GENUKI Home Page Glamorgan Glamorgan Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

 

These 8 chapel histories were extracted by Gareth Morgan from the CD published by Archive CD Books (Feb 2008)  - no translations

The main project page is on http://www.genuki.org.uk/big/wal/Indchapels.html#Glamorgan

Proof read by Yvonne John (March 2008)

 


YNYSGAU, MERTHYR TYDFIL

Return to top

 (Vol 2, p 244)

Nid oes un sicrwydd pa bryd na chan bwy y dechreuwyd Ymneillduaeth yn mhlwyf Merthyr Tydfil. Mae Malkin, ysgrifenydd Saesonig, yn hanes ei deithiau trwy Gymru, ar awdurdod Iolo Morganwg, yn priodoli ei ddechreuad i lafur un Thomas Llewellyn, o'r Rhigos, yr hwn oedd fardd, yn ddyn da a dysgedig, ac yn llafurus yn ei oes i wneuthur daioni. Dywed Iolo iddo gyfieithu y Bibl i Gymraeg da, o gyfieithiad Saesonig William Tyndal, tua y flwyddyn 1540, ac iddo wedi hyny gael trwydded gan yr Archesgob Grindal i bregethu; iddo bregethu llawer mewn anedd-dai, ac mai ei ddysgyblion ef ddarfu ddechreu yr achos Ymneillduol yn Merthyr, trwy osod addoliad rheolaidd i fyny mewn amaethdy o'r enw Blaencanaid, ar lechwedd y mynydd rhwng Merthyr ac Aberdar, oddeutu y flwyddyn 1620. Dywedir hefyd fod Thomas Llewellyn yn pregethu pryd yr oedd wedi myned yn ddall gan henaint. Bernir iddo fyw nes oedd yn mhell dros gan' mlwydd oed. * Nid ydym yn gwbl barod i wrthod na derbyn yr hyn a ddywed Iolo am Thomas Llewellyn, a chysylltiad ei lafur a dechreuad Ymneillduaeth yn Merthyr a'r cylchoedd, fel ffaith hanesyddol. Mae yn hysbys i'r Archesgob Grindal drwyddedu dynion i fyned allan fel pregethwyr teithiol, a bod eu cyflawniadau crefyddol yn myned dan yr enw Prophesyings, ac i'w waith yn caniatau hyny dynu arno wg y frenhines Elizabeth ac awdurdodau yr Eglwys. Dichon fod yr hen Gymro o'r Rhigos yn un o'r rhai a awdurdodwyd ganddo i "brophwydo," ac i lwyddiant mawr ddilyn ei lafur yn y cymoedd anghysbell, ac ar lechweddi y mynyddau gwylltion o'r afonydd Nedd a'r Rhondda hyd y Taf a'r Rhymnwy; ond yr hyn sydd yn peri i ni betruso yw dystawrwydd hollol cyfeillion a gelynion Ymneillduaeth yn ei gylch ef a'i lafur. Yr ydym yn cael cyfeiriadau at ddechreuad Ymneillduaeth yn Morganwg yn ysgrifeniadau Walter Cradock, William Erbery, Vavasor Powell, Henry Maurice, a'r Archesgob Laud, oll o fewn deugain neu ychydig gyda haner can' mlynedd i amser Thomas Llewellyn, ond nid oes unrhyw grybwylliad am dano ef na'i ganlynwyr gan yr un o honynt. Os bu ei lafur mor llwyddianus ag yr awgryma Iolo mae yn rhyfedd na buasai rhyw elyn neu gyfaill yn son rhywbeth am dano ryw bryd o fewn y can' mlynedd cyntaf ar ol ei farwolaeth. Pa fodd bynag, mae un peth yn ddiamheuol, sef fod Ymneillduaeth wedi ei phlanu a gwreiddio yn Merthyr a'r cylchoedd yn foreu iawn. Dywed Jones, yn hanes Brycheiniog, fod Ymneilldnwyr amryw yn y rhanau debeuol o'r sir hono - plwyfydd y Faenor a Phenderyn yn ymyl Merthyr, wrth reswm a feddyliai - cyn i'r rhyfel cartrefol dori allan yn 1642, a dywed Henry Maurice, yn ei ysgrif a gyhoeddwyd yn y Broad Mead Records, mai yr eglwysi yn Merthyr Tydfil ac Abertawy oedd y rhai cyntaf a gasglwyd yn Morganwg. Ond y dystiolaeth fwyaf pendant a phwysig am henafiaeth Ymneillduaeth yn Merthyr yw eiddo Nathaniel Jones, offeiriad y plwyf hwn rhwng 1640 a 1662. Mae ysgrifen o'i eiddo ef yn awr yn nghadw mewn cist yn eglwys plwyf Merthyr, yn rhoddi hanes ei helbulon yn amser y Senedd Hir, yr hon, fel y mae yn amlwg, a ysgrifenwyd ganddo ryw bryd rhwng 1650 a 1655. Yn nechreu yr ysgrif hon, dywed, " Y mae genym ni, yn mhlwyf Merthyr Tydfil, gymdeithas o wyr a gwragedd, y rhai er's amser maith sydd wedi bod yn yr arferiad o gynal cyfarfodydd anghyfreithlon (conventicles), yn mha rai y maent wedi trefnu ffurflywodraeth eglwysig yn ol eu hewyllys eu hunain, yn groes i'r deddfau a'r ordeiniadau."+ Yn ol y dystiolaeth hon nid oes dim yn anhygoel yn yr haeriad fod cyfarfodydd crefyddol yn cael eu cynal yn Mlaencanaid er y flwyddyn 1620, oblegid nid oedd cyfarfodydd

Ymneillduol "yn groes i'r deddfau ar ordeiniadau" o 1640 hyd 1662, gan fod yr awdurdodau yn caniatau rhyddid cydwybod i ddynion i addoli yn ol argyhoeddiad eu meddylian. Mae yn rhaid gan hyny mai at y cyfarfodydd a gynelid cyn 1640 y cyfeiria yr ysgrifenydd. Pan drodd y Senedd yn bleidiol i ryddid crefyddol, ni bu raid i Ymneillduwyr Merthyr bellach ddirgelu en hunain yn Mlaencanaid. Daethant i gadw eu cyfarfodydd yn amlwg heb ofn cael eu haflonyddu, yn enwedig ar ol 1646, pan y gorchfygodd milwyr y Senedd blaid y brenhin yn Nghymru. Aethant bellach i gynal eu cyfarfodydd yn Eglwys y plwyf, am yr hyn y cwyna Nathaniel Jones, yr offeiriad yn dost. "Y maent," meddai, "nid yn unig wedi dilen a bwrw i lawr bob math o ddegymau, ond y maent hefyd yn dinystrio Eglwys y plwyf. Ni oddefant i neb bregethu yno ond un o'n sect eu hunain, ac eraill sydd yn ysbeilio yr Eglwys. Mae ganddynt yno dri o bregethwyr lleyg. Mae y brodyr hyn yn cyfarfod bob Sabboth yn yr Eglwys, ac yn fynych ar ddyddiau o'r wythnos, lle y maent yn ymgynghori, yn dadleu, ac yn trefnu en materion mewn modd anghyfreithlon ac annwiol. Ni oddefent i weinidog y plwyf bregethu yn yr eglwys, oblegid ni thalant ddegwm iddo. Maent weithiau wedi canu y gloch er aflonyddu arno; brydian eraill y maent wedi ei dynu allan o'r pulpud gan dori ei ddillad ac arfer creulondeb tuag ato; ar amserau eraill gosodant rywun arall i bregethu dan yr ywen ar y fynwent pan fyddo y gweinidog yn y pulped yn yr Eglwys. Ni fyn y bobl yma na gweddiau na sacrament, yn enwedig gweddiau santaidd yr Eglwys, a'r sacrament o ddwylaw y gweinidog. Mae yn wir fod Mr. Jenkin Jones yn tori bara yn fisol yma, yr hwn, yn nghyd a'r gwin, a renir trwy y gynnulleidfa. Yr wyf yn sicr fod yma bum' mil o wyr a gwragedd yn y plwyf nad ydynt wedi derbyn Swper yr Arglwydd y deng mlynedd diweddaf hyn. Mae Mr. Jenkin Jones neu Henry Williams, yn sicr o gymeryd meddiant o'r pulpud bob Sul y Pasc, ac ar amserau eraill ni oddefir i'r bobl dderbyn sacrament gan weinidog y plwyf na dwyn eu plant yno i'w bedyddio." Yr ydym yn mhell o gymeradwyo ymddygiad y werin tuag at yr offeiriad hwn, nag unrhyw offeiriad arall, ond nis gellid gydag un mesur o degwch osod y bai o'i drin fel y gwnaed, a thybied nad oedd ef yn gosod lliw gwaeth ar y driniaeth a gafodd nag ydoedd mewn gwirionedd, wrth ddrws yr Ymneillduwyr, oblegid yr oedd yr holl wlad y pryd hwnw yn ferw gwyllt o derfysg, fel nad oedd gan ddynion difrifol a chrefyddol un lywodraeth dros y werin.

O'r dechreuad hyd y flwyddyn 1649, Annibynwyr, neu Bresbyteraid, oedd Ymneilldnwyr Merthyr oll, ond mae yn dra thebygol i rai o honynt droi yn Fedyddwyr tua yr amser hwn, ac y mae yn wybyddus i'r Crynwyr ennill llawer o ddysgyblion yn Merthyr yn amser y werin-lywodraeth. Mae yn debyg mai hwy yn benaf oedd yn aflonyddu yr offeiriad. Y mae yn enwi un o honynt, sef Richard Thomas, ei fod yn dyfod i'r Eglwys pan y buasai ef yn pregethu i aflonyddu arno a gofyn gofyniadau iddo ar ganol ei bregeth. Mae yn wybyddus fed y Crynwyr yn yr oes hono yn euog o aflonyddu, nid yn unig addoliadau yr Esgobyddion, ond hefyd addoliadau yr Ymneillduwyr. Mae yn ddiameu i raniad yr Ymneillduwyr i wahanol sectau achlysuro mesur o deimlad oer rhyngddynt a'u gilydd, a llawer o ddadleuon, anffafriol i feithriniad ysbryd ore crefyddol ac ymdrech egniol i efengyleiddio y werin anwybodus, ond er hyny fe barhaodd yr eglwyg hon, fuasai gynt yn addoli mewn enbydrwydd yn Mlaencanaid, yn gryf a gweithgar, ac fe ymddengys iddi ychwanegu nerth dirfawr yn nhymor y rhyddid a fwynhaodd o 1696 hyd 1662. Wedi adferiad y brenin, Siarl II., i'r orsedd, eafodd Nathaniel Jones, a chynifer o ganlynwyr ag oedd ganddo yn y plwyf, eu hadferu i'r eglwys, a bu raid i'r Ymneillduwyr ddychwelyd drachefn i Flaencanaid, neu rywle arall, i gynal eu cyfarfodydd. Yn 1669, yr oeddynt yn ymgynull yn nhai Howell Rees Phillips ac Isaac John Morgan, a'r cynnulliadau yn rhifo o dri i chwe' chant o bobl.* Darfu i Vavasor Powell, pan ddaeth ar ei dro trwy Ferthyr yn 1668, gymeryd yr hyfdra i bregethu i tua mil o bobl yn agos i fynwent yr eglwys, ond arweiniodd hyny i'w garchariad dranoeth, fel y gwelir yn hanes ei fywyd. Gwelsom mai Mr. Jenkin Jones, a Mr. Harry Williams, a rhyw dri phregethwr cynorthwyol, oedd yn gweinidogaethu i'r gynnulleidfa hon yn amser y rhyddid; a Henry Williams, neu Henry William Thomas, fel y gelwir ef yn llawysgrifau Lambeth, oedd eu gweinidog yn 1669. Yr ydym yn barnu mai yr un gwr oedd hwn a'r Henry Williams a drowyd allan gan Ddeddf-Unffurflaeth o Eglwys Llantrisant. Dywedir yn llawysgrifau Lambeth ei fod wedi bod yn gadben yn myddin y Senedd, ac nad oedd yn gwybod yr un iaith ond y Gymraeg; ond mae yn ymddangos ei fod yn gwybod digon o efengyl i fod yn weinidog defnyddiol i'r gynnulleidfa luosog hon. Rhyw amser wedi adferiad y brenin aeth y gynnulleidfa hon i addoli i anedd-dy o'r enw Cwmyglo, heb fod yn mhell o Flaencanaid, lle y buasent yn addoli gynt. Yr oedd hwn fel y lle arall, yn fan neillduedig a dirgel. Dichon mai hwn oedd tý Howell Rees Phillips, neu dý Isaac John Morgan, lle yr oeddynt yn addoli yn 1669. Yn Nghwmyglo yn benaf, os nad yn unig, y buont yn addoli trwy holl dymor yr erledigaeth, ac yn hir ar ol hyny. Wedi cael nodded Deddf Goddefiad, yn 1688, awd i edrych am le i adeiladu capel, a chafwyd tir gan y Cadben David Jenkins, o Hensol, yn ymyl amaethdy Cwmyglo.*  Dywedir eu bod yn cydymgynghori at bwy yr aethant i geisio tir i adeiladu y capel arno, ac i un o'r aelodau ddyweyd yr elai ef at y Cadben Jenkins i ofyn y ffafr, gan mai ei frawd oedd butler y boneddwr hwnw. Aeth, a dywedodd ei neges wrth y boneddwr, yr hwn a atebodd yn siriol, " Os ydych chwi yn dewis addoli yn y lle hwnw, chwi gewch dir, ond am y butler bach a minau, nid ydym ni yn gofalu am addoli dim ond ein boliau." Adeiladwyd yno gapel, adfeilion pa un sydd i'w gweled yno etto. Yno y buwyd yn ymgynnull hyd 1749, pryd yr adeiladwyd yr Ynysgau. Bu yr eglwys hon am flynyddau yn cael ei chyfrif fel cangen o eglwys Llanigon, cangenau o ba un oedd yn wasgaredig trwy holl sir Frycheiniog, o'r rhan uchaf o sir Gaerfyrddin. Mr. Henry Maurice oedd gweinidog yr eglwys fawr wasgaredig hon o 1672 hyd ei farwolaeth yn 1682, ond yr oedd ganddo lawer o gynorthwywyr. Mae llawer o draddodiadau am ddyoddefiadau yr eglwys hon yn mlynyddoedd yr erledigaeth, ond nis gwyddom pa faint o bwys sydd i'w osod arnynt fel ffeithiau hanesyddol. Dywedir i un Edwards, yr hwn oedd yn bregethwr yma, gael ei lofruddio yn agos i'r Gyfartha. Mae yn wybyddus i un Major Carne ddyfod yma a nifer o filwyr gydag ef yn 1668, i ddal yr enwog Vavasor Powell. Dywedir i swyddwr milwraidd o'r enw Colonel Morgan fyned unwaith at Gwmyglo, a milwyr gydag ef, gyda'r bwriad i gymeryd y pregethwr a'r gwrandaw-wyr yn garcharorion, ond iddo ar ol gwrandaw ychydig wrth y drws gael ei doddi i'r fath raddau gan yr hyn a glywodd fel y darfu iddo droi ymaith a dyweyd wrth ei fliwyr, " Trueni yw gwneyd, dim i'r bobl hyn." Adroddir gan Mr. Thomas yn Hanes y Bedyddwyr, I hen gristion enwog o'r enw Saphin, neu Sephaniah, fyned unwaith yn nyfnder y nos tua Chwmyglo, ac wedi iddo fyned i mewn, i'r addolwyr mewn rhan arall o'r tý, glywed trwst ei draed ac iddynt ddychrynu rhag ofn mai erlidiwr oedd yno. Pan ddeallodd yntau eu bod wedi brawychu, gwaeddodd allan,

"Pa ham yr ofnwch, 'y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn."

Nid ydym wedi cael allan pwy fu yn gweinidogaethu yma o amser marwolaeth Mr. Henry Maurice yn 1682 hyd y flwyddyn 1698. Gan fod yr eglwys hon wedi bod yn gangen o eglwys wasgaredig sir Frycheiniog, mae yn eithaf naturiol i ni gasglu mai Mr. Rees Prytherch, Ystradwallter, a gweinidogion Aberhonddu a Thredwstan, a ofalent yn benaf am y gangen hon, fel y cangenau eraill. Yn 1698, seflydlwyd Mr. Roger Williams yn weinidog yma mewn cysylltiad a Chefnarthen, a pharhaodd i lafurio yn y cylch hwn hyd derfyn ei oes yn 1730. Gallwn gasglu oddiwrth ganiadau Sion Llewellyn, un o aelodau yr eglwys, fod yr achos yn dra llewyrchus yma dan weinidogaeth Roger Williams; fod y gweinidog yn un manol ac ymdrechgar iawn i addysgu yr ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig yn egwyddorion mawrion Cristionogaeth; a bod yr eglwys yn ofalus iawn i edrych pwy a pha fath ddynion a dderbyniai i'w chymundeb. Dywed Sion Llewellyn iddo ef gael ei gadw ar brawf " o fis Mehefin hyd wyl Andreas," a bod rhai hyd yn nod ar ol y prawf maith hwnw am ei wrthod. Fel y canlyn y rhigymir yr hanes ganddo: -

(not extracted)

Mae'n ymddangos fod Roger Williams yn gogwyddo yn fawr at Arminiaeth neu Belagiaeth, ac iddo hau yr egwyddorion hyny yn mysg pobl ei ofal yn Merthyr a Chefnarthen, yr hyn a achosodd ofid nid bychan, ac a derfynodd yn rhwygiad y ddwy eglwys yn mhen ychydig flynyddau ar ol ei farwolaeth ef. Ryw amser rhwng 1720 a 1725, rhoddodd yr eglwys yn Nghwmyglo alwad i Mr. James Davies, Llanwrtyd, i ymsefydlu yn eu plith fel cydweinidog a Mr. Roger Williams. Yr oedd James Davies yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn Nghymru, ac yn Galfiniad trwyadl o ran ei olygiadan. Yr ydym yn barnu mai y blaid Galfinaidd yn yr eglwys fu a'r llaw flaenaf yn ei ddewisiad ef, ac mai eu hamcan oedd gwrthweithio Arminiaeth Roger Williams. Wedi marwolaeth Williams, aeth y blaid Arminaidd i fethu cael bwyd enaid dan weinidogaeth Mr. Davies, ac i edrych allan am Arminiad i fod yn gydweinidog ag yntau. Dewisasant Mr. Richard Rees, gwr ieuange o'u plith eu hunain, yr hwn oedd newydd orphen ei amser yn athrofa Caerfyrddin. Urddwyd ef 1732' yn mhen dwy flynedd wedi marw R. Williams. Cafodd yr Arminiaid bob peth a ddymunent yn Richard Rees, fel y tystia Sion Llewellyn yn y llinellau canlynol:

(not extracted)

Fel hyn bu yr Arminiaid a'r Calfiniaid yn cael eu porthi yn nghyd yn yr un lle am bymtheng mlynedd; ond mae yn eithaf naturiol casglu fod llawer dadl boeth wedi bod rhyngddynt yn ystod y blynyddau hyny, ac o'r diwedd aeth yn rhy boeth arnynt i gydfyw fel yr ymrwygasant. Aeth y blaid Arminaidd allan ac adeiladodd gapel iddi ei hun ar Gefn-coed-y-cymer - y capel sydd yn awr yn meddiant yr Undodiaid. Cymerodd yr ymraniad le yn 1747. Yr oedd Sion Llewellyn, y prydydd, yn un o flaenoriaid y blaid Arminaidd. Yn y flwyddyn 1749, darfu i'r blaid a adewsid yn Nghwmyglo, dan ofal Mr. James Davies, gymeryd darn o dir cyfleus yn mhentref Merthyr, Ile yr adeiladasant gapel yr Ynysgau, i ba un y symudodd yr arch o hen addoldy Cwmyglo. Ya y ftwyddyn 1751, darfu i'r aelodau a breswylient y tu arall i'r mynydd yn Aberdar adeiladu capel ar Heolyfelin. Nid ydym yn barnu fod y rhai hyn yn Arminiaid, oblegid Owen Rees, gweinidog y Calfiniaid yn Mhentretygwyn, oedd y gweinidog cyntaf a ddewisasant. Er iddynt lithro yn raddol wedi hyny i Arminiaeth, Ariaeth, ac Undodiaeth. Y mae genym bob sail i farnu mai cyfleustra yr addolwyr oedd yr achos o'u hymadawiad oddiwrth Mr. James Davies a phobl yr Ynysgau, yn hytrach na gwahaniaeth golygiadau. Yn y flwyddyn 1750, yn fuan wedi agor capel yr Ynysgau, urddwyd Mr. Samuel Davies, yn gydweinidog a'i dad, Mr. James Davies. Os cafodd yr hen weinidog ofid wrth gydweinidogaethu yn Nghwmyglo a Mr. Richard Rees, mae pob lle i ddeall i'w ofid fod yn fwy mewn cysylltiad a'i fab yn yr Ynysgau. Yr oedd Samuel Davies, fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr Caerfyrddin yn yr oes hono, wedi ymwrthod a'r golygiadau Calfinaidd a gredid ac a bregethid gan ei dad, ac wedi cofleidio Arminiaeth. Darfu i'r hen wr yn ei henaint gydymddwyn ag Arminiaeth yn ei fab, yr hyn a wrthwynebai mor selog yn Richard Rees, a thrwy hyny collodd ei barch gyda'r Calfiniaid a'r Arminiaid. Mae yn ymddangos iddo dreulio blynyddoedd olaf ei fywyd yn lled anghyoedd a dinod, os nad yn ddiddefnydd hefyd; er iddo fod am dymor maith o'i fywyd yn un o'r gweinidogion Ymneillduol mwyaf enwog yn Ngbymru. Bn farw yn Ebrill, 1760. Parhaodd Mr. Samuel Davies yn weinidog yn yr Ynysgau hyd derfyn ei oes yn Mawrth 1781. Yr oedd y gynnulleidfa yn ei dymor ef yn lluosog iawn, ac yn cael ei gwneyd i fyny o brif deuluoedd y plwyf, ac amryw o'r plwyfydd cylchynol, ac er ei fod yn Arminiad hollol, nid ymddengys i nemawr o'i bobl ef, fel pobl Cefn-coed-y-cymer ac Aberdar, lithro i Ariaeth. Dilynwyd Mr. S. Davies gan Mr. Thomas Williams, mab Mr. David Williams, o'r Watford, ond ni bu ei arosiad ef yma ond tair blynedd. Ar farwolaeth ei dad symudodd i gymeryd gofal yr eglwysi yn Nghaerdydd a'r Watford. Canlyniedydd Mr. Williams oedd Mr. Daniel Davies, o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Medi 6ed, 1786. Arminiad oedd Mr. Davies o ran ei farn, ond nid ymddengys iddo fyned yn mhellach nag Arminiaeth, er mai yr Undodiaid oedd y bobl yr ymgyfeillachai fwyaf a hwy yn y rhan ddiweddaf o'i oes. Tua diwedd y ganrif ddiweddaf daeth amryw aelodau perthynol i'r Annibynwyr i Ferthyr, a chan nad oedd gweinidogaeth Mr. Davies yn yr Ynysgau yn ddigon bywiog ac efengylaidd at eu harchwaeth hwy, dechreuasant yr achos sydd yn awr yn Zoar, a chyda llwyddiant hwnw, lleihawyd y gynnulleidfa yn yr Ynysgau yn fawr. Gan fod Mr. Davies wedi priodi yn gyfoethog iawn, ac wrth weled fod addoldai Ymneillduol yn lluosog yn cael eu cyfodi o'i amgylch, yr hyn a deneuai ei gynnulleidfa ef yn feunyddiol, gwnaeth ei feddwl i fyny i ymadael o'r weinidogaeth yn nechreu y flwyddyn 1811, ac ar yr 20fed o Fawrth, yn yr un flwyddyn, cafodd Mr. Thomas Benjamin Evans, o athrofa Caerfyrddin, ei urddo yn ganlyniedydd iddo yn yr Ynysgau. Yn dra buan ar ol ei urddo dechreuodd Mr. Evans bregethu athrawiaeth fwy efengylaidd nag a bregethasid yn mhulpud Ynysgau er dyddiau Mr. James Davies. Cynhyrfodd hyny rai o'r hen deuluoedd perthynol i'r gynnulleidfa, y rhai a ogwyddent at Undodiaeth, yn mysg pa rai yr oedd ymddiriedolwyr y capel. Ceisiasant trwy gyfraith yn 1814, fwrw y gweinidog allan o'r lle, a chymeryd meddiant o'r capel i'r Undodiaid, ond ennillodd Mr. Evans y gyfraith a chafodd gadw ei le. Wedi hyny agorwyd cwyn cyfreithiol arall rhyngddo a'r ymddiriedolwyr. Yr oedd un John Williams, o Benydarran, yr hwn oedd yn aelod yn Nghwmyglo, wedi gadael yn ei ewyllys, dyddiedig Tachwedd 18fed, 1735, dir o dri ugain erw yn Mhenydarran, ac amryw dai yn mhentref  Merthyr, at gynaliaeth Mr. James Davies, gweinidog Cwmyglo, a'i olynwyr. Cafodd cynyrch y tir a'r tai ei dalu yn flynyddol i weinidogion yr Ynysgau hyd amser Mr. Evans, pryd y cymerodd yr ymddiriedolwyr eu rhyddid i ranu yr arian rhwng gweinidogion yr Undodiaid yn Aberdar a Chefn-coed-y-cymer, yn gystal a gweinidog yr Ynysgau, dan yr esgus fod ganddynt hwy gystal hawl ynddynt ag oedd gan weinidog yr Ynysgau, yn gymaint mai at yr achos yn Nghwmyglo yr oedd yr eiddo wedi ei adael, a bod Aberdar ar Cefn yn ganghenau o'r hen eglwys hono yr un fath a'r Ynysgau. Ar ol llawer o ymgyfreithio bu raid i'r ymddiriedolwyr roddi ffordd a gadael y gwaddol i weinidogion yr Ynysgau yn unig. Mae y gwaddol hwn yn bresenol, os nad ydym yn camgymeryd, rhwng haner cant a thriugain punt yn y flwyddyn.

Am y deg neu y pymtheng mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth yr oedd Mr. Evans yn barchus a thra phoblogaidd yn Merthyr, ond yn ei flynyddau diweddaf ymollyngodd yn dost nes iddo fyned yn ddiddawn, yn ddiddefnydd, ac yn ddibarch, fel gweinidog yr efengyl, er y parheid hyd derfyn ei oes barchu a'i anwylo yn fawr fel dyn a chymydog hynaws a charedig. Yn ei flynyddau olaf ef yr oedd yr eglwys a'r gynnulleidfa wedi myned yn agos i'r dim. Ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth aeth tua haner cant neu ychwaneg o aelodau o Zoar yno, ac yn eu plith Mr. Rosser Beynon. Bu hyny yn foddion i gyfodi yr hen le megis o farw yn fyw, ac i ddarparu yno rywbeth teilwng o'r enw eglwys erbyn y buasai amgylchiadau yn gofyn am ddewis canlyniedydd i Mr. Evans. Bu Mr. Evans farw yn Chwefror, 1851. Yn niwedd hanes ei farwolaeth a'i gladdedigaeth yn. Niwygiwr 1851, tu dal. 96, dywed Mr. Rosser Beynon, gyda golwg ar sefyllfa yr achos yn yr Ynysgau: - "Mae yn dda genym allu hysbysu fod golwg obeithiol iawn ar yr achos yn y lle hwn yn bresenol. Mae yr Ysgol Sabbothol yn dra blodeuog yma eisioes, rhif canolig pa un sydd tua 200. Yn ol yr arwyddion presenol bydd yn angenrheidiol helaethu lle y babell, ac estyn cortynau y preswylfeydd yn fuan."

Wedi byw ar weinidogaeth achlysurol hyd haf y flwyddyn 1852, rhoddwyd galwad i Mr. James Morris, o athrofa Aberhonddu, yr hwn a urddwyd yma Gorphenaf 14eg, 1852. Ni bu ei arosiad ef yma ond byr. Yn y flwyddyn 1855, barnodd fod cynesach lle yn Eglwys Waddoledig Lloegr nag yn hen eglwys waddoledig yr Ynysgau, ac felly ymofynodd am urddau esgobol, yr hyn a gafodd. Nid oes a fynom ni a 'i hanes yn mhellach. Yr unig beth o bwys a wnaed yn yr Ynysgau yn nhymor gweinidogaeth Mr. Morris, oedd tynu yr hen gapel adfeiliedig i lawr, ac adeiladu y capel prydferth presenol. Gwnaed hyn yn 1853, ac ar Sul, Mawrth, a Mercher, y Pasg, 1854, agorwyd y capel newydd. Pregethwyd ar yr achlysur gan Meistri D. Rees, Llanelli; D. Stephens, Glantaf; J. Morris, athraw athrofa Aberhonddu; W. Morgan, Caerfyrddin; N. Stephens, Sirhowy; J. Evans, Capel Seion; J. Davies, Cwmaman; M. Ellis, Mynyddislwyn, ac eraill. Mae y capel hwn yn adeilad cadarn, prydferth, a chyfleus.

Yn haf 1856, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Jones, Myddfai, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Medi 1af a'r 2i1, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd yn y cyfarfodydd hyn gan Meistri J. Thomas, Glynnedd; W. Thomas, Rock; J. Thomas, D. Price, a W. Edwards, Aberdar; J. Davies, Aberaman; J. B. Jones, B.A., Hermon; Dr. Thomas, Stockwell, ac eraill. Bu Mr. Jones yma yn barchus a defnyddiol iawn hyd y flwyddyn 1861, pryd y symudodd i Langadog a Tabor, sir Gaerfyrddin. Yn 1860, cafodd yr eglwys hon, fel y rhan fwyaf o eglwysi y dref a'r ardal, deimlo awelon bendithiol y diwygiad crefyddol a ymdaenodd dros yr holl wlad yn flwyddyn hono a'r un flaenorol. Derbyniwyd yma amryw ugeiniau, a chafwyd yma oedfaon nodedig o wlithog. Cyn diwedd y flwyddyn 1862, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Price Howell, Pwllheli, yr hwn a lafuriodd yma gyda derbyniad a chymeradwyaeth hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pryd y symudodd i Four Crosses, Ffestiniog; ac y mae yr eglwys hyd etto heb sefydlu ar olynydd iddo.

Yr ydym wedi dilyn hanes hen eglwys Ynysgau o'i dechreuad hyd yr awr hon; a'r helbulon mawrion yr aeth drwyddynt, ac y mae yn llawen genym ddeall er y cwbl fod golwg mor lewyrchus arni yn bresenol. Mae yn sicr i lawer o gymeriadau hynod fod ynddi o bryd i bryd, ond nid oes enwau ond ychydig o honynt wedi treiglo hyd atom ni.

Yr ydym eisioes wedi crybwyll enw a dyfynu ychydig o brydyddiaeth Sion Llewellyn, ond gan ei fod yn gymeriad mor hynod, ac iddo gymeryd rhan mor amlwg yn y ddadl Arminaidd, yr hon a rwygodd yr eglwys hon yn 1747 ni byddai yn anmhriodol rhoddi ychydig o'i hanes. Ar Gefn-coed-y-cymer, yr oedd yn byw. Dywedir mai gof ydoedd wrth ei alwedigaeth. Derbyniwyd ef yn aelod yn Nghwmyglo yn 1711, a bu farw Ionawr laf, 1776, yn 85 oed. Claddwyd ef wrth hen gapel Cefn-coed-y-cymer, ac y mae y penill canlynol ar ei feddfaen: -

(not extracted)

Cyfansoddodd lawer o ganiadau a phenillion, gan mwyaf oll ar faterion crefyddol, ac yn benaf mewn amddiffyniad i'w olygiadau Arminaidd ei hun, ac i ddiraddio y Calfiniaid. Mae rhai ergydion barddonol yn ei gyfansoddiadau, ond mae ei iaith yn wallus a thrwsgl. Nis gwyddom pa bryd y cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o'i waith, ond cafodd yr ail argraffiad ei gyhoeddi yn 1772, yn llyfryn deuddeg plyg, o 60 o dudalenau, yn cynwys ugain o ganiadau a deg o emynau. Ddeugain mlynedd yn ol nid oedd nemawr o hen wr na hen wraig yn mysg trigolion gwreiddiol Merthyr, y Faenor, Aberdar, a Gelligaer, nad allasent adrodd y rhan fwyaf o benillion Sion Llewellyn. Bu ei waith yn rhyfeddol o boblogaidd am lawer o flynyddau, ac y mae yn ddiameu i'w rigymau ef wneyd mwy at daenu Arminiaeth yn Merthyr a'r cylchoedd na holl bregethau Roger Williams, Richard Rees, a Samuel Davies. Dywedir fod Sion Llewellyn yn weithiwr anghyffredin ac yn fwytawr digyffelyb. Pan y byddai yn myned allan yn amser y cynheuaf i ladd gwair ac ýd, byddai yn gwneyd gwaith tri dyn ac yn bwyta bwyd tri o ddynion. Mae yn mysg caniadau Sion Llewellyn rai penillion rhagorol iawn. Cymerer y dyfyniadau canlynol o'i anerchiad i'w wraig yn ei chystudd, fel engraifft: -

(not extracted)

Mae yn ddiameu i lawer o bregethwyr gyfodi yn yr hen eglwys hon, and hyd ddechreuad y ganrif bresenol nid ydym wedi dyfod o hyd i enwau neb o honynt and Richard Rees a Samuel Davies, y rhai y rhoddir eu hanes yn mysg y gweinidogion. Yn y ganrif bresenol, y rhai canlynol yn unig a gyfodwyd yma, cyn belled ag y gwyddom ni:

COFNODION  BYWGRAPHYDDOL (Not extracted fully)

Gan ei bod yn debygol i'r achos hwn ddechreu mor foreu a'r flwyddyn 1620, mae yn dra sicr fod yma weinidog neu weinidogion wedi bod nad ydyrn ni wedi gallu dyfod o hyd i'w henwau. Y cyntaf y mae genym ni hanes am dano yw,

HENRY WILLIAMS, neu Harry William Thomas, fel y galwai ei erlidwyr ef. Nid oes genym ond y peth nesaf i ddim o hanes am dano ef. Mae yn dra sicr mai yr un gwr oedd ef a'r Henry Williams a drowyd allan o Eglwys blwyfol Llantrisant gan Ddeddf Unffurfiaeth yn 1662. ........................

HENRY MAURICE. Mab ieuengaf Griffith Maurice o Methlan, yn Lleyn, sir Gaernarfon, oedd ef. Cafodd ei dderbyn i Goleg yn Rhydychain, Yn y flwyddyn 1652. Treuliodd ei febyd a i ieuengctyd yn wyllt ac anystyriol, ac yr oedd yn un balch a gwag ogoneddgar iawn am rai blynyddau wedi iddo ddechreu pregethu. ............................

ROGER WILLIAMS. Nid oes genym nemawr o ddim hanes am dano ef. Mae lle ei enedigaeth, a hanes boreuol ei fywyd yn gwbl anhysbys i ni. Mae yn dra thebyg mai yn ysgol Mr. Rees Prytherch, Ystradwalter, y derbyniodd ei addysg. Urddwyd ef yn weinidog i'r eglwysi yn Merthyr, a Chefnarthen, sir Gaerfyrddin, yn 1698, .........................

JAMES DAVIES. Dywedir mai un genedigol o Lanedi, sir Gaerfyrddin, oedd ef. Mae amser ei enedigaeth yn anhysbys i ni. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Caerfyrddin yn amser Mr. W. Evans. Urddwyd ef yn weinidog yr eglwysi yn Llanwrtyd a Throedrhiwdalar tua'r ftwyddyn 1712. ...............................

RICHARD REES. Nid ydym yn gwybod pa bryd y ganwyd ef. Aelod gwreiddiol o'r eglwys hon ydoedd. Yr oedd yn byw ar ei dir ei hun, sef y Gwernllwynuchaf, ac yn berchen amryw diroedd eraill. Addysgwyd ef yn athrofa Caerfyridin yn amser Mr. Parrot. Ar derfyniad ei amser dychwelodd adref, ac urddwyd ef tua'r flwyddyn 1732, .......................

SAMUEL DAVIS. Yr oedd ef yn fab i Mr. James Davies, y gweinidog. Dywed Mr. Thomas Morgan, o Henllan, yr hwn oedd yn gydfyfyriwr ag ef yn athrofa Caerfyrddin, am dano fel y canlyn: - "Gwr ieuangc difrifol, yn meddu cymhwysderau rhagorol at y weinidogaeth. Urddwyd ef yn Merthyr i fyned yn weinidog i King's Wood, yn Wiltshire, yn 1746. Pregethwyd yn ei urddiad gan Mr. George Palmer, Abertawy, a Mr. David Thomas, Castellnedd. Wedi bod dair blynedd yn King's Wood, dychwelodd i Ferthyr, yn 1750, i gynorthwyo ei dad, ac i ymdre .........................

THOMAS WILLIAMS. Gweler ei hanes yn nglyn ag eglwys y Watford.

DANIEL DAVIES. Yr oedd ef yn fab i Mr. James Davies, un o weinidogion yr eglwysi yn Abermeurig, Blaenpenal, Cilgwyn, &c., ac yn frawd i Mr. Evan Davies, Llanedi. Efe oedd yr ieuengaf o wyth o blant - pum' mab a thair merch. Ganwyd of yn mis Mehefin, 1760, yn y Dyffryn-llwyn-ddol, yn agos i Landysul, yn sir Aberteifi. ......................

THOMASS BENJAMIN EVANS. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Llygadenwyn, yn mhlwyf Llanybydder, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1787. .............

        


EBENEZER, LLANILLTYD FAWR  (Llantwit Major parish)

Return to top

(Vol 2, p 242)

Mae llawer o enwogrwydd hanesyddol yn perthyn i'r lle henafol hwn. Os gwir y traddodiad, mai yma y glaniodd y llong a ddygodd y Cenhadau Cristionogol cyntaf i Frydain, y mae rhyw fri yn perthyn i'r lle tuhwnt i bob lle arall yn y deyrnas gyfunol. Ond nid oes dim yn nodedig o ddymunol yn nglyn a hanes yr eglwys Annibynol yma. Yr ydym yn cael yn nghofnodion llys Esgobol Llandaf, fod un Nicholas Stokes wedi trwyddedu tý Pierce Clark yn y dref hon at gynal addoliad Presbyteriaid, Hydref 17eg, 1754. Yr oedd enwau Annibynwyr a Phresbyteriaid y pryd hwnw yn cael eu harfer fel geiriau cyfystyr yn Nghymru, a chan nad oedd Undodiaid, y rhai tua diwedd y ganrif ddiweddaf a'u galwent eu hunain yn Bresbyteriaid, i'w cael yn y dywysogaeth yr amser hwnw, yr ydym yn casglu mai Annibynwyr, neu Ymneillduwyr uniawngred, oedd y bobl hyn. Ar yr un dydd ag y trwyddedwyd tý, Clark yn Llanilltyd, cafodd tý Richard David, yn Llancarfan, hefyd ei drwyddedu gan yr un bobl. Nid ydym yn gwybod pa cyhyd y bu yr achos hwn fyw, ond mae yn amlwg ei fod wedi diflanu cyn dechreu y ganrif bresenol. Yn y flwyddyn 1815, darfu i Mr. Watkin Watkins, yr hwn oedd yn weinidog cynnulleidfa fechan o Annibynwyr yn St. Donnett's, tua dwy filldir o Llanilltyd, brynu hen anedd-dy, a gardd helaeth, yn Calhne Street, yn nhref Llanilltyd, a chyfaddasodd ef i fod yn dý addoliad. Hwn oedd yr unig addoldy Ymneillduol yn y dref ar y pryd. Wedi cael yr addoldy yn barod, dechreuodd Mr. Watkin Watkins bregethu ynddo, a chasglodd gynnulleidfa dda. Ymddangosai pob peth yn obeithiol am dymor, ond yn mhen rhyw gymaint o amser ymddyrysodd y gweinidog yn ei amgylchiadau, ac ymadawodd a'r ardal. Wedi hyny cauwyd y capel i fyny, ac ymwasgarodd y bobl. Aeth rhai o'r aelodau i Bethesda, a rhai at enwadau eraill. Bu y capel am rai blynyddau ar rent gan y Bedyddwyr, a buasent yn ei brynu oni buasai i rai o weinidogion y sir, megis Hughes, Groeswen; Jones, Penybont; Evans, Mynyddbach, ac eraill, sefyll yn groes i'w werthu. Tua y flwyddyn 1832, penderfynodd eglwysi y sir gynal cenhadwr yn y. Fro, ac i Lanilltyd fod yn brif arosfa iddo. Bu Mr. John Lewis, wedi hyny o Taihirion, yma am dymor, a dilynwyel ef am ychydig amser gan Mr. David Phillips, mab Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Yn nghapel Llanilltyd yn benaf y pregethent. Ni fu nemawr o lewyrch ar yr anturiaeth. Cauwyd y capel drachefn am lawer o flynyddau, a dadfeiliodd i'r fath raddau nes nad oedd yno ddim ond muriau moelion. Mewn cyfarfod chwarterol a gynaliwyd yn Nghaerphili yn Awst 1855, anogwyd Mr. Morgans, Bethesda, i ymgymeryd a'r gorchwyl o adgyweirio y capel a cheisio ail gychwyn achos ynddo. Addawodd yntau wneyd hyny ar yr amod i Mr. Rees, Groeswen, a Mr. Williams, Caerdydd, addaw bod yn gyfrifol gydag ef am y draul, yr hyn a wnaethant. Aed at y gwaith o adgyweirio, yr hyn a gostiodd 98p. 15s. Ond erbyn fod y gwaith wedi ei orphen, yr oedd Mr. Rees a Mr. Williams wedi myned i ffordd yr holl ddaear, a disgynodd y baich o dalu y ddyled yn gwbl ar Mr. Morgans ei hun. Casglodd yr arian oll mewn dwy flynedd, ac er y pryd hwnw hyd yn awr y mae gwasanaeth crefyddol rheolaidd yn cael ei gynal yma gan weinidog ac aelodau Bethesda. Yn ddiweddar darfu i'r eglwys yn Bethesda fyned i'r draul ychwanegol o 60p. mewn adgyweiriadau angenrheithol yma. Yr unig ffordd i gyfodi achos effeithiol yn y lle hwn yw troi y gwasanaeth yn hollol i'r iaith Saesonaeg, gan fod achosion Cymreig yma yn barod gan y Bedyddwyr, y Methodistiaid Calfinaidd, a'r Wesleyaid, a bod y rhan fwyaf o ieuengctyd y dref a'r gymydopeth yn hoffach o'r Saesonaeg nag o'r Gymraeg. Pe gellid cael pregethwr da a gweithgar yma, gellid casglu cynnulleidfa luosog i addoli yn yr iaith Saesonaeg. Mae y capel a'r fynwent yn eiddo i'r enwad Annibynol dros byth, a gresyn na wnelid y defnydd goreu o hono.*

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WATKIN WATKINS. Mae yn debyg mai yn ardal Castellnedd y ganwyd ef, ond nid ydym wedi gallu cael allan flwyddyn ei enedigaeth. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys yn Maesyrhaf, ryw amser wedi dechreuad gweinidogaeth Mr. Bowen yno. Saer ydoedd wrth ei alwedigaeth. Efe ydoedd adeiladydd capel Melinycwrt. Dechreuodd bregethu yn 1799. Yn yr amser y dechreuodd ef bregethu y clowyd Mr. Bowen a'i gynnulleidfa allan o'r capel gan yr Undodiaid, a phan orchymynodd yr ynadon dori y cloion, Watkin Watkins a gyfiawnodd y gorchwyl. Yn lled fuan wedi iddo ddechreu pregethu, priododd a merch Hendregradog, yn mhlwyf Cilybebyll, ac aeth i fyw i Danygrugos, rhwng Castellnedd a Phontrhyd-y-fen. Wedi bod yn bregethwr cynorthwyol derbyniol am rai blynyddau, casglodd gynnulleidfa fechan yn St. Dynwyd, neu Donnetts, yn agos i Lanilltydfawr, ac urddwyd ef yno tua y flwyddyn 1809. Bu ei lafur yma yn dra llwyddianus, ond gorfodwyd ef gan ragfarn esgobyddol perchenog y rhan fwyaf o'r plwyf i roddi heibio bregethu yma. Yna symudwyd yr achos i Lanilltydfawr tua y flwyddyn 1814, ac yn 1815, agorwyd y capel yno. Yn fuan wedi hyny aeth amgylchiadau Mr. Watkins yn ddyryslyd, o herwydd anrhefn ac esgeulusdod ei wraig fel y tybir, yr hyn a'i gorfdodd i ymadael a'r ardal. Bu wedi hyny yn byw am rai blynyddau yn ardal Pontypool. Pregethai yn achlysurol, ond ymddibynai am ei gynaliaeth ar ei gelfyddyd fel saer. Efe a adeiladodd gapel Sardis ar y Farteg. Tua y flwyddyn 1829, ymfudodd i'r America. Bu farw yno, ond nis gwyddom pa bryd, a chladdwyd ef yn mynwent capel Pabyddol yn rhyw le yn nghymydogaeth mynyddoedd yr Alleghany.

Dywed y rhai sydd yn ei gofio fod Watkin Watkins yn ddyn crefyddol iawn, ac er na chyfrifid ef yn bregethwr mawr, yr oedd yn llefarwr gwresog, buddiol, a phoblogaidd. Yr oedd ei lais yn doddedig a hytrach yn gwynfanus, ond yn dra effeithiol. Bu yn lled gyhoeddus fel pregethwr o 1809 hyd 1816. Byddai yn pregethu yn aml yn y cymanfaoedd yn y blynyddoedd hyny. Dywedir hefyd ei fod yn un adeiladol iawn mewn cyfeillach crefyddol.+

* Llythyr Mr. Morgans, Bethesda. + Llythyr Mr. Grifffiths, Alltwen.

  


TRESIMWN  (Bonvilston parish)

Return to top

(Vol 2, p 243)

Saif yr addoldy hwn - yr hwn a elwir Carmel - ar dwyn iachus gerllaw pentref Tresimwn; ar y llaw ddeheu wrth fyned o Bontfaen i Gaerdydd. Dechreuwyd yr achos yma yn benaf trwy lafur Mr. Benjamin Morgan, yr hwn oedd yn weinidog yn Llansantffraid ar y pryd, ond ni bu yma yn hir, canys darfu ei gysylltiad a'r weinidogaeth ac a chrefydd yn fuan.

Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1834, a dywedir i'r draul fyned yn ddau cymaint ag y dylasai, yr hyn a fu yn hir yn boen a blinder. Cymerodd Mr. John Davies ofal yr achos mewn cysylltiad a Llantrisant, a bu yn cyrchu  yma am dair blynedd, hyd nes y symudodd i Aberdar. Bu yn llwyddianus i gasglu cynnulleidfa, ond yr oedd y ddyled yn parhau.

Rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Jones, yr hwn oedd ar y pryd yn yr ysgol yn Llanboidy, ac urddwyd ef yma Gorphenaf 26ain a'r 27ain, 1837, a bu yma am dair blynedd, ac yna symudodd i gymeryd gofal yr eglwys yn Bethesda, Merthyr. Yn 1841, rhoddwyd galwad i Mr. Rees Evans, yr hwn a fuasai yn yr ysgol yn Mhenywaun, a bu yma am chwe' blynedd; ond isel iawn oedd yr achos yn ei dymor ef, a'r ddyled yn parhau i lethu yr achos. Bu Mr. Evans allan yn casglu, ond ychydig dalwyd o'r ddyled, o'r diwedd rhoddodd yr eglwys i fyny ac ymfudodd i America. Nid oedd odid gynadledd yn nglyn a chyfarfod chwarterol na chymanfa nad oedd dyled Cannel ger bron. Gwasgai y gofynwyr ar y meichnion, a gwasgai y meichnion ar y gweinidogion, oblegid yr oedd y llog yn ychwanegu at gorph y ddyled. Digalonodd yr ychydig gyfeillion yn y lle gymaint ar un adeg fel y penderfynwyd gwerthu y capel i'r Bedyddwyr; ond wedi trefnu i gyfarfod yn y capel ar noswaith benodedig i wneyd hyny, nid oedd un agoriad i'w gael i fyned i mewn. Yr oedd un hen chwaer gynes ei chalon wedi clywed am y bwriad, a chuddiodd yr agoriad; a chan na allwyd myned i mewn y noson hono ni wnaed ail gynyg ar ei werthu. Yn y flwyddyn 1850, dechreuodd Mr. James Thomas ei ymweliadau yn lled reolaidd a'r lle, a chyn hir derbyniodd alwad gan yr ychydig aelodau oedd yma yn aros. Nid oeddynt ond pedwar-ar-ddeg o nifer, a'r rhai hyny yn dlodion, a 160p. o ddyled ar y capel, a chymeriad y lle i fesur mawr wedi ei golli; ond ymroddodd Mr. Thomas a'i holl egni i godi yr achos. Gweithiai a'i ddwylaw yn galed trwy yr wythnos er gweini i'w cyfreidiau; ac nid oedd yr hyn a dderbyniai gan yr eglwys ar y dechreu yn werth ei gyfrif. Urddwyd ef Ebrill 20fed a'r 21ain, 1853. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. D. Williams, Caerdydd; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Evans, Cymer; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. M. Morgans, Bethesda; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Evans, Maendy, ac i'r eglwys gan Mr. W. Griffiths, Llanharan. Ymroddodd Mr. Thomas a'i holl egni i dalu y ddyled; cerddodd y wlad o dý I dý gwerthodd docynau Tea Parties a darlithiau, a chydweithredai yr eglwys a'r ardal yn galonog gydag ef, heb flino na chymanfa na chyfarfod chwarterol. Gwnaed adgyweiriadau yn y capel, gan ei fod wedi myned yn adfaeliedig, yr hyn a gostiodd gryn swm, ac erbyn dechreu y flwyddyn 1861, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, a chadwyd yma gyfarfod i gydlawenhau am hyny. Cynyddodd yr eglwys yn raddol er sefydliad Mr. Thomas yma; ond yn y flwyddyn 1860, cafwyd yma ddiwygiad grymus, pryd yr ychwanegwyd ugeiniau at yr eglwys, ac y mae yr achos yn parhau yn gryf a llewyrchus.

  


BETHESDA-Y-FRO (Llantwit Major parish)

Return to top

(Vol 2, p 233)

Mae y capel hwn yn mhlwyf Llanilltydfawr, yn Mro Morganwg. Cafodd yr achos yma ei ddechreuad dan yr amgylchiadau canlynol : - Yr oedd eglwys gymysg o Annibynwyr a Methodistiaid yn Aberthyn, yn agos i'r Bontfaen, er cychwyniad cyntaf Methodistiaeth, a thebyg fod yno gynnulleidfa fechan o Annibynwyr flynyddau cyn hyny. Cydaddolai y ddau enwad yn heddychol yn y lle hwnw hyd nes i derfysg gyfodi yn mysg y Methodistiaid o berthynas i olygiadau Mr. Peter Williams. Yr oedd amryw o aelodau yr eglwys yn Aberthyn yn bleidiol i Mr. P. Williams, ac o herwydd fod mwyafrif eu cydaelodau yn ei gyfrif ef a'i bleidwyr yn Sabeliaid, ac felly yn gyfeilioniwyr peryglus, cymerodd ymraniad le yn yr eglwys, ac aeth pleidwyr P. Williams allan. Gan fod infer o'r rhai mwyaf dylanwadol yn eu mysg yn byw ran milldiroedd yn nes i waelod y fro nag Aberthyn, darfu iddynt drwyddedu tý yn y Brittwn, agos i Aberddawen, at gynal gwasanaeth crefyddol. Yn 1797, trwyddedwyd ty yn mhentref Aberthyn, a thy Thomas Williams, yn mhlwyf Penmark, er cyfleustra yr aelodau a gyfaneddant yn yr ardaloedd hyny.* Ond ymddengys mai y Brittwn oedd eu prif le cyfarfod, a bod eglwys Annibynol wedi ei chorpholi yno cyn hyny. Nid oedd yr eglwys hon y pryd hwnw, nac am flynyddan wedi hyny, yn dal cysylltiad ag un enwad o grefyddwyr. Ystyrid hwy gan yr Annibynwyr, y Methodistiaid, a'r Bedyddwyr, yn gyfeiliornwyr, o herwydd eu bod yn dal golygiadau Peter Williams o berthynas i athrawiaeth y Drindod, er eu bod yn hollol iachus ac efengylaidd eu golygiadau ar bob pwngc arall. Y ddau frawd mwyaf eu galluoedd a'u dylanwad yn y gymdeithas hon oedd Mr. John Williams, St. Athan, a Mr. Thomas Williams, o Ffonmon, yn mhlwyf Penmark. Yn Y flwyddyn 1798, dewiswyd Mr. Thomas Williams gan y frawdoliaeth yn weinidog, ac urddasant ef eu hunain. Cofnodwyd hanes yr urddiad gan Mr. John Williams. Yr hyn a ganlyn sydd gopi o'i lawyagrifen : -"Heddyw y trydydd dydd o fis Mehefln, 1798, y dewiswyd trwy gydsyniad yr eglwys sydd yn cyfarfod yn benaf yn y Brittwn, plwyf Penmark, sir Forganwg, ac y neillduwyd y Parch. Thomas Williams i gyflawn waith y weinidogaeth trwy gyfodiad dwylaw yr henuriaid yn nghyd ag ympryd a gweddi. Ac os bydd i neb yn gyhoeddus neu yn ddirgel ddyweyd dim yn erbyn ein ffordd o ordeinio, pell y byddom rhag rhoi barn galed ar neb o'n gwrthwynebwyr gan ein bod yn dymuno dilyn heddwch a phawb a sancteiddrwydd. JOHN WILLIAMS, St. Athan. Ar ddymuniad yr holl eglwys heb neb yn tynu yn groes.

D.S. - Mae y ffordd uchod o ordeinio i'w gweled yn y llyfr a elwir Gospel Church, gan Dr. Owen; hefyd yn llyfr Dr. Chancey ar Ddysgyblaeth; hefyd dyna fel yr ordeiniwyd Morgan John, gweinidog cyntaf y New Inn.

John WILLIAMS, St. Athan."

Felly yr urddwyd Thomas Williams. Er ein bod yn hollol ffieiddio athrawiaeth yr Olyniad Apostolaidd, fel dychymyg Pabyddol ac au-

Ysgrythyrol, etto nis gallwn lai nag edrych ar ymddygiad yr eglwysi hyny a gymerant y gwaith o urddo eu gweinidogion i'w dwylaw eu hunain, heb alw am gymorth a chydweithrediad gweinidogion eglwysi eraill, ond fel peth hollol afreolaidd, anfrawdol, ac o duedd ymarferol ddrwg. Ein barn ni yw, barned eraill drostynt en hunain, mai yr hyn a ddysga y Testament Newydd ar y pen hwn ydyw, mai gan yr eglwys yn unig y mae yr hawl i ddewis ei gweinidogion, ond mai gan weinidogion, a gydnabyddir gan y cyhoedd fel y cyfryw, yn unig y mae yr hawl i'w neillduo yn gyhoeddus i'w swydd. Ystyriwn hyn yn ddarbodaeth ddoeth iawn er atal dynion amddifaid o'r galluoedd a'r cymeriadau gofynedig, i ymruthro i waith pwysig y weinidogaeth. Gall amgylchiadau gyfiawnhau eithriadau i'r rheol hon, a dichon fod amgylchiadau Mr. Williams a'i eglwys ar y pryd yn cyfreithloni yr hyn a wnaethant. Yr oeddynt ar eu penau en hunain heb fod yn perthyn i un enwad crefyddol, wedi ymadael a'r Methodistiaid, ac heb gynyg eu hunain i gyfundeb yr Annibynwyr, ac felly nid oedd ganddynt eglwysi o'r un enwad a hwy eu hunain i ymgynghori a hwynt, ac i ofyn eu cydweithrediad. Buont o ddechreuad yr achos hyd 1814 ar eu penau eu hunain; ond byddai ambell i bregethwr perthynol i'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr yn ymweled a hwy weithiau ar eu cais. Yn mhen amser gwnaeth Mr. Williams gyfeillion mynwesol o amryw o weinidogion yr Annibynwyr; mynychai eu cyfarfodydd cyhoeddus, a gwahoddai hwythau i gynal cyfarfodydd yn ei addoldy ef, ac felly aeth ef a'i bobl o radd i radd i gael eu cyfrif yn weinidog ac eglwys Annibynol. Yn nghymanfa y Maendy yn 1814, derbyniwyd hwy i'r cyfundeb. Yn y Brittwn y parhawyd i addoli hyd 1806, pryd y cawsant ddarn o dir yn agos i'r Fisher's Bridge, yn mhlwyf Llanilltydfawr, gan Charles Redwood, Ysw., ac adeiladwyd capel arno, yr hwn a alwyd Bethesda. Yr oedd Mr. Redwood, y gwr a roddodd y tîr, yn aelod o'r eglwys, ac yn pregethu yn achlysurol. Agorwyd y capel yn mis Mehefin, 1806, pryd y pregethwyd gan Mr. Redwood, yn Saesoneg, oddi wrth Esaiah xxvi. 2, a Mr. Thomas Williams, y gweinidog, yn Gymraeg, oddiwrth Gen. xxviii. 17. Nis gwyddom pa faint oedd traul adeiladaeth y capel, ond talwyd y cwbl gan y gynnulleidfa ei hun cyn dydd yr agoriad. Wedi cael y capel yn barod, parhaodd Mr. Williams i weinidogaethu ynddo am oddeutu dwy-flynedd-ar-hugain. Pan y bu farw ei wraig yn niwedd y flwyddyn 1827, effeithiodd yr amgylchiad gymaint ar ei feddwl a'i iechyd fel y penderfynodd roddi y weinidogaeth i fyny, ac anog yr eglwys i edrych am weinidog yn ei le ef. Yn yr alargân a gyhoeddodd ar ol ei briod yn nechreu 1828, adolyga ei fywyd gweinidogaethol, a chwyna yn dost o herwydd ei aflwyddiant. Dichon ei fod yn mhrudd-der ei feddwl yn achwyn mwy nag a ddylasai am ei aflwyddiant. Fel y canlyn y dywed: -

(not extracted)

Mae yn sicr na fu Mr. Williams yn gwbl mor aflwyddianus yn ei lafur ag y prudd-ddesgrifia yn y penillion hyn, canys cadwodd o'i gylch trwy ei oes gynnulleidfa fechan o'r dynion mwyaf gwresog fel addolwyr yn Nghymru; ond mae yn wir, a chymeryd gwahanol amgylchiadau dan ystyriaeth, mai cymharol aflwyddianus fu ei lafur. Ar ddechreuad yr achos ymunodd amryw deuluoedd cyfrifol, mewn bro fras a phoblog, i sefydlu cynnulleidfa, a dewisasant o'u plith eu hunain ddyn parchus, cyfoethog, hardd, a boneddigaidd, o feddwl galluog, ac ymadroddwr ffraeth a doniol iawn, i fod yn fugail arnynt. Ond wedi "hau, a hau drachefn," am ddeg-ar-hugain o flynyddau, cwynai yn dost wrth roddi ei waith i fyny, mai "braidd eginyn oedd yn fyw. ' Pa fodd yr ydym i gyfrif am hyn? Y Gallasem yn naturiol ddisgwyl, wrth ystyried amgylchiadau yr ardal a chymeriad Mr. Williams, y buasai yn mhen deng-mlynedd-ar-hugain, yn cael ei gylchynu gan eglwys o bump i chwe' chant o aelodau gweithgar a bywiog, ond gadawa hwynt yn llai na hyny o ugeiniau o rif. Tebyg y gallasai rhai mwy adnabyddus o Bethesda a'r ardal nag yr ydym ni, roddi amrywiol resymau i gyfrif am hyn; ond tybiwn y gwyddom ni am un o brif achosion yr aflwyddiant, os nad y penaf o honynt, a dyna fe  - Esgeulusdod o ddyledswydd grefyddol bwysig, sef cyfranu arian at gynnaliaeth yr achos. Nid oedd amgylchiadau Mr. Williams yn gofyn am gyfraniadau yr eglwys at ei gynaliaeth; ac yn y casgliadau achlysurol at fan dreuliau yr achos, efe ei hun oedd y prif gyfranwr, ac felly cafodd yr aelodau a'r gwrandawyr eu gadael trwy yr holl flynyddau heb gyfranu ond y peth nesaf i ddim at achos y Gwaredwr. Os na all gweinidog gael gan ei bobl gyfranu eu harian hyd eithaf eu gallu at gynhaliaeth yr achos, bydd ei weinidogaeth mor sicr o fod yn aflwyddianus, a phe byddai ei holl eglwys yn ddiweddi. Mae hwn yn haeriad pwysig, ond tybiwn na raid myned allan o Gymru i gael ugeiniau o ffeithiau a brofant ei wirionedd. Os na bydd gweinidog yn sefyll mewn angen o gyfraniadau ei bobl at ei gynaliaeth, etto dylai eu derbyn, ac ni cha' un drafferth i gael digon o leoedd i'w rhoddi allan er lledaeniad crefydd yn y byd. Camgymeriad mawr yw tybied mai caredigrwydd mewn gweimdogion cyfoethog yw peidio derbyn arian gan eu heglwysi. Creulondeb ydyw mewn gwirionedd, oblegid ni lwydda un eglwys byth os na fydd ei chrefydd yn costio dim iddi. Am bob eglwys a nychwyd wrth gyfranu mwy na'i gallu, y mae mil wedi eu nychu wrth gyfranu llai na'u gallu.

Er y mynai Mr. Williams roddi y weinidogaeth i fyny yn 1828, o herwydd ei lesgedd a'i anallu i bregethu, ni foddlonai y bobl ollwng eu gafael ynddo. Ar y 19eg o Fawrth, 1829, urddwyd Mr. Edward Williams, mab Mr. David Williams, gweinidog gyda'r Methodistiaid yn Merthyr, yn gynorthwywr iddo. Ni bu arosiad Mr. Williams yma ond llai na dwy flynedd.Symudodd i Main a Meifod, sir Drefaldwyn. Wedi ei ymadawiad ef bu yr eglwys yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd 1836, pryd y rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Morgan Morgans, Blaenafon, Mynwy. Mae Mr. Morgans yn parhau yma hyd y dydd hwn yn barchus a defnyddiol. Nid oes yn awr ond dau neu dri yn fyw o'r aelodau oeddynt yn rhoddi galwad i Mr. Morgans, ond y mae yr Arglwydd wedi cyfodi eraill i lenwi eu lleoedd, fel y mae yr eglwys,"er nad yw etto ond ychydig mewn cymhariaeth o rif, yn lluosocach nag y bu ar un tymor o'i hanes. Gan fod Mr. Williams wedi arfer y bobl i fyw heb gyfranu at yr achos, mae yn naturiol i ni gasglu fod Mr. Morgans wedi cael cryn drafferth a dyoddef llawer o anfanteision wrth ddysgu eu dyledswydd iddynt, ond gan ei fod yn ddyn mor ryfeddol o hynaws a doeth, cadwodd bob peth i fyned yn mlaen yma yn unol a pherffaith dangnefeddus trwy yr holl flynyddau. Yn 1853, gosodwyd eisteddleoedd prydferth a chyfleus yn y capel, yn lle meingciau moelion oeddynt ynddo o'r blaen. Gwnaed y pulpud o newydd hefyd, ac amryw adgyweiriadau eraill yn ac oddiamgylch y lle, a thalwyd am y cwb1 ar unwaith gan y gynnulleidfa. Capel bychan yw Bethesda, prin yr eistedd dau gant o bersonau yn gyfleus ynddo, ond y mae y gweinidogion, a rhyw nifer o bersonau dylanwadol sydd o oes i oes wedi bod yn perthyn i'r achos yma, wedi gosod rhyw enwogrwydd neillduol ar y lle. Nid ydym yn gwybod hanes y personau fuont yma yn cychwyn yr achos mor fanwl fel y gallwn roddi desgrifiad o'u cymeriadau. Yr oedd Henry Edmunds a'i wraig, o Felin, Llanddiddan, tad a mam Mrs. Griffiths, gweddw y diweddar Mr. Griffiths, Llanharan, yn bobl ragorol, ac yn rhyfeddol o ffyddlon a chroesawus i holl bregethwyr yr oes o'r blaen a ymwelent a'r fro. Ond dichon mai y gwr mwyaf nodedig gyda'r achos hwn, heblaw Mr. Williams, y gweinidog, oedd Mr. John Williams, St. Athan. Yr oedd ef yn frawd i Mr. David Williams, Llysyfronydd, gweinidog yr eglwys yn Aberthyn. Cylchwr (cooper) oedd wrth ei alwedigaeth. Bu yn byw am flynyddau lawer yn mhentref St. Athan, ac yn cadw siop yno. Yr oedd yn gysurus yn ei amgylchiadau bydol. Bu yn briod a phedair o wragedd. Bu farw Awst 26ain, 1806,.yn 81 oed, a chladdwyd ef yn mynwent plwyf St. Athan. Yr oedd yn ddyn o alluoedd cryfion ac yn grefyddwr o'r fath ragoraf. Cymhellwyd ef yn daer gan yr eglwys i arfer ei ddoniau fel pregethwr, ond gwrthododd wneyd hyny. Yr oedd yn brydydd rhagorol. Efe yw awdwr yr emyn adnabyddus hwnw- "Pwy welaf o Edom yn d'od," &c., ac amryw emynau poblogaidd eraill. Cyfansoddodd hefyd rai marwnadau ar ol cyfeillion crefyddol.* Yr oedd Thomas Williams, y gweinidog, a John Williams yn gyfeillion mynwesol iawn. Yn mhen pedwar ugain o fisoedd wedi ei farwolaeth, cynhyrfwyd awen Thomas Williams wrth fyned heibio anedd ei hen gyfaill i ganu y penillion canlynol:-

(not extracted)

Nis gwyddom am ond un pregethwr a godwyd yn yr eglwys hon, heblaw Mr. Thomas Williams, y gweinidog, sef Mr. Thomas Thomas, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn 1842. Bu am dymor yn derbyn addysg dan ofal Mr. Jones, Penybont, ac aeth oddiyno i athrofa Newport Pagnel. Ar derfyniad ei amser yno, urddwyd ef yn Weldon, sir Northampton, lle y bu nes iddo ymfudo i'r America yn 1853. Nis gwyddom ddim yn mhellaeh o'i hanes.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL  (Not extracted fully)

THOMAS WILLIAMS.. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Trerhedyn, yn mhlwyf Pendeulwyn, yn agos i'r Bontfaen, Morganwg, Mawrth laf, 1761.  ...................

  


NURSTON  (Penmark parish)

Return to top

(Vol 2, p 241)

Mae y Ile prydferth hwn yn mhlwyf Penmark, ac o dair i bedair milldir i'r de-ddwyrain o Bethesda. Bu Mr. Thomas Williams, gweinidog Bethesda, yn byw, fel y gwelsom, am tuag un-mlynedd-ar-bymtheg yn Ffonmon, yn agos i Nurston, a chafodd ei dy ei drwyddedu at bregethu ynddo Chwefror 18fed, 1797. Pan symudodd ef o Ffonmon i Drefflemin, yr adeiladwyd Bethesda, ac y symudodd y gynnnlleidfa o'r Brittwn i'r capel newydd, amddifadwyd pobl ardal y Nurston o lawer o'r breintiau a fwynhaent yn flaenorol. Fel na chaent eu hamddifadu yn hollol, trwyddedwyd ty Owen Thomas o Nurston, yn llys Llandaf gan Mr. Thomas Williams, Mai 18fed, 1806, at bregethu yn achlysurol ynddo. Yr oedd Owen Thomas a'i wraig yn rhai rhagorol iawn fel crefyddwyr. Edrychid arnynt gan bawb o'u cydnabod fel pobl nodedig a dduwiol. Cynelid cyfarfedydd gweddio a chyfeillachau crefyddol yn wythnosol yn eu ty, a byddai Mr. T. Williams yn dyfod ambell brydnawn Sabboth i bregethu ynddo, ond disgwylid i bawb o'r ardal hon fyned i Bethesda bob boreu Sabboth er pelled y ffordd. Yn mhen rhai blynyddau bu farw gwraig ragorol Owen Thomas, a chan ei fod yntau yn ddiblant rhoddodd i fyny gadw ty, a thrwy hyny collodd praidd bychain yn yr ardal hon eu haddoldy. Wedi hyny darfu iddynt rentu hen ysgubor am ddeg-swllt-ar-hugain yn y flwyddyn, gan Mr. John Jenkins, o Blas Penmark. Gydag ychydig o draul gwnaed yr hen adeilad yma yn addoldy gweddol gysurus, a buwyd yn addoli ynddo am fwy na deugain mlynedd. Yn 1829, pan ymsefydlodd Mr. Edward Williams yn weinidog yn Bethesda, corpholodd yr aelodau a gyfaneddent yn ardal y Nurston yn eglwys, ond wedi ei ymadawiad ef, rhoddwyd y cymundeb yno heibio, a byddent yn myned fel cynt i Bethesda i gymuo nes i Mr. Morgans ddyfod i Bethesda yn 1836, pryd yr ail gorpholwyd hwy yn eglwys Annibynol, ac felly y maent hyd yn bresenol. Gan fod yr hen ysgubor yn wael a thra anghyfleus fel addoldy, edrychwyd allan am ddarn o dir at adeiladu capel. Yn y flwyddyn 1867, llwyddwyd i gael man cyfleus iawn, yn ymyl yr hen gapel, gan Mr. David Morgans, Ffonmon, aelod gyda'r Bedyddwyr yn Llancarfan. Bu Mr. Morgans mor garedig a rhoddi y tir dros fil ond un o flynyddau am swllt y flwyddyn o rent. Adeiladwyd yma gapel bychan nodedig o dlws am ddau cant o bunau, trwy fod yr amaethwyr yn y gymydogaeth yn cludo y defnyddiau yn rhad ato. Trwy lafur dibaid Mr. Morgans, y gweinidog, a'r bobl, y mae y lle awr yn ddiddyled. Agorwyd y capel newydd yn 1868, pryd y pregethwyd gan Meistri J. Davies, Caerdydd; J. Davies, Taihirion; J. Mathews, Castellnedd, a Dr. Rees, Abertawy. Salem ydyw enw yr addoldy. Y mae ynddo gynnulleidfa fechan nodedig o siriol a bywiog. Rhif yr aelodau yw 41. Nid yw poblogaeth yr arda1 ond cymharol denau, ac am hyny nis gellir disgwyl y bydd yma byth nifer fawn o bobl.

   


DREFNEWYDD (Newton Nottage parish)

Return to top

(Vol 2, p 192)

Gelwir y lle hwn yn aml yn Newton Nottage. Ymddengys fod pregethu achlysurol yn y Ile hwn er y flwyddyn 1662, ond nid oes genym sicrwydd fod eglwys Annibynol wedi ei ffurfio yma; llawer llai y gallwn ei holrhain mewn dilyniad rheolaidd hyd yn awr. Gwelsom yn hanes Maesyrhaf, Castellnedd, fod tai Lewis Alward, yn Cynffyg, a Watkin Cradock, yn y Drefnewydd, wedi eu trwyddedu i bregethu yn 1672; a bod Watkin Cradock ei hun wedi cael trwydded i bregethu yr un amser. Bu Lewis Jones, Penybont yn pregethu yma o'r flwyddyn 1742 hyd 1763; a digon tebyg i'w olynwyr, Evan Williams a Samuel Price, bregethu llawer yma; ond isel a dilewyrch fu yr achos yma trwy yr holl flynyddoedd. O gylch y flwyddyn 1808, daeth un William Williams yma i bregethu, a bu mesur o lwyddiant ar ei lafur, ac urddwyd ef i fod yr; weinidog yn y lle Gorphenaf 21ain, 1808. Ar yr achlysur, dechreuwyd yr oedfa gan Mr. D. Evans, Mynyddbach; pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Davies, Abertawy; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. T. Bowen, Castellnedd; rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. J. Davies, Alltwen, ac i'r eglwys gan Mr. S. Davies, Maendy. Yn nglyn a hanes yr urddiad yn yr Evangelical Magazine am 1809, tu dal. 393, dywedir, " Cyfrifid y lle hwn yn dywyll a drygionus iawn hyd yn ddiweddar, pryd y darfu i'r Arglwydd mewn modd neillduol lwyddo llafur y gweinidog sydd yn awr wedi sefydlu yma." Bu Mr. Williams yma am dair blynedd pan y symudodd i Godrerhos; ac am flynyddau bu yr achos egwan yma fel "llin yn mygu," ac yr oedd ar farw, os nad yn wir wedi marw pan ddaeth Mr. Herbert Herbert yma i fyw. Yn Ionawr, 1826, symudodd Mr. Herbert yma o Bristol. Dechreuodd bregethu o dý i dý, a chyn hir cafwyd ystafell a alwyd y Brickyard, ac yn mis Mehefin y flwyddyn hono adffurfiwyd yma eglwys. Nid oedd ond pump o honynt yn y cymundeb cyntaf, a daethai dau o'r rhai hyny atynt o'r Tabernacl, Penybont. Dyma eu henwau - Herbert Herbert, y gweinidog; Frances Herbert, ei wraig; Morgan Williams, Thomas Roberts, ac Ann Roberts. Ychwanegwyd tri atynt cyn diwedd y flwyddyn, sef Leyshon Hardee, yr hwn a ddaeth wedi hyny yn nodedig ar gyfrif ei wres crefyddol; Mary Jones a Mary Evans. Gwnaed parotoadau at gael capel newydd, a chafwyd tir gan R. Knight, Tythegston Court - clerigwr fel yr ydym yn tybied - ac y mae y weithred wedi ei dyddio Awst 25ain, 1827. Yr ymddiriedolwyr oeddynt Meistri W. Jones, Penybont; T. Davies, Abertawy; J. Hughes, Maendy; J. Davies, Castellnedd; R. Jenkins, Penybont, a B. Martin, Merthyrmawr. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr gan Mr. Herbert, Medi 4ydd, 1827, ac agorwyd y capel Mehefin 27ain a'r 28ain, 1828, ac yr oedd deunaw o weinidogion yn bresenol. Galwyd ef Hope Chapel.* Llafuriodd Mr. Herbert yma am ddeunaw mlynedd, heb weled ond ychydig ffrwyth; ac ymddibynai am ei gynhaliaeth ar y fasnach a ddygai yn mlaen. Nid oedd ei iechyd ond gwan ar y goreu, ac yn haf 1845, aeth i gymanfa Cwmaman, ei ardal enedigol, gan ddisgwyl y gwnaethai cyfnewid awyr les iddo; and ni ddychwelodd mwy i'w dý. Bu farw yn nhy ei frawd Hopkin Herbert, a'r tý lle y gauwyd ac y magwyd yntau, Gorphenaf 7fed, 1845, yn 50 oed. Yn gynar yn y flwyddyn ganlynol, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Hopkins, o Lanelli, yr hwn a fuasai am ychydig yn yr ysgol yn Crwys, ac urddwyd ef Mawrth 5ed, 1846. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Jones, Penybont; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Evans, Castellnedd; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. W. Morris, Glandwr; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. D. Rees, Llanelli, ac i'r eglwys gan Mr. J. Davies; Mynyddbach +  Bu Mr. Hopkins yma dros amryw flynyddoedd, ond nid rhyw lewyrch mawr a fu ar ei weinidogaeth yn enwedig yn ei flynyddoedd olaf. Bu yn dra anhapus yn ei briodas, yr hyn a effeithiodd yn fawr ar ei ddefnyddioldeb. Symudodd oddiyma i Elim, Penywaun, sir Fynwy, lle y bu fel y gwelsom nes yr ymwrthododd yr eglwys yno ag ef oblegid iddi ddeall ei fod yn ceisio ymwthio i'r Eglwys Sefydledig. Yn Hydref, 1854, dechreuodd Mr. Isaac Jones, Carmel, Llansadwrn, sir Gaerfyrddin, ei weinidogaeth yma, ac y mae yn parhau i lafurio yn y lle hyd yn hyn gyda derbyniad a pharch. Nid ydym yn cael i neb ddechreu. pregethu yma, ond Thomas Thomas, yr hwn a fu am ysbaid yn athrofa Ffrwdyfal, ac a urddwyd yn Hebron, Lleyn, ac y mae yn awr yn Llanfair-cludoge, sir .Aberteifl.

* Allan o goflyfr Mr. H. Herbert,

+ Diwygiwr, 1846, Tu dal. 123.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

HERBERT HERBERT. Ganwyd ef yn mis Mehefin, 1795, mewn amaethdy o'r enw Nantmoel, yn agos i'r man y mae capel Gibeah, Brynaman yn awr. Yr oedd ei rieni, Rhys ac Ann Herbert, yn bobl grefyddol, ac yn aelodau o'r eglwys yn Nghwmaman dan ofal Mr. J. Davies, Alltwen, lle hefyd y derbyniwyd Herbert Herbert pan yn ddwy-ar-bymtheg oed. Efe oedd yr ienengaf o'r plant, a chan nad oedd ond gwan o gyfansoddiad, a'i rieni yn gysurus arnynt yn eu hamgylchiadau, rhoddwyd iddo well addysg nag a roddid yn gyffredin i blant yn y dyddiau hyny. Gan fod ynddo dalent at ddysgu a thuedd at bregethu, anogwyd ef i hyny yn ddioed wedi ei dderbyn yn aelod. Aeth i'r ysgol at Mr. Howells, Baran, ac wedi hyny i Abertawy, ac yn y flwyddyn 1817, derbyniwyd ef i'r athrofa yn Llanfyllin, ac arosodd yn yr athrofa hyd y flwyddyn 1821. Derbyniodd alwad gan yr eglwys Gymreig oedd wedi ei sefydlu yn Barker's Hall, Bristol; ac urddwyd ef yno Awst 30ain, 1821. Yr oedd Dr. Rayland, Mr. W. Thorp, Mr. G. Hughes, Groeswen, a Mr. D. Davies, Penywaun, yn gweinyddu yn yr urddiad. Llafuriodd yn egniol i gael capel yno, ac adeiladwyd un a gyfrifid y pryd hyny yn gyfleus iawn yn Lower Castle Street, ac agorwyd ef Ionawr 8fed, 1823. Ymroddodd Mr. Herbert cyn belled ag y daliodd ei nerth; ond yn nechreu y flwyddyn 1826, symudodd i'r Drefnewydd, lle y treuliodd weddill ei oes, ac fel y crybwyllasom, bu farw ar ei ymweliad a'i ardal enedigol yn nglyn a chymanfa Cwmaman yn haf 1845, a chladdwyd ef yn mynwent Gibeah. Yr oedd yn dra gofalus am bob peth a berthynai i'r enwad; ac yn meddu llawer fawn o gymhwysder i ymdrin ag amgylchiadau allanol yr achos. Pregethai yn oleu a gafaelgar, ac yr oedd yn hawdd deall arno fod y pethau a draddodai wedi ymafael yn ddwfn yn ei ysbryd ef ei hun. Yr oedd gwasanaethu crefydd yn hyfrydwch ei galon, a pharhaodd i wneyd hyny nes y galwyd arno dderbyn gwobr y " gwas da a ffyddlon."

  


CEFNCRIBWR

Return to top

(Vol 2, p 194)

Mae y Ile hwn yn mhlwyf Llandidwg, (Tythegston,) ac o fewn pedair milldir i Benybont-ar-ogwy, ar yr ochr orllewinol. Er fod amryw Annibynwyr yn preswylio yn yr ardal er yn foreu, etto ni wnaed un cynyg i gychwyn achos yma hyd y flwyddyn 1827, pan y daeth un David Thomas  - yr hwn oedd ar y pryd yn dilyn ei alwedigaeth fel dilledydd - yma i bregethu. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am dano yn nglyn a Bethel, Llansamlet, lle yr urddwyd ef, ac o'r lle hefyd yr ymfudodd i'r America. Bu ymweliadau David Thomas a'r ardal yn dderbyniol gan, ac yn fendithiol i'r trigolion, fel y penderfynwyd adeiladu capel; ac aeth Evan Jenkins, Ffynoniagofawr, yr hwn oedd yn aelod Llangynwyd, a David Francis, yr hwn sydd etto yn fyw, i'r Werndew, at oruchwyliwr Dunraven Castle i ymofyn am dir adeiladu, yr hyn a ganiatawyd iddynt. Meddyliwyl am ddarn o dir yn uwch i fyny na'r lle y mae y capel presenol, ond oblegid fod rhywun yn ei hawlio methwyd a'i gael, a sefydlwyd ar y fan y mae y fynwent yn bresenol. Nid oedd ond tir gwyllt yn ochr y ffordd yn llawn eithin a dyrysni, ond codwyd capel arno trwy gydweithrediad yr ardalwyr tua'r flwyddyn 1828. Galwyd of Siloam. Yr oedd Evan Jenkins, Ffynoniago yn un gwresog iawn ei deimladau, a llawer gwaith y clywyd ef yn nghanol ei hwyliau gorfoleddus yn gwaeddi, .` Bendigedig, dyma y llwyn eithin ar dân," " Pwy feddyliasai y gwelsid y llwyn eithin yn fflam ?" mewn cyfeiriadau at ansawdd ddreiniog ac eithinog y lle y codwyd y capel bach arno. Yn fuan wedi agor y capel corpholwyd ynddo eglwys, er nad oeddynt ond ychydig ar y dechreu, a chymerwyd ei gofal gan Mr. William Morgan, Llwyni, yr hwn a fu yn bwrw golwg drosti hyd y flwyddyn 1840. Cynyddodd yr achos yn raddol yn nhymor gweinidogaeth Mr. Morgan. Nid oedd yr ardal ond teneu ei thrigolion hyd nes y cychwynwyd yma weithfeydd glo a haiarn; ond ansefydlog iawn y bu y rhai hyny. Wedi i Mr. Morgan roddi y lle i fyny, cymerodd Mr. W. Thomas ofal yr eglwys mewn cysylltiad a'r Rock, a bu yn cyrchu yma am fwy na phedair blynedd, a chryfhaodd yr achos yn fawr yn y cyfamser, ac yr oedd y capel wedi ei helaethu, er nad oedd etto ond adeilad hir-gul heb ynddo ddim ond pulpud a meingciau. Rhoddodd Mr. Thomas ofal y Ile i fyny yn nechreu y flwyddyn 1845, a rhoddodd yr eglwys yn fuan ar ol hyny alwad i Mr. John Thomas, aelod o Gedeon, Penfro, ond a fuasai yn fyfyriwr yn Narberth, ac urddwyd ef Awst 14eg a'r 15fed, 1845. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. S. Thomas, Trefdraeth; holwyd y gofyniadau gan Mr. D. Evans, Castellnedd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Morris, Glandwr; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Jones, Penybont, ac i'r eglwys gan Mr. W. Griffiths, Llanharan.* Bu Mr. Thomas yma am bum' mlynedd yn dra defnyddiol, nes y derbyniodd alwad o'r Graig, Rhymni, ac y symudodd yno. Cynyddodd yr eglwys yn y cyfnod yma nes bod yr aelodau yn rhifo 112, ac yn yr adeg hono y codwyd capel ar Fynyddcynffig, ac y gollyngwyd mwy na deg-ar-hugain o aelodau yno i ddechreu yr achos. Yn ddioed wedi ymadawiad Mr. Thomas, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Griffith Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Mhontypridd, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma yn Mawrth, 1850; ac y mae wedi llafurio yma bellach gyda derbyniad cyffredinol am yn agos i ddwy-flynedd-ar-hugain. Cyn hir wedi sefydliad Mr. Jones yma penderfynwyd adeiladu yma gapel newydd, yr hyn a wnaed yn 1853, ac agorwyd ef Hydref 25ain a'r 26ain, 1854. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri O. Owens, Brynmenyn; J. Thomas, Bryn; J. Evans, Maendy; T. Thomas, Glandwr; E. Griffiths, Abertawy; D. Davies, a J. Mathews, Castellnedd, ac L. Powell, Caerdydd. Adeiladwyd y capel newydd y tu allan i glawdd y fynwent, ar y pen dwyreiniol iddi; ac y mae y lle y safai yr hen gapel ar ganol y fynwent yn awr wedi ei lenwi a beddau. Costiodd y capel dros 500p., ond y mae y ddyled agos oll wedi ei thalu. Bu yr eglwys ar un adeg yn nhymor gweinidogaeth Mr, Jones yn 125 o aelodau, ond wedi i waith haiarn Cefncwsg sefyll, ac i'r gweithfeydd glo yn yr ardal fyned yn hynod farwaidd, ymfudodd llawer i America ac Awstralia, heblaw y rhai a symudodd i ranau eraill o'r wlad hon, fel nad yw rhifedi yr aelodau yn bresenol ond 89. Bu yma lawer o ffyddloniaid yn nglyn a'r achos o bryd i bryd - David Rees, Ty'nycaeau, oedd ddiacon ffyddlon a dylanwadol. Canmolir Thomas Jones, Kildidy, fel diacon diwyd a gofalus; ac yn enwedig fel un a ragorai mewn arfer duwioldeb gartref. Adwaenid Thomas Rees, Machine, gan lawer fel dyn siriol a charedig, a bu am oes hir yn ddosbarthwr llyfrau yn y gynnulleidfa, ac nid yn aml y ceid ei ragorach. John Morgan oedd ddyn tawel a phwyllog, ac a ddewiswyd yn ddiacon yn yr eglwys, ond bu farw gan adael gweddw ac un-ar-ddeg o blant i alaru ar ei ol. Y diaconiaid presenol ydyw William David a Rees Rees.

Codwyd yma un pregethwr, sef John Ogmore Davies, yr hwn sydd yn awr yn fyfyriwr yn athrofa swydd Lancaster. Dechreuodd bregethu yn Mehefln, 1866.*

* Diwygiwr, 1855. Tn dal. 282.

* Llythyr Mr. Jones, Cefncribwr.


MYNYDD CYNFFIG  (Pyle & Kenfig parish)

Return to top

(Vol 2, p 196)

Mae y lle hwn yn mhlwyf Llandidwg (Tythegsfon), o fewn tri chwarter milldir i'r gorllewin o Gefncribwr. Nid oedd yma ond cymydogaeth foel, anmhoblog, nes y cychwynwyd cloddfa y Bryndu tua'r flwyddyn 1837, a chyda hyny daeth llawer o ddyeithriaid i'r lle, ac adeiladwyd yma nifer o dai. Dechreuwyd cynal cyfarfod gweddi yn wythnosol yn nhý un William Walter, a ddaeth yma o Gaerdydd. Aelod gyda'r Wesleyaid oedd, ond wedi symud yma ymunodd a'r eglwys yn Siloam, Cefncribwr, ac yr oedd yn un o'r rhai mwyaf awyddus am gychwyn achos ar Fynydd Cynffig. Byddai nifer o hen frodyr Cefncribwr yn arfer cyrchu cyfarfodydd gweddio yn nhý William Walter; a choffeid gan rai o honynt hyd ddiwedd eu hoes y gwleddoedd breision a fwynhaent ynddynt. Yn fuan ar ol hyn, dechreuwyd yma Ysgol Sabbothol, a bu yn cael ei chynal yn olynol yn nhai Noah David, John Jones, a Benjamin Jones, nes y cafwyd lle sefydlog iddi ar ol codi y capel. Pregethwyd llawer hefyd o dý i dý yn yr ardal, gan Meistri J. Davies, Bryn; David Griffiths, Castellnedd, ac eraill; ac yn enwedig gan Mr. J. Thomas, ar ol ei sefydliad yn Cefncribwr. Trwy gydsyniad yr eglwys yn Nghefncribwr, penderfynwyd cael capel yn y lle, a chafwyd tir i'w osod i lawr ar etifeddiaeth Margam. Ni fwriedid ef ar y cyntaf ond i wasanaethu fel ysgoldy, ac oblegid hyny ni roddwyd eisteddleoedd ynddo. Gwnaed ef yn 34 troedfedd wrth 29 y tu fewn i'r muriau, a chostiodd heb gyfrif traul y cludiad - yr hyn a wnaed gan yr ardalwyr yn rhad - ddau cant o bunau. Cynhelid yma bob moddion yn rheolaidd, ond ar y 26ain o Awst, 1849, corpholwyd yma eglwys cynwysedig o 77 o aelodau, 31 o ba rai a ollyngwyd trwy lythyrau o Cefneribwr, a'r 46 eraill a dderbyniwyd o'r newydd a'r y pryd. Yr oedd y geri marwol ar yr adeg yn y wlad, a diangodd ugeiniau yn yr ardal i'r eglwys rhag ofn y fflangell; ond wedi i'r drygfarn gael ei symud aeth llawer o honynt yn ol i'w hen lwybrau. Aeth yr achos er hyny yn mlaen gyda mesur o lwyddiant, fel yn y flwyddyn 1852. y gwelwyd yn angenrheidiol rhoddi oriel yn y capel, a'i lenwi ag eisteddleoedd, ac ail agorwyd ef Tachwedd 17eg a'r 18fed y flwyddyn hono, ac yr oedd yn aros o ddyled arno dros 500p., rhwng yr hen a'r newydd pan agorwyd ef. Erbyn y flwyddyn 1864, yr oedd yr holl ddyled wedi ei thalu, ac ar y 29ain o Fai, y flwyddyn hono, cafwyd yma gyfarfod Jubili taliad y ddyled. Yn y flwyddyn 1870, codwyd ysgoldy prydferth yn ymyl y capel trwy draul o 170p., ac y mae rhan o'r ddyled wedi ei thalu. Ysigwyd cryn lawer ar y gangen hon, fel ar y fam-eglwys yn Nghefncribwr, trwy fethiant rhai o weithfeydd yr ardal, ac arafwch eraill, yr hyn a achosodd lawer iawn o symudiadau. Bu yr eglwys ar un adeg yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones yn 225 o nifer, ond ar hyn o bryd nid yw yn fwy na 120, er y cyfrifir hefyd mai yma y mae y gynnulleidfa luosocaf yn y lle.* Mae yr achos yma o'r dechreuad wedi bod o dan yr un weinidogaeth a Chefncribwr, ac felly y mae yn parhau. Yn mysg y ffyddloniaid a fu yn yr eglwys hon, y rhai a hunasant, gellir crybwyll enwau William Rees, yr hwn oedd un o'r diaconiaid mwyaf heddychol a boneddigaidd; John Yandell, tirion a serchog, a John Jones, ffyddlon a selog iawn. Y diaconiaid presenol ydynt, William Jenkins, Bryn; David Davies, Llangeinydd; Jenkin Jenkins, Waterhall; Gwilym David, a Rees Jenkins, Pentref..

Codwyd y rhai a ganlyn i bregethu yn yr eglwys hon :-

Derbyniwyd yma amryw eraill, ond gan mai ar ol myned oddiyma y dechreuasant bregethu, yn nglyn a'r lleoedd hyny y crybwyllwn am danynt.

*Llythyr Mr. Jones, Cefncribwr.

  


Return to top

[Last updated: 10 March 2008 - Gareth Hicks]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Valid HTML 4.01 Transitional

Note: The information provided by GENUKI must not be used for commercial purposes and all specific restrictions concerning usage, copyright notices, etc., that are to be found on individual information pages within GENUKI must be strictly adhered to. Violation of these rules could gravely harm the cooperation that GENUKI is obtaining from many information providers, and hence threaten its whole future. GENUKI is a registered trademark.