GENUKI Home Page Glamorgan Glamorgan Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

 

These 8 chapel histories were extracted by Gareth Morgan from the CD published by Archive CD Books (Feb 2008)  - no translations

The main project page is on http://www.genuki.org.uk/big/wal/Indchapels.html#Glamorgan

Proof read by Yvonne John (March 2008)

 


ZOAR, ABERTAWY

Return to top

(Vol 2, p 76)

Gan David Richards, yr hwn oedd yn aelod yn Mhentre-estyll, a David Davies, aelod o Gapel Sïon, y dechreuwyd yr achos hwn. Cymerasant y Trade'shall, yn High-street, at gynal gwasanaeth crefyddol. Ebrill 2i1, 1848, y cynhaliwyd y gwasanaeth cyhoeddus cyntaf yno. Yn y boreu, cadwyd yno Ysgol Sabbothol. Pedwar-ar-ddeg rhwng plant a dynion mewn oed oedd ynddi y Sul cyntaf. Am ddau a chwech yn y prydnawn a'r hwyr, pregethodd Mr. Rees Rees, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn yn fuan ar ol hyny a urddwyd yn weinidog ar yr eglwys ieuangc. Heblaw plant yr Ysgol Sul, nid oedd ond pump o bersonau yn gwrandaw Mr. Rees y Sabboth hwnw. Er mor waned a digalon yr ymddangosai pethau ar y cychwyniad, aeth Mr. Rees a'r ddau frawd, D. Richards, a D. Davies, yn mlaen heb lwfrhau dim. Awst 3ydd, 1848, urddwyd Mr. Rees yn weinidog gan Mr. Evans, Capel Sïon, a Mr. Jenkins, Penygroes. Rhif yr aelodau y pryd hwnw oedd naw, ond erbyn Tachwedd 4ydd, 1849, yr oeddynt wedi lluosogi i 135, a'r Ysgol Sabbothol yn 160. Awst 23ain, 1848, cymerwyd tir at adeiladu y capel, a dechreuwyd ei adeiladu Hydref 9fed, yn yr un flwyddyn. Erbyn Rhagfyr 30ain, yr oedd y tô wedi ei osod ar yr adeilad, a phregethodd Mr. Rees yno y noson hono. Buwyd wedi hyny yn addoli yn y Trade'shall nes i'r capel gael ei orphen. O ddiffyg arian i fyned ar gwaith yn mlaen, ni allwyd gorphen yr adeilad hyd Hydref 30ain, 1849, pryd yr agorwyd ef. Dechreuwyd yr oedfa y nos gyntaf gan Mr. T. Jenkins, Penygroes, a phregethodd Mr. D. Williams, Aberafon, a Mr. J. Ridge, gynt o Cendl. Am ddeg dranoeth, gweddiodd Mr. Williams, Aberafon, a phregethodd Meistri Jinkins, Penygroes; Thomas, Glandwr, a Griffiths, Alltwen. Am 2, gweddiodd Mr. J. Davies, Taihirion, a phregethodd Meistri Williams, Bryn; Watkins, Canaan, a Jones, Bethesda, Merthyr. Am 6, gweddiodd Mr. W. Humphreys, Glandwr, a phregethodd Meistri Davies, Siloa, Llanelli, a Griffiths, Alltwen, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. E. Jacob, Ebenezer. Maint y capel oedd 40 troedfedd wrth 41, yn cynwys 48 o eisteddleoedd ar y llawr, a 36 ar yr oriel. Traul yr adeiladaeth oedd 700p. 2s. 5c. Gan i'r achos gael ei ddechreu yn afreolaidd, heb ymgynghori a'r gweinidogion a'r eglwysi cymydogaethol, fod yr ychydig frodyr a'i dechreuodd, o herwydd bychander en rhif, yn derbyn pob un a ddeuai atynt o eglwysi eraill heb ofalu eu bod yn dyfod yn rheolaidd trwy lythyrau, a bod y ddyled yn fawr, buwyd am dymor yn gwrthod eu derbyn i undeb eglwysi y sir. Parodd hyny drallod nid bychan, oblegid ei fod yn rhwystr i'r ymdrech er talu y ddyled. Ond wedi myned trwy lawer o bryderon ac amgylchiadau bygythiol, gwenodd Duw a dynion arnynt, a chyfododd yr achos ei ben yn fuddugoliaethus. Rhoddodd Mr. Rees ei weinidogaeth i fyny Awst 12fed, 1855, a symudodd i Gapel Isaac. Bu pethau yn lled ddigalon yma wedi ei ymadawiad ef. Collwyd llawer o'r gwrandawyr a'r aelodau, a buwyd unwaith yn ofni y buasai raid gwerthu y capel i'r Pabyddion er talu ei ddyled. Mawrth 3ydd, 1859, cymerodd Mr. Davies, Ysgetty, ofal y lle, mewn cysylltiad a'r Ysgetty. Adfywiodd pethau yn fuan yma dan ei nawdd ef. Yn ystod y tair blynedd y bu y lle dan ofal Mr. Davies talwyd 150p. o'r ddyled heblaw talu y llogau, a daeth pethau i wisgo agwedd obeithiol. Pan welodd ef fod yr achos wedi dyfod i sefyllfa hunan-gynaliol, rhoddodd ei ofal i fyny, ac anogodd y bobl i roddi galwad i Mr. Frederick Samuel, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn yr athrofa Normalaidd yn y dref hon. Urddwyd. Mr. Samuel, Hydref 3ydd a'r 4ydd, 1862. Rhoddir hanes cyfarfodydd yr urddiad yn Niwygiwr, Gorphenaf, 1862, fel y canlyn : - " Zoar, Abertawy. Oddeutu tair blynedd yn ol, cymerodd Mr. Davies, Ysgetty, ofal yr eglwys uchod pan oedd ar drangcedigaeth, ac wedi marw yn ngolwg llawer; gwnaeth ei oreu mewn amser ac allan o amser; ac yr oedd llwydd mawr ar ei waith. Boed bendithion lawer yn orphwysedig ar Mr. Davies, ac eglwys yr Ysgetty, am eu daioni tuag atom yn ein cyfyngder. Ond am nad oedd Mr. Davies yn barnu ei fod yn gwneyd cyfiawnder a'r ddwy eglwys, rhoddodd Zoar i fyny. Yr oedd teimladau gofidus ac hiraethlon yn yr eglwys ar ei ymadawiad. Wedi hyny rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. F. Samuel, myfyriwr o goleg Normalaidd, Abertawy. Nos Fawrth, a dydd Mercher, y 3ydd a'r 4ydd o Fehefin, dygwyd yr urddiad yn mlaen. Y nos gyntaf, gweddiodd Mr. Davies, Capel Sion, a phregethodd y Parchn. W. Morgan, Caerfyrddin, a J. Mathews, Castellnedd. Am 10 dydd Mercher, gweddiodd Mr. Thomas, Glandwr, a phregethodd y Parch. D. Rees, Llanelli, ar natur eglwys; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan y Parch. W. Jones, Castle-street; yna pregethodd y Parch. R. G. Jones, Merthyr, ar ddyledswydd y gweinidog. Am 2, dechreuwyd gan Mr. Owens, Clydach, a phregethodd y Parch. W. Edwards, Aberdare, ar ddyledswydd yr eglwys, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. Thomas, Aberdare. Yn yr hwyr cyn-naliwyd y cyfarfod yn Ebenezer, am fod y lle yn rhy fychan i gynwys haner y dyrfa. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Davies, o'r athrofa Normalaidd, a phregethodd y Parchn. J. Rees Canaan; a T. Rees, Ebenezer. Cafwyd cyfarfod hwylus." Mae Mr. Samuel wedi ac yn ymroddi a'i holl egni gyflawni ei weinidogaeth yn effeithiol, ac wedi bod yn rhagorol o lwyddianus i dalu y ddyled a lluosogi y gynnulleidfa. Tua thair blynedd yn ol gwnaeth ef a'r eglwys eu meddyliau i fyny i adeiladu capel newydd a mwy teilwng o'r dref a'r oes nag oedd yr un a adeiladwyd yn 1849. Bwriadent adeiladu yr ochr arall i'r heol, a gadael yr hen gapel at gychwyn achos Saesonig ynddo, ond o herwydd gomeddiad y Duc o Beaufort i roddi y tir, bu raid iddynt dynu yr hen gapel i lawr ac adeiladu yr un newydd ar ei safle. Mae hwn yn un o'r capeli harddaf a mwyaf cyfleus yn yr holl wlad, ac ysgoldy eang oddi tano yn cynwys lle i 400 o bobl. Gosodwyd ei gareg sylfaen gan S. Morley, Ysw., A.S., Medi 14eg, 1869, a rhoddodd gan' punt at yr adeiladaeth; traddodwyd hefyd areithiau ar yr achlysur gan H. Richard, Ysw.,A .S., E. M. Richards, Ysw.,A. S., Mr. Jones, Castle-street, a Dr. Rees, Ebenezer. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad yn Gorphenaf, 1870. Traul yr adeiladaeth oedd 2,750p. Y mae 750p. o'r swm yma wedi eu casglu yn y ddwy flynedd ddiweddaf, ac er fod swm mawr etto yn aros, ni sail yn hir o flaen dyn mor weithgar a Mr. Samuel, a'r bobl ffyddlon sydd yn ei gynnulleidfa. Pan ddechreuodd Mr. Samuel ei weinidogaeth yma, rhif yr aelodau oedd o 70 i 80, ac yr oedd 550p. o ddyled yn aros ar y lle. Yn awr mae yr aelodau yn 250 o rif, a'r rhan fwyaf o honynt yn bobl a chalon ganddynt i weithio.

Mae agwedd pethau yma yn awr yn ddigon o dal i'r hen frawd ffyddlon David Richards, am yr holl bryderon a'r gofidiau yr aeth trwyddynt wrth gychwyn a chario yr achos yn mlaen yn ei wendid. Dichon y caiff ef etto, er ei lesgedd a'i nychdod, fyw i weled y deml hardd hon yn ddiddyled.

   


WERN, ABERAFAN   (Aberavon parish)

Return to top

(Vol 2, p 130)

Yr ydym wedi dilyn hanes dechreuad yr eglwys hon yn nglyn a'r achos yn y Tabernacl hyd Sabboth, Mehefin 18fed, 1843, pan y clowyd y capel yn erbyn Mr. Daniel Evans, y gweinidog, a'r gynnulleidfa. Yn briodol, yr eglwys hon ydyw yr olyniad rheolaidd o'r eglwys hono, oblegid mai yma yr oedd mwyafrif yr aelodau. Nid arosodd ond 30 ar ol yn yr hen gapel, pryd y daeth 67 allan gyda Mr. Evans. Sabboth a hir gofir oedd y Sabboth hwnw; ac nis gellir edrych ond gyda dirmyg ac anghymeradwyaeth hollol ar y rhai oedd a fynent yn uniongyrchol a'r weithred. Pan aeth Mr. Evans a'r gynnulleidfa fel arfer at y capel y prydnawn Sabboth hwnw, cawsant y drws wedi ei gloi; ond er ei bod yn ddiwrnod gwlawog, safodd Mr. Evans mewn certwyn yn ymyl hen goeden - boncyff yr hon sydd i'w weled etto - a phregethodd i'r bobl gyda hwyl nodedig. Erys adgofion yr oedfa ar feddyliau llawer oeddynt yn bresenol hyd y dydd heddyw. Cadwyd cyfarfod gweddi y noson hono mewn tý anedd a elwid y Felindre, ac yno y cynhelid y cyfeillachau wythnosol am fwy na phedwar mis. Cymerwyd Neuadd y dref (Town Hall,) i gynal y moddion cyhoeddus, ac ymgynnullai lluaws mawr i wrando, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Ar ol bod yn Neuadd y dref yn addoli am bedwar mis, cymerwyd Moriah, hen gapel i'r Bedyddwyr, dan ardreth flynyddol. Aeth yr achos rhagddo yn llwyddianus, a gweinidogaeth Mr. Evans yn dra chymeradwy, ac undeb brawdol yn yr eglwys, ac ar ol y diwygiad grymus a gafwyd yn 1849, yr oedd capel Moriah yn llawer rhy fychan, fel y penderfynodd yr eglwys gael capel newydd. Cafwyd darn o dir ar brydles, am chwe' phunt y flwyddyn o ardreth, gan Mr. Samuel Bamford, yn y pen gorllewinol i'r dref, a galwyd ef y Wern. Dyddiad y weithred yw Ionawr 1 af, 1850. Ymgymerodd Mr. Bamford ag adeiladu y capel, ac agorwyd ef y Mercher a'r Iau olaf yn Medi, 1850. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Bryn; J. Hopkins, Drefnewydd; J. Steadman, Mumbles; H. Rees, Ystradgynlais; J. Thomas, Glynnedd; R. Pryse, Cwmllynfell; T. Davies, Treforis; O. Owens, Brynmenyn; D. Davies, Rhiadr; E. Evans, Hermon; P. Griffiths, Alltwen; J. Thomas, Graig; J. D. Williams, Penybont; E. Jacob, Abertawy; J. Bowen, Pendaran; J. Rees, Carmel; J. Thomas, New York, a T. Thomas, Clydach.* Yr oedd yn gapel helaeth a chyfleus, yn mesur 48 troedfedd wrth 40 troedfedd. Llafuriodd Mr. Evans yma gyda chymeradwyaeth a mesur o lwyddiant hyd derfyn ei oes; er iddo gael llawer o ofid oddiwrth rai personau. Fel y crybwyllasom yn ein cofnodiad bywgraphyddol o hono yn nglyn a Maesyrhaf, Castellnedd, medrai ddyweyd ymadroddion llymion, miniog, a chyrhaeddgar, y rhai a frathent hyd yr asgwrn; a thywalltai gawodydd o ymadroddion gwawdlym y fath ag a orfodai y rhai y disgynent arnynt i deimlo oddiwrthynt. Nid oedd yr ymadroddion hyny hwyrach yn gwneyd dim lles iddo; ond y fath oedd ei gasineb at dwyll, a rhagrith o bob math, yn enwedig at anhyweithdra mewn dynion ar enw crefydd, fel nas gallasai eu goddef. Digwyddodd iddo glywed am un o'r dynion hyn oedd ar un adeg yn yr eglwys dan ei ofal yn y Wern; a chlywsai ei fod yn cynllwyn yn ei erbyn, ac yn ceisio casglu plaid yn ddirgelaidd i'w godi ymaith; a phendorfynodd weinyddu cerydd arno mewn dull nas gallasai gamgymeryd ei ystyr. Wrth fyned o'r capel un noswaith, galwodd y dyn o'r neilldu, ac wedi ysgwyd Ilaw ag ef dywedai wrtho, yn ddystaw ac yn gyfeillgar, fel y gallesid tybied - "Hwn a hwn, os gwyddoch chwi am rhyw ddyn bach yn yr eglwys yma sydd wedi blino arna' i ac am fy nghael i oddiyma - mae dynion felly i'w cael chi wyddoch na bydd neb wrth eu bodd yn hir - dywedwch wrtho mai gwell iddo fyned i Benrhiw, ac aros yno dipyn; a phan y bydd e wedi blino yno - waeth mae e yn siwr o flino, fedr dynion anhywaeth ddim bod yn hir yn unman - gall fyn'd i fyny at Mr. Roberts i Gapel Sion i'w threio hi yno, ac wedi iddo flino yno, a methu llwyddo i'w gyru hi yn ddrwg rhwng Mr. Roberts a'r eglwys, fe all dd'od yn ol yma atom ninau am dipyn.  Mi fyddai i yma wedi hyny - waeth dwy i ddim yn meddwl myned oddiyma. Nos da i chwi;" ac ymaith ag ef. Yr oedd yn dywedyd y cwbl mor gyflym a chyffrous, fel na chai y dyn hamdden i wthio gair i mewn; ond teimlai rhyw lais oddifewn iddo yn dywedyd, "Tydi yw y gwr." Bu rhai o'r dynion hyn o gryn ofid iddo, er hwyrach y gallasai gydag ychydig o hunanlywodraethiad a hynawsedd ragflaenu llawer o hono.

Yn fuan ar ol marwolaeth Mr. Evans, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Job Jones, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Rhagfyr 5ed a'r 6ed, 1860. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. H. Jones, Caerfyrddin; holwyd y gweinidog gan Mr. E. Roberts, Cwmafan; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Thomas, Bryn, Llanelli; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Lewis, Henllan, ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Cymerodd amryw weinidogion eraill ran yn oedfaon y dydd. Ni bu tymor Mr. Jones and byr yma; ond yn yr ysbaid byr hwnw bu yn nodedig o dderbyniol a chymeradwy, ac yr oedd yr adeg hono yn wresog ar grefydd yn y wlad. Gorfodwyd of gan sefyllfa ei iechyd yn gynar yn yr haf dilynol i fyned adref i dý ei rieni, ac ni ddychwelodd yma mwy. Gwanychodd yn raddol, a bu farw Medi 29ain, 1861, yn 27 oed. Bu yr eglwys am fwy na dwy flynedd ar ol hyn yn amddifad o weinidog, ond er hyny ni bu na segur na diffrwyth. Yn nghyfarfod Jubili taliad dyled y capel a gynaliwyd yma Rhagfyr 16eg, 1862, dangosodd yr ysgrifenydd fod yr eglwys wedi casglu at ddyled y capel o'r flwyddyn 1849 hyd y cyfarfod hwnw 993p. 7s. 5½c., heb gyfrif yr hyn a wnaed at gynhaliaeth yr achos yn y lle, ac at achosion cyhoeddus y tu allan. Yn Gorphenaf, 1863, derbyniodd Mr. John Garibaldi Thomas, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, aiwad gan yr eglwys; a chynaliwyd cyfarfodydd ei urddiad y dyddiau olaf o fis Rhagfyr y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Evans, Sciwen; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan ei frawd Mr. W. Thomas, Gwynfe; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Davies, Aberaman, (dan weinidogaeth yr hwn y dechreuodd Mr. Thomas bregethu); ac i'r eglwys gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Yr oedd amryw weinidogion eraill yn bresenol yn cymeryd rhan yn y gwahanol gyfarfodydd, heblaw nifer fawr o fyfyrwyr Caerfyrddin ac Aberhonddu. Dechreuodd Mr. Thomas ei weinidogaeth yma dan amgylchiadau tra ffafriol. Yr oedd masnach yr ardal yn fywiog, a'r eglwys yn llawn o ysbryd gweithio; ac yn haf 1864, penderfynwyd adgyweirio y capel, ac adeiladu ysgoldy helaeth gerllaw iddo, lle yr addysgir y plant ar y Sabboth, ac y cynhelir y moddion wythnosol, a chostiodd y cyfnewidiadau a'r ad-drefniadau agos yr un faint ag a gostiodd adeiladu y capel ar y dechreu. Ail agorwyd ef Awst 6ed a'r 7fed, 1865, a phregethwyd ar yr achlysur gan Meistri E. G. Jones, o athrofa Caerfyrddin; J. M. Thomas, Wyddgrug; E. Evans, Treforis; S. Davies, Aberdar, a T. Rees, D.D., Abertawy. Parhaodd yr eglwys i fyned rhagddi yn llwyddianus, fel cyn diwedd y flwyddyn 1866, yr oedd rhif yr aelodau yn 300. Yn Mai, 1867, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol ar gyfer y Saeson yn Neuadd y dref, gan feddwl y pryd hwnw am sefydlu achos Seisnig yn y lle, and dyryswyd yr amcan hwnw a hyny pan oedd y rhagolygon yn addawol iawn.*  Yn haf 1868, cyflwynwyd Tysteb i Mr. Thomas gan yr eglwys am ei ffyddlondeb gyda'r achos yn y lle; ac yn enwedig fel cydnabyddiaeth o'u parch iddo am ei waith yn sefyll mor wrol o blaid iawnderau yr Ymneillduwyr pan y ceisid gosod iau drom ar eu gwarau yn mrwydr hir gofiadwy y "lle claddu newydd." Cyflwynwyd yr anrheg i Mr. Thomas, dros yr eglwys a chyfeillion y tu allan, gan yr hen

* Diwygiwr, 1850. Tu dal. 376.

* Ysgrif Mr. J. G. Thomas, Aberafan.

ddiacon ffyddlawn Evan Enoch, yr hwn sydd ar fin 80 oed. Mae yr eglwys yma wedi dyoddef oddiwrth fethiant rhai o weithfeydd yr ardal, ac ymadawiad llawer o aelodau i eglwysi eraill; ac nid yw yr ymadawiadau bob amser wedi bod yn y dull mwyaf rheolaidd; ond y mae yr achos er hyny mewn gwedd lewyrchus, ac ni bu ei heddwch mewnol yn helaethach mewn unrhyw gyfnod yn ei hanes, ac nid heddwch diffrwyth ydyw ychwaith canys yr oedd cyfanswm derbyniadau yr eglwys at bob achos am 1870 yn ymyl dau cant o bunau, ac y mae dyled y capel wedi ei dynu i lawr o dan ddau cant.

Bu yma lawer o bersonau ffyddlon o bryd i bryd y rhai y mae ei henwau yn teilyngu eu cofnodi yn barchus. Benjamin James oedd frawd ffyddlon a llafurus. David Griffiths a David Bowen oeddynt ystwyth ac iraidd eu profiad. Morgan Hussey oedd un a wir ofalai am yr achos yn y lle er pan y daeth yma o'r Mynyddbach, a pharhaodd felly hyd y diwedd. Bu farw yn hen ac yn gytlawn o ddyddiau, (93 oed,) ac er ei fod er's blynyddau wedi colli ei olygon, yr oedd ei weled yn gwrando a'i ddagrau mawrion yn treiglo dros ei ruddiau yn dangos fel yr oedd ei enaid yn mwynhau diddanwch yr efengyl. Evan Jones oedd ddyn tawel a heddychol, a dangosodd y dorf fawr a ddaeth i'w gladdedigaeth y parch oedd i'w gymeriad; ac y mae yn ddyled cofnodi, yn mysg llawer o wragedd rhinweddol a fu yma, enw Catherine Howell, yr hon a fu farw y flwyddyn hon (1871). Yr oedd yn berthynas i'r hen bregethwr hynod Siencyn Thomas, Penhydd, ac mewn pethau yn dwyn tebygolrwydd iddo. Yr oedd yn un o'r rhai olaf o'r hen dô a welwyd lawer gwaith yn neidio ac yn llamu o flaen Arch Duw.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon :  -

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

JOB JONES. Mab ydoedd i David a Mary Jones, o'r Crinoedd, yn agos i Narberth. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1834. Derbyniwyd ef yn aelod pan yn ieuangc, ac yn fuan wedi dechreu pregethu aeth i'r athrofa i Gaerfyrddin. Wedi treulio ei amser yno, derbyniodd alwad o'r Wern, Aberafan. Cychwynodd ei weinidogaeth ar adeg fywiog - ar haf o ddiwygiad, ac yr oedd wedi cyfranogi yn helaeth o'r un ysbryd. Cynhelid cyfarfodydd gweddio undebol ar y pryd, ac yr oedd ei dymer serchog a'i ddawn melus yn ei wneyd yn dderbyniol nid yn unig gan ei bobl ei hun, ond gan bob enwad yn y dref; ond yr oedd yr eglwys a'r gynnulleidfa dan ei ofal wedi ymserchu yn arbenig ynddo. Pregethai yn danllyd iawn, yn rhy danllyd o lawer i ateb i'w nerth, a llosgodd allan yn fuan. Yn mhen tua chwe' mis wedi ei urddiad gwelwyd arwyddion eglur fod y darfodedigaeth wedi ymafael ynddo. Aeth adref i dý ei rieni gan ddisgwyl gwellhad, ond nychodd yn raddol, a bu farw brydnhawn Sabboth Medi 29ain, 1861, a chladdwvd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent Brynsion, ac ar yr achlysur gweinyddwyd gan Meistri L. James, Carfan; J. Lewis, HenHan; J. Davies, Gapel Sion, Abertawy; W. Thomas, Whitland, a J. Morris, Narberth. Bu eglwys y Wern yn hynod o garedig iddo yn ystod ei gystudd, ac elai rhai o honynt yn aml yr holl ffordd o Aberafan i ymyl Narberth i ymweled ag ef, ac aeth tua haner cant o honynt i'w angladd. Cymerasant holl draul ei gladdedigaeth, a chodasant gofadail ar ei fedd; ac y mae maen coffadwriaethol am dano ef a'i ragflaenor, Mr. Evans, i'w weled mewn man amlwg yn nghapel y Wern. " Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo," a thros amser byr yr oedd yr eglwys yn " ewyllysgar yn gorfoleddu yn ei oleuni ef."

  


ROCK    (Michaelston-super-Avon parish)

Return to top

(Vol 2, p 134)

Dechreuwyd yr achos yma yn 1838, trwy gadw cyfarfod gweddi yn nhý John Griffiths, cefnder Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd. Yr oedd y tý yr oedd John Griffiths yn byw ynddo wedi bod yn dafarndy, o dan yr enw Rock & Fountain, ac oddiwrth hyny y gelwir y capel hyd heddyw Capel y Rock. Aelodau yn Zoar, Castellnedd, oedd John Griffiths, Rock; Edward Jenkins, Penstar, a Thomas Hughes, Cwmclais, y tri a gychwynasant yr achos, ac unodd Morgan Rees, dilledydd, ac eraill o gapel Seion a rhai o aelodau y Cymer gyda hwy. Yr oedd Morgan Rees yn ganwr rhagorol, yr hyn oedd yn help mawr i'r achos ar ei gychwyniad. Cadwyd y gyfeillach gyntaf yma ar foreu Nadolig 1838, ar ol oedfa-weddi blygeiniol a gynhelid, ac arosodd Rees Griffiths, mab John Griffiths, a Jennet Rees a William Rees, Pontrhydyfen, ynddi. Cedwid cyfeillach yn rheolaidd bob wythnos ar ol hyn, a daeth Thomas Lewis a'i frawd William Lewis yn fuan attynt, a derbyniwyd y pump yn gyflawn aelodau yr un Sabboth yn Zoar, Castellnedd. Yn mhen oddeutu tri mis cafwyd dwy bregeth yn y lle ar brydnhawn Sabboth gan John Davies a David Griffiths, dan bregethwr cynorthwyol perthynol i Zoar; ac o hyny allan cafwyd Ysgol Sabbothol bob boreu Sabboth, pregethu am ddau, a chyfarfod gweddi yn yr hwyr. Deuai y ddau bregethwr a enwyd o Zoar, Castellnedd yma, a Zechariah Davies, aelod o Gapel Seion, a David Griffiths, pregethwr perthynol i'r Bedyddwyr, yr hwn sydd yn aros etto yn Nghwmafan. Cafwyd cyfarfod pregethu yma yn 1838, pryd y pregethodd Meistri W. Thomas, Cymer-glyn-corwg; D. Griffiths, Castellnedd; W. Morgan, Llwyni, a P. Griffiths, Alltwen. Yn niwedd Mehefin, 1839, daeth Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd yma i bregethu, ac i gorpholi yr aelodau yn y lle yn eglwys, ac i weinyddu yr ordinhadau. Bu y lle am ychydig dan ofal Mr. Griffiths, ac wrth weled pethau yn myned yn mlaen mor obeithiol, edrychwyd am le i adeiladu capel; yr hyn a gafwyd yn ymyl y lle y saif y capel presenol. Codwyd capel bychan, diaddurn, ac agorwyd ef Awst 20fed a'r 21ain, 1840. Ar ol cael capel newydd, anogodd Mr. Griffiths yr eglwys yn y lle i edrych am ryw un i'w bugeilio, gan fod ei lafur ef eisioes yn ormod i allu gwneyd hyny. Cyn diwedd y flwyddyn 1841, cymerodd Mr. William Thomas, Cymer-glyn-corwg, ofal y lle mewn rhan, yr hwn oedd wedi bod yn un o brif gefnogwyr y lle o'r dechreuad. Bu yn gofalu am y lle felly yn rhanol mewn cysylltiad a Cefncribwr hyd Ebrill 1845, pryd y rhoddodd yr eglwys yno i fyny, ac y cymerodd yn gyflawn at yr achos yma; ac y mae yn parhau i lafurio yn y lle hyd yr awr hon.* Yn fuan wedi sefydliad Mr. Thomas, lluosogodd yr eglwys a'r gynnulleidfa. Rhoddwyd oriel ar y capel, ac wedi y llwyddiant mawr a gafwyd yn 1849, aeth yn llawer rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa. Yn hytrach na helaethu y Rock, penderfynwyd codi capel newydd eang ar y Wauntymaen, mewn man lle yr oedd y boblogaeth yn cynyddu yn gyflym; ac wedi ei gael yn barod aeth rhan o'r eglwys yno. Effeithiodd ymadawiad cynifer o'r aelodau ar yr un pryd ar y lle dros ychydig; ond cryfhaodd yn raddol, fel y daeth y capel yn llawn drachefn, ac erbyn y flwyddyn 1869, penderfynwyd cael capel newydd eangach, ac adeiladwyd un gwerth wyth gant o bunau, yr hwn a agorwyd Tachwedd 20fed a'r 21ain, 1870; ac erbyn hyn nid oes and cant-a-thri-ugain punt o ddyled yn aros, yr hyn a ddengys fod gan y bobl galon i weithio.+

Mae yr eglwys hon wedi bod bob amser yn heddychol a thangnefeddus, ac wedi gwasgar ei dylanwad er daioni mawr yn y cylch pwysig y mae ynddo.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon: -

* Llythyr Mr. Thomas, Rock. + Llythyr Mr. J. Evans (Ieuan Afan),

  


CANAAN  (Llansamlet parish)

Return to top

(Vol 2, p 73)

Dechreuwyd yr achos hwn er's yn agos i gan' mlynedd yn ol yn y Pentref-chwith, gan Mr. Lewis Rees, yn nhý Thomas William. Yr oedd niferi o aelodau y Mynyddbach yn cyfaneddu yn yr ardal y pryd hwnw, a Thomas William, a Thomas Howell, fel diaconiaid o'r fam eglwys yn gofalu am y gangen yn yr ardal hon. Dywedir fod y ddau yn ddynion rhagorol iawn, a medrus nodedig i drin achosion eglwysig. Pan aeth tý Thomas William yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, cafwyd caniatad i gynal y gwasanaeth mewn ysgoldy perthynol i berchenogion y gwaith copr. Buwyd yn addoli yn yr ysgoldy hwn am tua deugain mlynedd. Pan ymadawodd Mr. David Davies a'r Mynyddbach, darfu i'r gangen yn y Pentrefchwith uno ag eglwys Ebenezer, yn y dref; yno y byddent yn addoli bob boreu Sabboth, hyd nes iddynt gael eu corpholi yn eglwys yn y flwyddyn 1836. Yn y flwyddyn 1839, dechreuwyd adeiladu y capel ar odre craig Kilvey, yr hwn a orphenwyd yn gynar yn 1840, ac agorwyd ef yn y flwyddyn hono, ond nid ydym yn deall i hanes yr agoriad gael ei anfon i'r Diwygiwr, nac un cyhoeddiad arall. Yn y flwyddyn 1842, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Watkins, Llanelli, Brycheiniog, a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Medi 28ain a'r 29ain y flwyddyn hono. Bu Mr. Watkins yn llafurio yma, ac yn Bethel, Llansamlet hyd haf y flwyddyn 1850, pryd y symudodd i Langattwg, Crughowell, lle y mae hyd yn bresenol. Ni fu gweinidog erioed anwylach gan ei bobl nag yr oedd ef gan bobl Canaan a Bethel, a gwnaeth yma waith mawr yn ystod yr wyth mlynedd y bu yn y lle. Yr oedd Capel Canaan wedi costio 702p. 6s., ac nid oedd nemawr o ddim wedi ei gasglu nes i Mr. Watkins ddyfod yma. Yn mhen saith mlynedd talodd yr holl ddyled a'r llogau, ac er mawr dristwch i'r bobl a'i carai mor anwyl ymadawodd yn fuan ar ol hyny. "Yr oedd y flwyddyn 1850, yn adeg anarferol o bwysig yn hanes eglwys Canaan. Yr oedd Elias Jenkins, Ysw., Kilvey House, a'i ddwy ferch, Miss Rebecca a Miss Sarah Jenkins, yn hynod o gynorthwyol i'r achos. Yr oedd y ddwy foneddiges yn aelodau yn Canaan, ac er mai yn Castle-street yr oedd Mr. Jenkins yn aelod, etto yr oedd yn addoli unwaith bob Sabboth yn Canaan, ac yn haelionus dros ben at yr achos. Hwy oedd cefn yr achos, ac annichonadwy dyweyd y da a wnaethant iddo yn yr ardal. Yr oeddynt yn gwneyd yr oll a wnaethant yn ddistaw, ac ni fynent glywed am eu gweithredoedd da; a'r dydd mawr yn unig a ddatguddia yr oll a wnaethant. Modd bynag, yn ngwanwyn 1850, bu farw Mr. Jenkins, ac yn haf yr un flwyddyn symudodd ei ferched o'r ardal i fyw, ac yn yr un adeg symudodd Mr. Watkins, y gweinidog, fel y nodir uchod, i Langattwg. Yr oedd y cyfnewidiadau hyn yn golledion mawrion anarferol i'r achos yn y lle, tra yn ennill i fanau eraill. Mewn gair, yn 1850, y cafodd eglwys Canaan ei thaflu i fyw arni ei hun. Hyd yn hyn yr oedd wedi bod dan nawdd teulu duwiol, cyfoethog, a haelionus Kilvey, a than weinidogaeth un o'r dynion caredicaf a fu erioed yn weinidog efengyl, ond collodd yr eglwys y cwbl megis yn yr un dydd."*

Hydref 8fed, 1850, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Rees, Carmel, Llangiwc, a'r hon y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Rhagfyr, 1850. Cynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Ebrill 22ain a'r 23am, 1851, pryd y pregethodd Meistri Morgan, Caerfyrddin; Rees, Ystrad; Rees, Cendl; Davies, Pantteg; Jones, Treforis; Griffiths, Alltwen, ac eraill. Bu Mr. Rees yn llafurus a llwyddianus iawn yma yn y cyflawniad o bob rhan o waith y weinidogaeth, ac yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol. Pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma, nid oedd rhif yr ysgol dros driugain-a-deg. Trwy sefydlu dosbarth Biblaidd, ac agor Ysgolion Sabbothol yn y Llysnewydd a Phort-tenant, llwyddwyd i gael rhifedi y rhai, oeddynt dan addysg yn yr Ysgolion Sabbothol yn nglyn a Chanaan i dri chant a haner, ar un tymor. Gwnaeth ef, a'r bobl a gydweithredent ag ef, ymdrech lwyddianus i ddymchwelyd yr arferiad lygredig o gadw Cwrw bach, yr hon oedd yn ffynadwy yn yr ardal, ac yn effeithio mor ddinystriol ar foesau y bobl. Dyoddefodd yr achos lawer o anfantais agos trwy holl dymor gweinidogaeth Mr. Rees oddiwrth sel ac ymdrechion pobl gyfoethog yn y gymydogaeth i ddenu y gweithwyr o'r capeli i'r Eglwys Wladol. Llwyddasant i gael llawer i fyned i'r eglwys, ac i anfon eu plant i ysgolion eglwysig, ond y mae y dylanwad hwnw yn gwanychu er's rhai blynyddau bellach. Yn 1860, adeiladwyd capel Tanygraig, ac aeth infer o aelodau Canaan yno i ddechreu yr achos. Yn 1864, ailadeiladwyd Canaan, ac agorwyd y capel newydd Gorphenaf 18fed a'r 19eg, yn yr un flwyddyn, pryd y pregethodd Meistri Davies, Llandilo; Lewis, Ty'nycoed; Watkins, Llangattwg; Rees, Llanelli; Griffiths, Alltwen, a Davies, Cwmaman. Mae y capel prydferth hwn yn 60 troedfedd wrth 40 dros y murian. Costiodd 1,100p. Casglwyd 221p. erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad, ac erbyn hyn nid oes fawr o'r ddyled yn aros heb ei thalu. Teimlai Mr. Rees ar ol cael y capel newydd y dylasai roddi ei holl wasanaeth yma yn lle ei ranu rhwng Canaan a Bethel, ond gan yr ofnai y bobl nas gallasent gyfranu digon at ei gynal, gwnaeth ei feddwl i fyny i ymadael, gan na oddefai sefyllfa ei iechyd iddo ofalu am y ddau le fel yr arferai wneyd. Yn Gorphenaf, 1866, symudodd i Rodborough, lle y mae yn bresenol. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. B. Williams, Dinbych, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Mehefin 18fed a'r 19eg, pryd y cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth, Meistri E. Griffiths, Abertawy; Stephens, Liverpool; Williams, Castellnewydd; Evans, Britonferry; Rees, Rodborough; Watkins, Llangattwg; Davies, Caerdydd, a Bevan, Waunarlwydd. Mae Mr. Williams a'r eglwys yn hoff iawn o'u gilydd  ac yn cydweithio yn llwyddianus. Mae dyled y  capel, fel y nodasom, agos a chael ei lwyr ddileu, nifer yr aelodau wedi ychwanegu yn fawr, fel y maent yn awr tua thri chant o rif, a chasgliadau yr eglwys a'r gynnulleidfa at bob achos cartrefol a chyhoeddus, yn y pedair blynedd diweddaf tua 300p. yn y flwyddyn. Cafodd yr achos hwn gam mawr o'i ddechreuad trwy fod mewn cysylltiad ag eglwysi eraill, am yr ofnai y bobl eu bod yn analluog i gynnal gweinidog eu hunain, ond wedi gwneyd y prawf, cawsant eu bod yn ddigon galluog i hyny, a'u bod wedi gwasanaethu yr achos trwy fyny gweinidogaeth gyflawn i ardal mor boblog a phwysig.

Nis gwyddom am neb a ddechreuodd bregethu yma and Mr. William Thomas, Port-tenant, a'r diweddar Mr. Benjamin Wilkes, Trecastell.

* Llyfr eglwys Canaan.

  


CAPEL SION, ABERTAWY

Return to top

Vol 2, p 75)

Tua diwedd y flwyddyn 1841, barnodd rhai o aelodau yr eglwys yn Ebenezer fod angen am achos Cymreig arall yn y dref, a chafodd pymtheg neu ugain o honynt lythyrau o ollyngdod o eglwys Ebenezer er ffurfio eu hunain yn eglwys wahanol. Cymerasant y Victoria Rooms, yn Oxford street, at gynal cyfarfodydd., a chawsant amryw o weinidogion enwocaf siroedd Morganwg a Chaerfyrddin, i bregethu iddynt ar y Sabbothau. Pan drowyd Mr. T. Davies allan o Ebenezer yn Mehefin 1842, derbyniwyd ef gan bobl y Victoria Rooms i fod yn weinidog iddynt, a bu yn gweinidogaethu iddynt am tuag un-mlynedd-ar-bymtheg. Yn nechreu y flwyddyn 1843, cafwyd tir ar yr ochr ddeheuol i High street, ar y fan lle mae gorsaf y South Wales Railway yn awr, lle yr adeiladwyd capel hardd a chyfleus. Cyhoeddwyd yr hanes canlynol am yr achos a'r capel hwn yn y Diwygiwr am 1843, tu dal. 250 : - "Dydd Iau Mai 18fed, gosodwyd y gareg sylfaen i'r addoldy newydd perthynol i'r eglwys Annibynol ag sydd yn ymgyfarfod i addoli yn Neuadd Victoria, Abertawy. Am 2 o'r gloch yn y prydnawn, dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. D. Jones, Clydach. Cyflawnwyd y gorchwyl o osod y gareg sylfaen gan. y Parch. T. Davies, gweinidog yr eglwys hon, ac yn ei gynorthwyo yr oedd y Parch. D. Griffiths, Castellnedd; yna areithiodd y Parch. W. Williams, Llandilo, yn dra hyawdl a chymwysiadol ar yr achos; canlynwyd ef gan y Parch. D. Griffiths, Castellnedd, mewn pregeth ragorol oddiar Ezra x. 4., Cyfod; arnat ti y mae y peth; a ni a fyddwn gyda thi , ymwrola a gwna.' Cyfeiriodd a gwasgodd ei sylwadau ar feddyliau y gweinidog a'r eglwys, gydag effeithioldeb mawr ar y gynnulleidfa oedd yn bresenol ar y pryd; terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Davies, Mynyddbach. Am 7 yn yr hwyr, cafwyd benthyg addoldy Ebenezer, pan ymgynnullodd tyrfa fawr, nes oedd yr addoldy helaeth hwnw yn orlawn. Dechreuwyd trwy ddarllen, gweddi, a mawl, gan y brawd T. Thomas, Llandilo, a phregethodd y Parch. W. Williams, o'r un lle, yn ddoniol oddiwrth 2 Cor. x. 4, 5. Bydded yn hysbys i bawb fod y gangen fechan hon wedi ymadael a'r eglwys yn Ebenezer, mewn modd rheolaidd a thangnefeddus i sefydlu achos newydd yn y dref boblog hon, gan ystyriad y byddai hyny yn fwy buddiol i lwyddiant crefydd, ac i ennill eneidiau at y Gwaredwr, nag aros yn segur wrth y canoedd yn yr un man. Y mae arwyddion da ar yr achos- yr addoldy yn myned yn mlaen yn hwylus - yn barod i osod y pen arno. Ein hawydd yw ennull eneidiau o'r byd i'r eglwys, ac nid eu denu o un eglwys arall."

Pan agorwyd y capel, cafwyd cynnulleidfa dda a chryfhaodd yr eglwys yn fawr. Yn 1849, cymerwyd y capel gan berchenogion y South Wales Railway a thynwyd ef, yn nghyd ag amryw adeiladau eraill oddiamgylch iddo, i lawr, er cael lle i'r orsaf. Cafwyd tir ar yr ochr arall i'r heol, ychydig yn îs i lawr, lle yr adeiladwyd y capel presenol, yr hwn a agorwyd yn nechrau y flwyddyn 1850. Bu Mr. T. Davies yn gweinidogaethu yma, mewn cysylltiad a Phentre-estyll, hyd y flwyddyn 1858, pryd, o herwydd ei lesgedd ef, ac am nas gallesid Gael ar y goreu ond haner ei lafur, y barnwyd y buasai yn well iddo ef gyfyngu ei lafur yn unig i Bentre-estyll, a gadael eglwys Capel Sïon at eu rhyddid i ddewis gweinidog iddynt eu hunain. Ar ol bod ychydig gyda blwyddyn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. John C. Davies, Carfan, sir Benfro, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma yn Hydref, 1859. Parhaodd i weinidogaethu yn y lle hyd Awst, 1868, pan y symudodd i Newton. Ychydig cyn ymadawiad Mr. Davies, adgyweiriwyd a phrydferthwyd y capel yn fawr, yr hyn a gostiodd rai canoedd o bunau, ond trwy ymdrech ddiflin y gweinidog a'r bobl talwyd y cwbl yn fuan. Ychydig amser ar ol ymadawiad Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. John Jenkins, Pantteg. Bu ef yma am tua blwyddyn a haner, ond er's yn agos i flwyddyn bellach y mae y cysylltiad rhyngddo a'r eglwys wedi darfod, ac y mae y gynnulleidfa er hyny heb un gweinidog sefydlog.

Mae yr eglwys hon, er nad oes llawn ddeng-mlynedd-ar-hugain er pan y ffurflwyd hi, wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau. Bu yr achos ar rai adegau yma yn gryf a llwyddianus iawn, ac ar adegau eraill yn lled wan a gwywlyd. Mae yn bresenol yn llawer gwanach nag y bu, ac wedi cael ei daflu i'w iselder presenol gan amgylchiadau na byddai eu crybwyll o un budd i neb. Hyderwn fod y gauaf presenol i gael ei ddilyn gan dymor hafaidd a llwyddianus.

Translation by Heulwen Jenkins (May 2008)

Towards the end of the year 1841 some of the members of Ebenezer church judged that there was a need for another Welsh cause in the town, & fifteen to twenty of them had letters of release from Ebenezer church to form themselves into a separate church. They took Victoria Rooms, in Oxford Street, to hold their meetings, & they had some of the most famous ministers, of Glamorganshire & Carmarthenshire ,  to preach to them on the Sabbaths. When Mr. T. Davies turned away from Ebenezer in May 1842, he was accepted by the people of Victoria Rooms to be their minister, & he ministered to them for about sixteen years.  At the start of the year 1843, they had land at the southern end of High Street, where the South Western Railway station is now, where a beautiful & convenient chapel was built. The following account of this chapel's cause was published in the Revivalist (Diwygiwr) for 1843, page 250:- "Thursday, May 18th, the foundation stone was laid of the new place of worship belonging to the Independent church which meets to worship in Victoria Hall, Swansea. At 2 o'clock in the afternoon, it started through prayer by Rev. D. Jones, Clydach. The task of placing the foundation stone was performed by Rev. T. Davies, this church's minister, helped by Rev. D. Griffiths, Neath; then Rev. W. Williams, Llandilo, made a very eloquent & applicable speech to the cause, followed by Rev. D. Griffiths, Neath, in an excellent sermon from Ezra x. 4,. "On you is the thing;  & we are with you, take heart & do." His observations were directed & pressed on the opinions of the minister & church, with great effect on the congregation who were present at the time; it closed with prayers by Rev. J. Davies, Mynyddbach. At 7 in the evening, they borrowed Ebenezer place of worship, when a big crowd assembled, until that vast place of worship was full. They started through reading, prayers & praise, by brother T. Thomas, Llandilo, & Rev. W. Williams, of the same place, preached, humorously, from 2 Cor. x. 4, 5. It was evident to all that this small branch had parted from the church in Ebenezer, in a normal & peaceful manner, to establish a new cause in this populous town, by realising it would be more beneficial to a successful religion, & to win souls to the Saviour, not staying idle by the hundreds in one place. There are good signs to the cause - the place of worship going ahead comfortably - ready to set the top on it. Our desire is to enlist souls from the world to the church & not lure them from another church."

When the chapel opened, it had a good congregation & the church strengthened greatly. In 1849, the chapel was taken by the owners of the South Wales Railway, & it was pulled down, along with many other buildings around it, to have a place for the station. They had land the other side of the road, a little lower down, where the present chapel was built, this was opened at the beginning of the year 1850. Mr. T. Davies ministered here, together with Pentre-Estyll, until the year 1858, when, because of his infirmity, & because they could have no better than half his labour, they concluded it would be better for him to confine his work solely to Pentre-Estyll, & leaving Sion Chapel free to choose a minister themselves. After being a little more than a year relying on an occasional ministry,  a call was given to Mr. John C. Davies, Carfan, Pembrokeshire, & he started his ministry here in

October, 1859. He continued to minister here until August, 1868, when he moved to Newton.  A little before Mr. Davies departed,  the chapel was repaired &  beautified greatly, which cost a few hundred pounds, but through the indefatigable effort of the minister & the people, the lot was paid quickly. A short while after Mr. Davies left, a call was given to Mr. John Jenkins, Pantteg.  He was here about a year & a half, but for almost more than a year the connection between him & the church has ended, & the congregation since then has been without a settled minister.

This church, although there's not been fully thirty years since it was formed, has gone through many changes. The cause here was strong  & very successful at times, & at other times rather weak  & feeble. At present it is more weak than ever, & after being thrown into the present depression by occasions which would benefit no-one to mention. We trust the present winter will be followed by a summer-like & successful season.  

 


SCIWEN     (Cadoxton j Neath parish)

Return to top

(Vol 2, p 138)

Cangen o Zoar, Castellnedd yw yr eglwys hon. Dechreuwyd yr achos gan Mr. Daniel Griffiths, yr hwn a bregethodd lawer mewn tai yn yr ardal flynyddau cyn bod son am gapel; a derbyniwyd llawer o bersonau o'r gymydogaeth yn aelodau yn y dref. Cynhelid yma Ysgol Sabbothol, yr hon a gynyddodd i'r  fath raddau fel yr oedd pedwar o dai anedd yn rhy gyfyng i gynwys y rhai a ddeuent yn nghyd. Gwelwyd yn angenrheidiol cael capel, a phrynwyd darn o dir, a chodwyd arno gapel yn mesur 34 troedfedd wrth 28 troedfedd. Agorwyd ef Mehefin 8fed a'r 9fed, 1842; ac ar yr achlysur gweinyddodd Meistri D. Evans, Castellnedd; E. Watkins, Llanelli, Brycheiniog; J. Davies, Mynyddbach; W. Morris, Glandwr; J. Davies, Cwmaman; R. Pryse, Cwmllynfell, a W. Morgan, Llwyni.*  Am rai blynyddau ar ol hyn cedwid yma Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd yn yr wythnos, a chyfarfod gweddi neu bregeth bob nos Sabboth; ond yr oeddynt yn myned i'r dref bob boreu Sabboth, ac i'r dref i gymundeb; ond gweinyddid yma gymundeb yn achlysurol er mantais i'r rhai oedd yn analluog i fyned i'r dref; ac felly y parhaodd hyd farwolaeth Mr. Griffiths, ac am dymor wedi i Mr. Mathews ddechreu ei weinidogaeth yn Zoar. Ond wrth weled y lle yn cynyddu barnwyd yn ddoeth ffurfio eglwys yma, a rhoddwyd gollyngdod i 53 o aelodau o Zoar, ac ar foreu Sabboth, Medi 24ain, 1848, corpholodd Mr. Mathews hwy yn eglwys yn y lle. Parhaodd y Sciwen dan ofal Mr. Mathews hyd y flwyddyn 1851, pan y barnodd yn ddoethach ei rhoddi i fyny gan fod maes ei lafur yn rhy eang. Yn fuan ar ol hyn rhoddodd yr eglwys alwal i Mr. Evan Evans, yr hwn a fuasai dan addysg gyda Mr. Davies yn Llanelli, Brycheiniog; ac urddwyd ef Mai 26ain a'r 27ain, 1851. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Davies, Llanelli; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Mathews, Castellnedd; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Evans, Rheoboth, (brawd yr urdd-edig); pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Jenkins, Nantyglo, ac i'r eglwys gan Mr. J. Thomas, Glynnedd. Cymerwyd rhan hefyd yn ngyfarfodydd yr urddiad gan Meistri J. Rees, Canaan; T. Jones, Treforis; D. Evans, Castellnedd; R. Rees, Abertawy; P. Griffiths, Alltwen; W. Miles, Tyrhos; J. Davies, Mynyddbach; T. Davies, Treforis, ac eraill.+  Mae Mr. Evans wedi llafurio yma bellach am fwy nag ugain mlynedd, ac y mae yr achos, er gorfod myned trwy lawer o gyfnewidiadau, wedi myned rhagddo yn llwyddranus. Aeth yr hen gapel yn rhy fychan yn fuan, ac yn 1859, penderfynwyd adeiladu capel newydd heb fod yn mhell o'r fan lle y safai yr hen, ac aeth yr eglwys i'w theml newydd a hardd yn mis Awst, 1860.

Ni chodwyd yma ond un pregethwr, sef Thomas Phillips, yr hwn a fu farw pan yn cychwyn ei efrydiau er parotoi ar gyfer y weinidogaeth. Deifiwyd ei brydferthwch gan awelon oerion y darfodedigaeth, a gwywodd fel blodeuyn pan yn dechreu ymagor.

*Diwygiwr, 1842. Tu dal. 252.   + i   wr, 1851. Tu dal 216

 


BRYN, CWMAFAN    (Margam parish)

Return to top

(Vol 2, p 139)

Dechreuwyd pregethu yma yn achlysurol mewn tai anedd tua'r flwyddyn 1841, ond yn 1846 y dechreuwyd gwneyd hyny yn rheolaidd. Adeiladwyd yma haner cant o dai newyddion ar gyfer y glowyr a'r mwnwyroedd wedi dyfod i'r ardal i weithio, ac yn mhlith eraill daeth rhai o aelodau Capel Seion a'r Rock, Cwmafan, a Zoar, Maesteg, yma i fyw. Cymerwyd yma anedd-dy, a threfnwyd ef at gadw moddion crefyddol. Ffurfiwyd yma eglwys yn 1847 gan Meistri W. Thomas, Rock; E. Roberts, Cwmafan, a W. Watkins, Maesteg. Yn y flwyddyn ganlynol rhoddodd yr eglwys, er nad oedd ei rhif ond ychydig, alwad i Mr. John Davies, pregethwr cynorthwyol yn Seion, Cwmafan; ac urddwyd of Hydref 18fed a'r 19eg, 1848. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Roberts, Cwmafan; holwyd y gweinidog gan Mr. W. Thomas, Rock; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Davies, Mynyddbach; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. P. Griffiths, Alltwen, ac i'r eglwys gan Mr. W. Watkins, Maesteg.* Bu Mr. John Davies yma yn barchus am fwy na phedair blynedd, hyd nes y syrthiodd i bechod gwarthus fel y bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef. Bu farw yn mhen blynyddoedd heb fod mewn cysylltiad a'r weinidogaeth. Ar ol hyny bu gofal yr eglwys ar Mr. David Henry mewn cysylltiad a Cymer-glyn-corwg hyd y flwyddyn 1859, pan y symudodd i Benygroes, sir Gaerfyrddin. Aeth yr achos rhagddo yn raddol yn ystod y blynyddau hyn, ac yn niwedd 1860 a dechreu 1861, adeiladwyd yma gapel newydd cyfleus. Rhoddodd yr eglwys alwad Mr. Richard Williams, pregethwr cynorthwyol yn y Rock i fod yn weinidog iddi, ac urddwyd ef yn nglyn ag agoriad y capel Mai 21ain a'r 22ain, 1861. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. E. Roberts, Cwmafan; holwyd y gofyniadau gan Mr. J. Jones, Maesteg; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. D. Henry, Penygroes; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. W. Thomas, Rock, ac i'r eglwys gan Mr. W. Rees, Maesteg.+  Ysigwyd llawer ar yr achos yma tua diwedd y flwyddyn 1860, pan y safodd gwaith yr ardal, ond y mae pethau er hyny wedi adfywio, a'r achos yn myned rhagddo, er nid gyda chyflymder mawr.

* Diwygiwr, 1848. Tu dal. 387.    + Diywgiwr, 1861. Tu dal 216.

 


TONMAWR  (Baglan parish)

Return to top

(Vol 2, p 139)

Mae y lle yma yn myned dan wahanol enwau, gelwid ef gynt yn Fforchdwn, wedi hyny galwyd ef yn Cwmgwenffrwd; ond dewisir yn awr ei alw Tonmawr, am mai yno y mae yr ysgoldy lle yr ymgynnullent i addoli. Pregethodd Mr. Daniel Griffiths, Castellnedd, ac eraill lawer mewn anedd-dai yn yr ardal, a chynhelid yma Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio, a chyfrifid y lle fel cangen o Zoar, Castellnedd. Yn haf 1847, ffurflwyd yr ychydig aelodau yn y lle yn eglwys, a gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd iddynt gan Mr. David Williams, Hermon, Ystradfellte. Wedi bod dros rai blynyddoedd yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, cymerodd Mr. John Davies, Bryn-troed-gam ofal y lle, a bu yn fflyddlawn yn gofalu am dano. Wedi hyny bu y lle yn olynol dan ofal Mr. E. Evans, Sciwen, a Mr. W. Thomas, Rock; ond yn nechreu y flwyddyn 1866, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John Davies, pregethwr cynorthwyol a godwyd ynddi; ac urddwyd ef Ebrill 4ydd a'r 5ed, y flwyddyn hono, ac y mae yn parhau i ofalu am y lle. Nid oes ym a hyd yn hyn gapel wedi ei adeiladu, ond cyfarfyddant mewn ysgoldy ar y Tonmawr.

Codwyd yma ddau bregethwr, sef John Davies, y gweinidog presenol, ac Evan Lewis, yr hwn a symudodd oddiyma i Pontypridd.

 


Return to top

[Last updated: 16 May 2008 - Gareth Hicks]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Valid HTML 4.01 Transitional

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI

>