Hide

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

hide
Hide

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

These 8 chapel histories were extracted by Gareth Morgan from the CD published by Archive CD Books (Feb 2008)  - no translations

The main project page is on /big/wal/ChurchHistory/Indchapels#Glamorgan

Proof read by Yvonne John (March 2008)

CAPEL SION, CWMAFAN  (Michaelston-super-Avon parish)

(Vol 2, p 125)

Mae Cwmafan yn mhlwyf Llanfihangel-ar-afan, tua phum' milldir i'r de-ddwyrain o Gastellnedd. Cwmafan yw yr enw sydd ar y dyffryn oll o Aberafan i Bontrhydyfen, ond y mae amryw fan gymoedd yn ymganghenu o hono, ac yn mysg eraill, y Cwmbychan, ac am mai yn y Cwm hwn y dechreuwyd cyfodi glo gyntaf yn yr ardal, wrth yr enw Cwmbychan yr adnabyddid yr holl le am flynyddau. Nid oedd dros o ddau gant i ddau gant a haner o drigolion yn yr holl blwyf cyn agor y gweithiau tua 1811, ac ni fu ar ol hyny fawr o gynydd hyd 1819, pryd yr adeiladwyd yma ffwrnais i doddi haiarn. O'r pryd hwnw hyd yn awr y mae y boblogaeth wedi cynyddu yn ddibaid, fel y mae y trigolion yn awr tuag wyth mil o rif.

Yr oedd rhai o aelodau yr eglwys yn Maesyrhaf, Castellnedd, yn byw yn y plwyf hwn o oes i oes er's dros ddau cant o flynyddau, a byddai gweinidogion y lle hwnw yn pregethu yn achlysurol yn eu tai. Byddai Mr. Bowen yn dyfod yma yn fynych. Dechreuwyd cynal addoliad yma yn nhy Howell John tua'r flwyddyn 1819, ond nid ymddengys i achos rheolaidd gael ei sefydlu yn y lle cyn y flwyddyn 1821, pryd y daeth Mr. Hugh Owen o Abertawy yma i bregethu bob Sabboth. Dechreuodd ef ddyfod yma yn gyson yn mis Mai, 1821, ac yn Awst yr un flwyddyn corpholwyd yma eglwys. Bu amryw weinidogion yn gweinyddu ar yr achlvsur. Yn nhy Howell John y cynhelid y moddion. Ebrill 8fed, 1822, urddwyd Mr. H. Owen yn weinidog yr eglwys ieuangc. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri R. Howells, Baran; T. Davies, Abertawy; W. Jones, Penybont; D. Evans, Mynyddbach, a Jonathan Davies, Llanybri. Bu Mr. Owen yn llafurus iawn i adeiladu y capel yma yn 1824, ac i gasglu ato, ond gan ei fod ar dir Cwmni y gwaith ac heb un les, ac i'r gweinidog yn rhyw fodd ddigio Mr. Vigurs, y prif berchenog, bu raid iddo ymadael a'r lle yn 1828. Yn y flwyddyn 1830, rhoddwyd galwad i Mr. Lodwick Edwards, myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Medi 7fed a'r 8fed y flwyddyn hono. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Penygraig; W. Thomas, Clydach; R. Howells, Baran; D. Griffiths, Castellnedd; J. Rowlands, Cwmllynfell; T. Davies, ac E. Griffiths, Abertawy; J. Williams, Ty'nycoed, ac eraill*. Bu Mr. Edwards yma yn barchus hyd y flwyddyn 1833, pryd y trodd i'r Eglwys Wladol. Yn y flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i Mr. Robert Owen, Llanengan, sir Gaernarfon. Bu ef yma hyd y flwyddyn 1840. Ar ol ei ymadawiad ef bu yr eglwys am dymor yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, ac am ddwy flynedd dan offal Mr. Davies, Cwmaman. Yn y flwyddyn 1844, rhoddwyd galwad i Mr. Edward Roberts, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 24ain a'r 25ain yr un flwyddyn. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Williams, Hirwaun; holwyd y gweinidog gan Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. C. Jones, Dolgellau; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr. Joseph Evans, Capel Sïon. Gweinyddwyd hefyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan Meistri H. Davies, Bethania; D. Evans, Castellnedd; J. Davies, Cwmaman; W. Edwards, Aberdar; R. Fairclough, Ffestiniog; E. Jacob, Abertawy; H. Herbert, Drefnewydd; D. Williams, Aberafan, ac E. Griffiths, Abertawy. +

Mae Mr. Roberts wedi bod yma bellach am saith-mlynedd-ar-hugain, a thrwy yr holl dymor yn barchus a defnyddiol. Yn 1849, ailadeiladwyd capel ac agorwyd ef Mai 20ed a'r 21ain, 1850, pryd y pregethodd Meistri Williams, Brynteg; Pryse, Cwmllynfell; Griffiths, Alltwen; Rees, Carmel; Edwards, Aberdar; Thomas, Glynnedd; Williams, Tredegar; Rees, Llanelli; Williams, Hirwaun, ac eraill. Mae y capel hwn yn adeilad helaeth a chyfleus, yn mesur 63 troedfedd wrth 42, ac yn cael ei lenwi gan gynnulleidfa fywiog a gweithgar.

Yn y flwyddyn 1852, gwnaeth Mr. Roberts ei hun yn gyhoeddus iawn, ac adnabyddus yn agos a phell, a chyflawnodd wasanaeth dirfawr i achos rhyddid crefyddol trwy ddynoethi ystrywiau un Mr. Biddulph a'i wraig, gyda golwg ar ysgolion dyddiol Cwmafan. Yr oedd, ac y mae yr ysgolion hyn yn cael eu cynnal ag arian y gweithwyr, a gedwir bob mis yn swyddfa

* Dysgedydd, 1830. Tu dal. 372.   + Dysgedydd, 1844. Tu dal. 251.

y gwaith. Pan aeth y gwaith i ddwylaw perchenogion y Bank of England, o herwydd fod y Cwmni wedi myned yn ddwfn i ddyled y Bank, gosododd awdurdodau y Bank un Mr. John Biddulph, mab-yn-nghyfraith diweddar Mr. W. Chambers, Llanelli, yn arolygydd ar y lle. Mewn canlyniad i'r diwygiad nerthol a fu trwy yr holl le yn y flwyddyn 1849, yr oedd y capeli Ymneillduol o bob enwad yn orlawn, a'r eglwys, er lleied ydoedd, yn fwy na haner gwag. Barnodd Mr. Biddulph a'i wraig y gallasant ddefnyddio dylanwad eu sefyllfa yn y lle i wneyd tipyn o wasanaeth i'r Church of England, yn gystal a'r Bank of England; ac felly cysylltasant ysgolion y gwaith a'r National Society, a thrwy hyny gwnaethant hwy yn ysgolion hollol Eglwysig. Cyd-rhyngddynt hwy, yr offeiriad, a'r ysgolfeistr, dechreuwyd denu a gorfodi y plant i fyned i'r eglwys ar y Sabbothau, a cheisid yn mhob modd eu gwneyd yn eglwyswyr. Yr oedd achwyn cyffredinol trwy y gymydogaeth yn herwydd y peth, ac felly darfu i Mr. Roberts, trwy Mr. Kennedy, o Stepney, osod cwyn yn erbyn Mr. Biddulph ger bron pwyllgor llywyddol y Bank of England. Derbyniodd y gwyr hyny dystiolaeth un ochrog y cyhuddedig, a gwrthodasant chwilio i'r achos. Yn ngwyneb hyn ysgrifenodd Mr. Roberts chwech o lythyrau i'r Morning Advertiser i ddynoethi y cwbl. Parodd y dynoethiad gynwrf mawr trwy yr holl wlad, ond yn enwedig yn Nghwmafan a'r gymydogaeth. Aeth Mr. Biddulph a'i is-swyddogion oddiamgylch i geisio cael gan y trigolion i lawnodi papyr yn gwadu y cyhuddiadau. Dywedai ef a'i blaid fod tua mil wedi ei lawnodi, ond y mae yn sicr fod canoedd wedi gwneyd hyny rhag ofn colli eu gwaith, a llawer mewn anwybodaeth o'i gynwysiad. Bygythiai Mr. Biddulph fyny symud Mr. Roberts o'r gymydogaeth, ond methodd yn ei amcan, trwy i'r gwaith fyned i ddwylaw y perchenogion gwreiddiol yn mhen ychydig ddyddiau, ac felly efe ac nid Mr. Roberts gafodd adael yr ardal. Cafodd Mr. Roberts ei gefnogi yn galonog yn ei ymdrech o blaid rhyddid crefyddol gan weinidogion Ymneillduol yr ardal yn gyffredinol, a chan filoedd o'r bobl, ond trodd rhai, hyd yn oed o aelodau ei eglwys ei hun, yn Judasiaid bradychlyd, gan obeithio y cawsant trwy hyny ryw fantais dymorol. Pa fodd bynag Mr. Roberts, ac achos rhyddid crefyddol, a gariodd y fuddugoliaeth; ac y mae yn debygol i'r frwydr boeth hon fod yn ddigon o rybudd i bob meistr gwaith a'i oruchwylwyr yn y parthau hyn, o hyny allan, i beidio ymyraeth a golygiadau crefyddol y gweithwyr a'u plant.

Mae eglwys Sion er's blynyddau lawer yn lluosog iawn ei haelodau, ac yn ganmoladwy am ei heddychlonrwydd, a'i gweithgarwch, a'i haelioni, yn enwedig gydag achosion cartrefol.

Ychydig yw rhif y rhai a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon, er lluosoced ydyw. Yma y dechreuodd William Morgan, yn awr o'r Llwyni, bregethu fel Annibynwr, ond yr oedd cyn hyny wedi bod am flynyddau yn pregethu yn mysg y Methodistiaid.

Zecharias Davies, oedd fab i Jenkin Davies, un o gychwynwyr yr achos yn y lle. Bu ef yn pregethu am rai blynyddau, ond o herwydd ei ymddygiad yn y ddadl rhwng Mr. Roberts a Mr. Biddulph, rhoddwyd terfyn ar ei bregethu, ac yn mhen rhyw gymaint o amser wedi hyny bu farw yn ddisymwth iawn.

Mae Thomas Griffiths, aelod o'r eglwys hon, yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Caerfyrddin. Nis gwyddom am neb arall a gyfodwyd i bregethu yma.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL

LODWICK EDWARDS. Yr oedd ef yn enedigol o ardal Llangeitho. Yn yr Eglwys Sefydledig y cafodd ei ddwyn i fyny, ond o herwydd cael ei siomi yn ei ddisgwyliad am urddau yno trodd at yr Annibynwyr, ac urddwyd ef, fel y nodasom yn Nghwmafan yn 1830, ac yn niwedd 1833, ymadawodd a chafodd ei urddo yn offeiriad gan Esgob Llandaff. Bu am lawer o flynyddau wedi hyny yn offeiriad yn Rhymni. Y mae wedi marw deuddeg neu bymtheng mlynedd bellach. Yr oedd Mr. Edwards yn ddyn da, ac yn bregethwr derbyniol, a diau y gallasai dreulio ei holl oes yn barchus yn Nghwmafan, ond gan mai amgylchiadau, ac nid argyhoeddiadau, a'i dygodd i gysylltiad a'r Annibynwyr, nid ydym yn rhyfeddu iddo ddychwelyd i fynwes yr Eglwys Sefydledig.

ROBERT OWEN. Yr oedd yn enedigol o Lanfyllin. Cafodd ei urddo yn Bwlchtocyn, Lleyn, sir Gaernarfon, Medi 12fed, 1820. Dywedir iddo fod yn barchus a thra defnyddiol yn sir Caernarfon am rai blynyddau. Yn 1834, symudodd i Gwmafan, a bu yn lled dderbyniol yma nes i'r eglwys a'r ardal gael allan nad oedd yn bucheddu yn deilwng o gristion. Wedi ymadael a Chwmafan bu am ychydig amser yn Carmel, Llansadwrn, ond er's rhai blynyddau cyn ei farwolaeth yr oedd wedi myned yn wrthodedig yn mhob man. Y mae wedi cael ei alw i roddi cyfrif o'i weithredoedd er's mwy nag ugain mlynedd bellach. Prin y mae cymeriad o'r fath yma yn haeddu sylw, ond gan ei fod ef a llawer eraill a grybwyllir gynym yn nglyn a gwahanol fanau, wedi bod mewn cysylltiad cyhoeddus a'r weinidogaeth, y mae cywirdeb hanesyddol yn galw arnom i wneyd rhyw gyfeiriad atynt.

Translation by Gareth Hicks (May 2009)

Cwmafan is in the parish of Michaelston-Super-Avon, about 5 miles to the south east of Neath. Cwmafan is the name of the valley from Aberafan to Pontrhydyfen, but there are several valleys branching off from it, and amongst others, Cwmbychan, and it was in this valley that coal was first raised in this area, and the whole place was known by the name Cwmbychan for years. There were no more than 200 people in the whole parish before the works opened about 1811, and there wasn't much growth after that until 1819, when they built here a furnace for smelting iron. From that time until now the population has constantly grown, so that the residents now total around 8000.

Some of the members of the church at Maesyrhaf, Neath, have lived in this parish from time to time over 200 years, and the ministers of that place preached in the houses here occasionally. Mr Bowen came here frrequently. They began to worship here in the house of Howell John about 1819, but it appears that a regular cause wasn't established here before 1821, when Mr Hugh Owen from Swansea came here to preach every Sunday. He began to come here regularly in May 1821, and in August of that year formed a church here. Several ministers officiated on the occasion. The event was held in the house of Howell John. On April 8th 1822, they ordained Mr H Owen as the minister of this young church. Officiating on that occasion were Messrs R. Howells, Baran; T. Davies, Swansea; W. Jones, Penybont; D. Evans, Mynyddbach, and Jonathan Davies, Llanybri. Mr Owen worked very hard to build a chapel here in 1824, and to collect towards it, but as it was on the land of the works Company, without a lease, and the minister somehow upset Mr Vigurs, the main owner, he had to leave the place in 1828. In 1830, they gave a call to Mr Lodwick Edwards, a student at Carmarthen College, and he was ordained on Sept 7th/8th of that year. Officiating on the occasion were Messrs J. Davies, Penygraig; W. Thomas, Clydach; R. Howells, Baran; D. Griffiths, Neath; J. Rowlands, Cwmllynfell; T. Davies, and E. Griffiths, Swansea; J. Williams, Ty'nycoed, and others * Mr Edwards was here reputably until 1833, when he turned to the Established Church. In the following year they gave a call to Mr  Robert Owen, Llanengan, Caernarfonshire. He was here until 1840. After his departure the church was for a time reliant on occasional ministers, and was for 2 years under the care of Mr Davies, Cwmaman. In 1844 they called Mr Edward Roberts, a student at Brecon College, and ordained him on 24/25th June of that year. On the occasion Mr. W. Williams, Hirwaun preached on the nature of a church;questions were asked by Mr. S. Roberts, Llanbrynmair; the ordination prayer given by Mr. C. Jones, Dolgellau;the prayer for the minister by Mr. E. Davies, lecturer at Brecon, and to the church by Mr. Joseph Evans, Capel Sïon. Also officiating at the ordination ceremony were Messrs H. Davies, Bethania; D. Evans, Neath; J. Davies, Cwmaman; W. Edwards, Aberdare; R. Fairclough, Ffestiniog; E. Jacob, Swansea; H. Herbert, Newtown; D. Williams, Aberafan, and E. Griffiths, Swansea. +

Mr Roberts has been here for all of 27 years, and through the whole period has been reputable and helpful. In 1849, they rebuilt the chapel and reeopened it on May 20/21st 1850, when Messrs Williams, Brynteg; Pryse, Cwmllynfell; Griffiths, Alltwen; Rees, Carmel; Edwards, Aberdare; Thomas, Glyn Neath; Williams, Tredegar; Rees, Llanelli; Williams, Hirwaun, and others, preached. This chapel is large and convenient, measures 63ft by 42, and is filled with an active and industrious congregation.

In 1852, Mr Roberts did something very public, that was noticed far and wide, and did a great service in the cause of religious freedom through exposing the subterfuge of one Mr Biddulph and his wife, with regard to the day schools of Cwmafan. These schools are/were supported  by money from the workers, collected every month via the works office. * Dysgedydd, 1830. p372.   + Dysgedydd, 1844. p251.

When the works went into the ownership of the Bank of England, because the Company had gone deeply into its debt, the Bank's officials installed one Mr John Biddulph, the son in law of the late Mr W Chambers, Llanelli, as the supervisor of the place. In the aftermath of the strong revival that went through the whole area in 1849,  the nonconformist chapels of all denominations were overcrowded, and the Church, albeit small, was more than half empty. Mr Biddulph and his wife reckoned they had the opportunity to take advantage of their influence in the place to do a big service for the Church of England, as well as the Bank of England; and thus linking the works schools to the National Society, and through that making them wholly Established Church schools. Between them, the clergyman, and the schoolmaster, they began to coax and oblige the children to go to the Church on a Sunday, and in everyway become church people. There were universal complaints throughout the neighbourhood over this, and therefore Mr Roberts, through Mr Stephens, of Stepney, laid a complaint against Mr Biddulph before the Governor of the Bank of England. That gentleman received the testimony of one side of the charge, and declined to investigate the cause. In the face of this Mr Roberts wrote 6 letters to the Morning Advertiser exposing the whole thing. The exposure created uproar across the whole country, but especially in Cwmafan and neighbourhood. Mr Biddulph and his underlings went round and about to try and get the locals to sign a paper denying the accusations. He and his people said that almost a thousand  had signed, but it is certain that hundreds did so for fear of losing their jobs, and many in ignorance of its implications. Mr Biddulph threatened to have  Mr Roberts removed from the neighbourhood, but failed in his purpose, as the works went into the hands of the original owners within a few days, and thus it was he not Mr Roberts who had to leave the area. Mr Roberts received  universal support from the Nonconformist ministers, and thousands of people, of the area in his endeavours on behalf of religious freedom, but some turned against him, even members of his own church, in a Judas like betrayal, hoped through this to have some advantage in time. However, Mr Roberts, and the cause for religious freedom, carried the day; and it is likely that this heated struggle will be enough of a warning to every coal master and manager in the domain, from now on, not to meddle with the religious affairs of the workers and their children.

The church at Sion has for many years been quite numerous in its membership, and praiseworthy for its peacefullness, activity, and its generosity, especially with homely causes.

Those who were raised to preach in this church, however numerous, it was, are few in number.

  •  It was here that William Morgan began, now of  Llwyni, preaching as an Independent, although before that had been for years preaching amongst the Methodists.
  • Zecharias Davies, was a son of Jenkin Davies, one of the supporters of the cause in the place.  He preached for some years, but because of his conduct in the controversy between Mr Roberts and Mr Biddulph, stopped his preaching, and some time after he died very suddenly.
  • Thomas Griffiths, a member from this church, is now a student at Carmarthen College.

We don't know of anyone else raised to preach here.

Biographical Notes *

LODWICK EDWARDS. Native of Llangeitho. Started with the Established church, turned to the Independents. Ordained at Cwmafan in 1830, left in 1833 and became a priest in Llandaff Diocese, likewise in Rhymni after that. Died some 10/12 years ago.

ROBERT OWEN. Native of Llanfyllin. Ordained  in 1820 at Bwlchtocyn, Lleyn, Caernarfonshire. Moved to Cwmafan in 1834. Then at Carmel, Llansadwrn. Became an outcast, dead for 20 years

*Not fully translated

 

TABERNACL, ABERAFAN  

(Vol 2, p 128)

Mae yn ymddangos fod Mr. Hugh Owen, pan y dechreuodd yr achos yn Nghwmafan, yn bwriadu cychwyn achosion yn y Taibach ac Aberafan hefyd. Wedi adeiladu capel Sion, Cwmafan, yn 1824, dechreuodd adeiladu y Tabernacl yn Aberafan yn niwedd yr un flwyddyn, neu yn gynar yn y flwyddyn ganlynol. Yr aelodau yma ar gychwyniad yr achos oeddynt John Evans, Gwehydd, Aberafan, a Jane ei wraig; John Rees, a Demares ei wraig; Rees Madog, Cilygofid; Stephen Hughes, Taibach; William Griffiths, a hen wraig o gymydogaeth y Pil. Bu Mr. Owen yma yn gofalu am y ddeadell fechan hon am oddeutu deng mlynedd, ond nid ymddengys i nemawr o lwyddiant fod ar ei lafur, oblegid wyth oedd eu rhif yn y dechreu, ac wyth oeddynt, fel yr eneidiau yn yr Arch, ar ei ymadewiad ef oddiwrthynt.

Pan yr ymsefydlodd Mr. Daniel Evans yn Maesyrhaf yn 1837, efe a gymerodd ofal y praidd bychain yn Aberafan, ac yn dra buan tynodd ei ddoniau poblogaidd a'i ysbryd bywiog luaws i'w wrandaw. Lluosogodd yr eglwys yn mhen ychydig nes yr oedd yn chwech ugain o rifedi. Yn y flwyddyn 1843, cyfododd ymryson yma. Yr oedd Dafydd Williams, perchenog gwreiddiol y tir ar ba un yr oedd y capel wedi ei adeiladu, yn honi fod ugain punt o ddyled ar yr eglwys iddo ef. Gwrthodai Mr. Evans a'r eglwys wneyd un sylw o'i honiad, a'r canlyniad fu iddo ef gloi y capel yn eu herbyn. Aeth Mr. Evans a'r mwyafrif o'r aelodau, y rhai a gyd-welent ag ef, i addoli i Neuadd y dref, ac yn fuan wedi hyny rhentiwyd hen gapel y Bedyddwyr, lle y buont hyd 1849, pryd yr adeiladwyd capel y Wern. Darfu i'r rhan o'r eglwys a arosasant yn y Tabernacl roddi galwad i Mr. David Williams, mab y gwr a gloisai y capel yn erbyn Mr. Evans a'r gynnulleidfa, ac urddwyd ef yma Tachwedd 22ain a'r 23ain, 1843. Ar yr achlysur gweinyddodd Meistri D. Jones, Clydach; T. Davies, Abertawy; D. Griffiths, Castellnedd; J. Davies, Castellnedd, a W. Morgan, Llwyni. Bu pethau yn lled lewyrchus yma am rai blynyddau, ond gydag amser gwywodd yr achos a bu agos a myned i'r dim cyn i Mr. Williams ymadael tua y flwyddyn 1855. Ar ol hyn bu y lle am tua blwyddyn dan ofal Mr. John Davies, Castellnedd. Wedi hyny, bu Mr. John Steadman yn weinidog yma hyd 1866, ond ni bu ond y peth nesaf i ddim o lwyddiant ar ei lafur yntau. Tua deuddeg o bersonau, neu lai, oedd rhif yr aelodau ar ei ymadawiad. Buwyd ar fedr rhoddi y capel at gychwyn achos Saesonig, ond drwy ryw amgylchiadau ni ddaeth yr amean hwnw i ben; ac o'r flwyddyn 1866 hyd 1868, bu gweinidogion y gymydogaeth yn tori bara i'r ychydig aelodau yn fisol, a phregethwyr cynorthwyol yn eu gwasanaethu ar y Sabhothau eraill, ond am y rhan fwyaf o'r ddwy flynedd hyn nid oedd un math o foddion yn cael ei gadw yma ond pregethu ar brydnawn Sabboth. Yn Mai 1868, penderfynwyd rhoddi galwad i Mr. Richard Morgan, pregethwr cynorthwyol yn eglwys y Wern, Aberafan. Gan fod Mr. Morgan yn alluog i fyw heb ymddibynu ar yr hyn a dderbyniai oddiwrth y bobl, cydsyniodd a'r alwad, ac urddwyd ef yma Tachwedd 1868, pryd y pregethodd Dr. Rees, Abertawy; J. Mathews, a J. Roberts, Castellnedd; E. Roberts, a W. Thomas, Cwmafan; G. Jones, Cefncribwr, a W. Morgan, Llwyni. Pan ymgymerodd Mr. Morgan a gofal y lle yn Mai, 1868, aed i'r draul o 160p. i adgyweirio y capel, a chynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad a'r urddiad yr un dydd. Sefydlodd Mr. Morgan Ysgol Sabbothol yma, a chasglodd 67 y Sabboth cyntaf. Darfu iddo hefyd ffurfio Band of Hope, a chyn pen chwe' mis ar ol ei urddiad yr oedd yr ysgol yn rhifo 150, ac yn mhen y deuddeg mis o ddechrenad ei weinidogaeth yr oedd 53 o aelodau newyddion wedi uno a'r tri brawd a'r naw chwaer oeddynt yn llawnodi yr alwad iddo. Yn nechreu y flwyddyn 1870, gan fod y capel wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, penderfynodd yr eglwys ei dynu i lawr, ac adeiladu un newydd a helaethach o lawer. Gorphenwyd y capel newydd ac agorwyd ef Hydref 29ain a'r 30ain, a Tachwedd 2i1, 1871, pryd y pregethodd Meistri J. Mathews, Castellnedd; D. Jones, B.A., Merthyr; T. Davies, Siloa, Llanelli; R. W. Roberts, Ystradgynlais, a Dr. Rees, Abertawy. Nid oes achos dymuno harddach addoldy na hwn. Mae yn mesur 46 troedfedd wrth 38 tu fewn i'r muriau, ac er prydferthed adeilad ydyw, nid yw wedi costio llawn 900p. Mae yr achos hwn, ar ol bod i fyny ac i lawr amryw weithiau, yn awr a golwg llawer mwy gobeithiol arno nag a welwyd erioed o'r blaen. Rhif yr aelodau yn bresenol yw 120.

Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Evans, Castellnedd, dechreuodd un George Lewis bregethu yma. Symudodd i Borthycawl, ac yno ymunodd a'r Bedyddwyr. Cyfodwyd yma dri i bregethu yn 1870, sef David Francis, yr hwn sydd wedi ymfudo i America; Isaac Evans, mab John Evans, un o'r Annibynwyr cyntaf yn y lle, a Theophilus Davies. Mae y ddau olaf yma yn awr, ac yn debyg o fod yn gynorthwywyr derbyniol a defnyddiol.*

* Llythyr Mr. R. Morgan.

COFNODIA.D BYWGRAPHYDDOL (Not extracted fully)

HUGH OWEN. Ganwyd ef yn ardal y Waunfawr, sir Caernarfon. M.........................

Translation by Maureen Saycell (April 2009)

It appears that Mr Hugh Owen when he began the cause in Cwmafan intended to start causes in Taibach and Aberafan. Having built Sion, Cwmafan in 1824 he began to build Tabernacl in Aberafan at the end of the same year or start of the next. The following were the founding members - John Evans, Weaver, Aberafan, and his wife Jane ; John Rees, and Demares his wife; Rees Madog, Cilygofid; Stephen Hughes, Taibach; William Griffiths, and an old lady from Pil. Mr Owen cared for this small flock for 10 years, without apparent success, there were 8 to start and the same to finish like the souls in the ark.

When Mr Daniel Evans settled in Maesyrhaf in 1837, he took on the care of this flock in Aberafan. Soon his popularity and and ability drew large numbers of listeners. The church grew and soon there were 120. In 1843 a problem arose here - Dafydd Williams, the original owner of the land, said there was £20 owing to him from the chapel. Mr Evans and the church refused to believe this and as a result he locked the chapel against them. Mr Evans and his followers went to worship in the Town Hall, then rented the old Baptist Chapel until the Wern was built in 1849. Those that remained at Tabernacl called Mr David Williams, son of the man who locked the chapel, who was ordained here on November 22nd and 23rd, 1843. On the occasion Messrs D. Jones, Clydach; T. Davies,Swansea; D. Griffiths, Neath; J. Davies, Neath, and  W. Morgan, Llwyni. Things went fairly well for a few years, but over time died down and almost died before Mr Williams left in 1855. For about 2 years Mr John Davies took care of  them, then Mr John Steadman ministered here until 1866, again without much success. There were about 12 people here when he left. They were on the verge of giving the chapel over to an English cause, but that did not happen. Between 1866 and 1868 some of the local ministers broke bread here monthly with supporting ministers filling in. In May 1868 it was decided to call Mr Richard Morgan, a supporting minister at Wern, Aberafan. Mr Morgan was of independent means so not reliant on the chapel contributions. He was ordained November 1868 when the following took part -  Dr. Rees, Swansea; J. Mathews, and J. Roberts, Neath; E. Roberts, and W. Thomas, Cwmafan; G. Jones, Cefncribwr, and W. Morgan, Llwyni. When Mr Morgan began his care in May 1868 the chapel was repaired at a cost of £160, the opening service and his ordination took place on the same day. Mr Morgan established a Sunday School here, 67 attended on the first Sunday. He also formed a Band of Hope and in 6 months the school numbered 150, and 53  new members before the end of his first year. At the beginning of 1870 the chapel had become too small and the church decided to demolish it and build a new larger chapel. The new chapel was completed and opened on October 29th and 30th and November 2nd, 1871 when Messrs J. Mathews, Neath; D. Jones, B.A., Merthyr; T. Davies, Siloa, Llanelli; R. W. Roberts, Ystradgynlais, and Dr. Rees, Swansea officiated. There is no more handsome building, it measures 46 x 38 feet, it cost under £900. This cause is more successful now than ever, the current membership is 120.

The following were raised to preach here -

  • GEORGE LEWIS - moved to Porthcawl and the Baptists.
  • DAVID FRANCIS -  emigrated to America.
  • ISAAC EVANS - son of John Evans, one of the founders - remains here.
  • THEOPHILUS DAVIES - remains a supporting preacher here.*

BIOGRAPHICAL NOTES **  Not fully extracted

HUGH OWEN - born Waunfawr, Caernarfonshire. ...........

* Letter of  Mr. R. Morgan.

**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.

Y FELINDRE  (Llangyfelach parish)

(Vol 2, p 69)

Ardal amaethyddol yw hon, yn y rhan ogleddol o blwyf Llangafelach, tua phedair milldir i'r gogledd o'r Mynyddbach. Yr oedd pregethu achlysurol yn y gymydogaeth hon er's llawer o flynyddau, o bosibl er y pryd y dechreuwyd yr achos sydd yn awr yn y Mynyddbach, ond nid ymddengys i addoliad cyson gael ei sefydlu yma cyn y flwyddyn 1823, pryd y cychwynwyd ef yn rheolaidd yn nhý David Thomas, yn agos i'r felin, y tý a breswylir yn bresenol gan Mr. Griffith Phillips. Yn 1824, adeiladwyd yma gapel bychan. Mr. D. Evans, Mynyddbach, a'r pregethwyr cynorthwyol a berthynent i'w egiwys, fu yn llafurio yma i gychwyn yr achos, a Mr. Evans fu y gweinidog hyd ei farwolaeth yn 1835. Wedi marwolaeth Mr. Evans, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, a bu ef yn gwasanaethu yr eglwys hon mewn cysylltiad a Chwmaman o Ebrill 5ed, 1836, hyd Ebrill 17eg, 1859. Wedi i Mr. Davies roddi y lle i fyny, cymerwyd y gofal gan Mr. Daniel, Mynyddbach. Bu yr eglwys dan ei ofal ef o Mai 15fed, 1859, hyd Gorphenaf 3ydd, 1864. Wedi ymadawiad Mr. Daniel, buwyd am tua phymtheng mis heb un gweinidog sefydlog. Yn 1866, rhoddwyd galwad i Mr. David Morgan, aelod o eglwys Cross Inn. Urddwyd ef yma Tachwedd 6ed, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. H. Davies, Bethania; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Griffiths, Abertawy; rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, ac i'r eglwys gan ei hen weinidog, Mr. J. Davies, Cwmaman. Pregethwyd a gweddiwyd yn y prydnawn a'r hwyr gan Meistri J. Bevan, Waunarlwydd; J. Joseph, Llanedi; T. Davies, Treforis; J. Morgan, Cwmbach, ac F. Samuel, Abertawy. Yn mhen ychydig wedi ei urddiad yn y Felindre, cafodd Mr. Morgan alwad gan yr hen eglwys yn Llanedi, ac y mae yn parhau i wasanaethu y ddwy eglwys.

Mae eglwys a chynnulleidfa y Felindre yn cael ei gwneyd i fyny o amaethwyr a'u gweithwyr. Nid yw erioed wedi bod yn lluosog iawn, ac nis gall fod, gan nad yw y boblogaeth ,ond teneu, a bod capeli heb fod yn mhell gan enwadau eraill. Mae yr eglwys hon wedi bod bob amser trwy ei holl dymor yn enwog am ei hysbryd tangnefeddus, a'i pharodrwydd yn ol ei rhif a'i gallu i gyd-weithredu gyda phob achos cyhoeddus. Gan fod y capel a adeiladwyd yma yn 1824, wedi myned yn ddadfeiliedig, adeiladwyd yma gapel newydd prydferth iawn yn 1858. Mae mynwent oddi-amgylch iddo, a llawer wedi cael eu claddu ynddi.

Translation by Heulwen Jenkins (Jan 2009)

This is an agricultural area, in the northern part of Llangyfelach Parish, about four miles north of Mynyddbach. There was occasional preaching in this neighbourhood for many years, possibly since the start of the cause which is now in Mynyddbach, but regular worship does not appear to have been established here before the year 1823, when it started regularly in David Thomas' house, near the mill, the house inhabited presently by Mr. Griffith Phillips. In 1824, a small chapel was built here. Mr. D. Evans, Mynyddbach, & the assistant preachers who belonged to his church, worked here to start the cause, & Mr. Evans was the minister until his death in 1835. After the death of Mr. Evans, a call was given to Mr. John Davies, & he served this church in conjunction with Cwmamman from April 5th, 1836, until April 17th, 1859. After Mr. Davies gave up his place, the charge was taken by Mr. Daniel, Mynyddbach. The church was under his care from May 15th, 1859, until July 3rd, 1864. After the departure of Mr. Daniel, it was about fifteen months without a permanent minister. In 1866, a call was given to Mr. David Morgan, a member of Cross Inn church. He was ordained here November 6th, that year. Mr. H. Davies, Bethania, preached on the nature of the church; the ordination prayer was by Mr. E. Griffiths, Swansea; the charge to the minister was given by Mr. W. Jones, Castle Street, Swansea, & to the church by the old minister, Mr. J. Davies, Cwmamman. Messrs. J. Bevan, Waunarlwydd;  J. Joseph, Llanedi; T. Davies, Morriston; J. Morgan, Cwmbach, & F. Samuel, Swansea preached & prayed in the afternoon & evening. Shortly after his ordination in Felindre, Mr. Morgan received a call from the old church in Llanedi, & he continues to serve the two churches.

The church & congregation of  Felindre  are made up of farmers & their workers. It has never been very numerous, & cannot be, because the population is thin, & there are chapels by other denominations not far away. This church has always been, through its full term, famous for its peaceful spirit, & readiness according to their number & ability to cooperate with every public cause. Because the chapel built here in 1824 had fallen into decay, a new beautiful chapel was built here in 1858. There is a graveyard around it, & many buried in it.

BARAN  (Llangyfelach parish)

(Vol 2, p 70)

Mae y capel hwn yn sefyll ar fin y mynydd yn nghwr uchaf plwyf Llangafelach. Dechreuwyd yr achos yma dan yr amgylchiadau canlynol: - Yr oedd yr hen eglwys Ymneillduol yn Gellionen, dan weinidogaeth Mr. Josiah Rees, wedi cael ei harwain er's rhai blynyddau oddiwrth yr hen athrawiaeth efengylaidd a bregethid yno o oes i oes, er dechreuad yr achos, ac er fod llawer, o bosibl mwyafrif yr aelodau, wedi llyngcu syniadau Ariaidd y gweinidog, yr oedd yno nifer yn dwyn sel dros yr hen wirioneddau a broffesid ac a gredid gan eu tadau. Tua dechreu y ganrif bresenol aeth Mr. Rees, i bregethu ei olygiadau neillduol am berson Crist yn fwy digel nag y gwnelsai yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, a phan ddaeth ei fab, Mr. Thomas Rees, wedi hyny Dr. T. Rees, Llundain, allan o'r athrofa, mynai rhai ei neillduo i fod yn gydweinidog a'i dad, er ei fod yn Undodwr proffesedig. Gwrthwynebid hyn gan y blaid driundodaidd yn yr eglwys, y rhai a fynent urddo Mr. Roger Howell. Canlyniad yr ymryson fu ymraniad. Aeth y Triundodwyr allan a dechreuasant gynal addoliad mewn amaethdy o'r enw Llwynefan, symudasant oddiyno i Nantmoel, ac ar ran o'r tir hwnw adeiladasant gapel Baran. Rhoddwyd les o 999 o flynyddau ar y tir gan Mr. John Howell, a'i fab a'i etifedd Mr. Roger Howell, am yr ardreth o bum' swllt yn y flwyddyn. Amseriad y les yw Hydref laf, 1805, ond yr ydym yn tybied fod y capel wedi cael ei orphen a'i agor rai misoedd cyn hyny. Y personau canlynol oedd yr ymddiriedolwyr : David Howell, Cwmnant-hopkin; Evan Hopkin, Penlan; John Phillips, Tychwith; Hopkin Harry, Rhydyfro; Rees Thomas, Coedcaemawr; Harry Thomas, Rhydyfro; Phillip John, a Daniel John, Tresgwich; Thomas Thomas, Maestirmawr; Samuel Thomas, Llwyndomen, a Jenkin Jenkins, Cynordyfuch. Mawrth 14eg, 1805, urddwyd Mr. Roger Howell yn weinidog. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth, D. Peter, Caerfyrddin; D. Davies, Llanybri; J. Abel, Cydwely; T. Bowen, Castellnedd; J. Davies, Alltwen; J. Davies, Llansamlet; E. Evans, Penygraig; W. Gibbon, Capel Sion, a dau o weinidogion y Bedyddwyr, sef Mr. Rees, Felinfoel, a Mr. Davies, Salem. Parhaodd Mr. Howell i weinidogaethu yma am 38 o flynyddau. Gan mai mynydd anghyfanedd sydd ar y naill du i'r capel yr oedd y gynnulleidfa yn gorfod ymgasglu o bellder mawr. Yr oedd Baran gynt i lawer o deuluoedd fel Jerusalem, " Y man lle yr oedd yn rhaid addoli." Cyrchai pobl yno o'r Gerdinen, Llandremoruchaf, Llwyngweno, Penwaenfach, Cynhordyfach, Cefnparc, Llwyndomen, Craigtrebanos, Alltwen, Hendregradog, Ynysmudw, Pentwyn, Blaenegel, Bettws, &c. Yr oedd golwg brydferth i'w gweled ar y mynydd ar fore y Sabboth; rhai ar draed a rhai ar geffylau, yn brithio mynydd wrth ddyfod o bob cyfeiriad i'w hoff deml i addoli. Erbyn y flwyddyn 1830, yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr fel y bu raid ei helaethu.

Yn y flwyddyn 1831, ymfudodd o ddeugain i haner cant o'r aelodau gyda eu gilydd i dalaeth Pensylfania, America, a chan eu bod wedi trefnu i fyw yn yr un gymydogaeth, rhoddasant alwad i Mr. Daniel Jones, gwr ieuangc oedd newydd ddechreu pregethu yn y Baran, ac urddwyd ef gartref cyn iddo ef a'i eglwys gychwyn i'w taith. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan y Meistri Howell, Baran; Rowlands, Cwmllynfell, a Powell, Cross Inn. Bu Mr. Jones, yn gweinidogaethu i'r bobl hyn yn America hyd ei farwolaeth. Gwanychodd hyn gryn lawer ar yr eglwys, ond yn raddol llanwyd lleoedd y rhai a ymadawsant. Yn y flwyddyn 1840, o herwydd llesgedd Mr. Howell, barnwyd yn angenrheidiol cael cynorthwywr iddo, ac yn nechreu y flwyddyn 1841, rhoddwyd galwad i Mr. Pryse, Cwmllynfell, i ddyfod yn gydweinidog ag ef. Parhaodd Mr. Pryse i ofalu am yr eglwys am flwyddyn ar of marwolaeth Mr. Howell. Yn 1844, pan adeiladwyd capel yn Rhydyfro, ac y gollyngwyd tua 55 o aelodau Baran yno i ddechreu yr achos, rhoddodd Mr. Pryse ofal y fam-eglwys i fyny, a chymerodd ofal y gangen yn Rhydyfro. Yna rhoddodd eglwys Baran alwad i Mr. Davies, Cwmaman, a buont dan ei ofal ef hyd Ebrill, 1859, pryd y cymerodd ofal yr eglwys yn Cross Inn. Dilynwyd ef yn Baran gan Mr. T. Davies, Treforis, yn Mai, 1859, ac efe yw y gweinidog yno hyd y dydd hwn. Yn y flwyddyn 1862, adeiladwyd ysgoldy yn Nghwmclydach, mewn lle a elwir Pantycrwys, ac yn 1866, ffurfiwyd yno eglwys. Wedi colli ardaloedd poblog Rhydyfro a Chwmclydach, y mae cynnulleidfa Baran o angenrheidrwydd wedi lleihau yn fawr, gan nad yw y gymydogaeth uniongyrchol oddiamgylch y capel ond tenau iawn ei thrigolion, ac y mae amryw o'r amaethdai yr oedd eu preswylwyr gynt yn perthyn i Baran, yn awr yn cael eu preswylio gan Saeson, neu bobl o enwadau eraill. Yr oedd rhif yr aelodau yn 1842, yn 181, ond yn bresenol nid ydynt ond 65, er fod y gweinidog presenol wedi derbyn 79 o aelodau yn y deuddeng  mlynedd diweddaf, a thua dengain trwy lythyrau. Y canghenau aethant allan o honi sydd wedi difa nerth y fam-eglwys, fel na ddaw mwyach mor lluosoced ag y bu, oddieithr i weithiau glo gael eu hagor yn yr ardal.

Y diaconiaid yn yr eglwys hon, o ddechreuad yr achos hyd yn awr, oeddynt Thomas Davies, Cwmgors; Rees Harry, Gartheithin; Phillip Bevan, Bwllfa; William Hopkin, Godre'rgarth; John Howell, Nantmoel; Evan Llewellyn, a William Llewellyn, Gerdinen; David Jones, Nantmelyn, a Jonah Williams, Cwmgors. Nid oes ond tri o'r rhai hyn yn fyw yn awr, sef John Howell, David Jones, a Jonah Williams.

Dau bregethwr yn unig a gyfodwyd yma er dechreuad yr achos, sef Daniel Jones, yr hwn a urddwyd yma cyn ei ymfudiad i'r America, a John Davies, yr hwn sydd yn bresenol yn Ynysmudw, ac yn wr ieuangc gobeithiol iawn.

Gadawodd Mr. Howell, y gweinidog cyntaf, ac un o sylfaenwyr yr achos, argraff ei dymer addfwyn a chariadus ar yr eglwys hon, fel na chlywyd un amser am unrhyw anghydfod na therfysg yma. Parhaed yr un dymer gristionogol i lywodraethu yma tra byddo careg ar gareg o'r adeilad yn sefyll, a dynion yn ymgynull i'r lle.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

ROGER HOWELL. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Pyllau Watkin, Yu mhlwyf Llangafelach, yn y flwyddyn 1774. Yr oedd ei dad, Mr. John Howell, yn wyr i Mr. Roger Howell, gynt gweinidog y Gellionen a Chwmllynfell, ac yn ddyn crefyddol iawn. Byddai yn pregethu yn achlysurol yn y Gellionen, lle yr oedd yn aelod, ac mewn manau eraill yn y gymydogaeth. Dywedir iddo unwaith, wrth bregethu mewn tý yn yr ardal, roddi cerydd effeithiol iawn i ddyn am ddyfod yn ddiweddar i'r oedfa. Daethai y dyn i mewn pan oedd Mr. Howell ar orphen ei bregeth. "Yn awr," ebe y pregethwr, "er fy mod yn myned i derfynu, byddai yn well i mi ddyweyd ychydig yn ychwaneg er mwyn ein cyfaill M. N., yr hwn sydd newydd ddyfod i mewn," ac felly estynodd ei bregeth am ddeg munyd yn hwy nag y beriadai.  Bu y dyn da hwn yn ofalus iawn i ddwyn ei fab Roger i fyny yn grefyddol. Pan yn llangc lled ieuangc anfonwyd ef i ysgol ieithyddol a gedwid yn Abertawy gan un Mr. Rees. Tra yno y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr. W. Howell, yn y capel sydd yn awr yn meddiant yr Undodiaid. Tua y flwyddyn 1795, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd ei amser yn fyfyriwr diwyd. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa bu am ryw yspaid yn athraw i blant  J. Haynes, Ysw., arianydd, Abertawy. Yn y flwyddyn 1804, priododd a Miss Sarah Elizabeth, merch Mr. W. Price, Penyfan, Llanelli. Bu iddynt chwech o blant, a chawsant yr hyfrydwch o'u gweled oll yn grefyddol. Dewiswyd ac urddwyd ef yn 1805, fel y nodasom yn barod, yn weinidog i'r gynnulleidfa a ymneillduasai o'r Gellionen. Treuliodd ei oes yn ddedwydd a pharchus yn ei gysylltiad a'r eglwys hon. Yr oedd ei gof wedi gwaelu yn fawr yn ei flynyddau diweddaf, fel y byddai yn gorfod darllen ei bregethau, ond y fath oedd serch ei bobl tuag ato, fel yr oedd yn well ganddynt ei glywed ef yn darllen ei bregethau na chlywed llawer un mwy doniol yn eu traethu gyda'r hyawdledd mwyaf. Bu Mr. Howell farw Ebrill 29ain, 1843, yn 69 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Baran. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Davies, Cwmaman; Mr. Thomas, Glais; Mr. Powell, Cross Inn, a Mr. Griffiths, Castellnedd. Mr. Powell, a Mr. Griffiths fu yn pregethu oddiwrth Ioan ii. 20., ac 2 Cron. xxiv. 15, 16. O ran ei ymddangosiad corphorol yr oedd Mr. Howell yn ddyn nodedig o hardd, o faintioli cyffredin, o liw goleu, ac o edrychiad siriol a mwyn. O ran ei dymer yr oedd yn anghyffredin o garuaidd ac addfwyn, ac o ran ei ymddygiad nid oedd un dyn mwy boneddigaidd a dirodres yn rhodio y ddaear. Er ei fod o ran ei amgylchiadau bydol yn dirfeddianwr, yn gymharol gyfoethog, ac yn rhagorach ysgolhaig na phedwar-ar-bymtheg o bob ugain o bregethwyr ei oes, yr oedd mor ostyngedig a diymhoniad a'r iselaf yn mysg ei frodyr. Nid oedd yn feddianol ar ddoniau poblogaidd fel pregethwr, ond yr oedd ei bregethau yn wastad yn llawn o synwyr a defnyddiau addysg i'w wrandawyr. Yr oedd ei haelioni a'i lettygarwch yn ddiarhebol. Byddai ef, ei wraig, a'i blant am y parotaf i roesawi dyeithriaid, a bu eu hanedd glud yn lletty fforddolion am ddegau o flynyddau. Estynodd ganoedd o ddarnau o arian i ddwylaw ei frodyr tlodion yn y weinidogaeth pan alwant heibio iddo ar eu teithiau. Bu yn cadw ysgol agos trwy ei holl oes, nid o herwydd fod ei amgylchiadau yn ei orfodi i wneyd hyny, ond o herwydd mai hyfrydwch ei fywyd oedd cyfranu addysg i blant ac ieuengctyd. Rhoddodd eu haddysg yn rhad i ugeiniau o blant y gymydogaeth, a bu rhai degau o bregethwyr ieuaingc yn derbyn eu haddysg ganddo. Mae rhai o honynt etto ar dir y rhai byw, megis Evans, Nazareth; Jones, gynt o Dalgarth; Watkins, Llangattwg; Williams, Hirwaun; Edwards, Jones, Powell, a Lewis Williams, America, &c.

Gwnaeth ddaioni dirfawr yn ei ddydd yn ei ardal fynyddig fel ysgolfeistr yn gystal ag fel pregethwr. Mae ei goffadwriaeth hyd y dydd heddyw yn barchus gan ugeiniau, ac y mae crefydd yn parhau i ddal ei gafael yn ei hiliogaeth.*

* Diwygiwr, Mehefin, 1845, a llythyr Mr. John Howell.

Translation by Heulwen Jenkins (Jan 2009)

This chapel stands on the point of the mountain in the uppermost edge of Llangyfelach Parish. The cause started here under the following circumstances - The old Non-Conformist church was in Gellionen, under the ministry of Mr. Josiah Rees, having been led for some years from the old evangelical doctrine preached there from time to time from the start of the cause, & although  many,  possibly the majority of the members, had swallowed the minister's Arian ideas, there were a number taking zeal over the old truths professed & believed by their fathers. Towards the start of the present century Mr. Rees went to preach his particular views of the body of Christ more evident than he had in the first years of his ministry, & when his son, Mr. Thomas Rees,  & after that Dr. T. Rees, London, came out of the college, some thought him earmarked to be a joint-minister with his father, even though he was a professed Unitarian. This was opposed by the Unitarian party in the church, the ones who wanted Mr. Roger Howell ordained. Division was the consequence of this strife. The Unitarians went out & they started holding worship in a farmhouse  by the name of Llwynefan, they moved from there to Nantmoel, & they built Baran chapel on a piece of that land. A 999 year lease was given on the land by Mr. John Howell, & his son & heir, Mr. Roger Howell, for the rent of five shillings a year. The date of the lease is October 1st, 1805, but we think the chapel was finished & open some months before then. The following persons were the trustees: David Howell, Cwmnant-hopkin; Evan Hopkin, Penlan; John Phillips, Tychwith; Hopkin Harry, Rhydyfro; Rees Thomas, Coedcaemawr; Harry Thomas, Rhydyfro; Phillip John & Daniel John, Tresgiwch; Thomas Thomas, Maestirmawr; Samuel Thomas, Llwyndomen, & Jenkins Jenkins, Cynordyfach.   Mr. Roger Howell was ordained as minister on March 14th, 1805. The following ministers took part in the service, D. Peter, Carmarthen; D. Davies, Llanybri; J. Abel, Kidwelly; T. Bowen, Neath; J. Davies, Alltwen; J. Davies, Llansamlet; E. Evans, Penygraig; W. Gibbon, Capel Sion & two Baptist ministers, namely Mr. Rees, Falafel & Mr. Davies, Salem. Mr. Howell continued to minister here for 38 years. As there is desolate mountain on either side of the chapel the congregation had to gather together from a big distance. The former Baran was like Jerusalem for many families, " The place where it was necessary to worship." People went there from Gerdinen, Llandremoruchaf, Llwyngweno, Penwaunfach, Cynhordyfach, Cefnparc, Llwyndomen, Craigtrebanos, Alltwen, Hendregradog, Ynysmudw, Pentwyn, Blaenegel, Bettws, etc. There was a beautiful sight to be seen on mountain on the Sabbath morning; some on foot & some on horses, speckling the mountain by coming from every direction to worship in their favourite temple. By 1830, the chapel had gone too small to hold the listeners & it was necessary to enlarge it.

In 1831, about forty to fifty of the members emigrated together to the province of Pennsylvania, America, & as they had arranged to live in the same neighbourhood, they gave a call to Mr. Daniel Jones, a young man who had newly started preaching in Baran, & he was ordained at home before he & his church started the journey. Messrs. Howell, Baran; Rowlands, Cwmllynfell, & Powell, Cross Inn, officiated at the ordination. Mr. Jones ministered to these people in America until his death. This greatly weakened the church, but gradually the places of those who'd left were filled. In 1840, due to Mr. Howell's infirmity, it was felt necessary for him to have a helper, & at the start of 1841, a call was given to Mr. Pryse, Cwmllynfell, to become a co-minister with him. Mr. Pryse continued to care for the church for a year after Mr. Howell's death. In 1844, when a church was built in Rhydyfro, & about 55 members of Baran left for it to start the cause, Mr. Pryse gave up the care of the mother-church & he took care of the branch in Rhydyfro. Then Baran church gave a call to Mr. Davies, Cwmaman, & they were under his care until April, 1859, when he took care of the church in Cross Inn. He was followed in Baran by Mr. T. Davies, Morriston, in May, 1859, & he is the minister there to this day. In 1862, a schoolhouse was built in Cwmclydach, in a place called Pantycrwys, & in 1866, a church was established there. After losing  populous areas of Rhydyfro & Cwmclydach, Baran's congregation, of necessity has decreased greatly, because the immediate district around the chapel is very sparsely populated, &  several of the farmhouses whose inhabitants formerly belonged to Baran, are now inhabited by Englishmen, or people of other denominations. In 1842 the number of members was 181, but, at present, they are only 65, although the present minister has received 79 members in the last twelve years, & about twenty through letters. The branches which went out of it destroyed the strength of the mother-church, as it will not again be as numerous as it was, unless coal mines are opened in the area.

The deacons in this church from the beginning of the cause until now, were, Thomas Davies, Cwmgors; Rees Harry, Gartheithin; Phillip Bevan, Bwllfa; William Hopkin, Godre'rgarth; John Howell, Nantymoel; Evan Llewelyn & William Llewelyn, Gerdinen; David Jones, Nantmelyn;, & Jonah Williams, Cwmgors. Only three of these are alive now, namely John Howell, David Jones & Jonah Williams.

Only two preachers were raised here from the start of the cause, namely Daniel Jones, who was ordained here before his emigration to America, & John Davies, who is presently in Ynysmudw, & a very hopeful young man.

Mr. Howell, the first minister, & one of the founders of the cause, left the impression of his gentle & loving manner on this church, as no discord or disturbance was ever heard here. The same Christian mood continues to rule here while stone upon stone of the building stands & men assemble in the place.

BIOGRAPHICAL NOTES

ROGER HOWELL.  Born in Pyllau Watkin farmhouse, Llangyfelach Parish in 1774. His father, Mr. John Howell, was the grandson of Mr. Roger Howell, formerly minister of Gellionen & Cwmllynfell, & a very religious man. He occasionally preached in Gellionen, where he was a member & in other places in the neighbourhood. It's said once whilst preaching in a house in the area he strongly reprimanded a man for coming late to the meeting. The man came in when Mr. Howell was finishing his sermon,. "Now", said the preacher, " although I was finishing, I'd better say a little more so that our friend M.N., who's newly come in" & so he extended his sermon for ten minutes more than intended. This good man was very careful to bring up his son Roger devoutly. When a very young man, he was sent to a language school held in Swansea by a Mr. Rees. While there he was received as a church member by Mr. W. Howell, in the chapel now occupied by the Unitarians. Towards 1795, he was accepted into Carmarthen College, where he spent his time as a diligent student. After finishing his time in college he was for a while as teacher to the children of  J. Haynes, Esq., banker, Swansea. In 1804, he married a Miss Sarah Elizabeth, daughter of Mr. W. Price, Penyfan, Llanelli. They had six children, & they had the pleasure of seeing them all religious. He was chosen & ordained in 1805, as already said, as minister to the congregation who withdrew from Gellionen. He spent his life blessed & respected in his connection with this church.  His memory had weakened in his last years, as he had to read his sermons, but his people's affection was such to him, that they preferred hearing him reading his sermons than listening to one more humerous. Mr. Howell died April 29th, 1843, aged 69, & was buried by Baran Chapel. Mr. Davies, Cwmaman; Mr. Thomas, Glais; Mr. Powell, Cross Inn, & Mr. Griffiths, Neath officiated at his funeral. Mr. Powell & Mr. Griffiths preached from John ii. 20, & 2 Cor.xxiv. 15, 16.  Mr. Howell was notably handsome, of normal stature, of light colour, & with  kind & cheerful look.

Because of his manner, he was uncommonly loving & gentle, & because of his behaviour there was no man more gentlemanly & unassuming walking the earth. Although he was  a landowner, comparatively wealthy, & better educated than nineteen out of every twenty preachers of his era, he was as humble & unpretentious as the lowliest amongst his brothers. He did not possess popular talents as a preacher, but his sermons were always full of sense & educational material for his listeners. His generosity & hospitality were proverbial. He, his wife & children were always ready to welcome strangers, & their luggage house was a wayfarers lodging for tens of years. He extended hundreds of pieces of money  to the hands of his pauper brothers in the ministry when they passed by him on their journeys. He kept school throughout his life, not because his circumstances made him do this, but because the beauty of his life was to impart learning to children & youngsters. He gave free education to scores of children of the locality, & some tens of young preachers took their education from him. Some are still living, like Evans, Nazareth; Jones, formerly of Talgarth; Watkins, Llangatwg; Williams, Hirwaun; Edwards, Jones & Powell & Lewis Williams, America etc.

He did immense good in his day in his mountainous district as a schoolmaster as well as a preacher. His memory is respected to this day by scores, & religion continues to hold his offspring. *

*Diwygiwr ( The Revivalist) June 1845 & Mr. John Howell's letter.

BETHEL, LLANSAMLET

(Vol 2, p 63)

Yr oedd amryw aelodau perthynol i'r enwad Annibynol yn cyfaneddu yn plwyf hwn yn mhob oes er dyddiau yr Anghydffurfwyr, a bu eglwys fechan, neu gangen o eglwys y Chwarelaubach, Castellnedd, yn ymgynnull am lawer o flynyddau mewn anedd-dy dan fynydd y Drymmau, dan ofal gweindogaethol Mr. Joseph Simons; ond mae yn ymddangos i'r achos hwn ddarfod rai blynyddau cyn dechreuad y ganrif bresenol, ac o hyny allan nid oedd gan yr Annibynwyr a breswylient yn y plwyf un lle nes i fyned iddo na Chastellnedd, y Mynyddbach, neu yr Alltwen. Yr oedd Mr. John Davies, Llansamlet, flynyddau cyn ei farwolaeth yn hiraethu am gael achos Annibynol yn y plwyf lle y preswyliai. Wedi llawer o ymgynghori cafodd gan gynifer o aelodau y Mynyddbach ag a breswylient yn yr ardal i uno ag ef i adeiladu capel, o fewn haner milldir i eglwys y plwyf, ar fin y ffordd oedd yn arwain o Abertawy i Gastellnedd, ac yn agos i haner y ffordd rhwng y ddwy dref. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1818, ac agorwyd ef ar y Sabboth, Awst 9fed, y flwyddyn hono, pryd y pregethodd Mr. Davies, Llansamlet, oddiwrth Hag. ii. 9; Mr. Davies, Alltwen, oddiwrth Heb. iii. 6, a Mr. Sadrach Davies, Maendy, oddiwrth Rhuf. viii. 13. O herwydd lluosogrwydd y torfeydd, bu raid cynal y gwasanaeth yn yr awyr agored. Dywedir fod o bedair i bum' mil o bobl well ymgynnull yno. Bu yr eglwys dan ofal gweinidogaethol Mr. Daniel Evans, Mynyddbach, hyd 1828. Yr oedd yr aelodau erbyn hyn yn bedwar ugain o rif, a chan nad allai Mr. Evans roddi iddynt ond un bregeth yn y mis, barnent y buasai yn well iddynt gael gweinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i wr ieuangc doniol iawn, o'r enw David Thomas, ac urddwyd ef yma Medi 28ain, 1828. Bu yma hyd fis Mai 1832, pryd yr ymfudodd i America. Ar ol ei ymadawiad ef buwyd heb un gweinidog sefydlog hyd 1837, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Isaac Harris, mewn cysylltiad ar Mynyddbach. Yn y flwyddyn 1839, aeth Harris yn rhy ddrwg ei gymeriad i gael ei ddyoddef i fyned i un pulpud, ac felly bu raid i'r eglwys hon, yr un modd a'r Mynyddbach ymwrthod ag ef. Yn fuan wedi hyny rhoddodd yr eglwys yn Bethel alwad i Mr. W. Morris, mewn cysylltiad a Glandwr, a bu Mr. Morris yn ei gwasanaethu am oddeutu dwy flynedd. Yna rhoddwyd galwad i Mr. Evan Watkins, mewn cysylltiad a Chanaan. Bu Mr. Watkin yn llafurio yma gyda pharch nodedig nes iddo symud i Langatwg yn 1850. Yn 1852, rhoddwyd galwad. i Mr. Thomas Davies, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 14eg a'r 15fed. Y nos gyntaf, gweddiodd Mr. J. Davies, o athrofa Aberhonddu, a phregethodd Meistri Davies, Llandilo, a Rees, Llanelli. Am 10, yr ail ddydd, gweddiodd Mr. Griffiths, Abertawy; pregethodd Mr. Davies, Llandilo, ar natur eglwys; holwyd y golyniadau gan Mr. Hughes, Dowlais; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Roberts, Dowlais; rhoddwyd siars i'r gweinidog ieuangc gan Mr. Davies, athraw athrofa Aberhonddu. Am 2, gweddiodd Mr. Jones, Maesteg, a phregethodd Meistri Pryse, Cwmllynfell, a Griffiths, Alltwen. Am 6, gweddiodd Mr. G. John, athrofa Aberhonddu, a phregethodd Meistri Thomas, Glynnedd, a Rees, Llanelli, yr olaf ar ddyledswydd yr eglwys. Deunaw mis fu tymor gweinidogaeth Mr. Davies yma. Derbyniodd alwad i Siloa, Llanelli, a symudodd yno yn nechreu 1854, yn groes iawn i deimladau ei bobl yn Llansamlet, ond nid yn groes i ewyllys yr Arglwydd, fel y mae y canlyniadau wedi dangos. Ar ymadawiad Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys yn Bethel ei hun dan ofal Mr. J. Rees, Canaan, a than ei ofal ef y bu nes iddo yn 1866, symud i Rodborough. Yn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. Rowland Rowlands, o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Gorphenaf 3ydd a'r 4ydd, yn y flwyddyn hono. Yn nghyfarfod yr urddiad, traddodwyd y gynaraeth gan Mr. W. Morgan, un o athrawon athrofa Caerfyrddin; derbyniwyd y gyffes ffydd, a gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Jones, Machynlleth; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. D. Hughes, B.A., Tredegar, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan ei gweinidog blaenorol, Mr. Rees, Rodborough. Traddodwyd amryw bregethau yn Bethel ac addoldai eraill yn yr ardal, y nos flaenorol, ac ar brydnawn a hwyr ddydd yr urddiad. Mae Mr. Rowlands yn parhau i lafurio yma gyda pharch a llwyddiant cynyddol, a'r achos yn ychwanegu nerth o flwyddyn i flwyddyn.

Capel lled fychan, 40 troedfedd o hyd wrth 20 o led, heb un oriel ynddo, oedd Bethel yn ei ffurf gyntefig. Yn 1839, gosodwyd oriel mewn un pen iddo. Traul yr adeiladaeth yn 1818, a'r oriel yn 1839, oedd 352p., heb gyfrif cludiad y defnyddiau. O herwydd yr ychwanegiad dirfawr at yr eglwys a'r gynnulleidfa yn 1849, bu raid tynu yr hen adeilad i lawr, ac adeiladu un mwy. Maint y capel presenol yw 47 troedfedd wrth 37 dros y muriau, a'r draul oedd 508p., heb gyfrif codiad a chludiad y cerig a defnyddiau eraill, yr hyn a wnaed yn rhad gan yr ardalwyr. Arbedwyd wrth hyn tua 150p. Mr. Thomas, Glandwr, oedd cynllunydd ac arolygydd y gwaith. Agorwyd ef Chwefror 13eg a'r 14eg, 1851. Mae yr adeilad yn un cadarn, hardd, a chyfleus, a'r ddyled oll wedi ei thalu er's blynyddau bellach. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Rees, adeiladwyd ysgoldy yn Birchgrove, ac yn awr y mae yno gapel tlws agos wedi ei orphen.

Mae eglwys Bethel wedi bod yn rhagorol o dangnefeddus o'i dechreuad hyd yn bresenol, ac er iddi fod dan fesur o anfantais o herwydd gorfod newid ei gweinidogion mor fynych, a bod am y rhan fwyaf o'i thymor yn ymddibynol ar ran yn unig o lafur ei gweinidogion, o herwydd fod eglwysi eraill dan eu gofal, etto, mae yr achos wedi llwyddo a gwreiddio yn y gymydogaeth, ac yn bresenol y mae yn gryfach nag y bu ar un cyfnod o'i hanes. Bu yma nifer o grefyddwyr rhagorol yn perthyn i'r achos o bryd i bryd; megis Evan Dafydd, yn nhý yr hwn y cynelid y moddion cyn adeiladu y capel cyntaf; Llewellyn Llewellyn, William Williams, Thomas Evan, a John Jones, dau bregethwr cynorthwyol, y rhai a grybwyllasom eisioes yn hanes y Mynyddbach; John Dafydd, Robert Robert, Dafydd Morris, a William Llewellyn, hen farworyn llawn a dân, yr hwn a roddai fywyd i'r cyfarfodydd a'i amenau a'i ddiolchiadau toddedig. Mae Rachel Bevan, yr hon a gerddai yr holl ffordd i'r Mynyddbach, fynychaf a phlentyn sugno yn ei chol, cyn cyfodi capel yma, yn aros etto yn mysg y byw; hi, a'r hen frawd ffyddlon a siriol, Dafydd Bevan, feddyliwn, yw yr unig rai o'r aelodau gwreiddiol sydd wedi eu gadael yn ngweddill gan angau.

Mr. John Davies, gweinidog yr eglwys Gymreig yn yr Amwythig, a Mr. William Davies, yr hwn a urddwyd yn ddiweddar yn Llwydcoed, Aberdare, yw yr unig bregethwyr a godwyd yma.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

DAVID THOMAS. Ganwyd ef yn rhyw ran o sir Aberteifi, and nis gwyddom pa le ynn. Nid ydym yn hysbys o amser ei enedigaeth, nac o'i hanes yn moreu er oes. Daeth i Abertawy i weithio ei gelfyddyd fel dilledydd, ac yno y dechreuodd bregethu, fel y nodasom yn hanes Ebenezer, tua y flwyddyn 1825, feddyliwn. yn 1827, yr oedd yn gweithio yn y Taibach, ac yn pregethu ar y Sabhothau lle y celai ddrysau yn agored. Efe yn yr amser hwnw fu yn foddion i gychwyn achos yr Annibynwyr ar Gefncribwr. Yn mis Medi, 1828, urddwyd ef yn Bethel, Llansamlet, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Mr. Methusalah Jones, Merthyr, ac eraill. Yn 1832, priododd ddynes ieuangc o Landilo, ac yn mis Mai yr un flwyddyn, ymfudodd ef a'i wraig i'r America, ond yn mhen y bythefnos wedi iddo dirio yno, yn nechreu Gorphenaf, bu farw o'r Geri Marwol, a chafodd ei wraig ddychwelyd i wlad ei genedigaeth yn weddw, unig, a galarus. Clywsom Mr. David Thomas yn pregethu ddwy neu dair o weithiau, ac nid yn aml y gwrandawsom neb o ddoniau mwy poblogaidd. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, a'i lais yn rhyfeddol o berseiniol. Yr oedd yn ddyn ieuange pur ei fuchedd a dirodres yn ei holl ymddygiadau, a gwnaeth lawer o waith mewn ychydig o amser.

Translation by Gareth Hicks (April 2009)

Several members associated with the Independent connection resided in this parish for every age since the age of the Nonconformists, and a small church, or a branch of Cwarelaubach, Neath, congregated for many years in dwelling houses below the Drum Mountains, under the care of the ministry Mr Joseph Simons; but it seems that this cause lapsed some years before the start of the present century, and from then on the Independents who inhabited the parish had not one place nearer to go to than Neath, Mynyddbach, or Alltwen.  Mr John Davies, Llansamlet, for years before his death had longed to have an Independent cause in the parish in which he lived. After much duscussion he got a number of members from Mynyddbach and residents in the area to join with him to build a chapel, within half a mile from the parish church, on the side of the road which lead from Swansea to Neath, and almost half way between the two towns. They built the chapel in 1818, and it opened on Sunday, August 9th, of that year, when Mr Davies, Llansamlet, preached from Hag. ii. 9; Mr Davies, Alltwen, from Heb. iii. 6; and Mr Sadrach Davies, Maendy, from Rhuf. viii. 13.  Because of the size of the crowd, they had to hold the service in the open air. It was said that there were more than 4/5000 people there. The church was under the care of the ministry of Mr. Daniel Evans, Mynyddbach until 1828. The members were by then some 80 in number, and as Mr Evans could only give them but one sermon a month, they decided that it would be better for them to have their own minister. They gave a call to a personable young man, called David Thomas, and he was ordained here on 28th Sept 1828. He was here until May 1832, when he went off to America. After his leaving they were without a settled minister until 1837, when they called Mr Isaac Harris, jointly with Mynyddbach. In 1839 Mr Harris became too bad a character to be suffered in any pulpit, and thus this church, as did Mynyddbach, had to dispense with him. Soon after that Bethel gave a call to Mr W Morris, jointly with Glandwr, and Mr Morris was in their service for about 2 years. Then they gave a call to Mr Evan Watkins, jointly with Canaan. Mr Watkin laboured here with notable respect until he moved to Llangatwg in 1850. In 1852 they gave a call to Mr Thomas Davies, a student at Brecon College, and he was ordained here on 14th/15th June. On the first night, Mr Davies from Brecon College preached, and Messrs Davies, Llandilo, and Rees, Llanelli, preached. At 10am the second day, Mr Griffiths, Swansea, preached; Mr Davies, Llandilo, preached on the nature of a church; questions asked by Mr Hughes, Dowlais; ordination prayer given by Mr Roberts, Dowlais; the charge to the young minister by Mr Davies, a lecturer from Brecon College.   At 2pm, Mr Jones, Maesteg,  prayed and Messrs Pryse, Cwmllynfell, and Griffiths, Alltwen preached. At 6pm, Mr G John, Brecon College, prayed, and Messrs Thomas, Glyn Neath, and Rees, Llanelli, preached, the latter on the duties of a church. Eighteen months was the length of Mr Davies's ministry here. He received a call from to Siloa, Llanelli, and moved there at the start of 1854, very much against the wishes of the people at Llansamlet, but not against the Lord's wishes, as the following has shown. On Mr Davies's departure, the church in Bethel came under the care of Mr J Rees, Canaan, and remained under his care until he moved to Rodborough in 1866. In 1867 they gave a call to Mr Rowland Rowlands, from Carmarthen College, and he was ordained here on 3/4th July of that year. At the ordination ceremony, Mr W Morgan, one of the teachers at Carmarthen College, introduced the meeting; the faith confession was accepted and ordination prayer given by Mr J Jones, Machynlleth; Mr D Hughes, B A, Tredegar, preached on the duties of a minister; and that of a church by the previous minister, Mr Rees, Rodborough. There was preaching in Bethel, and dwelling houses in the district, the previous night, and on the afternoon and later on the day of the ordination. Mr Rowlands continues to labour here with increasing respect and success, and the cause increases in strength from year to year.

Bethel, in its earliest form, was a fairly small chapel, measuring 40ft  in length by 20ft wide, without a single gallery in it. In 1839, they installed a gallery in one end of it. The cost of the building in 1818, and the gallery in 1839, was £352, without counting the carriage of materials. Because the congregation increased so much in 1849, it was necessary to pull down the old building, and build another one. The size of the present chapel is 47ft by 37ft across the walls, and the cost was £508, without counting the lifting and carriage of stones and other materials, which was done for free by the locals. That saved about £150. Mr Thomas, Glandwr was the designer and supevisor of the work. It opened on 13/14th February 1851. The building is sturdy, beautiful and convenient,  and the whole debt repaid for many years past. In the period of Mr Rees's ministry, they built a schoolhouse in Birchgrove, and now there is there a pretty chapel almost finished.

The church at bethel has been admirably peaceful from the start until now, and although it has been under some degree of disadvantage because of the need to change its ministers so often, and has not been for most of the time able to rely soley on the labours of its ministers, because other churches were under its care, yet, the cause has prospered and taken root in the neighbourhood, and is now stronger than at any time in its history. There have been a number of devout, excellent men connected to the cause from time to time, such as Evan Dafydd, it was in his house that religious events were held before the first chapel was built; Llewellyn Llewellyn, William Williams, Thomas Evan, and John Jones, two assistant preachers, who have already been mentioned in the history of Mynyddbach; John Dafydd, Robert Robert, Dafydd Morris, and William Llewellyn, and old ember full of fire, who gave life to the meetings and liquid? (toddedig) thanks. There is Rachel Bevan, who walked the whole way to Mynyddbach, often with a suckling baby at her bosom, before raising a chapel here, and still alive; she, and the old faithful and cheery brother, Dafydd Bevan, we would think, are the only ones of the original members who remain, the rest are dead.

Mr John Davies, the minister of nthe Welsh church at Shrewsbury, and Mr William Davies, lately ordained at Llwydcoed, Aberdare, are the only preachers raised here.

Biographical Notes *

DAVID THOMAS. Born somewhere in Cardiganshire, date unknown, came to Swansea to work around 1825, see Ebenezer. In 1827 in Taibach. Instrumental in starting a cause in Cefncribwr.  Ordained in 1828 at Bethel, Llansamlet. Married in 1832 to a young lady from Llandilo, left for America in May that same year, but died within a fortnight of landing there from cholera.

*Not fully translated

CADLE (Llangyfelach parish)

(Vol 2, p 88)

Mae y capel ar ben y tair milldir o dref Abertawy, ar ymyl y ffordd sydd yn arwain i Lanelli a Chaerfyrddin. Gan fod yr ardal hon yn y canol rhwng yr hen gapeli yn y Mynyddbach, yr Ysgetty, a Rhydymardy, ac o fewn tair milldir i bob un o honynt, mae yn sicr fod amryw aelodau perthynol i bob un o'r lleoedd hyn yn preswylio yma er cychwyniad yr achos yn mhob un o'r cyfryw leoedd, and ymddengys mai aelodau o'r Mynyddbach oeddynt yn fwyaf lluosog yma o oes i oes. Buont am ugeiniau o flynyddau yn cadw moddion crefyddol agos bob nos Sabboth ac ar nosweithiau o'r wythnos, yn y Wigfach, tý John Knoyle, ac anedd-dai eraill. Yn y flwyddyn 1838, pan ddechreuodd pethau fyned yn annymunol yn y Mynyddbach oherwydd y gweinidog Mr. Isaac Harries, penderfynodd yr aelodau a breswylient yn ardal Cadle ymneillduo o'r fam eglwys ac ymffurfio yn eglwys ar eu penau eu hunain. Rhoddwyd llythyrau gollyngdod i tua thriugain o honynt, a chawsant eu corpholi yn eglwys, Ionawr 13eg, 1839. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod gan y Meistri J. Evans, Crwys; D. Jones, Clydach, ac E. Griffiths, Abertawy. Buont yn addoli mewn tý anedd nes i'w capel gael ei agoryd yn 1840. Bethlehem yw yr enw a roddwyd ar y capel. Yr oedd hwn yn dy prydferth a chyfleus, ac yn cynwys tua phedwar cant o eisteddleoedd; a mynwent helaeth o'i amgylch. Mr. David Jones fu y gweinidog yma mewn cysylltiad a Chlydach er amser corpholiad yr eglwys hyd ei farwolaeth ddisymwth yn Ionawr 1845. Wedi hyny buont dan ofal Mr. Thomas, Glandwr, hyd 1851, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. William Humphreys, yr hwn a urddwyd yma Chwefror lleg a'r 12ed yn y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan y Meistri J.  Evans, Crwys; J. Rees, Canaan; T. Jones, Trefoils; T. Thomas, Glandwr; J. Davies, Cwmaman; T. Davies, ac E. Jacob, Abertawy; T. Rees, Cendl, a J. Davies, Llanelli, Brycheiniog. Bu Mr. Humphreys yn llafurio yma gyda llwyddiant nodedig mewn cysylltiad a'r Brynteg a Chwmbwrla, hyd o fewn llai na blwyddyn i amser ei farwolaeth, pryd y rhoddodd yr eglwys hon i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i'r Brynteg a Chwmbwrla. Yn flwyddyn 1866, gan fod y capel a adeiladwvd yn 1840 wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, tynwyd ef i lawr ac adeiladwyd un llawer helaethach a harddach. Mae y cape1 presenol yn cynwys tua 600 o eisteddleoedd. Yn niwedd y flwyddyn 1869 rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. W.H. Thomas, Fochriw. Y mae Mr. Thomas a'r eglwys yn cyd-dynu yn ddymunol, a'r gwaith da yn myned rhagddo yn llwyddianus. Trwy ymdrech egniol y gweinidog, a chydweithrediad y gynnulleidfa a'r gymydogaeth, yn nechreu y flwyddyn hon (1871) adeiladwyd ysgoldy cyfleus ar yr ochr ogleddol i'r heol gyferbyn a'r fynwent, at gadw ysgol ddyddiol anenwadol, ac y mae y sefydliad hwn yn sicr o fod yn fendith fawr i blant yr ardal. Gan fod y ddaear am filldiroedd yn mhob cyfeiriad oddiamgylch y lle hwn yn llawn glo, mae y boblogaeth yn sicr o gynyddu yn ddirfawr yma yn dra buan, ac y mae yn hyfryd meddwl fod eglwys gref a gweithgar yn y lle ar gyfer y cynydd sydd yn ei aros. Mae yr  aelodau yn bresenol yn agos i ddau cant a haner o rif.

Translation by Heulwen Jenkins (May 2008)

The chapel is at the end of three miles from Swansea town, beside the road which leads to Llanelli & Carmarthen. Because this district is  between old chapels in Mynyddbach, Sketty, & Rhydymardy, & within three miles of each one of them, it's certain that many members belonging to each of these places resided here since the start of the cause in each of these places, but it appears that members from Mynyddbach were the most numerous. For twenty years they kept religious means almost every Sabbath & on week nights, in Wigfach, John Knoyle's house, & other dwelling houses. In the year 1838, when things started to become unpleasant in Mynyddbach because of the minister, Mr. Isaac Harries, the members who resided in the Cadle locality withdrew from the mother church & formed a church of their own. Letters of release were given to sixty of them & they were incorporated as a church , January 13th, 1839. Messrs. J. Evans, Three Crosses; D. Jones, Clydach, & E Griffiths, Swansea took part in the meeting service. They worshipped in a dwelling-house until their chapel was opened in 1840. Bethlehem is the name given to the chapel. It was a beautiful & convenient house, & contained towards four hundred seats, & an extensive graveyard around it. Mr. David Jones was the minister here, in conjunction  with Clydach from the time of incorporation of the church until his sudden death in January 1845. After that they were under the care of Mr. Thomas, Landore, until 1851, when the call was made to Mr. William Humphreys, who was ordained here February 11th & 12th in that year. Messrs. J. Evans, Three Crosses, Rees, Canaan; T. Jones, Trefoils; T. Thomas, Landore; J. Davies, Cwmamman; T. Davies, & E. Jacob, Swansea; T. Rees, Cendl ( Beaufort), & J. Davies, Llanelli, Breconshire.  Mr. Humphreys laboured here with notable success, in conjunction with Brynteg & Cwmbwrla, until  within less than a year of his death , when he gave up this church,  & he confined his work to Brynteg & Cwmbwrla. In the year 1866, because the chapel, built in 1840, had gone too small to hold the congregation, it was pulled down & a much bigger & more beautiful one was built. The present chapel holds towards 600 seats. At the end of the year 1869,  a unanimous call was given to Mr. W. H. Thomas, Fochriw.  Mr. Thomas & the church pull together very well, & the good work proceeds successfully. Through the energetic effort of the minister, & the cooperation of the congregation & the neighbourhood, at the start of this year (1871) a convenient schoolroom was built on the north side of the road  opposite the graveyard,  to keep a daily non-denominational school, & this establishment is sure to be a big blessing to the children of the area. Because the land for miles around in every direction from this place is full of coal, the population is sure to grow immensely very soon, & it's lovely to think of a strong & industrious church in the place for the growth which awaits. The members at present are close to two hundred & fifty in number.

GWAUNARLWYDD  (Swansea parish)

(Vol 2, p 89)

Saif y le hwn yn ymyl Gower Road Station, o fewn chwe' milldir i Abertawy. Glowyr ac amaethwyr yw y trigolion. Ugain mlynedd yn ol nid oedd ond dau neu dri o dal yn yr holl gymydogaeth, heblaw yr amaethdai oedd yma ac acw. Yn y flwyddyn 1833, dechreuwyd ysgol Sabbothol yn nhy John Lewis, Dilledydd, a elwir Wern, gan gyfeillion o'r Crwys. Y rhai mwyaf blaenllaw oedd David Griffiths, Cefngorwydd, a'i deulu; John Lewis, gwr y tý; John Higgs, Saer; Thomas Bowen, amaethwr Evan Morris, hynaf, Evan Morris, ieu.; George Williams, Vexe Fach; Thomas Gibbs, Cefngorwydd Fawr, a John Thomas, Tygwyn, Bu yr ysgol yn y Wern ac yn Cefngorwydd am flynyddau lawer yn flodeuog iawn. Yn mhen blynyddau wedi dechreu yr ysgol hon gan bobl y Crwys, dechreuodd pobl Cadle ysgol mewn cwr arall o'r gymydogaeth. Yr oedd gweithiau glo yn awr yn dechreu cael eu hagor, tai yn cael eu hadeiladu, a'r boblogaeth yn cynyddu. Bu yr ysgol ddiweddaf a nodwyd yn symud o dý i dý, ac o'r diwedd unwyd y ddwy ysgol yn un. Yn fuan ar of hyny cymerwyd tir i adeiladu ysgoldy, gan Mr. Henry Griffiths, Bryn Dafydd. Yr oedd Mr. Griffiths wedi prynu y tir a elwir Gwaunarlwydd gan yr Arglwydd Faenorydd (Lord of the Manor), a dyna paham y gelwir y lle ar yr enw uchod. Cymerwyd y tir Medi 29ain, 1852, ac adeiladwyd ysgoldy arno, a gwnaed hyny yn rhad iawn trwy garedigrwydd y cymydoglon yn gweithio ac yn cludo defnyddiau ato. Y rhai mwyaf blaenllaw gyda'r gwaith heblaw Mr. John Evans, gweinidog y Crwys, oeddynt James Morris, hynaf, James Morris, ieu.; David Griffiths, Cefngorwydd; Thomas Bowen, Thomas Walters, Vexe Fawr; Benjamin George, Thomas Walters, Thomas Morgan, Heolyfelin, a William Thomas. Yn Gorphenaf 1858, corpholwyd yma eglwys gan Mr. John Ll. Jones, Crwys, a neillduwyd Thomas Bowen, James Morris, John Davies, a Thomas Walters, yn ddiaconiaid. Rhif yr aelodau oedd deg-ar-hugain. Yn mhen oddeutu blwyddyn rhoddodd Mr. Jones eu gofal i fyny; and nid cyn cynyg adeiladu capel iddynt a'u cynorthwyo i dalu am dano; ond yr oedd y cyfeillion yn y lle yn teimlo eu bod yn rhy wan ar y pryd i ymgymeryd a'r anturiaeth. Yn fuan wedi hyn daeth Mr. William Humphreys, Cadle, heibio y gymydogaeth, a dywedodd wrthynt fed yn rhaid iddynt gael capel- ac heb ymdroi dim aeth i Abertawy, a gyrodd werth yn agos i haner can punt o goed at adeiladu capel newydd. Dechreuwyd ar y capel yn y flwyddyn 1859, ac yr oedd yn barod y flwyddyn ganlynol, ac agorwyd ef Mehefin 24ain a'r 25ain, 1860. Yr oedd holl draul ei adeiladaeth yn 422p. 14s. 3½c. Yn nechreu y flwyddyn 1861 rhoddwyd galwad i Mr. John Bevan o Maesteg, yr hwn oedd yn yr ysgol gyda Mr. J. B. Jones, BA., Penybont, ac urddwyd ef Mawrth 21ain, 1861. Y gweiuidogion a gymerasant ran yn y gwasanaeth oeddynt y Meistri J. B Jones, B.A., Penybont; J. Davies, Cwmaman; J. Joseph, Llanedi; T. Llewelyn, Mountainash; J. Thomas, Bryn; W. Rees, Maesteg; H. Evans, Penbre; J. Ll. Jones, Penclawdd; D. Rees, Llanelli; W. Humphreys, Cadle; J. Jones, Maesteg, a J., Daniel, Mynyddbach. Mae Mr. Bevan wedi llafurio yma er hyny hyd yn awr; ac y mae yr achos er dan lawer o anfanteision wedi myned rhagddo. Mae yr holl ddyled oedd ar y capel a'r ysgoldy sydd yn nglyn ag ef wedi ei thalu er's pedair blynedd. Mae prydles y capel yn fil ond un o flynyddau, am chwecheiniog yn y flwyddyn o ardreth. Mae pob peth yn myned yn mlaen yn gysurus.

Codwyd yma un pregethwr, sef John D. Williams. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1864, a bu am naw mis yn yr ysgol gyda Dr. E. Davies, yn Abertawy, yn parotoi ar gyfer un o'r athrofeydd; ond dyryswyd ei holl amcanion - bu farw Mehefin 4ydd, 1866, a chladdwyd ef yn Waunarlwydd. Yr oedd yn fachgen ieuange gobeithiol, ac yn cael ei barchu gan bawb a'i hadwaenai. Y mae agos yr holl rai ag oedd yn dwyn sel dros yr achos yn ei gychwyniad wedi myned at eu gwobr. Bu farw David Griffiths, Cefngorwydd, Mehefin 22ain, 1857. Yr oedd ef yn wr mawr yn Israel; bu yn ddefnyddiol iawn am flynyddau yn y Crwys- a'i dý yn gartref i weision yr Arglwydd. Benjamin George, yr hwn a fu farw Tachwedd 9fed, 1861, oedd ddyn da a ffyddlon iawn gyda'r achos yn y lle. Thomas Walters, yr hwn a fu farw Medi 26ain, 1866, oedd yn un o'r pedwar diacon a neillduwyd ar ddechreu yr achos yn y lle. Mae Thomas Thomas hefyd wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Teimlodd yr eglwys golled fawr ar ol y brodyr uchod, ond y mae yr Arglwydd wedi codi eraill i lanw eu lle.

Translation by Heulwen Jenkins (Oct 2008)

This place is beside Gower Road Station, within six miles of Swansea. The inhabitants are colliers & farmers. Twenty years ago there were only two or three houses in the whole neighbourhood, apart from the agricultural houses that were here & there. In 1833, Sunday School started in John Lewis, Dilledydd's house, called Wern, by friends from Three Crosses. The most prominent were David Griffiths, Cefngorwydd, & his family; John Lewis, man of the house,; John Higgs, Carpenter; Thomas Bowen, farmer Evan Morris, Senior, Evan Morris, Junior; George Williams, Vexe Fach; Thomas Gibbs, Cefngorwydd Fawr, & John Thomas, Tygwyn. The school in Wern & Cefngorwydd flourished well for many years. A few years after starting this school by the people of Three Crosses, the people of Cadle started a school in another quarter of the neighbourhood. Coal mines were now starting to be opened, houses being built, & the population growing. The last school mentioned moved from house to house, & eventually the two schools were joined. A short while after that, land was obtained to build a schoolhouse, by Mr. Henry Grifffiths, Bryn Dafydd. Mr. Griffiths had bought the land called Gwaunarlwydd by the Lord of the Manor, & that's why the place was called by that name. The land was obtained September 29th, 1852, & a schoolhouse built on it, & this was done very cheaply through the kindness of the neighbours working & carrying materials to it. The most prominent with the work, apart from Mr. John Evans, minister of Three Crosses, were James Morris, Senior, James Morris, Junior; David Griffiths, Cefngorwydd; Thomas Bowen, Thomas Walters, Vexe Fawr; Benjamin George, Thomas Walters, Thomas Morgan, Heolyfelin, & William  Thomas.  In July, 1858, a church was incorporated here by Mr. John Ll. Jones, Three Crosses, & Thomas Bowen, James Morris, John Davies & Thomas Walters were specially chosen as deacons. The members numbered thirty. Within about a year Mr. Jones gave up his charge; And not before offering to build a chapel for them & helping them to pay for it; but the friends of the place felt they were too weak at the time to take on the enterprise. A short while after this Mr. William Humphreys, Cadle, came past the neighbourhood, & told them that they should have a chapel - & without dawdling any went to Swansea, & collected almost fifty pounds worth of wood to build the new chapel. The chapel was started in the year 1859, & was ready the following year, & it opened June 24th & 25th, 1860. The whole expense of it's construction was £422 14s 3½d. At the start of the year 1861 a call was made to Mr. John Bevan from Maesteg, who was in school with Mr. J. B. Jones, BA., Bridgend, & he was ordained March 21st, 1861. The ministers who took part in the service were Messrs. J. B. Jones, BA., Bridgend; J. Davies, Cwmaman; J. Joseph, Llanedi; T. Llewelyn, Mountain Ash; J. Thomas, Bryn; W. Rees, Maesteg; H. Evans, Pembrey; J. Ll. Jones, Penclawdd; D. Rees, Llanelli; W. Humphreys, Cadle; J. Jones, Maesteg, & J. Daniel, Mynyddbach. Mr. Bevan has laboured here from then until now, & the cause proceeded although under  many disadvantages. The whole debt on the chapel & the schoolhouse attached to it has been paid for four years. The lease of the chapel is for nine hundred & ninety-nine years, for six pence a year rent. Everything is going ahead comfortably.

One preacher was raised here, namely John D. Williams. He started preaching in 1864, & was for nine months in school with Dr. E. Davies, in Swansea, preparing for one of the teaching posts; but his whole purpose was difficult - he died June 4th, 1866, & he was buried in Waunarlwydd.  He was a hopeful young man, & was respected by all who knew him. Almost all the ones who brought zeal to the cause in the beginning have gone to their prize. David Griffiths, Cefngorwydd, died  June 22nd, 1857. He was an important man in Israel, he was very useful for many years in Three Crosses - & his house a home to God's servants. Benjamin George, who died November 9th, 1861 was a good & faithful man to the cause there. Thomas Walters, who died September 26th, 1866, was one of the four deacons at the start of the cause there. Thomas Thomas   also has left this world. The church felt a big loss after these brothers but the Lord has found others to fill their places.

  

CASLLWCHWR  (Loughor parish)

(Vol 2, p 92)

Saif y fwrdeisdref fechan hon ar lan yr afon Llwchwr, yr hon a rana rhwng siroedd Morganwg a Chaerfyrddin. Mae yn saith milldir  gogledd-orllewin o Abertawy, a phedair i'r de-ddwyrain o Lanelli. Fel y nodasom eisioes, mewn anedd-dy yn nhref uchaf Casllwchwr y dechreuwyd yr achos sydd yn awr yn y Brynteg. Y mae Rhydymardy, lle bu yr eglwys am oesau yn addoli, a'r Brynteg lle yr addola yn awr, tua milldir a haner o dref isaf Casllwchwr. Nid oedd cymaint a hyny o ffordd i fyned i le o addoliad ond bychan yn nghyfrif yr hen bobl selog gynt, ond yn awr bernir yn ddoeth, os na cheir gan bobl fyned at yr Efengyl, fyned a'r Efengyl atynt hwy, a dichon ein bod ni yn hyn yn gweithio yn fwy effeithiol er Efengyleiddio yr holl wlad nag y gwnelai ein tadau. Yr oedd degau o bobl yn Nghasllwchwr na chymerent y drafferth i gerdded ffordd arw o fwy na milldir er mwyn gwrando yr Efengyl. Pan oedd Mr. I. Williams, yn awr o Drelech, yn fyfyriwr yn y Crwys, ac wedi hyny yn weinidog yn y Brynteg, aeth i bregethu yn achlysurol i anedd-dai yn Nghasllwchwr, a sefydlodd gyfarfod gweddio wythnosol yno, yn nhy Dafydd Harri, yn agos i'r fan y saif y capel yn awr. Tra y bu Mr. Williams yn y Brynteg methwyd a llwyddo i gael tir at adeiladu capel arno. Ar ol ei ymadawiad ef i Drelech ni bu nemawr o lewyrch ar bethau yn Nghasllwchwr nes i Mr. W. Humphreys ymgymeryd a'r weinidogaeth yn y Brynteg yn y flwyddyn 1854. Ail gychwynodd ef y moddion crefyddol yn nhref isaf Casllwchwr, ac aeth pethau yn mlaen yno yn fwy llewyrchus a gobeithiol nag o'r blaen. Yn fuan deallwyd fod hen dafarndy o'r enw Hope and Anchor ar werth. Prynwyd ef gan Mr. John Evans, Bryncoch, un o ddiaconiaid y Brynteg, a rhoddodd le yn rhad i adeiladu capel ar safle yr hen dafarndy, ac felly trowyd synagog Satan yn fan i addoli y Goruchaf. Yn nechreu y flwyddyn 1857 dechreuwyd adeiladu y capel, yr hwn a elwir Horeb. Costiodd yn agos i 500p. Yn Ionawr 1858, corpholwyd eglwys ynddo o bedwar-ar-ddeg o aelodau, a ollyngesid o'r Brynteg, y Crwys, a'r Bryn, Llanelli. Pan ddechreuwyd adeiladu y capel yr oedd pob peth yn ymddangos yn obeithiol iawn, ond cyn ei orphen safodd gwaith copr yr Ysbytty, ar yr hwn yr ymddibynai y rhan fwyaf o'r trigolion am eu cynaliaeth. Y canlyniad fu i luaws symud o'r ardal, fel nad oedd ond ychydig lawn wedi eu gadael i fyned a'r achos yn mlaen ar ol cael y capel yn barod. Felly ymdaenodd cwmwl du dros yr ardal ar gychwyniad yr achos. Pa fodd bynag, gweithiodd Mr. Humphreys, a'r ychydig bobl a adawyd yn yr ardal, yn egniol, a chadwyd yr achos yn fyw er pob anfantais. Yn mhen tua thair blynedd, sef yn 1861, rhoddodd Mr. Humphreys ofal Casllwchwr i fyny er mwyn rhoddi rhan o'i lafur at gyfodi achos yn Nghwmbwrla, a chanlynwyd ef yn Nghasllwchwr gan Mr. J. Thomas, Bryn, y gweinidog presenol. Mae Mr. Thomas wedi bod yn llwyddianus iawn yma o'r flwyddyn 1861 hyd yn bresenol. Yn y flwyddyn 1869 rhoddwyd ail fywyd i fasnach yr ardal trwy ail gychwyniad gwaith yr Ysbytty. Dygodd hyn lawer o bobl i fyw i'r lle, yr hyn a fu yn gryn gryfhad i'r achos. Daeth yma amryw ddynion da trwy lythyran o egiwysi eraill, a chafodd niferi hefyd eu derfyn o'r byd yn ddiweddar, fel y mae yr achos yn bresenol mewn agwedd obeithiol a thra llewyrchus. Mae yr ysgol Sabbothol yn lled fywiog, yr eglwys yn cyn-nyddu yn barhaus, a'r gwrandawyr yn lluosogi, a'r ddyled ar y capel wedi ei symud oll hyd o fewn saith bunt a deugain.*

* Llythyr Mr, Thomas, Bryn.

Translation by Heulwen Jenkins (March 2009)

This small borough stands on the bank of the Loughor river, the one that divides the counties of Glamorgan & Carmarthen. It is seven miles north-west of Swansea, & four to the south-east of Llanelli. As we've said already, the cause, which is now in Brynteg,  was started in a dwelling-house in upper Loughor. Rhydymardy, where the church worshipped for ages, & Brynteg where they worship now, are about one & a half miles from lower Loughor. That wasn't  much distance to go to a place of worship by the reckoning of the  zealous old people, but now judged wise, if they can't get people to go to the Gospel, the Gospel must come to them, & perhaps we work more effectively to Evangelize the whole country than did our fathers. Tens of people in Loughor did not take the trouble to walk the bumpy road of more than a mile in order to hear the Gospel. When Mr. I. Williams, now of Trelech, was a student in Three Crosses, & thereafter minister in Brynteg, he went to preach occasionally in dwelling-houses in Loughor, & established weekly prayer meetings there, in Dafydd Harri's house, near where the chapel stands now. While Mr. Williams was in Brynteg he failed to succeed in having land on which to build a chapel. After he left for Trelech, things hardly brightened in Loughor until Mr. W. Humphreys took over the ministry in Brynteg in the year 1854. He restarted the religious meetings in lower Loughor, & things went forward there more prosperous & hopeful than before. Soon, they realised that the old public-house of the name Hope & Anchor was for sale. It was bought by Mr. John Evans, Bryncoch, one of the Brynteg deacons, & he gave the place freely to build a chapel on the site of the old public-house, & so Satan's synagogue was turned into a place to worship God. At the start of the year 1857 they began building  the chapel, which was called Horeb. It cost close to £500. In January 1858, a church of fourteen members was established there, released from Brynteg, Three Crosses & Bryn, Llanelli. When they started to build the chapel, everything looked very hopeful, but before finishing it the copper works at Ysbytty  stopped, &  the majority of the inhabitants were dependent on this for their livelihoods. The result was that a multitude moved from the area, so  there were only a very few left to take the cause forward after the chapel was ready. Therefore a black cloud extended over the district at the start of the cause. However, Mr. Humphreys worked energetically, with the few people left in the district, & they kept the cause alive in spite of  every disadvantage. At the end of about three years, namely in 1861, Mr. Humphreys gave up the care of Loughor in order to give part of his labour to raise a cause in Cwmbwrla, & he was followed in Loughor by Mr. J. Thomas, Bryn, the present minister. Mr. Thomas has been very successful here from the year 1861 until the present. In the year 1869 a second life was given to the trade in the district through re starting the works in Ysbytty. This led lots of people to live in the place, which gave considerable strength to the cause. Several good men came here through letters from other chapels, & several have also been received from the world lately, as the cause at present is in a hopeful phase & very prosperous. The Sabbath school is fairly lively, the church  is continually growing, & the listeners are multiplying, & the debt on the chapel has moved within twenty seven pounds. *

* Letter from Mr. Thomas, Bryn.