Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

These 8 chapel histories were extracted by Gareth Morgan from the CD published by Archive CD Books (Feb 2008)  - no translations

The main project page is on /big/wal/ChurchHistory/Indchapels#Glamorgan

Proof read by Gareth Morgan (April 2008)

YSTRADGYNLAIS   (Ystradgynlais parish in BRE)

Vol 2, p 170)

Er fod yma lawer o drigolion ni chynygiwyd dechreu achos Annibynol yn y lle cyn y flwyddyn 1832. Y rheswm am hyny y mae yn debygol ydoedd fod Ty'nycoed o fewn pedair milldir i'r gogledd-ddwyrain i'r lle, Cwmllynfell o fewn tair milldir i'r gogledd-orllewin, Godrerhos tua dwy filldir a haner i'r de, a'r Pantteg tua dwy filldir i'r Gorllewin. Pa fodd bynag, wedi i hen chwaer selog o'r enw Magdalen Thomas, neu "Modryb Matti," fel y gelwid hi yn gyffredin, ddyfod i gyfaneddu i'r pentref, ni bu gorphwys iddi nes cael gan ei gweinidog, Mr. Williams, Ty'nycoed, a rhai o aelodau ei eglwys i gydweithredu a hi i gychwyn achos yn y lle. Yn nhy Modryb Matti yn Rhestr Canol y dechreuwyd ef yn y flwyddyn rag-grybwylledig. Yr oedd yr hen santes hon yn un o ragorolion y ddaear. Hen wraig o'r hen ffasiwn ydoedd, a'r gair garwaf yn gyntaf ganddi. Ni welai unrhyw draul na thrafferth yn ormod i fyned trwyddynt er mwyn achos ei Duw. Yr oedd yn hynod am ei charedigrwydd i bob Cristion, yn enwedig i bregethwyr yr efengyl. Buwyd am gryn amser yn cynal moddion Sabbothol ac wythnosol yn nhy Modryb Matti, ond i Dy'nycoed yr elid i gymuno dros ysbaid. Yr hen frawd ffyddlon Watkin Evan a'i wraig, y rhai sydd etto ar dir y byw, oedd yn cychwyn yr achos gyda Modryb Matti. Margaret Thomas a Margaret Jones oedd y ddwy gyntaf a dderbyniwyd trwy ddeheulaw cymdeithas gan Mr. Williams, Ty'nycoed yn yr Ystrad. Yn mhen rhyw gymaint o amser aeth ty Modryb Matti yn rhy gyfyng i gynwys y gynnulleidfa. Yn wyneb hyny rhentiodd Mr. Williams dy helaethach yn Rhestr Penybont, yn agos i'r fan y saif y Penybont Inn yn bresenol. Darfu i'r gweinidog dalu rhent y ty hwn o'i logell ei hun am flynyddau rhag gosod baich ar yr ychydig gyfeillion a berthynent i'r gynnulleidfa, a bu yn gwasanaethu yr achos yn ei ddechreuad a'i wendid am flynyddau heb dderbyn ond y peth nesaf i ddim o dal am ei lafur, ond y boddlonrwydd a deimlai yn ei fynwes ei hun wrth ystyried ei fod yn gwasanaethu ei Feistr dwyfol ac eneidiau dynion. Yr amser hwn yr oedd dau wr ieuangc yn dechreu pregethu yn Nhy'nycoed, sef William Watkin, wedi hyny o'r Llwyni, a David Davies, yn awr o America, y rhai a fuont o wasanaeth mawr i'r achos ieuangc yn yr Ystrad. Bu amryw o aelodau Ty'nycoed hefyd yn gynorthwy mawr iddo, yn enwedig William Dafydd a John James. Teithiasant hwy am flynyddau trwy wynt a gwlaw, oerni a gwres, ac ar y nosweithiau tywyllaf i'r cyfarfodydd gweddio, ac nid yn fuan yr anghofir eu defnyddioldeb. Y maent ill dau yn awr yn derbyn eu gwobr.

Yn 1840, daeth Mr. John Williams i fyw i'r gymydogaeth, fel perchenog gweithiau glo a haiarn Onllwyn, ac ymunodd ef a'i deulu a'r cyfeillion a ymgynnullent i addoli yn y ty yn Rhestr Penybont. Cyn gynted ag y daeth ef yno, rhoddodd ei sefyllfa fydol a'i weithgarwch crefyddol fywyd newydd i'r achos. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd anog Mr. Williams, Ty'nycoed, a'r bobl i edrych allan am dir i adeiladu capel, gan addaw pob cynorthwy iddynt, a bu ef a'i deulu yn llawn cystal a'u gair. Cymerwyd darn o dir gan R. D. Gough, Ysw., Ynyscedwyn, ar les o 99 o flynyddau, ac adeiladwyd capel hardd a lled fawr arno, yr hwn a gostiodd agos 800p. Yn 1841, rhoddodd T. Lewis, Ysw., Penygoraf, gan' punt at y capel newydd, ar yr amod i'r eglwys dalu dwy bunt yn flynyddol i eglwys y Methodistiaid yn Nghwmgiedd. Parhaodd yr eglwys yn Sardis - dyna yr enw a roddwyd ar y capel - hyd ddiwedd 1846 dan ofal Mr. Williams, Ty'nycoed, pryd, o herwydd gwaeledd ei iechyd, y rhoddodd y lle i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i Dy'nycoed yn unig. Yn nechreu 1847, urddwyd Mr. Henry Rees, aelod o eglwys capel Als, Llanelli, yn Sardis, a bu yn gofalu am yr eglwys hon a Godrerhos hyd Mai, 1869, pryd yr ymfudodd i'r America. Ennillodd Mr. Rees iddo ei hun air da gan bobl ei ofal a holl drigolion yr ardal, ac yr oedd ei barch a'i ddylanwad yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Yn ystod y ddwy-flynedd-ar-hugain y bu ef yma, cafodd yr eglwys ac yntau lawer o ofidiau, nid o herwydd dim yn annheilwng ynddo ef na hwythau, ond o herwydd amgylchiadau blinion nad oedd ganddynt hwy un lywodraeth drostynt. Wedi ymdrech egniol a llwyddianus i dalu y geiniog olaf o'r ddyled oedd yn aros ar y capel, ac adeiladu ysgoldai yn Nghwmgiedd a Hendrelatis, yn werth o bedwar ugain i gan' punt yr un, cafwyd allan fod sylfaen y capel yn rhoddi ffordd o herwydd fod cwmni gwaith Ystalyfera yn gweithio glô odditano. Holltodd y muriau, ac aeth y lle yn rhy beryglus i ddynion ddyfod iddo. Apeliwyd at berchenogion y gwaith am wneyd y golled i fyny, ond ni chafwyd yr un geiniog ganddynt, a chan fod amryw o'r gynnulleidfa yn gweithio danynt, nid aed i lys cyfraith i'w gorfodi i wneyd yr hyn oedd gyfiawn. Bu raid yn wyneb hyn edrych allan am le i adeiladu capel newydd. Cafwyd man cyfleus, ac adeiladwyd y ty prydferth presenol gan Mr. Thomas Morgans, Cwmgiedd, dan arolygiad Mr. Thomas, Glandwr. Pregethwyd ar y gareg sylfaen ar brydnawn Sabboth, Mai 6ed, 1860, oddiwrth 2 Bren. vi. 17., gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Gorphenwyd y capel ac agorwyd ef Awst 11eg a'r 12fed, 1861, pryd y pregethodd Meistri H. Hughes, (Tegai), E. Roberts, Cwmafan; D. Williams, Troedrhiwdalar; D. Rees, Llanelli; D. Henry, Penygroes, a J. Williams, Castellnewydd. Costiodd y ty hwn un-cant-ar-bymtheg o bunau. Yn fuan wedi dechreu adeiladu y capel, cyfododd cwmwl du dros yr holl ardal trwy i waith haiarn Ynyscedwyn sefyll, ac ni bu nemawr o drefn arno am saith mlynedd ar ol hyny. Gan mai ar y gwaith hwn yr ymddibynai y rhan fwyaf o drigolion yr ardal am eu cynaliaeth, gwasgarwyd lluaws o weithwyr o'r gymydogaeth wedi iddo sefyll, ac felly lleihawyd eglwys a chynnulleidfa Sardis yn ddirfawr pan yr oeddynt dan faich o un-cant-ar-bymtheg o ddyled. Mae yn rhyfedd na buasai yr amgylchiad adfydus yn llwyr ladd yr achos; ond er syndod i bawb, cadwodd ei ben uwchlaw y dwfr trwy y cwbl. Nid yn unig talwyd llog y ddyled ar yr amser adfydus hwn, ond hefyd talwyd tua phum' cant o'r ddyled. Yn awr, pan y mae y gweithiau yn adfywio, a'r boblogaeth yn cynyddu yn gyflym, mae yma olwg obeithiol iawn ar bethau, a phob tebygolrwydd y bydd y ddyled oll wedi llwyr ddiflanu mewn ychydig flynyddau, canys y mae gan y bobl galon i weithio.

Fel y nodasom yn barod, rhoddodd Mr. H. Rees yr eglwys i fyny yn Mai, 1869, a'r ei ymfudiad i'r America. O'r pryd hwnw buwyd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd yr ail Sabboth o Chwefror, 1871, pryd y dechreuodd Mr. R. W. Roberts, Pentrefoelas ei weinidogaeth yma. Mae Mr. Roberts yn argoeli bod yn dderbyniol a defnyddiol iawn yn y lle, a chan fod y gweithiau haiarn a glô yn eangu yn gyflym, bydd nifer y boblogaeth wedi dyblu neu dreblu cyn pen dwy flynedd, ac felly mae pob lle i ddisgwyl y bydd yma yn fuan un o'r eglwysi lluosocaf a chryfaf yn yr holl ddyffryn.

Dau bregethwr a gyfodwyd yn yr eglwys hon o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol, sef Daniel Morgans, yr hwn sydd wedi ymuno a'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn bregethwr cynorthwyol yn eu mysg hwy, a David G. Morgans, gweinidog yr eglwys Gymreig yn Stockton-on-Tees. Yr oedd ef wedi dechreu pregethu yn y cyfeillachau yma cyn ei symudiad i'r Glais, ond yno y dechreuodd arfer ei ddawn yn gyhoeddus.*

* Llythyr Mr. Thomas Hopkins.

Translation by Gareth Hicks (May 2009)

Although there were  many residents here they didn't attempt to start an Independent cause in the place before 1832. It seems likely that the reason for that was that Ty'nycoed was within 4 miles to the north east, Cwmllynfell within 3 miles to the north west, Godrerhos about 2 1/2 miles to the south, and Pantteg about 2 miles to the west(?). However, after a zealous old sister called Magdalen Thomas, or "Modryb Matti", as she was usually known, came to live in the village, she wouldn't rest until she got the minister, Mr Williams, Ty'nycoed, and some of his church's members to work with her to start a cause in the place. In Modreb Matti's house in Middle Row, he began in the year already mentioned. This old saintess was one of the salts of the earth. She was an old woman of the old style, who spoke her mind.  She saw no cost or fuss as too much to go through in her God's service. She was noted for her kindness to every Christian, and especially to preachers of the gospel. For some considerable time they held Sunday and weekly services in the house of Modryb Matti, but it was to Ty'nycoed that they went to for communion over time. The old faithful brother, Watkin Evan, and his wife, who are still alive, were the ones promoting the cause with Modryb Matti.  Margaret Thomas and Margaret Jones were the first two received through the hands of fellowship by Mr Williams, Ty'nycoed in Ystrad. Over time the house of Modryb Matti became too small to hold the congregation. Faced with this Mr Williams rented a larger house in Penybont Row, near to where the Penybont Inn stands at present. The minister paid the rent on this house from his own pocket for years to avoid putting a burden on the few friends in the congregation, and he served the cause in its infancy and weakness for years and accepting next to nothing for his efforts, but the contentment he felt in his heart through realising that he was serving his divine Master, and the souls of men. At this ntime there were 2 young men starting to preach in Ty'nycoed, namely William Watkin, afterwards of Llwyni, and David Davies, now in America, and they were of great service to the the young cause in Ystrad. Some of the members of Ty'nycoed too were of great help to them, especially William Dafydd and John James. They trecked for years through wind and rain, heat and cold, and on the darkest nights, to the prayer meetings, and their usefullness will not be quickly forgotten. They are both now gettuing their reward.

In 1840, Mr John Williams came to live in the neighbourhood, as the owner of the coal and iron works in Onllwyn, and he and his family and friends opted to gather for worship in the house in Penybont Row. As soon as he came here, his worldliness and religious activity gave new life to the cause.  One of the first things he did was encourage Mr Williams, Ty'nycoed and others to look for land to build a chapel on, by promising every assistance to them, and he and his family were as good as their word. They obtained a piece of land from R D Gough Esq, Ynyscedwyn, on a 99 year lease, and built a beautiful and quite large chapel on it, which cost £800. In 1840, T Lewis Esq, Penygoraf, gave £100 towards the new chapel, on condition that the church gave £2 pa to the Methodist church in Cwmgiedd. The church at Sardis - the name they gave to the chapel - continued until the end of 1846 under the care of Mr Williams, Ty'nycoed, when, because his health worsened, he gave the place up, and confined his labours to Ty'nycoed alone. At the start of 1847, they ordained at Sardis Mr Henry Rees, a member from Capel Als church, Llanelli, and he cared for this church and Godrerhos until May 1869, when he left for America. Mr Rees earned for himself a good reputation  with the people he cared for and all the residents of the area, and his respect and influence increased from year to year. In the period of 22 years he was here, he and the church had a lot of anxiety, not because of any unworthiness in him or them, but because of distressing circumstances that they had no control over. After a full blooded and successful effort to pay back the last penny of the debt oustanding on the chapel, and building schoolhouses in Cwmgiedd and Hendrelatis, worth £80 to £100 each, it transpired that the foundations of the chapel were giving way because the Ystalyfera coal company were mining coal under it.  The walls cracked, and the place became too dangerous for anyone to be in it. They appealed to the owners of the coal works for compensation, but received not one penny from them, and as some of the congregation worked there, they didn't go to a court of law to force them to do what was right. In the light of this they had to look elsewhere to build a new chapel. They found a convenient place, and their lovely present house was built by Mr Thomas Morgans, Cwmgiedd, under the supervision of Mr Thomas, Glandwr. There was preaching at the foundation stone on the afternoon of Sunday, May 6th 1860, from 2 Bren. vi. 17., by Mr P Griffiths, Alltwen. The church was formed and opened on 11/12th August 1861, when officiating were Messrs H. Hughes, (Tegai), E. Roberts, Cwmafan; D. Williams, Troedrhiwdalar; D. Rees, Llanelli; D. Henry, Penygroes, and J. Williams, Castellnwydd (Newcastle Emlyn?). The building cost £115. Soon after building began a black cloud settled over the whole area as the iron works at Ynyscedwyn stopped,  and there was hardly any normality about it for 7 years afterwards. As the majority of residents of the area were reliant on these works for their living, many of the workers left the neighbourhood after it stopped, and therefore Sardis's  congregation decreased badly when they had the burden of the debt of £1500. It is a wonder that these terrible circumstances didn't completely kill off the cause; but to everyone's amazement, they held their heads above water through the whole thing. Not only did they pay the interest on the debt at this adverse time, they also paid off almost £500 of the debt itself. Now, as the works are reviving, and the population increasing quickly, there is now a very hopeful look about matters, and every liklihood  that the whole debt will have been repaid within a few years, for the people have the heart to do it.

As we have already noted, Mr H Rees gave up the church in May 1869, on his departure for America. After that they were reliant on occasional ministers until the 2nd Sunday in February 1871, when Mr R W Roberts, Pentrefoelas, began his ministry here. Mr Roberts promises to very acceptable and helpful in the place, and as the coal and iron works are expanding quickly, the population will have doubled or trebled within 2 years, and thus there is every chance that there will soon be here one of the most numerous and strong churches in the whole valley.

Two preachers have been raised in this church from the cause's  inception to the present, namely Daniel Morgans, who has gone to the Calvinistic Methodists, and is now an assistant preacher in their midst, and David G Morgans, the minister of the Welsh church in Stockton-on-Tees. He had begun to preach in the fellowships here before moving to Glais, but it was there he began to use his gift in public.

* Letter Mr. Thomas Hopkins.

LLANGYNWYD.

(Vol 2, p 182)

Mae Llangynwyd yn enwog yn mysg plwyfydd sir Forganwg, oblegid mai yn Eglwys y plwyf hwn y gweinyddodd y dysgedig Samuel Jones am dymor yn amser y werin-lywodraeth, a thros ysbaid ar ol adferiad Siarl yr ail; ac allan o'r eglwys hon y trowyd ef pan ddaeth Deddf Unffurfiaeth i'w grym yn 1662, ac yn Brynllywarch yn y plwyf hwn y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, ac y cyfranodd addysg i luaws mawr o wyr ieuaingc oeddynt yn ymbarotoi at y weinidogaeth; ac yn mynwent Llangynwyd yr erys ei weddillion cysegredig hyd foreu yr adgyfodiad cyffredinol. Er nas gall yr achos Annibynol sydd yn awr yn Llangynwyd ddilyn yn ol mewn llinell ddidor hyd ddyddiau Samuel Jones, etto, nid ymddengys i'r plwyf er hyny hyd yn awr fod heb ryw rai yn glynu wrth grefydd efengylaidd yn mysg yr Ymneillduwyr. Ymddengys fod gan Samuel Jones achos bychan dan ei ofal mewn hen amaethdy, o'r enw Cildeudy, yn y plwyf hwn, yr hwn wedi hyny a symudwyd i le a elwir y Siti, yn mhlwyf Bettws, ac yn mhen amser adeiladwyd yno gapel, ond dirywiodd yn raddol nes yr aeth y lle yn feddiant i'r Sosiniaid, fel y cawn achlysur i sylwi yn helaethach pan ddeuwn at eglwysi Penybont a Brynmenyn.

Tua'r flwyddyn 1790, ymsefydlodd nifer o aelodau y Bettws mewn amaethdy o'r enw Sychbant, Llangynwyd. Enw gwr y ty oedd Rhys Howells, yr hwn cyn hir a drefnodd dy bychan ar ei dir, yr hwn a elwid y Graigfach, yn lle i bregethu, a chadw ysgol ddyddiol. Daeth Mr. Abraham Tibbot yma rywbryd wedi y flwyddyn 1792, canys dyna y flwyddyn yr ymadawodd a Llanuwchllyn. Bu Mr. Tibbot yma yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn pregethu yn y ty bychan. Mae hen wr o'r enw William Hopkin yn aelod yn awr yn Llangynwyd, yr hwn pan yn blentyn a fu yn yr ysgol gyda Mr. Tibbot.* Oblegid rhyw gamymddygiad o'i eiddo, bu raid i'r eglwys ddiarddel Rhys Howells, ac o ddial arni am hyny trodd yntau yr achos allan o'r Graigfaeh, a chauodd y drws yn erbyn yr ysgol ddyddiol. Cymerodd Mr. Tibbot drwydded ar ystafell cymdeithas ddyngarol hen dafarn Llangynwyd. Ni bu Mr. Tibbot yma yn hir, canys dychwelodd i'r gogledd, ac ymsefydlodd yn sir Fon, ac yr oedd yno yn y flwyddyn 1794. Bu yr eglwys yn ymgynnull yn yr ystafell yma hyd nes yr adeiladwyd y capel. Cafwyd tir ar brydles gan Mr. Elias Jenkins, cyfreithiwr, o Gastellnedd. Dyddiad y weithred yw Ionawr 10fed, 1799, a'r ymddiriedolwyr oeddynt, Rowland Griffith, Cwmcerwyn; Evan Jenkins, Cwmtrisant; Griffith Powell, Corwgfechan; Thomas Richard, Rhiwlech, a Morgan Powell, Gilfachganol. Coffeir hefyd am enwau Christopher Thomas, Ty'nyrheol; Joan Powell, Gilfach; Pegi, Cwmdu, a Catherine Mathew, Tanywaun, fel rhai o ffyddloniaid yr achos yma ar y pryd. Agorwyd y capel, yr hwn a alwyd yn Bethesda, cyn diwedd y flwyddyn 1799, yn mesur deg-troedfedd-ar-hugain wrth ddeunaw; ac yn mysg eraill, ar ei agoriad, pregethwyd gan Meistri D. Davies, Sardis, a D. Davies, Abertawy. Bu un Mr. Walter Edwards, yn cyrchu yma i bregethu yn lled gyson wedi ymadawiad Mr. Tibbot, ond nis gwyddom a urddwyd ef a'i peidio. Ymfudodd i America, lle y bu farw cyn hir. Yn y flwyddyn 1800, rhoddwyd galwad i Mr. Methuselah Jones, ac urddwyd ef i fod yn weinidog i'r eglwys yma, ac eglwys y Cymer. Llafuriodd Mr. Jones yma am wyth mlynedd, hyd nes y derbyniodd alwad gan gynnulleidfa fechan yn Merthyr Tydfil, ac y symudodd yno yn y flwyddyn 1808. Yn mhen amser wedi ymadawiad Mr. M. Jones, rhoddwyd galwad i Mr. William Beynon, yr hwn a fa yma dros lawer o flynyddoedd, ond oblegid ryw amgylchiadau darfu ei gysylltiad a'r eglwys tua'r flwyddyn 1828, ac ni bu un eglwys mwyach dan ei ofal, ond ymaelododd yn Brynmenyn dan ofal Mr. W. Jones, Penybont. Yn y flwyddyn 1828, derbyniodd Mr. William Morgan alwad gan yr eglwys, ac urddwyd ef yn mis Mawrth y flwyddyn hono, a bu y lle o dan ei ofal hyd y flwyddyn 1863. Bu yr achos yma yn hynod o isel ar un cyfnod yn ysbaid gweinidogaeth Mr. Morgan. Nid oedd yma ar un adeg ond un brawd i weddio yn gyhoeddus, sef John Thomas, Bryncarnau, ond cefnogid ef yn wrol gan nifer o chwiorydd ffyddlon, y rhai oeddynt yn golofnau yr achos. Mae eu henwau yn werth eu croniclo Jannet Powell, Gilfach; Jannet Jenkins, Pentre; Margaret Thomas, Maescadlawr; Mary Richard, a Catherine Treharne, Ty'nywaun. Llawer gwaith y bu Jannet Powell, Gilfach, yn darllen penod ac yn gweddio ar ddechreu cyfarfod gweddi ar nos Sabbath, a gwnai pawb o'r llein eu rhan at ddwyn y gwaith yn mlaen; ond cafodd y rhai hyn fu yn "sefyll yn nhy yr Arglwydd y nos " yr hyfrydwch o weled y wawr yn tori.

Nadolig 1870, cymerodd Mr. Richard Morgan, Aberafan ofal yr eglwys yma, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Gorphenaf 5ed a'r 6ed, 1871, ac y mae golwg addawol ar yr achos. Rhifedi yr aelodau yn bresenol ydyw 43.

Nid ydym yn cael fod un pregethwr wedi ei godi yma, ond yn yr eglwys hon y derbyniwyd Mr. Thomas Thomas, y Cenhadwr o Affrica, yn aelod, er mai nid yma y dechreuodd bregethu.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

WILLIAM BEYNON. Nid oes genym ond ychydig o'i hanes. Ganwyd ef yn rhywle yn sir Gaerfyrddin yn y flwyddyn 1774. Bu am ddeunaw mlynedd yn weinidog yn Llangynwyd, ac efe a ddechreuodd yr achos yn Carmel, Maesteg; ac yr oedd y capel cyntaf yno ar ganol cael adeiladu pan roddodd ei weinidogaeth i fyny. Yr oedd yn hawddgar a serchog fel dyn, a hoffid ef yn fawr gan bawb a'i hadwaenai; ac fel pregethwr yr oedd yn hwylus a gwlithog. Maglwyd ef fwy nag unwaith gan y ddiod gadarn, a hyny a'i gorfododd o'r diwedd i roddi i fyny ei weinidogaeth. Bu am lawer o flynyddoedd yn aelod yn Brynmenyn er yn byw yn Maesteg, ond er's blynyddoedd cyn ei farwolaeth yr oedd yn aelod yn Carmel, ac yn ymddangos yn cael goruwchafiaeth ar y " pechod oedd barod i'w amgylchu." Bu farw Chwefror 13eg, 1846, yn 72 oed. Pregethwyd ar ddydd ei angladd gan Mr. William Morgan, ar destyn o'i ddewisiad ef ei hun, "Minau, nesau at Dduw sydd dda i mi;" a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llangynwyd.

*Llythr Mr R Morgan, Aberfan

Translation by Maureen Saycell (April 2009)

Llangynwyd is well known among Glamorganshire parishes as it was here the knowledgeable Samuel Jones officiated during the commonwealth and a spell after the  restoration of Charles II. It was also this church that he was thrown out of when The Act of Uniformity came into force in 1662 and it was at Brynllywarch in this parish that he lived for most of his life imparting knowledge to many young men preparing for the ministry, he is buried in Llangynwyd cemetery. The current Independent chapel cannot claim an unbroken line to the time of Samuel Jones, the area has not been without some believers in the meantime. It appears that Samuel Jones had a small cause in a farmhouse named Cildeudy, which later moved to a place called the Siti, Bettws Parish. A chapel was built but it faded away and went to the possession  of the Unitarians, which we will discuss with Penybont and Brynmenyn.

Around 1790 several members settled in a farmhouse named Sychbant, Llangynwyd. The occupier was Rhys Howells who, before long arranged a house on his land named Graigfach, for preaching and holding daily school. Mr Abraham Tibbot came here around 1792, he left Llanuwchlyn that year. He kept school there and preached in the small chapel, there is an old man named William Hopkins who was a pupil at Mr Tibbots school.*Because of some misdemeanour the church was forced to excommunicate Rhys Howells, and in response he threw them out of Graigfach, and also locked out the school. Mr Tibbot took out a licence on the charities room of the old inn at Llangynwyd. He was not here for long and returned north, he settled in Anglesea and was there in 1794. The church continued to meet in this room until a chapel was built. Land was acquired from Mr Elias Griffiths, Solicitor, Neath. The date on the lease was January 10th, 1799, the trustees were Rowland Griffith, Cwmcerwyn; Evan Jenkins, Cwmtrisant; Griffith Powell, Corwgfechan; Thomas Richard, Rhiwlech, and Morgan Powell, Gilfachganol. Remembered also are these faithful - Christopher Thomas, Ty'nyrheol; Joan Powell, Gilfach; Pegi, Cwmdu, and Catherine Mathew, Tanywaun. The chapel was named Bethesda was opened before the end of 1799, measuring 30 x 18 feet, the following were some who took part - Messrs D. Davies, Sardis, and D. Davies, Swansea. One Walter Edwards came to preach here regularly after Mr Tibbot's departure, we do not know if he was ordained. He went to America and died soon after. In 1880 a call was sent to Mr Methusalah Jones and he was ordained here and Cymer. He remained here for 8 years when he accepted a call from Merthyr Tydfil and moved there in 1808. Sometime later a call was sent to Mr William Beynon, who was here many years until some upset when he left in 1828.The same year Mr William Morgan was called and ordained in March, they remained in his care until 1843. The cause was at a low ebb at one time in his ministry with only one brother, John Thomas, Bryncarnau, to pray publicly, but manfully backed by the sisters - Jannet Powell, Gilfach; Jannet Jenkins, Pentre; Margaret Thomas, Maescadlawr; Mary Richard, and Catherine Treharne, Ty'nywaun. Many times Jannet Powell, Gilfach, would read a chapter and pray at the start of a prayer meeting on Sunday night, they lived to see their reward.

Christmas 1870 Mr Richard Morgan, Aberafan came to the church and services to celebrate his settling were held July 5th and 6th, 1871, the cause now looks hopeful with membership of 43.

We do not know of anyone who was raised to preach here, Thomas Thomas, the African missionary, was confirmed here.

BIOGRAPHICAL NOTES **

WILLIAM BEYNON - born Carmarthenshire, 1774 - minister here 18 years, began the cause at Carmel, Maesteg - eventually gave up his ministry due to a drink problem - died February 13th, 1846, age72 - buried Llangynwyd.

*Letter Mr R Morgan, Aberfan

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

CARMEL, MAESTEG  (Llangynwyd parish)

(Vol 2, p 184)

Nid yw ein defnyddiau ond prin iawn er ysgrifenu hanes yr eglwys hon. Dechreuwyd yr achos yma yn y flwyddyn 1827, gan Mr. William Beynon. yn nghyda phedwar o aelodau Llangynwyd, sef Evan David, Edward Jones, David Morgans a'i wraig. Pan ar ganol adeiladu y capel yn y flwyddyn 1828, darfu cysylltiad Mr. W. Beynon a'r lle, a chymerwyd y gofal gan Mr. William Morgan yn nglyn a Llangynwyd, ac y mae efe yn parhau yn weinidog yma. Gorphenwyd y capel yn fuan wedi sefydliad. Mr. Morgan yma; ac yn y flwyddyn 1831 ailadeiladwyd ef, ac yn y flwyddyn 1850 adeiladwyd yr addoldy helaeth presenol, yn mesur 60 troedfedd wrth 42 troedfedd. Agorwyd ef Mai 20fed a'r 21ain, 1850, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri E. Griffiths, Abertawy; W. Roberts. Tabor; O. Owens, Brynmenyn; D. Evans, Nazareth; R. Pryse, Cwmllynfell; P. Griffiths, Alltwen; J. Mathews, Castellnedd; M. Rees, Groeswen; H. Davies, Bethania; J. Thomas, Glynnedd; T. Davies, Abertawy; R. Rees, Abertawy; J. Rees, Carmel; W. Thomas, Rock, ac eraill.* Gwyddom i lawer o bobl dda fod yn nglyn a'r achos yma o bryd i bryd, ond gan na chawsom y manylion yn eu cylch, nis gallwn eu crybwyll. Canghenau o'r eglwys hon sydd yn Zoar, Siloh, a'r Garth.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma :-

  • David Jones. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Bethesda, Arfon, ac y mae yn awr yn Zoar, Merthyr.
  • William Rees. Amfudodd i Awstralia.
  • John Davies. Bu yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, ac y mae yn awr yn weinidog gyda'r Saeson yn Maesteg.
  • Thomas Ll. Jones. Mae yn awr yn fyfyriwr yn athrofa, Lancashire.

* Diwygiwr. 1850. Tu dal. 222.

Translation by Maureen Saycell (April 2009)

There is very little material to use for this church. Mr William Beynon began a cause here in 1827, with 4 members of Llangynwyd namely - Evan David, Edward Jones, David Morgans and his wife. When the chapel was half built Mr Beynon ceased all contact with the place and the care was taken on by Mr William Morgan along with Llangynwyd, he remains the minister here. The chapel was completed soon after he was settled, then rebuilt in 1831. In 1850 the current chapel, measuring 60 x 42 feet, was built. It was opened May 20th and 21st, 1850 the following officiated  - Messrs  E. Griffiths, Swansea; W. Roberts. Tabor; O. Owens, Brynmenyn; D. Evans, Nazareth; R. Pryse, Cwmllynfell; P. Griffiths, Alltwen; J. Mathews, Neath; M. Rees, Groeswen; H. Davies, Bethania; J. Thomas, Glynnedd; T. Davies, Swansea; R. Rees,  Swansea; J. Rees, Carmel; W. Thomas, Rock, and others.* There have been many good people involved with this cause but we do not have any names for them, Zoar, Siloh and Garth were all branches of this church.

The following were raised to preach here -

  • DAVID JONES - educated Brecon - ordained Bethesda, Caernarfonshire - now at Zoar, Merthyr.
  • WILLIAM REES - emigrated to Australia.
  • JOHN DAVIES - educated Carmarthen - now an English minister in Maesteg.
  • THOMAS Ll JONES - currently a student in Lancashire.

* Diwygiwr. 1850. Tu dal. 222.

 

ZOAR, MAESTEG.  (Llangynwyd parish)

(Vol 2, p 185)

Dechreuwyd yr achos hwn yn y flwyddyn 1839, mewn ty anedd yn Rhester Jenkin, gan nifer o aelodau a ymadawsant o eglwys Carmel, oblegid fod eu golygiadau ar drefn yr efengyl yn eangach nag eiddo y mwyafrif o'r eglwys. Y personau a fu fwyaf blaenllaw yn y symudiad oeddynt y rhai canlynol, John Williams, Jonathan Davies, William Rees, William Thomas, Thomas Thomas, Thomas Watkins, William Howells, David Henry, Thomas Jenkins, William Thomas, Evan Roberts, David Lewis, David Sharah, Evan Sharah, Thomas Evans, a James Jones. Ac mhen dau fis wedi iddynt ymadael, prynasant yr hen gapel a ddechreuwyd gan yr Annibynwyr, yr hwn oedd ar y pryd yn eiddo y Methodistiaid Calfinaidd. Talasant 61p. am dano, a symudasant iddo yn ddioed i addoli. Ar yr amser hwn yr oeddynt fynychaf heb bregethwr, oblegid gwrthodai y gweinidogion cylchynol ddyfod atynt am y tybid fod eu mynediad allan yn afreolaidd; ond deuai ambell un atynt, er gwybod ei fod trwy hyny yn tynu gwg eraill. Yr oedd cyfarfod chwarterol yr undeb yn hollol wrthwynebol iddynt; ac mewn cyfarfod a gynaliwyd yn Cymer-Glyn-corwg, ar y 7 fed a'r 8 fed o Ebrill, 1841, penderfynwyd " I beidio cynorthwyo y rhai a dorwyd allan o Carmel, Llwyni, ond eu hanog i gynyg eu hunain yn ol, a bod drws agored iddynt ar delerau'r efengyl. +   Ni ddigalonwyd hwy mewn un modd gan y penderfyniad uchod, ond aethant yn mlaen fel cynt, gan gynal moddion rheolaidd, a gwneyd gorau y gallent dan yr amgylchiadau. Yr oedd cyfarfod chwarterol nesaf yr undeb i gael ei gynal yn Carmel, Maesteg, a phan ddaeth y dydd apwyntiedig, ymgasglodd lluaws o weinidogion i'r gynnadledd; ac yn mhlith pethau eraill, dygwyd achos y brodyr a ymadawsent o Carmel dan sylw. Wedi ymdrin yn bwyllus a'u hachos, daethpwyd i'r penderfyniad, Fod yr ardal yn ddigon eang i gynwys dau achos Annibynol, heb i'r naill niweidio y llall; a bod i'r gangen ymadawedig i ddychwelyd yn ol i gydeistedd wrth Fwrdd yr Arglwydd gyda'r brodyr yn Carmel, ac yna i Mr. William Morgan, eu hen weinidog, i fyned gyda hwynt i bregethu yn gyntaf iddynt. Pan ddaeth boreu Sabboth cymundeb, dychwelasant i Carmel, yn ol penderfyniad y gynnadledd, i gydgyfranogi o'r Swper Sanctaidd; ac yn yr hwyr aeth Mr. Morgan gyda hwynt i'w capel, a phregethodd iddynt, felly terfynwyd pob anghydfod, ac ymadawyd yn rheolaidd a boneddigaidd o'r ddeutu. Corpholwyd yr aelodau perthynol i'r lle yn eglwys yn fuan ar ôl hyn, a derbyniwyd dau-ar-bymtheg o'r newydd atynt, fel yr oeddynt o gwbl yn 44 o nifer.

Yn fuan ar ôl hyn - gan fod y lle yr oeddynt yn addoli ychydig tu allan i boblogaeth yr ardal - meddyliasant am gael lle mwy cyfleus, a phenderfynasant gael capel newydd mewn man canolog. Aethant i ymofyn am dir i'w adeiladu at Mr. Robert Smith. Addawodd ei roddi ar yr amod iddynt werthu eu hen gapel iddo ef at wasanaeth yr eglwys Sefydledig. Cytunasant i hyny. Cawsant 61p. am yr hen gapel, y swm a dalasant am dano, a symudasant o hono yn ddioed i le a elwir Ty Candryll, ar ochr yr un heol, ond yn uwch i fyny yn y lle. Buont yma am chwe' mis, ac ychwanegwyd amryw atynt yn ystod y tymor hwnw. Oddiyno symudasant i dy Dafydd Jones, y Gwehydd, ar ochr y Tram-road, lle y buont am chwe' mis arall, ac ymunodd rhai a hwy yno. Erbyn hyn yr oedd eu capel newydd yn dyfod yn mlaen yn gyflym, a symudasant iddo cyn diwedd y flwyddyn 1841; er nad oedd wedi ei orphan, ac ni orphenwyd ef am rai misoedd ar ol hyny. Agorwyd ef y Mercher a'r Iau cyntaf yn mis Medi, 1842.

Yn mis Hydref yr un flwyddyn, cymerwyd eu gofal yn fisol gan Mr. John Davies, Mynyddbach. Yn ystod y tymor yr oedd Mr Davies yn dyfod yma, gwelodd yr eglwys dywydd blin iawn. Cafodd yr ymddiriedolwyi wyslythyron am 220p., sef yr arian dyledus am y llechi a'r priddfeini oedd wedi myned at y capel, a chan nad oedd ganddynt arian i'w talu, ac yn methu a'u cael ar log gan neb, ofnent y buasai yn rhaid gwerthu y capel, ac felly y buasai oni bai i ymwared ddyfod o le annisgwyliadwy. Dangosodd Mr. Davies y cydymdeimlad mwyaf diffuant a hwy; teithiodd lawer nos a dydd trwy bob tywydd er eu cynorthwyo. Coffeir yn neillduol am un boreu Sabboth, wedi iddo esgyn i'r areithfa, plygodd ei ben i lawr, a threiglodd dagrau gloywon dros ei ruddiau wrth feddwl fod y capel yn debyg o gael ei werthu gan swyddogion y gyfraith. Nid teg hefyd fyddai gadael yn ddisylw eiriau caredig a ffyddiog yr hybarch W. Jones, o Benybont-ar-ogwy, wrth ddau o'r brodyr a alwasant gydag ef pan yn y dref yn ceisio cael arian ar log i dalu eu gofynwyr, ac yn methu cael dim. Wedi iddynt adrodd eu helynt wrth Mr. Jones, dywedodd wrthynt : -

"Cymerwch gysur frodyr bach, oblegid os ty i Dduw ydyw eich capel, fe ofala yr Arglwydd na chaiff ddim cam; os bydd hi wedi myned yn galed iawn, gadewch i mi wybod a chymeraf ddeg punt i'w casglu drosoch."

Cyn pen ychydig wythnosau ar ol yr ymddiddan yna, cyflawnwyd geiriau hyderus Mr. Jones trwy i'r Arglwydd roi yn nghalon brawd parchus gyda'r Bedyddwyr, Mr. W. Thomas, Paentiwr, o Benybont-ar-ogwy, i ddyfod yn mlaen a thalu yr arian gofynedig i fyny yn swyddfa Alexander Cuthbertson, cyfreithwr, Castellnedd. Costiodd yr helynt yma dros 30p. i'r eglwys. Wedi i'r cwmwl tywyll yma gael ei symud, dechreuodd yr eglwys gymeryd colon drachefn. Meddyliodd mai gwell fuasai iddi gael gweinidog ei hun, er nad oedd ei nifer ond rhyw 49. Daeth Mr. Thomas Lloyd o Nantyglo, heibio i bregethu, hoffwyd ef gan yr eglwys a rhoddwyd galwad iddo, cydsyniodd yntau a hi, ac urddwyd ef Medi 27ain a'r 28ain, 1843; ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Davies, Mynyddbach; holwyd y gofyniadau gan Mr. R. Jones, Sirhowy; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. D. Evans, Castellnedd; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Stephenson, Nantyglo, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. W. Jones, Penybont. Gweinidogaethodd Mr. Lloyd yma am ddwy flynedd, ac yr oedd yn gymeradwy iawn gan yr eglwys a'r ardal yn gyffredinol. Ychwanegwyd amryw at yr eglwys-symudwyd ychydig ar y ddyled ac yn ei dymor ef y bu y gymanfa sirol yma. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny oblegid gwendid a llesgedd corphorol i ymgymeryd a'r ddyled drom oedd ar y capel; ond trwy iddo ymsefydlu yn y lle fel masnachwr, bu o wasanaeth mawr i'r eglwys fel aelod a phregethwr am flynyddau, a theimlid colled ar ei ol pan yr ymadawodd o'r ardal. Yn fuan ar ol i Mr. Lloyd roddi y weinidogaeth i fyny, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. William Watkins, o Rhymni, i ddyfod i'w bugeilio. Derbyniodd yr alwad, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Gorphenaf laf o'r 2il, 1846. Bu Mr. Watkins yn gweinidogaethu yma gyda chymeradwyaeth mawr am dair blynedd a naw mis. Symudwyd llawer o'r ddyled oddiar y capel yn ei dymor, ac yn y flwyddyn 1849, pan yr ymwelodd y geri marwol a'r ardal, ychwanegwyd rhai ugeinian at yr eglwys, fel yr oedd uwchlaw 300 mewn nifer. Ond daeth ystorm gref i gyfarfod yr eglwys, yr hon a derfynodd mewn ymraniad gofidus. Dygwyd cyhuddiad o anweddeidddra yn erbyn y gweinidog, a galwad am help gweinidogion cymydogaethol i chwilio i'r amgylchiadau. Credid yr hyn a ddywedid gan rai, ac anghredai eraill y cwbl; ond yr oedd mwyafrif yr eglwys yn ei erbyn, ac oblegid hyny, aeth Mr. Watkins allan a 140 gydag ef, ac ymsefydlasant yn eglwys, yr hon sydd yn bresenol yn Saron; ac arosodd 162 ar ol yn Zoar. Gwelodd y rhai hyn dywydd gam ar ol yr ymraniad. Yr oedd y rhan luosocaf o weinidogion y cyfundeb yn ffafrio Mr. Watkins, ac ychydig o honynt a ddeuai i bregethu i Zoar, ond yr oedd Mr. T. Lloyd yn gweini yr ordinhad yn fisol iddynt, ac yn pregethu mor aml ag y gallai, a deuai eraill i'w gynorthwyo. Wedi i'r eglwys fod fel hyn am ddeunaw mis, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Jones, myfyriwr o athrofa Aberhonddu. Cydsyniodd Mr. Jones a'r alwad, ac urddwyd ef Awst 12fed a'r 13eg, 1851. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. T. Rees, Maesygroes; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. E. Jacob, Abertawy; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. L. Powell, Caerdydd; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, Athraw Ieithyddol Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Gweinyddwyd hefyd gan Meistri E. Roberts, Cwmafan; R. G. Jones, Rhiadr; J. D. Williams, Penybont; D. Henry, Cymer; J. Davies, Bryn; S. Phillips, Llangynidr, ac eraill.

Mae ugain mlynedd bellach wedi myned heibio er pan y sefydlodd Mr. Jones yma, ac y mae yr eglwys wedi bod yn lled gysurus er hyny hyd yn bresenol. Mae amryw ganoedd wedi cael eu hychwanegu atti o bryd i bryd. Mae y ddyled drom oedd ar y capel wedi ei thalu er's blynyddau, a chyfnewidiadau mewnol wedi eu gwneyd ynddo fwy nag unwaith, ac nid oes dimai o ddyled yn aros arno yn bresenol, Mae yr eglwys hon wedi bod bob amser yn barod i gynorthwyo achosion gweiniaid yn y gymydogaeth o dan ei beichiau, ac nid yw wedi bod yn ol yn ei chyfraniadau at holl achosion cyhoeddus yr enwad yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Heblaw hyn hefyd, y mae wedi sefydlu achos Saesonig yn y lle. Bu y gynnulleidfa hono yn addoli yn Zoar am ddwy flynedd a haner, a dygai yr eglwys yma ei holl dreuliau oddigerth y weinidogaeth, a chynorthwyai i wneuthur hyny hefyd. Mae y ffeithiau yna yn brawf nad yw wedi bod yn segur na diffrwyth, gartref, nac oddicartref. Er fod yr eglwys wedi colli rhai ugeiniau o'i haelodau yn ystod y tymor a nodwyd trwy ymfudiaeth i wahanol barthau, a rhai wedi ymuno a'r Saeson yn y lle, etto y mae hi yn dal yn dda mewn rhifedi trwy y cwbl, ac nid yw mewn un modd yn llaesu ei dwylaw.

Bu y personau canlynol, yn mysg llawer eraill, yn wasanaethgar iawn i'r achos yma fel aelodau crefyddol. Thomas Thomas. Bu o wasanaeth mawr i'r eglwys hon pan yn adeiladu y capel, ac yn ei ofal am dani am rai blynyddau ar ol ymadael a'r lle. Cafodd ei ddiwedd ar y Vale of Neath. Railway rai blynyddau yn ol. David Jones. Daeth yma o Dreoes. Gwehydd oedd wrth ei gelfyddyd. Hen grefyddwr cynes, ac Annibynwr selog. Ymdrechodd lawer gyda'r achos yma pan oedd yn wan. Bu yn casaglu trwy ranau o'r sir at y cape1, ac efe fu yn ymofyn am y gymanfa yn y Groeswen yn y flwyddyn 1843, pryd y penderfynwyd fod ceiniog oddiwrth bob aelod yn eglwvsi y sir i gael ei ofyn o hyny allan at gynal cymanfa y sir mewn eglwvsi gweiniaid. Yr eglwys hon gafodd y cymorth hwnw gyntaf, ac nid yw wedi anghofio hyny hyd yn hyn. Bu David Jones yn ddiacon yma am rai blynyddau. Mae ei ran farwol yn gorwedd wrth gapel Treoes, lle y bu a'r llaw flaenaf yn nechreuad yr achos. Richard Thomas. Un genedigol o'r ardal hon ydoedd, a bu yn amaethwr yn y gymydogaeth am amryw flynyddau. Yr oedd yn un o'r Annibynwyr hynaf yn yr ardal. Cafodd ef a'i weddw, yr hon sydd yn fyw yn bresenol ac yn 84 oed, eu derbyn yn aelodau yn Cymer-glyn-corwg, a buont yn garedig iawn yn eu llettygarwch i genhadau Crist pan nad oedd neb arall yn yr ardal i'w derbyn. Yr oedd Richard Thomas yn hen frawd cynes ei ysbryd. Bu yn ddiacon yn yr eglwys hon am rai blynyddau. Bu farw yn bedwar ugain oed. William Thomas, genedigol o ardal Penygraig, sir Gaerfyrddin, a gof wrth ei gelfyddyd. Ymunodd a'r eglwys hon yn amser ei chorpholiad a bu yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon am rai blynyddau. Gwnaeth fwy o ddaioni distaw na nemawr neb. William Isaac, genedigol o ardal Llanguwg, a saer wrth ei gelfyddyd. Ymunodd a'r eglwys hon yn y flwyddyn 1847. Bu yn aelod gweithgar, ac yn ysgrifenydd yr eglwys am rai blynyddau. Cafodd ei ddiwedd yn nghy da thri-ar-ddeg eraill mewn pwll g1ô. James Jones. Derbyniwyd ef yn aelod yn Carmel, ac yr oedd yn un o ddechreuwyr yr achos yma, a pharhaodd mewn cysylltiad a'r eglwys hon hyd ddiwedd y flwyddyn 1870, pan y bu farw. Yr oedd yn Annibynwr selog, ac yn un o'r dynion mwyaf gweithgar a gofalus am achos crefydd yn ei holl ranau. Yr oedd gair da gan bawb iddo, a bydd ei enw yn perarogli yn yr ardal am flynyddau lawer.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon: -

  • David Henry. Yr oedd yn un o gychwynwyr yr achos. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1841. Bu yn yr ysgol yn Llanelli. Urddwyd ef yn Cymer-glyn-corwg, ac y mae yn awr yn Penygroes.
  • Thomas Llewellyn. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1848. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Mountain Ash, lle y mae etto.
  • John Davies, Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1858. Bu yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Merthyrcynog, a throdd allan yn anfoesol fel y darfu ei gysylltiad a'r weinidogaeth.
  • William Davies. Dechreuodd bregethu yn 1858. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Gatley, gerllaw Manchester.
  • Samuel Lewis. Dechreuodd bregethu yr un pryd a'r ddau uchod. Aeth i athrofa Airdale yn 1861, ac urddwyd ef yn 1866 yn Hallaton, swydd Leicester.**

+Diwygiwr, Mai, 1841.

* Llythyr Mr. Morgan, Aberafan.

**Cafwyd y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes ùchod oddiwrth Mr. Jones, Zoar Maesteg; a byddaí yn dda genym gael defnyddiau mor gyflawn o'r holl eglwysi.

Translation by Maureen Saycell (April 2009)

This cause was started in 1839 in a house on Jenkins Row by a number of members that had left Carmel, because they held different views on the Scriptures. Those who led them were - John Williams, Jonathan Davies, William Rees, William Thomas, Thomas Thomas, Thomas Watkins, William Howells, David Henry, Thomas Jenkins, William Thomas, Evan Roberts, David Lewis, David Sharah, Evan Sharah, Thomas Evans, and James Jones. Within 2 months they had purchased the old chapel, originally Independent, currently the propertyof Calvinistic Methodists.  They paid £61 for it and moved in without delay. They were without a minister most of the time as the local ministers thought that the way they had left was outside the rules, some would come there occasionally knowing the majority would not approve. In a quarterly Union meeting at Cymer Glyn Corwg on the 7th and 8th of April, 1841 they decided not to support those who had been cut out of Carmel, Llwyni, but to leave the door open in the terms of the Scriptures to encourage them to return.+ They were not disheartened by the decision and continued as before. The next quarterly meeting was at Carmel, Maesteg, and the situation of those who had left Carmel came up for discussion before the large gathering of ministers. Having given due consideration it was decided that the area was big enough to accomodate 2 Independent causes. the terms were that they went to Carmel and shared Holy Communion in the morning and in the evening their old minister Mr William Morgan went to their chapel and preached to them. Shortly afterwards they were formed into a church and 17 new members were added, bringing the total to 44.

Soon they decided to build a new chapel nearer to the centre of the populated area. They approached Mr Robert Smith for land to build on, he agreed to their request on provision that they sold him their existing chapel for the use of the established church.They readily agreed to this and accepted £61 for the old chapel, the same as they had paid for it. They left without delay and worshipped in Ty Candryll further up the same road, they spent 6 months there and added to their numbers. From there they moved to Dafydd Jones the weaver's house alongside the Tram Road for another 6 months, where more joined them. Their own chapel was progressing rapidly and they moved into it before the end of 1841, although not completed for another few months. It was opened on the first Wednesday and Thursday of September, 1842.

In October the same year Mr John Davies, Mynyddbach, undertook their care. Over the time he was in charge the church saw some lean times. The trustees recieved demands for £220, the money owed on the chapel. As they did not have the money and could not borrow it they were afraid that they would have to sell the chapel. Mr Davies was very supportive of them and very upset at the thought of selling this chapel. Some went to look for money to borrow in Bridgend, and called in on the Venerable W Jones. Having listened to their problems said " Take comfort brothers, if your chapel is a house of God, the Lord will ensure that no harm will come to it, if things get very hard let me know and I'll take £10 to collect for you"

Within  a few weeks Mr Jones' prediction was fulfilled when Mr Thomas, Painter, a respected Baptist paid the debt at the offices of Alexander Cuthbertson, Solicitor, Neath. This affair cost the church £30. Once this dark cloud had been removed the church took heart again and decided to have their own minister despite the fact that there was only 49 members. Mr Thomas Lloyd, Nantyglo preached here and was liked by the congregation, he was called, agreed and was ordained September 27th and 28th,1843. On the occasion a sermon on the nature of a church was given by  Mr. J. Davies, Mynyddbach; the questions were asked by Mr. R. Jones, Sirhowy;  Mr. D. Evans, Castellnedd, offered the ordination prayer; a sermon on the duty of a minister from Mr. D. Stephenson, Nantyglo, and from Mr. W. Jones, Penybont, on the duty of a church. Mr. Lloyd stayed for 2 years, and was popular with church and community. Many were added to the church and some of the debt removed, also during his time there was a very successful County Festival held here. He gave up his ministry due to ill health, he settled in the area as a businessman and continued to serve the chapel as a member and preaching as needed for many years. Soon after Mr Lloyd gave up his ministry a call was sent to Mr William Watkins, Rhymney. He settled here July 1st and 2nd, 1846. He was here for 3 years and 9 months. During his time much of the debt was cleared, and in 1849, when cholera came to the area many were added to the church, taking the numbers above 300. Then a storm came which caused a division.An accusation of indecency was brought against the minister and help was sought from neighbouring ministers to investigate.  The majority went against him and Mr Watkins and 140 members left and set up a church at Saron - 162 remained at Zoar. Thode remaining had a difficult time as most ministers in the Union favoured Mr Watkins and few of them would preach at Zoar, Mr T Lloyd  celebrated communion Monthly and preached as often as he could, others also helped. After 18 months the church sent a call to Mr John Jones, student at Brecon. He was ordained  August 12th and 13th, 1851. On the occasion Mr. T. Rees, Maesygroes, preached on the nature of a church; the questions were asked by Mr. E. Jacob, Swansea; Mr. L. Powell, Cardiff, offered the ordination prayer; a sermon to the minister from Mr. E. Davies, Language Lecturer at Brecon, and to the church Mr. P. Griffiths, Alltwen. Messrs E. Roberts, Cwmafan; R. G. Jones, Rhayader; J. D. Williams, Penybont; D. Henry, Cymer; J. Davies, Bryn; S. Phillips, Llangynidr, and others also officiated. It is 20 years since Mr Jones came here and the church has been content since then. Many have come and gone since then and the debt cleared. Internal changes have been made many times and there is no current debt.This church has always been ready to help weaker causes and over the last 20 years they have contributed to all pulic appeals by the denomination. As well as this they have founded an English cause, this cause worshipped at Zoar for over 2 years and this church paid their dues except for the ministry which they also helped with. These facts prove that this church has not been idle at home or away. Despite the fact that many had moved away, others joined the English cause but numbers are maintaining.

The following were very useful to the church over the years

  • THOMAS THOMAS -with the building of the chapel, died on the Vale of Neath railway.
  • DAVID JONES - Weaver by trade. Persuaded the Union that every member should contribute a penny to enable the Festival to be held in weaker chapels in 1843. This church was the first to benefit.
  • RICHARD THOMAS - Born in the area, Farmer. Offered hospitality to visiting ministers, his widow still lives at 84 years. Deacon for many years, died age 80.
  • WILLIAM THOMAS - born Penygraig, Carmarthen. Blacksmith by trade. Founder member and deacon.
  • WILLIAM ISAAC - born Llangiwg, carpenter by trade. Joined the church in 1847, active and was secretary for many years. Died in a coalmine along with 13 others.
  • JAMES JONES - confirmed at Carmel, founder member here and remainrd to his death in 1870.

The following were raised to preach here*** -

  • DAVID HENRY - began to preach 1841 - educated Llanelli. ordained Cymer-glyn-corwg, now in Penygroes.
  • THOMAS LLEWELYN - began preaching 1848 - educated Brecon - ordained Mountain Ash.
  • JOHN DAVIES - began preaching 1858 - educated Brecon - ordained Merthyrcynog - became immoral and left the ministry.
  • WILLIAM DAVIES - began preaching 1858 - educated Brecon - ordained Gatley, Manchester.
  • SAMUEL LEWIS - began preaching 1858 - educated Airdale 1861 - ordained 1866 in  Hallaton, Leicester.**

+Diwygiwr, Mai, 1841

**Most of the above material from Mr. Jones, Zoar Maesteg; it would be a pleasure to have such records in every chapel

***Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

SILOH, MAESTEG.  (Llangynwyd parish)

(Vol 2, p 188)

Yn y flwyddyn 1841, codwyd yma gapel bychan gan Mr. William Morgan, a'r eglwys yn Carmel, a'r un flwyddyn ffurfiwyd un-ar-bymtheg o aelodau Carmel yn eglwys ynddo. Gweinyddodd Meistri L. Powell, Caerdydd; D. Griffiths, Castellnedd, a P. Griffiths, Alltwen, yn agoriad y capel. Bu y lle dan ofal Mr. Morgan hyd haf 1849, pryd y cydunodd ef a'r eglwys i roddi galwad i Mr. Henry Pritchard, pregethwr cynorthwyol oedd ar y pryd yn aelod yn y lle, ond a ddaethai yma o Nantyglo. Urddwyd ef Gorphenaf 18fed a'r 19eg, 1849; a bu yma hyd y flwyddyn 1854, pryd yr ymadawodd a'r lle, gan adael ei wraig a'i blant ar ol, ac ni welwyd ef yma mwy. Ychydig o gynydd fu ar yr achos yn ystod ei arosiad yn y lle, a pha lwyddiant a allesid ddisgwyl dan weinidogaeth y fath un. Yn nechreu y flwyddyn 1856, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. William Rees, pregethwr cynorthwyol perthynol i Bethania, Cwmafan; ac urddwyd ef yma yr 21ain o'r Chwefror canlynol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri E. Roberts, Cwmafan; W. Thomas, Rock; J. Davies, Taihirion; T. Davies, Treforis; D. Jones, Efailfach; I. Jones, Drefnewydd; E. Evans, Sciwen, ac R. Williams, Cerigllwydion.* Bu gweinidogaeth Mr. Rees yma yn dra llwyddianus, fel cyn diwedd y flwyddyn gyntaf yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan, a'r flwyddyn ganlynol adeiladwyd un eangach a harddach, yr hwn a gostiodd 625p., ac agorwyd ef Mawrth 21ain, 1858, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Lewis, Henllan; D. Price, Aberdar; W. Jenkins, Brynmawr, ac I. Jones, Drefnewydd. Mae yr achos yma wedi myned rhagddo yn fawr yn ystod y pymtheng mlynedd diweddaf, ac y mae golwg lewyrchus arno yn bresenol. Nid oes ond dau. o'r un-ar-bymtheg oedd yma ,yn dechreu yr achos, ddeng-mlynedd-ar-hugain yn ol yn aros, sef Evan Evans a Catherine Jenkins, ac y mae y rhan fwyaf o'u cyfoedion wedi blaenu arnynt i'r wlad well.

Codwyd yma gryn nifer o bregethwyr, ag ystyried nad yw yr eglwys ond cydmarol ieuangc.

  • John Bevan. Urddwyd ef yn Llangadog, a daw ei hanes yn nglyn a'r eglwys yno.
  • William Edwards. Ymfudodd ef i America, ac y mae yn weinidog yno.
  • Arthur Bowen. Bu yn bregethwr cymeradwy am ychydig flynyddoedd, ond bu farw yn Hydref, 1862.
  • John Bevan. Bu dan addysg yn Mhenybont-ar-ogwy, ac urddwyd ef yn y Waunarlwydd, gerllaw Abertawy, ac yno y mae yn aros etto.
  • David M. George. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yr haf diweddaf (1871) yn Hermon a Llansadwrn, sir Gaerfyrddin.
  • James Jones. Aeth i America yr haf diweddaf.
  • John Michael. Y mae yn bresenol yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu.

* Diwygiwr, 1856. Tu dal 122.

Translation by Maureen Saycell (May 2009)

In 1841 a small chapel was built here by Mr William Morgan and the church of Carmel, the same year 16 members of Carmel were formed into a church there. The following officiated at the opening - Messrs L. Powell, Caerdydd; D. Griffiths, Castellnedd, and P. Griffiths, Alltwen. The place was inder the care of  Mr Morgan until summer of 1849 when a call was sent to Mr Henry Pritchard, an occasional preacher who was a member here at the time. He was ordained July 18th and 19th, 1849, he stayed until 1854  when he left the area without his wife and family and was never seen again. There was little improvement during his time. A call was sent  to Mr William Rees, a supporting preacher at Bethania, Cwmafan. He was ordained on February 21st. Those who officiated were Messrs E. Roberts, Cwmafan; W. Thomas, Rock; J. Davies, Taihirion; T. Davies, Morriston; D. Jones, Efailfach; I. Jones, Newtown; E. Evans, Skewen, and R. Williams, Cerigllwydion.* Mr Rees' ministry here was very successful, so that within a year the chapel became too small and the next year a larger and more handsome one was built costing £625. It was opened March 21st, 1858, those officiating were Messrs J. Lewis, Henllan; D. Price, Aberdar; W. Jenkins, Brynmawr, and I. Jones, Drefnewydd. This cause has done well over the last 15 years and appears very healthy currently. There are only 2 of the founder members remaining from 30 years ago - Evan Evans and Catherine Jenkins, the others having already gone to the promised land.

There are a good number of preachers raised in this young church

  • JOHN BEVAN - ordained Llangadog, see that history.
  • WILLIAM EDWARDS - minister in America.
  • ARTHUR BOWEN - an acceptable preacher died October, 1862.
  • JOHN BEVAN - educated Bridgend -ordained Waunarlwydd, near Swansea, where he remains.
  • DAVID M GEORGE - educated Brecon, ordained 1871 Hermon and Llansadwrn, Carmarthenshire.
  • JAMES JONES - left for America last summer.
  • JOHN MICHAEL - currently a student at Brecon.

* Diwygiwr, 1856. page122.

 

SARON, MAESTEG.   (Llangynwyd parish)

(Vol 2, p 189)

Wedi i gysylltiad Mr. W. Watkins ddarfod a'r eglwys yn Zoar, dechreuodd ef a'r rhai ymadawsant gydag ef gyfarfod mewn ystafell eang yn Commercial Street, ae ymgorpholasant yn eglwys dan ofal Mr. Watkins, Mawrth 17eg, 1850. Y rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos hwn ar ei gychwyniad, heblaw y gweinidog, oedd William Thomas, Thomas Thomas, a Griffith Gibbon, (tad Mr. W. Gibbon, Capel Isaac), ac yr oedd y tri hyn yn ddynion ymroddedig a phenderfynol. Meddyliasant yn fuan am adeiladu capel, a dechreuwyd arno yn ddioed, a galwyd ef Saron. Agorwyd ef Ionawr 12fed a'r 13eg, 1853, yn nglyn a chyfarfod chwarterol cyfundeb gorllewinol Morganwg, yr hwn a gynhelid yma. Ar yr achlysur pregethodd Meistri J. Thomas, Glynnedd; T. R. Davies, Ysgetty; T. Thomas, Clydach; E. Roberts, Cwmafan; E. Griffiths, Abertawy; R. Rees, Abertawy, a T. Davies, Treforis.* Bu Mr. Watkins yn gofalu am y lle am yn agos i bymtheng mlynedd, ond ni bu llwyddiant mawr ar ei lafur. Yr oedd yr amgylchiadau o dan ba rai y cychwynwyd yr achos, a lluosogrwydd capelau yr un enwad yn yr ardal yn cyfrif am hyny. Yn niwedd y flwyddyn 1866, rhoddodd Mr. Watkins yr eglwys i fyny, ac ymgymerodd a dechreu achos, ac adeiladu capel yn y Dyffryn. Wedi bod flwyddyn a haner heb weinidog, rhoddwyd galwad i Mr. S. D. Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Heolgerig, gerllaw Merthyr, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Rhagfyr 29ain a'r 30ain, 1867; a bu yma am dair blynedd, pryd y symudodd i Carmel, Penbre. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Jones, rhoddwyd galwad i Mr. William B. Morgan, Myddfai, sir Gaerfyrddin, a chadwyd cyfarfodydd ei sefydliad Medi 10fed a'r 11eg, 1871. Egwan y mae yr achos yma wedi bod o'r dechreuad, ond dywedir ei fod wedi sirioli yn ddiweddar.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :-

  • William Thomas. Yr oedd yn un o'r diaconiaid cyntaf, ac ni phallodd ei ddefnyddioldeb ar ol iddo ddechreu pregethu. Bu farw Mehefin 1860.
  • Richard W. Watkins, mab Mr. Watkins, yr hen weinidog. Mae yn awr yn bregethwr cynorthwyol yn Saron.
  • Thomas G. Jones. Bu yn efrydydd yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn Gwernogle, lle mae yn bresenol.
  • William Morris. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef y flwyddyn hon yn Brynmenyn, gerllaw Penybont-ar-ogwy.
  • William Owen. Bu am ysbaid yn athrofa Aberhonddu, ond gwaelodd ei iechyd, ae ymfudodd i'r America, lle y mae etto.

Mae yn Saron ychydig ffyddloniaid oedd gyda'r achos ar ei gychwyniad yn aros hyd yr awr hon.

* Diwygiwr, 1853. Ta dal. 60.

Translation by Maureen Saycell (May 2009)

After Mr Watkins ended his connection with Zoar, he and those who left with him started to meet in a large room in Commercial Street, they were established as a church under the care of Mr Watkins on March 17th, 1850. Those foremost in the cause were William Thomas, Thomas Thomas, and Griffith Gibbon, (father of Mr. W. Gibbon, Capel Isaac), they were dedicated and single minded. They soon thought about building a chapel and started withouut delay, it was named Saron. It was opened on January 12th and 13th, 1853 along with the quarterly meeting of the Glamorgan West Union. On the occasion the following officiated - Messrs J. Thomas, Glynnedd; T. R. Davies, Ysgetty; T. Thomas, Clydach; E. Roberts, Cwmafan; E. Griffiths, Abertawy; R. Rees, Abertawy, and T. Davies, Treforis.* Mr Watkins was here, without much success, for 15 years. The circumstances in which the chapel was started and the numbers of Independent causes in the area accounted to an extent for this. In 1866 Mr Watkin moved on to establish a church in Dyffryn. After 18 months without a minister, a call was sent to Mr S D Jones, Heolgerig, near Merthyr and the induction services for him were held December 29th and 30th, 1867. He stayed for 3 years then moved on to Carmel, Pembrey. Soon after he left they gave a call to Mr William B Morgan, Myddfai, Carmarthenshire, his induction services were on September 10th and 11th, 1871. The cause remains weak but appears happier recently.

The following were raised to preach here -

  • WILLIAM THOMAS - one of the first deacons - remained useful after starting to preach - died 1860.
  • RICHARD W WATKINS - son of  Mr. Watkins, old minister - now supporting minister at Saron.
  • THOMAS G JONES - educated Carmarthen - ordained Gwernogle, remains there.
  • WILLIAM MORRIS - educated Brecon - ordained Brynmenyn, Brigend.
  • WILLIAM OWEN - educated Brecon - failing health - emigrated to America where he remains.

There are a few of the founders still at Saron.

* Diwygiwr, 1853. page 60.

 

DYFFRYN, MAESTEG.  (Llangynwyd parish)

(Vol 2, p 190)

Yn nechreu y flwyddyn 1867, wedi rhoddi i fyny ofal eglwys Saron, cychwynodd Mr. Watkins achos a chododd gapel yn y Dyffryn, a ffurfiwyd eglwys yma yn Ebrill,1868, yr hon a fu dan ei ofal hyd ei farwolaeth, Mai 17eg, 1870. Yn Hydref y flwyddyn hono, daeth capel y Dyffryn dan nawdd eglwys Siloh, a chymerodd Mr. William Rees ofal yr achos, ae felly y mae y Dyffryn yn parhau mewn cysylltiad a Siloh. Gan nad yw ond achos newydd, nid oes dim neillduol yn nglyn ag ef i'w cofnodi.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM WATKINS. Ganwyd ef yn Caehopkin, yn mhlwyf Ystradgynlais, sir Frycheiniog, Mehefin 23ain, 1810. Derbyniwyd ef yn aelod ieuangc yn Nhy'nycoed, a dechreuodd bregethu pan yn ugain oed. Ni chafodd ond ysgol ddyddiol gyffredin yn ei febyd, oblegid gorfu iddo weithio yn galed fel glowr er yr oedd yn dair-ar-ddeg oed hyd o fewn ychydig wythnosau i'w urddiad, yr hyn a gymerodd le yn Rhymni, Hydref 5ed a'r 6ed, 1836, fel y crybwyllasom yn hanes eglwys Seion. Bu Mr. Watkins yn llafurio yno am fwy nag wyth mlynedd; ac yn ei amser ef, a thrwy ei lafur ef yn benaf y codwyd capel Seion; a chododd gapel arall yno a elwir Gosen, i nifer o gyfeillion a ymlynent wrtho pan yr ymadawodd o Seion. Yn y flwyddyn 1845, derbyniodd alwad o Zoar, Maesteg, a'r hon y cydsyniodd, ond ni symudodd yma yn fuan, ac wedi iddo symud, arferai deithio yr holl ffordd dros y mynyddoedd unwaith yn y mis at ei gyfeillion yn Gosen, Rhymni. Bu am bum' mlynedd yn gysurus a llwyddianus, ond oblegid y cyhuddiadau a ddygid i'w erbyn, at y rhai y crybwyllasom yn hanes Zoar, darfu ei gysylltiad a'r eglwys yno, ac aeth nifer luosog o'r rhai a ymlynent wrtho allan i ddechreu yr achos sydd yn awr yn Saron. Wedi bod yn gofalu am y lle hwnw am yn agos i bymtheng mlynedd, rhoddodd yr eglwys yno i fyny yn niwedd 1866; a dechreuodd achos newydd yn y Dyffryn, a chododd yno gapel yn 1868, ond erbyn hyn yr oedd ei iechyd yn dechreu adfeilio, a bu farw Mai 17eg, 1870, yn 60 oed, gan adael gweddw a chwech o blant i alaru ar ei ol, a chladdwyd ef yn mynwent Saron, lle yr oedd rhai o'i anwyliaid, a llawer o'i gyfeillion wedi eu rhoddi i orwedd o'i flaen.

Gyrfa helbulus lawn a gafodd Mr. Watkins yn nglyn a'r weinidogaeth, ond glynodd wrth ei waith yn ddi-ildio; ac yr oedd ei garedigrwydd a'i sirioldeb yn peri fod ganddo gyfeillion yn glynu wrtho trwy ei holl brofedigaethau. Yn mlynyddoedd olaf ei fywyd yr oedd yn oruchwyliwr yn nglyn a chwmni ysweiriant, a theithiai lawer oddicartref i sefydlu goruchwylwyr; ac yr oedd yn ddyn mawr gyda'r cymdeithasau cyfeillgar, y rhai a ddangosasant barch nodedig iddo ar ddydd ei gladdedigaeth.

Yr oedd Mr. Watkins yn ddyn o gorph cryf - o ysbryd bywiog - o dymer lawen - yn gyfaill serchog a chywir - yn bregethwr da ar faterion ymarferol, a byddai weithiau yn dra effeithiol. Ond nid oedd yn un o'r rhai mwyaf hapus i ymwneyd a dynion, goddefai iddynt fyned yn rhy hyf arno; ac yr oedd ei ysgafnder a'i anwyliedwriaeth yn rhoddi achlysur i'r rhai a ewyllysient gael achlysur yn ei erbyn. Bu yn llafurus lawn i adeiladu pedwar o gapeli; ond y mae yn ddrwg genym orfod ychwanegu fod dau o'r rhai hyny wedi eu cyfodi mewn canlyniad i rwygiadau yn yr eglwysi dan ei ofal; ac wedi eu codi mewn manau nas gallesid profi fod angenion y cymydogaethau yn galw am daynt. Ystyriwn fod tegwch yn galw arnom i ddyweyd hyn, er fod genym lawer o barch i enw a choffadwriaeth William Watkins.

Translation by Maureen Saycell (May 2009)

Early 1867, after giving up the care of Saron, Mr Watkins started a cause and built a chapel in Dyffryn, a church was formed April, 1868. Mr Watkins remained here until he died May 17th, 1870. In October that year Dyffryn came under the wing of Siloh, Mr William Rees took on the care of the chapel in association with Siloh chapel and comtinues that way.

BIOGRAPHICAL NOTES *

WILLIAM WATKINS - born June 23rd, 1810 at Caehopkin, Ystradgynlais, Breconshire - began preaching age 20 at Ty'ncoed - worked as a coalminer from 13 until just before his ordination in Rhymney, October 5th and 6th, 1836 - there for 8 years he was responsible for the building of Seion and Gosen - accepted a call to Zoar, Maesteg but once there continued to return to Rhymney once a month - died May 17th, 1870 leaving a widow and 6 children.

*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

 

GARTH, MAESTEG. (Llangynwyd parish)

(Vol 2, p 191)

Y Garth y gelwir y rhan isaf o ddyffryn Maesteg, lle y mae rhagolygon mwyaf addawus y lle yn bresenol. Mae yma amryw weithfeydd glo ac alcam yn y lle. Adeiladwyd yma gapel yn y flwyddyn 1868, a galwyd ef yn Ebenezer. Costiodd tua 230p., ac y mae ynddo le i ryw 200 i eistedd. Bwriadwyd ef ar y cyntaf i wasanaethu fel ysgoldy mewn cysylltiad a Carmel. Cynhelid yma Ysgol Sabbothol y boreu, pregeth am ddau, a chyfarfod gweddi yr hwyr, er cyfleusdra i'r rhai nad allent fyned i Carmel. Prydnhawn Sabboth, Gorphenaf 30ain, 1871, y corpholwyd yma eglwys. Pregethodd Mr. R. Morgan, Aberafan, a chydweinyddodd ef a Mr. Morgan, Carmel, ar y cymundeb. Tua 27 o aelodau oedd yma yn cychwyn, ond y mae yr achos yn myned rhagddo, fel y mae in debyg y bydd yma eglwys gref cyn pen ychydig flynyddoedd. Mae y rhan fwyaf o ddyled y capel wedi ei dalu. Yn y cyfarfod blynyddol a gynaliwyd yma Mai 21ain a'r 22ain, 1871, daeth un Joshua Morgan, aelod gyda'r Bedyddwyr, ond hen gyfaill i Mr. Morgan, Carmel, yn mlaen ac a roddodd 21p. at gynorthwyo i dalu y ddyled. Nid dyma yr unig engraifft sydd genym o garedigrwydd brodyr ffyddlon perthynol i'r Bedyddwyr at achos yr Annibynwyr yn Maesteg.

Translation by Maureen Saycell (April 2009)

Garth is the name given to the area at the lower end of the Maesteg valley, where the outlook is currently brightest. There are many coal mines and tin works here. Ebenezer chapel was built in 1868. The cost was £230 and there is seating for 200. It was initially intended as a schoolhouse associated with Carmel. A Sunday School was held here in the morning, a sermon at 2 pm, then a service again in the evening for the convenience of those unable to attend Carmel. Sunday afternoon , July 30th, 1871 a church was established here. The sermon was given by Mr R Morgan, Aberafan and Mr Morgan Carmel assisted with the celebration of Holy Communion. There were about 27 members originally but the cause is doing well and looks hopeful. Most of the debt is paid and at the Annual Meeting held May 21st and 22nd 1871, a Baptist friend of Mr Morgan named Joshua Morgan donated £21 to help pay the debt, there are other examples of kindness between the Baptists and Independents

 

MAESTEG, (SAESONAEG). (Llangynwyd parish)

(Vol 2, p 192)

Dechreuwyd yr achos yma Ebrill 14eg, 1869, a ffurfiwyd yr eglwys Awst 15fed, yr un flwyddyn gan Mr. Davies, Caerdydd. Bu Mr. Jones, Zoar, a'r eglwys dan ei ofal yn hynod o gefnogol i'r achos yma, a chafwyd gwasanaeth eu capel cyhyd ag y bu angen am hyny. Rhoddwyd careg sylfaen y capel newydd i lawr Tachwedd 23ain, 1870, ac erbyn y 3ydd o Fedi y flwyddyn ganlynol yr oedd yn barod i'w agor, ac yn nglyn a'r agoriad urddwyd Mr. John Davies, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin i holl waith y weinidogaeth. Ar yr achlysur, gweinyddwyd gan Meistri W. Morgan, Caerfyrddin; J. Jones, Maesteg, ac F. S. Johnstone, Merthyr. Yr oedd Mr. Davies yn llafurio yma er cychwyniad yr achos; ac heblaw yr help gwerthfawr a gafodd gan Mr. Jones, Zoar, a gweinidogion eraill yn y sir, y mae enwau y personau canlynol yn y lle, yn mysg eraill, yn deilwng o grybwylliad parchus: - Dr. Davies, W. Rees, Draper; J. R. Thomas, grocer; B. Evans, Overman, ac E. Davies, meddyg. Costiodd Y capel 800p., ac y mae 500p. eisioes wedi eu talu. Araf fel y gellid disgwyl y mae yr achos yn myned yn mlaen, ond y mae wedi ei sefydlu ar gyfer cynydd cyflym yr iaith Saesnaeg yn mysg pobl ieuaingc yr ardal, ac ar gyfer dyfodiaid o Saeson y rhai sydd beunydd yn amlhau yn y gymydogaeth.

Translation by Maureen Saycell (April 2009)

Thia cause was started April 14th, 1869, and the church formed on August 15th of the same year by Mr Davies, Cardiff. Mr Jones, Zoar, and his congregation were very supportive of this cause, allowing use of their chapel as long as needed. The foundation stone was laid for the new chapel on November 23rd, 1870 and by the following 3rd of September it was complete. The opening service was combined with the ordination of Mr John Davies, a student at Carmarthen. The following took part - Messrs W. Morgan, Carmarthen; J. Jones, Maesteg, and F. S. Johnstone, Merthyr. Mr Davies has worked here from the beginning and beside the help of Mr Jones, Zoar the following deserve to be mentioned - Dr. Davies, W. Rees, Draper; J. R. Thomas, Grocer; B. Evans, Overman, and E. Davies, Medical Doctor. The chapel cost £800 of which £500 has already been paid. Any increase as would be expected is slow as it was set up in preparation for the increase of English speakers moving into the area.

 

CWMOGWY. (Llangeinor parish)

(Vol 2, p 218)

Nid oes genym hanes fod un cynyg wedi ei wneyd i sefydlu achos Ymneillduol yn y Cwm hwn hyd y flwyddyn 1840. Yr oedd Gweni Jones, gwraig Nantymoel, yn aelod yn Brynmenyn, a Richard Williams, Margaret Williams, a Morgan Williams, Rhiwglyn, a Mary Williams, Gadlys, yn aelodau gyda'r Methodistiaid yn Glynogwy; a theimlodd y rhai hyn awydd am gael pregethiad cyson o'r efengyl yn y Cwm. Gwahoddwyd Mr. Hopkin, gweinidog y Bedyddwyr yn Felin-Ifan-Ddu, i bregethu yn achlysurol iddynt ar y Sabbothau; a phregethodd lawer yn Tyhowel, a'r Aber, a manan eraill yn y Cwm - ond yn Tyhowel fynychaf, a deuai nifer luosog o'r ardalwyr i wrando. Cyn hir ymadawodd Mr. Hopkin, a daeth Mr. William Williams, cyn-weinidog Felin-Ifan-Ddu, a chymerodd ei le yma; ond oblegid i Mr. Williams roddi gormod o arbenigrwydd i'w olygiadan neilldnol ar Fedydd, ciliodd y gwrandawyr, a rhoddodd yntau i fyny ddyfod yma. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1843. Yn yr adeg yma, dechreuodd Mr. William Morgan, pregethwr cynorthwyol perthynol i'r Cymer, a chyrchu i'r lle, a hoffwyd ef gan y trigolion. Ffurfiwyd yma eglwys Annibynol, yn yr hon yr unodd amryw o'r brodorion, a'r rhai oeddynt yn aelodau yn flaenorol; a chyn diwedd y flwyddyn rhoddwyd galwad i Mr. Morgan i fod yn weinidog yma, ac urddwyd ef yn gynar yn y flwyddyn 1844. Cynhaliwyd cyfarfodydd yr urddiad yn ysgubor yr Aber; ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri J. Evans, Cymer; W. Griffiths, Llanharan; M. Morgan, Bethesda; J. Evans, Maendy; W. Jones, Penybont; T. Lloyd, Llwyni, ac L. Lawrence, Llantrisant. Pum' wythnos yr arhosodd Mr. Morgan yma wedi ei urddo, canys derbyniodd alwad o Troedyrhiw, Merthyr, a dechreuodd ei weinidogaeth yno y Sabboth cyntaf yn Ebrill, 1844, ac y mae yn parhau i lafurio yno.

Yn haf 1847, adeiladwyd yma gapel ar ddarn o dir a gafwyd gan Mr. Jenkins, Llanharan. Galwyd ef Bethania. Costiodd 106p. 18s. 91/2c., heblaw cludiad y defnyddiau, yr hyn a gafwyd yn rhad gan yr ardalwyr.* Agorwyd y capel yn mis Mehefin, 1848. Wedi ymadawiad Mr. Morgan, bu gofal yr eglwys yn benaf ar Meistri W. Jones, Penybont; W. Griffiths, Llanharan, a J. Evans, Cymer; ac wedi marw y blaenaf, parhaodd y ddau a enwyd olaf i ofalu am y lle am flynyddoedd. Cymerodd Mr. Richard Jones ofal yr eglwys tua'r flwyddyn 1857, a pharhaodd i ofalu am dani hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth l0fed, 1863; ac yn fuan wedi hyny, cymerwyd gofal yr eglwys gan Mr. David Jones, Efailfach, yr hwn sydd yn parhau yn weinidog iddi. Nid yw yr achos ond bychan; ond y mae adnoddan y Cwm y fath fel y gellir disgwyl y bydd y boblogaeth yma yn lluosog cyn hir, ac y gwelir yma achos blodeuog.

*Llythyr Mr. J. B. Jones, B.A., Penybont.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL. (Not extracted fully)

RICHARD JONES. Ganwyd ef yn Tainewydd, gerllaw Aberpergwm, yn Nghwmnedd, yn y flwyddyn 1794. ..........................................

Translation by Steve Stephenson (Oct 2008)

There is no history that anyone tried to establish a nonconformist cause in the valley until 1840. Gweni Jones, a Nantymoel lady, was a member of Brynmenyn, and Richard Williams, Margaret Williams, Morgan Williams (Rhiwglyn), and Mary Williams were members with the Methodists in Glynogwy. These felt a desire to have regular preaching of the gospel in the valley. Mr Hopkin, the Baptist minister in Blackmill was invited to preach occasionally to them on the Sabbath, and he preached a lot in Tyhowel, and  Aber, and other places in the valley (but mainly in Tyhowel), a great number of the inhabitants came to listen to him. Before long Mr Hopkin departed and Mr William Williams, the previous minister of Blackmill, came to take his place here; but because Mr Williams gave too much of the specialist nonconformist views on Baptism, the listeners left and he gave up coming here. This was in 1843. At this time Mr William Morgan, assistant preacher belonging to Cymer, started to come to the place, and he was liked by ther people. An Independent church was formed here, in which  some of the original people joined joined, and some others who were previous members. Before the end of the year a call was sent to Mr Morgan to be the minister here and he was ordained early in 1844. The ordination services were held in  the Aber barn, and preaching on this occasion were Messrs. J Evans (Cymer), W Griffiths (Llanharan), M Morgan (Bethesda), J Evans (Maendy), W Jones (Bridgend), T Lloyd (Llwyni) and L Lawrence (Llantrisant). Mr Morgan stayed here only  five weeks following his ordination because he received a call from Troedyrhiw, Merthyr, he began his minitry there the first Sabbath in April and he continues to work there.

In the summer of 1847 a chapel was built here on a piece of land which was given by Mr Jenkins, Llanharan. It was called Bethania. It cost £106 18s 9½d, without the conveyancing which was given free by the residents. The chapel was opened in July 1848. After the departure of Mr Morgan the church was mainly looked after by Messrs. W Jones (Bridgend), W Griffiths (Llanharan) and J Evans (Cymer), and after the death of the first the latter two continued to care for the place for years. Mr Richard Jones took charge of the church around 1857 and continued to care for it until his death which took place on 10th March 1863. Soon after that the church was cared for by Mr David Jones (Efailfach) who continues as minister  to it. The cause is only small, but the resources of a valley of this sort as you might expect will see the population here growing before long, and the cause here will be blossoming.