy
Yn mhlith y Dwyfundodiaid."

Dechreuodd Owen rwbio ei lygaid, ac atebodd hwynt yn ddifyfyr:-

" Achubwyd Lot er meddwi,
Mae heddyw yn y nef ,
'Does yno neb yn dannod
Ei fedd'dod iddo ef ;
Achubwyd ddim o Judas,
Mae'r Bibl geni'n dyst,
Achubir nn o'r rhai' ny
Sy'n gwadu Duwdod Crist.

Fe welodd Ioan dyrfa
Tn dyfod at y Tad,
Oll yn eu gynau gwynion
A gànwyd yn y gwaed ;
Rhai o bob llwyth a chenedl,
A phobl yn y byd,
'Doedd un o'r Dwyfundodiaid
Yn mysg y rhai'n i gyd."

Ond er fod Owen yn ddyn anmherffaith, yr oedd yn ddyn edifeiriol a thyner ei gydwybod, fel y dengys y penill canlynol o'i eiddo: -

" Mi ryfeddais fil o weithiau,
A rhyfeddu 'rwyf o hyd,
Fod amynedd Iesu'n para
I'm diodde'í bechu cy'd ;
Pechu wnes yn erbyn goleu,
Pectu wnes yn erbyn gras,
Ond peth rhyfedd fod amynedd
Iesu heb ei threulio ma's. *

Ganwyd Owen Dafydd yn 1751, a bu farw yn 1816. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Ystradgynlais.

 

* Llythyr Mr. Davies, Cwmaman, ac ysgrif Mr. Morgan, Cwmbach, yn y Beirnad Cyf.IV Tu dal.204.

 

 Ymddengys mai ei gân ar Dduwdod ac Aberth Crist, yr hon a gyfansoddodd i wrthwynebu y Dwyfundodiaid, fel ei gelwid hwynt, yw y ragoraf o'i eiddo; ac y mae yn gyfansoddiad rhagorol fel y dengys y difyniadau a ganlyn :-

" Rhyw fyrdd a nrwy na hyny, 'does neb all ddyweyd pa faiut,
Yw haeddiant Crist yn drymach na phechod pawb o'r saint ;
Pe buasai yn yr arfaeth i fyn'd i uffern dân,
Fe olch'sai'r holl gythreuliaid i gyd yu berffaith lan.

Er cwrdd a geiriau newydd i roddi ei glod i ma's,
Ac uno'r holl angylion ac etifeddion gras ;
Heb enwi dim ond unpeth ar unwaith yn y gân,
Hyd eithaf tragywyddoldeb, ddaw glod e' byth yn mlaen.

Pe b'ai angylion nefoedd bob un yn myn'd yn fil,
Ac ennill rhyw fyrddiynau bob munyd wrth ei sgil,
I roddi ei glod ef allan am farw ar y pren,
Hyd eithaf tragywyddoldeb, ddo'i dim o'r gwaith i ben.

'T'ai sant am bob glaswelltyn eydd ar y ddaear lawr,
A myrdd am bob tywodyn sydd yn y moroedd mawr ;
Tafodau gan y rhai'ny fwy na rhifedi'r dail,
Rhy fach i ddyweyd y mawredd sy'n haeddiant Adda'r ail.

'T'ai un o'r côr angylaidd yn d'od o'r nef i lawr,
I rifo llwch y ddaear a gwlith y boreu wawr,
Fe allai wneuthur hyny mewn 'chydig iawn o bryd,
Dyweyd haner haeddiant Iesu nis gall y côr i gyd."

Mae yn brofedigaeth i ni fyned yn mlaen, ond byddai hyny yn annghydweddol a'n hamcan ; ond gall y neb a ewyllysio weled y gân yn gyflawn yn y Beirniad, Cyf. IV., tu dal. 218. "

 

Translation by Maureen Saycell (Jan 2008)

"This chapel is in the parish of Llandeilo, Carmarthenshire, but this church has always been in the Glamorgan Union of Churches. It would appear that the religious cause was started here in the middle of the last century, a joint venture between the Independents and the Calvinistic Methodists, but no chapel was built until 1773. The two denominations were working together then, but it appears that the Methodists moved away from the Independents around the time that the chapel was built, or soon after, because in 1774 Mr Evan Griffiths, Capel Seion, sent the names and the numbers of the Independent churches in Carmarthenshire to London, and he named Cwmaman church as an Independent Church with a membership of one hundred and fifty.

After the Methodists split from the Independents, they worshipped for a time at Hendrefawr, about half a mile east of Cwmaman chapel, and after that in Glynmeirch, about two miles to the west; but their cause became weak in the area and continued so until 1840, when members came from other area with the opening of the coalfields.

It is said in Methodist History,Vol II, page 480, that the cause of the separation of the two denominations was the Independents, because they were far more numerous, one Sabbath morning, locked the chapel door against  Mr Jones of Llanllian; but it is very likely that the separation was because of an argument over the ownership of the chapel.

Mr William Evans, Cwmllynfell, along with some of the Methodist ministers were instrumental in establishing a cause in this place. It is not known whether a church had been established before a chapel was built or not. When Mr John Davies became the minister in Cwmllynfell and Alltwen, he took over the care of this cause, in association with those churches, and he cared for it until the end of his days in 1821. His respect and influence in this church, as in the others, was great. The congregations under his care did not believe that there was another minister like him on this earth. He was looked up to by young and old, religious or not, as God's representative to the masses.

At the death of Mr John Davies, in 1822, the churches of Cwmllynfell and Cwmaman called Mr John Rowlands, Llanybri, who worked among them with considerable success and respect for twenty years. By 1825, his popularity was overfilling the chapel, it had to be extended to it's present size. After that it was repaired and decorated.

At the death of Mr John Davies, his large ministerial area was divided in two Mr Rowlands was chosen by the congregations of Cwmllynfell and Cwmaman, and Mr Griffiths by the people of Alltwen, Panteg and Carmel. In the same way when Mr Rowlands died his work area was also divided. The people of Cwmllynfell chose Mr R. Pryse, and Cwmaman chose Mr John Davies, their current minister, he moved here from Penygraig, where he was ordained on Easter Monday, 1829, and in1835 moved from there to Cwmaman, where he has worked now for thirty seven years. The chapel in Cwmaman was originally central to the neighbourhood, but after the building of many houses, associated with the coalmines, in one part of the area, the current chapel is not central to the majority of the people. In the face of that, about seven years ago, it was decided to build a large schoolroom in the most densely populated area, and there a service is held every Sunday night, along with most of the weekly meetings.

Whatever faults the church in Cwmaman may have, there is no better church in Wales that can do better at two things, being its peaceful spirit and its loyalty to the ministers. There have only been three ministers in over one hundred years, and the third, like his predecessor, is likely to be here until moved by death.

This church is notable for the number of preachers it has nurtured, as this list will show:-

  • Herbert Herbert. He became a member and began to preach during the time of Mr Davies, Alltwen. His memorial will be with the history of  Newtown, where he spent the last part of his life
  • William Hopkins. He began to preach under the ministry of Mr Rowlands. His memorial will be with the history of Cwmrhos and Tretwr.
  • Thomas Williams. See the history of Mount Pleasant, Pontypool
  • Thomas Edwards. Emigrated to America in 1834, and was a minister in Pittsburgh and Cincinatti for many years.
  • William Edwards. He was encouraged to preach by Mr. Davies, the current minister. He has emigrated to America, and is now a minister there.
  • David Davies, was a very promising young man. While at Brecon College, he broke a blood vessel, and had to return home. After some months, he bled again suddenly while standing on the doorstep. His mother took hold of him when she saw him bleeding, he died in her arms on February 8th,1854.  
  • Jonathan Jones. After a term of learning under the supervision of his minister, he was accepted at Brecon College. He died before his time there was finished. He was buried near Cwmaman chapel on January 20th, 1857. He had an impressive memory and a spirited delivery (of a sermon).
  • Daniel Jones. He was a talented young man. When he was at Carmarthen College, consumption took hold of him, and he returned home to die.  
  • William Thomas. He began to preach at a very young age, his small build, youth, and unbeatable talent, drew hundreds to listen to him. He was a young man with a wonderful attitude and ability. He spent a short time in school with Dr Davies, Swansea, but he was forced to return home because of illness, he died in the Lord on August 8th, 1864.
  • W. I. Morris. He was taught in Brecon College, and is now in Sardis, Pontypridd.
  • John Evans. He received his education at Carmarthen College, and is now in Cwmaman, Aberdare.

There are currently two supporting ministers here, John Williams and William Jones

There were many exceptional characters belonging to the congregation of Cwmaman in days gone by, some very comical and very talented and some notable poets.

Amongst those who could be mentioned is Thomas William Edwards, father of Mr Thomas Edwards, Cincinatti. He was born in 1754 and died in 1806. His body lies by Cwmaman chapel. He brought up wonderful children, and religion remains strong in his descendants. It was said that he was an able poet.

One other of note was Thomas of Gors, he was born in 1742, and died in 1838, nearly one hundred years old. He possessed a great poetic talent. While listening to a sermon about Noah's ark, in Cwmllynfell, he composed the following verse and read it out after the sermon.

"Pa beth oedd Arch hen Noah, at arch ein Iesu glan,
Fe geidw hon eneidiau, rhag myn'd i uffern dân
Wyth gadwyd yn Arch Noah, bydd cof am hyny byth,
Fe geidw'r arch ysbrydol fyrddiynau rif y gwlith. "                 *2

Another time, at a prayer meeting in Llwynhen, the man of the house was unwell, he composed the following verse:-

"Mae'r babell rwy' ynddi mor wan,
Sigledig rwy'n teimlo ei bod,
O Iesu gad i mi gael rhan
Mewn pabell na siglwyd erioed ;
Llinynau hon yma a dyr,
Mae'r hoelion yn llacio bob dydd,
Ac yna fe'm rhoddir ar fyr
I orwedd mewn gwely o bridd"                 *2

One of the most remarkable and famous people of Cwmaman was Owen Dafydd, the miller. He was a remarkable man and an excellent poet. It is said that his poem on Eternity was the best of his compositions, but unfortunately, other than a few verses remembered by some of the older people, it has been lost. He composed a great deal of poetry against the Sosiniaid (Unitarians? - *3), the ones who call themselves Ddwyfundodiaid (Unitarians? - *3). Although a good and very talented man, he was far from perfect. His main sin was to get drunk time and again. One time at a wedding in Gwndwngwyn, where the wine flowed free. He sat there and slept under the influence of the beer. Many of his adversaries were there, and no doubt were quite happy to throw a stone at the man who pestered them so frequently with his barbed verses. A number of them gathered around him and woke him with the following:-

"Mae Owen Dafydd gystal dyn,
Ag un o'r Calfinistiaid,
Ond iddo beidio meddwi mwy
Yn mhlith y Dwyfundodiaid."    *2

He rubbed his eyes and answered without hesitation:-

"Achubwyd Lot er meddwi,
Mae heddyw yn y nef ,
'Does yno neb yn dannod
Ei fedd'dod iddo ef ;
Achubwyd ddim o Judas,
Mae'r Bibl geni'n dyst,
Achubir nn o'r rhai' ny
Sy'n gwadu Duwdod Crist.

Fe welodd Ioan dyrfa
Tn dyfod at y Tad,
Oll yn eu gynau gwynion
A gànwyd yn y gwaed ;
Rhai o bob llwyth a chenedl,
A phobl yn y byd,
'Doedd un o'r Dwyfundodiaid
Yn mysg y rhai'n i gyd."        *2

Although Owen was an imperfect man, he was also repentant and a man of tender conscience, as the following verse shows:-

" Mi ryfeddais fil o weithiau,
A rhyfeddu 'rwyf o hyd,
Fod amynedd Iesu'n para
I'm diodde'í bechu cy'd ;
Pechu wnes yn erbyn goleu,
Pechu wnes yn erbyn gras,
Ond peth rhyfedd fod amynedd
Iesu heb ei threulio ma's. * 1  *2

Owen Dafydd was born in 1751, and died in 1816. He was buried in Ystradgynlais Church cemetery.

The following verses are a selection from his work on Godliness and the sacrifice of Christ, which was judged to be the best of his work. It is an excellent composition as the excerpts below will show:-

" Rhyw fyrdd a nrwy na hyny, 'does neb all ddyweyd pa faiut,
Yw haeddiant Crist yn drymach na phechod pawb o'r saint ;
Pe buasai yn yr arfaeth i fyn'd i uffern dân,
Fe olch'sai'r holl gythreuliaid i gyd yu berffaith lan.

Er cwrdd a geiriau newydd i roddi ei glod i ma's,
Ac uno'r holl angylion ac etifeddion gras ;
Heb enwi dim ond unpeth ar unwaith yn y gân,
Hyd eithaf tragywyddoldeb, ddaw glod e' byth yn mlaen.

Pe b'ai angylion nefoedd bob un yn myn'd yn fil,
Ac ennill rhyw fyrddiynau bob munyd wrth ei sgil,
I roddi ei glod ef allan am farw ar y pren,
Hyd eithaf tragywyddoldeb, ddo'i dim o'r gwaith i ben.

'T'ai sant am bob glaswelltyn eydd ar y ddaear lawr,
A myrdd am bob tywodyn sydd yn y moroedd mawr ;
Tafodau gan y rhai'ny fwy na rhifedi'r dail,
Rhy fach i ddyweyd y mawredd sy'n haeddiant Adda'r ail.

'T'ai un o'r côr angylaidd yn d'od o'r nef i lawr,
I rifo llwch y ddaear a gwlith y boreu wawr,
Fe allai wneuthur hyny mewn 'chydig iawn o bryd,
Dyweyd haner haeddiant Iesu nis gall y côr i gyd.         *2

It would be difficult to carry on, and would not be the right thing to do, but anyone wishing to see the full poem go to Beirniad, Cyf. IV., tu dal. 218."

 

Notes;

*1   Letter from Mr. Davies, Cwmaman, and an article by Mr. Morgan, Cwmbach, in the Beirnad Cyf.IV Tudal.204.

*2 -  Poems not translated

*3 - We can't find the exact words Sosiniaid and Ddwyfundodiaid in any dictionary but have found the first used in the context of Unitarians and the second appears to be made up of Ddwyf, possibly  meaning 'god-like', and Undodiaid meaning Unitarian.
4/10/2016 "I think the first must be a reference to what in English is called Socinianism, a non-Trinitarian Radical Reformation theology originating in Italian Anabaptism"[Alan Griffiths]

 


(Gareth Hicks - 20 Jan 2008)