GENUKI Home Page Glamorgan Glamorgan Contents Contents

 

Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru

(History of the Welsh Independent Churches)

By Thomas Rees and John Thomas; published in 1871+.

 

These 9 chapel histories were extracted by Gareth Morgan from the CD published by Archive CD Books (Feb 2008)  - no translations

The main project page is on http://www.genuki.org.uk/big/wal/Indchapels.html#Glamorgan

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

 


MOUNTAIN ASH, (Saesonig)  (Llanwonno parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

Return to top

(Vol 2, p 401)

Teimlai amryw gyfeillion yn y lle hwn anghyfleustra o ddiffyg moddion gras yn yr iaith Saesonaeg. Wedi dyfodiad Mr. Daniel Jones, yr hwn a fuasai yn weinidog Saesonig ar Hirwaun, i'r lle i agor masnach, ymgynghorwyd ag ef; ac wedi cael benthyg y Longroom yn ddidal gan Mr. D. Davies Miskin, cynhaliwyd y gwasanaeth crefyddol yma gyntaf Mawrth 21ain, 1869. Yr oedd tua 60 yn bresenol. Ffurfiwyd yma eglwys Ebrill 4ydd, cynwysedig o un-ar-ddeg o aelodau, a chymerodd Mr. D. Jones eu gofal, ac yn fuan ychwanegwyd eraill atynt. Cyn pen mis cymerwyd y Workmen's Hall, ac ar y 30ain o Fai cynhaliwyd cyfarfod yn nglyn ag agoriad y lle, a dyna y tro cyntaf i'r ordinhad o Swper yr Arglwydd gael ei gweinyddu yn y lle. Cymerodd Mr. John Griffiths, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr eglwys Gymraeg yn y lle, ran flaenllaw gyda'r achos o'i gychwyniad, ac y mae wedi bod o help mawr iddo. Sicrhawyd darn o dir at godi capel newydd, a rhoddwyd y sylfaen i lawr gan S. Morley, Ysw., A.S , Medi 17eg, 1869, ac areithiwyd ar yr achlysur gan H. Richard, Ysw., A.S., ac eraill. Costiodd yr adeilad 850p. Agorwyd y capel Awst 8fed a'r 9fed, 1870. Yn Ebrill y flwyddyn ganlynol, rhoddodd Mr. Jones ei weinidogaeth i fyny, ac ymunodd a'r Eglwys Sefydledig, ond bu farw yn fuan. Yn nechreu y flwyddyn 1872, rhoddwyd galwad i Mr. L. T. C. Machaine, ac y mae yn parhau i weinidogaethu yma.  Rhif yr aelodau ydyw 38, ac y mae y ddyled wedi ei thynu i lawr i 450p.  

 


BETHESDA, ABERNANT (Aberdare parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

Return to top

 (Vol 2, p 401)

Saif y capel hwn ar lechwedd y mynydd rhwng Merthyr ac Aberdar, ac o fewn milldir i'r lle diweddaf. Adeiladwyd yma gapel bychan, neu ysgoldy, yn y flwyddyn 1860. Maint y ty yw 40 troedfedd o hyd wrth 30 o led. Cynwysa 250 o eisteddleoedd, a'r draul a aeth i'w adeiladu oedd 260p. Agorwyd ef yn y flwyddyn 1861. Yn fuan wedi hyny corpholwyd yma eglwys Annibynol. Rhif yr aelodau pryd y corpholwyd hwy yn eglwys oedd 48, o ba rai yr oedd 36 wedi cael gollyngdod o Siloa, Aberdar, a'r gweddill o eglwysi eraill yn y gymydogaeth. Yn mhen ychydig amser wedi eu corpholiad, rhoddasant alwad i Mr. Thomas Pugh, gwr genedigol o Aberdar, ond a fuasai yn weinidog am un-mlynedd-ar-bymtheg yn America. Wedi iddo ef fod yn gweinidogaethu yma am oddeutu blwyddyn, gwnaeth ei feddwl i fyny i ddychwelyd i'r America. Oddiar ei ymadawiad ef hyd yn bresenol Mr. Price, Siloa, sydd yn gofalu yn benaf am y lle fel gweinidog. Y mae efe yn dyfod yma yn fisol i dori bara, ac ar y Sabbothau eraill ymddibynir ar bregethwyr cynorthwyol yr ardal. Mae yma bob math o foddion crefyddol yn cael eu cynal yn rheolaidd, a'r Ysgol Sabbothol yn dra llewyrchus. Defnyddir y capel ar ddyddiau gwaith fel ysgoldy Brutanaidd, ond cyn gynted ag yr adeiladir ysgoldy gan y Bwrdd Ysgol yn yr ardal, ca y capel ei adgyweirio a'i wneyd yn fwy cyfaddas fel ty addoliad. Enwau y diaconiaid presenol ydynt Daniel Thomas, William Williams, a William Moses, mab y diweddar Mr. Moses, Cefn-coed-y-cymar. Maent yn ddynion llafurus ac yn llenwi eu swydd yn deilwng.

 


LIBANUS, LLANFABON

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

Return to top

(Vol 2, p 400)

Wedi yr anghydfod rhwng Mr. Thomas, Llechwedd, ag eglwys y Groeswen, ymadawodd yr ychydig aelodau perthynol i'r Groeswen oedd yn yr ardal, a chymerasant ystafell mewn rhan o anedd-dy yn Tairheol. Buont yno hyd Nadolig, 1829, yn cynal cyfarfodydd gweddi, a chyfeillachau, ac ambell bregeth yn achlysurol yn yr wythnos, ac yn myned i'r Groeswen y Sabboth. Ar foreu y Nadolig crybwylledig, yn y plygain, bu rhyw gyffroad anghyffredin, a thrachefn yn yr hwyr; ond y Sabboth canlynol  y torodd allan pan oedd John Thomas, Caerphili, yn pregethu yn nhy Thomas Moses. Torodd un dyn ieuangc o'r enw Thomas Meyrick, allan yn gyhoeddus i waeddi a molianu, a meddianwyd eraill gan gyffelyb deimladau. Aeth yr ystafell yn rhy gyfyng ar unwaith. Cafwyd derbyniad at y Methodistiaid i gapel Mafon, ac yno y buwyd nes i'r brydles redeg i'r terfyn, ac i'r Methodistiaid a hwythau gael eu cau allan. Wedi bod am ychydig yn mragdy Melingaiach, ac yn Zoar fach, capel y Wesleyaid ar Graigberthlwyd, meddyliodd yr ychydig frodyr yn y lle am adeiladu capel at eu gwasanaeth eu hunain. Cafwyd darn o dir ar Graigberthlwyd gan John Lewis, Drefechan, a chodwyd arno gapel yn mesur 33 troedfedd wrth 19 troedfedd, a galwyd ef Libanus. Pregethwyd ynddo gyntaf ar y Sabboth olaf yn Gorphenaf, 1833, gan Mr. E. C. Jenkins, Salem, oddiar y geiriau, "Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tan dy gedrwydd;" ac ar yr Iau a'r Gwener canlynol bu cyfarfod yr agoriad. Y Sabboth cyntaf wedi yr agoriad, gweinyddwyd y cymundeb cyntaf yn y lle i 45 o aelodau. Cydwasanaethai Mr. Hughes, Groeswen, a Mr. William Davies, yr hwn fuasai yn genhadwr gyda'r Wesleyaid yn Affrica. Y cyntaf a dderbyniwyd i gymundeb yn Libanus oedd un William Parry. Teimlodd yn ddwys o dan bregeth Mr. John Mathews, y pryd hwnw o Mynyddislwyn, yn awr o Gastellnedd, oddiar y geiriau, " A chwithau a fywhaodd efe pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau." Dysgodd ddarllen yn ei hen ddyddiau, a bu fyw nes bod yn 100 oed. Bu Mr. Jenkins, Salem, yn dyfod yma bob mis am flynyddau i gadw cymundeb; ond yn nechreu haf 1840, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Davies, a fuasai yn weinidog yn yr Aber, sir Frycheiniog. Tynodd gweinidogaeth Mr. Davies sylw yr ardalwyr, cynyddodd y gynnulleidfa, ac ychwanegwyd llawer at rifedi yr eglwys, fel y gwelwyd yn angenrheidiol ad-drefnu y capel a rhoddi oriel ynddo, a chynaliwyd cyfarfod ar yr achlysur o'i ailagoriad yn Mai, 1842. Bu Mr. Davies yma yn barchus hyd ddiwedd y flwyddyn 1848, pryd y symudodd i Onllwyn. Wedi i Mr. Davies ymadael, rhoddwyd galwad i Mr. Joshua Thomas, Bethlehem, Llangadog, sir Gaerfyrddin, a dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Gorphenaf, 1849, ac y mae Mr. Thomas yn parhau i lafurio yma hyd y dydd hwn. Yn y flwyddyn gyntaf wedi sefydliad Mr. Thomas, a'r flwyddyn ganlynol, bu yma ddiwygiad grymus; ac wedi hyny cafwyd ymweliad grasol yn y flwyddyn 1858, fel y barnwyd yn angenrheidiol cael capel newydd helaethach. Adeiladwyd y capel newydd ar le amlwg ychydig uwchlaw yr hen gapel. Mae yn mesur 37 troedfedd wrth 33 troedfedd. Pregethwyd ynddo gyntaf gan Mr. Thomas, y gweinidog, ar Sabboth, Mai 8fed, 1859, oddiar y geiriau, "A mi a anrhydeddaf dy, fy ngogoniant;" a chynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad y Llun a'r Mawrth canlynol. Y cyntaf a dderbyniwyd yn Libanus newydd oedd John Brown, hen wr 70 oed. Bu llawer o hen ffyddloniaid yn nglyn a'r achos yma o'r dechreuad, ac yr oedd yr eglwys yn llawn o'r brwdfrydedd, am yr hwn yr oedd y Groeswen mor nodedig. Bu Mr. Hopkin Smith, Cwrtycelyn, yr hwn oedd yn ddiacon yn y Groeswen, yn teithio yma am flynyddoedd, er fod ganddo chwe' milldir o ffordd arw. Deuai atynt pan oeddynt yn cydaddoli a'r Methodistiaid yn nghapel Mafon, ac wedi hyny ar ol iddynt adeiladu Libanus, ac y mae coffa parchus am ei lafurus gariad gan yr ychydig o'r hen ffyddloniaid sydd yn aros.* Mae yr achos yn Libanus yn parhau i fyned rhagddo, a Mr. Thomas a'r eglwys mewn anwyldeb a'u gilydd. Ni chodwyd yma neb i bregethu y byddai crybwyll ei enw o un anrhydedd i Ymneillduaeth nac i grefydd.  #

*Y Drysorfa Gynnulleidfaol, Ionawr, 1851.

# ydym yn ddyledus am ddefnyddiau y rhan fwyaf o banes Nelson a Libanus i ysgrif ar Ymneillduaeth yn Llanfabon, a ymddangosodd yn y Dittwiter, 1862, tit dal. 1616, gan D. Hughes, Cralgyberthlwyd.


NELSON, LLANCAIACH (Llanfabon parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

Return to top

(Vol 2, p 398)

Dywedir fod William Evans, o Lancaiachfawr wedi myned i wrando i Benmain a'r ddydd urddiad Mr. David Thomas, yn y flwyddyn 1787, ac iddo dan weinidogaeth Mr. Griffith, o'r Fenni, a Mr. Gibbon, o Gapel Isaac,.deimlo mor ddwfn, nes penderfynu ceisio yr Arglwydd. Derbyniwyd ef yn aelod yn Mhenmain, ac wedi proffesu crefydd am 60 mlynedd bu farw Ionawr 6ed, 1848, yn 84 oed. Bu Mr. Thomas, Penmain yn cyrchu yn fisol i Lancaiach am flynyddau, a deuai Mr. Hughes, Groeswen, yma yn aml, ac eraill o weinidogion yr Annibynwyr. Yr oedd dwy chwaer grefyddol yn byw yn y Basin, cwr arall o'r ardal, y rhai oeddynt yn aelodau yn y Groeswen, sef Mary, gwraig Lewis Thomas, Abertaf a Chynon, a Catherine, gwraig William Lewis, ac yr oedd pregethu achlysurol yn nhai y chwiorydd hyn. O'r diwedd, ymgasglodd ychydig frodyr yn nghyd a phenderfynasant ardrethu ystafell yn ymyl ty fferm yn yr ardal o'r enw

Ynys Feurig. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1820, ac yno y buont am ysbaid pum' mlynedd heb nemawr lewyrch arnynt, a'r diwedd fu, rhoddwyd y lle i fyny. O gylch yr amser yma ymwelwyd a'r ardal gan ystorom ddychrynllyd o fellt a tharanau; a tharawodd mellten yn erbyn amaethdy yn yr ardal o'r enw Llechweddlydan, fel y lladdwyd rhai o'r anifeiliaid, ond arbedwyd y dynion oll. Yr oedd Mr. Thomas Thomas, gwr y ty, er yn gyfrifol ei sefyllfa fydol, yn anystyriol ac annuwiol iawn, ond effeithiodd y digwyddiad arno er ei arafu a'i ddifrifoli, ac aeth i wrando i'r Groeswen, ac yn fuan derbyniwyd ef yn aeIod yno. Agorodd ei dy i dderbyn yr efengyl, a dechreuwyd cynal yno gyfarfodydd gweddio a chyfeillachau crefyddol, ac yn mysg eraill a gyrchent yno yr oedd Meistri Daniel Griffiths, Castellnedd, a Phillip Griffiths, Alltwen, yn tynu sylw mawr. Coffeir hyd y dydd hwn am ryw oedfa effeithiol a gafodd Mr. Griffiths AIltwen, yno yn 1828, ar ei ffordd i gymanfa y Groeswen. Cyn hir cododd ryw anghydfod rhwng Mr. Thomas, Llechwedd, ag eglwys y Groeswen, ac aeth oddiyno ac aelododd ei hun yn Zoar, Castellnedd gyda Mr. Daniel Griffiths, yr hwn oedd yn briod a nith iddo. Er fod gan Mr. Thomas lawer o dda y byd hwn, nid oedd ganddo ond ychydig o lywodraeth ar ei ysbryd, ac yr oedd ei sel yn llawer mwy na'i wybodaeth, a'i synied yn llawer uwch am fwynhad crefyddol nag am fywyd crefyddol. Wedi bod am dymor yn cyrchu i Gastellnedd, penderfynodd Mr. Thomas fyny eglwys yn ei dy, ac ar nos Lun y Pasg, 1830, daeth Mr. R. Howells, Baran, yno i ffurfio yr eglwys ac i weinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Dranoeth rhoddwyd i lawr gareg sylfaen capel newydd, yr hwn a alwyd yn Zoar. Gwnaed ef yn dy eang, a Zoar fawr y gelwid ef, ond ni chwblhawyd byth mo hono, ac nid oedd y gynnulleidfa ynddo ond dyrnaid fechan. Agorwyd ef Sabboth y Pasg, 1831, pryd y pregethodd Mr. D. Griffiths, Castellnedd, ac yn mis Mehefin, ar ol hyny, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol mwy cyhoeddus. Yn fuan ar ol hyn, rhoddwyd galwad i Mr. Jonathan Jones, ac urddwyd ef y gauaf canlynol. Yn haf, 1832, aeth Mr. Jones, y gweinidog, a rhai o'r aelodau, yn anesmwyth o eisiau bod Mr. Thomas yn cyflwyno y capel drosodd i ymddiriedolwyr, i fod yn feddiant i'r enwad, ac oblegid ei fod yn gwrthod gwneyd hyny, ymadawodd Mr. Jones, a nifer o'r aelodau gydag ef, a chyn hir aethant i hen gapel Craigyfargod, fel y crybwyllasorm yn hanes yr eglwys hono. Glynodd ryw ychydig gyda Mr. Thomas yn Zoar, a daeth Mr. Joseph Harrison, Aberdar, i bregethu iddynt; ac wedi bod dros dymor yn eu cynorthwyo rhoddodd hwy i fyny. Rhoddwyd  galwad i Mr. Benjamin Lewis, mab Morgan Lewis, Cwmnedd, ac urddwyd ef Rhagfyr 22ain a'r 23ain, 1841. Ni bu yma ond dros ryw ddwy flynedd. Ar ei ol ef rhoddwyd galwad i Mr. James Evans, ac urddwyd ef yn weinidog yma ac yn Nghraigyfargod. Bu yma hyd y flwyddyn 1857. Wedi marw Mr. Thomas, Llechwedd, cododd ryw anghytundeb rhwng yr eglwys a'i etifedd, ac oblegid nad oedd y lle wedi ei drosglwyddo i ymddiriedolwyr, a'r pris a ofynid am dano yn fwy na'r hyn a dybiai yr eglwys oedd ei werth, ymadawsant o hono, a chymerasant ystafell dan ardreth yn mhentref Nelson, i aros lle gwell. Cymerasant cyn hir ddarn o dir yn y lle ac adeiladwyd capel arno, yr hwn a alwyd Penuel, ac agorwyd ef Mai 3ydd a'r 4ydd, 1858. Bu gofal y lle ar Mr. James Evans hyd y flwyddyn 1864, ac wedi ei ymadawiad, rhoddodd yr eglwys yma, a'r eglwys yn Nghraigyfargod, alwyd i Mr. R. Jones, myfyriwr o athrofa y Bala ac y mae yn parhau i lafurio yma. Ni bu yr achos erioed yn gryf, ond y mae yma nifer o frodyr ffyddlon ac ymdrechgar, ac ynddynt fawr ofal calon am achos yr Arglwydd.


Y GROESWEN  (Eglwysilan parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

Return to top

(Vol 2, p 372 - 396)

Yr oedd plwyf Eglwysilan wedi bod yn artrefle Ymneillduaeth am genhedlaethau cyn dechreu yr achos yn y Groeswen. Yn 1669, yr oedd gwasanaeth crefyddol yn cael ei gadw yn anedd-dai Watkin John Thomas, Jenkin Thomas, a William Rees, saermaen, a'r Meistri Thomas Quarrell, a John Powell yn pregethu ynddynt; ac yn 1672, ar y 10fed o Awst, cyfododd William John, o blwyf Eglwysilan, a William Rowland, o blwyf Llanfabon, drwyddedau ar eu tai at bregethu ynddynt gan weinidogion yr Annibynwyr.* Y mae yn ymddangos mai parhad o'r achos yn yr anedd-dai hyn oedd yr eglwys Ymneillduol yn y Watford, ac y mae yn sicr fod llawer o Ymneillduwyr yn wasgaredig ar hyd plwyf Eglwysilan, a'r plwyfydd cymydogaethol, dan ofal gweinidogaethol Mr. David Williams, Pwllypant, yn y flwyddyn 1734, os nad cyn hyny. Yn 1738, a'r flwyddyn ganlynol, ysgrifenodd Mr. Williams amryw lythyrau at Mr. Howell Harries, Trefecca, yr hwn oedd yn awr yn dechreu ymgodi i sylw fel diwygiwr crefyddol, i'w wahodd i'w ardal ef i bregethu. Cydsyniodd Mr. Harries a'r cais; talodd ymweliadau mynych a'r ardal, a bu yn foddion i ennill llawer o eneidiau yma, ac i adfywio y rhai oeddynt yn proffesu crefydd cyn ei ymweliad a'r lle. Ond ni bu ei ymweliadau yn ddaioni hollol ddigymysg. Trwy ei ddylanwad ef, a'r offeiriaid Methodistaidd,

* The Lambeth MSS. and the State papers for the year 1672.

lefeiniwyd amryw o'r Ymneillduwyr a'r elfen Fethodistaidd ac Eglwysig, ac yn raddol trodd Mr. Williams a'r Ymneillduwyr mwyaf selog yn wrthwynebol iddynt, ac o ychydig i ychydig aethant yn ddwy blaid hollol wahanedig. Yn 1742, adeiladwyd capel bychan ar ben y Groeswen, ar  gwr cae a elwid y Waenfach, fel cangen o'r Watford, mae yn dra thebyg. Ond yn mhen ychydig amser aeth y bobl a gynnullent yno yn rhy Fethodistaidd i bobl y Watford a'u gweinidog allu cyd-dynu a hwy, ac felly buont am rai blynyddau yn ymgyfeillachu mwy a'r Methodistiaid nag a'r Annibynwyr, ond ni buont ar un adeg o'u hanes yn Fethodistiaid hollol, a chamgymeriad yw yr haeriad mai gan y Methodistiaid yr adeiladwyd capel y Groeswen, oblegid yr oedd wedi cael ei adeiladu cyn i'r Methodistiaid ymffurfio yn Gorph. Amseriad gweithred y capel yw Mehefin 2i1, 1742, ac enwau yr ymddiriedolwyr yw Thomas Price, (yr ynad Price o'r Watford mae yn debyg); William Morgan; ac Evan Thomas. Yn y weithred hon sicrheir y tir i'r gynnulleidfa am 999 o flynyddau, am un bybyren yn y flwyddyn., i'w thalu bob gwyl Fihangel. Y mae yn ymddangos fod yma gynnulleidfa dra lluosog a nodedig o wresog o'r dechreuad. Ffuriwyd yma gymdeithas eglwysig yn ol cynllun Mr. Howell Harries, a bu am dymor yn cael ei hystyried fel cymdeithas o Fethodistiaid, yn ol yr ystyr a roddid i'r gair Methodistiaid y pryd hwnw. Nid oedd cymdeithasau. Howell Harries ar y cyntaf yn cael eu hystyried yn perthyn i un enwad mwy na'r llall, ond gwnelid hwy i fyny o bersonau o bob enwad yn ddiwahaniaeth a broffesent ymlyniad wrth olygiadau efengylaidd. Yr ydym yn cael fod Edmund Jones, Pontypool; Henry Davies, Blaengwrach; David Williams, Pwllypant, a gweinidogion Ymneillduol eraill, yn talu ymweliadau gweinidogaethol a'r cymdeithasau hyn mewn gwahanol gymydogaethau, er addysgu a chadarnhau y dysgyblion ieuaingc yn y ffydd; ond yn lled fuan wedi i Rowlands, Llangeitho, ac offeiriaid eraill, ymuno a Harries, aeth y diwygiad crefyddol a flaenorid ganddo ef i wisgo gwedd fwy enwadol. Amcenid gwneyd. y cymdeithasau crefyddol yn ganghenau o'r Eglwys Sefydledig, ac argymellid yr aelodau oll i fyned i'r Egiwysi Plwyfol i gymuno. Llwyddwyd i gael amryw o honynt i wneyd hyny, ond gwrthododd eraill, ac yn eu mysg y rhan fwyaf o aelodau y Groeswen. Ar ol bod yn cynal moddion crefyddol yn eu capel newydd am ychydig dros ddwy flynedd teimlai y frawdoliaeth awydd am gael gweinidogion urddedig i weinyddu yr ordinhadau iddynt. Yr oedd yn eu plith bump o bregethwyr, sef Thomas Price, yr ynad; William Edwards, Thomas Williams, John Belcher, ac Evan Thomas. Anfonodd y brodyr hyn y llythyr canlynol at Gymdeithasfa y Methodistiaid yn Nghaio, sir Gaerfyrddin;-

At yr anwyl frockr yn gyfreclinol, a'r gweinidogion yncynnulledig yn Nghaio, anfon anerch ..................................

(Letter not extracted

EGLWYSILAN, Mawrth 30 ain, 1745

Gwelir oddiwrth y llythyr uchod fod y brodyr, tra yn teimlo awydd am fod mewn rhyw fath o gysylltiad a'r Methodistiaid, yn benderfynol o gael gweinidogion urddedig yn eu plith eu hunain, ac nad oeddynt yn foddlon cydsynio a chynghor Harries a'r offeiriaid i fyned i'r llanau i gymuno. Gan na chaniatawyd eu cais iddynt gan y gymdeithasfa aethant yn mlaen yn eu ffordd eu hunain, ac urddasant weinidogion iddynt eu hunain. Y mae genym sicrwydd i ddau o'r pump uchod, a arwyddasant y llythyr i'r gymdeithasfa, gael eu hurddo, ac iddynt fod yn weinidogion sefydlog yn y Groeswen am lawer o flynyddau. Dichon i bob un o'r pump gael ei urddo yr un amser, ond nid ydym yn sicr o hyny; nid ydym ychwaith yn gwybod pa flwyddyn y cymerodd yr urddiad le, ond yr ydym yn dra sicr fod gweinidogion Ymneillduol wedi cymeryd rhan yn ngwasanaeth yr urddiad, oblegid yr oedd Thomas Williams a William Edwards yn cael eu cydnabod gan yr Ymneillduwyr fel gweinidogion urddedig, yr hyn ni chawsant pe gan y bobl yr urddesid hwy, fel yr urddwyd Morgan John Lewis yn y New Inn. Yr oedd rhif yr aelodau yn nghymdeithas y Groeswen yn 63 tua y flwyddyn 1743, ac y mae yn debyg iddynt luosogi yn fawr yn dra buan wedi hyny. Yr ydym yn barnu mai yn 1745, y darfu iddynt urddo eu gweinidogion, ond parhaodd y pregethwyr Methodistaidd i ymweled a'r lle yn lled gyson trwy holl dymor gweinidogaeth pob un o'r gweinidogion cyntaf, ac hyd ddechreuad tymor gweinidogaeth Mr. Hughes, er fod yr eglwys yn cael ei hystyried yn Ymneillduol ac Annibynol. Yr ydym yn cael ein gogwyddo i dybied i bob un o'r pump pregethwr a arwyddasant y llythyr at gymdeithasfa Caio gael eu hurddo yn weinidogion yma pan omeddodd y gymdeithasfa ganiatau eu cais iddynt, ond ymddengys i dri o honynt, sef John Belcher, Evan Thomas, a Thomas Price, naill a'i marw neu symud oddi yma yn lled fuan ar ol eu hurddiad. Bu Thomas Williams a William Edwards yn gweinidogaethu yma am flynyddau lawer. Parhaodd cysylltiad Mr. Edwards a'r eglwys, fel ei gweinidog, hyd ei farwolaeth yn 1789.

Mae yn ymddangos fod yn yr eglwys hon er dechreuad yr achos ddynion nodedig am eu sel grefyddol, eu llafur, ac yn enwedig am eu doniau mewn gweddi. Gwahoddid hwy i fanau agos a phell i gynal cyfarfodydd gweddio, a byddai rhyw ddylanwadau rhyfeddol yn cael eu teimlo yn y cyfarfodydd hyny braidd yn ddieithriad. Rhydd y llythyr canlynol, a ysgrifenwyd gan Mr. Edmund Jones, Pontypool, at Mr. Howell Harries, ryw ddrychfeddwl i'r darllenydd am ragoriaethau y brodyr o'r Groeswen fel gweddiwyr:-

" Tachwedd 19eg, 1772.

(Letter not extracted)

EDMUND JONES."

Un tro cyfarfu rhai o frodyr y Groeswen a siopwraig grefyddol o Ystradfellte mewn cymanfa yn Merthyr, a chymhellodd hwynt i ddyfod i'w thy hi i gadw cyfarfod gweddio. Addawsant fyned, a phenodwyd y diwrnod. Ar foreu y dydd penodedig cychwynodd y brodyr yn foreu iawn i'w taith bell trwy Aberdar a Phenderyn; ond erbyn eu bod yn Ystradfellte cawsant fod y siopwraig wedi anghofio y cwbl, ac wedi myned i Gaerodor i brynu nwyddau. Gwnaeth y brodyr dyeithr eu neges yn hysbys i rai o breswylwyr y pentref, ac yn fuan casgiwyd yno nifer fawr o bobl. Disgynodd dylanwadau dwyfol yn helaeth ar y cyfarfod fel yr aeth yn folianu a neidio yno cyn gorphen; a chymaint oedd angerdd y teimladau nes yr anghofiodd rhai gymaint o bob pethau allanol fel y neidient ar yr heol wedi myned allan nes i rai o honynt neidio i'r afon. Chwech o frodyr o'r Groeswen oedd yn y cyfarfod hwn, ac yr ydym wedi cael enwau pedwar o'r chwech, sef Morgan Robert, Groeswen; William Davies, Maesmawr; Harri Smith, Pryntail, ac Edmund Williams, Rhydllech, Llanilltyd-y-fardre.

Tua y flwyddyn 1766 bu raid helaethu y capel am fod y gynnulleidfa wedi cynyddu yn ddirfawr. Nid ydym yn gwybod pa bryd y terfynodd tymor llafur Mr. Thomas Williams yma, fel un o weinidogion yr eglwys. Yr oedd yn fyw ac yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth mewn cyfarfod gweinidogion yn Rhydymardy, gerllaw Casllwchwr, yn Mehefin, 1761: Mae yn dra thebyg iddo farw yn mhen ychydig amser ar ol hyny, oblegid nid ydym yn cyfarfod a'i enw mewn unrhyw gofnodiad diweddarach. Wedi marwolaeth Mr. Thomas Williams mae yn ymddangos mai Mr William Edwards oedd yr unig weinidog yma hyd derfyn ei oes yn 1789. Dywedir fod Mr. Edwards yn bregethwr efengylaidd ac effeithiol iawn, a'i fod yn llym iawn yn erbyn pob arferiad pechadurus. Yr oedd yn weinidog da a dylanwadol. Yr oedd yr eglwys yn dra lluosog lawer o flynyddau cyn terfyniad ei weinidogaeth ef, ac o bosibl yr eglwys gyfoethocaf o ddoniau mwyaf enwog am wresogrwydd el haddoliadau o un eglwys yn y Dywysogaeth, ac nid ydym i ryfeddu am hyny gan ei bod yn cael ei breintio ag ymweliadau mynych y pregethwyr galluocaf yn mysg yr Annibynwyr a'r Methodistiaid.

Wedi marwolaeth Mr. Edwards bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog am wyth mlynedd. Mr. Thomas Waters, Mynyddislwyn, yn benaf fu yn llanw lle gweinidog iddi am y tymor hwnw. Buwyd yn son am roddi galwad iddo ef, ac hefyd i Mr. Abraham Tibbott, ond methwyd cyduno ar y naill na'r llall. Yn y flwyddyn 1797, daeth Mr. Griffith Hughes, gwr ieuangc doniol iawn, yr hwn oedd yn aelod yn Nghrugybar, sir Gaerfyrddin, heibio ar ei daith. Ennillodd ei ddoniau poblogaidd ef sylw cyffredinol, a rhoddwyd iddo alwad wresog, heb neb ond ychydig bersonau o dueddiadau Methodistaidd yn groes iddo. Ymadawodd y cyfryw ac adeiladasant gapel bychan a alwyd Capel Ed, yn mhlwyf Bedwas, ond ni fu fawr llewyrch arno, tra yr aeth y Groeswen dan weinidogaeth danllyd a galluog Mr. Hughes, yn lluosocach ac enwocach nag y buasai ar un cyfnod o'i hanes. Bu yma bedwar o ddiwygiadau nerthol iawn yn nhymor gweinidogaeth Mr. Hughes, yn y blynyddoedd 1800, 1817, 1826, ac 1829. Ychwanegwyd amryw ugeiniau at yr eglwys yn mhob un o'r tri chyntaf, ac yn y diweddaf ychwanegwyd canoedd ati. O herwydd lluosogiad dirfawr yr eglwys yn 1829, bu raid tynu yr hen gapel i lawr ac adeiladu yr addoldy hardd a helaeth sydd yma yn bresenol. Cafodd hwn ei adeiladu yn 1830. Yr oedd y Groeswen yn mlynyddoedd cyntaf gweinidogaeth Mr. Hughes yn gyrchfan pobloedd o tua phymtheg o wahanol blwyfydd. Yr oedd yma dorfeydd dirfawr yn ymgynnull bob bore Sabboth, yn enwedig y Suliau cymundeb. Ar brydnawnau a hwyrau y Sabbothau byddai y gweinidog yn myned ar gylch i bregethu mewn gwahanol gyrau o'r ardal mewn anedd-dai, megis y Rhydru, Llanfabon, Bedwas, yr Eglwysnewydd, Glyntaf, &c. Gellir dweyd yn briodol mai y Groeswen yw mam y rhan fwyaf o'r eglwysi Annibynol a Methodistaidd o Lantrisant yn Morganwg i Fachen yn Mynwy, ac o'r Eglwysnewydd, gerllaw Caerdydd, hyd Fynwent y Crynwyr. Parhaodd Mr. Hughes i lafurio yn y cylch eang hwn, o'r flwyddyn 1797 hyd ei farwolaeth, yn 1839, gyda pharch a phoblogrwydd digyffelyb. Yr oedd ei boblogrwydd yn gwefreiddio yr holl wlad ar ddechreuad ei weinidogaeth, ac yr oedd hyd ddydd ei farwolaeth mor boblogaidd ag ar unrhyw adeg o'i fywyd cyhoeddus.

Wedi marwolaeth Mr. Hughes bu yr eglwys am oddeutu blwyddyn a haner yn byw ar weinidogaeth achlysurol. Yn nechreu y flwyddyn 1841 rhoddwyd galwad i Mr. Moses Rees, Pencadair, sir Gaerfyrddin. Bu Mr. Rees yn llafurio yma gyda mesur helaeth o lwyddiant am un-mlynedd-ar-bymtheg. Derbyniodd yn nhymor ei weinidogaeth amryw benau teuluoedd cyfrifol, ac ennillodd lawer o ieuengctyd yr ardal at y Gwaredwr. Yn ei amser ef yr adeiladwyd y capeli yn Glantaf, Cwmyraber, a Chaerphili. ei fod yn ddyn da, difrifol, ac awyddus am wneuthur daioni, cafodd gryn ofid oddiwrth rai personau anhywaeth, a dywedir na fu nemawr lewyrch ar ei wrthwynebwyr o'r pryd y cyfodasant yn ei erbyn hyd derfyn eu hoes. Y mae ef a hwythau er's blynyddau bellach wedi ymddangos ger bron gorsedd lle nad oes derbyn wyneb na gwyro barn. Mae coffadwriaeth Mr. Rees yn barchus yn yr ardal hyd y dydd hwn. Bu farw yn Awst, 1856.

Buwyd am flwyddyn ar ol ei farwolaeth ef cyn dewis canlyniedydd iddo. Yn haf y flwyddyn 1857 daeth Mr. William Caledfryn Williams ar ei daith heibio, a rhoddwyd galwad unfrydol iddo. Yr oedd ef wedi cael galwad yma o'r blaen yn 1840, ond gwrthododd gydsynio a hi y pryd hwnw; pa fodd bynag, atebodd yr alwad yn gadarnhaol y tro hwn. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Ionawr, 1858. Yr amser hwn, o herwydd yspaid maith o farweidd-dra crefyddol, ac hefyd am fod y ddwy gangen yn Ebenezer, Glantaf, a Chaerphili wedi cael eu ffurfio yn eglwysi Annibynol, yr oedd nifer yr aelodau wedi myned yn fychan, a rhif y gwrandawyr yn ychydig. Tybiai llaweroedd fod yr hen eglwys, yr hon a welwyd yn ogoniant yr ardaloedd ac yn gyrchfan y llwythau, megis yn eistedd ei hunan, ac yn flin arni, ac yn wir gellid dyweyd am dani, "Yr oedd hi yn wylo yn hidl liw nos a'i dagrau ar ei gruddiau." Wedi dyfodiad Mr. Williams yma daeth gwedd newydd ar bethau, rhoddodd yr Arglwydd brawf amlwg o'i foddlonrwydd i'w ddyfodiad i'r lle. Gwelwyd afradloniaid yn dychwelyd yn ol i dy eu Tad, a gwiriwyd y geiriau hyny, " Pe gyrrid rhai o honoch hyd eithaf y nefoedd, eto mi a'u casglaf hwynt oddi-yno, ac a'u dygaf i'r lle a etholais i drigo o'm henw ynddo." Darfu i weinidogaeth danllyd Mr. Williams gyda dylanwad grasol yr Ysbryd Glan, beri fod gwedd newydd ar yr achos yn fuan. Cynyddodd rhif y gwrandawyr yn fawr, ac adferwyd hen deimladau gwresog yr eglwys nes y daeth fel aelwyd o dan yn y coed. Tua diwedd y flwyddyn 1858, ymwelodd yr Arglwydd mewn modd neillduol a'i bobl, a gwelwyd amryw yn ymofyn y ffordd tua Sion a'u hwynebau tuag yno. Ac o ddechreu y flwyddyn 1859 hyd ddiwedd 1861, derbyniwyd dros ddau cant o aelodau newyddion. Blwyddyn a hir gofir yw 1859. Yr un Sabboth, sef Hydref 16eg, cafodd un-a-deugain eu derbyn i gymundeb eglwysig. Nid anghofia ugeiniau oedd yno y Sabboth hwnw byth. Wrth edrych dros restr y rhai a dderbyniwyd yr ydym er ein galar yn canfod enwau amryw sydd wedi blino ar y ffordd, amryw eraill sydd wedi symud o'r ardal, ond yr ydym yn hyderu eu bod yn dal eu ffordd; ac y mae nifer hefyd wedi eu symud i wlad well, a da genym sylwi ar enwau rhai sydd yn dal yn ffyddlon hyd yn awr, a'u cynydd yn amlwg i bawb. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Williams yr ail adeiladwyd capel y Nantgarw, yr helaethwyd capel Cwmyraber, y cyfodwyd ysgoldy Brytanaidd wrth y Groeswen, yr helaethwyd y fynwent, ac y prynwyd yr oll o'r fynwent yn nghyd a'r tir sydd dan y capel a'r ysgoldy, fel y mae y cwbl yn eiddo i'r gynnulleidfa am byth. Gwnaethpwyd esgynlawr newydd yn lle y pulpud, a sonir yn bresenol (1872) am gyfnewid y tufewn i'r capel fel ag i ateb arddull mwy destlus yr oes bresenol. Gweithiodd Mr. Williams yn ffyddlon tra fu yma. Meithrinodd ysbryd ymchwiliad yn yr ieuengctyd-gweithiodd ynddynt awydd am ddarllen, dysgodd y bobl i gyfranu at achosion crefyddol, gosododd fri ar yr eglwys, a chydnabyddid ei ddylanwad gan bawb, tlawd a chyfoethog, a phan y bu farw, (Mawrth 23ain, 1869) yr oedd galar cyffredinol ar ei ol, a thystiolaeth pawb ydoedd, fod tywysog a gwr mawr yn Israel wedi syrthio."*

Mae yr eglwys oddiar farwolaeth Mr. Williams hyd yn bresenol (Mai, 1872) heb un gweinidog sefydlog, ond yr ydym yn deall eu bod yn awr wedi rhoddi galwad i Mr. W. Nicholson, Treflys, Bethesda, sir Gaernarfon,

* Llythyr Mr Thomas, Ty'nywern i'r hwn yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes hwn

 

ac y dechreua ei weinidogaeth yn fuan. Hyderwn fod oes hir a llwyddianus o'i flaen yma, ac y bydd yn mhob peth yn deilwng o'i ragflaenoriaid enwog.

Wrth ystyried lluosogrwydd yr eglwys hon a'i hynodrwydd am wresogrwydd a doniau ei haelodau, mae braidd yn rhyfedd na buasai wedi cyfodi mwy o bregethwyr, ac anfon allan i'r weinidogaeth rai o gewri y pulpud Cymreig. Heblaw y pump a gyfodwyd yma ar gychwyniad cyntaf yr achos, sef yr ynad Thomas Price, Thomas Williams, William Edwards, Evan Thomas, a John Belcher, nid ydym yn gwybod am neb ond y rhai canlynol a gyfodwyd yma :-

Bu John Jenkins o'r Ddraenen, yn bregethwr yma am flynyddau lawer. Tua phedair-blynedd-ar-ddeg yn ol ymunodd a nifer o bobl a ymrwygasant o Tabor, Maesycwmwr, a chan nad oeddynt yn perthyn i un enwad crefyddol urddasant John Jenkins eu hunain yn weinidog arnynt. Bu ef yn pregethu iddynt nes iddynt roddi eu hunain i fyny i gorph y Methodistiaid ychydig amser yn ol.

Bu yn yr eglwys hon o oes i oes lawer o wyr a gwragedd enwog iawn am eu sel, eu gwresogrwydd, a'u rhagoriaethau crefyddol. Mae Williams, Pantycelyn, yn ei farwnad i Mrs. Grace Price, o'r Watford, wedi anfarwoli ei henw hi. Yn mysg y rhai a wasanaethasant swydd diaconiaid yn dda yma, gellir enwi Edward Dafydd, John Williams, o'r Ddraenen; John Williams, Dyffrynisaf; William Richard, Caerphili; William Lewis, Pontygwindy; Hopkin Smith, Cwrtycelyn; Evan Morgan, Glantaf; William Williams, Groeswen; William Thomas, Aberfawr, ac Isaac Williams, Baduchaf,  - dynion ag y mae eu coffadwriaeth yn fendigedig gan ganoedd hyd y dydd hwn.

 

COFNODION BYWGRAPHYDDOL. (Not extracted in full)

Gwelsom yn barod fod yma bump o bregethwyr yn y flwyddyn 1745. Nid ydym yn sicr na chafodd y pump eu hurddo yma yn gydweinidogion, ond yr vdym yn gwybod i sicrwydd i ddau o honynt gael eu hurddo, sef Thomas Williams a William Edwards. Gan nad ydym yn sicr am urddiad y tri eraill, nis gallem, gyda phriodoldeb, osod eu bywgraphiadau yn mysg y gweinidogion, pe byddai genym ryw hanes i'w roddi am danynt, ond nid oes genym ond y peth nesaf i ddim. Y cwbl a wyddom am Evan Thomas ydyw, ei fod yn bregethwr, a bod ei enw fel ymddiriedolwr yn ngweithred y capal. Yr oedd Thomas Price yn foneddwr, yn ustus yr heddwch, ac yn berchenog plasdy y Watford. Ar ran o'i dir ef yr adeiladwyd capel y Watford. Y mae yn debyg mai gwraig i'w fab ef oedd y Grace Price, yr hon y cafodd Williams, Pantycelyn, farwnad iddi. Yr oedd John Belcher yn ysgolfeistr, ac yn bregethwr tra galluog a phoblogaidd. Nis gwyddom pa le na pha bryd y bu farw.

THOMAS WILLIAMS. Ychydig o'i hanes ef fydd genym. Mae lle ac amser ei enedigaeth a'i farwolaeth yn anhysbys i ni. Yr oedd yn bregethwr yn 1742. ...................

WILLIAM EDWARDS. Ganwyd ef yn y Tycanol, yn agos i'r Groeswen, yn y flwyddyn 1719. ..................

GRIFFITH HUGHES. Ganwyd ef yn Mhenywaun, yn agos i'r Caledfwlch, yn mhlwyf Llandilo, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1775. ..................

MOSES REES. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Llanarth, yn sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1796. ..................

WILLIAM WILLIAMS, (Caledfryn). Ganwyd ef yn Ninbych, Chwefror 6ed, 1801. .................


EBENEZER, RHYDRI.

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

Return to top

(Vol 2, p 397)

Tua y flwyddyn 1766, dechreuodd adfywiad grymus ar grefydd gymeryd lle ar lanau yr afon Rhymni, o Fachen i fyny hyd Bont-yr-ystrad, dan weinidogaeth danllyd Mr. Roger Rogers, gweinidog Heolyfelin, Casnewydd, a Mr. William Edwards, Groeswen. Parhaodd y llwyddiant yma am flynyddau. Yn 1772, dywedai Mr. Edmund Jones, Pontypool, mewn llythyr at Mr. Howell Harries, Trefecca, fod yr holl wlad o Forge, Machen, hyd Bont-yr-ystrad, ac oddiamgylch Caerphili, fel tir Beulah. Yn rhyw fodd neu gilydd gwywodd yr achos yma drachefn tua diwedd y ganrif ddiweddaf, fel nad oedd ond nifer fechan o broffeswyr crefydd i'w cael yn yr holl fro yn nechreuad y ganrif bresenol. Yn amser y llwyddiant yr oedd cangen flodeuog o eglwys Heolyfelin yn cynal moddion cyson yn yr Ysguborfach, yn mhlwyf Machen. Byddai Morgan Evans, o'r Llwyngwyn, yn mhlwyf y Rhydri, yn arfer mynychu y cyfarfodydd a gynelid yn yr Ysguborfach, a byddai yn fynych yn cael pregethwyr i ddyfod i bregethu i'w dy ef. Tua 1794, darfu i'r hen gristion ffyddlon Dafydd William Dafydd, yn nghyda dwy chwaer seraphaidd o'r enwau Margaret Edmunds a Margaret Gibbon, gymeryd anedd-dy yn mhlwyf y Rhydri, yn agos i'r fan y saif y capel yn bresenol, at gynal moddion crefyddol yn rheolaidd yno. Aelodau yn y Groeswen oedd D. W. Dafydd a Margaret Edmunds, ac aelod yn Heolyfelin oedd Margaret Gibbon. Wedi i Mr. G. Hughes ymsefydlu yn y Groeswen yn 1797, llwyddodd y ffyddloniaid hyn i gael ganddo ddyfod i roddi un bregeth yn y mis yn y Rhydri. Byddent hefyd yn cael pregethwyr eraill i ymweled a hwynt yn achlysurol. Er nad oeddynt ond tri o rif cadwent gyfarfodydd gweddio a chyfeillachau crefyddol yn rheolaidd bob wythnos. Buont am fwy nag ugain mlynedd yn cynal moddion yn rheolaidd heb gael dim ychwanegiad at eu rhif. Gwnelent gasgliad unwaith yn y flwyddyn at dalu rhent y ty, a byddai y gwrandawyr yn siriol yn eu cynorthwyo. Pan na byddai ganddynt bregethwr, gweddiai yr hen frawd D. W. Dafydd dair gwaith yn ystod y cyfarfod a chenid penillion rhwng y gweddiau gan y ddwy hen chwaer ac yntau. Wrth weled nad oedd dim llwyddiant ar eu llafur, anogai William Lewis, Pontygwindy, ac eraill o brif ddynion y Groeswen, hwynt i roddi y lle i fyny, ond ni fynent wneyd hyny ar un cyfrif. Yr oedd ganddynt ffydd ddiysgog y buasai yr Arglwydd yn ymweled a hwynt yn ei amser da ei hun, ac ni siomwyd eu disgwyliadau. Ar ol yr hirnos faith torodd y wawr. Daeth pump o'r newydd i'r gyfeillach, sef Dafydd Morgan, George Lewis, James Jones, Rowland Jones, a Thomas Harri Jenkin. Ar ol eu holi, eu haddysgu, a'u profi am rai wythnosau, aed a hwy un boreu Sabboth cymundeb i'r Groeswen i gael eu derbyn yn aelodau cyflawn. Yr oedd golwg dywysogaidd a dedwydd y boreu hwnw ar yr hen bererin Dafydd William Dafydd yn arwain y pump dysgybl ieuangc tua'r Groeswen, ac yr oedd yno deimladau nefolaidd yn mhawb wrth ganfod fod gwaith ffydd a llafur cariad yr hen frawd a'r ddwy hen chwaer o'r Rhydri wedi dechreu dwyn ffrwyth toreithiog. Dafydd Morgan yw yr unig un o'r pump hyn sydd yn fyw yn bresenol, ac y mae yn gryf a heinyf er ei fod dros bedwar ugain oed. Yn mhen ychydig amser ar ol hyn lluosogodd y gynnulleidfa, fel y daeth galwad am adeiladu capel. Cafwyd darn cyfleus o dir, ac adeiladwyd arno addoldy tlws a chyfaddas. Agorwyd y capel newydd Gorphenaf 30ain a'r 31ain, 1821. Trefn y moddion oedd fel y canlyn :-Prydnawn dydd Llun dechreuwyd y gwasanaeth trwy weddi gan Mr. D. Jones, Llanharan, a pregethodd Meistri T. Davies, Abertawy, ac R. Morris, Tredegar, oddiwrth Gen. xxviii. 17, a Zech. viii. 23. Boreu dydd Mawrth, gweddiodd Mr. W. Beynon, Llangynwyd, a phregethodd Meistri D. Lewis, Aber; Jenkin Lewis, Casnewydd, ac E. Jones, Pontypool, oddiwrth Esaiah 1vii. 15; loan xviii. 38, ac Exod. xx 24. Yn y prydnawn, gweddiodd Mr. T. Davies, Cymar, a phregethodd Meistri James Williams, Ty'nycoed, a W. Jones, Penybont, oddiwrth Salm. cxliv. 3, ac Esaiah liv.10. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. Joseph Harrison, Aberdar, a phregethodd Meistri D. Jones, Llanharan, a D. Evans, Mynyddbach, oddiwrth Luc xix. 41, 42, a Gen. xix. 17. Casglwyd dros haner traul yr adeiladaeth cyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad. Pan gafwyd y ty newydd yn barod daeth yno gynnulleidfa luosog, ac ychwanegwyd niferi at yr eglwys fechan, er llawenydd mawr i holl gyfeillion y Gwaredwr, ond yn neillduol i'r tri phererin ffyddlon a fuasent yma am gynifer o flynyddau yn cadw y ty yn y nos. Unwaith y bu Dafydd William Dafydd mewn cymundeb yn y capel newydd cyn ei symud i gymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig. Bu yr eglwys hon dan ofal gweinidogaethol Mr. Hughes, Groeswen, cyhyd ag y gallodd ddyfod yma. Wedi iddo fyned yn fethedig, anogodd bobl y Rhydri i edrych allan am weinidog iddynt eu hunain. Yn y flwyddyn 1838, rhoddasant alwad unfrydol i Mr. John Jones, mab Mr. Methusalem Jones, Merthyr, ac erddwyd ef yma yn Ebrill y flwyddyn hono. Parhaodd Mr. Jones i lafurio yma gyda mesur helaeth o lwyddiant a pharch cyffredinol hyd y flwyddyn 1867, pryd y rhoddodd ei ofal i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i Bethlehem, Pentyrch, a Thongwynlas  -  lleoedd a fuasent dan ei ofal am lawer o flynyddau mewn cysylltiad a'r Rhydri. Dilynwyd Mr. Jones yn y Rhydri gan Mr. T. L. Jones, Machen, ac efe yw y gweinidog yma yn bresenol Ni bu yr eglwys hon yn lluosog iawn ar un cyfnod o'i hanes, ac nis gall fod, gan nad yw poblogaeth yr ardal ond cymharol deneu, ond y mae bob amser wedi bod yn nodedig am ei gwresogrwydd a'i hundeb. Cafodd ei bendithio amryw weithiau a diwygiadau tanllyd iawn. Dafydd Morgan, a grybwyllwyd yn barod, yw yr unig bregethwr a gyfodwyd yma. Bu ef am flynyddau lawer yn ddefnyddiol fel pregethwr cynorthwyol.

 


HIRWAUN, (SAESONIG) (Aberdare parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

Return to top

(Vol 2, p 370)

Yn y flwyddyn 1864, darfu i D. E. Williams, Ysw.; Mr. W. Williams,ac eraill o aelodau yr eglwys yn Nebo, gyda chydsyniad siriolaf eu gweinidog, Mr. W. Williams, gymeryd ystafell at gynal gwasanaeth crefyddol yn yr iaith Saesonig, a ffurfiwyd hwy yn eglwys Annibynol Chwefror 21ain, yn y flwyddyn rag-grybwylledig. Wedi bod am rai misoedd yn addoli yn yr ystafell hon, bu raid iddynt ei rhoddi i fyny gan fod galwad am dani at wasanaeth arall. Yna cymerasant ystafell arall yn agos i'r London Warehouse. Yr oedd rhif yr aelodau erbyn hyn yn ddeuddeg. Gan fod rhai o honynt yn ddynion cyfoethog, a phob un o honynt yn weithgar a haelionus yn ol ei allu, dygent dreuliau yr achos yn ddidrafferth, a pharhausant hefyd, mewn ychwanegiad at hyny, i gyfranu at gynal y weinidogaeth yn Nebo nes iddynt gael gweinidog iddynt eu hunain. Aeth yr ystafell yn ymyl y London Warehouse yn rhy fechan i gynwys y gwrandawyr ar ol iddynt fod yno tua deuddeg mis. Wedi hyny cawsant y British Schoolroom at eu gwasanaeth, ac yno y buont yn addoli nes cael y capel yn barod. Yn 1866, rhoddwyd galwad i Mr. Daniel Jones, o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 28ain. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan y Proffeswr Morris, o athrofa Aberhonddu; Dr. Rees, Abertawy; Mr. J. Davies, Caerdydd, a Mr. D. Jones, B.A., Merthyr. Gan nad oedd y capel newydd yn barod, cynaliwyd y cyfarfod ydd yn Nebo. Rhagfyr 16eg, yn yr un flwyddyn, agorwyd y capel newydd, pryd y pregethodd Dr. Rees, Abertawy, a Mr. Ll. D. Bevan, LL.B., Llundain. Cynaliwyd rhes o gyfarfodydd agoriadol ar ol hyn, yn y diweddaf o ba rai y pregethodd Proffeswr Morris, a Mr. D. Jones, B.A. Mae y capel a'r ysgoldy cysylltiedig ag ef yn adeiladau ardderchog, o gynlluniad Mr. Thomas, Glandwr. Cynwysa y capel dri chant o eisteddleoedd. Traul yr adeiladaeth oedd 1200p. Casgiwyd 573p. o'r swm hwn erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad. Rhoddodd Mr. Daniel Jones ei ofal gweinidogaethol i fyny yma Hydref 10fed, 1868. Er y pryd hwnw nid oes yma un gweinidog sefydlog wedi bod, ond yr ydym yn deall fod Mr. Joseph Joseph, o athrofa Aberhonddu, yn debyg o ymsefydlu yma yn mhen ychydig fisoedd. Mae yma olwg obeithiol iawn ar yr achos; yr aelodau tua deu gain o rif, a'r gwrandawyr yn lluosog.

Yn 1870, gan fod 630p. o ddyled yn aros ar y capel, penderfynodd y frawdoliaeth wneyd un ymdrech egniol i dalu y cwbl ar un waith. Mr. D. E. Williams, yn gydweddol a'i haelioni arferol, a addawodd 300p. at y 150p. oedd wedi gyfranu o'r blaen, ac addawodd Mr. W. Williams 200p. at yr 50p. oedd yntau wedi ei gyfranu yn flaenorol. Ymrwymodd pump o frodyr eraill, sef Meistri E. J. Evans, D. J. Davies, J. E. George, E. Watkins, ac S. Picton, i gasglu y 150p. gweddill, ac felly talwyd y cwbl, fel y mae y lle yn awr yn ddiddyled. Mae yr eglwys ieuangc hon mor rhagorol am ei gweithgarwch a'i haelioni ag un eglwys yn y Dywysogaeth. Yr ydym yn gweled yn hanes yr achos hwn y fath fraint yw cael ychydig bersonau gweithgar, eang eu meddyliau, a llawn o sel dros achos yr Arglwydd, i gymeryd rhan flaenllaw gyda yr achos. Os ca Mr. Joseph ar ei feddwl i ymsefydlu yma, yr ydym yn dra hyderus y bydd ef yn fendith i'r lle, a'r bobl yn gysur mawr iddo yntau. Mae pob tebygolrwydd y bydd i'r boblogaeth gynyddu yma yn fuan, ac y bydd y lle yn un nodedig o bwysig.

 


BODRINGALLT (Ystradyfodwg parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

Return to top

(Vol 2, p 351)

Dechreuwyd yr achos hwn yn y flwyddyn 1855, mewn ty coed perthynol i waith Gelligaled, yr hwn a fenthyciwyd i'r perwyl trwy garedigrwydd C. Bailey, Ysw. Cyn hyn nid oedd gan yr Annibynwyr un achos yn Nghwmyrhondda o'r Cymar i fyny. Rhyw ddau achos Ymneillduol fu yn y Cwm hwn am ugeiniau o flynyddau-eglwys y Cymar yn y rhan isaf o hono, ag eglwys y Bedyddwyr yn Ynysfach, yn y rhan uchaf, felly yr oedd godreu y Cwm yn Annibynwyr, a'r rhan uchaf yn Fedyddwyr. Ond pan agorwyd gwaith glo Gelligaled, yn y parth uchaf o'r Cwm, daeth yno rai Annibynwyr i weithio, a phenderfynasant yn fuan gychwyn acheo Annibynol yn yr ardal. Y mwyaf blaenllaw yn nghychwyniad yr achos hwn oedd un John Morgan, yr hwn a ddaeth yma o'r Efailisaf. Nid oedd y dyn hwn wedi cael manteision boreuol, ond er hyny yr oedd trwy ei ymdrech a'i ddyfalbarhad wedi dyfod yn ysgolhaig da, ac yn feddianol ar wybodaeth eang. Yr oedd yn ddyn o gymeriad pur ac yn meddu penderfyniad diysgog. Ei orchwyl yma oedd pwyso glo wrth waith Gelligaled, a thrwy ei offerynoliaeth ef yn benaf y cafwyd yr adeilad i gychwyn yr achos ynddo. Un o'r gweinidogion cyntaf a bregethodd yma oedd Mr. I. Davies, Taihirion. Corpholwyd yr eglwys yn y flwyddyn 1856 gan Meistri D. Stephens, Glantaf, ac H. Oliver, B.A., Pontypridd. Wedi bod am dymor yn yr adeilad coed, symudwyd i dy anedd o eiddo Mr. T. Lloyd, Maesteg, yr hwn oedd ar ddyfod trosodd i'r ardal hon i fyw. Wrth weled fod y gweithfeydd yn dechreu ymagor a dyeithriaid lawer yn debyg o ddyfod i'r lle, penderfynwyd adeiladu capel Bodringallt. Gosodwyd y gareg sylfaen i lawr yn y flwyddyn 1861; ond yn fuan ar ol hyn safodd y gwaith am wyth mis. Ond er fod yr ardal wedi ei gwaghau bron yn llwyr o'i thrigolion, glynodd yr eglwys fechan wrth ei hanturiaeth, ac agorwyd y capel, yr hwn a eistedda 450, yn mis Mai, 1862. Pregethwyd yn yr agoriad gan Meistri H. Oliver, B.A., Pontypridd; H. Puntan, Cymer, a D. A. Jones, Treherbert.

Bychan oedd yr eglwys am dymor ar ol yr agoriad, ond gweithiodd yn galed i dalu y ddyled, a chliriwyd y 620p. a gostiodd yr adeilad mewn pum' mlynedd. Yr oeddynt yn benderfynol o fyny gorphen talu am y capel cyn y buasai gweinidog yn dyfod i gymeryd eu gofal, a thrwy ymdrech Meistri Elias James, J. Rees, ac eraill, cawsant yr hyfrydwch o allu cynal eu jubili, yn nglyn ag urddiad Mr. Lewis Probert, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, yn Gorphenaf, 1867. Cymerodd amryw weinidogion ran yn y cyfarfodydd hyn, ond dygwyd yn mlaen y gwaith neillduol o urddo trwy i Proff. Roberts, Aberhonddu, draddodi pregeth ar natur eglwys; Mr. E. Watkins, Llangatwg, i ofyn y gofyniadau; Mr. D. Richards, Caerphili, i offrymu yr urdd-weddi; Mr. J. Davies, Caerdydd, i gynghori y gweinidog, a Mr. H. Oliver, B.A., Casnewydd, i roddi siars i'r eglwys. Bu yr eglwys hon a Siloh, Pentre, o dan ofal Mr. Probert, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. T. Lloyd, hyd y flwyddyn 1872. Ond ar farwolaeth Mr. Lloyd yn niwedd y flwyddyn 1871, teimlai nad allai wneyd cyfiawnder wrth gadw y ddau achos mewn ardal newydd, lle yr oedd y gwahanol enwadau ar ei heithaf i ennill tir, ac felly rhoddodd i fyny ofal Bodringallt, gan gymeryd at Siloh, Pentre.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL (Not extracted fully)

THOMAS LLOYD. Er nad oedd Mr. Lloyd yn weinidog yn Bodringallt, etto gan mai yma yr oedd yn aelod ar adeg ei farwolaeth, dyma y lle mwyaf priodol i ni wneyd byr grybwylliad am dano, yn enwedig gan ein bod eisoes wedi cofnodi hanes yr eglwys fu yn uniongyrchol o dan ei ofal. Yr oedd Mr. Lloyd yn enedigol o sir Aberteifi, ond symudodd pan yn ieuangc i Nantyglo, a bu am flynyddau mewn masnachdy yno, ac yn aelod yn Rheoboth, ac yno y dechreuodd bregethu. .......................

Translation by Steve Stephenson (Oct 2008)

This cause started in the year 1855 in a wooden building belonging to the Gelligaled works, lent for the purpose through the kindness of C Bailey Esq. Before this the Independents did not have a cause in Cwmrhondda from Cymar up. Some two non-conformist causes had been in the this valley for scores of years - Cymar church in the lower part of it and the Baptist church in Ynysfach in the upper part, therefore the bottom of the valley was Independent and the upper part was Baptist. But when the coal working opened in Gelligaled, in the upper part of the valley, some Independents came here to work and they quickly decided to start an independent cause in the area. Foremost in starting  this cause was one John Morgan who came here from Efailisaf. This man hadn't had early advantages, but despite this, through his efforts and perseverance, he had become a good scholar, possessing wide knowledge. He was a man of pure character and possessed steadfast determination. His occupation here was to weigh coal for the Gelligaled workings, and he was chiefly instrumental in getting a building to start the cause here. One of the first ministers who preached here was Mr I Davies (Taihirion). The church was incorporated here in the year 1856 by Messrs. D Stephens (Glantaf) and H Oliver BA (Pontypridd). After being in the wooden building for a time it moved to the dwelling house of Mr T Lloyd, Maesteg who had come into this area to live. Seeing that the workings are starting to open and a lot of incomers were likely to come to the area it was decided to build Bodringallt chapel. The foundation stone was laid in the year 1861, but  soon after that the work proceeded for eight months. But even though the area was nearly completely empty of inhabitants the little church stuck to its venture and opened the chapel, which seats 450, in May 1862. The opening service was preached by Messrs. H Oliver BA (Ponypridd), H Puntan (Cymer) and DA Jones (Treherbert).

The church was only small for a time after the opening, but it worked hard to pay the debt, and £620, the cost of the building, was cleared in five years. They had decided to finish paying for the chapel before a minister would be called to look after them, and through the effort of Messrs. Elias James, J Rees and others they had the delight of being able to celebrate their jubilee together with the ordination of Mr Lewis Probert, a student of Brecon college, in July 1867. Several ministers took part in this meeting, but first the special work of ordination was done by Prof. Roberts of Brecon, The sermon on the nature of the church was given by Mr E Watkins (Llangatog), asking the questions was Mr D Richards (Caerphilly), offering the ordination prayer was Mr J Davies (Cardiff), advising the minister to take charge of the church was Mr H Oliver BA (Casnewydd). This church and Siloh, Pentre were under the care of Mr Probert, being assisted by Mr T Lloyd until the year 1872. But on the death of Mr Lloyd at the end of 1871 he felt that he wasn't able to fully cary out he work by keeping the two causes in a new area, where there were different denominations doing their utmost to get land, and so he gave up the care of Bodringallt by concentrating on Siloh, Pentre.

Biographical notes (not extracted fully)

THOMAS LLOYD.  Even though Mr T Lloyd was not a minister in Bodringallt he was a member here at the time of his death and this is the place most suitable for us to give a short praise of him, especially since we have recorded the history of the church which was directly under his charge. Mr Lloyd came from Cardiganshire but moved when he was young to Nantyglo, and was for years in a shop there, and a member of Rheoboth where he began preaching...................................

 


SILOH, YSTRAD   (Ystradyfodwg parish)

Proof read by Gareth Hicks (Feb 2008)

Return to top

(Vol 2, p 351)

Cychwynwyd yr achos yn y lle hwn yn y flwyddyn 1867, gan Mr. L. Probert, Bodringallt. Achlysur cychwyniad yr eglwys hon oe ld ?  y cynydd cyflym a gymerasai le yn mhoblogaeth yr ardal. Yr oedd gormod o ffordd rhwng Bodringallt a Threorci, i ddisgwyl i drigolion y gymydogaeth hon i fyned i'r naill na'r llall o'r lleoedd hyny; felly, gan fod amryw o'i haelodau yn byw yma, penderfynodd eglwys Bodringallt i ddechreu Ysgol Sabbothol yn y lle. Mae eglwys Bodringallt i'w chanmol yn fawr am yr ymdrech a ddangosodd i blanu achosion, fel yr oedd y boblogaeth yn cynyddu, yn Nghwmyrhondda. Hi oedd a'r llaw flaenaf yn sefydliad yr eglwysi yn Treorci a Thonypandy, a gwnaed hyny yn y lle olaf yn ngwyneb gwrthwynebiad cryf; ond cafwyd cefnogaeth y cyfarfod chwarterol i ddechreu eglwys Tonypandy, ac erbyn hyn y mae yno achos blodeuog. Ni chyfarfyddodd eglwys Bodringallt a mwy o anhawsderau wrth ddechreu eglwys Siloh nag a allesid yn naturiol eu cyfarfod wrth gychwyn achos mewn ardal lle yr oedd yr holl drigolion newydd symud, ac yn symud o wahanol barthau yno. Y prif anhawsder a deimlid oedd cael adeilad y gallesid cynal cyfarfodydd ynddo, ond symudwyd hwn ar unwaith trwy i D. Treherne, Ysw., roddi yn garedig fenthyg ysgubor yn ddidal i'r perwyl, yn nghyd a llwyddo i gael digon o lyfrau at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol yn rhad, oddiwrth Mrs. G. Llewellyn, Baglan Hall. Yn mis Gorphenaf, o'r flwyddyn a nodwyd, dechreuwyd cynal yr Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd wythnosol yn yr ysgubor, a dechreuodd Mr. Probert bregethu yma yn mis Medi, yr un flwyddyn. Pregethid yma bob nos Sabboth o'r amser hwn hyd ddechreu Awst, 1868, pan gorpholwyd yr aelodau a breswylient yn y lle yn eglwys. Ar yr achysur o gorphori yr eglwys, pregethodd Mr. W. I. Morris, Pontypridd, a Mr. E. Gurnos Jones, Treorci, a darllenwyd yr enwau, a gweinyddwyd y cymundeb iddynt gan Mr. Probert, yr hwn a gymerodd eu gofal. Cyn gynted ag y corpholwyd yr eglwys penderfynwyd adeiladu capel ar dyddyn y Pentre, a chafwyd tir at ei adeiladu yn rhad gan y perchenog G. Llewellyn, Ysw., Baglan  Hall. Agorwyd y capel, yn yr hwn yr eistedda chwe' chant, yn Gorphenaf, 1869, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan Meistri J. Davies, Caerdydd; R. Morgan, Glynnedd; W. Rees, Maesteg; J. Davies, Taihirion, a J. Morgan, Cwmbach. Yn ystod y tair blynedd ag y mae yr eglwys wedi bod yn y capel newydd, y maent wedi cydweithio yn ardderchog, fel y mae haner y ddyled wedi ei thalu, a'r achos yn mhob ystyr wedi llwyddo tuhwnt i ddisgwyliadau y rhai mwyaf brwdfrydig o'i gychwynwyr. Cynorthwyid y gweinidog i bregethu yn y capel hwn o'r dechreu hyd y flwyddyn 1872, gan Mr. T. Lloyd, Bodringallt-yr adeg hon teimlai yr eglwys ei bod yn ddigon cryf i gynal gweinidog ei hunan, a rhoddodd Mr. Probert ofal Bodringallt i fyny, gan gyfynom ei lafur gweinidogaethol i'r Pentre yn unig. Mae yr eglwys mewn sefyllfa mor lewyrchus yn bresenol, fel y gellir dywedyd, " fod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a'i fod yn llwyddo yn eu dwylaw hwynt."

Translation by Steve Stephenson (Oct 2008)

The cause in this place started in the year 1867 by Mr L Probert, Bodringallt.The opportunity of starting this church was the rapid increase in the population of the area. It was too far between Bodringallt and Treorci to expect the inhabitants of this neighbourhood to go to one or the other of these places; therefore, because some of the members  lived  here, Bodringallt church decided to start a Sunday School in the place.Bodringallt Church is to be greatly praised for the effort that it  showed in planting causes, as the population was increasing in Cwm Rhondda. It was in the forefront of establishing churches in Treorci and Tonypandy, and did this in the latter place in the face of strong opposition; but it had the support of the quarterly meeting to begin Tonypandy church, and since then the cause there is flourishing. Bodringallt church did not meet with so much difficulty in starting Siloh church which wouldn't usually  meet by starting a cause in an area where all the inhabitants had just moved in, and moved in from different areas.  The main difficulty it was felt was to have a building in which it was able to begin holding meetings, but this moved on immediately through D Treherne Esq. who very kindly lent a barn without rent for the purpose, and  they succeeded in getting sufficient books for the Sunday School services for free from Mrs G Llewellyn, Baglan Hall. In July 1867 the Sunday School started to hold weekly meetings in the barn, and Mr Probert began preaching here in August 1867. Preaching took place here every Sunday evening from this time until the beginning of August 1868 when the resident members in the place were incorporated into a church. On the occasion of the  establishment Mr W I Morris (Pontypridd) and Mr E Gurnos Jones  (Treorci)  preached and read the names, and communion was presented to them by Mr Probert, the one who had accepted their charge. As soon as the church was established it was decided to build a chapel on Pentre Farm and the land was given cheaply by the owner G Llewellyn Esq., Bagaln Hall. The chapel, which could seat 600, was opened in July 1869 when sermons were given on the occasion by Messrs. J  Davies (Caerdydd), R Morgan (Glynnedd), W Rees (Maesteg), J Davies (Taihirion) and  J Morgan (Cwmbach). During the three years the church has been in the new chapel, where they have worked together splendidly, half of the debt has been paid and the cause, in every way, has succeeded beyond expectations of the most enthusiastic of those who started it. The ministry was aided from the start up to the year 1872 by Mr T Lloyd (Bodringallt)  and he now felt that the church was sufficiently strong to have a minister of its own. Mr Probert gave up the care of Bodringallt by confining his ministry to Pentre alone. The church is in  a situation so promising at present that it could be said " that the work is progressing rapidly, and that it is succeeding in their hands".           

 


Return to top

[Last updated: 5 Oct 2008 - Gareth Hicks]

InfoFind help, report problems, and contribute information.

Valid HTML 4.01 Transitional

Copyright © GENUKI and Contributors 1996 to date
GENUKI is a registered trade mark of the
charitable trust GENUKI